Psychd Rhifyn 2

Page 1

Rhifyn 002 GORFFENNAF 2017

Rhifyn Arbennig ar Ddulliau Ymchwil.

http://www.cbac.co.uk/qualifications/psychology/?language_id=2



C Y F LW Y N I A D Croeso i ail rifyn Psych’d. Nod y cylchgrawn hwn yw rhoi gwybodaeth allweddol, awgrymiadau ar gyfer addysgu, diweddariadau a newyddion, yn ogystal ag erthyglau diddorol ynglŷn â chymwysterau Seicoleg CBAC ac Eduqas. Gobeithiwn y byddwch yn mwynhau ei ddarllen ac yn credu ei fod yn ddiddorol ac yn ddefnyddiol. Mae’n anodd credu mai eleni oedd ail flwyddyn y manylebau newydd. Bu’n wych clywed cymaint y mae’r myfyrwyr wedi mwynhau cynnal ymchwil ymarferol ar gyfer eu hymchwiliadau personol, ac rwyf mor falch bod rhai wedi mynd i’r drafferth o ysgrifennu amdano ar gyfer y cylchgrawn hwn. Felly, mae’r rhifyn hwn yn canolbwyntio ar y rhan o’n cyrsiau sy’n ymwneud â dulliau ymchwil. Diolch i bawb a gyfrannodd at yr ail rifyn hwn. Gobeithiaf y bydd yr amrywiaeth o erthyglau’n ysgogi ac ysbrydoli eich ystafelloedd dosbarth chi i gyd. Byddem yn ddiolchgar iawn am unrhyw gyfraniadau eraill sy’n rhannu arfer da neu brofiadau ystafell ddosbarth ar gyfer rhifynnau yn y dyfodol. Os hoffech chi ysgrifennu erthygl, neu rannu awgrymiadau bachog, cysylltwch â ni. Cofion gorau Rachel


C YNNW YS Cyflwyniad 3 Cynnwys 4 Cyflwyno erthyglau

5

Ffordd weithredol o addysgu ffyrdd i asesu dilysrwydd

6

Ymchwiliadau Personol: Arweiniad i’r rhai sy’n Arswydo

7

Digwyddiadau DPP

11

Sut y cynhalion ni ein harbrawf ar ddwyieithrwydd ar gyfer ein Hymchwiliad Personol

12

Arferion Ymchwil Amheus

14

Arsylwi gwahaniaethau rhywedd o ran dewisiadau bwyd

16

Dyddiadau Pwysig

19

Adnoddau 20 Dosraniadau Sgiw

21

Mewnwelediad i Broblemau Posibl Ymchwiliad Personol

23

Tanysgrifio 27


5

Galw ar yr holl athrawon Seicoleg.... Mae Psych'd eich angen chi! Byddai CBAC yn hoffi clywed gennych chi! Psych’d yw cylchgrawn ar-lein pwnc penod ol cyntaf CB AC sydd we Seicoleg ga di’i greu ar n ddefnydd gyfer athraw io cyfraniad a Lloegr. M on a u gan athra ae CBAC an won ledled gen cyfrania cynnwys me Cymru dau gan ath wn argraffia rawon fel ch dau o Psych i i’w ’d yn y dyfo dol. Ydych chi w edi cael pro fiad unigryw Ydych chi w yn yr ystafe edi addysgu ll ddosbarth mewn lleoli Ydy un o gy ? ad neu sefy mwysterau llfa anghyff CBAC wedi myfyrwyr? redin? eich ysbryd oli neu ysbry Ydych chi a doli eich m rannu sto ri ddoniol n ddosbarth? eu stori ysbry doledig o’r y Neu ydych stafell chi am rann u ychydig o ystafell ddo awgrymiad sbarth? au ar gyfer yr Os ydych ch i wedi ateb ydw i unrhy ddiddordeb w un o’r uch cael miloed od a bod ge d o athrawo darllen eich nnych n Seicoleg d erthygl, yna ros y byd yn gallech chi o Psych’d yn fod yn berffa y dyfodol. ith ar gyfer rhifyn

nnu blaenorol fe ri sg y d a fi ro wb fyd). chi gael unrhy ych brofiad he n n e Nid oes rhaid i g s e o s o n rffaith iaw flawn hyd yn y c u la g y h rt (ond mae'n be e eu yw syniadau n Anfonwch unrh k. dge@wjec.co.u o D l. e h c a R t a oed gl, neu sgrifennu erthy y m a h c y d y d os na Mae CBAC bob i! n e o h p Fodd bynnag, â h c n iadau, peidiw a gallech fod y n fa e w rannu awgrym y r a h rt wch io am adbo u posibl. Anfon ra o g n amser yn chwil w ra g h lc ar Psych’d y cy l neu syniadau ro o n rhan o wneud e la b n o ri k. au ar fate dge@wjec.co.u o D l. unrhyw sylwad e h c a R t a l y dyfodo gyfer rhifyn yn


6

Ffordd weithredol o addysgu f f yrdd i asesu dilysr w ydd Gan Jayne Manley, Cy far w yddwr Cyfadran (Mathemateg a Gwyddoniaeth), Coleg Chweched Dosbarth Sant Brendan Credaf mai syniad oedd hwn a gafodd gydweithiwr o sesiwn hyfforddi. Rwyf wedi’i ddefnyddio sawl gwaith dros y blynyddoedd i addysgu’r gwahanol ffyrdd o asesu dilysrwydd, ac wedi canfod ei fod yn effeithiol fel arfer wrth annog y myfyrwyr i ddeall a chofio’r cysyniadau, yn enwedig pan fyddwch chi’n cyfeirio at y wers ddŵr ar gyfer galw i gof wrth adolygu. Deunyddiau: • Cynhwysydd dŵr a chanddo big, yn ddelfrydol, fel y gallwch arllwys ohono • Hambwrdd (er mwyn osgoi arllwys dŵr ar y desgiau neu’r myfyrwyr) • Papur (penderfynwch sawl dalen i’w rhoi i bob tîm - dylai 3-5 dalen fod yn ddigonol) • Siswrn (i dorri yn unig) • Tywelion papur i sychu unrhyw ddŵr sy’n arllwys • Dŵr Cyn y gweithgaredd, bydd angen i chi fod wedi cyflwyno’r syniad o ddilysrwydd i’r myfyrwyr. Rhannwch y myfyrwyr yn dimau - os yw’n ddosbarth bach, gallan nhw wneud hyn yn unigol. Rhowch y dasg iddyn nhw (ar bapur neu fwrdd gwyn mae’n well peidio â'i rhoi iddyn nhw ar lafar gan y byddan nhw’n siwr o geisio herio’r rheolau wrth fynd ymlaen). Tasg Gan ddefnyddio’r papur a roddwyd i chi, mae angen i chi gynhyrchu rhywbeth sy’n gallu dal dŵr. Mae’n rhaid iddo allu sefyll ar ei ben ei hun a gallu dal dŵr am gyfnod (dyweder 20 neu 30 eiliad, 1 munud, ayb. - yn dibynnu ar faint o amser sydd gennych chi.) Gallwch ddefnyddio’r siswrn i dorri’r papur, ond ni chaiff fod yn rhan o’r hyn y byddwch chi’n ei greu. Ni chewch ddefnyddio unrhyw ddeunydd heblaw am y papur i wneud eich cynhwysydd dŵr.

Gosodwch derfyn amser - 10-15 munud, a defnyddiwch oriawr i’w amseru. Casglwch yr holl gludwyr dŵr yn nhu blaen y dosbarth. Gofynnwch i’r myfyrwyr edrych arnyn nhw a dyfalu pa rai a fydd yn gweithio. Yna, esboniwch eu bod nhw newydd gwblhau archwiliad dilysrwydd WYNEB gan eu bod nhw wedi edrych ar y deunydd/holiadur/dyluniad arbrofol ac asesu ei fod yn fesur dilys. Nesaf (gallech chi wneud hyn o flaen llaw) - penodwch arbenigydd ar gynwysyddion dŵr - (gallech wahodd cydweithiwr o’r adran Ffiseg neu Ddylunio a Thechnoleg neu o’r gegin os ar gael). Yna, bydd yr arbenigydd yn archwilio’r cynwysyddion dŵr. Wedi hynny, gallwch esbonio fod hwn yn archwiliad DILYSRWYDD CYNNWYS gan fod ARBENIGYDD yn y maes hwnnw wedi’i asesu. Nawr am hwyl ... Gofynnwch i wirfoddolwr o bob grŵp ddod i flaen y dosbarth a dal ei gynhwysydd dŵr - gallech ddymuno defnyddio’r hambwrdd ar y pwynt hwn. Dwedwch wrthyn nhw eich bod yn asesu’r cynhwysydd yn erbyn y jwg/ fflasg ac ati, ac arllwyswch ddŵr i mewn iddo (gallech chi ddymuno cytuno ar faint o ddŵr y mae angen i’r cynhwysydd ei ddal gan fod y myfyrwyr yn mynd yn gystadleuol iawn a byddan nhw’n honni tuedd - mae’n gyfle da i atgyfnerthu cysyniad arall yn ymwneud â dulliau ymchwil). Amserwch berfformiad y cynwysyddion am y cyfnod a gytunwyd. Rwy’n gwneud hyn un ar y tro yn hytrach na’u bod nhw i gyd yn dod i’r blaen ar yr un pryd, oherwydd fe allai greu llanastr ac mae hefyd yn cynyddu’r ymdeimlad o gystadleuaeth a chyffro. Pan fydd yr holl grwpiau wedi gorffen, gallwch esbonio DILYSRWYDD CYDAMSEROL. Rwy’n defnyddio cyfatebiaeth â dedfrydau carchar, gan esbonio bod dedfrydau cydamserol yn cael eu bwrw ar yr un pryd, ochr yn ochr â'i gilydd (mae hyn yn ddefnyddiol os oes gennych chi fyfyrwyr sy’n astudio’r Gyfraith hefyd). Rydym ni’n cymharu dilysrwydd offeryn mesur cydnabyddedig cyfredol (y fflasg neu’r jwg dŵr) ochr yn ochr ag ‘offeryn’ newydd sy’n honni ei fod yn gwneud yr un peth, sef ‘cludwyr dŵr papur’. Os yw’r cludwyr dŵr papur a wnaed gan y myfyrwyr yn cynnwys dŵr am y cyfnod a bennwyd gennych chi, yna mae ganddyn nhw DDILYSRWYDD CYDAMSEROL. Yn fy mhrofiad i, mae myfyrwyr yn mynd yn gystadleuol iawn ac yn ymroi’n llwyr i’r dasg hon. Rydych chi’n debygol o gael amrywiaeth o gynwysyddion - rwyf wedi cael sêr ninja, blychau papur yn ogystal â thyrau siâp twndis - mae’n gallu mynd yn greadigol iawn ac mae cynwysyddion y myfyrwyr yn aml yn effeithiol iawn am gyfnodau byr.


7

Ymchw iliadau Per sonol: Ar weiniad i ’r rhai s y ’n Arsw ydo – Natalie Austin, Athrawes Seicoleg a Phennaeth Addysg Bersonol, Gymdeithasol ac I e c h y d , Co l e g Te t t e n h a l l Un o’r newidiadau mwyaf o hen fanyleb CBAC i’r fanyleb Eduqas/CBAC newydd a gyflwynwyd yn 2015 yw’r ymchwiliadau personol. Bob blwyddyn, mae’n rhaid i’r myfyrwyr gynnal dau ymchwiliad seicolegol eu hunain, y bydd gofyn iddyn nhw ateb cwestiynau arnyn nhw yn yr arholiad. Yn bersonol, credaf mai’r elfen hon o’r fanyleb newydd yw’r newid sydd orau gennyf. Rwyf wedi bod yn addysgu manyleb CBAC ers i mi ddechrau yn fy ysgol bresennol fel athrawes newydd gymhwyso, yn ôl yn 2010. Rwy’n ceisio cynnwys elfennau ymarferol dulliau ymchwil yn fy ngwersi gymaint â phosibl sut bynnag. Bob blwyddyn, rwyf wedi defnyddio’r amser rhwng diwedd yr arholiadau UG a gwyliau’r haf fel adeg i fyfyrwyr gynnal eu hastudiaethau eu hunain. Credaf fod yr adeg hon o’r flwyddyn yn berffaith ar gyfer y gweithgaredd hwn; dyma’r ‘amser marwaidd’ hwnnw pan fydd angen i beth bynnag yr addysgwch gael ei ailadrodd ym mis Medi (bydd myfyrwyr yn sicr o anghofio’r hyn maen nhw wedi’i ddysgu o ganlyniad i amnesia gwyliau). Roeddwn i’n falch iawn o weld ymchwiliadau ymarferol yn cael eu cynnwys yn y fanyleb. ‘Does dim byd gwell nag ymchwiliad seicolegol ymarferol i hogi eich sgiliau dulliau ymchwil. Nid yw dulliau ymchwil yn bwnc arbennig o gyfareddol. Rwy’n aml yn gweld llygaid fy myfyrwyr yn cau wrth i mi gyhoeddi y bydd gwers heddiw yn canolbwyntio ar ddylunio arbrofol, neu ystadegau casgliadol. Nid oes ganddo’r un ergyd â Chymhleth Oedipus, ac nid yw’n ysgogi’r un sioc ag arbrofion Milgram (fel pe tae!). Fodd bynnag, heb ddealltwriaeth o’r dulliau a ddefnyddir gan seicolegwyr i ymchwilio i ymddygiad ac, yn bwysicach, y gallu i werthuso’r dulliau hyn a’u hasesu’n feirniadol, byddai seicoleg yn cael ei darostwng i ddysgu rhestr o ffeithiau diddorol ar eich cof. I athrawon seicoleg a astudiodd y pwnc yn y brifysgol, dylai cynnal astudiaeth ar raddfa fechan yn rhan o Safon Uwch fod yn gymharol syml. Fodd bynnag, nid yw pob athro seicoleg yn arbenigwr ar y pwnc o bell ffordd, ac felly, gallai’r syniad o gynnal ymchwiliad o’r dechrau i’r diwedd ymddangos yn frawychus. Dyma awgrym, felly, o broses y gallech ei dilyn. Nid dyma’r unig ffordd o gynnal ymchwiliadau, o bell ffordd. Fodd bynnag, gobeithir y bydd y canllaw hwn yn ymdrin â›r holl hanfodion, ac yn rhoi sylfaen eglur i athrawon ei dilyn wrth iddyn nhw ddod yn fwy hyderus yn eu sgiliau dulliau ymchwil eu hunain.

Y ddau ymchwiliad ar gyfer Eduqas 2016 oedd: Arsylwi gwahaniaethau rhywedd o ran dewis bwyd Cydberthyniad rhwng oedran ac amser adweithio Drwy gydol y camau isod, byddaf yn cyfeirio’n ôl at y ddwy astudiaeth hyn i ddangos y gweithdrefnau a ddefnyddiais.

1. Dosbarth, grŵp neu unigolyn? Un o’r tasgau cyntaf yw penderfynu sut i rannu’r dosbarth. A yw’r dosbarth cyfan yn mynd i weithio gyda’i gilydd ar un ymchwiliad? A fydd grwpiau bychain yn y dosbarth yn gweithio gyda’i gilydd? Neu a fydd pob myfyriwr yn gweithio’n unigol ar ei ymchwiliad ei hun? Bydd yr ateb i’r cwestiwn hwn yn dibynnu ar faint ac ystod gallu eich dosbarth. Os byddan nhw’n gweithio mewn grwpiau, buaswn i’n argymell na ddylai’r grwpiau hyn gynnwys mwy na phedwar myfyriwr. Mewn grwpiau mwy o faint, bydd y myfyrwyr yn cymdeithasu gormod, neu efallai’n anghytuno ymysg ei gilydd ar sut i gynnal yr ymchwiliad. Os oes gennych chi fyfyrwyr deallus, uchel eu cymhelliad, mae’n bosibl y gallan nhw weithio ar eu pen eu hunain. Fodd bynnag, gallai cyfanswm y gwaith sy’n ofynnol fod yn ormod i rai myfyrwyr sy’n gweithio ar eu pen eu hunain. Mae’n bosibl i’r dosbarth cyfan weithio gyda’i gilydd ar un ymchwiliad, ond mae angen gofalu bod pob myfyriwr yn cael rôl a chyfrifoldeb. Yn ail, a yw’r dosbarth cyfan yn mynd i gynnal yr un ymchwiliad neu a fydd sawl ymchwiliad gwahanol yn cael ei gynnal yn yr un dosbarth, gyda phob grŵp neu unigolyn yn gwneud rhywbeth gwahanol? Mae’r cyntaf yn haws ei reoli, ond mae’r ail yn rhoi mwy o ryddid a chyfrifoldeb i grwpiau unigol. Ar gyfer yr ymchwiliad cyntaf, buaswn i’n argymell y byddai’n haws i’r dosbarth cyfan wneud yr un ymchwiliad. Mantais hyn yw y bydd yr holl gynllunio ac adnoddau yr un fath i bawb, ac y bydd yn haws i chi, fel athro, oruchwylio un ymchwiliad na hanner dwsin o rai gwahanol. Yn drydydd, sut bydd y data’n cael ei gasglu? A fydd pob grŵp/unigolyn yn dod o hyd i’w gyfranogwyr ei hun a chasglu data, neu a fydd pob grŵp/unigolyn yn gyfrifol am ddod o hyd i nifer benodol o gyfranogwyr ac yna bydd y data’n cael ei gronni a’i rannu gan y dosbarth? Gellir gwneud yr olaf dim ond os yw’r dosbarth cyfan yn cynnal yr un astudiaeth, ond mae’n golygu y gallwch gasglu llawer mwy o ddata. Yn olaf, pwy fydd yn gyfrifol am ysgrifennu adroddiad ar yr ymchwiliad? A fydd pob grŵp yn llunio un adroddiad? Os felly, bydd angen gofalu bod pob aelod o’r grŵp


8 yn cyfrannu ato. A fydd y dosbarth cyfan yn llunio un adroddiad? Gallai hyn fod yn anodd os oes gennych chi ddosbarth mawr. Gall fod yn haws gofyn i bob myfyriwr unigol lunio ei adroddiad ei hun. Gellir gwneud hyn hyd yn oed os oedden nhw wedi gweithio mewn grwpiau, fel dosbarth neu’n unigol.

yn bosibl (daw hynny’n ddiweddarach). Rhowch gyfle iddyn nhw fod yn greadigol, am y tro. Anogwch nhw i feddwl am y ffyrdd amrywiol o fesur y newidynnau. Ar bwy y gallen nhw gynnal yr astudiaeth? Ble gellid ei chynnal? Anogwch nhw i fod yn feirniadol ac asesu eu syniadau. Cofnodwch bob syniad.

Gan fy mod i’n gweithio mewn ysgol breswyl fach, dim ond 4 myfyriwr sydd yn fy Chweched Dosbarth Uchaf. Felly, penderfynais y bydden nhw i gyd yn gweithio ar ddau ymchwiliad penodol. Fodd bynnag, wrth ddod i lunio’r adroddiad, gofynnais iddyn nhw gydweithio ar y cydberthyniad (rhoddwyd rhan o’r adroddiad i bob myfyriwr ei hysgrifennu) a llunio eu harsylwadau’n unigol. Teimlais fod hynny’n gyfaddawd da oherwydd byddai ysgrifennu dau adroddiad llawn wedi bod yn heriol i rai myfyrwyr, o bosibl.

Pan fydd gennych lawer o syniadau, dechreuwch ddileu’r rhai sy’n anymarferol. Er enghraifft, pe byddai astudiaeth yn golygu prynu offer technolegol iawn, neu ddefnyddio sampl o bêl-droedwyr yr uwch gynghrair, croeswch hi oddi ar y rhestr! A fydd yn cymryd chwe mis i gwblhau’r astudiaeth? Anghofiwch amdani! Anogwch nhw i feddwl am yr hyn y gallan nhw ei wneud yn ymarferol fel myfyrwyr chweched dosbarth sydd â chyllideb gyfyngedig (neu ddim cyllideb o gwbl, yn ôl pob tebyg!). Pan fyddwch chi wedi diystyru’r syniadau anymarferol, dechreuwch asesu’r syniadau sydd ar ôl yn feirniadol. Yn ei hanfod, ceisiwch ddod o hyd i’r astudiaeth a fyddai’n rhoi’r data mwyaf dilys. Ar yr adeg hon, mae syniad bras o’r hyn rydych chi’n mynd i’w wneud yn ddigon. Byddwch yn canolbwyntio ar y manylion yn ystod y cam nesaf.

2. Ymchwil blaenorol Er nad yw’r fanyleb yn gofyn am gyfiawnhad i’r astudiaeth, cefais fudd o edrych ar ganfyddiadau ymchwil blaenorol i amser adweithio a dewis o fwyd. Er bod gwerslyfrau’n gallu bod yn ffynhonnell dda o astudiaethau blaenorol, teimlais fod Google Scholar (https://scholar.google.co.uk/) yn adnodd gwell. Trwy deipio allweddeiriau, gallwch ddod o hyd i grynodebau (ac weithiau testun llawn) miliynau o astudiaethau. Bydd edrych ar yr hyn y mae astudiaethau blaenorol wedi’i ganfod yn eich helpu i ffurfio rhagdybiaeth. Gall hefyd roi syniadau i chi ar gyfer sut i gynnal eich astudiaeth. Nid oes unrhyw beth o’i le ar ddyblygu astudiaeth flaenorol (oherwydd dyblygu yw un o sylfeini’r dull gwyddonol). Gallech gynnal yr ymchwil hwn mewn sawl ffordd. Gallech ddangos i’ch dosbarth sut i ddefnyddio Google Scholar a gosod gwaith cartref i ddod o hyd i un neu ddwy astudiaeth sydd wedi ymchwilio i’r hyn y mae gennych ddiddordeb ynddo. Ffordd arall (a’r hyn a wneuthum gyda’m dosbarth i) yw gosod Google Scholar ar y bwrdd, a threulio tua 15 munud yn edrych ar waith ymchwil er mwyn cyfarwyddo â›r pwnc. O’n gwaith ymchwil, gwnaethom ddarganfod fod astudiaethau blaenorol wedi dod i’r casgliad bod amser adweithio’n tueddu i arafu wrth i bobl heneiddio, a bod bechgyn yn fwy tebygol o ddewis bwydydd melys a llawn braster na merched. Llywiodd hyn y rhagdybiaethau a ysgrifennwyd.

3. Trafod syniadau Dyma’r rhan ddifyr! Erbyn i chi ddod at gynnal eich ymchwiliadau personol, dylai’r myfyrwyr fod wedi datblygu gafael dda ar ddulliau ymchwil. Dyma eu cyfle i fod yn greadigol. Rhowch amser iddyn nhw (mewn grwpiau neu fel dosbarth) i feddwl am yr holl ffyrdd posibl o gynnal eu hastudiaeth. Yn ystod y cam hwn, peidiwch â phoeni gormod am yr hyn sy’n ymarferol ac

Cyn trafod syniadau, dylai fod gennych chi, fel athro, o leiaf un syniad ar gyfer ymchwiliad. Pan fydd y myfyrwyr wedi mynd trwy eu holl syniadau, mae’n bosibl na fydd unrhyw beth ar ôl. Mae angen i chi allu awgrymu dewis amgen, neu arwain y myfyrwyr tuag at eich syniad chi. Penderfynodd fy nosbarth i eu bod nhw’n mynd i ddefnyddio’r myfyrwyr yn yr ysgol fel cyfranogwyr yn y ddwy astudiaeth. Ar gyfer y cydberthyniad amser ymateb, roedden nhw’n mynd i ddefnyddio fy ystafell ddosbarth fel labordy, a chynnal prawf amser ymateb y bydden nhw’n ei gydberthyn i oedrannau’r myfyrwyr. Ar gyfer yr arsylwad dewis bwyd, bydden nhw’n arsylwi’r gwahanol fwydydd yr oedd bechgyn a merched yn eu dewis yng nghaffi’r ysgol yn ystod amser egwyl. Bydden i’n cynghori ei bod hi’n bwysig ceisio cadw’r ymchwiliad mor syml â phosibl. Nid oes angen ceisio ailddyfeisio’r olwyn. Po symlaf yr astudiaeth, yr hawsaf y bydd hi arnoch chi a’ch myfyrwyr. Bydd yn haws dadansoddi eich data hefyd.


9 4. Y Manylion Pan fydd gennych chi syniad bras o sut y bydd yr astudiaeth yn cael ei chynnal, bydd angen i chi ddatblygu cynllun gam wrth gam o’r gweithdrefnau. Mae hyn yn fwy cymhleth nag y mae’n ymddangos, ac fe all ymestyn sgiliau dulliau ymchwil y myfyrwyr i’r eithaf! Yr is-benawdau canlynol yw’r cynnwys penodol sy’n ofynnol gan y fanyleb. Mae Safon Uwch Seicoleg Llyfr 2 yn cynnwys disgrifiadau manwl o’r hyn y mae’n ofynnol i chi ei gynnwys, felly ni fyddaf yn ei ailadrodd yma. Yn lle hynny, rhoddaf ychydig o gyngor i chi a allai fod yn ddefnyddiol. a. Rhagdybiaeth: Wrth gyfiawnhau pam y gwnaethoch chi ddewis ragdybiaeth gyfeiriol neu anghyfeiriol, fe allai fod yn ddefnyddiol crybwyll ymchwil blaenorol. Er enghraifft, dewisodd fy myfyrwyr ragdybiaeth gyfeiriol ar gyfer amser ymateb; Bydd cydberthyniad cadarnhaol rhwng oedran ac amser ymateb. Eu cyfiawnhad dros hyn oedd bod ymchwil blaenorol wedi awgrymu bod amser ymateb yn arafu wrth heneiddio. b. Newidynnau: Un o’r pethau anoddaf i benderfynu arno yw sut i weithredoli eich newidynnau. Mae angen i chi allu mesur eich newidynnau’n gywir ac yn ddibynadwy. Ceisiwch osgoi unrhyw ddull sy’n dibynnu ar ddehongliad goddrychol yr ymchwilwyr. Mae’n syniad da edrych yn yr App Store ar eich ffôn clyfar, oherwydd bydd ap ar gael yn aml a gynlluniwyd i fesur yr hyn rydych chi’n ei fesur. Er enghraifft, daeth fy myfyrwyr o hyd i ap prawf amser ymateb rhad ac am ddim y gwnaethon nhw ei ddefnyddio ar gyfer eu hastudiaeth. Mae bob amser yn werth cynnal astudiaeth beilot fer i sicrhau bod eich dull gweithredoli’n gweithio. Penderfynodd fy myfyrwyr y bydden nhw’n canolbwyntio ar fwydydd melys o gymharu â bwydydd sawrus wrth arsylwi gwahaniaethau rhywedd o ran dewisiadau bwyd. Fe aethon nhw i’r caffi i roi prawf ar eu system godio er mwyn sicrhau ei bod yn gweithio, a bod modd categoreiddio’r holl fwydydd a oedd ar gael yn y caffi yn rhwydd. c. Methodoleg, dyluniad a gweithdrefn: Bydd lleoliad eich astudiaeth yn dibynnu ar yr ymchwiliad a roddwyd i chi gan CBAC/Eduqas. Bydden i’n argymell cynnal yr astudiaeth o fewn tir yr ysgol os yw’n bosibl. Yn ogystal â'i gwneud hi’n haws dod o hyd i gyfranogwyr, bydd hyn hefyd yn osgoi rhai o’r materion moesegol posibl. Fodd bynnag, gall cynnal gwaith ymchwil yn y maes fod yn werthfawr iawn, a bydd yn angenrheidiol ar gyfer rhai ymchwiliadau. Bydden i’n eich annog i ofyn i’ch myfyrwyr ysgrifennu cyfres lawn a manwl o weithdrefnau cyn casglu unrhyw ddata. Mae’n arfer da cwestiynu pob penderfyniad maen nhw’n ei wneud a gofyn iddyn nhw ei gyfiawnhau. Rydw i bob amser yn dweud wrthyn nhw am ddychmygu eu bod nhw’n ysgrifennu eu gweithdrefnau ar gyfer rhywun sydd eisiau ailadrodd eu hastudiaeth. Ffordd dda o sicrhau hyn yw gofyn i fyfyriwr nad yw’n astudio seicoleg ddarllen y gweithdrefnau a chwilio am fylchau. Yn arbennig, dylai myfyrwyr ganolbwyntio ar ddibynadwyedd a dilysrwydd wrth gynllunio

astudiaethau. Er y bydd yn amhosibl cynllunio astudiaeth sy’n gwbl rydd o broblemau dilysrwydd neu ddibynadwyedd, mae angen iddyn nhw ddangos eu bod wedi rhagweld y problemau hyn a cheisio eu lleihau i’r eithaf. Er enghraifft, sicrhaodd fy myfyrwyr y byddai pob cyfranogwr yn profi’r prawf amser ymateb yn yr un ffordd drwy osod dwylo’r cyfranogwyr yn yr un man yn ystod y prawf. Fel y soniwyd uchod, mae astudiaeth beilot yn ffordd ddefnyddiol o ddatrys unrhyw broblemau nad ydynt yn amlwg o bosibl cyn yr astudiaeth. Mae’n ymarfer da hefyd, oherwydd bydd pob myfyriwr yn gwybod beth yw ei rôl pan fyddan nhw’n cynnal yr astudiaeth go iawn. ch. Samplu: Y dull samplu mwyaf tebygol fydd cyfle/ gwirfoddolwr. Cyd-fyfyrwyr fydd y sampl hawsaf o gyfranogwyr i gael gafael arnyn nhw. Ar gyfer ein harbrawf amser ymateb, cyhoeddodd y myfyrwyr yn y gwasanaeth boreol y byddai’r astudiaeth yn cael ei chynnal yn ystod dau amser cinio, ac y byddai myfyrwyr a fyddai’n gwirfoddoli yn cael pwynt tŷ. Roedd defnyddio cyd-fyfyrwyr yn fuddiol hefyd oherwydd ei fod yn caniatáu i’r corff ehangach o fyfyrwyr brofi ychydig bach o seicoleg, ac yn eu helpu i ddeall beth mae seicolegwyr yn ei wneud (nid yw’n ymwneud â ‘phobl wallgof’ yn unig ...). Anfantais amlwg defnyddio myfyrwyr yw bod yr ystod oedran yn gyfyngedig. Pe byddai angen ystod oedran ehangach arnoch chi, peidiwch ag ofni gofyn i athrawon eraill helpu a chymryd rhan. Yn fy mhrofiad i, mae athrawon yn gyfranogwyr da! Fel arall, gellid rhoi cwota o gyfranogwyr i bob myfyriwr, sy’n gyfrifol am gasglu data’n unigol, ac yna byddai’r data’n cael ei gasglu ynghyd fel dosbarth. Gallai hyn olygu eu bod nhw’n cynnal eu hastudiaeth ar aelodau’r teulu neu ffrindiau y tu allan i’r ysgol. d. Ystadegau disgrifiadol: Yn amlwg, bydd y mesur canolduedd a’r mesur gwasgariad yn dibynnu ar faint o ddata a gesglir. Fe allai fod yn werth ystyried hyn wrth gynllunio eich astudiaeth. O ran cyfrifo gwyriad safonol, gallech chi ofyn i’r myfyrwyr ei gyfrifo â llaw (gan y bydd angen iddyn nhw allu gwneud hyn yn yr arholiad), neu gallech ddefnyddio cyfrifiannell ar-lein a fydd yn ei wneud ar eich rhan. dd. Cynrychioliadau graffigol: Unwaith eto, bydd angen i’r rhain fod yn addas i’r data a gasglwyd. Bydd gofyn i’r myfyrwyr wneud y rhain eu hunain â llaw yn rhoi ymarfer da iddyn nhw ar gyfer yr arholiadau. Fel arall, mae Excel yn raglen da i’w defnyddio. e. Ystadegau casgliadol: Mae’n syniad da penderfynu ar ba brawf ystadegol y byddwch chi’n ei ddefnyddio cyn cynnal eich ymchwil. Byddai’n ofnadwy mynd i drafferth casglu eich data ac yna sylweddoli nad oes modd eu dadansoddi! Chi sydd i ddewis p’un a ydych eisiau i’r myfyrwyr gyfrifo’r profion ystadegol eu hunain. Er y byddai hyn yn rhoi dealltwriaeth ddyfnach iddyn nhw o’r profion y mae angen iddyn nhw eu gwybod ar gyfer yr arholiad, ni fydd rhaid iddyn nhw fyth eu cyfrifo â


10 llaw. Rydw i’n tueddu i ddefnyddio cyfrifianellau ar-lein fel http://www.socscistatistics.com/tests/ sy’n rhoi gwerthoedd a arsylwyd i chi ar gyfer yr holl brofion yn y fanyleb. Peidiwch â phoeni os nad yw eich canlyniad yn arwyddocaol! Fe all fod yn siomedig wneud yr holl waith heb ddarganfod unrhyw beth arwyddocaol. Fodd bynnag, gall canlyniad negyddol fod yr un mor ddiddorol ag un cadarnhaol. A chofiwch, prif bwynt yr ymchwiliadau personol yw rhoi profiad ymarferol i fyfyrwyr o ddulliau ymchwil, nid ailddiffinio natur dealltwriaeth seicolegol! f. Dibynadwyedd: Bydd angen i’r myfyrwyr werthuso eu hastudiaeth o ran dibynadwyedd. Beth wnaethon nhw i sicrhau y gellid ailadrodd eu hastudiaeth? Beth allai leihau’r dibynadwyedd? Sut gallen nhw wella’r astudiaeth pe byddai’n cael ei chynnal eto? ff. Dilysrwydd: Fel yr uchod, bydd angen i’r myfyrwyr werthuso pa mor ddilys oedd eu hastudiaeth. A oedd ganddi ddilysrwydd mewnol ac allanol? Beth wnaethon nhw i sicrhau bod problemau dilysrwydd yn cael eu lleihau i’r eithaf? Beth gellid ei wneud i wella dilysrwydd yr astudiaeth pe byddai’n cael ei chynnal eto? g. Moeseg: Er mai project Safon Uwch yw hwn, bydd angen dilyn Canllawiau Cymdeithas Seicolegol Prydain (BPS) ar ymchwil moesegol o hyd, yn enwedig os yw’r cyfranogwyr yn gyd-fyfyrwyr. Dau fater penodol yw cydsyniad ac adrodd yn ôl. Ar gyfer ein hastudiaeth amser ymateb, ysgrifennodd y myfyrwyr eu ffurflen gydsynio a’u ffurflen adrodd yn ôl eu hunain. Roedd y ffurflen gydsynio’n rhoi trosolwg o’r astudiaeth, yn dweud y gallen nhw dynnu’n ôl unrhyw bryd (a chael eu pwynt tŷ o hyd) ac yn gofyn iddyn nhw lofnodi i gadarnhau eu bod wedi ei darllen a’i deall. Cadwyd y ffurflenni cydsynio hyn yn ddiogel mewn ffolder. Ar ôl yr astudiaeth, rhoddwyd dalen adrodd yn ôl i bob cyfranogwr a oedd yn cynnwys manylion llawn am yr astudiaeth yn ogystal â’m cyfeiriad e-bost cyswllt, ac yn rhoi sicrwydd iddyn nhw y byddai’r data’n cael ei gadw’n gyfrinachol, ond y gallen nhw dynnu eu canlyniadau’n ôl os oedden nhw’n dymuno. Mae hefyd yn bwysig cadw data’n gyfrinachol, yn enwedig os yw’r cyfranogwyr yn gyfoedion. Penderfynon ni y byddai rhif yn cael ei roi i bob cyfranogwr a fyddai’n cael ei ysgrifennu ar ei ffurflen gydsynio. Pe byddai myfyriwr yn penderfynu tynnu ei ddata yn ôl, gallem wirio’r rhif cyfranogwr ar y ffurflen gydsynio a’i ddileu o’r astudiaeth. Ar gyfer yr arsylwi, rhoddwyd arwydd ar ddrws y caffi yn datgan bod arsylwi’n digwydd, a phe nad oedd unrhyw un eisiau cymryd rhan, y gallai siarad ag un o’r myfyrwyr chweched dosbarth a oedd yn dal clipfwrdd. Cafodd y myfyrwyr ganiatâd gan staff y caffi o flaen llaw hefyd. Gan fod yr arsylwi’n cael ei gynnal mewn man cyhoeddus lle y gallai’r cyfranogwyr ddisgwyl cael eu gweld sut bynnag, nid oedd angen adrodd yn ôl. Mae bob amser yn werth gofyn i uwch reolwyr edrych dros eich astudiaeth cyn ei chynnal i wirio am unrhyw faterion moesegol posibl y gallech fod wedi’u colli.

5. Ysgrifennu’r Adroddiad Pan fydd yr astudiaeth wedi’i chwblhau, dylai’r myfyrwyr ysgrifennu eu hadroddiadau. Mae’n bosibl y bydd misoedd rhwng cynnal eu hymchwiliad a’r arholiad ei hun, felly bydd y rhain yn gweithredu fel canllawiau adolygu. Rydw i’n rhoi rhestr o bwyntiau bwled i’m myfyrwyr sy’n manylu ar yr hyn y mae angen iddyn nhw ei gynnwys yn eu hadroddiad. Rydw i’n awgrymu’n gryf eu bod nhw’n llunio eu hadroddiadau ar gyfrifiadur, gan ei bod yn debygol y bydd angen iddyn nhw eu diwygio er mwyn eu gwella. Dylen nhw ailddrafftio eu hadroddiad unwaith o leiaf. Mae adolygu gan gyfoedion yn ffordd wych i fyfyrwyr wella eu hadroddiadau, ac ymarfer eu sgiliau gwerthuso. Gall myfyrwyr weithredu fel athrawon, gan fynd trwy eu hymchwiliadau ei gilydd gyda beiro coch! Os yw’r myfyrwyr wedi gweithio ar brojectau gwahanol, mae’n werth gofyn iddyn nhw gyflwyno eu canfyddiadau i weddill y dosbarth. Os yw’r rhai a gymerodd ran yn eich astudiaeth yn aelodau eraill o gymuned yr ysgol, gallai’r myfyrwyr gyflwyno eu canfyddiadau mewn gwasanaeth boreol hyd yn oed. Gobeithio fod y canllaw hwn wedi rhoi ychydig mwy o hyder i chi arwain eich darpar seicolegwyr wrth iddyn nhw gynnal eu hymchwiliadau. Cofiwch, cadwch yr astudiaethau’n syml, anogwch y myfyrwyr i wneud y rhan fwyaf o’r gwaith, a pheidiwch â digalonni os nad yw’ch canlyniadau’n arwyddocaol. Gall yr ymchwiliadau ymddangos yn frawychus, ac maen nhw’n gofyn am lawer o gynllunio. Fodd bynnag, dyma’r ffordd orau o bell ffordd i fyfyrwyr seicoleg gael profiad ymarferol o seicoleg go iawn.

Cymerwch olwg ar ein hadnodd ‘Cynllunio eich ymchwiliad personol’. http://resources.wjec.co.uk/Pages/ResourceSingle. aspx?rIid=2404&langChange=cy-GB


TAG Seicoleg CBAC Asesu > Ymarfer yn yr Ystafell Ddosbarth Amcanion y Cwrs: Mae'r cwrs diwrnod llawn hwn wedi ei gynllunio ar gyfer ymarferwyr sy'n addysgu manyleb TAG Seicoleg CBAC. Bydd pob sesiwn yn adolygu cyfres asesu ddiweddar yr haf ar gyfer UG ac U2, gan archwilio enghreifftiau o waith ymgeiswyr wedi'i farcio. Bydd hefyd yn ystyried sut mae adborth ar asesiadau yn gallu hysbysu, datblygu a gwella addysgu a dysgu. Canlyniadau ar gyfer cynrychiolwyr: • Cyfle i adolygu asesiadau allanol a deunyddiau ymgeiswyr enghreifftiol. • Cyfle i adolygu strategaethau addysgu a dysgu. • Cyfle i rwydweithio â chydweithwyr ac arbenigwyr manyleb y pwnc. Byddwch hefyd yn cael pecyn cynhwysfawr o adnoddau y gallwch fynd ag ef gyda chi i'w rhannu â chydweithwyr.

Personél y Cwrs: Mae'r cwrs yn cael ei arwain gan arbenigwyr pwnc ynghyd â'r Swyddog Pwnc.

Costau'r Cwrs: Y gost yw £210 (gan gynnwys lluniaeth a deunyddiau). • Os yw'r digwyddiad yr hoffech ei fynychu wedi cau ar gyfer archebu lle ar-lein, anfonwch e-bost at y Tîm DPP dpp@cbac.co.uk i gadw eich lle neu i wneud ymholiad. • Noder y bydd recordiad sain yn cael ei wneud ym mhob cyfarfod. • Trwy gadw lle ar gwrs wyneb yn wyneb, rydych yn derbyn Telerau ac Amodau CBAC. Ewch i www.cbac.co.uk/dpp i'w gweld

Edrychwn ymlaen at eich gweld yn un o'n digwyddiadau yn fuan.

Manylion Cyswllt Rhif ffôn: 029 20265024 E-bost: dpp@cbac.co.uk

11

Dyddiadau'r cwrs: Canolfannau Cymru yn unig Dydd Gwener 13 Hydref 2017, 9:30 am - 3:30 pm Llandudno Dydd Gwener 20 Hydref 2017, 9:30 am - 3:30 pm Caerdydd


12

Sut y c ynhalion ni ein harbraw f ar ddw yieithr w ydd ar g y fer ein Hymchwiliad Personol

Gan Charlot te Draper a Molly McGiveron, Ysgol Basaleg Fe gynhalion ni arbrawf ar ddwyieithrwydd a sut mae’n effeithio ar y prawf Stroop enwog. Roedd ein rhagdybiaeth arbrofol fel a ganlyn:

Bydd yn cymryd mwy o amser (mewn eiliadau) i gwblhau prawf Stroop symbyliad geiriau Cymraeg croes wrth ymateb yn yr ail iaith (Cymraeg) nag wrth ymateb yn yr iaith gyntaf (Saesneg). Dewiswyd rhagdybiaeth gyfeiriol yn seiliedig ar yr ymchwil blaenorol a wnaed ar ddwyieithrwydd ac effeithiau Stroop (fel yr arbrawf a oedd yn profi effaith Stroop o ran Saesneg/Rwseg gan Aleksandra Bril a Rebecca Green), ond ni chynhaliwyd astudiaeth beilot.

Samplu Gan fod yr ymchwil hwn yn rhan o’r cwrs Safon Uwch Seicoleg, y cyfranogwyr oedd y 22 myfyriwr Safon Uwch Seicoleg yn ein hysgol; 16 merch a 6 bachgen; 17 a 18 oed; oll â rhywfaint o sgiliau Cymraeg. Roedd y sampl cyfle hwn yn gyfleus iawn ac yn cymryd llawer llai o amser na thechnegau samplu eraill fel samplu cwota. Mae samplau cyfle yn tueddu i fod yn anghynrychioliadol o’r boblogaeth darged, ond nid oes rheswm i’r cyfranogwyr fod yn wahanol i’r holl fyfyrwyr Safon Uwch Seicoleg eraill.

Gweithdrefnau Fe ddechreuon ni’r ymchwil hwn trwy roi gwybodaeth i’r holl gyfranogwyr am y prawf Stroop a’r hyn y bydden nhw’n ei wneud yn yr arbrawf. Yna, rhannwyd yr holl gyfranogwyr yn barau ac fe’u gosodwyd ar hap yn grŵp A neu B. Trodd gyfranogwr B i ffwrdd o’r sgrin a rhoddwyd yr atebion i bob cyflwr iddo, tra bod cyfranogwr A yn wynebu’r sgrin a oedd yn dangos y prawf. Ar ôl i’r arsylwr ddweud ‘dechreuwch’, cwblhaodd gyfranogwr A y prawf


13 gan ddechrau gyda chyflwr 1 tra bod cyfranogwr B yn cofnodi’r amser ac yn sicrhau bod A yn ateb yn gywir, gan ei annog trwy ddweud “Camgymeriad” os gwnaed unrhyw wallau. Ailadroddwyd y broses hon hyd at gyflwr 5. Yna, cyfnewidiodd gyfranogwyr A a B eu safleoedd, a chwblhaodd gyfranogwr B y prawf gyda’r cyflyrau mewn trefn wahanol er mwyn gwrthbwyso, tra bod cyfranogwr A yn ei amseru ac yn gwirio’r atebion.

Ystadegau Disgrifiadol Cofnodwyd canlyniadau pob cyfranogwr. Roedd y data a gasglwyd yn caniatáu i ni weld y gwahaniaeth rhwng cwblhau’r prawf Stroop symbyliad geiriau Cymraeg croes wrth ymateb yn yr ail iaith (Cymraeg) ac ymateb yn yr iaith gyntaf (Saesneg). Yr ystadegyn disgrifiadol mwyaf priodol, gan nad oedd dwy set o ddata yr un fath, oedd y cymedr, y cyfrifwyd ei fod â gwahaniaeth cyfartalog o 10.43238095 eiliad, a’r cyflwr y cwblhawyd y prawf yn yr iaith gyntaf (Saesneg) ynddo oedd yr un cyflymach.

Ystadegau Casgliadol Gan fod y prawf hwn yn mesur gwahaniaeth, a bod y data’n gymarebol ac yn berthynol, yr ystadegyn casgliadol mwyaf priodol i’w ddefnyddio oedd prawf parau cyffredin Wilcoxon. Fe wnaethom ddarganfod fod gwerth gwirioneddol T yn hafal i 6, a phan oedd p = 0.005 gyda rhagdybiaeth gyfeiriol, y gwerth critigol oedd 48. Mae hyn yn dangos bod ein canlyniadau’n ystadegol arwyddocaol gan fod 6 < 48, felly roedd yn addas derbyn ein rhagdybiaeth gyfeiriol.

Dibynadwyedd Roedd sawl mater dibynadwyedd yn ein poeni cyn i ni ddechrau’r arbrawf, fel gwahaniaethau o ran amseru o ganlyniad i wallau dynol, gwahanol lefelau sgiliau Cymraeg, craffter gweledol y cyfranogwyr, a pha mor gyfarwydd oedd y cyfranogwyr â'r prawf Stroop. Rheolwyd rhai o’r materion hyn tra bod eraill wedi parhau i fod yn newidynnau allanol posibl. Roedden ni’n gallu safoni pa mor bell oedd y cyfranogwyr yn eistedd oddi wrth y sgrin a’r wybodaeth a oedd gan y cyfranogwyr am y prawf Stroop. Wrth ailadrodd yr ymchwil hwn, gellid gwella dibynadwyedd trwy sicrhau bod gan bob cyfranogwr yr un cymwysterau neu gymwysterau tebyg yn yr ail iaith (Cymraeg) e.e. gradd B o leiaf mewn TGAU. Byddai system amseru gyfrifiadurol yn ddefnyddiol hefyd er mwyn dileu perygl gwallau dynol.

Dilysrwydd Cyn yr arbrawf, roedden ni hefyd yn ymwybodol o faterion dilysrwydd a allai fod wedi codi yn ystod yr ymchwil, fel effeithiau trefn a sicrhau bod y prawf yn driw i’r ymchwil gwreiddiol a wnaed gan Stroop. Fe wnaethon ni ymdrin â'r effeithiau trefn trwy wrthbwyso’r drefn y cwblhawyd y cyflyrau ar gyfer grwpiau A a B, ac fe wnaethon ni hefyd ddefnyddio’r un lliwiau â'r prawf Stroop gwreiddiol (coch, gwyrdd, glas, porffor, brown), yn wahanol i fersiynau diweddarach o’r prawf. Fodd bynnag, cododd rai materion dilysrwydd annisgwyl, fel y ffaith bod yr inc glas a phorffor yn debyg iawn ac felly’n drysu’r cyfranogwyr, yn ogystal â'r ffaith bod y cyfranogwyr yn tynnu sylw ei gilydd wrth gwblhau’r prawf. Gellid bod wedi ymdrin â hyn yn eithaf syml trwy wirio pa mor debyg oedd y lliwiau i’w gilydd cyn dechrau’r ymchwil, a thrwy ofyn i’r cyfranogwyr gwblhau’r cyflyrau’n unigol yn hytrach nag mewn grwpiau, neu tra eu bod yn gwisgo clustffonau sy’n dileu sŵn.

Moeseg Roedd natur yr ymchwil yn awgrymu y gallai achosi straen i’r cyfranogwyr o bosibl, sy’n fater moesegol y mae’n well ei osgoi. Fodd bynnag, nid yw’n anarferol i fyfyrwyr Safon Uwch gwblhau profion, felly nid oedd y mater hwn yn achos pryder mawr. Rhoddwyd hawl i’r cyfranogwyr dynnu’n ôl hefyd rhag ofn y byddai’r prawf yn achosi gormod o straen iddyn nhw. Roedd cyfrinachedd yn fater moesegol posibl arall, oherwydd efallai na fyddai rhai o’r cyfranogwyr eisiau i bobl eraill wybod eu canlyniadau; felly, fe’u cadwyd yn ddienw heb unrhyw beth a fyddai’n adnabod y cyfranogwyr. Hwn oedd y darn cyntaf o waith ymchwil i’r naill neu’r llall ohonom ei gynnal, neu gymryd rhan ynddo, ond rydym wedi mwynhau’r broses gyfan yn fawr. Rydyn ni’n dwy’n dechrau graddau seicoleg yn y brifysgol y flwyddyn nesaf, ac yn teimlo bod hyn wedi bod yn sylfaen dda o ran gallu deall cymwysiadau seicoleg mewn bywyd go iawn, yn hytrach na darllen amdanyn nhw mewn gwerslyfr yn unig! Yn dilyn yr ymchwiliad hwn, rydyn ni’n dwy’n edrych ymlaen yn fawr at gwblhau darnau ychwanegol o waith ymchwil cyffrous wrth astudio ar gyfer ein graddau, ac efallai’n ddiweddarach mewn bywyd hefyd. Charlotte Draper - mae hi wrthi ar hyn o bryd yn astudio Seicoleg, Llenyddiaeth Saesneg, Mathemateg a Bagloriaeth Cymru yn Ysgol Basaleg. Mae hi’n gobeithio dechrau astudio Seicoleg ym Mhrifysgol Caerfaddon ym mis Medi 2017. Molly McGiveron - mae hi wrthi ar hyn o bryd yn astudio Seicoleg, Mathemateg, Bioleg a Bagloriaeth Cymru yn Ysgol Basaleg. Mae hi’n gobeithio dechrau astudio Seicoleg ym Mhrifysgol Abertawe ym mis Medi 2017.


14

A r ferion Ymchw il A mheus John Griffin, Athro Seicoleg yn Ysgol Ramadeg Bishop Vesey Birmingham Yn 2011, adroddodd Cymdeithas Seicolegol Prydain fod astudiaeth yn yr Unol Daleithiau wedi awgrymu bod arferion ymchwil yn amheus iawn a bod arfer gwael yn gyffredin (1). Pedair blynedd yn ddiweddarach, daeth astudiaeth fwy trylwyr, a ddefnyddiodd yr un cwestiynau ac a gynhaliwyd yn yr Almaen, i gasgliad mwy cymedrol o lawer - ond canfuwyd bod canlyniadau arwyddocaol yn parhau i gael eu honni’n ormodol, ymhlith arferion esgeulus eraill (2). Bydd myfyrwyr Safon Uwch yn gyfarwydd â beirniadaeth ynglŷn ag arfer gwael, gyda maint a chyfansoddiad samplau ar frig y rhestr - a hynny i’r fath raddau fel yr arferai cyn Brif Arholwr (Corff Dyfarnu arall) gynghori myfyrwyr i enwi samplau bach â thuedd o fyfyrwyr prifysgol o’r Unol Daleithiau fel mater waeth beth fo’r astudiaeth, gan ei fod mor gyffredin. Pa faterion eraill sy’n cuddio o dan yr wyneb o ran dulliau ymchwil? Un mater yw arwyddocâd ystadegol ymylol. Yn eu hail astudiaeth, mae Loftus a Palmer (1974) yn honni bod geiriad y cwestiwn arwyddocaol yn newid nifer yr ymatebwyr sy’n gweld gwydr wedi’i dorri (3). O’r 150 o gyfranogwyr, ni welodd 122 unrhyw wydr wedi’i dorri, felly gallech feddwl y byddai’n rhesymol dod i’r casgliad nad oedd unrhyw effaith. Fodd bynnag, ar ôl archwilio’r 28 a welodd wydr wedi’i dorri, fe ddaru nhw ganfod fod yr 16 yn y grŵp ‘wedi’i falurio’ yn dangos gwahaniaeth ystadegol arwyddocaol o’r 7 a’r 6 o ymatebwyr yn y grwpiau eraill. Onid yw hynny’n iawn, felly? Wel, pe byddai un cyfranogwr yn llai yn y grŵp ‘wedi’i falurio’ wedi gweld gwydr wedi’i dorri, ni fyddai’r canlyniad wedi mynd dros y trothwy 5% ar gyfer arwyddocâd. Yn eithaf agos at ddim canlyniad, felly? O, ac ie, roedden nhw’n fyfyrwyr prifysgol o’r Unol Daleithiau. Pam mae’r holl broblemau hyn yn codi gyda samplau? Un broblem yw bod tua 90% o’r seicoleg gyhoeddedig yn yr iaith Saesneg yn Americanaidd neu wedi’i hidlo

trwy gyhoeddiad Americanaidd ac, mewn gwirionedd, dim ond yn ddiweddar y mae gwerslyfrau Safon Uwch Saesneg wedi dechrau defnyddio mwy o ymchwil nad yw’n Americanaidd. Felly, byddai cyfran fawr o’r samplau a ddefnyddiwyd yn Americanaidd (materion diwylliannol), gyda myfyrwyr (tuedd o ran dosbarth cymdeithasol, grŵp ethnig o bosibl, a deallusrwydd) a hyd yn oed myfyrwyr seicoleg yn cael credydau am gymryd rhan yn aml. Nid yw hyn yn eithrio gwledydd eraill o’r un feirniadaeth! Mae maint samplau wedi bod yn broblem hefyd. Er bod llawer o astudiaethau clasurol wedi defnyddio samplau eithaf mawr, roedd gan rai (fel amrywiadau arbrofol 12-16 Milgram, a ddefnyddiodd 20 cyfranogwr yn unig) samplau eithaf bychain. (4). Gall hyn arwain at ‘honni’n ormodol’ hefyd, er enghraifft, pan honnodd Zimbardo gydymffurfiad rôl cyffredinol (yn ei ‘astudiaeth garchar’) er mai dim ond tri o’r ‘gwarchodwyr’ (Hellman, Landry a Burden) ddaru ymddwyn mewn ffordd sadistig mewn gwirionedd, gan sefydlu ac atgyfnerthu arferion ymddygiad nad oedd eraill yn eu copïo’n slafaidd (5). Beth am ddeunydd cwbl gamarweiniol? Mae hyn yn fwyaf amlwg pan fydd astudiaethau a gynhaliwyd mewn amgylchiadau annaturiol (e.e. labordai) yn cael eu cymharu ag astudiaethau bywyd go iawn. Un o’r honiadau pwysicaf ynglŷn â seicoleg wyddonol yw ei bod yn gallu herio hanesion a hyd yn oed ‘synnwyr cyffredin’. Ac eto, weithiau, fe welwn fod eiliad o fyfyrio synnwyr cyffredin, digwyddiad bywyd go iawn neu astudiaeth faes yn gallu herio astudiaethau labordy. Bydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr yn gyfarwydd â phroblem tystiolaeth llygaddyst. Mae astudiaethau labordy’n dangos yn gyson bod yr hyn sy’n cael ei gofio yn cael ei ystumio, tra byddai gwyddonydd esblygol yn honni bod ‘synnwyr cyffredin esblygol yn dweud y bydd pobl yn cofio digwyddiadau bygythiol yn dda’. Ac felly y mae, yn gyffredinol, gydag astudiaethau bywyd go iawn fel Yuille a Cutshall (1986). Ym maes rhythmau biolegol, mae llawer o werslyfrau’n parhau i ddweud bod y sloth yn cysgu am 19 awr y dydd, sef ffigur a ddyfynnwyd flynyddoedd lawer yn ôl am astudiaeth o sloth sy’n byw mewn caethiwed. Bu’n rhaid aros i synwyryddion diwifr gael eu dyfeisio er mwyn i Rattenborg et al (6) ddangos bod y sloth yn y jyngl yn Ne America yn cysgu ychydig dros 9 awr yn unig ar gyfartaledd, y gellid ei ragfynegi o’u safle yn yr hierarchaeth ysglyfaethwr-ysglyfaeth. Nid yw hyn yn golygu bod diffyg dilysrwydd allanol mewn


15 astudiaethau labordy yn gyffredinol! Os byddwch chi’n defnyddio’r feirniadaeth honno, esboniwch PAM bob tro gan roi enghraifft berthnasol. Mae’n ymddangos bod hyn yn sefydlu’r rheol bod ymchwil mwy newydd yn fwy tebygol o fod yn ddilys, ac mae hynny’n wir i ryw raddau am ailadroddiadau. Fodd bynnag, mae rhai ‘ailadroddiadau’ (fel ailadroddiad rhannol Haslam a Reicher (2001) o astudiaeth garchar Zimbardo) yn sylweddol wahanol ac yn creu cryn dipyn o ddadlau ynglŷn â›u perthnasedd a’u goblygiadau i ddilysrwydd a dibynadwyedd yr astudiaeth gynharach. Ar y llaw arall, mae gwaith Milgram ar ufudd-dod wedi sefyll yn gadarn o gael ei ailadrodd yn helaeth (7) ac, yn wir, gellir ei bwysleisio’n graffigol gan ddefnyddio dulliau modern (e.e. yr ailadroddiad ‘sioe gemau’ Ffrengig https://www.youtube.com/watch?feature=player_ detailpage&v=aqZEDnykP4s )(8) Gallech gyrraedd y cam hwn a meddwl tybed beth allwch chi ymddiried ynddo. Yn anffodus, mae’r angen brys i gyhoeddi a’r cyfyngiadau ar ddeunydd ar gyfer gwerslyfrau Safon Uwch newydd yn arwain, yn eithaf aml, at gopïo a gludio deunydd blaenorol heb ymchwil i’w ddilysu neu ei ddiweddaru. Mae awduron yn gwneud eu gorau yn yr hyn sy’n amgylchiadau eithaf anodd. Mae problem yn codi hefyd oherwydd bod llawer o adnoddau astudio ar-lein yn grynodebau gor-syml o hen ddeunydd. Felly, os ydych chi eisiau gwybod beth yw’r sefyllfa bresennol, gallech roi cynnig ar Wikipedia (sy’n gymharol gywir a chyfredol fel arfer) neu Fwletin Cymdeithas Seicolegol Prydain, sy’n well gennyf i (mae’n cynnwys llawer o grynodebau da a gellir defnyddio’r porwr sydd ar y wefan https://digest.bps.org.uk). Y peth da am chwilio yw y byddwch yn aml yn dod o hyd i wybodaeth wych nad oeddech yn chwilio amdani!

Geirda 1. Leslie John, George Loewentstein, a Drazen Prelec: ‘Measuring the prevalence of questionable research practices with incentives for truthtelling’. Psychological Science 2011 2. Fiedler, K., a Schwarz, N: ‘Questionable Research Practices Revisited’ Social Psychological and Personality Science (2015) 3. EF Loftus, JC Palmer: ‘Reconstruction of automobile destruction: An example of the interaction between language and memory’ Journal of verbal learning and verbal behaviour, 1974 4. Stanley Milgram: ‘Obedience to authority’ Harper Collins 1974 (ailargraffiad 2013) 5. P Zimbardo: ‘The Lucifer Effect’ Rider Books 2007 tud. 43 ymlaen 6. Rattenborg, N et al: ‘Sleeping outside the box: electroencephalographic measures of sleep in sloths inhabiting a rainforest.’ Biology Letters 2008, 4(4):402-405 7. T. Blass: ‘The man who shocked the world’ Basic Books 2004 Atodiad C 8. J-L Beauvois et al: ‘The prescriptive power of the television host. A transposition of Milgram’s obedience paradigm to the context of TV game show’ Revue européenne de psychologie appliquée Volume 62, n° 3 (Juillet 2012)


d

hy wedd o r u ra a h n t e a

ew

Arsylwi g wa ha ni

16

isi

ada u bw yd

Ys g r i f e n n w y d g a n Ve r i t y M c Co y, m y f y r w r a i g B l w y d d y n 12 o G o l e g Sant Edward, Lerpwl CYFLWYNIAD

RHAGDYBIAETH NWL: Ni fydd gwahaniaeth yn nifer y gwrywod a’r benywod sy’n dewis salad fel bwyd iach.

bwyta ffrwythau ac yn cyfyngu faint o halen yr oeddent yn ei fwyta mewn bron pob un o’r 23 o wledydd. Roedd menywod yn credu bod bwyta’n iach yn bwysicach hefyd. Yn ogystal â’r astudiaeth hon, fe wnaethon ni ganfod fod bwyta’n iach yn ymddygiad rhyweddol sy’n gyffredin ymhlith ein cyfoedion hefyd, felly o ganlyniad i’r ffactor hwn ac ymchwil sefydledig sy’n awgrymu bod menywod yn fwy tebygol o fwyta’n iach, fe ddewisom ragdybiaeth gyfeiriol.

RHAGDYBIAETH AMGEN (ARBROFOL): Bydd mwy o fenywod yn dewis salad fel bwyd iach o gymharu â gwrywod.

NEWIDYNNAU: Gwnaethom weithredoli rhywedd trwy ddefnyddio gwrywod a benywod, a gweithredoli dewisiadau bwyd trwy ddatgan salad fel dewis bwyd iach.

PAM Y DEWISWYD Y RHAGDYBIAETH HON: Ymchwiliodd yr Adran Iechyd Cyhoeddus, Coleg Prifysgol Llundain (2004), i wahaniaethau rhywedd o ran ymddygiad iechyd. Archwiliwyd ymddygiad dewis bwyd mewn sampl mawr o oedolion ifanc o 23 o wledydd. Darganfuwyd bod menywod yn fwy tebygol na dynion o ddweud eu bod yn

METHODOLEG:

NOD: Gweld a oes gwahaniaethau rhywedd o ran dewisiadau bwyd iachus trwy farnu yn ôl nifer y benywod a’r gwrywod a ddewisodd ac na ddewisodd salad gyda’u cinio.

DULL: Dewisom ddull arsylwi anghyfranogol gan ein bod ni eisiau i’r canlyniadau fod yn ddewisiadau bwyd realistig. Fe wnaethon ni gynnal yr ymchwil mewn ffreutur ysgol fel ei fod mewn amgylchedd naturiol.


17 SAMPL: Defnyddiom ddisgyblion 11-14 oed ac athrawon fel y grŵp samplu yn ein hymchwil.

GWEITHDREFN: TECHNEGAU SAMPLU Techneg samplu cyfranogwyr: Defnyddiwyd samplu cyfle i ddewis disgyblion a staff. Y cyfranogwyr a ddewiswyd oedd y rhai hynny a oedd yn cael egwyl ginio ar y pryd ac a oedd ar ‘ochr bwyd poeth’ y ffreutur.

CANFYDDIADAU: TABL CANLYNIADAU: Gwrywod

Benywod

Wedi dewis salad

8

18

Heb ddewis salad

22

22

Gwerthuso’r dechneg samplu cyfranogwyr: Dyma oedd y ffordd orau o ymchwilio i ddewisiadau bwyd naturiol, fodd bynnag; ni fyddem yn cael gwybod yr union resymau dros ddewis salad.

Benywod Gwrywod 25

Techneg samplu arsylwadol: Defnyddiwyd samplu digwyddiad hefyd oherwydd bod yr ymchwilwyr wedi creu tabl i gofnodi’r ymddygiadau a arsylwyd (gwrywod a benywod na ddewisodd salad). Yna, fe wnaethon nhw gofnodi sawl gwaith y dewisodd wrywod a benywod y math o fwyd wrth iddyn nhw wneud y dewis hwnnw.

GWEITHDREFN: Penderfynodd dosbarth Blwyddyn 13 ymchwilio i ddewisiadau bwyd iach. Fe benderfynon nhw mai salad oedd y newidyn bwyd iach yr oedden nhw’n mynd i’w arsylwi. Gwirfoddolodd pedwar disgybl Blwyddyn 13 i gwblhau’r arsylwad. Creodd yr ymchwilwyr siart cyfrif. Y colofnau a ddefnyddiwyd oedd gwrywod a benywod, a’r rhesi oedd ‘Wedi dewis salad’ neu ‘Heb ddewis salad’. Aeth yr ymchwilwyr i’r ffreutur rhwng 12:20pm a 12:45pm a chofnodi marc rhifo bob tro yr oedd 70 o wrywod a benywod wedi dewis salad neu heb ddewis salad, gan ddefnyddio ysgrifbin, papur a’r tabl canlyniadau yr oedden nhw wedi’i greu. Fe wnaethon nhw gyflwyno’r canlyniadau i’r dosbarth.

Amlder

15

10

5

la

d

ad H

eb

dd ew

is

sa

sa l

W ed id ew is

w is dd e H eb

ed id

ew

is

sa

sa l

la

ad

d

0

W

Gwerthuso’r dechneg samplu digwyddiad: Defnyddiwyd samplu digwyddiad oherwydd dyna’r dull arsylwadol gorau gan fod yr ymchwilwyr yn cofnodi marc rhifo bob tro yr oedd gwryw neu fenyw’n dewis salad. Mae dilysrwydd ecolegol y dull hwn yn uchel oherwydd bod y bwyd yn cael ei ddewis mewn lleoliad naturiol (ffreutur coleg yn ystod amser cinio) a bod y ffordd yr oedd yr ymchwilwyr wedi’u lleoli eu hunain yn golygu ei bod yn annhebygol iawn y bydden nhw’n colli unrhyw ddewis o salad gan y gwrywod a’r benywod a oedd yn cael eu harsylwi. Gan fod un digwyddiad arsylwi yn unig yn cael ei gynnal ar y pryd, mae’n debygol iawn y byddai’r ymchwilwyr yn gallu cofnodi pob dewis o fwyd gan y 70 o gyfranogwyr. Roedd hyn yn well na samplu amser (lle mae arsylwyr yn gwylio am gyfnod penodol ac yna’n cofnodi ymddygiad) oherwydd gallai’r ymchwilwyr fod wedi anghofio dewisiadau bwyd gwrywod a benywod erbyn iddyn nhw gofnodi’r wybodaeth.

20

Dewis o fwyd CYNRYCHIOLIAD GWELEDOL: Siart bar i ddangos nifer y gwrywod a’r benywod a ddewisodd fwyd iach YSTADEGAU DISGRIFIADOL: Gan fod y data’n enwol, dim ond y modd y gellir ei gyfrifo. Dewisodd 8 gwryw salad a dewisodd 18 benyw salad. YSTADEGAU CASGLIADOL: Roedd ein data’n cael ei fesur ar lefel enwol oherwydd defnyddiwyd data categorïaidd (‘wedi dewis salad’ neu ‘heb ddewis salad’). Roedd ein dyluniad arbrofol ar ffurf mesurau annibynnol oherwydd ein bod ni’n defnyddio dau grŵp ar wahân a oedd yn wrywod a benywod, felly dewiswyd prawf ystadegol casgliadol Chi (χ) Sgwâr. Yn ogystal, prawf gwahaniaeth oedd hwn yn hytrach na phrawf perthynas.


18 ARWYDDOCÂD YSTADEGOL: Roedd ein gwerth gwirioneddol o 2.38 yn is na’r gwerth critigol o 2.71 ar gyfer rhagdybiaeth ungynffon lle’r oedd un radd rhyddid. Dylai’r gwerth gwirioneddol ar gyfer Chi Sgwâr fod yn hafal i’r gwerth critigol neu’n uwch nag ef er mwyn bod yn arwyddocaol, felly roedd rhaid i ni dderbyn ein rhagdybiaeth nwl a gwrthod ein rhagdybiaeth amgen.

CASGLIAD Daethpwyd i’r casgliad nad oedd gwahaniaeth arwyddocaol rhwng dewisiadau bwyd gwrywod a benywod o ran dewis salad neu beidio â dewis salad. Er bod gwahaniaethau bach, nid oedd y rhain yn ddigon arwyddocaol i dderbyn ein rhagdybiaeth amgen, felly daethom i’r casgliad nad oes gwahaniaeth rhywedd o ran dewis bwyd.

GWERTHUSO (TRAFOD): Dibynadwyedd: Dibynadwyedd rhyng-raddwyr Arsylwodd pedwar ymchwilydd ymddygiad gwrywod a benywod a ddewisodd neu na ddewisodd salad. Arweiniodd hyn at lefel uchel o ddibynadwyedd oherwydd bod pob ymchwilydd yn cofnodi dewis o fwyd, yn cymharu ei ganlyniadau â’r ymchwilwyr eraill ac yn meddu ar yr un data. Roedd hyn yn sicrhau cysondeb a chanlyniadau cywir. Un mater dibynadwyedd oedd nad oedd oedran yn cael ei gadw’n gyson. Er nad oedd oedran yn cael ei ymchwilio, gallai peidio â’i gadw’n gyson fod wedi effeithio ar y canlyniadau yn yr ystyr y gallai pobl o wahanol oedrannau ddewis bwydydd gwahanol am resymau gwahanol. Dilysrwydd: Roedd dilysrwydd uchel i’r arsylwad hwn oherwydd cafodd ei gynnal yn ffreutur yr ysgol yn ystod amser cinio, felly roedd y gwrywod a’r benywod a oedd yn cael eu harsylwi yn gwneud dewisiadau bwyd naturiol heb unrhyw ddylanwad gan yr arsylwyr. Mae hyn yn golygu y gellir cyffredinoli canfyddiadau ein hymchwiliad i ddewisiadau bwyd gwrywod a benywod yn y byd go iawn. Fodd bynnag, roedd dilysrwydd mewnol yr ymchwil yn wan oherwydd nid oedd yr arsylwyr yn gwybod pam y penderfynodd pob gwryw neu fenyw ddewis salad neu beidio. Mae’n bosibl nad rhywedd oedd wedi effeithio ar eu dewis o fwyd, ond rhyw ffactor arall e.e. alergeddau bwyd neu ofynion dietegol. Er mwyn cynyddu dilysrwydd mewnol, gallai’r ymchwilwyr fod wedi gofyn i bob gwryw a benyw pam y dewison nhw’r bwyd hwnnw ac a oedd unrhyw resymau pam y dewison nhw salad neu na ddewison nhw salad. Materion Moesegol: •  Oherwydd un o’r problemau a oedd yn gysylltiedig â’r ymchwil oedd nad oeddem yn gwybod y rhesymau dros y dewisiadau bwyd, dylid gofyn i’r cyfranogwyr pam y gwnaethon nhw’r dewisiadau hynny fel y gallem bennu p’un ai rhywedd oedd y ffactor a oedd yn cyfrannu at ddewisiadau bwyd neu a oedd newidyn arall wedi achosi hyn. Byddai

hyn hefyd wedi rhoi’r hawl i’r cyfranogwyr dynnu eu canlyniadau yn ôl. •  Preifatrwydd - Gan nad oedd y cyfranogwyr yn gwybod eu bod yn cael eu harsylwi a bod eu data’n cael ei gofnodi, roedd hynny’n tresmasu ar eu preifatrwydd. Fodd bynnag, gan fod yr ymchwil wedi cael ei gynnal mewn man cyhoeddus, dylai’r cyfranogwyr fod wedi disgwyl cael eu gwylio gan bobl i ryw raddau. Felly, nid yw preifatrwydd yn fater moesegol o bwys. •  Cydsyniad dilys - ni ddatgelwyd gwir nod yr arsylwi i’r cyfranogwyr fel y gallen nhw gydsynio i’w canlyniadau gael eu defnyddio yn y gwaith ymchwil. O ganlyniad i hyn, ni roddwyd yr hawl iddynt dynnu eu canlyniadau’n ôl o’r ymchwil os nad oedden nhw eisiau iddynt gael eu defnyddio, sydd yn erbyn y cod ymddygiad moesegol. Fodd bynnag, mae’r ffaith na ofynnon ni gwestiynau i’r cyfranogwyr yn golygu nad oedd cyfrinachedd yn fater oherwydd nid oedd gennym ni unrhyw wybodaeth bersonol ac ni wnaethon ni recordiad fideo o ddewisiadau bwyd ein cyfranogwyr.

GWELLIANNAU AR GYFER Y DYFODOL Oed: Roedd y cyfranogwyr a ddefnyddiwyd yn y sampl yn dod o nifer o grwpiau oedran. Felly, gellir ystyried bod oedran yn newidyn dryslyd oherwydd y posibilrwydd bod dewisiadau bwyd yn gysylltiedig ag oedran yn hytrach na rhywedd. Er enghraifft, roedd mwyafrif y rhai a ddewisodd salad yn aelodau staff yn hytrach na disgyblion, sy’n dangos bod oedran yn cyfrannu mwy at y canlyniadau na rhywedd. Wrth ailadrodd yr ymchwiliad, dylid cadw oedran yn gyson er mwyn archwilio effaith rhywedd ar ddewisiadau bwyd ac nid effaith oedran a dewisiadau bwyd. Cydsyniad: Gan fod cydsyniad dilys yn fater moesegol yn y gwaith ymchwil, dylid mynd at y cyfranogwyr ar ddiwedd yr arsylwi a rhoi adborth iddyn nhw ar yr ymchwil. Bydd hyn yn caniatáu iddyn nhw gydsynio neu dynnu’n ôl, a fydd yn lleihau’r problemau moesegol sy’n gysylltiedig â’r ymchwil. Byddai hyn hefyd yn lleddfu unrhyw bryderon neu baranoia a deimlir gan y cyfranogwyr wrth gael eu gwylio, a fydd yn cynyddu’r dilysrwydd unwaith eto. Diwrnodau’r gwaith ymchwil: Dylid bod wedi cynnal yr ymchwil am gyfnod hwy dros nifer o ddiwrnodau er mwyn cael sampl mwy cynrychioliadol i gasglu canlyniadau ohono. Gallai fod nifer o resymau pam na ddewisodd rhywun salad ar ddiwrnod penodol - er enghraifft, os oedd angen iddyn nhw aros ar ôl ysgol i wneud chwaraeon ac felly eisiau rhywbeth mwy sylweddol. Pe byddai’r ymchwil wedi cael ei gynnal dros nifer o ddiwrnodau, byddai hynny wedi cyfrif am y newidynnau sefyllfaol hyn a bydden nhw wedi dod yn gyfartal, gan roi canlyniadau mwy cywir.


19

DY DDI A DAU PW YSIG Canolfannau TAG Seicoleg yng Nghymru yn unig

Dydd Llun 14 Mai P.M.

Cyfres Haf 2018 Seicoleg Uned 1 2290U10-1 arholiad (Cymru yn unig)

Dydd Iau 17 Mai P.M.

Cyfres Haf 2018 Seicoleg Uned 2 2290U20-1 arholiad (Cymru yn unig)

Dydd Llun 4 Mehefin P.M.

Cyfres Haf 2018 Seicoleg Uned 3 1290U30-1 arholiad (Cymru yn unig)

Dydd Gwener 8 Mehefin A.M.

Cyfres Haf 2018 Seicoleg Uned 4 1290U40-1 arholiad (Cymru yn unig)


20

Tudalen We Adnoddau Seicoleg CBAC Bydd y dolenni isod yn eich tywys i dudalennau gwe newydd Adnoddau Digidol TAG Seicoleg CBAC, lle mae gennym ni adnoddau yn ymwneud â'r canlynol:

http://adnoddau.cbac.co.uk/


21

Dosraniadau Sgiw Gan Heather Miller o Ysgol Benenden 1. Sefwch ar ddarn o bapur A3 (heb wisgo esgidiau, yn ddelfrydol) gyda’ch traed ychydig ar led. 2. Tynnwch amlinelliad o’ch traed (neu gofynnwch i rywun arall wneud hynny ar eich rhan). 3. Nawr, tynnwch yr echelin. Ar y droed chwith, tynnwch yr echelin y ychydig i ffwrdd oddi wrth ochr chwith y droed. Ar y droed dde, tynnwch yr echelin y yn union i’r chwith o’r droed. Ychwanegwch yr echelin x o dan y ddwy droed. 4. I dynnu’r gromlin, dechreuwch ar waelod yr echelin y ar y droed chwith a ffurfio bwa dros y droed. Ar gyfer y droed dde, dechreuwch ar frig yr echelin y a ffurfiwch gromlin i lawr i’r echelin x. 5. Nawr, ychwanegwch eich Cymedr, Canolrif a Modd i’r ddwy droed: Tynnwch linell lorweddol o’r gromlin i’r echelin x ar y Droed Chwith a’r Droed Dde yn unol â’r canlynol:

a) Modd – mwyaf – bys bawd b) Canolrif – canol – bys canol y droed c) Cymedr – ‘gorgynnil’ – bys bach y droed 6. .Yn olaf, labelwch y ddau graff (dilynwch y rheol Ch/D a Negyddol/Cadarnhaol)

a) Chwith – Negyddol b) De – Cadarnhaol


22

Cwestiynau 1. Roedd ymchwilwyr a oedd yn astudio straen wedi defnyddio holiadur i raddio'r cyfranogwyr o ran y trafferthion dyddiol yr oedden nhw wedi'u profi yn ystod yr wythnos flaenorol. Y sgôr trafferthion dyddiol gymedrig oedd 65, y sgôr trafferthion dyddiol ganolrifol oedd 67 a'r sgôr trafferthion dyddiol foddol oedd 78.Brasluniwch graff i ddangos y gromlin ddosraniad debygol ar gyfer y sgorau yn yr astudiaeth hon. 2. Llenwodd 200 o gyfranogwyr holiadur a ddefnyddiwyd i ganfod cyfraddiadau ymosodedd. Y sgôr ymosodedd gymedrig oedd 29, y sgôr ymosodedd ganolrifol oedd 20 a'r sgôr ymosodedd foddol oedd 19. Brasluniwch graff i ddangos y gromlin ddosraniad debygol ar gyfer y sgorau yn yr astudiaeth hon. Pa fath o ddosraniad a ddangosir gan y graff? 3. Mewn astudiaeth galw i gof, profwyd pa mor dda y gallai'r cyfranogwyr gofio rhestr o 15 gair. Nifer cymedrig y geiriau a gofiwyd oedd 10, y canolrif oedd 11 a'r modd oedd 13. Pa fath o ddosraniad sydd gan y data hwn? 4. Mae Anna'n astudio'r berthynas rhwng cyniferydd deallusrwydd (IQ) a rolau rhywedd. Mae hi'n rhoi prawf IQ i 25 o gyfranogwyr. Mae sgorau'r cyfranogwyr wedi'u dosrannu'n gyffredin. Brasluniwch gromlin ddosraniad o ganlyniadau Anna.

1. 2. 3. 4.

Sgiw negatif Sgiw positif Sgiw negatif Dosraniad cyffredin


Mewnwelediad i Broblemau Posibl Ymchw iliad Per sonol

23

“Trwy fethu â pharatoi, rydych chi’n paratoi i fethu”

Gan Christopher Condliff a Molly Parker o Goleg St Edward’s, Lerpwl Ein Hymchwiliad Personol Yn ôl yr hen ddywediad, trwy fethu â pharatoi, rydych chi’n paratoi i fethu. Roedd doethineb yr hen fantra hwn yn seinio’n glir wrth i ni gynnal ein hymchwiliad personol, a dysgwyd gwersi yr hoffem ni eu trosglwyddo i bobl eraill, sy’n amlygu pwysigrwydd cynllunio, trwy rannu ein profiad gyda myfyrwyr eraill.

ein gwir nodau (felly, roedd y 4 cwestiwn yna’n fodd o wneud i’r ymchwiliad i ryfel ymddangos yn ddilys/ realistig). Gan eich bod chi bellach yn gwybod beth oedd ein hymchwiliad terfynol, gadewch i ni esbonio’r problemau y daethon ni ar eu traws ar y ffordd, a oedd yn niferus ond a oedd wedi rhoi mewnwelediad gwerthfawr i ni ynglŷn â’r hyn na ddylid ei wneud.

Cefndir Ein tasg oedd cynnal ein hymchwiliad personol yn annibynnol i ‘effeithiau cyd-destun ar ganfyddiad’. Yn ei hanfod, roedden ni’n ymchwilio i b’un ai a oedd modd dylanwadu ar sut mae rhywun yn deall rhywbeth ai peidio (gwrthrych, delwedd neu hyd yn oed syniad) trwy drin yr amgylchiadau (y cyd-destun) lle yr arsylwir y gwrthrych/syniad yn fwriadol. Dechreuodd ein hymchwiliad o’r diwedd ar ôl wynebu rhai problemau. Yn y pen draw, fe ddefnyddion ni ddau fideo hysbysebu a phum cwestiwn cysylltiedig. Gwyliodd y cyfranogwyr un o’r ddau fideo hysbysebu, yr oedd un ohonyn nhw’n emosiynol ‘gadarnhaol’ a’r llall yn ‘negyddol’. Roedd y ddau’n ymwneud â rhyfel. Yna, atebodd y cyfranogwyr bum cwestiwn cysylltiedig. Roedd y trydydd o’r pum cwestiwn yn ‘rhith-ddelwedd geiriau’, sef darn o waith celf a oedd yn dangos y geiriau cyferbyniol ‘Cariad’ a ‘Chasineb’ ar yr un pryd.

Beth ar wyneb y ddaear oedd ar ein pennau? Y broblem gyntaf a wynebon ni oedd penderfynu ar ein rhagdybiaeth, yn sgil y ffaith nad oedd gennym ni syniad beth i’w wneud o ran ein methodoleg. Roedd y broblem hon wedi arafu ein cynnydd yn sylweddol o gymharu â gweddill y dosbarth - er y llwyddon ni i ddal i fyny. Yn y pen draw, rydyn ni’n pwysleisio na ddylai unrhyw ymchwiliad, ni waeth faint y credwch y gallwch “feddwl ar eich traed” neu ei ddatrys yn ddiweddarach, gael ei gynnal hyd nes y byddwch yn gwybod yn union beth rydych chi’n ei wneud. - bydd yr ymchwiliad cyfan yn chwalu fel gêm o Jenga. Mae eich ystyriaethau moesegol, a wiriwyd gan ein gwerthusiadau athro a’n canfyddiadau, oll yn dibynnu ar y ffordd rydych chi’n cynnal yr astudiaeth. Felly, treuliwch amser, efallai gan ddefnyddio llyfr nodiadau i feddwl am rai syniadau, ac yna datblygwch yr un sy’n ymddangos yn fwyaf effeithiol cyn dechrau eich ymchwiliad. Fe ddysgon ni’r ffordd galed fel na fydd rhaid i chi!

Ein cred oedd y byddai’r cyfranogwyr a wyliodd yr hysbyseb negyddol yn canfod y gair negyddol ‘Casineb’ yn naturiol. Yn yr un modd, byddai’r rhai a wyliodd yr hysbyseb gadarnhaol yn gweld ‘Cariad’ yn y rhithddelwedd. Ni ddefnyddiwyd yr atebion a roddwyd i’r pedwar cwestiwn arall yn ein canlyniadau. Fe ddywedon ni wrth ein cyfranogwyr ein bod ni’n cynnal ymchwiliad i agweddau tuag at ryfel, er mwyn osgoi nodweddion awgrymu ymateb gan gyfranogwyr a oedd yn sylweddoli

Problemau Rhith-ddelwedd Fe ddaethon ni ar draws problem arall yn ymwneud â’n ‘rhith-ddelwedd geiriau’. Nid oedd yn anodd dod o hyd i rith-ddelweddau geiriau gan fod llond gwlad ar gael ar Google Images, ond mae llawer wedi cael eu gweld o’r blaen. Y rhith-ddelwedd a ddefnyddion ni yn y pen draw oedd darn o waith celf y gellid darllen y geiriau ‘cariad’ a ‘chasineb’ ynddo’n amwys. Fodd bynnag, ni wnaed y penderfyniad i ddefnyddio’r rhith-ddelwedd cariad/casineb ar frys. Yn debyg i’n pwynt yn ymwneud â phenderfynu ar ddull cyn eich methodoleg, nid oedd gennym syniad pa fath o ganfyddiad yr oedden ni eisiau ei brofi. Yn amlwg, gellir dadlau bod y rhith-ddelwedd cariad/casineb yn un sydd wedi’i seilio ar ganfyddiad emosiynol, ac eto mae rhithddelweddau eraill yn bodoli sy’n ymwneud â gwahanol ffactorau yn gysylltiedig â chanfyddiad. Er enghraifft, mae llawer o rith-ddelweddau geiriau neu rith-ddelweddau poblogaidd yn gyffredinol yn dibynnu ar weithrediad gwybyddol a phrofiad bywyd unigolyn, nid


24 dim ond ei gyflwr emosiynol/hwyliau. (Ffaith Ddiddorol: mae gwyddor rhith-ddelweddau’n datgan bod ein hymennydd yn agored i dwyll rhithddelweddol ac ystryw o ganlyniad i reddf oroesi esblygol - bydd yr ymennydd yn aml yn defnyddio ‘llwybr tarw’ o ran gwybodaeth a dderbynnir trwy olau, er mwyn helpu pobl gynnar i oroesi wrth ddod wyneb yn wyneb ag ysglyfaethwyr cyflym) Yn y pen draw, dewiswyd y rhith-ddelwedd cariad/ casineb ar ôl pori trwy rith-ddelweddau rhyfedd nad oedden nhw’n gweithio hyd yn oed. Yn yr un modd â’ch methodoleg, rhaid penderfynu ar eich newidynnau (ein newidyn dibynnol oedd yr hyn yr oedd y cyfranogwyr yn ei ganfod yn ein rhith-ddelwedd) a’u cadw mewn cof cyn mynd ati i gynnal unrhyw ymchwiliad. Gorau po symlaf - peidiwch â defnyddio gormod o newidynnau! Yn yr ymchwiliad hwn, gall defnyddio gormod o newidynnau neu gorgymhlethu nodau eich astudiaeth fod yn niweidiol. Y rheswm am hyn yw oherwydd bod nifer o newidynnau, er eu bod yn rhoi llawer o wybodaeth, yn gallu bod yn ddisbyddol hefyd. Un enghraifft o hyn yw’r ffaith y gallai gorgymhlethu eich ymchwiliad â gormod o newidynnau guddio arwyddocâd unrhyw newidynnau sy’n cael effaith wirioneddol ar y canlyniad. Mae’r newidynnau hyn yn amrywio’n systematig yn unol â’ch newidyn annibynnol, ac fe’u gelwir yn Newidynnau Dryslyd. Gall y newidynnau hyn ddrysu ein canlyniadau, sy’n golygu, yn ein hachos ni, pe byddem yn defnyddio gormod o newidynnau (ar wahân i’n newidynnau annibynnol a dibynnol) na fyddem yn gallu gwneud unrhyw gasgliadau pendant i bob pwrpas. Gellir cael canlyniadau argyhoeddiadol trwy gadw pethau’n syml. Cyd-destun Nod ein hymchwiliad oedd archwilio effaith cyddestun ar ganfyddiad unigolyn. Felly, yn naturiol, roedd penderfynu ar y cyd-destun i ddylanwadu ar ganfyddiad ein cyfranogwyr yn eithaf pwysig. Roedd hyn yn haws o lawer na phenderfynu ar ein rhagdybiaeth a’n rhithddelwedd. Fe benderfynon ni ddefnyddio hysbysebion yn ymwneud â rhyfel, a hynny’n seiliedig ar natur ein rhith-ddelwedd yn unig. Roedd rhan o’n rhagdybiaeth yn tybio, gan fod ein rhith-ddelwedd yn cynnwys cariad a chasineb, sy’n emosiynau cwbl groes i’w gilydd, dim ond cyd-destun a fyddai’n ysgogi’r emosiynau hyn mewn rhyw ffordd a fyddai’n addas i’n hastudiaeth. Yna, fe geision ni feddwl am rywbeth yn y byd a allai achosi emosiynau eithafol i unrhyw un, ni waeth beth fo’i amgylchiadau personol. Fe benderfynon ni ddefnyddio rhyfel, gan fod ei effeithiau trallodus yn sicr o ysgogi rhyw fath o ymateb. Dylai penderfynu ar eich cyd-destun fod yn rhwydd, ac roedd gan lawer o’n cyfoedion syniadau tebyg, gan gynnwys rhith-ddelwedd ‘Da/Drwg’ a oedd yn defnyddio hysbyseb ar gyfer ffilm arswyd i geisio ysgogi ymateb negyddol i’r canfyddiad o ‘Ddrwg’, a hysbyseb ar gyfer ffilm gomedi ramant i geisio ysgogi canfyddiad

cadarnhaol o ‘dda’. Os yw eich nodau, eich rhagdybiaeth a’ch methodoleg yn gadarn, dylai popeth arall ddilyn yn rhwydd. Cofiwch, bydd paratoi’n iawn yn atal perfformiad gwael! Moeseg Wrth gwrs, fel y dywed Cymdeithas Seicolegol Prydain, rhaid rhoi’r brif flaenoriaeth a’r pwys mwyaf i bryderon moesegol ac, mewn unrhyw ymchwiliad, mae’n ddyletswydd arnom i fod yn ymwybodol o’r angen i ddiogelu’r cyhoedd; cyflawnir hyn yn rhannol trwy fynegi egwyddorion, gwerthoedd a safonau moesegol eglur. Yn amlwg, fe ddylen ni gymhwyso hyn i’n holl ymchwiliadau. Felly, yn ein hachos ni, fe ddaethon ni ar draws 4 o’r prif faterion moesegol sy’n gysylltiedig ag astudiaeth seicolegol; cyfrinachedd, twyll, amddiffyn rhag niwed a’r hawl i dynnu’n ôl. Ymdriniwyd â’r materion hynny’n llwyddiannus ac yn drefnus. Yn achos cyfrinachedd, mae’n bosibl na fydd cyfranogwyr eisiau i’w canlyniadau gael eu rhannu, yn enwedig os yw eu henw’n bresennol. O ran ein hymchwiliad ni, mae’n bosibl na fyddai’r cyfranogwyr eisiau i’w canlyniadau gael eu rhannu gan fod ein hymchwiliad yn ymwneud â chanfyddiadau o ryfel/gwleidyddiaeth ac felly’n datgelu eu hwyliau neu bersonoliaeth o bosibl - a allai godi cywilydd arnyn nhw. Felly, fe gadwon ni wybodaeth ein cyfranogwyr yn gyfrinachol, gan ddefnyddio eu canlyniadau yn unig heb ofyn am enwau na data preifat. O ran yr egwyddor ‘amddiffyn rhag niwed’, nid oeddem yn credu bod ein hymchwiliad yn arbennig o niweidiol, er y gallai’r delweddau o ryfel yn ein hysbysebion fod wedi achosi gofid i rai. Neu efallai, gallai gweld y gair ‘casineb’ yn ein rhith-ddelwedd fod wedi achosi rhywfaint o ofid, felly er mwyn lleihau gofid fe ddywedon ni wrth bob cyfranogwr nad oedd y rhith-ddelwedd a welson nhw (os oedd yn negyddol - ‘casineb’) yn adlewyrchu eu hwyliau neu bersonoliaeth gyffredinol. Prawf rhith-ddelwedd syml ydoedd yn unig a oedd yn dibynnu ar effeithiau cyddestun ar ganfyddiad. Yn yr un modd, fe ddywedon ni wrthyn nhw fod y delweddau o ryfel a welson nhw wedi cael eu golygu’n benodol yn fwriadol er mwyn ysgogi ymatebion emosiynol (cadarnhaol neu negyddol) at ddibenion hysbyseb. O ganlyniad i’r gofid posibl hwn, rhoddwyd hawl i’r cyfranogwyr dynnu’n ôl unrhyw bryd cyn neu yn ystod yr astudiaeth, ac eglurwyd hyn yn ein cyfarwyddiadau safonol. Fe dwyllon ni ein cyfranogwyr, trwy ddweud wrthyn nhw ein bod ni’n astudio canfyddiadau o ryfel, pan oedden ni’n ymchwilio i effeithiau cyd-destun ar ganfyddiad mewn gwirionedd. Roedd hyn yn angenrheidiol er mwyn osgoi nodweddion awgrymu ymateb, a rhoddwyd gwybod i’r cyfranogwyr am wir natur yr arbrawf wrth adrodd yn ôl. Problemau Samplu - Gwell y drwg na wyddys. Dylai casglu eich sampl ynghyd fod yn un o’r camau hawsaf y gallwch ei gwblhau yn eich Ymchwiliad Personol, ond ni ddylid ei esgeuluso. Yn ôl pob tebyg, eich greddf gyntaf fydd samplu eich ffrindiau yn eich grŵp


25 blwyddyn - camgymeriad mawr. Ni fydd eich ffrindiau, er mor hoffus yr ydyn nhw, yn wirioneddol gynrychioliadol o’r poblogaethau rydych chi eisiau ymchwilio iddyn nhw. Er eu bod nhw’n bobl fel pawb arall, oherwydd eu bod nhw’n ffrindiau/cyfoedion i chi, maen nhw’n fwy tebygol o lawer o gymhlethu eich ymchwiliad trwy ddangos nodweddion awgrymu ymateb. Byddan nhw’n drysu eich canlyniadau’n fwriadol trwy roi atebion ffug neu gellweirus na fydd yn ddilys nac yn ddefnyddiol i’ch ymchwiliad (gelwir hyn yn effaith ‘herfeiddiol’ Maslow). Argymhellwn eich bod chi’n defnyddio dieithriaid, neu efallai athrawon, pobl rydych chi’n gweithio gyda nhw, ar gyfer eich cyfranogwyr, a’ch bod chi’n ceisio defnyddio pobl na fyddan nhw’n gwybod eich bod chi’n astudio Seicoleg, felly dylai eu hatebion/ ymatebion i beth bynnag rydych chi’n ymchwilio iddo fod yn fwy dibynadwy.

Enghreifftiau Eraill gan Fyfyrwyr

Fy Ymchwiliad Personol - Hannah Clarke Er mwyn ymchwilio i effaith cyd-destun ar ganfyddiad unigolyn, dewisais ddangos amrywiaeth o ffrogiau i’m ffrindiau a’m teulu (nad ydyn nhw’n astudio seicoleg), gan ddweud wrthyn nhw fod angen eu barn arnaf ynglŷn â pha ffrog i’w gwisgo i barti. Mewn gwirionedd, dangosais ddetholiad o ffrogiau glas a du i un grŵp o bobl, a detholiad o ffrogiau gwyn ac aur i grŵp arall. Yna, dangosais y ddelwedd enwog o ‘Y Ffrog’ (a ddangosir isod) iddyn nhw a gofyn pa liwiau yr oedden nhw’n eu gweld ynddi. AWGRYM DA: Cyn cynnal yr ymchwiliad, gwnewch yn siŵr fod modd mesur yr ymchwil rydych chi eisiau ei wneud gyda phrawf ystadegol priodol, neu ni fyddwch yn gallu gweld a yw’ch canlyniadau’n ddilys ai peidio!

Ein Hymchwiliad Personol- Dylan Fox-Ford, Connor O’Reilly a Callum Turner Yn fy ymchwiliad, defnyddiais 10 delwedd o leoedd fel mynyddoedd ac adeiladau ag arlliw gwyrdd iddyn nhw, ac roedd gennyf yr un delweddau hyn ag arlliw coch iddyn nhw hefyd. Defnyddiais y lliwiau coch a gwyrdd i weld a fyddai pobl o’r farn bod y delweddau gwyrdd yn fwy cadarnhaol eu golwg na’r delweddau coch, trwy eu graddio ar raddfa fesur, neu i weld os nad oedd gwahaniaeth o gwbl. Dangosais y delweddau gwyrdd i 15 cyfranogwr a’r delweddau coch i 15 cyfranogwr gwahanol. Defnyddiwyd bechgyn 16-17 oed yn unig yn yr astudiaeth. Gwnaed hyn er mwyn i’r astudiaeth fod yn androganolog (androcentric), gan felly gynyddu dibynadwyedd yr astudiaeth; Hefyd, defnyddiais fechgyn yn unig yn yr astudiaeth oherwydd y bydden nhw’n ymddwyn mewn ffyrdd tebyg; gallai merched ymateb yn wahanol gan fod gwahaniaeth rhwng y ddau ryw, ac felly gallai hynny leihau dibynadwyedd y canlyniadau a gesglir pe byddai’r ddau ryw yn cael eu defnyddio. Un peth y dylid ei wneud wrth gynllunio’r ymchwiliad yw ystyried unrhyw faterion moesegol a allai godi yn yr astudiaeth. Sylweddolais y gallai rhai cyfranogwyr yn fy astudiaeth fod yn lliwddall. Er mwyn osgoi’r broblem hon, gofynnais i’r holl gyfranogwyr a oedden nhw’n lliwddall cyn gofyn iddyn nhw gwblhau’r astudiaeth. Os oedden nhw’n lliwddall, ni fydden nhw wedi gallu cymryd rhan yn yr astudiaeth a gallai hynny fod wedi achosi cywilydd a niwed seicolegol.


26

Fy Ymchwiliad Personol - Jessica Bird Er mwyn ymchwilio i ganfyddiad mewn cyd-destun, gofynnais i’m cyfranogwyr, sef athrawon gwrywaidd a benywaidd yn fy ngholeg, gwblhau prawf rhith-ddelweddau optegol, wedi’i sgorio allan o ddeg. Cysylltais â’m cyfranogwyr yn ystafell y staff yn ystod yr egwyl ginio a gofynnais iddyn nhw gwblhau’r prawf, gan gofnodi eu rhyw yn unig er mwyn sicrhau cyfrinachedd ac felly lleihau niwed seicolegol a allai ddigwydd yn sgil teimlo cywilydd. Er enghraifft, Rhowch gylch o amgylch un o’r dewisiadau isod sy’n disgrifio’r llinell groeslinol yn y rhithddelwedd ganlynol orau?

a) Mwy

b) Llai

c) Yr un maint

AWGRYM DA: Wrth ysgrifennu eich ymchwiliad, e.e. unrhyw brofion a gynhyrchwyd, gwnewch yn siŵr fod yr holl wybodaeth a roddir i’r cyfranogwyr yn eglur ac yn gryno er mwyn osgoi dryswch ac felly canlyniadau dryslyd. Ymchwiliad Personol- Jemi Lee a Tolu Oluwabiyi Roedden ni’n ymchwilio i effaith cyd-destun ar ganfyddiad unigolyn. Fe gyflwynon ni brawf cof yn cynnwys 5 ffaith am barau heterorywiol i 1 grŵp, a phrawf cof yn cynnwys 5 ffaith am fabanod i’r 2il grŵp, i weld a fyddai’n cael effaith ar eu canfyddiad o’r rhithddelwedd a ddangoswyd iddyn nhw ar ddiwedd y prawf. AWGRYM DA: Os ydych chi’n gweithio mewn grŵp, gwnewch yn siŵr eich bod chi i gyd yn rhannu eich adnoddau â’ch gilydd. Fel arall, pan fyddwch chi’n gwahanu ac yn ceisio dychwelyd i’ch gwaith, ni fyddwch yn gwybod beth i’w wneud.


TA N Y S G R I F I O

27

Cylchlythyr Cylchlythyr Canolfannau yng Nghymru http://www.cbac.co.uk/about-us/contact-us/subscribe-form.html?language_id=2

Ymunwch â’n Rhwydwaith Athrawon Seicoleg ar Facebook Mae’r rhwydwaith athrawon hwn yn ganolbwynt ar-lein i athrawon sy’n cyflwyno Seicoleg CBAC i rannu syniadau, cyngor, adnoddau ac arfer gorau. Bydd hefyd yn hwyluso cyd-weithio a gweithio gydag athrawon seicoleg ar draws y wlad. Ymuno â’r Rhwydwaith


Cydnabyddiaeth: Tudalen 1:

Cover image | kmlmtz66 | Getty Images

Tudalen 13:

Stopwatch | PeopleImages | Getty Images

Tudalen 15:

Glass | Simone M?ller / EyeEm | Getty Images

Tudalen 17:

Salad | Creative Crop | Getty Images

Tudalen 22:

Feet | Ukususha | Getty Images

Tudalen 22:

Headcogs | Magnilion | Getty Images

Tudalen 24:

Love/hate illusion | Unknown copyright holder

Tudalen 26

The dress | Unknown copyright holder

Tudalen 27:

Baby/lake illusion | Unknown copyright holder

Tudalen 28:

Technology | Rawpixel Ltd | Getty Images


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.