Psych'd Rhifyn 3

Page 1

Rhifyn 3 MEDI 2018

cbac.co.uk/qualiďŹ cations/psychology/?language_id=2


C Y F LW Y N I A D Croeso i drydydd rhifyn Psych’d. Nod y cylchgrawn hwn yw rhoi gwybodaeth allweddol, awgrymiadau ar gyfer addysgu, diweddariadau a newyddion, yn ogystal ag erthyglau diddorol ynglŷn â chymwysterau Seicoleg CBAC. Gobeithiwn y byddwch yn mwynhau ei ddarllen ac yn credu ei fod yn ddiddorol ac yn ddefnyddiol. Bu’n braf clywed bod cynifer ohonoch yn defnyddio’r erthyglau hyn yn eich ystafell ddosbarth. Cawsom adborth arbennig o dda ar erthyglau myfyrwyr a ymddangosodd yn ein rhifyn diwethaf. Yn y rhifyn hwn, rydym yn falch o gynnwys erthygl am gyn-fyfyriwr sydd wedi mynd ymlaen i ddatblygu gyrfa ym maes seicoleg. Diolch i bawb a gyfrannodd at y rhifyn hwn. Gobeithiaf y bydd yr amrywiaeth o erthyglau’n ysgogi ac ysbrydoli eich ystafelloedd dosbarth chi i gyd. Byddem yn ddiolchgar iawn am unrhyw gyfraniadau eraill sy’n rhannu arfer da neu brofiadau ystafell ddosbarth ar gyfer rhifynnau yn y dyfodol. Os hoffech chi ysgrifennu erthygl, rhannu awgrymiadau bachog neu ofyn i’ch myfyrwyr gyflwyno darn, cysylltwch â ni. Cofion gorau Rachel rachel.dodge@cbac.co.uk


C YNNW YS Cyflwyniad

2

Cynnwys 3 Cyflwyno Erthyglau

4

Sut yr arweiniodd cymhwyster Safon Uwch mewn Seicoleg at yrfa ym maes ymchwil 5 Addysgu Dulliau Ymchwil – Pryd a ble i ddechrau?

8

Digwyddiadau DPP

11

Ymdopi â Phrofedigaeth

12

Hoeliwch yr arholiad! Delweddu cadarnhaol fel ffordd o dawelu nerfau arholiad 15 Dyddiadau Pwysig

17

Adnoddau

18

Datblygu sgiliau arholiad

19

Cryfderau Cymeriad

20

Cofrestru

21


Galw ar yr holl athrawon Seicoleg.... Mae Psych'd eich angen chi! Byddai CBAC yn hoffi clywed gennych chi! Psych’d yw cylchgrawn ar-lein pwnc penod ol cyntaf CB AC sydd we Seicoleg ga di’i greu ar n ddefnydd gyfer athraw io cyfraniad a Lloegr. M on a u gan athra ae CBAC an won ledled gen cyfrania cynnwys me Cymru dau gan ath wn argraffia rawon fel ch dau o Psych i i’w ’d yn y dyfo dol. Ydych chi w edi cael pro fiad unigryw Ydych chi w yn yr ystafe edi addysgu ll ddosbarth mewn lleoli Ydy un o gy ? ad neu sefy mwysterau llfa anghyff CBAC wedi myfyrwyr? redin? eich ysbryd oli neu ysbry Ydych chi a doli eich m rannu sto ri ddoniol n ddosbarth? eu stori ysbry doledig o’r y Neu ydych stafell chi am rann u ychydig o ystafell ddo awgrymiad sbarth? au ar gyfer yr Os ydych ch i wedi ateb ydw i unrhy ddiddordeb w un o’r uch cael miloed od a bod ge d o athrawo darllen eich nnych n Seicoleg d erthygl, yna ros y byd yn gallech chi o Psych’d yn fod yn berffa y dyfodol. ith ar gyfer rhifyn

nnu blaenorol fe ri sg y d a fi ro wb fyd). chi gael unrhy ych brofiad he n n e Nid oes rhaid i g s e o s o n rffaith iaw flawn hyd yn y c u la g y h rt (ond mae'n be e eu yw syniadau n Anfonwch unrh k. dge@wjec.co.u o D l. e h c a R t a oed gl, neu sgrifennu erthy y m a h c y d y d os na Mae CBAC bob i! n e o h p Fodd bynnag, â h c n iadau, peidiw a gallech fod y n fa e w rannu awgrym y r a h rt wch io am adbo u posibl. Anfon ra o g n amser yn chwil w ra g h lc ar Psych’d y cy l neu syniadau ro o n rhan o wneud e la b n o ri . au ar fate ge@wjec.co.uk d o D l. unrhyw sylwad e h 4 c a R t a l y dyfodo gyfer rhifyn yn


Sut yr ar weiniodd c ymhw ys ter Safon Uwch mewn Seicoleg at yr fa ym maes ymchwil Gan Caroline Greaves, Cynor thw y ydd Ymchwil a Chydgysylltydd Astudio yn y

Felly sut wnes i gyrraedd yma?

Ganolfan Ymchwil i Ddementia,

Astudiais Seicoleg Safon Uwch rhwng 2012 a 2014 a chwympais mewn cariad â’r pwnc. Roedd gen i athrawes ysbrydoledig (Mrs O’Brien) a oedd yn credu ynof. Fe wnaeth hi fy annog a rhoi cyfle i mi ddatblygu fy nysgu fy hun drwy gynnal fy mhrosiect ymchwil fy hun a’i gofnodi. Dyma oedd fy adroddiad labordy cyntaf erioed. Sgrinio ar gyfer clefyd Alzheimers oedd pwnc fy mhroject estynedig hefyd (fel rhan o fagloriaeth AQA). Rhoddodd hyn flas i mi ar sut mae’n teimlo i ymchwilio i rywbeth, darllen papurau a chasglu syniadau am rywbeth oedd o ddiddordeb i mi. Roedd y darn hwn yn rhywbeth y gwnes i siarad amdano yn y cyfweliad ar gyfer fy swydd bresennol, ac mae’n amlwg iddo greu argraff er mai megis dechrau astudio seicoleg oeddwn ar y pryd.

UCL, Llundain Dechreuais astudio seicoleg am y tro cyntaf ar lefel Safon Uwch. Chwe blynedd yn ddiweddarach, mae gen i swydd lle rwy’n defnyddio seicoleg bob dydd. Rwy’n gweithio i’r Ganolfan Ymchwil i Ddementia yn UCL yn astudio dementia blaen-dalcennol (FTD). Mae FTD yn glefyd niwroddirywiol cynnar prin sy’n achosi newidiadau mewn personoliaeth, ymddygiad ac iaith. Bydd rhai pobl yn ymddwyn yn amhriodol yn gymdeithasol, yn diluddiannu ac yn apathetig tra bydd eraill yn colli’r gallu i ddefnyddio a deall iaith. Fy nheitl swyddogol yw ‘Cynorthwyydd Ymchwil a Chydgysylltydd Astudio’ sy’n cynnwys recriwtio cleifion a rheolaethau iach, trefnu ymweliadau ymchwil a chynnal profion niwroseicoleg. Nod ein profion niwroseicoleg yw asesu sut y caiff gweithrediadau mewn rhannau gwahanol o’r ymennydd eu heffeithio wrth i’r clefyd ddatblygu; yn y dyfodol, bydd y profion hyn yn ein helpu i ganfod a yw’r triniaethau yn gweithio. Un o’r pethau rwy’n ei hoffi am fy swydd yw ei bod yn canolbwyntio llawer ar y claf. Felly, yn aml, rwy’n gweithredu fel pwynt cyswllt ar gyfer cleifion a’u teuluoedd, gan helpu i feithrin cydberthynas gefnogol, llawn ymddiriedaeth. Ar hyn o bryd, rwy’n gweithio ar brosiect sy’n ceisio gwella cymorth seicolegol i bobl sy’n wynebu risg o FTD, gan fod traean o’n cyfranogwyr yn byw cryn dipyn o’u bywydau yn gwybod bod ganddynt risg enetig o ddatblygu FTD.

Unwaith y penderfynais fy mod am barhau i astudio seicoleg yn y brifysgol, es ati i edrych ar gyrsiau, statws prifysgolion a’r lleoedd y gallem fynd iddynt. Dewisais y prifysgolion a oedd yn cyrraedd brig tablau cynghrair yn gyson ac a oedd wedi’u hachredu gan Gymdeithas Seicoleg Prydain (BPS). Fy nhri phrif ddewis oedd Rhydychen, UCL a Durham. Roedd hwn yn benderfyniad a arweiniodd at yr helbul a lywiodd fy mhrofiad yn y brifysgol...! Cefais gyfweliad yng Ngholeg Brasenose yn Rhydychen ac, ar ôl treulio tri diwrnod yno, gallwn i ddim dychmygu mynd i unrhyw le arall. Ychydig fisoedd yn ddiweddarach cefais lythyr gwrthod yn y post. Teimlais fel pe bai’r byd ar ben! Cymerais ddiwrnod i ffwrdd o’r ysgol a llefais o flaen fy athrawes Seicoleg. Ar ôl derbyn e-bost gwrthod gan Durham ddiwrnod yn ddiweddarach, ystyriais dynnu fy holl geisiadau prifysgol yn ôl! Soniwyd

5


wrthyf yn ystod diwrnod agored nad oedd yn werth i mi wneud cais i UCL gan na fyddwn i’n cael lle a gallwn i ddim ymdopi â’r syniad o gael fy ngwrthod eto. Yn ffodus, cefais fy nghymell i fwrw ati a gyrrais e-bost i Durham yn gofyn am adborth ar fy nghais. Yn sgil hynny, darganfyddais fod yr e-bost wedi cael ei anfon mewn camgymeriad ac y dylwn fod wedi cael cynnig lle. Diwrnod yn ddiweddarach, derbyniais gynnig am le gan UCL a doedd dim amheuaeth mai i’r fan honno roeddwn am fynd. Wrth edrych yn ôl dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rwy’n falch i mi benderfynu peidio â mynd i Rydychen, nid dyna’r lle iawn i mi. Rwyf wedi ffynnu yn Llundain, gan dderbyn addysg arbennig gan academyddion byd enwog mewn dinas sydd bellach yn teimlo’n gartref i mi.

maes niwrowyddoniaeth, ar ôl astudio niwrobioleg, niwroanatomi a dysgu sut i ddefnyddio dulliau gwyddonol trylwyr i gynnal arbrofion. Nid oes unrhyw radd yn hawdd yn fy marn i, a tydi Seicoleg ddim yn eithriad ond mae’n sicr yn ddiddorol iawn hyd yn oed os nad ydych am ddilyn gyrfa yn y maes.

Astudio seicoleg yn y brifysgol Dau beth roeddwn yn pryderu amdanynt wrth ddechrau fy nghwrs gradd oedd y ffaith nad oeddwn wedi astudio Bioleg ar lefel Safon Uwch a’r modiwlau ystadegau gorfodol echrydus. Mae bioleg yn chwarae rhan mewn rhai o’r modiwlau gorfodol a achredir gan BPS ond doedd fy niffyg gwybodaeth gychwynnol ddim yn rhwystr o gwbl, yn enwedig gan i mi fwynhau’r pwnc yn fawr. Gan fod llawer o bobl sy’n astudio seicoleg yn dod o gefndiroedd gwahanol, gan gynnwys rhai nad ydynt erioed wedi astudio seicoleg o’r blaen, tybir nad oes gan fyfyrwyr unrhyw wybodaeth flaenorol o ran llawer o’r hyn a addysgir. Doedd ystadegau ddim yn bwnc hanner mor ddychrynllyd ag yr oeddwn i’n ei ddisgwyl, dydyn nhw ddim yr un fath â’r ystadegau a addysgir ar gyfer mathemateg Safon Uwch a does dim angen bod yn dda mewn mathemateg o gwbl mewn gwirionedd! Mae’n rhywbeth nad oeddwn i’n meddwl y byddwn i’n ei fwynhau o gwbl ond, yn y pen draw, dyma oedd un o’m hoff fodiwlau ac mae’n rhywbeth rwy’n ei ddefnyddio yn fy swydd fel rhan o’m hymchwil. Rhan arall o’m gradd y gwnes i wir ei mwynhau oedd dulliau ymchwil. Dechreuom drwy gymryd rhan mewn arbrofion ac ysgrifennu adroddiadau arnynt. Yn yr ail flwyddyn, aethom ymlaen i gynllunio, cynnal a dadansoddi ein harbrofion ein hunain a oedd yn ymarfer da ar gyfer ein project traethawd yn y drydedd flwyddyn. Fodd bynnag, mae ysgrifennu adroddiadau labordy yn broses profi a methu ac rwy’n dal i geisio’i pherffeithio o hyd.

Mae profiad gwaith yn hollbwysig os ydych am ddilyn gyrfa mewn seicoleg, yn enwedig seicoleg glinigol. Mae unrhyw waith gwirfoddol yn brofiad da, er enghraifft gweithio mewn cartref gofal gyda phobl hŷn sydd â dementia. Yn ystod fy nghyfnod yn y brifysgol, fe wirfoddolais fel tiwtor Dadansoddiad Ymddygiadol Cymhwysol (ABA) ar gyfer plentyn ag awtistiaeth. Roedd y rôl honno yn heriol a gwerth chweil. Dysgais sut i gyfathrebu heb siarad a dechreuais sylwi mwy ar ddatblygiad, atchweliad a rhai nodweddion ymddygiadol, y maent i gyd yn sgiliau rwy’n eu defnyddio o hyd bob dydd wrth weithio gyda chleifion. Yn 2016, cymerais ran mewn lleoliad iechyd meddwl yn Sri Lanka, gan dreulio pum wythnos yn gweithio mewn uned seiciatrig a chanolfan adsefydlu; roedd yn brofiad gwych a roddodd wydnwch meddyliol i mi sy’n hollbwysig wrth weithio gyda phobl ag ymddygiadau heriol! Mae’n aml yn hawdd tanbrisio’r GIG a’i gymryd yn ganiataol ond fe ddes i nôl o Sri Lanka gyda gwerthfawrogiad newydd o weithwyr iechyd meddwl proffesiynol a fydd yn sbardun i mi drwy gydol fy ngyrfa. Rydym yn ffodus iawn i gael y cyfleusterau sydd gennym yma. Cefais y fraint hefyd o ddysgu am ymagweddau Dwyreiniol tuag at seicoleg a meddyginiaeth sydd wedi fy helpu i ddeall y ffordd y mae poblogaethau gwahanol yn mynd i’r afael ag iechyd meddwl. Mae gyrfa mewn seicoleg yn un ddiddorol a gwerth chweil ond gall fod yn anodd hefyd felly mae’n bwysig eich bod yn profi i chi eich hun (ac i’ch tiwtoriaid derbyn) eich bod yn gallu delio â chleifion ac amgylcheddau heriol o’r fath.

Soniodd cynifer o bobl wrthyf nad oedd seicoleg yn wyddor ‘go iawn’, ei bod yn hawdd ac yn ddim byd ond synnwyr cyffredin. Roedd y feirniadaeth wirion ac anghywir hon yn ddigon o gymhelliad i mi. Graddiais fel Baglor mewn Gwyddoniaeth gydag anrhydedd ac rwyf nawr yn gweithio ym

6


graddio, mae fy ffrindiau yn gweithio mewn cymaint o wahanol feysydd; ymchwil, adnoddau dynol, marchnata, addysgu, y cyfryngau, y gyfraith, recriwtio, gradd Meistr mewn busnes a gradd Meistr mewn seicoleg. Mae hyn yn dangos pa mor amrywiol yw’r radd a’i bod yn gymwys i gynifer o lwybrau gyrfa gwahanol.

Gwirfoddolwyr o leoliad Awst 2016 yn ein cynhadledd olaf

Pypedau bysedd a grëwyd drwy brosiect anghenion arbennig

Defnyddiais y sgiliau a enillais wrth astudio Seicoleg Safon Uwch drwy gydol fy ngradd ac rwy’n dal i’w defnyddio yn fy ngwaith. Cafodd fy niddordeb yn y pwnc ei sbarduno drwy ddysgu am astudiaethau clasurol ac roedd y cyfle i ddechrau datblygu sgiliau ymchwil a meddwl yn feirniadol am gynlluniau arbrofol yn sylfaen wych i fwrw ymlaen â’m hastudiaethau. Fel y nodais, tydi fy nhaith yrfaol ddim wedi bod yn hawdd ond mae pawb yn wynebu cael eu gwrthod weithiau ar hyd y daith tuag at fod yn oedolyn. Rwy’n ddiolchgar am y profiad o gael fy ngwrthod yn gynnar ar y daith honno gan iddo fy sbarduno i weithio’n galed a’m harwain at y brifysgol lle gwnes i astudio a lle rwy’n gweithio nawr! Rwyf hefyd yn ddiolchgar am gael athrawes Seicoleg mor frwdfrydig a roddodd yr hyder, y cymorth a’r adnoddau yr oedd eu hangen arnaf i anelu am y sêr. Mae astudio seicoleg wedi rhoi’r cyfle i mi weithio gyda phobl arbennig – mae’r cleifion a’r teuluoedd rwy’n gweithio gyda nhw o ddydd i ddydd yn anhygoel. I lawer o bobl sy’n cael eu heffeithio gan FTD, mae bod yn rhan o waith ymchwil yn rhoi ymdeimlad o ddiben iddynt gan eu bod yn ein helpu ni i ddysgu mwy yn y gobaith y byddwn yn canfod triniaeth rhyw ddydd. Mae’n fraint cael gweithio gyda grŵp o bobl mor ysbrydoledig.

Fi a rhai o’r gwirfoddolwyr eraill y tu allan i un o’n lleoliadau

Beth allwch chi ei wneud gyda gradd mewn seicoleg? Tydi astudio seicoleg ddim yn golygu bod yn rhaid i chi ddilyn gyrfa mewn seicoleg. Llai na blwyddyn ar ôl

7


Add y sg u Dulliau Ymchw il – P r y d a b l e i d d e c h r a u? Gan Louise Steans, athrawes

ychydig iawn o gynnwys Elfen 2 a oedd ar ôl i’w addysgu ar wahân. Yna es ati i adolygu Elfen 2 ochr yn ochr ag addysgu Elfen 3, gan dreulio un sesiwn 50 munud (allan o bump) yr wythnos yn canolbwyntio ar addysgu sgiliau arholiad dulliau ymchwil o fis Hydref ym Mlwyddyn 13 tan ar ôl y Nadolig, pan ddychwelais i adolygu Elfen 1.

S e i co l e g , Ca n o l f a n Ô l -16 M e l t o n Vale Rwy’n gweithio gyda myfyrwyr Chweched Dosbarth yn Swydd Gaerlŷr, a phenderfynodd fy nghanolfan gyfan na fyddem yn cynnig unrhyw bwnc Safon Uwch llinol. Efallai bod y penderfyniad hwn yn peri syndod i chi gan nad yw fy myfyrwyr blwyddyn 13 erioed wedi sefyll arholiad Seicoleg ffurfiol tan ddiwedd Blwyddyn 13 ond, gydag ôl-ddoethineb, mae iddo ddwy fantais allweddol; mae’n arbed arian i’r ysgol o ran derbyniadau ac mae wedi rhoi cyfle i’m myfyrwyr ddatblygu ar eu cyflymder eu hunain dros ddwy flynedd. Roedd hyn yn golygu bod gen i ‘amser’ i fynd drwy’r cynnwys yn arafach; mantais yr wyf yn sylweddoli nad yw bob amser yn bosibl o ystyried nad yw cymwysterau UG ac U2 wedi’u datgyplu yng Nghymru. Gan fabwysiadu ymagwedd linol, dechreuais gyda’r ‘pethau da’. Nawr, er fy mod i wrth fy modd gyda dulliau ymchwil, rwy’n sylweddoli nad yw’r rhan fwyaf o fyfyrwyr yn teimlo’r un fath! Hefyd, mae cyllid yn broblem fawr i’r ganolfan ac felly mae angen i mi sicrhau bod elfennau mathemategol y fanyleb yn hygyrch i bawb drwy eu ‘cuddio’ mewn lle amlwg, gan helpu i gadw myfyrwyr.

Er enghraifft, yn ystod Elfen 1, pan addysgais astudiaethau achos Freud gyntaf i’w defnyddio fel enghreifftiau o fewn tybiaethau a therapïau’r dull seicodynamig, fe addysgais i’r myfyrwyr am gryfderau a gwendidau’r fethodoleg hon hefyd. Roedd hyn yn golygu, pan gyrhaeddes i Bowlby, bod ganddyn nhw rywfaint o syniad am gryfderau a gwendidau cymharol y fethodoleg hon. Yn yr un modd, pan es ati i addysgu Loftus a Palmer, defnyddiais yr astudiaeth fel cyfle i lunio tablau a siartiau bar gan ddefnyddio’r erthygl wreiddiol fel deunydd ffynhonnell e.e. llunio siart bar o’r cyflymderau cymedrig amcangyfrifedig. Drwy werthuso’r ymchwil glasurol, roedd modd i mi addysgu lleoliad ymchwil, cyfranogwyr, dibynadwyedd, dilysrwydd, mathau o ddata a chanllawiau moesegol, a gwnaeth y ddadl gyfoes am dystiolaeth llygad dystion fy ngalluogi i drafod gwendidau a manteision cymharol cyfweliadau. Roedd hyn yn golygu, erbyn i mi gyrraedd diwedd Elfen 1, mai dim ond Seicoleg Cymdeithasol a Datblygiadol oedd ar ôl i’w hastudio o ran Elfen 2, ynghyd â dulliau fel cydberthyniad, penderfynu ar gwestiwn ymchwil, rhai agweddau trafferthus yn ymwneud â chyfranogwyr (samplu digwyddiadau ac amser), cynllunio arbrofol, lefelau mesuriadau, ystadegau casgliadol a rôl y gymuned wyddonol (NODER: nid yw’r ddau olaf yn rhan o uned 2 yng Nghymru). Cymerodd tua 3/4 wythnos i fynd drwy’r agweddau olaf hyn gan olygu bod yr holl broses

Rwyf wedi mynd ati i addysgu dulliau ymchwil mewn ffordd integredig. Ar yr olwg gyntaf, rwyf wedi addysgu ‘Ymagweddau at Seicoleg’ yn gyntaf, wedyn ‘Archwilio Ymddygiad’ ac yna ‘Goblygiadau yn y Byd Go Iawn’. Yr eithriad i’r rheol hon yw fy mod wedi defnyddio pob cyfle posibl i addysgu cysyniadau’n ymwneud â dulliau ymchwil drwy Elfennau 1 a 3, er mwyn sicrhau mai

8


dosbarth yn cwblhau’r un prawf casgliadol yn y pen draw, gan fynd drwy’r broses ymchwil gyfan gyda’n gilydd, glynu wrth amserlenni penodol ar gyfer casglu data ac ati. Gwnaeth y system hon helpu i feithrin hyder ac mae’n golygu y gallaf roi mwy o ryddid i’r myfyrwyr gyda’u hail ymchwiliad personol, a bennir gennyf er mwyn iddynt ei gwblhau yn fwy annibynnol.

yn llai llafurus i’r myfyrwyr a oedd yn teimlo nad oedd fawr ddim ar ôl i’w ddysgu a bod Elfen 2 yn “hawdd”! O’r pwynt hwn, unwaith roedd gan y myfyrwyr ddealltwriaeth sylfaenol o ddulliau ymchwil, es ati i addysgu’r ymchwiliad personol cyntaf. Es ati i baratoi ar gyfer hyn cyn yr haf, gan ddefnyddio’r adnodd arbennig a grëwyd gan y bwrdd arholi (Cynllunio eich Ymchwiliad Personol) i helpu’r myfyrwyr i gynllunio eu hymchwiliad cyntaf – bob blwyddyn rwy’n diwygio’r un ddogfen yma i’w defnyddio gyda theitlau gwahanol. Rwyf bob amser yn dewis yr ymchwiliad personol cyntaf yn seiliedig ar yr un y byddai’n haws i’r myfyrwyr ei gyrchu yn fy marn i, yn hytrach na’r un a restrir gyntaf yn y fanyleb. Er enghraifft, ar gyfer cohort 2018/19 (yn Lloegr), rwyf wedi dewis dechrau gyda holiadur ar gydberthnasau, yn hytrach nag edrych ar effaith cameleon. Roeddwn i’n teimlo bod mwy o astudiaethau i fyfyrwyr eu hatgynhyrchu neu ymchwilio iddynt ar gyfer y cyntaf o’r ddau deitl hyn, a oedd yn ei gwneud yn haws i’r myfyrwyr ei ddeall (e.e. mae gen i wersi o addysgu Buss (1989) ar yr hen fanyleb y gallwn eu defnyddio fel cyflwyniad). Gan ein bod ni i gyd wedi dechrau gyda’r teitl hwn, yn ystod y broses gynllunio gallem feddwl yn ofalus am y data a fyddai’n cael eu casglu/eu creu a’u trafod fel bod pob dosbarth/aelod o’r

Yn fy marn i, y brif broblem gydag ymchwiliadau personol, fel athro, yw rheoli moeseg. Un ffordd yr es ati i oresgyn hyn y llynedd oedd drwy ddefnyddio cyflwyniadau poster (efallai bod rhai ohonoch wedi’u gweld yn y sesiynau DPP y llynedd). Er mwyn iddynt allu cyflawni gwaith ymchwil fel ‘seicolegydd’, mae’n bwysig yn fy marn i bod myfyrwyr yn cymryd rhywfaint o gyfrifoldeb a pherchenogaeth dros eu gwaith eu hunain. Fodd bynnag, rwy’n ymwybodol bod gen i gyfrifoldeb, fel athrawes iddynt, i sicrhau nad yw eu hymchwil yn mynd yn groes i ganllawiau moesegol. I’r perwyl hwn, roedd yn rhaid i bob myfyriwr gynllunio ei ymchwil ei hun a chyflwyno ei syniadau i mi drwy gyfrwng poster – techneg sy’n dod yn fwyfwy poblogaidd mewn addysg uwch. Cyflwynodd rhai dosbarthiadau eu syniadau i’r dosbarth (gan fod amser gennyf). Gwiriais bosteri dosbarthiadau eraill a rhoddais adborth unigol iddynt – creodd pob un ohonynt ryw fath o bwyllgor moesegol, gan helpu’r myfyrwyr i werthfawrogi’r broses

9


ymchwil yn well.

Safon Uwch ar y fanyleb newydd a gafwyd hyd yn hyn, mae’n glir iawn bod angen iddynt wneud hyn unrhyw bryd y mae cwestiwn yn cyfeirio at y senario/cyd-destun/ ymchwil. Roedd y ffaith bod myfyrwyr yn gwybod yr atebion i gwestiynau, ond yn colli marciau am beidio â chyfeirio’n ôl at bethau yn rhywbeth yr oeddwn i’n ceisio ei osgoi gyda’r dechneg hon. Hefyd, er mwyn helpu’r broses adolygu, byddwn i’n defnyddio’r dechneg hon unrhyw bryd y byddwn i’n cyrraedd tasg neu weithgaredd yn uned 3 lle’r oedd modd ymarfer sgiliau mathemateg. Er enghraifft, gofynnais i fyfyrwyr gwblhau holiadur wrth addysgu dibyniaeth er mwyn asesu normau disgrifiadol a gwaharddol am yfed alcohol (fel rhan o bwysau gan gyfoedion fel esboniad seicolegol cymdeithasol). O’r fan hon, aethom ati i gyfrifo cymedr, ystod, modd ac ati’r dosbarth, a chymerwyd rhywfaint o ddata generig hefyd (a ddarparwyd gennyf) i gyfrifo’r gwyriad safonol – yr un rhan o’r fanyleb y maent yn poeni yn ei chylch. Darganfyddais fod cuddio’r sgiliau mathemateg mewn lle amlwg, fel hyn, wir yn helpu i ddatblygu eu hyder a’u paratoi ar gyfer yr arholiad gan eu bod yn ‘gyfarwydd’ â chwblhau cyfrifiadau sylfaenol o’r natur hon.

Ar ôl cwblhau’r ymchwiliad, fe es i drwy holl benawdau’r fanyleb (Elfen 2 yn Lloegr, unedau 2 A 4 yng Nghymru), gan feddwl am gynifer o gwestiynau arholiad ag y gallwn a gofyn i’r myfyrwyr eu hateb ar gyfer eu hymchwiliad eu hunain. Y broblem yn fy marn i yw nad yw’r myfyrwyr yn cyfleu’r hyn y maent wedi’i wneud yn dda iawn. Cafwyd rhai ymchwiliadau personol ardderchog, ond nid yw’r myfyrwyr yn defnyddio enghreifftiau penodol o’r hyn a wnaethant a pham mewn atebion arholiad. Maen nhw’n gwneud gormod o dybiaethau ynghylch yr hyn y byddai’r marciwr yn ei ‘wybod’ am eu hymchwil eu hunain. Am y rheswm hwn, dychwelwyd at y sgil hwn, gyda chwestiynu arholiad hirach a byrrach, yn ystod y sesiynau adolygu parhaus ym Mlwyddyn 13. Yma defnyddiais Elfen 2 Safon Uwch Eduqas ac Uned 4 CBAC i lunio cwestiynau addas ar gyfer y teitlau newydd – yn amlwg, wrth i’r blynyddoedd fynd heibio, bydd hyn yn rhoi syniad gwell i ni o’r ystod o gwestiynau a allai godi ond, am nawr, fe’m galluogodd i deilwra digon o gwestiynau i deitlau’r ymchwiliadau blynyddol. Hefyd, er mwyn adolygu dulliau ymchwil, rhoddais werth tua 25 o farciau o gwestiynau ar senarios dulliau ymchwil, fel gwaith cartref, bob wythnos o fis Hydref ym Mlwyddyn 13. Defnyddiais Adrannau A neu B hen fanyleb PY3 i wneud hyn. Er nad yw’r rhain yn union fel y fanyleb newydd, rhoddodd hyn gyfle i mi gael myfyrwyr i farcio ymatebion gwaith cartref ei gilydd (gan ddefnyddio’r cynlluniau marcio yn ystod y wers) a siarad am ddiffygion cyffredin o ran yr atebion ar ddulliau ymchwil bob wythnos. Y broblem fwyaf, yn fy marn i, yw nad ydynt yn cyfeirio at y senario yn eu hymateb. O’r papurau UG a

Sylwadau terfynol...rwyf wir yn credu y dylai myfyriwr da fod yn gallu gwneud yn dda iawn mewn papurau ar ddulliau ymchwil – mewn termau cymharol, mae’n cynnwys ychydig iawn o gynnwys o gymharu ag Elfennau 1 a 3. Fodd bynnag, er mwyn gwneud yn dda mewn papurau ar ddulliau ymchwil, rwyf wir yn credu bod angen ymarfer. Mae dod o hyd i gynifer o gyfleoedd â phosibl i ymarfer dulliau ymchwil drwy ddulliau addysgu integredig yn un ffordd o sicrhau y gall myfyrwyr brofi eu potensial o dan amodau arholiad.

10


TAG Seicoleg CBAC Asesiad > Arfer Ystafell Ddosbarth Dyddiadau'r cwrs:

Amcanion y Cwrs: Mae'r cwrs diwrnod llawn hwn wedi ei gynllunio ar gyfer ymarferwyr sy'n addysgu manyleb TAG Seicoleg CBAC. Bydd pob sesiwn yn adolygu cyfres asesu ddiweddar yr haf ar gyfer UG ac U2, gan archwilio enghreifftiau o waith ymgeiswyr wedi'i farcio. Bydd hefyd yn ystyried sut mae adborth ar asesiadau yn gallu hysbysu, datblygu a gwella addysgu a dysgu. Canlyniadau ar gyfer cynrychiolwyr: • Cyfle i adolygu asesiadau allanol a deunyddiau ymgeiswyr enghreifftiol. • Cyfle i adolygu strategaethau addysgu a dysgu. • Cyfle i rwydweithio â chydweithwyr ac arbenigwyr manyleb y pwnc. Byddwch hefyd yn derbyn pecyn cynhwysfawr o ddeunyddiau y gallwch fynd gyda chi a rhannu â'ch cydweithwyr.

Personél y Cwrs: Mae'r cwrs yn cael ei arwain gan arbenigwyr pwnc ynghyd â'r Swyddog Pwnc.

Sylwadau gan athrawon: 'Fel yr unig athro sy'n addysgu Safon Uwch, roedd heddiw yn wych.' 'Diwrnod da iawn. Rwyf wedi dysgu llawer ac yn teimlo bod gen i lawer y gallaf fynd ag ef yn ôl i'r ysgol gyda mi.' 'Roedd y cwrs yn berthnasol i'r fanyleb ac yn rhoi'r cymorth ychwanegol sydd ei angen ar y rhan fwyaf ohonom i godi safonau yn y pwnc hwn. Cydbwysedd da rhwng yr holl bapurau. Amrywiaeth o adnoddau a gweithgareddau i gefnogi addysgu a dysgu nad oedd angen i mi eu cynhyrchu fy hun. Rwyf mor ddiolchgar.'

Costau'r Cwrs: Y gost yw £210 (gan gynnwys lluniaeth a deunyddiau). • Os nad yw’n bosibl archebu lle ar-lein ar gyfer y digwyddiad yr hoffech ei fynychu, anfonwch e-bost at y Tîm DPP dpp@cbac.co.uk i gadw eich lle neu i wneud ymholiad. • Noder y bydd recordiad sain yn cael ei wneud ym mhob cyfarfod. • Trwy gadw lle ar gwrs wyneb yn wyneb, rydych yn derbyn Telerau ac Amodau CBAC. Ewch i www.cbac.co.uk/dpp i'w gweld Edrychwn ymlaen at eich gweld yn un o'n digwyddiadau yn fuan.

Manylion Cyswllt Rhif ffôn: 029 20265024 E-bost: dpp@cbac.co.uk

11

Canolfannau yng Nghymru yn unig Dydd Gwener 11 Ionawr 2019, 9:30 am - 3:30 pm Caerdydd Dydd Gwener 18 Ionawr 2019, 9:30 am - 3:30 pm Llandudno


Ymdopi â Phrofedigaeth Gan James Bailey, Pennaeth

Dicter – Tuag at y sawl sydd agosach atoch, aelodau o’r teulu, gweithwyr proffesiynol a hyd yn oed eich hun! Awgrymodd Kubler-Ross fod dicter yn nodweddiadol o’r broses dderbyn – fel arall, bydd methiant i dderbyn yr hyn sy’n anochel!

y Gyfadran Gwyddorau Cymdeithasol a Gofal a Chydg ysyllt ydd EQR y Coleg,

Bargeinio – Ymgais i ymestyn bywyd drwy wneud addewid i newid ymddygiad neu droi at grefydd.

Coleg Chweched Dosbar th Itchen

Iselder – Mae gwybod eich bod chi neu bobl eraill yn mynd i farw yn aml yn golygu y gwneir newidiadau corfforol a chymdeithasol o ran ffordd o fyw. Gall yr holl newidiadau hyn gyda’i gilydd gyfrannu at deimlad o ddiymadferthwch.

Gwelwyd ailddeffroad academaidd go iawn o ran materion sy’n ymwneud â marwolaeth a marw. Mae’r pwnc hwn wedi ennyn diddordeb academyddion o sawl disgyblaeth gan gynnwys Cymdeithaseg, Anthropoleg, Meddygaeth Liniarol a Seicoleg. Mae ymchwil wedi canolbwyntio ar anghenion corfforol, ysbrydol a seico-gymdeithasol y sawl sy’n marw a’r rheini sydd â chysylltiad â hwy. Yn fyr, mae gwahaniaethau cymdeithasol-ddiwylliannol wedi bod yn destun gwaith ymchwil ac wedi’u cofnodi’n helaeth (Bluebond-Langer, 1988; Jary a Jary, 1995, Howarth a Jupp, 1996; Davies 1997).

Derbyn – Nid yw hwn yn gam cadarnhaol, mae’n cyfeirio at wacâd o ran teimladau.

Er gwaethaf y diddordeb academaidd amlwg iawn hwn yng “ngham olaf bywyd” – mae ymagweddau cymdeithasol cyffredinol tuag at farwolaeth a’r brofedigaeth sy’n gysylltiedig â hi yn llai cadarnhaol. Mae Davies (1997) yn nodi’n glir bod cymdeithas yn gwrthod arddel marwolaeth. Yn fyr, caiff ei nodweddu gan ffyrdd o geisio osgoi materion sy’n ymwneud â marwolaeth. Mae Peter Jupp a Tony Rogers (1997) yn nodi’n dringar, “the state we live in often regards the last enemy with dread, confusion, ignorance and self inflicted blindness. For many people death has become an unspoken subject…” Mae Kubler-Ross wedi ysgrifennu’n helaeth am farwolaeth a marw. Yn wir, ei chyhoeddiad mwyaf nodedig yw On Death And Dying (1970). O’r ymchwil hon, gwelodd Kubler-Ross fod patrwm yn ymddangos. Yn wir, cyfres glir o gamau y mae’r unigolyn yn mynd drwyddynt. Caiff y rhain eu cymhwyso’n gyffredinol at y sawl sy’n ymdopi â marwolaeth, yn wynebu profedigaeth ac yn delio â phrofedigaeth. Roedd Kubler-Ross o’r farn bod hwn yn rhywbeth cyffredinol, ond mae cryn dipyn o le ar gyfer amrywiad unigol. Nid yw pawb yn mynd drwy bob cam a gall y drefn fod yn wahanol i bob person.

Y Camau mewn Dilyniant Gwadu (a theimlo’n ynysig) – cam “diogelu” os unrhyw beth – ffordd o ddelio â’r sioc gychwynnol; ond hefyd, yn nodweddiadol, amser lle mae unigolion yn dewis clywed yr hyn y maent am ei glywed – er mwyn peidio â gorfod deall gormod ar unwaith!

Mae model Kubler-Ross wedi’i ddefnyddio gan nifer o ymchwilwyr e.e. Young a Cullen (1996), Walter (1999). Arweiniodd ei model at gyflawni ymchwil academaidd bellach i brofiad unigolion mewn profedigaeth (Fulton, 1970; Murray-Parkes, 1972). Nid oes unrhyw dystiolaeth bod y camau hyn yn rhai cyffredinol. Dyma feirniadaeth gyntaf Kastenbaum o’r ddamcaniaeth camau. Wrth wraidd dadl Kastenbaum mae’r pwynt syml nad yw dilyniant o ddigwyddiadau Kubler-Ross ar gyfer y broses hon yn cael ei dderbyn yn eang. Gellid dadlau bod model Kubler-Ross yn rhagnodi’r hyn y mae’r unigolyn yn gweithio drwyddo, yn hytrach na’n disgrifio’r broses hon. Byddai hynny’n amlwg yn wir o ystyried erthygl Walter (yn Howarth a Jupp, 1996) sy’n awgrymu bod tri math o farwolaeth – marwolaeth draddodiadol (yn y cartref), marwolaeth fodern [meddygol], a marwolaeth ôl-fodern [ni chaiff gweithdrefnau proffesiynol ar y naill law a’r profiad preifat o farwolaeth a marw eu gwahanu bellach]. Er bod ei gorddibyniaeth ar gyfweliadau personol yn ddechrau da i’w hymchwil, gallai fod wedi mynd ati wedyn i ddefnyddio dull arall o gasglu data. Gallai fod wedi sicrhau bod ei hastudiaeth yn fwy dilys drwy ddefnyddio dulliau fel astudiaethau ymddygiadol a dyddiaduron personol a gedwir gan gleifion – er y byddai modd cwestiynu cywirdeb y data a gynhyrchir hyd yn oed bryd hynny. Mae ei ffocws ar boblogaeth ethnoganolog wedi cyfyngu ar ddilysrwydd ei hymchwil. Yn wir, mae Stroebe a Stroebe (1987) yn nodi “...following culturally prescribed rituals [whatever they may be] aids recovery from bereavement...” Felly, i’r perwyl hwn, does dim ond rhaid edrych ar ymchwil groes-ddiwylliannol i ddeall bod

12


profedigaeth yn amrywio nid yn unig rhwng diwylliannau ond hefyd oddi mewn iddynt:

yn fater i deulu unigol – ceir ymgysylltiad cymunedol clir. Mae Shirley Firth (1993) yn pwysleisio hyn yn ei dadansoddiad o ddiwylliant Hindŵaidd.

Indiaid Apache

Mae Kubler-Ross yn anwybyddu effaith ffactorau cymdeithasol strwythurol a demograffig ar brofedigaeth. Er bod ei ymchwil wedi dyddio cryn dipyn erbyn hyn, mae Goody (1962) yn nodi mai’r gwahaniaethau mwyaf mewn defodau angladdol â’r brofedigaeth ddilynol yw’r modd y caiff eiddo a phŵer eu dosbarthu. Yn yr un modd – wrth gwrs, gall maint y gymuned lle’r oedd yr unigolyn ymadawedig yn byw effeithio ar y brofedigaeth. Fel y noda Tony Walter (1999) “…in small communities, the death of any one member affects everyone, while in a band numbering only a few dozen, an accident, skirmish or epidemic that kills a dozen can be catastrophic…”. Mae astudiaeth Littlewood o Aberfan yn atgyfnerthu ymhellach effeithiau profedigaeth o fewn diwylliannau a’r tu allan iddynt. Wrth gwrs, mae digwyddiadau mwy diweddar fel 9/11 neu hyd yn oed 7/7 (Y Bomio yn Llundain) a ddangosodd yn glir i’r seicolegydd academaidd y prosesau profedigaeth a galaru yr eir trwyddynt. Y broblem wrth gwrs yw bod anystwythder model Kubler-Ross yn cyfyngu ar y cyfle i wahaniaethu’n unigol o fewn y broses brofedigaeth.

Mae rhai grwpiau’n galaru’n ddwys dros y meirw – ond yna’n cael gwared ar unrhyw olion ohonynt. Mae Opler (1939) yn cyfeirio at hyn fel “concerted worry of the relative’s ghost.” Mater: Nid yw hyn mor wahanol â hynny i rai aelodau o’r Diwylliant Prydeinig ac Americanaidd a fyddai’n gwerthu eiddo eu hanwyliaid yn gyflym iawn – fel ffordd o ddelio â’r golled. Indiaid Hop Mae’r grŵp hwn o Indiaid o Arizona yn casáu ‘marwolaeth’. Yn wir, maent yn ofnus iawn o’r sawl sydd newydd farw! Mae tristwch wrth gwrs yn naturiol – ond ni chaiff ei annog! Yn wir, os bydd rhywun am dristáu, mae’n rhaid iddo wneud hynny ar ei ben ei hun i ffwrdd o’r pentref – yn bendant mewn ardal sydd wedi’i chuddio oddi wrth eraill. Mater: Ym Mhrydain ac yn y rhan fwyaf o ddiwylliannau Gorllewinol, mae profedigaeth yn aml yn broses sy’n cael ei helpu drwy hel atgofion hapus o anwyliaid. Ac eto, nid yw’r Hopi yn mynegi unrhyw barodrwydd na dyhead i hel atgofion am eu hanwyliaid. Yn wir, er nad yw dinistrio eiddo’r ymadawedig yn rhywbeth y nodir y mae angen ei wneud, nododd Mandelbaum (1959) o’i ddadansoddiad o’r grŵp hwn o Indiaid fod ffotograffau yn aml yn arbennig o sarhaus.

Yn amlwg, yn y gymdeithas ôl-fodern yr ydym yn byw ynddi, gellir gweld bod pobl yn cael eu gadael heb unrhyw system i’w dilyn na thuedd gyffredinol i’w mabwysiadu. Mae astudiaeth Littlewood (1992) yn pwysleisio’r union bwynt hwn – dadleuodd, yn ystod y cyfnod modern hwyr, fod pobl wahanol yn dehongli cyfnodau galaru addas mewn ffyrdd gwahanol ac nad ydynt bob amser yn cytuno â’i gilydd. Yn wir, fel y noda Wadeley (1996) “…Lifestyles around the world differ so enormously, so the form of mourning is, to a large extent, shaped by practicalities…”

Shintoaeth a Bwdhaeth Japaneaidd Caiff profedigaeth ei helpu yn sicr gan brosesau diwylliannol sefydledig. Mae canologrwydd systemau cymorth ysbrydol o’r fath, a gyfleuir drwy osod cysegr fach yng nghartrefi unigolion, yn sicrhau bod modd parhau i gysylltu â’r meirw a’u dathlu. Mater: Gellir dehongli cred Gristnogol yn y byd tragwyddol fel ffordd o felysu realiti ein marwoldeb ein hunain. Hindŵaeth – gellir ystyried y gred y caiff rhywun ei ailymgnawdoli yn yr un ffordd. Yn wir, mewn ffordd, mae’r grefydd yn paratoi ei haelodau ar gyfer marwolaeth. Yn ôl ymchwil Bailey (1996), nododd Brahmin Hindwaidd fod y broses “like getting ready to go on a long journey before you go on it”. Gyda safbwynt o’r fath, does dim syndod bod Hindŵiaid yn wynebu marwolaeth gydag ymostyngiad tawel. Fodd bynnag, yr un gwahaniaeth rhyngddynt yw’r duedd sy’n nodweddiadol o’r byd gorllewinol sef bod marwolaeth, gydag amser, yn cael ei hanghofio’n gyhoeddus ond yn cael ei chofio’n breifat (Melor a Shilling, 1993). I Hindwiaid yn bendant, nid yw marwolaeth a’r brofedigaeth ddilynol

Caiff y math o alaru ei lywio gan ffactorau ymarferol ond hefyd gan strwythur cymdeithasol! Yn amlwg, yn ystod y ganrif ddiwethaf, rhoddodd crefydd bŵer a chryfder i fynd i’r afael â galar yn uniongyrchol, i alluogi pobl i fynd drwyddo ac i atgyfnerthu rhwydweithiau teuluol a charennydd (Cornilis, 1983). Ond, dros y 100 mlynedd diwethaf, mae cryfder cymdeithas Brydeinig i ddelio â marwolaeth a marw wedi gwanhau. Mae Buckman (1996) yn priodoli’r gwendid hwn i nifer o ffactorau, gan gynnwys:

13

• Y ffaith nad yw ein cenedlaethau hŷn yn marw gartref yn aml. • Ein disgwyliadau uchel o ran iechyd da a bywyd hir. • Ein dibyniaeth ar gyngor arbenigol yn ystod cyfnodau o salwch. • Y pwyslais diwylliannol ar fateroliaeth.


6. Jupp, P.C. a Howarth, G., (1997) (gol.) The Changing Face Of Death: Historical Accounts Of Death And Disposal. Basingstoke: Macmillan

• Diffyg cyfeiriad ysbrydol. Gan ystyried y pwynt olaf hwn – er gwaethaf lleihad (SYG:1998:458) yn nifer y bobl sy’n arfer eu crefydd ar hyn o bryd drwy fynychu eglwysi lleol, mae un pwynt yn parhau i fod yn glir iawn. Mae crefyddau ledled y byd wedi cynnig system o ymdopi â’r materion hynny sy’n deillio’n benodol o farwolaeth, ac wedi cynhyrchu rhywfaint o gyfriniaeth o ran yr hyn sy’n digwydd pan fyddwn ni’n marw. Yn bwysicach, mae gan grefydd allu unigryw i droi galar yn fantais! Wrth siarad yng Nghynhadledd Cymdeithas Amlosgi Prydain Fawr yn 1998, cyfeiriodd y Parchedig Athro Douglas Davies at y broses hon fel rhyw fath o rethreg gadarnhaol o farwolaeth - ‘words against death’.

7. Kubler-Ross, E., (1970) On Death And Dying. Llundain: Tavistock Publications. 8. Littlewood, J., (1992) Aspects of Grief. Llundain: Tavistock / Routledge. 9. Murray-Parkes, C., (1972), Bereavement: Studies Of Grief In Adult Life. Llundain: Tavistock Publications 10. Walter, T. (1996) The Eclipse Of Eternity: A Sociology Of The Afterlife. Basingstoke: Macmillan.

Felly, ymddengys yn glir o’r erthygl hon, er bod KublerRoss yn gwneud cyfraniad gwerthfawr tuag at y maes gofal lliniarol, a dealltwriaeth bellach o bersbectif y sawl sy’n marw a’r sawl mewn profedigaeth, fod cwestiynau o hyd am ddilynianoldeb ei model ac, yn bwysig, y camsyniad bod modd cymhwyso ei syniadau yn gyffredinol at y byd amlddiwylliannol rydym yn byw ynddo. At hynny, tra bod ei model yn awgrymu bod troi at grefydd yn ffordd o fargeinio – ffordd o ddelio â marwolaeth – mae’n ymddangos mai effaith eithaf cyfyngedig a gaiff hyn o ystyried natur seciwlar cymdeithas fodern. Serch hynny, mae’n rhaid cyfaddef y bydd etifeddiaeth Kubler-Ross ym maes ymchwil i farwolaeth yn parhau gan ei bod wedi helpu i hoelio sylw gwyddonwyr cymdeithasol ar farwolaeth, marw a phrofedigaeth – y camau olaf yng nghylch bywyd.

11. Walter, T., (1999) On Bereavement: The Culture of Grief. Buckingham: Gwasg y Brifysgol Agored. 12. Young, M. a Cullen, L., (1996), A Good Death: Conversations With East Londoners. Llundain: Routledge.

Cyfeiriadau 1. Bailey, J. (1996) The Principal Theories Of The Confrontation Of Death In Late Modernity. Prifysgol Southampton. 2. Bailey, J. (1999) Clergy, Emotion And The Death Process. Prifysgol Southampton. 3. Cardwell, M. Clark, L. a Meldrum, C., (2001) (gol.), Psychology For A2. Llundain: HarperCollins. 4. Firth, S., (1993) “Cross Cultural Perspectives On Bereavement” yn Dickenson, D. a Johnson, M (gol.) Death, Dying and Bereavement. Llundain: Sage Publications mewn cydweithrediad â’r Brifysgol Agored. 5. Howarth, G a Jupp, P.C. (1996) (gol.) Contemporary Issues In The Sociology Of Death, Dying and Disposal. Basingstoke: Macmillan.

14


Hoeliwch yr arholiad! Delweddu cadarnhaol fel f fordd o dawelu ner fau arholiad Gan Pat Hag ger t y, Ar weinydd Pwnc Seicoleg, Astudiaethau

ddylai gymryd mwy na 10 munud, a byddwch yn gweld y manteision yn y wers drwy’r defnydd a wneir o gortecs blaen ochr chwith yr ymennydd.

C r e f y d d o l a c A B G I , Ys g o l To r b a y

Cam un : Ymlacio

Un o’r pethau da am gyrraedd hwyrddydd eich gyrfa yw bod opsiynau ar gael na fyddai wedi bod yn bosibl meddwl amdanynt yn gynharach mewn bywyd. Felly, yn 54 oed, fe es i’n rhan amser (0.6) a phenderfynu ailhyfforddi fel hypnotherapydd, swydd rwy’n ei gwneud un diwrnod yr wythnos ar hyn o bryd. Fy mhrif gymhelliad dros wneud hyn oedd helpu cydweithwyr i ddelio â’r cynnydd amlwg mewn straen ymhlith athrawon (hyd yn oed wrth weithio mewn gweithle cefnogol a reolir yn dda) dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Un o sgil-effeithiau cadarnhaol fy hyfforddiant oedd yr effaith a gafodd ar fy nghydberthnasau â grwpiau addysgu a’m sensitifrwydd i rwystrau posibl at lwyddiant.

Sicrhewch fod yr awyrgylch yn iawn drwy annog myfyrwyr i gau eu llygaid (nid yw hyn yn orfodol ac nid yw’n werth achosi gwrthdaro) a chanolbwyntio ar anadlu’n araf ac yn ddwfn. Bydd rhai myfyrwyr yn teimlo bod hyn yn rhyfedd/yn ddoniol – caiff y broses ymlacio ei chyflymu os byddwch yn caniatáu iddynt chwerthin – po fwyaf ymlaciedig ydych, yr effaith fwyaf a geir arnynt.

Mae nerfau cyn arholiad yn faes y gellir mynd i’r afael ag ef drwy ailadrodd techneg gymharol syml cyn y digwyddiad mawr. Rwy’n credu ei bod hi’n fwy o broblem nawr gydag atgyfodiad asesiadau terfynol – ychydig flynyddoedd yn ôl, roedd myfyrwyr yn gwneud modiwlau mor rheolaidd fel y bu bron iddynt golli eu harwyddocâd (a’u gallu i godi ofn). Rwy’n cyfeirio at “nerfau” cyn arholiad yn hytrach na “straen” neu “bryder” oherwydd rwy’n credu y dylem osgoi pathologeiddio emosiynau hollol naturiol. Mae lefel uwch o gynnwrf mewn ymateb i arholiadau pwysig yn gyflwr emosiynol normal (ac yn un a all fod yn ddefnyddiol iawn). Mae sgwrs TED wych ar y pwnc hwn sef How to make stress your friend gan Kelly McGonagle hefyd yn adnodd ardderchog ar gyfer pwnc Straen Elfen/Uned 3 Eduqas a CBAC.

Dechreuwch y broses ddelweddu ymhell cyn yr arholiad: “Rydych wedi cael noson dda o gwsg...rydych yn teimlo’n dda ar ôl eich hoff frecwast...mae eich rhieni/ffrindiau/ cymdogion wedi dymuno’n dda i chi wrth i chi adael...”

Diben y broses ddelweddu yw ail-lunio canfyddiadau a disgwyliadau unigolyn am ddigwyddiad mewn ffordd a fydd yn gwella ei berfformiad. Bwriedir i’r broses hefyd ganolbwyntio ar gortecs blaen ochr chwith yr ymennydd sy’n ymwneud i raddau helaeth â chynhyrchu atebion cadarnhaol i broblemau. Rydym hefyd yn cysylltu’r profiad o sefyll arholiad â chyflwr o ymlacio, gan ddefnyddio ein dychymyg i ddelweddu’r profiad o sefyll yr arholiad yn ei gyfanrwydd. Rwyf wedi defnyddio’r broses ganlynol ar sail eithaf ad hoc dros y tair blynedd diwethaf, ond rwy’n bwriadu ei defnyddio’n wythnosol gyda phob grŵp blwyddyn 13 rhwng y Pasg a’r cyfnod o absenoldeb astudio. Ni

Cam Dau - Delweddu Cyhyd ag y bo’n bosibl, ewch ati i deilwra eich geiriau i gyd-fynd â’r hyn y bydd y myfyrwyr yn ei brofi yn eich amgylchedd.

“Rydych yn edrych o amgylch yr ystafell gyffredin awr cyn yr arholiad... Gallwch weld eich ffrindiau yn edrych ychydig yn nerfus...dyna’r hyn y byddech chi’n ei ddisgwyl cyn arholiad pwysig... Ond rydych yn gwenu ar eich gilydd gan eich bod chi wedi gwneud hyn o’r blaen ychydig flynyddoedd yn ôl... A gwnaeth y nerfau hynny eich helpu i wneud eich gorau bryd hynny... Rydych yn barod i wneud eich gorau...dyna’r oll y gall unrhyw un ofyn amdano...” “...ac rydych nawr yn ffurfio llinell i fynd i mewn i’r neuadd arholiad... Cynnydd bach mewn adrenalin yw’r ffordd mae eich corff yn eich paratoi ar gyfer y prawf hwn... rydych yn eistedd i lawr wrth eich desg... Rydych yn darllen y papur cwestiynau...weithiau, bydd yr adrenalin yn gwneud i chi deimlo fel pe baech wedi anghofio popeth...ond yna rydych yn cofio y bydd y teimlad hwn yn pylu’n gyflym ac rydych yn bwrw ati...rydych wedi pennu eich amser yn ofalus a chyn hir mae’r cyfan drosodd ac rydych yn gadael yr ystafell... Ac rydych wedi sôn wrth eich rhieni bod y cyfan wedi mynd yn iawn... Ac mae’n fis Awst ac rydych yn eistedd o gwmpas gyda’ch teulu a’ch ffrindiau yn dathlu eich llwyddiant ac yn cynllunio’r cam nesaf o’ch bywyd...”

15


Cam Tri – dechrau ar y wers Manteisiwch ar yr ymagwedd gadarnhaol yn yr ystafell drwy ofyn rhai cwestiynau adolygu syml iawn a thynnu sylw at faint y mae’r myfyrwyr seicoleg arbennig hyn yn ei wybod!

Mae’r broses ddelweddu yn un boblogaidd ym maes chwaraeon a bu’r hypnotherapydd a oedd yn gyfrifol am fy hyfforddi yn gweithio gyda’r bocsiwr Glen Catley yr holl ffordd tuag at gipio Teitl y Byd – mae’n stori ddiddorol iawn os bydd gennych chi unrhyw amser sbâr yn ystod y tymor arholiadau!

16


DY DDI A DAU PW YSIG Canolfannau TAG Seicoleg yng Nghymru yn unig Dydd Llun - 13 Mai PM

Cyfres Haf 2019 arholiad Seicoleg Uned 1 2290U10-1 (Cymru yn unig)

Dydd Iau - 16 Mai PM

Cyfres Haf 2019 arholiad Seicoleg Uned 2 2290U20-1 (Cymru yn unig)

Dydd Llun - 20 Mai PM

Cyfres Haf 2019 arholiad Seicoleg Uned 3 1290U30-1 (Cymru yn unig)

Dydd Gwener - 7 Mehefin PM

Cyfres Haf 2019 arholiad Seicoleg Uned 4 1290U40-1 (Cymru yn unig)

17


Tudalen We Adnoddau Seicoleg CBAC Bydd y dolenni isod yn eich tywys i dudalennau gwe newydd Adnoddau Digidol TAG Seicoleg CBAC, lle mae gennym ni adnoddau yn ymwneud â'r canlynol:

http://adnoddau.cbac.co.uk/

18


D AT B LY G U S G I L I A U ARHOLIAD Mae ystod eang o enghreifftiau o arholiadau ar gael ar ein gwefan ddiogel. Rydym hefyd yn cynnig y canlynol:

Adolygu Arholiadau Ar-lein Mae ein hadnodd Adolygu Arholiadau Ar-lein yn cyflwyno ymatebion arholiad wedi’u marcio mewn fformat rhyngweithiol.

Adolygu Arholiadau Ar-lein

Caiff ei ddiweddaru’n flynyddol a bwriedir iddo gael ei ddefnyddio mewn gwersi er mwyn gwella dealltwriaeth myfyrwyr o’r ffordd y mae’r cynllun marcio yn gweithio. http://aaa.cbac.co.uk/

Banc Cwestiynau Mae’r cyfleuster hwn am ddim yn defnyddio cronfa o eitemau asesu sy’n galluogi athrawon i greu eu papurau asesu eu hunain ac yn eu helpu i brofi sgiliau eu myfyrwyr ar bob adran neu bwnc yn y fanyleb.

Banc Cwestiynau

http://www.cbac.co.uk/ question-bank/index. html?language_id=2

19


Cr y fderau Cy m e r i a d

Gan Vi Ghandi, Pennaeth S e i c o l e g , Co l e g Tr e n t Mae ymchwil newydd gan YouGov ar ran The Prince’s Trust yn dangos bod nifer y bobl ifanc sy’n profi problemau iechyd meddwl ar gynnydd. Mewn adroddiad a gyhoeddwyd ym mis Ionawr y llynedd, canfu’r elusen fod 41% o 2,215 o bobl ifanc rhwng 15 a 25 oed yn teimlo’n fwy pryderus na blwyddyn yn ôl o ran hunanhyder, gan gynnwys straen sy’n gysylltiedig â delwedd o’r corff ac ymdopi ag ysgol/gwaith. Dyma’r ffigur isaf yn yr wyth mlynedd ers i’r ymchwil gael ei chynnal. Yn ôl adroddiad dilynol, roedd bron hanner y bobl ifanc hyn yn dweud eu bod wedi profi problem iechyd meddwl ond, oherwydd y stigma sy’n gysylltiedig â’r mater, ni fyddai chwarter ohonynt yn gofyn am help pe baent yn dioddef. Ble mae hyn yn ein gadael ni, nid yn unig fel addysgwyr ond hefyd fel athrawon tosturiol sydd, fwy na thebyg, yn cael mwy o gyswllt beunyddiol â phobl ifanc unigol nag unrhyw oedolion eraill ar y cam hwn o’u bywydau? Sut gallwn wrthdroi’r rhagolwg pesimistaidd, melancolaidd a welir fwyfwy ymhlith pobl ifanc, a gwneud iddynt deimlo’n optimistaidd a chredu y gallant lwyddo a chyflawni nawr ac yn y dyfodol? Mae’n rhaid i ni sicrhau bod myfyrwyr yn cael yr adnoddau sydd eu hangen arnynt i ganfod y nodweddion cadarnhaol ynddynt hwy eu hunain a’u helpu i ddatblygu’r sgiliau i allu defnyddio’r nodweddion hyn i atgyfnerthu eu hunanhyder pan fyddant yn teimlo pryder, amheuaeth ac ofn. Mae gan bob un ohonom gryfderau cymeriad; dyma sut rydym wedi goroesi mewn cymdeithas. Gall nodi’r cryfderau hyn roi sylfaen i bobl ifanc ddatblygu’r gwydnwch i ymdopi â heriau bywyd. Mae gwaith Martin Seligman ar gryfderau cymeriad yn cynnig fframwaith ardderchog. Drwy ateb holiadur hunangwblhau yn onest, gall myfyrwyr ddarganfod eu cryfderau nhw eu hunain. Ymhlith y 24 o gryfderau

a nodir gan Seligman mae hiwmor, tegwch, angerdd, doethineb, dewrder a diolchgarwch. Bydd gan bob myfyriwr nifer o’r cryfderau y gallant eu defnyddio er mwyn gwneud iawn am eu gwendidau canfyddedig eu hunain. Mae cryfderau cymeriad yn gofyn i fyfyrwyr beth sy’n iawn gyda nhw nid beth sy’n anghywir gyda nhw – mae hyn yn hanfodol er mwyn atgyfnerthu meddylfryd cadarnhaol, cytbwys. Mae llunio rhestr o’r hyn y maent yn dda yn ei wneud yn gwneud iddynt deimlo’n bositif, ac mae chwilfrydedd naturiol pobl ifanc yn eu harddegau yn gwneud iddynt eisiau darganfod mwy amdanyn nhw eu hunain gan ei bod yn eu helpu i ddod o hyd i’w lle yn y byd. Mae’n beth da i rieni glywed am yr hyn y mae eu plentyn yn dda yn ei wneud hefyd ac weithiau nid ydynt wedi gweld y nodwedd honno yn eu plentyn o’r blaen. Hyd yn oed drwy wneud rhywbeth mor syml â; dewis rhywbeth gwahanol i’w ffrindiau am ginio neu eistedd ar eu pen eu hunain yn y ffreutur, gall myfyrwyr ddangos nodweddion dewrder. Mae agor drws i rywun neu gadw dyddiadur o’r tri pheth y maent yn ddiolchgar amdanynt bob dydd yn bethau sy’n gwneud i rywun deimlo’n bositif hefyd. Mae’n bwysig cyflwyno’r ymarfer cryfderau cymeriad mewn ffordd ddiddorol hefyd. I fyfyrwyr iau, mae ystyried eu hunain fel uwcharwyr, a’u cryfderau cymeriad fel pwerau arbennig, yn ymarfer ystyrlon a llawn hwyl. Mae defnyddio cyfatebiaeth Superman yn gweithio’n dda – mae myfyrwyr yn deall na all wneud popeth ond pan na fydd ganddo’r pŵer arbennig i ddatrys problem benodol, mae’n ymuno ag uwcharwr sydd â’r pwerau hynny er mwyn datrys y broblem gyda’i gilydd. Mae hon yn rhethreg wych i annog myfyrwyr i ofyn am help, ac i hyrwyddo gwerth gwaith tîm. Yn union fel y mae angen i ni wneud ymarfer corff, mae angen i ni ofalu am ein lles hefyd er mwyn gwneud ein hunain yn fwy iach ac yn hapusach yn feddyliol. Ni all hwn fod yn weithgarwch untro, yn enwedig gyda phobl ifanc. Mae angen ei drwytho’n gyson a’i annog drwy sylwi ar eu cryfderau cymeriad, tynnu sylw atynt a’u datblygu yn ystod eu profiadau yn yr ysgol. Mae angen heriau ac adfyd ar bob un ohonom. Nid yw bod yn hapus drwy’r amser yn beth iach yn seicolegol. Ond mae gallu defnyddio cryfderau cymeriad yn fodd i berson ifanc ymdopi’n briodol â beth bynnag y bydd yn ei wynebu. Mae seicoleg gadarnhaol yn cynnig byffer i ddiogelu myfyrwyr rhag unrhyw heriau a all fygwth eu lles. Yn draddodiadol, nid yw ysgolion wedi cael yr amser na’r adnoddau i gynnal gwersi ar iechyd meddwl a lles, ond dyma’r adeg i newid pethau a dechrau trafod iechyd meddwl yn fwy agored o lawer mewn ysgolion. Dim ond drwy wneud hynny y gellir mynd i’r afael â’r stigma sy’n gysylltiedig ag iechyd meddwl a sicrhau bod gennym fyfyrwyr hapusach sydd wedi’u paratoi’n well ar gyfer y byd.

20


CO F R E S T R U Cy l c h l y t h y r

Cylchlythyr Canolfannau yng Nghymru Ymunwch â ’n Rhw ydwai th Athrawon Seicoleg ar Facebook Maer rhwydwaith athrawon yn hwb ar-lein sy›n galluogi athrawon sy›n addysgu Seicoleg CBAC i rannu syniadau, cyngor, adnoddau ac arfer gorau. Hefyd gall hwyluso cydweithio ag athrawon seicoleg ledled y wlad. Ymuno â’r Rhwydwaith

21


Cydnabyddiaeth: Tudalen 1: Cover image | Pixabay Tudalen 8: Classroom image | Jirka Matousek | flickr.com Tudalen 21: Technology | Rawpixel Ltd | Getty Images


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.