RHIFYN 21 . MEHEFIN . 2010
y Selar
AM DDIM Y BADELL FFRIO DILWYN YUCATAN
DIWEDD DOCKRAD ...A LLAWER MWY
JEN
O R I N E J RHIFYN ARBENNIG ‘STEDDFOD YR URDD 2010 templateyselar.indd 1
1 27/5/10 09:56:47
Llyfrau byr, bachog, bywiog. Ar gael mewn siopau llyfrau a llyfrgelloedd. D RNO DIW YFR Y LL
http://bit.ly/storisydyn www.cymru.gov.uk/darparwyrdysgu
Huw Stephens Y gerddoriaeth newydd orau Dydd Llun a Mawrth 10pm bbc.co.uk/c2
templateyselar.indd 2
27/5/10 09:58:18
OWAIN S
JEN JENIRO
12
DILWYN LLWYD
L O D D Y G GOLY
d i’n gyfno l, mae h e n w ra r o o g g f ar y mrae eb yr ha erddoriaeth Gy gil effeithiau’r rd u s y r s Gyda ph awel yn y sin g u gweld raeg ld n dechra erddorion Cym dorol cymharo ewydd. Ydan ni’ g i id n wlfraint d hi’n dd deunydd ewn taliadau ha ydd cryf, a byd n yr w y r m b il r toriadau e hynny’n bosib dd fydd allan e a wy tybed? M o ddeunydd ne i. t in len e fa Rydan l o ld gwe o’r Selar. dor edlaeth n a e m G y d n cerd rhify Eisteddfo iawn i’r rsio efo ‘amgen’ l, yn sgw yfraniad label o a n m a e h a th Mae ‘na digon gw s ac yn dathlu c yddhau ig eld band yr ni’n cyfw oi’n drefnydd g enw i’w hun trw i’n dysgu am tr i d d nn u e e w n w d d w sydd bwy, edi g yn, by u sydd w mgen. Ar ben h edlaethol Glyn E sw ^ ia rd o c re a n u n, e y e G l fw d fo fo th ro d e b r d ia a r te cerddo ‘frinj’ Eis nd newydd sy’n ewis ei bump au gigs d drefniad wyniad i ddau fa i reit amgen yn (croesi ch eleni yfl fo a c a fi l e ‘n ra a b e c f a n m y ha dwl am meddwl, idion am n dechrau med ein y ac erbyn A gydag addew d d chi oll io y byd d! ^ r eich bo n nhw - gobeith perl hefy ae’n siw ,m iddy popeth!) erddorol i fynd c u. u lp a li e ba wy eich h d cyn i llion yn e h m y ithio, on iog, e b harg o g y i chi fell u sglein dalenna h diddor Digon i’c u pori trwy’r tu ...rhaid torri’r hra hyn chi ddec hi gnoi cil dros c i ll m ewy yn. beth a cael y cn n y c n y plisg
4
GWYLIO’R GWYLIAU Golygydd
Owain Schiavone (yselar@live.co.uk)
Dylunydd Dylunio GraffEG (elgangriffiths@btinternet.com)
MARCHNATA Ellen Davies (hysbysebion@yselar.com)
20 Mae’r Selar yn cael ei ddosbarthu ledled Cymru gan y Mentrau Iaith. Cysylltwch â’ch Menter leol i fynnu eich copi.
Cyfranwyr Dai Lloyd, Gwilym Dwyfor, Hefin Jones, Esyllt Williams, Telor Roberts, Barry Chips, Casia Wiliam, Huw Stephens
10
PUMP PERL
y Selar RHIFYN 21 . MEHEFIN . 2010
Ariennir Y Selar gan grant Cyngor Llyfrau Cymru. Argraffwyd gan Y Lolfa. Rhybudd – Defnyddir iaith gref mewn mannau, ac iaith anweddus mewn mannau eraill yn Y Selar.
3 templateyselar.indd 3
27/5/10 09:58:30
N Y W M R E I L L CO
ENNILL
Nid hyrwyddwr a threfnydd gigs cyffredin mo Dilwyn Llwyd. 12 mis yn ôl, roedd Dilwyn yn fwy adnabyddus fel cerddor – fo oedd sylfaenydd y grw^ p Yucatan a chyfansoddwr eu caneuon epig sy’n gerddoriaeth gefndirol ddramatig yn rheolaidd i raglenni teledu megis Caerdydd. Oedd, yn y blynyddoedd diwethaf roedd o wedi dablo gyda threfnu ambell gig gyda’i fêt Gethin Evs gwyliau bach amgen dan y brand ‘Coll’ yn fwyaf amlwg. Erbyn hyn, gyda llwyddiant ei gigs ‘Pethe Coll’ yn y Morgan Lloyd, Caernarfon, Dilwyn yw hyrwyddwr mwyaf toreithiog Cymru. Mewn cyfnod o ddirwasgiad ariannol, a chaledi arbennig yn y byd cerddorol
4 templateyselar.indd 4
Cymraeg oherwydd toriadau mewn taliadau hawlfraint, mae gigs Pethe Coll yn un o straeon llwyddiant go iawn yr SRG dros y flwyddyn ddiwethaf gyda 73 o gigs yn cael eu cynnal yno mewn cyfnod o 12 mis. Fel dywedodd Barry Chips amdano yn ei golofn ‘Y Badell Ffrio’ yn rhifyn diwethaf Y Selar “Mae’r boi yma’n cynnal y sin yn ei amser sbâr.” Ydy, mae o’n gwneud joban dda o waith, felly penderfynodd Y Selar gael sgwrs efo fo i weld beth sydd tu ôl i’r llwyddiant.. Felly mae’n siw^ r mai’r cam cyntaf ydy ffeindio allan beth oedd yr ysgogiad i Dilwyn fynd ati i gynnal gigs cyson yng Nghaernarfon yn y lle cyntaf? “Y syniad oedd creu
un canolfan o syrcit ehangach, a thrio ysgogi mwy o bobl i ddechrau fyny a gwneud yr un fath.” Cyfeirio mae Dilwyn at y syniad o greu ‘cylchdaith’ o gigs cyson yng Nghymru, gan roi llwyfan i fandiau ac artistiaid i deithio a gigo ledled y wlad - mae o’n syniad sydd wedi cael ei adleisio droeon mewn cyfarfodydd a sgyrsiau amrywiol am ‘ddyfodol y Sin Gerddoriaeth Gymraeg’ ond does ‘na neb wedi llwyddo i ffeindio’r fformiwla gywir eto. “Mae ‘na hefyd gwyno wedi bod am brinder gigs a diffyg cynulleidfa. Y bwriad oedd, ar lefel leol, i chwalu hynny trwy gael gigs bach cyson a phrysur”. Efallai wir fod gigs Dilwyn yn y Morgan Lloyd yn ddarn cyntaf ‘coll’ i’r jig-so ehangach!
myspace.com/yucatanambyth 27/5/10 09:58:51
cyfweliad: dilwyn llwyd
“
Pan ddechreuodd ‘Pethe Coll’, does bosib fod Dilwyn yn disgwyl i’r nosweithiau fod mor llwyddiannus? “Yn amlwg ar y dechrau roedd ‘ne ychydig o ofn y byddai neb yn troi fyny i’r gigs. Ond, ar ôl ychydig... wel, ar ôl 15 munud o’r gig gyntaf i ddeud y gwir, roedd hi’n amlwg fod yna gynulleidfa i’r noson.” Nid y gigs yma ydy’r ymdrech gyntaf i geisio sefydlu gigs cyson yn un o drefi Cymru wrth gwrs. Mae ‘na enghreifftiau niferus, rhai ohonynt yn digwydd ar hyn o bryd, rhai wedi llwyddo am gyfnod, ac eraill wedi bod yn fflop llwyr. Ond heb os, does yna’r un o’r ymdrechion blaenorol wedi llwyddo i gynnal cymaint o gigs dros gyfnod mor fyr o amser. Felly beth ydy cyfrinach llwyddiant Pethe Coll? “Trio pethe gwahanol ac amrywio pethe” meddai Dilwyn, “a thrio dod i adnabod y gynulleidfa o ran chwaeth ac ati. Mi wneith pobl fynd i weld gigs na fydden nhw’n mynd iddyn nhw fel arfer os wyt ti’n gwerthu’r peth yn y ffordd iawn. Os ‘di rhywbeth yn cael ei hyrwyddo a threfnu’n iawn, mi ddyle lwyddo yn dylie?” Os mai ceisio creu cymal cyntaf o gylchdaith ehangach o gigs cyson ydy bwriad gigs y Morgan Lloyd, pwy felly sy’n mynychu’r nosweithiau yn gyson? Ydy’r gynulleidfa’n un leol iawn? Yn ôl Dilwyn, “Ma’ne griw ffyddlon sy’n dod i’r gigs yn wythnosol. Wedyn
mae gen ti rai pobl sy’n digwydd bod yn pasio trwy’r dre, a rhai eraill sy’n teithio i’r gigs er mwyn gweld bandiau penodol. Ma pobl yn licio bod o gwmpas yr action dyden.” Ac yn sicr, y Morgan Lloyd ydy’r lle am ‘action’ ar hyn o bryd i gig-garwyr Gwynedd, os nad y gogledd i gyd. “Ma pobl yn troi fyny am y gerddoriaeth mwy na dim byd arall. Ond ma’n helpu fod pobl yn gwbod fod gig bob nos Wener a ma‘ne fwy a mwy o bobl yn dod i wybod am y gigs.” Mae’n amlwg fod Dilwyn yn meddwl yn ofalus am y gigs cyn bwcio’r adloniant hefyd, gan geisio creu awyrgylch a naws benodol ar gyfer gwahanol nosweithiau. “Ma’n gwneud synnwyr i sticio bandiau ac artistiaid o’r un math o arddull efo’i gilydd ar yr un noson. Ma’r noson yn llifo’n llawer gwell fel yne. Trwy wneud hynny ma’r gerddoriaeth yn creu awyrgylch ynddo’i hun, ond
ma golau isel a fairy lights yn gallu bod yn help hefyd!” Ond efo’r holl gigs mae Dilwyn yn trefnu, oes ‘na beryg iddo redeg allan o fandiau i lwyfannu? “Dim i ddweud y gwir. Ma’n anodd weithie gan fod neb lawer ar gael i chwarae, ond y mwya ti’n sbïo, mwy o gerddoriaeth ti’n ddarganfod. Mane gymaint mwy i’r sin gerddorol yng Nghymru na lineups Steddfod yn sicr!”
“
OS ‘DI RHYWBETH YN CAEL EI HYRWYDDO A THREFNU’N IAWN, MI DDYLE LWYDDO YN DYLIE?
“
“
.. AR Y DECHRAU ROEDD ‘NE YCHYDIG O OFN Y BYDDAI NEB YN TROI FYNY I’R GIGS.
5 templateyselar.indd 5
27/5/10 09:59:00
cyfweliad: dilwyn llwyd
Fel y soniwyd eisoes, nid y gigs rheolaidd yng Nghaernarfon ydy profiad cyntaf prif leisydd Yucatan wrth ddablo gyda hyrwyddo digwyddiadau cerddorol. Aeth ati gyda Gethin Evs (un arall sy’n fwy adnabyddus fel cerddor o fod yn ddrymiwr Kentucky AFC, Genod Droog a’r enwog Hyrbi!) yn 2007 i ^ gynnal Gw yl Gardd Goll ym Mharc Glynllifon ger Caernarfon. Yn dilyn llwyddiant yr w^ yl honno, a chanmoliaeth gyffredinol i naws y digwyddiad ymysg y rhai gwybodus hynny o fewn y sin, penderfynodd y pâr ymestyn eu prosiect gwyliau ^ coll, gan ychwanegu Gw yl Pentre ^ Coll a Gwyl Traeth Coll, ill dau mewn rhannau gwahanol o Roshirwaun, i’w portffolio yn 2008. Cynhaliwyd Pentre Coll a Gardd Goll eto llynedd, ond o ystyried prysurdeb Dilwyn gyda’r Morgan Lloyd, oes ganddo amser i gynnal gwyliau ychwanegol dros yr haf? “Ma Gw^ yl Gardd Goll yn cael ei chynnal yn Y Faenol, Bangor ar Orffennaf 27” meddai “gewn ni weld ynglyn â mwy o bethau. Dwi heb benderfynu eto.” ^
Mae hyn wrth gwrs yn codi cwestiynau ynglyn â dyfodol ^
6 templateyselar.indd 6
“
“
Wrth ei weld yn troi’n hyrwyddwr mor doreithiog, mae’n ddigon hawdd anghofio mai cerddor ydy Dilwyn Llwyd yn y bôn. Wrth gwrs, er bod nifer wedi trio, nid pob cerddor sy’n gallu bod yn hyrwyddwr da hefyd, ond ydy o wedi ei gweld hi’n anodd gwneud y ddau beth? I’r gwrthwyneb mae’n ymddangos, “y fantais fel cerddor ydi bod ti’n nabod y bandie eraill. Os ti’n meddwl am y peth, os byse pob band yn mynd ati i drefnu gigs byse gen ti dipyn i sin - ella ma dyne di’r ffordd ymlaen. Wedi deud hynny, ydi, mae o’n anodd cael amser i wneud y ddau beth.”
MANE GYMAINT MWY I’R SIN GERDDOROL YNG NGHYMRU NA LINEUPS STEDDFOD YN SICR!
Yucatan. Yn 2007 roedd y band ym mhobman a ni chafwyd yr un adolygiad gwael i’w halbwm gyntaf o’r un enw â’r band ... i’r gwrthwyneb a dweud y gwir. Yn y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf does dim amheuaeth eu bod wedi tawelu,
ond does dim angen gofidio yn ôl sylfaenydd y band, “de’ ni’n chware mewn nifer o wyliau’r haf yma, ac yn mynd i fod yn rhyddhau EP o’r enw Enlli ar 26 Gorffennaf ar Recordiau Coll. De’ ni’n gobeithio gallu recordio mwy yn fuan iawn ar ôl hynny”. Recordiau Coll? Mae ‘na awgrym yn yr enw fod Mr Llwyd yn dechrau label recordio ei hun hefyd ...”do dwi di ffurfio Recordiau Coll a’r EP fydd y cynnyrch cynta’.” Hyn oll, ac yntau hefyd yn dal i fod yn athro celf rhan amser! Gwir yw’r gair, mae’r boi yma’n cynnal y sin yn ei amser sbâr.
myspace.com/yucatanambyth 27/5/10 09:59:09
GIGS GWAHANOL Y GENEDLAETHOL
“
na phoener yn ormodol, gan fod y Gymdeithas wrthi’n trefnu cyfres o gigs amgen yng Nghlwb Rygbi Glyn Ebwy i sicrhau bod dewis arall i arena Maes-B. Un o’r rhai hynny sy’n helpu trefnu’r gigs amgen ydy Jamie Bevan, sydd hefyd yn aelod o’r band lleol, Betti Galws. Meddai Jamie, “dw i’n credu bod y bartneriaeth rhwng yr Eisteddfod a’r Gymdeithas eleni yn gyffrous iawn. Dylai sicrhau cynulleidfaoedd gwell ar gyfer gigs Maes B a bydd hynny’n creu awyrgylch gwell i’r bandiau a’r pyntars. Ni’n cael cyfle i chware ar lwyfan mawr Maes B ar y nos Fercher – bydd yn brofiad ffantastig.” A dywed bod y Gymdeithas “yn trefnu nosweithie diddorol yn y Clwb Rygbi.” Ac yn sicr bydd digon o amrywiaeth “gobaith y nos Lun yw ysbrydoli caneuon protest newydd gyda Dafydd Iwan, Gai Toms a Just Like Frank, cwis gyda Huw Stephens a Huw Evans ar y Sul, mae Elidir o Plant Duw yn trefnu noson stand yp ‘Y Babell Wên’ ar
“
Wedi blynyddoedd o gystadlu a checru, daeth y newyddion mawr fod Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn mynd i gydweithio gyda’r Eisteddfod Genedlaethol i hyrwydd gigs ^ yr w yl eleni. Nid dyma’r tro cyntaf i’r ddau sefydliad gytuno i’r fath gytundeb cofiwch - y Gymdeithas aeth ati i sefydlu Maes-B yn Eisteddfod Bala 1997, a pharhau i redeg y gigs yn llwyddiannus am bedair blynedd nes Llanelli 2001. Yn anffodus, am resymau amrywiol, doedd dim modd i’r berthynas barhau y tu hwnt i hynny ac aeth yr Eisteddfod ymlaen i drefnu gigs Maes-B, tra bod y Gymdeithas yn cystadlu benben â hwy gyda’u gigs annibynnol. Doedd y drefn hon ddim yn beth drwg o gwbl i gig-garwyr cofiwch, gan fod llwyth o ddewis o nosweithiau i fynd iddyn nhw yn y Steddfod bob blwyddyn. A bydd nifer o fandiau a phobl sy’n mwynhau’r dewis yn gofidio am ddiffyg cyfleoedd i berfformio ar un llaw a diffyg amrywiaeth ar y llall. Ond,
DW I’N MEDDWL FOD Y BARTNERIAETH RHWNG YR EISTEDDFOD A’R GYMDEITHAS ELENI YN GYFFROUS IAWN.
MR HUW
y nos Fawrth a bydd noson ‘Troelli a Delweddu’ ar y cyd gyda Pictiwrs yn y Pyb yng nghwmni rhai o arloeswyr y sin electroneg yng Nghymru ar y nos Fercher.” “Ddiwedd yr wythnos ges i’r syniad y gallai Heather Jones arwain gig ‘Carchar dros Iaith’ gyda lluniau o bawb sydd wedi bod i garchar dros y Gymdeithas - mae Meinir Ffransis, sydd wedi bod i garchar sawl gwaith ei hunan yn mynd i gydlynu’r prosiect. Ni ‘di dechrau chwilio am bawb sydd wedi bod i garchar yn barod! Mae nifer wedi marw erbyn hyn. Base’r un Steddfod yn gyflawn heb noson gyda Meic Stevens
wrth gwrs! Mae e’n chware gyda Huw M a’r band newydd Cyfoes nos Wener a Bob Delyn, Mr Huw a Twmffat sydd ar y Sadwrn olaf.” Lot o stwff da felly, ond beth am ei fand ei hun? “Mae Betti Galws yn teimlo’n gryf iawn dros yr iaith. Yn dod o ardal fel Merthyr Tudful dyn ni’n teimlo’r pwysau o fod yn y lleiafrif bob dydd. Ni yw’r band Cymraeg cyntaf o Ferthyr Tudful.” Dywed Jamie fod EP cyntaf y band Betti Galws yn cynnwys y trac ‘Cig a Gwaed’ wedi “ei ysbrydoli gan sefyllfa’r Iaith Gymraeg ‘...cynrhon yn bwyta tafod call, cynrhon yn bwyta cig a gwaed...’!!!” Mae’r band eisoes wedi chwarae nifer o gigs i’r Gymdeithas a bydd modd eu gweld yn chwarae ar nos Sadwrn gyntaf yr Eisteddfod yn y Clwb Rygbi yng Nglyn Ebwy ac ar y nos Wener yn Maes B. Bydd y band hefyd yn dychwelyd i’r stiwdio dros yr haf i recordio eu halbwm newydd.
Mae manylion llawn gigs amgen y Steddfod ar wefan Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, www. cymdeithas.org.
Cwis pop Ifan'Elfis'Ifans
Nôl eto! Yffach! Mwy o comebac comebacks na Gordon Brown. Wel falle fyddai mas ar fy mhen ôl fel y Sgotyn sych cyn bo hir hefyd. ’68 comeback speshal, dyna’r unig un sy’n cyfri bois! Yeeha! Sôn am Brown, (neu ‘Broon’ fel mae nhw’n gweud lan fynna) a’r blydli lecshwn busnes ‘ma i gyd, wel ‘na chi ffys, heb os. Lib Dem, Tori, Plaid ma’ fe’n ddryslyd iawn trio pleidleisio pan chi mor short-sighted a fi. Ond wnes i foto i’r Brechfa Newydd Parti - John Brechfa Newydd, Llanybydder odd yn sefyll fel ^ independant, wel, fi’n itha siw r taw na beth odd BNP yn sefyll am ar y daflen.
‘Ta beth, un peth da am y lecshwn odd ges i gynnig DJ’o ym mharti dathlu Plaid Cymru, Llanwnnen branch . Wel na beth odd noson ddiflas. Aeth ‘It’s Now or Never’ ac ‘Are You Lonesome Tonight’ ddim lawr yn dda o gwbl. Still, ges i gwpl o requests, y pethe arferol fel “’Chwarae’n troi’n Chwerw’, ‘Parti Ysbrydion’ ac wrth gwrs ‘Tacsi i Mr Ifans!!’. O wel. Trïwch y cwestiynau gwleidyddol mae for seiz 1 Pwy oedd ishe chi bleidleisio ‘Ie, Ie, Ie dros Gymru’ yn 1979?
2 Pwy oedd Elfyn Presli a’r Massey Fergusons yn canu amdano yn ‘Jackboots’? 3 Ar ba gân gan Datblygu mae David R Edwards yn teimlo fel ‘Cymdeithas yr Iaith, neu dyn dall yn chwilio am waith’? 4 Ym 1971 roedd ‘Chwyldro’ yn ein hannog trwy ganu: ‘Rhaid yw eu tynnu i lawr’ - tynnu beth i lawr? 5 Yn lle y darganfyddodd Cerys Matthews “gwir baradwys” wrth iddi annog “Cymru Gysglyd gwlad y gân” i ddeffro? ATEBION AR DUDALEN 21
7 templateyselar.indd 7
27/5/10 10:02:53
DAU I’W DILYN AELODAU CYFARWYDD, AG AI RH ND O LI, NL DA N O SB DAU FAND NEWYDD N Y RHIFYN YMA: SY’N CAEL SYLW DAU I’W DILY
SIDDI Pwy: Siddi ydi Branwen ac Osian, brawd a chwaer o Lanuwchllyn. Bydd rhai ohonoch chi’n eu cofio nhw ers eu dyddiau yn y band Pala - pwt o beth oedd Osian bryd hynny, ac mae o’n dipyn talach, a’i wallt o’n lot hirach erbyn hyn! “De ni byth a hefyd yn gwneud cerddoriaeth yn y ty” meddai Branwen. Mae’r chwaer fawr hefyd wedi cael ei gweld ar lwyfannau lu gyda Y Rei, tra bod Osian hefyd yn aelod o Candelas, sy’n un o gyn-fandiau Dau i’w Dilyn. Gan fod Siddi yn enw bach anarferol, dyma Branwen i egluro’r cefndir, “nes i `sgwennu traethawd ymchwil ar Dylwyth Teg, ac ar ôl darganfod stori o ardal
Llanuwchllyn, dyma benderfynu creu albwm yn seiliedig ar y stori. Mi fydd pob cân yn ficrosgop ar wahanol rannau o’r stori. Mae ‘Siddi’ yn hen, hen air ar fyd y tylwyth teg, neu ar dylwyth teg drwg.” Os ydach chi eisiau dysgu mwy am dylwyth teg ardal Llanuwchllyn, mae modd darllen eu hanes trist ar safle MySpace Siddi.
^
Y sw^ n: Er mai band roc ydy prosiect arall Osian, Candelas, mae ^ sw n Siddi’n wahanol iawn. Maen nhw hefyd yn hollol wahanol i Pala, oedd yn perfformio caneuon sioe gerdd-aidd y byddai Andrew Lloyd Webber yn falch ohonyn nhw! Maen nhw’n rhestru bandiau ac artistiaid gwerinol iawn ymysg eu
HAKU TOKIN4WA Pwy: Wel, cyn mynd dim pellach, mae ‘na stori ddifyr iawn ynglyn ag enw’r prosiect cerddorol yma! Pan ddaeth Y Selar ar draws y prosiect yn gyntaf, ‘TOKINAWA’ oedd yr enw, ond erbyn hyn mae’n cael ei adnabod fel HAKU TOKIN4WA! Dyma’r stori o’r ffynhonnell wreiddiol: “cefais e-bost anghynnes iawn gan gwmni o’r enw Tokinawa Electronics, cwmni adeiladu robotiaid yn Siapan, yn dweud y bydden nhw’n cymryd camau cyfreithiol yn fy erbyn i os na fyswn i’n newid yr enw! Gyrrais e-bost yn ôl i’r cwmni gan gynnig ‘HAKU TOKIN4WA’ fel opsiwn. Clywais i ddim byd am fis, ond yna ges i ateb yn dweud fod hynny’n iawn gan mai ‘HAKU’ oedd enw merch prif beiriannydd y cwmni. Cyd ddigwyddiad? Neu Ffawd? Pwy a w^ yr...” Diolch am yr eglurhad Mr Carwyn Jones, neu byddai rhai ohonoch chi’n ei adnabod yn well fel Kim de Bills. HAKU TOKIN4WA ydy prosiect cerddorol diweddara’r gw^ r sydd hefyd wedi bod yn aelod o’r Genod Droog a Yucatan ^
8
yn y gorffennol. Prosiect un dyn felly, ond mae ganddo westeion arbennig wrth berfformio’n fyw, “wrth chwarae yn fyw dwi’n cael y fraint o gael Dyl Mei ei Roberts, pen bach mwyaf Cymru, a The e Stone Jones, drymiwr gorau’r wlad.” ^ Y sw n: Prosiect electronica ydy hwn, felly llwyth o bîts da a dim math o lais canu’n agos ato. Gan fod ‘alter eto’ Carwyn, Kim de Bills, yn DJ, tydi hi ddim yn syndod gweld fod ei brosiect diweddara yn cymysgu tipyn o samplau Cymraeg gyda sw^ n electroneg unigryw. “Un o fy mwriadau oedd defnyddio nid yn unig samplau Cymraeg, ond defnyddio samplau cerddorion sydd wedi dylanwadu arnaf dros y blynyddoedd yn yr S.R.G ... neu’r S.E.G erbyn hyn!” Mae’r trac ‘Bwcomashi’ ar ei MySpace yn cynnwys sampl Gwilym Morus, ac mae o’n bwriadu troi ei fachau electronig at samplau gan artistiaid eraill yn fuan, “dwi wedi derbyn samplau gan fy hoff artistiaid fel Dau Cefn a Jen Jeniro. Bydd y trac Jen Jeniro
GWRANDWCH ARNYN NHW OS YDYCH CHI’N LICIO: Messner, Cyrion, P.S.I.
GIGS AR Y GWEILL: ^ 9 Gorffennaf - Gw yl y Cenhedloedd Bychain, Cilycwm 31 Gorffennaf – Maes B, Glyn Ebwy
wedi’i orffen ac yn cael ei berfformio’n ^ arbennig yng Ngw yl Gwydir eleni.” Hyd yn hyn: Eto, prosiect newydd iawn ydy HAKU TOKIN4WA, ond mae Carwyn wedi bod yn brysur yn bwcio’i hun mewn i gigs amrywiol yn barod. “Dwi wedi neidio o’r badell i’r tân mewn ffordd, chwara teg i drefnwyr gigs a gwyliau am roi gymaint o ffydd yna’i. Big Weekend Fringe, (sef yr w^ yl ymylol sy’n cyd-fynd â phrif w^ yl Big Weekend
yselar@live.co.uk
templateyselar.indd 8
27/5/10 10:03:08
dau i’w dilyn
Y BADELL www.myspace.com/siddiband dylanwadau, ac yn sicr mae ‘na dinc o 9bach pan fo Branwen yn canu, a rhywfaint o Gowbois Rhos Botwnnog yn y gân ‘Y Tro Cynta’ sydd ar eu safle MySpace. Meddai Branwen “mae cerddoriaeth werin wastad wedi dylanwadu arnom, a’n syfrdanu ni, felly mae Siddi’n tynnu maeth o gerddoriaeth werin Cymru. ‘De ni hefyd yn gwirioni ar yr ‘adfywiad’ gwerinol sy’n digwydd ar hyn o bryd e.e. 9bach, Gareth Bonello, Calan ac yn Saesneg, Laura Marling, Noah and the Whale, Mumford and Sons cymysgedd o’r rhain ydi’n dylanwadau ni, ond mae’r stori dylwyth teg yn ysbrydoliaeth ynddi ei hun.” Hyd yn hyn: Mae Siddi yn fand ifanc iawn - dim ond ers mis Ebrill maen nhw ar MySpace, ond wrth gwrs mae’r aelodau’n ddigon cyfarwydd â’i gilydd ac wedi bod yn brysur yn cyfansoddi a recordio yn barod. “Yr unig beth mae Siddi wedi ei wneud ar hyn o bryd ydi recordio a chyfansoddi yn y ty gydag Osian a fi’n chwarae’r offerynnau rhyngom. Felly, ar hyn o bryd ‘de ni ^
wrthi’n casglu band ac yn gorffen recordio 4 cân arall” meddai Branwen. Mae’r pedair cân y maen nhw wedi’u recordio eisoes i’w clywed ar safle MySpace y band, ac yn derbyn ymateb ffafriol iawn medde nhw. Cynlluniau: Fel yr ydym eisoes wedi clywed, mae’r ddeuawd yn edrych ar ehangu ac adeiladu band yn y dyfodol agos, a’r bwriad wedi hynny ydy dechrau perfformio’n fyw cyn gynted â phosib. “Mi fase ni wrthi ein bodd yn dechrau gigio yn weddol fuan, ond mae’n rhaid gorffen y caneuon yn gyntaf. Yn bersonol, mi fyswn i wrth fy modd yn perfformio mewn capeli gwledig, ganol ‘nunlle ... acwstics a naws anhygoel!”
GWRANDWCH ARNYN NHW OS YDYCH CHI’N LICIO: Gareth Bonello, Cowbois Rhos Botwnnog
www.myspace.com/tokinawa Radio 1) fydd fy mherfformiad cyntaf i. Ond dwi wedi bod yn gweithio’n galed gyda’r hogia’ ac yn hyderus fydd y sioe yn un i’w chofio.” Yn ôl Carwyn bydd Dean ‘Fuzzyfelt’ a P.S.I yn rhoi help llaw i HAKU TOKIN4WA ar yr ochr weledol wrth berfformio’n fyw, “nid cerddoriaeth liwgar yn unig fyddwn ni yn ei chreu, ond sioe weledol hefyd.” Byddan nhw hefyd yn perfformio yn yr Eisteddfod Genedlaethol, “ma sioe wefreiddiol wedi’i threfnu ar gyfer y sioe yna ar nos Sadwrn gyntaf.” Mae perfformiadau yng Ngw^ yl Nyth yng Nghaerdydd a Gw^ yl y Cenhedloedd Bychain wedi eu trefnu hefyd. Cynlluniau: Mae’r gigs yn mynd i’w gadw’n brysur am y tro, a does dim bwriad i HAKU TOKIN4WA fod yn segur yn y dyfodol agos wedi hynny. “Dwi’n gweithio ar albwm ar y funud - i ddeud y gwir mae gennai ddigon o ddeunydd i recordio dau! Ond araf bach ma dal iâr ‘de. Dwi ddim am ddatgelu gormod sut rydym yn mynd i ryddhau’r albwm.”
FFRIO
Barry Chips
Y SÎN ROC BRYDEINIG Deugain mlynedd wedi coroni Carlo’n Dywysog Cymru, wele’r werin Gymraeg yn sugno’n hael unwaith eto ar deth drymlwythog Prydeindod. Do wir daeth jambori’r Gorfforaeth Brydeinig draw i Wynedd, i sigo’i Chymreictod gyda llu o ffartistiaid Eingl-Americanaidd is safonol. Radio One’s Big Weekend oedd sail ^ y cyffro, gyda’r BBC yn cynnal yr w yl gerddorol ‘am ddim’ fwyaf yn Ewrop. Hael yw Hywel ar bwrs y wlad. Roedda nhw’n pedlo’r myth ‘am ddim’ fel tasa neb erioed wedi gorfod talu £145.50 am drwydded i wylio’r teli. Do, cafwyd mymryn o fandiau lleol ar y llwyfan llai, yn canu mor gynnar â phosib yn y dydd. Cafwyd gigs llai fyth ar yr ymylon gydol yr wythnos. Faint gostiodd hi i gael cewri fel Cheryl Cole a Picsi Snot draw? Ychydig bach mwy na’r Noson Wobrwyo cRAP gafwyd ar Radio Cymru. Daeth honno’n fyw o stiwdio – dim pres i noson wobrwyo bandiau Cymraeg. Tlawd iawn, rhad arnoch ein Hannwyl Gorfforaeth Brydeindodlud!
BIJI-BO Y DDRAIG Fel dywedodd Dewi Pws o mor ddeheuig yn Golwg - fy hoff gylchgrawn yn y byd i gyd yn grwn - peth sâl fydd the Welsh night yn Brynffest eleni. Mae’r Terfelddyn wedi cael cwmni recordiau Universal i fewn i drefnu’r arlwy ar gyfer Gw^ yl y Faenol. Ac wele, noson bei-ling ydi Tân y Ddraig. Mae blas Indi iddi, gyda Yr Ods a Masters In France yn chwifio’r Ddraig Goch, a has-beens fel Interpol, The Feeling a Shed Seven yn cynrychioli Awyr Inglish Ffrends. Mor wych ag oedd Shed Seven nôl yn y Nawdegau, go brin bo neb dan dri deg yn gwybod pwy ydyn nhw erbyn hyn. Os mai gwneud arian ydi bwriad y bei-ling, fydd The Feeling a’u tebyg ddim yn gwerthu tocynnau. Yr hen SRG druan. Briwsion yn y Big Weekend, briwsion yn y Faenol, briwsion yn Wakestock, briwsion ar Radio Cymru. Prysured y dydd y daw Sesiwn Fawr Dolgellau yn ei hôl (heb y canwrs crap world music yna). Ond daw eto haul ar fryn, ac edrychwn ymlaen at gael chwistrelliad o’r hen ganu Cymraeg yn Steddfod Blaenau Gwent. Mae’r Maes-B yn bwysicach nag erioed wrth i’r llif Prydeinig ein boddi mewn môr estron...
9 templateyselar.indd 9
27/5/10 10:03:13
. . . l r e p pump
HEFIN
JONES
GYDA’R SEFYDLIAD CERDDORIAETH BETH ALLWCH CHI DDWEUD AM MR HEFIN JONES? ERBYN HYN, MAE MEWN SWYDD BARCHUS SARN A DWI’N SIW R I MI EI GLYWED GYMREIG, OND BU HEFYD YN CYNNAL GIGS CYSON TRA’N RHEOLWR AR DAFARN TY NEWYDD RHYWDRO HEFYD. MAE O HEFYD UN O YN BEIRNIADU BANDIAU IFANC Y WLAD YNG NGHYSTADLEUAETH BRWYDR Y BANDIAU C2 CERDDORIAETH! DYMA’I BUMP PERL. REOLWYR LABEL SBRIGYN YMBORTH ... SY’N DYSTIOLAETH FOD GANDDO DAST DA MEWN ^
^
O’r catalog sylweddol sydd ganddo i’r diweddar Jonez-Williamz - fyddai wedi gwneud y rhestr yma oni bai am hon mae’n hollol wirion i feddwl am unrhyw un yn ymollwng albwm gyntaf mor gythryblus o wych ar y byd. Ar y gwrandawiad cyntaf, mae’n dechrau braidd yn, wel, rybish hefo munud o nodyn sy’n cynyddu’n raddol. Bellach, mae’r nodyn yna’n gwneud perffaith synnwyr fel corn o rybudd am yr awr aruthrol o neidio, rheibio, poeri a gwawdio sydd ar fin cychwyn. Mae’n ddaeargryn didostur a diflino, yn ffrwydrad geiriol a cherddorol o anterth pur, yn daranau o greu a gwylltineb hefo seibiannau tangnefeddus. Cymaint ydi dyfnder Mr Blaidd mae ‘Ffyrnig’, ‘Aros am bysus a trenau’, ‘XR3i’, ‘Water wars’, ‘Space serial kila’, ‘Anifail gwyllt’ a ‘Neith y byd im para’m byth’ oll wedi codi tent yn fy mhen fel hoff drac o’r albwm yn ystod y ddeng mlynedd dwytha, a mi fyddai wedi bod yn ddegawd gwahanol a diflasach heb y behemoth yma oedd mor ddiymdrech ddewr a Datblygu, ond eto mor greadigol a Leonardo da blydi Vinci.
“
RO’N I’N CHWARAE MOR AML NES IDDI ARWAIN AT ANGHYTUNDEB CORFFOROL EFO BEDWYR Y BRAWD
“
MC MABON - MR BLAIDD
THE POGUES - IF I SHOULD FALL FROM GRACE WITH GOD Yn plethu onglau modern gyda dylanwadau Gwyddelig, roedd y Pogues yn llwyddo i wylltio rhai cerddorion traddodiadol yn Iwerddon, oedd yn eu condemnio am amharchu’r gwreiddiau, tra ar yr un pryd yn pechu’r sefydliad yn Lloegr. Cafodd caneuon eu gwahardd o orsafoedd radio, a rhai siopau yn Lloegr yn
gwrthod stocio’r albwm. Yr hyn arweiniodd at yr helynt oedd geiriau annelwig, eistedd-ar-y-ffens fel “There were six men in Birmingham and in Guildford there’s four, they were picked up and tortured and framed by the law, and the filth got promotion, but they’re still doing time, for being Irish in the wrong place and at the wrong time” oedd yn sôn am y carcharu Gwyddelod dieuog er mwyn cosbi rhywun rywun am weithredoedd yr IRA - a hyn tra oeddent dal yn y carchar a’r awdurdodau
10 templateyselar.indd 10
27/5/10 11:31:40
pumpperl: hefin jones
DAVID BOWIE - HUNKY DORY Fel arfer, The Rise and Fall of Ziggy Stardust yw’r albwm Bowie a gaiff ei dyrchafu fel ei binacl. Ychydig mwy meddylgar nag egni slap-yn-y-wyneb honno, ac yn wyrdroëdig allan flwyddyn ynghynt ag ystyried y gwahaniaeth enfawr mewn aeddfedrwydd ei naws, daeth Hunky Dory. Yn cario ar afonydd o ysgafnder, ing, gwamalrwydd a dwyster, mae’n ficrocosm eithriadol o fodoli os ti’n gofyn i mi. Roedd awgrymiadau cryf o athrylith
Bowie ar yr albwm Space Oddity, ac er nad ydi gweddill yr albwm The Man Who Sold the World cystal â’r trac teitl, daeth Hunky Dory nesaf. A dim rhyfedd bod Bowie wedi newid cyfeiriad yn syfrdanol mor sydyn tua glam-roc, gan nad oedd pwrpas trio ehangu ar hon. Tra bod Ziggy Stardust yn llawn brwdfrydedd, rebeliaeth ac ysbryd ifanc byw i’r eiliad, mae Hunky Dory fel petai’n ôl-edrych, dadansoddi a chroniclo cwmpawd bodoli, caneuon fel ‘Quicksand’, ‘Life on Mars’ a ‘Bewlay Brothers’ yn brofiadau ysgubol, ysbrydol hyd yn oed, ac ‘Oh You Pretty Things’, ‘Kooks’ a ‘Changes’ yn codi’r galon yn athrylithgar a chywrain.
CYRFF - LLAWENYDD HEB DDIWEDD Ydan ni’n tueddu fwy tua albyms ein plentyndod? Efallai wir, a ro’n i’n chwarae hon mor aml nes iddi arwain at anghytundeb corfforol hefo Bedwyr y brawd. Roedd o hefyd wrth ei fodd hefo’r albwm, ond doedd o ddim eisiau ei chlywed bob diwrnod am 9 mis am ryw reswm. Tydi’r caneuon ‘mawr’ ‘Cymru, Lloegr a Llanrwst’ neu ‘Pethau Achlysurol’ er enghraifft - ddim yma, ond mae’r casgliad yn dangos i’r dim pa mor gyson wych oedd Y Cyrff, tra hefyd yn
ffordd gymharol hawdd o ddod i mewn i’r grw^ p. Er yn berffaith fel cyfanwaith, mae caneuon unigol fel ‘Beddargraff’, ‘Colofn’, ‘Cwrdd’, ‘Eithaf’, ‘Nunlle’, ‘Merch Sy Byth yn Gwenu’, ‘Euog’, ‘Seibiant’ (fy nhôn ffôn rw^ an, ac am byth mwya’r tebyg), ‘Crafanc’, ‘Colli Er Mwyn Ennill’, ‘Hadau’r Dychymyg’ (ydw i wedi enwi nhw i gyd? Wel, maen nhw i gyd yn hollol wych) oll yn 3 munud o weledigaeth. Campwaith llwyr o sgwennu a pherfformio cywrain, di-lol, gonest a gwrth-showbiz.
MEIC STEVENS - NOS DU, NOS DA Mae dewis y bumed yn anodd. Bob
^ yn gwrthod eu rhyddhau. Rw an mae mynd ar nerfau Toris yn rheswm ynddo’i hun i hoffi albwm, ond mae ‘If I Should Fall From Grace with God’ yn rhagori ar lwyth o lefelau, yn bywiogi’n orffwyll hefo ‘Turkish Song of The Damned’,’ Medley’ a ‘Bottle of Smoke’. Nid ‘prydferth’ yw’r gair cyntaf a ddaw i’r meddwl wrth ddisgrifio Shane MacGowan, ond dyna’n union ydi ‘Lullaby of London, ‘Broad Majestic Shannon’ a ‘Thousands are Sailing’. Anferth o albwm.
Delyn, Suede, Anrhefn y mwyaf amlwg o’r rhai sydd wedi methu o drwch blewyn, a phlethora o rai mwy modern hefyd, ond setlaf ar un hynod amlwg, clasur Meic Stevens o 1982. Er bod cymaint o’i ganeuon gwych i’w canfod ar albyms eraill, does ‘run o’i albyms yn plethu mor daclus i gyfanwaith â Nos Du Nos Da. Nid ei fod yn brin o glasuron o bell ffordd, ‘Y Meirw Byw’, ‘Dic Penderyn’, ‘Bobby Sands’ a ‘Môr o Gariad’ y cewri mwyaf yma, ond cryfder y gweddill sy’n codi’r albwm ar bedestal eithriadol o uchel. Yr hyn sydd weithiau’n hawdd ei anghofio am Meic yng nghanol yr holl ^ stw r a’r hylibalw o’i gwmpas, yw safon syfrdanol ei farddoniaeth, achos dyna ydy geiriau hynod y caneuon aruthrol yma heb os. Ar ben ei gêm, a phrin yw’r rhai sy’n gallu cystadlu â Meic Stevens ar ben ei gêm.
11 templateyselar.indd 11
27/5/10 10:03:18
Y JEN AR
O R I N E J JEN ^
Gwion: Dolphin Pinc a Melyn ydi ei henw hi a ‘naethon ni recordio hi yn stiwdio John Lawrance yn Nant y Benglog, Capel Curig, on and off rhwng ’Dolig a’r Pasg.
Llaethog chwarae yn Nyth@Gwdihw. Dyma fi a Gwion yn dechra’ malu cachu ^ a phenderfynu ’sai’n cw l gofyn i Llwybr Llaethog neud remix ar gyfer b-side y sengl. Gwion: Wedyn, ’naethon ni jest gofyn iddyn nhw, a’i anfon o iddyn nhw! Aeth Llyr (Davies) a fi atyn nhw unwaith a ’gaethon ni gan o Fosters yna. Wel deu’ gwir, gesh i gan o Fosters, gafodd Llyr espresso gan ei fod o’n dreifio! ^
Dafydd, o Eitha Tal Ffranco gynt yw aelod diweddaraf Jen Jeniro. Pryd, sut, a pham y digwyddodd hynny? Dafydd: ’Dw’i ‘di ’nabod Llyr ers oes, a ’dw’i ’di licio Llyr ers oes, a Llyr ’di’r unig un ’dw’i dal ’i licio…(pawb yn chwerthin)… Pearl: O’ ti’n licio fi am ‘chydig bach do’t. Dafydd: O’ chdi’n iawn… Eniwe, o’n i’n Gw^ yl Pentra Coll, ac o’n i’n isda yn y gynulleidfa’n gwrando ar Nia Morgan, a ’nath Llyr biciad rownd y gornal a mynd: “Psd, s’gin ti organ?”, ac esh i, “Oes. ’Dwi’n Eitha Tal Ffranco, to right bod gen i organ”, ac wedyn nath o ddeud, “Tisho chwarae organ i Jen Jeniro?”, ac esh i, “Ia, iawn” ac wedyn dyna fo, ro’n i yn y band! Gwion: Ac wedyn sylweddolon ni bod organ yn swnio’n s**t, so mae o’n chwarae gitâr rw^ an! ^
^
^
John: F*****g hopeless, disorganized, ddath Eryl ddim i’r stiwdio nes oedd yr holl fiwsig wedi gorffen! Gwion: ’Da ni’n gobeithio rhyddhau’r CD yn fuan. Mi fydd hi’n cael ei rhyddhau yn ddigidol ac ar gasét hefyd. Retro! Holais wedyn os oedd rhywbeth mwy na sengl ar y gweill?
’SWN I’N CARU OS FYSA GARETH BONELLO YN RHOI GWERSI GITÂR I MI.
^
^
Yn ffodus i mi, roedd John ei hun yn bresennol yn y cyfweliad felly bachais ar y cyfle i’w holi sut griw i weithio â nhw oedd Jen Jeniro. Atebodd â’i dafod yn ei foch...
“
“
GEIRIAU : GWILYM DWYFOR Ddechrau mis Mai mi fûm yn y Globe ar Albany Road, Caerdydd yn gwylio pennod arbennig o Bandit yn cael ei recordio. Un o’r bandiau oedd yn chwarae yno oedd Jen Jeniro ac yn dilyn y gig cefais gyfle i gael sgwrs efo nhw am bob peth o’u sengl newydd i sefyllfa’r SRG ar hyn o bryd. Dechreuais trwy holi pedwar o aelodau’r band; Eryl (Pearl), Llyr Pari, Gwion a Dafydd am y sengl newydd.
Dafydd: Do, ers hynna ’da ni ’di sylwi bod organ ddim yn practical. Llyr: Wel, ers hynna ’da ni ’di sylwi bod gen ti ddim organ! ^
Wrth sôn am newid aelodau roedd yn rhaid i mi ofyn un peth i’r hogia. Er bod y band yn eithaf sefydlog ar hyn o bryd gyda Llyr Davies ar y dryms a Siôn Richards ar y bâs, byddai’n deg dweud eu bod wedi cael mwy na’u siâr o aelodau yn y gorffennol! Felly, sawl drymar a sawl chwaraewr bâs sydd wedi bod yn Jen Jeniro? ^
Llyr: Mwy na Spinal Tap! (Mae trafodaeth ddwys yn dechrau rhwng Gwion, Llyr a Pearl wrth iddynt drio cofio) Llyr: Dwi’n meddwl medrwn ni ddeud pump drymar, a bâs... rhyw chwe deg pump... a hannar. ^
^
^
Yn ogystal â’r teitl-drac, ‘Dolphin Pinc a Melyn’, bydd dub-mix Llwybr Llaethog o ‘Hulusi’ yn ymddangos ar y sengl hefyd. O ble ddaeth y syniad hwnnw felly? Dafydd: Ddath y syniad pan nath Llwybr
12 templateyselar.indd 12
“
WEL DEU’ GWIR, GESH I GAN O FOSTERS, ^ GAFODD LLYR ESPRESSO GAN EI FOD O’N DREIFIO!
“
Gwion: Oes, albwm cyfa’, ma’ ’na bits ’di cal eu gwneud yn barod. Pearl: Fydd hi’n barod erbyn mis Medi gobeithio, ar gyfer Gw^ yl Gwydir.
Gan fy mod yn siarad â’r band a hwythau newydd fod yn ffilmio ar gyfer Bandit, roeddwn yn awyddus i wybod beth oedd eu barn am y gyfres honno, ac arlwy S4C o’r SRG yn gyffredinol? Dafydd: Bandit – basically, uffar o raglen. Dydi coverage Nodyn ddim digon eang o
myspace.com/jenjeniro 27/5/10 10:03:23
cyfweliad: jen jeniro
LLUNIAU: DAFYDD JONES
13 templateyselar.indd 13
27/5/10 10:03:30
ran bandia, gan bo’ nhw ddim yn rhoi sylw i fandia ifanc fel oedd Bandit yn ei wneud. Gwion: Odd i-dot yn well. Pearl: Oedd, odd i-dot yn iawn doedd. Dafydd: Oedd, odd i-dot yn dda, a petha’ fel Fideo 9 hefyd, achos roeddan nhw’n rhoi lot mwy o sylw i fandiau ifanc. Llyr: A ma’n gneud chdi feddwl lle mae pres S4C yn mynd os ydyn nhw’n gallu fforddio rhoi pres i raglenni fel Gorau Gwlad oedd â 90% o’r gynulleidfa dros gant a hanner oed, amryw un ohonyn nhw’n marw yn eu seti. ^ Dafydd: Ond be’ am rw an, be’ am Bandit? Gwion: Pres da, bwyd da! Dyna ’dw i’n ei feddwl. Dafydd: ’Dw i’n meddwl bod angen Bandit yn ôl fel cyfres, achos oedd Huw a Huw yn gweithio’n dda efo’i gilydd. Gwion: Oeddan, ac mae’r pres o bethau fel’na yn bwysig i ddatblygiad bandia ifanc. ^
Yn amlwg, roedd gan yr hogia i gyd farn eithaf pendant am arlwy cerddorol S4C, ond beth am y sîn ei hun. Er enghraifft, beth oedan nhw yn ei feddwl o’r artistiaid eraill oedd yn recordio Bandit ar yr un noson yng Nghaerdydd? Masters in France i ddechrau... Dafydd: Tynn, a dyna pam dwi’n licio nhw. (Doedd y gweddill ddim mor siw^ r, a barn un, sy’n dymuno aros yn anhysbys oedd...) Anhysbys: Ma’ nhw fel Ribena gwan. Creision Hud? Dafydd: Un o’r bandia ifanc gora ar hyn o bryd.
Gwion: Band ffasiynol iawn, caneuon catchy. Pearl: Potensial. A beth am Bonello? Llyr: Gitarydd gwych. Dafydd: ’Swn i’n caru os fysa Gareth Bonello yn rhoi gwersi gitâr i mi. Llyr: Un o’r perfformwyr byw mwyaf cyson yn y SRG. Ei gerddoriaeth o’n dynn ^ a’i lais o’n smw dd fel cappuccino. Boi clên hefyd! ^
^
A beth am y sîn yn gyffredinol yng Nghymru ar hyn o bryd, sut fysa chi’n ei disgrifio hi? (Mae Llyr yn gwneud sw^ n rhech!) ^
Gwion: Stryglo am hedleinars. Dafydd: Ydi, mae Bryn Fôn ac Elin Fflur yn hedleinio Maes-B eleni, a ma’ nhw ’di ^ gneud hynny ers tua deg mlynadd rw an. Pearl: Ma’i wedi mynd ’chydig bach yn stêl. Llyr: Ma’i rhy hawdd bod yn fand Cymraeg a chael mynd ar y radio. Os ti yn y sîn Saesneg, ti’n gorfod gweithio’n galed i fod yn fand da, ond os ti yn yr SRG mai rhy hawdd. John: Ond mae gan Radio Cymru awydd i chwarae pethe newydd Cymraeg, sy’n fantastic, ac mae ‘na farchnad amdano fo. Llyr: Oes, ond ma’ nhw rhy cîn i hypio bands ifanc a buildio nhw fyny heb ddim rheswm. Pearl: Ydi, unrhyw hint o bandwagon a ma’ pawb arni’n syth. ^
Yn sicr, fyddai neb yn galw Jen Jeniro yn fand mwyaf poblogaidd Cymru. Maen nhw mor bell o ganol y ffordd, maen nhw ar y pafin! Rhyw niche market sydd gan y band. Pam hynny? Gwion: ’Da ni jest heb gael yr hype. Pearl: A does ‘na’m marchnad aruthrol i gerddoriaeth alternative yng Nghymru. John: Dwi’n meddwl, bod gen ti lwyth o genres wedi cael eu cyfro gan gerddoriaeth Gymraeg, ond mae Jen Jeniro yn disgyn i genre rhywun fel Fall a Joy Division - dark rock, sydd heb gael ei gyfro gan fand yn yr iaith Gymraeg o’r blaen. Dafydd: Mae ‘na niche does, hyd yn oed os mai pum person ydi hi, mae hi’n niche dydi. Llyr: Ydi, a’r rheswm pam ’da ni’m yn boblogaidd ’di’r ffaith bod ein niche ni mor fach. Yn Lloegr, ella ’sai’n fwy, ond gan fod cyn lleied o bobl yn yr SRG ma’r niche yn fach. Alla’ i gyfri ar fy mysedd faint o ffans sgy’non ni. ^
^
Ond ’da chi ddim yn meddwl bod yna ormod o fynd yn fwriadol groes
i’r ffasiwn hefyd? Rhyw fath o anti-bandwagon os liciwch chi. Gwion: Ma’ hynna’n wir. Achos gei di fand, a phobl yn meddwl: “o, ma’r band yma’n eitha’ da”, ond unwaith ma’ nhw’n cael sylw: “o, dwi’m yn licio nhw.” Llyr: Dwn’im, ’dw i’n meddwl bod C2 yn hynod barod i greu bandwagon. Dafydd: Ma’ nhw’n licio rhoi’r gair, exclusive ar betha’, rhoi rwbath newydd wastad, sy’n beth da ... ond ’di’r safon ddim wastad yna. Llyr: Mae hi fel petai Radio Cymru’n creu sîn ei hunan, yn creu rhyw argraff ei hunan o’r sîn heb wrando ar be’ sy’n mynd ymlaen go iawn. A dwi’n falch ’mod i yn Jen Jeniro achos ’da ni erioed wedi bod yn boblogaidd! ^
^
O ystyried hyn i gyd, fyddai Jen Jeniro yn ystyried canu’n Saesneg? Llyr: Dwi’n bwriadu i hanner yr albwm fod yn Saesneg, achos mi gawn ni fwy o bobl sy’n licio ni, a dyna sy’n bwysig i fand. Gwion: Pan wnaethon ni chwarae gig ym Manceinion, gawsom ni ryw dri deg yn gwrando, ond werthon ni ryw bymtheg albwm! Llyr: Do, gawsom ni well derbyniad gan dri deg o bobl ym Manceinion na ‘da ni ^
^
14 templateyselar.indd 14
27/5/10 10:03:39
cyfweliad: jen jeniro
“
“
DWI’N FALCH ’MOD I YN JEN JENIRO ACHOS ’DA NI ERIOED WEDI BOD YN BOBLOGAIDD!
^
i chwilio am gynulleidfa sy’n licio miwsig da, dim jest miwsig poblogaidd. Dim ond tair miliwn o bobl s’gen ti yng Nghymru, a dim ond 20% o rheiny sy’n siarad Cymraeg, a chanran bach iawn o rheiny wedyn sy’n mynd i wrando ar gerddoriaeth seicadelig sy’n sôn am ddolphins pinc a melyn!
wleidyddiaeth cerddoriaeth Gymraeg, ond pe byddai’r band yn blaid wleidyddol, pwy fyddai’r arweinydd? Pearl: Llyr Davies. Llyr: Gwion, achos fo di’r un mwyaf trefnus. Pearl: Neu Gandhi, ’sa Gandhi’n foi da i’n cynrychioli ni. Llyr: Unai Gwion, neu bawb yn uno i greu super-politician efo sgiliau trefnu Gwion, fy nghreadigrwydd i, carisma Daf a gwallt Pearl. ^
^
^
Beth felly yw barn yr hogia ar fandiau fel Racehorses a Sibrydion sydd yn canu’n Saesneg. Llyr: Be dwi ’di sylwi am y bandia yna ^ ydi eu bod nhw lot gwell rw an pan maen nhw’n chwarae yng Nghymru achos eu bod nhw’n ymarfer gymaint mwy drwy gael gigs cyson. Pearl: Ia, a does ‘na’m posib cael gigs cyson yng Nghymru achos dim ond tua chwech lle sydd ‘na! Ti’n gallu gwneud national tour yng Nghymru mewn wsos! ^
Roedd hi’n amlwg fod gan Jen Jeniro safbwynt eithaf di-flewyn-ar-dafod ar
“
“
erioed wedi’i gael yng Nghymru. Pearl: Yr un peth yn wir am gig wnaethon ni yn Tommy’s Bar, Caerdydd. Stiwdants Saesneg oedd yna, ond honna ’di’r gig gora ’da ni ’di neud ’dwi’n meddwl. Dafydd: Hyn a hyn alli di wneud yng Nghymru ’de. Ti’n gwneud Bandit, ti’n gwneud Uned 5, ti’n gwneud albwm Gymraeg a dyna fo. Ti’n gallu’i wneud o i gyd mewn rhyw bum mlynadd. Gwion: Ia, ond allwn ni ddim cwyno gormod, achos rhaglenni fel’na sy’n talu. Ma’ Bandit ac Uned 5 yn talu’n dda, a ti angen y pres yna i neud y gigs arall. John: Os ti mewn hippy festival yn Lloegr, ac mae band o wlad dramor yn canu mewn iaith dramor, mae’n cael ei weld fel novelty. Ru’n peth ’da band Cymraeg yn canu’n Gymraeg yn Lloegr, mae’n cael ei werthfawrogi fel novelty cerddoriaeth ryngwladol. Gwion: Yndi, ac mae hynna’n grêt, ond be’ sydd ddim yn grêt ydi bandiau Cymraeg sy’n dechrau yn Gymraeg, yn cyrraedd pwynt lle ma’ nhw’n cael dipyn o sylw a throi’n hollol Saesneg. Y gwir amdani ydi, mae’r bandia sydd wedi llwyddo yn Lloegr wedi cario ’mlaen i neud sdwff Cymraeg hefyd. Llyr: Y broblem efo’r SRG ydi ei bod hi ddim yn canmol safon, ond yn hytrach yn canmol poblogrwydd. Ac yn y diwadd, ma’ bandia yn troi at y Saesneg
...GANDHI, ’SA GANDHI’N FOI DA I’N CYNRYCHIOLI NI.
Roedd tri chwarter awr gyda Jen Jeniro wedi hedfan, ac roedd un neu ddau yn awyddus i fynd allan felly roedd hi’n amser cau pen ar y mwdl. Ond cyn dod â’r cyfweliad i ben, gofynnais beth sydd ar y gweill dros yr haf. Llyr: Gorffen yr albwm. ^ yl Gwydir Gwion: A threfnu Gw ^
^ Yn sicr, mae Gw yl Gwydir yn rhywbeth i edrych ymlaen ato yr haf hwn. Yn enwedig gyda lein-yp sy’n cynnwys Yr Ods a Mr.Huw ymysg eraill. Ac wrth gwrs, gan mai aelodau o Jen Jeniro sy’n trefnu’r cyfan bydd yn gyfle gwych i glywed y marmite cerddorol Cymreig yma o fand yn perfformio’n fyw.
15 templateyselar.indd 15
27/5/10 10:37:21
DIWEDD
D A R K C O D
Y DAITH WEDI CYRRAEDD I LABEL DOCKRAD. ERS CYHOEDDI’R RHIFYN DIWETHAF O’R SELAR, DAETH Y NEWYDDION TRIST FOD DIWEDD GYNHYRCHIOL DROS BEN GYDA 22 O CD’S YN ERS RHYDDHAU EP SKEP, BINGO, NÔL YN 2001 MAE LABEL DOCKRAD WEDI BOD YN ALBWM O OREUON Y LABEL WEDI EI RHYDDHAU GWELD GOLAU DYDD DAN EU BANER. I DDATHLU DIWEDD DEGAWD O DOCKRAD, MAE AF Y DIM-DIM’S. FELLY PA WELL CYFLE I’R SELAR DALU TEYRNGED I UN O BROSIECTAU CERDDORIAETH PWYSIC
DECHRAU DOCKRAD Fel y soniwyd yn y cyflwyniad, mae label Dockrad wedi bod yn rhyddhau deunydd ers dechrau’r ddegawd. Ond i’r rhai ohonoch chi sydd ddim yn gyfarwydd â’r cefndir, dyma sgwrs fer gyda Dai Lloyd o’r label Selar: Pwy ydy Dockrad? Dai: Fi a fy ngwraig Volenté sydd tu ôl i’r label, a ‘da ni wedi cael help fan hyn a fan draw gan gwpl o bobl eraill ar y ffordd. S:Pam mynd ati i ffurfio label Dockrad yn y lle cyntaf? D: Doedd na neb eisiau rhyddhau fy ngherddoriaeth i felly meddyliais y dyliwn wneud e’ fy hun, gan ym mod i wedi dysgu tipyn am gyhoeddi ac ati pan o’n i wedi bod mewn bandiau eraill.
S: Sut mae Dockrad wedi mynd ati i ddethol bandiau i ryddhau deunydd ar y label? D: Doedd yna ddim cynllun enfawr wedi bod i ddweud y gwir. Ar ôl rhyddhau’r casgliad Dim Apathi cafodd y label dipyn o sylw ac fe wnaeth pobl dechrau dod atom ni am help i ryddhau pethau ... ac aeth e’ o fynna. S: Mae’n deg dweud fod Dockrad wedi rhyddhau deunydd gan lawer o artistiaid mwy amgen dros y blynyddoedd. Ydy hi wedi bod yn galed hyrwyddo a gwerthu artistiaid llai ‘poblogaidd’ sydd ddim yn mynd i gael llawer o airplay ar Radio Cymru ac ati? D: Do a naddo - rhwystredig braidd bod rhai elfennau o’r cyfryngau ddim eisiau cymryd risg ar bethau - roedd un cynhyrchwraig ofn rhoi Saizmundo ar raglen deledu byw er enghraifft. Ond hefyd, petai’r gerddoriaeth yn cael ei derbyn gan mainstream Radio Cymru ^ n i’n dweud fod rhywbeth mawr o’i ‘sw le fynna hefyd! Mae Dockrad wedi cael tipyn o gefnogaeth gan rai DJs dros y blynyddoedd a dwi’n gwerthfawrogi hynny.
DETHOLIAD DAI Pa recordiau Dockrad sydd wedi sefyll allan yng nghof y sylfaenydd, Dai Lloyd?
RECORD GORAU Wel dyna chi gwestiwn anodd!! Fysai’n rhaid i mi ddweud Dim Apathi achos yr holl artistiaid sy’ arno fe na fysent wedi cael eu clywed fel arall.
RECORD OEDD YN FWYAF O HWYL Heb os, creu albwm a thaith ar gyfer rhyddhau Ashokan 2 oedd yn fwyaf o hwyl. Roedd yr holl broses o recordio gyda Joe Gibb yn Abertawe, a’r shenanigans ar daith yn brofiad penigamp.
RECORD ANODDAF Skep: CTRL-S. Cymerodd e’ lawer yn rhy hir i’w ’w gwneud, ond roeddwn i’n eitha’ hoffi fe yn y diwedd. Trueni nad oed traciau fel ‘Cwsg’ a ‘Pysgota’ yn cael mwy o airplay. Hefyd dwi’n falch nad oeddwn yn y stiwdio pan oedd 6 o ferched yn ceisio cymysgu albwm Gilespi ar yr un pryd!
RECORD FWYAF COFIADWY / DY HOFF RECO RECORD ORD Mwyaf cofiadwy? Wel, roedd rhoi casgliadau Diffiniad a Thy y Gwydr at ei gilydd yn bwysig yn ddiwylliannol, dwi’n credu, ac yn braf cael gweithio ‘da’r bandiau. Hoff CD? Bob un!! ^
VOLENTÉ
16 templateyselar.indd 16
myspace.com/recordiaudockradrecords 27/5/10 10:37:37
dockrad
ÔL GATALOG DOCKRAD CD001 - SKEP: BINGO Yr EP gyntaf, a fy mhrosiect i - uchafbwynt oedd clywed John Peel yn chwarae Hei Mr DJ ar y ffordd yn ôl o ymarfer rygbi yn y car. “Haven’t a clue what he’s on about but sounds great” meddai wrth glywed Ceri Clwb yn sôn am ei ddisgos yng Nghlwb Ifor Bach.
CD002 - DIM APATHI Casgliad aml gyfrannog o artistiaid, a’r CD wnaeth rhoi’r mwyaf o foddhad i mi. Roedd yn bleser gweithio gyda’r holl artistiaid ac mi wnaeth roi cyfle i’r cyhoedd glywed artistiaid newydd. Llawer o hwyl.
CD003 SKEP: BLIPS A BANGS Prosiect cudd! ^
CD004 - TY GWYDR: GOGLEDD, DE, GWLAD A THRE - 90-94 Daeth cyfle i gyflawni casgliad o draciau gan y band Tecno, Ty Gwydr, nad oedd wedi cael eu rhyddhau o’r blaen, wrth i’r band ailffurfio ar gyfer yr Eisteddfod yn Nhyddewi. ^
CD005 - SKEP: STATIC! Albwm gyntaf Skep a braidd yn siomedig wrth edrych yn ôl. Traciau fel ‘Y Rheolau’, ‘Deddf Greddf’ a ‘Rhwng Llyn Eiddwen’ yn ddigon ffynci,
ond byswn i wedi cael gwared â llawer o’r traciau eraill. Cafodd eu recordio gyda Kris Jenkins yng Nghaerdydd (pan nad oedd yn ateb y drws na’r ffôn). Collais fy modrwy priodas mewn cors ar Fynydd Bach, Ceredigion wrth ffilmio fideo i ‘Rhwng Llyn Eiddwen’ yna, ac yn anhygoel wnaeth Stuart o’r band ddod o hyd iddi yn y mwd!
CD006 - THE AFTERNOONS: DWI’N MYND I NEWID DY FEDDWL Roedd y band yma o Efail Isaf / Dinbych y Pysgod wedi gwneud y sengl eu hunain, ond Dockrad wnaeth ei rhyddhau yn iawn. Indie-pop o’r radd flaenaf ac yn hit mawr ar Radio Cymru sydd yn dal i gael ei chwarae heddiw. Cafodd albwm yn cynnwys traciau Cymraeg y band ei rhyddhau yn Japan yn 2004.
CD007 MANIANA: DOUBLE EYEDROPS EP Prosiect electroneg oedd yn cynnwys Stuart a Nathan o Skep, Volenté (y missus) ac Aron o Pep Le Pew. Caneuon da, a’r band wedi gwneud cwpl o gigs o gwmpas y lle ^ gan gynnwys Llundain a gw yl Compass Point yng Nghaerdydd, lle ofynnwyd ^ iddynt ddechrau’r set cyn i ddrysau’r w yl agor. Ffars llwyr!
CD008 / CD009: THE AFTERNOONS - SENGL GONNA STAY TOGETHER / ALBYM MY LOST CITY Profiad newydd oedd
THE AFTERNOONS
delio gyda pluggers a chwmnïau PR yn Llundain ar gyfer deunydd newydd yr Afternoons. Hefyd, roedd ceisio bwcio gigs ar draws Prydain yn job ddiddiolch. Albwm dda, gafodd dipyn o sylw, a’i chwarae ar Radio 2.
CD010 - MC SAIZMUNDO YN CYFLWYNO... BLAEN TROEDAR Wel, mae MC Saizmundo yn gymeriad lliwgar ond ‘yw e? Dwi’n falch fod Dockrad wedi gallu rhoi platfform i’r MC o Lanuwchllyn, a gwd job ei fod yn cael dweud ei ddweud. Mae ishe sôn wrth bobl ond ‘does?
CD011 – DIFFINIAD: DIFFINIO Wnaeth Steffan Cravos ddweud wrtha i unwaith nad oeddwn yn ddigon hardcore i’r Tystion, a dylen i ymuno â Diffinad! Wel, dyma bron a bod y peth agosaf at hynny. Falch o fod wedi rhyddhau 4 trac newydd ar y casgliad yma yn ogystal â’r hits!
CD012 – ASHOKAN: DIOLCH AM DDAL Y GANNWYLL ^ Roedd sw n mwy ffynci gan y band bryd hyn, ac roedd pobl yn hoffi dawnsio’n nyts i gerddoriaeth y bois mewn gigs. Cymerodd hi 7 mlynedd i ryddhau’r albwm yma!!
17 templateyselar.indd 17
27/5/10 10:37:43
Dyna farn Dai Lloyd ar CDs ei label ei hun felly, ond beth am farn rhai o ddeallusion y sin ynglyn â’i hoff recordiau nhw ar label Dockrad dros y ddeng mlynedd diwethaf? ^
ESYLLT WILLIAMS - CERDD GYMUNEDOL CYMRU ^
HOFF RECORD DOCKRAD – TY GWYDR: GOGLEDD, DE, GWLAD A THRE - 90-94 Mae Ty Gwydr yn fand pwysig o ran datblygiad y sin gerddoriaeth Gymraeg, mae’i cerddoriaeth nhw yn ddiddorol ac yn wahanol i’r hyn oedd yn digwydd yng Nghymru ar y pryd. Wrth gwrs, yn fwy pwysig na hynny, roedden nhw’n ffantastig. Mae’r casgliad a gafodd ei ryddhau ar Dockrad yn dod â llwyth o ganeuon hanfodol at ei gilydd ac yn crynhoi dylanwad Ty Gwydr, heb gyfaddawdu dim o’u cyffro. Diolch Dockrad! ^
Y DIWYGIAD
CD013 – SKEP: CTRL-S Roedd yn dda ‘sgrifennu traciau gyda phobl eraill fel Frank Naughton a Siôn Orgon, ac mae llawer o arddulliau gwahanol ar yr albwm gan gynnwys, bhangra, electroneg, reggae, ska, pop a roc. Cwl!
CD014 – VOLENTÉ: COLD CLEAN Anodd iawn cael sylw i albyms yn Saesneg heb wario llawer o arian ar PR a phlygio. Roedd Adam Walton yn gefnogol i’r albwm hon fodd bynnag ac fe deithiodd Volenté dipyn i hyrwyddo’r albwm, o Dregaron i Lerpwl a Llundain.
CD015 – ASHOKAN: ASHOKAN 2 Let’s RAWK! Albwm llawer yn fwy trwm o ran cerddoriaeth gan y bois. Fy hoff drac yw ‘Disco Dethin’, ond mae llawer o draciau da iawn arni. Oeddech chi naill ai’n hoffi Ashokan neu’n casáu nhw - doedd dim ots gan y band naill ffordd na’r llall ...
CD016 – GILESPI: METHU CHWARE GITÂR Eto, dwi’n falch o fod wedi gallu rhyddhau albwm Gilespi neu fe fyddai wedi cael ei cholli am byth. Mae Radio Cymru wedi caru’r albwm hon, ac roedd yn ffefryn i Ray Gravell, heddwch i’w lwch.
CD017 – VOLENTÉ: BUTTERFLIES FALL AWAY Ail albwm Volenté, ac yn llawer gwell na’r un gyntaf yn fy marn i. Casgliad o ganeuon serchus, atmosfferig a chilled.
CD018 – SKEP: SGEP Casgliad o ganeuon ro’n i wedi recordio dros gwpl o flynyddoedd. Hon yw’r albwm Skep dwi’n fwya’ hoff ohoni. Gwrandwch ar ‘Security Aberystwyth’ - hilariws!!
18 templateyselar.indd 18
CD019 - HOWL GRIFF: HOWL GRIFF Albwm gyntaf Hywel Griffiths a gweddill y band, tiwniau ar gyfer yr haf ar eich stereo yn eich convertible ar y West (Wales) coast...pleser gweithio gyda’r band.
^
CD020 – Y DIWYGIAD: HYMN 808 Dockrad nôl i’w wreiddiau rap. Mr Phormula a 9 Tonne ar eu gorau gyda chyfraniadau gan hip-hoppers gorau eraill Cymru. Dwi’n falch bod yr albwm hon wedi ymddangos gan Dockrad, neu eto efallai na fyddem ni wedi cael cyfle i’w chlywed. ‘Keep it moving along’ yn drac ddawns anhygoel.
CD021 – SWEETFONTAINE: EVERMORE Sengl Pop-roc ag agwedd gan y band yma o Gaerdydd. Dyle fod dyfodol disglair iddynt, os oes yna unrhyw gyfiawnder.
CD022 – HOWL GRIFF: CRASH & BURN / BLUEBIRDS Sengl AA gan Howl Griff sydd yn ddiweddar wedi dechrau cael ei chwarae ar 6Music.
HEFIN JONES – SEFYDLIAD CERDDORIAETH GYMRAEG HOFF RECORD DOCKRAD THE AFTERNOONS - DWI’N MYND I NEWID DY FEDDWL. Mae’n gyfuniad perffaith o ddylanwad y 60au ac indî ysgafn, ond mae’n gân mor dda nes bod ceisio ei rhoi mewn categori mor ddefnyddiol â phasbort i Nick Griffin felly mi stopiaf drio. Digon dweud ei fod yn eich gadael yn gynnes ar bob achlysur, ac mae’r ddwy arall, yr hurt-mewn-enw-ond-nid-mewn^ sw n, ‘Edie Sedgewick CF4’, a’r ‘Llygaid Lliw Dail’ hamddenol ysgafn droed, yn draciau penigamp hefyd. Fflipin briliant.
HUW STEPHENS – DJ RADIO A THREFNYDD GWYL SWN HOFF RECORD DOCKRAD – ASHOKAN: ASHOKAN 2 / SKEP: BINGO Roedd label Dockrad yn un diddorol. Doedd dim dal be roedd Dai Lloyd yn mynd i’w ryddhau nesa. Roedd e’n hoff o fynd yn erbyn y graen a rhyddhau recordiau diddorol yn ^ l’, ac yn sicr hytrach na ‘cw yn rhyddhau recordiau am y gerddoriaeth heb boeni os fase nhw’n gneud arian. Pam arall rhyddhau albwm Gilespi?! Fy hoff recordiau oedd
sengl Skep, ag albwm Ashokan. Roedd clywed albwm roc trwm Cymraeg gydag agwedd a tiwns da yn newid neis iawn. Un o’r lansiadau mwyaf cofiadwy i mi fynd iddo oedd lansiad albwm MC Saizmundo mewn bocs ffôn coch ar ochr ffordd yng nghefn gwlad Cymru. Fel label Dockrad, roedd y profiad yn rhyfedd ac yn annisgwyl, ond yn un pleserus tu hwnt.
yselar@live.co.uk 27/5/10 10:38:06
ADDYSG AC AWYRGYLCH HEB EU HAIL • Copiau o’n prospectws newydd a manylion cyrsiau ar gael ar gyfer mynediad yn 2011 • Dewis helaeth o gyrsiau, gyda mwy o gyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg nag unrhyw brifysgol arall yng Nghymru • Sicrwydd llety i holl fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf, gyda neuadd Gymraeg newydd yn agor ym Medi 2010 sy’n gartref i fyfyrwyr o bob cwr o Gymru • Bywyd cymdeithasol sy’n fywiog ac yn wirioneddol gyfeillgar • Costau byw isel a chefnogaeth ariannol sy’n cynnwys Ysgoloriaethau Mynediad a Bwrsariaethau newydd yn ogystal a bwrsari o £500 i’r rhai sy’n dewis astudio trwy gyfrwng y Gymraeg Mae’r cyrsiau a gynigir yn cynnwys: Addysg; Astudiaethau Crefyddol; Astudiaethau Plentyndod; Astudiaethau Theatr a’r Cyfryngau; Amaethyddiaeth a Choedwigaeth; Busnes; Cyfrifeg; Bioleg Môr; Cemeg; Cerddoriaeth; Cyfathrebu a’r Cyfryngau; Cyfrifiadureg; Cymdeithaseg; Cymraeg (Iaith a Llenyddiaeth); Daearyddiaeth; Dylunio a Thechnoleg; Dysgu Cynradd; Gwaith Cymdeithasol; Gweinyddu Busnes a Chymdeithasol; Gwyddorau’r Amgylchedd; Gwyddorau Biolegol; Gwyddor Chwaraeon; Hanes a Hanes Cymru; Iechyd a Gofal Cymdeithasol; Ieithoedd Modern; Marchnata; Nyrsio; Newyddiaduraeth; Polisi Cymdeithasol; Peirianneg Electronig; Saesneg; Seicoleg; Y Gyfraith; Y Gyfraith a’r Gymraeg; Ysgrifennu Creadigol.
Tel: 01248 382005 / 383561 E-bost: marchnata@bangor.ac.uk
www.bangor.ac.uk
CYFOES CYFFROUS £5.95 yr un
HANFODOL!
£4.95
SIART AM DDIM
www.ylolfa.com
19 templateyselar.indd 19
27/5/10 10:38:22
’ GWYLIO R GWYLIAU
ROL GWYCH I EDRYCH YMLAEN ATYNT. DIOLCH BYTH, MAE’R HAF GER EIN BRON UNWAITH ETO, A DIGON O WYLIAU CERDDO YNG NGHYMRU? YN ARBENNIG I CHI MAE PAWB YN GWYBOD AM Y PRIF WYLIAU, OND BETH AM Y RHAI LLAI A MWY AMGEN HAF ELENI. DDARLLENWYR LWCUS, CASIA WILIAM SY’N ARGYMELL RHAI O WYLIAU MWY AMGEN YR
WA BALA BALA, 17-18 MEDI
RACE HORSES
^
GW YL GWYDIR LLANRWST, MEDI 10-11 PENWYTHNOS CYFAN: £11 ^ Dyma w yl newydd sbon danlli grai a ymddangosodd am y tro cyntaf yn Llanrwst y llynedd diolch i Mr Gwion Schiavone a’i sgiliau trefnu tu hwnt. Dechreuodd y penwythnos gyda Jen Jeniro, Yr Ods a Mr Huw yn y Legion ar y nos Wener. Pa ffordd well i wella cur pen y noson honno wedyn nac wrth ymlacio yng ngwres yr haul b’nawn Sadwrn, yng ngardd gwrw’r New Inn yn sipian seidr a gwrando ar wledd o gerddoriaeth
YR ODS
acwstic – Sweet Baboo, Tecwyn Ifan a Kath Button i enwi ambell un. Gig fawr eto wedyn ar y nos Sadwrn i gloi gyda’r Race Horses yn
hed-leinio cyn baglu nôl am y babell. Mae hon yn w^ yl ychydig yn fwy amgen fel y gwelwch chi. Does dim ots os ydi’r gerddoriaeth yn Gymraeg neu’n Saesneg (cyn belled â’i bod yn dda), a does yna ddim ymgais i wneud elw - dim ond gwneud digon i dalu’r costau angenrheidiol. Felly gwnewch le yn eich dyddiadur eleni ar gyfer Gw^ yl Gwydir - MEDI 10-11, a neidiwch ar fws neu feic neu ful i Lanrwst i glywed Yr Ods, Yucatan, Mr Huw, The Violas, The Loungs, John Lawrence, a llawer mwy.
PENWYTHNOS CYFAN: DIM MANYLION PRISAU ETO Eleni mi fydd Wâ Bala yn 7 oed, ^ ac mae’r w yl fach yma sydd wedi bod yn llwyddiant ers y cychwyn cynta, yn dal i fod yn un o’r gwyliau ‘bach’ sy’n rhan annatod o haf sawl un. Gw^ yl gymunedol ydi hon; y Clwb rygbi sy’n gyfrifol am y syciwryti, y Clwb pêl-droed yn gyfrifol am y bâr. Ac ar ôl talu am y costau, mae unrhyw elw yn mynd tuag at achosion da. Dechreuodd yr w^ yl ar lannau Llyn Tegid, cyn iddi gael ei bedyddio yn Wâ Bala hyd yn oed, a Meinir Gwilym oedd yn cloi’r noson honno, yn bitw bedair-ar-ddeg! Ers hynny mae rhai o gantorion enwocaf Cymru wedi llenwi’r llwyfan - Elin Fflur, Celt, Brigyn a hyd yn oed ‘rhen Dafydd Iwan! Beth sy’n dda am Wâ Bala hefyd, ydi’r awyrgylch sydd yn Bala ei hun dros y penwythnos. Dychmygwch benwythnos ola’r eisteddfod, ond ar sgêl llai (ac efo llai o hangofyr a mwy o bres!). Gyda thafarndai bob ochr i’r stryd ac awyrgylch croesawgar ym mhob man, mae’n ffordd berffaith o godi hwyl cyn mynd am y marcî. Mae’r w^ yl yn codi ei phac eleni, ond na phoener, tydi hi ddim yn mynd yn bell. Mae’n symud ryw 300 llath i fod ar faes parcio caled, felly fydd dim angen pacio’r wellingtons tro ‘ma. Os ‘da chi wedi bod o’r blaen, ‘da chi siwr o fynd eto. Oes ‘da chi erioed wedi bod – ewch! Lein-yp eto i’w gadarnhau.
20 templateyselar.indd 20
27/5/10 10:38:30
gwylio’r gwyliau GAI TOMS
^
GW YL GARDD GOLL Y FAENOL, GORFFENNAF 25 12-7 Y.H TOCYN OEDOLYN £8, TOCYN PLENTYN £5 TOCYN TEULU £20
^
GW YL NOL A MLAN LLANGRANNOG, CEREDIGION, 19 MEHEFIN RHAD AC AM DDIM Gw^ yl hafaidd go iawn yn un o bentrefi glan môr mwyaf dymunol Gorllewin Cymru. Cynhaliwyd yr w^ yl am y tro cyntaf y llynedd ac roedd yn hynod lwyddiannus gydag artistiaid fel Meic Stevens a Fflur Dafydd yn cloi’r noson. Mae’r adloniant wedi ei ganoli o gwmpas dwy dafarn y pentref bach, sef Tafarn y Llong a’r Pentre Arms, a busnesau lleol sy’n helpu talu am yr w^ yl. Mae’r criw hefyd wedi bod yn brysur yn cynnal gweithgareddau
codi arian yn ystod y flwyddyn, ac mae teimlad cymunedol go iawn i’r digwyddiad. Hyd yn hyn eleni mae Gai Toms a’r ffefrynnau lleol Ail Symudiad wedi eu cadarnhau. Bydd Dewi Pws a’r Sesh Bach, Gwyneth Glyn, Them Lovely Boys, Burum, Bois y Fro a llawer mwy yn perfformio’n ystod y dydd hefyd. Mae hon yn ^ w yl deuluol, gymunedol braf mewn lleoliad hyfryd a gallwch chi hyd yn oed fynd i nofio yn y môr os ydach chi ffansi!
GWYNETH GLYN
Roedd y gwyliau ‘coll’ fel blodau bach yn blaguro un ar ôl y llall yr ha’ dwytha wrth i w^ yl Traeth Coll gael ei chynnal ym Mhorth Iago, gw^ yl Pentref Coll gael ei chynnal yn Felin Ucha’ Rhoshirwaun, a gw^ yl Gardd Goll wedyn yn coroni’r cyfan ym Mharc Glynllifon. Yn anffodus, y si ar y stryd ydi na fydd gwylia’r Traeth na’r Pentre Coll yn cael eu cynnal eleni, ond na phoener - mae yna dal wahoddiad i’r ardd. Felly be am fynd am dro dydd Sul i gael eich swyno gan gerddoriaeth yn yr awyr iach. Eleni mi fydd yr w^ yl yn cael ei chynnal yn y Faenol, ac yno i’ch diddanu bydd artistiaid yn canu trwy’r p’nawn ar dri llwyfan, ac os ‘da chi di anghofio rhoi byrgyr a G&T yn eich basgiad bicnic, no wyris, mi fydd na fwyd a diod ar gael yno hefyd. Os yda chi wedi cael penwythnos mawr yma fis ynghynt, dewch yn ôl da chi am un diwrnod bach. Mae sawl un dwi wedi siarad â nhw yn dweud bod rhyw awyrgylch hudolus am y diwrnod hwn yn yr ardd goll. Yn addas i bawb rhwng 1 a 99. Lein-yp eto i’w gadarnhau (ond rhyngtha chi a fi ma’n swnio’n addawol iaaaaaaaawn!)
^ GW YL Y CENHEDLOEDD BYCHAIN FFERM GLANGWENLAIS, TU ALLAN I GILYCWM GER LLANYMDDYFRI ATEBION CWIS IFAN ‘ELFIS’ IFANS
9-11 GORFFENNAF PENWYTHNOS CYFAN: £65, TOCYN IEUENCTID - £40
1 Bando (Caryl Parri Jones) “Race has divided the world. We want music to bring it all back together again.” Geiriau Bob Marley oedd y rhai doeth rhain, a dyma’n ^ union yw bwriad Gw yl y Cenhedloedd Bychain. Mae’r penwythnos yma yn ddathliad o gelfyddyd a dawn o sawl cenedl fechan ar draws y byd, ac mae’r cwbl yn cael ei gynnal yma yng Nghymru fach! Ar ôl blwyddyn
^ sabothol, mae’r w yl fel petai wedi cael ail-wynt a’r cwbl yn swnio’n anhygoel. Mi fydd cyfle i glywed Kissmet yn chwarae, sef y brodyr Singh â’i roc bhangra ffynci sy’n gyfuniad o ddylanwadau asiaidd a rhythm y Gorllewin. Neu beth am ddod i weld ^ Bamo – grw p o Gwrdistan sydd yn wledd i’r synhwyrau wrth gyfuno cerddoriaeth a dawns draddodiadol Gwrdiaidd.
Heb anghofio’r Cymry sydd yn chwarae wrth gwrs. Bydd Gareth Pearson o Gwmbrân yno yn sleidio’i fysedd slic ar hyd llinynnau’r gitâr, neu os ‘da chi’n licio ‘chydig mwy o dwrw, mi fydd y band Samba Gales yno eto eleni yn codi’ to efo’u curiadau. Mae’r cwbl yn swnio’n hynod o gyffrous, a dim ond 1500 sydd yn cael mynediad, felly cynta i’r felin!
2 Magi Thatcher 3 Gwlad ar fy nghefn 4 Arwyddion ffordd uniaith Saesneg 5 Y Rhyl Hmmm...os na weithith y ‘karaoke speed dating’ prosiect newydd sy ‘da fi yn yr Ivy Bush, Llambed bydd rhaid i mi feddwl am yrfa newydd wleidyddol efallai. Cynghorydd Ifan Elfis Ifans, Plaid Memphis, Ceredigion. Polisïau: Disgos i bawb, sideburns a quiffs essenshal. Gwd nawr!
21 templateyselar.indd 21
27/5/10 10:54:22
adolygiadau GOREUON DOCKRAD Daw diwedd ar bopeth mawr a bach, da a drwg. A gyda CD rhif 24 yn cario’r teitl arwyddocaol, Goreuon Recordiau Dockrad ,mae’n amser dweud ffarwel wrth y label gweithgar o Gaerdydd. Anodd coelio fod 23 CD wedi dod allan ^ ers Bingo gan Skep, sef grw p Dai Lloyd sylfaenydd Dockrad, hitio’r silffoedd yn 2001, a rhof y feirniadaeth nad oes trac o Bingo ar y casgliad, yn benodol y trac gwych, ond amherthnasol i’r adolygiad hwn, Y Trysorydd. Er, dim cwyno, mae Ctrl-S yn dal ei thir a mwy. Yr artistiaid sydd wedi dewis ^ y caneuon i gynrychioli eu grw p, felly byddai wedi bod yn bowld o Dai i sticio mwy o’i fand ei hun. Sydd hefyd yn ei alluogi i basio’r bai os fyddai unrhyw un yn cega ar yr albwm. Clyfar. Ond prin fydd y bobl hynny, gan fod hwn yn gasgliad penigamp. Mae traciau Diffiniad, Skep a Thy^ Gwydr yn adio profiad cadarn yn y cefn; traciau melodig gwych gan Sweet Fontaine, The Afternoons (y rhagorol ‘Dwi’n Mynd i Newid dy Feddwl’) a Badon (amau fod Mr MC Mabon yn tynnu llinynnau’r pyped yma, mor dda yr yw) yn pasio’n llyfn yng nghanol cae; ac Ashokan, Y Diwygiad, Saizmundo (Y Terri a Huw digri) yn ymosodiad didrugaredd llawn agwedd. Tîm o fri, i enwi ond rhai, a theyrnged hynod deilwng i label sydd wedi cyfrannu cymaint dros y ddegawd ddiwethaf i gerddoriaeth newydd a dewr. 9/10 HEFIN JONES
DWI’N CARU CIWDOD 2004-2010 Ers chwe’ mlynedd bellach, mae’r label recordio Ciwdod wedi rhoi llwyfan a chyfle i fandiau ac artistiaid unigryw yng Nghymru. Wrth fentro, a chael ffydd yn y cerddorion, mae ffrwyth eu llafur bellach
THE STILLETOES
LLECHAN WLYB GWIBDAITH HEN FRÂN Roeddwn i’n ffan mawr o Gwibdaith pan ffrwydron nhw ar y sin efo’i tiwns bach doniol a bachog rhyw bedair blynedd yn ôl bellach. Y peth diwethaf ’dw i eisiau ei wneud felly wrth adolygu ei trydedd albwm yw ei diystyru’n gachu poblogaidd canol-y-ffordd, fel ^ ’dw i’n siw r y bydd llawer yn barod i’w wneud. Ond y ffaith ydi, eich bod chi, efo unrhyw fand, yn chwilio am ryw fath o ddatblygiad o un albwm i’r llall, a ’dw i ddim yn teimlo bod yna ddigon o hynny i’w glywed yn Llechan Wlyb. Mae’r band wedi sôn mewn amryw gyfweliad eu bod nhw wedi treulio mwy o amser yn y stiwdio’n perffeithio’r albwm yma, ond mae arna’i ofn mai’r
i’w weld ar hyd a lled y wlad o lwyfan Maes B nos Sadwrn ola’r ‘steddfod (Derwyddon Dr Gonzo) i lwyfan Big Weekend Radio 1 (Yr Ods). Mae gwerthfawrogiad yr artistiaid o Ciwdod yn amlwg – gweler y diolchiadau ar du mewn y clawr - ac mae’r
un peth ’dw i’n ei glywed, ac mae o’n dechrau mynd yn stel. Ond mae yma un peth calonogol iawn - mwy o ddylanwad Rob Buckley. Dwy gân y chwaraewr bâs dwbl sef ‘Ble aeth y miwsig?’ a ‘Mwsh mwsh’ ydi dau drac gorau Llechan Wlyb. Yn y ddwy gân yma, cawn ein cyflwyno i sgiliau cyfansoddi a phrif lais newydd, ac mae yna ryw ffresni yn perthyn iddynt. Yn anffodus, dydi’r newydd-deb yma ddim yn rhedeg trwy’r albwm i gyd. Albwm gwerth ei chael serch hynny, gan ei bod hi’n berwi efo hwyl a chwerthin yn union fel y ddwy arall. 7/10 GWILYM DWYFOR
albwm, fel petai yn ddiolch gan Ciwdod i’r artistiaid. Mae yna drac yma gan bob un o’r artistiaid sydd wedi rhyddhau gwaith ar y label ers 2004, sydd yn golygu bod yr albwm yn gasgliad eclectig iawn o ganeuon. Mae’r cwbl yn cychwyn efo llais hudolus a hysgi Gwilym Morus yn nyddiau Drymbago, cyn i ni gael ein taflu nôl i ganol y Poppies a’i secs (Sex Sells). Mae’r enwog Plant Duw yma yn codi’r to (a gwrychyn ambell un), y Stilletoes yn myfyrio ar dyfu fyny gyda’i griti-pync, ac i gloi’r cwbl mae ‘xxy’ gan y newydd-ddyfodiaid, y ^ Zimmermans sydd yn siw ro godi’ch clustiau. Y drafferth efo creu casgliad fel hyn yn Gymraeg ydi nad oes modd i’r albwm
blesio pob aelod o’r Genedl. Wedi dweud hynny dwi’n sicr y bydd yma rywbeth at ddant pawb. Felly tarwch hi mlaen yn y car ar ddiwrnod braf, neu wrth wneud eich hun yn barod cyn cychwyn allan (a sgipiwch unrhyw gân na ‘da chi’m yn cîn arni!). Mae’r albwm yn cael ei lansio yn Eisteddfod yr Urdd, ac mae’r holl elw yn mynd yn ôl i ‘Cerdd Gymunedol Cymru’, felly os ‘da chi wedi mwynhau gig yn ddiweddar, neu wedi cael eich swyno gan unrhyw sesiwn CD, neu’n edrych ymlaen at gael eich diddanu gan artistiaid Cymru yng ngwyliau’r Haf hwn, dangoswch eich gwerthfawrogiad, cefnogwch a myn diân i - ewch i brynu’r CD! 8/10 CASIA WILIAM
? templateyselar.indd 22
27/5/10 10:54:44
Sain YR HAF
Gwibdaith Hen Frân Llechan Wlyb RASAL CD032 - £9.99
Casgliad newydd sbon llawn hiwmor a direidi sy’n adrodd hynt a helynt cymeriadau unigryw cefn gwlad Cymru a straeon personol a doniol y pedwar aelod sy’n creu Gwibdaith Hen Frân
Huw M Os Mewn Swˆn GWYMON CD010 - £9.99
Gyda dylanwadau acwstig, ychydig o synau electronig, dipyn o fanjo, ukulele ac offerynnau gwych a gwallgof y sitar a’r Maui Xaphoon, cewch glywed cymysgedd o ganeuon gwreiddiol ac ambell i gân draddodiadol ar Os Mewn Sw ˆn
Richard James We Went Riding GWYMON CD009 - £9.99 - CYHOEDDI 21-6-2010
Ar adegau mae’r campwaith hwn yn aflafar, seicadelig a chyffrous, ac ar adegau eraill yn addfwyn a gwerinol gydag elfennau o ganu gwlad. Yn sicr mae We Went Riding yn gyfanwaith crefftus
Meic Stevens Love Songs SAIN SCD2571 - £12.98
Casgliad o ganeuon serch Saesneg a gyfansoddwyd gan Meic yn y 60au cynnar – recordiwyd y cyfan yn stiwdio Sain gyda’r band dros y 3 mlynedd ddiwethaf
Hergest Y Llyfr Coch SAIN SCD2630 - £12.98 - CD DWBL
Casgliad o 39 o ganeuon sy’n cynnwys y clasuron Niwl ar Fryniau Dyfed, 20 mlynedd yn ôl, Dyddiau Da a mwy…
Glanaethwy & Da Capo Rhapsodi SAIN SCD2605 - £12.98
Lleisiau aelodau presennol a chyn-aelodau Ysgol Glanaethwy yn perfformio caneuon poblogaidd fel Son of a preacher of man, Eryr Pengwern, You’ve got a friend, Rhythm y ddawns a llawer mwy…
Côr Iau Glanaethwy Ymlaen â’r gân SAIN SCD2624 - £12.98
Albym unigol cyntaf y côr iau – casgliad o hoff ganeuon y côr gan gynnwys recordiad cyntaf o’r gân With my voice a gyfansoddwyd yn arbennig i’r casgliad yma
POST YN RHAD AC AM DDIM WRTH ARCHEBU DRWY WWW.SAINWALES.COM Nwyddau newydd i blant… Cyw CD CANEUON ABC DVD Sali Mali DVD ANIMEIDDIO Sam Tân DVD Mae holl gynnyrch Sain, Rasal, Gwymon a Copa ar gael i’w lawrlwytho ar iTunes – yn draciau unigol 79c neu’n gasgliadau llawn £7.99
www.sainwales.com ffôn 01286 831.111 ffacs 01286 831.497 sain@sainwales.com
templateyselar.indd 23
27/5/10 10:54:55
templateyselar.indd 24
27/5/10 10:54:56