Canllaw Rhieni a Gwarcheidwad i Twf Swyddi Cymru+ a Phrentisiaethau
Helpu eich plentyn i ddewis ei daith yrfa... acttraining.org.uk
acttraining.org.uk
Fel rhiant neu warcheidwad, rydych chi’n chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi’ch plentyn i archwilio’r cyfleoedd sydd ar gael iddyn nhw am oes ar ôl ysgol. Weithiau gall fod yn anodd gwybod ble i ddechrau ond mae’n bwysig arfogi’ch hun gyda’r wybodaeth a’r adnoddau diweddaraf.
Dyma lle mae ein rhan ni’n dechrau. acttraining.org.uk
Os yw eich plentyn yn ystyried eu camau nesaf, boed hynny i barhau mewn addysg neu i ganfod gwaith, does dim rheswm pam na allant wneud y gyda Twf Swyddi Cymru+ (TSC+) neu Brentisiaeth.
Cynnwys 01. Twf Swyddi Cymru+ 02. Prentisiaethau
Mae ein rhaglenni’n cynnig dewis amgen gwych i goleg neu brifysgol, a gallent fod yr ateb os yw eich plentyn am gael y blaen i gyflogaeth ac ennill cyflog wrth ddysgu. Darllenwch ymlaen i ddarganfod pam y gallai dysgu seiliedig ar waith fod y llwybr cywir i’ch plentyn.
acttraining.org.uk
01. Twf Swyddi Cymru+
Twf Swyddi Cymru+ Beth yw TSC+? Mae TSC+ yn rhaglen hyfforddi wych a fydd yn rhoi’r sgiliau, yr hyder a’r profiad sydd eu hangen ar eich plentyn i symud ymlaen i Brentisiaeth, sefydlu ei fusnes ei hun neu ddod o hyd i’w swydd ddelfrydol. Byddant yn derbyn hyfforddiant cyflogadwyedd a’r holl gymorth sydd ei angen arnynt i symud ymlaen i gam nesaf eu bywyd - i gyd wrth gael eich talu! Gyda’ch plentyn wedi treulio’r rhan fwyaf o’i amser yn yr ysgol neu’r coleg, mae ein rhaglen TSC+ yn rhoi help llaw iddyn nhw wrth symud ymlaen o addysg i’r gweithle.
acttraining.org.uk
01. Twf Swyddi Cymru+
Pa gymwysterau sydd ar gael? Fel rhan o’u taith ddysgu TSC+, gall eich plentyn ddewis astudio cymhwyster Lefel 1 yn y meysydd galwedigaethol canlynol:
Gofal Anifeiliaid ac Astudiaethau Tir
Peirianneg Modurol
Harddwch, Trin Gwallt a Gwaith Barbwr
Gofal
Adeiladu
Gwasanaeth Cwsmer
Gwasanaethau Lletygarwch
TG a Digidol y Cyfryngau
Rydyn ni’n gwybod y gall fod yn anodd i’ch plentyn benderfynu beth maen nhw eisiau ei wneud ar ôl ysgol, ac mae’n iawn os nad ydyn nhw’n siŵr pa lwybr gyrfa maen nhw am ei ddilyn. Mae ein rhaglen yn eu galluogi i roi cynnig ar sesiynau blasu mewn gwahanol lwybrau, gyda chefnogaeth gan ein staff profiadol, cyn setlo ar yr un iawn iddyn nhw.
acttraining.org.uk
01. Twf Swyddi Cymru+
acttraining.org.uk
01. Twf Swyddi Cymru+
“
Byddwn yn argymell ACT yn gryf i unrhyw un mae ei blentyn yn edrych i ddod o hyd i ffordd ymlaen gydag addysg neu gyflogaeth. Roedd y staff yn galonogol ac yn ofalgar gyda’n dau fab; fe wnaethon nhw helpu’r ddau fachgen, nid yn unig gyda’u haddysg a’u dysgu, ond eu helpu yn amyneddgar i oresgyn eu gwahanol heriau.
“
Owen James, tad Darren James, dysgwr Peirianneg Fodurol
Cymorth Lles Mae gennym ni dîm medrus iawn sydd â phrofiad helaeth yn y diwydiant i sicrhau bod eich plentyn yn derbyn yr holl gefnogaeth ac arweiniad sydd eu hangen arnynt i symud ymlaen trwy eu cymhwyster. Mae hyn yn cynnwys gwasanaethau cymorth ychwanegol i helpu ein holl ddysgwyr i fanteisio i’r eithaf ar eu profiad ACT.
Cwricwlwm Cyfoethogi
Beth sydd ynddo i’ch plentyn?
Rydym ni’n gyffrous i gynnig rhaglen ddeniadol o weithgareddau Cyfoethogi fel rhan o daith TSC+ eich plentyn.
• Lwfans hyfforddi o £30-£55 yr wythnos • Cefnogaeth hyblyg, wedi’i theilwra
Byddant yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn prosiectau cymunedol, gweithgareddau awyr agored, gwirfoddoli a llawer mwy!
• Lleoliadau gwaith a sesiynau blasu sy’n canolbwyntio ar ddiwydiant • Cymorth cyflogadwyedd
acttraining.org.uk
02. Prentisiaethau
Prentisiaethau Beth yw Prentisiaeth? Rhaglen ddysgu seiliedig ar waith yw Prentisiaeth sy’n galluogi eich plentyn i ddysgu yn y swydd, datblygu eu sgiliau, ennill cymwysterau Lefel 2-5 sy’n cael eu cydnabod yn genedlaethol, ennill cyflog ac adeiladu gyrfa werth chweil.
Felly, beth yw manteision y Prentisiaeth? Mae Prentisiaethau’n cynnig opsiwn ymarferol amgen i’r gofynion parhaus o draethodau, arholiadau ac astudio mae prifysgol yn ei olygu. Felly, beth all eich plentyn ei ddisgwyl yn lle? Nid oes ystafelloedd dosbarth na gwaith cartref; byddant yn dysgu tra’n gweithio gyda chymorth a chefnogaeth gyda Sgiliau Hanfodol mewn Saesneg a Mathemateg os oes angen. Yn y brifysgol gallant ddewis o amrywiaeth eang o raddau, ond fel Prentis gallant weithio yn unrhyw sector bron hefyd.
acttraining.org.uk
02. Prentisiaethau
Gan weithio gyda rhai o gyflogwyr mwyaf Cymru, mae ACT yn darparu Prentisiaethau wedi’u hariannu’n llawn mewn mwy na 30 o sectorau, gan gynnwys:
Busnes
Gofal
Cyllid
Gwallt a Harddwch
Lletygarwch
TG
Rheoli
Addysg a Dysgu
Marchnata
...a llawer mwy
acttraining.org.uk
02. Prentisiaethau
acttraining.org.uk
02. Prentisiaethau
“
Rhoddodd y Brentisiaeth yr hyder i mi yn fy ngallu i wthio fy hun a chymryd y cam nesaf yn fy ngyrfa, gan gael swydd gyda mwy o gyfrifoldeb yn y pen draw.”
“
Hannah Drake-Jones, Prentis Cyfryngau Cymdeithasol i Fusnes
Mathau o Brentisiaethau
Rydym yn cynnig tri math o Brentisiaethau. Mae llawer yn dechrau gyda Phrentisiaeth Sylfaen ac yn gweithio eu ffordd hyd at Brentisiaeth Uwch. Os yw’ch plentyn eisoes wedi cyflawni ei gyfwerth mewn addysg, gall ddechrau ar y lefel nesaf.
LEFEL
MATH
ADDYSG GYFATEBOL
Lefel 2
Prentisiaeth Sylfaen
TGAU Gradd A*-C
Lefel 3
Prentisiaeth
UG/Safon Uwch
Lefel 4 - Lefel 5
Prentisiaeth Uwch
HNC/HND Gradd Sylfaen
Pethau i’w gwybod •
Mae prentisiaethau’n cael eu hysbysebu ar wefan ACT ac mae angen gwneud cais amdanynt. Gallwn helpu eich plentyn gyda hyn, mae gennym ni dîm ymroddedig i gefnogi eu proses ymgeisio.
•
Gall unrhyw un 16+ oed wneud cais.
acttraining.org.uk
Eisiau gwybod mwy?
Os yw ein rhaglen TSC+ neu Brentisiaeth yn swnio fel y llwybr cywir i’ch plentyn, cysylltwch â ni. acttraining.org.uk info@acttraining.org.uk 029 2046 4727
Sut i is! d ca u e n w ACT a efan iw rhyw Ewch ais un a. g h c w m gwne lein y ac ard y r b ais wch g Gwne iw! hedd
acttraining.org.uk