Trafod Economeg 4

Page 1

Trafod Economics Matters Economeg

RHIFYN 4

PWNC DAN SYLW: All y bunt oroesi Brexit? FEATURED ARTICLES: George Vlachonikolis “Way down deep in the middle Pennaeth Economeg, of the Congo …” Ysgol Headington Uwch Arholwr Economeg CBAC

A snapshot of the Welsh economy – summer 2016


Trafod Economeg • Rhifyn 4 • Tudalen 1

All y bunt oroesi Brexit? George Vlachonikolis Ar 16 Medi 1992 gadawodd y DU fecanwaith cyfradd gyfnewid System Ariannol Ewrop. Achosodd hyn i werth y bunt gwympo’n drychinebus ac roedd sylwebwyr yn meddwl yn gyhoeddus tybed a fyddai hi byth yn goroesi. 25 mlynedd ar hugain yn ddiweddarach, ac ar ôl pleidlais Brexit 2016, mae’n teimlo ychydig fel petai hanes yn ei ailadrodd ei hun. Bydd yr erthygl hon yn ceisio holi pam cwympodd gwerth y bunt mor syfrdanol yn dilyn pleidlais Brexit ac yna bydd yn gofyn a ddylen ni fod yn poeni ai peidio ynghylch a fydd hi’n goroesi.

Y DU: Y Gyfradd Gyfnewid Ffigur 1: Cyfradd gyfnewid Ewro v Sterling ers 1999

Ffynhonnell: Swyddfa Ystadegau Gwladol


Trafod Economeg • Rhifyn 4 • Tudalen 2 Mae sterling wedi bod yn sensitif iawn i ddigwyddiadau geowleidyddol annisgwyl dros y 3 degawd diwethaf. Ac, mae modd dadlau bod y cwympiadau ar ôl dydd Mercher Du a’r Wasgfa Gredyd yn fwy difrifol na’r un ar ôl pleidlais Brexit. Wedi dweud hynny, ar 23 Awst 2016 (2 fis yn unig ar ôl y bleidlais), cwympodd sterling i’r lefel isaf erioed yn erbyn yr Ewro (gweler Ffigur 1). Mae’n amlwg fod lefel isel ddigynsail fel hon yn haeddu ymchwilio mwy manwl. Cofiwch hyn! Mae cyfraddau cyfnewid yn bwysig iawn i economi fel y DU am y rhesymau canlynol: Mae cyfraddau cyfnewid yn effeithio ar brisiau allforion a pha mor gystadleuol mae’r nwyddau/gwasanaethau hynny’n debygol o fod ar farchnad y byd. Mae cyfraddau cyfnewid yn gost i gwmni ar ffurf comisiwn sy’n cael ei dalu wrth gyfnewid un arian cyfred am un arall. Os oes gan gwmnïau asedau mewn arian cyfred heblaw am sterling, mae cyfraddau cyfnewid yn berygl. Felly beth achosodd y cwymp? Yn sicr, nid cwymp mewn mewnfuddsoddi oedd hwn. Yn 2016, y DU oedd lleoliad mwyaf deniadol Ewrop o hyd ar gyfer buddsoddi rhyngwladol. Mewn gwirionedd, cyrhaeddodd ei lefel uchaf erioed o fewnfuddsoddi a chytunwyd ar gyfanswm o 1,144 prosiect buddsoddi uniongyrchol tramor (FDI) newydd. Ym mis Medi 2017, roedd Mynegai’r Canolfannau Ariannol Byd-Eang (GFCI) – sy’n gosod canolfannau ariannol yn eu trefn yn ôl pa mor gystadleuol ydyn nhw, a hynny’n seiliedig ar dros 29,000 o asesiadau canolfannau ariannol) yn dal i osod Llundain ar y brig fel arweinydd byd. Os nad mewnfuddsoddi oedd y rheswm, beth am y fantolen fasnach? Wel, fel mae hi’n digwydd, mae allforion y DU wedi cynyddu’n arwyddocaol ers pleidlais Brexit. Mae gwerthiant allforion misol wedi cynyddu £2bn ar gyfartaledd o’i gymharu â’r llynedd. Yn enwedig, mae data’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn Ffigur 2 yn dangos bod allforion i’r UE wedi cynyddu 2% yn ail chwarter 2017.


Trafod Economeg • Rhifyn 4 • Tudalen 3 Ffigur 2: Cyfraniad i dwf gan allforion i’r UE, 3 mis o’i gymharu â’r 3 mis diwethaf

Ffynhonnell: Swyddfa Ystadegau Gwladol

Gwaetha’r modd dydy’r DU ddim wedi gweld y cynnydd mewn galw cyfranedol a allai fod i’w ddisgwyl. Mae mewnforion wedi bod yn codi hefyd ac mae hyn wedi gwrthbwyso manteision cadarnhaol twf mewn allforion (gweler Ffigur 3). Mae’r DU yn dal i fewnforio llawer o nwyddau prisiau anelastig (fel deunyddiau crai a chynnyrch amaethyddol). O ganlyniad, mae gan y wlad ddiffyg mewn masnach sy’n gwasgu gwerth sterling i lawr. Ond mae’n allweddol nad yw’r diffyg hwnnw mewn masnach wedi tyfu’n arwyddocaol ers pleidlais Brexit. Ac felly, nid y diffyg mewn masnach sydd wedi gostwng gwerth sterling.


Trafod Economeg • Rhifyn 4 • Tudalen 4 Ffigur 3: Lefel mewnforion ac allforion y DU dros gyfnod o amser

Ffynhonnell: Swyddfa Ystadegau Gwladol

Yn hytrach, yr ateb yw ‘arian poeth’; y llifoedd arian hapfasnachol sy’n cael eu trosglwyddo’n rheolaidd rhwng sefydliadau ariannol er mwyn ceisio manteision i ‘r eithaf ar log a/neu enillion cyfalaf. Mae cyflymder y dibrisiant ar ôl pleidlais Brexit (cwympodd 10% yn y 24 awr gyntaf) yn dangos mai gwerthu hapfasnachol yn unig a all fod yn gyfrifol. Does dim oediad amser ym marchnadoedd y cyfnewidfeydd tramor. Roedd pleidlais Brexit yn annisgwyl ac roedd y rhan fwyaf o bobl yn ei chael hi’n anodd deall ei chanlyniadau economaidd. Roedd astudiaethau cyn y bleidlais yn rhybuddio y byddai effeithiau negyddol difrifol ar yr economi. Dyna roedd y rhan fwyaf o bobl yn ei ofni ar 24 Mehefin 2016. O ganlyniad gwerthwyd sterling ar raddfa fawr.


Trafod Economeg • Rhifyn 4 • Tudalen 5 Beth roedd yr hapfasnachwyr yn ei ofni? -- Cwymp mewn cynnyrch domestig gros wrth i’r farchnad i gwmnïau sy’n allforio ddechrau crebachu. -- Efallai y byddai’n rhaid i’r Pwyllgor Polisi Ariannol ostwng y Gyfradd Fancio ymhellach er mwyn ysgogi galw. -- Byddai sterling yn llai deniadol fel arian cyfred wrth gefn. I ba raddau roedd sail dda i’r ofnau hyn? Cwymp mewn cynnyrch domestig gros Yn 2015, cyn storm Brexit, roedd y DU ymysg economïau’r G7 a oedd yn tyfu gyflymaf. Ond, erbyn 2017, roedd wedi llithro i waelod y pentwr gyda’r Eidal. Mae’r twf araf yn dystiolaeth ynddo’i hun fod pleidlais Brexit wedi tawelu twf. Wedi dweud hynny, mae cofnod fod nifer o asiantaethau graddio credyd wedi dweud bod yr arafu sy’n gysylltiedig â phleidlais Brexit wedi bod yn llai difrifol na’r disgwyl. Mewn gwirionedd mae nifer wedi codi eu rhagolygon twf ar gyfer pedwerydd chwarter 2017 o ganlyniad. Ffigur 4: Cyfraddau twf (chwarterol) gwledydd G7 2015–17 EU282 EA193 G74

Ffrainc

Yr Almaen Yr Eidal Y DU

Canada⁷

Japan

% twf1 UDA

Q1 2015 Q2 2015 Q3 2015 Q4 2015

0.7 0.5 0.4 0.5

0.8 0.4 0.3 0.4

0.5 0.4 0.4 0.2

0.4 0.0 0.4 0.2

0.2 0.5 0.2 0.4

0.3 0.4 0.1 0.2

0.3 0.5 0.3 0.7

-0.2 -0.1 0.6 0.1

1.1 -0.1 0.2 -0.2

0.5 0.6 0.5 0.2

Q1 2016 Q2 2016 Q3 2016 Q4 2016

0.5 0.4 0.5 0.6

0.5 0.3 0.4 0.5

0.4 0.3 0.6 0.5

0.6 -0.1 0.2 0.5

0.7 0.5 0.2 0.4

0.4 0.1 0.3 0.3

0.2 0.6 0.5 0.7

0.7 -0.3 1.0 0.7

0.6 0.4 0.3 0.3

0.2 0.4 0.9 0.5

Q1 2017 Q2 2017

0.6 0.6

0.6 0.6

0.4 ..

0.4 0.5

0.6 0.6

0.4 0.4

0.2 0.3

0.9 ..

0.3 1.0

0.3 0.6

Ffynhonnell: Swyddfa Ystadegau Gwladol a’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd


Trafod Economeg • Rhifyn 4 • Tudalen 6 Polisi Ariannol Roedd ymateb yn syth gan Fanc Lloegr; symudwyd yn gyflym i gadw’r system ariannol yn ddiogel drwy dorri Cyfradd y Banc 0.25% ym mis Awst (yr isaf mewn hanes!) ac ailddechreuwyd ei ymgyrch esmwytho meintiol (QE). Tua diwedd 2016 roedd llawer o ddadansoddwyr yn disgwyl toriad pellach i gyfradd y banc i’r terfyn isaf, sef 0.05%. Wrth gwrs, flwyddyn yn ddiweddarach ac mae’r Pwyllgor Polisi Ariannol yn dechrau awgrymu y gallai’r gyfradd llog gael ei chodi’n fuan. Mae chwyddiant yn nesáu at y lefel darged uchaf a gan fod dyddiad ymddiswyddo Mark Carney yn 2018 ar y gorwel hefyd, byddai’n hawdd gweld codiad (bychan) cyn i’r flwyddyn ddirwyn i ben. Statws fel arian cyfred wrth gefn Nid yw statws sterling fel arian cyfred wrth gefn mewn perygl ac mae nifer o resymau am hyn. Yn gyntaf, mae’r IMF wedi ymrwymo i gadw sterling fel un o’r pum arian cyfred sy’n rhan o’i asedau cyfnewidfeydd tramor wrth gefn (yr enw arnyn nhw yw Hawliau Codi Arian Arbennig, Special Drawing Rights). Dyma’r cronfeydd y gall yr IMF eu defnyddio i wneud benthyciadau i wledydd sydd ag angen cymorth arbennig. Yn ail, mae cyfran sterling mewn cronfeydd arian cyfred wrth gefn byd-eang wedi aros yn gymharol gyson ar 5% dros y 40 mlynedd diwethaf. Gan fod y lefel mor isel, mae’r gyfran yn annhebygol o gwympo i sero hyd yn oed os bydd buddsoddi uniongyrchol tramor yn gyfnewidiol ar ôl Brexit. Yn drydydd, nifer o wledydd allweddol Asia yw’r rhai sydd â’r rhan fwyaf o sterling yn y byd a bydd y DU yn ceisio llunio cytundebau masnach newydd â’r rhain ar ôl Brexit. O ganlyniad, bydd rheolwyr cronfeydd tramor y gwledydd hyn eisiau cadw sterling er mwyn eu hamddiffyn eu hunain rhag siociau masnach posibl yn y dyfodol.


Trafod Economeg • Rhifyn 4 • Tudalen 7 Casgliad Mae’n ymddangos felly fod rhesymau da dros fod yn optimistaidd am werth sterling i’r dyfodol. Mae ei statws fel arian cyfred wrth gefn fel petai’n ddiogel am 10 mlynedd arall o leiaf. Yn ogystal, gallai’r cynnydd disgwyliedig yng Nghyfradd y Banc olygu cynnydd mewn llifoedd hapfasnachol yn ôl i’r DU. Yn y bôn, dydy twf economaidd ddim yn perfformio cynddrwg ag roedd llawer wedi disgwyl cyn iddyn nhw werthu eu daliadau. I rai sylwebwyr, gallai hyn awgrymu bod sterling yn cael ei danbrisio ar hyn o bryd ac y gallai godi cyn hir. Y broblem yw mai megis dechrau mae Brexit. Mae’r trafodaethau ymhell o fod yn esmwyth ac mae cymaint o ansicrwydd am y ‘cyflwr terfynol’ ag y buodd erioed. Hapfasnachwyr a gafodd eu dychryn gan ansicrwydd Brexit a oedd yn gyfrifol am ddibrisio’r bunt. Ac mae’r ansicrwydd hwn yn parhau. Felly er bod rhai rhesymau dros fod yn gadarnhaol (uchod), ac y gall hyn atal cwymp pellach am y tro, does dim digon o bethau cadarnhaol i ddarbwyllo hapfasnachwyr fod popeth yn dda. Felly bydd sterling yn goroesi ond mae’n debygol mai llwyddiant (neu aflwyddiant) trafodaethau Brexit a fydd yn cael yr effaith fwyaf arwyddocaol ar werth sterling am gryn amser i ddod. George Vlachonikolis Pennaeth Economeg, Ysgol Headington Uwch Arholwr Economeg CBAC

Cydnabyddiaeth lluniau: Clawr : Y bunt yn disgyn yn ddarnau Konstantin Shaklein / Alamy Stock Photo


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.