Rwy’n credu y dylai ysgolion prif ffrwd ystyried ACT fel dewis amgen gwerthfawr i ddisgyblion sy’n ffynnu mewn amgylchedd dysgu mwy ymarferol neu sy’n ei chael hi’n anodd mewn lleoliadau traddodiadol. Rydym yn cynnig profiad personol sy’n helpu disgyblion i ddatblygu sgiliau a hyder.
Kie Baldwin, Cydlynydd Darpariaeth Ysgolion
Rhaglen Alwedigaethol Ysgolion ACT
Yn ACT Heol Hadfield, rydym yn cynnig darpariaeth alwedigaethol wedi’i theilwra’n benodol ar gyfer disgyblion Blwyddyn 10 ac 11 sydd am ddatblygu eu sgiliau ymarferol. Mae ein hamgylchedd dysgu unigryw yn canolbwyntio ar hyfforddiant ymarferol a thwf personol, gan helpu disgyblion i fagu hyder a meithrin galluoedd byd go iawn.Rydym yn pwysleisio dysgu ymarferol, gyda chyrsiau mewn meysydd fel adeiladu a thrin gwallt, gan baratoi disgyblion ar gyfer gyrfaoedd llwyddiannus yn y dyfodol.
Yr Hyn Rydym yn ei Gynnig i Ysgolion
Rydym yn darparu cyrsiau Lefel 1 achrededig City & Guilds ar lefel dyfarniad a thystysgrif. Mae pob cwrs yn rhedeg am ddiwrnod llawn drwy gydol y flwyddyn academaidd, gyda dosbarthiadau bach (7 disgybl fesul 2 aelod o staff, gan gynnwys CALU) i sicrhau cefnogaeth bersonol ar gyfer dysgu ymarferol a gwaith seiliedig ar theori.
Gellir cymryd cyrsiau dros un neu ddau ddiwrnod yr wythnos, yn dibynnu ar anghenion eich ysgol. Rydym hefyd yn cynnig rhaglen ddeuddydd bwrpasol, sy’n cynnig gwahanol lwybrau galwedigaethol ar ddiwrnodau ar wahân.
Am ragor o fanylion neu i archwilio sut y gallwn gefnogi eich disgyblion, cysylltwch â:
Mae Ein Cyrsiau Galwedigaethol yn Cynnwys:
Canolfan Ysgolion ACT, Uned 4a, Heol Hadfield, Caerdydd, CF11 8AQ kiebaldwin@actraining.org.uk