10 minute read

ENILLWYR GWOBRAU’R SELAR 2022

Next Article
Hap a Damwain

Hap a Damwain

Fe welodd 2022 y diwydiant cerddoriaeth yn dychwelyd i ryw fath o normalrwydd wrth i gigs a gwyliau cerddorol yr haf ddod yn ôl yn eu llawn anterth. Roedd cynnyrch newydd Cymraeg yn cael ei ryddhau trwy gydol y flwyddyn, ac roedd cyfle i artisitiad newydd wneud eu marc ar lwyfan. Oedd, roedd yn flwyddyn wych i gerddoriaeth Gymraeg gyfoes, ac ym mis Chwefror roedd Gwobrau’r Selar yn ôl i ddathlu llwyddiant y flwyddyn a fu. Fel arfer, chi, darllenwyr Y Selar oedd yn gyfrifol am ddewis yr enillwyr a dyma’r enwau ddaeth i frig y bleidlais...

Advertisement

Cân Orau

(Noddi gan PRS for Music)

Tri uchaf:

Rhedeg Atat Ti - Angharad Rhiannon

Eto - Adwaith

Bricsen Arall - Los Blancos

ENILLYDD: Eto - Adwaith

Am flwyddyn wych oedd hi unwaith eto i Adwaith wrth iddyn nhw ryddhau eu hail albwm, Bato Mato, fis Gorffennaf. Cyn hynny roedden nhw wedi ryddhau cwpl o senglau i roi blas o’r hyn oedd i ddod gan gynnwys prif sengl epig y record hir newydd, ‘Eto’. Tiiiiwn!

Gwaith Celf Gorau

Tri uchaf:

Deuddeg - Sywel Nyw

Seren - Angharad Rhiannon

Swnamii - Sŵnami

ENILLYDD: Swnamii - Sŵnami

Parhau wnaeth comeback Sŵnami yn 2022 wrth iddyn nhw ryddhau eu hail albwm hirddisgwyliedig (mae 7 mlynedd ers y gyntaf yn ddigon hir!) ac mae Sŵnamii yn brosiect uchelgeisiol. Albwm cysyniadol o fath, ac mae’r gwaith celf gan Gruffydd Sion Ywain yn ran pwysig o’r cysyniad hwnnw.

Artist Unigol Gorau

Tri uchaf:

Mared

Cerys Hafana

Elis Derby

ENILLYDD: Mared

Dau gyn enillydd ac un enw newydd ar y rhestr fer benodol yma, ac un o’r cyn enillwyr aeth a hi. Dyma’r trydydd tro o’r bron i Mared ddod i frig y bleidlais i ddewis yr Artist Unigol Gorau ac mae’n anodd dadlau gyda dewis y cyhoedd.

Band Gorau

Tri uchaf:

Bwncath

Sŵnami

Adwaith

ENILLYDD: Adwaith

Dyma i chi frwydr, a rhestr fer arall oedd yn cynnwys enwau dau gyn enillydd, ac un oedd heb ddod i’r brig o’r blaen. Er gwaetha prysurdeb a phoblogrwydd

Bwncath, ac albwm ardderchog Sŵnami, does dim amheuaeth mai blwyddyn Adwaith oedd 2022 ac mae’n nhw’n enw newydd ar y teitl ‘Band Gorau’.

Seren y Sin

Tri uchaf:

Owain Williams (Klust)

Sian Eleri

Elan Evans

ENILLYDD: Owain Williams

Mae hwn yn gategori pwysig, ac un sy’n nodi cyfraniad unigolion sy’n gwneud gwaith gwych i hyrwyddo’r sîn a cherddoriaeth Gymraeg. Dyma dri enw sy’n cyfrannu mewn ffyrdd gwahanol, ond yr un mor bwysig, a thri sy’n haeddu cael eu cydnabod. Owain Williams a’i waith ardderchog ar wefan a zine Klust ddaeth i’r brig y tro hwn.

Record Fer Orau

Pedwar uchaf:

Mali Hâf EP

Ynys Alys EP

Crescent - Thallo

Llygredd GweledolChroma

ENILLYDD: Crescent - Thallo

Mae’r EP wedi cael mymryn o adfywiad yn ddiweddar, ac roedd hwn yn gategori agos iawn. Cymaint felly nes bod rhaid cael pedwar ar y rhestr fer gan fod rhif 3 a 4 yn y bleidlais yn gwbl gyfartal! A hithau wedi wynebu cymaint o heriau personol yn ddiweddar, roedd gweld Thallo’n dod i’r brig yn teimlo’n briodol iawn rywsut.

Trowch i’r dudalen ‘10 Uchaf Albyms 2022’ i weld 3 uchaf ac enillydd categori’r Record Hir Orau)

Gwobr Cyfraniad Arbennig

ENILLYDD: Lisa Gwilym

Yn draddodiadol, cerddorion sydd wedi ennill y wobr yma, ond roedd hi’n bryd am chenj. Mewn gwirionedd, bwriad y wobr ydy cydnabod y cyfraniad mae unigolyn arbennig wedi’i wneud tuag at hyrwyddo’r diwydiant cerddoriaeth Gymraeg gyfoes, a does dim amheuaeth fod Lisa Gwilym yn enillydd haeddiannol. Dros 20 mlynedd mae wedi rhoi llwyfan a sylw cyson i gerddoriaeth Gymraeg newydd ar ei rhaglenni radio a thrwy hynny wedi chwarae rôl bwysig yng ngyrfa cannoedd o artistiaid Cymraeg cyfoes. Llongyfarchiadau mawr i Lisa.

Fideo Cerddoriaeth Gorau

Tri uchaf:

Band neu Artist Newydd Gorau

Tri uchaf:

Angharad Rhiannon

Dom James a Lloyd

Melda Lois

ENILLYDD: Dom James a Lloyd

Dyma i chi gategori diddorol iawn eleni gyda thipyn o artistiaid newydd wedi cael cyfle i wneud eu marc wrth i gigs, gwyliau a Brwydr y Bandiau ddychwelyd go iawn! Ond pwy all anghofio’r buzz wrth i ‘Pwy Sy’n Galw?’ lanio gan y rapwyr Dom James a Lloyd, a’r cyffro a ddaeth yn sgil hynny. Gobeithio y gwelwn ni fwy gan y ddeuawd, a’r artistiaid newydd eraill, yn ystod 2023.

Byw efo Hi - Elis Derby

Cynbohir - Gwilym x Hana Lili

Drama Queen - Tara Bandito

ENILLYDD: Drama Queen - Tara Bandito

Mae’r fideo cerddoriaeth wedi datblygu i fod yn arf digon hanfodol i hyrwyddo cerddoriaeth Gymraeg dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, ac mae mwy a mwy ohonyn nhw’n cael eu creu a chyhoeddi. Da o beth am hynny, yn enwedig gyda’r safon yn codi’n gyson. Roedd gan Tara Bandito ddigon o fideos gwych i ffurfio rhestr fer ei hun, ac efallai y mwyaf gweledol drawiadol o’r rhain oedd ffefryn y pleidleiswyr.

Gwobr 2022

ENILLYDD: Izzy Rabey

Mae Izzy Rabey yn ymgorfforiad o’r hyn mae’r wobr yma’n ei gynrychioli, ac roedd yn enillydd amlwg i dîm golygyddol Y Selar. “Mae’n llais ffresh, cryf o fewn y diwydiant cerddoriaeth Gymraeg sy’n gweithredu mewn modd positif i sicrhau cyfartaledd o fewn y sin boed hynny’n roi llwyfan amlycach i ferched, i’r gymuned LQBTQ+ neu bobl o liw ac o gymunedau ethnig.” - Owain Schiavone, Uwch Olygydd Y Selar.

Seren

– Angharad Rhiannon

Label: Annibynnol Rhyddhawyd: Hydref

Fe fyddai clywed cyhoeddiad enw enillydd gwobr Record Hir Orau 2022 Gwobrau’r Selar ar raglen

Ifan Evans wedi bod yn ychydig o syndod i rai mae’n siŵr. A hithau yng nghwmni dau o fandiau mwyaf Cymru ar hyn o bryd ar y rhestr fer o dri, roedd yn amlwg bod y newyddion yn dipyn o syndod i Angharad ei hun hefyd! Ond, mae pleidleiswyr Gwobrau’r Selar wedi bwrw eu pleidlais a datgan yn glir mai albwm cyntaf y ferch o Gwm Cynon ydy Record Hir Orau 2022. Wedi’i ryddhau’n annibynnol, mae Seren yn yn llafur cariad y mae Angharad wedi bod yn gweithio arno ers sawl blwyddyn. Wrth ymateb i’r newyddion am y wobr, roedd Angharad yn awyddus i ddiolch i’w theulu a ffrindiau oedd wedi cefnogi’r prosiect, ac yn arbennig i’w merch sydd wedi’i hysbrydoli. Mae gweld pa mor hapus oedd hi yn sicr wedi dod â gwên i’n hwynebau ni, ac mae’r Selar yn estyn llongyfarchiadau mawr i Angharad.

Yn nhywyllwch Clwb Ifor Bach ar nos Wener Dydd Miwsig Cymru a’r trydydd llawr dan ei sang y peth olaf y byddech yn disgwyl ei weld yw arch yn cael ei chario drwy’r dorf a’i rhoi i orffwys ar y llwyfan.

Ar y sgrin fawr yng nghefn y llwyfan mae fideo ‘Six Feet Under’ gan Tara Bandito yn chwarae. O’r arch daw llais cyfarwydd ac wrth i’r gerddoriaeth ymchwyddo yn codi o’r arch mae Tara.

Bedwar diwrnod ynghynt…

Rwy’n cerdded tuag at gaffi Barker’s yng Nghaerdydd yn trio meddwl lle i ddechrau holi Tara. Mae Tara Bethan wedi bod yn enw a wyneb cyfarwydd i mi (a Chymry ym mhobman) ers dw i’n cofio. O fod wedi gwrando ar ddwy gyfres o’i phodlediad ‘Dewr’, mae’n teimlo fel ‘mod i’n ei ‘nabod hi’n dda, ond dydw i ddim o gwbl. A dyma fi’n ffendio’n hun yn eistedd i lawr efo hi i drafod albwm cyntaf Tara Bandito.

“Oedd o’m fod yn album Doedd o ddim ‘sdi…” mae’n ei ddweud wrtha’ i pan ofynnais beth oedd ei gweledigaeth wrth fynd ati i greu’r albwm.

“Mi wnaeth ‘Blerr’ ddod i fi yng nghanol y cyfnod weird pandemic. Rhywbryd yn ystod hwnna. Ac ers dw i’n cofio dw i wedi sbïo ar fands ac wedi bod fel “dw i isio gwneud hynna gymaint dw i’m hyd yn oed yn gallu cydnabod y peth i fi fy hun”. Oedd o’n brifo gymaint, bron fel ‘mod i wedi gadael fy hun lawr drwy beidio’i wneud o. Oedd o fel euogrwydd, ti’n gwybod? Ac yna, all of a sudden, oedd gen i ‘Blerr’ ac oedd gen i ‘Rhyl’ a nes i ofyn i Llinos [cynhyrchydd y podlediad ‘Dewr’] be dw i’n gorfod ‘neud i ryddhau single? Beth mae rhywun yn ‘neud? Dw i’n meddwl bod gen i un neu ddau. A ‘naeth hi ddweud gofyn i Yws yn Côsh. A dyna nes i.”

Roedd y flwyddyn a ddilynodd hynny’n gorwynt iddi. Roedd ei gig byw cyntaf yn nunlle llai na The Roundhouse yn Llundain. Chwaraeodd Tafwyl a Maes B ynghŷd â 14 gig arall, a’r nesaf yw hedleinio Dydd Miwsig Cymru yng Nghlwb Ifor Bach.

“Oedd [y flwyddyn ddiwethaf] yn lot i drio delio efo fo’n emosiynol. Fel rhywun sy’n teimlo gymaint oedd yr holl wahoddiadau ‘ma i chwarae’n Tafwyl, chwarae’n Maes B yn supportio Eden, o’n i fel “What?” Oedd o’n lot o brosesu tra hefyd yn handio fy hun, fy enaid ar blât drwy fiwsig, dod i fyny efo concepts music videos, cyfarwyddo nhw, sortio costumes allan… oedd hi’n mad o flwyddyn.”

Does dim dwywaith fod Tara Bethan wedi cael gyrfa lewyrchus ond mae rhywbeth yn teimlo’n wahanol am y prosiect hwn. Mae Tara Bandito wedi cydio yn nychymyg pobl o bump i bum deg pump oed. Beth yw’r cynhwysyn hud?

“Tara Bandito ydy Tara Bethan, ac i gyd o’r ups a’r downs, a’r stwff tu mewn a’r siwrna, a’r bywyd yn cael ei dipio mewn pot o glitter. Os fyswn i yn eistedd ac adrodd lyrics fy nghaneuon ‘sa pobl yn rili trist, ond rho di o efo pumping drums a guitar solo dance moves a glitter, sequins, feathers ac mae pobl fel “dw i’n getio’r geiriau, dw i’n uniaethu ond hwrê gawn ni ddathlu ein unicornness” yn hytrach na eistedd yna efo acoustic guitar, lle nes i ddechrau efo Six Feet Under. Dw i’n meddwl mai’r rheswm mae o ‘di cymryd mor hir i gyrraedd rŵan ydy gweithio allan sut i beidio depressio pawb ond hefyd sticio i dy wirionedd di.”

Mae gwir a gwirionedd yn amlwg yn bwysig iddi, ac mae’n agored iawn i siarad am yr holl brofiadau da a drwg sydd wedi cerfio’r Tara yma sy’n dewis cael ei dipio mewn glitter.

“Dros ‘Dolig es i i fyny i’r Gogs a chyfarfod ambell berson yn y pyb oedd wedi dod drosodd i ddweud

“Tara Bandito, dw i’n licio stwff ti.”

Ond fel Tara Bethan – mae pobl yn adnabod ti os ti ‘di bod ar y teli neu’r radio, mae pobl yn gwybod pwy wyt ti dydyn, yn enwedig yng Nghymru, mae pawb yn ‘nabod pawb – fyswn i byth yn proud o hynny o’r blaen.

‘Swn i fel “o ia dyna dw i’n ‘neud ond dim dyna pwy ydw i.” Fysa ‘na rhyw awkwardness, ti’n gwybod? Ond rŵan, os ydy pobl fel “O ti ydy Tara Bandito?” dw i fel, “Yes! Talk to me!!”

A dw i’n meddwl be ydy o, sy kind of yn mynd yn erbyn bob dim dw i wedi’i osod i fi fy hun fel rheswm i wneud Tara Bandito sef “dw i’m yn care-io be dach chi’n feddwl,” ydy trwy bod pobl yn licio Tara Bandito dw i’n cael fy nerbyn. Mae’r fi go iawn yn cael ei derbyn. Ac mae hwnna’n rhywbeth dw i wedi stryglo efo fo trwy ‘mywyd. Pan o’n i’n ‘rysgol, o’n i ddim yn ffitio fewn achos o’n i’r hogan ar y teli do’n? A mae hwnna’n bad vibes. Ges i ‘mhen wedi fflysio lawr y toilet a petha fel ‘na ti’n gwybod? So, mae’r hogan fach ‘na eisio cael ei derbyn dal i fod ond dw i’n gwneud o ar telerau fi rŵan.”

Rhyddhau’r hogan fach

Un peth sy’n dod i’r amlwg yn ystod ein sgwrs ydy fod yr hogan fach saith oed ‘na wrth ochr Tara ym mhopeth mae hi’n ei wneud yn greadigol. Un o’r enghreifftiau cliriaf o hyn yw’r gân ‘Drama Queen’ sy’n fath o lythyr i’w hun pan oedd hi’n blentyn yn cynnig maddeuant am unrhyw gamau gwag a gymerodd ar y daith i’r man yma. Drwy’r fideo gwelwn glipiau o Tara yn blentyn yn perfformio.

“Drama Queen, Paid â dangos dy hun, Paid ymddangos fel ti dy hun

Gorchuddia wyneb â thlysni ffug…”

Rhain yw geiriau agoriadol y gân ‘Drama Queen’. Fel llawer o’i chaneuon, siarad gyda’i hun mae hi er bod modd eu dehongli nhw fel anerchiad i’w gwrandawyr.

“Dyna sut o’n i’n teimlo yn rhywle rhwng 7 ac 16 oed. Pobl arall yn gwisgo fi, pobl arall yn rhoi make-up arnaf i, pobl arall yn gofyn i fi golli pwysau.”

Gwyliwch y fideo a chraffwch ar y clipiau, mi welwch ychydig o’r tristwch ‘na mae Tara wedi sôn gymaint amdano yn ei llygaid hi.

“Efo’r blynyddoedd o therapi dw i wedi’i gael mae’r therapists yn gofyn o hyd “Sut mae dy hogan fach di’n teimlo? Sut mae Tara 7 oed yn teimlo?” Mae ‘na lot o waith o drio mynd yn ôl i’r cyfnod yna a gofyn be fysa chdi’n ‘neud i edrych ar ôl y plentyn bach ‘na rŵan? Fel oedolyn sut fyswn i wedi gwarchod y plentyn yna? A be dw i’n ‘neud [efo Tara Bandito] ydy ei rhyddhau hi, ei rhoi hi mewn ff**in sequin leotard a mynd “Watch this!” Felly pan dw i’n canu, yn perfformio a sgwennu a rhyddhau stwff, dw i’n oedolyn; ond pan dw i yn y sequin leotards ‘na dw i’n ôl yn saith oed ac mae ‘na rywbeth really healing am hynna. Achos fi sydd wedi dewis y sequin leotard tro ‘ma, neb arall.”

Ar ddechrau ein sgwrs fe soniodd Tara am y sioc a gafodd hi yn Nhafwyl pan welodd hi “kids bach 6 oed wedi gwisgo fel fi mewn plu yn dawnsio i ‘Blerr’” a’i bod hi ddim wir yn deall pam.

Prysurais i ddweud wrthi bod fy nwy nith fach i sy’n 6 a 7 mlwydd oed wrth eu boddau â chaneuon Tara Bandito hefyd, a pha mor falch ydw i eu bod nhw’n tyfu fyny yn gwrando ar “love yourself songs” yn hytrach na “love songs” (er bod lle i rheiny hefyd!) fel y gwnes i. Ond bron i awr o sgwrsio yn ddiweddarch, dw i’n sylwi bod mwy i’w mwynhad nhw o’r caneuon nag alaw fachog.

Mae gan y Tara 7 oed ran ym mhob penderfyniad creadigol mae’r Tara 39 oed yn ei wneud. Mae dychymyg abswrd plentyn, rhyddid chwareus ieuenctid, ac agwedd unrhyw-beth-yn-bosib yn drwch drwy Tara Bandito yn enwedig yn weledol. Dyna mae’r “kids bach” yn ei weld – ffrind i chwarae a chanu gyda hi, gofod diogel i ddawnsio ynddo. A beth amdanon ni oedolion? Rydan ni’n gweld y rhyddid a’r hyder i fod yn ti dy hun. Rydan ni’n gweld ei bod hi’n oce i fod yn llanast o dro i dro. Rydan ni’n gweld dathliad o ddod i ‘nabod ti dy hun, i dderbyn ti dy hun ac i garu ti dy hun am bwy wyt ti go iawn.

Yn nhywyllwch Clwb Ifor Bach ar nos Wener Dydd Miwsig Cymru a’r trydydd llawr dan ei sang un o’r pethau dedwyddaf allech chi ei weld yw band, dawnswyr a Tara Bandito mewn ff *** n sequin leotard.

This article is from: