Trafod Economeg 3

Page 1

Trafod Economics Matters Economeg

RHIFYN 3

PWNC DANARTICLES: FEATURED SYLW: “Way down deepdyrannol Effeithlonrwydd in the middle of theeiCongo pam fod mor …” bwysig? Robert Nutter A snapshot of the Welsh economy – summer 2016


Trafod Economeg • Rhifyn 3 • Tudalen 1

Effeithlonrwydd dyrannol - pam ei fod mor bwysig? Robert Nutter Mae effeithlonrwydd dyrannol i’w gael pan fydd dosraniad optimaidd o nwyddau a gwasanaethau mewn economi gan ei fod yn cymryd i ystyriaeth dewisiadau defnyddwyr ac felly yn uchafu cyfanswm lles economaidd, y cyfeirir ato weithiau fel y gwarged cymunedol. O safbwynt yr economi cyfan gall gael ei ddangos fel pwynt penodol ar y ffin posibilrwydd cynhyrchu. Mae pob pwynt ar ffin posibilrwydd cynhyrchu yn gynhyrchiol effeithlon oherwydd does dim adnoddau yn cael eu gwastraffu, sy’n awgrymu bod pob cwmni’n gweithredu ar y gost gyfartalog isaf. Fodd bynnag dim ond un pwynt ar y ffin posibilrwydd cynhyrchu sy’n ddyrannol effeithlon oherwydd ei fod yn rhoi i gartrefi’r union ddosraniad o nwyddau a gwasanaethau fydd yn uchafu lles. Pe bai pob marchnad mewn economi yn berffaith gystadleuol, byddai’r economi’n gweithredu ar y lefel ddyrannol effeithlon o gynnyrch. Y rheswm yw bod cwmnïau’n dderbynwyr prisiau ac felly cynnyrch y diwydiant fydd y cynnyrch lle mae galw yn hafal i gyflenwad. Fodd bynnag, mewn economïau lle nad oes marchnadoedd i adlewyrchu dewisiadau defnyddwyr, fel mewn economïau gorfodol, gall fod effeithlonrwydd cynhyrchiol ond nid effeithlonrwydd dyrannol. Mewn economi gorfodol mae’r penderfyniadau ynghylch beth i’w gynhyrchu, sut ac ar gyfer pwy yn cael eu penderfynu gan bwyllgorau cynllunio’r wladwriaeth ac felly gydag absenoldeb prisiau’r farchnad a deddfau galw a chyflenwad nid yw effeithlonrwydd dyrannol yn debygol o ddigwydd. Yn economïau gorfodol Dwyrain Ewrop hyd at gwymp wal Berlin yn 1989 roedd llawer iawn o adnoddau yn cael eu defnyddio at ddibenion milwrol a diogelwch, diwydiant trwm fel glo a dur ac yn yr Undeb Sofietaidd (Rwsia erbyn hyn) rhaglen y gofod. Mae bron yn sicr y byddai’n well gan y mwyafrif o’r boblogaeth gael mwy o nwyddau traul ar gael ac o ansawdd gwell. Roedd yr Undeb Sofietaidd yn bŵer mawr milwrol ac wedi anfon y dyn cyntaf i’r gofod ond roedd ansawdd esgidiau, peiriannau golchi ayyb yn wael iawn ac yn brin. Yn y diagram posibilrwydd cynhyrchu (Ffigur 1) tybiwch fod yr economi’n gallu cynhyrchu byrgyrs a pizzas yn unig ac m ar yr echelin lorweddol yw’r cynnyrch dyrannol effeithlon o fyrgyrs. Yn y diagram galw a chyflenwad sydd o dan y ffin posibilrwydd cynhyrchu (FfPC) mae’r echelin lorweddol â’r un raddfa ag


Trafod Economeg • Rhifyn 3 • Tudalen 2 echelin lorweddol yr FfPC ac m hefyd yw’r pwynt lle mae’r galw am fyrgyrs a chyflenwad byrgyrs yn croestorri ar y pris cytbwys p. Mewn marchnad berffaith gystadleuol cromlin cyflenwad byrgyrs yw’r gromlin cost ffiniol (CFf) hefyd ac mae’r gromlin galw yn cynrychioli cromlin y budd preifat ffiniol (BPFf) sydd yn ei dro â chysylltiad agos â defnydd-deb ffiniol. Mae defnydd-deb ffiniol (http:// www.investopedia.com/terms/m/marginalutility.asp) yn disgrifio’r budd mae defnyddiwr yn ei dderbyn o dreulio un uned ychwanegol o nwydd, ac mae’r BPFf yn dangos beth mae’r defnyddiwr yn fodlon ei dalu i gael un uned arall o’r nwydd. Pan fydd person yn bwyta mwy a mwy o fyrgyrs bydd eu defnydddeb ffiniol (boddhad ychwanegol) yn lleihau oherwydd bod angen y person amdanyn nhw eisoes wedi cael ei fodloni yn rhannol ac felly mae’r pris mae’n fodlon ei dalu am bob byrgyr ychwanegol hefyd yn gostwng. Mae’r treuliant dyrannol effeithlon o fyrgyrs i’w gael lle mae’r budd preifat ffiniol yn hafal i’r gost ffiniol oherwydd ar y lefel hon o dreuliant mae’r gwerth mae pobl yn ei roi ar y cynnyrch yn hafal i’r gost adnoddau o gynhyrchu’r cynnyrch hwnnw, hynny yw bod BPFf = CFf. Yma hefyd mae galw a chyflenwad yn hafal, y pris cytbwys neu bris clirio’r farchnad lle mae’r holl nwyddau sy’n cael eu cynnig ar werth gan gynhyrchwyr yn cael eu prynu gan ddefnyddwyr. Mae pob uned hyd at y cydbwysedd yn rhoi mwy o ddefnydd-deb (budd) na chost yr adnoddau sydd wedi’u defnyddio i’w gwneud. Felly mae pob uned hyd at y pwynt lle mae pris = CFf yn ychwanegu at les, ond byddai pob uned y tu hwnt i’r pwynt hwn yn ei leihau.


Trafod Economeg • Rhifyn 3 • Tudalen 3

Ffigur 1

Pe bai cynnyrch byrgyrs yn m1 byddai’r pris (BPFf) yn fwy na’r gost ffiniol (CFf) - sy’n awgrymu bod tandreulio a thangynhyrchu o’r nwydd. Y rheswm yw bod yna unedau i’r dde o m1 lle mae BPFf yn fwy nag CFf fyddai’n golygu byddai’r buddion byddai’r gymdeithas yn eu cael o dreulio’r unedau hyn yn fwy na chost yr adnoddau fyddai’n cael eu defnyddio i’w gwneud nhw. Pe bai cynnyrch yn cynyddu a phris yn gostwng, byddai’r gymdeithas yn elwa o fwynhau mwy o’r nwydd oherwydd hyd at m mae BPFf yn fwy na CFf. Yn m2 mae gordreulio a gorgynhyrchu o’r cynnyrch gan fod CFf yn fwy na BPFf ac felly dylai cynnyrch ostwng i m. Felly ar y pris p mae effeithlonrwydd dyrannol yn digwydd lle mae BPFf yn hafal i gost ffiniol. Wrth i gynhyrchu byrgyrs newid i gyrraedd y lefel ddyrannol effeithlon, bydd cynhyrchu pizzas hefyd yn newid i gyrraedd ei lefel ddyrannol effeithlon ei hun o gynnyrch. Os ydy defnyddwyr yn rhesymegol, bydd egwyddor hafalu cymarebau ffiniol yn gweithredu, sy’n golygu bydd defnyddwyr yn dewis cyfuniad o pizzas a byrgyrs fydd yn uchafu cyfanswm


Trafod Economeg • Rhifyn 3 • Tudalen 4 eu defnydd-deb. Bydd hyn yn digwydd lle mae: Defnydd-deb ffiniol pizzas =

Defnydd-deb ffiniol byrgyrs

Pris pizzas

Pris byrgyrs.

Mae hyn yn golygu bod y budd sy’n cael ei ennill am bob punt o wariant yn hafal yn achos pob un o’r ddau nwydd - pe na bai hynny’n wir, byddai defnyddwyr yn newid eu patrwm gwario. Yn y diagram isod (Ffigur 2) mae’r lefel ddyrannol effeithlon o gynnyrch (m) i’w chael lle mae’r gwarged cymunedol yn cael ei uchafu, hynny yw gwarged defnyddwyr plws gwarged cynhyrchwyr. Ar unrhyw lefel arall o gynnyrch mae aneffeithlonrwydd dyrannol a naill ai tangynhyrchu neu orgynhyrchu.

Ffigur 2

O’r dadansoddiad uchod mae’n ymddangos y dylai pob marchnad fod yn berffaith gystadleuol os ydy’r gymdeithas eisiau cyflawni’r hyn sy’n cael ei alw’n Optimeiddrwydd Pareto lle nad oes modd gwneud unrhyw un yn well ei fyd heb wneud rhywun arall yn waeth ei fyd. Y rheswm yw bod cwmnïau’n dderbynwyr prisiau gyda’r gromlin galw yn llorweddol ac felly mae derbyniadau ffiniol (DFf) = derbyniadau cyfartalog (DC). Felly pan fydd cwmnïau’n uchafu elw ar y cynnyrch lle mae CFf = DFf, dyma hefyd y cynnyrch lle mae CFf = DC. Gan fod pris = DC mae hyn yn golygu bod cwmnïau’n gweithredu ar y cynnyrch dyrannol effeithlon.


Trafod Economeg • Rhifyn 3 • Tudalen 5 Ydy gosod pris yn hafal i gost ffiniol yn gallu cael ei gyflawni yn y byd go iawn ym mhob marchnad? Yn anffodus yn y byd go iawn mae marchnadoedd yn amherffaith, mae cystadleuaeth fonopolaidd, oligopoli a monopoli lle mae pris yn uwch na chost ffiniol. Fel sydd i’w weld yn y diagram isod (Ffigur 3), mae’r cynnyrch dyrannol effeithlon i’w gael yn M2, lle mae DC (P) = CFf. Bydd y cwmni monopoli yn dewis uchafu ei elw ei hun, fodd bynnag, gan gynhyrchu yn MM, lle mae CFf = DFf. Mae hyn yn golygu na fydd yr unedau o MM i M2 yn cael eu cynhyrchu. Byddai hynny’n lleihau lles o’i gymharu â lle gallai fod wedi bod oherwydd byddai’r unedau hyn wedi cael budd preifat ffiniol fyddai’n uwch na chost yr adnoddau angenrheidiol i’w gwneud nhw h.y. y gost ffiniol.

Ffigur3

Hefyd, yn ymarferol mae’n anodd iawn cyfrifo cost ffiniol mewn rhai marchnadoedd. Yn ogystal mae problem costau a buddion allanol sy’n deillio o dreulio a hefyd cynhyrchu nwyddau a gwasanaethau. Bydd aneffeithlonrwydd dyrannol yn digwydd os ydy cost neu fudd preifat yn dargyfeirio o gost neu fudd cymdeithasol. Ble mae allanoldeb i’w gael, yr amod ar gyfer effeithlonrwydd dyrannol yw bod pris = cost ffiniol gymdeithasol = budd ffiniol cymdeithasol; rhaid i’r pris fod yn hafal i wir gost ffiniol cynhyrchu i’r gymdeithas gyfan, yn hytrach na’r gost breifat ffiniol yn unig. Mae cyfrifiadau manwl gywir o werth costau a buddion allanol hefyd yn anodd iawn yn y rhan fwyaf o farchnadoedd. Yn y diagram isod (Ffigur 4) bydd cyflenwad yn hafal i’r gost breifat ffiniol (CBFf) ac yn achos galw mae BCFf = BPFf gan ein bod yn tybio nad oes costau na buddion allanol o dreulio. Mae hyn yn golygu bydd y farchnad mewn cydbwysedd yn M1 lle mae pris neu dderbyniadau cyfartalog = CFf. Fodd bynnag, gan nad yw’r holl gostau adnoddau wedi cael eu hystyried, mae colled


Trafod Economeg • Rhifyn 3 • Tudalen 6 lles oherwydd yn achos yr unedau rhwng M ac M1 mae CGFf yn uwch na BCFf, sy’n golygu nad ydyn nhw’n economaidd ddymunol. Mae hyn yn ganlyniad i allanoldebau cynhyrchu allanol.

Ffigur 4

Mae un o’r prif broblemau gyda gosod pris yn hafal i gost ffiniol i’w chael mewn marchnadoedd lle mae gan gynhyrchwyr gostau sefydlog mawr. Oherwydd yr ystod fawr o gynnyrch lle mae buddion darbodion maint yn cael eu profi, yn aml mae’n well cael un cwmni i wasanaethu’r marchnadoedd hyn. Y term am y rhain yw monopolïau naturiol ac mae rhai enghreifftiau mewn meysydd isadeiledd fel teledu cebl, egni, dŵr a rheilffyrdd. Os bydd pris yn cael ei osod yn hafal i gost ffiniol, bydd cwmnïau’n gwneud colledion enfawr oherwydd na fyddan nhw’n gallu adennill eu costau sefydlog uchel. Yn y diagram isod (Ffigur 5) pe bai’r cwmni’n uchafu elw lle mae CFf = DFf ar y pris P a’r cynnyrch M, byddai’r cwmni’n aneffeithlon ond byddai’n gwneud elw annormal (PZBR) oherwydd bod derbyniadau cyfartalog yn fwy na chost gyfartalog. Ar y pris dyrannol effeithlon P1 byddai’r cwmni’n gwneud colledion (CXAP1) oherwydd bod CG yn fwy na DC.


Trafod Economeg • Rhifyn 3 • Tudalen 7

Ffigur 5

Mae hyn yn awgrymu nad yw’n ymarferol gosod pris yn hafal i gost ffiniol i gyflawni effeithlonrwydd dyrannol Fodd bynnag, hyd yn oed mewn cwmnïau isadeiledd fel dŵr, gallai prisio cost ffiniol gael ei gymhwyso’n rhannol o leiaf. Tybiwch fod pob cartref â mesurydd dŵr. Gallai pris fesul litr gael ei godi ar ddefnyddwyr fyddai’n hafal i gost ffiniol y cyflenwad. Gyda chyflenwad dŵr yn cael ei brisio yn y ffordd hon, byddai defnyddwyr yn defnyddio dŵr hyd at y pwynt lle byddai defnydd-deb ffiniol y dŵr, neu’r gwerth mae’r defnyddwyr yn ei roi ar y dŵr, h.y. y pris bydden nhw’n fodlon ei dalu, yn hafal i gost ffiniol y cyflenwad. Gallai cost sefydlog cyflenwi dŵr gael ei hadennill drwy gael tâl cysylltu sefydlog fyddai’n cael ei dalu gan bob cartref ond na fyddai’n gysylltiedig â’u treuliant dŵr. Ar hyn o bryd does dim mesurydd gan tua 60% o gartrefi. Maen nhw’n talu bil blynyddol sy’n seiliedig ar fand treth gyngor eu cartref. Felly dydy’r swm maen nhw’n ei dalu ddim yn gysylltiedig â’u treuliant ac felly yn ddamcaniaethol byddan nhw’n treulio dŵr hyd at y pwynt lle mae eu defnydddeb ffiniol yn sero ac mae cyfanswm eu defnydd-deb yn cael ei uchafu. Mae hyn yn aneffeithlon oherwydd bydd rhai unedau’n cael eu treulio lle mae cost yr adnoddau sydd wedi’u defnyddio i gyflenwi’r dŵr, fel hidlo a phrosesu, (CFf) yn uwch na’r defnydd-deb mae defnyddwyr fel hyn yn ei gael mewn gwirionedd. Pan fydd rheolyddion yn edrych ar y pris sy’n cael ei godi mewn marchnadoedd sydd â lefel uchel o grynhoad neu sy’n gamweithredol, efallai byddan nhw’n ceisio archwilio faint mae prisiau i ddefnyddwyr yn gwyro o gost ffiniol. Gallai capio prisiau gan reolyddion orchymyn cwmnïau i wthio eu prisiau yn agosach at gost ffiniol. Efallai bydd cwmnïau yn y sector cyhoeddus yn cael eu gorchymyn i godi pris sy’n hafal i gost ffiniol gyda’r llywodraeth yn defnyddio cymorthdaliadau i wneud iawn am y colledion. Roedd hyn yn arfer gafodd ei ddefnyddio mewn rhai diwydiannau gwladoledig yn y DU yn yr 1960au a’r 70au.


Trafod Economeg • Rhifyn 3 • Tudalen 8 Roedd yn ddrud i’r llywodraeth ac yn anodd ei ddefnyddio mewn rhai sectorau. Mae defnyddio prisio cost ffiniol mewn rhai diwydiannau gwladoledig yn unig yn dwyn i mewn damcaniaeth yr ail orau. Yn ôl y ddamcaniaeth hon, os nad yw dwy farchnad neu fwy yn berffaith gystadleuol, yna gall ymdrechion i gywiro ystumiadau’r farchnad mewn un farchnad yn unig, er enghraifft drwy ddefnyddio prisio cost ffiniol, yrru’r economi ymhellach i ffwrdd o effeithlonrwydd Pareto. Felly mae problem yr ail orau yn codi’r cwestiwn a yw ymyriadau fel gorchymyn ychydig o gwmnïau gwladoledig, lle mae amherffeithrwydd marchnad, i brisio ar gost ffiniol yn gallu mewn gwirionedd gwella lles cymdeithasol cyffredinol mewn economi lle mae prisiau’r rhan fwyaf o gwmnïau eraill yn uwch na chost ffiniol. Mae prisio cost ffiniol â pherthnasedd yn achos darparu nwyddau cyhoeddus fel amddiffynfeydd rhag llifogydd fel y Rhwystr Tafwys. Gan fod nwyddau cyhoeddus pur yn cael eu darparu am ddim yn y man treulio a bod cost ffiniol darparu’r nwyddau hyn i berson ychwanegol yn sero, yna mae pris = cost ffiniol ac felly cawn effeithlonrwydd dyrannol. Efallai bydd cwmnïau weithiau yn prisio rhywfaint o’u cynnyrch ar gost ffiniol gan ddefnyddio gwahaniaethu ar sail pris. Mae hyn yn eithaf posibl pan fydd defnyddwyr llai ffodus o’r cynnyrch yn gorfod talu pris sydd ymhell uwchlaw cost ffiniol fel bod y cwmni’n gallu talu costau sefydlog a gwneud elw. Cafodd hyn ei ddefnyddio’n llwyddiannus yn ddiweddar gan y cylchgrawn The Economist oedd yn cynnig 30 rhifyn i fyfyrwyr chweched dosbarth am £16.00, sef ychydig dros 50c y copi, a hynny pan oedd pris arferol y cylchgrawn yn £4.20. Ar hyn o bryd mae The Economist yn cael ei gynnig i fyfyrwyr prifysgol am 12 wythnos am £12, sef £1 y copi, o’i gymharu â’r pris arferol o £5.00. Mae’r pris disgowntiedig sy’n cael ei gynnig i fyfyrwyr yn fwy na thebyg yn agos at fod yn hafal i gost ffiniol (argraffu a dosbarthu) ac efallai bydd yn creu digon o deyrngarwch i’r brand ymhlith y myfyrwyr hynny i’w cael nhw i brynu’r cylchgrawn am y pris llawn pan fyddan nhw’n oedolion. Bydd costau sefydlog uchel creu’r cylchgrawn yn cael eu talu gan y rheiny sy’n talu’r pris llawn, gan wneud prisio cost ffiniol yn eithaf ymarferol er mai dim ond ar gyfer rhai o ddefnyddwyr y cynnyrch y byddai hyn.


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.