Ysgol To rf aen
Cynnwys
ACT
Coleg Gwent
Hyfforddiant QS
Canolfan Pobl Ifanc Cwmbrân
Sgiliau ITEC
Military Preparation Training College People Plus Sefydliadau cefnogi
- Gyrfa Cymru/Cymru’n Gweithio - Ysbrydoli+ - CaW+
Bwrdeistref Sirol Torfaen
Cyflwyniad
Croeso i lyfryn llwybrau ôl 16 Torfaen.
Os ydych chi wedi neu ar fin gadael yr ysgol ac yn byw yn Nhorfaen yna mae’r llyfryn hwn i chi. Y tu mewn fe welwch fanylion darparwyr addysg a hyfforddiant lleol a’r cyfleoedd sydd ganddyn nhw ar gyfer ymadawyr ysgol.
Os ydych chi’n chwilio am fwy o gyngor ac arweiniad am gyfleoedd sydd ar gael i chi tu allan i Sir Torfaen, mae gan Gyrfa Cymru lawer o wybodaeth ar eu gwefan www.careerswales.llyw.cymru neu gallwch chi roi galwad iddyn nhw ar 0800 028 4844.
Mae eich taith ysgol chi’n dod i ben... Efallai eich bod yn ystyried eich camau nesaf ym myd addysg, yn chwilio am y
ond angen rhywfaint o gefnogaeth i gyrraedd y nod. Dyna le gall ein rhaglen Twf Swyddi Cymru+ (TSC+) helpu!
Mae TSC+ yn rhaglen hyfforddi a datblygu i bobl ifanc 16-19 oed fel chi sydd angen y sgiliau, y cymwysterau
hyfforddiant pellach.
Yn fwy na hynny, mae’n hwyl
Yn ACT rydyn ni’n gwybod sut i gael hwyl! Mae’n un o’n gwerthoedd craidd, felly dyna pam rydyn ni wedi datblygu rhaglen gyfoethogi hynod gyffrous – ac atyniadol – TSC+ ar gyfer ein dysgwyr. Mae ein Diwr nodau Cyfoethogi wedi’u cynllunio i sicrhau bod gan bobl ifanc, fel chi, fynediad gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau allgyrsiol a fydd yn cefnogi ac yn gwella’ch dysgu.
• Cymryd rhan mewn prosiectau arloesol
•
• Cysylltu â sefydliadau allanol
• Dysgu gan arbenigwyr y diwydiant
• Mynychu teithiau grŵp a gweithgareddau awyr agored
• Rhoi yn ôl drwy wirfoddoli
• Gwrando a dysgu gan siaradwyr gwadd arbennig
Dyddiad cychwyn: Unrhyw bryd.
Hyd: Chwe wythnos i 12 mis, yn dibynnu ar eich anghenion.
Cymhwysedd: 16-19 oed, yn byw yng Nghymru ac ar hyn o bryd ddim mewn addysg na hyfforddiant llawn amser.
Ennill: Byddwch yn ennill hyd at £60 yr wythnos, yn derbyn lwfans bwyd dyddiol, ynghyd â chymorth gyda chostau teithio.
Cymhwyster: Lefel 1 a Lefel 2
029 2046 4727 acttraining.org.uk info@acttraining.org.uk
• SGANIWCH I DDYSGU MWY
Coleg Gwent
Ein campws pwrpasol wedi’i leoli yng
nghanol Cwmbrân yw cartref addysg
ôl-16 ym mwrdeistref Torfaen. Mae
Parth Dysgu Torfaen, sydd wedi’i leoli drws nesaf i Morrisons, yn cynnig cyfleusterau o’r radd flaenaf ac mae trafnidiaeth gyhoeddus o fewn cyrraedd hawdd.
Beth alla i ei astudio ym Mharth
Dysgu newydd Torfaen?
Mae gennym dros 30 o bynciau Safon Uwch i ddewis ohonynt neu gallwch ddewis llwybr galwedigaethol ac astudio ar gyfer gyrfa mewn Busnes, TG, y Cyfryngau, Celf, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Gwyddoniaeth Gymhwysol, Gwasanaethau
Amddiffynnol mewn Lifrai neu Chwaraeon. Mae’r rhan fwyaf o’r cyrsiau’n mynnu eich bod yn y coleg am o leiaf 3½ diwrnod yr wythnos. Am wybodaeth ynglŷn â chyrsiau a gynigir ar gampysau Coleg Gwent, ewch i: www.coleggwent.ac.uk
Cefnogaeth wrth ichi astudio Efallai y byddwch yn gymwys i dderbyn LCA o £40/wythnos os ydych chi rhwng 16 a 18 oed neu’n gallu cael mynediad at Grant Dysgu Llywodraeth Cymru os ydych chi dros 18 oed. Efallai y byddwch hefyd yn gallu gwneud cais am grant o gronfa ariannol wrth gefn (FCF) y coleg am help gyda chostau teithio
ac offer. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar y tudalennau Cymorth Ariannol ar wefan Coleg Gwent: www.coleggwent.ac.uk/support/ all-learners/financial-support
Os byddwch yn penderfynu ymuno â ni, bydd gennych tiwtor personol eich hun ac mae’r tîm cefnogi sydd wedi’i leoli ger y llyfrgell bob amser yno i wrando a helpu.
I gael gwybod mwy gallwch gysylltu â’n Tîm Derbyniadau, mynd i’r wefan, dod i’r campws i siarad â’n Timau Gwasanaeth Cwsmer neu fynychu un o’n Digwyddiadau Agored, mae’r dyddiadau ar gael ar ein gwefan.
01495 333777
www.coleggwent.ac.uk
hello@coleggwent.ac.uk
Parth Dysgu Torfaen
Sian Hughes - 01495 333019
Sian.hughes@coleggwent.ac.uk
Coleg Gwent, Parth Dysgu
Torfaen, Heol Dewi Sant, Cwmbrân
QS Training
Hyfforddiant QS
Amdanom ni
Mae Hyfforddiant QS yn ymfalchïo yn ein safonau uchel o hyfforddiant sy’n caniatáu i’n dysgwyr ragori yn eu crefftau dewisol a rhagori ar eu disgwyliadau eu hunain.
Cyllid
Cefnogir rhaglenni Prentisiaeth a Thwf Swyddi Cymru+, dan arweiniad Llywodraeth Cymru gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.
Twf Swyddi Cymru+ (16-19 oed)
Mae Hyfforddiant QS yn darparu rhaglenni TSC+ a ariennir ar gyfer pobl ifanc 16-19 yn y diwydiannau canlynol:
• Trydanol
• Adeiladu
• Cerbydau Modur
Mae’r rhaglen TSC+ yn caniatáu ichi ymestyn eich addysg tra’n dod o hyd i annibyniaeth a dilyn gyrfa rydych chi’n teimlo’n angerddol yn ei chylch.
Mae hefyd yn caniatáu i chi dderbyn lwfans hyfforddi o £60 yr wythnos, ennill cymwysterau cydnabyddedig diwydiant Lefel 1 a chwblhau treialon gwaith gyda chyflogwyr lleol.
Prentisiaethau
Mae hyfforddiant QS yn arbenigo mewn darparu amrywiaeth eang o gyrsiau Prentisiaeth cydnabyddedig diwydiant a ariennir yn y meysydd a’r lefelau canlynol:
• Adeiladu (Gwaith Coed, Plastro, Gosod Briciau ac ati)
• Electro-dechnegol
• Cerbydau Modur
Buddsoddwch yn eich dyfodol a holwch heddiw!
01633 277843
www.colegqs.co.uk
w info@colegqs.co.uk
Unedau 6 & 7, Ystâd Ddiwydiannol Town Gate, Ffordd Tŷ Coch, Cwmbrân, NP44 7EZ
SGANIWCH I
DDYSGU MWY
Canolfan Pobl Ifanc Cwmbrân
Pwy ydym ni
Mae Canolfan Pobl Ifanc Cwmbrân (‘CCYP’) yn ‘Gyfleuster Hyfforddi a Chanolfan Galw Heibio’ cyfeillgar a chroesawgar i bobl ifanc. Rydym yn cynnig ystod eang o hyfforddiant, gwasanaethau, a gweithgareddau i gefnogi pobl ifanc i ddatblygu sgiliau bywyd, hyder, gwytnwch, ac ennill cymwysterau / sgiliau. Mae’r Ganolfan yn darparu gweithgareddau cymdeithasol hamdden, addysgol, a hwyliog ochr yn ochr â gwybodaeth a chefnogaeth gan gynnwys cwnsela a mentora.
Twf Swyddi Cymru+
Mae ein contract Twf Swyddi Cymru+ wedi ei is-gontractio i’r Ganolfan gan ACT ac mae’n benodol ar gyfer pobl ifanc rhwng 16 a 19 oed. Prif amcan Twf Swyddi Cymru+ yw rhoi’r sgiliau, y cymwysterau, a’r profiad i bobl ifanc i’w galluogi i symud ymlaen ar y cyfle cyntaf i ddysgu ar lefel uwch neu i gael gwaith. Mae hyfforddiant yn weithgar ac ymarferol yn bennaf drwy gymryd rhan mewn profiad gwaith, menter gymdeithasol, prosiectau entrepreneuraidd a chymunedol.
Rhaglen Brentisiaeth
Mae’r rhaglen Brentisiaethau yn galluogi pobl ifanc sydd mewn cyflogaeth i ennill cymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol mewn Gwaith Ieuenctid. Mae’r llwybr Prentisiaeth yn cynnig mynediad amgen i waith ieuenctid ac yn ymgorffori theori ac astudiaeth yn y gwaith. Bydd cyfranogwyr yn cael y wybodaeth a’r sgiliau sy’n berthnasol i’w rôl, gan gynnwys y sgiliau sylfaenol i weithio yn y sector Gwaith Ieuenctid. Is-gontractir ein contract
Prentisiaethau i’r Ganolfan gan Goleg Sir Benfro.
01633 875851
Tudalen Facebook: ‘Cwmbran Centre for Young People’
SGANIWCH I DDYSGU MWY
Sgiliau ITEC
Ennill Arian ac Ennill Sgiliau.
Ydych chi rhwng 16 a 19 oed ac yn dymuno ennill hyd at £60 yr wythnos?
Cysylltwch ag ITEC heddiw.
Beth yw Twf Swyddi Cymru+?
Mae Twf Swyddi Cymru+ wedi’i
chynllunio i helpu pobl ifanc 16-19 oed i garlamu ymlaen i’r cam nesaf mewn bywyd. Rydych yn cael cefnogaeth unigol i helpu gyda hyfforddiant, cymwysterau, a phrofiad i roi’r cyfle gorau i chi gael y swydd rydych chi’n ei haeddu. Dyluniwyd y rhaglen gyda chi mewn golwg ac mae’n caniatáu ichi reoli eich dyfodol eich hun.
Mae ein rhaglen Twf Swyddi Cymru+ yn cynnwys tri llinyn cefnogol:
Ymgysylltu – Bydd hyn yn eich helpu i benderfynu beth i’w wneud nesaf os ydych yn ansicr. Mae’n lle da i ddechrau os oes angen mwy o gefnogaeth arnoch.
Symud ymlaen - Os ydych chi’n gwybod pa sector rydych chi am weithio ynddo, byddwn yn darparu gweithgareddau penodol i gryfhau eich sgiliau a chael profiad gyda chyflogwyr lleol.
Cyflogaeth - Os ydych chi’n gwybod pa swydd rydych chi ei eisiau, rydych chi’n chwilio, ac yn barod i ddechrau
gweithio, byddwn yn gweithio gyda chi i ddod o hyd i’r cyfle gwaith cywir gyda chyflogwyr lleol, byddwch yn dod yn rhan o gwmni ac ennill cyflog.
Gallwn gynnig profiad a chymwysterau i chi mewn:
• Iechyd a Gofal Cymdeithasol
• Sgiliau Cadw Cyfrifon a Busnes (AAT)
• Gofal Plant
• Lletygarwch ac Arlwyo
• Trin Gwallt a Gwaith Barbwr
• Manwerthu
• Harddwch
• Cerbydau Modur
• Gwasanaeth Cwsmer
• Technoleg Gwybodaeth
• Cyflogadwyedd
Rydym yn ymfalchïo mewn cefnogi chi a’ch anghenion. Byddwch hefyd yn derbyn lwfans prydau dyddiol a chymorth gyda chostau teithio.
Galwch/ Neges destun/ WhatsApp
Suzi ar 07485 908109
E-bostiwch ymholiadau at enquiries@itecskills.co.uk
Military Preparation Training College
Paratoi bywyd ar gyfer yr hyn y byddwch yn ei daflu ato. Yn yr
Academi Filwrol, credwn y gall pob un gyflawni eu nodau drwy arweiniad ac addysg rhagorol.
Mae’r Academi Filwrol yn goleg
hyfforddi unigryw sy’n helpu pobl ifanc 16-19 oed i ddatblygu eu ffitrwydd, eu cymwysterau galwedigaethol, a’u
sgiliau cyflogadwyedd i helpu i baratoi ar gyfer cyflogaeth, gan gynnwys
gyrfaoedd gwerth chweil yn y Lluoedd Arfog Prydeinig.
Hyfforddiant Corfforol
Bydd disgwyl i chi gymryd rhan mewn hyfforddiant corfforol bob dydd yn
MPCT. Mae hyn yn ffurfio 50% o’r cwrs yn MPCT a bydd yn cefnogi dysgwyr gyda pharatoi a dilyniant i’r fyddin.
Addysg
Yn ystod eich amser yn MPCT gallwch ddisgwyl cyflawni cymwysterau
Sgiliau Hanfodol gwerthfawr fel Cymhwyso Rhif, Cyfathrebu, a hyd
0330 111 3939 mpct.co.uk tecstiwch MPCT i 88008
at Ddiploma Lefel 1 mewn Paratoi ar gyfer Gwasanaeth Milwrol. Bydd y cymhwyster hwn yn eich helpu i fagu’r wybodaeth a’r sgiliau ar gyfer gyrfa lwyddiannus yn y lluoedd arfog.
Hyfforddiant Milwrol
Dyluniwyd ein cyrsiau er mwyn rhoi’r sgiliau sydd eu hangen ar ddysgwyr i ddechrau ar eu taith tuag at yrfa werth chweil yn y Lluoedd Arfog Prydeinig neu i symud ymlaen at addysg bellach neu hyfforddiant. Mae sgiliau datrys problem ac arwain yn hanfodol yn y Lluoedd Arfog a chyflogaeth sifil. Bydd dysgwyr yn cymryd rhan mewn ystod o weithgareddau datrys problem yn y maes ac mewn gwersi academaidd. Bydd y gallu i weithio’n effeithiol fel aelod o’r tîm yn hanfodol i’ch llwyddiant.
Ymwelwch ag: mpct.co.uk
People Plus
Dysgu, Ennill a Datblygu Sgiliau Newydd
Yn berffaith ar gyfer pobl ifanc 16-19 oed, mae ein dwy raglen TSC+ yn cynnig cyfle i chi gwella llythrennedd, rhifedd, llythrennedd digidol, ennill cymwysterau cyflogadwyedd, cymryd rhan mewn digwyddiadau adeiladu tîm a chlywed gan siaradwyr gwadd arbenigol.
• Ennill hyd at £60 yr wythnos (yn dibynnu ar oriau presenoldeb)
• Mwynhau prosiectau gwirfoddoli a chymuned
• Buddio o brofiad gwaith
• Dysgu am weithio a rhedeg busnes
• Ennill cymwysterau cydnabyddedig mewn gofal cymdeithasol, manwerthu, gwasanaeth cwsmeriaid, gwaith warws neu TG
• Datblygu sgiliau cyfweld a’ch CV
• Clywed siaradwyr gwadd gan Heddlu De Cymru a Syniadau Mawr Cymru
• Cymryd Hyfforddiant Cymorth Cyntaf, Hylendid Bwyd, Iechyd a Diogelwch mewn Adeiladu a Cherdyn CSCS
Mae’r rhaglen yn RHAD AC AM DDIM, mae treuliau teithio wedi’u cynnwys ac nid oes angen unrhyw gymwysterau arnoch chi i gymryd rhan.
Mae meini prawf cymhwysedd yn berthnasol ac nid yw’r rhai sy’n hawlio budd-daliadau yn cael eu heffeithio.
w
07989 233391
www.peopleplus.co.uk
nathan.bright@peopleplus.co.uk
Bwrdeistref Sirol Torfaen
Sefydliadau Cefnogi
O fewn Torfaen, mae gennym nifer o sefydliadau sy’n cefnogi pobl ifanc i gael gwaith. Mae rhywfaint o wybodaeth bellach ynghyd â manylion cyswllt wedi’u cynnwys isod.
Gyrfa Cymru
Dim ond dechrau eich stori yw gorffen yr ysgol. Dewch i sgwrsio â ni yn Gyrfa Cymru a thrwy ein gwasanaeth Cymru’n Gweithio, gallwn drafod eich opsiynau.
• Cynllunio gyrfa
• Paratoi ar gyfer swydd – CV, ffurflenni cais a chymorth cyfweliadau
• Canfod a gwneud cais am brentisiaethau
Gofynnwch i ni am Twf Swyddi Cymru+ a’r Gwarant i Bobl Ifanc.
0800 028 4844
gyrfacymru.llyw.cymru
cymrungweithio.llyw.cymru
Canolfannau gyrfa ledled Cymru. Eich canolfan yn Nhorfaen yw: Uned 21, North Walk, Cwmbran, NP44 1PR
Bwrdeistref Sirol Torfaen
Sefydliadau Cefnogi
Ysbrydoli+/
CaW+
Mae’r prosiectau hyn yn cefnogi pobl ifanc rhwng 16 a 24 oed nad ydynt mewn addysg, na chyflogaeth na hyfforddiant.
Maent yn cynnig cymorth cyflogadwyedd, gan gynnwys ysgrifennu CV, cymorth ffurflenni cais, paratoi ar gyfer cyfweliadau, a gallant helpu gyda chefnogaeth teithio a dillad neu Offer Diogelu Personol (PPE).
Gallant ddarparu cymorth i ddysgu yn y gwaith neu goleg a/neu helpu gyda materion eraill fel rheoli arian, iechyd a ffitrwydd ac ati.
Gallant ddarparu cymorth i bobl gael mynediad at gymwysterau am ddim, er enghraifft:
• Cymwysterau Cysylltiedig â Gwaith - Lefel 2 H&S mewn adeiladu/cerdyn CSCS; trwydded fforch godi; hylendid bwyd; gwasanaeth cwsmer, trafod â llaw ac ati
• Sgiliau sylfaenol - llythrennedd, rhifedd a TGCh.
inspire@torfaen.gov.uk
CaW+
Ysbrydoli+ 07976 632904 cfwplus@torfaen.gov.uk
Gogledd Torfaen: 01495 742131
De Torfaen: 01633 648312
Gobeithiwn fod y llyfryn hwn wedi bod yn ddefnyddiol i chi ac wedi rhoi gwybodaeth i chi am yr amrywiaeth o gyfleoedd sydd ar gael yn Nhorfaen. Os ydych yn dymuno cael rhagor o wybodaeth ynglŷn â llwybr penodol neu unrhyw fudiadau cymorth a chymorth posibl arall, cysylltwch â Chydlynydd NEET Cyngor
Bwrdeistref Sirol Torfaen ar 07976 632911 neu Gareth.jones4@torfaen.gov.uk
Pob lwc!