

Does dim byd tebyg i
i’ch gyrfa.
Mae prentisiaeth yn gwrs wedi’i ariannu’n llawn sy’n eich galluogi i ddatblygu eich rhagolygon addysg a chyflogaeth tra’n mwynhau’r holl fanteision o fod yn weithiwr cyflogedig.

Beth yw’r manteision?
• Ennill wrth i chi ddysgu: hyd at £22,000 y flwyddyn, ynghyd â gwyliau.
• Ennill sgiliau a phrofiad ymarferol sy’n benodol i’r swydd.
• Cael cymorth un-i-un i gadw eich ffocws ar y trywydd iawn.
Gan weithio gyda rhai o gyflogwyr mwyaf Cymru, mae ACT yn darparu Prentisiaethau wedi’u hariannu’n llawn mewn mwy na 30 o sectorau, gan gynnwys:
Busnes Gofal Cyllid
Gwallt a Harddwch
llawer mwy!
Types of Apprenticeships
Rydym yn cynnig tri math o Brentisiaethau. Mae llawer o fyfyrwyr yn dechrau gyda Phrentisiaeth Sylfaen ac yn gweithio eu ffordd hyd at Brentisiaeth Uwch. Os ydych chi eisoes wedi cyflawni’r cymhwyster addysg cyfwerth, gallwch ddechrau ar y lefel nesaf.
LEFEL MATH ADDYSGOL CYFWERTH
Lefel 2
Lefel 3
Lefel 4 - Lefel 5
Prentisiaeth Sylfaen TGAU gradd A*-C
Prentisiaeth UG/Safon Uwch
Prentisiaeth Uwch HNC/HND Gradd Sylfaen
Pethau i’w gwybod
• Mae prentisiaethau’n cael eu hysbysebu ar wefan ACT ac mae angen gwneud cais amdanynt. Gallwn eich helpu gyda hyn, mae gennym dîm ymroddedig i gefnogi eich proses ymgeisio.
• Gall unrhyw un 16+ oed wneud cais.
• Os oes gennych chi swydd eisoes, gallwn weithio gyda chi a’ch cyflogwr i ddarparu Prentisiaeth berthnasol.
Mae 90% o Brentisiaid yn aros mewn cyflogaeth ar ôl gorffen eu cymhwyster.
Oeddetti’ngwybod? bawbMaegennymgyrsiauiagallwchgofrestru arunrhywadeg! acttraining.org.uk

Eisiau gwybod mwy?
P’un ai os ydych yn gwybod beth yw eich cam nesaf, neu eisiau gwybod mwy am eich opsiynau, rydym yma i chi!
acttraining.org.uk
info@acttraining.org.uk
029 2046 4727
16-19? Ddim yn hollol barod am waith?
Mae Twf Swyddi Cymru+ yn rhaglen hyfforddi wych sy’n eich arfogi â’r sgiliau, yr hyder a’r profiad sydd eu hangen i symud ymlaen i brentisiaeth, neu eich galluogi i gael eich swydd ddelfrydol.
Darganfyddwch fwy!
acttraining.org.uk