AM DDIM! RHIFYN 5 . RHAGFYR . 2005
“Da ni ddim am chwarae Caerdydd eto, mae’n ormod o hasl” -
TU MEWN
GWYNETH GLYN . Y DIWYGIAD . EDWARD H A LLAWER MWY !
tôn i’ch ffôn
Tecstiwch SAIN1 gyda’r rhif sy’n cyfateb i’r gân o’ch dewis at 84700 i dderbyn un o’r tonau isod i’ch ffôn! Artist Mim Twm Llai
Cân Gwe pry cop Tom
Real/Poly 710310
Mono 110310
Sibrydion
Dafad ddu
710311
110311
Anweledig
Tikki Tikki Tembo
710307
110307
Sobin a’r Smaeliaid
Ar y tren i Afonwen
710308
110308
Meic Stevens
Y Brawd Hwdini
710304
110304
Elin Fflur
Llwybr lawr i’r dyffryn
710309
110309
Côr Cwm Rhydychwadods
Joio byw
710306
110306
710303
110303
710302
110302
Bryn Terfel & Rhys Meirion Bread of heaven a la queen Yma o hyd Dafydd Iwan & Ar Log Cofiwch roi bwlch rhwng y SAIN1 a’r rhif cyfatebol
Daw’r caneuon hyn o recordiadau gwreiddiol yr artist a nodir, gyda chaniatâd Cyhoeddiadau Sain a Rasal miwsig. Pob archeb neges destun yn £3, nid yw hyn yn cynnwys cost lawr lwytho arferol eich rhwydwaith ffôn. Gwasanaethir y cynllun yma gan Mobiletones, 131-151 Great Titchfield Street, W1W 5BB. Wrth ddefnyddio’r gwasanaeth uchod rydych yn caniatáu i Mobiletones a chwmnïau dethol eraill i gysylltu â chi drwy neges destun. Rhif cyswllt am gymorth 0870 444 7110
ˆ yr Lleuwen Steffan Duw a W
£12.98 - RASALCD013
£11.99 - SAIN SCD2507
Albym sy’n gymysgedd o arddulliau cerddorol o’r dylanwad affrobit i latin, ffync a jazz, sw ˆ n sy’n sicr o hoelio sylw’r gwrandäwr. Dyma gynnig deinamig a chofiadwy gan un o fandiau gorau’r sin Gymraeg.
OBSERVER MUSIC MONTHLY 4 seren allan o 5 “…strangely beautiful album…” TIME OUT **** - “…an exquisite little gem… the real star is Lleuwen Steffan, whose bleak, folksy voice suggests an ECM-reared Sinead O’Connor.”
heb anghofio…
Drymbago Dyddiau Da
•
Goreuon Sobin a’r Smaeliaid Mim Twm Llai Straeon y Cymdogion Sibrydion JigCal Daniel Lloyd a Mr Pinc Goleuadau Llundain bocs set Y Cyrff bocs set Edward H Dafis
• •
www.sainwales.com ffôn 01286 831.111 ffacs 01286 831.497 archeb@sainwales.com
LLun CLAWR: DRymbAGO FFOTOGRAFyDD: niCk mARCROFT
GoLYGYDDoL ho ho ho ! A chroeso i rhifyn ola’r flwyddyn o y Selar. mae 2005 wedi mynd yn gynt na phlât o fins peis o dan drwyn Gari Slaymaker, ond peidwich a poeni’n ormodol achos fyddwn ni nôl gyda rhifyn dwbwl arbennig i chi yn gynnar yn y flwyddyn newydd. mae’r flwyddyn hon wedi yn bod yn llawn bwrlwm SRG-aidd a gwelwyd llwythi o CD’s yn cael ei rhyddhau, bandiau newydd megis y Derwyddon yn ffurfio ac ambell fand ifanc arall fel Poppies a Radio Luxembourg yn blaguro. Ond cyn i’r meddwl grwydro’n bellach na iolo Williams ar steroids, steddwch lawr, tynnwch y botel sherry na mas, a darllennwch y gampwaith ddiweddaraf i ddod o’r selar. yn y rhifyn yma fe gewch chi gyfweliad ecsgliwsif gyda’r ffyncwyr o Fangor Drymbago wrth iddyn nhw drafod ei halbym newydd ‘Dyddiau Da’. Cyfweliad gyda Gwyneth Glyn, adolygiadau o’r CD’s diweddaraf, colofn rap Jon-Z yn trin a thrafod hip-hop Cymraeg gyda’r band newydd y Diwygiad, ac fe fyddwch chi’n falch o glywed bod Llyfu Tin yn ei ôl unwaith eto. Fyswn i wrth fy modd yn aros fan hyn yn traethu drwy’r dydd ond mae’r JCb sy’n delifro’r twrci newydd gyrraedd felly... dyna ni am 2005. mwynhewch y Dolig, ond yn bwysicach fyth, mwynhewch y rhifyn.
PWˆ ER ANHYGoEL RHWNG CoEsAU LUkE! - TUD 8
DoLIG LLAWEN A PIsHYN DEG YN EICH PWDIN CHI ! Y GoLYGYDD
CYfRINACH LLWYDDIANT GWYNETH GLYN - TUD 4
MAE’R DIWYGIAD AR EI ffoRDD ! - TUD 5
GoLYGYDD Owain morgan-Jones
Is-oLYGYDD Llinos Wyn
DYLUNYDD Elgan Griffiths
CYfRANWYR Owain Llyr, Lynsey Anne, hefin Jones, Shon Williams, Angharad Griffiths, Gareth Glochben, Saizmundo, Owain Schiavone, Leusa Fflur Os am anfon demo, llythyr, neu unrhyw beth arall, y cyfeiriad yw: y Selar, Llawr un, Canolfan Sain, Llandwrog, Caernarfon, Gwynedd LL54 5TG neu e-bostiwch golygydd@yselar.com neu ewch i’n gwefan www.yselar.com
... AC AR DUDALENNAU GoDIDoG ERAILL Y sELAR... 7 EDWARD H 30 o flynyddoedd yn ddiweddarach, pa ganeuon sydd dal i blesio’r band ?
12-13 ADOLYGIADAU CD Pa CD’s diweddar sy’n plesio ond yn bwysicach, pa rai i’w hosgoi?
11 LLYFU TIN Cyfle i Lyfu Tin unrhyw fand sy’n haeddu clod ... tro yma: Tynal Tywyll
14 GIGS GORAU 2005 Pa gigs blesiodd ein hadolygwyr craff?
Cynhyrchwyd gan gwmni RASAL Cyf, ariannwyd gan grant gan y Cyngor Llyfrau Cenedlaethol. Argraffwyd gan Wasg Dwyfor. RhybuDD - Defnyddir iaith gref mewn mannau, a iaith anweddus mewn mannau eraill yn y SELAR.
y SELAR 3
CYFWELIAD
Geiriau godidog
Gwyneth Glyn yn hAnu O LAnARmOn, EiFiOnyDD, â ChEFnDiR mEWn AThROniAETh A DiWinyDDiAETh, mAE GWynETh yn GAnTORES GyFAnSODDWR, AWDuRES A DRAmODyDD iFAnC. yn CymySGu ELFEnnAu CAnu GWLAD A GWERin mAE Ei hALbym GynTAF WynEb DROS DRO yn CyFLWynO CAnEuOn CAnu GWLAD PRyDFERTh SymL A ThEimLADWy. ystyrir Gwyneth Glyn fel un o artistiaid mwyaf arwyddocaol a chyson y sîn ar hyn o bryd. Gyda’i dehongliadau unigryw o ganeuon mae'n creu cynfas amrywiol a swynol sy’n hudo carwyr cerddoriaeth. mae adlais ei chaneuon meddal a chysurus yn aros yn y cof am oriau.
hytrach yn bethau i’w datblygu – wrth berfformio gyda band neu offerynnau gwahanol. Oes yna gefndir i’r teitl ac eithrio bod yn enw ar un o’r traciau? Wel, roeddwn i’n gyrru ac mi welais i arwydd gwaith ffordd “Temporary Road Surface / Wyneb Dros Dro” , a sylwi bod 'na fwy nag un ystyr i'r ffurf Gymraeg. Rydan ni’n byw mewn oes arwynebol lle mae pob dim yn ‘disposable’, ac mae’r albym yn atseinio fy hiraeth am bethau mwy sefydlog ac oes ddiogel fy mhlentyndod. hefyd, oeddwn i'n meddwl ella y bysa cael enw'r albwm wedi ei blastro ar hyd a lled lonydd y wlad yn hybu gwerthiant!
mae nifer o’i chaneuon yn deillio o brofiadau personol fel y clywn ar ‘Cofia fi at ‘, sy’n gân hiraethus am ei phlentyndod yn Eifionydd. Emosiwn sy’n ysgogi Gwyneth i gyfansoddi ac mae’r caneuon yn fynegiant o'r teimlad hwnnw. ydi cyfansoddi yn broses naturiol i ti? ydy, yn yr ystyr ei fod o’n dod o rywle a does gennai ddim syniad o ble, na sut dw i’n ei wneud o – mae o jyst yn digwydd. Weithiau mae’n rhaid i mi eistedd i lawr a chyfansoddi i ddarganfod sut dwi’n teimlo; dydw i ddim yn ffeindio allan tan i’r gân ddatblygu. mae’n broses therapiwtig a dwi’n tynnu lot ar fy isymwybod. Weithiau dwi’n gwrando’n ôl ar drac ac yn sylwi “...ah, dyna roeddwn i’n feddwl ac yn teimlo wrth gyfansoddi hon” , mae o fel psychoanalysis weithiau.
mae rhai yn dy farnu di am fod yn rhy ‘neis’ yn dy ganeuon, sut wyt ti’n teimlo am hyn? mae rhai yn dweud mai Angeline ydy'r gân fwyaf ‘bitchlyd’ erioed yn yr iaith Gymraeg! mae tipyn o chwerwedd ar yr albwm. mae’r gân honno, er enghraifft, yn dilorni genod ifanc sydd eisiau bod yn gantorion gwlad – genod fatha fi. mae'r gân ‘Llun yn y Papur’ hefyd yn feirniadaeth ar wleidyddion a'r peiriant rhyfel. Rydw i’n credu fy mod i’n ysgrifennu mewn ffordd reit gynnil ac efallai bod rhai pobl ddim yn pigo fyny ar y ddraenen gudd yn eu hystlys!
mae’r ysbrydoliaeth yn dod o’m plentyndod ac oddi wrth ganu gwerin a chanu gwlad dros y blynyddoedd, mae hefyd yn dod oddi wrth ganeuon traddodiadol a chantoriongyfansoddwyr gorllewinol.
Wyt ti’n hapus gyda dy albym gyntaf, Wyneb Dros Dro? ydw, pan dwi’n gwrnado arno hi rwan, dwi’n gallu clywed fy hun yn dal yn ôl ar brydiau – mae hynny’n beth braf; gallu dysgu o'r profiad. Dwi wedi cael ymateb cadarnhaol a beirniadaeth adeiladol gan gerddorion dwi’n parchu; mae hyn yn ddefnyddiol a dwi’n llai ofnus rwan. Dydw i ddim yn meddwl am ganeuon fel pethau gorffenedig ond yn 4 y SELAR
Rhestr Nadolig Gwyneth Glyn Cnau, Oren a ukelele
LLUN: oWAIN LLYR
Wyt ti wastad wedi bod yn gerddorol? O ble mae’r ddawn yn dod? mae mam yn tone-deaf! Ond mae Dad wastad wedi chwarae cerddoriaeth yn y tˆy. hen gitâr Dad wnes i ddefnyddio gyntaf i chwarae caneuon y beatles a bob Dylan. yn ôl mam, wnes i gychwyn cyfansoddi pan o’n i’n ddwy flwydd oed wrth arall-eirio’r hen hwiangerdd ‘Pori mae yr asyn’ – meddyliodd mam bryd hynny fy mod i’n blentyn weird!
mae tipyn yn gweld ti fel rhan o’r don newydd o gantorion gyfansoddwyr Cymraeg gydag Alun Tan Lan, Fflur Dafydd a Gwilym morus – wyt ti’n hapus i fod yn rhan o’r genre yma neu wyt ti’n gweld dy hun yn wahanol? mae o’n gallu bod yn fendith neu’n felltith cael dy roi mewn genre. mae’n golygu ein bod ni’n cael mwy o sylw a chydnabyddiaeth sy’n golygu mwy o alw amdanom ni. Ond mae’r pedwar ohonom ni yn gwybod ein bod ni’n wahanol i’n gilydd. Lle wyt ti’n gweld dy hun mewn pum mlynedd? nashville, efo banjo, barf a bol cwrw mawr! Oes albwm arall ar y gweill? mae’r caneuon dal i ddod a dwi’n credu ei bod hi’n bwysig i beidio brysio. Dwi’n mwynhau sefyll yn ôl ar hyn o bryd a dysgu o’r albym gyntaf a chario mlaen i gigio. GEiRiAu LynSEy AnnE
COLOFN RAP JON?Z
yO yO yO ! A hO hO hO ! CROSEO i GOLOFn RAP JOn-Z unWAiTh ETO’R FFERnOLS. hOFFWn ESTyn CROSEO i’R SEiZAR A’i GOLOFn, O un RAPiWR i’R LLALL. iSOD DARLLEnWCh Am yR hOGiA nEWyDD AR y bLOC, y DiWyGiAD. REiT, mA RhAiD i Fi FynD, mAE GEnnAi FELT O uChELWyDD A DWi Am FynD ROWnD DRE i ROi LLOnD CEG i WbETh ! DOLiG LLAWEn LATS ...mAE’n mynD i FOD i Fi !!
DIWYGIAD ^ ae 'na sw n yn dod o’r Cymoedd gyda rhyw gyffyrddiad o acen ynys môn yn ei grombil. y Diwygiad sy’n gyfrifol ^ am y sw n yma, ac Ed holden neu mr Phormula sydd biau’r acen Sir Fôn. Aneirin ‘9Ton’karadog yw’r crwtyn o’r cymoedd sydd wedi troi ei law at rapio ar ôl bod i’r brifysgol yn Rhydychen. mae’r ddau wedi bod yn gweithio gyda’i gilydd ers ffurfio Syn-D-CuT ddechrau 2005 ond ar ôl i’r prosiect yna ddiwryn i ben mae’r ddau wedi dod at ei gilydd i gynhyrchu mwy. “Da ni’n rhoi’r effort mewn i neud o fatha ‘real hip-hop’yn ein steil ni’n hunain efo lot o stwff Reggae a Dance hall” meddai Ed, ond dydyn nhw ddim yn bwriadu rhyddhau fersiwn Gymraeg o Sean Paul ar glustiau’r genedl. “Ffyc, nadyn, dim stwff fel’na o gwbl, da ni’n iwso ‘evil baselines a fat chunky beats.” yr hyn sydd yn gwneud y Diwygiad yn wahanol i’r holl artistiaid eraill yw’r gallu i rapio mewn 5 iaith yn hytrach na’r ddwy arferol sydd gan bob person gwerth ei halen. mae 9Ton yn gallu siarad pump iaith ac maent i gyd yn mynd i ymddangos ar ddeunydd y Diwygiad. Gwelwyd ei allu geiriol wrth iddo rapio yn Sbaeneg gyda Sleifar a’r Teulu yng nghlwb y Toucan ym mis mai. mae gan aelodau’r Diwygiad hoffder amlwg am symudiadau megis y T-bag Lunge sydd yn rhan annatod o’r act. “ni di bod yn ymarfer yn ein amser sbar” meddai 9ton tra bod Ed yn ategu ...
m
9ToN “mae’r T-bag Lunge yn symbol o’r Diwygiad, ac mae nhw’n rhan fawr o’r sioe fyw.” mae sôn am gydweithio gyda Sleifar ar un cân a Llwybr Llaethog ar un arall, fel y mae mr Phormula wedi ei wneud eisoes, ond y cynllun ar y funud yw ysgrifennu mwy o ganeuon 9Ton - Dillad cwl fel Ed. fel bod y deunydd yno pan mr Phormula - mixing maent yn dechrau gigio. desk Roland newydd mi fydd e.p. gan y Diwygiad yn ogystal â stwff unigol mr Phormula yn ymddangos ar label Skipping beat ym mis Chwefror ond efallai y byddai’n well aros am albym rap Gwyneth Glyn ar ôl iddi drechu Ed yng ngornest beirdd v Rapwyr Llanast Llanrwst. “ gofyn iddi de … nai gynhyrchu fo!” nawr te, na chi syniad!
Rhestr Nadolig Y Diwygiad
MR PHoRMULA
y SAIZ sy ’n bwysig mae pawb ryw bryd wedi breuddwydio bod yn unben, a phetawn i yn unben, beth fyddwn i yn ei wahardd a'i glodfori yn yr SRG ? Roedd mao wedi ceisio dileu adar a Pol Pot wedi ystyried dileu pobl gyda sbectols ond byddwn i ddim mor eithafol a hynny. Wrth gwrs, byddwn i yn troi Radio Cymru yn radio'r wladwriaeth i ddechrau, a’r hyn fyddai'n cael y ban gynta fyddai 'Tri mis a diwrnod' gan y band emosiynol dros ben - Vanta. mae angen i'r canwr beidio swnio fel bod o'n cael ei arteithio wrth ganu. yn ail, unrhyw ganeuon Daniel Lloyd a mr Pinc yn enwedig Eldon Terrace, y nhw mae'n debyg yw gobaith mawr y ganrif i darlings Radio Cymru er mwyn diddanu stiwdants bangor ar ôl i bryn Fon farw o henaint. hoffwn fel unben gyhoeddi fy mod am wobrwyo grant swmpus gan y Cyngor Celfyddydau i iwcs i fynd ar daith hyrwyddo pum mlynedd o amgylch Tseina o'i albym newydd Cynnal Fflam. byddai'n sicr yn gwerthu miliynau ar filiynau o gopiau. yn sicr byddwn yn deddfwriaethu i sicrhau fod pob cryno ddisg yn cael ei hyrwyddo'n iawn ac yn cyrraedd bob siop a dwi'n deud bOb siop Gymraeg yn y famwlad. byddwn yn dyrchafu meic Stevens yn Lywydd Oes y Famwlad, er mwyn iddo gael teyrnasu yn dragwyddol, a Gruff Rhys yn uwch gennad rhyngwladol Gweriniaeth y bobl. Ed holden yn rapiwr byrfyfr y
llys a Gruff meredith yn Arch swyddog porn, strip clubs a phethe tebyg. byddai Rhys mwyn yn gyfrifol am greu geiriadur jargon 2000 o dudalennau y Wladwriaeth yn cynnwys geiriau fel 'kids' a 'bands', er mwyn ei gadw'n brysur rhag poeni ei hun ormod am ffaeleddau S4C, Radio Cymru a bwrdd yr iaith. byddwn yn penodi Johnny R yn bennaeth yr heddlu Cudd wrth gwrs. byddai Dave R Edwards o Datblygu yn cael ei wobrwyo yn brifardd anrhydeddus y llys. hefyd o ran mân boenau personol, byddwn yn gwahardd pobl sy'n mynd i gigs penodol er mwyn cael eu gweld - 'pa gig fwya cwl ddylwn i fynd heno ma i fi edrych yn dda?' neu'r rhai sy'n anwybyddu chi fel arfer, ond ar ôl perfformiad ar y llwyfan, maent yn eich cofleidio fel petaent heb eich gweld ers deng mlynedd. Ac i orffen, byddwn i yn penodi swyddog safonau cerddoriaeth, o bosib, hwnnw fydd Dylan 'Teiars' meirion o borthmadog i rwystro unrhyw Tom, Dic neu harri fedru recordio a rhyddhau stwff, mae hynny yn cau'r drws yn anffodus ar Tonig, Tara bethan ac unrhyw ganu gwlad tebyg sydd o gwmpas, ond felna mae'r cwci yn briwsioni arnai ofn. Ond i chi sy'n fy ngalw yn 'Satan' ag isio fy llabyddio am fentro dweud y fath sylwadau, peidied a phoeni, nid yw'n debygol o ddigwydd, ag i chi sy'n cytuno, fedrwn i ond breuddwydio!
y SELAR 5
UCHAFBWYTIAU!
LLUNIAU: LLIoN GERALLT
Cwmni newydd Alltud Ddiwedd Tachwedd lansiwyd cwmni ALLtud yn Llundain i hyrwyddo cerddoriaeth ac artistiaid o Gymru y tu allan i Gymru. Esyllt Dafydd sydd wedi sefydlu’r cwmni newydd ac mae’n cael ei rhedeg ar y cy^ d gyda Lois Dafydd sy’n trfenu gigs dan yr enw Taflu yng nghaerdydd. Cafwyd gig yn Theatr The Water Rats, Llundain [yr un lle a gig Llundain cyntaf Oasis] gyda The heights, kentucky AFC a Winabego yn chwarae i ddathlu lawnsio’r cwmni. Cysylltwch â Esyllt ar esylltd@btinternet.com am fwy o fanylion.
fRIzbEE
Mawredd Mawr, mae’n drewi ! Dyma’r tro cyntaf i seremoni ‘Cant uchaf Cymru,Radio Cymru’ gael ei chynnal yng nghlwb nos Amser/Time ym mangor ar ôl iddi symud o’i chartref blaenorol yn yr hyfryd, chwaethus Octagon ym mangor. Peth arall newydd eleni oedd, am y tro cyntaf erioed doedd bryn Fôn ddim yn llenwi bob safle hyd at Rhif 83. yn ogystal â Frizbee yn cipio’r rhif 1 a 3, gan danlinellu eu statws fel band mwyaf poblogaidd Cymru ar hyn o bryd, gwelwyd ambell i gan annisgwyl yn cyrraedd
uchelfannau’r cant gan gynnwys Sex Sells, y Poppies [rhif 5] a Defaid gan bob [rhif 16]. Er yr holl newidiadau arloesol yma roedd un peth yn sicr wedi aros yr un peth, y drewdod. Roedd e yn bob man, ond gyda 75% o’r gynulleidfa’n ffarmwrs [amcangyfrif bras] a’r gweddill yn stiwdants [a’r rhan fwyaf o JmJ] roedd y peth yn anochel. Am y rhestr llawn o’r cant uchaf ewch i www.bbc.co.uk/cymru/radiocymru/c2 Gareth Glochben
Fisoedd yn unig cyn rhyddhau ei halbym gyntaf mae meic P, basydd Winabego wedi gadael y band. ymddangosodd ar bandit yn ddiweddar gyda’r band, ochr yn ochr a’r dyn fydd yn llenwi ei esgidiau iwan Topper. mi fydd meic dal i’w glywed yn chwarae ac yn canu ar yr albym a fydd yn cael ei rhyddhau ar Rasal yn y flwyddyn newydd.
MEIC P osIAN RHYs
Diwedd y frechdan Daeth diwedd ar y band bechdan Jam yn ddiweddar. Roedd y band ifanc o Wynedd wedi bod gyda’i gilydd ers ffurfio yng ngholeg meirion Dwyfor yn 2002 ac wedi recordio Sesiwn C2. Erbyn hyn mae tri o’r aelodau wedi ffurfio band newydd. mae Osian, iwan a Chris wedi ychwanegu mwy o pync i arddull y band ac wedi mynd am enw lot mwy caled, killionaire, i bwysleisio’r agwedd newydd. mae killionaire ar hyn o bryd yn chwilio am fwy o gigs ac yn edrych am gwmni i rhyddhau eu cynnyrch newydd yn fuan yn y flwyddyn newydd.
GENoD DRooG mae prosiect cerddorol newydd ar droed – Genod Droog. Gydag aelodau talentog a drwg yr SRG, mae’r band yn cynnwys Gethin Evans (kentucky AFC), Dyl mei (Cynhyrchydd o fri/PLP ayb), Carwyn Jones (kim de bills) ac Ed holden (PLP, y Diwygiad ). yn ôl Genod Droog mae eu cerddoriaeth yn gymysgedd o steiliau. Dywedodd Dyl mei, “mae’n lobscows o gerddoriaeth electronig, seicadelia, soul, indi a hip hop.” 6 y SELAR
bwriad y Genod Droog ydy cael hwyl wrth greu cerddoriaeth byw. Dywedodd Gethin Evans, “bydd pob sioe fyw yn brofiad unigryw, gyda phwyslais ar gynnwys y gynulleidfa yn ein set. mae'r band wedi gweld cannoedd o sioeau byw ac yn sylweddoli ei bod hi'n amser i gael band yng nghymru sydd eisiau cael hwyl wrth greu cerddoriaeth wych.” bydd pwyslais y band ar chwarae’n fyw ac
maent wedi denu artistiaid o fri, fel Gwyneth Glyn a Gwilym morus, i fod yn westeion gwadd wrth gigio. Roedd sioe gyntaf y band ym mharti nadolig maes-b yng nghlwb y Rheilffordd, bangor ar Ragfyr 10ed. mi fydd yn werth cadw eich llygaid ar agor am fwy o newyddion gan y Genod Droog yn 2006. Lynsey Anne
EDWARD HEN ! Cyn i AELODAu EDWARD h FFEinDiO’i hunAin mEWn bOCS, AEThOn ni i hOLi’R bAnD A RODDODD yR R yn yR SRG PA GAnEuOn DyLE ni WRAnDO A’i hOSGOi.
CAs GÂN
Hoff GÂN
CLEIf HARPWooD PRIf LEIsYDD
HEfIN ELIs GITAR
CHARLI bRITToN DRYMs
JoHN GRIffITHs GITAR bÂs
DEWI PWs CANU/GITAR
hen: Tôn dda, teimlad reit ffwrdd a hi, tôn melodig, baled dda.
breuddwyd Roc a Rol: Oni’n lico’r syniad o’r boi yn i ‘stafell yn breuddwydio.
Smo fi ishe mynd: nath e droi mas yn dda a pawb yn chware reit dda.
Smo fi ishe mynd : dangos bo ni di aeddfedu fel cerddorion ag odd hi’n wahanol.
y nos a ni a Lisa Pant Ddu: dwy gân really neis a gwahanol.
merch y caffi ar y draffordd: mae e jyst yn uffernol, cnewyllyn rhywbeth yna ond weithodd e ddim!
Pamela: mae’n gan mor naff mae’n anghredadwy, ma ti filler os weles i un erioed!
Lot ohonyn nhw !! Pam yw’r waetha, mae’n ‘mess’ os wrandwch arni hi newch chi weld pam!
Ty haf: sdim byd iddo fe, chant yw e yn fwy na dim.
Pishyn a VC10: fi di clywed Pishyn mor amal mae jyst yn pisso fi off, a ma VC10 yn gan crap !
CYFWELIAD
O’R DiWEDD mAE ALbym hiR-DDiSGWyLiEDiG y FFynCWyR O FAnGOR A’R CyFFiniAu yn bAROD i GAEL Ei RhyDDhAu. AETh y SELAR ATi i hOLi GWiL A LukE O’R bAnD i WELD SuT OEDD y bAnD yn GWEiThiO AC i DRiO FFEinDiO mAS PAm DDiAWL OEDD yR ALbym mOR hWyR ?! GEiRiAu OWAin mORGAn JOnES
ae dau aelod o Drumbago wedi derbyn y gwahoddiad i ddod i swyddfa’r Selar ar gyfer cyfweliad, ac awr a hanner yn hwyrach na’r amser a drefnwyd maen nhw’n ymlwybro mewn i’r swyddfa. mae Luke yn diodde o effeithiau’r noson gynt [noson Reggae yn neuadd hendre mae e’n helpu trefnu] . Gyda can o Lucozade yn un llaw a flapjack yn y llall mae Luke yn plannu ei hun ar y soffa yn flinedig. Cyn i ni ddechrau’r cyfweliad mae Gwilym morus y prif leisydd yn penderfynu fod yn rhaid iddo fe gael flapjack hefyd. Gyda’r fflapjacks yn ddiogel ar y bwrdd, paned o de o flaen Gwilym a Luke ar y Lucozade a tua dwy awr yn hwyrach na’r disgwyl mae’r ffyncwyr o ardal bangor yn barod i ddechrau.
M
Ffurfiwyd Drymbago flynyddoedd yn ôl ar ôl i Luke, Gwil a Pete sy’n chwarae allweddellau ddechrau ‘sgwennu cerddoriaeth gyda’i gilydd. bedyddiwyd y band yn ‘The Gwilym morus Funk Soul Experience’cyn troi’n ‘Jelly Jackson and the Shakes’. Recordiwyd sengl o dan yr enw yna, ond bu newidiadau lu cyn iddynt setlo ar yr enw a’r lein-up terfynnol tua amser ‘dolig llynedd. Chi nath gopio Winabego wrth feddwl am enwau neu ffordd arall rownd ? Gm : Don ni ddim di clywed am Winabego tan nethon ni weld poster yn bangor ucha gyda enw Winabego arno fo, erbyn hynny rodd hi’n rhy hwyr. Erbyn hyn mae Gwil yn canu ac yn bwrw pethau, Luke ar y gitar, Pete ar yr allweddellau, Paul ar y bas, Luke arall ar y dryms, a Pau ar yr offerynnau taro. Ar ôl iddynt ryddhau’r sengl Anian ar label Ciwdod yn gynharach yn y
8 y SELAR
flwyddyn roedd sî bod yna albym yn mynd i ddilyn cyn hir. Roedd perfformiadau byw y band wedi dechrau creu dilyniant ac roedd yr arddull affro-beat oedd yn newydd i’r sîn yn swyno pobol i ddawnsio. y cynllun gwreiddiol oedd rhyddhau’r albym ym mis Chwefror ond doedd y band ddim yn barod yn ôl Gwil. Erbyn mis Gorffennaf roedd y band yn barod, ac aethant mewn i Stiwdio un, Rachub am bythefnos i recordio Dyddiau Da. Treuliwyd pump o’r diwrnodau yn y stiwdio yn cyfansoddi’r caneuon, sy’n broses reit anarferol, ond wrth i’r cyfweliad fynd yn ei flaen mae’n amlwg fod Drymbago yn fand anarferol. Aeth y band i’r stiwdio gyda tair cân sicr, syniadau am ddwy arall tra bo’r bump arall wedi dod o jams a recordiwyd ar y pryd, cymerwyd pum munud gorau’r jams cyn recordio llais Gwil drosto. Pam recordio yn y dull yma ? L : mae’r ochr ‘spontaneous’ yn bwysig, canolbwyntio ar y teimlad. G : da ni di penderfynu o hyn allan na dyna sut da ni isho recordio yn y dyfodol. mynd mewn i’r stiwdio heb unhryw gynlluniau pennodol, troi fynny, chwara, a recordio, y ‘takes’ cynnar di’r rhai gorau bob tro. L : ‘Take’ cynta, fanna mae’r egni mwya ffresh bob tro. mae hwnna’n neud o fwy dynol, achos ma cerddoriaeth fodern i gyd yn ddiflas ac yn undonnog. Gor –gynhyrchu, rhy berffaith, byth camgymeriadau, mae pobol yn poeni gormod am sgiliau technegol yn hytrach na’r teimlad emosiynol, da ni’n trio rhoi elfen bersonol yna i’r hyn da ni’n chwara.” i unrhyw un sydd wedi gweld perfformiadau byw Drymbago mae’n hawdd gweld mai dyma lle mae’r band ar ei gorau, roedd eu perfformiad
yn Sesiwn Fawr Dolgellau yr haf yma yn un o’r uchafbwyntiau ac roedd y band fel petaent yn gweddu yn well i’r awyrgylch yma, felly fyddai’r term ‘ffestifal band’ yn addas i ddisgrifio Drymbago ? G : yn union, dyna’r ‘grand plan’. ma na lot o freuddwydion, sa ni wrth ein bodda yn treulio dau neu dri mis yn teithio Sbaen a Ffrainc yn chwarae llwythi o ffestifals. Da ni ddim isho neud lot o bres, mor bellad a bod ni’n gallu byta ag yfed fysan ni’n hapus. L: Da ni’n fand lle mae ‘audience particpation’ yn effeithio’n fawr ar y gerddoriaeth. Dydi chware i ystafell ‘dead’ ddim yn cael dim effaith o gwbwl. mewn ffestifals chi’n dueddol o gael gwell ‘feedback’, mae pobol yn ymlacio’n fwy ac mae’n nhw’n dueddol o ddawnsio a cael amser da yn gwrando ar y miwsic.
CYFWELIAD
beth sydd ar y clawr? Offeryn taro ydi o, South American Rain Frog, sy’n cael ei ddefnyddio’n draddodiadol i alw’r glaw. Chi’n defnyddio ffon a’i redeg o ar draws y pigau ar ei gefn o a mae’n neud swn riiiibiit ! mi oedd ganddo mohican o’r spikes na ar ei gefn, ond am bo ni di waldio fo ers blynyddoedd da ni di hamro’i ben o’n fflat. hwn ydi aelod hynaf Drymbago.
PRIf LUN: LLIoN GERALLT LLUNIAU YCHWANEGoL: NICk MARCRofT
y SELAR 9
G : Shit hot ! L : mae o yn, mewn parti yn nhˆy pobol Sbaeneg dwy flynedd nôl, rhoddodd hwn master-class mewn dawnsio ... Gm: Oni ‘di meddwi’n uffernol !.... L: ...O’t i’n tipio gin mewn i dy ganie cwrw, wedyn ot ti’n hitio pawb oedd yn y room fach ma gyda dy dîn, a odd y dynion Sbaeneg i gyd yn meddwl bod e’n gay ac yn trio bachu nhw.! mae yna frwydr yn erbyn y cyfryngau ar y go gyda ti Gwil, ti’n ennill ?
beth sy’n neud gig da yn eich barn chi ? G : Dim PA rhy bwerus, a dim gormod o bobol. Os oes rhaid chware i filoedd o bobl ma’n rhaid cael PA mawr, a pan da chi’n cael hwnna, dio ddim yn gweithio i ni L: Pan da ni’n ymarfer, ni’n ymarfer i lefel y dryms, a di’n drymmar ni ddim yn waldio’r dryms, mae’n tapio nhw. Pan da chi’n mynd a’r set-up yna ar lwyfan drwy PA mawr, mae’n rhaid i chi chwarae’n uwch, a chi’n colli’r teimlad. G : Dydi pobol ddim yn meddwl ei bod nhw mewn gig os nad ydi’r ‘bass’ yn bownsio off ei chest nhw. Di pobol ddim yn meddwl bo nhw di cael noson dda tan bo nhw’n hanner byddar ag wedi gorfod sgrechian drwy’r nos i siarad. yn Clwb ifor bach, pan nethon ni chwara fanna, odd y disco ar ôl i ni chwara yn ffycin ‘obscene’. L : mae gormod o bobol sy’n gweithio ym maes PA rhy gyfarwydd efo roc, lle mae’n miwsic ni yn agosach at jazz. Gm : mae bandiau ifanc heddiw yn meddwl bo rhaid cael ffycin stack massive a chwarae drwy rig 2k a byddaru pawb.
G : Di’r sefyllfa dal ddim yn grêt. mae’n rhaid i’r cyfryngau Cymraeg stopio trio plesio pawb, a bai S4C ydi o am golli cynulleidfa anferth dros y ddegwad ddiwethaf, mae Radio Cymru yr un peth i ryw raddau. mae nhw di colli llwythi o bobol sydd wrth eu boddau gyda miwsic a rhaglenni safonnol am fiwsic, yn hytrach na gwrando ar Dafydd Du yn chwara ffycin ‘Eye of the Tiger’, ti’n gwbod be dwi’n feddwl, ma rhaid i ti rhoi’r dewis i bobl. Ond dim jyst un rhaglen ydi o, ti’n sôn am gyfresi, ac yn anffodus ti’n sôn am flynyddoedd. mae Gwilym morus hefyd wedi bod yn gweithio yn y stiwdio gyda’r Derwyddon, ennillwyr brwydr y bandiau Cymdeithas yr iaith eleni. beth oedd yr hanes fanna? Gm : Wel, nes i feddwl fysa’n biti bod nhw’n cael gwobr o fynd i stiwdio, heb fod i stiwdio o’r blaen, a ella ddim yn cael y mwya allan o’r broses.
Fel band affro-beat yr adnabyddir Drymbago yn bennaf, ond mae’r albym yn dangos mwy o elfennau i gerddoriaeth Drumbago nag Affrobeat. Sut fyse chi’n disgrifio’r albym? G : Ffycin mess ! na, mae’n adlewyrchu be oddan ni’n neud adeg yna, ond ‘da ni di symud i ffwrdd o hwnna erbyn heddiw. ni fel ‘culture vultures’ yn cymryd gwahanol elfennau o’r genres ‘latin’ a ‘jazz’ a’u taflu nhw i gyd at ei gilydd. Da ni ddim yn credu bod angen miswic 130/140 bpm i neud i bobol ddawnsio, mae’n beth lot mwy subtle. mae’r albym yn dangs bo ni’n symud ymlaen o’r affro-beat rwan, da ni ‘di aeddfedu efo fo math o beth. L: Ers recordio’r albym da ni di cymryd y darnau onin licio ora a datblygu rheina fel platfform i sgwennu mwy o fwisic. y peth pwysicaf am gerddorieth ‘di’r swing, mae affro-beat a cerddoriaeth Affrica yn gyffredinol yn neud i ti symud dy hips mewn ag allan... dyna da ni’n trio neud, tra mae ‘latin’ a ‘ffync’ yn neud i ti neidio lan a lawr. Gyda’r band wedi dod i nabod ei gilydd drwy nosweithiau dawns yn ardal bangor, ac yn rhoi gymaint o bwyslais ar wneud i’r gynulledfa ddawnsio, sut ddawnswyr sydd yn y band?
10 y SELAR
Rhestr Nadolig Drymbago Gwilym morus : brazilian special i fi a cwyr coesau i’r hogia !
nes i jyst helpu symlhau’r caneuon, a cael pawb i wrando ar y drymmer, ond am fand ifanc mae’u gallu nhw i sgwennu caneuon yn...wel, ma nhw’n ffycin siwpyrb! nethon ni saith cân mewn tri diwrnod sydd ddim yn ddigon o amser, dwi’n gobeithio nethon nhw fwynhau’r profiad. Dwi ddim isho cymryd clod am y peth drwy ddweud na fi nath neud iddyn nhw swnio’n dda, mae’n nhw’n swnio’n dda yn barod a’u caneuon nhw ydyn nhw i gyd. mae nhw’n fwy pynci a mwy roci na ni. Ar ôl chwarae ambell i gig aflwyddiannus yng nghaerdydd bydd Drymbago ddim yn brysio yn ôl yno, ond ydi hi’n beth doeth troi’ch cefn ar y brifddinas? Luke : Da ni ddim am chwarae Caerdydd eto, mae’n ormod o hasl. Da ni di bod yn anlwcus iawn gyda amseriad ein gigs ni, mae’n cymryd lot o egni i gael pawb lawr yna, fel arfer ar ddiwrnod gêm rygbi Cymru. Dwi isho prynu Clwb ifor a gytio’r lle, achos ar y funud mae’r bobol sy’n gweithio yna yn dda, ond mae’r lle ei hun yn venue cachu. mi fydd Drymbago ar daith hyrwyddo’r albym Dyddiau Da am y misoedd nesaf, ond os oeddech yn edrych ymlaen i’w gweld yn nghlwb ifor bach, peidiwch trafferthu, mae’n debyg mai aros fyddwch chi.
LLYFU?TIN
LLYFA N NHYNAL TYWYLL I mAE LLyFu Tin nô L yn y SELAR. yn y RhiFyn hWn SHON WILLIAmS Sy’n GWThiO’i DAFOD DEW i FOChAu Tin ChWySLyD TynAL TyWyLL.
Roedd y band yn hannu o ardal bethesda, ac roeddynt yn tueddu i
LLUN: RoLANT DAfIs
G
ofynnwch i unrhyw Gymro neu Gymraes dros eu chwarter canrif a oes ganddynt le cynnes yn eu calon ar gyfer Tynal Tywyll, ac ‘oes’ fyddai’r ateb yn y rhan fwyaf o achosion. yn rhan o’r un sîn o ganol yr 80au, roedd Tynal Tywyll yn llawer mwy o hwyl na Datblygu, yn llai ‘angsty’ a llai difrifol na’r Cyrff, ac yn well band byw na Ffa Coffi Pawb (dwi’n disgwyl llythyrau cas yn barod). Ac yn ian morris, roedd ganddynt ganwr â phersona unigryw— yn edrych fel Labrador annwyl a golygus, gydag obsesiwn (eironig tybed?) amdano’i hun a’i fywyd carwriaethol.
gael eu cysylltu â’r sîn honno a bandiau fel Jecsyn Ffeif a Ffa Coffi. Doedd hynny ddim yn ffitio rhywsut, gan mai band pop a roc cymharol ysgafn oedd Tynal Tywyll— doedd dim arlliw o reggae a mwg mariwana o’u cwmpas. Wel, dim o gwmpas y gerddoriaeth p’run bynnag. Trowch y cloc nôl damaid bach i ganol yr 80au, ac fe welwch na fyddai neb yn galw Tynal Tywyll yn arloeswyr cerddorol— roedd dylanwad morrissey a’r Smiths yn gryf ar morris a’r gitarydd nathan hall, ond ddim y weledigaeth besimistaidd, hunan-dosturiol. Roedd y fformiwla yn eitha’ syml— riff Rickenbacker jingljanglaidd drosodd a throsodd gan
nathan, drymio tynn Gareth huws, cytgan iwfforig a phersona a chwpledau cofiadwy morris yn rhoi hunaniaeth i’r band. Roedd hynny, a pharodrwydd i deithio bob toiled o glwb neu dafarn ym mhob rhan o Gymru i chware gigs yn ychwanegu at yr apêl. Gwyddai ian morris yn iawn sut i ddal y gynulleidfa yn ei law mewn oes pan oedd hi’n fwy cwl i
1984.Cam o’r Tywyllwch- record amlgyfrannog ar label Anhrefn. 1985.Gadael yr ugeinfed Ganrif – record amlgyfrannog Anhrefn. 1985. mynd a Ti – e.p. gynta’r band. 1986. 73 heb Flares - sengl 1987. bobby Riggs - sengl 1989. e.p. Syrthio mwn cariad gyda Tynal Tywyll 1989. Slow Dance efo’r iesu- tap o sesiynnau Ankst. 1990. sengl Jack kerouac. 1990.Goreuon Tynal Tywyll 1991. e.p byw Talu 1992. L.P. Lle Dwi isho bod 1994. L.P. Dr. Octopus
edrych ar y llawr ac anwybyddu’r gynulleidfa. O droi at y gerddoriaeth, bydd ‘Jack kerouac’, ‘Deinosor’, ‘mae’r telyn wedi torri’ a ‘y bywyd braf’ yn adnabyddus i’r rhan fwyaf o oedran arbennig, a thoreth o nosweithiau cofiadwy a fydd yn diffinio ieuenctid llawer ohonom. Wrth i wahanol aelodau’r band fynd eu ffordd eu hunain yng nghanol y 90au, anadlodd Tynal Tywyll ei anadl olaf gyda’r albym ‘Dr Octopws’ yn 1994. mewn gwirionedd, roedd y sîn yr oeddent yn rhan mor allweddol ohoni wedi dod i ben, ac fe gymerodd sbel tan i fandiau eraill gyda’r un carisma naturiol gymryd y llwyfan, ond mi ddigwyddodd hynny yn y man gyda dyfodiad bandiau fel Topper, Anweledig a big Leaves. Efallai mai’r peth mwyaf trawiadol, fodd bynnag, oedd ymddangosiad ian morris fel gwestai arbennig gyda Diffiniad yn Eisteddfod Dinbych 2001. Swagrodd at y meic o flaen y llwyfan gyda ‘Su’mai… ers talwm?’ i’r floedd fwyaf glywais i erioed. Doedd Cymru heb anghofio. Seren o foi, seren o fand. y SELAR 11
ADOLGYGIADAU
senglau
EP
Radio Luxembourg Pwer y fflwer/Lisa, Magic a Porva Ciwdod
David Mysterious Troubador of the Unknown Peski
’’’’’
’’’
Dyma sengl gyntaf y band roc seicadelig o Aberystwyth a ffurfiodd ar ôl i mozz chwalu. mae’n cael ei ryddhau ar label Ciwdod ac yn ychwanegu at y nifer o senglau safonol sydd wedi ymddangos ar y label hwn yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Wedi ei recordio yn stiwdio bryn Derwen, bethesda a wedi’w gynhyrchu gan Euros Childs o Gorky’s mae’r sengl yma’n dangos potensial y band i gyrraedd canghennau uchaf y goeden nadolig a elwir yr SRG. O’r riff gitar agoriadol Ashokan-aidd mae Pwer y Fflwer yn gân roc egniol hynod safonol. Gyda’r ‘chantio’ mynachaidd yn ychwanegu naws sinistr iddi cyn ffrwyrdo nôl i’r gytgan afaelgar mae’n well adlewyrchiad o arddull y band na’r ochr AA. Lisa, magic a Porva yw’r ochr AA ac mae’n drwm o ddylanwad Euros Childs. Gwelwn yr elfen felodig, seicadelig yn gwthio i’r wyneb drwy’r gân hynod afaelgar yma. Does dim dwywaith fod hon yn mynd i gyrraedd uchelfannau siart mawredd mawr 2006. Dwy gân uffernol o dda sydd yn codi dwr i’r dannedd wrth edrych ymlaen at fwy o ddeunydd dros donfeddi Radio Luxemburg ar gyfer 2006.
O’r diwedd mae’r enigma aiff dan yr enw David mysterious yn dechrau dangos ei wyneb o gwmpas y tir gwlyb ac oer hwn. Oes croeso iddo yn y salw ˆn ydi’r cwestiwn. 5 cân sydd ar Troubador of the unknown, yn taenu o’r dwys i’r digri, o’r bywiog i’r pwyllog. yr hyn sy’n amlwg yw rhyw elfen ffwrdd-a-hi, blin ond brwdfrydig i steil y canu, yn fwriadol felly i effaith eitha cwl. mae’r hyder i beidio poeni am chwarae’r nodyn perffaith ar Red matthew yn ddiddorol... mae’n taenu naws Western ac yn traethu hud a lledrith am y cymeriad peryglus El Toro, y dyn ddysgodd bopeth i bergerac a magnum P.i. am gwffio pobl ddrwg. iyp – boncyrs. A gwych. mae’r ail gân Gymraeg, Caradog Pugh yn brofiad yr un mor benwan, hefo tiwn llon llawen i wthio’r holl eneidiau aflan yna allan. Debyg fod yna ddylanwad nirvana, Pixies a’r White Stripes hefyd efallai, ar y caneuon eraill, a nid drwg o beth hynny. mae’r holl beth yn mynd a chwi nôl i ryw freuddwyd grynjaidd, blêr, stwffio bob dim. Ond er hynny, dylai neb fod yn gyfforddus wrth geisio categoreiddio David mysterious yn daclus. Fel dwi di trio’i neud rwan. Dydi Peski ddim yn rhyddhau sbwriel. iddi. hefin Jones
bob Defaid Ciwdod ’’’’ Ar ôl ond un gwrandawiad ma Defaid gan bob yn styc yn eich pen, mewn ffordd dda. mae'n cynnwys y ddwy elfen sydd angen i neud cân roc dda, sef, bod yn syml ac yn gloi (iawn). mae bob wedi datblygu’n sylweddol ers ennill brwydyr y bandiau C2/Cymdeithas yr iaith Eisteddfod Casnewydd 2004 - dydi'r sengl yma bendant ddim yn swnio fel band ysgol yn trio efelychu’i dylanwadau cerddorol. Cafodd y sengl ei recordio yn Stiwdio Sylem ym metws-y-coed dros yr haf, ac mae na ddau drac arall ar y CD hefyd - Gwobr a Celwydd Golau Dydd. mae Defaid yn haeddu cael ei gynnwys fel un o ganeuon gorau 2005. Pam? Achos mae’n amhosib cael gwared o'r gytgan o'ch 'internal jukebox, amhosib! Angharad Griffiths sLEIfAR, CHEf A PAUL b YN ARos AM Y LIMo.
12 y SELAR
albyms fflur Dafydd Coch Am Weddill fy oes kissan ’’’ Dyma albym gyntaf y gantores/cyfansoddwraig o Geredigion. mae ei cherddoriaeth yn wahannol i ddylanwad ben Folds ei band blaenorol y Panics ond mae'n aros gyda'r blws a’i gyfuno gyda gwerin, jazz a ffync mewn naws hamddenaol a chyfeillgar. mae'r amrywiaeth yma yn sicrhau bod Coch Am Weddill Fy Oes yn hoelio’ch sylw o’r dechrau i’r diwedd, wrth i bob can amnrywio’i steil. mae Leni yn gan mawr ffynci, ma Ar ol heddi' yn codi calon gyda'i naws cydganu ac ma mr Freestyle yn tawelu'r awyrgylch gyda ond llais a piano drydan. yr unig siom nad yw’r albym yn efelychu safon y perfformiadau byw. Angharad Griffiths
Drymbago Dyddiau Da Rasal ’’’ Er bod Drymbago wedi dod a steil newydd o gerddoriaeth i’r Gymraeg, dydi hynny ynddo’i hun ddim yn rheswm i fynd dros ben llestri fel y gwnaeth rhai amdanynt. Dwi wedi gweld Drymbago yn fyw rhyw hanner dwsin o weithiau, ac mae ‘Dyddiau Da’yn ailgreu’r teimlad hwnnw dwi’n ei gael yn y gigs – dechrau da, ffynci, llawn awyrgylch, ond popeth ar ôl rhyw dair cân yn colli momentwm ac yn toddi i’w gilydd. Dim digon o amrywiaeth yn y chwarae a’r tempo ydi’r prif wendid. Da ni’n dallt bod nhw’n gallu ffyncio’n hamddenol, ond dydi’r band ddim fel petai nhw’n gallu symud i gêr uwch ar ‘Dyddiau Da’, dim ond bodloni ar yr ail neu drydydd gêr a grwfs sy’n swnio’n fwyfwy diddychymyg a syrffedus wrth i’r albym fynd yn ei blaen. mae’n swnio fel casgliad o jams wedi hanner eu pobi, yn hytrach nag albym efo caneuon cyfan, gorffenedig. Dydi ‘Dyddiau Da’ddim yn adlewyrchiad teilwng o botensial Drymbago. Fel adroddiad ysgol disgybl diog ond deallus – nid da lle gellir gwell yw’r farn am ‘Dyddiau Da’. Shon Williams
brigyn brigyn 2 Gwynfryn Cymunedol ’’’ mae brigyn yn cyfansoddi caneuon gydag elfennau gwerinol ac organig. Ar ôl rhyddhau eu halbym gyntaf fel brigyn blwyddyn yn ôl, dyma brigyn 2, sydd yn dangos cam ymlaen anferthol o’i halbym gyntaf. mae’r albym yn cynnwys caneuon aeddfed, cyfrwys a chymhleth, ond syml ar y glust. mae’n gasgliad arbrofol sy’n hudolus a phroffesiynol. mae’r ddau frawd ynyr ac Eurig yn dangos eu dawn gerddorol a’u gallu i gyfansoddi wrth iddynt gymysgu elfennau electronica, gwerin a defnydd helaeth o samplau cerddorfaol sy’n mesmereiddio’r gwrandawyr. Cawn naws hamddenol a chynnes drwy’r albym gydag ambell drac yn sefyll allan. un o fy ffefrynnau yw’r trac ‘hwyl Fawr, Ffarwel’sy’n llawn harmonïau arallfydol gyda naws Affricanaidd. mae ‘Diwrnod marchnad’yn ffefryn arall gyda thôn swynol a chofiadwy ag ymdeimlad hiraethus. mae brigyn 2 yn plesio, a theimlaf nad yw’r band wedi derbyn y clod dyledus. mae’r ansawdd yn uchel gyda’r cydbwysedd cywir rhwng y sain ac offerynnau organig ac electroneg. mae’r albym yn llifo’n ddiymdrech a chyn pen dim, mae angen gwasgu ‘play’eto. Lynsey Anne
Goreuon sobin a’r smaeliaid Goreuon sain
Gwyneth Glyn Wyneb Dros Dro slacyr
’
’’’’
Anghofio am yrfa a chatalog y bonheddwr bryn Fôn ers dyddiau Sobin a’i Smaeliaid. Anghofio am yr holl filoedd allan yn fancw, wrth eich hochr, allan drwy’r ffenest, yn y ceir sy’n gwibio heibio sy’n hapus eu byd i glywed ‘rwbath gan bryn Fôn. Anghofio am y gigs, yr hunllefus gigs, y jîns gwyn, ac yn fwy na dim anghofio am y drama anhygoel sy’n sarnio ei lais. Anghofio am y drosedd fwyaf oll, ei ddinistrio llwyr o glasur mynediad am Ddim, Ceidwad y Goleudy, a’i droi yn opera emosiynol erchyll sy’n ffiaidd o boblogaidd. Anghofio. A barnu Sobin ar ei liwt ei hun. Dim llawer o bwynt agor y peth. mae’r caneuon oll yn blaen yn yr ymenydd, a mae siawns da eich bod chithau hefyd wedi treulio eich plentyndod yn y sêt gefn ar deithiau dirifedi i weld anti Dot i draciau Sobin. mae’r cynnyrch oedd ar yr albym gwreiddiol i fod yn deg yn...well, traciau fel meibion y Fflam a mardi-Gras ym mangor uchaf ddim cweit mor... ond mae’r stwff hwyrach, caneuon fel Gwlad y Rasta Gwyn, blw ˆ s Tyˆ Golchi a Ta-Ta botha...yyh, fedrai ddim. Erchyll. ymaith Satan!... ond mi werthith filoedd ar filoedd. hefin Jones
Treuliodd Gwyneth Glyny rhan fwyaf o 2004 yn gigio ac yn ateb y cwestiwn; "Pryd ti'n ryddhau rhwbeth?" Felly, bydd y sawl fu'n holi yn falch o glyweb bod hi wedi mynd a'i gitar at stiwdio blaen-ycae yng ngarndolbenmaen a dydi Wyneb Dros Dro ddim yn siomi. mae llais hudol Gwyneth yn eich cario drwy'r caneuon ac mae Angeline yn brawf bod ganddi ddawn canu gwlad amgen perffaith. Peidiwch bod ofn os nad ydych yn ffan o ganu gwlad - does dim 'line-dancing' yn agos at hwn. mae'n ddistaw a swynol, ac mae’n fwy addas gwrando arni gyda mwg mawr o siocled poeth ar noson oer yn hytrach na dawnsio. ma rhaid i chi aros tan ddiwedd yr albym am y ddwy gan orau, sef Wyneb Dros Dro ( mor brydferth gyda'r pedal steel a banjo) ag Adra, sy'n syml, clyfar ac hyfryd. Dydi Wyneb Dros Dro ddim yn hir iawn, ond mae'n ddigon i greu argraff gyntaf drawiadol. Angharad Griffiths
Ryan kift Ar Goll Recordiau Menai
bocs set Edward H Dafis Edward H Mewn bocs sain ’’’’’
’’’ Dyma albym gyntaf Ryan kift, a arferai ganu i Something Personal. Does dim amheuaeth bod clust am alaw lled seicadelig chwedegaidd ganddo, a dyna yw cryfder a gwendid ‘Ar Goll’. mae’n bechod mai yn y gaeaf y mae wedi cael ei rhyddhau, achos mi fyddai’r albym yn gallu bod yn drac sain hamddenol i ganol brynhawn ar lan y môr ar ddiwrnod o haul, ac i’r noson dywyll wedi hynny. y broblem yw bod y gerddoriaeth yn swnio fel llawer o bethau sydd wedi bod o’i flaen – prin bod prinder o fandiau nag unigolion efo dylanwadau 60aidd. Ond mae digon o newid cyfeiriad a chywair yn y caneuon, a defnydd da o effeithiau stiwdio cefndir diddorol (‘Ar Goll’). Fel albym gyntaf ian brown, mae cynildeb a meddwl cerddorol ar waith yma, sy’n gwneud i rywun feddwl mai dim ond y cam cyntaf cyffrous (neu’r ail, efallai) yw ‘Ar Goll’ ar daith gerddorol Ryan kift. Shon Williams
Gyda’r nostalgia diweddar yn yr SRG, gan gynnwys rhyddhad bocs-set y Cyrff, fideos archif ar bandit ac ailryddhau ‘Dewch at eich gilydd’fel rhan o apel Asia/Affrica S4C, does rhyfedd fod band mwyaf enwog y 70au yn rhyddhau Edward h mewn bocs. mae'n gasgliad gwych gan frenhinoedd roc y 70au ac yn cynnwys holl recordiau Edward h. Dafis rhwng 1973-80 ar 6 CD mewn bocs hyfryd. Dydw i ddim ishe torri’r plastig oddi arno gan ei fod e’n edrych mor berffaith! Ar ôl rhyddhau albym goreuon, Edward h. Dafis 1974-1980, yn 1989, roedd hi'n amlwg fod gymaint fwy o berlau gan y band ac felly mater o amser ydoedd tan i’r set yma gael ei ryddhau. mae'r traciau’n amrywio o faledi roc fel Paid a Gofyn a neb ar ôl, i anthemau roc mawr fel Angau ac yn y Fro, i blues mynydd Gelli Wastad, i ganeuon traddodiadol fel y Gog Lwydlas a Ffarwel i Langyfelach Lon. Wrth wrando ar y pentwr o gryno ddisgiau mae’n amlwg fod traciau’r band arloesol yn sefyll prawf amser ac yn parhau i fod mor boblogaidd ac erioed. Os nad ydych chi'n gyfarwydd ag Edward h
Dafis mae'r bocs set yn cynnwys yr holl ffefrynnau fel ysbryd y nos, Pishyn, mr Duw, Can mewn Ofer a Smo fi ishe mynd ond hefyd yn cynnwys traciau arloesol llai adnabyddus y band. Can ffync arloesol yw Duwies y Palmant a gallwn ni taeru mai Drumbago sy’n chwarae cyn i lais Dewi Pws gychwyn. mae cyfle yma i ieuenctid Cymru glywed a gwerthfawrogi'r band arloesol yma a ddangosodd y ffordd i eraill ddilyn. Lynsey Anne
Y Cyrff Atalnod Llawn Rasal ’’’’’ “Ti allan o dy ddyfnder, a dwi allan o fy mhen.” Amser maith yn ôl, cyn Cerys, cyn y Super Furries, pan fu’r GLC yn chwarae yn eu napis, roedd Cyrff. Ac fe aethant o Lanrwst i ledaenu’r gair. Ac yna wele, ugain mlynedd yn ddiweddarach, cawn yr Atalnod Llawn i yrfa’r gr_p fu’n berchen ar yr wythdegau yng nghymru. Doedden nhw ddim yn boblogaidd gyda’r nmE, ond yn Roc y Cnapan, a thros weddill Cymru fach, roedd yn amlwg bod y Cyrff wedi teithio o fyd rhyfedd arall (sef Llanrwst). Ond beth am y casgliad? ydy e’n llwyddo i ail-greu y cyfnod pan fu’r Cyrff yn dduwiau byw? mae’n wych. yn syfrdanol. yn siwr o fod ar restrau Santa rocyrs hen ac ifanc, o Rhuthun i Rhaeadr. Wedi eu cyflwyno mewn bocs swanc, cewch chi dri crynoddisg swyddogol, ac yna casgliad o senglau a thraciau byw ar y pedwerydd. O 1987, saif ‘y Testament newydd’fel datganiad ffyrnig o sain a meddylfryd cynnar y band. yn atsain o’r effaith byw, mae’n rymus, yn dywyll, yn debycach i Joy Division na rhagflaenwyr Cymreig y Cyrff. Parha’r sinigrwydd a’r teitlau beiblaidd hyd at 1989, pan fu ‘yr Atgyfodi.’Gall ‘Cofia Fi yn Ddiolchgar’a ‘Weithiau / Anadl’ddal anfon iasau lawr eich cefn, tra’n cydio yn eich bol, a’i dynnu’n danddaearol. Erbyn ‘Llawenydd heb Ddiwedd,’yn 1991, roedd y Cyrff yn rheoli’r donfedd. mae’r sain wedi meddalu, aeddfedu efallai, y geiriau a’r themau yn llai crac, ond yn parhau i dristhau, yn dal i hau hadau’r Dychymyg. Felly, 23 o draciau mor belled, a 14 trac ychwanegol ar CD4, gan gynnwys uchafbwyntiau amlwg fel ‘hwyl Fawr heulwen’a ‘Pethau Achlysurol.’beth arall sydd yna i ddweud? hir oes i’r Cyrff. Owain Llyr
sgoriadur ’’’’’ - campwaith ’’’’ - uffernol o dda ’’’ - werth gwrando ’’- gwael ’- peidiwch ffycin trafferthu!
y SELAR 13
ADOLYGIADAU
LLUN: LLIoN GERALLT
Gigs gorau ’r SRG
Nos sadwrn ‘steddfod Maes b Anweledig Poppies The Heights swci boscawen Oi oi dyma noson ola'r steddfod wedi dod, wedi edrych ymlaen arw am ddau reswm: oherwydd ei fod o'n golygu'r noson ola mewn tent ac yn ail achos bod Anweledig yn hedlainio yn maes-b. mi oedd y noson ola yn oer a damp iawn, roedd y llawr yn galed a mi roedd 'na griw o gofis yn cadw reiat tu allan. bron iawn i'r portsh golapsho a mi oedd 'na ryw bry copyn yn y gornel yn rhywle. Cychwynodd y noson efo
perfformiad gan Swci boscawen. Er nad oeddwn i'n gyfarwydd a'r caneuon roedd ganddi bresenoldeb enfawr ar y llwyfan - a carisma yn llwyddo i hoelio sylw pawb. yn anffodus ella nad oedd hi wedi llwyddo i berffethio ei hact fyw eto, a'r teimlad oedd nad oedd y band yn gwbwl drefnus. Roedd 'na rwbath o'i le -ychydig yn blastig oedd o o bosib, ond mi ddaw hefo amser a phrofiad debyg iawn! y pedwarawd blewog The heights (y Gogz gynt) oedd ar y llwyfan nesa yn broffesiynnol i gyd. mae genyn nhw ganeuon gafaelgar iawn (a gitarydd ers iddo dwchu i ddwbwl ei faint dros y flwyddyn diwethaf), a unwaith eto mi lwyddon nhw i gael
‘Taith Cymru, Lloegr a Llanrwst’ Legion, Llanrwst LLUN: bbC
Alun Tan Lan + kentucky Maharishi Dan Amor Jen Jeniro Dwi’n ddigon lwcus i fod wedi gallu mynd i lwyth o gigs da yn ystod 2005. mae rhai o nosweithiau Amser yn y ‘Steddfod a naws yn Aberystwyth yn sefyll allan, ond y gorau heb os oedd hwnnw yn y Legion, Llanrwst a oedd yn cwblhau taith Cymru, Lloegr a Llanrwst. i unrhywun oedd yn cuddio mewn ogof tua diwedd medi, hon oedd y daith i hyrwyddo rhyddhau boxset newydd y y Cyrff gyda gigs yng nghaerdydd, Llundain a Llanrwst wrth gwrs. i foi sy’n dod o ardal Llanrwst ac wedi tyfu fyny gyda cherddoriaeth y Cyrff, roedd rhyddhau’r boxset yma’n rywbeth arbennig iawn ac o’n i’n falch o allu mynd i’r 3 gig. Roedd pob un o’r gigs yn arbennig ond
14 y SELAR
kENTUCkY ATL yn sicr Llanrwst oedd y pinacl. Roedd teimlad nostalgic iawn i’r gig, ond roedd cynulleidfa gymysg o bobl oedd yn mynd i gigs gwreiddiol y Cyrff a phobl ifanc sy’n mynd i gigs rwan. beth oedd yn gwneud y noson fwyaf cofiadwy oedd perfformiadau’r bandiau gyda Jen Jeniro fel petaen nhw’n berchen y llwyfan, Dan Amor yn wych a maharishi’n swnio’n uffernol o debyg i’r Cyrff. yr uchafbwynt oedd yr headliners, partneriaeth arbennig Alun Tan Lan a kentucky AFC, ac roedden nhw’n wefreiddiol wrth berfformio 15 o ganeuon y Cyrff. Owain Schiavone
pawb i wrando arnyn nhw,a dawnsio'n wyllt - hyd yn oed y gynulleidfa anghyfarwydd gan eu bod nhw'n gerddorion mor dalentog. Poppies ddaeth i'r llwyfan nesaf - y sgrechian, y distawrwydd effeithiol di-rybudd a'r olwg ddiog, ecsentric ar Sam y ffryntman. Er mai ond ers tua blwyddyn mae rhain wedi dod i'r golwg fel y Poppies mae nhw eisioes wedi sefydlu eu hunain fel un o hoff fandiau'r gynulleidfa Gymraeg ifanc. Profodd y noson hon hynny gyda'r hoff ganeuon i gyd yn cael eu cydganu gan bawb yn y babell enfawr yn maes-b.
y bandits o blaena ddaeth 'mlaen nesa i gloi'r noson, Anweledig - y band ska enfawr sy'n llwyddo i berfformio set hollol unigryw bob tro er bod y caneuon yn aros run fath! Roedd Ceri C y canwr yn ei hwyliau ac yn dawnsio ei ddawns y glaw (rhedeg yn ei unfan tra'n gwenu fel clown). Roedd cymaint o offerynau yn chwarae dros ei gilydd, ond roedd y swn yn wych, a roedd pawb yn dawnsio tra'n hitio'r awyr a chanu "Oi Oi Oi" hefo Cae yn nefyn! mae'n amhosib mynd o gig Anweledig heb wenu! Leusa Fflur