Adroddiad am Effaith Gwneud Gwahaniaeth / Making a Difference Impact Report 2019

Page 1

Gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl, i’w cartrefi a’u cymunedau Making a difference to people’s lives, homes and communities

Adroddiad am Effaith Gwneud Gwahaniaeth Making a Difference Impact Report

2019 1


2


Yng Ngrŵp Tai Wales & West, credwn yn gryf mewn “Gwneud Gwahaniaeth” i fywydau, cartrefi a chymunedau ein preswylwyr.

At Wales & West Housing Group we firmly believe in “Making A Difference” to the lives, homes and communities of our residents.

Gwneud Gwahaniaeth yw’r hyn a wnawn, ac mae’n treiddio trwy bob unigolyn sy’n gweithio yn ein holl gwmnïau, aelodau ein Bwrdd a’r contractwyr a’r cyflenwyr yr ydym yn gweithio gyda nhw.

Making A Difference is what we do, and it runs through every person working at all of our companies, our Board members and the contractors and suppliers we work with.

I ni, nid yw darparu cartrefi cynnes a fforddiadwy i’n preswylwyr yn ddigon. Rydym yn gweithio gyda’n preswylwyr a’n cymunedau i’w cynorthwyo a’u grymuso i wneud yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw.

For us, providing our residents with warm, affordable homes is not enough. We work with our residents and communities to support and empower them to do what matters to them.

Pryd bynnag y byddwn yn buddsoddi mewn adeiladu cartrefi newydd neu’n uwchraddio ein cartrefi presennol, byddwn yn annog ein cyflenwyr a’n contractwyr i roi rhywbeth yn ôl, gan ychwanegu gwerth i’n preswylwyr a’u cymunedau.

Whenever we invest in building new homes or upgrading our existing homes, we encourage our suppliers and contractors to give back and add value to our residents and their communities.

Yn 2014, lansiom ein Cronfa Gwneud Gwahaniaeth, gan ddefnyddio’r incwm y byddwn yn ei sicrhau gan gyfraniadau o’n gweithgareddau caffael a’n partneriaid er mwyn ei ail-fuddsoddi yn ein cymunedau ac ychwanegu gwerth iddynt. Ein buddion cymunedol yw ein henw am hyn.

In 2014 we launched our Making A Difference Fund, using the income we raised from contributions from our procurement activities and partners to reinvest and add value to our communities. We call this our community benefits.

Mae’n cronfa wedi parhau i dyfu ers ei sefydlu. Yn 2019, cawsom £201,892 i mewn i’r gronfa, ac roedd rhan fwyaf y swm hwn wedi dod o weithredu cyfraniad i’n contractau. Mae’n staff ac aelodau ein Bwrdd yn cyflawni eu rhan nhw hefyd, gan godi arian i gefnogi elusennau sy’n rhannu ein hethos o wneud gwahaniaeth. Wrth i ni dyfu ein busnes, ein nod yw cael mwy fyth o effaith. Ond nid ni yw’r unig rai sy’n dweud hynny! Mae’r grwpiau cymunedau, y sefydliadau a’r unigolion sydd wedi cael eu cynorthwyo i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl yn eu cymunedau yn ysbrydoliaeth i ni gyd.

Anne Hinchey

Prif Weithredwr y Grŵp

Our fund has continued to grow since it was first set up. In 2019 we received £201,892 into our fund, the majority of this generated by applying a contribution to our contracts. Our staff and Board members play their part too, fundraising to support charities who share our ethos of making a difference. As we grow our business, we aim to have an even greater impact. But don’t just take our word for it! The community groups, organisations and individuals who have been supported to make a difference to the lives of people in their communities serve as an inspiration to us all.

Anne Hinchey

Group Chief Executive

3


Ein blwyddyn mewn ffigurau / Our year in figures

Nawdd Sponsorship

£101,947 £57,240

Grantiau ar gyfer y Dyfodol Futures Grants

4

£2,195

Grantiau Cymunedol Community Grants


69 Nifer y grwpiau a noddom The number of groups we sponsored

31 Elusennau a gefnogwyd gan ddiwrnodau gwisgo dillad anffurfiol gan y staff Charities supported by staff dress down days

168.5 Nifer yr oriau yr oedd staff wedi’u gwirfoddoli ar brosiectau/diwrnodau gwirfoddoli Rhoi Rhywbeth yn Ôl Hours staff volunteered on Giving Something Back volunteer days/projects

£9,000 Codwyd ar gyfer elusen y staff Raised for staff charity

69

£30,000

Rhoddwyd gan Fwrdd WWH i dair elusen yng Nghymru Donated by WWH Board to three Welsh charities 5


Dwyn buddion i’n cymunedau Bringing benefits to our communities

6


Yn 2019, rhoddodd WWH £101,947 ar ffurf nawdd i elusennau a sefydliadau di-elw sy’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i’n preswylwyr a’n cymunedau.

In 2019 WWH donated £101,947 in sponsorship to charities and not-for-profit organisations which make a positive difference to our residents and communities.

Noddom 69 o sefydliadau neu brosiectau sy’n helpu ein cymunedau yn y ffyrdd canlynol:

We supported 69 organisations or projects which help our communities in the following ways:

dwyn pobl ynghyd a meithrin perthnasoedd cynaliadwy cryf

• bringing people together and building strong sustainable relationships

gwella ein mannau a’n lleoedd, neu

• improving our places and spaces, or

helpu ein preswylwyr i wireddu eu potensial

• helping our residents to reach their potential

Noddom 24 o dimau chwaraeon trwy ddarparu citiau ac arian er mwyn helpu i drefnu digwyddiadau ar gyfer y gymuned gyfan; 12 clwb pêl-droed a 7 clwb rygbi, clwb bowls, tîm pêl-fasged, tîm darts ieuenctid a chlwb pêl-droed cerdded i fenywod a Phencampwriaeth Tynnu Rhaff Cenedlaethol Cymru. O blith y rhain, roedd 17 ohonynt ar gyfer pobl ifanc a 7 yn dimau i oedolion.

We sponsored 24 sports teams with kits and funding to help organise events for all the community; 12 football clubs and 7 rugby clubs, a bowls club, basketball team, youth darts team, a walking football club for women and the Welsh National Tug of War Championship. Of these 17 were aimed at young people and 7 were adult teams.

Yn ogystal, noddom 40 o ddigwyddiadau a mentrau cymunedol, yn amrywio o sesiynau crefft i oedolion, sesiynau chwaraeon i deuluoedd, banciau bwyd, cynlluniau gardd cymunedol a digwyddiadau cymunedol er mwyn hyrwyddo’r iaith Gymraeg.

In addition we sponsored 40 community events and initiatives ranging from craft sessions for adults, play sessions for families, foodbanks, community garden schemes and community events to promote the Welsh language.

“Clwb cymunedol bach ydym ac ni allem oroesi heb nawdd lleol. Nid ydym yn chwarae mewn ardal gefnog, ac mae rhan fwyaf ein chwaraewyr yn dod o ardal Llaneirwg, Trowbridge a Llanrhymni, ac mae’r nawdd ar gyfer cit newydd yn bwysig i ni.

“We are a small community club and could not survive without local sponsorship. We do not play in an affluent area, the majority of our players are local to St Mellons, Trowbridge and Llanrumney areas and the sponsorship for new kit is important to us.

Eleni fu un o’n blynyddoedd mwyaf llwyddiannus. Llwyddom i gyrraedd Gêm Derfynol y Cwpan yn ein cynghrair, Cynghrair JD Cymru, a’n huchelgais yw sicrhau dyrchafiad i Brif Gynghrair Cymru maes o law.”

This year has been one of our most successful. We reached the Cup Final in our league, the JD Cymru League and our ambition is to be promoted to the Welsh Premier League in time.”

Nigel Bircham, Ysgrifennydd ac Is-Gadeirydd STM Sports AFC (llun o’r tîm ar y chwith)

Nigel Bircham, Secretary & Vice Chairman STM Sports AFC (team pictured left)

7


Rydym wedi noddi: We have sponsored:

Mae gallu manteisio am wely am y nos yn golygu na fydd yn rhaid iddynt ddihuno bob bore gan bendroni ble y byddant yn cysgu y noson honno.

Lloches Nos Wrecsam / Wrexham Night Shelter

“Mae nifer uchel o bobl yn cysgu ar y stryd yn Wrecsam a bydd y lloches nos yn cynnig lle cynnes a diogel iddynt aros yn ystod cyfnod oeraf y flwyddyn. Mawr obeithiwn y bydd y sefydlogrwydd hwn yn cynnig cyfle iddynt ganolbwyntio ar broblemau eraill, gan ymgysylltu gydag asiantaethau er mwyn eu helpu allan o’u sefyllfa o fod yn ddigartref.” Stephen Convill, Housing Justice Cymru, a gafodd grant er mwyn helpu i brynu 12 o welyau gwersylla a dillad gwely ar gyfer Lloches Nos Wrecsam, a gaiff ei redeg gan Housing Justice Cymru ac Esgobaeth Llanelwy.

“Wrexham has a high number of people sleeping rough and the night shelter will provide a warm, safe place for them to stay during what is often the coldest time of year. We hope this sort of stability means they have a chance to focus on other issues and engage with agencies to help them out of homelessness.”

8

Stephen Convill, Housing Justice Cymru, which received a grant to help buy 12 camp beds and bedding for the Wrexham Night Shelter run by Housing Justice Cymru and the Diocese of St Asaph.

Being able to access a bed for the night, means they don’t have to wake up each morning wondering where they will sleep that night.


Clwb Athletau Pen-y-bont ar Ogwr / Bridgend Athletics Club

Canolfan Achub Anifeiliaid Pen-y-bont ar Ogwr / Bridgend Animal Rescue Centre Tîm Pêl-droed Cerdded Menywod Cymru / Wales Women’s Walking Football “Mae’r nawdd wedi caniatáu i ni gael 20 lleoliad maethu ychwanegol am 12 mis. Mae cryn angen am y lleoliadau hyn er mwyn ein helpu i gynorthwyo aelodau’r gymuned sy’n agored i niwed ac y mae angen iddynt fanteisio ar wasanaethau megis triniaeth mewn ysbyty, llochesau i’r digartref neu dai diogel. Gall y perchnogion ganolbwyntio ar adfer neu chwilio am lety ac ati, gan fod yn dawel eu meddwl bod eu hanifail anwes yn ddiogel ac yn cael gofal, ac y byddant yn dychwelyd atynt cyn gynted ag y byddant mewn sefyllfa i’w croesawu gartref.”

“Mae rhwng 100 a 150 o aelodau iau yn ein clwb, sy’n cymryd rhan mewn campau trac a champau maes gyda threfi a dinasoedd eraill yng Nghymru ac ar draws y DU. Mae’r aelodau iau yn mynd ymlaen i ennill pencampwriaethau yn rheolaidd. Roedd y nawdd wedi caniatáu i ni brynu offer er mwyn helpu ein haelodau iau i hyfforddi ar gyfer pencampwriaethau yn y dyfodol.”

“Mae’r nawdd wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i’n clwb. Roedd rhai o’r chwaraewyr yn meddwl eu bod yn rhy hen ac na fyddent fyth yn cael y cyfle i gynrychioli eu gwlad wrth chwarae pêl-droed. Mae cael y cyfle i chwarae ar lefel ryngwladol, a chael cit Cymru go iawn i’w wisgo, yn goron ar y cyfan!”

Rebecca Lloyd o Ganolfan Achub Anifeiliaid Pen-y-bont ar Ogwr, a sicrhaodd grant er mwyn ariannu lleoliadau maethu ar gyfer anifeiliaid anwes aelodau agored i niwed yn y gymuned.

Jeff Roberts, Hyfforddwr Sbrintio Iau yng Nghlwb Athletau Pen-y-bont ar Ogwr, a sicrhaodd nawdd i brynu offer ar gyfer ei dîm dros 9 oed.

Natalie Kendrick-Davies, chwaraewr ac aelod o Dîm Pêl-droed Cerdded Menywod Cymru, a sicrhaodd nawdd gan WWH am eu cit swyddogol cyntaf ar gyfer eu gêm ryngwladol yn erbyn Lloegr.

“The sponsorship has allowed us to have an extra 20 foster placements for 12 months. These placements are very much needed to help us support the vulnerable members of the community who need access to services such as hospital treatment, homeless shelters or safe houses. The owners can concentrate on recovery or looking for accommodation etc safe in the knowledge that their pet is safe and being cared for and that they will be returned to them as soon as they are in a position to have them home.“

“Our club has between 100-150 junior members who take part in track and field events with other towns and cities in Wales and across the UK. The juniors regularly go on to win championships. The sponsorship allowed us to buy training equipment to help our junior members train for future championships.”

“The sponsorship has made a huge difference to our club. Some of the players thought they were too old and would never get the chance to represent their country at football. Playing at international level, and having a proper Wales kit to wear, is the icing on the cake!”

Rebecca Lloyd of Bridgend Animal Rescue Centre, which received a grant to fund foster placements for the pets of vulnerable members of the community.

Jeff Roberts, Junior Sprint Coach at Bridgend Athletics Club, granted sponsorship to buy equipment for its over 9s team.

Player Natalie Kendrick-Davies, member of the Wales Women’s Walking Football Team which received WWH sponsorship for their first official kit for their international game against England.

9


Yn ogystal, noddom / we also sponsored: Clwb Pêl-droed Bargod Rangers / Bargod Rangers Football Club “Cawsom arian i brynu citiau pêl-droed a hyfforddi newydd ar gyfer ein timau iau a hŷn. Mae’r citiau newydd wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i’r clwb. Fel clwb bach gyda chronfeydd cyfyngedig, mae’n bwysig sicrhau nawdd ar gyfer citiau newydd er mwyn i’r bechgyn edrych yn smart ar y cae chwarae ac oddi arno. Mae’r timau’n teimlo’n falch iawn o gael gwisgo eu cit newydd.” Ysgrifennydd Clwb Pêl-droed Bargod Rangers yng Ngheredigion, a sicrhaodd grant i brynu citiau chwarae a hyfforddi newydd ar gyfer eu timau iau a hŷn. “We received funding to buy new training and football kits for our junior and senior teams. The new kits have made a massive difference to the club. As a small club with limited funds it’s important to find sponsorship for new kits for the boys to look smart on and off the pitch. The teams feel very proud wearing their new kit.” Secretary of Bargod Rangers Football Club in Ceredigion, who received a grant for new training and playing kits for their junior and senior teams.

Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd / Urdd National Eisteddfod “Mae nawdd yn allweddol i lwyddiant yr Eisteddfod ac yn hynod o werthfawr i’r Urdd fel sefydliad. Mwynhaom ŵyl hynod lwyddiannus yng Nghaerdydd yn 2019. Roedd y tywydd braf ar y cyfan wedi cyfrannu at nifer uchel o ymwelwyr, gan gynnwys nifer a oedd wedi ymweld am y tro cyntaf. Roedd aelodau ein tîm croesawu yn eu crysau-t amlwg wedi gwneud gwaith gwych trwy groesawu ymwelwyr, eu cynorthwyo gydag unrhyw ymholiadau ac yn bwysicaf oll, trwy dywys Mr Urdd o gwmpas y Maes. Diolch am gefnogi’r cynllun.” Siân Stephen, Rheolwr Datblygu, Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. WWH oedd noddwyr swyddogol y Cynllun Croesawu yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Caerdydd a’r Fro a gynhaliwyd ym Mae Caerdydd yn 2019. “Sponsorship is key to the success of the Eisteddfod and invaluable to the Urdd as an organisation. We enjoyed an extremely successful festival in Cardiff in 2019. Fine weather for the most part contributed to high visitor numbers, including many first-time visitors. Our welcome scheme members, in their distinctive blue T-shirts did an excellent job of welcoming visitors, supporting them with their enquiries and most importantly of all, guiding Mr Urdd around the Maes. Thank you for supporting the scheme.” Siân Stephen, Development Manager, Urdd National Eisteddfod. WWH were official sponsors of the Welcoming Scheme at the Cardiff & Vale Urdd National Eisteddfod in Cardiff Bay in 2019.

10


Crafts4Wellbeing, Llechryd Os ydych chi’n teimlo’n isel, mae Crafts4Wellbeing Llechryd yn lle gwych i chi fynd iddo. Bydd pobl yno yn gwrando ac yn helpu. Rydw i wedi dysgu crefftau newydd nad oeddwn fyth wedi credu y gallwn eu cyflawni. Rydw i’n teimlo’n dda wrth roi cynnig ar sgiliau newydd a’u meithrin. Mae’n wych i bawb. Mae bod yn rhan o’r grŵp yn peri i chi feddwl am eraill a’u lles nhw.” Roedd cyllid Gwneud Gwahaniaeth wedi darparu offer gwnïo ar gyfer grŵp Crafts4Wellbeing yn Llechryd, Ceredigion. If you’re feeling low, Crafts4Wellbeing Llechryd is a great place to go. People there will listen and help. I have learnt new crafts that I never thought I’d be able to do. I feel good trying and achieving new skills. It’s great for everyone. Being part of the group makes you think of others and their wellbeing.” Making a Difference funding provided sewing equipment for the Crafts4Wellbeing group in Llechryd, Ceredigion

Pencampwriaeth Tynnu Rhaff Cymru / Wales Tug of War Championships “Bydd yr holl arian a godom yn cael ei wario ar welliannau i lwybrau troed yn y dref a’r cyffiniau, gwella ein parciau a’n meysydd chwarae a datblygu rhaglen o ddigwyddiadau. Rydym yn ddiolchgar i WWH am ei chefnogaeth barhaus.” Noddwyd Pwyllgor Gwella Tref Aberaeron er mwyn eu helpu i ddwyn Pencampwriaeth Tynnu Rhaff Cymru i’r dref. “All the money we raised will go towards funding improvements to public footpath links in and around the town, improving our parks and playing fields and developing a programme of events. We are grateful to WWH for its continued support. ” Aberaeron Town Improvement Committee were sponsored to help bring the Welsh Tug of War Championships to the town.

Dreigiau Gogledd Cymru / North Wales Dragons “Mae’r nawdd wedi gwneud gwahaniaeth mawr i’n proffil fel menter gymdeithasol a thîm pêl-droed elusennol. Rydym wedi llwyddo i godi dros £20,000.00 ar gyfer achosion da ers i ni gael ein sefydlu yn 2009. Roedd ein chwaraewyr yn teimlo’n arbennig o falch o wisgo eu citiau newydd pan chwaraeom yng Ngêm Derfynol Cynghrair Pencampwyr Elusennol 2019. Mawr obeithiwn weithio gyda WWH er mwyn creu prosiect cymdeithasol cadarn ar gyfer y dyfodol.” Chris Roberts, Cyd-sylfaenydd Tîm Pêl-droed Cymunedol Dreigiau Gogledd Cymru, a sicrhaodd grant ar gyfer cit newydd. “The sponsorship has made a great difference to our profile as a charity football team and social enterprise. We have raised more than £20,000.00 for good causes since we started in 2009. Our players were particularly proud to wear their new kits when we played in the Charity Champions League Cup Final 2019. We hope to work with WWH to create a socially strong project for the future.” Chris Roberts, Co-founder of North Wales Dragons Community Football Team, who received a grant for new kit.

11


Dwyn Cymunedau Ynghyd

Bringing Communities Together

Yn 2019, gwariom £57,239 ar ffurf grantiau cymunedol, gan gynorthwyo 78 o brosiectau a mentrau er mwyn dwyn pobl ynghyd yn y gymuned, gan helpu i wella cydnerthedd a chynnig mynediad gwell i gyfleoedd.

In 2019 we spent £57,239 in community grants supporting 78 projects and initiatives to bring people together in the community, helping to improve resilience and provide better access to opportunities.

Roedd hyn yn cynnwys helpu grwpiau cymunedol, mentrau chwaraeon a chwarae cymunedol, prosiectau addysgol, helpu pobl i oresgyn rhwystrau wrth weithio, gwella iechyd a lles, a gwella arwahanrwydd cymdeithasol.

This included helping community groups, community play and sport initiatives, educational projects, helping people to overcome barriers to work, improve health and wellbeing, and improve social isolation.

£57,239 cynorthwyo cymunedau supporting communities 12

78 o brosiectau a mentrau projects and initiatives

Sied y Dynion Y Drenewydd Darparom grant i Sied y Dynion Y Drenewydd er mwyn cynorthwyo eu gwaith hanfodol wrth fynd i’r afael ag allgáu ymhlith dynion a menywod trwy hyrwyddo lles a gweithgareddau gwaith coed yn Llys Glan Yr Afon, Y Drenewydd. Maent wedi bod yn gweithio gyda Dementia Friendly Newtown a Men’s   Shed Cymru er mwyn creu cyfleoedd gwirfoddoli ar gyfer y gymuned leol.

Newtown Men’s Shed We provided a grant to Newtown Men’s Shed to support its vital work to tackle exclusion among men and women by promoting wellbeing and woodworking activities at Llys Glan Yr Afon, Newtown. They have been working with Dementia Friendly Newtown and Men’s Shed Cymru to create volunteering opportunities for the local community.


Dosbarth Celf Nant y Môr

Cylch Meithrin Teifi Adpar

“Mae’r grŵp wedi gwella fy mywyd oherwydd yr oeddwn yn teimlo’n isel iawn am fy sefyllfa bersonol. Mae’r grŵp wedi llonni fy mywyd, gan fynd â chryn dipyn o’r tristwch i ffwrdd.”

“Ni fyddem wedi gallu agor ein safle newydd heb gymorth WWH. Roedd yn rhaid i ni gael lle yn yr awyr agored lle y gallai’r plant chwarae yn ddiogel, er mwyn i ni basio ein harolygiad. Bu’r cymorth yn ffordd o gyflawni hyn ac mae wedi golygu bod ein grŵp chwarae yn addas ar gyfer y dyfodol i deuluoedd Castellnewydd Emlyn.”

Un o’r preswylwyr yng nghynllun gofal ychwanegol Nant Y Môr, Prestatyn. Roedd Grant Cymunedol wedi helpu i gadw’r grŵp i fynd ar ôl iddynt golli eu cyllid cymunedol.

Arweinydd Cylch Meithrin Teifi Adpar, grŵp cyn ysgol yng Nghastellnewydd Emlyn, Ceredigion, a gafodd grant er mwyn helpu i ddarparu cyfleusterau chwarae diogel y tu allan yn ei adeilad newydd.

Nant y Môr Art Class

Cylch Meithrin Teifi Adpar

“The group has enhanced my life because I was really down with my personal situation. The group has brightened up my life, taking away a lot of the sadness.”

“We would not have been able to open our new premises without the support from WWH. We had to have an outdoor area for the children to play safely in order to pass our inspection. The support made this possible and has set our playgroup up for the future for the families of Newcastle Emlyn.”

One of the residents at Nant Y Môr extra care scheme, Prestatyn. A Community Grant helped to keep the group going after they lost their community funding.

Leader of Cylch Meithrin Teifi Adpar, pre-school group in Newcastle Emlyn, Ceredigion, which received a grant to help provide safe outdoor play facilities at its new building.

13


Gweithio mewn partneriaeth yn ein cymunedau O achub bywydau i achub yr amgylchedd, buom yn gweithio gyda’n partneriaid yn y gadwyn gyflenwi er mwyn cynorthwyo 42 o brosiectau cymunedol yn 2019. Cysylltom ein contractwyr gyda nifer o fentrau cymunedol, amgylcheddol ac addysgol, y maent wedi cael budd o’r amser, y llafur a’r deunyddiau yr oeddent wedi bod mor garedig â’u rhoi fel rhan o’u cytundeb i weithio gyda ni. Gyda’n gilydd, rydym wedi gwneud gwahaniaeth i amrediad o brosiectau, gan gynnwys y rhai sy’n hyrwyddo ailgylchu ac sy’n gwella’r amgylchedd i’n preswylwyr; rhoi’r cyfle i ddisgyblion ysgol yn ein cymunedau i ymweld â’n safleoedd er mwyn dysgu am ein datblygiadau neu gynorthwyo profiad gwaith a phrentisiaethau trwy weithio ar ein cartrefi.

Working in partnership in our communities From saving lives to saving the environment, we worked with our supply chain partners to support 42 community projects in 2019.

Rhoddwyd llafur gan ein contractwyr trydanol, CJS Electrical (Wales) Ltd, er mwyn gosod diffibriliwr i achub bywydau yn ein cynllun ymddeol yng Nghwrt Wentloog, Caerdydd, ar ôl i breswylwyr a’r gymuned leol godi arian i brynu’r offer. “Bydd hyn yn achub bywydau yn y gymuned. Os bydd rhywun yn dioddef ataliad ar y galon, bydd y siawns y byddant yn goroesi hyd at 70 y cant yn uwch os byddant yn gallu cael cymorth diffibriliwr cyn pen pum munud.” Gwasanaeth Ambiwlans Cymru

We linked our contractors with a number of community, environmental and educational initiatives that have benefitted from the time, labour and materials they kindly donated as part of their agreement to work with us. Together we have made a difference to a range of projects including those that promote recycling and improve the environment for our residents; give school pupils in our communities the chance to visit our sites to learn about our developments or support work experience and apprenticeships by working on our homes.

Our electrical contractors CJS Electrical (Wales) Ltd donated labour to install a life-saving defibrillator at our retirement scheme at Wentloog Court, Cardiff after residents and the local community raised funds to buy the equipment. “This will save lives in the community. If someone goes into cardiac arrest the chances of survival are up to 70 per cent higher if they can get defibrillation within five minutes.” Welsh Ambulance Service

14


Estynnodd Morgan Construction wahoddiad i ddisgyblion o ysgol Gynradd Bro Ingli, Sir Benfro, i gael taith o gwmpas ein datblygiad tai newydd yn Feidr Eglwys, Trefdraeth.

“Bu’n flwyddyn heriol i ni gan ein bod wedi symud. Rydym yn dibynnu’n fawr ar roddion, gwirfoddolwyr a phobl o’r gymuned. Heb y llawr, ni fyddem wedi gallu agor a chynnig cymorth i’n teuluoedd sydd mewn angen.”

Buont yn dysgu am y profiad o weithio yn y diwydiant adeiladu, a gofynnwyd iddynt gymryd rhan yn y broses o greu dyluniadau ar gyfer ffin y safle, gan gynnig awgrymiadau am enw ar gyfer y safle.

Elin Vaughan-Miles, Cydlynydd yng Nghanolfan Deuluoedd Llanbedr Pont Steffan yng Ngheredigion, lle y bu contractwyr WWH, Jamson Estates Ltd a Polyflor, yn cyflenwi ac yn gosod llawr newydd er mwyn helpu’r ganolfan i symud i safle newydd. Elin Vaughan-Miles, Co-ordinator at Lampeter Family Centre in Ceredigion, which had new flooring supplied and fitted by WWH contractors Jamson Estates Ltd and Polyflor to help the centre move to new premises. “It has been a challenging year for us due to our relocation. We depend greatly on donations, volunteers and manpower from the community. Without the flooring we would not have been able to open and offer support to our families in need.“

Pupils from Bro Ingli Primary school, Pembrokeshire, were invited by Morgan Construction for a site tour of our new housing development at Feidr Eglwys, Newport. They learnt about what it is like to work in the construction industry and were asked to get involved in creating designs for the site boundary and to put forward name suggestions for the site.

Yn Wrecsam, bu swyddogion o Wasanaethau Cynnal a Chadw Cambria yn helpu Banc Bwyd Wrecsam i symud i’w lleoliad newydd yn y dref. In Wrexham operatives from Cambria Maintenance Services helped Wrexham Foodbank to move to their new location in the town.

15


16


17


Partneru i ddarparu cyfleoedd gwaith yn ein cymunedau

Partnering to provide work opportunities in our communities

Drwy ein mentrau manteision cymunedol mae ein contractwyr wedi cefnogi cyfanswm o 59 wythnos o brofiad gwaith a 677 o wythnosau prentisiaeth yn gweithio ar nifer o’n contractau gwasanaethau datblygu ac eiddo.

Through our community benefits initiatives our contractors have supported a total of 59 weeks work experience and 677 apprenticeship weeks working on a number of our development and property services contracts.

Third year carpentry student Matthew trained as an apprentice carpenter, working on our development in Fishguard, Pembrokeshire.

“ “ 18

“ “

Roedd Matthew, myfyriwr gwaith coed yn ei drydedd flwyddyn, wedi hyfforddi fel prentis saer, gan weithio yn ein datblygiad yn Abergwaun, Sir Benfro.

Rydw i wedi bod mor ffodus i gael y brentisiaeth hon gyda Morgan Construction a chael y cyfle i weithio ar ddatblygiad Tai Wales & West. Rydw i’n dysgu popeth am y maes gwaith saer wrth i mi weithio ar y safle. Mawr obeithiaf y bydd y profiad yn fy helpu i gael swydd fel saer cymwys yn y dyfodol. I’ve been so lucky to get this apprenticeship with Morgan Construction and be given the chance to work on a Wales & West Housing development. I am learning everything about the carpentry trade while I work on the site. I hope the experience will help me get a job as a qualified carpenter in the future.


Gan weithio gyda’r timau tai, mae’n Grant Gwneud Gwahaniaeth ar gyfer y Dyfodol yn cynorthwyo preswylwyr ac yn eu helpu i oresgyn rhwystrau sy’n eu hatal rhag manteisio ar gyfleoedd cyflogaeth, hyfforddiant ac addysg. Gallai grantiau dalu am rywfaint o’r gost o deithio neu ddillad, offer neu hyfforddiant arbenigol.

Mae’r help wedi bod yn hynod werthfawr. Heb yr help, ni fyddwn fyth wedi bod mewn sefyllfa i sefydlu fy musnes fy hun. Astudiais am dair blynedd yn y Brifysgol, gyda’r gobaith o weithio ychydig i’m hun rhyw ddiwrnod er mwyn gwella fy nghydbwysedd bywyd a gwaith. Mae fy niolch yn fawr i’r holl rai a fu’n rhan o hyn.

Helpu preswylwyr i gael gwaith

Sicrhaodd Louise Fordham, preswylydd o Gaerdydd, grant i brynu offer er mwyn sefydlu ei busnes trin traed. Darparom grant er mwyn ei galluogi i brynu ei 100 pecyn trin traed unigol untro cyntaf, er mwyn ei rhoi ar ben ffordd gyda’i busnes trin traed newydd.

Helping residents into work

The help has been invaluable. Without that help I would never have been in a position to set up my own business. I studied for three years at University with the hope of working a little for myself one day to better my work life balance. I cannot thank all those involved enough.

Working with the housing teams, our Making a Difference Futures Grant supports residents and helps them to overcome barriers that prevent them from employment, training and education opportunities. Grants could cover some of the cost of travel or specialist clothing, equipment or training.

Cardiff resident Louise Fordham received a grant to buy equipment to set up her chiropody business. We provided a grant to buy her first 100 disposable single use podiatry packs to help her on her way with her new podiatry business.

19


Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth / Making a Difference Awards

Neil Bufton, enillydd y wobr Hyrwyddwr Lles yn ein Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth 2019, gyda’i rieni, Ron a Rose. 20

Neil Bufton, winner of the Wellbeing Champion at our Making A Difference Awards 2019, with his parents Ron and Rose.


Yn 2019, cyfrannodd tua 50 o’n contractwyr a’n cyflenwyr dros £45,000 ar ffurf nawdd er mwyn rhoi noson i’w chofio i’n preswylwyr. Yn ein seremoni fawreddog yng Ngwesty Vale, Hensol, daeth ein noddwyr a’n staff ynghyd i gydnabod cyflawniadau rhai o’n preswylwyr mwyaf arbennig ar draws Cymru. Dathlom waith gwych cymdogion da, arwyr lleol, arloeswyr prosiectau amgylcheddol a chymunedol, hyrwyddwyr lles a chodi arian a’r bobl hynny sydd wedi trawsnewid eu bywydau er gwell, gan wneud cyfraniadau rhagorol i’w cymunedau.

Pan gyhoeddwyd mai Neil oedd enillydd Gwobr Hyrwyddwr Lles, roeddem yn ein dagrau. Bu pawb yn y gwobrau, y gwesteion eraill, y noddwyr, y contractwyr a’r staff mor gyfeillgar ac yn gymaint o help. Bu’n noson na fyddwn fyth yn ei hanghofio. Rose Bufton

Roeddwn i a’m gŵr yn hynod o falch o weld ein mab yn cael ei gydnabod a’i wobrwyo am ei gyflawniadau. Roeddem yn teimlo’n nerfus pan symudodd Neil i’w fflat ei hun yng nghynllun gofal ychwanegol Llys Glan Yr Afon, ond mae gweld cynifer y ffrindiau sydd ganddo erbyn hyn a faint y mae pobl yn ei werthfawrogi, wedi ein gwneud mor falch.

For the past twelve years, our Making a Difference Awards have celebrated our residents’ community spirit, courage, enterprise and kindness - Wales & West Housing style. In 2019, around 50 of our contractors and suppliers contributed more than £45,000 in sponsorship to give our residents a night to remember. In our glittering ceremony at the Vale Resort, Hensol, our sponsors and staff came together to recognise the achievements of some of our most remarkable residents from across Wales. We celebrated the great work of good neighbours, local heroes, environmental and community project pioneers, fundraising and wellbeing champions and those people who have transformed their lives for the better and made outstanding contributions to their communities.

I can’t put into words how much it meant to me and my husband to see our son being recognised and rewarded for his achievements. We were nervous when Neil moved into his own flat at Llys Glan Yr Afon extra care scheme, but seeing how many friends he has made and how well he is appreciated, has made us so proud. When Neil’s name was called out as the winner of the Wellbeing Champion Award, we were moved to tears. Everyone at the awards, the other guests, sponsors, contractors and staff were all so helpful and friendly. It was a night we will never forget. Rose Bufton

Dros y deuddeng mlynedd ddiwethaf, mae’n Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth wedi bod yn dathlu ysbryd cymunedol, dewrder, menter a charedigrwydd ein preswylwyr – yn arddull Tai Wales & West.

21


Rhoi rhywbeth yn ôl

Giving Something Back

Yn WWH, nid yw rhoi rhywbeth yn ôl yn golygu rhywbeth ariannol yn unig. Mae’n ymwneud â neilltuo amser ac ymdrech i helpu eraill. Anogir pob aelod o staff i gymryd rhan a chynorthwyo preswylwyr yn ein cymunedau, a rhoddir un diwrnod o wyliau ychwanegol y flwyddyn er mwyn gwirfoddoli. Gall y prosiectau y maent yn gweithio arnynt amrywio o addurno neuaddau cymunedol lleol, clirio gerddi cymunol neu ymweld ag ysgolion er mwyn helpu gyda gweithgareddau gyrfaoedd a phaneli ffug gyfweliadau.

At WWH giving is not just about the money, it’s about giving time and effort to help others. Every member of staff is encouraged to get involved to support residents in our communities and is given one extra day’s leave per year to volunteer. The projects they work on can range from decorating local community halls, clearing up communal gardens or going into schools to help with career activities and mock interview panels.

Yn y llun: Ymunodd staff gyda gwirfoddolwyr o Gymdeithas Alzheimer er mwyn tacluso’r ardd yng nghanolfan ddydd Cymdeithas Alzheimer yng Nghwrt Oldwell, Caerdydd. Gan ddefnyddio offer WWH, buont yn golchi’r patio, yn paentio siediau potio ac yn plannu bylbiau a blodau yn y gwelyau uwch.

Pictured: Staff joined volunteers from the Alzheimer’s Society to spruce up the garden at the Alzheimer’s Society’s day centre at Oldwell Court, Cardiff. Using WWH equipment, they jet-washed the patio, painted potting sheds and planted bulbs and flowers in the raised beds.

Yn ystod y llynedd, gwirfoddolodd y staff Last year staff volunteered

168.5

awr / hours yn ystod diwrnodau Rhoi Rhywbeth yn Ôl on Giving Something Back days 22

“Diolch i staff WWH, mae’n gardd yn ddiogel i’n defnyddwyr gwasanaeth. Maent yn cael cymaint o bleser o’r gwaith y maent wedi’i wneud yn ein gardd.” Shena Pierrot, Rheolwr Canolfan Ddydd Cymdeithas Alzheimer


Yn Y Pîl, Pen-y-bont ar Ogwr, bu staff yn cydweithio gyda phobl ifanc a gwirfoddolwyr yng Nghlwb Ieuenctid a Chymunedol KPC er mwyn cynnig bywyd newydd i lwybr BMX, a oedd wedi dirywio ac a oedd yn llawn tyfiant. “Mae’n wych gweld y plant yn defnyddio’r llwybr unwaith eto, gan deimlo mor frwdfrydig amdano. Roedd rhai o’r bechgyn hŷn wedi cael y syniad o’i ddefnyddio unwaith eto, a nhw oedd y cyntaf i’w ddefnyddio. Bellach, mae gennym gyfleuster gwych ar gyfer ein holl bobl ifanc.” Alison Mawby, Rheolwr Datblygu Prosiect ar gyfer KPC, Pen-y-bont ar Ogwr.

“Thanks to WWH staff our garden is safe for our service users. They get so much pleasure from the work they have done in our garden.” Shena Pierrot, Alzheimer’s Society Day Centre manager

In Pyle, Bridgend, staff worked together with young people and volunteers at the KPC Youth and Community Club to bring a run-down and overgrown BMX track back to life. “It’s great to see the children using the track again and being so enthusiastic about it. Some of the older boys had the idea to bring it back into use and they were the first to use it. Now we have a great facility for all our young people.” Alison Mawby, Project Development Manager for KPC, Bridgend.

23


Rhoi Elusennol

Charitable Giving

Mae gan WWH hanes da o gefnogi elusennau mewn sawl ffordd, trwy ein staff, ein preswylwyr ac aelodau ein Bwrdd. Bob blwyddyn, mae’n staff yn codi arian ar gyfer ein helusen enwebedig, sy’n gweithio ar draws Cymru ac sy’n cynnig budd i’n preswylwyr.

WWH has a great record of supporting charities in many ways, through our staff, residents and our Board members. Every year our staff raise money for our nominated charity, which works across Wales and benefits our residents.

Ein helusen bresennol ar gyfer 2019/2020 yw Mind Cymru, sy’n darparu cyngor a chymorth i bobl sy’n cael problemau iechyd meddwl. Yn 2019, codom dros £9,000 trwy gyfrwng amrywiaeth o ddigwyddiadau megis diwrnodau gwisgo dillad anffurfiol, gwerthu cacennau, rafflau a gweithgarwch codi arian ar draws y swyddfeydd. Mae rhai o’n haelodau o staff mwy mentrus wedi rhedeg marathonau neu feicio ar draws Cymru. Dros y ddegawd ddiwethaf, mae’n staff wedi codi £132,398 ar gyfer elusennau staff, gan gynnwys Ymchwil Canser Cymru, Cymdeithas Strôc, Help for Heroes a Chymdeithas Alzheimer.

Trwy gydol y flwyddyn, llwyddom i godi £3594 hefyd er mwyn cynorthwyo 31 o elusennau eraill trwy gynnal gweithgareddau codi arian ychwanegol. Dyma rai ohonynt:

24

Our current charity for 2019/2020 is Mind Cymru, which provides advice and support to people experiencing mental health problems. In 2019 we raised more than £9,000 through a variety of events such as dress down days, bake sales, raffles and fundraisers throughout the offices. Some of our more adventurous members of staff have run marathons or cycled across Wales. In the last decade our staff have raised £132,398 for staff charities, including Cancer Research Wales, the Stroke Association, Help for Heroes and the Alzheimer’s Society.

Throughout the year we also raised £3594 to support 31 other charities through additional fundraising activities. Here are just a few:


“Rydym yn hynod ddiolchgar i staff Tai Wales & West am ddewis canolbwyntio eu hymdrechion codi arian i gefnogi Mind Cymru.

“We are extremely grateful to the staff of Wales & West Housing for choosing to concentrate their fundraising efforts to support Mind Cymru.

“Bydd eich gweithgarwch codi arian chi yn ein helpu ni i gynorthwyo rhagor o bobl sy’n byw gyda phroblem iechyd meddwl, a’r rhai sy’n gofalu amdanynt, trwy roi’r wybodaeth gywir iddynt. Trwy gyfrwng ein gwasanaethau cymorth a’n rhwydwaith o 20 o grwpiau Mind lleol yng Nghymru, rydym yn darparu help er mwyn caniatáu i bobl sy’n cael problemau iechyd meddwl i fyw bywyd mor llawn ag y bo modd.

“Your fundraising will help us to support more people living with a mental health problem, and those who care for them, by giving them the right information. Through our support services and our network of 20 local Minds in Wales, we provide help to allow people experiencing mental health problems to live life as fully as possible.

“Rydym yn gymuned anataliadwy o bobl yng Nghymru na fydd yn rhoi’r gorau iddi nes bydd pawb sy’n dioddef problem iechyd meddwl yn cael y cymorth a’r parch y maent yn ei haeddu. Bydd yr arian y byddwch yn ei godi yn gwneud byd o wahaniaeth i ni.” Mind Cymru

“We’re an unstoppable community of people in Wales who won’t give up until everyone experiencing a mental health problem gets the support and respect they deserve. The money you raise will make all the difference to us.” Mind Cymru

25


WWH Board Mae’n Bwrdd yn cyflawni rhan fawr hefyd. Yn 2019, gwariont £30,000 yn cynorthwyo elusennau a sefydliadau sy’n gweithio er mwyn helpu grwpiau o bobl difreintiedig ar draws Cymru. Yna, cafodd yr elusennau a ddewiswyd rodd flynyddol o £10,000 am dair blwyddyn yn olynol.

Our Board plays a big part too. In 2019 they spent £30,000 supporting charities and organisations which work to help disadvantaged groups of people across Wales. The selected charities then receive an annual donation of £10,000 for three consecutive years. Charities currently receiving Board support are Manumit Coffee, a Cardiff-based roaster business offering employment and training to survivors of modern slavery, Dementia UK’s Admiral Nurses and Wales homelessness charity, Llamau.

26

Yr ystadegyn syfrdanol yw bod rhywun yn dod yn gaethwas bob 30 eiliad. Sefydlom Manumit er mwyn cynnig gobaith i’r rhai sydd wedi goroesi masnachu pobl, ynghyd â chyfle i ailgydio yn eu bywydau. Trwy weithio i Manumit, telir y Cyflog Byw i’r rhai sydd wedi goroesi, a byddant yn cael hyfforddiant a fydd yn eu galluogi i fynd ymlaen i chwilio am waith arall.

Manumit Coffee The shocking statistic is that every 30 seconds someone becomes a slave. We set up Manumit to give survivors of human trafficking hope and the chance to rebuild their lives. By working at Manumit, survivors are paid a Living Wage, while they are trained in a skill that they can take on and find other work.

Mae rhai o’r rhain yn teimlo’n ofnus, yn bryderus ac maent yn dioddef pyliau o banig pan fyddwn yn eu cyfarfod y tro cyntaf. Mae gweld eu hyder a’u hymddiriedaeth yn cael ei feithrin, a’u gweld yn dechrau edrych ymlaen at ddyfodol mwy disglair trwy wneud gwaith ystyrlon a’r caredigrwydd a’r cymorth parhaus yr ydym yn ei gynnig, yn rhywbeth mor werth chweil.

Some of the survivors are scared, apprehensive and suffer from panic attacks when we first meet them. It’s so rewarding to see them grow in confidence and trust and start looking forward to a brighter future through meaningful work and the ongoing support and kindness we offer.

Mae’r rhodd gan Fwrdd WWH yn caniatáu i ni dyfu fel menter gymdeithasol ac yn y pen draw, mae’n cynnig gobaith i fwy o bobl sy’n goroesi trwy gyfrwng gwaith ystyrlon ac am dâl.

The donation from the WWH Board allows us to grow as a social enterprise and ultimately give hope to more survivors through paid and meaningful work.

Dai Hankey, sylfaenydd Coffi Manumit.

Dai Hankey, founder of Manumit Coffee.

WWH Board

Coffi Manumit

Yr elusennau sy’n cael cymorth gan y Bwrdd ar hyn o bryd yw Coffi Manumit, busnes rhostio coffi yng Nghaerdydd sy’n cynnig cyflogaeth a hyfforddiant i’r rhai sydd wedi goroesi caethwasiaeth fodern, Nyrsys Admiral Dementia UK ac elusen Cymru ar gyfer y digartref, Llamau.


Dementia UK “Rydym wedi defnyddio’r rhodd er mwyn talu am hyfforddi pedair o’n Nyrsys Admiral sy’n gweithio gyda theuluoedd yn Ne Cymru. Mae’r hyfforddiant hwn yn bwysig er mwyn parhau datblygiad arfer a phroffesiynol y nyrsys wrth iddynt ddarparu’r gwasanaeth hanfodol hwn. Mae Dementia UK yn credu y dylai fod modd i bawb y mae angen cymorth Nyrs Admiral arnynt fod yn gallu cael help, a dyna pam ein bod yn gweithio’n galed i gynyddu nifer y nyrsys ar draws Cymru a gweddill y DU. Helen Collins of Dementia UK

Dementia UK

Llamau Mae’r cymorth y mae Tai Wales & West wedi’i roi i ni dros y blynyddoedd wedi bod yn hynod werthfawr. Mae’n gwneud gwahaniaeth mor gadarnhaol i fywydau’r bobl ifanc, y menywod a’r plant y mae Llamau yn eu cynorthwyo. Yn ystod y cyfnod anodd hwn, mae WWH yn gwybod bod elusennau sy’n gweithio er mwyn terfynu digartrefedd yn ei chael hi’n anodd sicrhau cyllid er mwyn parhau eu gwaith, ac mae cael eu cymorth nhw yn gwneud gwahaniaeth mawr gwirioneddol, ac mae’n cael effaith fawr ar ein gwaith.

Llamau The support that Wales & West Housing have given us over the years has been invaluable. It makes such a positive difference to the lives of the incredible young people, women and children Llamau support. WWH know that during these difficult times charities working to end homelessness struggle to find funding to continue their work, having their support truly makes a big difference and has a big impact for our work.

“We have used the donation to fund the training of four of our Admiral Nurses working with families in South Wales. This training is important to continue the nurses’ professional and practice development as they provide this vital service.

Mae digartrefedd yn parhau i fod yn broblem gynyddol yng Nghymru, ond yn Llamau, rydym yn mentro dychmygu byd heb ddigartrefedd. Rydym yn gwneud rhywbeth amdano, ond ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain, ac mae cael cymorth eraill yn hanfodol.

Homelessness remains a growing problem in Wales but at Llamau, we are daring to imagine a world without homelessness. We are doing something about it, but we cannot do this alone, having the support of others in vital.

Dementia UK believes that everyone who needs the support of an Admiral Nurse should be able to get help, that’s why we are working hard to increase the number of nurses across Wales and the rest of the UK.”

Y llynedd, cynorthwyom fwy o bobl ifanc, menywod a phlant nag erioed i adael digartrefedd ar ôl – am byth – ac o ganlyniad i roddion fel hyn, gallwn barhau i wneud yr hyn a wnawn.

Last year, we supported more young people, women and children than ever to leave homelessness behind – for good – and it’s thanks to donations like this we’re able to continue doing what we do .

Helen Collins of Dementia UK

Frances Beecher, Prif Weithredwr Llamau

Frances Beecher, Chief Executive of Llamau

27


Cynorthwyo prentisiaethau Mae’n rhaglen prentisiaethau yn hyfforddi crefftwyr y dyfodol ar draws y sefydliad. Yn 2019, cyflogwyd 17 prentis gan ein cwmni cynnal a chadw mewnol, Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria Ltd yng Ngogledd a De Cymru.

Jamies Davies 28

Bydd y prentis yn cael y cyfle i ennill arian wrth iddynt ddysgu, gan gyfuno astudiaethau coleg gyda dysgu yn y gwaith ar draws sawl crefft gan gynnwys sgiliau nwy a thrydan, plymwaith a chynnal a chadw amlsgiliau.


Supporting apprenticeships Our apprenticeship programme trains tradespeople of the future across the organisation. In 2019, 17 apprentices were employed by our in-house maintenance company Cambria Maintenance Services Ltd in North and South Wales.

The apprentices get the opportunity to earn while they learn, combining college studies with learning on the job across a number of trades including gas and electrical skills, plumbing and multi-skilled maintenance.

Rob Granger 29


Cynorthwyo pobl i ddychwelyd i fyd gwaith

Supporting people back into work

Mae Grŵp WWH yn gweithio gyda phobl yn ein cymunedau er mwyn eu helpu i wireddu eu potensial.

WWH Group works with people in our communities to help them fulfil their potential.

Rydym yn gweithio gyda’n partneriaid cyflogadwyedd er mwyn cynnig lleoliadau gwaith i bobl sy’n dymuno sicrhau gwaith. Yn ogystal, rydym yn cynnig profiad gwaith i bobl ifanc sydd yn yr ysgol neu mewn addysg bellach er mwyn iddynt gael dysgu mwy am amrediad y gyrfaoedd y gall maes tai eu cynnig.

We work with our employability partners to offer work placements to people looking to get into work. We also provide work experience to young people in school or further education to learn more about the range of careers housing has to offer.

Yn 2019, cynorthwyom 9 lleoliad gwaith, ar draws 142 diwrnod, yn WWH a’n cwmnïau grŵp, Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria a Mentrau Castell.

In 2019 we supported 9 work placements, across 142 days, at WWH and our Group companies Cambria Maintenance Services and Castell Ventures.

Saith lleoliad profiad gwaith pellach, 34 diwrnod ar draws Grŵp WWH.

We offered a further 7 work experience placements, 34 days across the WWH Group.

“Roedd pawb yn WWH mor groesawgar a chyfeillgar. Bu’r profiad a gefais yn WWH yn bwysig pan ymgeisiais am waith amser llawn a’i sicrhau.” Cwblhaodd Luke, 18 oed, leoliad chwe wythnos yn WWH.

“Everyone at WWH was so welcoming and friendly. The experience I had at WWH was important when I applied for and secured full-time work.” Luke, 18, completed a six-week placement at WWH.

30

“Diolch i’m lleoliad, rydw i’n teimlo’n fwy hyderus am ddychwelyd i’r gwaith nawr.” Bu Evelyn, sy’n fam, ar leoliad swyddfa tair wythnos gyda Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria

“Thanks to my placement, I now feel more confident about returning to work.” Mum Evelyn carried out a three-week office placement with Cambria Maintenance Services.

“Rydw i wedi dysgu nifer fawr o sgiliau digidol newydd yn ystod fy lleoliad gwaith, a fydd yn helpu i wella fy mhrofiad yn ddiweddar pan fyddaf yn ymgeisio am swyddi gweinyddol eraill.” Bu Andrew, cyn was sifil, ar leoliad gwaith gydag adran weinyddol WWH ar ôl gadael ei gyflogaeth er mwyn gofalu am ei fam oedrannus. “I have learned lots of new digital skills during my work placement, which will help to improve my recent experience when I apply for other admin jobs.” Former civil servant Andrew carried out a work placement with WWH admin after leaving employment to care for his elderly mother.


31


32


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.