Canllaw i Rieni
Grymuso plant i fod yn Arwyr Arian yfory!
Rhaglen addysg ariannol ar gyfer plant oed ysgol gynradd
Ynglŷn ag Arwyr Arian
Mae Arwyr Arian yn rhaglen am ddim gan Young Money, a gefnogir gan HSBC UK, sy’n ceisio trawsnewid addysg ariannol ar gyfer plant oed ysgol gynradd.
Gan gydnabod bod rhieni ac athrawon yn ddylanwad allweddol ar ddatblygiad plentyn, mae’r rhaglen wedi cael ei dylunio i alluogi dull cydweithredol o addysgu addysg ariannol sy’n canolbwyntio ar y plentyn, gartref ac yn yr ystafell ddosbarth.
Ynglŷn ag Young Money – rhan o Young Enterprise
Mae Young Money yn rhan o Young Enterprise – elusen genedlaethol. Ein gweledigaeth yw bod pob person ifanc yn cael cyfle i ddysgu’r sgiliau hollbwysig y mae eu hangen i ennill arian a gofalu amdano, datblygu ffordd fentrus o feddwl a gwneud cyfraniad gwerthfawr at eu cymunedau a chymdeithas ehangach.
Mae Young Money (rhan o Young Enterprise) yn cynorthwyo pob addysgwr i ddatblygu gallu ariannol y bobl ifanc maen nhw’n gweithio gyda nhw. Rydym yn ddarparwr dibynadwy o wybodaeth, adnoddau a hyfforddiant i unrhyw un sy’n addysgu plant a phobl ifanc sut i reoli arian.
Bydd y cymorth y mae HSBC UK wedi’i roi i Arwyr Arian yn ein galluogi i gyrraedd mwy o bobl ifanc nag erioed o’r blaen, gan ddarparu addysg ariannol ystyrlon a rhoi cymorth ychwanegol i’r cymunedau mwyaf difreintiedig ledled y Deyrnas Unedig.
2
Arwyr Arian Young Money, rhan o
E-bost: moneyheroes@y-m.org.uk @YoungMoneyEdu www.moneyheroes.org.uk
Arwyr Arian | Canllaw i Rieni Rhaglen
Young Enterprise
3 Arwyr Arian | Canllaw i Rieni 04 Rydyn ni yma i’ch annog i siarad am arian 05 Gwerth Arwyr Arian 06 Mae Arian yn Agor Drysau 07 Paratoi ar gyfer y dyfodol 08 Pryd mae plant yn dechrau meddwl am arian? 09 Pam dysgu am arian gartref? 10 Deall arian gartref 11 Fframwaith Cynllunio Cynradd Young Money 12 Themâu’r fframwaith cynllunio 13 Gweithgareddau i’w gwneud gartref 14 Rhoi bywyd i ddysgu trwy lyfrau storïau 17 Ehangu dysgu gyda chymeriadau’r llyfrau storïau 18 Ed a Bunny yn Mynd i Siopa, gêm fwrdd 19 Gêm ddigidol Arwyr Arian 20 Podlediad Arwyr Arian 23 Delio â phryderon ariannol 24 5 ffordd y gallwch gymryd rhan mewn addysg ariannol yn ysgol eich plentyn 25 Cwestiynau cyffredin gan rieni 27 Tysteb
Cynnwys
Rydyn ni yma i’ch annog i siarad am arian Profiadau bywyd dyddiol yw’r camau allweddol sy’n helpu i ddatgloi dealltwriaeth plant ifanc o arian. Mae chwarae rôl a gwersi ysgol hefyd yn mireinio sgiliau mathemateg pwysig i ddatblygu dysgu mewn bywyd go iawn. Ffynhonnell: Gallu Ariannol Plant a Phobl Ifanc: plant 4 i 6 oed; y Gwasanaeth Arian a Phensiynau – Rhagfyr 2019 (Ymchwil Ansoddol) 4 Arwyr Arian | Canllaw i Rieni
Gwerth Arwyr Arian
Ym mis Hydref 2020, fe gynhalion ni waith ymchwil gyda
Censuswide ymhlith 1,001 o rieni â phlant 5 – 20 oed.
90% yn credu bod dysgu am arian yn bwysig i ddyfodol eu plentyn.
89% yn credu ei bod yn bwysig i’w plentyn ddysgu am arian gartref ac yn yr ysgol.
Mae 85% o oedolion ifanc 16-24 oed yn dweud nad oeddent wedi dysgu digon am reoli arian yn yr ysgol; ac eto, mae 95% o bobl 16-24 oed yn credu bod rheoli arian yn rhywbeth y gellir ei ddysgu.
80% yn elwa o ddiweddariadau rheolaidd ar sut i gefnogi addysg eu plentyn mewn pynciau penodol.
64%
yn mwynhau cael cyfleoedd i addysgu eu plentyn gartref ac, os gallent, byddent yn treulio mwy o amser yn gwneud hyn.
Mae ymchwil yn dangos bod gallu ariannol y rhai hynny a ddatblygodd y sgiliau hynny pan oeddent yn blant yn parhau yn uchel pan fyddant yn oedolion.
Arolwg gan Censuswide, 1001 o rieni â phlant 5 – 20 oed, 14.10.2020 - 19.10.2020.
Ffynhonnell: Gallu Ariannol Plant a Phobl Ifanc: plant 4 i 6 oed; y Gwasanaeth Arian a Phensiynau – Rhagfyr 2019 (Ymchwil Ansoddol)
Mae Byddai
5 Arwyr Arian | Canllaw i Rieni
Mae Mae
Mae Arian yn Agor Drysau –pam mae mor bwysig?
Mae plant yn sylwi ar bethau ac yn deall bod arian yn rhan o’n bywydau pob dydd. Yn y cyfamser, mae’r ffordd rydyn ni’n defnyddio arian yn newid yn gyson. Bydd helpu eich plentyn i ddeall a gwerthfawrogi arian yn gynnar yn datblygu arferion iach ynglŷn ag arian, er mwyn ei reoli’n dda pan fydd yn oedolyn.
Buddsoddi yn nyfodol eich plentyn
Gall addysgu plant am arian trwy brofiadau a gweithgareddau ymarferol eu helpu i wneud dewisiadau hyderus am gynilo a’r math o bŵer gwario sydd ganddynt.
OEDDECH CHI’N GWYBOD?
Mae plant yn dechrau ffurfio eu harferion a’u hagweddau at gyllid erbyn saith oed.2
Paratoi ar gyfer y dyfodol
Canfu Adroddiad Monitro 2019 Childwise2, fod y canlynol yn wir am blant 5 – 16 oed:
COFIWCH
Mae
30%
Byddai’n well gan wario eu harian na’i arbed
28%
yn dweud os ydyn nhw eisiau rhywbeth newydd, byddan nhw’n cael benthyg arian i’w brynu
Cipolwg yn unig yw’r canfyddiadau hyn o arferion rhai plant gydag arian. Wrth iddyn nhw fynd yn hŷn, y mwyaf y byddan nhw’n dod i gysylltiad ag arian, felly mae’n hollbwysig eu bod yn barod ar gyfer y dyfodol. Er enghraifft, efallai byddan nhw’n penderfynu mynd i’r brifysgol a chael benthyciad myfyrwyr, sy’n golygu y gallen nhw gael swm mawr o arian y mae angen iddyn nhw fod yn barod i’w reoli.
Pan fydd yr amser yn iawn, gwnewch yn siŵr fod eich plentyn yn deall y gwahaniaeth rhwng mathau o ddyled a pham mae rhai yn well nag eraill. Yn aml, does dim byd o’i le ar fenthyca arian i brynu rhywbeth, ond mae deall canlyniadau methu ei ad-dalu yn hollbwysig i allu rheoli arian yn dda. Mae penderfynu a yw’n well gwario neu gynilo yn sgiliau gydol oes y gallwch eu meithrin yn gynnar, gan alluogi eich plentyn i ddatblygu arferion iach wrth drin arian.
Crëwyd y canllaw hwn i’ch cynorthwyo, rhoi arweiniad i chi a’ch grymuso wrth siarad am arian gartref. Bydd hefyd yn eich helpu i ddod o hyd i ffyrdd rhwydd o ddatblygu sgiliau rheoli arian eich plentyn.
Darllenwch ymlaen i ganfod sut
gallwch gefnogi addysg ariannol
bersonol eich plentyn gartref.
Mae penderfynu a yw’n well gwario neu gynilo yn sgiliau gydol oes y gallwch eu meithrin yn gynnar, gan alluogi eich plentyn i ddatblygu arferion iach wrth drin arian.
3/10
Mae yn cytuno yr hoffen nhw fenthyca i gael yr hyn maen nhw ei eisiau, ac mae merched yn dweud eu bod yn llai tebygol o dalu eu dyledion.
7 Arwyr Arian | Canllaw i Rieni
Pryd mae plant yn dechrau
meddwl am arian?
Mae plant yn dechrau ffurfio eu harferion a’u hagweddau at gyllid erbyn saith oed 3 ac yn dechrau deall bod gwerth i arian yn gynnar; dyna pam mae’n bwysig rhoi addysg ariannol, dealltwriaeth a chyfleoedd ariannol iddyn nhw cyn hynny, fel y gallan nhw wneud y dewisiadau iawn yn annibynnol wrth fynd yn hŷn.
Mae canfyddiadau ymchwil y Gwasanaeth Cynghori Ariannol yn dweud wrthym, ar gyfartaledd, fod llawer o blant:
•yn dechrau cael arian poced pan fyddan nhw’n saith oed
•yn talu am bethau ar-lein erbyn saith oed
•yn berchen ar eu ffôn symudol cyntaf yn wyth oed4
OEDDECH CHI’N GWYBOD?
Mae 89% o blant 4 i 6 oed yn dweud bod ganddyn nhw ychydig bach o leiaf o’u harian eu hunain.1
Pam dysgu am arian gartref?
Fel arfer, bydd ysgolion yn cynnwys pynciau ariannol yn eu cwricwlwm, er enghraifft mewn mathemateg, ond mae mwy i reoli arian na deall gwerth darnau arian ac arian papur neu gyfrif newid (er bod y rheiny’n sgiliau pwysig eu hunain).
Bydd dysgu sut i gadw golwg ar wariant neu b’un a yw eitem yn cynnig gwerth am arian yn helpu i sicrhau bod eich plentyn yn gwybod sut i wneud penderfyniadau ariannol ei hun pan fydd yn tyfu. Mae gan bob aelwyd brofiadau gwahanol iawn o arian, felly bydd gallu addysgu’ch plentyn am arian gartref ac mewn perthynas â’ch sefyllfa eich hun yn werthfawr.
Bydd defnyddio adnoddau Arwyr Arian gartref ac yn yr ystafell ddosbarth yn eich helpu i ddatblygu gallu ariannol eich plant ochr yn ochr â’u hathrawon. Mae Arwyr Arian yn caniatáu i chi ddilyn cynnydd addysg ariannol eich plentyn a bydd yn cynyddu’r ffyrdd y gallwch ei gynorthwyo, gan ei helpu i ddysgu am arian trwy amrywiaeth o lyfrau storïau, gemau bwrdd a phodlediad craff ar gyfer rhieni.
Gallwch gael gwir deimlad o foddhad trwy roi gweithgareddau ariannol ymarferol i’ch plentyn gartref. Gall y profiadau hyn ddarparu ffyrdd ystyrlon, rhwydd a difyr o ddysgu am arian.
Cael gwerth eich arian
Pan fydd rhywun yn gallu rheoli arian yn dda, rydyn ni’n dweud ei fod yn alluog yn ariannol.
Meddyliwch a allai eich plentyn helpu i gynllunio’r siopa wythnosol neu ddod o hyd i fargeinion gwych. Byddai hyn yn golygu ei fod ar y ffordd i allu cyllidebu a deall gwerth am arian. Yn ddiweddarach yn y canllaw hwn, byddwn yn dweud mwy wrthych am yr Her Swper Fawr sy’n ceisio annog eich plentyn i gynllunio a chadw golwg ar ei wariant, yn ogystal â rhoi syniad realistig iddo o gost a gwerth hanfodion.
Mae hysbysebu a phwysau gan gyfoedion yn creu llawer o demtasiwn i wario (ar gyfer plant ac oedolion), ac mae llawer o blant eisoes yn talu am bethau yn ifanc. Nid faint o arian sydd gan blentyn sy’n gwneud iddo ei drin yn well, ond y gallu i wneud penderfyniadau doeth am ei ddewisiadau gwario.
COFIWCH
Mae plant yn dechrau datblygu ymddygiad ariannol yn gynnar iawn ac mae’r hyn rydych chi’n ei addysgu gartref yn gallu eu hysgogi i ddatblygu agweddau cadarnhaol tuag at sgiliau rheoli arian.
OEDDECH CHI’N GWYBOD?
Mae plant sy’n gwneud penderfyniadau annibynnol am arian yn ei ddeall yn well hefyd.
9 Arwyr Arian | Canllaw i Rieni
Deall arian gartref
Ydych chi erioed wedi meddwl tybed beth mae’ch plentyn eisoes yn ei wybod am arian? Gallwch ddechrau trwy ofyn iddo beth mae’n ei wybod am arian a beth hoffai gael gwybod amdano.
Mae dulliau talu’n newid yn gyson, felly mae’n werthfawr defnyddio cyfleoedd i addysgu plant am hyn pan fyddan nhw’n codi, boed hynny yn y siop leol, yn yr ysgol neu mewn man arall. Gallwch siarad am wneud taliadau heb arian i helpu i chwalu hud trafodion digidol iddynt. Er efallai byddan nhw’n gwybod y gallwch ddefnyddio cerdyn i dalu am rywbeth, fe allech helpu’ch plentyn i ddeall nad yw taliadau digyffwrdd neu heb arian am ddim a bod arian, yr un fath â darnau arian ac arian papur, yn cael ei gymryd o gyfrif banc o hyd. Datblygwch ddealltwriaeth ddyfnach o sut mae cardiau’n gweithio a chwalwch unrhyw gamdybiaethau er mwyn cynyddu gwybodaeth eich plentyn am y pwnc.
Mae llawer o blant wedi gweld eu rhieni’n defnyddio arian neu wedi cael profiad o dalu am bethau mewn siopau eu hunain. Yn ôl pob tebyg, rydych chi eisoes wedi rhoi rhai profiadau o ddysgu am arian gartref ac fe allech ehangu’r sgyrsiau hyn am y gwahanol ddewisiadau y gallan nhw eu gwneud wrth wario.
Fel rhywun sy’n dangos esiampl dda iddynt, fe allwch roi mwy o addysg ariannol iddynt a syniadau sy’n eu helpu i ystyried ffyrdd newydd o drin arian yn awr ac yn ddiweddarach mewn bywyd.
Gallwch drafod pynciau ariannol fel:
• y gwahaniaeth rhwng angen ac eisiau
• cadw arian yn ddiogel
• dewisiadau gwario a chynilo
• gwahanol ffyrdd o dalu am bethau
OEDDECH CHI’N GWYBOD?
Roedd 68% o rieni o’r farn mai nhw oedd â’r dylanwad mwyaf ar agweddau ac ymddygiad eu plentyn o ran arian.6
GWEITHGAREDD ARWYR ARIAN
Gall Cadw Cofnod helpu i ddatblygu sgiliau gallu ariannol allweddol gartref, fel cadw golwg ar arian, a chynllunio ar gyfer cynilo a gwario.
10 Arwyr Arian | Canllaw i Rieni
Sut gall y fframwaith cynllunio eich helpu
Mae llawer o bynciau cysylltiedig ag arian y gallai plant ddysgu amdanynt ac, os ydych chi’n meddwl tybed ble i ddechrau, rydyn ni yma i helpu.
Mae fframwaith wedi cael ei greu helpu i rannu addysgu am arian yn adrannau hawdd eu trin. Efallai bydd rhai ysgolion yn defnyddio’r fframwaith fel canllaw i addysg ariannol – p’un a yw’n derbyn sylw trwy bwnc penodol neu feysydd eraill o’r cwricwlwm.
Gallwch ddefnyddio’r fframwaith hwn fel canllaw i addysgu eich plentyn am arian gartref hefyd, gan ei fod yn rhoi strwythur y gellir ei gysylltu â gwersi yn yr ysgol. Bydd yn ymdrin â’r pynciau mwyaf perthnasol ac mae wedi’i rannu’n grwpiau oedran i’ch helpu i ddod o hyd i’r lefel iawn ar gyfer addysgu eich plentyn. Gallwch ddewis y rhannau rydych chi’n credu sy’n gweddu orau i’ch plentyn ac fe allai hyd yn oed eich helpu i feddwl am rai syniadau newydd eich hun.
Mae pedair thema graidd i bob grŵp oedran ddysgu amdanynt:
1. Sut i reoli arian
2. Bod yn ddefnyddiwr beirniadol
3. Rheoli’r risgiau a’r emosiynau sy’n gysylltiedig ag arian
4. Deall rôl bwysig arian yn ein bywydau
3-11 oed
Fframwaith Cynllunio Addysg Ariannol 3 -11 oed
hŷn brynu’r eitemau hyn. Gallant agor cyfrif banc a chael cerdyn debyd yn 11 oed. Pan fyddan nhw’n 18 oed, gallant wneud cais am gerdyn credyd neu
fenthyciad, a chyn iddynt adael yr ysgol, rhaid iddyn nhw wneud penderfyniadau tyngedfennol am swyddi, benthyciadau myfyrwyr,
a byw yn annibynnol. Mae’r angen bobl ifanc ddatblygu’r sgiliau ennill eu harian, a gofalu am eu harian, yn gryfach nag erioed.
Y Fframwaith Cynllunio 3-11 Nod y fframwaith hwn yw cefnogi cynllunio, addysgu a dilyniant addysg ariannol trwy nodi meysydd allweddol gwybodaeth, sgiliau ac agweddau ariannol, ar draws pedair thema graidd, sef: sut reoli arian; bod yn ddefnyddiwr beirniadol; rheoli risgiau ac emosiynau yn gysylltiedig ag arian; deall rôl bwysig arian yn ein bywydau. Mae’r fframwaith wedi’i gynllunio i’ch helpu gyflwyno addysg ariannol yn hyblyg ar draws eich cwricwlwm. Nid yw wedi’i fwriadu i’w ddefnyddio’n llym. Mae gosod yr ystodau oedran ochr wrth ochr yn dangos dilyniant 3-11 oed. Fodd bynnag, gallai fod angen chi ddefnyddio syniadau o oedrannau eraill yn dibynnu ar anghenion eich disgyblion.
Mae Fframwaith Cynllunio 11-19 hefyd, sydd wedi’i gynllunio yn yr un ffordd yn union â’r fframwaith 3-11 hwn, ac fe’i defnyddir mewn ffyrdd tebyg iawn gyda phobl ifanc 11 oed ac yn hŷn. Ein gweledigaeth yw cynorthwyo ysgolion ag ymgorffori addysg ariannol o ansawdd uchel yn eu haddysgu a’u dysgu, gan felly wneud newid cadarnhaol blant a phobl ifanc mewn ffordd gynaliadwy. Ceir mwy o wybodaeth dros y dudalen am sut gellir defnyddio’r fframwaith hwn, a rhai o’r gwasanaethau sydd ar gael helpu chi gynllunio a chyflwyno addysg ariannol mewn ffordd effeithiol a difyr. Gallwch chi lawrlwytho’r Fframweithiau Addysg Ariannol yn www.young-money.org.uk/frameworks
Gallwch lawrlwytho’r
Addysg Ariannol o www.moneyheroes.org.uk Gwario, cynilo, rhoi, cael? Beth bynnag rydym ni’n ei wneud ag arian, mae angen i ni ei reoli’n dda. Mae rhaglen drawsgwricwlaidd, gynlluniedig o addysg ariannol, yn gallu helpu rhoi’r hyder, y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen ar bobl ifanc reoli eu harian, nawr ac yn y dyfodol. Rydym ni wedi darganfod bod plant, ar gyfartaledd, yn dechrau cael arian poced pan fyddan nhw’n saith oed, yn berchen ar eu ffôn symudol eu hunain pan fyddant yn wyth oed, ac yn prynu eitemau ar-lein yn 10 oed, a bod un o bob pump o blant wedi defnyddio cerdyn credyd neu gerdyn debyd eu rhieni neu’u brodyr/chwiorydd
Fframwaith Cynllunio
11 Arwyr Arian | Canllaw i Rieni
AWGRYM!
1. Sut i Reoli Arian
Bydd gwybod sut i gyfrifo newid, cadw golwg ar wariant, a bod gan bobl agweddau gwahanol at arian i gyd yn helpu’ch plentyn i reoli sut mae arian yn cael ei wario. Un o’r gweithgareddau Arwyr Arian y gallech ei drefnu ar gyfer eich plentyn yw ‘Gadewch i ni Chwarae Siop’. Ceisiwch sefydlu gwahanol fathau o siopau ar wahanol ddiwrnodau, efallai siop fwyd, siop ddillad, neu siop deganau. Bydd y cyfle i brofi bod yn ddefnyddiwr a defnyddio darnau arian go iawn neu blastig yn eu hannog i ddysgu gwerth gwahanol ddarnau arian, a bydd chwarae rôl y siopwr a phrisio’r cynhyrchion yn eu galluogi i ddeall beth yw pris eitemau a sut i drin arian a newid
2. Bod yn Ddefnyddiwr Beirniadol
Gall siarad am y dewisiadau gwario gorau pan fydd eich plentyn yn ifanc ei helpu i ddeall y gwahanol fathau o ddylanwadau y gallai ddymuno meddwl amdanynt, a phwysigrwydd cynllunio a rheoli cyllideb.
Bydd yr Her Swper Fawr yn rhoi cyfle i’ch plentyn gael gwir deimlad o’r math o benderfyniadau y mae angen eu gwneud wrth baratoi pryd o fwyd ar gyfer teulu. Gall trafod sut i gael gwerth am arian a chadw golwg ar wariant ddysgu eich plentyn sut i ganolbwyntio ar brif flaenoriaethau cadw at gyllideb. Fe allech archwilio hyn ymhellach gyda’ch plentyn trwy roi cyllideb fwy neu lai iddo, neu ddefnyddio sgiliau cyllidebu i gynllunio ar gyfer digwyddiad arall, fel taith neu brynu gwisg.
3. Rheoli’r Risgiau a’r Emosiynau sy’n gysylltiedig ag Arian
Gall dysgu am fuddion cynilo a pham mae’n bwysig gofalu am arian helpu plant i ddeall sut mae teimladau’n gallu bod yn gysylltiedig ag arian.
Mae Prynu ai Peidio yn weithgaredd sy’n annog plant i ateb y cwestiwn: Sut mae arian yn gwneud i ni deimlo? Mae gallu deall nad yw pobl bob amser yn gallu fforddio’r hyn maen nhw ei eisiau yn rhywbeth defnyddiol i’w ddysgu yn ifanc. Os oes enghraifft rydych yn gyfforddus siarad amdani gyda’ch plentyn, sef rhywbeth yr hoffai eich teulu ei brynu ond nad yw’n gallu ei fforddio ar hyn o bryd, efallai gallech ei thrafod yn ystod y gweithgaredd. Mae gallu siarad am sut mae arian yn gallu effeithio ar deimladau yn cynnig llawer o gyfleoedd i ddeall materion pwysig fel angen ac eisiau, blaenoriaethau gwario, a chymaint o foddhad y gallwch ei gael os gallwch fforddio cynilo ar gyfer rhywbeth dros gyfnod.
4. Deall Rôl Bwysig Arian yn ein Bywydau
Mae arian yn rhan o fywyd pawb, ac mae’n bwysig i blant ddeall sut gallai pobl wahanol gael arian mewn ffyrdd gwahanol, y gwahanol fathau o swyddi sydd gan rai pobl, a sut mae’n effeithio ar y gymuned ehangach.
Mae gweithgaredd Byd Gwaith Arwyr Arian yn annog plant i:
- ofyn cwestiynau am waith
- deall sut mae oedolion yn ennill arian
- deall cysyniadau sylfaenol ynglŷn â threthi, pensiynau ac yswiriant gwladol
Mae’r gweithgaredd hwn ar gyfer plant hŷn ac mae’n eu hannog i feddwl am ennill arian a sut mae cyflogau’n cael eu gwario. Os ydych yn gyfforddus yn rhannu’ch profiadau eich hun, helpwch eich plentyn i ystyried cysylltiadau rhwng arian a gwaith. Bydd yr ymarfer hwn yn annog plant i feddwl am yr hyn maen nhw’n mwynhau ei wneud a sut gallen nhw ddymuno defnyddio eu sgiliau a’u gwybodaeth yn y dyfodol.
12 Arwyr Arian | Canllaw i Rieni
Dyma rai enghreifftiau o sut gallech ddefnyddio’r fframwaith i addysgu’ch plentyn am y pynciau hyn...
Gweithgareddau i’w gwneud gartref
Amser Tegan
5 - 7 OED
Mae dechrau deall dewisiadau ynglŷn â gwario a chynilo yn brofiadau gwerthfawr y gall plant eu harchwilio trwy’r gweithgaredd Amser Tegan.
Mae’r gweithgaredd hwn yn annog plant i ddefnyddio siart gynilo i’w helpu i ddeall pa mor hir y gallai ei gymryd iddynt gynilo ar gyfer tegan. Mae siarad mwy am ddewisiadau synhwyrol yn fodd o annog plant i feddwl am ansawdd tegan. Mae cadw golwg ar faint o arian maen nhw’n ei gynilo a deall does dim byd o’i le ar eisiau rhywbeth ac yna newid eu meddwl, i gyd yn helpu plant i feddwl am fod yn siopwr craff.
Cadw Cofnod
5 - 9 OED
Mae’r gweithgaredd hwn yn canolbwyntio ar wybod sut i gadw golwg ar arian. Un o’r sgiliau sy’n cael eu haddysgu yma yw cyfrif gwahanol symiau o arian a chadw cofnod o’r cyfansymiau.
y dan arweiniad Templed Cynilo Gwario Templed ar gael arian Templed gael
gweithgareddau hyn a mwy gartref, sydd ar gael trwy Hwb Rhieni Arwyr Arian. Y GWEITHGAREDD: BYDD ANGEN...
Bydd y gweithgaredd hwn hefyd yn helpu plant i ddeall pam mae’n bwysig cadw arian yn ddiogel ac yn rhoi cyfle iddynt benderfynu ble yw’r lle mwyaf diogel i gadw arian, o bosibl.
darlun templed Cynilo gymorth. Cadw Cofnod YSTOD OEDRAN: 5 OED Arbed Arian Darnau Arian Arian Papur
2. cyfri harian, anogwch plentyn ysgrifennu’r cyfanswm. Gyda’ch plentyn, cyflwynwch gynllun templed gallant gadw cofnod arian sydd ganddynt. ymlaen, anogwch nhw gofnodi templed pan fyddant gwario gynilo unrhyw arian. Neu gallwch ddefnyddio templed Cofnod Cynilo Blwch
GEIRFA ALLWEDDOL Gweler rhestr www.moneyheroes.org.uk ddiffiniad ymadroddion.
AWGRYM!
GWEITHGAREDD CARTREF ragor yn www.moneyheroes.org.uk Am beth mae e? yw eich plentyn yn gofyn am deganau neu gemau? gyfer gweithgaredd hwn eich plentyn esgus dewis tegan i’w brynu, o gatalog neu ar-lein. swm dychmygol arian poced, byddant yn gweithio allan pa mor byddai’n ei gymryd gynilo ar tegan. Bydd hyn helpu eich plentyn ddeall wneud dewisiadau ynghylch sut wario neu gynilo arian, yn ogystal gwerth eitemau. Beth fydd fy mhlentyn yn ei ddysgu? yn ddefnyddiwr beirniadol: dewisiadau ynghylch cynilo gwario Rwy’n gwybod bod ddewisiadau ynghylch cynilo gwario fy arian. Rwy’n dechrau deall gallwn redeg allan yn annisgwyl na fyddaf cadw golwg arno. yn ddefnyddiwr beirniadol: angen ac eisiau Rwy’n dechrau deall pobl wneud gwahanol ddewisiadau ynghylch gynilo a arian. Dechrau Dywedwch wrth plentyn ddychmygu bod yn mynd roi £2.50 iddynt bob wythnos (hyd gellir rhagweld). Gadewch ddewis tegan brynu, gatalog neu wefan teganau (atgoffwch nhw mai gweithgaredd ‘esgus’ hwn). Helpwch eich plentyn ysgrifennu faint wythnosau y byddai’n gymryd gynilo gyfer eitem, os y yn defnyddio arian poced i’w brynu. Defnyddiwch templed Siart Cynilo Arwyr i’w helpu Siaradwch plentyn ynghylch fyddent yn dal fod eisiau’r eitem, wybod byddai’n cymryd cymaint amser gynilo ar ei gyfer, neu fyddent edrych eto dewis rhywbeth llai costus, byddai hynny’n cymryd amser ar ei gyfer. dan arweiniad rhieni: munud Catalog teganau neu fynediad rhyngrwyd Papur Siart Cynilo Templed ar gael Darnau arian ac papur Templed ar gael Y GWEITHGAREDD: ANGEN... Amser Tegan YSTOD OEDRAN: 5 7 OED Sgwrs Arian hwn yn gyfle siarad am bwysigrwydd gwneud dewisiadau synhwyrol. pawb yn gwneud eu dewisiadau eu hunain ran gwario chynilo. Gallech siarad â’ch plentyn am: - tegan sydd ansawdd da, gallai hirach - gwybod oes ganddynt ddigon o arian brynu tegan drwy gadw golwg faint o arian ganddynt - deall ei bod iawn bod rhywbeth yn newid meddwl - chynilo harian er mwyn cael rhywbeth wir ei eisiau Ychwanegwch her! Os ydych mewn sefyllfa wneud hynny, helpwch eich plentyn gynilo gyfer tegan go o’i ddewis. Gallech chi plentyn wneud cynilo siart cynilo wythnosol. Byddent yn ticio tro byddant cynilo arian, iddynt gyrraedd eu nod. gallent gyfri’r arian yn jar chael hwyl yn siopa teganau! Help Llaw Efallai byddwch am yr arian poced swm haws i’w gyfri neu £2 Gallech adael entyn gyfri darnau arian go iawn/plastig, helpu wrth weithio allan pa mor hir y bydd gymryd gynilo gyfer tegan. Fforddio Rhad Newid Darnau Arian Papur Ansawdd Cynilo Gwario Cyfrif cynilo GEIRFA ALLWEDDOL Gweler ein termau ar-leinwww.moneyheroes.org.uk am eiriau ymadroddion. AWGRYM! GWEITHGAREDD CARTREF ragor www.moneyheroes.org.uk Am beth mae e? A yw plentyn gwybod sut ofalu am arian a’i gadw’n ddiogel? Mae’n bwysig cadw golwg ar arian wneud yn siŵr bod gennym ddigon ar y pethau rydym hangen a’u heisiau. Mae’r gweithgaredd hwn yn rhoi rymiadau sut y gallwch eich plentyn gadw golwg ar ei arian gadw me lle diogel. Beth fydd fy mhlentyn yn ei ddysgu? reoli arian: Cadw golwg ar arian chadw cofnodion Rwy’n gwybod ffyrdd gadw golwg fy a’r hyn rwy’n wario e.e. dyddiadur gwariant gadw cofnodion syml. Rwy’n gwybod ffyrdd gwahanol gadw golwg fy arian yn ddefnyddiwr beirniadol: Dewisiadau ynghylch cynilo gwario Gallaf wneud cynllun gyfer newisiadau cynilo gwario chadw Dechrau arni Cyfri Helpwch plentyn gasglu chyfri unrhyw ganddynt gartrefenghraifft, bydd rhywfaint pocedi, droriau, pwrs/waled, arian arall, gallwch hefyd ddefnyddio’r templed Darnau ac Arian Papur gasglu chyfri Cefnogwch adio ddarnau geiniog sydd ganddynt, yna cyfanswm yr Helpwch plentyn ymarfer cyfri gwahanol symiau oes gan eich plentyn newid, gofynnwch iddynt ddod £3.50, £1.75 Gofynnwch gwestiynau plentyn wariant gan plentyn bod ‘gwario’ £3.50, faint sydd Cofnodi Dangoswch plentyn cofnod sydd ganddynt – gweler
Archwiliwch Gwario’r Arwyr Gadewch plentyn gymryd perchnogaeth cofnod drwy addurno lle diogel gadw. Cadw’n Ddiogel Siaradwch â’ch plentyn lleoedd gadw harian yn ddiogel thrafodwch rhesymau mae lleoedd yn diogel nag eraill. 2. Penderfynwch gyda’ch gilydd eich plentyn cadw harian ddiogel tŷ. ganddynt flwch barod, diogel gyfer harian, efallai gallent greu addurno un, ddefnyddio ailgylchu gwastraff o’r
Rhoi bywyd i ddysgu
trwy lyfrau storïau
Mae plant yn dysgu orau pan fyddan nhw’n gwneud gweithgareddau maen nhw’n eu mwynhau. Dyna pam y gweithion ni gyda’r cyhoeddwr plant byd-eang blaenllaw, Scholastic, i roi bywyd i ddysgu ac annog plant i siarad am arian.
Ed a Bunny yn Ennill Peth Arian gan Matt Carr
3 - 7 OED
Bydd plant yn ymuno ag Ed a Bunny ar antur i ddysgu am arian yn y llyfr stori hwn sy’n sôn am wneud penderfyniadau cynilo a gwario a chadw arian yn ddiogel.
Bydd y stori hon yn helpu’ch plentyn i ddysgu am reoli’r risgiau a’r emosiynau sy’n gysylltiedig ag arian, wrth iddo ddarllen am y dewisiadau y mae Ed a Bunny yn eu gwneud ynghylch beth i’w wneud â’u henillion.
Dechreuwch ddysgu sgiliau gallu ariannol i’ch plentyn gartref drwy ddefnyddio’r llyfr stori i sôn am ddefnyddio arian mewn ffyrdd difyr a rhyngweithiol...
Y PETHAU DIFYR!
1. Penderfyniadau lu.
Ar ôl darllen y stori, gofynnwch i’ch plentyn ba gymeriad wnaeth y dewisiadau cynilo gorau a pham.
2. Rhannwch ef.
Mae plant wrth eu bodd yn rhannu eu gwybodaeth newydd, felly gofynnwch i’ch plentyn ddewis ei hoff gymeriad ac actio sut gallai’r cymeriad hwnnw deimlo am arian yn y stori.
3. Mae grym mewn gwybodaeth.
Gofynnwch i’ch plentyn ble mae’n cadw ei arian yn ddiogel a pham.
Tynnu lluniau am hwyl. Gofynnwch i’ch plentyn dynnu llun o rywbeth yr hoffai gynilo amdano a, gyda’ch gilydd, cynlluniwch ba mor hir y byddai hyn yn ei gymryd.
Mae’r holl lyfrau storïau ar gael fel eLyfrau neu gallwch
ofyn am gopïau am ddim trwy’ch dangosfwrdd ar y platfform Arwyr Arian.
14 Arwyr Arian | Canllaw i Rieni
Cyhoeddir Ed a Bunny yn Ennill Peth Arian gan Scholastic (2021) –testun a darluniad © Matt Carr.
NiOl...
Matt Carr
Ed a Bunny yn Gwario Peth Arian gan Matt Carr
3 - 7 OED
Bydd plant yn parhau â’u hantur i ddysgu am arian yn yr ail lyfr stori yn y gyfres Ed a Bunny ynglŷn â chadw golwg ar arian a deall angen ac eisiau.
Bydd y stori hon yn helpu’ch plentyn i ddysgu am sut i reoli arian a deall efallai y bydd yn mynd yn brin o arian os na fydd yn cadw golwg arno, wrth iddo ddarllen am y dewisiadau y mae Ed a Bunny yn eu gwneud ar eu taith i’r siop.
Dechreuwch ddysgu sgiliau gallu ariannol i’ch plentyn gartref drwy ddefnyddio’r llyfr stori i sôn am ddewisiadau gwario a sut i reoli arian mewn ffyrdd difyr a rhyngweithiol...
Dysgwch bopeth am arian gydag
Mae Ed yn fath o sYnHwYrOl a math o Bunny DDoNiOl...
Mae mam Bunny yn pobi cacen ac mae tad Ed yn gwneud rhost cnau, felly mae’r ddau rind yn cael eu hanfon i’r siop i gael rhai cynhwysion. Mae gan y ddau bum punt i’w gwario ond, fel bob amser gydag Ed a Bunny, nid yw pethau’n mynd yn unol â’r cynllun!
Y PETHAU DIFYR!
1. Pwy wnaeth e’ orau. Ar ôl darllen y stori, gofynnwch i’ch plentyn ba gymeriad wnaeth y dewisiadau gwario gorau a pham.
2. Wedi mynd i siopa. Siaradwch am ba gwestiynau y byddai eich plentyn yn eu gofyn i un o’r cymeriadau ar ôl iddo ddychwelyd o’r siop.
GWEITHGAREDDAU YCHWANEGOL ARWYR ARIAN
Trowch i dudalen gyntaf pob llyfr stori i ddarganfod mwy o ffyrdd difyr i helpu’ch plentyn i barhau i ddysgu am arian.
Ed a Bunny yn Ennill Peth Arian
• Gofynnwch i’ch plentyn a yw’n gallu adio’r holl ddarnau arian ar y dudalen.
• Ychwanegwch her drwy ofyn iddo wneud swm penodol (h.y., pa ddarnau arian sy’n gwneud £5).
Ed a Bunny yn Gwario Peth Arian
• Gofynnwch i’ch plentyn adio cost gwahanol eitemau ar y dudalen.
• Ychwanegwch her drwy ofyn iddo beth all ei brynu am swm penodol (h.y., £5).
Cyhoeddir Ed a Bunny yn Gwario Peth Arian gan Scholastic (2021) –testun a darluniad © Matt Carr.
15 Arwyr Arian | Canllaw i Rieni
Matt Carr
Rhoi bywyd i ddysgu
trwy lyfrau storïau
Straeon Gwych ar gyfer Arwyr Arian gan E.L. Norry
7 – 11 OED
Mae’r llyfr penodau hwn ar gyfer plant Cyfnod
Allweddol 2 yn cynnwys casgliad o straeon byrion lle y bydd plant yn ymuno â’r cymeriadau ar daith i ddarganfod sut mae arian yn dylanwadu ar ein bywydau pob dydd a sut i oresgyn heriau sy’n gysylltiedig ag arian.
Bydd y storïau hyn yn eu helpu i ddeall efallai y bydd angen gwario arian ar eitemau hanfodol, weithiau, felly efallai ni fydd arian sbâr ar gael bob amser ar gyfer pethau ychwanegol.
Bydd pob stori’n helpu plant i ddatblygu sgiliau gallu ariannol gwerthfawr a darganfod ffyrdd creadigol o gynilo arian, gwneud dewisiadau gwahanol am wario a deall angen ac eisiau. Ar hyd y ffordd, bydd plant yn deall rôl bwysig arian yn ein bywydau a pham mae’n bwysig helpu pobl eraill.
Parhewch â’r daith gartref drwy ddefnyddio’r llyfr stori i sôn am ddewisiadau gwario a chynilo mewn ffyrdd difyr a rhyngweithiol:
Y PETHAU DIFYR!
1. Dychmygwch ef!
Gofynnwch i’ch plentyn ddychmygu ei fod yn gyflwynydd sioe radio neu bodlediad, yn cynnig cyngor i blant. Pa fath o gyngor y byddai’n ei roi i un o’r cymeriadau yn y storïau pan oedd yn teimlo’n siomedig nad oedd ganddo ddigon o arian ar gyfer yr eitem yr oedd wir ei heisiau?
2. Actiwch ef.
Mae esgus y bydd eich plentyn nawr yn cyfweld un o’r cymeriadau yn y storïau yn ffordd chwareus o’i annog i ofyn cwestiynau fel, ‘A fyddai’n well gen ti gael cas pensiliau ffansi i ti dy hun neu rywbeth y galli di ei rannu gydag eraill?’ ac ‘A fyddai’n well gen ti gael busnes sy’n gwneud arian yn gyflym am un diwrnod neu sy’n para dros gyfnod?’
3. Amser i ddylunio.
Anogwch eich plentyn i feddwl am rai o’r heriau yr oedd y cymeriadau wedi’u goresgyn yn y storïau. Er enghraifft, gofynnwch iddo feddwl am y sgiliau a ddatblygon nhw a’r cyflawniadau neu’r profiadau y dysgon nhw i ymdopi’n well â nhw. Yna, gall eich plentyn greu tystysgrif i wobrwyo’r cymeriad am ddatblygu’r sgiliau hynny.
3. Cwisfeistr.
Mae holi eich plentyn am beth oedd y cymeriadau ei angen a’i eisiau yn y storïau yn ffordd wych o’i helpu i adnabod y gwahaniaeth rhyngddynt.
16 Arwyr Arian | Canllaw i Rieni
Cyhoeddir Super Stories for Money Heroes gan Scholastic (2021) –testun © E.L. Norry a darluniadau gan Iris Amaya © Scholastic. Darluniwyd
2 stori yn 1 Dydych chi fyth yn rhy fach wneud gwahaniaeth! Straeon Gwych ar gyfer E.L. norry Arwyr HInSAWDD Arwyr Arian E.L. Darluniwydnorry gan Iris Amaya Straeon Gwych Arwyr Arian 3 stori yn 1 E.L. norry Cael ddysguwrthhwyl amARiAn! Straeon Gwych ar gyfer
gan Iris Amaya
Ed a Bunny yn Mynd i Siopa, Gêm Fwrdd
4+ OED
Mae Orchard Toys yn gwmni cynhyrchu gemau addysgol blaenllaw, ac mae eu gemau’n ddelfrydol ar gyfer chwarae dychmygus, gan alluogi’r chwaraewr i ymgymryd â rôl cwsmer ac actio’r hyn y mae wedi’i weld mewn bywyd go iawn er mwyn deall mwy am y byd o’i amgylch. (Orchard Toys, 2021)
Dyna pam rydyn ni wedi ymuno â nhw i greu gêm fwrdd sy’n caniatáu i blant efelychu’r ymddygiad hwn i’w helpu i ddeall rhai arferion sy’n datblygu gallu ariannol wrth siopa a gwella sgiliau bywyd pob dydd fel adnabod a dewis darnau arian o’r gwerth cywir.
Y PETHAU DIFYR!
1. Dadansoddi!
Gall chwarae’r gêm fwrdd hon helpu i symleiddio materion cymhleth a bydd yn helpu eich plentyn i ddatrys problemau a dysgu sut i gyflawni nodau
2. Gêm ar gyfer pob gallu.
Crëwyd y gêm hon i fod yn gynhwysol ar gyfer plant o bob gallu addysgol a gellir ei gwneud yn haws i chwaraewyr iau sy’n dechrau adnabod a chyfrif arian neu’n fwy heriol i chwaraewyr sydd eisoes yn ymarfer adio darnau arian.
75%
o rieni’n dweud bod chwarae gemau bwrdd gyda’i gilydd yn helpu i roi hwb i ddatblygiad eu plentyn.
Gofynnwch am eich gêm fwrdd ar y platfform Arwyr Arian trwy eich dangosfwrdd.
Mae creu hwyl trwy gêm fwrdd yn ffordd wych o ddatblygu sgiliau gallu ariannol, felly os oes gennych chi rai o’r eitemau ar y rhestr siopa yn eich cypyrddau, beth am eu defnyddio i ychwanegu ychydig mwy o brofiad ymarferol i’r gêm?
18 Arwyr Arian | Canllaw i Rieni
Arolwg gan Censuswide, 1001 o rieni â phlant 5 – 20 oed, 14.10.2020 – 19.10.2020
Mae
Gêm Ddigidol Arwyr Arian
7 – 11 OED
Mae gemau wedi cael eu defnyddio i ddarparu profiadau addysgol ar gyfer gwahanol arddulliau ac anghenion dysgu, yn ogystal â chynnal diddordeb ac ysgogiad.
(Y Diwydiant Gemau Fideo Ewropeaidd, 2020)
Dyma gyfle i’ch plentyn gael profiad rhithwir o gynllunio disgo diwedd blwyddyn ysgol wrth iddo ystyried yn ofalus beth fydd yn gwneud ei ddigwyddiad yn llwyddiannus
Bydd chwarae’r gêm hon yn galluogi eich plentyn i ddatblygu sgiliau gallu ariannol trwy ymarfer gwneud penderfyniadau am ddewisiadau costeffeithiol, cadw cofnodion, a chael gwerth am arian – sydd oll yn rhan o’r gêm hon.
Y PETHAU DIFYR!
1. Herio’r gyllideb!
Bydd y profiad unigryw o gael cyllideb i’w rheoli yn ychwanegu at gyffro’r gêm. Bydd hefyd yn cynyddu hyder i ddarganfod y sgiliau sy’n angenrheidiol i ddatblygu crefft cyllidebu’n llwyddiannus.
2. Newid pethau.
Gallwch ychwanegu her at y gêm hon trwy wahodd eich plentyn i wneud dewisiadau gwahanol y tro nesaf, er enghraifft drwy wario llai neu fwy. Bydd yn mwynhau rhannu’r hyn y mae wedi’i ddysgu am y gwahaniaeth y gwnaeth y penderfyniadau gwario hyn.
3. Dysgu gwersi.
Un o’r gwersi gwerthfawr y bydd eich plentyn yn ei dysgu yw nad oes ffordd gywir nac anghywir o wario arian. Bydd yn dysgu y bydd cynllunio’n ofalus yn ei helpu i gael y canlyniadau sy’n bodloni’r dewisiadau sy’n well ganddo orau.
19 Arwyr Arian | Canllaw i Rieni
Podlediad Arwyr Arian
Mae’r podlediadau ar gyfer rhieni yn rhoi syniad i chi o sut gall dysgu am arian gartref gael ei ddatblygu. Byddwch yn clywed gan arbenigwyr addysg ariannol, awduron llyfrau plant a rhieni yn siarad am ystod eang o bynciau sy’n helpu i greu profiad dysgu mewn addysg ariannol, gan rannu rhai o’u straeon personol am sut maen nhw’n cynorthwyo plant i ddod yn fwy galluog yn ariannol.
Mae’r sgyrsiau hyn yn cynnig cyfle i chi ddysgu’n uniongyrchol gan weithwyr proffesiynol, y mae rhai ohonynt yn rhieni hefyd, am yr hyn sydd wedi gweithio iddyn nhw wrth addysgu plant am arian a byddant yn cynnig rhai awgrymiadau da ar sut i ddechrau arni a pharhau i ddatblygu sgiliau rheoli arian.
Mae’r podlediad ar gael trwy dudalen hafan y wefan Arwyr Arian, neu drwy chwilio am ‘Arwyr Arian’ ar blatfform eich hoff ddarparwr podlediadau, fel Spotify neu Apple Podcasts.
Gallwch wrando ar y penodau yn y drefn y cawsant eu recordio, neu gallwch ddewis pwnc sydd o ddiddordeb i chi. Roedd y penodau canlynol ar gael ar adeg cyhoeddi’r canllaw hwn a bydd mwy o bodlediadau’n cael eu hychwanegu yn ystod y flwyddyn i ddod.
Gallwch wrando ar y penodau yn y drefn y cawsant eu recordio, neu gallwch ddewis pwnc sydd o ddiddordeb i chi.
20 Arwyr Arian | Canllaw i Rieni
Podlediad Arwyr Arian
PENNOD 1
Cyflwyno addysg ariannol
Gwrandewch ar Russell Winnard, Cyfarwyddwr Rhaglenni a Gwasanaethau Young Enterprise a rhiant i dri o blant, yn siarad am fuddion datblygu sgiliau cysylltiedig ag arian yn gynnar. Mae’r bennod hon hefyd yn eich helpu i ddeall pwysigrwydd y rhaglen Arwyr Arian.
PENNOD 2
Annog penderfyniadau iach am arian
Mae’r bennod hon yn sôn am ddod o hyd i fan cychwyn i helpu i ddatblygu arferion ariannol iach gydol oes drwy ddefnyddio Fframwaith Cynllunio
Young Money. Mae’r pynciau cysylltiedig ag arian sy’n cael eu trafod yn cynnwys awgrymiadau da ar sut i gynnal diddordeb eich plentyn mewn dysgu am arian a’i helpu i ddeall sut i osgoi anawsterau. Bydd Helen
Westwood, Athrawes Addysg Ariannol y Flwyddyn 2019
Moneywise, yn rhannu ei safbwynt ar sut mae dysgu am faterion ariannol yn gynharach yn fuddiol, fel y gellir ei ddefnyddio i helpu i ffurfio ffyrdd o fyw a phrofiadau yn y dyfodol.
PENNOD 3
Creu siopwyr craff
Ydych chi erioed wedi meddwl tybed sut mae creu siopwr craff? Trafodir gweithgareddau bywyd go iawn a ffyrdd ymarferol o helpu plant i ddeall sut gall prawf blasu eu helpu i benderfynu a ydyn nhw wir eisiau eitem frand neu a fyddai’n well ganddyn nhw arbed ychydig o arian drwy brynu’r eitem ratach. Bydd yr Ymgynghorydd
Addysgol, Emma Ward, yn rhannu ffyrdd creadigol o’ch helpu i ddangos i blant sut i reoli arian, ei werthfawrogi a deall eu blaenoriaethau eu hunain o ran ei wario.
PENNOD 4
Dysgu am arian trwy storïau
Mae’r podlediad hwn yn cyflwyno’r llyfr stori Ed a Bunny yn Ennill Peth Arian ac yn esbonio sut gellir defnyddio adrodd storïau i annog sgyrsiau agored am arian. Efallai bydd gan deuluoedd eu pryderon ariannol eu hunain, felly fe allai defnyddio llyfrau storïau i ddeall sut gallai cymeriadau deimlo gynnig ffordd o siarad am bryderon heb orfod rhannu gormod am sefyllfaoedd personol. Mae awdur Ed a Bunny, sef Matt Carr, yn sôn am ennyn diddordeb plant yn y pwnc hwn a datblygu eu sgiliau rheoli arian trwy adrodd storïau’n rhyngweithiol.
PENNOD 5
Siarad â’ch plant am arian
Mae’r beiciwr Olympaidd Syr Chris Hoy yn siarad nid yn unig am bwysigrwydd gallu cyfrif darnau arian ond hefyd am y teimladau a allai fod yn gysylltiedig ag ef. Mae’n atgyfnerthu’r syniad bod addysg ariannol yn wers gydol oes a bod dysgu sut i werthfawrogi gwerth arian a’i ennill yn waith caled. Mae Syr Chris yn rhannu rhai o’i brofiadau gydag un o’i blant ifanc a gweithgaredd Arwyr
Arian, ond mae’n ein hatgoffa ei bod yn cymryd amser ac ymdrech i gyflawni’r sgiliau hyn.
21 Arwyr Arian | Canllaw i Rieni
Podlediad Arwyr Arian
PENNOD 6
Rôl arian yn ein bywydau
Mae’r Fonesig Sarah Storey, beiciwr Paralympaidd, yn sôn am y ffyrdd niferus y mae arian wedi’i blethu yn ein bywydau. Mae’r Fonesig Sarah yn esbonio pam mae addysg ariannol yn bwnc pwysig i’w brofi y tu allan i’r ysgol oherwydd yr amrywiaeth o brofiadau dysgu dydd i ddydd sydd ar gael yn rhwydd. Mae’r ffyrdd y mae’r Fonesig Sarah yn creu cyfleoedd dysgu rheolaidd yn cynnwys dangos esiampl dda, byw o fewn eich incwm a datblygu dealltwriaeth annibynnol plant trwy ganiatáu iddynt dalu am eitemau mewn siop.
PENNOD 7
Arwyr Arian hyd yma
Mae Sam Kennard, Rheolwr y Rhaglen Arwyr Arian, yn sôn am sut mae’r ystod gynyddol o adnoddau Arwyr Arian ar gael yn rhwydd a sut mae mewnbwn gan rieni ac athrawon wedi sicrhau eu bod yn bodloni anghenion plant. Mae Sam yn ateb rhai o’ch cwestiynau llosg gyda chyngor ar sut i ddefnyddio adnoddau Arwyr Arian yn effeithiol gartref.
PENNOD 8
Rhoi ymchwil ar waith
Mae’r Athro Tina Harrison o Ysgol Fusnes Prifysgol Caeredin yn dwyn ynghyd amrywiaeth o syniadau am ddatblygu sgiliau addysg ariannol i baratoi plant wrth iddynt fynd yn hŷn. Mae’n esbonio sut gall rhieni gynnwys plant mewn sgyrsiau am arian yn ifanc er mwyn cael effaith gadarnhaol ar eu gallu ariannol.
PENNOD 9
Crynodeb diwedd blwyddyn
Mae’r bennod hon yn dwyn ynghyd yr ‘awgrymiadau da’ a’r pytiau ‘oeddech chi’n gwybod’ gan ein harbenigwyr addysg ariannol a rhieni ar hyd tymor cyntaf y podlediad mewn crynodeb cyflym i’ch helpu i barhau i ddatblygu arferion ariannol iach yn eich cartref.
Mae awdur Straeon Gwych ar gyfer Arwyr Arian, Emma Norry, yn ymuno â’r podlediad hwn hefyd ac yn rhannu syniadau am sut gall storïau gael eu darllen mewn ffyrdd gwahanol. Mae Emma yn awgrymu darllen y storïau gyda rhywun gartref fel y gellir archwilio gweithredoedd y cymeriadau.
22 Arwyr Arian | Canllaw i Rieni
Delio â Phryderon Ariannol
Mae’n naturiol bod sgyrsiau am arian yn gallu bod yn eithaf anodd, ac mae hefyd yn gyffredin i blant ac oedolion bryderu am arian. Gan fod mwy o sylw wedi bod yn cael ei roi i iechyd meddwl plant yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydyn ni’n ceisio grymuso a chefnogi teuluoedd i siarad am arian. Rhowch wybod i’ch plentyn fod popeth yn iawn iddo sôn am ei bryderon a gwrandewch ar ei safbwynt, oherwydd bydd hynny’n gwneud iddo deimlo’n rhan o bethau gan wybod ei fod yn gallu mynegi ei bryderon wrthych. Bydd hefyd yn caniatáu i chi ddeall y mathau o sgyrsiau am arian y gallwch eu cael gyda’ch plentyn i dawelu ei feddwl eich bod yn delio â’r sefyllfa. Er enghraifft, drwy roi gwybod iddo fod cyllidebu’n sgíl rydych chi’n ei ddefnyddio i gadw llygad ar bethau gartref, fe allai hynny ei annog ef i ddysgu sut i gyllidebu hefyd a byddwch yn debygol o wneud iddo deimlo’n gyfforddus gan wybod bod ei arian dan reolaeth.
Os yw’ch plentyn yn pryderu am arian, fe allech roi cynnig ar un o’r dulliau hyn:
AWGRYMIADAU DA AR GYFER PRYDERON ARIANNOL
1. Dilyswch bryderon eich plentyn.
Mae’n naturiol iddynt bryderu ac mae’n bwysig eu bod yn gwybod y gallant siarad am eu pryderon. Anogwch eich plentyn i ysgrifennu ei bryderon ar bapur – gwnewch flwch pryderon a’i addurno er mwyn iddo fod yn rhywle deniadol i adael pryderon. Neilltuwch 10 i 15 munud bob dydd, bob wythnos neu bob mis i gael trafodaeth/i wneud ymarfer “Dim rhagor o bryderon”. Pan fydd eich plentyn wedi ysgrifennu ei bryderon, gall eu gadael yn y blwch.
2. Daliwch y pryder.
Gofynnwch i’ch plentyn yn dawel i feddwl am ei bryderon. Gofynnwch iddo gymryd darn o bapur a’i blygu yn ei hanner: ar un ochr bydd yn ysgrifennu ‘pryderon y galla’ i wneud rhywbeth amdanynt’ ac ar yr ochr arall bydd yn ysgrifennu ‘pryderon alla’ i ddim gwneud unrhyw beth amdanynt’.
Yna, fe all rwygo’r papur yn ei hanner, cymryd yr hanner sy’n cynnwys y pryderon nad yw’n gallu
gwneud unrhyw beth amdanynt a’i wasgu’n bêl neu ei rwygo a’i daflu yn y bin. Rhowch wybod i’ch plentyn fod pryderon yn gallu bod yn feddyliau
defnyddiol, weithiau, a’u bod yn gallu bod yn
annefnyddiol bryd arall
Os yw’ch
plentyn yn pryderu am arian, bydd defnyddio hyn fel ffordd o ddysgu mwy am arian yn brofiad unigryw na fyddai’n cael ei addysgu yn yr ysgol ac a all helpu i leddfu pryderon y teulu cyfan.
3. Gall annog eich plentyn i ganolbwyntio ar yr eiliad hon helpu pryderon o’r gorffennol neu bryderon am y dyfodol i ddiflannu.
Siaradwch â’ch plentyn a rhowch wybod iddo eich bod yn deall ei fod yn pryderu am y dyfodol a bod hyn yn naturiol. Gofynnwch iddo feddwl am sut gallwch chi leihau ei bryderon gyda’ch gilydd. Gallwch awgrymu canolbwyntio ar rywbeth cadarnhaol sy’n digwydd yn ei fywyd nawr i’w helpu i ganolbwyntio ar rywbeth arall.
Fe allai fod yn ddefnyddiol rhoi gwybod i’ch plentyn fod llawer o deuluoedd yn aml yn gorfod meddwl yn ofalus am sut byddan nhw’n fforddio talu am wahanol eitemau. Mae addysgu eich plentyn sut i ddeall ei deimladau am arian yn offeryn pwerus a all ei helpu i ddelio â phryderon tebyg pan fydd yn hŷn.
23 Arwyr Arian | Canllaw i Rieni
5 ffordd y gallwch gymryd rhan mewn addysg ariannol yn ysgol eich plentyn...
1. Gofynnwch i ysgol eich plentyn beth maen nhw’n ei addysgu am arian a phryd mae’n digwydd yn ystod y flwyddyn. Bydd hyn yn eich helpu i gysylltu rhai o’ch gweithgareddau â’r hyn sy’n digwydd yn yr ysgol.
2. Dewiswch rai o’r gweithgareddau Arwyr Arian i helpu i addysgu’ch plentyn am arian. Gall hyn helpu i ymestyn rhywfaint o’r dysgu sy’n digwydd yn yr ysgol â’r hyn rydych chi’n ei wneud gartref.
3. Siaradwch â’ch plentyn am sut mae arian yn cael ei godi a’i wario yn yr ysgol, e.e. gweithgareddau codi arian fel gwerthu cacennau, diwrnodau dim gwisg ysgol a theithiau ysgol. Mae gweithgareddau codi arian yn cynnig cyfleoedd addysg ariannol i ddysgu am sut gall rhoddion gyfrannu at fywydau pobl eraill.
4. Gellir addysgu addysg ariannol mewn llawer o ffyrdd ar draws y cwricwlwm, ac mae’n aml yn cael ei haddysgu mewn mathemateg. Gallwch helpu drwy ofyn i’ch plentyn beth mae wedi bod yn ei ddysgu am arian yn yr ysgol a rhannu sut gallai hynny gysylltu â’i fywyd gartref.
5. Os nad yw ysgol eich plentyn yn addysgu addysg ariannol, rhowch wybod iddynt am y wefan Arwyr Arian a’r adnoddau ar gyfer dysgu yn yr ysgol a gartref. Gofynnwch i aelod o’r grŵp rhieni ac athrawon neu riant-lywodraethwr gyflwyno’r rhaglen Arwyr Arian i’r ysgol!
Gofynnwch i ysgol eich plentyn gofrestru â’r platfform Arwyr Arian lle y gallant greu grwpiau dysgu, cwblhau gweithgareddau a rhannu cynnydd disgyblion â’u rhieni er mwyn ymestyn sgiliau gallu ariannol plant ar y cyd. Gellir gwneud hyn drwy rannu’r cod ‘Gwahodd Rhieni’ ar eu dangosfwrdd.
Rhowch wybod i ysgol eich plentyn y gallant ofyn am y llyfrau storïau a’r gêm fwrdd Arwyr Arian trwy eu dangosfwrdd ar y platfform Arwyr Arian i annog dysgu am arian yn yr ystafell ddosbarth.
24
Arwyr Arian | Canllaw i Rieni
Cwestiynau Cyffredin gan rieni
Pa gwestiynau y mae plant yn eu gofyn yn aml am arian?
Weithiau, mae’r cwestiynau y mae plant yn eu gofyn am arian yn gallu bod yn rhai lletchwith i’w hateb, fel ‘Pam mae fy ffrind yn gallu cael eitem neu fwynhau gweithgaredd ond dydw i ddim?’ Gallai atebion i gwestiynau o’r fath roi gwybod iddynt fod gan deuluoedd symiau gwahanol o arian sy’n effeithio ar y penderfyniadau maen nhw’n eu gwneud am wario.
Gallai cwestiynau fel ‘Beth fydd yn digwydd os byddwn ni’n mynd yn brin o arian?’ fod yn gyfle i gael gwybod a oes ganddyn nhw unrhyw bryderon am arian a siarad amdanynt. Yn ogystal, os yw’ch plentyn yn ddigon hen i ddeall, mae’n gyfle da i roi gwybod iddo fod llawer o bobl yn helpu i dalu am wasanaethau trwy drethi a’r yswiriant gwladol. Mae hefyd yn adeg dda i annog plant i feddwl am angen ac eisiau a’r drefn pwysigrwydd y gellir ei rhoi i ddewisiadau gwario mewn gwahanol sefyllfaoedd.
Gallai cwestiwn uniongyrchol fel ‘Faint o arian wyt ti’n ei ennill?’ gael ei ddefnyddio i helpu plentyn i ddeall nad yw gwerth swydd bob amser yn cael ei adlewyrchu trwy gyflog. Mae pobl yn dewis gwneud swyddi am resymau eraill y tu hwnt i arian. Fe allai hwn fod yn gyfle da i roi gwybod i blentyn fod gofyn faint mae rhywun yn ei ennill yn gwestiwn personol ac efallai na fydd rhywun eisiau rhannu’r wybodaeth honno, felly gwahoddwch ef i feddwl am gwestiwn arall am waith a allai fod yn briodol i’w ofyn.
Gallwch wrando ar bennod 8 o’r Podlediad Arwyr Arian, lle mae’r Athro Tina Harrison yn trafod canfyddiadau ymchwil ynglŷn â’r hyn rydyn ni’n ei wybod am addysgu addysg ariannol, gwerth ei haddysgu a rôl bwysig rhieni yn hyn o beth. Mae’n esbonio sut mae bywyd gartref yn rhoi profiadau go iawn i blant o arian, fel bod yn rhan o sgyrsiau am arian a deall sut mae rhieni’n siarad am arian.
A allwch chi awgrymu rhai ffyrdd o siarad â phlentyn/plant am arian, gan gynnwys sut i ofalu amdano a sut i’w wario?
Bydd profiadau pob dydd yn cynnwys rhywbeth y mae’n rhaid i oedolyn ei wneud ynglŷn ag arian, heb orfod bod yno o reidrwydd er mwyn iddo ddigwydd. Mae’n beth da gadael i blant ddysgu am ba eitemau y mae angen talu amdanynt a sut. Gallai enghraifft o hyn gynnwys prynu eitemau mewn siopau, felly cyn mynd i mewn i’r siop, mae llunio rhestr o’r hyn sydd ei angen, faint o arian sydd i’w wario a faint mae pethau’n debygol o gostio, yn agweddau defnyddiol i’w dysgu am dalu am bethau.
Esboniwch wrth eich plentyn fod arian parod yn un ffordd o dalu am eitemau, ond bod mwy a mwy o bobl yn talu am eitemau trwy gardiau neu ddyfeisiau digyffwrdd. Mae eu helpu i ddeall bod taliadau digyffwrdd yn gysylltiedig â banciau lle mae arian yn gallu cael ei gadw’n ddiogel yn syniad pwysig i helpu plant i’w werthfawrogi. Mae hyn yn cynnwys esbonio mai’r arian sy’n cael ei ddefnyddio mewn trafodion di-arian yw’r arian y mae’r banc yn ei gadw’n ddiogel i chi, ac os nad oes gennych ddigon fe allai gostio mwy o arian.
Gwrandewch ar bennod 4 o’r Podlediad Arwyr Arian, lle mae awdur Ed a Bunny, sef Matt Carr, yn esbonio sut mae hiwmor trwy storïau a lluniau da yn gallu helpu i gychwyn mwy o sgyrsiau am arian gyda’ch plant mewn amgylchedd mwy hamddenol.
25 Arwyr Arian | Canllaw i Rieni
Cwestiynau Cyffredin gan rieni
Sut galla’ i annog fy mhlentyn i gymryd mwy o gyfrifoldeb gydag arian?
Gall rhoi’r cyfle i’ch plentyn ddysgu mai swm cyfyngedig o arian sydd ar gael i dalu am bethau, yn aml, ei helpu i ddeall a dysgu sgiliau sy’n ymwneud â rheoli arian. Ffordd wych o gyflwyno hyn yn y cartref yw trwy chwarae rôl siop deganau; gallwch ddefnyddio’r gweithgaredd Gadewch i ni Chwarae Siop yn yr Hwb Rhieni i gael arweiniad ar sut i wneud y gweithgaredd yn fwy effeithiol ar gyfer anghenion dysgu eich plentyn.
Gallwch hefyd ddefnyddio’r gweithgaredd Diwrnod Allan gydag Ed a Bunny i ddatblygu sgiliau cyllidebu eich plentyn trwy gynllunio diwrnod. Bydd yn dechrau deall bod terfynau ar yr hyn y gellir ei wario trwy’r profiadau hyn a deall bod angen ac eisiau yn bethau da i’w hystyried wrth wneud dewisiadau am arian. Gwrandewch ar y Fonesig Sarah Storey ym mhennod 6 o’r Podlediad Arwyr Arian i glywed sut mae hi’n annog cyfrifoldeb wrth drin arian gyda’i phlant.
Sut galla’ i addysgu fy mhlentyn am werth arian a chanlyniadau colli arian?
Man cychwyn ar gyfer dysgu am werth arian yw deall gwerth darnau arian ac arian papur a bod y rhain yn adlewyrchu gwerth eitem. Gall teithiau siopa greu cyfleoedd i helpu plant i benderfynu p’un a yw cynigion prynu un, cael un am hanner pris, neu brynu un, cael un am ddim yn werth da, mewn gwirionedd. Gall gwneud tasgau gartref hefyd helpu plant i sylweddoli y gellir rhoi arian neu wobr o fath arall yn gyfnewid am gwblhau tasg.
Mae’r gweithgareddau Cadw Cofnod, Prynu ai Peidio ac Arian Poced yn ymdrin â themâu fel cadw golwg ar arian ac fe allant helpu eich plentyn i ddeall bod gwerth i arian a pham mae’n bwysig ei gadw’n ddiogel. Gallwch hefyd ddefnyddio’r gêm fwrdd Ed a Bunny yn Mynd i Siopa i ddangos enghreifftiau i’ch plentyn o’r hyn y gallwch ei gael yn y siop ac am faint, i esbonio ymhellach bod angen i ni gadw ein harian yn ddiogel i allu prynu’r cynhyrchion hyn.
Gwrandewch ar bennod 3 y Podlediad Arwyr Arian – Creu Siopwyr Craff i gael dealltwriaeth werthfawr o sut i ddatblygu’r sgiliau hyn.
Sut galla’ i esbonio i’m plentyn ieuengaf o ble mae arian yn dod?
Man cychwyn da i helpu plant i ddeall o ble mae arian yn dod yw rhoi gwybod iddynt ei fod yn ymddangos mewn ffyrdd gwahanol, fel ei ennill trwy wneud swydd, ei dderbyn fel rhodd, dod o hyd iddo, ei ennill mewn cystadleuaeth a chael ei fenthyg. Ar ôl hynny, mae’n werth chweil rhoi gwybod i blant fod gan lawer o bobl swydd, felly mae llawer o bobl yn cael arian oherwydd eu bod yn ei ennill; fe allai hyn eich helpu i siarad mwy am y gwahanol fathau o swyddi y mae pobl yn eu gwneud.
Mae’n beth da helpu plant i ddeall bod dod o hyd i arian, derbyn arian fel rhodd ac ennill arian mewn cystadleuaeth yn digwydd yn llai aml, a dyna pam mae gan lawer o bobl swyddi. Defnyddiwch y gweithgaredd Byd Gwaith i gychwyn sgwrs gyda’ch plentyn a rhowch gyfle iddo ofyn unrhyw gwestiynau a allai fod ganddo.
Hefyd, gwrandewch ar bennod 2 y Podlediad Arwyr Arian i glywed am bwysigrwydd a gwerth datblygu sgiliau gydol oes ac arferion ariannol iach yn gynnar.
26 Arwyr Arian | Canllaw i Rieni
Tysteb
Hoffwn ddiolch i chi am yr ymgyrch wych rydych wedi’i dechrau, yn addysgu pobl ifanc am faterion ariannol! Rwy’n credu ei bod yn broblem gyffredin nad yw plant yn gwerthfawrogi ac yn deall gwerth arian, ac rwy’n hapus iawn i weld eich ffordd o fynd i’r afael â’r broblem gyda llyfrau difyr a chadarnhaol. Mae Ed a Bunny yn wych ac yn annwyl (fel mae fy merch yn dweud).
Arwyr Arian | Canllaw i Rieni
27
Mae Arwyr Arian yn darparu llwybr i blant o wahanol oedrannau ei ddilyn, gan gynyddu eu hyder a’u gallu i fynd i’r afael â sgiliau ariannol ar lefel uwch wrth iddyn nhw fynd yn hŷn.
Mae’r gwaith ymchwil rydyn ni wedi cyfeirio ato yn y canllaw hwn yn dangos canlyniadau cadarnhaol yn gysylltiedig â phlant sy’n hyderus wrth reoli arian. Roedd y cynnydd hwn mewn hyder wedi arwain at fuddion fel trin arian, cadw golwg arno, cymryd rhan mewn gwneud penderfyniadau ariannol a gallu ateb cwestiynau am eu dewisiadau.
Mae Arwyr Arian eisiau annog yr hyder hwn a rhoi cyfleoedd i blant mewn ffordd ddifyr a diddorol. Dyna pam rydyn ni’n parhau i ddatblygu adnoddau i ddod â rhieni ac athrawon ynghyd i gefnogi gallu ariannol plant.
Cadwch y sgwrs i fynd...
Anfonwch neges drydar atom @YoungMoneyEdu gyda lluniau o’ch adnoddau gan ddefnyddio’r tagiau
#MoneyHeroes @YoungMoneyEdu
Rhannwch Arwyr Arian gyda rhieni eraill ac athrawon.
Defnyddiwch ein hadnoddau am ddim i gael hwyl wrth ymarfer sgiliau ariannol newydd gyda’ch plentyn gartref.
Os hoffech wybod mwy am Arwyr Arian, sganiwch y cod QR gyferbyn ar eich ffôn neu cysylltwch â ni:
E-bost: moneyheroes@y-m.org.uk
Ewch i: www.moneyheroes.org.uk
1.Gwasanaeth Cynghori Ariannol (2016) Financial Capability of Children, Young People and their Parents in the UK. Ar gael yn: https://www.moneyadviceservice.org.uk/en/corporate/financial-capability-of-children--young- peopleandtheir-parents-in-scotland [Cyrchwyd 29 Gorffennaf 2020]
2.Childwise (2019) Press release. New study shows children’s pocket money habits. Ar gael yn: http://www.childwise.co.uk/uploads/3/1/6/5/31656353/childwise_press_release_-_money_2019.pdf [Cyrchwyd 10 Awst 2020]
3.Gwasanaeth Cynghori Ariannol (2018) Children and young People Financial Capability Deep Dive: Parenting. Ar gael yn: https://www.moneyadviceservice.org.uk/en/corporate/children-young-people-and-financialcapabilitycommissioning-plan--contributing-analysis-reports [Cyrchwyd 29 Gorffennaf 2020]
4.Gwasanaeth Arian a Phensiynau (2019) CYP Financial Capability: Nations Summary.
Ar gael yn: https://moneyandpensionsservice.org.uk/wp-content/uploads/2020/01/Money-and-Pensions- ServiceChildrenand-Young-People-Financial-Capability-Wellbeing-England-summary-Financial-Foundations.pdf [Cyrchwyd 29 Gorffennaf 2020]
5.Experian (2016) BBC Dragon calls for children to learn to earn their pocket money. Ar gael yn: https://www.experianplc.com/media/news/2016/bbc-dragon-calls-for-children-to-learn-to-earn- theirpocketmoney/ [Cyrchwyd 30 Gorffennaf 2020]
6.Experian (2016) BBC Dragon calls for children to learn to earn their pocket money.
Ar gael yn: https://www.experianplc.com/media/news/2016/bbc-dragon-calls-for-children-to-learn-to-earn- theirpocketmoney/ [Cyrchwyd 30 Gorffennaf 2020]
Mae Young Money yn rhan o Young Enterprise, Rhif Elusen Gofrestredig: 313697 MH-PG-0150
Dyddiad Cyhoeddi: Gorf fennaf 2020 Rhif Cyhoeddi. 0148 Rhif Cyhoeddi: 0150 | Dyddiad Cyhoeddi: Hydref 2021