Trafod Economeg 02

Page 1

Trafod Economeg

RHIFYN 2

PYNCIAU DAN SYLW: “Yn ddwfn yng nghanol y Congo …” Ciplun o economi Cymru - haf 2016


Trafod Economeg • Rhifyn 2 • Tudalen 1

“Yn ddwfn yng nghanol y Congo...” gan George Vlachonikolis

I bobl o oedran arbennig, bydd y geiriau hyn yn creu darlun o jyngl animeiddiedig lliwgar lle mae’r anifeiliaid yn yfed sudd ffrwythau o’r enw “Um Bongo”. Fodd bynnag, mae gwlad y Congo – neu’n hytrach, Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo (Democratic Republic of Congo – DRC) yn wahanol iawn i’r hysbyseb byrlymus, hapus hwn. Mae’r DRC wedi ei adnabod fel y lle gwaethaf ar y ddaear i fod yn ferch, mae’n gyson ymhlith yr ugain gwlad isaf ar y Mynegai Canfyddiad Llygredigaeth (Corruption) a mor ddiweddar â 2011/12, roedd ar waelod gradd HDI y Cenhedloedd Unedig yn ogystal â bod gyda’r incwm lleiaf fesul pen y byd. Mae’r DRC fel arfer yn cael ei drafod mewn dosbarthiadau economeg wrth sôn am ddatblygiad. Yn yr un modd ag y mae Norwy yn aml ar frig y rhestr ym mron pob un o’r mesuriadau perfformiad, mae’r DRC yn aml i’w weld tuag at y gwaelod. Mae’r papur hwn yn ceisio nodi rhai o’r prif rwystrau i ddatblygiad sy’n wynebu’r DRC yn 2016 gan hefyd amlinellu un cyfle posibl ar gyfer datblygiad yr economi yn y dyfodol agos.

Ffigur 1 – Mapiau cyffredinol a mapiau manwl o’r DRC


Trafod Economeg • Rhifyn 2 • Tudalen 2 fath gyfoeth mwynol, mae economi’r DRC wedi gostwng yn sylweddol ers yr 1960au hwyr. Mae cyfraddau twf wedi amrywio’n fawr rhwng +10% a -10% ac mae CMC y pen wedi gostwng i tua 40% o’i werth yn 1970. Mae sawl achos am y trychineb economaidd hwn gan gynnwys cwymp ym mhrisiau adnoddau yn yr 1980au, llygredigaeth Llywodraeth Mobutu 1971-1997 (pan oedd y wlad yn cael ei galw’n Zaire) a’r nifer fawr o ryfeloedd cartref sydd wedi dinistrio’r wlad a’i chymdogion ers 1996.

Ffigur 2 – Ffigurau cyffredinol y DRC

Y DRC: Canllaw cyflym

Ffigur 3 – Cyfradd Twf Blynyddol y DRC

Mae’r DRC wedi’i lleoli yng nghanol Affrica is-Sahara ac yn nhermau arwynebedd tir, mae 10 gwaith maint y DU. Er ei maint, ychydig iawn o ffyrdd palmantog ar gyfer pob tywydd sydd gan y DRC - cyfanswm o 2,250km yn unig - tra bod gan y DU 46,904km. Mae hyn yn golygu bod 35km o ffordd wedi’i phalmantu i bob 1,000,000 o’r boblogaeth. Y ffigyrau cymharol ar Ffigur 4 – CMC y DCR y Pen y DCR ($) gyfer Zambia a Botswana yw 721km a 3,427km yn y drefn honno. Ystyrir yn gyffredinol fod y DRC yn un o wledydd cyfoethocaf y byd mewn adnoddau; credir fod gan y wlad 70% o goltan y byd, traean o’i gobalt, mwy na 30% o’r diemwnt sydd ar ôl a degfed o’i gopr. Yn 2015, cynhyrchodd 995,805 tunnell o gopr a phwmpiodd 25,000 casgen o olew’r dydd. Er y


Trafod Economeg • Rhifyn 2 • Tudalen 3 Y DRC: Beth s’yn digwydd nawr? Yn ystod y cyfnod rhwng Mehefin ac Awst 2016, bu i’r ffranc Congolaidd ddisgyn o 7% yn erbyn y ddoler gan gyrraedd yr isaf erioed (1001 ffranc yn erbyn y ddoler). Mae’r ffranc Congolaidd yn parhau i gyfateb i ddoler er mwyn ceisio bod yn fwy cystadleuol yn ogystal ag adeiladu hyder buddsoddwyr. Yn 2016, fodd bynnag, roedd yn rhaid i’r banc canolog werthu doleri ddwywaith i ateb y galw gan y diwydiant bancio (ac o ganlyniad, mae ei gronfeydd cyfnewid tramor wrth gefn wedi gostwng o $1.5bn i $1.2bn).

Ffigur 5 – Y Gyfradd Gyfnewid

Mae’r Llywodraeth yn brysur ymdrin ag argyfyngau eraill hefyd. Ym mis Mehefin 2016, bu i achosion o’r dwymyn felen daro’r DRC. Cofnodwyd cyfanswm o 400 o achosion angheuol erbyn diwedd Gorffennaf, a thybir bod hyd at 6,000 o bobl wedi’u heintio. Roedd yn ymarfer drud i’r Llywodraeth frechu 7.7m mewn mis ym mhrifddinas Kinshasa oedd mewn “risg uchel” ynghyd â 1.5m o bobl mewn rhanbarthau eraill. Ond cafodd y wlad rybudd gan Sefydliad Iechyd y

Byd “nad yw’r perygl wedi diflannu”gan y gallai symudiadau mawr o bobl cyn y tymor glawog o’r DRC ar draws y ffin i Weriniaeth y Congo achosi i’r haint ledaenu’n bellach. Ar adeg ysgrifennu’r ddogfen hon, mae argyfwng colera sydd eisoes wedi lladd 517 hefyd yn ysgubo drwy’r wlad. Mae problemau pellach yn nwyrain y wlad lle mae cymysgedd cymhleth o grwpiau arfog anghyfreithlon yn gweithredu. Ym Mharc Cenedlaethol Virunga, mae’r grwpiau hyn yn dinistrio coedwigoedd i gael siarcol gwerthfawr; yn ôl un adroddiad, mae masnach siarcol anghyfreithlon y wlad werth tua $35 miliwn y flwyddyn. Nid yn unig mae hyn yn achosi datgoedwigo eang ym mharc cenedlaethol hynaf Affrica, ond mae hefyd yn helpu i ariannu terfysg ofnadwy. Mae’r mwyafrif helaeth o sifiliaid yn nwyrain y DRC yn ofni’r milisia yn fwy nag unrhyw beth arall. Mae aelodau’r milisia yn aml yn defnyddio grym i fynd â “gwragedd” lleol, gorfodi tirfeddianwyr i weithio iddynt a dwyn cynaeafau’r ffermwyr lleol. Yn waeth na hyn, yn nhalaith Kivu De, ychydig i’r de o Barc Cenedlaethol Viruna, mae’r grwpiau rebel yn budrelwa o’r aur yn hytrach na siarcol. Mae’r Cenhedloedd Unedig yn amcangyfrif bod 400kg o aur anghyfreithlon yn gadael y dalaith bob mis - sydd yn cyfateb i tua $174m yn 2015. Nid yn unig mae hyn yn amddifadu’r wladwriaeth o refeniw treth werthfawr ond, unwaith eto yn ariannu’r grwpiau arfog sy’n fygythiad sylweddol i Lywodraeth y DRC, ei phobl a’i chymdogion.


Trafod Economeg • Rhifyn 2 • Tudalen 4

Ffigur 6 – CMC y DRC

bartneriaethau cyhoeddus-preifat. Mae hyn wedi arwain at welliant sylweddol yn yr hinsawdd busnes ac wedi cynyddu hyder buddsoddwyr. Un fenter o’r fath yw prosiect argae trydan dŵr Inga III sydd werth $12 biliwn. Mae potensial i gynhyrchu 4,800 MW a ddylai ateb llawer o’r galw cynyddol yn y wlad am egni.

Mae’r DRC yn wlad â photensial trydan dŵr mawr. Mae system yr Afon Congo yn lledaenu ar draws y wlad yn gyfan Y DRC: Ateb? bron a bod ac mae ganddi arwynebedd o 1,000,000 km2 (390,000 milltir sgwâr). Etholwyd y Prif Weinidog Augustin Mewn gwirionedd, trafnidiaeth dŵr Matata Ponyo yn 2012. Mewn gwlad yw’r brif ffordd o deithio mewn tua sydd wedi ei llethu gan lygredd yn y dwy ran o dair o’r wlad. Afraid dweud gorffennol, mae Ponyo yn arwain yn felly bod nifer o safleoedd sy’n bodoli ystod cyfnod o dwf economaidd sydd ar draws y wlad lle gall y sector preifat, bron yn ddigynsail (gan gyflawni twf mewn partneriaeth â’r Llywodraeth, CMC o 8.5% yn 2013 a 9.5% yn 2014). fuddsoddi mewn cynhyrchu ynni dŵr mewn ffordd broffidiol. O ganlyniad, Cynllun Ponyo oedd arallgyfeirio’r prosiect Inga III heb amheuaeth yw’r economi oddi wrth y sector prosiect fydd fwyaf tebygol o arwain mwyngloddio gan fuddsoddi mewn at ddatblygiad y DRC yn ystod yr 21ain ynni a’r diwydiant agro er mwyn creu ganrif. Os yw’n llwyddiannus, dyma datblygiad cynaliadwy. Mae wedi cyflwyno diwygiadau economaidd eang fydd y cam strategol pwysicaf er mwyn rhyddhau’r economi a lleihau tlodi yn megis rhewi’r gyfradd gyfnewid ar gyson. gyfer y ddoler, cymryd rhan flaenllaw yn y frwydr yn erbyn troseddu a llygredd, gan hefyd sefydlu cyfleoedd ar gyfer buddsoddwyr tramor drwy

Ffynonellau / Cydnabyddiadau Clawr : omersukrugoksu/gettyimages Ffigur 1: Maps of the DRC; Google maps Ffigur 2: General Figures for DRC; Wikipedia Creative Commons Ffigur 3: Trading Economics Ffigur 4: Trading Economics Ffigur 5: Exchange Rate Ffigur 6: Trading Economics


Trafod Economeg • Rhifyn 2 • Tudalen 5

Ciplun o economi Cymru - haf 2016 gan Ruth Tarrant

Mae’r erthygl hon yn edrych ar rai o’r prif ddangosyddion perfformiad yn economi Cymru, gan yna ei gymharu ag economïau’r DU a’r UE. Mae hefyd yn amlinellu rhai o’r cyfleoedd a’r bygythiadau posib i economi Cymru dros y blynyddoedd nesaf.

Dangosyddion Perfformiad Economaidd Allweddol Mewn adolygiad diweddar o berfformiad economi Cymru, ysgrifennodd Prif Economegydd Llywodraeth Cymru Jonathan Price mai’r dangosydd economaidd pwysicaf i edrych arno yng Nghymru o bosibl oedd incwm. Un rheswm dros hyn yw bod y DU yn enghraifft o “undeb ariannol a chyllidol” - mae hyn yn golygu bod modd ailddosbarthu refeniw treth o ardaloedd allbwn uchel y DU i ardaloedd allbwn is y DU. Felly, mae defnyddio data CMC sy’n gysylltiedig ag incwm yn hytrach nag allbwn yn rhoi gwell syniad o safonau byw mewn rhanbarth penodol. Er enghraifft, os ydym yn edrych ar Werth Ychwanegol Gros (GVA) - mesur o lefel yr allbwn mewn ardal benodol - yna mae Cymru yn safle rhif 12 allan o’r 12 rhanbarth yn y DU. Fodd bynnag, pan edrychwn yn hytrach ar incwm gwario y pen, mae Cymru wedyn yn safle rhif 8. Yn ddiddorol, os ystyriwn gyfoeth yn hytrach nag incwm, yna mae Cymru yn safle rhif 5, oherwydd ei lefel uchel o berchnogaeth tai. Mae hefyd yn werth edrych ar dueddiadau yn hytrach na data statig; ers 1999 (pan roedd datganoli yn digwydd) mae Cymru wedi gweld y cynnydd cyflymaf ond un o ran incwm gwario gros allan o holl ranbarthau’r DU, gyda Llundain yn unig yn rhagori drosti. Ond, fel gydag ystadegau bob tro, mae hefyd yn bwysig edrych ar yr amrywiad yng Nghymru - mae rhanbarthau gwahanol yng Nghymru wedi profi gwahanol lefelau. Mae Ffigur 1 yn dangos y CMC y pen yn y DU yn ei chyfanrwydd o’i gymharu â Chymru gyfan, a rhanbarthau Cymru sydd yn perfformio orau ac yn perfformio waethaf.


Trafod Economeg • Rhifyn 2 • Tudalen 6

Ffigur 1: CMC y pen, o’i gymharu â’r UE-28

Yn ôl Prif Economegydd Llywodraeth Cymru, yr ail set fwyaf pwysig o ddangosyddion i’w hystyried wrth archwilio perfformiad economaidd Cymru yw’r rhai hynny sy’n berthnasol i’r farchnad lafur, er enghraifft, cyfraddau cyflogaeth a diweithdra, a chyfraddau anactifedd economaidd.

Mae cysylltiad agos iawn rhwng cyfraddau cyflogaeth ac amrywiaeth o ganlyniadau economaidd ehangach megis cyfleoedd cyflogaeth yn y dyfodol ar gyfer plant, ac iechyd a lles cyffredinol. Mae Ffigur 2 yn dangos rhai o brif ddangosyddion y farchnad lafur ar gyfer economi Cymru.

Cymru

Wedi’u cyflogi Cyfraddau diweithdra’r ILO Nifer yn hawlio budd-daliadau Economaidd anweithg

y DU

Cyfradd (%)

Newid blynyddol

Cyfradd (%)

Newid blynyddol

72.6

1.9

74.4

1.0

4.6

-2.0

4.9

-0.7

2.9

-0.2

2.2

-0.1

23.8

-0.3

21.6

-0.5

Ffigur 2 – ystadegau’r farchnad lafur ar gyfer Cymru a’r DU

Mae Ffigur 2 yn dangos bod y farchnad lafur yn gwella yng Nghymru, ac yn gwella yn gyffredinol ar gyfradd gyflymach na’r DU yn ei chyfanrwydd. Mae’r gyfradd anactifedd economaidd yng Nghymru yn uwch na’r DU yn ei chyfanrwydd o ganlyniad i gyfran uwch

o bobl sydd wedi ymddeol. Mae 9.4% o weithwyr Cymru yn gweithio i’r sector cyhoeddus, o gymharu â chyfran lai o 8.3% ledled y DU yn ei chyfanrwydd. Felly, mae unrhyw doriadau i wariant y llywodraeth yn debygol o gael mwy o effaith ar weithwyr Cymru na


Trafod Economeg • Rhifyn 2 • Tudalen 7 gweithwyr y DU yn ei chyfanrwydd. Mae ystadegau eraill ar gyfer marchnad lafur Cymru yn dangos rhai gwahaniaethau diddorol rhwng y rhywiau. Bu i’r gyfradd cyflogaeth ymysg dynion yng Nghymru gynyddu o 5.8% rhwng canol 2015 a chanol 2016 (2.3% o’r DU yn ei chyfanrwydd), o’i gymharu â chynnydd llawer llai ymhlith menywod o 0.4% yn unig dros yr un cyfnod (1.7% yn y DU yn ei chyfanrwydd). Mae ymchwil gan WISERD (Sefydliad Ymchwil, Data a Methodoleg Gymdeithasol ac Economaidd Cymru) yn nodi bod cyflog canolrif ar gyfer dynion Cymru yn £9.88, sydd ychydig yn uwch na chyflog canolrif y DU o £9.81. 81% yn unig o gyflog canolrif gweithwyr benywaidd y DU yn ei chyfanrwydd yw cyflog menywod Cymru. O edrych yn ehangach ar anghydraddoldeb yng Nghymru, dangosodd ymchwil WISERD bod anghydraddoldeb yng Nghymru yn is nag yn y DU yn ei chyfanrwydd, er gwaethaf bod un rhan o bump o boblogaeth Cymru yn byw yn dechnegol mewn tlodi - mae hyn o ganlyniad i lai o enillwyr uchel yng Nghymru. Mae 13% o’r rhai mewn tlodi yn byw mewn cartrefi sydd

Ffigur 3: canran y boblogaeth mewn aneddiadau o dros 125,000 o bobl

mewn gwaith. Mae hanner yr holl rieni sengl Cymru yn byw mewn tlodi. Yn ychwanegol, mae gan y 10% cyfoethocaf o boblogaeth Cymru tua £100,000 yn llai o gyfoeth na 10% o’r bobl gyfoethocaf ym mhoblogaeth y DU yn ei chyfanrwydd.

Edrych ymlaen – rhagolygon ar gyfer economi Cymru Maint Dinas a Seilwaith Mae ymchwil economaidd yn awgrymu’r mwyaf yw’r ddinas neu’r dref, y mwyaf yw lefel y cynhyrchiant; yn benodol, mae dyblu maint dinas yn dueddol o gynyddu cynhyrchiant o rhwng 3% a 8%. Mae nifer o drefi Cymru yn llai o’u cymharu â chytrefiadau eraill o amgylch y DU (gweler Ffigur 2), ac mae hyn yn awgrymu fod cynhyrchiant Cymru yn cael ei ddal yn ôl. Mae poblogaethau mwy niferus yn arwain at fwy o rannu syniadau, a hefyd yn tueddu i arwain at gysylltiadau trafnidiaeth well - mae’r ddau yn debygol o arwain at fwy o gynhyrchiant. Fodd bynnag, nid yw daearyddiaeth rhan fawr o Gymru yn addas iawn i ehangu trefi a dinasoedd. Wedi dweud hynny, dywedodd ysgrifennydd economi Cymru Ken Skates wrth BBC Cymru ym mis Gorffennaf 2016 ei fod yn awyddus i feithrin cysylltiadau cryfach rhwng Cymru a Gorllewin Canolbarth Lloegr, gan fanteisio ar botensial marchnad dwristiaid Gorllewin Canolbarth Cymru a hyrwyddo cynnyrch o Gymru.


Trafod Economeg • Rhifyn 2 • Tudalen 8 Mae’n edrych yn debygol y bydd aneddiadau mwyaf Cymru yng Nghaerdydd ac Abertawe yn tyfu yn fwy byth, ac mae disgwyl i boblogaeth Caerdydd dyfu o chwarter dros yr 20 mlynedd nesaf. Mae dinasoedd sy’n tyfu angen cynllunio economaidd cadarn. Yn ôl ym mis Mawrth 2016, cyhoeddodd y Canghellor ar y pryd, George Osborne, fod dêl Prifddinas Rhanbarth Caerdydd werth £1.2bn wedi ei llofnodi i ddod â thrafnidiaeth a thwf gwell dros yr 20 mlynedd nesaf. Dyrannwyd £734m i wella rheilffyrdd a bysiau yng Nghaerdydd a’r cymoedd, a £495m ar gyfer amrywiaeth o brosiectau eraill gan gynnwys y “Rhanbarth Arloesi”, ynghyd ag arian ar gyfer tai cyhoeddus. Mae Caerdydd hefyd yn gobeithio gweld manteision unwaith y bydd y rheilffordd sy’n cysylltu â Llundain yn cael ei drydanu’n llwyr, gan arwain at deithiau cyflymach a haws. Yn dynn ar sodlau prosiect Caerdydd mae “Dêl Dinas” Abertawe, gyda chynigion yn cael eu cyflwyno am £500m i’w wario ar gyflawni gweledigaeth yr “arfordir rhyngrwyd” gyda band llydan (broadband) cyflym iawn a datblygu diwydiannau digidol. Gallai hyn arwain at greu 33,000 o swyddi eraill a hwb o £3.3bn i’r economi leol, a fyddai’n helpu i leihau’r “bwlch ffyniant” rhwng rhanbarth Abertawe a rhanbarthau eraill yng Nghymru. Mae cynlluniau tebyg ar waith yng Ngogledd Cymru hefyd - lansiwyd ymgyrch (Trac Twf 360) yng nghanol 2016 i sicrhau cronfa o £1biliwn i helpu i gysylltu’r ardal yn iawn i’r rhwydwaith rheilffordd HS2 newydd, gydag amcangyfrif o 70,000 o gynnydd mewn cyflogaeth erbyn 2035.

Effeaith posibl Brexit Yn Awst 2016, rhybuddiodd Sefydliad Bevan (“melin drafod”) y byddai economi Cymru angen “ailwampio sylweddol” yn dilyn y bleidlais Brexit yn y refferendwm fis Mehefin 2016. Dewisodd 52.5% o Gymry i bleidleisio dros Brexit yn hytrach nag i aros yn yr UE. Ysgrifennodd y Sefydliad “Dim ond yn yr amgylchiadau mwyaf optimistaidd y bydd Cymru yn well eu byd o ganlyniad i Brexit mae’n debyg.” Bydd Cynulliad Cymru, unwaith mae’r DU wedi gadael yr UE yn llawn, yn colli £860m y flwyddyn mewn arian gan yr UE. I wneud yn iawn am hyn, bydd yn rhaid i’r Cynulliad ddefnyddio ei bwerau cynyddol o ran polisi cyllidol i godi trethi a chynyddu gwariant buddsoddi. At hynny, nododd y Sefydliad bod dros 500 o fusnesau’r UE yn gyfrifol am bron i 60,000 o swyddi yng Nghymru, ac ym mhob chwarter blwyddyn, mae Cymru yn allforio gwerth tua £1bn o nwyddau a gwasanaethau i’r UE. Felly, i barhau gyda’r gyfradd twf presennol, bydd angen i Gymru gynyddu ei masnach gyda gwledydd y tu allan i’r UE, canfod modd i gefnogi diwydiannau sy’n agored i niwed megis amaethyddiaeth, dur a gweithgynhyrchu moduro unwaith y bydd arian yr UE wedi ei golli, yn ogystal ag edrych ar ffyrdd arloesol o gefnogi busnesau bach Cymru. Ar yr ochr gadarnhaol, mae’r gostyngiad yng ngwerth y bunt yn dilyn pleidlais y refferendwm wedi golygu y bydd twristiaeth yng Nghymru yn debygol o dderbyn hwb gan ymwelwyr Prydeinig sydd heb fod yn gallu fforddio mynd ar wyliau dramor bellach a thramorwyr yn manteisio ar y bunt wan. Amcangyfrifir


Trafod Economeg • Rhifyn 2 • Tudalen 9 bod twristiaeth yn Sir Benfro yn unig werth tua £525m bob blwyddyn. Mae Llywodraeth Cymru yn anelu at gynyddu cyfraniad twristiaeth i economi Cymru o 10% erbyn 2020.

rhagolygon da ar gyfer gweithgarwch entrepreneuraidd yng Nghymru – gweler Ffigur 4 ar gyfer crynodeb. Fodd bynnag, wrth edrych yn fanwl ar nifer y busnesau newydd, gwelwn fod y gyfran fesul 10,000 o bobl yn llawer is yng Nghymru nag yn y DU, gyda 59 am bob 10,000 o bobl yng Nghymru o’i Gweithgarwch entrepreneuraidd gymharu â 85 ledled y DU. Mae ffigur Mae ymchwil cymharol ddiweddar o 5 yn rhoi mwy o fanylion ar y duedd o sioeau prosiect GEM UK yn dangos bod ran busnesau newydd. Yr

Gog.

Alban

Iwerddon

27.0

24.1

23.8

24.7

37.5

29.5

38.1

25.2

36.8

Mae gen i’r sgiliau, y wybodaeth a’r profiad i gychwyn busnes

38.4

39.3

38.0

36.1

38.4

Byddai ofn methu yn fy rhwystro rhag cychwyn busnes (i rheiny sy’n cytuno fod cyfleoedd cychwynnol da)

43.2

39.4

42.2

43.7

43.0

Mae’r rhan fwyaf o’r feddylfryd fod cychwyn busnes yn ddewis gyrfaol da

57.8

56.2

54.7

51.5

57.3

Mae gan y rheiny sy’n cael llwyddiant o gychwyn busnes statws a pharch mewn cymdeithas

78.3

77.2

79.2

80.4

78.4

Byddwch yn aml yn gweld storïau am bobl yn cychwyn busnesau llwyddiannus yn y cyfryngau

58.6

57.5

59.2

63.0

58.8

Lloegr

Cymru

Rwy’n adnabod rhywun sydd wedi cychwyn busnes yn y 2 flynedd diwethaf

24.7

Mae’n cyfleoedd cychwynnol da dros y 6 mis nesaf ymhle rwy’n byw

y DU

Ffigur 4 - agweddau entrepreneuraidd yn y DU

Ffigur 5 - “genedigaethau menter” TAW/PAYE cofrestredig fesul 10,000 o bobl rhwng 16 a 64


Trafod Economeg • Rhifyn 2 • Tudalen 10 Datblygu Canaliadwy

sector cyhoeddus yng Nghymru yn ystyried datblygiadau cynaliadwy yn Pasiwyd Deddf newydd arloesol yn eu penderfyniadau i gyd. Amlinellir 2015 – Deddf Llesiant Cenedlaethau’r y nodau llesiant a gynhwysir yn y Dyfodol (Cymru). Mae’r Ddeddf hon yn Ddeddf yn Ffigur 6 isod. Mae’n rhy canolbwyntio ar wella lles economaidd, gynnar i gael unrhyw ymdeimlad o cymdeithasol, amgylcheddol a effaith debygol y Ddeddf hon mewn diwylliannol Cymru trwy fynnu bod gwirionedd, ond yn sicr mae’n un i’w amrywiaeth fawr o sefydliadau dilyn!

Ffigur 6 – nodau lles yng Nghymru

Casgliadau

llawer o “gau’r bwlch” hwnnw wedi bod o ganlyniad i arian yr UE a gwario ar seilwaith. Mae yna lawer o arwyddion cadarnhaol am Mae economi Cymru bellach yn anelu’n iechyd economi Cymru a chau’r bwlch rhwng syth at wyntoedd gwrthwyneb Brexit, gan ei ei berfformiad pherfformiad economi’r gwneud yn anodd gweld pa lwybr y bydd yr DU yn ei chyfanrwydd. Fodd bynnag, mae economi yn ei ddilyn yn y diwedd.


Trafod Economeg • Rhifyn 2 • Tudalen 11 Ffynonellau / Cydnabyddiadau Coleman-Phillips, C. (2016) Staycations to soar in Wales BBC News 27.7.16 URL: http://www.bbc.co.uk/news/ukwales-36886717 Hart et al (2014) Global Entrepreneurship Monitor: Adolygiad Monitro’r DU 2014 Price, J (2016) Welsh Economic Performance: a Challenge, not a Mystery, Welsh Economic Review, Vol 24 Ystadegau ar gyfer Cymru (2016) Bwletin Ystadegol SB30/2016 Williamson, D. (2016) Wales needs a radical rethink of how its economy works as Brexit looms, Wales Online, 2nd August 2016. URL: http://www.walesonline.co.uk/news/politics/wales-needs-radical-rethink-how-11691911 WISERD (2011) An anatomy of economic inequality in Wales WISERD/RRS/002 http://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-36824724 http://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-35803351 http://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-36786591 Ffigur 1: CMC y pen; Eurostat Ffigur 2: General Figures for DRC; Wikipedia Creative Commons Ffigur 3: Poblogaeth; Office for National Statistics licensed under the Open Government Licence v.1.0. Ffigur 4: Global Entrepreneurship Monitor United Kingdom 2014 Monitoring Report, P9; Mark Hart, Jonathan Levie, Karen Bonner, Cord-Christian Drews. Ffigur 5: Genedigaethau menter; Welsh Government Intellectual Property Office, Crown copyright 2015 Ffigur 6: Nodau lles. Ffynhonnell: Welsh Government Intellectual Property Office. Crown copyright 2015


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.