Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru Project Creu Hanes St Fagans National History Museum Making History Project
Cynnwys / Contents
01
Y Clawr / Front Cover 1 2 3
4
Ein gweledigaeth Our vision
02
Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru St Fagans National History Museum
04
06
Pam ailddatblygu Sain Ffagan? Why redevelop St Fagans?
Cynllun safle Site plan
08
Y casgliadau The collections
10
Amgueddfa gyfranogol A participatory museum
12
1. Abernodwydd Farmhouse, Llangadfan, Powys. Build 1678, re-erected 1955 2. Interior detail, St Teilo’s Church, Llandeilo Tal-y-Bont. Built c.13th century re-erected 2007 3. Young people learning heritage skills as part of the Creative and Cultural Skills Scheme 4. Head of Llywelyn the Great from Deganwy Castle in Conwy
Y Prif Adeilad The Main Building
14
16
Orielau Dyma yw Cymru a Dyma yw Byw Wales is… and Life is… galleries
18
Y Clawr Cefn / Back Cover
20
1. F fermdy Abernodwydd, Llangadfan, Powys. Adeiladwyd 1678, ailgodwyd 1955 2. Manyl-lun, tu mewn i Eglwys Sant Teilo, Llandeilo Tal-y-bont. Adeiladwyd tua 13eg ganrif, ailgodwyd 2007 3. Pobl ifanc yn dysgu sgiliau treftadaeth, rhan o’r Cynllun Sgiliau Creadigol a Diwylliannol 4. Pen Llywelyn Fawr o Gastell Deganwy yng Nghonwy
1
2 3
4
1. C astell Sain Ffagan. Adeiladwyd 1580, agorwyd i’r cyhoedd 1947 2. Aelodau o’r cyhoedd yn archwilio’r casgliadau 3. Dannedd Palaeolithig wedi’u haddurno o Ogof Kendrick, Conwy 4. Sefydliad y Gweithwyr, Oakdale, Caerffili. Adeiladwyd 1916, ailgodwyd 1995 1. St Fagans Castle. Built 1580, opened to the public in 1947 2. Members of the public exploring the collections 3. Palaeolithic decorated teeth from Kendrick’s Cave in Conwy 4. Oakdale Workmen’s Institute, Caerphilly. Built 1916, re-erected 1995
Yr Atriwm Courtyard atrium
Canolfan Addysg Centre for Learning
Ar y safle Out on site
Y Gweithdy Gweithdy
22
Llys Rhosyr a Bryn Eryr Llys Rhosyr and Bryn Eryr
24
Adeiladau hanesyddol a thirwedd Historic buildings and landscape
26
Rhannu sgiliau a gwirfoddolwyr Skills-sharing and volunteers
28
Y camau nesaf Next steps
30
Cymorth Support
32
02
Ein gweledigaeth Prin yw’r llefydd sy’n llwyddo i adlewyrchu hunaniaeth y Cymry i’r fath raddau â Sain Ffagan. Ym 1948, agorodd ei drysau i’r cyhoedd – dyma oedd amgueddfa awyr agored cenedlaethol cyntaf y Deyrnas Unedig. Roedd yn arloesol am ei bod yn rhoi bywydau’r werin bobl wrth wraidd ein hanes: o’r cychwyn cyntaf, roedd yn torri cwys newydd. Y gorffennol yw sylfaen ein bywydau. Mae’n rhaid i ni ddeall ein hanes er mwyn bod yn rhan o gymdeithas gyfoes a gwneud penderfyniadau cytbwys am ein dyfodol. Mae casgliad cyfoethog Sain Ffagan yn taflu goleuni ar fywydau pobl y gorffennol. Ond mae hefyd yn amgueddfa gyfoes lle mae diwylliant yn broses fyw; mae’n lle i bobl rannu eu straeon, eu profiadau a’u sgiliau mewn amgylchedd cymdeithasol a chroesawgar. Mae Sain Ffagan yn lle i enaid gael llonydd, i borthi’r meddwl, i droi eich llaw at grefft ac i godi’r galon. Hanfod Sain Ffagan yw’r cysyniad bod creadigrwydd yn rhan annatod o’n bodolaeth. Dros chwarter miliwn o flynyddoedd, y creadigrwydd hwn sydd wedi galluogi pobl Cymru i ddefnyddio adnoddau naturiol y wlad i oroesi newidiadau yn yr hinsawdd, rhyfel, argyfyngau ariannol a chwyldro cymdeithasol, a datblygu traddodiadau diwylliannol cyfoethog – o’r llafar i’r cerddorol, ac o lenyddiaeth i gelf. Pan agorwyd Sain Ffagan ym 1948, roedd Cymru’n wlad dra gwahanol i’r Gymru sy’n gyfarwydd i ni heddiw. Erbyn hyn, mae angen amgueddfa arnom sy’n adlewyrchu bywyd trigolion y trefi diwydiannol ac ôl-ddiwydiannol yn ogystal â chefn gwlad, a’r mewnfudwyr diweddar yn ogystal â’r cymunedau hirsefydlog. Rydym yn cychwyn ar ddatblygiad blaengar fydd yn cadw i’r oesoedd a ddêl amgueddfa awyr agored hoff ein hymwelwyr, ond yn gweddnewid y safle er mwyn creu amgueddfa fydd yn adrodd holl hanes ein cenedl.
Yn y cyhoeddiad hwn, fe gewch amlinelliad o’n cynlluniau uchelgeisiol dros y pum mlynedd nesaf gan gynnwys ymestyn ac ailwampio’r prif adeilad, y gerddi a’r tiroedd. Bydd orielau newydd, canolfan addysg ac allestyn arloesol ar gyfer ysgolion a chymunedau, ac adeilad newydd yn y goedwig ar gyfer sgiliau traddodiadol a chyfoes. Byddwn yn defnyddio archaeoleg arbrofol i ail-greu adeiladau coll o bwys hanesyddol ar y safle. Credwn y bydd Sain Ffagan ymhlith amgueddfeydd hanes gorau’r byd, ac yn cadarnhau lle Cymru fel cenedl gyfoes, amlddiwylliannol ar y llwyfan rhyngwladol.
David Anderson Cyfarwyddwr Cyffredinol
03
Our vision Few places define Welsh identity as profoundly as St Fagans. Opened in 1948 as the first national open-air museum in the United Kingdom, it was pioneering in placing the lives of the people of Wales at the heart of its portrayal of history. The past is the foundation of our lives. An understanding of history is essential if we are to participate in contemporary society and make informed decisions about our futures. St Fagans is rich in objects that illuminate our understanding of people’s lives in the past. But it is also a contemporary museum, one in which culture is a living process, and where people can share their stories, life experiences and skills in a welcoming and sociable environment. St Fagans is a place for feeling as well as thinking. At the core of St Fagans is the concept that humans are naturally creative. It is this creativity that has enabled the people who have lived in Wales to use its natural resources, over a quarter of a million years, to survive changes in climate, war, economic crises and social upheavals, and to develop cultures rich in oral traditions, music, literature and art. Wales today is a very different country from the Wales of 1948 when the Museum opened. The nation now needs a museum that reflects the lives of people living in industrial and post-industrial towns as well as rural areas, and of recent migrants as well as long established communities. We are embarking on a visionary development that will preserve everything that visitors love about St Fagans as an open-air site, while transforming it to become a national museum of history for Wales.
This publication outlines our ambitious plans over the next five years during which time redevelopments will see the main building, gardens and grounds extended, with new galleries, an innovative centre for learning and outreach for schools and communities, and a new building in the woods devoted to traditional and contemporary skills. Lost buildings of historical significance will be reconstructed through experimental archaeology. We believe that St Fagans will become one of the great museums of history, defining Wales as a contemporary multi-cultural nation, connected to the wider world.
David Anderson Director General
04
Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
1
Dafliad carreg o’n prifddinas, saif Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru – safle hanesyddol mwyaf poblogaidd Cymru. Daw mwy na 600,000 o bobl yma bob blwyddyn. Mae’n un o saith amgueddfa genedlaethol yng Nghymru, sydd at ei gilydd yn llunio Amgueddfa Cymru. Saif amgueddfa Sain Ffagan yn nhiroedd can erw plasty Elisabethaidd o’r unfed ganrif ar bymtheg, a gyflwynwyd yn rhodd i’r genedl gan Iarll Plymouth. Ailgodwyd dros ddeugain o adeiladau hanesyddol o bob cwr o Gymru yma sy’n ein helpu i ddeall sut y bu pobl yn byw, yn gweithio ac yn hamddena trwy’r oesau. Mae gweithgareddau ac arddangosiadau crefft ymarferol ar gael ar hyd y safle er mwyn rhoi cipolwg i ymwelwyr ar dreftadaeth a diwylliant cyfoethog Cymru. Ymhlith yr adeiladau mwyaf poblogaidd mae teras o dai fu’n gartrefi i weithwyr haearn Merthyr Tudful; Eglwys Sant Teilo, a ailgodwyd fel eglwys Gatholig ganoloesol yn ardal Abertawe’r unfed ganrif ar bymtheg; Abernodwydd, ffermdy ffrâm bren a tho gwellt o Bowys a ailgodwyd ym 1951 ac a oedd ymhlith yr adeiladau cyntaf yn Sain Ffagan; ysgol Fictoraidd o Geredigion; a Sefydliad y Gweithwyr, Oakdale, o Gaerffili, gafodd ei adeiladu yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
I ddilyn ôl troed eich cyndeidiau, eistedd a phendroni ger y tân, bwyta bara ffres ac ymgolli yn hanes Cymru – dyma brofiad arbennig iawn. Sain Ffagan yw un o fy hoff lefydd yn y byd. Cerys Matthews Cerddor, awdur, darlledydd
Delweddau 1. T ai gweithwyr haearn Rhyd-y-car, Merthyr Tudful. Adeiladwyd tua 1800, ailgodwyd 1987 2. Sefydliad y Gweithwyr, Oakdale, Caerffili. Adeiladwyd 1916, ailgodwyd 1995 3. S iop Gwalia, Cwm Ogwr, Pen-y-bont ar Ogwr. Adeiladwyd 1880, ailgodwyd 1991 4. F fermdy Kennixton, Llangynydd, Penrhyn Gwˆ yr, Abertawe. Adeiladwyd 1610, ailgodwyd 1955 5. T u mewn i Eglwys Sant Teilo gan gynnwys murluniau a chroglen
05
St Fagans National History Museum
2
3
Located a few miles outside Cardiff, St Fagans National History Museum is Wales’s most popular historical site, with over 600,000 visitors per year. It is one of seven museums across Wales that together form Amgueddfa Cymru – National Museum Wales. St Fagans is set in 100 acres of parkland in the grounds of a sixteenth-century Elizabethan manor house, which was donated to the people of Wales by the Earl of Plymouth. It has over 40 historic buildings relocated from across the country, telling the stories of how people have lived, worked and spent their leisure time. Practical activities and demonstrations of traditional crafts across the site help visitors gain insights into the rich culture and heritage of Wales. The most popular buildings include a terrace of six iron-workers’ houses from Merthyr Tydfil; St Teilo’s Church, reconstructed as a sixteenth-century medieval Catholic church from the Swansea area; Abernodwydd, a timber-framed thatched farmhouse from Powys and one of the first buildings re-erected at St Fagans in 1951; a Victorian school from Ceredigion and Oakdale Workmen’s Institute from Caerphilly, built during the First World War.
4
5
To walk in the footsteps of your forefathers, sit and ponder by an open fire, eat freshly-baked bread and revel in Wales‘s history is a very special experience. Sain Ffagan is one of my favourite places in the world. Cerys Matthews Singer-songwriter, author, broadcaster
Images 1. R hyd-Y-Car iron-workers’ houses, Merthyr Tydfil. Built c.1800, re-erected 1987 2. O akdale Workmen’s Institute, Caerphilly. Built 1916, re-erected 1995 3. G walia Stores, Ogmore Vale, Bridgend. Built 1880, re-erected 1991 4. K ennixton Farmhouse, Llangynydd Gower, Swansea. Built 1610, re-erected 1955 5. I nterior of St Teilo’s Church featuring wall paintings and rood screen
06
Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru Pam ailddatblygu Sain Ffagan?
1
Er mai dyma safle hanesyddol mwyaf poblogaidd a llwyddiannus ein gwlad, nid yw’r cyfleusterau a’r gwasanaethau bellach yn bodloni anghenion cyfoes. Dyluniwyd y prif adeilad, a gwblhawyd ddeugain mlynedd yn ôl, i groesawu 100,000 o ymwelwyr y flwyddyn – sy’n sylweddol is o gymharu â niferoedd heddiw. Dros y ddau ddegawd diwethaf, bu buddsoddiad preifat a chyhoeddus dihafal mewn amgueddfeydd ac mae safon orielau a rhaglenni addysg y Deyrnas Unedig bellach gyda’r gorau yn y byd. Mae gan ymwelwyr yr hawl i ddisgwyl yr un safon yn amgueddfa hanes genedlaethol Cymru.
Felly, nodau cyffredinol y project yw gweddnewid Sain Ffagan trwy: ailwampio’r Prif Adeilad yn llwyr gan greu orielau newydd o safon ryngwladol, gofod ar gyfer arddangosfeydd dros dro, canolfan addysg eang a chyfoes a chanolfan ymchwil i’r casgliadau codi adeiladau newydd ar draws y safle gan gynnwys adeilad cynaliadwy ar gyfer crefftau a chreu ac ail-greu dau adeilad coll sydd o bwys hanesyddol yn seiliedig ar dystiolaeth archaeolegol agor a datblygu mwy o’r parcdir hanesyddol ac adeiladau nag erioed o’r blaen sicrhau mwy o fynediad, corfforol ac ar-lein, at y casgliadau a gwella’r adnoddau digidol.
Rwy’n credu y bydd y project yn creu amgueddfa o bwys rhyngwladol, a bydd yn borth i gyrchfannau diwylliannol ym mhob cwr o Gymru – bydd yn Amgueddfa i holl drigolion Cymru a’r byd. Elisabeth Elias Llywydd, Amgueddfa Cymru
Delweddau 1. Y Prif Adeilad, pen deheuol a chanopi arfaethedig y mynediad. Braslun, tua 1985 2, 3. Aelodau o’r cyhoedd yn mwynhau Sain Ffagan
07
St Fagans National History Museum Why redevelop St Fagans?
2
The Museum is already Wales’s most popular and successful historical site, but its facilities and services no longer meet contemporary needs. Its main building, completed forty years ago, was designed to accommodate 100,000 visitors each year, a fraction of the number who now visit. The unprecedented scale of public and private investment in other museums over the last two decades has meant that the standards of gallery displays and learning programmes in museums across the United Kingdom are now among the highest in the world. Visitors are entitled to expect that Wales’s national museum of history is of international quality.
3
The overarching aims of the project are to transform St Fagans by: totally refurbishing the Main Building with new galleries of an international standard, a temporary exhibition space, an extensive contemporary centre for learning and a collections research centre constructing new buildings across the site including a sustainable building for craft and making, and reconstructing two significant, lost buildings from archaeological evidence opening up and developing more of the historic landscape and buildings than ever before creating greater physical and online access to the collections and enriched digital resources
I believe that this project will create a Museum that is of truly international significance, and will be a gateway to other cultural destinations across Wales – a Museum for all the people of Wales and the world. Elisabeth Elias President, Amgueddfa Cymru – National Museum Wales
Images 1. Main Building, south elevation and proposed entrance canopy. Sketch c. 1985 2, 3. Members of the public at St Fagans
08
Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru Cynllun safle
7
8
6
9
09
St Fagans National History Museum Site plan
2
1 5
4
3
Allwedd 1. Ailwampio’r Prif Adeilad a’r atriwm 2. Canolfan Addysg 3. Oriel Dyma yw Cymru 4. Oriel Dyma yw Byw 5. Mannau chwarae 6. Y Gweithdy 7. Ail-ddehongli Sefydliad y Gweithwyr, Oakdale 8. Llys Rhosyr – Llys un o Dywysogion Gwynedd 9. Bryn Eryr – Fferm o’r Oes Haearn
Key 1. Main Building refurbishment and the courtyard atrium 2. Centre for Learning 3. Wales is… gallery 4. Life is… gallery 5. Play area 6. Gweithdy 7. Reinterpretation of Oakdale Workmen’s Institute 8. Llys Rhosyr Medieval Princes’ court 9. Bryn Eryr Iron Age farmstead
10
Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru Y casgliadau
1
Bydd Sain Ffagan ar ei newydd wedd yn amgylchedd unigryw ar gyfer addysg. Am y tro cyntaf erioed yn unrhyw le, bydd casgliadau archaeoleg a hanes gwerin, diwylliant a diwydiant yn cael eu harddangos gyda’i gilydd mewn amgueddfa awyr agored. Bydd arddangosfeydd arloesol, adeiladau hanesyddol, ailgreadau archaeolegol a gweithgareddau rhannu sgiliau yn rhoi’r allwedd i ni ddatgloi potensial ein casgliadau sydd o safon ryngwladol. Bydd yr orielau newydd yn arddangos casgliadau sy’n ein cysylltu’n uniongyrchol â phrofiadau trigolion Cymru dros filoedd o flynyddoedd. Caiff yr ymwelydd archwilio eitemau sy’n adrodd hanesion amrywiol ein gwlad ac ymateb iddynt: o weddillion prin pobl Neanderthalaidd i dystiolaeth lafar am atgofion ein hoes; o gampweithiau’r Oes Haearn, megis brigwrn Capel Garmon, i sgiliau diymhongar y gof gwledig; o gofebau Cristnogol y canoloesoedd cynnar i ddelwau o dduwiau Hindwˆ. Mae rhai o’r gwrthrychau’n gwbl unigryw, heb eu tebyg yn y byd, ac eraill yn arbennig oherwydd eu cyffredinedd pur.
Er ei bod fwyaf adnabyddus i’r cyhoedd am yr adeiladau hanesyddol a ailgodwyd yno, mewn gwirionedd Sain Ffagan yw cartref y casgliad mwyaf cynhwysfawr ac eang am fywyd beunyddiol ar Ynysoedd Prydain. Ei chasgliad o ddodrefn gwledig yw’r gorau ym Mhrydain, a cheir cyfoeth o wybodaeth yn y casgliadau bywyd diwylliannol – cerddoriaeth, llên gwerin a thraddodiadau – a gwisgoedd, amaeth a chrefft. Dr Eurwyn Wiliam, MA, Ph.D, FSA Cadeirydd, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru Delweddau 1. Detholiad o hetiau o’r casgliad gwisgoedd 2. Ffrog briodas a wisgwyd gan June Tibbles ar achlysur ei phriodas â Terry Lewis ar 13 Mehefin 1970 3. Siphonia / Potel Lofruddio. Cofrestrwyd patent am y tro cyntaf yn y DU ym 1855 4. Modrwy aur 15fed ganrif o Raglan, Sir Fynwy 5. Brigwrn o’r Oes Haearn, Capel Garmon, ger Llanrwst, gwnaed tuag OC 1-100
11
St Fagans National History Museum The collections
2
The redeveloped St Fagans will create a unique environment for learning. For the first time anywhere, national collections of archaeology and cultural, industrial and social history will be displayed together in an open-air museum. Innovative exhibitions, authentic historical buildings, archaeological reconstructions and skills-sharing activities will unlock the potential of our world class collections. The new galleries will draw on collections that enable us to connect directly to the experiences of those who have lived in Wales over many thousands of years. The visitor will be able to explore and respond to items which tell diverse stories about Wales: from rare remains of early Neanderthal people to the spoken testimonies of people within living memory; from Iron Age masterpieces such as the Capel Garmon firedog to the unsung skills of country blacksmiths; from the early medieval Christian monuments to effigies of Hindu gods. Some of the collections are internationally unique, while for others their fundamental significance is in their very ordinariness.
3
4
5
Although best known to the public for its re-erected historical buildings, St Fagans in fact holds the most comprehensive and wideranging collection dealing with daily life in the British Isles. Its collection of country furniture is the best in Britain, whilst those of costume, agriculture and crafts, and cultural life – music, folklore and customs – represent a treasure-trove of knowledge. Dr Eurwyn Wiliam, MA, Ph.D, FSA Chairman, Royal Commission on the Ancient and Historical Monuments of Wales
Images 1. A display of hats from the costume collections 2. W edding dress worn by June Tibbles on her wedding to Terry Lewis on 13 June 1970 3. S iphonia / Murder Bottle. First patented in the UK in 1855 4. 15th century gold ring from Raglan, Monouthshire 5. Iron Age firedog from Capel Garmon, near Llanrwst, made around 1-100 AD
12
Amgueddfa gyfranogol
1
Dros y blynyddoedd, ffurfiwyd Sain Ffagan trwy haelioni a chymorth ymarferol nifer fawr o bobl, o Gymru a thu hwnt. Mae’n amgueddfa gyfranogol ar raddfa genedlaethol. Wrth edrych tua’r dyfodol, byddwn yn adeiladu ar y sylfaen gadarn hon er mwyn creu amgueddfa sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl. Bydd yn lle i bawb rannu gwybodaeth, casgliadau a sgiliau a chreu hanes gyda’i gilydd. Ymgynghorwyd â 200 o sefydliadau yn y lle cyntaf. Rydym yn parhau i weithio gyda naw fforwm cyfranogol er mwyn datblygu ein syniadau ar gyfer arddangosfeydd a gweithgareddau. Mae’r ystod amrywiol o bobl sy’n rhan o hyn yn genhadon ac yn hyrwyddwyr hollbwysig yn eu cymunedau. Llwyddir i ddatblygu’r project diolch i gymorth a chyfraniad ystod eang o bobl: o drigolion y cymunedau o gwmpas yr Amgueddfa i sefydliadau cyhoeddus a’r trydydd sector, sector y celfyddydau a diwylliant a’r rheini sy’n cynrychioli amrywiaeth cymunedau Cymru.
Un o’r problemau gyda chynrychioli grwpiau amrywiol yw bod pobl yn meddwl am amrywiaeth fel peth newydd. Rhaid i ni gyfleu hanes amrywiaeth, a hanes Cymru fel gwlad amrywiol. Aelod o’r Fforwm Amrywiaeth
Delweddau 1. Gweithgareddau cyfranogol ar y safle 2. Disgyblion yn cymryd rhan mewn perfformiad awyr agored 3. Pobl ifanc yn helpu staff yr Uned Adeiladau Hanesyddol 4. Aelodau o’r gymuned yn dysgu sut i goginio pice ar y maen 5. Oedolion sy’n dysgu Cymraeg yn gweithio gyda chasgliadau Sain Ffagan
13
A participatory museum
2
3
Over the years, St Fagans has been created through the practical help and generosity of many people from Wales and beyond. It is a participatory museum on a national scale. Going forward, we will build on this to create a museum that makes a difference to people’s lives – a place where everyone can share knowledge, collections and skills and make history together. From the 200 organizations initially consulted, we are continuing to work with nine participatory forums to develop our ideas for exhibitions and activities. The diverse range of people involved are vital ambassadors and champions within their communities. The development of the project is made possible with the support and involvement of a broad range of people: from those communities directly surrounding the Museum to organizations from the public and third sectors, the arts and cultural sectors and those representing the diversity of communities across Wales.
4
5
One problem with representing diverse groups is that people think diversity is new. We need to capture the history of diversity and Wales as a diverse country. Member of the Diversity Forum
Images 1. Participatory activities on site 2. Pupils taking part in an outdoor performance 3. Young people helping staff from the Historic Buildings Unit 4. Members of the local community learning how to make Welsh cakes 5. Welsh learners working with the St Fagans collections
14
Y Prif Adeilad
1
Rhan allweddol y project yw ailwampio’r Prif Adeilad. Er iddo ennill y Wobr Aur yn Eisteddfod Genedlaethol 1978, mae treigl amser wedi effeithio ar gadernid y bensaernïaeth wreiddiol ac nid yw’r adeilad bellach yn addas ar gyfer amgueddfa ac ymwelwyr yr unfed ganrif ar hugain. Bydd y Prif Adeilad yn cael ei weddnewid trwy osod to ar y libart presennol er mwyn creu atriwm a chanddo fynedfa newydd. Bydd y cyfleusterau i ymwelwyr yn cynnwys derbynfa newydd, siop, caffi, bydd gwell mynediad i’r orielau a’r ganolfan addysg ar y llawr cyntaf ac arwyddion gwell i weddill y safle.
[Bydd Sain Ffagan] yn ddarlun byw o’r gorffennol, yn ddrych o elfennau ein Cymreictod presennol, ac yn ysbrydoliaeth i ddyfodol ein gwlad. Iorweth Peate Y Curadur Cyntaf, Sain Ffagan, 1948
Ochr yn ochr â’r gwaith o ddatblygu’r Prif Adeilad, bydd adeiladau newydd yn cael eu hadeiladu ar y safle.
Delweddau 1. Y Prif Adeilad wedi’i orffen, 1976 2. Yr estyniad arfaethedig tu cefn i’r Prif Adeilad
15
The Main Building
2
The complete redevelopment of the Main Building is key to realising the project. Despite winning the Gold Award at the 1978 National Eisteddfod, over time the original architectural integrity has been compromised and the building does not meet twenty-first century museum and visitor expectations. The Main Building will be transformed by roofing the present courtyard to create a covered atrium with a new entrance. Visitor facilities will include a new reception desk, shop and cafĂŠ, with improved access to the galleries and the Centre for Learning on the first floor, and orientation to the rest of the site.
As a picture of the past and a mirror of the present, it [St Fagans] will be an inspiration for our country’s future: from it will radiate energy to vitalize Welsh life. Iorweth Peate First Curator, St Fagans, 1948
Alongside the development of the Main Building, new buildings will be constructed on site.
Images 1. The completed Main Building, 1976 2. Proposed extension to the rear of the Main Building
16
Y Prif Adeilad Yr Atriwm
1
Trwy osod to newydd ar y libart canolog presennol, byddwn yn creu gofod mawr, cyffrous, uchder dwbl a mynediad i bob rhan o’r adeilad. Bydd yr ardal groesawgar yn gweddu’r adeilad cyfredol a bydd modd i ymwelwyr symud o lefel i lefel yn hawdd. Bydd ffurfiau crog o adeiladau yn creu argraff wrth gyrraedd ac wrth adael yr adeilad. Bydd yr atriwm yn ofod eiconig ac yn gyfle i ymwelwyr gynllunio’u hymweliad a dilyn trywyddau’r safle.
Mae’n bwysig bod gofod cyfeirio rhyngweithiol da yn yr adeilad newydd er mwyn gwybod lle rydych chi, beth sydd yma a sut i’w gyrraedd. Aelod o’r Fforwm Ieuenctid
Delweddau 1. Darlun o’r Atriwm newydd 2. Darlun o’r ffurfiau crog mawr yn yr Atriwm
17
The Main Building Courtyard atrium
Sain Ffagan St Fagans
Cymru Wales
2
A new roof over the existing central courtyard will create a large, exciting, double-height space with access to all parts of the building. This welcoming area will complement the existing building and visitors will be able to circulate easily from one level to the next. It will create a thought-provoking first and last impression of St Fagans with large-scale hanging installations. The new courtyard atrium will be an iconic space where visitors can get their bearings, plan their visit and navigate the site.
It’s important that there is a good interactive orientation space in the new building, [to know] where you are, what’s here and how to get there. Member of the Youth Forum
Images 1. Visualization of the new courtyard atrium 2. Visualization of the large-scale hanging installations in the courtyard atrium
18
Y Prif Adeilad Orielau Dyma yw Cymru a Dyma yw Byw
1
Bydd dwy oriel newydd yn dod â chasgliadau cenedlaethol hanes ac archaeoleg at ei gilydd i lunio safbwyntiau o’r newydd am hanes Cymru. Ynghyd â gofod newydd ar gyfer arddangosfeydd dros dro, byddant yn gyfle i ni ddatblygu ffyrdd newydd o adrodd hanes ein casgliadau a rhoi cyfle i eraill fod yn rhan o’r storïa. Dyma yw Cymru – mae Cymru’n golygu llawer o bethau i lawer o bobl, heddiw fel erioed. Bydd yr oriel hon yn rhoi cipolwg i ni ar adegau yn hanes Cymru – o 230,000 o flynyddoedd yn ôl hyd heddiw. Bydd gwrthrychau o’r casgliadau yn ysgogi ymwelwyr i feddwl ac yn eu hannog i lunio, archwilio, cofnodi a rhannu eu safbwyntiau nhw am Gymru. Bydd llinell amser tu allan i’r oriel er mwyn i ymwelwyr gamu trwy’r oesau a deall lle casgliadau’r Amgueddfa yn hanes ein cenedl.
2
Dyma yw Byw – dyma oriel am fywydau’r bobl. Mae llawn cymaint o gyfoeth hanesyddol ym manylion bywyd beunyddiol ag sydd yn nigwyddiadau mawr yr oes. Wrth i ymwelwyr gamu i amgylchedd sy’n gyforiog o gasgliadau, bydd y teimlad cyfarwydd hwnnw’n eu taro’n syth – o’u blaenau bydd trugareddau bob dydd, ond o edrych eto, cawn glywed straeon y gorffennol. Y gwrthrychau fydd ein drych i’r bobl â’u defnyddiodd, yn ein cysylltu ni â hynt a helynt pobl eraill drwy’r oesau. Caiff ymwelwyr gyfrannu at arddangosiadau ac ychwanegu straeon ac atgofion i’n cipolwg ar fywyd yng Nghymru.
3
Bydd yr orielau’n lle i bawb deimlo pwysigrwydd eu presenoldeb a’u cyfraniad. Aelod o’r gymuned leol
Delweddau 1. Cwilt clytwaith a wnaed yn Wrecsam rhwng 1842-1852 gan y teiliwr James Williams 2, 4, 7. Brasluniau cychwynnol y Dylunydd Oriel (Event) ar gyfer orielau Dyma yw Cymru a Dyma yw Byw 3. Cistwely, tua 1790-1830 5. Baner swffragét, “Tros Ryddid” 6. Crochan o’r Oes Haearn o Lyn Fawr, Rhondda Cynon Taf 8. Arch garreg Rufeinig, Gwndy, Sir Fynwy
19
The Main Building Wales is… and Life is… galleries
4
5
6
Two new galleries will bring together the national collections of history and archaeology to create fresh perspectives on Welsh history. Together with a new temporary exhibition space, they will enable us to develop new ways of telling stories about our collections and involve others in the storytelling. Wales is… many things to many people, now and across time. This gallery will capture moments in the history of Wales from 230,000 years ago to the present. Thought-provoking items from the collections will act as a springboard for visitors to shape, explore, record and share their own opinions about Wales. Outside the gallery will be a timeline where visitors can walk through history, understanding where the Museum’s collections sit in the broad sweep of time.
7
8
Life is… personal not national. History is as much about the details of people’s daily existence as it is about national events. Entering an environment rich in collections, visitors will get an immediate sense of things that are familiar – things that reflect the routines of life but on closer inspection reveal a surprising depth of time. Objects will be presented as evidence of the people who used them, wormholes that connect us to the lives and concerns of other people. Visitors will be able to contribute to displays, adding stories and memories to the snapshots of life in Wales.
The galleries will be a place where everyone feels that their presence and contribution means something. Local resident
Images 1. Patchwork quilt made in Wrexham 1842-1852 by tailor James Williams 2, 4, 7. Gallery designer’s (Event) preliminary sketches for Wales is… and Life is… galleries 3. Press bed, c.1790-1830 5. Suffragette banner, “Tros Ryddid” (For Freedom). 6. Iron Age cauldron from Llyn Fawr in Rhondda Cynon Taf 8. Roman stone coffin from Undy in Monmouthshire
20
Y Prif Adeilad Canolfan Addysg
1
Yr Amgueddfa yw darparwr addysg tu allan i’r ystafell ddosbarth mwyaf Cymru, ac rydym yn bwriadu cynyddu nifer yr ymweliadau addysg â Sain Ffagan 40 y cant. Byddwn yn ateb anghenion y cyhoedd ehangach, mwy amrywiol – ysgolion, teuluoedd, pobl ifanc, myfyrwyr, oedolion, grwpiau cymuned ac ymchwilwyr arbenigol, o Gymru a thu hwnt. Bydd y Ganolfan Addysg newydd yn rhoi wyth gwaith yn fwy o le i ni ac yn gosod addysg wrth wraidd yr Amgueddfa. Bydd tri gofod gweithgaredd hyblyg er mwyn archwilio’r casgliadau trwy addysg greadigol a chwarae, rhannu sgiliau, trafod a chydweithio fel cymuned. Bydd y Ganolfan hefyd yn cynnwys awditoriwm 120 sedd, canolfan mynediad at gasgliadau er mwyn archwilio casgliadau wrth gefn yr Amgueddfa a thystiolaeth lafar, a derbynfa anffurfiol er mwyn croesawu ymwelwyr. Drwy annog archwilio teimladau a defnyddio’r dychymyg, byddwn yn hybu dysg gyda’r pwyslais ar ddysgu drwy chwarae, mwynhau a defnyddio’r synhwyrau. Trwy gynnal gweithgareddau a digwyddiadau ym mhob cwr o’r safle a defnyddio’n casgliadau a’n harchifau mewn ffyrdd creadigol, byddwn yn creu cyfleoedd bythgofiadwy i ddysgu sgiliau newydd.
Rwy’n chwilio am rywbeth gwahanol, rhywbeth na allwn ni ei ddarparu… Mae gallu trin a thrafod pethau, yn enwedig pethau all fod yn gwbl newydd i’r bobl ifanc, yn brofiad gwahanol. Mae’r agwedd hon ar ddysgu’n bwysig. Rydw i am eu llusgo i ffwrdd o sgrin y cyfrifiadur a’r ffôn symudol. Cydlynydd Cymunedau yn Gyntaf, Pont-y-gwaith
Delweddau 1. Darlun o ofod gweithgaredd 2. A elod o’r cyhoedd yn mwynhau gweithgareddau crefft 3. Ymwelwyr ifanc yn archwilio byd natur 4. D arlun o grwpiau ysgol yn defnyddio gofod gweithgaredd newydd
21
The Main Building Centre for Learning
2
The Museum is the largest learning provider outside of the classroom in Wales and we intend to increase learning visits at St Fagans by 40 per cent. We will serve the needs of a broader and more diverse public – schools, families, young people, students, adults, community groups and specialists conducting research from Wales and beyond. The new Centre for Learning will provide an eightfold increase in space and will place learning at the heart of the Museum. Three flexible activity spaces will provide facilities for exploring the collections through creative learning and practical play, skill sharing, discussion and community collaboration. The Centre includes a 120-seat auditorium, a collections access centre for studying the Museum’s reserve collections of artefacts and oral testimonies, and an informal reception area to receive visitors. We will recapture feeling and imagination as a path to knowledge. The emphasis will be on learning through participation, enjoyment and the use of all the senses. Through events and activities across the site, as well as the creative use of our archives and collections, we will provide unforgettable opportunities to learn new skills.
3
4
I guess I’m looking for something different, something we can’t provide… Being able to touch and handle things, especially things that the young people may not have encountered before, offers a different experience. This learning aspect is important. I want to drag the young people away from the computer screen and mobile phone. Communities First Co-ordinator, Pontygwaith
Images 1. Visualization of an activity space 2. Member of the public enjoying craft activities 3. Young visitors exploring nature 4. Visualization of school groups using a new activity space
22
Ar y safle Y Gweithdy
1
Bydd y Gweithdy yn adeilad eiconig, amlbwrpas a chynaliadwy. Bydd yr oriel/gofod gweithgaredd newydd hwn yn dathlu sgiliau crefftwyr ddoe a heddiw, ac yn annog ymwelwyr o bob oed i brofi crefftau traddodiadol. Bydd gweithgareddau’n dod â phobl at ei gilydd er mwyn iddynt allu cymryd ysbrydoliaeth o gynnyrch crefftwyr y gorffennol a defnyddio’r gofod hyblyg i greu arteffactau sy’n adlewyrchu eu bywydau a’u profiadau nhw.
Gwych! Mae’r projectau newydd sydd ar y gorwel yn swnio’n ddiddorol, fe all wneud byd o wahaniaeth i grefft yng Nghymru. Unigolyn oedd yn cymryd rhan mewn diwrnod agored crefft
Bydd cyfleusterau addysg y Gweithdy yn cynnwys gofod gweithgaredd gwlyb i rannu arbenigedd ag ymwelwyr trwy, er enghraifft, gyrsiau crefft, gweithdai gwyddoniaeth ac arbrofion archaeolegol. Bydd gofod gweithgaredd awyr agored dan ganopi hefyd, a chanddi efail barhaol ar gyfer arddangosiadau gwaith metel a gweithgareddau crefftau trwm eraill. Gerllaw, byddwn yn adeiladu gofod digwyddiadau awyr agored ar gyfer perfformiadau a gwyliau.
Delweddau 1. Darlun o du allan y Gweithdy 2. Braslun y Dylunydd Oriel (Event) o ofod yr oriel yn y Gweithdy 3. Cadair durniedig, 16eg-17eg ganrif 4. Llestr gwasael Ewenni 5. Creu crochenwaith 6. Powlenni a chleddyf pren o’r Oes Haearn, bryngaer Breiddin, ger y Trallwng
23
Out on site Gweithdy
2
3
4
Gweithdy (the Welsh word for workshop), will be an iconic, multi-purpose sustainable building. This new gallery/activity space will celebrate the skills of makers past and present, and encourage visitors of all ages to experience traditional skills first-hand. Activities will bring people together, allowing them to draw inspiration from the products of past craftspeople and use the flexible space to make artefacts that reflect their own lives and experience.
5
6
Fantastic! The new project sounds so interesting, it could make a world of difference to craft in Wales. Participant in a craft open day
Gweithdy’s learning facilities will include a wet activity space to share expertise with visitors through, for example, craft courses, science workshops and archaeological experiments. The structure will also have a canopied outdoor activity space with a built-in forge for metalwork demonstrations and other heavy crafts activities. Adjacent to the building, an open-air events space will be constructed for outdoor performance and festivals.
Images 1. V isualization of Gweithdy exterior 2. G allery Designer’s (Event) sketch of gallery space in Gweithdy 3. T urned chair, 16th-17th century 4. Ewenny Wassail Bowl 5. Pottery making 6. Iron Age wooden bowls and sword from the Breiddin hill fort, near Welshpool
24
Ar y safle Llys Rhosyr a Bryn Eryr
1
Bydd parth archaeoleg awyr agored yn cael ei greu yn y goedwig hanesyddol. Yma, byddwn yn ail-greu dau adeilad o Ynys Môn. Llys Rhosyr – llys un o Dywysogion Gwynedd Bydd y project hwn i ail-greu’r neuadd fawr a adeiladwyd tuag OC 1200 ymhlith y projectau archaeolegol mwyaf cyffrous a heriol a welwyd yng Nghymru. Bydd y muriau cerrig naw metr o daldra a’r to gwellt a phren anferth yn creu cyfleoedd am brentisiaethau a lleoliadau hyfforddi gydag ein Huned Adeiladau Hanesyddol. Wedi i ni gwblhau’r gwaith, bydd modd i ni groesawu ysgolion a grwpiau cymuned o Fôn i Fynwy i aros dros nos yn yr Amgueddfa.
Bryn Eryr – fferm Oes Haearn Un o’r adeiladau cyntaf i gael ei gwblhau fydd Bryn Eryr, fferm sy’n seiliedig ar safle archaeolegol o gyfnod goresgyniad y Rhufeiniaid. Bydd yr anheddiad gwledig yn cynnwys dau dyˆ crwn a chanddynt furiau clai chwe throedfedd o ddyfnder a thoi gwellt mawr siâp côn. Yn ein helpu i adeiladu’r fferm bydd cannoedd o wirfoddolwyr, disgyblion ysgol a thrigolion y cymunedau cyfagos yn Nhrelái a Chaerau. Gan gydweithio â’n tîm adeiladu ni, byddant yn codi’r waliau clai, yn ein helpu i ddehongli hanes y tai ac yn ailddarganfod hanes bywydau’r trigolion gwreiddiol.
Byddai aros dros nos yn Llys Rhosyr yn wych. Byddai’n gwneud gwahaniaeth mawr i ysgolion gogledd Cymru... bydd rhan o’n treftadaeth ni yn Sain Ffagan. Athro Ysgol Gynradd sy’n rhan o’r Fforwm Cyfranogol
Delweddau 1. Darlun o Lys Rhosyr – llys un o Dywysogion Gwynedd ym 1200 2. Darlun o fferm Oes Haearn Bryn Eryr yn Sain Ffagan
25
Out on site Llys Rhosyr and Bryn Eryr
2
The historic woodland will see the creation of an open-air archaeology zone and the re-imagining of two buildings from Anglesey. Llys Rhosyr – a Medieval Princes’ court The reconstruction of the great hall from Llys Rhosyr in Anglesey, north Wales, built around 1200 AD, will provide one of the most exciting and challenging archaeological projects attempted in Wales. With nine-metre high stone walls and a thatched timber roof, the building of the court will provide apprenticeships and trainee placements to work with our Historic Buildings Unit. Once completed, schools and community groups from across Wales will, for the first time, be able to stay overnight at the Museum.
Bryn Eryr – an Iron Age farmstead One of the first buildings to be completed will be Bryn Eryr, a farmstead based on an archaeological site from the time of the Roman conquest. This rural settlement will consist of two roundhouses built with six-foot thick clay walls and large conical thatched roofs. The farmstead will be built with the help of hundreds of volunteers, school children and members of neighbouring communities in Ely and Caerau. Together with our own building team, they will raise up the clay walls, help interpret the history of the houses and rediscover the lives of its original inhabitants.
Having a sleepover in Llys Rhosyr would be amazing. It would make a real difference to the schools in north Wales... it would really bring a part of our heritage to St Fagans. Participatory Forum Primary School Teacher
Images 1. Visualization of Llys Rhosyr – a Medieval Princes’ court as it would have looked in 1200 2. Visualization of how Bryn Eryr Iron Age farmstead will look in St Fagans
26
Ar y safle Adeiladau hanesyddol a thirwedd
1
Roedd Sefydliad y Gweithwyr, Oakdale, wrth wraidd ei gymuned ac mae’n dal i fod ymhlith adeiladau mwyaf poblogaidd Sain Ffagan. Byddwn yn dehongli’r adeilad o’r newydd ac yn archwilio rôl y sefydliadau hyn drwy’r oesau. Bydd yr adeilad yn ganolfan gweithgarwch unwaith eto ac yn rhan ganolog o gymuned Sain Ffagan. Y gwaith yn Oakdale fydd cam cyntaf rhaglen o ailddehongli’r holl adeiladau hanesyddol, gan ddod â’u hanes yn fyw a’u gosod yn eu lle yn hanes Cymru. Byddwn yn tirlunio’r safle er mwyn creu llwybrau clir ac yn gwella’r arwyddion er mwyn cynnig dewis o lwybrau fydd yn agor mwy o’r parcdir i ymwelwyr nag erioed o’r blaen. Byddwn yn creu man chwarae newydd hefyd.
Rydw i wedi mwynhau mas draw. Rydw i’n mwynhau bob tro. Ers amser, rydw i wedi bod yn teimlo’n isel ac yn ddigalon, ac mae gwirfoddoli yn Sain Ffagan a gwneud rhywbeth adeiladol wedi codi fy nghalon. Rydw i’n dechrau dod dros yr iselder ac mae gwirfoddoli yma’n rhoi hwb i mi. Hoffwn i barhau i ddod yma cyhyd ag y bydd angen fy nghymorth. Gwirfoddolwr gyda’r Uned Adeiladau Hanesyddol a’r Fferm
Bydd y project yn defnyddio technolegau digidol o amgylch y safle er mwyn i ymwelwyr gael manteisio i’r eithaf ar eu profiadau. Yn unol â’r arian fydd ar gael, bydd Tafarn y Vulcan o Gaerdydd, Gorsaf Heddlu Ffynnon Taf a Gorsaf Drenau Rhaglan yn cael eu hailgodi a bydd yr adeiladau poblogaidd hyn yn ychwanegu at yr arddangosiadau awyr agored.
Delweddau 1. Rhan o Fap Arolwg Ordnans, 1968 2. Yr Uned Adeiladau Hanesyddol yn datgymalu Tafarn y Vulcan yng Nghaerdydd 3. Cychwyn ar y gwaith o symud Gorsaf Drenau Rhaglan i Sain Ffagan 4. Sefydliad y Gweithwyr, Oakdale
27
Out on site Historic buildings and landscape
2
3
Oakdale Workmen’s Institute was the focal point of its community and remains one of the most popular buildings at St Fagans. New interpretation will explore the role of institutes through time and the building will become central to activity again and at the heart of the community of St Fagans. This work at Oakdale will begin a programme of re-interpreting all of the historic buildings, bringing them to life and integrating them into the overall story of Welsh history. The grounds will be landscaped to create clear orientation and improved signage will offer a choice of routes, opening up more of the parkland than ever before. A new play area will be created.
4
I’ve loved it. I enjoy myself every time I come. I’ve been down and depressed for a while and volunteering at St Fagans and doing something constructive has cheered me up. I’m coming out of my depression all the time and volunteering here is boosting me. I’d love to keep going for as long as I’m needed. Historic Buildings Unit and Farm Volunteer
The project will make use of digital technologies around the site for visitors to make the most of their experience. As funds allow, the Vulcan Public House from Cardiff, the Police Station from Taffs Well and the Train Station from Raglan will be re-erected and these popular buildings will add to the open-air displays.
Images 1. Extract from Ordinance Survey Map, 1968 2. The Historic Buildings Unit dismantling the Vulcan Public House in Cardiff 3. Raglan Train Station as work begins to move it to St Fagans 4. Oakdale Workmen’s Institute
28
Rhannu sgiliau a gwirfoddolwyr
1
Mae’r Amgueddfa’n darparu lleoliadau gwaith a llwybrau i gyflogaeth i bobl ifanc ac mae ein contractwyr wedi ymrwymo i rannu sgiliau trwy greu cyfleoedd am brentisiaethau, profiad gwaith a lleoliadau. Rydym yn gweithio gyda noddwyr a sefydliadau partner o’r trydydd sector a’r sector cyhoeddus i lunio a chynnal cymuned o wirfoddolwyr.
Rydw i am i fy myfyrwyr ddod yma a theimlo eu bod yn rhan o’r stori, nid yn ymweld â hi’n unig. Cyn Bennaeth Gweithredol Ffederasiwn Glyn Derw a Michaelston
Mae’r rhaglenni hyn yn newid diwylliant datblygu sgiliau ac arferion gwaith yr Amgueddfa. Maent hefyd yn creu cyfleoedd i bobl sydd ar ymylon cymdeithas neu wedi’u hallgau. Dim ond trwy broject ailddatblygu ar y raddfa hon y gellir gwireddu’r dull newydd hwn o weithio. Gydag amser, byddwn yn ei ymestyn i weddill ein hamgueddfeydd. Bydd Sain Ffagan yn defnyddio adnoddau diwylliannol i helpu pobl, a phlant a phobl ifanc yn benodol, i ddarganfod doniau newydd, codi eu golygon a datblygu sgiliau byw.
Delweddau 1. M yfyrwyr Ffederasiwn Glyn Derw a Michaelston yn gweithio ar Eglwys Sant Teilo 2. U nigolyn ifanc o gymuned leol Trelái a Chaerau yn dysgu sut i ddefnyddio plethwaith a chlai 3. G wirfoddolwr wrth ei waith yng ngardd lysiau Fferm Abernodwydd 4. U nigolion yn cymryd rhan yn y Cynllun Sgiliau Creadigol a Diwylliannol
29
Skills-sharing and volunteers
2
The Museum is providing work placements and routes into employment for young people, and our contractors are committed to skills-sharing by providing opportunities for apprentices, work experience and placements. We are working with funders and partner organizations from the third and public sectors to create and sustain a community of volunteers.
3
4
I want my students to come here and feel part of the story, not just visitors to it. Former Executive Head Teacher The Glyn Derw and Michaelston Federation
These programmes are bringing a culture change in skills development and working practices within the Museum and providing opportunities for people who are marginalised or socially excluded. This new way of working can only be realized through a project on a scale such as this. In time it will be extended to our other six museums. St Fagans will use cultural resources to enable people, particularly children and young people, to discover new talents, raise their aspirations and develop life skills.
Images 1. S tudents from The Glyn Derw and Michaelston Federation working on St Teilo’s Church 2. A young person from the local Ely and Caerau community learning to apply wattle and daub 3. A volunteer works on the kitchen garden at Abernodwydd Farm 4. P articipants from the Creative and Cultural Skills Scheme
30
Y camau nesaf
1
2
Bydd y gwaith ar y prif adeilad a’r Gweithdy yn cychwyn tua dechrau 2014 ac yn para am ddwy flynedd a thair blynedd, yn eu tro. Bydd y gwaith ar y parcdir, adeiladau hanesyddol a dehongli yn parhau drwy gydol y project ac yn gorffen yn 2018 yn barod ar gyfer pen-blwydd deg a thrigain yr Amgueddfa. Mae arolwg effaith economaidd annibynnol wedi dangos y byddai Sain Ffagan ar ei newydd wedd yn denu chwarter miliwn yn fwy o ymwelwyr bob blwyddyn, gan gynnal hanner cant o swyddi parhaol ychwanegol, cynhyrchu £3.8 miliwn ychwanegol y flwyddyn i’r economi leol a rhanbarthol a chreu 1,000 o gyfleoedd i wirfoddolwyr dros bum mlynedd y project. Ond, er pwysigrwydd y buddion economaidd hyn, mae’r project yn arwyddocaol am resymau eraill. Bydd Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru yn sefydliad cenedlaethol newydd i Gymru ac yn ddrych o’n safle ni, a’n hunaniaeth unigryw, ar y llwyfan rhyngwladol. Bydd yr Amgueddfa’n fodel newydd i amgueddfeydd hanes yr unfed ganrif ar hugain.
3
4
Bydd effaith y project unigryw hwn ar dwristiaeth a’r diwydiannau cysylltiedig, sydd mor bwysig i ffyniant hirdymor Cymru, yn sylweddol. Rwy’n falch o fod yn rhan o’r gwaith o’r cychwyn cyntaf. Victoria Provis Ymddiriedolwr Amgueddfa Cymru a Chadeirydd y Bwrdd Datblygu
Delweddau 1. Y saer coed yn ailadeiladu to Eglwys Sant Teilo 2. A il-greu’r paentiadau ar gyfer croglen Eglwys Sant Teilo 3. A elodau’r Fforwm Cyfranogol 4. Y mwelwyr ifanc yn mwynhau’r adeiladau hanesyddol 5. A elodau’r Fforwm Ieuenctid yn trafod gwrthrychau i’w cynnwys yn yr orielau newydd 6. O edolion sy’n ddysgwyr yn trafod y casgliadau 7. G wirfoddolwyr yn gwyngalchu’r waliau 8. P eintiwr arbenigol yn defnyddio technegau traddodiadol
31
Next steps
5
6
Work on the Main Building and Gweithdy will start in 2014 and last for two and three years respectively. Work on the historic buildings and landscape and interpretation will continue throughout the project, finishing in 2018 in time for the Museum’s seventieth anniversary. An independent economic impact analysis has shown that the redevelopment of St Fagans, once completed, will attract a quarter of a million more visitors each year, sustaining fifty additional permanent jobs, generating an extra £3.8 million during the building work in the local and regional economy and creating 1,000 volunteer opportunities over the five-year project. But important though these economic benefits will be, this project is significant for other reasons. St Fagans National History Museum will be a new national institution for a Wales that is emerging as a nation with its own identity on the world stage, and one that will be a new model for history museums in the twenty-first century.
7
8
The impact of this unique project on the tourism and related industries, so vital to the long term prosperity of Wales, will be significant. I am delighted to have been involved from the very beginning. Victoria Provis Trustee, Amgueddfa Cymru – National Museum Wales and Chair of the Development Board
Images 1. The carpenter rebuilding the roof of St Teilos Church 2. Recreating the paintings for the rood screen in St Teilo’s Church 3. Members of a participatory forum 4. Young visitors enjoying the historic buildings 5. Members of the Youth Forum discussing objects for inclusion in the new galleries 6. Adult learners discuss the collections 7. Volunteers white-washing the walls 8. Specialist painter using traditional techniques
32
Cymorth Support Mae Sain Ffagan wedi fy swyno ers oeddwn i’n blentyn ac felly mae’n anrhydedd i ni gael y cyfle i gyfrannu at y datblygiadau pwysig fydd yn sicrhau y caiff ein hwyrion hefyd y cyfle i gael eu swyno ganddi. John a Gail Withey Aelodau sylfaenol y Cylch Cyfrannu
St Fagans has been a source of wonder to me since my childhood and it is therefore a great honour for us to have the opportunity to contribute to the important developments that will ensure St Fagans continues to be a source of wonder to our grandchildren. John and Gail Withey Founder members of the Gift Circle
Gyda’r grant mwyaf erioed a ddyfarnwyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri yng Nghymru, cymorth sylweddol gan Lywodraeth Cymru a rhoddion hael eraill, rydym bellach wedi cychwyn ar ymgyrch fawr i godi gweddill y nawdd sydd ei angen arnom.
With the largest grant from the Heritage Lottery Fund ever awarded in Wales, significant Welsh Government support and other generous leading gifts we have now embarked on a major campaign to raise the final funding that we need.
Os hoffech ragor o wybodaeth am gefnogi’r datblygiadau yn Sain Ffagan, cefnogi Amgueddfa Cymru neu i gofrestru ar gyfer ein rhestr bostio, cysylltwch â:
For further information about supporting developments at St Fagans, Amgueddfa Cymru – National Museum Wales or to join our mailing list for news and events please contact:
Swyddfa Datblygu Amgueddfa Cymru Parc Cathays Caerdydd Cymru, CF10 3NP Y Deyrnas Unedig
The Development Office Amgueddfa Cymru – National Museum Wales Cathays Park Cardiff Wales, CF10 3NP United Kingdom
+44 (0)29 2057 3184 datblygu@amgueddfacymru.ac.uk
+44 (0)29 2057 3184 development@museumwales.ac.uk
Delwedd Clocsio traddodiadol yn ystod digwyddiad cyhoeddus
Image Traditional clog dancing display during a public event
Mae Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn elusen gofrestredig, rhif 525774, ac wedi’i chofrestru dan y Ddeddf Diogelu Data.
The National Museum of Wales is a registered charity, number 525774 and is registered under the Data Protection Act.
Dylunio / Design: elfen.co.uk
Prif noddwyr y project / Principal project funders
www.amgueddfacymru.ac.uk www.museumwales.ac.uk Hydref / October 2013