FFLACH NEWYDDION Cylchlythyr Gan Bwyll
Rhifyn 05
Rhagfyr 2010
Croeso i rifyn y gaeaf o Fflach Newyddion. Dyma gylchlythyr chwarterol Partneriaeth Lleihau Anafiadau Ffyrdd Cymru, sy’n rhoi’r newyddion diweddaraf i chi am newyddion diogelwch ffyrdd yng Nghymru.
Yn y rhifyn hwn........ l DVLA a DSA yn cefnogi’r ymgyrch Deadly Mates l Mynd i’r afael â chyflymder ym Mlaendulais
Y diweddaraf am y bartneriaeth Jim Moore, Rheolwr y Bartneriaeth, WRCRP Unwaith eto, mae’r sbotolau ar ddyfodol camerâu diogelwch yn y DU gyda Heddlu Thames Valley a Chyngor Sir Swydd Rhydychen yn cytuno ar drefniant newydd lle mae camerâu ar ffyrdd y sir yn gweithio eto, dri mis yn unig ar ôl iddynt gael eu diffodd. Rydym hefyd yn croesawu canfyddiadau adroddiad newydd gan yr Athro Richard Allsop o Goleg Prifysgol Llundain ar ran Sefydliad RAC, sy’n honni y gallai 800 neu fwy o bobl gael eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol bob blwyddyn ar ffyrdd Prydain petai’r holl gamerâu cyflymder sefydlog a theithiol yn cael eu digomisiynu. Rydym bob amser wedi dweud nid ar chwarae bach y dylid torri neu atal gorfodi, ac mae’r astudiaeth hon yn amlygu manteision diogelwch ffyrdd parhaus camerâu a’r canlyniadau posib os cânt eu gwaredu. Roedd hi’n galonogol gweld cynifer o’n partneriaid a’n cefnogwyr yn y lansiad diweddar o’n Hymgyrch Deadly Mates o’r DVLA a DSA. Ymunodd y fam, Angela Smith, â ni i siarad am golli ei mab Kyle, pan oedd yn deithiwr yng nghar ei ffrind. Byddai Kyle wedi bod yn 21 oed erbyn hyn ac roedd geiriau Angela’n taro deuddeg am yr hyn yw colli rhywun rydych yn ei garu, yn enwedig plentyn. Rydym yn gobeithio bod pobl ifanc ar draws Cymru yn gwrando ar y neges a pheidio ag ofni dweud wrth eu ffrindiau sy’n gyrru’n rhy gyflym neu’n esgeulus. I gloi, Nadolig llawen a blwyddyn newydd ddiogel i chi a’ch teuluoedd.
Am gyfrannu? Rydym yn gobeithio eich bod yn mwynhau darllen ein cylchlythyr, ond, os oes gennych unrhyw syniadau am sut i’w wella neu os hoffech gyfrannu at rifyn yn y dyfodol, cysylltwch â lesa.hitchings@swansea.gov.uk neu ffoniwch hi ar 01792 637764.
Gan Bwyll
www.ganbwyll.org
DVLA A DSA YN CEFNOGI’R YMGYRCH DEADLY MATES Mae’r DVLA a’r Asiantaeth Safonau Gyrru (DSA) yn cefnogi’r ymgyrch Deadly Mates ar ôl iddi ddatgelu bod trwyddedau gyrru mwy nag 8,000 o yrwyr ifanc rhwng 17 a 24 wedi’u dirymu dan reolau’r Ddeddf Gyrwyr Newydd yn ystod naw mis cyntaf 2010. Mae 22 Canolfan Prawf Gyrru DSA Cymru’n cefnogi’r ymgyrch, gan ddosbarthu’r daflen ‘10 Ffordd i Golli’ch Trwydded’ gan Deadly Mates i gwsmeriaid ifanc ac yn gosod posteri ar eu hysbysfyrddau. Mae’r DVLA hefyd yn cefnogi’r ymgyrch yn ei chanolfannau yng Nghymru – Abertawe, Caerdydd a Bangor. Meddai Rosemary Thew, prif weithredwr DSA, “Rydym yn gweithio’n galed iawn i helpu pobl ifanc fod yn yrwyr diogel a chyfrifol. Os ydych yn cyrraedd chwe phwynt cosb neu fwy yn ystod y ddwy flynedd ar ôl i chi lwyddo yn y prawf, byddwch yn colli’ch trwydded ac yn gorfod sefyll y profion theori ac ymarferol eto. Mae DSA yn cefnogi ymgyrch Deadly Mates, oherwydd mae’n helpu ffrindiau gyrwyr Julie Palmer DVLA, Angela Smith, Jim Moore Gan Bwyll, Garry Monk newydd i ddeall eu rôl i gadw ein ffyrdd yn ddiogel.” Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe, PGC Nick Croft Heddlu De Cymru Ychwanegodd prif weithredwr y DVLA, Simon Tse, “Ffyrdd Prydain yw’r rhai mwyaf diogel yn y byd, ond ni allwn fod yn hunanfodlon. Dyna pam y mae’r DVLA yn cefnogi ymgyrch Deadly Mates: ffrindiau gyrwyr sydd newydd gymhwyso yw’r rhai yn y sefyllfa orau i annog gyrru da a herio ymddygiad gwael.” MYND I’R AFAEL Â CHYFLYMDER YM MLAENDULAIS Rydym ar fin dechrau gorfodi cyflymder ar Rodfa Wembley, Onllwyn ar ôl i arolwg ganfod y ceir cyflymder hyd at 78mya ar hyd y ffordd 30mya. Yn dilyn pryderon a godwyd gan drigolion am oryrru, cynhaliwyd arolwg, gyda chyflymder o 43mya neu’n uwch yn cael ei gofnodi’n gyson - a nifer sylweddol yn gyrru dros ddwywaith y cyfyngiad cyflymder. Meddai Kate Hopkins, swyddog cymorth cymunedol yr heddlu yng ngorsaf heddlu Blaendulais, “Mae hyn wedi bod yn bryder mawr i’r trigolion, nid yn unig mewn cyfarfodydd PACT ond mae llawer wedi dod i siarad â mi pan wyf yn cerdded ar hyd y strydoedd. Mae hon yn ardal adeiledig gyda cheir wedi parcio ar y ddwy ochr a chlwb lles prysur ar y ffordd. Mae llawer o ddamweiniau bron wedi digwydd ac rydym am wneud rhywbeth cyn i ni gael damwain ddifrifol.” Ychwanegodd Sarsiant Stuart Matthews, cydlynydd Heddlu De Cymru i Gan Bwyll – Partneriaeth Lleihau Anafiadau Ffyrdd Cymru, sy’n gyfrifol am orfodi camerâu cyflymder a goleuadau traffig, “Mae’n codi ofn arnaf nad yw gyrwyr yn cymryd sylw o’r cyfyngiadau cyflymder ac yn peryglu bywydau, gyda’r arolwg yn canfod bod nifer mawr yn gyrru dros ddwywaith y cyfyngiad 30mya. Bydd ein camerâu teithiol yn gorfodi’n rheolaidd ar y safle mewn ymgais i arafu’r bobl sy’n teithio ar hyd Rhodfa Wembley.” Nadolig Llawn a Blwyddyn Newydd Dda, gyrrwch yn ofalus y Nadolig hwn. Gan Bwyll
www.ganbwyll.org
2