2 minute read

Gweithgaredd Ymarfer Meddwl yn Feirniadol a Datrys Problemau

Ble i fyw?

Senario

Ar ôl i chi gwblhau eich addysg llawn amser, efallai y byddwch chi am ystyried ble yr hoffech chi fyw yn y dyfodol. Gall deall costau byw, cyfleoedd swyddi a phrisiau tai eich helpu i gynllunio ble y byddwch chi’n byw yn y dyfodol. Mae ystyried pa mor agos yw’ch cartref newydd i’ch gwaith yn ffactor pwysig, yn ogystal ag opsiynau o ran cludiant a chymudo. Ystyriwch a yw’r ardal yn addas i’ch ffordd o fyw – er enghraifft, chwiliwch am fwytai lleol os ydych chi’n mwynhau mynd allan am fwyd yn rheolaidd, neu gampfeydd os ydych chi’n hoffi gwneud ymarfer corff.

Awgryma ymchwil mai dyma’r chwe ffactor pwysicaf i’w hystyried:

1. Cyfleoedd gwaith

2. Fforddiadwyedd (e.e. prisiau tai)

3. Troseddu a diogelwch

4. Amwynderau – Siopau a chyfleusterau cyfagos

5. Agosrwydd at deulu a ffrindiau

6. Cymudo a chludiant

Mae dadansoddi data yn agwedd bwysig ar y gweithle a’n bywydau bob dydd. Mae cymaint o ddata ar gael i ni ac mae’n hanfodol ein bod yn gallu penderfynu beth sy’n berthnasol ac yn briodol.

Mae StatsCymru a’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) yn llunio symiau helaeth o ystadegau a all eich helpu chi i wneud penderfyniadau ar lefel genedlaethol, ranbarthol a lleol. Defnyddiwch y lincs isod i weld y mathau o ddata sydd ar gael ar gyfer y ffactorau hyn.

Profi Sgiliau Penodol

2.2 – Cymhwyso dulliau i ddatrys problemau cymhleth, gan gynnwys technegau ymchwil wedi’u canolbwyntio i gasglu gwybodaeth gynradd ac eilaidd.

2.7 – Llunio ymatebion sy’n seiliedig ar dystiolaeth, yn berswadiol ac yn argyhoeddiadol.

2.9 – Llunio barnau dilys a chasgliadau wedi’u rhesymu.

Tasgau

Dyma fap sy’n dangos rhanbarthau’r DU.

Tasg 1

Tasg 3

Tasg 2

1. Dewiswch dri rhanbarth sy’n apelio atoch fel ardaloedd posibl i fyw a gweithio. Gwnewch ymchwil gan ddefnyddio SYG, StatsCymru ac unrhyw ffynonellau dibynadwy eraill o ddata eilaidd a sylfaenol am y canlynol:

• cyfleoedd gwaith (e.e. pa ddiwydiannau/swyddi sydd fwyaf cyffredin)

• fforddiadwyedd (e.e. prisiau cyfartalog tai yn y rhanbarth a chyfraddau cyflog cyfartalog ar gyfer y rhanbarth)

• cyfraddau troseddu (e.e. pa mor debygol ydyw y bydd troseddu yn effeithio arnoch, a pha droseddau sydd fwyaf cyffredin?)

• amwynderau (e.e. beth mae’r rhanbarth yn ei gynnig?)

• agosrwydd at deulu a ffrindiau (e.e. pa mor bell fyddai ffrindiau a theulu yn fras?)

• cymudo a chludiant (e.e. a oes trafnidiaeth gyhoeddus dda ar gael?).

Pa ffynonellau eraill o wybodaeth y gallwn i eu defnyddio i ddod o hyd i ddata eilaidd a sylfaenol?

2. Yn seiliedig ar y data a gasglwyd gennych, rhestrwch y ffactorau sy’n bwysig i chi er mwyn eich helpu i benderfynu pa un o’r tri rhanbarth rydych chi’n ei ffafrio. Gwnewch ddatganiadau dilys am y tri rhanbarth a lluniwch gasgliad rhesymegol i egluro eich penderfyniad.

Sut mae penderfynu pa ffactorau eraill sy’n bwysig i mi wrth benderfynu ar ardal bosibl i fyw ynddi?

3. Cyflwynwch y data a gasglwyd gennych mewn siartiau/graffiau/ diagramau a defnyddiwch nhw i greu ffeithlun darbwyllol ar y rhanbarth rydych chi wedi ei ddewis. Dylech gynnwys gwybodaeth weledol am y ffactorau sydd wedi llywio eich penderfyniad.

Sut mae dewis y siartiau/graffiau/diagramau mwyaf priodol i gyflwyno gwybodaeth?

This article is from: