Rydym yma i chi
Lansiwyd rhif newydd gwasanaethau gwybodaeth yng Nghymru
38%
yn fwy o ddilynwyr cyfryngau cymdeithasu
100,000+
o ymwelwyr â’n gwefan
10,000
o brofiadau gweithgareddau corfforol
11% +
100,000+
awr yn gwirfoddoli
o’n trosiant wedi ei ddosbarthu mewn grantiau
20,000+ o alwadau
100,000+
i’n llinellau cyngor
o adnoddau wedi’u dosbarthu
Llun y clawr: Cwsmer HandyVan Age Cymru bodlon iawn. Llun tu mewn: Lluniau o’n infographic www.agecymru.org.uk/film
Mae pobl yng Nghymru yn byw yn hirach, sy’n rhywbeth y dylid ei ddathlu, ond daw â’i heriau, wrth gwrs. Mae Age Cymru yn arbenigwr ar ddeall a mynd i’r afael â’r heriau hyn wrth i ni barhau i fod YR elusen ar gyfer pobl hŷn yng Nghymru. Ystyriwch hyn... • byd lle rydym yn dathlu heneiddio ac yn trin pobl o bob oed yn deg, gydag urddas a pharch • diogelwch ariannol i ni i gyd, gyda diwedd ar dlodi yn hwyrach mewn bywyd • iechyd gwell am hirach a gwell gofal pan fo’i angen • cymorth rhagorol i aros yn annibynnol pan fyddwn ni’n fregus neu’n gofalu am bobl rydym yn eu caru • cymunedau lle gall pawb gael hwyl, cymryd rhan a dweud ein dweud • amrywiaeth yn cael ei gydnabod a chymorth i’r bobl fwyaf bregus • cynhyrchion a gwasanaethau wedi’u cynllunio i ateb ein gofynion, wrth i ni heneiddio. Os allwn ni gyflawni hyn, byddai gennym le gwych i fyw yn hwyrach mewn bywyd. Derbyniwch ein gwahoddiad i ystyried ein cyraeddiadau yn ystod 2013/14 os gwelwch yn dda, ac ymunwch â ni ar ein taith i greu Cymru sy’n gyfeillgar i oedran... dros eich dyfodol chi rydym yn gweithio. Ian Thomas Prif Weithredwr
Dr Bernadette Fuge MB BCH, LLM, MPH Cadeirydd 1
Rydym yn gwneud gwahaniaeth Mae’r llywodraeth yn gwrando arnom Tŷ’r Arglwyddi, Tŷ’r Cyffredin a’r Senedd
Ein cydnabod fel arbenigwyr
greu “ Gallwn Cymru sy’n le
gwych i fyw yn hwyrach yn eich bywyd.
Rydym yn gwybod bod bywydau pobl hŷn ledled Cymru yn cael ei wella gan y gwaith dylanwadu ac ymgyrchu a wnawn. Cawn ein cydnabod fel arbenigwyr gan y bobl mewn grym, a dangosir hyn drwy ein gwaith dylanwadu ar wleidyddion a’r awdurdodau uchaf, a’u cynghori nhw ledled Cymru. Rydym yn gwybod eu bod yn gwrando.
cyntaf dementia (a’u gofalwyr). Mae ein rhaglen hyfforddi arloesol yn helpu cyfranogwyr i adnabod sgamiau, sut i ddelio â nhw, a sut i’w hosgoi; mae’n rhoi’r grym iddyn nhw ddweud na wrth alwyr digroeso, masnachwyr twyllodrus, sgamiau drwy’r post, loterïau ffug a chystadlaethau. Comic Relief, mewn partneriaeth â Chymdeithas Alzheimer’s sy’n ei ariannu.
Dangoswyd hyn mor addas yn ein gwaith ar un o’r darnau deddfwriaethol mwyaf cynhwysfawr a basiwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Fe wnaeth Age Cymru chwarae rhan annatod a chyfrannu drwy gyfrwng pwyllgorau, grwpiau cynghori, a chyflwynodd dystiolaeth ysgrifenedig a llafar. Dyfynnwyd a chyfeiriwyd at Age Cymru yn ystod trafodaethau allweddol ac roeddem wrth ein bodd bod meysydd penodol oedd yn destun pryder i ni, ac y gwnaethom ymgyrchu o’u plaid, wedi eu cynnwys yn ddiweddarach.
Mae ein cylchgrawn blynyddol, Envisage, yn edrych ar y materion sy’n effeithio ar bobl hŷn, yn rhannu arferion gorau ac yn tanio trafodaethau. Mae ein degfed rhifyn yn canolbwyntio ar heneiddio’n dda ac mae’n cynnwys erthyglau gan Brif Swyddog Meddygol Cymru; Prifysgol De Cymru; Swyddfa Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru; a NIACE (Y Sefydliad Cenedlaethol dros Addysg Barhaus i Oedolion).
Lansiwyd ein hymgyrch i fynd i’r afael â sgamiau a thwyll lle’r adroddwyd stori bersonol dorcalonnus gan ohebydd gwleidyddol y BBC, David Cornock. Rydym yn gofyn am fwy o warchodaeth ar gyfer pobl hŷn rhag bod troseddwyr yn dwyn yn ddidostur oddi arnyn nhw. Mae ymateb y gwleidyddion, y rhanddeiliaid a’r cyhoedd yn dangos bod hyn yn destun pryder gwirioneddol. Cynhaliwyd a hyrwyddwyd trafodaethau pwysig gan wleidyddion amlwg, a chafwyd cyfraniadau gan randdeiliaid busnes. Cafodd yr ymgyrch gefnogaeth Senedd San Steffan a Chynulliad Cenedlaethol Cymru. Yn ein brwydr barhaus i roi diwedd ar gam-drin pobl hŷn, fe lansiwyd prosiect arloesol gennym a dargedwyd yn benodol at bobl 50 oed a throsodd, sy’n dioddef camau
Yn ystod y flwyddyn, buom yn gweithio’n agos â Swyddfa Archwilio Cymru i roi cyhoeddusrwydd i arferion gorau ynglŷn â llywodraethu elusennol a rheoli byrddau ymddiriedolwyr.
Gwaith yn y dyfodol • Datblygu a hybu’r ymwybyddiaeth o Gymru sy’n gyfeillgar i oedran. • Gwella’r ddarpariaeth a safon y gofal cymdeithasol yng Nghymru. • Amlygu problem tlodi ymhlith pobl hŷn yng Nghymru. • Lleihau nifer y bobl hŷn sy’n dioddef yn sgil sgamiau 3
“
Gallwch ddibynnu arnom Mae Age Cymru’n parhau i gael ei gydnabod fel awdurdod blaenllaw ar yr holl faterion sy’n ymwneud â heneiddio. Rydym yn defnyddio’r profiad hwn i ddarparu gwasanaethau o safon. Llwyddiant cyfryngau cymdeithasu
100,000 o adnoddau wedi’u dosbarthu
Rydym mewn cyswllt cyson â phob cartref gofal yng Nghymru
4
Eleni, fe wnaethom ddatblygu gwasanaeth HandyVan newydd i gynorthwyo â phob math o waith, mân waith trwsio, mesurau diogelwch, diogelwch yn y cartref. Rydym yn cynnig gwiriadau ynni yn y cartref am ddim a mesurau effeithlonrwydd ynni hefyd. Roedd mor boblogaidd fel rydym yn gobeithio ei ehangu ymhellach. Mae cael dewis a dweud ein dweud yn egwyddorion allweddol mewn bywyd, ac mewn rhai ffyrdd, daw hynny’n fwy perthnasol fyth wrth i ni heneiddio. Mae Age Cymru yma i ofalu bod yr holl wybodaeth a’r cyngor angenrheidiol gennych i’ch galluogi chi a’ch ceraint barhau â’ch annibyniaeth, lle bynnag rydych yn byw. Fe lansiwyd rhif ffôn newydd gennym i’n llinell gyngor ac, ynghyd â’n partneriaid lleol, fe wyddom fod rhagor na 20,000 o alwadau wedi’u hateb yn gofyn am ein cymorth. Hefyd, fe ehangwyd ein darpariaeth wyneb yn wyneb sy’n cynnig gwasanaeth apwyntiadau y mae galw cyson amdano. Fe gafodd ein hamrywiaeth eang o ganllawiau a thaflenni gwybodaeth eu dosbarthu wyneb yn wyneb a’u llwytho i lawr o’n gwefan. Rydym yn gwybod fod y galw am y gwasanaeth hwn y gellir ymddiried ynddo yn uchel, felly rydym yn gofyn i Lywodraeth Cymru a chyllidwyr eraill roi cymorth i’n rhwydwaith er mwyn rhoi cyngor cywir, diduedd, ac arbenigol o safon ledled cymunedau Cymru. Sicrhawyd cyllid gan Ymddiriedolaeth Burdett i’n rhaglen arloesol, lwyddiannus My Home Life Cymru, i alluogi mwy o gartrefi gofal beilota dulliau o reoli cartrefi gofal, byw ynddynt ac ymweld â nhw mewn modd sy’n canolbwyntio
ar berthnasoedd. Y nod yw gwella ansawdd bywyd i bawb sy’n cael eu heffeithio a sicrhau bod cartrefi gofal yn rhan o’u cymuned leol. Rydym yn gwybod bod My Home Life yn gweithio – mae gennym breswylwyr, staff gofal, rheolwyr a pherchnogion busnes sy’n dweud wrthym sut mae eu bywydau wedi newid, er gwell. Mae ein barn a’n datganiadau i’r wasg yn cael eu croesawu ar-lein a thrwy’r cyfryngau traddodiadol. Yn ystod y flwyddyn, denodd ein gwefan ragor na 100,000 ymwelydd. Tyfodd ein dilynwyr ar y cyfryngau cymdeithasol 38% a chyfeiriwyd atom yn y wasg, ar y teledu a’r radio, bron 800 gwaith. Rydym yn falch ein bod wedi derbyn achrediad Buddsoddwyr mewn Pobl yn ystod y flwyddyn, a bu ein holl staff yn ymwneud â’r gwaith o lunio ein gwerthoedd a’n hymddygiadau:
gofalu penderfynol galluogi effeithiol cynhwysol Gwaith yn y dyfodol • Gofalu bod rhaglen My Home Life Cymru yn cael ei hyrwyddo ymhlith comisiynwyr gwasanaethau. • Datblygu a thyfu ein gwasanaethau gwybodaeth a chyngor. • Ehangu ein gwasanaeth HandyVan.
Rydym yn eich cymuned Rydym yn parhau i ehangu ein presenoldeb lleol mewn cymunedau ledled Cymru. Eleni, roeddem wrth ein bodd yn croesawu Age Cymru Sir Benfro ac i weld datblygu gwasanaethau newydd a chyffrous drwy ein partneriaid lleol i roi cymorth i bobl hŷn yn lleol.
yma “ Rydym i chi.
Ehangwyd menter gymdeithasol Age Cymru gydag agor siop newydd yng nghanol Caerffili. Menter ar y cyd rhwng Age Cymru ac Age Cymru Gwent yw’r fenter adwerthu draddodiadol hon sy’n cynnig nwyddau newydd a rhai wedi’u hailgylchu, ynghyd â’r cyfle i brynu yswiriant a gwasanaethau eraill, yr un pryd.
Gwaith yn y dyfodol • Gweithio ar y cyd â’n partneriaid lleol a rhoi cymorth iddyn nhw i ddatblygu (gan gynnwys eu gweithrediadau masnach). • Rhoi cymorth i wasanaeth gwybodaeth a chyngor wyneb yn wyneb, llawn amser yn y gymuned, yn ein swyddfeydd masnach. • Datblygu ein presenoldeb ar y stryd fawr drwy agor ail siop arbrofol yn cyfuno adwerthu, masnach, gwybodaeth a chyngor a chynhyrchion cyswllt, yn ne ddwyrain Cymru. • Lleihau costau gweithredol a pharhau i gyfuno mentrau cymdeithasol ac adwerthu, lle bynnag y gallwn.
Dechreuodd ein busnes adwerthu wasanaeth casglu bagiau rhoddion cenedlaethol, a dosbarthwyd rhagor na hanner miliwn ledled Cymru. Arweiniodd hyn at enillion uwch na’r cyfartaledd i’r sector. Daethom ynghyd â’n partneriaid cenedlaethol yng Ngogledd Iwerddon (Age NI), yr Alban (Age Scotland) a Lloegr (Age UK) i gefnogi’r Chwyldro’r Bil Ynni, yr ymgyrch dros gartrefi cynnes a biliau isel. Rydym oll yn sylweddoli’r trafferthion dybryd a achosir yn sgil tlodi ynni ymysg rhai o’n pobl hŷn mwyaf bregus. Ein siopau elusen a’n mannau masnachu: Age Cymru Bangor Age Cymru Caerffilli Age Cymru Caerdydd* Age Cymru Glynebwy Age Cymru yr Wyddgrug
Age Cymru Mynwy Age Cymru Pontypridd* Age Cymru Porthcawl Age Cymru Rhyl Age Cymru Wrecsam
Mae gwasanaethau ariannol a chynnyrch ar gael yn y mannau hyn* Mae llawer o swyddfeydd Age Concern wedi mabwysiadu brand Age Cymru. Dyma’n partneriaid Age Cymru lleol: Age Cymru Afan Nedd Age Cymru Ceredigion Age Cymru Gwent* Age Cymru Gwynedd a Môn*
Age Cymru Sir Penfro (ail-frandio Mawrth 2014) Age Cymru Powys Age Cymru Sir Gâr Age Cymru Bae Abertawe*
5
“
Gallwch wneud hyn... gallwn helpu Dywedodd 100% eu bod yn gwneud mwy o weithgareddau corfforol
Dywedodd 86% o gyfranogwyr Gwanwyn “Dwi wedi dysgu rhywbeth newydd!”
Mae pobl yn byw yn hirach, sy’n rhywbeth i’w ddathlu... ond allwn ni fyw yn hirach mewn ffordd fwy iach? Mae gan Age Cymru feysydd gwaith pwrpasol i helpu pobl i wneud dewisiadau fydd yn gwella iechyd a lles yn hwyrach yn eu bywydau.
holiadur ar-lein arfaethedig, er mwyn sicrhau ei fod yn ateb y gofyn ac yn hawdd ei ddefnyddio. Ar sail yr adborth a roesom, fe wnaed y newidiadau angenrheidiol. Rydym wrth ein bodd bod y cyllid i gyflawni’r gwiriadau iechyd a ffordd o fyw hyn wedi ei sicrhau tan 2016.
Mae ein rhaglen Cerdded Nordig yn mynd o nerth i nerth, diolch i waith ein rhwydwaith ymroddedig o 60 gwirfoddolwr a sicrhaodd bod rhagor na 700 o bobl wedi cymryd rhan y llynedd. Mae adborth yn dweud wrthym fod 94% wedi teimlo lles uniongyrchol i’w hiechyd.
Dosbarthwyd miloedd o’n deunyddiau ac adnoddau cyngor ar les dros y gaeaf, o’n hymgyrchoedd Lles Drwy Wres a Gofal Piau Hi’r Gaeaf Hwn, ledled Cymru. Buom yn gweithio mewn partneriaeth â rhagor na 700 fferyllfa, er mwyn gofalu bod y rhai sydd efallai’n fregus ac ar eu pennau eu hunain, wedi derbyn yr wybodaeth hon, lle bo hynny’n bosibl.
Mae gennym ein rhaglen unigryw Hyfforddi Ymarferol Effaith Isel, (LIFT) ein hunain, ar gyfer y bobl llai abl. Profodd y gallu i gymryd rhan mewn ymarfer corff cymedrol yn y gymuned, yn boblogaidd iawn ac mae’n darparu cyfleoedd newydd i wirfoddolwyr hefyd. Cynigiwyd rhagor na 4,500 o brofiadau LIFT a dywedodd 100% o bobl hŷn a gymerodd ran eu bod yn gwneud mwy o weithgareddau corfforol. Fe wnaethom lansio ein rhaglen ‘Shake a Leg’ gyda Rubicon Dance i hybu sesiynau dawns diogel sy’n gwella iechyd, ar gyfer pobl hŷn ledled Cymru.
Gwaith yn y dyfodol • Tyfu ein rhwydwaith o wirfoddolwyr ar gyfer ein rhaglenni heneiddio’n iach. • Ehangu ar LIFT. • Cynnal ond hefyd amrywio llwybrau artistig gwahanol Gwanwyn.
Dathlodd Gwanwyn, ein gŵyl gelfyddydol ei phen-blwydd yn saith oed drwy ddyfarnu 48 grant bach i amrywiaeth eang o sesiynau celfyddydol. Cynhaliwyd 400 o ddigwyddiadau i gyd a oedd yn cynnwys 65 grŵp cymunedol a rhagor na 9,500 cyfranogwr. Dywedodd 86% o gyfranogwyr Gwanwyn “Dwi wedi dysgu rhywbeth newydd!” Yn ystod y flwyddyn cawsom ein hariannu gan Lywodraeth Cymru i dreialu menter newydd, Ychwanegu at Fywyd. Sefydlodd ein staff grwpiau ffocws i brofi’r 7
Cyflawni gyda’n gilydd Mae Age Cymru wedi ymrwymo i wella bywydau pobl hŷn, ond gwyddom na allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Dyna pam mae’r cysylltiadau rydym yn eu meithrin, eu hadeiladu a’u cynnal yn ganolog i’n gwaith. Hoffem feddwl ein bod yn gonglfaen wrth ddod â llawer o faterion i’r amlwg, a sicrhau bod lleisiau pobl hŷn yn cael eu clywed. Mae ein Rhwydwaith Pobl Hŷn Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol (LGBT) a’n Rhwydwaith Lleiafrifoedd Ethnig Hŷn, yn cynnig hafan ddiogel i leisiau ar y cyrion gael eu clywed a dylanwadu ar bolisi. Hefyd, maent yn ceisio canfod a rhannu enghreifftiau o arferion gorau ac amlygu a herio arferion gwahaniaethol. Yn ystod y flwyddyn, datblygodd y rhwydweithiau faniffestos yn galw ar i Lywodraeth Cymru newid, datblygu a darparu gwasanaethau, i ystyried anghenion LGBT a phobl leiafrifol ethnig yn ddiweddarach mewn bywyd. Bydd y ddau rwydwaith hefyd yn canolbwyntio ar ofal cymdeithasol yn ystod 2014/15. Cydweithiodd y ddau grŵp ym Mardi Gras LGBT Caerdydd Cymru 2013, i recriwtio aelodau newydd a gwelwyd hwy mewn digwyddiadau amrywiol gan gynnwys Mis Hanes Pobl Dduon. Rydym yn parhau i gyllido a rhoi cymorth i Gynghrair Henoed Cymru, sydd â 19 elusen yn aelodau ohono, ac wrth gwrs y gwaith rydym yn ei gyflawni gyda’r pum sefydliad cenedlaethol ar gyfer pobl hŷn. Hefyd, fe wnaethom roi cymorth i ymron i 70 grŵp lleol o bobl hŷn drwy gyfrwng ein rhaglen Grantiau Dathlu’r
Gaeaf. Rhoddir y cyllid gwerthfawr hwn er mwyn dod â chynhesrwydd a hwyl yr Ŵyl i’r rheini nad oes ganddynt y cyfle o bosibl i ymuno ag eraill, fel arall. Darparodd Fforwm Ymgynghorol Age Cymru adborth cynhwysfawr i ni ar ymgynghoriadau a materion polisi, gydol y flwyddyn. Ehangodd ein rhwydweithiau Age Cymru drwyddi draw, gan gynnwys gwybodaeth a chyngor, eiriolaeth a diogelu. Yn ystod y flwyddyn fe wnaethom rannu ein sgiliau a’n harbenigedd gyda phobl hŷn. Fe ddarparwyd cyfres o ddiwrnodau hyfforddi gennym ar ddefnyddio’r rhyngrwyd a’r cyfryngau cymdeithasu, sut i gynnal ymgyrchoedd lleol, ymdrin â’r wasg, ysgrifennu newyddlenni effeithiol a chodi arian hefyd.
Gwaith yn y dyfodol • Ymchwilio i oedraniaeth a gwahaniaethu ar sail oedran yn y GIG yng Nghymru. • Casglu barn pobl hŷn ar faterion yn ymwneud â chostau gofal a thalu amdano. • Cynyddu aelodaeth yn ein holl rwydweithiau. • Datblygu a sicrhau llwyddiant Wythnos Positif am Oed.
9
Dibynnwn arnoch eich dyfodol.
“
yn “ Rydym gweithio at
Chwith i’r dde, Trystan Llŷr Griffiths, Matthew Rhys a Leigh Halfpenny.
Alwyn Humphreys Arfon Haines Davies Daniel Phillips Gwawr Edwards Karl Davies Leigh Halfpenny Matthew Rhys Nathan Walsh Only Men Aloud Owain Wyn Evans Trystan Llyr Griffiths 10
Rydym yn dibynnu ar lawer o bobl a sefydliadau am eu cymorth felly diolch yn fawr iawn i chi gyd. Mae ein gwirfoddolwyr yn rhoi sawl mil awr yn ein siopau, yn cyflwyno rhaglenni heneiddio’n iach, yn cynnal gweithgareddau codi arian, aelodaeth o’n rhwydweithiau ac yn helpu yn ein swyddfeydd hefyd. Hoffem ddiolch i’n staff a’n Bwrdd Ymddiriedolwyr sy’n lwyr ymroddedig i wireddu ein gweledigaeth a’n cenhadaeth. Rhestrir ein cefnogwyr corfforaethol hael ac rydym yn ddiolchgar i’n partneriaid statudol rydym yn cyflawni gwaith iddynt. Wrth gwrs, rydym yn diolch yn fawr iawn i’r bobl sy’n dewis rhoi cymorth i ni drwy gyfraniadau gwirfoddol a rhoddion ewyllysiau. Rydym wrth ein bodd yn cael cymorth arch seren Cymru a Llewod Prydain ac Iwerddon Leigh Halfpenny, y mae ei dad-cu, Malcolm yn gymaint o ysbrydoliaeth iddo. Yn ei eiriau “dyma fy ngwaddol i Gymru, beth yw eich un chi?”
Ageas, Age UK, Barchester Healthcare, Blakemore Foundation, Broomfield and Alexander, Bruton Knowles, Ymddiriedolaeth Burdett, Capital Law, Cymdeithas Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd, Comic Relief, Grŵp Cartrefi Cymunedol Cymru, Computerworld Wales, The Dezna Robins Jones Charitable Foundation, Ebico Trust, E-on Energy, EPRoductive, Four Seasons Health Care, Foxtroy Care Home, Framing Wales, Geldards Solicitors, Hengoed Court Nursing Home, Carchar Caerdydd (HMP Cardiff), Hugh James Solicitors, Monro, Pencoed Care Home, Gill Advertising, Simon Gibson Charitable Trust, SCA Hygiene Products UK Ltd, Sir Julian Hodge Charitable Trust, Sŵn y Môr Care Centre, Thomas Carroll Insurance Brokers, Tregwilym Lodge Nursing Home, Cymdeithas Tai Unedig Cymru, Wales and West Utilities, Western Power Distribution, siopau Wilkinsons. Ystadau’r diweddar: E Arthur, M Artur, G Bailey, L Baldwyn, P Brown, S Collins, C Dempsey, T Endall, W Evans, P Griffiths, D Hobbs, G Jones, R Lowick, E Moore, M Morgan, M Owen, I Richards, M Robins, C Thomas, D Walker, E Wood.
Incwm elusennol
Incwm elusennol
Cymynroddion, rhoddion a digwyddiadau Grantiau Age UK Arall, gan gynnwys buddsoddiadau Menter gymdeithasol Adwerthu
Gwariant elusennol Dylanwadu ar bolisi ac arferion
Mae’r siartiau cylch yma’n cynrychioli’r ffigurau a dynnwyd o adroddiad blynyddol llawn yr Ymddiriedolwyr a datganiadau ariannol cyfunol a gymeradwywyd gan yr Ymddiriedolwyr ac a lofnodwyd ar eu rhan ar 15 Gorffennaf 2014. Ar 23 Medi 2014, rhoddodd Broomfield and Alexander adroddiad archwilio diamod ar y datganiadau ariannol llawn. Mae’r archwilwyr wedi cadarnhau bod y datganiadau ariannol cryno yn gyson â’r datganiadau ariannol llawn ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2014. Efallai na fydd yr adroddiadau cryno hyn yn cynnwys digon o wybodaeth i gael dealltwriaeth lawn o faterion ariannol grŵp Age Cymru. Gellir cael adroddiad llawn yr Ymddiriedolwyr, datganiadau ariannol ac adroddiad yr archwilwyr o: Age Cymru, Tyˆ John Pathy, 13/14 Cwrt Neptune, Ffordd Blaen y Gad, Caerdydd, CF24 5PJ.
Gwasanaethau o ansawdd uchel Gwariant elusennol
Ymgysylltu Sylfaen dystiolaeth gref Sefydliad cenedlaethol cynaliadwy Cefnogaeth i bartneriaid Adnoddau incwm Adwerthu Llywodraethu
11
chi roi “ Allwch rhyw fymryn
“
yn ôl?
Cymerwch ran Gwobrau Bob blwyddyn, mae’n fraint i Age Cymru gydweithio â gwirfoddolwyr a chyfranogwyr anhygoel. Hoffem ddathlu a chydnabod y cyfraniadau neilltuol a wna llawer o bobl i fywydau pobl hŷn. www.agecymru.org.uk/awards Cymorth corfforaethol Eisiau codi proffil eich busnes? Siaradwch gyda ni ynglŷn â phartneriaeth gorfforaethol ac fe rown wybod i chi sut allwn ni helpu. www.agecymru.org.uk/corporatepartners Prynu Mae llawer ohonom eisiau parhau’n annibynnol, felly dyna pam rydym yn cynnig cynhyrchion a gwasanaethau gwych. Mae llawer o bobl hŷn yn dewis trefnu eu hyswiriant* drwy Age Cymru, neu un o’n partneriaid Age Cymru lleol. Rydym hefyd yn cynnig amrywiaeth dda o gynigion cystadleuol ar gynhyrchion, gan gynnwys lifftiau grisiau, cymhorthion bath a chynhyrchion symudedd eraill. www.agecymru.org.uk/local
Leigh Halfpenny, Cymru a Llewod Prydain ac Iwerddon, gyda’i dad-cu Malcolm, sy’n cefnogi ein hymgyrch cymynrodd.
* Darperir yswiriant tŷ, teithio a char gan Ageas Insurance Limited.
12
Rhoddion Gwerthfawrogir pob rhodd yn fawr, boed bach neu fawr, gan ei fod yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i ni barhau â’n gwaith. Mae ein siopau elusen ledled Cymru angen rhoddion - dillad, llyfrau, tlysau, gemwaith a dodrefn tŷ. Rydym yn falch bod yr arian rydym yn ei godi trwy ein siopau yn cael ei wario ar brosiectau yng Nghymru. www.agecymru.org.uk/donate Codi arian Mae cymaint o ffyrdd gwahanol ac unigryw y gallwch godi arian ar ein cyfer... o bobi cacennau i naid bynji, bydd ein tîm codi arian ymroddedig yn eich helpu i wneud y gorau
o’ch digwyddiad a sicrhau y cewch y boddhad a’r gydnabyddiaeth rydych yn ei haeddu. www.agecymru.org.uk/getinvolved Cofiwch amdanom yn eich ewyllys Bydd gadael cymynrodd i Age Cymru’n sicrhau ein bod yma ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Mae gan lawer o bobl hŷn gryn ddylanwad ar fywyd eu hwyrion a’u hwyresau. Mae’r tad-cu, Malcolm Halfpenny yn gwybod hyn cystal â neb am ei fod wedi cefnogi ei ŵyr, Leigh i lwyddiant fel arch seren rygbi Cymru a Llewod Prydain ac Iwerddon. www.agecymru.org.uk/legacy Gwirfoddoli Gwirfoddolwch ar gyfer un o’n gwasanaethau elusennol, gan gynnwys yn ein siopau, yn ein swyddfeydd, yn eich cymuned neu yn un o’n digwyddiadau codi arian. www.agecymru.org.uk/volunteer
Tŷ John Pathy, 13/14 Cwrt Neptune, Ffordd Blaen y Gad, Caerdydd CF24 5PJ t 029 2043 1555 ff 029 2047 1418 e enquiries@agecymru.org.uk www.agecymru.org.uk facebook.com/agecymru
@agecymru
Mae Age Cymru’n elusen gofrestredig 1128436 ac yn gwmni cyfyngedig trwy warant 6837284. Age Cymru Retail Ltd 8010768, Age Cymru Enterprises Ltd 6776928, Age Cymru Trading Ltd 8011995. Caiff pob cwmni yng Nghymru a Lloegr ei gofrestru. Gellir olrhain yr holl ddyfyniadau ac ystadegau, ar eich cais.