Cyngor ac Arweiniad Lefel
4
PrentisiaethPrentisiaeth Lefel
Prentisiaeth Lefel
Mae hwn yn gymhwyster galwedigaethol o ansawdd uchel sy'n cael ei gydnabod yn genedlaethol ac sydd wedi'i anelu at ymarferwyr profiadol sy'n gweithio gyda chleientiaid neu staff mewnol mewn sefydliadau sy'n darparu gwasanaethau Cyngor ac Arweiniad ar sail broffesiynol neu wirfoddol. Mae'n ddelfrydol i bobl sy'n darparu gwybodaeth ffeithiol, gyfredol a diduedd i gleientiaid/cydweithwyr yn ogystal â chyflwyno syniadau ar ffurf hygyrch iddynt eu hystyried. Dylent weithio'n barhaus gyda'u cleientiaid i'w cefnogi wrth ymgymryd â chamau gweithredu priodol, a dylent fonitro ac adolygu canlyniadau. Gallai ymarferwyr hefyd fod â chyfrifoldebau goruchwyliaeth, rheolaethol neu hyfforddiant, fod yn gyfrifol am greu neu ddatblygu adnoddau hyfforddi a byddant yn rhwydweithio â sefydliadau eraill fel rhan o'u rôl.
Fframwaith Prentisiaeth
Diploma Cyngor ac Arweiniad Lefel 4
Cymwysterau Sgiliau Hanfodol
Datblygiad y Gymraeg
Nod y Diploma Cyngor ac Arweiniad yw helpu i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth mewn ystod o rolau cyfredol, gan alluogi ymarferwyr i gyflawni eu targedau a darparu lefel ragorol o wasanaeth i'w cleientiaid.
Mae'r rhaglen yn rhoi cyfle datblygiad proffesiynol i ddysgwyr mewn rolau fel:
• Darparwyr cyngor mewn sefydliadau addysgol
• Darparwyr cwnsela mewn addysg
• Aseswyr a dilyswyr
• Gwasanaethau myfyrwyr
• Hyfforddwyr ffitrwydd
• Cynghorwyr canolfan swyddi
• Cynghorwyr yn y sector elusennol/gwirfoddol
• Cynghorwyr mewn adrannau llywodraeth
• Cynghorwyr cymdeithasau tai
• Rheolwyr, goruchwylwyr ac arweinwyr tîm
• Cynghorwyr gyrfa
• Cyfryngdod
• Eiriolaeth
I bwy mae'r brentisiaeth yma?
Bydd y Diploma Cyngor ac Arweiniad yn datblygu a mireinio sgiliau ymarferwyr sy'n rhoi cyngor ac arweiniad mewn ystod o gyd-destunau a all gynnwys cyfryngdod, eiriolaeth, cyngor gyrfaoedd, hyfforddiant, rheoli, mentora, a chefnogi defnyddwyr gwasanaethau.
Mae'r Diploma Cyngor ac Arweiniad lefel 4 yn ymdrin â chyfathrebu a rhyngweithio i gefnogi cleientiaid, rheoli llwyth gwaith, rhwydweithio a datblygiad proffesiynol yn ogystal ag ystod eang o unedau dewisol y gellir eu teilwra i gyd-fynd ag anghenion datblygu unrhyw rôl sy'n seiliedig ar roi cyngor ac arweiniad i eraill.
Ar ôl cwblhau'r brentisiaeth hon, byddwch wedi cyflawni'r canlynol:
• Prentisiaeth Uwch Cyngor ac Arweiniad
• Diploma Cyngor ac Arweiniad Lefel 4
• Sgiliau Hanfodol Lefel 2 mewn Cymhwyso Rhif (AON)
• Sgiliau Hanfodol Lefel 3 mewn Cyfathrebu (Comms)
• Sgiliau Hanfodol Lefel 1 mewn Llythrennedd Digidol (EDLS)
• Cwrs Datblygu’r iaith Gymraeg Prentis-iaith
Ar y tudalennau canlynol, fe welwch wybodaeth ynglŷn â’r prif gymhwyster yn ogystal ag agweddau eraill a fydd yn ffurfio'r rhaglen brentisiaeth hon, gan gynnwys Sgiliau Hanfodol a Datblygiad y Gymraeg.
Byddwn yn teilwra eich rhaglenni dysgu i gyd-fynd â'ch anghenion, fel bod profiad pob dysgwr yn unigryw. Er y bydd anghenion dysgwyr yn wahanol, 17 mis yw'r amser sy'n cael ei argymell i gwblhau'r rhaglen hon
Cyflwyno Cwrs
Caiff y rhaglen ei chyflwyno'n bennaf trwy sesiynau 1-i-1 gydag aelod o dîm darparu ACT, gan ddefnyddio cymysgedd o sesiynau dysgu wyneb yn wyneb ac o bell. Bydd Asesydd ACT yn cwrdd â'r dysgwr, naill ai yn y gweithle neu drwy ddulliau digidol (er enghraifft, Microsoft Teams) unwaith y mis am tua dwy awr er mwyn cefnogi cynnydd. Mae arsylwi yn rhan allweddol o'r cymhwyster hwn, felly bydd rhai ymweliadau'n hirach er mwyn caniatáu i'r aseswr arsylwi cymaint â phosibl. Yn ogystal â hyn, bydd tua 4 awr o waith yn cael eu gosod i’r dysgwyr eu cwblhau bob mis.
Mae enghreifftiau o rai o'r tasgau a allai gael eu gosod gan ein haseswyr yn
cynnwys:
• Paratoi i gael eich arsylwi yn cynllunio gweithredu gyda'ch cleient
• Dylunio adnodd i'w ddefnyddio gan eich sefydliad.
• Ymchwilio ac ysgrifennu am y ddeddfwriaeth sy'n effeithio’r ffordd rydych chi'n darparu cyngor ac arweiniad
Mae'r rhaglen hon yn cynnwys cymysgedd o unedau gorfodol (mae'n rhaid i'r rhain gael eu cwblhau gan bob dysgwr fel rhan o'r cymhwyster) ac unedau dewisol (byddwn yn gweithio gyda chi i benderfynu pa unedau sy'n berthnasol i'ch rôl). Er mwyn cyflawni'r Diploma lefel 4, rhaid cwblhau o leiaf 17 credyd o'r unedau gorfodol ac 20 credyd o'r unedau dewisol. Rhaid i o leiaf 19 credyd ddod o unedau ar lefel 4
Unedau Gorfodol
• Datblygu rhyngweithio â chleientiaid cyngor ac arweiniad
• Rheoli llwyth achos personol
• Gwerthuso a datblygu eich cyfraniad i'r gwasanaeth
• Gweithredu o fewn rhwydweithiau
• Deall pwysigrwydd deddfwriaeth a gweithdrefnau
Unedau dewisol*
• Cefnogi cleientiaid i ddefnyddio'r gwasanaeth cyngor ac arweiniad
• Cynorthwyo cleientiaid cyngor ac arweiniad i benderfynu ar ffordd o weithredu
• Paratoi cleientiaid drwy gyngor ac arweiniad ar gyfer rhoi ffordd o weithredu ar waith
• Cynorthwyo cleientiaid drwy gyngor ac arweiniad i adolygu cyflawniad ffordd o weithredu
• Eirioli ar ran cleientiaid cyngor ac arweiniad
• Paratoi i gynrychioli cleientiaid cyngor ac arweiniad mewn achosion ffurfiol
• Trafod ar ran cleientiaid cyngor ac arweiniad
• Cysylltu â gwasanaethau eraill
• Galluogi cleientiaid cyngor ac arweiniad i fanteisio ar gyfleoedd atgyfeirio
• Gwneud ymchwil i'r gwasanaeth a'i gleientiaid
• Dylunio deunyddiau gwybodaeth
i'w defnyddio yn y gwasanaeth
• Darparu a chynnal deunyddiau
gwybodaeth i'r gwasanaeth
• Nodi a hyrwyddo cyfraniad
Canllawiau Addysg Gyrfaoedd o fewn y sefydliad
• Integreiddio Canllawiau Addysg
Gyrfaoedd o fewn y cwricwlwm
• Hyrwyddo Canllawiau Addysg
Gyrfaoedd
• Trafod a chynnal cytundebau
gwasanaeth
• Hwyluso dysgu mewn grwpiau
• Paratoi a sefydlu cyfryngu
*Peidiwch â phoeni! Yn ystod yr ymweliad/cyfarfod cyntaf, bydd ein haseswyr yn gweithio gyda phob dysgwr a chyflogwr i adolygu pa rhai o'r unedau opsiynol yw'r rhai mwyaf addas ar gyfer eich rhaglen.
ac Arweiniad lefel 4?
Rydym yma i helpu. Os oes gennych ragor o gwestiynau neu os oes gennych ragor ogwestiynau ynghylch prif elfen cymwysterau'r rhaglen, cysylltwch â'n Rheolwr
Llwybrau:
Ann Rees
Rheolwr Llwybr ar gyfer Cyfrifeg ac Addysg a Datblygu annrees@acttraining.org.uk
Neu
Alison Stone
Prif Wiriwr Mewnol alisonstone@acttraining.org.uk
Pan fyddwch yn cytuno i ymgymryd â Phrentisiaeth efallai y bydd gofyn i chi gwblhau Sgiliau Hanfodol fel rhan o'ch fframwaith Prentisiaeth.
Mae cymwysterau Sgiliau Hanfodol yn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth dysgwyr o Gymhwyso Rhif (Rhifedd), Cyfathrebu (Llythrennedd) a Llythrennedd Digidol. Mae'r cymwysterau hyn yn galluogi dysgwyr i ddangos eu bod yn gallu cymhwyso'r sgiliau hanfodol hyn i ystod o sefyllfaoedd tra yn y gwaith, wrth ddysgu a thrwy gydol oes.
Mae'r cymwysterau Sgiliau Hanfodol y mae'n ofynnol i chi eu cwblhau yn dibynnu ar eich cymwysterau blaenorol, lefel y brentisiaeth rydych chi'n ei gwblhau a'ch anghenion penodol eich hun.
Mae'r cymwysterau Sgiliau Hanfodol i gyd ar gael ar bedair lefel, yn dibynnu ar eich anghenion unigol (Mynediad 3, Lefel 1, Lefel 2, a Lefel 3) ac maent yn cynnwys:
Sgiliau Cymhwyso Rhif Hanfodol
• Deall data rhifiadol
• Cynnal cyfrifiadau
• Dehongli a chyflwyno canfyddiadau canlyniadau
Sgiliau Cyfathrebu Hanfodol
• Siarad a gwrando
• Darllen
• Ysgrifennu
Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol
• Cyfrifoldeb digidol
• Cynhyrchaeth digidol
• Llythrennedd gwybodaeth ddigidol
• Cydweithio digidol
• Creadigrwydd digidol
• Dysgu digidol
Pecyn Cymorth Sgiliau Hanfodol Cymru (WEST)
Bydd pob dysgwr yn ymgymryd â WEST wrth gofrestru ar gyfer prentisiaeth. Dyma set o asesiadau sgiliau ar-lein sy'n cyfrifo lefel gallu a dealltwriaeth mewn Llythrennedd (Cyfathrebu), Rhifedd (Cymhwyso Rhif) a Llythrennedd Digidol.
Nid arholiadau yw asesiadau WEST ac nid oes ganddynt feini prawf pasio na methu. Mae modd cwblhau asesiadau WEST yn Gymraeg neu Saesneg, ac mae'r asesiad Cymhwyso Rhif yn ddwyieithog (os hoffai unrhyw ddysgwr archwilio hyn, yr oll sydd angen gwneud yw gofyn!). Nid oes terfyn amser penodol ar gyfer unrhyw un o'r asesiadau, ond mae'n rhaid eu cymryd o dan oruchwyliaeth.
Mae WEST yn rhan hanfodol o’ch taith ddysgu. Mae'r canlyniadau yn helpu eich
Tiwtor Sgiliau Hanfodol i gynllunio eich rhaglen ddysgu i ddiwallu eich anghenion penodol. Yn ogystal ag asesiadau, byddwch hefyd yn cael eich annog i ddefnyddio WEST i ddatblygu eich sgiliau drwy gydol eich rhaglen Brentisiaeth. Bydd eich
Tiwtor Sgiliau Hanfodol yn rhoi arweiniad ar sut i ddefnyddio WEST yn llawn.
Cyflwyno’r Cwrs
Os bydd gofyn i chi gwblhau eich Sgiliau Hanfodol fel rhan o'r fframwaith
Prentisiaethau, byddant yn cael eu trafod yn eich ymweliad cyntaf â'ch Asesydd a'ch cyflogwr.
Trwy ddadansoddi eich canlyniadau WEST a sgwrs fanwl, bydd cynllun dysgu yn cael ei roi ar waith i gefnogi cyflawni unrhyw Sgiliau Hanfodol y mae'n ofynnol i chi eu cwblhau.
Gyda'ch gilydd, byddwch yn cytuno ar yr amseroedd a'r lleoliadau gorau ar gyfer y gefnogaeth i chi a'ch cyflogwr, gan gydbwyso eich anghenion personol a'ch ymrwymiadau bywyd gwaith.
Mae enghreifftiau o sut y byddwn yn eich cefnogi gyda hyn yn cynnwys:
• Cefnogaeth gan aelod o'n tîm Sgiliau Hanfodol
• Presenoldeb mewn gweithdai grŵp
• Sesiynau gweithdy digidol
Os ydych eisoes wedi cyflawni cymwysterau llythrennedd, rhifedd neu lythrennedd digidol, ond yr hoffech ddatblygu'r sgiliau hyn ymhellach gyda chefnogaeth ein Tiwtoriaid, rhowch wybod i'ch Asesydd a gellir trefnu hyn ar eich cyfer.
Hyd yr amser i'w gwblhau
Rydym ni'n teilwra eich rhaglen ddysgu i’ch anghenion; Felly mae rhaglen ddysgu pob dysgwr yn unigryw. Er na allwn ddweud gyda sicrwydd pa mor hir y bydd yn ei gymryd i gwblhau eich cymhwyster(au) Sgiliau Hanfodol, gallwn roi ychydig o arweiniad i chi ynglŷn ag amser. Mae'r canllawiau hyn yn dibynnu ar y lefel Prentisiaeth rydych chi'n ei gwblhau a'ch anghenion penodol chi’ch hun.
Er enghraifft:
Cymhwyso Rhif Tua 7-8 wythnos*
Cyfathrebu Tua 8 wythnos*
Llythrennedd Digidol Tua 4 wythnos*
*Yn cynnwys y Dasg a’r Prawf
Sylwer:
• Mae pob sesiwn sgiliau rhwng 1.5 a 2.5 awr, yn dibynnu ar y dull cefnogi. Bydd eich Tiwtor Sgiliau Hanfodol yn trafod yr amser sydd ei angen ar gyfer eich asesiadau Sgiliau Hanfodol gyda chi, a fydd hefyd yn dibynnu ar y lefel yr ydych yn ei gymryd.
• Rydyn ni'n aml yn gweld, lle mae angen i ni weithio gyda chi i uwchsgilio mwy nag un lefel, efallai y bydd angen gofyn i chi fynychu sesiynau ychwanegol gyda ni. Peidiwch â phoeni - mae gennym ni amrywiaeth o ffyrdd y gallwn ni eich helpu chi i wneud hyn (er enghraifft trwy sesiynau sgiliau).
• Gallwn eich cefnogi ar sail un i un, ond fel y byddwch yn gwerthfawrogi, mae'r llefydd hyn yn gyfyngedig. Trafodwch gyda'ch Asesydd.
Dirprwy
Os oes gennych chi gymwysterau eisoes, efallai y bydd y rhain yn gallu cael eu defnyddio fel 'dirprwy' tuag at eich fframwaith Prentisiaeth. O ganlyniad, byddwch wedi'ch eithrio rhag cyflawni'r Sgil Hanfodol benodol honno, os dymunwch.
Isod ceir rhai enghreifftiau, er nad yw'r rhestr hon yn gynhwysfawr. Bydd pob cais am ddirprwy yn cael ei wirio a'i gadarnhau ar ddechrau ar eich Prentisiaeth. Sylwer os gwelwch yn dda y bydd angen cynhyrchu tystysgrifau gwreiddiol o fewn yr 8 wythnos gyntaf er mwyn cael eich eithrio rhag cwblhau Sgiliau Hanfodol.
Sgil Hanfodol Dirprwy
Cyfathrebu Lefel 1
Cyfathrebu Lefel 2
Cyfathrebu Lefel 3
Cymhwyso Rhif Lefel 1
Cymhwyso Rhif Lefel 2
Cymhwyso Rhif Lefel 3
TGAU G neu uwch, Sgiliau Allweddol neu Sgiliau Hanfodol Cymru
TGAU C neu uwch, Sgiliau Allweddol neu Sgiliau Hanfodol Cymru
Lefel A AS/Safon Uwch neu uwch, Sgiliau Allweddol neu Sgiliau Hanfodol Cymru
TGAU G neu uwch, Sgiliau Allweddol neu Sgiliau Hanfodol Cymru
TGAU C neu uwch, Sgiliau Allweddol neu Sgiliau Hanfodol Cymru
Lefel A AS/Safon Uwch neu uwch, Sgiliau Allweddol neu Sgiliau Hanfodol Cymru
Bydd hyn yn cael ei drafod gyda chi cyn i chi gofrestru gyda ni, a bydd eich asesydd hefyd yn ei drafod cyn ac yn ystod eich ymweliad cyntaf oddi wrthym.
Oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â Sgiliau Hanfodol?
Rydym yma i helpu. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu ymholiadau pellach am elfen Sgiliau Hanfodol y rhaglen, cysylltwch â'n Rheolwr Sgiliau Hanfodol:
Julie Maughan
Rheolwr Sgiliau Hanfodol
juliemaughan@acttraining.org.uk
Fel rhan o'ch fframwaith a ariennir gan Lywodraeth Cymru, byddwch yn cael cymorth i ddatblygu a chynnal eich sgiliau Cymraeg ar gyfer y gweithle.
Beth yw Datblygiad y Gymraeg?
Mae ACT wedi ymrwymo i chwarae eu rhan yn strategaeth Miliwn o Siaradwyr Llywodraeth Cymru. Bydd pob dysgwr yn cwblhau cwrs Datblygu’r Gymraeg Prentis-iaith fel rhan o'ch fframwaith gyda ni.
Peidiwch â phoeni - mae hyn yn fodd i ddatblygu a'r nod yw eich cefnogi gyda datblygiad eich sgiliau Iaith Gymraeg. Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio'n arbennig i roi gwybodaeth sylfaenol o Gymraeg yn y gweithle i brentisiaid ac mae'n cynnwys 6 modiwl rhyngweithiol i'w cwblhau ar-lein. Bydd y cwrs yn cael ei gwblhau drwy gydol eich fframwaith, gyda chymorth eich asesydd.
Eisoes yn ddwyieithog?
Os ydych yn siarad Cymraeg byddwch yn ymgymryd â'ch dysgu yn ddwyieithog. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu y gallwch ddewis elfennau yr hoffech eu cwblhau drwy gyfrwng y Gymraeg. Byddwch yn gallu trafod eich dewisiadau penodol gyda'ch asesydd