Cymer Ran - Gwanwyn 2019

Page 1

Cylchgrawn Gwirfoddolwyr Amgueddfa Cymru

cymerran Gwanwyn 2019

Ar y clawr Gwirfoddolwyr GRAFT – tudalen 4

Tu ôl i’r Llenni Adeiladu Crug o’r Oes Efydd! – tudalen 6


Cyflwyniad Croeso! Ar ddechrau 2019, hoffem ddweud diolch yn fawr iawn i’n holl wirfoddolwyr am eich gwaith caled dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae’r rhifyn hwn o gylchgrawn Cymer Ran yn bwrw golwg dros dipyn o’r gwaith gwirfoddoli gwych a wnaed ledled Amgueddfa Cymru dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae ein stori nodwedd yn sôn am GRAFT a’r Gwirfoddolwyr a fu’n brysur yn trawsnewid llecynnau glas yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau. Project celf gymdeithasol yw GRAFT a’r nod yw addysgu, cynhyrchu bwyd a bod yn llecyn glas parhaol yng nghanol dinas Abertawe. Mae’n werth i chi ymweld â’r ardd os byddwch yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau! Bydd hefyd nifer o uchafbwyntiau o Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Amgueddfa Wlân Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru ac Amgueddfa Lechi Cymru.

Ann Saer Ym mis Awst, gyda thristwch mawr, clywsom am farwolaeth un o’r bobl a fu’n gwirfoddoli gyda ni am y cyfnod hwyaf, Ann Saer. Gwnaeth Ann gyfraniad enfawr i’r Amgueddfa mewn sawl ffordd, yn cynnwys ei gwaith fel aelod o Bwyllgor Cyfeillion Amgueddfa Genedlaethol Cymru ac fel gwirfoddolwr. Roedd Ann yn ymroi i dywys pobl o gwmpas yr Amgueddfa ac roedd ymwelwyr a staff wrth eu bodd â’i holl wybodaeth, ei brwdfrydedd a’i chariad amlwg am yr Amgueddfa a’i chasgliadau. Roedd Ann yn ddiymhongar ac roedd ganddi amser i bobl eraill bob amser, roedd ganddi agwedd gadarnhaol ac fe gefnogai staff, gwirfoddolwyr a ffrindiau’n barhaus. Mae hiraeth mawr arnom am Ann.

2


Cynnwys Prif Stori 4

GRAFT: Maes llafur y pridd

Cip ar y Casgliadau

4

6

Adeiladu Crug o’r Oes Efydd

7

Project Llyfrau Sain Ffagan ar y Gweill!

8

Cwrdd â’r Staff – Kate Evans

9

Cwrdd â’r Gwirfoddolwyr – Sophie Leader

10

10 Mlynedd o Gymryd Rhan

11

Gwirfoddolwyr ar Waith

12

Newyddion a Diweddariadau

6 7 8

Cyfraniadau gan: Anca Polgar, Gwirfoddolwr, GRAFT Hywel Couch, Uwch Swyddog Addysg, Cyfranogiad a Dehongli Ruth Tooker, Gwirfoddolwr gyda’r Project Llyfrau Sophie Leader, Gwirfoddolwr, Ffotograffau Hanesyddol Kate Evans, Swyddog Gweinyddol a Chymorth Dysgu

9

Golygwyd gan Haf Neale, Cydlynydd Gwirfoddoli Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau cysylltwch â’r Cydlynydd Gwirfoddolwyr drwy e-bostio gwirfoddoli@amgueddfacymru.ac.uk

3


Prif Stori

GRAFT: Maes llafur y pridd Gan Anca Polgar, Gwirfoddolwr, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Mae GRAFT yn stori am harddwch, am ychwanegu at swyn Abertawe, am gysylltiadau trwy waith tîm a chyfeillgarwch, am roi â chalon lawen, nid am funud neu dymor yn unig, ond er mwyn creu rhodd barhaol i’r gymuned. Llwyddodd y syniad y tu ôl i GRAFT i ennyn fy niddordeb o’r cyfarfod cyntaf, pan gafodd ei gyflwyno i ni. A minnau’n fiolegydd sydd wrth fy modd yn garddio, roeddwn i’n cael fy nenu at y ddelwedd o ardd gymunedol, wedi'i chreu mewn ffordd artistig a'i chysylltu â chanmlwyddiant diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf. Daeth y project ymlaen yn hyfryd, gan ddechrau yn y gaeaf pan droesom ein blwch oren pert yn fan cyfarfod, yn gegin ac yn sied glyd. Roedd hi’n braf cael dysgu sgiliau newydd wrth baratoi ac adeiladu’r gwelyau ar gyfer yr ardd. Dyma pryd y daethom i nabod ein gilydd fel tîm.

4

Erbyn y gwanwyn, roeddem yn dechrau hau a phlannu yn y gwelyau, â gwên ar ein hwynebau a’n llygaid yn pefrio’n llawn cynnwrf wrth feddwl am y dyfodol – roeddem yn plannu hadau cyfeillgarwch a chydweithrediad. Roeddem mor hapus o weld harddwch ein gardd yn yr haf – siâp ardderchog, blodau mewn cant a mil o liwiau, persawrau cyfareddol, ond roedd hefyd yn bwydo pobl mewn angen ac yn cynnig lle i bobl dreulio amser ac ymlacio os oeddent yn awyddus i ymuno neu ddim ond picio draw.


Daeth yr hydref â llawenydd y cynhaeaf, balchder yn ein llwyddiant ac, wrth gwrs, sioe wych gan Now the Hero, a roddodd y fath bleser i ni. Rwy wedi mwynhau pob tamaid o’r project hwn – ein tîm ardderchog, yn cydweithio ac yn cyd-fwyta ac yn coginio cawl pwmpen ar gyfer y rhai a ddaeth i'r sioe. Roedd gennym arweinwyr gwych a fu’n cydweithio â ni, yn gofalu amdanom, yn dysgu cymaint o bethau i ni ac yn gofalu ein bod yn cael amser da. Roedd yn

hyfryd cael cydweithio â Chae Tân, dysgu ganddynt a mynd am dro i‘w safle ar Benrhyn Gŵyr. Roedd yn fraint cael cwrdd â phawb, a llwyddodd y tîm i sicrhau bod GRAFT yn llawn ynni cadarnhaol! Mae stori GRAFT wedi’i haddurno â darnau o’n calonnau, ein gwenau a’n chwerthin.

5


Tu ôl i’r Llenni

Adeiladu Crug o’r Oes Efydd Gan Hywel Couch, Uwch Swyddog Addysg, Cyfranogiad a Dehongli, Sain Fagan Amgueddfa Werin Cymru Os ewch am dro i Ffermdy Cilewent yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru efallai y sylwch ar rywbeth newydd yn yr ardd. Fel rhan o’r project Creu Hanes rydym wedi ail-greu Crug o’r Oes Efydd. Man claddu oedd crug ac roeddent yn cael eu codi ledled Prydain tua 4,000 o flynyddoedd yn ôl. Fel llawer o’r crugiau gwreiddiol, defnyddiwyd tywyrch i adeiladu ein crug ni ac mae'n un crwn. Er bod rhai crugiau’n mesur dros 20m ar draws, dim ond 1.5m ar draws yw ein crug ni. Roedd y crugiau’n cael eu hadeiladu i gadw gweddillion pobl ar ôl iddynt farw – yn aml, ar ôl iddynt gael eu

6

hamlosgi. Mae gweddillion wedi’u hamlosgi yn ein crug ni hefyd – llwch mochyn – ac mae yno nifer fawr o nwyddau claddu hefyd yn cynnwys dagerau efydd, crochenwaith, pen saeth a gleiniau. Bwriadwn adael y crug yn ei le am rai blynyddoedd cyn cloddio yno i weld beth sydd wedi digwydd i’r nwyddau a gladdwyd. Bu disgyblion o Ysgol Plasmawr oedd yn gweithio ar Wobr Dug Caeredin yn helpu i wneud y cynlluniau ar gyfer diwrnod yr adeiladu a diolch i’w cymorth nhw – yn ogystal â staff Amgueddfa Cymru a gwirfoddolwyr – llwyddwyd i orffen y gwaith adeiladu mewn diwrnod. Diolch yn fawr iawn i bawb am helpu!


Tu ôl i’r Llenni Mae Project Llyfrau Sain Ffagan ar y Gweill! Gan Ruth Tooker, Gwirfoddolwr ar y Project Llyfrau, Sain Fagan Amgueddfa Werin Cymru Ydych chi wedi prynu llyfr newydd ryw dro am fod y clawr yn ddeniadol, ond heb gael cyfle i ddarllen y llyfr? Euog! Oes pentwr o lyfrau hardd yn hel llwch ar y bwrdd wrth ochr eich gwely? Euog! Ydych chi’n llawn bwriadau da i glirio a didoli’r llyfrau? Gwir! Neu a ydych chi’n llyfrgarwr sy’n hoffi bargen? Dyma’ch cyfle. Mae Project Llyfrau Sain Ffagan yn barod i gymryd y llyfrau hardd oddi ar eich dwylo neu i werthu llyfr bron yn newydd i chi oddi ar ein silffoedd yng Nghaffi Sain Ffagan. Mae’r Project Llyfrau newydd yn codi arian a fydd yn cyfrannu at Amgueddfa Cymru a’i gwaith er mwyn sicrhau bod casgliadau cenedlaethol Cymru’n cael eu gwarchod a’u trysori ar gyfer yr oesoedd a ddêl. Dyma’ch cyfle chi i helpu… Os hoffech chi gyfrannu llyfrau sydd heb lawer o ôl traul, dewch â nhw i dderbynfa Amgueddfa Sain Ffagan. Ac os ydych chi’n dymuno cyfrannu at

yr ymgyrch, cewch fwynhau’r llyfrau ardderchog sydd wedi cyrraedd yn barod – yn cynnwys y clasuron, llyfrau poblogaidd, hunangofiannau, llyfrau am goginio, teithio, hobïau, a llawer mwy. Cewch roi cyfraniad wrth gymryd llyfr – mae blwch casglu ger y silffoedd. Tîm bychan o wirfoddolwyr sydd gennym ac mae’n cyfarfod bob ychydig wythnosau i drefnu’r llyfrau a llenwi’r silffoedd ac felly os yw’r silffoedd yn edrych yn wag, cofiwch ddod yn ôl eto achos rydym yn derbyn llyfrau ac yn ail-lenwi’r silffoedd yn gyson. Os oes gennych brofiad o’r math hwn o bwyllgor, byddem yn croesawu’ch awgrymiadau. Cysylltwch â gwirfoddoli@amgueddfacymru.ac.uk, a bydd rhywun yn eich rhoi mewn cysylltiad â thîm gwirfoddolwyr y Project Llyfrau. Diolch a hwyl ar y darllen!

7


Evans ru Staff: Kau, te Cwrdd â’r Cym dol a Chymorth Dysg Amgueddfa Wlân Swyddog Gweinyd

Allwch chi sôn dipyn am eich gwaith gyda’r gwirfoddolwyr yn Amgueddfa Wlân Cymru? I ddathlu Blwyddyn y Môr, Croeso Cymru bu gwirfoddolwyr yn creu groto hyfryd i gyfleu ysbryd y môr mewn gwlân. Buont yn brysur yn gwneud creadigaethau rhyfeddol y môr trwy wau, crosio a nyddu. Yn ogystal, maent wedi cyfrannu at y Llen Pabi sy’n rhan o Broject Tecstilau’r Canmlwyddiant Wonderwool Wales i nodi canmlwyddiant diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf. Eleni hefyd, cynhaliodd yr Amgueddfa eu Cyfarfod Cymunedol cyntaf mewn partneriaeth â Volunteering Matters Cymru a Chymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gâr. Yn fwyaf diweddar, buom yn cydweithio â’r gwirfoddolwyr i gynnal digwyddiad Crefftau Cyflym, sef gweithdai lle câi pobl roi cynnig ar dair crefft wahanol. Roedd y rhain yn amrywio o nyddu a chyfuno ceinciau; bachu cnu, eco-brintio, gwau a ffeltio gwlyb. Yn ogystal, cafodd ymwelwyr gyfle i ddysgu am yr ardd lle tyfir planhigion lliwio naturiol.

8

Allwch chi sôn am effaith y gwirfoddolwyr ar yr Amgueddfa a’r ymwelwyr? Mae’r gwirfoddolwyr yn cwrdd yn rheolaidd yn yr Amgueddfa ac felly mae’n gyfle gwych i gyflwyno ymwelwyr i grefftau newydd ac i sgwrsio â nhw, boed hynny trwy gwrdd â’r garddwyr sy’n trin yr ardd lle tyfir planhigion lliwio naturiol, neu bobl sydd wrthi’n brysur yn gwau, yn nyddu neu’n gwneud matiau racs. Mae’r grwpiau’n cynnig cyfleoedd i bobl leol gymryd rhan ac maent yn cyfrannu at nifer fawr o ddigwyddiadau a gweithdai gydag ymwelwyr, ysgolion a grwpiau cymunedol. Pa fudd rydych chi’n ei gael o weithio gyda’r gwirfoddolwyr a beth mae gwirfoddoli’n ei olygu i chi? Mae’n fraint cael cydweithio â gwirfoddolwyr. Maen nhw’n fy ysbrydoli ac mae eu brwdfrydedd a'u hangerdd dros eu crefftau a’r Amgueddfa yn wych! Mae’n hyfryd cael dysgu oddi wrthyn nhw ac mae’r Amgueddfa’n lle cyfoethocach o lawer oherwydd eu hymroddiad a’u sêl.


Cwrdd â’r Gwirfoddolwr: Sophie Leader Gwirfoddolwr Ffotograffau Hanesyddol, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Helo, Sophie ydw i ac rwy’n gweithio yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Yn ôl ym mis Mai, roedd project ffotograffau hanesyddol yn y llyfrgell. Fe wnes i wirfoddoli gan greu arddangosfa fechan am y project i gyd-fynd ag Wythnos Gwirfoddolwyr. Ar gyfer yr arddangosfa, es i ati i greu llinell amser o'r prif ddigwyddiadau a gafwyd yn ystod cyfnod codi’r adeilad ac roedd hynny’n ddifyr iawn. Fe wnes i ailgreu rhai ffotograffau hanesyddol o’r orielau hefyd er mwyn eu harddangos ochr yn ochr. Er mwyn tynnu sylw at

waith y gwirfoddolwyr ar y project, fe wnes i’n siŵr fy mod yn cynnwys rhai o’r hoff ffotograffau roedden nhw wedi’u cofnodi. Cynhaliwyd yr arddangosfa yng Nghanolfan Ddarganfod Clore. Hefyd, fe wnes i greu taflen helfa ffotograffau hanesyddol i’r cyhoedd ei chodi o Ganolfan Ddarganfod Clore yn ystod Wythnos y Gwirfoddolwyr. Roedd y daflen yn cynnwys ffotograffau hanesyddol o rannau o’r adeilad ac roedd angen chwilio i weld ble tynnwyd y llun. Roedd hefyd yn cynnwys ffeithiau difyr am yr adeilad. Roedd y project yn ffordd hyfryd i mi ddysgu mwy am hanes yr adeilad lle rwy'n gweithio ac yn rhywbeth gwych y gallaf ddweud fy mod wedi cymryd rhan ynddo.

9


10 Mlynedd o Gymryd Rhan Eleni mae’n 10 mlynedd o’r Rhaglen Gwirfoddoli! O Wythnos Gwirfoddoli ymlaen rydym yn gobeithio arddangos cyfraniad anhygoel gwirfoddolwyr i Amgueddfa Cymru. Eleni mae’n 10 mlynedd o’r Rhaglen Gwirfoddoli! O Wythnos Gwirfoddoli ymlaen rydym yn gobeithio arddangos cyfraniad anhygoel gwirfoddolwyr i Amgueddfa Cymru. Rydym am wneud hyn trwy arddangosfa ddigidol ac fel baner,

cyfres o blogiau, a bydd hefyd cyfle i wirfoddolwyr cymryd rhan yn ddigwyddiadau a gweithgareddau. Hoffem annog i wirfoddolwyr rannu eu straeon gwirfoddoli, yr ydym yn croesawu ym mhob cyfrwng, ffotograffau, yn ysgrifenedig, yn bersonol neu dros y ffôn. Hoffem hefyd groesawu gwirfoddolwyr i ysgrifennu erthyglau am brosiectau a gweithgareddau y maent yn cymryd rhan ynddynt. Os hoffech gyfrannu, cysylltwch ag aelod o’r Tîm Gwirfoddoli trwy ffonio 029 2057 3002 neu anfon e-bost at gwirfoddoli@amgueddfacymru.ac.uk

Diolch i chi am 2018! Yn 2018 wnaeth 1,042 o wirfoddolwyr gyfrannu 27,240 awr o amser tuag at waith Amgueddfa Cymru mewn amrywiaeth eang o ffyrdd, a dyma ychydig o uchafbwyntiau o 2018 yw: • Gwariodd gwirfoddolwyr Archwilio Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd 1,190 awr yn helpu ein hymwelwyr darganfod ein casgliad Gwyddoniaeth a Chelf. • Mae gwirfoddolwyr yn Amgueddfa Lechi Cymru wedi gwario 900 awr yn gwneud tapestri ar gyfer Llys Llywelyn yn Sain Ffagan.

10

• Mae gwirfoddolwyr crefft yn Amgueddfa Wlân Cymru wedi treulio 5,052 awr yn arddangos sgiliau traddodiadol a chrefft i ymwelwyr. • Treuliodd gwirfoddolwyr yn Big Pit 81 awr yn cefnogi'r Fforwm Pontio’r Cenedlaethau. • Gwariodd gwirfoddolwyr Cadwraeth Hanesyddol Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru 285 awr yn helpu i warchod gwrthrychau yn ein hadeiladau hanesyddol. • Wnaeth gwirfoddolwyr Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru treulio 51 awr yn garddio yn yr Ardd Rufeinig tra bod yr Amgueddfa ar gau ar gyfer trwsio’r to.

Gan Haf Neale, Cydlynydd Gwirfoddoli, Amgueddfa Cymru


2.

1.

Gwirfoddolwyr ar Waith

4. 3.

5.

1. Gwirfoddolwyr Sŵoleg 2. Clwb Crefftau yn creu bunting 3. Garddio Rhufeinig yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru 4. Gwirfoddolwyr yn y Parti Gaeaf 5. Glanhau cadwraeth hanesyddol

11


Newyddion a Digwyddiadau • Bydd Dippy, cast eiconig yr Amgueddfa Hanes Natur o Diplodocus, yn mynd ar daith o gwmpas Prydain gan gyrraedd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ym mis Hydref. Mae arnom ni angen gwirfoddolwyr i helpu felly cadwch lygad am gyfleoedd i gymryd rhan! • Rhwng 1 a 7 Mehefin, bydd yn Wythnos Gwirfoddolwyr yn y Deyrnas Unedig – cyfle i ddweud diolch yn fawr am gyfraniad gwych gwirfoddolwyr. Byddwn yn trefnu gwahanol weithgareddau ledled Amgueddfa Cymru. • Cofiwch, os ydych chi rhwng 14 a 25 oed ac eisiau cael mwy o lais a chyfrannu at brojectau ar hyd a lled yr amgueddfa, gallwch ymuno â fforwm ieuenctid heddiw! E-bostiwch fforwm.ieuenctid@amgueddfacymru .ac.uk am fwy o wybodaeth.

12

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli yn Amgueddfa Cymru, edrychwch ar ein gwefan neu cysylltwch â’r Tim Gwirfoddoli i ddysgu am leoliadau a chyfleon newydd. Rydyn ni’n hysbysebu pob rôl wirfoddol yn gyhoeddus er tegwch i bawb. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am unrhyw beth yn y cylchlythyr, cysylltwch â’r Cydlynydd Gwirfoddolwyr drwy e-bostio gwirfoddoli@amgueddfacymru.ac.uk neu ffonio 029 2057 3002

I glywed y newyddion a’r cyfleon diweddaraf, dilynwch ni ar

b @amgueddfavols

W www.facebook.com/amgueddfavols


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.