4 minute read
Hap a Damwain
by Y Selar
Mae Hap a Damwain yn brosiect mwy electronig ei naws gan ddau artist, Simon Beech ac Aled Roberts, fu’n rhan o’r grŵp Boff Frank Bough yn yr 80au a’r 90au. Ddiwedd Ionawr; rhyddhawyd eu hail albwm, Ni Neu Nhw, record gafodd ei greu ‘yn y cnawd’ yn hytrach na dros alwadau fideo fel eu halbwm cyntaf, Hanner Cant.
Sut ymateb sydd wedi bod i’r record hyd yn hyn?
Advertisement
Aled: [Mae ‘di bod yn] wych iawn hyd yn hyn gan y rhai sydd wedi prynu’r CD. Ma’ genny’ ni ryw fanbase bychan ond triw. ‘Den ni ‘di cael ambell i adolygiad ffafriol o wahanol rannau o’r byd, ond wrth gwrs, mae’n ddyddiau cynnar, felly wrth gigio ‘den ni’n trio hybu’r peth rŵan.
Lle a phryd a sut fuoch chi wrthi’n recordio?
Aled: ‘Den ni yn y ganolfan gymunedol yn yr Hen Golwyn bob bore dydd Llun i ymarfer ar gyfer gigs neu trio sgwennu cân newydd.
Sgwrs Sydyn
Simon: Den ni’n defnyddio’r broses o ‘sgwennu a recordio fel den ni’n mynd. Oherwydd technoleg heddiw den ni’n sgwennu ar laptop; dio’m fath’a bod y stwff ‘den ni’n ‘neud angen sesiwn recordio fawr a mynd i’r stiwdio. Dyna sydd ran fwyaf ar yr albwm, ond wedi dweud hynny aethon ni i stiwdio Gwyn Jones (Maffia) i recordio lot o’r llais a dryms, ac mae o’n chwarae ar dri o’r traciau.
Aled: Ma’ ‘na naws fwy byw i rai o’r traciau newydd.
Ar ba fformat ac yn lle mae’r albwm ar gael?
Aled: Ar hyn o bryd mae o ar gael ar CD neu’n ddigidol, a’r cwbl ar ein gwefan Bandcamp. Bydd ‘na nifer cyfyngedig o mini disg ar gael yn fuan hefyd.
Simon: Dewch i’n gweld ni mewn gig a fydd ‘na rai’n fan’na.
I’r rhai sy’n anghyfarwydd efo’ch cerddoriaeth, be allen’ nhw ddisgwyl?
Simon: Mae’n gymysgedd o stwff electronig a stwff mwy indie rock traddodiadol.
Aled: Ond bob tro den ni’n dechre’ cân newydd, mi alla’ fo fynd i unrhyw gyfeiriad.
Ydych chi’n teimlo fod ‘na ofod o fewn y sîn gerddoriaeth yng Nghymru ‘dech chi’n ffitio fewn iddo fo neu ydych chi’n cynnig rhywbeth hollol unigryw?
Simon: Den ni ‘di bod yn chwara’ mewn bandia’ a gwneud stwff ers diwedd yr wythdega’ a ‘den ni o hyd wedi bod yn ymylol o ran be’ den ni’n ‘neud; ‘den ni’m yn ffitio’n naturiol i be’ sy’n digwydd yn y sîn Gymraeg…
Aled: …sy’n gallu bod yn anodd achos ‘den ni’n gorfod trefnu’n stwff ein hunain.
Simon: Den ni’m ‘di cyrr’edd playlists Radio Cymru eto, ond ma’ Rhys Mwyn a Huw Stephens ‘di bod yn gefnogol iawn. Ma’ genny’ ni stwff sydd yn ffitio fel baledi…
Aled: …wel ‘Baledi Arbrofol o’r Arfordir’ ydi Twitter bio ni felly ma hwnna’n disgrifio ni’n eitha’ da.
Simon: ‘Den ni’n dechra’ efo r’wbeth mwy traddodiadol, wedyn tweak-io fo a rhoi syna’ wiyrd arno fo a samples
Ydy’r gerddoriaeth wedi newid o gwbl rhwng y ddau albwm?
Simon: Ma’r strwythur wedi mynd yn fwy traddodiadol achos ‘dan ni’n chwara’n fyw; oedd lot o’r stwff ar yr albwm cynta’ yn ddi - strwythur, neu efo strwythur wiyrd efo tri [curiad] yn fa’ma a saith yn fan’na.
Aled: Ma’ hwnna wedi dod drwy ymarfar hefyd, i ‘neud o’n haws i gofio.
Simon: Ma’r sŵn yn eitha’ tebyg, dio’m yn mynd i fod yn sioc i rywun sydd wedi gwrando ar yr albwm cynta’.
Aled: Ma ‘na steil Hap a Damwain ‘does, a ma hwnna’n r’wbath sydd wedi datblygu wrth chwara’n fyw hefyd.
Mi enilloch chi wobr Llwybr Llaethog am gyfraniad i gerddoriaeth Gymreig y llynedd; ydy cyfrannu’n rhywbeth yn bwysig i chi?
Aled: Wrth gwrs, den ni’n mwynhau rhannu syniada’. Den ni’n mwynhau bod yma’n y ganolfan, ond dio’m digon da i jyst ‘neud o fath’a hobi.
Simon: Den ni yn casàu gorfod hybu fo, a ma’n mynd yn fwy o job wedyn; ‘den ni jyst isio g’neud cerddoriaeth.
Mae ‘na negeseuon – gwleidyddol er enghraifft –sy’n eithaf clir ar yr albwm, ydy mynegi negeseuon a syniadau yn bwysig i chi?
Aled: Dwi’m yn meddwl bod o’n bwysig i ni mae o jyst yn dod allan pan dan ni’n chwara’ efo syniada’.
Simon: Ma’ ‘na betha’ opaque a ma’ ‘na betha’ llai opaque
Aled: ‘Dan ni yn bobl sydd isio tegwch i bawb a ma hyn yn ca’l ei fynegi yn be’ dan ni’n ‘neud. Dio’m yn r’wbath den ni’n mynd ati i ‘neud, ma jyst yn dod yn naturiol.
Simon: Ma’r cân ‘Cynghorwyr’ yn pwyntio bys at caricature cartŵnaidd o gynghorwyr, er bo fi’n ‘nabod lot o gynghorwyr sy’n bobol neis sy’n g’neud lot o waith.
Aled: Ma’ genny’ ni gân o’r enw ‘Y Ffasgwyr’ am rywun sy’ ‘di ca’l mewn efo’r criw anghywir.
Yn hynny o beth, ydych chi’n ystyried eich proses greadigol yn un naturiol, er y ffaith fod technoleg yn gyrru’r gwaith; y syniadau a’r cynnyrch yn dod ‘ar hap a damwain’, bron?!
Aled: Wel ‘den ni’n iwsho rhyw fath o keyboard i ga’l syniada’ ar gyfer nodyn, wedyn ‘dan ni’n iwsho’r cyfrifiadur i gal drym bîts, [boed o’n] hip hop neu be bynnag.
Simon: ‘Nes i drio heddiw ‘neud un efo tempo 3 [bpm] ond o’dd y cyfrifiadur yn cau mynd lawr i 3; 5 di’r slofa’ ma’n mynd. Ma’n ddiddorol arbrofi efo petha’ fel’na, ond nes i sbîdio fo fyny i 100 [bpm] wedyn achos o’dd 5 yn ridiculous. Dwi’n cychwyn lot ohonyn nhw ar y [gitâr] bas a ffeindio bassline wrth jyst pigo fyny bas adra’ a jamio. Aled: Wedyn dwi’n meddwl am y tiwn, ac os ti’n g’neud ‘la la la’ digon ma geiria’ yn dod mewn a wedyn nawn ni feddwl am bits er’ill.
Simon: Ma’ lot ohono fo’n ca’l ‘i greu efo lŵps bach rili; ‘na’i gymryd y bassline a lŵpio fo neu cut and paste; den ni’n symud stwff o gwmpas, defnyddio overlays, symud stwff o’r bennill i’r cytgan.
Aled: Ma’ ca’l y syniad yn broses eitha’ sydyn; y rhan fwyaf ohono fo ydy troi o mewn i rywbeth gorffenedig.
Oes gennych chi hoff gân oddi ar yr albwm?
Simon: Dwi’n eitha’ licio ‘A.Y.Y.B’ (ac yn y blaen).
Aled: Dwi’n licio ‘Canolfan’ achos mae o’n sôn am fod yma yn y ganolfan a ma’n teimlo fel ‘bo ni yn rhan o’r gymdeithas. Ma’r armchair aerobics a Weight Watchers yma ar ôl ni a pobol neis yn rhedeg o felly ma’n neis bod yn rhan o’r gymuned.
Beth fyddai’r weithgaredd berffaith i gyd-fynd â’r albwm?
Aled: Oeddan ni’n meddwl ‘ella mynd ar drafnidiaeth cyhoeddus neu coginio ‘ella? Rhedeg?
Gwerthwch y record i ni mewn pum gair. Bosib ‘neith newid dy fywyd.
Hoff Albyms
Hoff ail albwm?
Pyst gan Datblygu neu Malltod gan Fflaps.
Hoff albwm o 2022?
Stumpwork – Dry Cleaning
(Aled: ond ma’r stwff dwi’n prynu’n dod ail law o’r siop recordia’ yn Abergele.)
Hoff albwm â theitl tri gair?
Y Testament Newydd gan Y Cyrff.