Trafod Economeg 5

Page 1

Trafod Economeg

RHIFYN 5

PWNC DAN SYLW: Y cwmni sy’n gwneud yr elw mwyaf FEATURED ARTICLES:

Robert Simon in Harrison “Way Nutter downadeep the middle

of the Congo …” Sut i ddatrys Gwyliwch y Bwlch: ‘bwlch seilwaith’ $180bn Periw. A snapshot of the Welsh George Vlachonikolis economy – summer 2016


Trafod Economeg • Rhifyn 5 • Tudalen 1

Y cwmni sy’n gwneud yr elw mwyaf Gan Robert Nutter a Simon Harrison Mewn theori bydd cwmni yn gwneud yr elw mwyaf yn y byrdymor pan fydd cost ymylol (MC) yn cyfateb i refeniw ymylol (MR). Mae cost ymylol yn mesur y cynnydd mewn cyfanswm cost o ganlyniad i gynhyrchu un uned ychwanegol o gynnyrch ac mae’n cynnwys costau amrywiol fel deunyddiau crai a llafur. Bydd cromlin cost ymylol yn cwympo i ddechrau yn y byrdymor yn sgil enillion cynyddol i ffactor h.y. llafur ac yna’n codi o ganlyniad i enillion lleihaol. Refeniw ymylol yw’r ychwanegiad at gyfanswm refeniw o ganlyniad i werthu un uned ychwanegol o gynnyrch ac mewn marchnad berffaith bydd MR yn gyson ac yn cyfateb i refeniw cyfartalog (AR) gan fod cwmnïau yn gymerwyr prisiau ac yn gallu gwerthu cymaint ag y mynnant am bris y farchnad. Mewn marchnad amherffaith bydd MR yn wynebu am i lawr ac yn cwympo oherwydd, er mwyn gwerthu uned ychwanegol o’r cynnyrch, bydd angen i’r pris gwympo gan fod y gromlin galw (AR) yn wynebu am i lawr. Mae MR yn cwympo’n gyflymach nag AR oherwydd pan gaiff pris (AR) ei dorri er mwyn gwerthu uned ychwanegol, mae’n rhaid torri’r pris ar gyfer yr holl unedau eraill hefyd, gan olygu bod y cynnydd mewn cyfanswm refeniw yn llai na phris yr uned ychwanegol. Dangosir marchnadoedd perffaith ac amherffaith yn Ffigurau 1 a 2 isod gyda chynnyrch gwneud yr elw mwyaf ar gyfer y ddwy yn cael ei ddangos ar qx, lle mae MC=MR.

Pam mae cwmnïau yn gwneud yr elw mwyaf pan mae MC=MR? Gan edrych ar y ddau ddiagram uchod, cymerwch fod cynnyrch ar q1, yna drwy gynyddu cynnyrch i qx rhaid i elw gynyddu oherwydd bydd pob uned ychwanegol o’r cynnyrch a werthir yn ychwanegu mwy at refeniw nag at gostau (MR>MC).


Trafod Economeg • Rhifyn 5 • Tudalen 2 Mae’r unedau rhwng q1 a qx yn dal i ychwanegu at gyfanswm yr elw fel y gwelir yn Ffigur 3. Fodd bynnag, petai cynnyrch yn cynyddu y tu hwnt i qx tuag at q2 byddai pob uned ychwanegol a werthir yn ychwanegu mwy at gostau nag at refeniw (MC>MR) gan arwain at lai o elw. Ar lefel cynnyrch qx MC=MR ac felly mae elw ymylol yr uned ddiwethaf a werthir yn sero er y gwneir yr elw mwyaf (Ffigur 3).

Fodd bynnag, a yw cwmnïau yn y byd go iawn byth yn ystyried gwneud yr elw mwyaf o’r safbwynt ymylol hwn? Yn aml mae’n anodd cael gafael ar wybodaeth fanwl gywir am refeniw ymylol a chost ymylol, gan ei gwneud hi’n amhosibl nodi pryd yn union y gwneir yr elw mwyaf. Tybir bod cwmnïau yn ymwybodol o’u hamodau cost a’u galw yn y dyfodol a’u bod yn meddu ar wybodaeth lawn a pherffaith am amodau’r farchnad – nid yw hyn yn debygol. Hyd yn oed os oedd ganddynt yr holl wybodaeth hon byddai’n anodd ac yn gostus iddynt newid y pris lle gwneir yr elw mwyaf gyda phob marchnad ac amrywiad cost. Bydd newidiadau i’r gost ymylol yn newid y sefyllfa o ran gwneud yr elw mwyaf. Yn Ffigur 4 mae cwymp yn y gost ymylol wedi lleihau’r pris damcaniaethol lle gwneir yr elw mwyaf ond, mewn gwirionedd, gall cwmnïau fod yn amharod i wneud hynny, yn enwedig os byddant o’r farn mai dim ond rhywbeth dros dro yw’r cwymp mewn cost ymylol (er enghraifft o ganlyniad i amrywiadau yn y gyfradd gyfnewid).


Trafod Economeg • Rhifyn 5 • Tudalen 3 Ffigur 4

Mae cwmnïau yn fwy tebygol o ddefnyddio cost a phrisio i wneud yr elw mwyaf lle bydd cwmni yn gosod pris ar gyfer ei gynnyrch drwy ychwanegu maint elw canrannol sefydlog neu godi pris at gost gyfartalog cynhyrchu (Ffigur 5). Er na fydd hyn yn arwain at wneud yr elw mwyaf efallai, dylai sicrhau bod elw yn cael ei wneud ac, yn wir, yn y byd go iawn, gallai hyn arwain at fwy o broffidioldeb na gwario llawer o arian yn ceisio gwybodaeth lawn am MC ac MR. Gan fod cyfanswm cost cyfartalog yn amrywio am fod faint o gynnyrch a gynhyrchir yn newid, bydd angen i’r cwmni nodi lefel cynnyrch er mwyn pennu cost fesul uned. Gall maint yr elw a osodir ddibynnu ar ffactorau fel y lefel o gystadleuaeth a chryfder y galw. Mae prisio cost plws yn gyffredin mewn marchnadoedd lle mae ambell gwmni yn dominyddu, fel mewn oligopoli lle mae gan y cwmnïau gostau cynhyrchu tebyg. Yn yr achos hwn, mae prisio cost plws yn darparu rheol gyfleus i gwmnïau ac yn lleihau’r risgiau sy’n gysylltiedig â chystadleuaeth prisiau fel rhyfel prisiau.


Trafod Economeg • Rhifyn 5 • Tudalen 4 Ffigur 5

Mae’r hafaliad canlynol yn dangos sut i bennu pris gan ddefnyddio prisio cost plws. P yw pris y cynnyrch, ATC yw’r cyfanswm cost cyfartalog neu gost fesul uned, a’r codi pris yw’r ganran a ychwanegwyd at y cyfanswm cost cyfartalog. P = ATC x (1 + codi pris). Felly os yw ATC = £80 a bod y codi pris yn 25% (sef 0.25) y pris fyddai: P = £80 x 1.25 = £100. Bydd yr elfen codi pris yn cynnwys cyfradd adenillion ddymunol ar fuddsoddiad y cwmni er y bydd hyn yn dibynnu ar lefel gwerthiannau. Un feirniadaeth ynghylch prisio cost plws yw ei fod yn canolbwyntio ar gostau cyfartalog yn hytrach na chostau ymylol. Gan fod angen i gost ymylol gyfateb i refeniw ymylol er mwyn gwneud yr elw mwyaf, efallai na fydd prisio cost plws yn arwain at wneud yr elw mwyaf. Er enghraifft mae prisio cost plws yn anwybyddu amodau galw a allai arwain at y cwmni yn gosod pris cost plws sy’n uwch nag ecwilibriwm pris y farchnad, gan arwain at warged neu gyflenwad dros ben. O ganlyniad, nid yw’r cwmni yn gwerthu’r holl unedau mae’n eu cynhyrchu ac ni wneir yr elw mwyaf. Fodd bynnag, o dan rai amgylchiadau gall prisio cost plws arwain at wneud yr elw mwyaf yn yr hirdymor. Mae hyn yn gofyn am i elastigedd pris y galw am y cynnyrch gael ei gyflwyno wrth gyfrifo’r codi pris sy’n mynd â’r cyfrifiad y tu hwnt i’r fathemateg sydd ei hangen ar gyfer Safon Uwch. Digon yw dweud os caiff elastigedd pris y galw ei gyfrifo’n gywir wrth osod yr elfen codi pris y bydd prisio cost plws yn sicrhau y gwneir yr elw mwyaf.


Trafod Economeg • Rhifyn 5 • Tudalen 5

Gwneud yr elw mwyaf a’r penderfyniad i gau Fel y nodir uchod, mewn egwyddor bydd cwmni yn gwneud yr elw mwyaf yn achos cynnyrch lle mae MC=MR. Fodd bynnag nid yw cynhyrchu ar y fath lefel yn sicrhau y gwneir unrhyw elw o gwbl! Yr unig beth mae’n ei olygu yw os bydd y cwmni yn dewis gweithredu, mai’r cynnyrch hwn fydd yn sicrhau’r canlyniad ariannol gorau – felly bydd naill ai’n sicrhau y gwneir yr elw mwyaf neu’n cwtogi ar golledion pan wneir y penderfyniad i gynhyrchu. Gallai ymddangos, os yw pob uned lle mae’r refeniw ychwanegol yn fwy na’r gost ychwanegol yn cael ei gwneud, y bydd hyn yn sicrhau elw, ond mae’n anwybyddu’r elfen cost sefydlog. Mae cost ymylol ond yn edrych ar gost ychwanegol gwneud pob uned – felly yn ôl ei diffiniad mae’n fath o gost amrywiol (os ychwanegwch yr holl gostau ymylol at ei gilydd ar gyfer nifer benodol o unedau, bydd yn rhoi cyfanswm cost amrywiol cynhyrchu’r unedau hynny). Felly, mae’r cynnyrch gwneud yr elw mwyaf yn sicrhau’n syml y bydd y bwlch rhwng cyfanswm refeniw a chyfanswm cost amrywiol mor fawr ag y gall fod (cysyniad y bydd myfyrwyr busnes yn gyfarwydd ag ef fel ‘cyfraniad’). Ystyriwch fod cwmni perffaith gystadleuol yn wynebu’r sefyllfa ganlynol: Cynnyrch/mis 0 1 2 3 4 5 6

MC £100 £75 £100 £125 £150 £175

MR £150 £150 £150 £150 £150 £150

Y cynnyrch lle gwneir yr elw mwyaf yw 5 uned – petai’r cwmni yn gwneud y 6ed uned, byddai’n gwneud llai o elw am fod y gost ychwanegol uwchlaw’r refeniw ychwanegol. Ar draws y 5 uned a gynhyrchwyd, mae’r cwmni wedi ‘gwneud’ £200 (y bylchau rhwng MC ac MR), ond nid elw yw hyn. Petai costau sefydlog y cwmni yn £150, yna byddai’r cwmni wedi gwneud elw o £50, ond petai costau sefydlog yn £250, byddai’r cwmni wedi colli £50. Opsiynau i gwmnïau sy’n gwneud colled. Yn yr hirdymor, bydd cwmni sy’n methu â gwneud o leiaf elw normal (cynnyrch lle mae TR=TC (lle mae TC yn cynnwys costau cyfle amser yr entrepreneur) yn cau – caiff ffactorau cynhyrchu eu defnyddio’n well rywle arall. Fodd bynnag, yn y byrdymor bydd y sefyllfa’n fwy cymhleth am na all y cwmni adael y diwydiant yn syth. Mae’r rheswm dros hyn wedi’i gynnwys yn y diffiniad o’r byrdymor; y cyfnod o amser lle mae o leiaf un ffactor cynhyrchu yn sefydlog – os nad oes gennych y ffactor cynhyrchu ni allwch ei gael (sef y rheswm mae 


Trafod Economeg • Rhifyn 5 • Tudalen 6 rhwystrau mynediad yn bodoli ym mhob strwythur marchnad yn y byrdymor) ond os yw gennych, ni allwch gael ei wared! Ffordd dda o feddwl am hyn yw busnes â les 6 mis ar adeilad – mae wedi ymrwymo i dalu’r les bob mis am y 6 mis nesaf p’un a yw’n defnyddio’r adeilad ai peidio. Felly os yw cwmni yn gwneud colled, a ddylai gau’n syth? Ar yr wyneb, mae’n debyg mai ‘dylai’ fyddai’r ateb, ond efallai mai dim ond y penderfyniad mwyaf synhwyrol yn ariannol fydd y penderfyniad i gau yn yr hirdymor. Beth os mai’r cwmni yn yr enghraifft uchod yw’r cwmni â les 6 mis, a bod y les yn costio £250 y mis. Felly mae’r cwmni yn colli £50 y mis. Pa opsiynau sydd gan y cwmni? Yn amlwg gallai roi cynnig ar ailnegodi’r les, a allai weithio, gallai chwilio am feysydd eraill o aneffeithlonrwydd er mwyn lleihau costau a’i alluogi i wneud elw neu gallai chwilio am ffynonellau eraill o refeniw. Ond beth os yw’n rhoi cynnig ar bob un o’r rhain heb unrhyw lwyddiant. Beth wedyn? Yn y bôn mae gan y cwmni ddau opsiwn. Aros ar agor am 6 mis neu gau’n syth. Os bydd yn cau’n syth bydd yn colli £250/mis – bydd angen iddo dalu’r les o hyd, ond ni fydd ganddo unrhyw refeniw (a dim costau amrywiol chwaith). Os yw’n aros ar agor, bydd yn colli £50/mis – bydd refeniw yn £750, mae costau amrywiol yn £550 (£100 + £75 + £100 = £125 + £150) ac mae costau sefydlog yn £250/mis sy’n rhoi cyfanswm costau o £800. Felly, o gael dewis colli £50/mis am 6 mis neu golli £250/mis am 6 mis dylai’r cwmni aros ar agor. Os na fydd unrhyw beth wedi newid erbyn diwedd y les 6 mis, dylai gau wedyn, am nad oes rhaid iddo gymryd les arall – nid oes unrhyw rwystr i adael. A ddylai’r cwmni byth gau’n syth? Yr ateb i’r cwestiwn hwn yw dylai! Os byddai’n gwneud mwy o golled yn aros ar agor nag yn cau, yna dylai’r cwmni gau ar unwaith yn amlwg. Beth os yw strwythur costau’r cwmni yn edrych fel hyn: Cynnyrch/mis 0 1 2 3 4 5 6

MC £200 £185 £120 £145 £150 £175

MR £150 £150 £150 £150 £150 £150


Trafod Economeg • Rhifyn 5 • Tudalen 7 Lle mae’n gwneud yr elw mwyaf wrth gynhyrchu 5 uned mae’r cwmni nawr yn wynebu’r sefyllfa ganlynol: Refeniw/mis:£750 Costau amrywiol/mis:£800 Costau sefydlog/mis:£250 Mae’r cwmni yn colli £300/mis drwy aros ar agor (£750-£1050). Petai’n cau, byddai ond yn talu’r les bob mis sef £250/mis. Felly, byddai’n gwneud mwy o synnwyr iddo gau ar unwaith. Y ffactor allweddol wrth wneud y penderfyniad hwn felly yw cost amrywiol. Yn yr ail enghraifft, y broblem oedd yn wynebu’r cwmni oedd na allai hyd yn oed wneud digon o refeniw i dalu ei gostau amrywiol, heb sôn am gostau sefydlog – roedd ei gyfraniad at gostau sefydlog yn negatif – felly nid oedd unrhyw ddiben hyd yn oed roi cynnig ar gynhyrchu. Yn yr achos cyntaf, roedd refeniw yn fwy na chostau amrywiol gan olygu bod gan y cwmni beth arian ychwanegol (cyfraniad) i roi tuag at o leiaf dalu ei gostau sefydlog yn rhannol, gan olygu y byddai’n colli llai o arian drwy aros ar agor yn y byrdymor. Gellir crynhoi hyn fel a ganlyn: AR sy'n cyfateb i neu sy'n fwy nag ATC (neu TR sy'n cyfateb i neu sy'n fwy na TC) AR yn llai nag ATC ond yn cyfateb i neu'n fwy nag AVC (neu mae TR yn llai na TC ond yn cyfateb i neu'n fwy na TVC) AR yn llai nag AVC (neu TR yn llai na TVC)

Agor yn y byrdymor a’r hirdymor Agor yn y byrdymor ond cau yn yr hirdymor Cau yn y byrdymor (ac yn yr hirdymor, yn amlwg)

Darllen pellach: 1 Managerial Economics for Dummies gan Robert Graham. https://www.dummies.com/education/economics/how-to-use-cost-plus-pricingin-managerial-economics/ 2 Principles of Economics gan D.N.Dwivedi (Ail Rifyn) Tudalennau 302-305. 3. http://www.economicsdiscussion.net/elasticity-of-demand/relationship-amongar-mr-and-elasticity-of-demand/16920


Trafod Economeg • Rhifyn 5 • Tudalen 8

Gwyliwch y Bwlch: Sut i ddatrys ‘bwlch seilwaith’ $180bn Periw. Gan George Vlachonikolis Mae’r erthygl hon wedi cael ei hysgrifennu gyda myfyrwyr economeg Blwyddyn 12 mewn golwg ond mae’n ymwneud â themâu Blwyddyn 13. Mae Periw wedi mwynhau twf o 5% ar gyfartaledd ers troad y ganrif. Ond i ba raddau y gellir parhau i wneud hyn? Gall cyfradd twf uchel fod yn beth da a drwg: ar y naill law mae’n helpu i nodi safonau byw ond, ar y llaw arall, gall fod yn arwydd cynnar bod chwyddiant uchel ar ddod. Os bydd galw cronnus gwlad yn fwy na’i chyflenwad cronnus, ni all y gyfradd twf gael ei chynnal am byth. Yr unig ateb yw chwyddiant uchel. Felly, mae angen i lywodraethau gwledydd sy’n tyfu’n gyflym boeni am yr ochr gyflenwi cymaint â’r galw.

Mae “bwlch seilwaith” yn gysyniad economaidd cymharol newydd. Ei fwriad yw dangos faint o arian fydd gan Lywodraeth i’w wario ar seilwaith, uwchlaw’r lefel bresennol, er mwyn gallu parhau i dyfu’n gyson. Ym Mheriw, amcangyfrifwyd bod y bwlch seilwaith yn $180bn (dros 90% o’i chynnyrch domestig gros GDP). Mewn geiriau eraill, mae lefelau twf uchel Periw yn dynn ar ei sodlau o’r diwedd. Mae’r wlad yn cyrraedd ei PPF (Production Possibilities Frontier). Oni fydd y Llywodraeth yn ceisio gwella ei seilwaith a symud ei PPF am allan, ni fydd Periw yn gallu tyfu i’r un graddau yn y dyfodol.


Trafod Economeg • Rhifyn 5 • Tudalen 9 Seilwaith yw’r cyfleusterau a’r systemau sylfaenol sy’n gwasanaethu gwlad, dinas, neu ardal arall, gan gynnwys y gwasanaethau a’r cyfleusterau sydd eu hangen er mwyn i’w heconomi weithredu. Mae seilwaith yn cynnwys gwelliannau ffisegol cyhoeddus a phreifat fel ffyrdd, pontydd, twneli, cyflenwad dŵr, carthffosydd, gridiau trydanol, eiddo tirol, olew a nwy, mwyngloddio, telathrebu (gan gynnwys cysylltedd â’r We a chyflymder band eang).

Mae seilwaith yn bwysig i bob gwlad am ei fod yn helpu i leihau costau trafodion a chostau logisteg, sy’n cynyddu cystadleurwydd ac yn lleihau cynhyrchiant. Heb lefel gymharol dda o seilwaith, bydd busnesau yn llesteirio’n fuan iawn; cyfyngu ar eu twf a’u lefel o allbwn.

Felly beth mae angen i’r wlad ei wneud er mwyn parhau i dyfu? Mae Llywodraeth Periw wedi ymrwymo i strategaeth projectau PPP (Partneriaethau Cyhoeddus Preifat). Projectau yw’r rhain lle mae arian o’r sector preifat yn cael ei ddefnyddio ar y cyd ag arian cyhoeddus er mwyn ariannu projectau’r Llywodraeth. Ar hyn o bryd mae gan Beriw dros 50 o brojectau PPP ar waith. Mae gan brojectau PPP fantais amlwg dros raglenni gwaith llywodraeth, sef mai dim ond rhywfaint o’r arian a ddaw o bwrs y wlad. Mae gan Beriw ddyled genedlaethol gymharol isel, sef $48m (24% o GDP) felly mae ganddi rywfaint o arian i’w wario. Ond yn bendant nid yw mewn sefyllfa i wario $180bn ac nid yw ychwaith yn dymuno gwasanaethu dyled mor uchel wedyn. Yr hyn sy’n allweddol mewn perthynas â phrojectau PPP yw dod o hyd i ddigon o fuddsoddwyr. Bydd angen i Beriw barhau i ddenu buddsoddiad o dramor er mwyn bodloni ei gofynion o ran seilwaith. I ryw raddau, mae popeth yn ei le gan Beriw eisoes. Mae wedi gwneud ymrwymiad cyhoeddus i bolisi macroeconomaidd marchnad rydd: cadw marchnad agored, creu amgylchedd busnes cyfeillgar i fuddsoddwyr o dramor a pharhau i fod mewn sefyllfa ariannol ddisgybledig a llym iawn. Hefyd, mae gan Beriw hanes economaidd lwyddiannus dros yr ugain mlynedd ddiwethaf i ymfalchïo ynddo. Mae wedi mwynhau twf uchel a chwyddiant isel ar adeg pan fo llawer o wledydd yn America Ladin fel yr Ariannin neu Brasil wedi ei chael hi’n anodd. Bydd pob buddsoddwr hirdymor yn pwyso a mesur y risgiau gwleidyddol amrywiol a sicrwydd gwneud elw wrth ddewis p’un a ddylent fuddsoddi mewn gwlad ai peidio. Yn hyn o beth, gall Periw roi ei llaw ar ei chalon a dweud ei bod yn gyrchfan deniadol. O ystyried maint y bwlch seilwaith, fodd bynnag, ni all Periw fforddio llaesu dwylo. Mae angen iddi chwilio am arian newydd drwy’r amser. O ganlyniad, mae’r Llywodraeth yn ceisio nodi ac yna gwtogi ar unrhyw weithdrefnau sy’n rhy fiwrocrataidd. Mae Periw wedi cael gwared ar bob math o reolaethau cyfalaf ac mae’r cyfansoddiad ei hun wedi cael ei ddiwygio fel bod buddsoddiadau domestig a thramor yn cael eu trin yn gyfartal, a hynny’n unol â’r gyfraith.


Trafod Economeg • Rhifyn 5 • Tudalen 10 Yn ddiddorol, mae agwedd gymdeithasol ar PPP hefyd. Mae buddsoddwyr o dramor yn fwy sensitif nag erioed i effaith eu buddsoddiad ar gymunedau lleol. Mae’r cyfryngau cymdeithasol a’r cylch newyddion 24 awr yn golygu bod cwmnïau yn gochel rhag cael eu gweld yn cam-fanteisio ar eraill. Felly, mae Llywodraeth Periw wedi ymrwymo i gyflogi o leiaf un person fesul project PPP, sy’n gyfrifol am edrych ar ddynameg gymdeithasol yr ardal leol. Mae hyn yn mynd law yn llaw â materion amgylcheddol oherwydd problemau amgylcheddol sy’n poeni cymunedau fel rheol. Drwy sicrhau bod y project yn mynd rhagddo gyda chefnogaeth y bobl leol, mae’r Llywodraeth yn sicrhau y gall project gael ei gyflawni heb unrhyw oedi a heb unrhyw niwed o ran PR. Mae’r rhain yn hynod ddeniadol i unrhyw fuddsoddwr o dramor. Gyda’i gilydd, mae’n amlwg bod Periw yn gwneud cryn dipyn i gynnal ei lefel uchel o dwf a welir ar hyn o bryd. Mae ganddi lawer i’w wneud ond mae’r sylwebwyr mwyaf optimistaidd yn dechrau meddwl y gall Periw nid yn unig gynnal ei thwf presennol ond, os yw’n cael ei strategaeth PPP yn gywir, y gall dyfu hyd yn oed yn gyflymach. Llun Tudalen flaen: Machu Picchu

Cydnabyddiaethau CC0 Creative Commons / Pixabay


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.