Dysgu a Datblygu Lefel 3

Page 1

Dysgu a Datblygu Tystysgrif Lefel 3

PRENTISIAETH

Prentisiaeth Lefel 3

Tystysgrif mewn Dysgu a Datblygu

Mae cwblhau’r fframwaith hwn yn llwyddiannus yn sicrhau bod

gan ymarferwyr y sgiliau a’r wybodaeth ynghylch swydd sy’n

berthnasol i’w rôl, a’r sgiliau gwaelodol i allu gweithredu’n

effeithiol fel hyfforddwr a/neu fentor. Mae’r fframwaith yn

berthnasol ar gyfer cyflogwyr a darparwyr yn y sector preifat, y

sector cyhoeddus a’r trydydd sector, ac ar gyfer y rheiny sy’n

gysylltiedig â chyflwyno dysgu a ariennir a dysgu masnachol.

Cynnwys

Fframwaith Prentisiaeth

Tystysgrif Lefel 3 mewn Dysgu a Datblygu

Cymwysterau Sgiliau Hanfodol

Datblygu’r Gymraeg

1 acttraining.org.uk

Fframwaith

Prentisiaeth

Cynlluniwyd y cymhwyster hwn i sicrhau’r safon uchaf wrth gyflwyno rhaglenni hyfforddi, a’u hansawdd. Mae wedi ei anelu at y rheiny sy’n dilyn gyrfa ym maes Dysgu a Datblygu.

Mae’r rhaglen yn hynod fuddiol ar gyfer y rheiny sy’n gweithio yn y rolau canlynol, neu sydd ag uchelgais i wneud

hynny:

• Cynghorydd / Ymgynghorydd Dysgu a Datblygu

• Swyddog Datblygu Hyfforddiant

• Goruchwyliwr canolfan ddysgu

• Mentor

• Hyfforddwr unigolion neu grwpiau

• Rheolwr neu oruchwyliwr

• Asesydd a gwiriwr

Ar gyfer pwy mae’r brentisiaeth hon?

Mae’r rhaglen hon ar gyfer ymgeiswyr sy’n hyfforddi ac yn cynorthwyo pobl eraill yn eu gweithle, ac yn bwriadu datblygu eu sgiliau a’u gwybodaeth er mwyn iddynt allu darparu dysgu a datblygiad o ansawdd da.

Bydd gan ymgeisydd nodweddiadol gyfrifoldebau am ddatblygu unigolion a/neu grwpiau yn y gweithle. Gallai hwn fod yn hyfforddwr, yn fentor neu’n rheolwr. Gall yr unigolyn fod yn gweithio fel rhan o dîm cyflwyno neu’n trefnu dysgu mewn amrywiaeth o leoliadau. Mae’r cymhwyster yn gynhwysol ac felly’n addas ar gyfer ystod eang o gyd-destunau gwaith.

Trosolwg

Nod y brentisiaeth Dysgu a Datblygu yw rhoi i ddysgwyr y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i hyfforddi pobl eraill yn y gweithle a chefnogi datblygiad cyflogeion

Mae’n canolbwyntio ar gynllunio, cyflwyno a gwerthuso dulliau ac adnoddau hyfforddi, ac yn darparu’r wybodaeth a’r sgiliau a fydd yn arwain at ddysgu arloesol a difyr ar gyfer unigolion a grwpiau.

2 acttraining.org.uk

Ar ôl cwblhau’r brentisiaeth hon, byddwch yn cyflawni’r canlynol:

• Tystysgrif Prentisiaeth Lefel 3 mewn Dysgu a Datblygu

• Sgiliau Hanfodol Lefel 2 mewn Cyfathrebu

• Sgiliau Hanfodol Lefel 2 mewn Cymhwyso Rhif

• Sgiliau Hanfodol Lefel 2 mewn Llythrennedd Digidol

• Cwrs Datblygu’r Gymraeg, Prentis-iaith

Ar y tudalennau canlynol, byddwch yn dod o hyd i wybodaeth yn ymwneud â’r prif gymhwyster (Tystysgrif Lefel 3 mewn Dysgu a Datblygu), yn ogystal ag agweddau eraill a fydd yn creu’r rhaglen brentisiaeth hon, yn cynnwys Sgiliau Hanfodol a Datblygu’r Gymraeg.

3 acttraining.org.uk

Tystysgrif Lefel 3 mewn Dysgu a Datblygu

Cyfnod o amser i gwblhau

Byddwn yn teilwra eich rhaglenni dysgu i weddu i’ch anghenion, fel bod profiad pob dysgwr yn unigryw. Er y bydd anghenion dysgwyr yn wahanol, yr amser a argymhellir i gwblhau’r rhaglen hon yw 14 mis.

Cyflwyno’r Cwrs

Bydd y rhaglen hon yn cael ei chyflwyno’n bennaf trwy sesiynau un-i-un gydag aelod o dîm Cyflwyno ACT, gan ddefnyddio cyfuniad o sesiynau dysgu wyneb yn wyneb a dysgu o bell Bydd Asesydd ACT yn cyfarfod â’r dysgwr, naill ai yn y gweithle neu drwy ddull digidol (er enghraifft, Microsoft Teams) unwaith y mis am oddeutu dwy awr i gefnogi cynnydd.

Bydd tasgau yn cael eu gosod i ddysgwyr eu cwblhau rhwng pob ymweliad hefyd, am oddeutu 4 awr y mis (sylwer – canllaw yn unig yw hwn, a bydd yn amrywio ar sail anghenion dysgwyr).

Mae enghreifftiau o rai o’r tasgau a allai gael eu gosod gan ein haseswyr yn

cynnwys:

• Creu cynllun gwers ar gyfer sesiwn a fydd yn cael ei harsylwi gan yr asesydd

• Dadansoddi eich sgiliau, gwybodaeth a’ch arfer eich hun

• Datblygu adnodd i’w ddefnyddio gan ddysgwyr

4 acttraining.org.uk

Sut bydd y cymhwyster hwn yn cael ei gyflwyno?

Bydd yr asesydd yn cysylltu’n rheolaidd, o leiaf unwaith y mis. Gallai hwn fod yn ymweliad wyneb yn wyneb neu’n gyfarfod o bell gan ddefnyddio Teams. Bydd yr holl waith yn cael ei gwblhau gan ddefnyddio ein e-bortffolio, sef Onefile. Mae’n hanfodol fod gliniadur neu gyfrifiadur ar gael i ddysgwyr ei ddefnyddio.

Beth fyddwch chi’n ei ddysgu?

Mae’r rhaglen hon yn cynnwys cyfuniad o unedau gorfodol (rhaid i bob dysgwr gwblhau’r rhain fel rhan o’r cymhwyster) ac unedau dewisol (byddwn yn gweithio gyda chi i benderfynu pa unedau sy’n berthnasol i’ch rôl, a’ch busnes). Ceir trosolwg bras o’r unedau hyn isod.

Unedau Gorfodol

• Deall Egwyddorion ac Arferion

Dysgu a Datblygu

• Myfyrio ar eich Arfer Eich Hun mewn Dysgu a Datblygu, a’i Wella

• Hwyluso Dysgu a Datblygu mewn Grwpiau neu

• Hwyluso Dysgu a Datblygu ar gyfer Unigolion

Unedau dewisol*

• Nodi Anghenion Dysgu a Datblygu

Unigol

• Cynllunio a Pharatoi Cyfleoedd Dysgu a Datblygu Penodol

• Datblygu a Pharatoi Adnoddau ar

gyfer Dysgu a Datblygu

• Ennyn Diddordeb Dysgwyr yn y Broses

Dysgu a Datblygu

• Gwerthuso a Gwella Darpariaeth

Dysgu a Datblygu

• Deall Egwyddorion ac Arferion Asesu

• Asesu Cymhwysedd Galwedigaethol yn yr Amgylchedd Gwaith

• Darparu Gwybodaeth a Chyngor i Ddysgwyr a Chyflogwyr

• Ymgysylltu â Chyflogwyr i Ddatblygu a Chefnogi Darpariaeth Ddysgu

• Deall y Sefydliad sy’n Cyflogi

5 acttraining.org.uk
* Peidiwch â phoeni! Yn ystod yr ymweliad / y cyfarfod cyntaf, bydd ein haseswyr yn gweithio gyda phob un o’r dysgwyr a’r cyflogwyr i adolygu pa rai o’r unedau dewisol yw’r rhai mwyaf priodol ar gyfer eich rhaglen.

Beth yw’r Cyfleoedd Dilyniant?

Fel rhan o’r cymhwyster hwn, mae hefyd yn bosibl ennill Dyfarniad City and Guilds Lefel 3 mewn Asesu Cymhwysedd yn yr Amgylchedd Gwaith, Tystysgrif City and Guilds Lefel 3 mewn Asesu Cyflawniad Galwedigaethol neu Ddyfarniad City and Guilds Lefel 3 mewn Asesu Cyflawniad yn Gysylltiedig â Galwedigaeth. Mae hyn yn cynnwys dewis unedau dysgu a datblygu dewisol penodol er mwyn ennill y dyfarniadau hyn. Byddai’r cyfle hwn yn addas ar gyfer ymarferwyr sydd naill ai’n asesu gwybodaeth, sgiliau neu gymhwysedd yn y gweithle ac yn meddu ar y cymhwysedd galwedigaethol gofynnol yn y maes y byddant yn ei asesu, ac y gallant fynd at garfan o ddysgwyr er mwyn casglu ystod y dystiolaeth sydd ei hangen. Mae’n ofynnol i ddysgwyr drefnu bod cyd-lofnodwr sy’n alwedigaethol gymwys ar gael iddynt.

Bydd yr elfen hon yn cael ei chyflwyno dros bedwar gweithdy gorfodol. Mae’r rhain yn sesiynau addysgu o bell ar hyn o bryd, ac ar ôl eu cwblhau, bydd aseiniad yn cael ei osod i asesu’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth dros y pedwar diwrnod. Wedyn, bydd angen i ddysgwyr gasglu portffolio tystiolaeth a fydd yn cynnwys arsylwadau gan eich asesydd ohonoch chi’n cynnal asesiadau o’ch dysgwyr eich hun.

Unedau sydd ar gael yn dibynnu ar rôl swydd

Uned 1: Deall Egwyddorion ac Arferion Asesu (3 chredyd)

Uned 2: Asesu Cymhwysedd yn yr Amgylchedd Gwaith (6 chredyd)

Uned 3: Asesu Sgiliau, Gwybodaeth a Dealltwriaeth Alwedigaethol (6 chredyd)

Hyd y Cwrs

4 Gweithdy (9.30am – 4.30pm)

Hyd at 6 mis i gwblhau’r portffolio gwaith a’r arsylwadau gweithle.

Oes gennych chi unrhyw gwestiynau am ein Tystysgrif Lefel

3 mewn Dysgu a Datblygu neu’n dyfarniad Aseswyr?

Rydym ni yma i helpu Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu ymholiadau

pellach am brif elfen cymhwyster y rhaglen, cysylltwch â’n Rheolwr Llwybr, sef:

Ann Rees – Rheolwr Llwybr ar gyfer Addysg a Datblygu annrees@acttraining.org.uk

Alison Stone – IQA Arweiniol alisonstone@acttraining.org.uk

6 acttraining.org.uk

Cymwysterau Sgiliau Hanfodol

Pan fyddwch chi’n cytuno i ymgymryd â Phrentisiaeth, gallai fod yn ofynnol i chi gwblhau Sgiliau Hanfodol fel rhan o’ch Fframwaith Prentisiaeth.

Beth yw Sgiliau Hanfodol?

Mae cymwysterau Sgiliau Hanfodol yn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth dysgwyr o Gymhwyso Rhif (Rhifedd), Cyfathrebu (Llythrennedd) a Llythrennedd Digidol. Mae’r cymwysterau hyn yn galluogi dysgwyr i arddangos y gallant gymhwyso’r sgiliau hanfodol hyn i ystod o sefyllfaoedd tra byddant yn y gwaith, mewn dysgu a thrwy gydol eu hoes.

Mae’r cymwysterau Sgiliau Hanfodol y gofynnir i chi eu cwblhau yn dibynnu ar eich cymwysterau blaenorol, lefel y brentisiaeth rydych chi’n ei chwblhau a’ch anghenion penodol eich hun.

Mae’r cymwysterau Sgiliau Hanfodol i gyd ar gael ar bedair lefel, yn dibynnu ar eich anghenion unigol (Mynediad 3, Lefel 1, Lefel 2, a Lefel 3) ac yn cynnwys:

Sgiliau Cymhwyso Rhif Hanfodol

• Deall data rhifiadol

• Cwblhau cyfrifiadau

• Dehongli a chyflwyno canfyddiadau canlyniadau

Sgiliau Cyfathrebu Hanfodol

• Siarad a gwrando

• Darllen

• Ysgrifennu

7 acttraining.org.uk

Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol

• Cyfrifoldeb digidol

• Cynhyrchiant digidol

• Llythrennedd gwybodaeth ddigidol

• Cyfrifoldeb digidol

• Cynhyrchiant digidol

• Llythrennedd gwybodaeth

ddigidol

Pecyn Cymorth Sgiliau Hanfodol Cymru (WEST)

Bydd yr holl ddysgwyr yn dilyn WEST pan fyddant yn cofrestru ar gyfer prentisiaeth, sef set o asesiadau sgiliau ar-lein sy’n cyfrifo lefel gallu a dealltwriaeth mewn Llythrennedd (Cyfathrebu), Rhifedd (Cymhwyso Rhif) a Llythrennedd Digidol.

Nid arholiadau yw asesiadau WEST ac nid oes ganddynt unrhyw feini prawf llwyddo na methu. Gellir cwblhau asesiadau WEST yn Gymraeg neu yn Saesneg, ac mae’r asesiad Cymhwyso Rhif yn ddwyieithog (dylai unrhyw ddysgwyr a fyddai’n hoffi archwilio hyn ofyn!). Nid oes unrhyw derfynau amser penodol ar gyfer unrhyw un o’r asesiadau, ond rhaid eu gwneud dan oruchwyliaeth.

Mae WEST yn rhan hanfodol o’ch taith fel dysgwr Mae’r canlyniadau yn helpu eich

Tiwtor Sgiliau Hanfodol i gynllunio eich rhaglen ddysgu i ddiwallu eich anghenion penodol. Yn ogystal ag asesiadau, byddwch chi hefyd yn cael eich annog i ddefnyddio WEST i ddatblygu eich sgiliau trwy gydol eich rhaglen Prentisiaeth. Bydd eich Tiwtor Sgiliau Hanfodol yn rhoi arweiniad ar sut i ddefnyddio WEST yn llawn.

Cyflwyno’r Cwrs

Os yw’n ofynnol i chi gwblhau eich Sgiliau Hanfodol fel rhan o’r fframwaith Prentisiaeth, byddant yn cael eu trafod yn ystod eich ymweliad cyntaf gyda’ch Asesydd a’ch cyflogwr

Trwy ddadansoddi eich canlyniadau WEST a sgwrs fanwl, bydd cynllun dysgu yn cael ei roi ar waith i gefnogi cyflawni unrhyw Sgiliau Hanfodol y mae’n ofynnol i chi eu cwblhau.

Gyda’ch gilydd, byddwch yn cytuno ar yr amseroedd a’r lleoliadau gorau ar gyfer y cymorth i chi a’ch cyflogwr, gan sicrhau cydbwysedd rhwng eich anghenion personol a’ch ymrwymiadau bywyd gwaith.

8 acttraining.org.uk

Mae enghreifftiau o sut byddwn yn eich cynorthwyo â hyn yn cynnwys:

• Cymorth gydag aelod o’n tîm Sgiliau Hanfodol

• Mynychu gweithdai grŵp

• Sesiynau gweithdy digidol

Os ydych chi eisoes wedi ennill cymwysterau mewn llythrennedd, rhifedd neu lythrennedd digidol, ond yr hoffech chi ddatblygu’r sgiliau hyn ymhellach gyda chymorth ein Tiwtoriaid, rhowch wybod i’ch Asesydd, a gellir trefnu hyn ar eich rhan.

Cyfnod o amser i gwblhau

Rydym yn teilwra eich rhaglen ddysgu yn unol â’ch anghenion; felly mae rhaglen ddysgu pob dysgwr yn unigryw Er na allwn ni ddweud yn sicr pa mor hir y bydd yn ei gymryd i chi gwblhau eich cymhwyster / cymwysterau Sgiliau Hanfodol, gallwn roi ychydig o arweiniad i chi o ran amserlenni. Mae’r canllawiau hyn yn dibynnu ar lefel y Brentisiaeth yr ydych yn ei chwblhau a’ch anghenion penodol eich hun. Er enghraifft:

Cymhwyso Rhif Oddeutu 7-8 wythnos*

Cyfathrebu Oddeutu 8 wythnos*

Llythrennedd Digidol Oddeutu 4 wythnos*

* Yn cynnwys Tasg a Phrawf

Sylwer:

• Mae pob sesiwn sgiliau yn para rhwng 1.5 a 2.5 awr, yn dibynnu ar ddull cymorth. Bydd eich Tiwtor Sgiliau Hanfodol yn trafod yr amser sydd ei angen ar gyfer eich asesiadau Sgiliau Hanfodol gyda chi, a fydd hefyd yn dibynnu ar y lefel rydych chi’n ei chymryd.

• Rydym yn gweld yn aml y gallem ofyn i chi fynychu rhai sesiynau ychwanegol gyda ni os oes angen i ni weithio gyda chi i wella sgiliau o fwy nag un lefel Peidiwch â phoeni – mae gennym ni ystod o ffyrdd y gallwn ni eich helpu chi i wneud hyn (er enghraifft trwy sesiynau sgiliau).

• Gallwn eich cynorthwyo ar sail un-i-un, ond fel y gallech werthfawrogi, mae’r lleoedd hyn yn gyfyngedig. Trafodwch â’ch Asesydd.

9 acttraining.org.uk

Procsi

Os oes gennych chi gymwysterau eisoes, gellir defnyddio’r rhain fel ‘procsi’ tuag at eich Fframwaith Prentisiaeth. O ganlyniad, byddwch yn cael eich eithrio o ennill y Sgil Hanfodol penodol hwnnw, os ydych yn dymuno.

Ceir rhai enghreifftiau isod, er nad yw’r rhestr hon yn hollgynhwysfawr Bydd yr holl geisiadau am brocsi yn cael eu gwirio a’u cadarnhau ar ddechrau eich Prentisiaeth. Dylech fod yn ymwybodol y bydd angen dangos tystysgrifau gwreiddiol o fewn yr 8 wythnos gyntaf er mwyn cael eich eithrio o Sgiliau Hanfodol.

Sgil Hanfodol Procsi

Cyfathrebu Lefel 1

Cyfathrebu Lefel 2

Cyfathrebu Lefel 3

Cymhwyso Rhif Lefel 1

Cymhwyso Rhif Lefel 2

Cymhwyso Rhif Lefel 3

G neu’n uwch mewn TGAU, Sgiliau Allweddol neu Sgiliau Hanfodol Cymru

C neu’n uwch mewn TGAU, Sgiliau Allweddol neu Sgiliau Hanfodol Cymru

E neu’n uwch mewn UG/Safon Uwch, Sgiliau Allweddol neu Sgiliau Hanfodol Cymru

G neu’n uwch mewn TGAU, Sgiliau Allweddol neu Sgiliau Hanfodol Cymru

C neu’n uwch mewn TGAU, Sgiliau Allweddol neu Sgiliau Hanfodol Cymru

E neu’n uwch mewn UG/Safon Uwch, Sgiliau Allweddol neu Sgiliau Hanfodol Cymru

Bydd hyn yn cael ei drafod gyda chi cyn i chi gofrestru â ni, a bydd eich asesydd yn ymdrin â hyn hefyd cyn ac yn ystod eich ymweliad cyntaf gennym ni.

Oes gennych chi unrhyw gwestiynau am Sgiliau Hanfodol?

Rydym ni yma i helpu. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu ymholiadau

pellach am elfen Sgiliau Hanfodol y rhaglen, cysylltwch â’n Rheolwr Sgiliau

Hanfodol:

Julie Maughan

Rheolwr Sgiliau Hanfodol

juliemaughan@acttraining.org.uk

10 acttraining.org.uk

Datblygu’r Gymraeg

Fel rhan o’ch fframwaith a ariennir gan Lywodraeth Cymru, byddwch yn cael cymorth i ddatblygu a chynnal eich sgiliau Cymraeg ar gyfer y gweithle.

Beth yw Datblygu’r Gymraeg?

Mae ACT wedi ymrwymo i chwarae eu rhan yn strategaeth Miliwn o Siaradwyr Cymraeg Llywodraeth Cymru. Bydd yr holl ddysgwyr yn cwblhau cwrs Datblygu’r Gymraeg, Prentis-iaith fel rhan o’ch fframwaith gyda ni

Peidiwch â chynhyrfu – mae hyn yn ffordd o ddatblygu, a’i nod yw eich cynorthwyo â datblygu eich sgiliau Cymraeg. Mae’r cwrs hwn wedi ei gynllunio’n arbennig i roi gwybodaeth sylfaenol i brentisiaid am y Gymraeg ar gyfer y gweithle, ac yn cynnwys 6 modiwl rhyngweithiol i’w cwblhau ar-lein. Bydd y cwrs yn cael ei gwblhau trwy gydol eich fframwaith, gyda chymorth gan eich asesydd

Eisoes yn ddwyieithog?

Os ydych chi’n siarad Cymraeg, byddwch yn ymgymryd â’ch dysgu yn ddwyieithog. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu y gallwch chi ddewis elfennau o’ch dysgu yr hoffech eu cwblhau trwy gyfrwng y Gymraeg. Byddwch yn gallu trafod eich ffafriaethau penodol gyda’ch asesydd.

Oes gennych chi unrhyw gwestiynau am Ddatblygu’r Gymraeg?

Rydym ni yma i helpu. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu ymholiadau pellach am elfen Datblygu’r Gymraeg y rhaglen, cysylltwch â’n

Rheolwr Datblygu’r Gymraeg:

Non Wilshaw

Rheolwr Datblygu’r Gymraeg

nonwilshaw@acttraining.org.uk

11 acttraining.org.uk

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.