Caru Cymru 2022 Dyma wahoddiad i bob dysgwr ac aelod o staff yn rhwydwaith ACT i geisio ein Cystadleuaeth Caru Cymru Rithwir 2022!
Dyma’ch cyfle i ennill prif wobr wych o dabled Samsung a gwobrau categori unigol o dlysau, cardiau rhodd £10 a siocled! Cyfunwch eich sgiliau creadigol a’ch balchder o fod yn Gymro/Cymraes (neu’n byw yng Nghymru) yn un o’r categorïau canlynol: Ffotograffiaeth Tynnwch lun o rywle, rywbeth neu rywun sy’n dangos Cymru mewn un ddelwedd. Ysgrifennu Creadigol Ffansio’ch hunan fel y Waldo Williams nesa? Ysgrifennwch stori fer, darn o farddoniaeth neu hyd yn oed jôc. Gall eich gwaith ysgrifenedig fod yn Saesneg neu’n Gymraeg. Cyfryngau Creadigol Crëwch ddelwedd/fideo/gwefan gan ddefnyddio deunyddiau neu dechnoleg ddigidol sy’n dangos beth yw ystyr Cymru i chi. Coginio Allwn ni ddim blasu seigiau yn rhithwir ond gallwn ni edrych arnyn nhw! Anfonwch eich bwydlen â thema Gymraeg atom neu crëwch eich saig Gymraeg orau ac anfonwch lun atom.
Sgiliau Galwedigaethol–Dysgwyr Defnyddiwch y sgiliau arbennig rydych wedi eu datblygu ar eich cwrs i greu rhywbeth wedi’i ysbrydoli gan Gymru. Meddyliwch steil gwallt, gwaith metel, gwaith pren neu unrhyw beth arall! Aseswyr a thiwtoriaid – danfonwch adnodd rydych chi wedi paratoi er mwyn hybu’r defnydd o Gymraeg/Cymreictod. Cyfraniad Cymunedol Ydych chi wedi gwneud gwahaniaeth i’ch cymuned leol? Cynrychioli eich ardal, sir neu Gymru mewn digwyddiadau neu gystadlaethau chwaraeon? Wedi gwirfoddoli neu godi arian i elusen? Anfonwch grynodeb atom amdanoch chi a’ch cyflawniadau. Danfonwch eich cynigion ar gyfer pob categori drwy e-bost i carucymru@ acttraining.org.uk ynghyd a’ch enw, categori a chanolfan/darparwr hyfforddiant erbyn 12yp Dydd Iau y 3ydd o Fawrth. Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi ar Ddydd Llun y 7fed o Fawrth.