Sut i gael y cyfan!
acttraining.org.uk
CY N N W Y S Dyma ni.......................................................................... 3 Pam dysgu ac ennill........................................... 6 Ddim yn argyhoeddedig?............................. 8 Dod yn Brentis....................................................... 10 Ein 12 llwybr Hyfforddeiaeth..................... 12 Y cyfleusterau diweddaraf......................... 14 Cefnogeth ychwanegol................................ 17 Mwynhewch antur awyr agored rhad ac am ddim................................................. 18 Gwybodaeth i rieni............................................ 19 Cwrdd â’n Llysgennad Sgiliau................. 21 Amdani!....................................................................... 22
Sut i gael y cyfan! 2
Byw. Dysgu. Ennill
@acttraining
/acttraining
N I ... Darparwr hyfforddiant blaenllaw Cymru yw ACT ac rydym yn helpu dros 6,500 o bobl ifanc pob blwyddyn i gyflawni eu huchelgeisiau gyrfaol. Mae gennym gannoedd o lefydd gwag a chyfleoedd arbennig ar gyfer pobl ifanc sydd am fentro i’r byd gwaith neu wella eu rhagolygon gyrfaol.
EST.
1988
W ITH A C T . acttraining.org.uk
3
Heb longyfarch ein hunain, rydym yn dwli ar yr hyn rydym yn ei wneud ac rydym yn ei wneud yn dda.
Mae
83%
o’n dysgwyr yn symud ymlaen i gyflogaeth neu addysg uwch
Mae
96%
o’n dysgwyr yn dweud ein bod yn rhagorol
Rydym yn gweithio gyda dros
1,100 o gyflogwyr yng Nghymru gan gynnwys Companies House, Finsbury Food, Wilko, DS Smith, Byrddau Iechyd GIG, Radisson Blu, Wessex Garages ac Admiral yn ogystal â busnesau bach llwyddiannus megis The Early Bird, Little Inspirations a HSJ Accountants
Rydym hefyd wedi derbyn
Safon Ansawdd Matrics ar gyfer gwybodaeth, cyngor a chyfarwyddyd dim ond y rhai gwirionedd eithriadol sy’n derbyn hwn!
Dyma rai o’n gwobrau a’n canmoliaethau diweddaraf: > Gwobr Busnes Mawr Cyfrifol y Flwyddyn yng Ngwobrau Busnesau Cyfrifol Cymru 2018, Busnes yn y Gymuned > 100 Cwmni Gorau’r DU 2018 (59) a 2015, Sunday Times > Gwobr Darparwr ar gyfer Ymatebolrwydd Cymdeithasol, Gwobrau Prentisiaeth 2014 > Gwobr Ysbrydoli Talent Ifanc Wales and West Utilities, Gwobrau Busnesau Cyfrifol Busnes yn y Gymuned 2014 > Gwobr Aur Buddsoddwyr mewn Busnes 2017, 2013 a 2010
4
Byw. Dysgu. Ennill
BYW Daniel Morris Fel Gweithredwr Cefnogi Asiantaeth yn asiantaeth farchnata gwobrwyol The Media Angel, mae Daniel yn trin cyfrifon amlgyfrwng ac mae'n gyfrifol am gynllunio, creu, monitro a gwerthuso ymgyrchoedd marchnata ar draws platfformau gwahanol gyfryngau. Pan oeddwn i'n tyfu i fyny, roedd yna ychydig o ffrindiau a oedd yn dilyn prentisiaethau, ond byddai hynny ar gyfer gwaith saer, plastro neu rywbeth yn ymwneud â gwaith llaw. Doeddwn i ddim yn gwybod bod yna’r fath beth â phrentisiaethau yn y cyfryngau cymdeithasol. Mae'n wych eich bod yn gallu ennill arian a dysgu ar yr un pryd, dydw i erioed wedi cael y cyfle yna o'r blaen. Yn sicr ddim drwy’r coleg neu’r brifysgol.
acttraining.org.uk
5
@acttraining
/acttraining
DY SG U AC E N N I LL? Yn syml, ennill a dysgu yw’r pecyn cyflawn! Gydag unrhyw un o'n rhaglenni, boed yn Hyfforddeiaeth, Prentisiaeth neu Brentisiaeth Uwch, rydych yn dysgu wrth eich gwaith, yn ennill cymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol, yn ennill cyflog, sgiliau ac adeiladu gyrfa werth chweil.
Cymhwyster
Os ydych yn:
16-24
Yn byw yng Nghymru
Ddim mewn addysg llawn amser nac hyfforddiant ar hyn o bryd
6
Yna mae ein rhaglenni ar eich cyfer chi. Ac yn well byth, maent wedi eu hariannu’n llawn.
Byw. Dysgu. Ennill
Dod o hyd i’r lefel gywir Os ydych wedi gadael yr ysgol neu goleg heb fawr o brofiad gwaith, neu’n rhywun sydd wedi bod yn gweithio mewn gwaith am dipyn, mae gennym gyfleoedd ar eich cyfer chi. Rydym yn cynnig ystod lawn o raglenni dysgu sy’n seiliedig ar waith, o Ymgysylltu a Hyfforddeiaethau Lefel 1 hyd at Brentisiaethau Lefel 5 mewn 30 sector gwahanol.
Mae pob un o'n rhaglenni yn eich galluogi i weithio tuag at gymwysterau sy’n cael eu cydnabod yn genedlaethol, sy’n golygu y gallwch gasglu credydau gwerthfawr. Mae'r graffeg isod yn dangos sut mae dysgu drwy weithio a’n cymwysterau yn cymharu â chymwysterau eraill sydd ar gael.
Gallwch gychwyn cymhwyster ar unrhyw bwynt o’r gromlin hon, yn unol â’ch profiad. Gallwn eich helpu i ddarganfod a ddylech ddilyn Hyfforddeiaeth, Prentisiaeth neu Brentisiaeth Uwch.
acttraining.org.uk
7
A RGYH O E DDE DI G ? Dysgu ac Ennill HYFFORDDEIAETHAU
PRENTISIAETHAU
COLEG
Cymhwyster a gyflawnwyd
Hyfforddeiaeth Lefel 1
Prentisiaeth Lefel 2 i 5
Lefel A
Cyflog wrth ddysgu
£2,500 y flwyddyn
Rhwng £5,678.40 a £25,000 y flwyddyn
£0
(Ni fydd unrhyw fudd-daliadau plant yn cael eu heffeithio a mae hyn yn fwy na Lwfans Cynhaliaeth Addysg)
Profiad gwaith a enillwyd
Byddwn yn dod o hyd i leoliad profiad gwaith o ansawdd uchel ar eich cyfer fel rhan o'ch Hyfforddeiaeth, lle byddwch yn treulio rhwng 1-5 o'ch dyddiau hyfforddi
Mae Prentisiaeth yn hyfforddiant yn y gwaith, felly byddwch yn derbyn y profiad gwaith gorau y gallwch gael
Mae pob coleg yn wahanol ond gallwch ddisgwyl cael cynnig profiad gwaith didâl o 1 diwrnod i 2 wythnos fel rhan o'ch cwrs
Amserlen er mwyn cwblhau
O 6 wythnos hyd 12 mis
12 mis
2/3 blynedd
Cyfraddau dilyniant
Mae 83% o’n dysgwyr yn symud ymlaen mewn modd positif at Brentisiaeth, addysg uwch neu gyflogaeth
Mae 90% o Brentisiaid yn aros mewn cyflogaeth ar ôl cwblhau eu Prentisiaeth
Mae 64% o fyfyrwyr yn symud ymlaen i addysg uwch
Llwybr dilyniant
Prentisiaeth Lefel 2
Prentisiaethau Lefelau 3 i 5
Prifysgol
Cyfnod cofrestru
Unrhyw adeg
Unrhyw adeg
Mis Medi
Gallwch gofrestru ar gyfer ein rhaglenni hyfforddi neu wneud cais am unrhyw un o lefydd gwag byw ein Prentisiaethau ar unrhyw adeg
Gallwch gofrestru ar gyfer ein rhaglenni hyfforddi neu wneud cais am unrhyw un o lefydd gwag byw ein Prentisiaethau ar unrhyw adeg
89%
89%
Cyfradd boddhad dysgwyr
8
AB ac AU
86%
Byw. Dysgu. Ennill
Efallai bydd y siart yma yn helpu i newid eich meddwl...
(Ffynonellau: Asiantaeth Ariannu Sgiliau, Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr, ac LV Insurance)
Arall PRIFYSGOL
DI-WAITH
GWIRFODDOLI
BLWYDDYN ALLAN
Gradd, Meistr neu PhD
Dim
Dim
Dim
-£53,330 Gall gradd prifysgol safonol 3 blynedd roi gwerth £53,330 o ddyled i chi
Lwfans Ceisio Gwaith
£0
Rhwng -£12,000 a +£5,000
Gallwch ddisgwyl cael cynnig lleoliadau profiad gwaith, gwirfoddoli neu gysgodi o 1 diwrnod i 100 awr yn seiliedig ar eich amser astudio. Mae rhai cyrsiau yn cynnwys lleoliad profiad gwaith o 1 flwyddyn hyd yn oed
Dim
Wrth wirfoddoli byddwch yn ennill sgiliau trosglwyddadwy i ychwanegu at eich CV a byddwch hefyd yn rhoi rhywbeth yn ôl i'r gymuned
Mae rhai rhaglenni blwyddyn allan yn cynnig prosiectau cyffrous i weithio arnynt dramor lle gallwch ennill sgiliau trosglwyddadwy
3-6 blwyddyn
0
0
1 flwyddyn
Mae 47% o raddedigion yn cael swyddi nad ydynt ar gyfer graddedigion (am tua bum mlynedd) cyn symud ymlaen i'r lefel o waith disgwyliedig
Dim
Gall gwirfoddoli arwain at swydd gyflogedig lawn neu ran amser
Dim
Astudio ôl-raddedig
Dim
Dim
Dim
Mis Medi
Unrhyw adeg
Pan fo llefydd gwag ar gael
Ionawr neu Medi
86%
n/a
n/a
n/a
acttraining.org.uk
9
B R E NT I S Mae bod yn Brentis yn rhoi cyfle i chi ennill cymhwyster cydnabyddedig a datblygu sgiliau proffesiynol, tra'n ennill cyflog – mae hyn yn ei wneud yn ddewis gyrfaol gwych ar gyfer unrhyw berson ifanc. Yn ACT rydym wedi ymrwymo i gynnig y cyfleoedd Prentisiaeth gorau yng Nghymru i chi. Rydym yn cynnig amrywiaeth enfawr o Brentisiaethau o ansawdd uchel gyda chyflogwyr blaenllaw sy'n aros i gwrdd ag ymgeiswyr ifanc, brwdfrydig fel chi.
Mae ein Prentisiaethau yn cynnwys dros 30 sector gwahanol, gan gynnwys:
>
Busnes
>
Gofal
>
Arlwyo
>
Cyllid
>
Gwallt a Harddwch
>
Lletygarwch
>
TG
>
Rheolaeth
>
Gweithgynhyrchu a Pheirianneg
>
Gwaith Chwarae
>
Manwerthu
...a llawer mwy!
Trwy gofrestru ar gyfer un o’n llefydd gwag, gallwch ddisgwyl derbyn:
Cyflog
Gwyliau taledig
Hyfforddiant
Cefnogaeth un-i-un gyda’n Aseswyr profiadol
Cymwysterau
Sgiliau penodol i swydd
Sgiliau mae cyflogwyr eisiau
Cyfleoedd i ddilyn llwybrau gwych i symud ymlaen
10
Byw. Dysgu. Ennill
@acttraining
A oes gennych swydd yn barod? Newyddion gwych, gallwn weithio gyda chi a'ch cyflogwr i ddatblygu Prentisiaeth sy’n berthnasol i'ch swydd a’ch lefel. Byddwch yn datblygu eich sgiliau, ennill cymwysterau a symud ymlaen yn eich gyrfa.
Cwrdd â rhai o’n Prentisiaid presennol 1
Mae Robert Smith, 20 oed o Gaerffili, yn dilyn Prentisiaeth Gweithgynhyrchu gydag arbenigwyr giard peiriannau blaenllaw, Procter Brothers.
2
Mae Poppy Evans, 20, o Gaerdydd, newydd gwblhau Prentisiaeth Lefel 3 Trin Gwallt ac mae hi bellach yn gweithio’n llawn amser gyda New Dimensions. Mae hi hefyd wedi ei henwi fel Steilydd Iau Cymru 2015.
3
Mae Rezwan Ali Gafur, 17, o Gaerdydd yn gweithio fel Prentis Gwasanaeth Cwsmeriaid yn Adran Rannau Wessex Garages, adwerthwr modurol blaenllaw, ar ôl llwyddo i gwblhau ei Hyfforddeiaeth.
1
2
Edrychwch ar ein gwefan lle mae pob un o'n llefydd Prentisiaethau gwag byw wedi eu rhestru.
Ewch i: acttraining.org.uk/apprenticeship-vacancies a gwnewch gais nawr, neu ffoniwch ni ar 029 2046 4727 am fwy o wybodaeth, cefnogaeth a chyngor
acttraining.org.uk
3
11
L L WY B R HY F F OR DDE I A E TH
Os nad ydych yn barod am Brentisiaeth, mae ein llwybrau Hyfforddeiaeth yn ffordd ddelfrydol i'ch helpu i baratoi ar gyfer y gweithle. Mae Hyfforddeiaeth yn raglen hyfforddi Cyn-Brentisiaeth gwych sy'n paratoi pobl ifanc 16-18 oed ar gyfer y byd gwaith. Ar ôl treulio'r rhan fwyaf o'ch amser yn yr ysgol neu'r coleg, bydd angen help llaw arnoch i symud ymlaen o addysg i'r gweithle - ac dyma ble gall y llwybrau Hyfforddeiaeth helpu.
12
Drwy gofrestru ar gyfer Hyfforddeiaeth, cewch y canlynol:
Tâl rhwng £30 a £50 yr wythnos ynghyd â chostau teithio (ni fydd hyn yn effeithio ar unrhyw fudddaliadau plant y mae eich teulu yn derbyn)
Lleoliad profiad gwaith cyffrous gyda chyflogwr blaenllaw yng Nghymru Hyfforddiant cyflogadwyedd i'ch helpu i sefyll allan yn y farchnad swyddi - gan gynnwys ysgrifennu CV, paratoi ar gyfer cyfweliad a chwilio am swydd Hyfforddiant Saesneg a Mathemateg os oes angen gwella eich sgiliau yn y meysydd hyn Yr holl gefnogaeth sydd ei angen arnoch er mwyn symud ymlaen at y cam nesaf yn eich bywyd Ac unwaith y byddwch wedi cwblhau'r Hyfforddeiaeth, byddwch yn derbyn cymhwyster Lefel 1 yn eich llwybr dewisol, sy'n golygu y gallwch yna symud ymlaen at Brentisiaeth.
Byw. Dysgu. Ennill
@acttraining
/acttraining
12 Llwybr Hyfforddeiaeth 1. Gofal Anifeiliaid ac Astudiaethau sy’n Seiliedig ar y Tir 2. Peirianneg Fodurol 3. Harddwch 4. Gweinyddiaeth Busnes 5. Gofal 6. Adeiladu 7. Gwasanaeth Cwsmeriaid 8. Trin Gwallt a Gwaith Barbwr 9. Lletygarwch ac Arlwyo 10. TGCh 11. Manwerthu 12. Llwybr Datblygiad Camu Ymlaen Mae ein Llwybr Datblygiad Camu Ymlaen yn gwrs llawn amser i rai sy'n bwriadu symud ymlaen i bethau mwy a gwell ar ôl cwblhau addysg ôl-16. P'un ai eich bod yn gwybod yn union beth rydych eisiau ei wneud fel gyrfa, neu os nad ydych chi'n gwybod ble i ddechrau, bydd ein cwrs yn eich gosod ar y llwybr cywir mewn cyn lleied â 6 wythnos.
acttraining.org.uk
13
Y CY F L E U S T E R AU
Rydym yn cynnig rhai o'r cyfleusterau hyfforddi arbenigol gorau yn Ne Cymru ar gyfer pobl ifanc. Mae ein saith canolfan hyfforddiant yn ymfalchïo mewn amrywiaeth o feysydd hyfforddiant a arweinir gan ddiwydiant, ac a fydd yn eich galluogi i gynyddu eich hyder, ennill sgiliau sy’n berthnasol i ddiwydiant a chael profiad go iawn mewn amgylchedd gwaith penodol.
14
Byw. Dysgu. Ennill
Os oes gennych ddiddordeb mewn arlwyo a lletygarwch, yna dewch i weld ein Ocean Park Cafe - mae'n gaffi llawn offer gaiff ei redeg gan ein dysgwyr ac mae rhywbeth cyffrous ar y fwydlen bob amser. Os oes gennych fwy o ddiddordeb mewn gwallt a harddwch, yna bydd The Salon yn mynd â'ch bryd. Wedi ei leoli yn ein Academi Sgiliau yng Nghaerdydd, mae’r Salon yn cynnig ystod lawn o wasanaethau trin gwallt a harddwch y gall aelodau'r cyhoedd eu mwynhau.
O gerbyd modur i ofal anifeiliaid, ac o TG i wasanaeth cwsmeriaid, dim ots pa alwedigaeth sydd o ddiddordeb i chi, mae gennym amgylchedd cyffrous er mwyn i chi gychwyn ar eich gyrfa a dysgu’r sgiliau sydd eu hangen i symud ymlaen i'ch swydd ddelfrydol. Yn ogystal, mae pob un o'n canolfannau yn cynnig amgylcheddau dysgu modern gyda mannau astudio sy'n cynnwys cyfleusterau TG o’r radd flaenaf, gan gynnwys cyfrifiaduron Apple Mac, a gynlluniwyd i wella eich profiad dysgu a’ch galluogi i lwyddo.
3 caffi llawn offer 3 salon llawn offer
2 garej llawn offer 2 fan adeiladu llawn offer
2 fan gofal anifeiliaid llawn offer
acttraining.org.uk
15
D Y SGU Emily Smith-Jaynes Gadawodd Emily y coleg i ddilyn gyrfa roedd hi'n ei garu. Roedd ei brwdfrydedd yn golygu ei bod hi wedi cwblhau ei swydd dan hyfforddiant mewn dim o amser ac erbyn hyn mae'n brentis gyda Land Rover yng Nghaerdydd, yn gweithio ar beiriannau a cherbydau o safon.. Rydw i wedi bod yn gweithio gyda Land Rover nawr am ychydig dros flwyddyn. Yn wreiddiol, roeddwn yn gwneud Lefel A mewn chweched dosbarth ond doeddwn i ddim yn hoffi’r ochr academaidd. Allwn i ddim eistedd trwy wers a chymryd nodiadau o PowerPoint. Roedd yn rhaid i fi fod yn gwneud rhywbeth. Roedd gen i ddiddordeb mewn ceir felly nes i feddwl y dylwn wneud rhywbeth rwy'n gyfarwydd ag e ac yn ei fwynhau. Rhoddodd yr Hyfforddeiaeth cerbydau modurol gyfle i mi fod ar fy nhraed yn gwneud rhywbeth ac yn dysgu ac yn ennill arian i gyd ar yr un pryd. Gallwch fynd at ACT heb unrhyw wybodaeth flaenorol o'r sector sydd o ddiddordeb i chi. Fe wnawn nhw feithrin eich dealltwriaeth ac maent yn wirioneddol gefnogol tra’n eich cynorthwyo i ddod o hyd i, a symud ymlaen at brentisiaeth.
16
Byw. Dysgu. Ennill
@acttraining
/acttraining
CE F N OG A E T H
Yn ystod eich amser gydag ACT, bydd eich Tiwtor a’ch Aseswr yn rhoi i chi yr holl ofal, cymorth ac arweiniad sydd ei angen er mwyn gweithio tuag at eich Hyfforddeiaeth neu Brentisiaeth. Fodd bynnag, mae gwasanaethau cymorth eraill ar gael er mwyn sicrhau eich bod yn gwneud y mwyaf o'ch amser gydag ACT.
acttraining.org.uk
Fel dysgwr ACT, gallwch hefyd fanteisio'n llawn ar y canlynol:
Tîm Cyfleoedd
Cynrychiolydd Dysgwyr
Swyddogion Diogelu a Chynghorwyr Mewnol
Mae gan bob canolfan dîm ymroddedig yno i'ch helpu i ddod o hyd i waith. Maent yno i warantu eich llwyddiant y tu hwnt i ACT felly gwnewch yn siŵr eich bod yn eu defnyddio. Byddant yn eich arfogi â'r triciau, awgrymiadau a thechnegau i'ch helpu wrth chwilio am swyddi, ysgrifennu CV a chyfweliadau.
Mae gennym Gynrychiolydd Dysgwyr llawn amser sydd yno i gynrychioli ein dysgwyr. Os oes gennych unrhyw adborth, pryderon neu syniadau ynghlych hyfforddiant, yna trefnwch goffi a sgwrs gyda'n Cynrychiolydd Dysgwyr.
Beth bynnag yw eich problem - problem gyda’ch taith ddysgu neu os oes yna faterion y tu hwnt i ACT, mae ein tîm cefnogi yno er mwyn eich lles chi. Byddant yn rhoi i chi amser a lle i siarad yn breifat am eich problemau ac yn helpu i ddatrys unrhyw faterion sydd gennych.
Hyfforddwyr Dysgu Yn debyg i hyfforddwyr chwaraeon, mae ein Hyfforddwyr Dysgu yno i roi mwy o gyfeiriad a chymorth i chi er mwyn cyflawni eich amcanion.
17
@ynyshywel
/ynyshywelact
MW Y N HE W C H A NTUR
Ni yw’r unig ddarparwr yn Ne Cymru sy’n gallu cynnig antur awyr agored fythgofiadwy fel rhan o’ch hyfforddiant. Mae gennym bartneriaeth wych gyda’r ganolfan awyr agored boblogaidd, Ynys Hywel. Mae Ynys Hywel yn darparu profiadau dysgu gwych y tu allan i’r ystafell ddosbarth neu’r gweithle ac o ganlyniad, rydym yn anfon llawer o’n Hyfforddeion a’n Prentisiaid yno er mwyn gwella eu taith ddysgu. Nid yn unig yw Ynys Hywel yn lle i gael hwyl, gall hefyd gynyddu eich hyder a’ch paratoi chi ar gyfer y byd gwaith neu fywyd yn gyffredinol.
ynyshywel.co.uk
18
Byw. Dysgu. Ennill
@acttraining
/acttraining
RIENI Fel rhiant, byddwch yn awyddus i helpu eich plentyn i wneud y penderfyniad iawn ynghylch eu dyfodol a rhoi'r dechrau gorau posibl iddynt yn eu gyrfa. Os yw eich plentyn yn ystyried eu cam nesaf - i barhau mewn addysg neu ddod o hyd i gyflogaeth - nid oes rheswm pam na allant wneud y ddau gyda Phrentisiaeth! Gall Prentisiaethau gynnig cyfoeth o wahanol gymwysterau a hyfforddiant i'ch plentyn. Mae nifer o raglenni yn cynnig yr hyn sy'n cyfateb i raddau sylfaen a graddau, fel y gall pobl ifanc ennill yr un cymhwyster â'u cyfoedion sydd mewn prifysgolion a hynny wrth weithio, ennill arian a defnyddio’r sgiliau a ddysgwyd.
Oeddech chi’n gwybod... Ar hyn o bryd mae dros 850,000 o bobl ifanc yn ennill a dysgu drwy Brentisiaeth Mae 90% o Brentisiaid yn parhau mewn cyflogaeth ar ôl gorffen eu Prentisiaeth Cyflog cyfartalog Prentis yw £25,000
Mae ACT yn gwmni hyfforddi da iawn ac yn rhoi cyfle da iawn i Ethan sicrhau gyrfa gydol oes. Mae ACT yn brofiad llawer gwell i Ethan na choleg. Roeddwn yn poeni amdano yn yr ysgol fel un o’r disgyblion ieuengaf, ond mae ACT wedi helpu Ethan i gyflawni llawer mwy nag y gwnaeth yn yr ysgol. Mae wedi aeddfedu i fod yn ddyn ifanc rhagorol. Mae wedi ennill cymwysterau, hyder, profiad a gyrfa diolch i ACT. Colin Robinson, Tad Ethan Robinson.
acttraining.org.uk
19
E NIL L Bryony Zorlutuna Mae Bryony Zorlutuna yn weithiwr Cymorth Gofal Iechyd yn adran Damweiniau ac Achosion Brys Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf. Yn ddiweddar, cwblhaodd ei Phrentisiaeth Cefnogi Gofal Iechyd Clinigol Lefel 2 gydag ACT ac mae bellach ar y llwybr iawn i gyflawni ei breuddwyd o fod yn nyrs. Y peth gorau am Brentisiaethau yw eich bod yn gallu dysgu ac ennill cyflog. Rwy'n llawer gwell wrth ddysgu mewn ffordd ymarferol nag yn yr ystafell ddosbarth. Mae’r Brentisiaeth wedi rhoi mwy o hyder a gwybodaeth i mi o fewn fy rôl, ac mae wedi'i ariannu'n llawn hefyd, sy'n fonws. Nawr fy mod wedi cwblhau fy Mhrentisiaeth, rydw i'n astudio tuag at Radd Sylfaen mewn Iechyd a Lles Cymunedol ac rwyf wedi cael fy nerbyn i astudio gradd mewn Nyrsio Oedolion. Fe wnaeth fy Nghynllun Prentisiaeth fy helpu i gyrraedd ble'r ydw i nawr
20
Byw. Dysgu. Ennill
www.acttraining.org.uk/skills-ambassador
LLY SG E N N AD SG I LI AU Rhoddodd y Brentisiaeth brofiad hanfodol i mi er mwyn paratoi ar gyfer disgyblaeth a strwythur byd gwaith ym maes chwaraeon proffesiynol a dyna pam yr wyf i'n gweithio gydag ACT heddiw - i helpu pobl ifanc yng Nghymru i gael gwaith drwy Brentisiaethau. Fel Llysgennad Sgiliau ACT buaswn yn annog pob dysgwr a pherson ifanc yng Nghymru i wneud y gorau o gyfleoedd dysgu a hyfforddiant ymarferol.
Rydym yn falch iawn o gael arwr rygbi Cymru Jonathan Davies OBE fel Llysgennad Sgiliau. Nid yw'n hysbys iawn fod Jonathan Davies wedi gadael yr ysgol gyda dim ond dau Lefel O a dechreuodd ei fywyd gwaith fel Prentis paentio a phapuro. Bellach, yn ei rôl fel Llysgennad Sgiliau ACT, mae’n helpu eraill i groesi'r bont rhwng ymadawyr ysgol heb gymwysterau i Brentisiaid sy’n barod am waith. Ei nod yw helpu dysgwyr i wireddu eu potensial a gwella eu dyfodol yn y modd y gwnaeth ef pan yn 17. Yn dod o gefndir Prentisiaeth ei hun, mae Jonathan yn ymwybodol o’r heriau sy'n wynebu pobl ifanc wrth chwilio am gyfle yn y gweithle.
Jonathan Davies OBE, Llysgennad Sgiliau ACT
acttraining.org.uk
21
@acttraining
A MD A NI ! Mae gennym gannoedd o lefydd gwag a chyfleoedd yn benodol ar gyfer pobl ifanc sydd am fentro i’r byd gwaith neu wella eu rhagolygon gyrfaol. Ymgeisiwch nawr I’w gwneud yn haws, nid oes gennym gyfnod cofrestru penodol, felly gallwch wneud cais unrhyw bryd arlein: acttraining.org.uk/apply
Darganfod mwy
Os hoffech ddarganfod mwy cyn gwneud cais, cysylltwch â ni.
029 2046 4727 | info@acttraining.org.uk
Mae gennym ganolfannau ar draws de a chanolbarth Cymru: Aberdâr
Caerdydd
Y Barri
Glyn Ebwy
Pen-y-bont Caerffili
Casnewydd Powys
www.acttraining.org.uk/locations
22
Byw. Dysgu. Ennill
Mae’r holl wybodaeth yn gywir ar adeg argraffu’r ddogfen hon ond gall newid heb rybudd. Am y wybodaeth ddiweddaraf, ewch i wefan ACT: acttraining.org.uk
acttraining.org.uk
Sut i gael y cyfan! 23
CYSY LL T U Cysylltwch â ni drwy’r cyfryngau cymdeithasol! Os am ddarganfod mwy cyn gwneud cais, cysylltwch â ni. @acttrainingltd
029 2046 4727 info@acttraining.org.uk acttraining.org.uk
/acttraining
@acttraining
ACT Training
eg
Cym ra
acttraining.org.uk 24
Byw. Dysgu. Ennill