ein busnes yw
creu
bwrdeistref sirol Wrecsam
strategaeth ffyniant economaidd
i gael rhagor o wybodaeth: 01978 292010 economicdevelopment@wrexham.gov.uk www.issuu.com/wxmsayshello
www.twitter.com/wxmsayshello
2012-17
Mae pob bywyd yn werthfawr. Wedi’i adeiladu ar filiynau o brofiadau dros filiynau o smotiau o amser. Mae pwy yr ydym ni eisoes wedi’i ysgrifennu, ond mae pwy y byddwn ni yn dudalen wag sy’n cael ei hysgrifennu gan yr hyn y mae ffawd yn ei roi i ni. Gan mai ein profiadau ni sy’n ein gwneud ni’r hyn yr ydym ni. Yr amgylchedd yr ydym yn byw ynddo, y cyfleoedd a gawn, y llwyddiannau yr ydym yn eu cyflawni. Yn y pen draw, y pethau hyn yw’r morthwylion a’r eigionau sy’n siapio’r person y byddwn ni. Cadwch y syniad hwn mewn cof. Byddwn yn dychwelyd at hyn nes ymlaen.
Ysgrifennwyd a chynhyrchwyd gan Adran Asedau a Datblygu Economaidd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Dyluniwyd gan White Fox Editorial & Design Consultants. Cyfranwyr ffotograffiaeth yn Cynnwys Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Eye Imagery, Sharp Manufacturing, Prifysgol Glyndw ˆ r a Moneypenny. www.twitter.com/wxmsayshello www.issuu.com/wxmsayshello
Er mwyn osgoi torri hawlfraint, peidiwch ag ailgynhyrchu unrhyw ddelwedd yn y ddogfen hon heb drafod â ni yn gyntaf.
cynnwys cyflwyniad
4
canfod tueddiadau
8
gwneud iddo ddigwydd
12
canlyniad 1
16
canlyniad 2
20
canlyniad 3
26
wrecsam yfory
32
sut y byddwn yn cyflawni?
38
gyda phwy y byddwn yn gweithio?
40
3
4
cyflwyniad Mae gan y ddogfen hon bwrpas Mae 40 o dudalennau o’ch blaen. Mae eich amser yn werthfawr. Rydych yn gofyn i chi eich hun: “A oes wir angen i mi ddarllen hwn?” Oes. Yn bendant. A dyma pam. Mae’r byd yn newid. Os nad ydych yn esblygu, byddwch yn darfod. Ac yna fe fyddwch yn ddiflanedig. Dros y blynyddoedd, mae swyddogaeth datblygu economaidd y Cyngor wedi datblygu yn unol â’r newid yn anghenion, uchelgeisiau a disgwyliadau Wrecsam. Pwrpas y ddogfen hon yw ail-werthuso’r amgylchiadau a’r amodau economaidd sy’n effeithio ar y fwrdeistref sirol heddiw, disgwyliadau ein partneriaid a chymunedau, ac i ddatblygu ein gwasanaethau a’n hamcanion i gyd-fynd â hynny. Mae’n ymwneud ag aros yn berthnasol a bod yn effeithiol mewn byd sy’n newid.
5
rheoli ein tynged Mae gan bawb uchelgais. Dim ond rhai sydd ag uchelgais sy’n werth ei chael. Mae Bwrdeistref Sirol Wrecsam bob amser yn canolbwyntio ar y dyfodol. Yn ymroi i wthio ei hun a’r byd yn eu blaen. Dyma un rheswm pam yr ymgysylltodd y llywodraeth leol yma â datblygu economaidd ymhell cyn iddo fod yn ffasiynol. Dechreuodd 30 mlynedd yn ôl, pan fu’n rhaid i’r cyngor ymyrryd yn yr economi leoli wrth i gyflogwyr traddodiadol – y pyllau glo, gwaith brics, bragdai a gwaith dur- ddechrau cau, gan waredu miloedd o swyddi yn y broses. Roedd yn rhaid i ni gynorthwyo pobl i ddod o hyd i waith. A hyd yn oed yr adeg hynny, roedd y cyngor yn deall hafaliad pwysig. Buddsoddiad = cyflogaeth, cyflogaeth = cyfoeth, cyfoeth = ansawdd bywyd, ansawdd bywyd = buddsoddiad. Mae mor syml â hynny.
6
Fe wnaethom ni gamu i’r bwlch gydag ein llyfr siec rhesymol, gan brynu ffatrïoedd oedd
ac mae economïau bregus yn cwympo neu’n waeth.
wedi cau a safleoedd diffaith a’u troi yn swyddfeydd deniadol ac unedau diwydiannol mewn ymgais i ddenu diwydiannau newydd ac adnewyddu entrepreneuriaeth lleol. Roedd
Ni fu’r angen i ymyrryd a thywys datblygiad ein heconomi leol – i fod yn feistri ar ein tynged economaidd – yn fwy hanfodol erioed.
yn strategaeth beryglus. Ond mae wedi talu ar ei ganfed. Dewisodd mewnfuddsoddwyr o dramor a ledled y DU i ddod i Wrecsam, gyda benthyciadau deniadol, grantiau a chynnig gwerthiant
Os ydym eisiau cadw ansawdd bywyd yma ar ei lefel gyfredol, mae angen i ni ddenu ton newydd o fewnfuddsoddi.
rydym yn ddim byd heb ffrindiau
angerddol gan y cyngor yn aml yn selio’r fargen. Penderfynodd JCB, Sharp Manufacturing, British Encoder, Isringhausen, Brother Industries, HOYA a nifer o fuddsoddwyr Prydeinig a thramor eraill bod eu dyfodol yma.
dyma’r byd heddiw Nawr, 30 mlynedd yn ddiweddarach, mae’r byd mewn trafferth eto ac mae heriau newydd yn syllu i’n hwynebau. Mae nifer o fusnesau’n masnachu mewn amgylchedd hynod anodd, mae diweithdra ar gynnydd, mae gwariant y stryd fawr yn gostwng
Ychydig iawn o bethau mewn bywyd sy’n ymdrech unigol. Mae hon yn ddogfen a arweinir gan y cyngor fydd yn llunio’r gwasanaethau y byddwn yn eu darparu, ond yn yr oes gyfoes, ni all datblygu economaidd effeithiol olygu bod cynghorau yn gweithio ar eu pennau eu hunain mwyach. Mae nifer o sefydliadau a budd-ddeiliaid eraill yn dylanwadu ar y ffactorau sy’n denu neu rwystro buddsoddwyr. Rydym yn cydnabod hyn. Dyma pam ein bod wedi cynnwys busnesau, asiantaethau addysg a phartneriaid allanol eraill yn y broses o ddatblygu’r strategaeth hon.
mae angen i ni weithio gyda’n gilydd. 7
8
canfod tueddiadau Mae rhagweld yfory wedi bod yn broffesiwn ers cannoedd o flynyddoedd. O syllu i belen grisial i sêr-ddewiniaid y papurau newydd. Ond mae math newydd o glirweledwyr corfforaethol neu ‘ganfyddwyr tueddiadau’ – yn cael eu talu i gynorthwyo i ragweld y dyfodol gan fuddsoddwyr sy’n chwilio am unrhyw beth y gallant eu ddefnyddio i ragweld tueddiadau’r farchnad. O effaith newid hinsawdd i fewnfudo i wleidyddiaeth. Dyma ein safbwynt ni. Ni all unrhyw un r agweld y dyfodol – ond, os ydych chi’n talu sylw – gallwch ddyfalu’n seiliedig ar dystiolaeth. Rydym eisoes wedi awgrymu y bydd angen i ni weithio gyda sefydliadau eraill yn Wrecsam – o’r brifysgol i’r gwasanaethau iechyd, ac o gwmnïau mawr cenedlaethol i fusnesau lleol.
Mewn gwirionedd, rydym eisoes wedi nodi nifer o faterion datblygu economaidd allweddol y gallai cynghorau ar draws Gogledd Cymru fynd i’r afael â nhw gyda’i gilydd. Mae’r rhain yn cynnwys mewnfuddsoddi, diweithdra ymhlith pobl ifanc, datblygu sgiliau’r gweithlu, menter gymdeithasol a dechrau busnes newydd, datblygu gwledig, datblygu cadwyn gyflenwi a defnyddio cefnogaeth Ewropeaidd. Mae hefyd yn bosibl y bydd model ‘partneriaeth menter leol’ sy’n cael ei brofi yn Lloegr yn cael ei fabwysiadu ar draws y DU yn y dyfodol. Mae’r dull yn dibynnu ar bartneriaethau ffurfiol sector cyhoeddus-preifat i ddarparu twf economaidd. Nid ydym yn rhagweld sut y byddwn yn gweithio yn y dyfodol, ond rydym yn ymwybodol o sut y gallai pethau newid. A phan ddaw newid, byddwn yn ei gymell ymlaen.
Rydym hefyd yn gweithio gyda chynghorau eraill dan amgylchiadau sy’n llawer mwy ffurfiol yn awr.
9
egni ein heconomi Mae gan Fwrdeistref Sirol Wrecsam lawer iawn i’w gynnig. Er enghraifft:
pwˆer Enw da cynyddol ar gyfer ynni solar. Enghraifft? Agorwyd fferm ynni solar gwerth £2.5 miliwn ger Rhosllannerchrugog yn 2015. Mae’n fawr (8,800 o baneli solar dros 43 erw).
gwybodaeth Poblogaeth myfyrwyr cynyddol a phrifysgol sy’n ymwneud â busnes ac arloesi.
twf Economi twristiaeth gwerth £98.4 miliwn y flwyddyn ac yn tyfu. Y catalydd ar gyfer y twf hwn? Atyniadau allweddol megis traphont ddwˆr a Chamlas Pontcysyllte – un o Safleoedd Treftadaeth y Byd newydd Ewrop a symbol eiconig o DNA arloesol Wrecsam. Neu Amgueddfa Wrecsam, a ddenodd dros 16,000 o bobl i’r dref mewn dim ond chwe wythnos ar gyfer Arddangosfa Mantell yr Wyddgrug. A dros 10,000 o bobl ar gyfer y rhaglen Dehongli Hieroglyffau. Dim ond rhai enghreifftiau o werth economaidd treftadaeth.
10
cred
menter
Cynnydd o 5% yn y boblogaeth rhwng 1999 a 2009 (o gymharu â 3.4% ar draws Cymru). Mae mwy o bobl yn dewis byw yma.
Annog busnesau lleol a rhanbarthol i wneud y mwyaf o’r cyfleoedd sy’n cael eu creu gan ddatblygiad carchar Gogledd Cymru – yn enwedig y diwydiant adeiladu.
creadigrwydd Mae cynigion ar y gweill i greu gofod celfyddydau cyfoes mawr yng nghanol y dref. Os bydd yn mynd yn ei flaen, bydd y prosiect yn trawsnewid Marchnad y Bobl yn ganolfan ddiwylliannol gyfoes, ynghyd â phrofiad siopa bywiog.
cyfle 100 o grwpiau cymunedol, 1,000 o wirfoddolwyr a 2,000 o ddysgwyr cymunedol. Mae Wrecsam yn fan lle gall pobl lunio’r cymunedau y maent yn byw ynddynt a datblygu eu sgiliau a’u profiadau personol.
cymhelliant Rydym yn adeiladu isadeiledd ffordd newydd i agor mynediad i Borth y Gorllewin – sy’n allweddol i ddenu a chadw buddsoddiad busnes yn Wrecsam. Mae un cyflogwr mawr lleol – Moneypenny – eisoes wedi penderfynu adeiladu ei bencadlys newydd gwerth £15m ar y safle.
lleoliad Mae traean o boblogaeth y DU a hanner y diwydiant gweithgynhyrchu Prydeinig o fewn 90 munud mewn car. Ac mae trydydd maes awyr mwyaf y DU – Manceinion Rhyngwladol – a’r porthladd llongau byd-eang yn Lerpwl o fewn 45 munud. Mae gan Wrecsam gysylltiadau.
Felly os yw popeth mor wych, pam ein bod yn cyfrannu at ddatblygu’r economi? Pam na aiff pawb adref, gwaith wedi’i But the world would move on, so would our orffen? Wel, gallwn ei grynhoi mewn un competitors and five years from now we’d be gair. ‘Uchelgais’. left wondering what happened. Like the athlete who wakes up one day to realise they Gallwn i gyd eistedd yn ôl a dweud wrth squandered gift. Mae pethau yn iawn. ein hunaintheir i ‘Ymlacio. Tynnwch y droed oddi ar y sbardun.’ Ond byddai’r byd yn symud yn ei flaen, ynghyd â’n cystadleuwyr ac ymhen pum mlynedd byddem yn pendroni ynglyˆ n â beth ddigwyddodd. Fel yr athletwr sy’n deffro un diwrnod i sylweddoli eu bod wedi gwastraffu eu dawn. Mae uchelgais yn darparu cynnydd.
mae uchelgais yn rhyddhau potensial 11
buddsoddiad
ansawdd bywyd
12
gwneud iddo ddigwydd Gan aralleirio hen hysbyseb siampwˆ, ‘dyma’r gwyddoniaeth’... Rydym yn hoff o hafaliadau am eu bod yn egluro pethau. Yn Syml. Yn rhesymegol. Yn y cyflwyniad, nodwyd fformiwla yr ydym wedi bod yn ei defnyddio am gryn amser ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam:
cyflogaeth
cyfoeth
13
Gadewch i ni edrych ar hyn ychydig yn fanylach. Er mwyn denu buddsoddiad, mae’n rhaid creu amgylchedd y bydd pobl eisiau buddsoddi ynddo. Dehongliad: adeiladu’r lle cywir. Er mwyn cynorthwyo buddsoddwyr i leoli a thyfu (a chreu swyddi), mae’n rhaid i chi ddarparu’r cymorth cywir. Dehongliad: gweithio gyda busnesau. Os yw pobl leol yn mynd i fanteisio ar gyfleoedd swyddi (a chynyddu eu cyfoeth), mae’n rhaid i chi roi’r sgiliau a'r wybodaeth iddynt. Dehongliad: cynorthwyo pobl i agor y drysau y maent eisiau eu hagor. Yn olaf, mae mwy o gyfoeth cyfunol yn cynyddu ansawdd bywyd, sy’n cynorthwyo i greu man lle y bydd busnesau yn dymuno buddsoddi. Ac mae’r cylch yn parhau.
y gamp yw troi damcaniaeth yn realiti. 14
Felly er mwyn i’r fformiwla weithio, mae’n rhaid i ni ganolbwyntio ar dri peth sy’n gysylltiedig â'i gilydd: lle, busnes a phobl. Ond mae rhywbeth arall. Proffil. Mae Wrecsam wedi datblygu’n sylweddol dros y ddegawd diwethaf, ond nid yw canfyddiad wedi cyd-fynd â realiti bob amser. Nid yw’r byd yn cydnabod y pethau yr ydym yn eu gwneud yn dda bob amser. Nid ydym hyd yn oed yn eu cydnabod ein hunain.
codi proffil Wrecsam fel lle, Wrecsam fel amgylchedd busnes a phobl Wrecsam. Felly dyna ni. Y ddamcaniaeth. Mae’r cyfan yn syml ac nid ni yw’r cyntaf i nodi’r cysylltiadau hyn. Y gamp yw troi damcaniaeth yn realiti. Mae’r strategaeth yn amlinellu sut – gyda chymorth ein partneriaid – yr ydym yn bwriadu gwneud hynny.
Mae’n amser i ni ganfod ein llais. Er mwyn
15
16
canlyniad 1 Mae Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn fan lle y mae pobl eisiau byw, gweithio, ymweld a buddsoddi ynddi. pam fod hyn yn bwysig? Y cwestiwn pwysicaf mewn bywyd yw ‘pam?’ Pam ein bod ni yma? Pam ein bod yn teimlo fel hyn? Pam ydyn ni'n gwneud hyn?
Ond er mwyn gwneud hyn, mae angen i ni greu’r amgylchiadau a’r ddelwedd neu’r ‘proffil’ cywir.
Felly mae’n rhaid i ni ofyn i ni ein hunain pam ei bod yn bwysig bod Wrecsam yn fan lle mae pobl eisiau byw, gweithio, ymweld a buddsoddi ynddi? Dyma’r ateb.
Ac maen rhaid i ni weithredu yn awr. Nid oes gennym ddigon o’r tir na’r adeiladau cywir i ddenu cyflogwyr premiwm. Nid ydym yn manteisio ar botensial y bunt twristiaeth. Nid ydym yn gweiddi’n ddigon uchel ynglyˆn â’r fwrdeistref sirol fel rhywle i fyw, gweithio, ymweld neu fuddsoddi ynddi.
Po fwyaf o bobl y gallwn eu perswadio i adeiladu eu bywydau, gwireddu eu gobeithion neu wario arian yma, y mwyaf cyfoethog y bydd y Fwrdeistref Sirol gyda bywyd o well safon i bawb.
17
beth ydyn ni'n mynd i'w wneud? Felly beth yw’r cynllun? Sut ydym ni’n mynd i adeiladu’r amgylchedd hwn neu greu’r ddelwedd hon? Gyda ein partneriaid (cofiwch beth a ddywedwyd gennym ... ychydig iawn o bethau mewn bywyd sy’n ymdrech unigol) byddwn yn:
amgylchedd ffisegol Parhau i agor mynediad i Borth y Gorllewin i greu cyfleoedd datblygu masnachol – cynorthwyo Wrecsam i ddenu a chadw cyflogwyr o ansawdd uchel fel Moneypenny. Parhau i wella ac adnewyddu adeiladau busnes, cymunedol a phreswyl allweddol, gan gynnwys eiddo yng Nghefn Mawr trwy’r Menter Treftadaeth Treflun. Cynorthwyo i gadw a gwella ein safleoedd treftadaeth – megis adnewyddu Castell Holt, a ail-agorodd i’r cyhoedd yn 2015. Byddwn yn ystyried sut y gallwn wneud y gorau o asedau treftadaeth yn y Bers, Brymbo a rhannau eraill o’r fwrdeistref sirol. Treftadaeth = twristiaeth. Twristiaeth = gwariant ymwelwyr. Datblygu dull strategol i atgyfnerthu
18
safleoedd ac adeiladau allweddol. Mae pawb angen cynllun. Gwella cyfleusterau ymwelwyr ac isadeiledd o amgylch Traphont Ddw ˆr a Chamlas Pontcysyllte. Pan fyddwch yn ymweld â Safle Treftadaeth y Byd, byddwch yn disgwyl profiad o’r radd flaenaf. Parhau i ddarparu ein ‘cynllun rheoli cyrchfan', cynorthwyo i wneud Wrecsam yn fan gwell i ymweld â hi. Darparu rhaglen £10.5 miliwn Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn cynnwys datblygu prif gynllun i gynorthwyo i lunio canol y dref dros y ddegawd nesaf, adnewyddu adeiladau busnes a phreswyl, a chreu canolfan gelfyddydau gyfoes. Mae ffyrdd o fyw yn newid. Mae’n rhaid i ganol trefi newid hefyd.
proffil Nid delwedd yw popeth. Mae sylwedd yn bwysig. Ond os nad ydych yn rheoli canfyddiadau eich cwsmeriaid, byddant yn eich camddeall yn y pendraw. Ac yna byddwch yn methu.
Manteisio ar botensial marchnata’r Safle Treftadaeth y Byd, cynyddu ymwelwyr a chodi proffil Wrecsam trwy ei symbol mwyaf eiconig.
Bydd creu’r ddelwedd gywir yr un mor bwysig â chreu’r amgylchedd ffisegol cywir.
Magu hyder yn Wrecsam trwy rannu ein straeon llwyddiant. Y bobl fusnes sy’n llwyddiant ledled y byd. Yr ymchwilwyr sy’n arloeswyr. Y gwirfoddolwyr sy’n newid bywydau. Dyma’r bobl sy’n cyfleu pam fod y fwrdeistref sirol yn lle gwych i fyw, gweithio, ymweld a buddsoddi ynddi.
Gyda ein partneriaid byddwn yn: Adeiladu enw da canol tref Wrecsam fel un o gyrchfannau hamdden a siopa trefol gorau’r rhanbarth. Gwerthu’r ffordd o fyw.
sut y byddwn yn mesur llwyddiant? Dangosydd
Mesurydd
Gwaelodlin
Targed erbyn 2016-17
Buddsoddiad mewn adnewyddu ffisegol.
Asesiad blynyddol o gyfanswm y buddsoddiadau sy’n hysbys
£506,806 (2010-11)
£5 miliwn
Galw am eiddo
Pris Tai ar Gyfartaledd
£120,161 (Chwefror 2011): £737 yn is na chyfartaledd Cymru
Bod yn unol â chyfartaledd Cymru
Nifer yr Ymwelwyr
Canfyddiadau effaith economaidd blynyddol
1.64 miliwn (blwyddyn galendr 2010)
1.9 miliwn
Gwariant ymwelwyr
Canfyddiadau effaith economaidd blynyddol
£84.39 miliwn (blwyddyn galendr 2010)
£98 miliwn
Nifer yr ymwelwyr yng nghanol y dref
Cyfrif pedomedr blynyddol
I’w sefydlu yn 2015-16
Cynnydd blynyddol
Unedau gwag yng nghanol y dref (e.e. siopau gwag)
Data cenedlaethol unedau adwerthu gwag
10.9%: yn is na’r cyfartaledd cenedlaethol o 13%
Parhau’n is na’r cyfartaledd cenedlaethol
Canfyddiad o ganol y dref
Arolwg Canfyddiad canol y dref
I’w sefydlu yn 2015-16
Anfon 400 o holiaduron i fusnesau.
19
20
canlyniad 2 Mae Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn fan lle y gall busnesau leoli a thyfu. pam fod hyn yn bwysig? Ystyriwch ein hafaliad eto a’r cyswllt rhwng denu buddsoddiad a chynyddu cyflogaeth, cyfoeth ac ansawdd bywyd. Mae perswadio cwmnïau mai dyma’r lle cywir i sefydlu neu ehangu eu busnes yn hanfodol er mwyn creu swyddi, rhoi arian ym mhocedi pobl a gwella ansawdd eu bywydau. Ac mae llawer o waith i’w wneud. Mae 30% o eiddo masnachol y cyngor yn wag. Mae swyddfeydd, warysau a ffatrïoedd yn hel llwch, yn hytrach na gwneud arian. Mae tua 9,635 o fusnesau yn Wrecsam heddiw.
Ond dim ond 7.5% o’r boblogaeth sy’n hunangyflogedig, o gymharu â’r 9% ar draws y DU. Fel darlleniad baromedr ar gyfer entrepreneuriaeth, mae’n iawn.. ond nid yw’n wych. Yn syml, rydym angen mwy o gyflogwyr a mwy o bobl hunangyflogedig. Ond er mwyn perswadio busnesau i fuddsoddi yma ac annog entrepreneuriaeth, mae’n rhaid i ni greu’r amgylchedd busnes cywir. A’r ddelwedd gywir.
21
beth ydyn ni'n mynd i'w wneud? Felly beth yw’r ateb? Sut ydyn ni’n mynd i gyrraedd yno? Gyda ein partneriaid byddwn yn:
amgylchedd busnes Datblygu perthnasau gyda busnesau strategol pwysig. Mae angen i ni fod ar delerau enwau cyntaf gyda’r unigolion hyn. Darparu eiddo masnachol sy’n diwallu anghenion busnesau lleol, busnesau newydd a mewnfuddsoddwyr. Cynorthwyo busnesau a phartneriaid hyfforddi i ganfod bylchau yn y ddarpariaeth sgiliau, a gweithio gyda cholegau i ymestyn yr hyfforddiant y gallant ei gynnig. Weithiau'r hyn yr
trosiant, elw a chynaladwyedd drwy annog cyfleoedd “cadwyn gyflenwi” a chysylltiadau rhwng busnesau. Weithiau pwy yr ydych chi’n ei adnabod sy’n bwysig. Annog entrepreneuriaeth, dechrau busnesau a thwf lleol drwy ddatblygu pecynnau cymorth unigol i fusnesau. Mae hyn yn cynnwys cynorthwyo mentrau cymdeithasol a chymunedol. Addasu ein eiddo masnachol a thir fel ei fod yn diwallu anghenion datblygwyr a busnesau, cynyddu niferoedd yn ein hystadau diwydiannol.
ydych chi’n ei wybod sy’n bwysig. Cynorthwyo busnesau i gynyddu
22
Gweithio gyda grwpiau busnes a phartneriaid eraill i adolygu ein
marchnadoedd, sicrhau eu bod yn addas i bwrpas ac yn chwarae eu rhan mewn cynnig siopa amrywiol a deniadol. Rachel Clacher.
Cefnogi gweithgarwch fydd yn sicrhau bod cyrraedd a theithio o amgylch canol tref Wrecsam yn haws – ar y ffordd, ar y rheilffordd ac ar droed. Cefnogi’r siopau annibynnol sy’n rhoi naws i ganol y dref. Nid ydym am iddynt oroesi yn unig. Rydym eisiau iddynt ffynnu.
Busnes sydd wedi’i leoli yma. Ac wedi tyfu. “Beth yw’r gyfrinach i’n llwyddiant? Mae’r ateb yn syml; ein pobl. Rydym wedi lleoli ein hunain yn Wrecsam ac yn parhau i fod yn ymroddedig i’r dref..." Mae Rachel Clacher yn gyd-sylfaenydd cwmni Moneypenny sydd wedi ennill gwobrau. Ers ei sefydlu yn 2000 mae’r cwmni wedi tyfu i fod yn un o ddarparwyr gwasanaeth ateb galwadau proffesiynol blaenllaw y DU, yn cyflogi dros 450 o bobl.
23
proffil Mae argraffiadau cyntaf yn cyfrif. Ac mae o ble yr ydych chi’n dod yn ffactor allweddol. Os yw eich busnes wedi’i leoli mewn tref a ystyrir yn un cyffredin, yna bydd eich busnes yn cael ei ystyried yn un cyffredin hefyd. Os yw eich busnes wedi’i leoli mewn tref a ystyrir yn llawn cyffro ac yn uchelgeisiol, bydd eich busnes hefyd yn uchelgeisiol... Rydych chi’n gwybod sut y mae hyn yn gweithio. Felly eto, mae gwerthu’r ddelwedd gywir i ddenu buddsoddiad ac entrepreneuriaeth yn amcan pwysig.
Gyda ein partneriaid byddwn yn: Gweithio gyda phartneriaid o fewn Cynghrair Merswy Dyfrdwy a Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i ddenu buddsoddiad mewn isadeiledd a busnes.
ganolog gyda’r gallu i ddylanwadu ar fuddsoddwyr tramor.
Targedu ein marchnata i ddenu busnesau o ansawdd uchel lle bynnag y gallwn. Fel y nodwyd, mae cyflogwyr premiwm yn darparu swyddi premiwm.
Sicrhau y gwelir y fwrdeistref sirol fel lle llawn cyffro ar gyfer buddsoddiad a datblygiad eiddo masnachol.
Ffurfio cysylltiadau agosach gyda gwleidyddion, gweision sifil ac unigolion allweddol eraill mewn llywodraeth
24
Yr ysgogwyr a’r cynhyrfwyr sy’n gwerthu’r DU i Tsiena, India a gweddill y byd.
Manteisio ar berthnasau tramor presennol rhwng Wrecsam ac economïau Asia, gan gynnwys cysylltiadau academaidd ac ymchwil.
sut y byddwn yn mesur llwyddiant? Dangosydd
Mesurydd
Gwaelodlin
Targed erbyn 2016-17
Nifer y busnesau newydd sydd wedi’u sefydlu
Busnesau newydd a gynorthwywyd gan CBSW
30 (2010-11)
60 y flwyddyn (Cyfanswm o 300)
Diddordeb buddsoddi
Ymholiadau mewnfuddsoddi
100 (2010-11)
150 y flwyddyn (Cyfanswm o 300)
Meddiant eiddo masnachol
% o eiddo masnachol gan CBSW a lenwir
68% (2010-11)
90%
Buddsoddiad
% yr ymholiadau buddsoddi a drawsnewidiwyd
5% (2010-11)
5% y flwyddyn (yn cynrychioli cynnydd os bydd ymholiadau’n cynyddu)
Nifer y busnesau a gofnodwyd
Cyfanswm y busnesau sy’n hysbys
8,935 (ffigyrau diwygiedig 2012 gan Lywodraeth Cymru)
9,500+
wyddech chi? Mae 5% o’r boblogaeth yn Tsiena sydd â’r IQ uchaf yn fwy na chyfanswm y boblogaeth yn y DU. Dehongliad: mae ganddynt fwy o fyfyrwyr abl a thalentog na’r nifer o fyfyrwyr sydd gennym ni. The world is changing. (Ffynhonnell: Shift Happens. Gallwch ddod o hyd i’r fideo ar www.youtube.com)
25
26
canlyniad 3 Mae Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn fan lle gall pobl ffynnu fel unigolion ac o fewn eu cymunedau. pam fod hyn yn bwysig? Yn y pen draw, mae’r strategaeth hon yn ymwneud ag un peth: pobl. Mae'n ymwneud â chreu cyfleoedd a rhoi dewisiadau i bobl. Oherwydd heb ddewis, nid oes llais ynghylch pwy ydym ni neu’r hyn rydym am fod. Fel y nodwyd ar ddechrau’r ddogfen hon... Ein profiadau sy’n ein gwneud ni’r hyn yr ydym ni. Mae cyflogaeth yn un o’r ffactorau allweddol sy’n dylanwadu ar brofiad dynol cyfoes. Mae cyflogaeth yn rhoi arian yn ein pocedi. Mae arian yn agor drysau. Ond er mwyn manteisio ar y cyfleoedd swyddi sydd ar gael, mae’n rhaid i chi gael y sgiliau a’r profiad y mae cyflogwyr ei angen.
Mae cyfradd diweithdra cyffredinol Wrecsam yn cymharu’n dda â’r cyfartaleddau cenedlaethol, ond edrychwch ychydig yn fanylach ar yr ystadegau a byddwch yn dod o hyd i broblemau. Mae diweithdra ymhlith pobl ifanc yn bryder mawr. Nid ydym yn sôn am ‘genhedlaeth goll’ ar hyn o bryd, ond mae’n uwch na’r cyfartaledd yn y rhan fwyaf o’n cymunedau. Mae’r bwlch rhwng yr aelwydydd tlotaf a’r aelwydydd cyfartalog yn eang, ac yn ehangu. Mae angen i ni newid y duedd trwy gynyddu incwm a lleihau costau aelwydydd. Er mwyn gwneud y fwrdeistref sirol yn fan lle gall pawb ffynnu, mae’n rhaid i ni roi’r sgiliau a’r hyder sydd eu hangen ar bobl a chymunedau er mwyn gwneud y dewisiadau y maent am eu gwneud.
27
beth ydyn ni'n mynd i'w wneud? Gyda ein partneriaid byddwn yn:
pobl a chymunedau Fel rhan o raglen Cyfuno Llywodraeth Cymru, byddwn yn gwneud y mwyaf o ddiwylliant, treftadaeth a gweithgareddau celfyddydau sydd ar gael i bobl mewn ardaloedd difreintiedig, cynyddu eu hymgysylltiad â datblygu sgiliau, gwirfoddoli a chyfleoedd swyddi. Gweithio gyda’n partneriaid i gynorthwyo’r rhai sy’n ddi-waith yn hirdymor, a phobl ifanc ‘nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant’ (NEET), i gael gwaith.
28
Cynorthwyo unigolion a chymunedau i ddatblygu eu sgiliau trwy gynyddu gweithgareddau sy’n meithrin cyfranogaeth, dysgu a gwirfoddoli – yn enwedig yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig. Darparu rhaglen Cymunedau’n Gyntaf yng nghymdogaethau mwyaf difreintiedig Wrecsam. Byddwn yn cynorthwyo pobl i gymryd camau cadarnhaol i wella eu ffyniant, addysg ac iechyd eu hunain.
proffil Iawn. Rydym eisiau i Wrecsam fod yn fan lle gall pobl a chymunedau ffynnu. Ond nid yw’n ddigon darparu gwasanaethau sy’n gallu cynorthwyo pobl i wireddu eu potensial. Mae’n rhaid i ni wneud iddynt gredu yn yr hyn sy’n bosibl. Er mwyn dangos bod y fwrdeistref sirol wir yn fan lle gallwn fod yn benseiri ein dyfodol ein hunain.
A pho fwyaf y bobl leol a chymunedau sy’n credu hynny – po fwyaf yr hyder sydd ganddynt yn Wrecsam – y mwyaf y byddant yn ei wneud i’w hysbysebu i weddill y byd.
“Mae Wrecsam wedi rhoi dewisiadau i mi. Mae wedi fy nghynorthwyo i fod yr hyn yr wyf eisiau bod. Mae’n le da i fyw ynddo.”
29
Gyda ein partneriaid byddwn yn: Defnyddio llwyddiannau unigolion a chymunedau i ddangos bod y fwrdeistref sirol yn fan gyda chyfleoedd sy’n cynorthwyo pobl i gael yr hyn y maent yn dymuno ei gael o fywyd. Lle uchelgeisiol ar gyfer pobl uchelgeisiol. Cynorthwyo mentrau cymdeithasol a grwpiau cymunedol i ddatblygu eu technegau marchnata a chyfathrebu. Defnyddio astudiaethau achos i gyflwyno’r gefnogaeth a’r gwasanaethau sydd ar gael. Pe bai teulu x yn lleihau costau eu haelwyd a chynyddu eu hincwm trwy wneud x, y a z, gallwn ddefnyddio eu profiad i annog pobl i fanteisio ar y cyfle.
30
sut y byddwn yn mesur llwyddiant? Dangosydd
Mesurydd
Gwaelodlin
Targed erbyn 2016-17
Diweithdra ymhlith pobl ifanc
% yr ieuenctid sy’n ddi-waith (18-24 oed) 32.9% (Aug 2011):
32.9% (Awst 2011): o gymharu â chyfartaledd Cymru o 34.9%
Parhau’n is na chyfartaledd Cymru / lleihau pocedi lleol
Anweithgarwch economaidd
% y bobl 16-64 oed sy'n hawlio Lwfans Ceisio Gwaith
3.9% (Awst 2011): o gymharu â chyfartaledd Cymru o 4%
Parhau’n is na chyfartaledd Cymru / lleihau pocedi lleol
% yn hawlio analluogrwydd
8.1% (Chwefror 2011): o gymharu â chyfartaledd Cymru o 9.5%
Parhau’n is na chyfartaledd Cymru / lleihau pocedi lleol
Gallu’r sector cymunedol i gyfrannu
Grwpiau wedi’u cefnogi, oedolion yn gwirfoddoli ac oedolion yn cael cyfleoedd dysgu cymunedol
100 grwˆp 1,000 o wirfoddolwyr a 2,000 o ddysgwyr cymunedol (Medi 2011)
Cynnydd o 10% ar gyfer y tri
Cymwysterau cyflogaeth
Nifer yr unigolion sy’n cymryd rhan mewn cymwysterau sy’n ymwneud â chyflogaeth
300
350
31
32
wrecsam yfory Mae pawb angen ‘rhywbeth'. Talent neu sgil y maent yn adnabyddus o’i herwydd. Ansawdd sy’n crynhoi pwy ydynt. Mae gan gwmnïau mawr rywbeth eu hunain. Maent yn ei alw’n 'ideoleg craidd’. Yn syml mae’n golygu gwerth neu bwrpas (neu’r ddau) sy’n ganolog i syniadaeth y cwmni. Edrychwch ar Sony. Yn yr 1950au, penderfynodd y gweithgynhyrchwyr technegol eu bod eisiau bod yn arloeswyr yn y maes, nid dilyn eraill, gwneud yr amhosibl ac annog creadigrwydd. Maent yn parhau i fyw gyda'r gwerthoedd hynny.
Beth ydym ni’n ei wneud yn dda? Beth yr ydym yn credu ynddo? Beth y mae arnom eisiau bod yn adnabyddus o’i herwydd? Dyma awgrym. Creadigrwydd. Gallwn sefydlu’r fwrdeistref sirol fel man creadigol, blaengar. Pam? Gan ein bod yn chwarae ein rhan yn cymell y byd yn ei flaen gyda syniadau newydd, technoleg ac ymchwil. Mae yn ein gwaed. Ac rydym yn dda yn ei wneud. Ddim yn ein credu ni? Dyma ragflas.
Felly beth yw ‘rhywbeth’ Wrecsam?
33
gorffennol Creodd John Wilkinson dechnegau tyllu canon newydd gyda phatent a thrawsnewidiodd dulliau rhyfela (Aethpwyd â nhw ar HMS Victory gan Nelson). Dylanwadodd dulliau a arloeswyd gan Thomas Telford ym Mhontcysyllte (y draphont ddwˆ r uchaf yn y byd y gellir ei mordwyo) ar beirianwaith ar draws y byd. Roedd y peiriannydd sifil William Lowe yn byw yn Wrecsam ac fe luniodd y cynlluniau realistig cyntaf ar gyfer twnnel y sianel. Peiriannydd gwych. Dyn busnes gwael.
34
presennol Mae Prifysgol Glyndwˆr yn cynorthwyo i ddatgelu dirgelwch y bydysawd trwy ddatblygu drychau ar gyfer telesgop mwyaf y byd. Agorwyd fferm ynni solar gwerth £2.5 miliwn ger Rhosllannerchrugog yn 2015. Yn cynnwys 8,800 o baneli solar dros 43 erw, dyma’r fferm solar gyntaf yng Nghymru sy’n cael ei rhedeg gan gyngor. Yn fuan bydd gan Moneypenny o Wrecsam adeilad swyddfa sydd yr un mor arloesol a ‘bïosffer’ yr Amazon. Mae’r cwmni – sy’n darparu gwasanaeth trin galwadau – yn adeiladu pencadlys newydd sbon yma. Bydd y datblygiad gwerth £15 miliwn, sy’n cael ei ddisgrifio fel "10 acres of dreamland", yn cynnwys tyˆ adar, tafarn y pentref, desgiau gyda golygfeydd ysblennydd o gefn gwlad,
llwybrau natur, perllannau a gerddi llysiau. Mae dros 3,000 o dai cyngor yn derbyn paneli solar, gan arbed tua 3,000 tunnell o allyriadau CO2 y flwyddyn a chynorthwyo i atal tlodi tanwydd. Dim ond crafu’r wyneb yw hyn. Mae mwy. Llawer mwy. A beth am y dyfodol? Nid yw wedi’i ysgrifennu eto, ond gyda chwmnïau arloesol fel Moneypenny, Avox, Ipsen Biopharm, Nu Instruments ac eraill, prifysgol sy’n gyfarwydd â’r byd cyfoes a sefydliadau blaengar eraill, gallwch warantu y bydd Wrecsam yn parhau i greu syniadau, cynnyrch a chysyniadau newydd ymhen 20 mlynedd.
35
felly beth yw wrecsam yfory?
llais wrecsam yfory
Gadewch i ni grynhoi.
Byddwn yn croesawu syniadau a iaith marchnata cyfoes i ymgysylltu â’n cynulleidfaoedd. Bydd Wrecsam yn fan blaengar gyda llais blaengar.
Rydym yn sôn am sefydlu’r fwrdeistref sirol fel man creadigol a blaengar trwy gynnwys neges creadigrwydd ym mhopeth a wnawn.
Mae hyn wir yn bwysig. Ein marchnata. Ein digwyddiadau. Popeth sy’n codi proffil y fwrdeistref sirol. Creadigrwydd fydd ein ‘rhywbeth’ ni.
Yn y byd heddiw – lle bo'r byd a’i wraig yn ‘trydar’ – rydym yn boddi mewn swˆ n gwyn. Mae gan bawb lais, ond nid pawb sy’n cael eu clywed. Mae’n rhaid dweud pethau’n wahanol. Sefyll allan. Cael eich cyfrif.
36
egwyddorion arweiniol wrecsam yfory dewrder – hyfdra – arloesi Edrych ar arloeswyr marchnad fyd-eang y sector preifat. Cael ein hysbrydoli gan ddewrder y sector preifat. Nid pwyll y sector cyhoeddus.
helo byd
rhesymeg – gweledigaeth – strategaeth Tanategu arddull gyda sylwedd. Defnyddio methodoleg cyfathrebu modern sy’n darparu allbwn marchnata i gynorthwyo i gyflawni amcanion busnes sefydliadol (e.e. tri canlyniad y strategaeth hon). profi – dysgu – addasu Mae rhai pethau'n gweithio. Nid yw rhai pethau’n gweithio. Y peth pwysig yw gwybod pam. Ac yna newid.
Un peth arall i feddwl amdano... Y peth gorau am sefydlu Wrecsam fel man creadigol yw bod y posibiliadau’n ddiddiwedd. Gan fod creadigrwydd yn nodwedd y gellir ei gymhwyso i bob maes o waith. Diwylliant, busnes, addysg, hamdden. Y cyfan. Gallwn ei gynnwys ym mhopeth a wnawn. Ac ym mhopeth a ddywedwn.
y cwbl sy’n rhaid i ni ei wneud yw bod yn wahanol 37
sut y byddwn yn cyflawni? Rydym wedi cyflwyno ein tri canlyniad. Rydym wedi egluro pam eu bod yn bwysig, beth yr ydym am wneud yn eu cylch a sut yr ydym am fesur llwyddiant. Ac rydym wedi egluro sut y bydd ‘proffil’ – wedi’i atgyfnerthu gan ideoleg Wrecsam Yfory – yn cyfrannu at pob un o’r tri amcan. Nawr, mae damcaniaeth yn wych. Ond sut yr ydym yn mynd i wneud i’r pethau hyn ddigwydd mewn gwirionedd? Wel, mae gennym gyfres o gynlluniau clyfar ar gyfer pob canlyniad. Cynlluniau y byddwn ni – tîm Datblygu Economaidd y cyngor – a'n partneriaid yn gweithio arnynt o ddydd i ddydd i sicrhau ein bod yn cyflawni amcanion y strategaeth hon. Edrychwch ar y diagram. Mae’n rhestru'r cynlluniau sydd ar waith i gefnogi pob canlyniad.
38
sffe Strategaeth Ffyniant Economaidd 2012-16
Canlyniad 1
Canlyniad 2
Canlyniad 3
‘Lle’
‘Busnes’
‘Pobl’
Cynllun Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid (adfywio canol y dref)
Cynllun Rheoli Asedau Strategol
Cynllun Gweithredu Cyfuno Cymunedau’n Gyntaf
Cynllun Cymorth Busnes
Cynllun Datblygu Twristiaeth Safle Treftadaeth y Byd
Cynllun Busnes Oriel Wrecsam Addewid y Cyflogwr
Cynllun Rheoli Cyrchfan Outcome 2
proffil
wrecsam yfory
proffil
Cynllun Digwyddiadau
39
gyda phwy y byddwn yn gweithio? Strategaeth dda. Cynlluniau Gweithredu da. Nid ydym werth llawer os nad ydym yn mynd i’r afael â nhw. Ynghyd ag adlewyrchu ar gynnydd gyda’n partneriaid darparu, byddwn hefyd yn adrodd i Fwrdd Gweithredol y cyngor. Ac i'r Bwrdd Gwasanaethau Lleol, sy’n nodi ‘ffyniant economaidd’ fel un o’i nodweddion allweddol ar gyfer y fwrdeistref sirol (gweler Strategaeth Gymunedol Wrecsam 2009-20). Felly byddwn yn cadw llygad ar ein hunain, ac fe fyddan nhw yn cadw llygad arnom ni hefyd. Byddwn hefyd yn sicrhau bod ein gwaith yn cefnogi ein partneriaid strategol ar Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru. Ac ein partneriaid cenedlaethol yn Llywodraeth Cymru. Fel hyn, gallwn ganolbwyntio a sicrhau bod y strategaeth hon yn gweithio.
40
Llywodraeth Cymru (gan gynnwys Busnes Cymru, Croeso Cymru, Gyrfa Cymru ac ati)
Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru
Bwrdd Gwasanaethau Lleol Wrecsam
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam Coleg Cambria Prifysgol Glyndwˆ r Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam Partneriaeth Rheoli Cyrchfan Fforwm Canol y Dref 41
pe bai bwrdeistref sirol Wrecsam yn berson, sut y byddech chi’n eu disgrifio? Aflonydd Creadigol Heriol Llawn menter Cynnes Manteisiwr Effeithlon Hael Ymroddedig Ysgogol Heriol Caled Penderfynol Ffyddlon Gwydn Medrus Diwylliannol Arloesol Cryf Geirwir Gwahanol Canolbwynt Gonest Gwylaidd Perthnasol Talentog Lliwgar Allblyg Dyrys Cadarn Uchelgeisiol Anarferol Gofalgar Caredig Gofalus Mewnblyg Syml Cryf Cynhyrchiol Cymhleth Meddwl agored Gweledigaethol Diamddiffyn Gyda ffocws Ymholgar Cystadleuol Myfyrgar Clyfar Meddwl rhydd Anhunanol Anodd Anodd Diymhongar Llawen Esblygol Cadarnhaol Hyderus Triw Deallus Agos Amrywiol Cyfeillgar Cynnes Cyfoes Pendant 42 Diffuant Haenog Diwydiannol
Proffesiynol Medrus Dymunol Egnïol Anniwall Chwilfrydig Cyffredinol Cytbwys Dygn Uchelgeisiol Athletaidd Dewr Bywiog Gwrol O flaen ei oes Diddorol Yn peri penbleth Ymroddgar Hapus Gyda’i gilydd
Mae pob bywyd yn werthfawr. Wedi’i adeiladu ar filiynau o brofiadau dros filiynau o smotiau o amser. Mae pwy yr ydym ni eisoes wedi’i ysgrifennu, ond mae pwy y byddwn ni yn dudalen wag sy’n cael ei hysgrifennu gan yr hyn y mae ffawd yn ei roi i ni. Gan mai ein profiadau ni sy’n ein gwneud ni’r hyn yr ydym ni. Yr amgylchedd yr ydym yn byw ynddo, y cyfleoedd a gawn, y llwyddiannau yr ydym yn eu cyflawni. Yn y pen draw, y pethau hyn yw’r morthwylion a’r eigionau sy’n siapio’r person y byddwn ni. Cadwch y syniad hwn mewn cof. Byddwn yn dychwelyd at hyn nes ymlaen.
Ysgrifennwyd a chynhyrchwyd gan Adran Asedau a Datblygu Economaidd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Dyluniwyd gan White Fox Editorial & Design Consultants. Cyfranwyr ffotograffiaeth yn Cynnwys Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Eye Imagery, Sharp Manufacturing, Prifysgol Glyndw ˆ r a Moneypenny. www.twitter.com/wxmsayshello www.issuu.com/wxmsayshello
Er mwyn osgoi torri hawlfraint, peidiwch ag ailgynhyrchu unrhyw ddelwedd yn y ddogfen hon heb drafod â ni yn gyntaf.
ein busnes yw
creu
bwrdeistref sirol Wrecsam
strategaeth ffyniant economaidd
i gael rhagor o wybodaeth: 01978 292010 economicdevelopment@wrexham.gov.uk www.issuu.com/wxmsayshello
www.twitter.com/wxmsayshello
2012-17