Cyflawni dros bobl h天n ...ledled Cymru
Age Cymru
ymddiriedaeth rhyngrwyd awdurdod canolfannau effaith gwych pynciau rhwydwaith helaeth gweithgar safonau tystiolaeth ansawdd cyflawni byw unigolyn tanategu uchaf ymchwil unigolion diduedd her lhdt blwyddyn cynhwysfawr bob amser eiriolaeth profiad cyfeillio cadarnhaol cydraddoldeb darparu gwahaniaeth lleol parhaus testunol pob gwybodaeth gallu amrywiaeth ethnig cydnabyddedig cyfleoedd cyrraedd materion newid parhau dylanwadu ffoˆn cyflawniad arbenigwyr oedran gyda’n gilydd amrywiol pendant gwir siopau cydnabod safbwyntiau amrywiol manwl elusen rhwydweithiau hyder ysbyty arian ymgymryd hysbysu barn syniadau taflen ffeithiau creadigol crefftwr nodedig cymdeithas dewisiadau ôl-ofal codi arian dosbarthiadau chwarae cenedlaethol dwyieithog gwerth fforymau
annibynnol lleol cyngor help gwaith
bywyd
hŷn
partneriaid heneiddio arbenigol gwasanaethau real iach
Cymru
ar draws perthnasol
cyflawni
cam-drin poblgwasanaeth
Gwneud gwahaniaeth: 11,000 +
Mae hyder arbennig yn datblygu gydag oedran; gallu defnyddio profiad camgymeriadau a wnaed, gwersi a ddysgwyd, ac yn bennaf oll, profiad bywyd ei hunan. Gall hyn fod yn berthnasol i bob un ohonom fel unigolion, ac yr un mor berthnasol i Age Cymru fel sefydliad. A ninnau’n dathlu pedair blynedd ers yr uno hanesyddol, a gyda mwy na 65 mlynedd o brofiad y tu cefn i ni, Age Cymru yw YR elusen genedlaethol ar gyfer pobl hŷn yng Nghymru. Yn y llyfryn hwn fe welwch rai uchafbwyntiau sy’n dangos ehangder, cyrhaeddiad ac effaith ein gwaith dros y 12 mis hyd at 31 Mawrth 2013. Rydym yn gobeithio y byddwch yn ei fwynhau a hyderwn y gallwn ddibynnu ar eich cefnogaeth; wedi’r cyfan, dros eich dyfodol chi rydym yn gweithio. Dr Bernadette Fuge MB BCH, LLM, MPH Cadeirydd
Robert Taylor OBE Prif Weithredwr
o alwadau i’n llinell gyngor
65,000 +
o adnoddau wedi’u dosbarthu
estyn allan at
300,000
o bobl hŷn ledled Cymru
5,000
o brofiadau Cerdded Nordig
£13miliwn
Spread The Warmth
mewn budd-daliadau heb eu hawlio (rhwydwaith Age Cymru)
90,000
o ymwelwyr unigol â’n gwefan
4,000
o sesiynau LIFT
6,000 +
o gefnogwyr i’n hymgyrch Rhoi Diwedd ar Gam-drin 1
Gadewch i ni fod yn annibynnol hyd yn oed pan rydym yn fregus ac agored i niwed
Darpariaeth o safon Hawliodd pobl hŷn
£13miliwn mewn hawliadau ychwanegol drwy ein rhwydwaith
90,000
o ymwelwyr â’n gwefan
570+
o erthyglau wedi’u cyhoeddi ar y cyfryngau
Rydym mewn cysylltiad rheolaidd â phob cartref gofal yng Nghymru
Mae pawb ohonom eisiau parhau’n annibynnol ac iach mor hir â phosibl. Mae ein gwasanaeth gwybodaeth a chyngor blaenllaw yn rhoi sylw i amrywiaeth eang o bynciau, a gellir dibynnu arno i fod yn fanwl gywir, yn berthnasol, yn ddiduedd ac yn arbenigol. Rydym yn darparu gwasanaethau o’r safon uchaf gyda’n partneriaid lleol ledled Cymru. Fe wnaethom lansio ein gwasanaeth llinell gyngor ddwyieithog rhad ac am ddim, ac fe wnaethom ychwanegu at ein cyfres helaeth o daflenni gwybodaeth a chanllawiau cynhwysfawr. Efallai y bydd adegau yn ein bywydau pan fyddwn angen rhywun i wrando a siarad ar ein rhan – eiriolaeth yw’r enw ar hyn, ac mae ei argaeledd yn hanfodol er mwyn sicrhau bod gennym lais a chyfle i ddweud ein dweud pan fyddwn mewn angen. Rydym yn gwybod bod pobl hŷn yn neilltuol angen mynediad at eiriolaeth, ac felly rydym wedi llwyddo i sefydlu rhwydwaith cenedlaethol o ddarparwyr ac ymarferwyr eiriolaeth. Mae’r holl agweddau ar eu gwaith yn cael eu trafod, a thrwy rannu arferion gorau a dysgu sgiliau newydd gan ein gilydd, rydym eisoes yn gwybod ei fod yn cael effaith gadarnhaol ar y gwasanaethau sydd eisoes yn cael eu darparu ledled Cymru. Daeth ein rhaglen My Home Life Cymru yn rhan annatod o nifer o gartrefi gofal yng Nghymru eleni, ac mae ei henw da am y ffordd o wneud pethau mewn lleoliad cartref gofal wedi cael ei gydnabod ymhellach. I’r perwyl hwn, fe wnaethom sicrhau partneriaeth â’r Burdett Trust for Nursing i ddarparu grantiau o hyd at £10,000 i gartrefi gofal unigol yn ystod 2013/2014 ar gyfer prosiectau newydd sy’n annog urddas, parch ac yn gwella ansawdd bywyd i drigolion.
Ym mis Mehefin, fe wnaethom lansio ein Sgwrs Fawr ar Gartrefi Gofal i ddechrau trafodaeth gyhoeddus ar bynciau fel: beth mae pobl yn dymuno ei gael ganddyn nhw? Sut mae modd cynnig cefnogaeth well i gartrefi gofal? Rydym yn edrych ymlaen at weld y drafodaeth hon yn parhau ar bob lefel o’r gymdeithas i sicrhau y gall cartrefi gofal gymryd eu lle priodol mewn cymunedau ffyniannus a charedig at rai o bob oedran ledled Cymru. Rydym yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am gyllido rhaglen My Home Life Cymru. Mae Age Cymru yn parhau i gael ei gydnabod fel awdurdod blaenllaw ar yr holl faterion sy’n ymwneud â heneiddio. Cafodd ein gwefan dros 90,000 o ymwelwyr unigryw, tyfodd ein presenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol a’n presenoldeb yn y cyfryngau traddodiadol, gan arwain at fwy na 570 o erthyglau yn cael eu cyhoeddi ledled Cymru. Roeddem yn ail yng nghategori’r Cyfathrebwyr Gorau yng Ngwobrau WCVA 2012.
Gwaith yn y dyfodol Byddwn yn cyflwyno rhaglen o grantiau trwy ein partneriaeth gyda’r Burdett Trust. Byddwn yn parhau i ddatblygu ein gwasanaeth gwybodaeth a chyngor wyneb yn wyneb ledled Cymru. Byddwn yn parhau i helpu i wneud cartrefi gofal yn lleoedd gwell i fyw, gweithio ac ymweld â nhw. 3
Gadewch i ni fod yn gydradd
Cyflawni newid cadarnhaol Ymgynghorwyr arbenigol
Peilota dulliau newydd
Arwain y sector cymdeithasol drwy gyfathrebu’n effeithiol ag Aelodau’r Cynulliad
Rydym yn gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl hŷn ledled Cymru drwy ein gwaith dylanwadu. Cawn ein cydnabod fel arbenigwyr ym maes heneiddio, ac mae’r awdurdodau uchaf yng Nghymru wedi galw arnom am ein barn.
Ym mis Mehefin 2012, drwy ein Siarter Rhoi Diwedd ar Gam-drin, cyflwynwyd deiseb â 6,000 llofnod arni i’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol yn galw am gryfhau’r gyfraith i ddiogelu pobl hŷn. Mae ein safbwynt yn ennill cefnogaeth o bob sector yn gyflym.
Yn ystod y flwyddyn cawsom ein penodi fel ymgynghorwyr arbenigol i Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Cynulliad ar gyfer ei ymchwiliad i Ofal Preswyl i Bobl Hŷn. Fe wnaethom gyflwyno tystiolaeth lafar hefyd drwy ein rhaglen My Home Life Cymru yng Nghymru ac roeddem yn falch iawn o weld ein safbwyntiau’n cael eu hadlewyrchu yn argymhellion terfynol yr Ymchwiliad.
Yn ein cefnogaeth barhaus i Strategaeth Pobl Hŷn yng Nghymru, cafodd ein Pennaeth Polisi secondiad gan Lywodraeth Cymru i weithio ar ei drydydd cyfnod ar gyfer 2013-2023.
Fe wnaethom ddarparu cyngor arbenigol i swyddfa’r Comisiynydd Pobl Hŷn ar gyfer ei adolygiad o wasanaethau eiriolaeth mewn cartrefi gofal. Buom yn gweithio gydag Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) i ddatblygu a chyflwyno cynllun peilot ‘Ymwelydd Annibynnol’ ar gyfer gofal preswyl, gan gynnwys pobl hŷn. Fe wnaethom gefnogi ‘ymwelwyr’ i gymryd rhan drwy sicrhau eu bod yn paratoi ar gyfer pob ymweliad, ac y gallen nhw hefyd gyflwyno eu canfyddiadau yn effeithiol wrth adrodd i AGGCC. Cafodd y prosiect peilot groeso gwresog ac mae’n cael ei uwchraddio yn ystod 2013. Mae llawer o’n gwaith dylanwadu a pholisi eleni wedi canolbwyntio ar y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru). Rydym yn falch iawn bod nifer o’r hyn y galwom amdano wedi cael eu cynnwys yn y ddeddfwriaeth ddrafft.
4
Age Cymru oedd y sefydliad a sgoriodd uchaf (35.91 allan o 40) mewn ymchwil i olrhain enw da gydag Aelodau’r Cynulliad ym maes gofal cymdeithasol. Ar y cyfan cawsom y sgoriau gorau ym mhob categori o’n gwaith gydag Aelodau’r Cynulliad, gan gynnwys gwybodaeth, ymddiriedaeth ac effeithiolrwydd.
Gwaith yn y dyfodol Dylanwadu ar y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru). Tynnu sylw at y mater o dlodi ymysg pobl hŷn yng Nghymru. Lleihau nifer y bobl hŷn sy’n dioddef yn sgil sgamiau.
Gadewch i ni gael cymunedau lle gallwn fwynhau, cymryd rhan a chael ein clywed
Cyflawni’n lleol Mae rhwydwaith Age Cymru yn estyn allan at bobl ar draws Cymru. Mae gennym bartneriaid lleol gwych, a gyda’n hystâd newydd o siopau adwerthu, rydym yn cael effaith ar y stryd fawr hefyd. O Gas-gwent i Gaergybi ac o Aberteifi i Wrecsam byddwch yn gallu gweld logo unigryw Age Cymru. Mae popeth rydym yn ei gynnig yn cael ei ddatblygu a’i gyflawni yn benodol ar gyfer pobl hŷn. Mae gwasanaethau rhwydwaith Age Cymru yn amrywiol ac yn cynnwys canolfannau dydd, gwasanaethau rhyddhau o’r ysbyty, eiriolaeth, dosbarthiadau rhyngrwyd, siopa, tasgmon a chynlluniau cyfeillio. Mae ein hehangiad llwyddiannus i mewn i fentrau cymdeithasol yn hanfodol i ni allu sicrhau dyfodol cynaliadwy. Yn ychwanegol at ein siopau newydd, rydym yn cynnig yswiriant a gwasanaethau wedi’u teilwra, yn ogystal â’n gwybodaeth a’n cyngor dibynadwy, drwy ganolfannau yn y gymuned leol. Daethom ynghyd â’n partneriaid cenedlaethol yn Lloegr (Age UK), Gogledd Iwerddon (Age NI) a’r Alban (Age Scotland) i ddadansoddi darparu budd-daliadau cyffredinol ac yn ôl prawf modd ledled y Deyrnas Unedig, ac fe wnaethom ddarparu tystiolaeth i Bwyllgor Tŷ’r Arglwyddi sy’n archwilio newid mewn demograffeg.
Mae sawl Age Concern wedi mabwysiadu brand Age Cymru. Dyma ein partneriaid Age Cymru lleol: Age Cymru Afan Nedd Age Cymru Ceredigion Age Cymru Gwent* Age Cymru Gwynedd a Môn*
Age Cymru Sir Benfro (ailfrandio Mawrth 2014) Age Cymru Powys Age Cymru Sir Gâr Age Cymru Bae Abertawe*
Ein siopau elusen a mannau masnachu: Age Cymru Bangor Age Cymru Caerffili Age Cymru Caerdydd* Age Cymru Glynebwy Age Cymru yr Wyddgrug Age Cymru Mynwy
Age Cymru Pontypridd* Age Cymru Porthcawl Age Cymru Rhyl Age Cymru Shotton Age Cymru Wrecsam
Mae gwasanaethau a chynnyrch ariannol ar gael yn y mannau hyn*
Gwaith yn y dyfodol Byddwn yn datblygu ac yn darparu gwasanaeth cludo ‘HandyVan’. Byddwn yn agor canolfannau cymunedol newydd a fydd yn cyfuno presenoldeb adwerthu gydag yswiriant a gwasanaethau ar gyfer pobl dros 50 oed. Byddwn yn ehangu ein presenoldeb lleol yng Nghymru. 5
Gadewch i ni fwynhau iechyd gwell am gyfnod hirach
Cyflawni heneiddio’n iach “Gallaf nawr gerdded ymhellach ac yn gyflymach, heb golli fy ngwynt.” Dywedodd 91% o’r cyfranogwyr fod eu hiechyd wedi gwella o ganlyniad i Gerdded Nordig. “Roedd yr ystafell yn gyforiog o hwyl, egni a synnwyr cymunedol – rydw i’n herio unrhyw un i ddweud na wnaethon nhw deimlo’r emosiwn! Mae gŵyl Gwanwyn yn ddigwyddiad mor bwysig a phleserus.”
“Y perfformiad, y gweithdai, a rhyngweithio mwyaf ysbrydoledig rydw i wedi cymryd rhan ynddyn nhw erioed.”
Yn ein golwg ni, ystyr heneiddio’n iach yw gallu chwarae rhan lawn yn y gymdeithas a bod yn annibynnol gyda llawer o ddewisiadau ar gael i ni. Mae Age Cymru yn darparu cyfleoedd i fod yn weithgar, yn greadigol ac i wneud bywyd mor llawn ag y gall fod. 2012 oedd y Flwyddyn Ewropeaidd ar gyfer Heneiddio’n Egnïol ac Undod rhwng y Cenedlaethau, ac fe wnaethom hyrwyddo’r flwyddyn drwy ein gwefan ac yn y nifer o ddigwyddiadau a drefnwyd gennym ac y buom yn rhan ohonyn nhw. Amlygwyd ein gwaith i atal llithro, baglu a chwympo yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Cwympiadau hynod lwyddiannus ym mis Mehefin 2012. Cynhyrchwyd cyfres newydd o ddeunyddiau addysgiadol a gwelsom gynnydd o fwy na 300% yn nifer y digwyddiadau a gafodd eu cynnal ledled Cymru yn ystod y cyfnod hwn o ddeu ddeg mis – o 32 i 132. Fe wnaeth ein gwaith ar weithgareddau corfforol ddarparu mwy na 4,000 o sesiynau LIFT (hyfforddiant gweithredol effaith isel) a mwy na 5,000 o brofiadau Cerdded Nordig ledled Cymru. Rydym yn gwybod ein bod yn llwyddo yn yr hyn rydym yn ei wneud wrth i ni barhau i recriwtio arweinwyr cerdded o bob cwr o’r wlad, ac rydym yn cael adborth gwych. Mae Gwanwyn, ein gŵyl gelfyddydol a chreadigrwydd, yn parhau i gynnig cyfleoedd gwych i bobl hŷn fynegi eu hunain a bod yn ysbrydoliaeth i bawb. Mae Gwanwyn yn gweithio – rydym yn gwybod hynny gan fod 85% o’r bobl a roddodd adborth yn dweud eu bod yn teimlo’n fwy hyderus ar ôl cymryd rhan yn un o ddigwyddiadau
Gwanwyn. Cafodd canu, ffotograffiaeth, barddoniaeth, adrodd storïau, dawns a llawer o genres eraill eu gwerthfawrogi yn y 322 o ddigwyddiadau a gynhaliwyd, a chan y 8,600 o bobl a gymerodd ran yn 2012. Roeddem yn falch iawn o weld cynnydd mawr yng nghyfranogiad cymunedau lleiafrifoedd ethnig yn Gwanwyn. Cynhaliwyd diwrnod Gwanwyn arbennig yng Nghaerdydd gyda menywod a phlant o gymunedau Somalïaidd, Yemenïaidd, Sudaneaidd, Indiaidd, Bengalaidd, Pacistanaidd a chymunedau eraill. Fe wnaethom hefyd lansio ein prosiect ‘Shake a leg’ gyda Rubicon Dance – pecyn cymorth newydd i athrawon ac arweinwyr dawns i ysbrydoli ac annog aelodau hŷn y gymuned i gymryd rhan mewn gweithgareddau dawns.
Gwaith yn y dyfodol Byddwn yn ystyried ffyrdd o gynyddu cyfleoedd i ysbytai a lleoliadau gofal preswyl i gynnwys pobl hŷn yn y celfyddydau a chreadigrwydd. Byddwn yn tyfu ein rhwydwaith o wirfoddolwyr ac yn parhau i greu cyfleoedd i gymryd rhan. Byddwn yn parhau i ddarparu mynediad at weithgareddau heneiddio’n egnïol i gefnogi pobl hŷn i ymgysylltu a pharhau i fod mewn cyswllt â’u cymunedau. 7
Gadewch i ni gydweithio
Cyflawni gyda’n gilydd Mae pobl hŷn yn llywio ein gwaith drwy amryw o’r fforymau a rhwydweithiau rydym yn eu cynnal a thrwy’r ymchwil barhaus rydym yn ei gwneud bob blwyddyn. Mae’r safbwyntiau, y syniadau a’r materion hyn yn darparu sylfaen dystiolaeth i ni sy’n sail i’n gwaith fel ein bod yn gwybod ein bod yn mynd i’r afael â’r hyn sydd bwysicaf i bobl hŷn. Mae cydnabod cydraddoldeb ac amrywiaeth yn bwysig ac rydym yn sicrhau ein bod yn darparu ar gyfer barn pobl hŷn sydd mewn lleiafrif yng Nghymru. Fe wnaeth ein Rhwydwaith Lleiafrifoedd Ethnig Hŷn a’n Rhwydwaith Pobl Hŷn Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol recriwtio aelodau newydd, ac roedd y naill gorff a’r llall yn gysylltiedig â’r Gynghrair Cydraddoldeb a Hawliau Dynol a Bwrdd Cynllun Cydraddoldeb Strategol Llywodraeth Cymru.
Gwaith yn y dyfodol Byddwn yn sicrhau bod gwahaniaethu ar sail oedran yn cael ei herio. Byddwn yn hyrwyddo ac yn recriwtio aelodau newydd i’n rhwydweithiau. Byddwn yn rhannu’r materion sy’n wynebu pobl hŷn ac yn mynnu bod camau’n cael eu cymryd i wneud bywyd yn well.
Mae Age Cymru yn parhau i gyllido a chefnogi Cynghrair Henoed Cymru sydd â 17 o elusennau cenedlaethol yn aelodau ohoni. Rydym hefyd yn cyllido ac yn cefnogi Senedd Pobl Hŷn Cymru, gan ddod â 57 o sefydliadau pobl hŷn ynghyd. Fel rhan o’n hymrwymiad i wella bywyd ar gyfer pob unigolyn hŷn, rydym yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau a rhwydweithiau eraill fel Cartrefi i Bawb Cymru, y Gynghrair Tlodi Tanwydd a Chynghrair Cynhalwyr Cymru.
9
Gadewch i ni sicrhau ein bod yn gadarn yn ariannol
Diolch i chi am ein helpu ni i gyflawni Ystadau’r diweddar GC Bailey; LC Baldwyn; SI Collins; H Davies; T Davies; T Endall; B Evans; WJH Evans; D Hobbs; JC Howells Brown; GE Jones; J Jones; GH Ladlow; R Lowick; E Moore; MJ Owen; CE Smith; ET Wood.
Behnaz Akhgar Andy Bell
Mae’r siartiau cylch gyferbyn yn cynrychioli’r ffigurau a dynnwyd o adroddiad blynyddol llawn yr Ymddiriedolwyr a datganiadau ariannol cyfunol a gymeradwywyd gan yr Ymddiriedolwyr ac a lofnodwyd ar eu rhan ar 12 Awst 2013.
Max Boyce Derek Brockway Andrea Byrne Gwawr Edwards Arfon Haines Davies Y diweddar Brian Hibbard Rhys Ifans Siân Lloyd Roy Noble Lucy Owen Daniel Phillips Carol Vorderman
10
Hoffem ddiolch i’r rhai a enwir isod am eu cefnogaeth yn ystod 2012/13: Age UK; Cyngor Celfyddydau Cymru; Barchester Healthcare; Barclays; Burdett Trust for Nursing; Comic Relief; Fferylliaeth Gymunedol Cymru; Compare the Market; Computer World Wales; Edwards Coaches; Cymdeithas Bêl-droed Cymru; Geldards Solicitors; Grundtvig; Hugh James Solicitors; John Lewis Partnership; Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru; Roger North Long Architects; Cymdeithas Tai Taf; Vodafone; Wales and West Utilities; Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru; Llywodraeth Cymru; Undeb Rygbi Cymru; Western Power Distribution a siopau Wilkinson.
Ar 23 Awst 2013 rhoddodd Broomfield & Alexander adroddiad archwilio diamod ar y datganiadau ariannol llawn. Mae’r archwilwyr wedi cadarnhau bod y datganiadau ariannol cryno yn gyson â’r datganiadau ariannol llawn ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2013. Efallai na fydd yr adroddiadau ariannol cryno hyn yn cynnwys digon o wybodaeth i gael dealltwriaeth lawn o faterion ariannol grŵp Age Cymru. Gellir cael adroddiad llawn yr Ymddiriedolwyr, datganiadau ariannol ac adroddiad yr archwiliwr o: Age Cymru, Tŷ John Pathy, 13/14 Cwrt Neptune, Ffordd Blaen y Gad, Caerdydd, CF24 5PJ.
Incwm elusennol
Incwm elusennol Grantiau Menter gymdeithasol Adwerthu Age UK
Gwariant elusennol
Gwariant elusennol Cymynroddion, rhoddion a digwyddiadau
Dylanwadu ar bolisi ac arferion
Sefydliad cenedlaethol cynaliadwy
Arall, gan gynnwys buddsoddiadau
Gwasanaethau o ansawdd uchel
Cefnogaeth i bartneriaid
Ymgysylltu
Adwerthu
Sylfaen dystiolaeth gref
Adnoddau incwm Llywodraethu 11
Diolch Diolch yn fawr iawn i’n cannoedd lawer o wirfoddolwyr y mae eu cefnogaeth barhaus yn newid bywydau pobl hŷn er gwell. Yn ein blwyddyn lawn gyntaf o godi arian, fe wnaethom ddechrau ar raglen lawn o ddigwyddiadau gan gynnwys Hanner Marathon Caerdydd, cyngerdd Lles drwy Wres, Cinio Jiwbilî Mawr, gan ddiweddu mewn cinio gala codi arian. Fe wnaethom hefyd gynnal ein Gwobrau Age Cymru cyntaf i gydnabod y gwaith gwych a wnaed gan bartneriaid anhygoel a phobl hŷn eu hunain. Roedd pum categori, sef Ymgyrchu, Heneiddio’n Egnïol, Cyflawni’n Lleol, Gwanwyn a My Home Life Cymru. Roedd yn noson i’w chofio i bawb a oedd yno a hoffem ddiolch i bawb a roddodd o’u hamser i enwebu ar gyfer y gwobrau, pawb a fu yn unrhyw un o’r digwyddiadau a phawb sydd wedi ein cefnogi ni gyda rhoddion hael yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Tŷ John Pathy, 13/14 Cwrt Neptune, Ffordd Blaen y Gad, Caerdydd, CF24 5PJ. t 029 2043 1555 ff 029 2047 1418 e enquiries@agecymru.org.uk www.agecymru.org.uk
facebook.com/agecymru
@agecymru
Rhif elusen gofrestredig 1128436 Gellir olrhain yr holl ddyfyniadau ac ystadegau ar eich cais.