Dyfrbont Pontcysyllte a'r Gamlas

Page 1

Dy arweiniad bach i’r Safle Treftadaeth Byd. Hwylus a hawdd.

Dyfrbont Pontcysyllte a’r Gamlas

www.pontcysyllte-aqueduct.co.uk

11 millt ir dreftad o aeth byd


Portread wedi ei engrafu o Thomas Telford a gyhoeddwyd ar glawr blaen yr ‘Atlas to the Life of Thomas Telford - Civil Engineer’ ym 1838. Wedi ei engrafu gan W. Raddon oddi ar baentiad gan S. Lane.

beth fyddai’r dyn yn ei ddweud “Ym mhob agwedd ar fywyd, mae’r un peth yn wir: dim ond trwy weithio gyda’n gilydd y byddwn ni’n cyflawni pethau mawr. “Maen nhw’n dweud weithiau fy mod i wedi adeiladu Dyfrbont Pontcysyllte. Dydy hyn ddim yn wir. Wnes i ddim ei wneud ar fy mhen fy hun, beth bynnag. Mi ges i gymorth. “Wnaeth pawb a chwaraeodd ran – pob crefftwr, gweithiwr a cheffyl – adael ei farc ar y byd. “Oherwydd ei bod hi’n dal yno heddiw. Yn dal i adrodd ei hanes wrth y cannoedd o filoedd o bobl sy’n ymweld bob blwyddyn. Yn union yr un fath â’i chwaer hyˆn, Dyfrbont y Waun, Rhaeadr y Bedol ac adeileddau eraill cysylltiedig â’r gamlas gwnaethon ni eu codi. “Wnaethon ni eu codi fesul darn, gyda dewrder, cred a gweledigaeth. “Ac er bod yr hil ddynol wedi cyflawni pethau gwych ers fy nghyfnod i – wedi hollti’r atom, rhoi dyn ar y lleuad, darganfod penisilin – mae Pontcysyllte yn dal i gyffroi pobl, eu llonni a’u hysbrydoli. “Roeddwn i’n falch ohoni ym1805. A phe bawn i yma efo chi heddiw, mi faswn i’n dal yn falch. “Pan gei di brofiad ohoni, dwi’n gobeithio y byddi di’n teimlo felly hefyd.” Thomas Telford Peiriannydd Sifil 1757-1834

www.pontcysyllte-aqueduct.co.uk


naws athrylith Pan orffennodd Thomas Telford Ddyfrbont Pontcysyllte ym 1805, hon oedd y groesfan uchaf yn y byd ar gyfer badau camlas.

yn ddyn â gwir weledigaeth.

Mae hi’n dal yno heddiw, yn dal i fynd â theithwyr ar fadau’r gamlas ar daith eu bywydau. Ond erbyn hyn mae ar fap y byd.

Roedd yn byw mewn oes wahanol, ond roedd ymysg y mawrion, fel Steve Jobs, sefydlydd Apple a Bill Gates, sefydlydd Microsoft neu unrhyw un arall arloesol a chyfoes ei feddwl. Roedd yn ddyn o flaen ei amser.

Yn 2009 gwnaeth UNESCO y campwaith hwn o beirianneg sifil yn Safle Treftadaeth Byd – gydag 11 milltir o gamlas yn cynnwys Dyfrbont Y Waun a Rhaeadr y Bedol ger Llangollen.

Nid gormod o gwbl yw dweud bod y dulliau a’r syniadau a ddatblygwyd ym Mhontcysyllte wedi helpu i lunio’r byd trwy eu heffaith ar beirianneg.

Erbyn hyn mae’n swyddogol yn un o’r safleoedd treftadaeth mwyaf yn y byd, cystal â lleoedd fel y Pyramidiau, y Taj Mahal a’r Acropolis. Pan fyddi di’n ei gweld, byddi’n gweld rhywbeth â naws athrylith arno, oherwydd bod Telford

Ond yr hyn sy’n wir syfrdanol yw’r modd y mae’r adeiledd yn dal i gipio dychymyg pobl, mwy na 200 o flynyddoedd wedi ei adeiladu. Mae’n dal i hudo pobl.


“Edrycha ond paid â chyffwrdd.” Mae rhai safleoedd treftadaeth yn rhy fregus i’w trin. Nid felly yma. Roedd adeileddau Telford – fel y dyn ei hun – yn gryf a gwydn. Felly does dim rhaid i ti fodloni ar sefyll yn ôl ac edmygu’r Safle Treftadaeth Byd o bell (er bod hynny ynddo’i hun yn ddigon o ysbrydoliaeth). Cei brofiad ohono mewn sawl dull a modd.

Dyma’r pump peth gorau gennym - i gychwyn. 1. croesi’r dyfrbontydd Wyt ti’n ddigon dewr i groesi’r afon yn yr awyr? Fedri di wneud hynny heb edrych i lawr? Cei gerdded ar draws Pontcysyllte, neu orffwys dy goesau a chroesi’n hamddenol mewn cwch. Ond mae arnat ti angen un peth i fynd efo ti. Camera. Welaist ti erioed y fath olygfeydd. Mae Dyfrbont Y Waun ychydig yn unig o filltiroedd i lawr yr afon. A byddet ti’n medru dadlau fod y golygfeydd yn well fyth. Mi fedri di bician ar draws ffin Cymru i mewn i Loegr. Ac os bydd hynny’n codi chwant bwyd arnat ti, dos yn dy flaen heibio i’r bythynnod del ar lan y gamlas i dafarn y Poachers Pocket. Neu Dafarn y Bont neu’r Bridge Inn. Mae bwyd da a chwrw go iawn y dy aros di yno.

2. am dro drwy’r twneli Os bydd cerdded ar draws y dyfrbontydd yn gwneud i dy galon di guro, aros nes byddi di wedi mentro i mewn i’r ‘Fagddu’. Ychydig lathenni i mewn i’r twnnel mi fyddi di’n deall yn iawn sut y cafodd ei enw. Mae’n dywyll go iawn, yn hir go iawn ac unwaith y byddi di hanner ffordd – does dim troi’n ôl. Mi fedri di gerdded trwodd heb dortsh. Mae’n gryn dipyn o antur. Ond efallai bod tortsh yn syniad da.

3. cerdded y llwybrau tynnu Dydy’r 11 milltir o Safle Treftadaeth. Byd ddim yn draffontydd dwˆr a thwneli i gyd. Mae cerdded ar hyd gweddill y llwybrau tynnu yn ffordd ddifyr o dreulio ychydig oriau. Cefn gwlad sy’n ferw o fywyd gwyllt, ond dim llawer o bobl, mewn geiriau eraill heddwch a llonydd. Amser da i feddwl os byddi di ar dy ben dy hun, amser i roi’r byd yn ei le os byddi di efo rhywun arbennig.


tyrd i gael y profiad Mae lleoedd i fwyta ar hyd y ffordd, fel y dafarn efo’r enw eithaf addas Aqueduct yn Froncysyllte. Hefyd tafarn y Thomas Telford (enw addas arall) ym masn Trefor. Neu dafarn y Sun Trevor, sy’n cynnig lle da i orffwys ac ymadfer rhwng Pontcysyllte a Llangollen. A’r gorau i gyd? Dim elltydd. Doedd hyd yn oed Telford yn medru gwneud i ddwˆr lifo i fyny, felly mae llwybrau tynnu’r gamlas yn wastad braf. Ond wedyn, os wyt ti’n gerddwr o ddifrif, mae digonedd o lwybrau diddorol iawn heb fod yn bell o’r llwybrau tynnu, yn cynnwys Llwybr Dyffryn Ceiriog (sy’n odidog) a’r enwog Glawdd Offa.

4. ar hyd y gamlas efo Togg Mae pobl wedi bod yn mwynhau cael eu tynnu mewn cychod o gei’r gamlas yn Llangollen ers 100 mlynedd a mwy. Yn wir, mae Togg, Geordie a’r ceffylau eraill yn dipyn o enwogion y dyddiau hyn ac maen nhw’n ddiolchgar am foronen neu ddwy am eu trafferth.

Mae teithiau 45 munud ar hyd y gamlas a theithiau dwy awr yr holl ffordd i Raeadr y Bedol rhai dyddiau yn y tymor prysur. Mae sawl dull a modd hamddenol o gael profiad o’r safle treftadaeth byd, ond mae tipyn o waith curo ar gael dy dynnu mewn cwch gan geffyl. Gwibio’n dawel ar wyneb y dwˆr, hwyaid a’u cywion yn mynd lincyn loncyn efo’r lan, a gwallgofrwydd y byd mawr tu allan yn ymdoddi yn y niwl.

5. gweld y bedol Yn Rhaeadr y Bedol mae’r cwbl yn dechrau, y lle mae’r gamlas yn codi ei dwˆ r o’r afon. Cored o waith dyn yw hi yn y bôn – ar ffurf pedol. Ac fel cymaint o’r hyn y gwnaeth Telford ei greu, mae fel petai’n cyfoethogi’r dirwedd o’i hamgylch. Enghraifft o’r hyn a gynlluniodd dyn yn cyd-fynd â natur. Pa mor aml fyddi di’n gweld hynny?

www.pontcysyllte-aqueduct.co.uk


pan fyddi di wedi gorffen Paid ag anghofio dy gamera. Neu’n well fyth, cipia lun ar dy ffôn a’i rannu efo dy ffrindiau trwy Flickr, Gweplyfr, Instagram neu ryw gyfrwng cymdeithasol arall. Gad iddyn nhw weld beth maen nhw’n ei fethu. Wedyn mentra i weddill y Safle Treftadaeth Byd a thu hwnt. Lloga gwch neu ddarganfod atyniadau fel Rheilffordd Ager Llangollen, Parc Gwledig Tyˆ Mawr a Chastell y Waun, pob un yn agos iawn. Teithia’n bellach, i mewn i Wrecsam, Sir Ddinbych a Sir Amwythig a darganfod perlau fel eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Erddig, Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd neu Ellesmere, y dref farchnad ar lan y llyn.

Cei weld popeth sydd ei angen arnat ti ar www.pontcysyllte-aqueduct.co.uk Os oes gen ti ffôn call, sgania’r cod QR. Neu os wyt ti’n ‘aderyn sy’n trydar’ dos i weld ein tudalennau Gweplyfr a’n gwybodaeth ar Drydar. Ac os wyt ti’n hoff o sgwrsio, rydym ninnau hefyd. Coda’r ffôn a ffonia un o’n Canolfannau Croeso cyfagos:

Canolfan Croeso Wrecsam 01978 292015

Canolfan Croeso Croesoswallt Mile End 01691 662488

Canolfan Croeso Llangollen 01978 860828

credydau Wedi ei ysgrifennu a’i gynhyrchu gan Asedau a Datblygu Economaidd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, ar ran partneriaeth Safle Treftadaeth Byd Dyfrbont Pontcysyllte a’r Gamlas. Wedi ei ddylunio gan White Fox 01352 840898 www.whitefox-design.co.uk Ymysg y rhai a gyfrannodd ffotograffiaeth mae Eye Imagery, Hawlfraint y Goron (2012) Croeso Cymru a Sefydliad y Peirianwyr Sifil. Darlunio gan Prodo Digital. Ar gael ar ffurfiau eraill ac yn Saesneg. Er bod pob ymdrech wedi ei gwneud i sicrhau bod y cyhoeddiad hwn yn gywir, nid yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a’u partneriaid yn gallu derbyn unrhyw gyfrifoldeb o gwbl am unrhyw wallau, pethau anghywir neu omeddiadau, neu am unrhyw fater sy’n ymwneud unrhyw fodd â neu sy’n deillio o’r cyhoeddiad neu’r wybodaeth sydd ynddo.

www.pontcysyllte-aqueduct.co.uk

sganiwch fi


facebook.com/pontcysyllte twitter.com/pontcysyllte


sut mae mynd i’r safle ac o’i gwmpas Rhaeadr y Bedol

LLANGOLLEN

Cam

las L

lang

Yr Afo Dyfrd n wy

ollen

Basn Trefor

CEFN MAWR Pontcysyllte

DYF FRYN LL

ANG

OLL

EN

FRONCYSYLLTE Twnnel yr Eglwyswen

Parth Treftadaeth Safle Treftadaeth 11 milltir Yr Afon Dyfrdwy

Twnnel Y Waun

Y WAUN

Scale/Graddfa 1:35000.

Dyna ni wedi codi awydd arnat ti. Mi fyddi di am wybod sut mae mynd yno rw ˆ an. Mae’r safle ar ffin Gogledd Cymru a Lloegr ac mae’n ymestyn tros dair sir – Sir Ddinbych, Wrecsam a Sir Amwythig. Rwyt ti’n gallu mynd yno yn dy gar (ar hyd yr M53 neu’r M56 o Ogledd Orllewin Lloegr, a’r M54 o Ganol Lloegr). Ar y trên (Dydy gorsaf Y Waun yn ddim ond naid llyffant o’r safle, a Rhiwabon dim ond rhyw ddwy neu dair milltir, efo bysys rheolaidd).

Dyma gysylltiadau defnyddiol: Trenau Arriva Cymru (Caer - Wrecsam Amwythig) 08456 061660 www.arrivatrainswales.co.uk Lein y Gororau / Borderlands Line (Wrecsam i Lerpwl - trwy Bidston) www.borderlandsline.com Virgin Trains (Wrecsam i Lundain-Euston) www.virgintrains.co.uk Traveline Cymru 0871 200 2233 www.traveline-cymru.org.uk Llinell Bysiau Wrecsam 01978 266166 www.wrexham.gov.uk

MO RI

NIO MUN D L IA

PA T

Neu ar y bws.

Dyfrbont Y Waun

E

AG

I

N

R

www.pontcysyllte-aqueduct.co.uk

MO

E WORLD H

NDIAL

IT

United Nations Cultural Organization

E

PATRIM

O

Pontcysyllte Aqueduct and Canal inscribed on the World Heritage List in 2009


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.