Darparwyr Dysgu Digidol Lefel 3

Page 1

Diploma ar gyfer Darparwyr Dysgu Digidol

Lefel 3

PRENTISIAETH

Prentisiaeth Lefel 3

Diploma ar gyfer Ymarferwyr Dysgu

Digidol

Mae’r cymhwyster hwn wedi ei ddylunio i helpu i ddarparu'r wybodaeth a'r sgiliau i ganiatáu i athrawon, tiwtoriaid, darlithwyr, rheolwyr datblygu, swyddogion adnoddau dynol, aseswyr, hyfforddwyr a chynorthwywyr addysgu wella eu sgiliau dylunio dysgu digidol i greu cynnwys digidol effeithiol, adnoddau a phrofiadau dysgu cyfunol o fewn dysgu a datblygiad.

Cynnwys

Fframwaith Prentisiaeth

Diploma ar gyfer Ymarferwyr Dysgu Digidol Lefel 3

Cymwysterau Sgiliau Hanfodol

Datblygu’r iaith Gymraeg

1 acttraining.org.uk

Fframwaith Prentisiaeth

Nod y brentisiaeth Ymarferwyr Dysgu Digidol yw darparu'r wybodaeth a'r sgiliau i alluogi'r dysgwr i greu cynnwys digidol effeithiol a chynhwysol ar gyfer dysgu a datblygu.

Mae'r cymhwyster wedi'i anelu at amrywiaeth o ddysgwyr, heb fod yn gyfyngedig i:

• Athrawon

• Tiwtoriaid

• Darlithwyr

• Rheolwyr Datblygu

• Swyddogion Adnoddau Dynol

• Aseswyr

• Hyfforddwyr

• Cynorthwywyr Addysgu

I bwy mae'r brentisiaeth yma?

Mae'r Brentisiaeth hon wedi'i hanelu at ymarferwyr yn y sector addysg sydd â diddordeb mewn dysgu digidol ac sy'n dymuno datblygu eu gwybodaeth a'u sgiliau yn y maes hwn. Gall eu rôl swydd fod mewn dysgu neu ddatblygu, megis athrawon, darlithwyr, rheolwyr datblygu, swyddogion adnoddau dynol, aseswyr, hyfforddwyr, cynorthwywyr addysgu ac yn dymuno gwella eu sgiliau dysgu digidol. Mae'r unedau sy’n cael eu cynnig wedi cael eu dewis yn ofalus gan ystyried y safonau proffesiynol i athrawon. Bydd cwblhau'r Brentisiaeth hon yn rhoi nifer o opsiynau gwahanol ar gyfer dilyniant i rolau uwch o fewn dysgu digidol.

2 acttraining.org.uk

Trosolwg

Mae'n fwy hanfodol nag erioed bod y rhai sy'n gyfrifol am addysg yn eu sefydliadau yn integreiddio technoleg ddigidol i'w amgylcheddau dysgu. Felly, mae'n hanfodol bod staff yn gallu cynnwys a gweithredu cyfryngau electronig, technoleg addysgol a dysgu ar y we i gefnogi eu haddysg i ddisgyblion neu staff, a chyfuno’r dulliau digidol hyn â dulliau mwy traddodiadol. Dyna beth yw pwrpas y Brentisiaeth hon. Datblygwyd y Brentisiaeth newydd hon i greu gweithlu o addysgwyr digidol sy'n gallu gweithio ar draws y sector addysg i ddylunio, datblygu a gweithredu strategaethau a chynnwys ar gyfer dysgu digidol.

Wrth gwblhau'r Brentisiaeth hon, byddwch yn cyflawni'r canlynol:

• Diploma Prentisiaeth ar gyfer Ymarferwyr Dysgu Digidol Lefel 3

• Diploma Lefel 3 Agored Cymru ar gyfer Ymarferwyr Dysgu Digidol

• Sgiliau Cymhwyso Rhif Hanfodol Lefel 2*

• Sgiliau Cyfathrebu Hanfodol Lefel 2*

• Sgiliau Llythrennedd Digidol Lefel 3 *

• Cwrs Datblygu’r Iaith Gymraeg Prentis-iaith

Ar y tudalennau canlynol, fe welwch wybodaeth ynghylch y prif gymhwyster (Diploma Lefel 3 ar gyfer Ymarferwyr Dysgu Digidol), yn ogystal ag agweddau eraill a fydd yn rhan o'r rhaglen brentisiaeth hon, gan gynnwys Sgiliau Hanfodol a Datblygiad y Gymraeg.

3 acttraining.org.uk

Diploma Lefel 3 ar gyfer Ymarferwyr Dysgu Digidol

Caiff y cymhwyster hwn ei gwblhau ochr yn ochr â'ch rôl waith. Byddwch yn casglu tystiolaeth o'ch gwaith a fydd yn gallu cael ei ddefnyddio yn eich cymhwyster. Bydd gofyn i chi hefyd fynychu gweithdai a chyfarfodydd rheolaidd gyda'ch asesydd.

Hyd yr amser i'w gwblhau

Byddwn yn teilwra eich rhaglenni dysgu i gyd-fynd â'ch anghenion, fel bod profiad pob dysgwr yn unigryw. Er bydd anghenion dysgwyr yn wahanol, yr amser a argymhellir er mwyn cwblhau'r rhaglen hon yw 18 mis.

Cyflwyno Cwrs

Bydd y rhaglen hon yn cael ei chyflwyno'n bennaf trwy sesiynau 1-i-1 gydag aelod o dîm cyflwyno ACT, yn defnyddio cymysgedd o sesiynau dysgu wyneb yn wyneb ac o bell. Bydd asesydd ACT yn cwrdd â'r dysgwr, naill ai yn y gweithle neu drwy ddulliau digidol (er enghraifft, Microsoft Teams) unwaith y mis am tua dwy awr i gefnogi cynnydd.

Bydd dysgwyr hefyd yn cael tasgau i'w cwblhau rhwng pob ymweliad, am tua 4 awr y mis (noder – canllaw yn unig yw hwn a bydd yn amrywio yn seiliedig ar anghenion dysgwyr).

Gellir addasu'r gweithdai hyn i gyd i’w gwneud yn bwrpasol ar gyfer eich anghenion busnes, yn eich gweithle neu ym Mhrif Swyddfa ACT, ar yr amod bod nifer digonol o ddysgwyr.

Mae enghreifftiau o'r tasgau a allai gael eu gosod gan ein haseswyr yn cynnwys:

• 'Rhoi tystiolaeth i ddangos defnydd o offer cydweithredol i gymryd rhan mewn cyfarfodydd ar-lein amser real'. Gall hyn gynnwys sgrin luniau o'r cyfarfod neu gall yr asesydd eich arsylwi.

4 acttraining.org.uk

• ‘Disgrifiwch gamau cylchred bywyd y prosiect'. Bydd tystiolaeth o hyn ar ffurf ateb llafar neu ysgrifenedig gan y dysgwr.

Yn ogystal, ceir cyfres o weithdai ar-lein ac wyneb yn wyneb sy'n rhoi cefnogaeth ymarferol a pherthnasol i’r gweithgareddau sy'n seiliedig ar waith. Mae'r gweithdai hyn ar gael i'r holl ddysgwyr archebu lle arnynt – gweler isod am ragor o fanylion.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae'r rhaglen hon yn cynnwys cymysgedd o unedau gorfodol (mae'n rhaid i'r rhain gael eu cwblhau gan bob dysgwr fel rhan o'r cymhwyster) ac unedau dewisol (byddwn yn gweithio gyda chi i benderfynu pa unedau sy'n berthnasol i'ch rôl, a'ch busnes).

Mae trosolwg byr o'r unedau hyn isod.

Unedau gorfodol

• Deall a Defnyddio Hwyluso Cynhwysol mewn Dysgu a Datblygiad Digidol

• Cynnal Ansawdd a Safonau mewn Dysgu a Datblygiad Digidol

• Asesu a Datblygu Gallu Digidol mewn Dysgu a Datblygiad Digidol

Unedau dewisol*

• Defnyddio'r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru i wella dysgu a datblygiad digidol

• Ymgysylltu a chefnogi dysgwyr yn y broses o ddysgu a datblygiad digidol

• Gwerthuso a Gwella Darpariaeth Dysgu a Datblygiad Digidol

• Rheoli Offer ar gyfer Cydweithio Ar-lein mewn Dysgu a Datblygiad Digidol

• Defnyddio Technolegau Cyfryngau Cymdeithasol mewn Dysgu a Datblygiad Digidol

• Defnyddio Technolegau Trochi mewn Dysgu a Datblygiad Digidol

• Yr Amgylchedd Dysgu a Datblygiad Ar-lein a Chyfunol

• Datblygu a pharatoi adnoddau ar gyfer dysgu a datblygiad digidol

• Rheoli Datblygiad Personol a Phroffesiynol mewn Dysgu a Datblygiad Digidol

• Addysgu crefftus, dysgu gweithredol

• Cynhyrchu gwefannau mewn dysgu a datblygiad digidol gan ddefnyddio technolegau symudol a dysgu

• Cynnwys Sain/ Deunydd Gweledol o fewn Dysgu a Datblygiad Digidol

• Defnyddio Byrddau Stori ar gyfer Dylunio Cynnwys ar gyfer Dysgu Arlein neu Gyfunol

• Egwyddorion Dylunio mewn Dysgu a Datblygiad Ar-lein neu Gyfunol

• Delweddaeth a Dylunio Graffig mewn Dysgu a Datblygiad Digidol

• Datblygiad Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang

5 acttraining.org.uk

* Peidiwch â phoeni! Yn ystod yr ymweliad/cyfarfod cyntaf, bydd ein haseswyr yn gweithio gyda phob dysgwr a chyflogwr i adolygu pa unedau opsiynol sydd mwyaf addas ar gyfer eich rhaglen chi

Gweithdai

Rydym yn cynnal cyfres o weithdai fydd yn helpu i ddatblygu'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer eich rhaglen. Mae'r gweithdai hyn yn cael eu cyflwyno gan ddefnyddio cymysgedd o weithdai wyneb yn wyneb a rhaglenni ar-lein megis Microsoft Teams.

Yn y gweithdai hyn, bydd y dysgwyr yn dysgu'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen i greu cynnwys digidol effeithiol a chynhwysol ar draws arbenigeddau gwahanol, megis addysgeg neu ddamcaniaethau dysgu a datblygiad, gwybodaeth dechnegol a sgiliau, gwybodaeth a sgiliau creadigol, yn ogystal â chyfathrebu, sgiliau digidol a sgiliau trosglwyddadwy eraill. Bydd dysgwyr yn datblygu'r sgiliau i greu adnoddau digidol cynhwysol i'w defnyddio yn yr amgylchedd dysgu cyfunol.

Mae gweithdai yn cael eu cynnal yn aml. Rydym wedi rhoi trosolwg o'r gweithdai hyn isod.

Cyflwyniad i offer Digidol

Byddwch yn cael y cyfle i edrych ar amrywiaeth o declynnau digidol y gallwch eu defnyddio yn eich bywyd gwaith. Byddwn yn edrych ar feddalwedd fel Canva, Nearpod, Powtoon a chrëwr llyfrau. Bydd cyfle i chi arbrofi gyda'r offer hyn a chyflwyno eich adnoddau i gynulleidfa er mwyn cael adborth a chefnogaeth.

Addysgu Crefftus a dysgu gweithredol

Byddwch yn archwilio methodolegau addysgu gwahanol megis dysgu gweithredol a lluniadaeth ac yn ymchwilio i wahanol fodelau dysgu megis dysgu cyfunol a'r model pum cam. Byddwn yn edrych ar sut y gallwch chi gymhwyso'r damcaniaethau hyn i'ch amgylchedd dysgu digidol.

Gweithdy Prosiect Darpariaeth Ddigidol

Dysgwch am reoli prosiectau i gefnogi gweithredu'r ddarpariaeth ddigidol yn eich sector a dylunio profiad defnyddwyr wrth ystyried profiad y dysgwyr. Yn ystod y gweithdy hwn fe welwch ystod o offer digidol megis Wakelet, Padlet, Quiz yn Nearpod, codau QR, Canva, IDEA a Quizizz.

Technolegau Trochi

Dysgwch am y dechnoleg ddiweddaraf y gallwch ei defnyddio i drochi eich dysgwyr wrth ddysgu. Cewch gyfle i roi cynnig ar dechnoleg newydd, gan ddysgu am

6 acttraining.org.uk

dechnolegau Realiti Rhithwir, gan gynnwys clustffonau VR, Youtube 360, ARLoopa, Cardboard VR, Google Arts and Culture a llawer mwy.

Oes gennych chi unrhyw gwestiynau am ein Diploma Lefel 3 ar gyfer Ymarferwyr Dysgu Digidol?

Rydym yma i helpu. Os oes gennych ragor o gwestiynau neu ymholiadau ynghylch prif gymhwyster y rhaglen, cysylltwch â'n Rheolwr Llwybr:

Lucy Wilkinson

Rheolwr Llwybr dros Wasanaethau Digidol

lucywilkinson@acttraining.org.uk

7 acttraining.org.uk

Cymwysterau Sgiliau Hanfodol

Pan fyddwch yn cytuno i ymgymryd â Phrentisiaeth efallai y bydd gofyn i chi gwblhau Sgiliau Hanfodol fel rhan o'ch fframwaith

Prentisiaeth.

Beth yw Sgiliau Hanfodol?

Mae cymwysterau Sgiliau Hanfodol yn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth dysgwyr o Gymhwyso Rhif (Rhifedd), Cyfathrebu (Llythrennedd) a Llythrennedd Digidol. Mae'r cymwysterau hyn yn galluogi dysgwyr i ddangos eu bod yn gallu cymhwyso'r sgiliau hanfodol hyn i ystod o sefyllfaoedd tra yn y gwaith, wrth ddysgu a thrwy gydol oes.

Mae'r cymwysterau Sgiliau Hanfodol y mae'n ofynnol i chi eu cwblhau yn dibynnu ar eich cymwysterau blaenorol, lefel y brentisiaeth rydych chi'n ei gwblhau a'ch anghenion penodol eich hun.

Mae'r cymwysterau Sgiliau Hanfodol i gyd ar gael ar bedair lefel, yn dibynnu ar eich anghenion unigol (Mynediad 3, Lefel 1, Lefel 2, a Lefel 3) ac maent yn cynnwys:

Sgiliau Cymhwyso Rhif Hanfodol

• Deall data rhifiadol

• Cynnal cyfrifiadau

• Dehongli a chyflwyno canfyddiadau canlyniadau

Sgiliau Cyfathrebu Hanfodol

• Siarad a gwrando

• Darllen

• Ysgrifennu

8 acttraining.org.uk

Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol

• Cyfrifoldeb digidol

• Cynhyrchaeth digidol

• Llythrennedd gwybodaeth ddigidol

• Cydweithio digidol

• Creadigrwydd digidol

• Dysgu digidol

Pecyn Cymorth Sgiliau Hanfodol Cymru (WEST)

Bydd pob dysgwr yn ymgymryd â WEST wrth gofrestru ar gyfer prentisiaeth. Dyma set o asesiadau sgiliau ar-lein sy'n cyfrifo lefel gallu a dealltwriaeth mewn Llythrennedd (Cyfathrebu), Rhifedd (Cymhwyso Rhif) a Llythrennedd Digidol.

Nid arholiadau yw asesiadau WEST ac nid oes ganddynt feini prawf pasio na methu. Mae modd cwblhau asesiadau WEST yn Gymraeg neu Saesneg, ac mae'r asesiad Cymhwyso Rhif yn ddwyieithog (os hoffai unrhyw ddysgwr archwilio hyn, yr oll sydd angen gwneud yw gofyn!). Nid oes terfyn amser penodol ar gyfer unrhyw un o'r asesiadau, ond mae'n rhaid eu cymryd o dan oruchwyliaeth.

Mae WEST yn rhan hanfodol o’ch taith ddysgu. Mae'r canlyniadau yn helpu eich

Tiwtor Sgiliau Hanfodol i gynllunio eich rhaglen ddysgu i ddiwallu eich anghenion penodol. Yn ogystal ag asesiadau, byddwch hefyd yn cael eich annog i ddefnyddio WEST i ddatblygu eich sgiliau drwy gydol eich rhaglen Brentisiaeth. Bydd eich

Tiwtor Sgiliau Hanfodol yn rhoi arweiniad ar sut i ddefnyddio WEST yn llawn.

Cyflwyno’r Cwrs

Os bydd gofyn i chi gwblhau eich Sgiliau Hanfodol fel rhan o'r fframwaith

Prentisiaethau, byddant yn cael eu trafod yn eich ymweliad cyntaf â'ch Asesydd a'ch cyflogwr.

Trwy ddadansoddi eich canlyniadau WEST a sgwrs fanwl, bydd cynllun dysgu yn cael ei roi ar waith i gefnogi cyflawni unrhyw Sgiliau Hanfodol y mae'n ofynnol i chi eu cwblhau.

Gyda'ch gilydd, byddwch yn cytuno ar yr amseroedd a'r lleoliadau gorau ar gyfer y gefnogaeth i chi a'ch cyflogwr, gan gydbwyso eich anghenion personol a'ch ymrwymiadau bywyd gwaith.

9 acttraining.org.uk

Mae enghreifftiau o sut y byddwn yn eich cefnogi gyda hyn yn cynnwys:

• Cefnogaeth gan aelod o'n tîm Sgiliau Hanfodol

• Presenoldeb mewn gweithdai grŵp

• Sesiynau gweithdy digidol

Os ydych eisoes wedi cyflawni cymwysterau llythrennedd, rhifedd neu lythrennedd digidol, ond yr hoffech ddatblygu'r sgiliau hyn ymhellach gyda chefnogaeth ein Tiwtoriaid, rhowch wybod i'ch Asesydd a gellir trefnu hyn ar eich cyfer.

Hyd yr amser i'w gwblhau

Rydym ni'n teilwra eich rhaglen ddysgu i’ch anghenion; Felly mae rhaglen ddysgu pob dysgwr yn unigryw. Er na allwn ddweud gyda sicrwydd pa mor hir y bydd yn ei gymryd i gwblhau eich cymhwyster(au) Sgiliau Hanfodol, gallwn roi ychydig o arweiniad i chi ynglŷn ag amser. Mae'r canllawiau hyn yn dibynnu ar y lefel Prentisiaeth rydych chi'n ei gwblhau a'ch anghenion penodol chi’ch hun.

Er enghraifft:

Cymhwyso Rhif Tua 7-8 wythnos*

Cyfathrebu Tua 8 wythnos*

Llythrennedd Digidol Tua 4 wythnos*

*Yn cynnwys y Dasg a’r Prawf

Sylwer:

• Mae pob sesiwn sgiliau rhwng 1.5 a 2.5 awr, yn dibynnu ar y dull cefnogi. Bydd eich Tiwtor Sgiliau Hanfodol yn trafod yr amser sydd ei angen ar gyfer eich asesiadau Sgiliau Hanfodol gyda chi, a fydd hefyd yn dibynnu ar y lefel yr ydych yn ei gymryd.

• Rydyn ni'n aml yn gweld, lle mae angen i ni weithio gyda chi i uwchsgilio mwy nag un lefel, efallai y bydd angen gofyn i chi fynychu sesiynau ychwanegol gyda ni. Peidiwch â phoeni - mae gennym ni amrywiaeth o ffyrdd y gallwn ni eich helpu chi i wneud hyn (er enghraifft trwy sesiynau sgiliau).

• Gallwn eich cefnogi ar sail un i un, ond fel y byddwch yn gwerthfawrogi, mae'r llefydd hyn yn gyfyngedig. Trafodwch gyda'ch Asesydd.

10 acttraining.org.uk

Dirprwy

Os oes gennych chi gymwysterau eisoes, efallai y bydd y rhain yn gallu cael eu defnyddio fel 'dirprwy' tuag at eich fframwaith Prentisiaeth. O ganlyniad, byddwch wedi'ch eithrio rhag cyflawni'r Sgil Hanfodol benodol honno, os dymunwch.

Isod ceir rhai enghreifftiau, er nad yw'r rhestr hon yn gynhwysfawr. Bydd pob cais am ddirprwy yn cael ei wirio a'i gadarnhau ar ddechrau ar eich Prentisiaeth. Sylwer os gwelwch yn dda y bydd angen cynhyrchu tystysgrifau gwreiddiol o fewn yr 8 wythnos gyntaf er mwyn cael eich eithrio rhag cwblhau Sgiliau Hanfodol.

Cyfathrebu Lefel 1

Cyfathrebu Lefel 2

Cyfathrebu Lefel 3

Cymhwyso Rhif Lefel 1

Cymhwyso Rhif Lefel 2

Cymhwyso Rhif Lefel 3

TGAU G neu uwch, Sgiliau Allweddol neu Sgiliau Hanfodol Cymru

TGAU C neu uwch, Sgiliau Allweddol neu Sgiliau Hanfodol Cymru

Lefel A AS/Safon Uwch neu uwch, Sgiliau Allweddol neu Sgiliau Hanfodol Cymru

TGAU G neu uwch, Sgiliau Allweddol neu Sgiliau Hanfodol Cymru

TGAU C neu uwch, Sgiliau Allweddol neu Sgiliau Hanfodol Cymru

Lefel A AS/Safon Uwch neu uwch, Sgiliau Allweddol neu Sgiliau Hanfodol Cymru

Bydd hyn yn cael ei drafod gyda chi cyn i chi gofrestru gyda ni, a bydd eich asesydd hefyd yn ei drafod cyn ac yn ystod eich ymweliad cyntaf oddi wrthym.

Oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â Sgiliau Hanfodol?

Rydym yma i helpu. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu ymholiadau pellach

am elfen Sgiliau Hanfodol y rhaglen, cysylltwch â'n Rheolwr Sgiliau Hanfodol:

Julie Maughan

Rheolwr Sgiliau Hanfodol

juliemaughan@acttraining.org.uk

11 acttraining.org.uk

Datblygiad y Gymraeg

Fel rhan o'ch fframwaith a ariennir gan Lywodraeth Cymru, byddwch yn cael cymorth i ddatblygu a chynnal eich sgiliau Cymraeg ar gyfer y gweithle.

Beth yw Datblygiad y Gymraeg?

Mae ACT wedi ymrwymo i chwarae eu rhan yn strategaeth Miliwn o Siaradwyr Llywodraeth Cymru. Bydd pob dysgwr yn cwblhau cwrs Datblygu’r Gymraeg Prentis-iaith fel rhan o'ch fframwaith gyda ni.

Peidiwch â phoeni - mae hyn yn fodd i ddatblygu a'r nod yw eich cefnogi gyda datblygiad eich sgiliau Iaith Gymraeg. Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio'n arbennig i roi gwybodaeth sylfaenol o Gymraeg yn y gweithle i brentisiaid ac mae'n cynnwys 6 modiwl rhyngweithiol i'w cwblhau ar-lein. Bydd y cwrs yn cael ei gwblhau drwy gydol eich fframwaith, gyda chymorth eich asesydd.

Eisoes yn ddwyieithog?

Os ydych yn siarad Cymraeg byddwch yn ymgymryd â'ch dysgu yn ddwyieithog. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu y gallwch ddewis elfennau yr hoffech eu cwblhau drwy gyfrwng y Gymraeg. Byddwch yn gallu trafod eich dewisiadau penodol gyda'ch asesydd.

12 acttraining.org.uk

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.