Intouch rhifyn 89 Gwanwyn 2017

Page 1

intouch GWANWYN 2017 | RHIFYN 89| AM DDIM

Cylchgrawn preswylwyr Tai Wales & West

Yn y rhifyn hwn... Balchder yng Nghymru 3000fed cartref yng ngogledd Cymru Credyd Cynhwysol Apiau defnyddiol Rydym yn cefnogi Age Cymru


Cyfleoedd ar gyfer cynorthwywyr arlwyo achlysurol a chogyddion yn yr Wyddgrug, Prestatyn a’r Drenewydd Ydych chi:

• eisiau gweithio’n hyblyg o gwmpas eich ffordd o fyw? • yn barod i weithio ar rai penwythnosau a/neu wyliau banc? • yn barod i weithio fel tîm yn ein cynlluniau gofal ychwanegol? Mae gennym gyfleoedd i gynorthwywyr arlwyo a chogyddion.

Cynorthwywyr arlwyo £8.45 yr awr

Cogyddion £9.22 yr awr

Oriau: Achlysurol Mae Arlwyo Castell yn gyflogwyr gwych ac yn croesawu pobl sy’n chwilio am gyfle i weithio’n achlysurol. Rydym yn gyflogwr Cyflog Byw. I ymgeisio ewch i: www.castellventures.wales


Llythyr y Golygydd a’r Cynnwys| intouch | www.wwha.co.uk | 03

Croeso gan Anne Annwyl Breswylwyr

Croeso i rifyn y gwanwyn InTouch – y cylchgrawn arbennig ar gyfer preswylwyr Tai Wales & West. Thema’r rhifyn hwn yw “Balchder yng Nghymru”, sy’n amserol gan y bydd sawl cymuned newydd ddathlu Dydd Gŵyl Dewi. Rydym ni, fel sefydliad tai, yn falch iawn o’n Cymreictod. Cewch ddarllen straeon gan ein preswylwyr sy’n falch o'u gwreiddiau, dysgu am draddodiadau Cymreig, mwynhau rysáit Bara Brith a chlywed sut mae ein staff yn awyddus i hyrwyddo'r iaith. Rydym hefyd yn buddsoddi mewn cyflenwyr o Gymru lle bynnag y gallwn, gan gyflogi pobl leol a rhoi hyfforddiant a chyfleoedd cyflogaeth i breswylwyr. Yn dilyn llwyddiant ein Chwilair Nadolig, mae gennym un arall, a’r tro hwn, ni fydd yn syndod i chi mai Cymru yw’r thema! Rydym hefyd wedi cyflwyno nodwedd newydd ar yr Apiau diweddaraf a allai fod yn ddefnyddiol i chi o ran cadw'n heini neu ddysgu Cymraeg. Oes gennych chi unrhyw apiau yr hoffech chi eu rhannu gyda ni? Rhowch wybod i ni! Yn ogystal, os oes gennych chi straeon yr hoffech eu rhannu, anfonwch nhw atom ni, ynghyd â llun lle bo hynny'n bosibl. Neu ffoniwch ni ac fe wnawn ni sgwrsio gyda chi. Mae eich adborth yn bwysig iawn i ni, felly os oes gennych chi syniadau neu sylwadau, rhowch wybod i ni. Rydyn ni wir yn gwrando arnoch chi. E-bostiwch contactus@wwha.co.uk neu siaradwch â’n tîm Cysylltiadau Cyhoeddus a Chyfathrebu ar 0800 052 2526. Hwyl ar y darllen, a gobeithio y cewch chi wanwyn braf. Anne Hinchey, Prif Weithredwr

Cynnwys Balchder yng Nghymru Diwrnod ym mywyd Byw’n Wyrdd Adroddiad Chwarterol Apiau Defnyddiol Gwneud gwahaniaeth i’ch dyfodol Is-osod eiddo Caru Llys Glan yr Afon Materion Ariannol Gwneud gwahaniaeth i’ch cymuned Y diweddaraf am elusennau Cynllun gofal Treffynnon Eich newyddion

Dilynwch ni ar twitter

04 17 18 21 28 30 31 32 34 37 40 42 43

@wwha

Wyddech chi eich bod chi'n gallu cael rhagor o newyddion a ddiweddariadau ar-lein yn awr?

Ieithoedd a fformatau eraill

Os hoffech gael copi o'r rhifyn hwn o InTouch yn Saesneg neu mewn iaith neu fformat arall - er enghraifft, print mawr, rhowch wybod i ni ac few wnawn ni helpu.

Cysylltwch â ni Tai Wales & West, Tŷ’r Bwa, 77 Parc Tŷ Glas, Llanisien, Caerdydd CF14 5DU Ffôn: 0800 052 2526 Testun: 07788 310420 E-bost: contactus@wwha.co.uk Gwefan: www.wwha.co.uk Gallwch hefyd gysylltu ag aelodau o staff yn uniongyrchol drwy e-bost. Er enghraifft, joe.bloggs@wwha.co.uk


04 | www.wwha.co.uk | intouch | Balchder yng Nghymru

Dathlu traddodiadau Cymru Yr Hen Galan Mae trigolion Cwm Gwaun, ger Abergwaun yn Sir Benfro, yn dal i ddathlu’r Hen Galan ar 13 Ionawr, y Flwyddyn Newydd yn ôl calendr Julian a ddefnyddiwyd ledled Prydain nes cyflwynwyd Calendr Gregori yn 1752. Roedd yr Hen Galan yn arfer cael ei ystyried yn bwysicach na’r Nadolig gan drigolion Cwm Gwaun, a byddai'r gwragedd lleol yn dod at ei gilydd i goginio pryd o fwyd mawr o dwrci neu ŵydd, gyda bwyd a diod arbennig wedi ei baratoi ymlaen llaw a byddai’r dynion yn cael cyfle i fynd saethu. Roedd y plant yn arfer treulio’r Hen Galan yn cerdded o dŷ i dŷ yn canu rhigymau traddodiadol i groesawu’r flwyddyn newydd ac i ddymuno iechyd a hapusrwydd i’r trigolion. Yn gyfnewid, roedden nhw’n cael 'Calennig' - fel arfer ffrwythau, melysion neu arian.

Dydd Gŵyl Dewi Dewi Sant yw nawddsant Cymru, ac mae Dydd Gŵyl Dewi ar 1 Mawrth, a ddewiswyd er cof am ei farwolaeth. Yn ôl y traddodiad bu farw ar y diwrnod hwnnw yn 601. Datganwyd y dyddiad yn ddiwrnod cenedlaethol o ddathlu yng Nghymru yn y 18fed ganrif. Mae preswylwyr yn ein cynllun yn Llain Las (ar y chwith) fel arfer yn dathlu'r diwrnod drwy gael Cawl a gêm o Bingo. Yn 2016, yng Nghwrt y Llan, fe wnaeth y staff Gawl a Bara Brith a chodwyd arian at Calon+, elusen leol.


Balchder yng Nghymru | intouch | www.wwha.co.uk | 05

Ras Yr Iaith

Yn ystod wythnos gyntaf mis Gorffennaf, mae ras gyfnewid llawn hwyl yn digwydd drwy Gymru, gyda'r baton iaith yn cael ei drosglwyddo o un canol tref i'r llall. Mae busnesau, clybiau, sefydliadau, ysgolion neu deuluoedd yn talu swm penodol o arian i noddi 1km a gall unrhyw nifer o bobl redeg y darn hwnnw o'r ras. Fel arfer, mae gennym Ginio Cymraeg neu De Cymraeg ar y diwrnod ac mae'r holl arian a godir yn mynd at Ras yr Iaith tuag at brosiectau

sy’n hyrwyddo'r Gymraeg, e.e. gwyliau cerddoriaeth amrywiol , fel Gŵyl Nôl a Mlaen a Tregaroc, ynghyd â gwersi Ioga a gŵyl ddrama Gymraeg.

“Rwy’n Gymraes falch o’m corun i’m sawdl” Dywed Sian Hope, un o’n preswylwyr: “Rydw i’n Gymraes falch i’r carn, a fyddwn i ddim yn dymuno unrhyw beth gwahanol i hynny.” Mae Sian, sy’n hanu o ogledd Cymru, yn falch o’i gwreiddiau. Roedd ei hen, hen daid yn gyfrifol am gwch ‘tacsi’ ar draws afon Conwy cyn i’r pontydd agor i gerbydau.

Roedd taid Sian yn y llynges yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, ond yn ddiweddarach trosglwyddodd i fataliwn 1af y Gwarchodlu Cymreig, felly roedd yn aelod o’r gwarchodlu o’r dechrau un.

Dywed Sian: "Roedd fy nhad yn Gymro a fy mam yn Saesnes, ond roedd hi bob amser yn arfer gofyn “wnaethon ni ennill?” pan oedd Cymru yn chwarae rygbi yn erbyn Lloegr... gan holi ai Cymru oedd wedi ennill!! Pan ddathlodd Sian ei phen-blwydd yn 50 oed, trefnodd ei theulu barti syrpreis iddi hi a gwnaeth ei nith gacen Gymreig iddi. "Un anrheg oedd mynd i Stadiwm y Mileniwm i wylio Cymru'n chwarae rygbi uchelgais fy mywyd oedd mynd yno ac fe wnaethom ennill! Rwy'n gobeithio gweld Cymru'n mynd i Gwpan y Byd!"

Helpodd y preswylwyr Jak Roberts a Fay Williams i wneud pen-blwydd Sian yn arbennig


06 | www.wwha.co.uk | intouch | Balchder yng Nghymru

Balchder yng Nghymru! Yn Tai Wales & West rydym yn falch o'r iaith Gymraeg. Yn achos y rhan fwyaf o’r staff yng ngorllewin Cymru, y Gymraeg yw eu hiaith gyntaf ac maen nhw’n yn awyddus i'w hyrwyddo, felly mae'n gyffredin i sgyrsiau ddechrau gyda "shw 'mae". Yn ein prif swyddfa yng Nghaerdydd ac yn ein swyddfa yn Ewloe yng ngogledd Cymru, mae nifer o siaradwyr Cymraeg rhugl ac mae llawer mwy yn dysgu'r iaith, diolch i'n hymrwymiad i gefnogi dysgwyr â hyfforddiant am ddim. Ymhlith y dysgwyr hynny mae Jess Davies, Cydlynydd Atgyweiriadau sy’n gweithio yng Nghaerdydd, a ddechreuodd gwrs Cymraeg i ddechreuwyr y llynedd er mwyn iddi allu cynnal sgwrs â thrigolion Cymraeg. Dywedodd: "Fe wnes i basio fy arholiadau Cymraeg pan oeddwn i yn yr ysgol, ond roedd hynny amser maith yn ôl, felly rydw i eisiau dysgu sut i drafod â’n preswylwyr sy'n siarad Cymraeg yn eu hiaith gyntaf. Mae Toby, fy mab wyth oed, yn dysgu Cymraeg yn yr ysgol gynradd, felly rwy'n ceisio ymarfer siarad gydag ef."

Dywedodd Daniel Huskings, sy’n Swyddog Dysgu a Datblygu: "Rwy'n teimlo fel Cymro y dylwn i gael rhywfaint o ddealltwriaeth o'r iaith Gymraeg. Wnes i ddim astudio’r Gymraeg o gwbl yn yr ysgol, felly rydw i wir yn dechrau o'r dechrau, ond rwy’n gobeithio cael dealltwriaeth sylfaenol o'r Gymraeg, a fydd yn fy helpu yn broffesiynol ac yn bersonol. “Rwy'n astudio ddwywaith yr wythnos, sy’n ymrwymiad mawr, ond mae’n golygu fy mod i’n datblygu ddwywaith yn gyflymach, felly mae'n ymddangos yn werth chweil. Mae'n dda bod ar y cwrs gyda rhywun rydych chi’n ei adnabod, fel y gallwch gefnogi eich gilydd a dod o hyd i rywun y gallwch ymarfer eich Cymraeg gyda nhw rhwng gwersi.

Gall dysgwyr Cymraeg yn ein swyddfa yng Nghastellnewydd Emlyn ymarfer eu sgiliau sgwrsio yn y 'Clwb Cerdded Cymraeg' lle mae staff yn cyfarfod unwaith yr wythnos yn ystod eu hawr ginio i gerdded a sgwrsio yn Gymraeg. Dywedodd Carol Scourfield, Gweinyddwraig Gwasanaethau Corfforaethol ac un sy’n siarad Cymraeg fel ei hiaith gyntaf: "Yn ogystal â chadw'n heini, mae'n ffordd dda i’n dysgwyr fagu hyder, gan siarad mewn grŵp anffurfiol a chyfeillgar."

Aelodau’r Clwb Cerdded Cymraeg


Balchder yng Nghymru | intouch | www.wwha.co.uk | 07

Bara Brith

Gall Bara Brith fod naill ai'n fara burum wedi’i gyfoethogi â ffrwythau sych, neu wedi’i wneud â blawd codi. Yn draddodiadol mae wedi’i flasu â the, ffrwythau sych a sbeisys cymysg, ac mae’n cael ei weini amser te, wedi’i sleisio, a menyn arno. Mae nifer o amrywiadau wedi cael eu gwneud gyda’r Bara Brith, gan gynnwys ei newid fod yn siocled ac i fod yn hufen iâ.

Cynhwysion 450G/1lb blawd codi 1 llwy de sbeis cymysg 175g/6oz siwgr Muscavado 1 wy buarth maint canolig 1 llwy fwrdd sest croen oren 2 llwy fwrdd sudd oren 1 llwy fwrdd mêl 300ml/½ peint o de oer 450g/1lb ffrwythau sych cymysg Mwy o fêl i roi sglein

Dull Rhowch y ffrwythau sych cymysg mewn powlen gymysgu, arllwyswch y te arnyn nhw, gorchuddio’r gymysgedd a'i adael i socian dros nos. Y diwrnod wedyn, cymysgwch y siwgr, yr wy, y sudd a’r croen oren, a’r mêl, a’u hychwanegu at y ffrwythau. Hidlwch y blawd a'r sbeis iddo a chymysgu'r cyfan yn dda. Arllwyswch y gymysgedd i dun torth wedi’i iro, 1.2L / 2 beint. Pobwch mewn popty wedi'i gynhesu ar nwy 3 / 160C / 325f am tua 1¾ awr. Dylai'r dorth fod yn lliw euraidd ac yn gadarn wrth ei chyffwrdd yn y canol. Taenwch ychydig o fêl ar wyneb y dorth tra bydd yn dal yn gynnes. Gadewch iddi oeri’n drylwyr cyn ei storio mewn tun cacen. Gallech amrywio rysáit y Bara Brith ychydig wrth ychwanegu ambell flas gwahanol. Wrth socian y ffrwythau, gallech roi ¼ yr hylif yn wirod wisgi. Gallech newid y sudd ffrwythau a’r mêl am 2 lwy fwrdd o farmalêd. Neu fe allech chi newid 2 lond llwy fwrdd o’r ffrwythau sych gyda choesyn sinsir wedi'i dorri, a newid y sudd a’r mêl gyda marmalêd lemon, a'r croen oren gyda chroen lemon.


08 | www.wwha.co.uk | intouch | Balchder yng Nghymru

Rydym yn buddsoddi mewn cyflenwyr lleol a’r gymuned Rydym yn falch o ddefnyddio cyflenwyr o Gymru ar gyfer ein rhaglenni datblygu a chynnal a chadw ar draws Cymru. Yn y flwyddyn ddiwethaf yn unig, roedd ein buddsoddiad cyffredinol yn economi Cymru a'r Deyrnas Unedig yn £64,806,000. Dyma gyfanswm gwerth yr holl wario, arbedion a gwerth ychwanegol o gontractau. Dyma swm ein gwariant gyda'r contractwr, gwariant y contractwr ar nwyddau, gwasanaethau a chyflogau i gyflawni'r contract, rhoddion ychwanegol o amser, arian a llafur a roesant at brosiectau cymunedol, yn ogystal ag

arian a arbedwyd drwy ddargyfeirio gwastraff o safleoedd tirlenwi. • Yn gyffredinol, arhosodd 83% o’r gwariant yng Nghymru. • Cyflogwyd cyfanswm o 72 o bobl o ganlyniad i ddyfarnu contractau. • Cadwyd 203 o swyddi o ganlyniad i’r dyfarniadau. • Darparwyd 881 o wythnosau o brentisiaethau ynghyd â 243 o wythnosau o brofiad gwaith.

“Mae WWH yn gwmni mor dda” Yng Nghaerdydd, mae preswylwyr Celyn Avenue, Lakeside, wedi gweld newidiadau dramatig i'w cartrefi yn dilyn gwaith adnewyddu mawr. Rhwng mis Awst a mis Tachwedd cynhaliwyd gwaith ar y to i gadw dŵr allan, gosod ffenestri newydd, glanhau'r gwaith rendro a gosod gwres newydd ar gost o £639,585. O ganlyniad i adborth gan breswylwyr yn y ddau floc o fflatiau, mae’r prif gontractwyr Solar Windows o Gaerffili wedi ffitio drysau ôl UPVC newydd, gan alluogi preswylwyr i ddefnyddio eu balconïau. Yn lle’r rheiliau rhydlyd ar y balconïau a’r rhodfeydd, rhoddwyd rhai dur galfanedig hawdd eu cynnal a’u cadw gan Ornamental Fabrication Ltd, o'r Barri yn ne Cymru

Dywedodd Rory Newman, sy’n gyd-gyfarwyddwr yn Ornamental Fabrication: "Rydym wedi gweithio ar nifer o ddatblygiadau Tai Wales & West i osod rheiliau newydd yn Caerau Court, Trelái a Four Elms Court, y Rhath. Mae’n gwmni da sy’n ymddiried ynom i wneud gwaith da."


Balchder yng Nghymru| intouch | www.wwha.co.uk | 09 Contractwyr eraill oedd Central Roofing ac Ian Williams, sydd ill dau â swyddfeydd yn Ne Cymru, a Construction Repairs, Abertawe. Ar gyfer cam terfynol y gwaith, fe wnaeth STS Gibson o Ben-ybont ar Ogwr ddechrau adeiladu ystafell beiriannau ar gyfer

bwyler nwy cymunol newydd a rhoi rheiddiaduron yn lle’r hen wresogyddion storio trydan. Mae disgwyl i’r gwaith gael ei gwblhau ym mis Medi, pan fydd y preswylwyr yn gallu rheoli tymheredd a'u defnydd o wres, a ddylai leihau eu biliau gwresogi.

“Mae’n gymaint o welliant”

Dywedodd y gweithiwr mwynglawdd wedi ymddeol, Bob Taylor, a'i wraig Valerie, "Mae hyn fel cael fflat newydd" nawr bod y drysau a’r ffenestri newydd wedi cael eu gosod. "Mae'r ffenestri yn llawer mwy cadarn ac wedi eu hinswleiddio’n well. Ac mae cael drws sy'n arwain o’n lolfa i’n balconi yn wych" meddai Bob, a symudodd i Celyn Avenue 23 mlynedd yn ôl. Mae’n newyddion gwych i’r arddwraig frwd Valerie hefyd, a

oedd yn arfer ymestyn allan drwy’r ffenestri i ddyfrio’r planhigion yn ei bocsys ffenestri. “Yn awr, rydw i’n gallu mynd ar y balconi i ddyfrio fy mhlanhigion. Ac yn yr haf byddwn yn gallu eistedd allan yn yr heulwen. Mae’n gymaint o welliant.” Mae eu ci Dougal hefyd wrth ei fodd yn gwylio’r byd a’r betws wrth eistedd ar y balconi.


10 | www.wwha.co.uk | intouch | Balchder yng Nghymru

Rydyn ni’n falch o arwain y ffordd gyda phren o Gymru Rydym yn falch iawn o arwain y ffordd fel darparwr tai cymdeithasol drwy ddewis pren o Gymru i adeiladu 11 o fflatiau o ansawdd uchel yn Llandrillo-yn-Rhos.

Mae'r rhan fwyaf o ddatblygiadau yn defnyddio pren a fewnforir gan fod digon ar gael, ond mae WWH yn awyddus i adeiladu rhagor o gartrefi gan ddefnyddio pren o Gymru, gan greu rhagor o swyddi yn y gymuned leol a chadw'r arian yng Nghymru. Mae'r coed a ddewiswyd ar gyfer y datblygiad sy’n werth £948,000, ac a fydd yn cael ei gwblhau yn ystod y gwanwyn eleni, yn bren pyrwydd Sitca o Gymru drwy felin lifio Pontnewydd ar Wy yn y Canolbarth. Gyda chefnogaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, fe wnaethom gontractio Williams Homes (Bala) Ltd i adeiladu'r safle. Mae gan Williams Homes enw da yn y diwydiant adeiladu ffrâm bren yn y Gogledd, ac yn y blynyddoedd diweddar mae’r cwmni wedi arloesi wrth ddefnyddio pren o Gymru mewn nifer o brosiectau adeiladu carbon isel confensiynol ac arloesol.

Mae WWH yn un o aelodau gwreiddiol Woodknowledge Wales (WKW), sy'n hyrwyddo arloesi, ymchwil a datblygu yn y diwydiant coed yng Nghymru. Gofynnwyd i Shayne Hembrow, Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Masnachol WWH, gadeirio WKW. Dywedodd Shayne: "Rydw i’n ystyried y penodiad hwn yn fraint, ac rydym yn edrych ymlaen at gefnogi defnyddio pren o Gymru yn y datblygiad hwn ac yn gobeithio y bydd busnesau eraill yn dilyn yr arweiniad hwn. Fel gyda'n holl brosiectau, mae cynaliadwyedd yn ystyriaeth allweddol wrth gynllunio, darparu a defnyddio. Drwy ddefnyddio pren o Gymru, byddwn yn cefnogi ein diwydiant coedwigaeth, gan gadw'r arian yng Nghymru a chreu swyddi i bobl Cymru."


Balchder yng Nghymru | intouch | www.wwha.co.uk | 11

Chwilair ar Gymru

Cyfle i ennill taleb siopa gwerth £30 gyda’n chwilair am Gymru Mae chwilair y rhifyn hwn yn ymwneud â Chymru. Gellir dod o hyd i’r geiriau am yn ôl, am ymlaen, ar draws, ar i fyny, ar i lawr, neu’n groes gornel. Bydd yr holl atebion cywir yn cael eu rhoi mewn raffl fawr a bydd un yn cael ei ddewis fel enillydd lwcus taleb siopa Argos gwerth £30. Anfonwch eich cais gyda'ch enw, eich cyfeiriad a manylion cyswllt at Jane Janaway, Tai Wales & West, Ty Draig, Parc Dewi Sant, Ewlo, Glannau Dyfrdwy CH5 3DT. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 10 Ebrill. C N N Y L C A F G O Y H S G S A B S I F T E TH P F W H E O B A R E A B L J E Y DD

A D M P B A U N Y Y B Y J T P P T D Y R

L M R R C A H T Y N R LL N A R C M N A U

A W B B A G J E G D C A D M T A H E L A

G C P U J E P S M F Y U D S B S H A H S

N I Y O M P G D LL R M G A I L T M M F G

E D J Y P U E W W CH Y L N B N E P Y H L

H I J G B A D Y C H O O M T N LL M R L E

Y L W L M L DD N G E G G O O S Y W A F W

P S H P L F Y W L I N P G M W D R U R I

L D T C A R U E O A W H H I N J R A G P

F Y B LL H D A DD W Y R Y CH DD A D U G B R P W R E E Y I A N L TH C B D DD I A E M L F W I N G I G M I L N W Y N Y B A G E R A R C N O U DD Y C I P Y O J R B N H F T

P W J J J M F B G I W LL L C P B P E LL L

T E L Y N C G Y A M DD A S O C A I E G D

F C F B J Y L W S G P A C M G P R A D S

Y L E F R D O F DD E T S I E S J H E R R

BARA BRITH CAERDYDD CASTELL CAWL CENHINEN PEDR CYMRAEG DYDD GWYL DEWI EISTEDDFOD HEN GALAN LLWY GARU MABINOGION OWAIN GLYNDWR PICAU AR Y MAEN PYLLAU GLO RYGBI SANTES DWYNWEN TELYN URDD Y DDRAIG GOCH YR WYDDFA

Enillydd chwilair y Nadolig Llongyfarchiadau i Wendy Salt, sy’n byw yn y Dderwen Deg, Coed-llai, a enillodd daleb gwerth £30 yng nghystadleuaeth chwilair y rhifyn diwethaf.


12 | www.wwha.co.uk | intouch | Balchder yng Nghymru

Gwanwyn

i’w fwynhau Sioe Flodau Caerdydd yr RHS 7 – 9 Ebrill

Dewch i Gaerdydd ac oedwch i arogli’r blodau yn Sioe Flodau Caerdydd yr RHS, sy'n dod â chanol y ddinas yn fyw yn ystod y Gwanwyn. Cewch weld arddangosfeydd blodau, nodweddion a gerddi arddangos a fydd yn cyflwyno arferion garddio gorau’r RHS.

Dydd y Farn, Caerdydd 15 Ebrill Fe fydd hi’n strafagansa darbi dwbl ddydd Sul y Pasg eleni pan fydd pedwar rhanbarth rygbi Cymru’n brwydro wrth i Ddydd y Farn ddychwelyd i Stadiwm y Principality. Bydd Gleision Caerdydd yn herio’r Scarlets am 2pm a Dreigiau Casnewydd Gwent yn wynebu'r Gweilch am 4.45pm. Dyma'r ail flwyddyn mewn cytundeb pedair blynedd lle mae’r Gleision a'r Dreigiau yn chwarae eu gemau cartref bob yn ail yn erbyn eu gwrthwynebwyr rhanbarthol ar yr un diwrnod yn y stadiwm eiconig hwn. Daeth dros 36,000 o gefnogwyr i’r digwyddiad cyntaf y tymor diwethaf pan fu timau’r gorllewin yn fuddugol, gyda’r Scarlets yn curo'r Dreigiau a'r Gweilch yn drech na’r Gleision. Tocynnau am gyn lleied ag £11.50.

Gŵyl Gerdded Flynyddol Cas-gwent 19 – 23 Ebrill Archwiliwch gefn gwlad hyfryd Sir Fynwy, Dyffryn Gwy a Fforest y Ddena. Gyda thirwedd mor amrywiol, mae’r teithiau cerdded yn cael eu graddio fel bod rhywbeth i bawb, o dro ysgafn ar lan yr afon, yr holl ffordd at gerddwyr profiadol sy'n dymuno mynd am dro heriol ar hyd Llwybr Clawdd Offa.

Taith Sir Benfro 20 a 21 Mai Mae 10fed Taith Sir Benfro yn cynnwys pedwar llwybr newydd gwych dros ddau ddiwrnod gwych o feicio ym Mharc Cenedlaethol hyfryd Sir Benfro, gyda dringfeydd a disgynfeydd anhygoel, a’r daith wedi ei chanoli yng Ngwesty Gwledig Crug Glas ger Tyddewi. Mae’r Daith yn crynhoi popeth sy’n wych am feicio - ffyrdd gwledig tawel diddiwedd, golygfeydd arfordirol syfrdanol, dringfeydd heriol, disgyniadau serth a mannau aros i fwyta sy'n arddangos cynnyrch lleol.


Balchder yng Nghymru| intouch | www.wwha.co.uk | 13

Byddwch yn falch, rydych yn Gymry Whatever you say, whatever you do. You do it, straight up and right loud. You do it full pelt, and with confidence,... Because you are Welsh and can be proud. Your Silver spoons, you can keep them, You have musical blood, an innately Welsh 'poets soul.' From your first inward breath you are 24 Carat Welsh. You are Complete, you are totally Whole. As your first inward breath, you strongly inhale. As your first cry, your cry. You cry it out loud. From the moment you’re born just remember You are Welsh you can always feel proud. Do everything you do, to your personal best. Do it better than anyone else. Whatever language you speak, abroad or in Wales. Speak it proud, remember you are Welsh. When you draw your last breath, whatever your age, As around you, your relatives grieve. Having travelled each and every Dai way Be proud that as you die, you did it Dai’s way.

Diolch i Neil Davies, un o’n preswylwyr o Limebourne Court, yr Eglwys Newydd, Caerdydd, a ysgrifennodd y gerdd hon. Os ydych chi awydd anfon eich cerdd eich hun atom, gallwch ei hanfon drwy e-bost: contactus@wwha.co.uk


14 | www.wwha.co.uk | intouch | Balchder yng Nghymru

Rydyn ni’n falch o’n 3000fed cartref yn y Gogledd

Rydyn ni wedi dathlu ein hymrwymiad i ddarparu tai fforddiadwy ar draws gogledd Cymru drwy adeiladu ein 3000fed cartref yn Nhir Glas, Maes Glas. Dywedodd Shayne Hembrow, Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Masnachol WWH: "Mae hon yn garreg filltir bwysig gan mai ein huchelgais yw i bawb gael cartref y gallan nhw fod yn falch ohono, mewn man lle maen nhw’n dymuno byw. Mae ein cynllun ar gyfer y pum mlynedd nesaf yn cynnwys buddsoddi £250 miliwn, gan gyflwyno 1000 o gartrefi newydd effeithlon o ran ynni ar draws Cymru a buddsoddi yn ein heiddo presennol. Bydd hyn yn creu rhagor o swyddi a chyfleoedd gwaith ac yn rhoi hwb economaidd sylweddol i gymunedau a busnesau lleol." Mae Tir Glas yn cynnwys 44 tŷ ac 14 fflat effeithlon o ran ynni. Mae’r preswylwyr yn hapus hefyd.

Nid yw Danielle Morgan, sy’n 23 oed, wedi difaru am eiliad ers symud yno. "Mae gennyf gyflwr niwrolegol prin o'r enw CRPS, sy'n achosi poen 24 awr y dydd ac sy’n effeithio ar y system imiwnedd. Mae gennyf epilepsi, osteoporosis, dystonia ac anawsterau gyda’m traed. Roeddwn i’n byw mewn fflat yn Shotton nad oedd yn addas o gwbl i mi – roedd yn rhy gul ar gyfer fy nghadair olwyn. Roeddwn yn gorfod byw mewn un ystafell yn unig - roeddwn yn teimlo fel anifail mewn caets". Ei mam, Sue, sy’n 57 oed, yw ei phrif ofalwr. Roedd yn gas gan Sue weld ei merch yn byw bywyd mor gyfyngedig.


Balchder yng Nghymru| intouch | www.wwha.co.uk | 15 Cyfarfu Swyddog Tai WWH, Ann-Marie Rastin, â Danielle a chynnig cartref wedi'i addasu ar gyfer cadair olwyn iddi yn Nhir Glas, ond roedd hi’n gwybod y byddai ei gwahanu oddi wrth ei mam yn anodd, yn enwedig gan eu bod yn dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus. "Sut gallwn i symud Danielle mor bell oddi wrth ei mam?" meddai Ann-Marie. "Roedd gennyf amheuon, felly pan ddaeth cyfle i mi ddod o hyd i gartref i Sue, bachais hwnnw ac maen nhw nawr yn byw drws nesaf ond un i’w gilydd.” Mae Danielle ar ben ei digon - mae modd codi neu ostwng arwynebeddau ei byngalo fel y gall hi fod yn annibynnol yn ei chartref ei hun, ond yn dawel ei meddwl nad yw ei mam yn rhy bell, chwaith.

Prysurdeb gyda phartneriaid yn y Gorllewin Yng ngorllewin Cymru rydym wedi bod yn gweithio’n agos iawn gyda phartneriaid yn yr awdurdodau lleol i ddatblygu’r Rhaglen Datblygu Tai Cymdeithasol am y tair blynedd nesaf. Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed uchelgeisiol iawn i ddarparu 20,000 o gartrefi fforddiadwy newydd ar draws Cymru o fewn yr amserlen hon.

Sir Benfro • Parrog Yard, Trefdraeth - 8 cartref • Penwalis, Abergwaun - 25 cartref • Dan y Bryn, Abergwaun - 2 cartref

Gan barhau â llwyddiant cyflwyno’r fenter Grant Cyllid Tai, maen nhw nawr wedi uno Grant Tai Cymdeithasol gyda'r ail rownd o Grant Cyllid Tai. Mae hyn bron yn dyblu'r swm y grant sydd ar gael i ddarparu rhagor o dai fforddiadwy. Rydym yn awyddus iawn i weld gorllewin Cymru yn elwa ar y cynnydd yn y cyllid hwn, ac rydym wedi bod yr un mor uchelgeisiol yn cyflwyno’r rhaglen i’n cynlluniau.

Ceredigion

Mae’r cynlluniau a ganlyn (tua 125 o gartrefi newydd) wedi cael eu cynnwys yng Nghynlluniau Cyflawni’r Awdurdodau Lleol hyn:

• • • •

Ysgol Ffynnonbedr, Llambed - 15 cartref Plas Morolwg, Aberystwyth - 33 cartref Crown Building, Aberystwyth - 18 cartref Parcllyn, Aberporth - 25 cartref

Delwedd CGI o Parrog Yard,Trefdraeth


16 | www.wwha.co.uk | intouch |Balchder yng Nghymru

Mae Lena Charles yn 98 oed ac yn falch o fod yn Gymraes i’r carn Magwyd Mrs Charles, sy’n byw yng nghynllun er ymddeol Danymynydd ym Mlaengarw, ger Pen-y-bont ar Ogwr, ym mhentref Blaengarw ar aelwyd cwbl Gymraeg gyda’i rhieni o’r Gogledd. “Pan oeddwn i yn yr ysgol, ychydig iawn oedd yn siarad Saesneg ac roedd y plant i gyd yn siarad Cymraeg,” meddai. “Fel oedolyn rwyf wedi cynnal gwasanaethau yn Gymraeg yn y capel, a hefyd wedi darllen y Beibl yn Gymraeg. "O ran y gweddïau, rhyw hannerhanner yw hi o ran y Gymraeg a’r Saesneg. Rwyf yn hapusach yn siarad Cymraeg, ac weithiau dydw i ddim yn hoffi geiriau Saesneg – dydyn nhw ddim yn golygu’r un peth i mi. “Rwy’n meddwl fod y Cymry yn fwy cartrefol, yn fwy gofalgar ac yn fwy parod i rannu. Mae gofalu’n rhan ohonom. Magodd Cymru fy mam a’m tad, a minnau hefyd, fel y gallwn innau yn fy nhro fagu fy mhlant.”


Newyddion a Gwybodaeth am WWH | intouch | www.wwha.co.uk | 17

Diwrnod ym mywyd...

Swyddog Rheoli Asedau Mae Roy Preece, sy’n 64 oed, yn Swyddog Rheoli Asedau yn ardal Caerdydd, ac yn gweithio o’n prif swyddfa yng Nghaerdydd. "Fel Swyddog Rheoli Asedau rwy'n edrych ar ôl y gwaith cynnal a chadw a'r holl wasanaethau. Yn syml, rydw i yno i gwrdd ag anghenion y preswylwyr. Gallai hynny fod yn unrhyw beth o ddelio â phryderon preswylwyr ynghylch pethau’n torri neu broblemau yn eu cartrefi i archwilio safleoedd lle mae contractwyr yn gweithio. Rydw i'n un o 15 o Swyddogion Rheoli Asedau sy’n gweithio gyda WWH ac mae pob un ohonom yn gyfrifol am tua 700 o dai. Mae fy ardal yn cwmpasu Lakeside, Cyncoed, Y Rhath a Phentwyn, lle’r ydw i’n edrych ar ôl 17 o gynlluniau byw’n annibynnol a tai cyffredinol ac yn rheoli tîm o 3 goruchwyliwr safle a 3 glanhawr. Ymunais â WWH 25 mlynedd yn ôl fel goruchwyliwr safle yn Llaneirwg, a deuthum yn Swyddog Rheoli Asedau yn 1995. Cyn hynny roeddwn i'n gweithio fel paentiwr ac addurnwr. Mae fy niwrnod gwaith arferol yn dechrau am 8am yn y brif swyddfa. Byddaf yn gwirio fy negeseuon e-bost a chael fy rhestr o alwadau ar gyfer y diwrnod. Os oes gofyn archwilio unrhyw un o fy nghynlluniau, fi yw'r un cyntaf i fynd yno i wirio pethau. Rydw i’n treulio'r rhan fwyaf o fy niwrnod mewn cartefi. Rydw i bob amser yn ceisio ymweld yr un diwrnod ag yr ydw i’n cael galwad. Unwaith y byddaf ar y safle, bydd preswylwyr eraill yn gofyn i mi edrych ar rywbeth sydd o'i le; gallai fod yn unrhyw beth o thermostat gwres canolog nad

yw’n gweithio i ddŵr yn gollwng neu broblemau ag anwedd. Os gallaf helpu, fe wnaf i hynny. Yn y cynlluniau rydw i bob amser yn cadw golwg am faterion diogelwch fel teils llawr yn rhydd, y gallai rhywun faglu drostyn nhw, neu deils to rhydd neu gwteri wedi blocio a allai arwain at leithder. Er enghraifft, ymwelais ag Ogwen Drive yn Lakeside i edrych ar broblem llwydni. Tra’r oeddwn i yno, sylwais bod system orlif un o'r fflatiau yn y bloc cyfagos yn Celyn Avenue yn gollwng. Rhybuddiais y preswyliwr, ataliais y dŵr a threfnu bod Cynnal a Chadw Cambria yn atgyweirio'r broblem. Fel rhan o’m swydd rydw i hefyd yn cynnal yr archwiliadau diogelwch tân blynyddol, archwiliadau cynlluniau ac arolygon cyflwr stoc i amlygu problemau neu waith cynnal a chadw yn y dyfodol. Byddaf yn cynnal arolygon tŷ llawn mewn eiddo lle mae gan breswylwyr broblemau parhaus gydag anwedd a llwydni, ac yn trefnu gwaith adfer i helpu i ddatrys y problemau. Er bod fy swydd yn ymwneud ag eiddo, rydw i’n ymdrin â phobl, ac os yw preswylwyr yn fodlon a hapus yn eu cartrefi, rydw innau hefyd yn hapus."


18 | www.wwha.co.uk | intouch | Byw’n Wyrdd

Gwanwyn yn yr ardd

Gwirfoddolwyr

Tŷ Ddewi

Mae Sandra Davies, un o’n preswylwyr yn Llanymddyfri, yn arddwraig frwd. Bu Sandra’n llwyddiannus sawl tro yng nghystadleuaeth arddio flynyddol gorllewin Cymru. Dyma ei chynghorion ar gyfer y gwanwyn: •

Yn ystod mis Mawrth rwy’n sicrhau fy mod i’n cribinio’r lawnt yn dda i gael gwared ar unrhyw fwsogl a gwasgaru hadau glaswellt ar unrhyw ddarn moel.

Mae'r gwanwyn yn gyfle da i adfywio planhigion mewn potiau – tynnwch nhw o’r potiau, llaciwch y gwreiddiau ac yna rhowch nhw’n ôl yn y pot gyda chompost ffres. Bydd hyn yn sicrhau bod eich planhigion yn edrych yn y cyflwr gorau bob blwyddyn.

Rwy’n tyfu’r rhan fwyaf o fy mlodau a’m planhigion o hadau neu doriadau. Y gwanwyn yw’r adeg pan fyddaf yn dechrau plannu hadau neu’n cymryd toriadau o hen blanhigion a’u rhoi mewn potiau. Cofiwch gadw toriadau bach ac egin-blanhigion wedi eu cysgodi nes bydd unrhyw bosibilrwydd o rew wedi pasio.

Dee Thorne a John Mann, dau o’n preswylwyr

Cynhwysydd Sandra, a wnaed o hen deiar wedi ei baentio’n felyn. Enillodd y wobr am y cynhwysydd gorau yng nghystadleuaeth garddio 2016


Byw’n Wyrdd | intouch | www.wwha.co.uk | 19

Rhoddodd staff tai yn y Rhondda eu hamser i helpu preswylwyr anabl yn Nhŷ Ddewi, sef ein cynllun yn Ton Pentre, i ddod â'u gardd yn ôl yn fyw. Mae dau o arddwyr preswyl y cynllun, sef Dee Thorne a John Mann, yn defnyddio cadair olwyn, ac ynghyd â rhai o'r preswylwyr oedrannus, roeddent yn cael trafferth cadw'r chwyn draw. O ganlyniad, roedd rhannau o’u gardd a oedd unwaith yn brydferth wedi tyfu'n wyllt ac yn anhydrin. Ond fe wnaeth grŵp o chwech o staff o swyddfa’r De WWH wirfoddoli diwrnod o’u hamser yr ystod yr hydref oer i helpu'r preswylwyr i glirio'r chwyn a gosod pilen rhag chwyn, a graean a phalu gwelyau blodau a

llysiau yn barod ar gyfer plannu. Fe wnaethon nhw dreulio’r diwrnod cyfan yn gweithio yn yr ardd, gan oedi am bysgod a sglodion i ginio. Dywedodd Sarah Willcox, Cynorthwyydd Amgylcheddol WWH: "Roedd yn ddiwrnod hyfryd ac fe wnaeth pawb weithio'n galed iawn i wneud yr ardd yn fwy hygyrch ac yn hawdd i breswylwyr gynnal a chadw’r ardd yn y dyfodol. "Mae'r garddwyr wedi gwneud gwaith gwych yn yr ardd yn y gorffennol. Maen nhw’n tyfu llysiau ac yn plannu blodau a basgedi crog hyfryd i breswylwyr eu mwynhau."

Gwirfoddolwyr o WWH: Natalie Davies, Alison Hayes, Mike Fowler, Ian Williams, Chris Ball a’i fab, Jake, sy’n bump oed, gyda Dee Thorne, un o’r preswylwyr


20 | www.wwha.co.uk | intouch | Newyddion a Gwybodaeth am WWH

Preswylwyr ym Merthyr Tudful yn ymuno â’r mudiad Siediau i Bawb Cwrlo dan do yn boblogaidd yng nghynlluniau Merthyr

Bu’n un o uchafbwyntiau Gemau Olympaidd y gaeaf yn ddiweddar, ac mae preswylwyr ein cynlluniau ym Merthyr Tudful wedi gallu ymuno mewn gweithgareddau chwaraeon o’u cadeiriau breichiau. Cafodd preswylwyr yn ein cynlluniau byw'n annibynnol yn Nhŷ Bryn Sion a Bodalaw, Tŷ Pontrhun a Thŷ Gwaunfarren gyfle i roi cynnig ar gwrlo mewn cyfres o sesiynau blasu. Trefnwyd y sesiynau llawn hwyl gan Alison Chaplin, Swyddog Prosiect Datblygu Cymunedol Tai Wales & West, a phrosiect Siediau i Bawb Ymddiriedolaeth Hamdden Merthyr Tudful. Yn seiliedig ar fudiad y Siediau Dynion, mae'r prosiect yn anelu at wella ansawdd bywyd ymhlith cymunedau ym Merthyr Tudful ac annog cynhwysiad cymdeithasol a gwella iechyd a lles ymysg preswylwyr.

Mae pob sesiwn yn dechrau gydag ymarfer cynhesu mewn cadeiriau cyn dechrau’r gêm, sy'n debyg i fowlio. Dywedodd un o’r preswylwyr, Margaret Knox, sy’n 67 oed: "Pan oeddwn i’n chwarae roeddwn i’n gallu teimlo’r ymarfer yn gwneud daioni i mi yn fy mreichiau a’m hysgwyddau. Mae gen i arthritis gwynegol ac rydw i’n colli fy nghydbwysedd, felly mae gallu gwneud yr ymarfer hwn ar fy eistedd yn wych, ac mae'n hwyl. Hoffwn wneud mwy o hyn - mae'n well na gwneud dim." Dywedodd Roy Mathias, sy’n 77 oed: “Rydw i wedi bod yn chwarae bob wythnos ac rydw i’n ei fwynhau. Mae’n hwyl.” Dywedodd Ali: "Mae'r cwrlo’n dda i’r holl breswylwyr, waeth beth yw eu gallu. Nid oes angen i breswylwyr gael cryfder corfforol i chwarae. Mae preswylwyr mewn cadeiriau olwyn, rhai sy'n drwm eu clyw neu rai sydd â golwg gwael wedi rhoi cynnig arni ac wedi mwynhau’n fawr iawn." Dywedodd Jan Morgan, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Hamdden Merthyr Tudful, "Mae’r Ymddiriedolaeth yn bwriadu sefydlu cynghrair gyda grwpiau cymunedol eraill a threfnu cludiant i fynd â'r preswylwyr i gemau a thwrnameintiau, a hyd yn oed i chwarae yn y parciau yn ystod yr haf." Yn ystod y sesiynau roedd modd i breswylwyr chwarae boules dan do ac edrych ar hen luniau gan Lyfrgell Merthyr.


Adroddiad Chwarterol| intouch | www.wwha.co.uk | 21

Adroddiad Chwarterol:

yr wybodaeth ddiweddaraf i chi Mae ein hadroddiad chwarterol wedi ei gynllunio i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi ar lwyddiant ein gwaith fel sefydliad a beth rydym yn ei wneud i wella ein gwasanaethau i chi - ein preswylwyr. Mae’r chwe graffigau gwybodaeth yn rhoi gwybodaeth allweddol ar sut mae Tai Wales & West yn perfformio, fel y gwelwch ar y tudalennau nesaf. Mae gwybodaeth am bob un o’n prif systemau. Y rhain yw: • Atgyweirio fy nghartref • Fy helpu i dalu • Rydw i eisiau cartref • Ymddygiad gwrthgymdeithasol • Rhagor o gartrefi • Sut rydym yn rhedeg ein busnes Felly, gallwch wybod popeth - o faint o dai rydym wedi eu hadeiladu hyd yn hyn eleni i pa mor hir mae’n ei gymryd i atgyweirio pethau.

Wyddech chi…? Rydyn ni eisiau i chi ddod o hyd i’r holl wybodaeth ynghylch ein perfformiad a’n cynlluniau ar gyfer y dyfodol yn hawdd. O ganlyniad, rydyn ni wedi rhoi ein holl adroddiadau mewn un lle ar ein gwefan.

Cymerwch olwg dda, ac os oes gennych chi sylwadau, rhowch wybod i ni drwy e-bost contactus@wwha. co.uk neu ein ffonio ni ar 0800 052 2526. Mae hyn yn cynnwys ein Graffigau gwybodaeth, adroddiadau blynyddol, datganiadau ariannol, dyfarniad ynghylch hyfywedd ariannol Llywodraeth Cymru ac adroddiad rheoleiddiol Llywodraeth Cymru. I weld yr adroddiadau hyn, ewch i’n gwefan www.wwha.co.uk a chlicio ar y ddolen ‘ein perfformiad’ ar y dde.


Atgyweirio fy nghartref Perfformiad

7930 o atgyweiriadau wedi eu cwblhau yn ystod y chwarter hwn

Bodlonrwydd

9.2 allan o 10

yw’r sgôr a roddodd preswylwyr i ni am ein gwasanaeth atgyweirio

% 70%

0-5 diwrnod

days 7.4

o atgyweiriadau wedi eu cwblhau ar ein hymweliad cyntaf

6-10 diwrnod 11-15 diwrnod 16+ diwrnod

Nifer cyfartalog y dyddiau a gymerom i gwblhau atgyweiriad

Adborth gan breswylwyr

Cwynion

Beth mae preswylwyr yn ei hoffi Hawdd rhoi gwybod am atgyweiriad | Gweithiwr cwrtais a chyfeillgar| Cwblhawyd y gwaith atgyweirio yn gyflym Beth mae preswylwyr eisiau eu gweld yn gwella Cadw at apwyntiadau | Cwblhau atgyweiriadau mewn un ymweliad | Cwblhau atgyweiriadau yn gynt

Fe ddywedoch wrthym o’r blaen eich bod chi am i ni ganolbwyntio ar wneud y gwaith ar amser cyfleus, gan wneud hynny mewn un ymweliad fel nad yw’n anghyfleus i chi, a gwneud hynny’n iawn, fel bod yr atgyweiriad yn llwyddiannus. Yr hyn a welsom sy’n allweddol i hyn yw cael un tîm a fydd bob amser ar gael i chi siarad â nhw, gan gytuno ar amser cyfleus i chi a chael sgwrs fel y gallwn sicrhau ein bod yn datrys y broblem iawn i chi.

6

o gwynion o’r

7930

atgyweiriadau a gwblhawyd

Sydd tua un gŵyn am bob 1322 o atgyweiriadau a gwblhawyd

Yna, bod gennym dîm arall sy’n adnabod y gweithwyr, eu sgiliau a’r ardal leol er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud cymaint o waith ag y gallwn. Felly, mae’n bosibl y byddwn yn gofyn rhagor o gwestiynau cyn y gwaith er mwyn sicrhau ein bod yn gwybod yn union beth sydd angen ei ddatrys, ond peidiwch â phoeni, dim ond er mwyn anfon yr unigolyn priodol rydyn ni’n gwneud hyn.

Chwarter 4 (Hydref – Rhagfyr 2016)


Helpwch fi i dalu Perfformiad

1537 o denantiaethau ddim mewn trefniant i dalu eu hôl-ddyledion

Fe wnaethom helpu preswylwyr i: Rheoli’r trawsnewid o waith i Gredyd Cynhwysol Deall effaith y cap budd-daliadau a beth yw eu dewisiadau Gwneud cais am Daliad Annibyniaeth Bersonol (PIP)

82% o denantiaethau yn talu eu rhent yn brydlon neu’n talu eu hôl-ddyledion

Nifer yr achosion o droi allan oherwydd ôl-ddyledion rhent

Preswylwyr yn talu drwy Ddebyd Uniongyrchol

Cwynion

3500

Preswylwyr

Cymorth

DWY

DENANTIAETH

3000

0

2500 2000 1500 1000

cwyn

500 0

Oc Hyd

Nov Tach

Dec Rhag

Debyd Uniongyrchol yw’r ffordd hawsaf o dalu, gyda thaliadau yn cael eu50tynnu o’ch cyfrif banc ar ddyddiad sefydlog yn wythnosol neu’n fisol 40 30 sydd fwyaf addas i chi, felly nid oes 20 rhaid i chi boeni!

o’r

1537

o denantiaethau ag ôl-ddyledion

10 0

Jan

Rydym yn deall bod pwysau ariannol ychwanegol a all wneud rheoli arian yn her go iawn ar wahanol adegau o’r flwyddyn, fel y Nadolig neu ben-blwyddi. Rydym yn cynnig amrywiaeth eang o wasanaethau cyngor ar arian drwy ein Swyddogion Tai, ein Swyddogion Cefnogi Tenantiaeth a’n Rheolwyr Cynllun. Rydym wedi helpu pobl i sefydlu cyfrifon cynilo rheolaidd i’w helpu i gyllidebu ar gyfer gwahanol adegau o’r flwyddyn. Rydym yn helpu pobl i sefydlu cyfrifon banc sy’n lleihau’r posibilrwydd o daliadau banc. Rydym hefyd yn helpu pobl i wneud y mwyaf o’u hincwm drwy wirio eu bod yn

Feb

Mar

hawlio’r budd-daliadau lles priodol, neu’n darparu cyngor mewn ffordd arall ar reoli arian. Rydych chi wedi dweud wrthym fod gwneud talu’r rhent mor hawdd â phosibl yn bwysig iawn i chi. Mae gennym system Debyd Uniongyrchol ar waith sy’n galluogi gwneud taliad ar unrhyw ddiwrnod, ar amlder sy’n addas i chi. Yn ystod y 3 mis diwethaf, rydym wedi helpu dros 300 o bobl i sefydlu Debydau Uniongyrchol i dalu eu rhent neu daliadau gwasanaeth.

Chwarter 4 (Hydref – Rhagfyr 2016)


Rydw i eisiau cartref Perfformiad Anghenion cyffredinol

Gofal Ychwanegol

50 40

days

265

Ymddeol

30

10

50 40 30

Nifer y cartrefi rydym wedi eu gosod yn ystod chwarter 3

50%

o’r amser, mae’r cartref yn addas ar gyfer yr unigolyn Ar gyfartaledd mae’n cymryd 32 cyntaf sy’n mynd i’w diwrnod i osod eiddo a chynorthwyo weld preswylwyr i sefydlu cartref 20

0

20 10 0

Bodlonrwydd

9.3 allan o 10

yw’r sgôr a roddodd preswylwyr i ni am ein gwasanaeth wrth ddod o hyd i gartref iddyn nhw

Adborth gan breswylwyr Beth mae preswylwyr yn ei hoffi Nodweddion eu cartref | Lleoliad eu cartref | Fe wnaeth wella ansawdd eu bywyd Beth mae preswylwyr eisiau eu gweld yn gwella Atgyweiriadau wedi eu cwblhau yn gynt | Eiddo glanach | Eiddo mwy addas

Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â 15 o 22 awdurdod lleol Cymru. Rydym yn bartner gweithgar o ran datblygu a gweithredu polisïau gosod eiddo yn yr ardaloedd hyn, ac mae’r hyn rydych chi’n ei ddweud wrthym fel preswylwyr ac ymgeiswyr yn ein helpu ni a’n partneriaid i ddatblygu dulliau sy’n cwrdd ag anghenion pobl leol. Mae gwahanol bolisïau ar waith ar draws yr awdurdodau lleol: Gosod Eiddo yn Seiliedig ar Ddewis, lle mae eiddo yn cael ei hysbysebu ac ymgeiswyr yn medru gwneud cais am yr eiddo; Cofrestrau Cyffredin, lle mae pob landlord mewn ardal yn gosod eiddo i ymgeiswyr oddi ar un rhestr, a gaiff ei chynnal gan yr awdurdod lleol; neu, mewn rhai achosion, gyfuniad o’r uchod.

Cwynion

1

cwynion o’r

265

o gartrefi a osodwyd

Rhan bwysig o holl broses gosod eiddo yw gwneud yn siŵr eich bod chi’n cael cynnig yr eiddo priodol, yn yr ardal briodol. Yr hyn a welsom oedd, yn achos y bobl a oedd wedi symud i’w cartrefi newydd yn y 3 mis diwethaf, roedd dros hanner y bobl hynny’n fodlon ar yr eiddo a’r ardal. Pan fuom yn siarad â phreswylwyr newydd, fe wnaethon nhw ddweud wrthym fod y cyngor a’r gefnogaeth briodol ynghylch arian yn bwysig iddyn nhw er mwyn eu helpu i ymgartrefu yn eu cartref newydd. Mae ein swyddogion yn trafod goblygiadau ariannol posibl symud cartref gyda phob ymgeisydd, a hynny mor gynnar yn y broses ag y bo modd. Gwelsom yn y 3 mis diwethaf bod llawer o ymgeiswyr newydd yn gwerthfawrogi’r cyngor a’r cymorth hwn, yn enwedig y cymorth i gwblhau hawliadau Budd-dal Tai.

Chwarter 4 (Hydref – Rhagfyr 2016)


@!

$%&

Ymddygiad gwrthgymdeithasol

$%&

@!

Perfformiad

38

SŴN

44

YMDDYGIAD BYGYTHIOL YN GYSYLLTIEDIG AG ALCOHOL

o achosion ymddygiad o achosion ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi gwrthgymdeithasol wedi eu hagor neu eu hailagor eu datrys gennym

Bodlonrwydd

7.4 allan o 10

yw’r sgôr a roddodd preswylwyr i ni am y cymorth a gawson nhw gydag ymddygiad gwrthgymdeithasol

Y materion ymddygiad gwrthgymdeithasol mwyaf cyffredin

Adborth gan breswylwyr Beth mae preswylwyr yn ei hoffi Gallu siarad â’r unigolyn priodol | Roedd modd iddyn nhw chwarae rhan wrth ddatrys y broblem | Cael yr wybodaeth ddiweddaraf Beth mae preswylwyr eisiau Ei weld yn gwella Yr heddlu i gymryd rhagor o gamau | Teimlo’n fwy diogel gartref | Cael yr wybodaeth ddiweddaraf

Yn ystod y chwarter hwn fe ddywedoch wrthym fod teimlo’n ddiogel gartref, a chymorth gan yr heddlu i gymryd camau, yn bwysig i chi. Rydym wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â’r Heddlu, ac asiantaethau eraill, i ddatrys rhai materion ymddygiad troseddol a gwrthgymdeithasol difrifol sydd wedi effeithio ar drigolion yn ddiweddar, ac rydym yn parhau â’r ymagwedd bartneriaeth hon. Fe wnaethoch chi ddweud wrthym mai cael gwybod beth sy’n digwydd yn ystod y broses yw’r hyn sy’n bwysig i chi, ac y byddech chi’n hoffi gweld rhywfaint o welliant. Byddwn yn sicrhau

Cwynion

0

cwynion allan o

38

anti-social behaviour cases reported

bod gennym yr wybodaeth gyswllt iawn i chi, ac yn deall y ffordd orau y byddech yn hoffi cael gwybodaeth, pa un ai galwad ffôn, neges destun, ymweliad, neu neges e-bost fyddai hynny. Mae’n bwysig i ni ein bod ni’n adolygu ein gwasanaethau’n barhaus er mwyn sicrhau ein bod ni’n darparu’r gwasanaeth priodol ar yr adeg briodol. Ar hyn o bryd rydym yn adolygu ein gwasanaeth ymddygiad gwrthgymdeithasol, gan ddefnyddio’r wybodaeth a’r data o’n sgyrsiau gyda chi, er mwyn deall sut gallai fod angen i ni newid ein gwasanaeth er mwyn parhau i ddarparu’r hyn sy’n bwysig i chi.

Chwarter 4 (Hydref – Rhagfyr 2016)


Rhagor o gartrefi

Wedi dechrau Wedi cwblhau

2016

240

2015

2014

Perfformiad

Nifer y cartrefi roeddem yn eu hadeiladu yn chwarter 4

Bodlonrwydd

9.5 allan o 10

yw’r sgôr a roddodd preswylwyr i ni wrth ddisgrifio eu cartref newydd

Fe wnaethom gwblhau 92 o gartrefi newydd

Adborth gan breswylwyr Beth mae preswylwyr yn ei hoffi Teimlo’n saff a diogel | Gofal da dros erddi cymunol | Y cartref yn fwy economaidd i’w redeg na’r cartref blaenorol Beth mae preswylwyr eisiau ei weld yn gwella Lleoliad y socedi yn y ceginau | Hygyrchedd siopau lleol i breswylwyr anabl

Yn dilyn eich adborth rydym yn adolygu cynlluniau fflatiau i greu cegin ar wahân ac yn osgoi’r trefniadau cynllun agored y dywedoch wrthym nad oedden nhw’n gweithio ym mhob sefyllfa. Fel rhan o’r adolygiad hwn o gynlluniau rydym yn edrych ble gellir ymgorffori balconïau i greu’r lle preifat y tu allan y dywedoch wrthym eich bod chi’n ei hoffi. Mae mannau storio biniau cymunedol yn broblem a nodwyd gennych chi, gan nad ydyn nhw bob amser yn ddigon mawr a bod bagiau yn cael eu taflu dros y giât.

Cwynion

0

cwynion allan o

71

o gartrefi newydd a gwblhawyd

Yn eich adborth rydych chi wedi cyflwyno’r awgrym o ganopi dros y storfa biniau i leihau’r sbwriel sy’n cael ei daflu drosodd. Mae’r awgrym hwn yn cael ei gyflwyno fel rhan o’r adolygiad o gynlluniau ynghyd â maint y man storio i alluogi mwy o barthau ailgylchu ar eich cais. Rydym yn falch bod y newidiadau rydym wedi eu gwneud i ddyluniadau’r ceginau wedi gwella’r defnydd o’r gypyrddau fel y sylwom yn yr adborth yn eich arolygon.

Chwarter 4 (Hydref – Rhagfyr 2016)


Q3 2016

Sut rydym yn rhedeg ein busnes Perfformiad Pob galwad arall

Galwadau ynghylch atgyweiriadau 4

10yb

33 Munudau

27,960

22

9yb

11

3

Arian a wariwyd

2 1

£

Datblygiadau newydd Pobl Cynnal a chadw Ceginau, ystafelloedd ymolchi a chyfarpar newydd Llog ar fenthyciadau Atgyweiriadau mawr Gorbenion Ad-dalu benthyciadau

Ebr

Mai

Meh

500 Hyd cyfartalog yr amser a gymerom i ateb eich galwadau 400 4

0

500 500

9yb

11yb

0

Nifer y galwadau a atebwyd gennym yn ystod y chwarter hwn

10yb

11yb

Ein cyfnodau prysuraf o ran galwadau

300

Gwerth am arian

200 100 0

Cwynion

£ wedi ei wario fesul cartref

Q4 2014 Q1 2015 Q2 2015 Q3 2015 Q4 2015 Q1 2016 Q2 2016 Q3 2016

8

400 400 300 300 200 200

cwynion

100 100 0

Q4Q4 2014 Q1Ch1 2015 Q2Ch2 2015 Q3Ch3 2015 Q4Ch4 2015 Q1Ch1 2016 Q2Ch2 2016 Q3Ch3 2016

2014

2015

Rheoli

2015

2015

2015

Cynnal a chadw

2016

2016

2016

Arall

Faint mae’n ei gostio fesul cartref i redeg ein busnes

Rydym yn gwybod bod ateb galwadau’n gyflym yn bwysig i breswylwyr ac rydym wedi parhau i ganolbwyntio ymdrechion yn y maes hwn, gydag amseroedd ateb galwadau am atgyweiriadau’n gostwng unwaith eto yn ystod y chwarter hwn ac yn aros yn llawer is na munud ar gyfartaledd. Cododd amseroedd ateb galwadau nad oedden nhw’n gysylltiedig ag atgyweiriadau ychydig dros funud wrth i ni fynd i gyfnod y Gaeaf, sy’n dymor mwy heriol gyda chyfaint uwch o alwadau am atgyweiriadau brys y tu allan i oriau swyddfa, pan fydd galwadau atgyweiriadau a chyffredinol yn cael eu trin gan ein Canolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid. Y cyfnodau prysuraf o hyd yw’r boreau, felly cofiwch ffonio’n ddiweddarach yn ystod y dydd os yw hyn yn bosibl er mwyn lleihau eich amser aros.

yn

cyfanswm ystod y chwarter hwn

Gostyngodd nifer y cwynion a gafwyd eto yn ystod y chwarter hwn, ac rydym yn parhau i roi blaenoriaeth i ymateb yn gyflym a datrys materion lle ceir cwynion. O’r wyth o gwynion a gafwyd yn ystod y chwarter hwn, cafodd chwech eu cadarnhau, ac roedd y rhan fwyaf o gwynion a gafwyd yn ymwneud â gwaith atgyweirio (chwech). Fel bob amser, os oes gennych chi gŵyn, cofiwch y gallwch ffonio, e-bostio neu siarad ag unrhyw aelod o’r staff. Rydym yn canolbwyntio ar gyflawni gwerth am arian i’n preswylwyr ym mhopeth a wnawn. Mae ein costau cynnal a chadw wedi gostwng eto yn ystod y chwarter, gyda’r rhan fwyaf o’r costau eraill yn parhau’n gyson. Rydym yn gwario mwy na dwy ran o dair o’r arian sydd ar gael ar gynnal a chadw ac ail-fuddsoddi yng nghartrefi ein preswylwyr ac ar adeiladu rhagor o dai.

Chwarter 4 (Hydref – Rhagfyr 2016)


28 | www.wwha.co.uk | intouch |Ar-lein a’r cyfryngau cymdeithasol

Beth sy’n App-elio? Dri mis ers dechrau’r flwyddyn, ydych chi wedi cadw at eich addunedau? Yn ôl pôl piniwn gan ComRes Poll (yn My Fitness Pal 2015) yr addunedau Blwyddyn Newydd mwyaf cyffredin oedd ymarfer mwy ar y corff, colli pwysau a bwyta'n iachach. Y dewis hawdd, ond sy’n aml yn ddrud, yw ymuno â champfa i fod yn fwy heini, sy'n aml yn golygu arwyddo rhyw fath o gytundeb. Os nad yw hyn yn ddewis i chi ond eich bod chi’n berchen ar ffôn clyfar, yna un dewis amgen yw’r ddau app hyn i'ch helpu i fod yn heini a rheoli'r hyn rydych chi’n ei fwyta. Cymerwch olwg arnyn nhw:

Seven - 7 Minute Workout Training Challenge Gan ddefnyddio dim mwy na chadair, wal, a phwysau eich corff eich hun, mae’r app hwn yn mynd â chi drwy ymarfer 7-munud i roi’r budd mwyaf i'ch corff. Y cyfan fyddwch chi ei angen yw eich ffôn clyfar! Mae'r app ar gael ar iOS ac Android am ddim (gyda’r dewis o brynu pethau o fewn yr app) - Chwiliwch am ‘Seven minute workout’ neu ewch i'w gwefan: perigee.se/apps/seven

Yn ogystal â chadw'n heini mae'n bwysig edrych ar ôl ein cyrff yn y ffordd orau y gallwn ni. Rydym yn aml yn teimlo fod 'pethau yn ein rhwystro' neu 'Does gen i ddim amser i fonitro'r hyn rydw i’n ei fwyta.' Wel, y peth da y dyddiau hyn yw nad oes angen i ni gario llyfr nodiadau gyda ni i gadw golwg ar faint o bwyntiau neu galorïau rydym wedi eu defnyddio y diwrnod hwnnw, cyn belled â bod ein ffôn clyfar gyda ni, diolch i apiau fel My Fitness Pal. Mae My Fitness Pal yn eich helpu i gofnodi faint o galorïau rydych chi’n eu bwyta mewn ffordd gyflym a hawdd drwy chwilio am gynnyrch (fel arfer yn ôl brand hefyd) neu’n syml drwy ddefnyddio eich camera i sganio'r cod bar. Ni allai fod yn haws! Mae’n cynnwys siart cylch hylaw hefyd i dorri i’r carbohydradau, protein a braster i'ch galluogi i weld ble mae angen i chi leihau neu gynyddu eich lefelau.

Os ydych chi’n ‘hoffi’ My Fitness Pal ar Facebook maen nhw’n cynnig ryseitiau


Ar-lein a’r cyfryngau cymdeithasol| intouch | www.wwha.co.uk | 29 iach, cynghorion a straeon i’ch cymell! www.facebook.com/myfitnesspal

Ydych chi’n dysgu Cymraeg? Mae dysgu iaith newydd bob amser yn ddefnyddiol, pa un ai o ran bwriad i ymweld â gwlad newydd neu fyw mewn gwlad lle mae'r iaith yn tyfu, fel yng Nghymru. Mae yna ambell ffordd o ddysgu, fel mynd i ddosbarth neu ddysgu drwy lyfr cwrs, ond os nad yw'r dewisiadau hyn yn gweithio i chi ond bod gennych chi ffôn clyfar, yna mae ambell app defnyddiol i helpu i ddysgu wrth i chi grwydro! Mae'r rhain yn cynnwys:

Duolingo (ar gael ar gyfer iOS,

Dewis arall o ran dysgu yw trwy wrando, ac mae app gwych ar gael o’r enw Say Something in Welsh. Mae'r app yn llwytho podlediadau dysgu Cymraeg. Y nod yw i chi wrando ar rywbeth yn Saesneg ac yna ei ailadrodd yn Gymraeg i brofi beth rydych chi wedi ei ddysgu. Bydd gweithio drwy wahanol lefelau yn eich helpu i gynyddu eich gwybodaeth am yr iaith. Mae defnyddio'r fformat hwn yn arbennig o ddefnyddiol os ydych chi’n crwydro, ond bod gennych chi gyfle i wrando ar bodlediadau.

Os ydych chi’n defnyddio Twitter yna gallwch ddilyn @TiFiaCyw i gael geiriau Cymraeg i’w dysgu yn rheolaidd a dysgu sut i’w hynganu!

Android a Windows Phone) – sy’n eich helpu i ddysgu Cymraeg drwy chwarae gwersi tebyg i gêm am 5 munud y diwrnod. Yn ogystal, mae @BBCWales yn trydar gair Cymraeg bob diwrnod, sy’n gallu bod yn ddefnyddiol! Chwiliwch am

#VocabCymraeg


30 | www.wwha.co.uk | intouch | Gwneud gwahaniaeth i’ch dyfodol

Profiad gwaith yn rhoi hwb

i ragolygon gyrfa Lee

Fe wnaeth un o’n preswylwyr, Lee Campbell, sy’n 26 oed ac sy’n dod o Glos Pontganol, Powys, gysylltu â’r Tîm Menter Gymunedol i’w helpu i ddychwelyd i gyflogaeth. Er ei fod eisiau bod yn blymwr, ac wedi cwblhau diploma mewn gwaith plymwr yng Nghaerdydd yn llwyddiannus, gwelodd Lee fod angen iddo gael rhagor o brofiad ar y safle i gael swydd yn y diwydiant adeiladu. Roedd eisiau cefnogi ei bartner Jazzmin a’i fab pum mlwydd oed, Cameron. Fe wnaeth ein Tîm gyflwyno Lee i SEER Construction, a oedd yn adeiladu St Peter’s Close yn agos at lle’r oedd Lee yn byw.

Yn anffodus, roedd y gwaith plymwr eisoes wedi cael ei gwblhau, felly cynigiodd SEER waith tymor byr â thâl i Lee fel labrwr, i’w helpu i ddychwelyd i fyd gwaith. Trodd Lee ei law at nifer o dasgau, gan gynnwys ffensio, gwaith daear, cymysgu sment a helpu gyda choncritio – roedd yn barod iawn i helpu lle’r oedd ei angen. Dywedodd Lee: "Rwy'n ddiolchgar iawn i SEER am y cyfle; rwyf wedi


Gwneud gwahaniaeth i’ch dyfodol | intouch | www.wwha.co.uk | 31

Is-osod eiddo Cafwyd achosion yn ddiweddar o breswylwyr yn is-osod eu heiddo, sef rhentu eu heiddo i rywun arall sydd wedyn yn dod yn is-denant.

dysgu llawer yn ystod yr wythnosau a dreuliais ar y safle, gan ddysgu pethau am waith tir nad oeddwn wedi eu gwneud o'r blaen. Rwyf wedi cael profiad cyffredinol da iawn a chyfarfod â phobl wych ar hyd y ffordd. Rwy'n benderfynol o gael gyrfa yn y diwydiant adeiladu. " Dywedodd Gareth Rees, Cyfarwyddwr SEER Construction Ltd: "Roedd yn wych ein bod ni wedi gallu rhoi ychydig wythnosau o brofiad gwaith cyflogedig i breswyliwr lleol. Mae Lee yn gweithio'n galed, yn frwdfrydig ac yn boblogaidd ymysg y gweithwyr eraill. Ymfalchïodd Lee yn y gwaith a wnaeth i SEER. Rydym yn dymuno pob llwyddiant i Lee gyda’i uchelgais yn y diwydiant adeiladu yn y dyfodol." Yn dilyn lleoliad gwaith Lee, cofrestrodd ein Tîm Lee ar raglen Ymddiriedolaeth Ieuenctid Adeiladu lle cwblhaodd gymhwyster Iechyd a Diogelwch OCN Lefel 1 a chael cerdyn CSCS. Mae'r profiad ar y safle ynghyd â'i gerdyn CSCS wedi galluogi Lee i gael gwaith ar uwchraddio gwarchodfa adar yn Aberhonddu.

Mae’n bosibl nad yw llawer yn sylweddoli fod is-osod eu cartref cyfan mewn gwirionedd yn torri eu cytundeb tenantiaeth ac yn golygu y byddant yn colli eu statws tenantiaeth, a gyda hynny’r amddiffyniad mae’r gyfraith yn ei gynnig. Mae hyn yn debygol o arwain at eu tenantiaeth yn cael ei dirwyn i ben gan nad ydyn nhw’n dangos eu hangen am yr eiddo penodol hwnnw. Bydd hyn hefyd yn arwain at yr is-denant yn cael ei droi allan, gan nad oes ganddo/ ganddi hawl cyfreithlon i aros yno, gan ei (g)wneud yn dresmaswr. Ceir rhagor o wybodaeth ar wefan Cyngor ar Bopeth https:// www.citizensadvice. org.uk neu drwy chwilio am is-osod (subletting). Fodd bynnag, mae'n bwysig gwahaniaethu rhwng is-osod eich cartref cyfan a chymryd lletywr. Mae eich tenantiaeth yn eich galluogi i gymryd lletywr os ydych yn dymuno, cyn belled â’ch bod chi wedi cael caniatâd ysgrifenedig gennym ni. Mae'n werth ystyried yr effaith arnoch chi a'ch teulu os ydych chi’n ystyried cymryd lletywr, yn ogystal â'r effaith ar eich hawl i fudd-daliadau os ydych chi’n hawlio unrhyw fudd-dal. Os ydych chi’n ystyried unrhyw un o'r uchod neu’n poeni y gallech gael eich effeithio, siaradwch â'ch Swyddog Tai neu cysylltwch â ni ar 0800 0522526. Mae gwybodaeth hefyd ar ein gwefan ynghylch cymryd lletywr yn y ‘Man preswylwyr’.


32 | www.wwha.co.uk | intouch | Newyddion a gwybodaeth am WWH

“Wrth ein bodd yn Llys Glan yr Afon”

Gwynneth a Heather gyda chennin Pedr Nid yw Gwynneth Revell a Heather Moore yn difaru symud i Lys Glan yr Afon, a agorodd ei ddrysau i breswylwyr fis Tachwedd diwethaf. Symudodd y ddwy o lety gwarchod yn y Drenewydd. Mae Llys Glan yr Afon yn ddatblygiad mai dim ond golwg rhannol sydd gennyf, gwerth £7.5 miliwn gan Tai Wales & West, rwy’n eithaf annibynnol. Rwy’n hoffi y cyntaf o'i fath ym Mhowys i ddarparu popeth am y cynllun - y gallu i gerdded o gofal ychwanegol. Mae’n cynnwys 48 o gwmpas a mwynhau themâu’r gwahanol fflatiau effeithlon o ran ynni. loriau". Mae'r cynllun o’r radd flaenaf, a gyllidwyd yn rhannol gan £4 miliwn o Grant Tai Cymdeithasol gan Lywodraeth Cymru, wedi cael ei ddatblygu gan Tai Wales & West mewn partneriaeth â Chyngor Sir Powys, gyda Tai Wales & West yn cyllido’r gweddill gyda £3.5 miliwn. “Fi oedd un o’r preswylwyr cyntaf i gyrraedd,” meddai Gwynneth, a anwyd ym Mrynmawr yn ne Cymru. “Mae’r holl awyrgylch mor gyfeillgar a chynnes. Er

Mae Heather, sydd wedi byw yn y Drenewydd er 1970, yn cytuno. "Symudais ychydig cyn y Nadolig ac fe wnaeth pawb ohonom fwynhau'r dathliadau yma. Mae'n dda iawn rydych chi’n cael eich preifatrwydd, ond nid oes rhaid i chi fod ar wahân. Rwy'n edrych ymlaen at y gwanwyn pan allwn fwynhau’r gerddi. Rwy'n byw gyferbyn â Gwynneth ar y llawr 1af. Rydym wedi dod i adnabod wyth preswyliwr arall yn barod, ac yn mwynhau cymdeithasu."


Newyddion a gwybodaeth am WWH | intouch | www.wwha.co.uk | 33

Matthew yn fuddugol! Roedd Matthew Davies, sy’n 10 oed ac sy’n ddisgybl yn Ysgol Penygloddfa, wrth ei fodd pan glywodd mai ei gynllun ef oedd yn fuddugol ar gyfer bwyty Llys Glan yr Afon, sef yr Orendy. Roedd Matthew yn un o 90 o ddisgyblion a gymerodd ran mewn cystadleuaeth i ddylunio logo ar gyfer y bwyty. Er mwyn cael y cefndir, cafodd y disgyblion daith o amgylch y safle wrth iddo gael ei ddatblygu. Bydd y disgyblion yn cael eu gwahodd i seremoni dadorchuddiad swyddogol y logo, gyda bwyd wedi ei weini gan Arlwyo Castell, unwaith y bydd yr holl breswylwyr wedi cael cyfle i ymgartrefu. Bydd y logo yn ymddangos ar arwyddion o gwmpas y cynllun ac ar y fwydlen. Uchod: Matthew Davies wrth ei fodd yn clywed ei fod yn fuddugol yn y gystadleuaeth dylunio logo pan gyhoeddwyd y newyddion yn y gwasanaeth yn yr ysgol. Isod: Arwydd y bwyty yn ei le yn Llys Glan yr Afon


34 | www.wwha.co.uk | intouch | Materion ariannol

Credyd Cynhwysol

Y Credyd Cynhwysol yw system fudd-daliadau newydd y Llywodraeth sy’n cyfuno sawl budd-dal yn un taliad misol. Bydd hyn yn golygu y bydd unrhyw un dan 65 oed sydd ar hyn o bryd yn hawlio Lwfans Ceisio Gwaith, Cymhorthdal Incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, Budd-dal Tai a / neu Gredydau Treth yn cael ei symud i'r system newydd hon yn y pen draw. Y mae wedi cael ei gyflwyno ym mhob rhan o Gymru ond dim ond pobl sengl sy'n gwneud cais o’r newydd am Lwfans Ceisio Gwaith sydd ar hyn o bryd yn cael eu heffeithio. O fis Ebrill 2017, bydd y broses o gyflwyno yn dechrau i bob ymgeisydd Lwfans Ceisio Gwaith newydd, gan gynnwys cyplau neu bobl sydd â phlant. Mae pobl sydd eisoes yn hawlio budd-dal ac nad ydynt yn cael eu heffeithio ar hyn o bryd yn annhebygol o gael eu symud i’r system hon cyn mis Ebrill 2018. Fodd bynnag, mae'n werth nodi bod nifer o elfennau o’r Credyd Cynhwysol y bydd yn rhaid i bobl baratoi ar ei gyfer, ac nid yw hi byth yn rhy gynnar i ddechrau.

Mynd ar-lein Mae'r Llywodraeth eisiau i hawliadau am y Credyd Cynhwysol gael eu gwneud a'u rheoli ar-lein. Os nad ydych chi’n defnyddio’r rhyngrwyd ar hyn o bryd, dechreuwch feddwl am ffyrdd y gallech wneud hynny - er enghraifft, mae llawer o lyfrgelloedd neu adeiladau Cyngor yn cynnig cyrsiau i ddechreuwyr i ddangos y pethau sylfaenol i chi. Yn ogystal â pharatoi ar gyfer y Credyd Cynhwysol, mae hwn hefyd yn agor nifer o ddewisiadau o ran arbed arian, o ddefnyddio safleoedd cymharu i fonitro ddefnydd o ynni a biliau.

Cyllidebu’n fisol Bydd y Credyd Cynhwysol yn cael ei dalu’n fisol, a allai fod yn wahanol i'r ffordd rydych chi’n cael incwm yn awr. Mae'n bwysig felly sicrhau bod eich cyllideb yn iach er mwyn i chi ddygymod â’r newid hwn yn haws os ydych chi’n cael trafferth i gydbwyso eich incwm a’ch gwariant ar hyn o bryd. Er nad yw’r Credyd Cynhwysol ar fin digwydd i chi o bosibl, nawr yw'r amser i weithredu, gan nad yw hi’n hawdd cael trefn ar eich arian. Mae ein gwefan yn cynnwys llawer o gynghorion am reoli eich arian ac mae hefyd yn amlygu gwefannau sy’n cynnig rhagor o wybodaeth.


Materion ariannol| intouch | www.wwha.co.uk | 35

Cael cyfrif banc

Edrych ymlaen

Efallai eich bod chi ar hyn o bryd yn defnyddio cyfrif swyddfa’r post sydd ddim ond yn caniatáu i chi godi eich arian, neu efallai y byddwch yn sylwi eich bod yn mynd i gostau gyda'r cyfrif banc rydych chi’n ei ddefnyddio ar hyn o bryd.

Yn ystod gweddill 2016 ac i mewn i 2017, byddwn yn canolbwyntio ar hyfforddi'r tîm i ddefnyddio ein meddalwedd newydd a siarad â'n cwsmeriaid er mwyn helpu i weld sut gallwn ddefnyddio'r dulliau arloesol i wella ansawdd y gwasanaeth a ddarparwn.

Os yw hyn yn wir, nawr yw'r amser i agor cyfrif banc newydd a galluogi eich hun i reoli eich arian mor gyfleus ac effeithiol â phosibl. Bydd hyn yn caniatáu i chi dalu eich biliau fel y rhent a’r dreth gyngor drwy Ddebyd Uniongyrchol, sy'n golygu nad oes rhaid i chi gofio talu neu fynd i siop neu swyddfa’r post

Byddwn yn rhoi gwybod i chi am y newidiadau yn y flwyddyn sydd i ddod, ond gallwch fod yn dawel eich meddwl y byddwn ni’n dal i fod yma bob awr o’r dydd a’r nos, pryd bynnag y byddwch chi ein hangen ni.

Agorwch gyfrif dim ffioedd heddiw Yn gynnar yn 2016, lansiwyd cyfrifon banc sylfaenol heb ffioedd. Roedden nhw ar gael i bobl heb gyfrif banc safonol neu nad ydyn nhw’n gymwys i gael un, neu sy’n methu defnyddio eu cyfrif banc cyfredol oherwydd anawsterau ariannol. Beth yw’r manteision? • Mae’r cyfrifon wedi eu dylunio i’w gwneud yn haws i reoli arian. Nid does cyfleuster gorddrafft, felly ni fydd modd i chi wario arian nad oes gennych chi a mynd i ddyled. • Bydd yn eich galluogi i dalu eich biliau drwy Ddebyd Uniongyrchol, talu sieciau i mewn am ddim a chymryd arian allan/gwirio eich balans mewn peiriant twll yn y wal gyda cherdyn debyd.

• Ni chodir tâl arnoch chi os bydd Debyd Uniongyrchol yn methu (os nad yw trafodion yn digwydd oherwydd diffyg arian). Sut ydw i’n cael un o’r cyfrifon hyn? Gallwch sefydlu cyfrif banc dim ffioedd heddiw, gan fod bron pob un banc ar y stryd fawr yn cynnig y cyfrifon hyn, gan eich galluogi i gael eich cyflogau, eich budd-daliadau neu eich pensiwn wedi ei dalu i mewn i gyfrif banc.


36 | www.wwha.co.uk | intouch | Materion Ariannol

Mae’r arian yn eich pyrsiau a’ch waledi’n newid Yr hen £5 yn cael ei dynnu’n ôl yn fuan Oeddech chi'n gwybod na fydd yr hen bapurau £5 yn cael eu derbyn mewn siopau ar ôl 5 Mai 2017 gan eu bod yn peidio â bod yn arian cyfreithlon. Maen nhw’n cael eu disodli gan y papurau "plastig" newydd llai o faint sydd â llun Winston Churchill arnyn nhw. Mae'r arian papur newydd yn lanach, yn fwy anodd i’w ffugio ac yn para 2.5 gwaith yn hirach. Mae’n anoddach eu rhwygo ac fe allan nhw oroesi cael eu golchi yn y peiriant golchi. Beth mae angen i mi ei wneud? Daliwch ati i wario’r hen arian papur tan 5 Mai 2017. Mae Banc Lloegr yn raddol yn tynnu'r hen arian papur o siopau a busnesau. Os oes gennych chi arian papur £5 dros ben ar ôl 5 Mai, byddwch yn gallu eu cyfnewid ym Manc Lloegr. Beth fydd yn digwydd os bydd gennyf yr hen arian papur yn fy mhwrs ar ôl 7 Mai? Ni fydd modd i chi eu gwario, ond mae pob darn o arian papur Banc Lloegr yn cadw eu gwerth am byth. Felly, os oes gennych chi hen bapur £5 ar ôl y dyddiad hwn, gallwch ofyn i’ch banc,

cymdeithas adeiladu neu Swyddfa’r Post i’w gyfnewid. Os nad ydyn nhw’n barod i’w dderbyn, gallwch eu postio i Fanc Lloegr, a wnaiff eu cyfnewid. I wneud hyn bydd angen i chi lenwi Ffurflen Gyhoeddus Cyfnewid Arian Banc, y gallwch ei gweld ar wefan Banc Lloegr: http://www.bankofengland. co.uk/banknotes/Pages/about/ exchanges/publicpost.aspx a’u postio ar eich menter eich hun. Beth nesaf? Bydd arian papur polymer £10 newydd gyda llun Jane Austen arno’n cael ei gyflwyno yn ystod yr haf, gyda phapur £20 newydd gyda llun JMW Turner arno yn 2020. Beth am y darn punt newydd? Bydd y Bathdy Brenhinol yn cyflwyno darn £1 newydd â 12 ochr ar 28 Mawrth 2017 i gymryd lle’r hen ddarn crwn, a fydd yn cael ei dynnu’n ôl o 16 Hydref 2017 ymlaen. Bydd y darn newydd fymryn yn fwy ond yn deneuach ac yn ysgafnach na’r darn £1 cyfredol. Sut gallaf gael rhagor o wybodaeth? I wylio fideo ar y papur £5 a’r darn punt newydd, ewch i: www.thenewfiver.co.uk www.thenewpoundcoin.com.


Gwneud gwahaniaeth i’ch cymuned | intouch | www.wwha.co.uk | 37

Bywyd newydd i breswylwyr Mae dau o’n preswylwyr, David ac Alison Pember, wedi dechrau ar wedd newydd ar eu bywydau yn dilyn ein gwaith adnewyddu ar adeilad masnachol a phreswyl amlwg yng nghanol tref Aberteifi.

Bachodd y cwpl ar y cyfle i ddechrau delicatessen newydd yn yr eiddo, 9 Pendre, gan roi’r enw The Lunch Box arno. Mae’r gymuned leol a thwristiaid yn awr yn mwynhau bwyd o safon rhagorol

gyda chynhwysion lleol ffres. Mae’r busnes wedi creu dwy swydd lawn amser, a bydd yn helpu i ysgogi’r economi leol. Dymunwn y gorau i David ac Alison gyda’u menter newydd.

Am ragor o wybodaeth, ewch i www.thelunchbox-cardigan.co.uk


38 | www.wwha.co.uk | intouch | Gwneud Gwahaniaeth i’ch Cymuned

Diwrnod Sgipiau Golwg y Castell Yn ddiweddar, fe wnaeth preswylwyr Golwg y Castell yn Aberteifi elwa ar ddiwrnod sgipiau wedi ei drefnu gan Jess O'Connell a Nerys Evans o Tai Wales & West, wedi ei gyllido gan Trefi Taclus Ceredigion. Roedd yn ddiwrnod oer ond yn sych a heulog, felly roedd yr amodau’n berffaith. Fe wnaeth dros hanner yr aelwydydd ar y stadau fachu’r cyfle i gael gwared

ar eitemau nad oedden nhw eu hangen a chlirio llanast o’u cartrefi, eu siediau a’u gerddi. Erbyn diwedd y dydd roedd 4 sgip wedi eu llenwi a’u cludo ymaith!


Newyddion a Gwybodaeth am WWH| intouch | www.wwha.co.uk | 39

Prosiect y ‘Foyer’ yn ddiolchgar i gontractwr lleol Yn ddiweddar cafodd prosiect y ‘Foyer’ yn Aberystwyth lain mewn rhandir, lle mae’n bwriadu mynd â phreswylwyr y Foyer i'w haddysgu am bopeth yn gysylltiedig â garddio, ystyried y posibilrwydd o fenter gymdeithasol ac, yn gyffredinol, creu man lle gallan nhw fynd i ddianc rhag bwrlwm bywyd bob dydd.

Y cyffyrddiadau olaf cyn y gwanwyn Roedd y llain a ddyrannwyd wedi tyfu’n wyllt, ac mae staff a phreswylwyr y prosiect wedi bod yn gweithio'n galed i greu llain i fod yn falch ohoni cyn eu hymdrechion cyntaf i blannu yn y gwanwyn. Daeth y contractwr lleol Peter o PMD i wybod am y cynlluniau ac fe wnaeth nid yn unig wirfoddoli gwasanaeth un neu ddau o’i fechgyn am y diwrnod, ond fe wnaeth hefyd gynnwys costau'r holl ddeunyddiau a brynwyd i greu'r gwelyau plannu newydd a’r llwybr.

Hoffai staff a thrigolion y prosiect fachu ar y cyfle hwn i ddiolch yn fawr i Peter yn PMD ac i roi gwybod iddo y bydd y llwyth cyntaf o domatos, yn gyfnewid, ar eu ffordd ato ef!

Y gwaith clirio cychwynnol yn dechrau – tasg a hanner!


40| www.wwha.co.uk | intouch | Y diweddaraf am elusennau

Staff o blaid Age Cymru Mae staff Tai Wales & West wedi pleidleisio dros gefnogi Age Cymru fel eu helusen staff am y ddwy flynedd nesaf. Mabwysiadwyd yr elusen ym mis Ionawr yn dilyn enwebiadau a phroses bleidleisio ymysg ein 617 o staff ar draws Cymru. Rydym yn falch iawn o gefnogi Age Cymru yn ei gwaith i wella bywydau pobl hŷn. Mae’n helpu pobl i fwynhau bywyd aeddfed yn well drwy ddarparu gwasanaethau sy'n gwella bywyd a chymorth hanfodol. Mae gwasanaethau ymarferol yr elusen yn helpu pobl i aros yn annibynnol yn eu cartrefi a pharhau i wneud y pethau maen nhw’n hoffi eu gwneud fwyaf. Yn ogystal mae’n gweithio i fynd i'r afael ag unigedd a chynnal iechyd da. I ddangos ein cefnogaeth, bydd digwyddiadau’n cael eu cynnal yn ein swyddfeydd a’n cynlluniau ledled Cymru tan 2019 a bydd blychau casglu yn cael eu hanfon. Os hoffech chi drefnu digwyddiad yn eich cymuned, cysylltwch â’r tîm elusennau ar 0800 052 2526. Efallai yr hoffech chi ymuno â Mis Mawr Cymreig Age Cymru ym mis Mawrth drwy drefnu eich cystadleuaeth pobi pice ar y maen eich hun, twmpath dawns traddodiadol, cwis am Gymru neu

ofyn i’ch ffrindiau wisgo eu crysau rygbi’r chwe gwlad am ddiwrnod i godi arian. Mae'r elusen hefyd yn apelio ar rai sy’n gweu i ymuno yn y digwyddiad gweu mawr, sy'n rhedeg tan 22 Gorffennaf. Gallwch wau hetiau bach a’u hanfon at yr elusen ynghyd â'ch straeon gwau. Gallech osod her gwau i chi eich hun neu gynnal bore coffi neu ddigwyddiad gwau gyda ffrindiau? Mae patrymau gwau ar gael o'r wefan a ganlyn: http:// www. ageuk.org.uk/cymru/get- involved/ events1/the-big-knit/ neu drwy gysylltu ag Age Cymru ar 029 2043 1555. Neu gallwch greu eich dyluniadau eich hunan. Am becyn o syniadau codi arian, cysylltwch ag Age Cymru: fundraising@agecymru.org.uk a pheidiwch ag anghofio dweud wrth In Touch am eich digwyddiadau.


Y diweddaraf am elusennau| intouch | www.wwha.co.uk | 41

Codi mwy nag erioed at elusen y staff

Ymchwil Canser Cymru Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf rydym wedi codi’r swm aruthrol o £35,042 i’n dewis o elusen y staff ar gyfer 2015 – 2016, sef Ymchwil Canser Cymru.

Dyma’r swm uchaf rydym wedi ei godi erioed ac mae'r diolch i gyd i’w briodoli i'n preswylwyr a’n staff hael, sydd wedi cefnogi'r elusen mewn sawl ffordd, gan gynnwys rafflau, Dyddiau Gwisg Anffurfiol a digwyddiadau eraill. Bu aelodau unigol o staff yn rhan o ymgyrchoedd codi arian anhygoel, fel cwblhau Ironman Cymru, Her y Tri Chopa a'r daith feicio rhwng Aberhonddu a Bae Caerdydd. Daeth Katie Killoran, codwr arian Corfforaethol Ymchwil Canser Cymru, i’n swyddfeydd yng Nghaerdydd i dderbyn dwy siec gan WWH a Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria. Dywedodd: "Diolch yn fawr iawn i bawb am eich cefnogaeth. Mae'r cyfanswm yn anhygoel, yn fwy nag roeddem erioed wedi dychmygu ei gael. Bydd yn helpu i gyllido ymchwil gwych yma yng Nghymru."

Mae gan Gymru un o'r cyfraddau gwaethaf o ran gwneud diagnosis o ganser yn ei gamau cynnar, ac ar hyn o bryd mae Ymchwil Canser Cymru yn cyllido ymchwil i ddarganfod sut gellir gwella hyn. Mae'n cyllido ymchwil yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Bangor ac Abertawe a'r Ganolfan Ragoriaeth yn Ysbyty Felindre, Caerdydd. Dywedodd Prif Weithredwr WWH, Anne Hinchey: "Rydym yn falch o allu rhoi swm mor fawr i Ymchwil Canser Cymru ac rydym yn ddiolchgar i bawb am fod mor gefnogol. "Mae canser yn glefyd sy'n effeithio ar lawer o bobl. Gyda £30,000 gall yr elusen dalu am waith ymchwilydd am flwyddyn gyfan i frwydro yn erbyn y clefyd hwn. Rydym yn gobeithio y bydd ein gwaith codi arian yn gwneud gwahaniaeth ac y gallwn gyflawni hyd yn oed mwy ar gyfer ein helusen staff newydd, Age Cymru."


42 | www.wwha.co.uk | intouch | Newyddion a Gwybodaeth am WWH

Cynlluniau gofal ychwanegol Treffynnon yn boblogaidd Cafodd ein cynigion i adeiladu cynllun gofal ychwanegol yn Nhreffynnon, mewn partneriaeth â Chyngor Sir y Fflint, eu croesawu gan y gymuned leol mewn digwyddiad gwybodaeth.

Argraff arlunydd o sut gallai’r cynllun edrych

Yn dilyn llwyddiant cynllun gofal ychwanegol Llys Jasmine a agorodd yn yr Wyddgrug dair blynedd yn ôl, rydym yn cynnig adeiladu ein hail gynllun gofal ychwanegol yn Sir y Fflint, sef ein pedwerydd yng Nghymru gyda’i gilydd. Bydd y cynllun, yn dilyn ymgynghori a chaniatâd cynllunio, yn darparu llety o ansawdd uchel y mae ei angen yn fawr, wedi ei ategu gan ofal a chymorth i oedolion ar y safle 24 awr y dydd.

Christine Jones: "Bydd y cyfleuster hwn yn darparu gwasanaethau gofal yn y cartref o safon uchel. Gan ymateb i’r galw am drefniadau gofal a chymorth modern, bydd y cynllun ystyriol o ddementia hwn yn nodwedd amlwg iawn i Dreffynnon ac i Sir y Fflint, gan ddarparu fflatiau hunangynhwysol.”

Cynigir bod y cynllun gofal ychwanegol yn cael ei ddatblygu ar hen safle Ysgol Fabanod Perth y Terfyn. Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Wasanaethau Cymdeithasol, y Cynghorydd

Y digwyddiad gwybodaeth poblogaidd


Eich Newyddion a’ch Safbwyntiau | intouch | www.wwha.co.uk | 43

Gwobr am garedigrwydd cynllun Mae preswylwyr Sydney Hall Court wedi bod yn dathlu ar ôl cael eu dewis gan y Cinnamon Trust fel un o’r 5 Cynllun er Ymddeol caredicaf i anifeiliaid anwes yn 2015/16!

Roedd y Preswylwyr a'u hanifeiliaid anwes wrth eu boddau wrth glywed am y newyddion, ac fe gawson nhw hamper o bethau da gan y Cinnamon Trust. Dywedodd rheolwr y Cynllun, Alison Moody: "Gallaf weld manteision bod yn gynllun sy’n gyfeillgar tuag at anifeiliaid anwes. Mae'n helpu i feithrin gwell ysbryd cymunedol, gan ddod â'r preswylwyr at ei gilydd a helpu i ymladd yn erbyn materion iechyd ac unigrwydd, yn ogystal ag ychwanegu ymdeimlad o ddiogelwch. “Mae hi mor amlwg gymaint o feddwl sydd gan y preswylwyr o’r anifeiliaid anwes. Maen nhw i gyd yn berchnogion cyfrifol iawn, ac fe wnân nhw ofalu am anifeiliaid ei gilydd pan fyddan nhw oddi cartref neu’n mynd i apwyntiadau.” Dywedodd Sheila Walker, un o’r preswylwyr: “Rydym bob amser wedi bod

ag anifeiliaid anwes - ar ôl i’n ci ni farw cawsom fwji gan ei bod yn haws gofalu amdano. Mae Bluey yn greadur deddfol, ac ef sy’n rheoli’r aelwyd. Mae'n wych ein bod ni wedi ennill y wobr hon." Cytunodd Jenny Burgess. "Mae'n ardderchog ein bod ni wedi ennill y wobr – mae Sandy a minnau’n dîm!" Dywedodd Prif Weithredwr WWH, Anne Hinchey: “Rydyn ni’n falch fod y Cinnamon Trust wedi cynnwys Sydney Hall Court ymysg ei bum cynllun er ymddeol caredicaf at anifeiliaid anwes. Rydyn ni’n gwerthfawrogi sut gall gofalu am anifail fod yn gwmni a dod â hapusrwydd i breswylwyr, a dyna pam rydyn ni’n cefnogi anifeiliaid anwes yn ein cynlluniau ledled Cymru.


44 | www.wwha.co.uk | intouch | Eich Newyddion a’ch Safbwyntiau

David yn un da am wledd Mae cinio dydd Sul blasus a bwydydd harti wedi eu ffrio ar y fwydlen yn Nhŷ Gwaunfarren diolch i David Cooksey, un o’r preswylwyr yno.

Pan oedd clwb cinio y cynllun ym Merthyr Tudful mewn perygl o gau, meddyliodd David, sy’n 60 oed, am gynllun. Yn flaenorol roedd wedi bod yn gwneud prydau bwyd ar gyfer cymdogion o’i fflat, ond gyda chefnogaeth gan WWH a’r rheolwr cynllun David Morgan, cafodd ei dystysgrif hylendid bwyd a chael y sgôr hylendid fawreddog pum seren ar gyfer y gegin gymunol. Erbyn hyn mae’n rhedeg Clwb Cinio Dydd Llun, ClwbBrecwast Dydd Iau a Chlwb Cinio Sul yn y man cymunol, gan roi gwerth am arian i’r preswylwyr drwy gynnig dau gwrs am £4. Y mae hefyd yn coginio ar gyfer achlysuron arbennig gan gynnwys Gŵyl San Steffan a Dydd San Ffolant. I nodi Dydd Gŵyl Dewi, mae'n bwriadu rhoi cawl a bara brith ar y fwydlen. Gyda chymorth ei gymydog Thomas Collins, sy’n 17 oed, mae David hefyd yn darparu prydau bwyd i aelodau anabl o'r gymuned. “Rydw i wedi bod yn coginio i’m cymdogion erioed, felly mae hynny wedi datblygu. Gallaf goginio ar gyfer 40 o bobl ar y tro, ond rydw i’n mwynhau hynny ac mae pawb yn gwybod bod fy nrws i bob amser yn agored.”

Preswylwyr yn codi £1,493 ar gyfer elusennau Ers mis Hydref 2015, mae preswylwyr yn Nant y Môr wedi codi cyfanswm o £1,493 ar gyfer elusennau amrywiol. Un o’r elusennau a elwodd yw’r Ysgol Frics yn Wrecsam. Mae hwn yn brosiect cymunedol sy’n cefnogi teuluoedd o fewnfudwyr sy’n gweithio ym meysydd brics Dyffryn Kathmandu yn Nepal. Mae’n darparu addysg a gofal iechyd i blant sy’n gweithio a hyfforddiant llythrennedd a sgiliau i oedolion.

Dywedodd Carole Green, sy’n cynrychioli’r elusen: “Diolch yn FAWR am yr holl waith gwau rydych chi wedi ei wneud dros bobl Nepal… pob lwc gyda’r gwaith gwau rydych chi’n ei wneud yn awr ar gyfer yr unedau lleol i fabanod.”

Helpodd Jane Morris i wau ar gyfer uned babanod


Eich Newyddion a’ch Safbwyntiau | intouch | www.wwha.co.uk | 45

Preswylwyr yn mwynhau cinio twrci Mwynhaodd aelodau Clwb Cinio Hanover Court ym Mhen-y-bont ar Ogwr ginio Nadolig tri chwrs. Fe wnaeth Ann Arnold, prif gogydd y cynllun, sy’n coginio ar gyfer y Clwb ddwywaith yr wythnos, baratoi swper gyda chymorth rhai o'r preswylwyr. Talwyd am y bwyd gydag arian a gasglwyd drwy gydol y flwyddyn, ac ar ôl gwledda fe wnaeth y preswylwyr fwynhau cerddi, caneuon a Santa Cudd. Dywedodd y Rheolwr Cynllun ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Lucy Clewlow: "Roedd yn llwyddiant mawr. Fe wnaeth pawb fwynhau eu hunain ac roedd yr ystafell fwyta wedi cael ei haddurno’n hyfryd ac yn edrych mor broffesiynol."

Cloi’r flwyddyn mewn steil Cafodd preswylwyr, ffrindiau ac aelodau o’r teulu yng Nghynllun Byw’n Annibynnol Las Llain, yn Abergwaun yng ngorllewin Cymru, Barti Nadolig gwych ar 22 Rhagfyr. Mwynhawyd cinio Nadolig yng Ngwesty’r Fishguard Bay gyda pharti yn Llain Las ar ei ôl, lle darparwyd bwffe bys a bawd. Roedd yr adloniant yn cynnwys gemau a band yn chwarae cerddoriaeth, gydag un o'r preswylwyr yn chwarae'r gitâr fas. Cafwyd raffl Nadolig gyda gwobrau gwych, ac ymwelodd Siôn Corn â ni hefyd. Clywyd rhai o’r preswylwyr yn dweud: “Bob blwyddyn rydyn ni’n cael parti gwych yn Llain Las, ond eleni oedd yr un gorau eto.” “Diwrnod rhagorol, bwyd gwych, cerddoriaeth a hwyl.” “Rydyn ni mor ffodus ein bod ni yn Llain Las. Rydyn ni wedi cael blwyddyn ryfeddol, a dyma ffordd wych o goroni’r cyfan.”


46 | www.wwha.co.uk | intouch | Newyddion a Gwybodaeth am WWH

Clive yr arwr chwaraeon

Yng ngolwg preswylwyr yn ein cynlluniau yn Nhrem y Mynydd a Constantine Court yn y Rhondda, mae’r arolygydd safle a’r glanhawr Clive Sheridan yn arwr. Yn ddiweddar roedd Clive, sy’n 71 oed, yn ail yng nghystadleuaeth Arwyr Diglod BBC Cymru a Chwaraeon Cymru am ei waith yn annog plant ysgol ac oedolion yn y Rhondda i ddysgu sut i chwarae bowlio.

Mae Clive, sy’n aelod o fwrdd Cymunedau yn Gyntaf, hefyd wedi helpu i droi’r Cymoedd yn fwy gwyrdd drwy adeiladu gwelyau plannu blodau a phlannu bylbiau a llwyni o gwmpas pentref Treherbert.

Derbyniodd Clive y gydnabyddiaeth yn Ngwobrau Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn 2016 BBC Cymru yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, lle gwyliodd Clive a’i wraig Christine yr enillydd medal aur Taekwando Olympaidd Jade Jones yn cipio’r anrhydedd uchaf.

Mae ei waith yn cael ei werthfawrogi gan y gymuned, a wnaeth ei enwebu am Wobr Dinesydd Da Maer y Rhondda am ei wasanaethau i gymuned Treherbert a'r Cylch, gwobr a enillodd y llynedd.

Pan nad yw'n gwagio biniau neu’n torri gwair a chwynnu’r gwelyau blodau yn ein cynlluniau, mae Clive yn gweithio'n galed yn y gymuned yn Nhreherbert. Ers ymgymryd â rôl ysgrifennydd a thrysorydd Clwb Bowlio Treherbert sawl blwyddyn yn ôl, mae wedi gweithio'n agos gydag ysgolion cynradd lleol, ac erbyn hyn mae’n cynnal sesiynau iau ar gyfer dosbarthiadau o 30 neu ragor o blant drwy gydol misoedd yr haf yn ogystal â thwrnameintiau iau ac uwch blynyddol. Y mae hefyd yn rhedeg gwefan y clwb, gan ei diweddaru gyda newyddion a lluniau.

Dywedodd Clive: "Rwy'n falch o'r hyn rydw i’n ei wneud, ond mae cael cydnabyddiaeth ar ffurf gwobrau yn eising ar y gacen. Mae'n wych gwylio'r plant yn cael cymaint o hwyl yn bowlio." Dywedodd y Rheolwr Cynllun, Chris Ball: “Mae Clive yn haeddu’r clod. Mae’n uchel ei barch ymysg ein preswylwyr a’r gymuned. Yn ogystal â gwneud ei waith yn drylwyr mae’n gofalu am eu lles. Mae’n ŵr bonheddig.”

Mae Clive yn cynnal dosbarthiadau bowlio i blant lleol


Newyddion a Gwybodaeth Your Newsam & WWH Views | intouch | www.wwha.co.uk | 47

u ia il g S h ic e u d a il Ade

16 a 24 oed g n w rh i ch ch y d Y 7) ac a oes 1 0 2 i d e M 1 n cy (neu’n 16 oed iriannydd e B n y d o d n w e dordeb m Waith Tir? gennych chi ddid u e n n w a d d ry m hiwr A Nwy, neu’n Weit

yn a Chadw Cambria al nn Cy ae m n efi iladu a mis Meh iwrnodau blasu Ade Rhwng mis Ebrill dd o r fe ni i nd fy wylwyr cynnig y cyfle i bres ain: gyfle i wneud y rh ch w Ce . au ili Sg eich au’r ferol ar nifer o grefft ar ym ig nn cy oi rh efft’, ‘Rhoi cynnig ar gr eich sgiliau diwydiant adeiladu o bychan a phrofi ni lu dy a du la ei ad Cwblhau prosiect en arddull Dragons’ D mewn ymarfer yn efnogaeth Cael cymorth a ch brentisiaethau wrth ymgeisio am aith mewn crefft Cwblhau profiad gw o’ch dewis. eich Sgiliau dros Cynhelir Adeiladu d, a hynny yng gyfnod o ddeuddyd Cymru. ngogledd ac yn ne

I gofrestru eich diddordeb, cysylltwch â: Fran Maclean, Buddiannau Cymunedol ar 02920 414039 neu ewch i wwha.co.uk a chliciwch ar ‘barod am swydd’ yn yr Ardal Trigolion.


The new charity of the year for The new charity of the year for Wales & West Housing Wales & West Housing

Elusen newydd y flwyddyn Tai Wales & West The new charity of the year for Wales & West Housing

Ymunwch â ni ar ein taith i greu Cymru sy'n gyfeillgar i oedran Join us on our journey to create an age friendly Wales

Helpwch ni i rhoi cymorth i pobl hŷn yng Nghymru Help us to support older people in Wales Get touch // Cysylltwch â Get touch / Cysylltwch â Get in inin touch Cysylltwch â ni ni 029 2043 1555 www.agecymru.org.uk Tel: Tel: 029 2043 1555 www.agecymru.org.uk twitter.com/agecymru twitter.com/agecymru facebook.com/agecymru facebook.com/agecymru


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.