Effeithiolrwydd yn yr Ystafell Ddosbarth
Mynnwch hyfforddiant wedi'i ariannu'n llawn gydag ACT
P'un a yw'n ymwneud ag integreiddio technoleg newydd, mynd i'r afael ag anghenion dysgu amrywiol, neu fabwysiadu dulliau addysgu arloesol, mae staff wedi’u hyfforddi yn fwy parod i ymaddasu a ffynnu yn yr
Mewn sector addysg sy'n newid yn gyflym, mae hyfforddiant parhaus yn sicrhau bod staff ysgolion yn aros ar flaen y gad o ran arfer dda addysgol. acttraining.org.uk
Fel cynorthwyydd addysgu, mae gennych gyfle unigryw i danio chwilfrydedd, meithrin potensial, ac ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf.
Bydd eich cefnogaeth yn yr ystafell ddosbarth yn helpu i lunio meddyliau ifanc a meithrin cariad at ddysgu sy'n para am oes.
Cheryl Haralambos, Aseswr STLS
Cefnogi Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion
Mae'r cymhwyster Cefnogi Addysgu a Dysgu wedi'i gynllunio i gynorthwyo unigolion a gyflogir mewn rôl cymorth ystafell ddosbarth, gan weithio dan oruchwyliaeth athro dosbarth, i ddatblygu'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen i weithio gyda phlant a phobl ifanc. Mae symud ymlaen at lefel 3 yn gwella sgiliau a gwybodaeth gan ganiatáu i staff cymorth ysgwyddo mwy o gyfrifoldeb yn yr ystafell ddosbarth.
Lefel 2 | 15 mis
Datblygiad plant a phobl ifanc
Cyfathrebu a pherthynas broffesiynol â phlant, pobl ifanc ac oedolion
Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant mewn gwaith gyda phlant a phobl ifanc
Helpu i wella eu hymarfer eu hun a'r tîm mewn ysgolion
Lefel 3 | 15 mis
Asesiad cymorth ar gyfer dysgu
Hyrwyddo ymddygiad cadarnhaol plant a phobl ifac
Cefnogi iechyd a diogelwch plant a phobl ifanc
Deall datblygiad plant a phobl ifanc
Dull Cyflwyno’r Cyrsiau
Cefnogi gweithgareddau dysgu
Cynnal a chefnogi perthnasoedd â phlant a phobl ifanc
Cefnogi ymddygiad cadarnhaol plant a phobl ifanc
Gwarchod lles plant a phobl ifanc
Cefnogi datblygiad llythrennedd a rhifedd
Cynorthwyo dysgwyr ag anghenion cyfathrebu a rhyngweithio
Hyrwyddo lles a gwydnwch plant a phobl ifanc
Cefnogi plant a phobl ifanc anabl sydd ag anghenion dysgu ychwanegol
Cyflwynir ein rhaglenni yn bennaf trwy sesiynau 1-i-1 gydag aelod o dîm cyflwyno ACT. Bydd darpar ddysgwyr yn cael cynnig cyfuniad o sesiynau dysgu wyneb yn wyneb ac o bell a byddant yn cwrdd â'u hasesydd unwaith y mis naill ai ar y safle, yn eu gweithle, neu mewn modd rhithwir trwy lwyfannau digidol. Bydd angen astudio ac ymchwilio’n annibynnol er mwyn cwblhau'r cymhwyster.
I gael rhagor o wybodaeth am unrhyw un o'r cymwysterau hyn, sganiwch y cod QR, neu cysylltwch â ni! 029 2046 4727 info@acttraining.org.uk