Y SELAR BACH Y CYLCHGRAWN CERDDORIAETH CRYNO AR GYFER PLANT BLYNYDDOEDD 5–8 • RHIFYN 10 • CHWEFROR 2022
H T Y D Ä E
n n y f y i f i h r h r y dy annd B Ba
Croeso i rifyn diweddaraf Y Selar Bach! Wrth i ni ddathlu Dydd Miwsig Cymru 2022, roedd jyst rhaid i ni fynd ati i baratoi rhifyn o’r Selar Bach i’w rannu gydag ysgolion ledled Cymru. Beth ydy’r Selar Bach? Wel cylchgrawn cerddoriaeth bach i’ch cyflwyno chi i’r gerddoriaeth, a newyddion cerddoriaeth iaith Gymraeg ddiweddaraf.
Ym mhob rhifyn, rydyn ni’n rhoi sylw arbennig i un band neu artist penodol, ac yn y rhifyn yma, y gantores electronig wych, Eädyth, ydy ‘Band y Rhifyn’. Mae Eädyth wedi bod yn cyd-weithio gyda Dydd Miwsig Cymru eleni i dynnu sylw at gystadleuaeth Ysgol POP! a gobeithio bod rhai ohonoch chi wedi cael cyfle i gystadlu a dangos eich talent cerddorol.
Ym mhob rhifyn o’r Selar Bach, rydyn ni hefyd yn ymweld ag un ysgol benodol er mwyn holi pa fath o gerddoriaeth mae’r disgyblion yn ei fwynhau. Ysgol y Llys, Prestatyn sy’n cael sylw yn y rhifyn yma. Felly, gobeithio byddwch chi’n mwynhau Y Selar Bach, ac yn darganfod cerddoriaeth Gymraeg newydd i’w fwynhau ar ôl mynd adref.