HYDREF 2012
Cylchgrawn i Alumni a Chyfeillion Prifysgol Bangor
BANGOR I’R BYD Proffil rhyngwladol Prifysgol Bangor yn codi
03/04/05 NEWYDDION 06 FFIOEDD 07 WYTHNOS RAG 60AU 09 PONTIO 10/11 DIGWYDDIADAU 12/13 RHOI I FANGOR 15 ALUMNI YN Y GEMAU OLYMPAIDD
Cwrdd â’r tîm Datblygu a Chysylltiadau Alumni!
croeso
Kristen Gallagher, Pennaeth Datblygu a Chysylltiadau Alumni Ffôn: +44 (0)1248 382004 E-bost: k.gallagher@bangor.ac.uk
Croeso i rifyn diweddaraf y Bangoriad. Mae'r rhifyn hwn yn canolbwyntio ar brofiad y myfyriwr wrth i ni edrych yn ôl ar brofiadau un cyn-fyfyriwr o godi arian yn y 60au; ceir hefyd ynddo newyddion ar sut mae'r Brifysgol yn datblygu i ateb anghenion myfyrwyr heddiw.
Mae Kristen yn gyfrifol am strategaethau a rheoli rhaglenni codi arian a chysylltiadau alumni, ac i sicrhau rhoddion mawr ar gyfer ymgyrchoedd codi arian y Brifysgol, gan gynnwys ar gyfer y Ganolfan Celfyddydau ac Arloesi. Bethan Perkins, Swyddog Datblygu Alumni Ffôn: +44 (0)1248 388332 E-bost: b.w.perkins@bangor.ac.uk
Rydym yn diolch i¹r rhai ohonoch sydd wedi rhoi i¹r Brifysgol ar ein tudalennau Cofrestr Rhoddwyr. Rydym yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth yn fawr iawn. Mae’r tîm Datblygu a Chysylltiadau Alumni yn ffarwelio â'n Swyddog Rhoddion Mawr Kirsty Thomson yr hydref yma. Bydd Kirsty, sydd wedi bod ym Mangor ers dros ddwy flynedd, yn gadael ar gyfer rôl newydd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae llawer o'n cyn-fyfyrwyr a chyfeillion wedi cyfarfod Kirsty, ac rwy'n siwr y byddant yn ymuno â ni wrth ddymuno iddi bob lwc ar gyfer y dyfodol. Rydym wrth ein bodd clywed oddi wrthych chi, felly cadwch mewn cysylltiad gyda'ch manylion cyswllt newydd a datblygiadau yn eich gyrfaoedd. Gellwch lenwi a dychwelyd y daflen cyfeiriad amgaeedig neu roi gwybod i ni ar-lein ar: www.bangor.ac.uk/alumni Rydym yn gobeithio cwrdd â chymaint ohonoch â phosib dros y flwyddyn i ddod, ac yn gobeithio y byddwch yn mwynhau'r rhifyn hwn o’r Bangoriad. Dymuniadau gorau, Bethan Perkins Swyddog Datblygu Alumni Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni Prifysgol Bangor Bangor Gwynedd LL57 2DG DU Ffôn: + 44 (0)1248 388332 / 382020 Ffacs: +44 (0)1248 383268 e-bost: alumni@bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/alumni Prifysgol + 44 (0)1248 351151
Gair gan
YR IS-GANGHELLOR
Rwy'n agosáu at fy nhrydedd flwyddyn fel Is-ganghellor ym Mhrifysgol Bangor ac yn ystod y cyfnod rydym wedi gweld newidiadau sylweddol mewn Addysg Uwch ar lefel genedlaethol a hefyd yma ym Mangor. Mae adeiladu wedi dechrau ar y Ganolfan Celfyddydau ac Arloesi newydd ac rydym yn gweithio'n agos gyda grwpiau cymunedol ar y project. Rydym hefyd yn edrych ymhellach a chynyddu recriwtio myfyrwyr o bob cwr o'r byd a buddsoddi ynn ein cyfleusterau a’n gwasanaethau i fyfyrwyr rhyngwladol. Ein nod yw rhoi addysg a phrofiad o’r ansawdd gorau i’n myfyrwyr, yn ogystal â’r sgiliau sydd eu hangen i symud ymlaen ar ôl iddynt raddio. Mae cefnogaeth barhaus ein alumni, cyfeillion a chyfranwyr yn ffactor pwysig i wella ein Prifysgol. Rwyf bob amser yn mwynhau cwrdd â'n cyn-fyfyrwyr, naill ai ym Mangor neu mewn mannau eraill o gwmpas y byd, ac yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth amhrisiadwy i ddarparu profiad dysgu ardderchog i’n myfyrwyr a hyrwyddo Prifysgol Bangor. Rydym yn ddiolchgar iawn i'r rhai ohonoch sy'n rhoi i'r Brifysgol, naill ai drwy gefnogi Gronfa Bangor neu drwy roi eich amser yn wirfoddol i gefnogi myfyrwyr presennol mewn ffyrdd sy’n eu helpu i gael swyddi o safon ar ôl iddynt adael Bangor. Mae eich cyfraniad yn gwneud gwahaniaeth sylweddol. Rydym yn gobeithio eich bod yn teimlo'n falch o'ch cysylltiad â Bangor fel cyn-fyfyrwyr ac y byddwch yn parhau i fod yn llysgenhadon i’r Brifysgol. Cadwch mewn cysylltiad.
Mae Bethan yn gyfrifol am gynnal cysylltiadau ag alumni Prifysgol Bangor, yn cynnwys CPGC, y Coleg Normal a Choleg y Santes Fair, gan drefnu digwyddiadau ac aduniadau, gweithio gyda gwirfoddolwyr o blith yr alumni, a rhoi newyddion diweddaraf y Brifysgol i gyn-fyfyrwyr. Emma Marshall, Swyddog Rhoi Blynyddol Ffôn: +44 (0)1248 382594 E-bost: e.marshall@bangor.ac.uk Mae Emma yn gyfrifol am Gronfa Bangor (y Gronfa Flynyddol gynt) ac ymgyrchoedd codi arian eraill. Mae hyn yn cael ei wneud drwy ddatblygu cysylltiadau ag alumni a grwpiau eraill. Paula Fleck, Gweinyddwraig Datblygu Ffôn: +44 (0)1248 382020 E-bost: p.fleck@bangor.ac.uk Mae Paula yn gyfrifol am weinyddu yn y swyddfa, gan gynnwys cyllid, ymchwil a chynorthwyo'r tîm yn ei holl fentrau codi arian a digwyddiadau.
Cydnabyddiaethau: Mae’r cyhoeddiad hwn ar gyfer cyn-fyfyrwyr, staff a chyfeillion o Brifysgol Bangor. Hyd eithaf ein gwybodaeth, roedd yr erthyglau sydd wedi’u hargraffu yma yn gywir adeg mynd i’r wasg. Nid yw’r safbwyntiau a fynegir yn y cylchgrawn hwn o anghenraid yn eiddo i Brifysgol Bangor na’r Golygydd. Am ganiatâd i atgynhyrchu unrhyw erthygl, cysylltwch â’r Golygydd. Gwarchod Data: Cedwir data am alumni yn ddiogel a chyfrinachol yng nghronfa ddata alumni’r Brifysgol yn y Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni i’r diben o hybu cysylltiadau agosach rhwng y Brifysgol a’i chynfyfyrwyr. Mae’r data ar gael i adrannau academaidd a gweinyddol y Brifysgol i’r diben o hyrwyddo cysylltiadau agosach â chyn-fyfyrwyr, yn ogystal â chyda chymdeithasau cydnabyddedig y Brifysgol.
Am fwy o fanylion ewch i: www.bangor.ac.uk/alumni (c) Prifysgol University 2012
3 Cymrodoriaethau er anrhydedd 2012 Yn ystod y seremonïau graddio eleni, derbyniodd naw o bobl Gymrodoriaeth er Anrhydedd: Yr Athro Steve Jones, Athro Geneteg yng Ngholeg Prifysgol Llundain (UCL) Yr Athro Tony Jones CBE, cyn Ganghellor School of the Art Institute of Chicago Yr Athro Malcolm Evans OBE, un o gyfreithwyr rhyngwladol mwyaf nodedig Prydain
www.bangor.ac.uk/news
NEWYDDION BANGORIAD
Terence David Hands CBE, Cyfarwyddwr Clwyd Theatr Cymru Yr Athro Catherine McKenna, Athro ym Mhrifysgol Harvard sydd yn allweddol yn y cysylltiadau rhwng rhaglenni Astudiaethau Celtaidd Bangor a Harvard Dr Gwyneth Lewis, Bardd Cenedlaethol cyntaf Cymru rhwng 2005 a 2006 John Sessions, actor ac awdur, a chyn-fyfyriwr o Fangor
ALUMNI BANGOR YN LANSIO GWASANAETH DNA UNIGRYW
Y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Barry Jones, cyn Aelod Seneddol Alun a Glannau Dyfrdwy a gweinidog yn y llywodraeth, cyn-fyfyriwr o’r Coleg Normal Bleddyn Wynn-Jones, perchennog Gerddi Fferm Crûg ger Caernarfon
Mae dau o raddedigion Bioleg Môr Prifysgol Bangor wedi lansio gwasanaeth storio DNA unigryw i berchnogion anifeiliaid anwes. Gall y gwasanaeth hwn ychwanegu at y wybodaeth sydd ar ficrosglodion neu hyd yn oed eu disodli. Cred Richard Storey a Daniel Struthers, sydd wedi sefydlu cwmni PetGen, mai dyma’r unig gwmni yn y byd sy’n ymwneud ag echdynnu DNA a’i storio i ddibenion diogelu ac adnabod anifeiliaid anwes ac atal eu lladrata. Cafodd Richard y syniad o sefydlu’r busnes tra oedd yn astudio am radd Meistr mewn Ecoleg ym Mangor. Wrth astudio geneteg anifeiliaid, sylweddolodd Richard fod yna fwlch yn y farchnad ar gyfer dull DNA o adnabod anifeiliaid anwes. Gan ddefnyddio offer arbennig sy’n hawdd ei ddefnyddio, gall perchnogion gymryd swab ceg o’u hanifail anwes a’i bostio at PetGen, lle caiff ei drin a’i storio am hyd at 50 mlynedd a’i ychwanegu i’w cronfa ddata. Am fwy o wybodaeth, ewch i: www.petgen.co.uk
GWOBRAU AMGYLCHEDDOL Prifysgol Bangor yw’r Brifysgol fwyaf ‘gwyrdd’ yng Nghymru, yn ôl ’People and Planet’, sef y rhwydwaith myfyrwyr mwyaf ym Mhrydain sy’n ymgyrchu i ddod â thlodi byd-eang i ben, cefnogi hawliau dynol ac amddiffyn yr amgylchedd.
O’r chwith i’r dde: Yr Athro Catherine McKenna, John Sessions a Dr Gwyneth Lewis
BRYN TERFEL Ym mis Chwefror anrhydeddwyd Bryn Terfel CBE gyda Doethuriaeth er Anrhydedd o Brifysgol Bangor am ei gyfraniad i gerddoriaeth. Dywedodd Dr David Roberts, Cofrestrydd Prifysgol Bangor, “Heb os, Bryn Terfel yw un o lysgenhadon mwyaf adnabyddus Cymru a’r canwr opera gorau i’r wlad erioed ei gynhyrchu. Mae’r Brifysgol yn falch iawn o allu gwobrwyo unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad arbennig i fyd cerddoriaeth – ac wrth wneud hynny yn rhoi Cymru a Gwynedd ar y map.” Dychwelodd Bryn yn ôl i Fangor ym mis Mai i gynnal cyngerdd arbennig, wedi ei noddi gan Quilter ac Arts and Business Cymru, ar achlysur canmlwyddiant Neuadd Prichard-Jones. Perfformiodd y canwr enwog gyda saith o dderbynwyr gwobr Ymddiriedolaeth Bryn Terfel, a sefydlwyd i gefnogi artistiaid ifanc ar ddechrau eu gyrfaoedd.
Yng Nghynghrair 2012, a gyhoeddwyd ym mhapur newydd ‘The Guardian’, roedd Bangor ar y brig o blith prifysgolion Cymru, a hefyd wedi codi yn y Gynghrair o safle 28 i safle 19 yng ngwledydd Prydain. Mae’r Brifysgol hefyd wedi ennill Lefel 5 Safon Amgylcheddol y Ddraig Werdd, am ei hymroddiad i gyflawni gwelliannau amgylcheddol parhaus. Am ragor o wybodaeth am berfformiad amgylcheddol y Brifysgol ewch i: www.bangor.ac.uk/sustainability Bryn Terfel (chwith) a’r Is-ganghellor
4 MENTER TRWY DDYLUNIO
Mae deugain o fyfyrwyr Prifysgol Bangor wedi cymryd rhan mewn cystadleuaeth i ennill gwobrau ariannol er mwyn datblygu eu cynnyrch arloesol eu hunain yn barod i'r farchnad. Heriwyd myfyrwyr i ddylunio nwydd, o’r syniad gwreiddiol i’r prototeip, ac i roi cyflwyniad yn hyrwyddo’r cynnyrch i banel o feirniaid.
≤
Gosodwyd her eleni gan DMM, cwmni o Lanberis sy’n dylunio a chynhyrchu offer dringo a mynydda. Gwahoddodd DMM y timau i gynnig ‘cynnyrch newydd i blant dringwyr’. Dyfarnwyd £5,000 o bunnau i dîm buddugol ‘Carnation’ i ddatblygu eu cysyniad – ap Facebook o’r enw Eryri. Dyluniwyd yr ap fel offer dringo ar-lein, ac mae’n cynnwys lle i rannu profiad defnyddwyr, a chynnwys personol i gofnodi sesiynau dringo, gwybodaeth ddefnyddiol am ddiogelwch wrth ddringo a gêm fideo ryngweithiol ac addysgol am ddringo.
CARTREF NEWYDD JMJ Mae’r Is-ganghellor, Yr Athro John G. Hughes, wedi agor neuadd newydd John Morris-Jones ar safle Ffriddoedd yn swyddogol ar ôl i’r adeilad gael ei ailwampio. Bu staff a myfyrwyr Prifysgol Bangor yn dathlu’r agoriad gyda’r gantores Meinir Gwilym, un o gyn-fyfyrwyr y Brifysgol, a chôr aelwyd JMJ yn perfformio hefyd. Dywedodd Mair Rowlands, Llywydd UMCB: “Mae neuadd JMJ yn bodoli er lles y Gymraeg ac i alluogi ein myfyrwyr i fyw a gweithredu trwy gyfrwng yr iaith. Mae’r awyrgylch sydd yn y neuadd yn amhrisiadwy ac mae’r estyniad newydd yn mynd i sicrhau parhad yr awyrgylch yma. Rwy’n hyderus hefyd y bydd y neuadd ar ei newydd wedd yn denu mwy o fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith i Fangor.”
PRIFYSGOL BANGOR AR EICH FFÔN SYMUDOL
SEFYDLIAD CONFUCIUS PRIFYSGOL BANGOR
Mae Prifysgol Bangor yn un o’r prifysgolion cyntaf yn y DU i lansio ‘gwefan symudol’ gyda’r bwriad o ddenu myfyrwyr newydd. Mae hefyd yn rhoi mynediad at amrywiaeth o wasanaethau ar y we i staff a myfyrwyr. Hon yw’r wefan symudol amlieithog gyntaf sy’n cynorthwyo ymwelwyr Cymraeg, Saesneg neu Tsieinëeg eu hiaith, ac mae’n un o’r rhai cyntaf yn y DU sydd wedi’i hanelu’n benodol at ddarpar fyfyrwyr.
Mewn cydweithrediad â Phrifysgol Gwyddor Gwleidyddiaeth a Chyfraith China, Beijing, mae'r Sefydliad Confucius cyntaf yn y byd i ganolbwyntio ar y Gyfraith wedi cael ei agor yn swyddogol ym Mhrifysgol Bangor.
Mae defnyddwyr ffonau soffistigedig sy’n ymweld â gwefan lawn www.bangor.ac.uk yn cael eu tywys yn awtomatig i’r wefan symudol, ond gallant ddewis ymweld â’r wefan lawn os dymunant.
Meddai Is-ganghellor Prifysgol Bangor, Yr Athro John G. Hughes: “Mae diwylliant Tsieineaidd yn dod yn gynyddol bwysig mewn datblygiadau economaidd rhanbarthol a byd-eang, ac mae ei bresenoldeb i'w deimlo mewn llawer i fan, yn cynnwys yma yng Ngogledd Cymru. Bydd y Sefydliad Confucius ym Mhrifysgol Bangor yn fodd i feithrin dealltwriaeth o ddiwylliant Tsieineaidd ymysg pobl y rhanbarth sydd, yn ôl arolygon diweddar, â diddordeb mawr mewn dysgu mwy am yr amryfal agweddau ar ddiwylliant Tsieineaidd.”
Y GYMRAEG YN Y BRIFYSGOL YN ENNILL GWOBR YSBRYDOLI CYMRU Mae gwaith arloesol Prifysgol Bangor yn hybu a hyrwyddo’r Gymraeg yn y gweithle wedi derbyn gwobr Ysbrydoli Cymru yn y categori ‘Gweithleoedd Dwyieithog’. Cafodd y Brifysgol ei henwebu am y wobr ar sail ystod eang o weithgareddau sy’n ei galluogi i gynnal gweithle dwyieithog. Ymhlith y gweithgareddau hynny, cyfeiriwyd yn benodol at wasanaethau Canolfan Bedwyr a gwefan Cymorth Cymraeg a ddatblygwyd gan y ganolfan y llynedd. Rhoddwyd sylw hefyd i’r ddarpariaeth ddwyieithog gyfoethog ym meysydd datblygu staff a Thechnoleg Gwybodaeth, y gwersi Cymraeg i staff ar bob lefel a’r llu modiwlau cyfrwng Cymraeg sy’n paratoi myfyrwyr ar gyfer gweithio’n ddwyieithog ar ôl iddynt raddio.
5 GWOBRAU I UNDEB Y MYFYRWYR
FOOD DUDES YN ENNILL BRI RHYNGWLADOL
Yn ddiweddar enillodd Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor deitl Undeb y Flwyddyn (anfasnachol) yng Ngwobrau Effeithiau Gwyrdd Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr (UCM).
Mae’r Athro Fergus Lowe a Dr Pauline Horne, o Ysgol Seicoleg Prifysgol Bangor, wedi derbyn gwobr gan y ‘Society for the Advancement of Behavioral Analysis’ am eu gwaith arloesol ar ordewdra ymysg plant.
Mae’r gwobrau’n cydnabod gwaith amgylcheddol undebau myfyrwyr ar hyd a lled y wlad. Enillodd Undeb Myfyrwyr Bangor eu gwobr am amrywiaeth eang o weithgareddau amgylcheddol, o brojectau i helpu lleihau’r gostyngiad yn niferoedd gwenyn, a arweiniodd at blannu miloedd o blanhigion blodau gwyllt o gwmpas Bangor, at fenter ailgylchu flaengar sy’n casglu hen ‘fras’ i’w hailddefnyddio mewn rhannau eraill o’r byd. Mae gwaith yr Undeb yn y gymuned leol hefyd wedi cael ei wobrwyo gyda ‘Gwobr Cysylltiadau Cymunedol UCM Cymru’. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Undeb Myfyrwyr Bangor wedi cynnal a chefnogi nifer o ddigwyddiadau fel Gwasanaeth Diwrnod AIDS y Byd yng Nghadeirlan Bangor a, thrwy ‘Gwirfoddoli Myfyrwyr Bangor’, brojectau mor amrywiol â’r ‘Project Glanhau Traeth’ a ‘Sbectrwm’, lle bydd myfyrwyr yn gweithio gyda phlant sydd ag anhawsterau dysgu.
CYNGOR CELFYDDYDAU CYMRU YN RHOI GWOBR FAWR I PONTIO Mae Canolfan Arloesi a Chelfyddydol gwerth miliynau o bunnau yng nghanol Bangor wedi derbyn hwb ariannol sylweddol o £3,250,000 gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Bydd Pontio, a fydd yn agor yn 2014, yn bwerdy diwylliannol ac economaidd i'r ddinas ac yn llwyfan addas i'r goreuon o'r cwmnïau lleol. Bydd y Ganolfan gwerth £44 miliwn yn cynnwys theatr hyblyg gyda 450 sedd, sinema, stiwdio gyda 120 sedd a llwyfan perfformio awyr agored. Bydd yn cynnal amrywiaeth eang o ddigwyddiadau artistig rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol gan gyflwyno'r celfyddydau mewn ffordd newydd. Bydd yr adeilad trawiadol yn gartref newydd i Undeb y Myfyrwyr, yn dod a’r gwyddorau a’r celfyddydau ynghyd, ac yn ganolfan fendigedig ar gyfer y gymuned, busnesau lleol a myfyrwyr y Brifysgol.
Ar adeg pan mae gordewdra yn cynyddu’n gyflym ar draws y byd, mae rhaglen Food Dudes wedi ennill bri rhyngwladol am ei llwyddiant wrth annog plant i fwyta rhagor o ffrwythau a llysiau a llai o fwyd ‘jync’. Mae dulliau arloesol y rhaglen yn manteisio ar seicoleg gyfoes ac yn defnyddio ystod o gyfryngau a systemau gwobrwyo i helpu plant a’u teuluoedd i ddysgu mwynhau bwyta’n iach. Mae’r rhaglen wedi’i chyflwyno’n genedlaethol ar draws Iwerddon, lle mae dros 300,000 o blant a’u teuluoedd eisoes wedi elwa arni, ac, yn y Deyrnas Unedig, mae ar hyn o bryd yn cael ei chyflwyno i 100,000 o blant yng Nghanolbarth Lloegr a rhanbarthau eraill. Hefyd mae rhaglenni llwyddiannus yn cael eu cynnal ym Milan, Utah a Chaliffornia. Mae’r Rhaglen wedi ennill cydnabyddiaeth o sawl cyfeiriad, gan gynnwys gwobr gan Sefydliad Iechyd y Byd a Gwobr Medal Aur Prif Swyddog Meddygol y DU.
BUDDSODDI MEWN PEIRIANNEG ELECTRONIG Er mwyn cydnabod perfformiad rhagorol yr Ysgol Peirianneg Electronig yn Ymarfer Asesu Ymchwil y DU yn ddiweddar, ac i gydnabod pwysigrwydd peirianneg i economi Cymru, mae Prifysgol Bangor wedi buddsoddi £2 filiwn ar gyfer staff ac offer newydd yn yr Ysgol Peirianneg Electronig. Mae'r prif labordy dysgu israddedigion wedi cael ei adnewyddu'n llwyr. Gall pob myfyriwr yn awr ddefnyddio osgilosgopau digidol diweddaraf Agilent Technologies gyda deialau LCD lliw a chyfradd samplu 2GS/s. Bydd myfyrwyr hefyd yn dysgu sut i ddefnyddio'r generaduron signal rheoli cyfrifiadur diweddaraf, cyflenwadau pŵer a systemau mesur yn y cyfleusterau newydd. Mae’r Ysgol hefyd yn buddsoddi mewn staff newydd, gyda phwyslais ar weithredu "technolegau gwyrdd" mewn cynhyrchu ynni, cynnyrch ac offer, a phrosesu signalau.
SAFONAU ACADEMAIDD Y BRIFYSGOL Mae’r Brifysgol wedi derbyn sêl bendith sylweddol yn ei gwaith o reoli ansawdd a safonau academaidd yn dilyn ‘arolwg sefydliadol’ o bwys gan yr ‘UK Quality Assurance Agency for Higher Education’. Y canlyniad oedd dyfarniad o ‘Hyder’ yng nghadernid “rheolaeth bresennol y Brifysgol dros ansawdd cyfleoedd dysgu myfyrwyr a safonau academaidd, a’i rheolaeth debygol yn y dyfodol” ac mae’n hwb mawr i statws a phroffil academaidd y Brifysgol. Fe wnaeth y canfyddiadau cychwynnol dynnu sylw at “nodweddion o arfer da”, yn cynnwys yn arbennig waith Canolfan Dyslecsia Miles, y cynllun Arweinwyr Cyfoed sy’n cyflwyno myfyrwyr i fywyd prifysgol a gwaith Canolfan Bedwyr sydd yn ychwanegu at ddarpariaeth Gymraeg.
SAFLE YN Y BYD Mae Prifysgol Bangor wedi cael ei gosod ymhlith 300 prifysgol uchaf y byd yn y 'Times Higher Education World University Rankings' am 2012-13, ochr yn ochr â phrifysgolion fel Caerfaddon a Queen's University Belfast. "Rwyf wrth fy modd bod y gwaith dysgu ac ymchwil rhagorol ym Mangor wedi ennill cydnabyddiaeth fyd-eang. Mae Bangor yn darparu addysg ac ymchwil o ansawdd uchel ac yn gwneud cyfraniad gwerthfawr yn rhanbarthol ac ar y llwyfan ehangach," meddai'r Is-ganghellor, yr Athro John G. Hughes. Mae eu safle byd yn dod yn fwyfwy pwysig i brifysgolion wrth i recriwtio myfyrwyr rhyngwladol ddod yn gynyddol bwysicach. Mae tua 3.7 miliwn o fyfyrwyr prifysgol yn awr yn astudio y tu allan i'w gwledydd cartref – nifer y rhagwelir fydd yn codi i 7 miliwn erbyn 2020.
YSGOL ATHRONIAETH A CHREFYDD Mae gan Brifysgol Bangor hanes maith ac anrhydeddus o ddysgu athroniaeth a chrefydd. Sefydlwyd yr Adran Rhesymeg ac Athroniaeth yma yn 1886, tra bo crefydd (mewn gwahanol weddau) wedi cael ei dysgu er 1898. Mae’r Ysgol newydd Athroniaeth a Chrefydd arloesol, sy’n cynyddu o ran maint, yn anelu i feithrin sgiliau trafod a meddwl yn annibynnol. Mae modiwlau a rhaglenni BA a MA yn ymdrin â nifer o agweddau Athroniaeth a Chrefydd yn cynnwys Cyfnod yr Ymoleuo, Testunau Sanctaidd, Athroniaeth Wleidyddol a Moeseg. Am fwy o wybodaeth ewch i: www.bangor.ac.uk/spar
6
FFIOEDD
A’RPROFIADI
FYFYRWYR
Bydd cynnydd yn y ffioedd dysgu o fis Medi 2012 yn galluogi’r Brifysgol i gynyddu ymhellach ei buddsoddiad mewn cyfleusterau a gwasanaethau i wella profiad y myfyrwyr. O ganlyniad i’r newidiadau mewn cyllid gan y llywodraeth ac yn unol â phrifysgolion eraill ledled y DU, bydd Prifysgol Bangor yn codi’r ffioedd dysgu i £9,000 y flwyddyn ar gyfer israddedigion cartref/yr UE a myfyrwyr ôl-radd o eleni ymlaen. Bydd y ffioedd hyn yn galluogi’r Brifysgol i gynnal a gwella’r gwasanaethau a’r cyfleusterau a gynigir i fyfyrwyr a pharhau i ddarparu’r addysg o’r ansawdd gorau gan roi profiad Prifysgol ardderchog i fyfyrwyr. Fel rhan o’r newidiadau cenedlaethol yn y system ffioedd dysgu, roedd hi’n ofynnol i Fangor lunio ‘cynllun ffioedd’ yn manylu ar y ffordd y mae’r Brifysgol yn bwriadu buddsoddi ei hincwm. Penderfynodd Bangor wneud nifer o bethau gan gynnwys: cynyddu nifer y bwrsariaethau i fyfyrwyr o gefndiroedd incwm isel, buddsoddi yn y profiad i fyfyrwyr a gwella darpariaeth ar gyfer chwaraeon a hamdden i fyfyrwyr. Mewn cam arloesol, bydd y Brifysgol yn cyflwyno aelodaeth am ddim i fyfyrwyr o glybiau a chymdeithasau Undeb y Myfyrwyr, a mwy o gefnogaeth ar gyfer gweithgareddau gwirfoddoli gan fyfyrwyr, a datblygu sgiliau’n gysylltiedig â chyflogadwyedd.
Mae Bangor hefyd yn buddsoddi i gynyddu’r cyfleoedd i bobl ifanc fynd i’r brifysgol – yn arbennig y bobl ifanc lle na fu traddodiad teuluol yn y gorffennol o fynd i’r brifysgol. Mae Rhaglen Dawn a Chyfle’r Brifysgol (TOP) yn gweithio gydag Ysgolion mewn ardaloedd difreintiedig “Cymunedau’n Gyntaf” i godi dyheadau addysgol ac ymwybyddiaeth o Addysg Uwch ymhlith grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli. Mae’r cynllun o gymorth i adnabod disgyblion sydd â’r potensial i lwyddo yn y brifysgol, ac i ddatblygu eu sgiliau i’w paratoi ar gyfer Addysgu Uwch. Mae Bangor yn darparu cyrsiau adolygu a gweithgareddau eraill gyda’r amcan o wella symbyliad a chyrhaeddiad mewn ysgolion TOP. Meddai’r Is-ganghellor, yr Athro John G. Hughes: “Rydym ni eisoes yn buddsoddi’n helaeth yn natblygiad uchelgeisiol Pontio, sy’n werth miliynau o bunnoedd. Bydd hyn yn cynnwys cyfleusterau addysgu newydd yn ogystal â theatr, lle sinema ac Undeb newydd y Myfyrwyr, a bydd y mentrau ychwanegol yma’n helpu i sicrhau bod myfyrwyr Bangor yn parhau i gael profiad gwych.” O dan nawdd y cynllun ffioedd newydd, bu cynnydd yn nifer y staff mewn meysydd fel lles myfyrwyr a chefnogaeth yn y llyfrgell, gydag ystyriaeth yn cael ei rhoi i roi’r budd mwyaf i fyfyrwyr ar draws pob pwnc ac o bob cefndir. Penodwyd yr Athro Carol Tully fel y Dirprwy Isganghellor ar gyfer myfyrwyr ac ymunodd
gwobr cyflogadwyedd bangor Mae Gwobr Cyflogadwyedd Bangor yn cydnabod profiadau myfyrwyr israddedig tu allan i’w hastudiaethau academaidd ac yn cynnig rhaglen graidd i wella eu datblygiad penodol a sgiliau rheoli gyrfa. Ar ôl cynnal cynllun peilot am ddwy flynedd, cafodd y wobr ei lansio ym mhob un o’r ysgolion academaidd o fis Medi 2012 ymlaen. Mae’r Wobr yn dod â'r Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr ynghyd, yn ogystal â sefydliadau yn y
sectorau preifat, cyhoeddus a gwirfoddol, i gynnig strwythur hyblyg sy’n galluogi myfyrwyr i adeiladu sgiliau trosglwyddadwy trwy gydnabod eu rhan mewn gweithgareddau fel gwaith rhan amser, gwirfoddoli, cymdeithasau Undeb y Myfyrwyr, clybiau chwaraeon a gweithgareddau cydgyrsiol. Mae’r tîm Gwobr Cyflogadwyedd Bangor yn croesawu’r mewnbwn, y gefnogaeth a’r adborth oddi wrth alumni Prifysgol Bangor. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’r wefan ar: www.bangor.ac.uk/cyflogadwyedd
Arolwg o Gyrchfannau Rhai a Adawodd Addysg Uwch Fel prifysgolion eraill yn y DU, mae’r Brifysgol yn cysylltu â’r myfyrwyr a raddiodd yn ddiweddar i weld a ydynt yn gweithio, yn gwneud gwaith astudio pellach, cymryd blwyddyn rydd neu’n dal i chwilio am waith. Byddwn yn cysylltu â chi dros y ffôn neu drwy e-bost. I gael rhagor o wybodaeth ewch i: www.bangor.ac.uk/dlhe
Mae Bangor hefyd yn buddsoddi i gynyddu’r cyfleoedd i bobl ifanc fynd i’r brifysgol Richard Bennett â'r Brifysgol fel y Cyfarwyddwr Chwaraeon a Hamdden newydd yn gynharach eleni. Bydd y swyddi newydd hyn o gymorth wrth gyflawni rhai o’r amcanion allweddol yn Strategaeth Gwella Profiad Myfyrwyr y Brifysgol. Hefyd ymhlith y mentrau newydd oedd lansio Canolfan Sgiliau Astudio a datblygu Gwobr Cyflogadwyedd Bangor ymhellach, gan gynnwys cynyddu’r ddarpariaeth ar gyfer profiad gwaith a chyfleoedd i wirfoddoli. Byddwn hefyd yn cynyddu’r gallu ym maes cefnogi iechyd a lles myfyrwyr. O fis Medi 2012, gall myfyrwyr newydd gael benthyciad ffioedd dysgu i dalu am y ffioedd newydd ac ni fyddant yn eu had-dalu tan ar ôl iddynt adael y brifysgol ac yn ennill dros £21,000. Bydd yr ad-daliadau yn cael eu gwneud yn awtomatig ac yn seiliedig ar lefel incwm yr unigolyn.
30 7 HWYL A SBRI WYTHNOS RAG
Yn 1969, cyrhaeddodd grwp o fyfyrwyr Bangor benawdau’r newyddion cenedlaethol fel rhan o wythnos RAG. Dyma David McCreadie (1970, Swoleg gyda Swoleg Môr) yn dweud wrthym am ei ymdrechion yn enw’r elusen. “Roeddwn ar bwyllgor RAG, yr ymdrech flynyddol dan arweiniad myfyrwyr i godi arian at elusen, yn fy ail flwyddyn ym Mangor. Yn ôl bryd hynny'r Panda mawr oedd symbol RAG – “Pandemonium”. Roedd yn draddodiadol cynnal stynt RAG, ond beth fyddem ni’n ei wneud? Roedd fy ffrind da John
Coppock yn nabod ardal Caersallog (Salisbury) yn dda, ac fe awgrymodd ein bod yn creu Panda yn y twyni sialc. Mae’n siwr na allai fod mor anodd â hynny? Roedd ffrind arall i ni, Bob Lord, yn fyfyriwr Electroneg ac yn arbenigwr ar gyfrifiaduron; byddai ei arbenigedd ef yn chwarae rhan allweddol yn her fwyaf anturus Pandemonium. Teithiodd Bob, John a finnau i lawr yn fy hen Morris Traveller i gynnal archwiliad a gwirfoddolodd 26 o fyfyrwyr eraill i’n helpu cyn gynted â’n bod yn cytuno i fynd ymlaen â’r cynllun. Fe wnaethom benderfynu ar y bryn oedd yn edrych orau – ar allt 1:3 o flaen priffordd yr A303 o Plymouth i Lundain. Ond roedd y sialc yn gorwedd 4 troedfedd 6 modfedd i lawr – nid oedd hyn yn mynd i gael ei gyflawni ar chwarae bach! Fe wnaethom gyfarfod â’r tîm ar noson oer yn hwyr ym mis Ionawr 1969 yn nhafarn y Pheasant yn Caersallog i gynnal cyfarfod briffio ac yna, o gwmpas 6.30pm, fe ddechreuon ni farcio’r siapiau. Dihangodd y belen fawr o linyn roeddem yn ei defnyddio i fapio delwedd y panda o dafluniad cyfrifiadurol Bob i lawr yr allt dro ar ôl tro a thrwy ffens weiren bigog – felly dyna oedd diwedd fy Levi’s gorau!
John a minnau yn y Moggie i gyfeiriad Stryd y Fflyd yn Llundain. Roedd bechgyn The Telegraph o gymorth mawr ac fe wnaethon nhw ddatblygu a phrintio ein lluniau ac fe aethom ymlaen i’r Times a’r papurau poblogaidd. Pan wnaethon ni gyrraedd yn ôl i Fangor roedd y Lolfa Dro [yn hen adeilad yr undeb] yn un haid o blismyn! Roeddynt wedi dod o hyd i waled wrth y panda calch gyda cherdyn undeb myfyrwyr Coleg Prifysgol Gogledd Cymru (CPGC) ynddo! Fe wnaethon ni i gyd gytuno i gadw’n dawel am y mater er i gyfreithiwr y Brifysgol gael ei dynnu i’r cythrwfl. Roedd y tensiwn yn codi pan yn sydyn cafodd y stori ei darlledu ar newyddion 6 o’r gloch. Roedd y ffreutur yn llawn dop a phawb yn syllu ar y teledu du a gwyn. O bob cae yn y wlad, roeddem wedi dewis palu yn un oedd yn eiddo i Syr Richard Hunt! Nawr roeddem yn dechrau pryderu go iawn; roedd e’n rhan o’r tîm a orchfygodd Everest gyda Hilary, Tensing a Syr Charles Evans, ein Prifathro yn CPGC.
Dihangodd y belen fawr o linyn i lawr yr allt a thrwy ffens weiren bigog – felly dyna oedd diwedd fy Levi’s gorau!
Clawr ‘Rag Mag Pandemonium’ 1969 a’r llun gafodd ei gyhoeddi yn The Times
Fe wnaethom osod y grid, ymuno’r dotiau â’i gilydd a chael gwared ar linynnau’r grid – i gyd yn y tywyllwch – ac yna dechrau palu’r dywarchen yn y glaw. 2 droedfedd... 3 troedfedd... 4 troedfedd... heb unrhyw gynnydd amlwg o gwbl. Roedd y tîm ar fin gwrthryfela pan gododd rywun ddarn o fflint a goleuodd y wreichionen y twll; roedd fel dod o hyd i eira yng ngwaelod y sied lo. Dechreuodd y ras - fe wnaethon ni lenwi bagiau gyda’r sialc ac ymlusgo i lawr yr allt i lenwi’r siapiau oedd wedi’u torri o’r dywarchen roedd y tîm arall yn brysur yn eu symud. Erbyn 6.30am, roeddem wedi gorffen. Roedd cannwyll llygad y panda yn chwe throedfedd o ddiamedr ond nid oedd gennym ddigon o amser i wneud y llythrennau UCNW yn ddim mwy. Aeth y tîm hynod flinedig yn ôl am Fangor yn y bws, wedi’u gorchuddio â sialc a mwd. Rhuthrodd Bob,
“Myfyrwyr ofnadwy o Gymru… yn tresbasu gyda bwriad…” oedd barn y darlledwr newyddion. “Na, dim byd o’r fath” oedd yr ateb gan Syr Richard, “pe bawn i’n gallu dod o hyd i weithwyr fferm a fyddai’n gweithio mor galed â hynny dros nos ddiwedd mis Ionawr ar allt 1 mewn 3 buaswn i’n ddyn cyfoethocach hyd yn oed nag ydw i – rwy’n meddwl fod y peth yn rhyfeddol!” Fe wnaethon ni ddychwelyd dwy flynedd yn ddiweddarach a gwneud dipyn mwy o waith twtio ar y Panda blêr. Roedd hyn yn waith caletach na’r gwaith gwreiddiol gan fod y ffiniau wedi llithro at ei gilydd. Fe wnaethon ni godi swm sylweddol o arian ar gyfer RAG y flwyddyn honno, drwy weithgareddau eraill gan gynnwys ras wely haearn bwrw o’r Rhyl i Fangor Uchaf, gyda chasgen o gwrw gan John Bull yn y Glôb i’r tîm buddugol. Fe wnaethon ni hefyd ddechrau Ras Rafftiau’r Fenai. Ydy myfyrwyr heddiw'r un mor anturus tybed?!”
8
Priodasau
YM MANGOR
Os ydych wedi dyweddïo’n ddiweddar, llongyfarchiadau! Yn awr, rydych yn mynd i ddechrau chwilio am leoliad ar gyfer eich priodas neu’ch parti. Wel, does dim angen i chi chwilio ddim pellach, am fod gennym ni ym Mangor amrywiaeth eang iawn o opsiynau i’w hystyried. O fewn ein hystâd, ceir detholiad ffasiynol o leoliadau, yn darparu lleoliadau delfrydol ar eich cyfer chi a’ch parti priodas. Fel cefndir i’ch lluniau, mae Prif Adeilad y Celfyddydau yn lleoliad amlwg gyda’i bensaernïaeth drawiadol. A wyddech chi y cewch hefyd briodi yn ystafelloedd deniadol y Teras, gyda golygfeydd dros Fae Hirael a’r ddinas? Fel arall, beth am Neuadd Reichel – adeilad mwy cyfoes a adnewyddwyd yn ddiweddar – gyda’i lawnt ysgubol? Wedi misoedd o waith cynllunio ac adeiladu, er y gellir ei hadnabod o hyd fel hen Neuadd Reichel, rydym yn awr yn cyflwyno Neuadd Reichel i chi ar ei newydd wedd – yn llawer mwy coeth a chaboledig. Mae gennym dîm profiadol o staff digwyddiadau, a’u gwaith hwy yw sicrhau bod popeth yn mynd yn dda, cyn y digwyddiad ac ar y diwrnod ei hun. Mae ein prif gogydd arobryn yn creu bwydlenni at eich dant, ac mae ein tîm medrus yn sicrhau bod eich holl ddymuniadau’n cael eu gwireddu. Gallwn gynnig cyngor i chi, ateb unrhyw gwestiynau a fo gennych a darparu unrhyw gymorth y bo ei angen arnoch wrth drefnu eich seremoni a’ch parti. Felly, os ydych yn chwilio am y lle arbennig hwnnw a fydd yn dwyn atgofion melys yn ôl yn y blynyddoedd i ddod, lle gwell i gynnal eich diwrnod arbennig?! Mae Prifysgol Bangor yn lleoliad bythgofiadwy ar gyfer eich diwrnod bythgofiadwy ond, yn bwysicach fyth i ni, hwn yw “Eich diwrnod chi...” Am fwy o wybodaeth cysylltwch â: priodasau@bangor.ac.uk
LOLFA’R TERAS Ydych chi wedi bod yn Lolfa’r Teras eto? Mae Lolfa’r Teras, a adnewyddwyd yn ddiweddar, ar lawr isaf Prif Adeilad y Celfyddydau a cheir golygfeydd ysblennydd oddi yno o Fae Hirael a dinas Bangor. Cewch fwyta mewn awyrgylch moethus, boed yn frecwast syml, byrbryd ysgafn neu ginio table d’hote mwy sylweddol. Rydym hefyd yn cynnig bwydlen fwy ffurfiol wedi’i llunio gyda’r cynhwysion gorau ac mae stoc o winoedd hyfryd ar gael i gyd-fynd â’ch bwyd. Mae Lolfa’r Teras hefyd yn darparu te prynhawn godidog gyda dewis helaeth o ddiodydd ar gael. Felly, pam na wnewch chi fynd draw yno i
fwynhau un o bwdinau enwog y Prif Gogydd, Bruno Bessonies? Mae Lolfa’r Teras yn lle cyfarfod delfrydol os ydych yn dod i achlysur lleol ac eisiau mwynhau cinio neu ddiodydd cyn yr achlysur, neu efallai ddim ond cael cyfarfod mwy anffurfiol gyda ffrindiau. Gellir archebu Lolfa’r Teras hefyd i’w defnyddio’n unig gyda’r nos gan bartïon o hyd at 30 o bobl. Gellir addasu'r bwydlenni yn arbennig ar gyfer eich digwyddiad. Cysylltwch â 01248 388686 i archebu. Wrth archebu nodwch *ALUMNI* i gael eich gostyngiad o 10%. (Mae’r cynnig yn amodol ar fod darpariaeth ar gael ac mae i’w gael ar brif brydau’n unig ym mis Tachwedd 2012. Nid yw’n cynnwys unrhyw gynigion eraill.)
9 Sut mae’r gwaith ar Pontio yn dod ymlaen? Mae’r gwaith ar broject Pontio yn symud ymlaen yn dda ac rwyf wrthi’n brysur ar hyn o bryd yn cael llawer o drafodaethau creadigol ag artistiaid, cwmnïau cynhyrchu, myfyrwyr ac academyddion ynghylch posibiliadau’r rhaglen agoriadol. Efallai bod 2014 i’w weld ymhell i ffwrdd ond, o ran cynllunio artistig, mae ar y trothwy mewn gwirionedd.
PONTIO Ymunodd Elen Ap Robert â Phrifysgol Bangor fel Cyfarwyddwr Artistig Pontio yn Ebrill 2012. Gofynnwyd i Elen dweud mwy wrthym am ei rôl newydd a’r datblygiadau o amgylch y Ganolfan Celfyddydau ac Arloesi sydd i agor yn 2014.
Sut fydd y rhaglen artistig yn gwneud gwahaniaeth i’r amser y bydd myfyrwyr yn ei dreulio ym Mangor? Bydd y rhaglen artistig yn cynnwys amrywiaeth hynod eang o brofiadau, o gyfresi rheolaidd o ffilmiau i sioeau syrcas rhyfeddol, o sioeau comedi i theatr glasurol, ac o grwpiau o artistiaid rhyngwladol, cerddoriaeth byd i gigs a digwyddiadau gyda thalentau cerddorol lleol. Ceir adloniant o’r safon uchaf, ond yn ogystal cynhelir digwyddiadau a fydd yn ysgogi pobl i feddwl ac a fydd yn dod â gwyddoniaeth a’r celfyddydau at ei gilydd mewn ffyrdd newydd ac arloesol. Bydd hyn i gyd yn digwydd mewn canolfan newydd sbon gyda bariau a chaffis o safon a fydd yn gwneud i bobl fod eisiau oedi a mwynhau eu hunain yno. Yn ogystal bydd cyfleoedd i fyfyrwyr ymwneud â chynnwys y rhaglen a hefyd gymryd rhan eu hunain mewn gwahanol weithgareddau. Yn sicr, dyma fydd y lle i fod ynddo a chymryd rhan.
Roedd llawer o alumni’n hoff iawn o’r hen Theatr Gwynedd. Sut ydych chi’n bwriadu adeiladu ar lwyddiant Theatr Gwynedd?
Sut y gall cyn-fyfyrwyr ymwneud â rhaglen Pontio yn y cyfnod yn arwain at agor Canolfan y Celfyddydau ac Arloesi, ac unwaith y bydd wedi agor?
Rwy’n ymwybodol iawn o’r lle cynnes sydd gan bobl yn eu calonnau i Theatr Gwynedd. Mae’n dod â llawer o atgofion i berfformwyr, crefftwyr, technegwyr, cwmnïau cynhyrchu, dramodwyr, alumni a staff y Brifysgol, ac i bobl o’r gymuned leol ac ar draws Gwynedd.
Byddem yn hynod falch pe bai alumni’n cysylltu â ni yn ystod y cyfnod interim hwn, ac ar ôl hynny, gyda syniadau ar gyfer y rhaglen. Yn ddiweddar, fe wnaethom gynnal project cyfranogol gydag 11 o ysgolion ym Mangor – gan gasglu eu Hadau Syniadau (HaDAsyniaDA) i’r Ganolfan. Y rhain yw eu gobeithion hwy am y Ganolfan pan fydd yn agor – ac fe gawsom ni rai syniadau gwirioneddol wreiddiol: “helipad i artistiaid ar y to”, ac “ystafell pobl bwysig i blant!” Byddem wrth ein boddau’n clywed am eich Hadau Syniadau chithau hefyd – anfonwch hwy atom os gwelwch yn dda. Gyda’r gwaith adeiladu wedi dechrau, rydym wedi penderfynu hefyd mai hwn yw’r amser delfrydol i ddechrau meddwl am enw i’r adeilad ei hun. Mae Pontio wedi cael ei ystyried bob amser yn enw’r project – y cyfnod o bontio rhwng cau Theatr Gwynedd ac agor y ganolfan newydd. Felly, rydym yn gofyn i’r gymuned leol, myfyrwyr, staff ac alumni wrth gwrs, gysylltu â ni gyda’u hawgrymiadau. Rydym yn chwilio am enw bachog sy’n gweithio yn Gymraeg a Saesneg – mae’n gryn her a hoffem eich help yn fawr! Gofynnwn i chi anfon eich syniadau am enw drwy e-bost at: info@pontio.co.uk neu drwy’r post at Pontio, Prif Adeilad y Celfyddydau, Prifysgol Bangor, Bangor, Gwynedd, LL57 2DG erbyn 21 Rhagfyr 2012. Cyhoeddir yr enw buddugol ar 1 Mawrth 2013.
Mae Pontio, mewn ymgynghoriad â gwahanol bobl, yn edrych ar y posibiliadau a’r ffyrdd o ddathlu’r atgofion sydd gan bobl am Theatr Gwynedd. Yn y ffordd yma gallwn fynd â’r dreftadaeth werthfawr hon gyda ni i’r Ganolfan newydd. Byddwn yn adeiladu ar waith Theatr Gwynedd hefyd drwy ddod â chwmnïau o faint canolig yn ôl i ogledd orllewin Cymru: Opera Canolbarth Cymru, cynyrchiadau theatr o faint canolig gan y Theatr Genedlaethol a Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru. Ceir ymweliadau hefyd gan gwmnïau newydd nad ydynt wedi bod yn yr ardal o’r blaen. Yn naturiol, mae celfyddyd yn datblygu’n gyson a chwmnïau newydd yn ymddangos, gyda chenhedlaeth newydd o bobl greadigol yn chwilio am lwyfan i berfformio arno.
Sut mae’r gymuned leol yn cael eu tynnu i mewn i broject Pontio? Mae’r gymuned leol wedi ymwneud â’r project celfyddydau a digwyddiadau cymunedol sydd ar fynd ar hyn o bryd ac rydym yn ymwybodol iawn o bwysigrwydd cynnwys y gymuned yn y datblygiadau fydd yn digwydd yn ystod y blynyddoedd i ddod ar ôl agor y Ganolfan.
Rydym wrthi’n cael trafodaethau â Grŵp Cymunedol Pobl Bangor ynghylch dathliadau Nadolig eleni a gyda Grŵp Ieuenctid Bangor ynglŷn â chyd-drefnu cyfres o ddangosiadau ffilm yn y flwyddyn newydd.
Beth ydi’r ffordd orau i’n cyn-fyfyrwyr nad ydynt yn ymweld â Bangor yn rheolaidd gael gwybodaeth gyfredol am ddatblygiad Pontio? Y cyfan y mae angen iddynt ei wneud yw ymuno â chronfa ddata Pontio drwy ymweld â’n gwefan www.pontio.co.uk. Byddwch wedyn yn cael gwybodaeth am ddigwyddiadau sydd i ddod a chynigion arbennig. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr iawn at eich croesawu i’n digwyddiadau.
10 www.bangor.ac.uk/alumni
DIGWYDDIADAU NOSON YN YR AMGUEDDFA Fel rhan o Wyl Wyddoniaeth Bangor 2012, bu mwy na 70 o alumni yn bresennol mewn noson a gynhaliwyd yn Amgueddfa Byd Natur y Brifysgol er mwyn gweld yr arddangosion a chlywed yr hyn oedd gan staff y Coleg Gwyddorau Naturiol i’w ddweud.
EISTEDDFOD GENEDLAETHOL 2012
GRWP 2020 BANGOR Mae Grwp Bangor 2020 yn grwp o alumni o Fangor sydd wedi’u lleoli yn Llundain ac sy’n cyfarfod deirgwaith y flwyddyn at ddibenion rhwydweithio proffesiynol ac i glywed am yr ymchwil a’r projectau diweddaraf ym Mangor. Mae’r aelodau’n cynnwys Prif Economegydd Deutsche Bank yn y DU a’r Cyfarwyddwr Dealltwriaeth Siopwyr yn Mondelez. Mae’r aelodau wedi rhoi rhywbeth yn ôl i’r Brifysgol wrth arwain gweithdai ar gyfer myfyrwyr, bod yn ddarlithwyr gwadd, gwirfoddoli ar gyfer gwahanol Fyrddau o fewn y Brifysgol a rhoi i gronfa Bangor. Os hoffech ymuno â grwp 2020 neu gael mwy o wybodaeth, cysylltwch ag: alumni@bangor.ac.uk
Yn 2012, cafwyd aduniad llwyddiannus arall o alumni yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, a gynhaliwyd ym Mro Morgannwg. Cynhelir yr aduniad ar brynhawn Mercher yr Eisteddfod bob blwyddyn, a chyfarfu mwy na 70 o alumni i gyfnewid newyddion dros ddiod yn stondin Prifysgol Bangor. Edrychwn ymlaen at eich gweld yn Sir Ddinbych yn 2013!
ADUNIAD ALUMNI 1990AU Ym mis Awst, gwahoddwyd alumni a fu’n astudio yn CPGC a’r Coleg Normal yn y 1990au yn ôl i Fangor ar gyfer derbyniad anffurfiol. Cafodd yr alumni a ddaeth yn ôl hwyl wrth gyfnewid newyddion ymysg ei gilydd yn Neuadd Powis, a buont wedyn yn dawnsio hyd berfeddion y nos ym Mar Uno. Diolch i bob un ohonoch a ddaeth!
Os oes gennych unrhyw luniau o’r adeg y buoch ym Mangor y byddech yn fodlon eu rhannu i’w harddangos mewn aduniadau perthnasol, e-bostiwch hwy i alumni@bangor.ac.uk neu eu hanfon at Bethan Perkins, Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni, Prifysgol Bangor, Bangor, Gwynedd LL57 2DG.
11 CYMDEITHAS Y CYN-FYFYRWYR
PENWYTHNOS HEN FECHGYN
Bu 27 o alumni mewn cinio anffurfiol ym mwyty’r Tavern 1924, Traeth Coch, Ynys Môn ddiwedd Gorffennaf. Hyfryd oedd gweld cymaint o gynfyfyrwyr yn sgwrsio ymysg ei gilydd dros bryd o fwyd.
Mae Penwythnos Hen Fechgyn yn parhau i dyfu, gyda chyn-aelodau timau chwaraeon y Brifysgol yn dod yn ôl i Fangor i ddal i fyny â'i gilydd ac i weld os gallent ddisgleirio ar y cae unwaith eto!
Os oes gennych ddiddordeb mewn digwyddiadau yn y dyfodol, cysylltwch ag Ella Owens ar: ella.owens@btinternet.com neu ffonio +44 (0)1248 712573
Cynhelir Penwythnos Hen Fechgyn 2013, 4-6 Mai. Beth am ddod yn ôl i Fangor i weld wynebau cyfarwydd?
BANGORIAID LLUNDAIN ”Parhau’n amrywiol y mae bywydau Bangoriaid Llundain. Mae cyfarfodydd a gynhaliwyd yn 2011 a 2012 wedi cwmpasu ymweliadau â Thy Hatfield ac Aylesbury, a chyflwyniad hynod o ddiddorol gan Rachel Harrex, a raddiodd o Fangor mewn Cemeg a Chemeg Môr, ar ei gwaith yn Port Lockeroy, Antarctica, gydag Ymddiriedolaeth y Deyrnas Unedig dros Dreftadaeth yr Antartig. Yn Hatfield, cawsom fwynhau cyfarfod â ffrindiau a oedd yn fyfyrwyr yn y 1950au ac nad oeddent wedi cyfarfod ers gadael Bangor. Yn Aylesbury, buom yn cyfarfod yn iard y Kings Arms, sy’n dyddio i’r 15fed ganrif, ac yn ymweld yn ddiweddarach â gardd “gudd” o eiddo’r Crynwyr, gan ddiweddu’r diwrnod â thaith o gwmpas Amgueddfa’r Sir, dan arweiniad y curadur ei hun. Yn ddiweddarach yn y flwyddyn, yn gyson ag ysbryd y Gêmau Olympaidd, rydym yn bwriadu ymweld â’r safleoedd archaeolegol a ddadorchuddiwyd yn y Ganolfan Farchogaeth ym Mharc Greenwich. Os ydych yn gyn-fyfyriwr, yn wr, yn wraig neu’n ffrind i alumnus o Fangor sy’n byw o fewn cyrraedd Llundain, da chi, dewch draw i un o’n cyfarfodydd. Helpwch ni i ddiogelu dyfodol Bangoriaid Llundain; rydym eisoes yn bodoli ers mwy na 90 o flynyddoedd a hoffem gyrraedd ein canmlwyddiant! Croeso i bawb.
CYNLLUNIWCH EICH ADUNIAD EICH HUN A ydych yn awyddus i drefnu aduniad, ond yn ansicr lle i ddechrau? Gallwn ni helpu! Gall y Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni helpu i gydlynu ymweliadau â’ch hen adrannau, rhoi arweiniad ynglyn â’r adegau gorau i gyfarfod, a chynnig cyngor ynglyn â llety. Gallwn hefyd helpu i gael hyd i unrhyw ffrindiau y byddoch wedi colli cysylltiad â hwy a’u gwahodd hwythau i’r aduniad. Os ydych yn bwriadu cael aduniad â grwp o’ch cyd-alumni, naill ai ym Mangor neu rywle arall, rhowch wybod inni. Hyd yn oed os nad oes arnoch angen help ynglyn â’r trefniadau, byddem yn dwlu cael gwybod am eich aduniad a gweld unrhyw luniau yr hoffech eu rhannu. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Bethan Perkins, Swyddog Datblygu Alumni, ar: b.w.perkins@bangor.ac.uk
Cysylltwch â mi, Robert Burns, Ysgrifennydd Mygedol, am fwy o wybodaeth: Hazel-Dene, 18 Stapleton Hall Road, Stroud Green, Llundain, N4 3QD. Ffôn: 020 7263 3358.”
WYTHNOS CYMRU, UDA Fel rhan o Wythnos Cymru UDA 2012, aeth cynrychiolwyr o Brifysgol Bangor i ddigwyddiadau a oedd wedi’u trefnu i gyd-daro ag ymweliad Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, â Washington DC a Dinas Efrog Newydd. Cafodd y digwyddiadau hyn eu trefnu gan gyn-fyfyrwraig Bangor Catrin Brace (1975, Cymraeg), Cynrychiolydd Adran y Prif Weinidog yn Efrog Newydd. Bu cynrychiolwyr o’r Brifysgol, yn cynnwys yr Athro John G Hughes, Isganghellor, a Dr Xinyu Wu, Cyfarwyddwr Datblygu Rhyngwladol, yn croesawu nifer o alumni Bangor mewn digwyddiadau a oedd yn cynnwys derbyniad yn y Llysgenhadaeth Brydeinig yn Washington, gwyl ffilmiau Iddewig-Gymreig dan nawdd Prifysgol Bangor a chinio i alumni.
12 YSGOL
www.bangor.ac.uk/rhoddwyr
GWYDDORAUEIGION YNCAELRHODDIONGANALUMNI A CHYFEILLION Y BRIFYSGOL
Mae staff yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion wedi bod yn gweithio'n agos gyda Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni y Brifysgol a’r alumnus Mick Cook, Cadeirydd cymdeithas cynfyfyrwyr yr Ysgol, er mwyn creu rhwydwaith cynaliadwy o alumni a chyfeillion i helpu'r ysgol gyflawni ei nodau. Trwy ymdrechion cyfunol Mick a'r Brifysgol, mae nifer o bartneriaethau strategol newydd wedi cael eu datblygu gyda chwmnïau a chyn-fyfyrwyr, ymddiriedolaethau a sefydliadau sydd bellach yn cyfrannu at Raglen Lleoliad Haf Israddedigion yr Ysgol a gwobrau Ysgoloriaeth Meistr.
Gyda chefnogaeth nifer o roddwyr hael, cynigiodd yr Ysgol Gwyddorau Eigion gyfres o 11 o leoliadau haf i israddedigion yn eu hail flwyddyn yn 2012 i'w galluogi i weithio ochr yn ochr ag aelodau staff a’u cynorthwyo yn eu gwaith ymchwil a gweithgareddau estyn allan. Bu’n rhaid i’r myfyrwyr lenwi ffurflen gais a chael cyfweliad ac felly roedd y broses ddethol yn ddefnyddiol i bawb a ymgeisiodd am y lleoliadau. Mae’r Athro Chris Richardson, alumnus a Phennaeth yr Ysgol Gwyddorau Eigion (Bioleg y Môr a Sŵoleg, 1979) yn credu bod y lleoliadau hyn yn rhoi profiad gwaith buddiol i fyfyrwyr mewn lleoliadau go iawn: "Pan oeddwn yn fy ail flwyddyn yn astudio gradd Bioleg Môr a Sŵoleg yn 1974, cefais y cyfle i weithio ochr yn ochr â gwyddonwyr a chael profiad ymchwil ar leoliad haf. Roeddwn yn gweithio gyda'r diweddar Athro D.J. Crisp FRS CBE ar blatiau cregyn llong ym Mhorthaethwy ac arweiniodd y
gwaith hwnnw at bapur a gyhoeddwyd yn 1975. Rwy'n gwybod y gall buddsoddi swm bychan ar ddechrau gyrfa gwyddonwyr ifanc hau'r hadau ar gyfer mwy o lwyddiannau yn ddiweddarach yn eu bywydau."
Mae Sefydliad Kirby Laing, Ymddiriedolaeth Gaynor Cemlyn Jones a’r Drapers' Company wedi cefnogi’r Ysgol Gwyddorau Eigion ers blynyddoedd ac maent yn parhau i wneud hynny eleni. Sefydlwyd rhaglen ysgoloriaeth gan Sefydliad Kirby Laing yn 2011-12 a helpodd i ddenu tri myfyriwr hynod o alluog a brwdfrydig i’r Ysgol, gyda phob un ohonynt yn derbyn marciau rhagorol tuag at eu gradd Meistr. Cafodd Andrew Clegg, sy’n astudio eigioneg ffisegol, y Wobr Ôl-radd Darbyshire mewn Gwyddorau Eigion am lwyddiant eithriadol, ac mae Louisa Higby ac Andrew Biggerstaff ar y trywydd iawn i gael rhagoriaeth yn eu cyrsiau ôlradd. Roedd Louisa Higby wrth ei bodd yn derbyn ysgoloriaeth Sefydliad Kirby Laing: "Roedd y grant yn helpu i leddfu’r straen ariannol o wneud gradd Meistr; mae wedi bod o gymorth mawr ac rydw i’n ei werthfawrogi'n fawr iawn." Eglurodd Mick Cook (MSc Geoffiseg Forol, Geodechneg ac Eigioneg Ffisegol, 1979) pam ei fod eisiau cyfrannu at Gronfa Bangor, a pham ei fod yn annog pobl eraill i wneud yr un peth: "Llwyddodd Prifysgol Bangor i newid fy mywyd i. Mae fy MSc o’r Ysgol Gwyddorau Eigion wedi bod yn basbort i fyd geowyddoniaeth y môr ac wedi rhoi gyrfa eithriadol o ddiddorol a gwerth chweil i mi. Rwy'n falch o fod yn un o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Bangor ac rwy'n credu ei bod yn bwysig cadw diddordeb yn nyfodol a ffyniant y gymuned ysgolheigaidd yr wyf yn aelod ohoni. "
Ydych chi’n ewyllysio gwneud gwahaniaeth? “Trwy adael cymynrodd i Brifysgol Bangor byddwch yn cael y cyfle i wneud gwahaniaeth mawr a pharhaol.” Peter Carpenter, alumnus Bangor (1997, MSc Coedwigaeth Amgylcheddol) Mae staff a myfyrwyr Prifysgol Bangor yn gwneud gwahaniaeth mewn nifer o wahanol feysydd. Mae ymchwil yn cael ei gwneud ym Mangor i ddyslecsia, magu plant, caffael iaith mewn plant; canser a dementia, cadwraeth a rheolaeth amgylcheddol, ansawdd dwr a meysydd pwysig eraill. Mae Prifysgol Bangor yn gwneud gwahaniaeth.
Beth am i chi wneud gwahaniaeth? Cofiwch am Brifysgol Bangor yn eich ewyllys. Mae Prifysgol Bangor angen cefnogaeth hefyd ar gyfer ei chasgliadau a’i hymdrechion diwylliannol, i ddiogelu a hyrwyddo ein dealltwriaeth o'n treftadaeth a'r celfyddydau. Os hoffech wybod mwy am gefnogi Prifysgol Bangor trwy adael rhodd yn eich ewyllys, cysylltwch â’r Pennaeth Datblygu a Chysylltiadau Alumni: Ffôn: +44 (0)1248 382020 E-bost: development@bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/rhoddwyr Mae Prifysgol Bangor yn elusen gofrestredig. Rhif 1141565
Dirprwy Is-ganghellor [Addysgu a Dysgu], yr Athro Colin Baker, Louisa Kelly Higby a Phennaeth yr Ysgol Gwyddorau Eigion, Yr Athro Chris Richardson
13 SHANKLAND AR EI NEWYDD WEDD
ALUMNUS YN RHOI RHYWBETH YN ÔL
Mae’r gwaith coed a’r dodrefn yn Narllenfa Shankland yn y Llyfrgell wedi cael eu hadfer i’w cyflwr gwreiddiol a gosodwyd goleuadau newydd ar ôl i’r Brifysgol dderbyn rhodd gan y Drapers’ Company. Mae Darllenfa Lloyd hefyd wedi elwa o haelioni’r Drapers’ Company trwy gael carped newydd yno.
Mae’r cyn-fyfyriwr Malcolm McGreevy (1969, Saesneg) wedi cefnogi'r Brifysgol yn hael trwy gyfrannu at Gronfa Bangor a darparu rhaglen o weithdai cyflogadwyedd i’r myfyrwyr presennol. Mewn trafodaeth ddiweddar gyda'r Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni, eglurodd Malcolm pam ei fod yn dymuno cefnogi Bangor:
Mae gan y Drapers’ Company gysylltiad hanesyddol gyda’r Brifysgol pan gyfrannodd y cwmni dros £315,000 yn wreiddiol i adeiladu’r llyfrgell a’r amgueddfa, a chyfrannwyd tuag at y costau o osod a gwella'r goleuadau trydan yn yr adeilad yn 1949 ac 1962. Ar hyn o bryd mae’r Drapers’ Company yn rhoi oddeutu £40,000 bob blwyddyn i’r Brifysgol i gefnogi gwahanol efrydiaethau PhD, projectau a chronfeydd caledi. Mae eu rhodd sylweddol ddiweddaraf wedi talu am waith adfer pellach. Os ewch i’r llyfrgell heddiw fe welwch fod y llawr pren a’r dodrefn wedi cael eu hadnewyddu'n gelfydd ac mae gan y llyfrgell garped newydd llachar. Yn siarad ar ran y Brifysgol, meddai’r Isganghellor, yr Athro John Hughes: “Rydym yn ddiolchgar iawn i’r Drapers am eu cefnogaeth barhaus i’r Brifysgol hon a’n myfyrwyr. Rydym bob amser yn edrych ymlaen at ymweliad blynyddol y Drapers gan ein bod yn gwybod bod ganddynt ddiddordeb mawr yn natblygiadau’r Brifysgol ac wrth eu bodd yn cyfarfod â rhai o’r myfyrwyr sy’n derbyn gwahanol Efrydiaethau.” O’r chwith i’r dde – yn ymweld â llyfrgell Shankland ar ei newydd wedd mae’r- Athro Colin Baker, Dirprwy Isganghellor; Mr David Learmont, Cyfarwyddwr Gwella Busnes; Ms Sue Hodges, Llyfrgellydd y Brifysgol; yr Athro John G. Hughes, Is-ganghellor; Mr Einion Thomas, Archifydd; Cefn–Llyngesydd Alastair Ross, Y Clerc, Drapers’ Company a Mr Anthony Walker, Y Meistr, Drapers’ Company.
"Dewisais astudio ym Mangor oherwydd fy mod yn hoffi’r mynyddoedd; ac roeddwn yn caru'r ardal gyda’i phobl, hanes, diwylliant ac iaith arbennig iawn. Llwyddais i gael gradd 2:1 a chael amser gwych ym Mangor. Yno cwrddais â fy ngwraig, bûm yn chwarae i dîm pêl-droed y Brifysgol yng Nghynghrair Cymru gan ddatblygu fy natur gystadleuol ac ennill yr enw ‘Iron man McGreevy’ sydd wedi aros gyda mi hyd heddiw! Cynigiais gynnal cyfres o weithdai i’r Brifysgol oherwydd fy mod eisiau rhoi’r cyfle gorau i fyfyrwyr Bangor ddatblygu eu gyrfaoedd trwy rannu’r wybodaeth a phrofiad sydd gennyf i ar ôl cael gyrfa lwyddiannus iawn. Rwy'n teimlo ei bod yn bwysig rhoi rhywbeth yn ôl i Fangor (trwy gefnogi Cronfa Bangor) oherwydd dyma’r lle sydd wedi creu'r unigolyn yr ydwyf heddiw, felly rwyf eisiau ad-dalu'r ddyled i le arbennig iawn.” I ddarllen cyfweliad Malcolm yn llawn, ewch i: www.bangor.ac.uk/alumni/quotes
MYFYRWYR A STAFF YN DIOLCH I’R ALUMNI AM RODDION I GRONFA BANGOR Diolch i haelioni cyn-fyfyrwyr a chyfeillion eraill y Brifysgol, cafodd Cronfa Bangor flwyddyn lwyddiannus iawn o ran codi arian yn 2010/11. Er gwaethaf yr hinsawdd economaidd wael sy’n parhau, cyfrannwyd y swm syfrdanol o £89,000 i’r Gronfa. Mae Cronfa Bangor yn helpu'r Brifysgol i roi’r profiad addysgol gorau posibl i’r myfyrwyr, gyda chefnogaeth cyfleusterau a gwasanaethau rhagorol. Roedd y Grwp Cymwynasau, sydd yn gyfrifol am ddyrannu rhoddion Gronfa Bangor, yn falch o gyfrannu’r arian hwn at nifer o wahanol achosion teilwng ym mhob rhan o’r Brifysgol. Cyfrannwyd at: • Grantiau Caledi i fyfyrwyr yn eu blwyddyn olaf, sydd angen cymorth ariannol oherwydd anabledd, gofal plant neu gostau teithio uchel neu sy’n wynebu caledi oherwydd damwain, salwch neu amgylchiadau teuluol. Yn y modd yma llwyddodd Cronfa Bangor i helpu 54 o fyfyrwyr. • Gwelliannau a newidiadau i'r Archifdy. Mae llawer iawn o eitemau prin, pwysig a diddorol yn Archifdy’r Brifysgol. • Y Gwasanaeth Cwnsela. Mae grant Cronfa Bangor yn cael ei defnyddio i sefydlu llyfrgell fenthyca llyfrau hunangymorth (a fydd yn cynnwys platiau llyfr yn cydnabod cyfraniadau’r alumni), a datblygu gweithdai Ymwybyddiaeth Ofalgar sy’n helpu i ddelio â phroblemau pryder, iselder, straen ac amrywiaeth o broblemau corfforol. • Mae Cymorth Cymraeg (rhan dau) yn wefan sy'n helpu myfyrwyr a staff i ddefnyddio'r Gymraeg yn y gweithle. Diolch i roddion yr alumni, bydd yr offer gwerthfawr hwn yn cael ei ddatblygu a'i ymestyn. • Bwrsariaethau’r haf i fyfyrwyr yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion a bwrsariaeth deithio i fyfyriwr PhD o'r Ysgol Hanes a Hanes Cymru. • Darpariaeth Chwaraeon. Mae dau faes wedi cael grant gan Gronfa Bangor. Yn gyntaf, yn sgîl y llifoleuadau cludadwy ar y caeau chwarae gellir cynnig tair gwaith cymaint o sesiynau hyfforddi i glybiau myfyrwyr, ac yn ail, hyfforddiant chwaraeon, a fydd yn golygu y gall myfyrwyr gymhwyso fel hyfforddwyr. • Amgueddfa Hanes Naturiol. Bydd y grant yn cefnogi cyflogi myfyrwyr Bioleg i gynorthwyo i wella'r cyfleuster sydd yn cael ei ddefnyddio gan fyfyrwyr, staff, plant ysgol ac aelodau eraill o’r cyhoedd sydd â diddordeb. • Gerddi Botaneg Treborth. Defnyddir y cyfraniad hwn i wella’r arwyddion am brif nodweddion yr ardd gan felly wella mwynhad myfyrwyr ac ymwelwyr.
14
proffil ALUMNI Rhys Davies (chwith) a Matt Wells
Matt Wells yw Prif Weithredwr a chydsefydlydd Outlook Expeditions, cwmni sy’n trefnu teithiau antur i bobl ifanc. Bu Matt yn awyrfilwr yn y fyddin Brydeinig ac yn hyfforddwr mentrau antur ac mae’n hynod frwd dros deithiau antur a’r manteision y mae hynny’n eu rhoi i bobl ifanc. Yn ystod ei yrfa mae wedi arwain cyrchoedd a theithiau i grwpiau o oedolion a phobl ifanc ar hyd a lled y byd, gan gynnwys yr ymgais gyntaf gan rai o Brydain i goncro gwahanol fynyddoedd. Bu Matt yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Bangor rhwng 1998 – 2001 gan ennill gradd anrhydedd 2:1 mewn Rheoli Adnoddau Hamdden a Thwristiaeth. Lluniwyd cynllun busnes gwreiddiol “Outlook” fel rhan o fodiwl ail flwyddyn o’r enw ‘Entrepreneurship Capital and the Firm’ – a chafodd Matt radd B am ei ymdrechion! Treuliodd flwyddyn olaf ei radd yn gorffen ymchwil ar gyfer y cynllun busnes, yn ogystal â chael cymhwyster CIPD NVQ Lefel 7 o Goleg Menai a pharhau i weithio fel hyfforddwr mynydda ar ei liwt ei hun. Gweledigaeth Matt oedd creu cwmni gwyliau antur i ieuenctid a oedd yn canolbwyntio ar wasanaeth uchel i gwsmeriaid yn ystod hyfforddiant cyn cychwyn yn ogystal â’r daith ei hun. I gyflawni hyn ac i wahaniaethu oddi wrth gwmnïau eisoes yn y maes, roedd Outlook eisiau darparu teithiau wedi eu llunio’n benodol i grwpiau unigol lle gallai athrawon drafod eu hanghenion a’u gofynion neilltuol gyda’r cwmni. Cyfarfu Matt â Rhys Davies, cyd-sefydlydd Outlook Expeditions a’i Reolwr Gyfarwyddwr, yn 2000. Mae gan Rhys gefndir o gydlynu projectau amgylcheddol a chymunedol ledled y byd ac mae ganddo radd MSc mewn Rheoli Adnoddau Cefn Gwlad o Brifysgol Bangor. Bu’n helpu gyda’r ymchwil cyn gwneud yr ymrwymiad eithaf drwy roi’r gorau i’w swydd i lansio Outlook ym Medi 2001 – i ddechrau bu’r ddau’n gweithio o hen sied foch lle roeddent yn rhannu un cyfrifiadur!
Ers hynny mae Outlook wedi mynd o nerth i nerth gydag arweinyddiaeth gref a gweledigaeth Matt a chyda Rhys yn parhau i sicrhau bod y cwmni’n mynd tu draw i’r hyn a ddisgwylir gan gleientiaid a’r diwydiant. Dros yr 11 mlynedd ddiwethaf, mae Outlook Expeditions wedi gweithio gyda channoedd o ysgolion ar draws Prydain ac wedi anfon dros 8,000 o bobl ifanc ar deithiau antur ledled y byd – teithiau sydd wedi eu galluogi i ddysgu sgiliau bywyd trosglwyddadwy, megis arweinyddiaeth, rheoli arian a datrys problemau ymysg llawer o bethau eraill. Mae tystiolaeth o’r rhain yn bwysicach nag erioed, gyda myfyrwyr yn gorfod profi bod ganddynt gryfderau heblaw llwyddiant academaidd wrth gystadlu am leoedd mewn prifysgol neu am swyddi. Mae cymryd rhan mewn taith antur yn dystiolaeth nid yn unig o’r sgiliau hyn, ond o ymrwymiad i gyflawni amcanion a derbyn her a’r wobr sy’n gysylltiedig â hynny. Mae Outlook wedi ymddangos yn gyson ar y siart ’50 Twf Cyflym’, sy’n cydnabod y cwmnïau sy’n tyfu gyflymaf yng Nghymru. Erbyn hyn mae gan y cwmni staff o 55, nifer ohonynt yn alumni Bangor, ac maent yn gweithio o adeilad pwrpasol ym Mharc Menai, Bangor. Maent hefyd wedi ffurfio partneriaeth unigryw â Phlas y Brenin, Y Ganolfan Fynydda Genedlaethol, ac ar hyn o bryd maent yn gweithio gyda Phrifysgol Bangor i gefnogi project PhD tair blynedd. Bydd y project yn edrych ar y ffactorau hynny sy’n rhoi profiadau positif i bobl ifanc sy’n cymryd rhan mewn teithiau antur a bydd yn fuddiol wrth i’r cwmni ddatblygu ymhellach.
Teithiau antur i bobl ifanc ledled y byd
Y tu allan i’r gwaith, mae Matt yn mwynhau beicio mynydd, mynydda a sgïo, ac mae’n byw yng Ngogledd Cymru gyda’i wraig Helen, ei fab Jack a’i ferch Elsie. Magwyd Rhys, sy’n siaradwr Cymraeg rhugl, yng Nghanolbarth Cymru ac mae’n syrffiwr, deifiwr a physgotwr plu eiddgar. Mae yntau’n byw yn awr yng Ngoledd Cymru gyda’i gymar Leisa a’r plant, Siôn, Mabon, Martha ac Efan.
15 Alumni
YNYGEMAUOLYMPAIDD
Wrth i wledydd Prydain ddal i ddathlu llwyddiant y gemau yn Llundain, dyma broffiliau rhai cyn-fyfyrwyr a oedd yn rhan o Gemau Olympaidd 2012. Dr Alan Budd MBE BSc (Anrh.) MB ChB DObstRCOG FRCGP. (1962, Botaneg) “Cefais fy nerbyn i astudio Botaneg ym Mhrifysgol Bangor pan oeddwn i’n 19 oed. Roedd gen i ddiddordeb mewn amaethyddiaeth a bioleg a Bangor oedd y lle delfrydol i astudio’r pynciau hynny ar lefel uwch. Roedd gan Fangor ddarlithwyr brwdfrydig mewn ardal ddaearyddol wych a oedd â chyfleusterau bioleg y môr ardderchog. Ar ôl blwyddyn penderfynais arbenigo mewn swoleg a thair blynedd wedyn graddiais gydag anrhydedd. Er bod meddygaeth yn apelio ataf, roedd rhai o'r agweddau mwyaf gwaedlyd yn codi ofn arnaf. Bu’n rhaid i mi weithio mewn ysbyty fel porthor ac fel nyrs cynorthwyol yn ystod y gwyliau er mwyn talu fy ffordd. Chwe blynedd yn ddiweddarach, graddiais o brifysgol Bryste â gradd mewn meddygaeth. Rhoddais fy mryd yn llwyr ar fod yn feddyg teulu a gweithiais yn y maes hwnnw am 35 mlynedd tan i mi ddal firws gan glaf a effeithiodd ar fy nghalon. Yn ystod y blynyddoedd hynny gwirfoddolais i gynorthwyo mewn achosion o ddamweiniau ffordd lleol a damweiniau mawr, a thrwy gydol y cyfnod hwnnw roeddwn yn barod ddydd a nos i ymateb i alwadau gan y gwasanaeth ambiwlans lleol. Cefais foddhad mawr o wneud y gwaith hwnnw a thrwyddo cefais wahoddiadau i fod wrth law i gynnig cymorth meddygol brys mewn digwyddiadau mawr yn Llundain, megis gemau rygbi a phêl-droed yr uwch gynghreiriau, marathonau a Speedway. Gweithiais yng Ngorllewin Affrica hefyd ar Long Ysbyty fawr fel Meddyg y Criw ac yn 1999 derbyniais MBE am ‘Wasanaeth i Feddygaeth'. Yn 2010 gwneuthum gais i fod yn wirfoddolwr (Games Maker) yng ngemau Olympaidd 2012. Gwirfoddolais i ddefnyddio fy holl sgiliau a phrofiad meddygol i gyfrannu at lwyddiant y gemau. Mae wedi bod yn wych cyfarfod â phobl sydd wedi fy ysbrydoli a chael dilyn sesiynau hyfforddi a chyfarwyddo ar Safle'r Gemau. Mae wedi bod yn anrhydedd cael fy mhenodi’n Feddyg Torf yn y Gemau Olympaidd a’r Gemau Paralympaidd ac, er iddo fod yn waith caled, rydw i wedi cael boddhad mawr ac roedd yn gyfle unwaith mewn oes.”
Danny Boyle (1978, Saesneg a Drama) Danny Boyle, un o wneuthurwr ffilmiau enwocaf Prydain, oedd y Cyfarwyddwr Artistig y tu ôl i seremoni agoriadol Gemau Olympaidd 2012 ar 27 Gorffennaf. Mae Boyle, a raddiodd gyda gradd Saesneg a Drama o Brifysgol Bangor yn 1978, yn fwyaf adnabyddus am gyfarwyddo ffilmiau fel Trainspotting, 127 Hours ac am ennill Gwobr yr Academi am y Cyfarwyddwr Gorau yn 2008 am ei ffilm Slumdog Millionaire. Dathlodd y seremoni agoriadol, o'r enw 'Isles of Wonders', bopeth Prydeinig o'r Chwyldro Diwydiannol i James Bond a Harry Potter ac roedd yn llawn o hiwmor Prydeinig. Llongyfarchiadau i Danny a'i dîm am greu sioe ysblennydd!
Paul Hammett (1981, Amaethyddiaeth ac Economeg Amaethyddiaeth) a Tim Godson (1981, Coedwigaeth) Roedd Paul Hammett a Tim Godson ym Mangor rhwng 1978-1981 a daethant yn ffrindiau ar ôl byw yn neuadd breswyl y Santes Fair yn eu blwyddyn gyntaf. Mae Paul yn byw ger Ely a Tim yng Nghaerefrog ac felly nid ydynt yn cael y cyfle i gyfarfod yn aml iawn. Felly roedden nhw wrth eu boddau i ddarganfod bod y ddau ohonynt wedi cael eu recriwtio fel gwirfoddolwyr Games Maker ar gyfer y Gemau Paralympaidd. Yn ystod y gemau, roedd y ddau’n gweithio yn y Venue ExCel; Paul yn gweithio gyda’r tîm Gwasanaethau Digwyddiadau, yn gwneud yn siwr bod y digwyddiadau’n rhedeg yn esmwyth, tra bod Tim yn rhan o'r tîm yn edrych ar ôl y gemau Pêl-foli Eistedd. Mwynhaodd Tim a Paul gyfle i sgwrsio ar ôl y digwyddiadau bob dydd a chael gweld ei gilydd yn rheolaidd am y tro cyntaf mewn 20 mlynedd.
Y BRIFYSGOL YN CHWARAE RHAN WRTH GLUDO’R FFAGL OLYMPAIDD AR EI THAITH Roedd nifer o staff, myfyrwyr ac alumni o Brifysgol Bangor ymhlith y rhai gafodd yr anrhydedd o gludo’r Ffagl Olympaidd ar ei thaith o gwmpas gwledydd Prydain. Roedd Dr Elin Davies, Swyddog Ymchwil Ôl-ddoethurol yn Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd y Brifysgol a Hazel Frost, Cynorthwywr Clercyddol yn yr Ysgol Seicoleg, ymysg y cludwyr. Dewiswyd Elin ar ôl iddi rwyfo 5,691 o filltiroedd ar draws dau gefnfor, gan godi bron i £250,000 at elusennau. Sefydlodd Hazel Gronfa Goffa Darren Frost er cof am ei mab a laddwyd mewn damwain ffordd yn 2009, ac ers hynny mae hi wedi bod yn ymgyrchu a chodi arian ar gyfer cyfleusterau hamdden gwell i bobl ifanc Bangor. Ymhlith cyn-fyfyrwyr Bangor a ddewiswyd i redeg gyda’r ffagl roedd Fiach O'Rourke, 23, alumnus Gwyddorau Chwaraeon sydd wedi cynrychioli tîm Cyfeiriannu cenedlaethol Iwerddon, ac Andrew Walling, cyn-fyfyriwr israddedig ac ôl-radd yn yr Ysgol Hanes.
Ewch i’n gwefan i weld manylion digwyddiadau, gwasanaethau a’r buddion sydd ar gael a gwybod mwy am ein gweithgareddau codi arian. Gallwch hefyd weld beth mae cyn-fyfyrwyr eraill an ei wneud heddiw, a rhannu atgofion a lluniau fel rhan o ‘Oherwydd Bangor’. www.bangor.ac.uk/alumni
Dod o hyd i ffrind Ydych chi wedi colli cysylltiad â ffrind dros y blynyddoedd? Gallwn ni eich helpu! E-bostiwch fanylion eich hen ffrindiau at alumni@bangor.ac.uk a byddwn yn chwilio drwy ein cronfeydd data i weld a oes gennym fanylion cyfredol ar eu cyfer, a cheisio eich rhoi mewn cysylltiad â’ch gilydd eto.
Teyrngedau Er nad ydym bellach yn cyhoeddi teyrngedau yn Bangoriad, byddwn yn gosod teyrngedau sy’n cael eu hanfon i’r Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni ar ein gwefan: www.bangor.ac.uk/alumni/Obituaries Os hoffech osod teyrnged ar ein tudalennau coffa ar-lein, cysylltwch â alumni@bangor.ac.uk neu ffoniwch +44 (0)1248 388332
Cadw mewn cysylltiad ar-lein Bangor University Alumni Prifysgol Bangor BangorAlumni Bangor University ALUMNI
Bangoriad Ar-lein Helpwch ni i leihau costau a niwed i’r amgylchedd drwy ddewis derbyn Bangoriad ar-lein yn unig. Os ydych yn fodlon derbyn rhifynnau Bangoriad drwy e-bost yn y dyfodol, ewch i: www.bangor.ac.uk/alumni/update i gyfleu eich diddordeb.
of
Rydym ni yma i’ch helpu i aros mewn cysylltiad â’ch gilydd a’r Brifysgol.
COFRESTR RHODDWYR 2010/ ROLLDONORS 2011
SWYDDFA DATBLYGU A CHYSYLLTIADAU ALUMNI
Hoffai Prifysgol Bangor gydnabod haelioni aelodau ei Chymdeithasau Rhoddwyr* a phawb arall a addawodd eu cefnogaeth yn 2010-11.
Bangor University would like to acknowledge the generosity of members of its Gift Giving Societies* and everyone else who pledged their support in 2010-11.
Mae’r rhestr isod yn cynnwys enwau pawb sydd wedi gwneud cyfraniad i Brifysgol Bangor rhwng 1 Awst 2010 a 31 Gorffennaf 2011, sef blwyddyn ariannol 2010/11 y Brifysgol.
Listed below are the names of all those who have made a contribution to Bangor University between 1st August 2010 and 31st July 2011, which is the University’s 2010/11 fiscal year.
Er y gwnaed pob ymdrech i sicrhau bod manylion pob rhodd yn gywir, byddwn yn ddiolchgar petai modd i chi dynnu sylw’r Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni at unrhyw wallau neu ddiffygion.
Whilst every effort has been made to ensure that all gift details are correct, we would appreciate it if you could inform the Development and Alumni Relations Office of any errors or omissions.
Allwedd
Key
CSM: Alumni Coleg y Santes Fair CN: Alumni y Coleg Normal
CSM: St Mary’s Alumni CN: Normal College Alumni
Mae’r dotiau lliw wrth enw pob rhoddwr sy’n gyn-fyfyriwr yn dangos y coleg y bu’n astudio ynddo neu y mae’n gysylltiedig ag ef. Nodir yr allwedd lliwiau isod.
The coloured dots next to every Alumni donor indicate in which college they studied or are affiliated. The colour key can be found below.
l Coleg y Celfyddydau, Addysg a'r Dyniaethau
l College of Arts, Education & Humanities
l Coleg Gwyddorau Naturiol
l College of Natural Sciences
l Coleg Busnes, Gwyddorau Cymdeithas a’r Gyfraith l Coleg Gwyddorau Iechyd ac Ymddygiad
l College of Business, Social Sciences & Law l College of Health & Behavioural Sciences
l Coleg Gwyddorau Ffisegol a Chymhwysol
l College of Physical & Applied Sciences
*Cymdeithasau Rhoddwyr Mae Prifysgol Bangor wedi sefydlu Cymdeithasau Rhoddwyr fel ffordd o gydnabod pobl a sefydliadau sy’n rhoi cymorth dyngarol i’r Brifysgol. Daw’r holl roddwyr sy’n addunedu i roi mwy na £500 yn aelodau o grwp rhoi, a bydd ganddynt hawl i gael y buddion sy’n gysylltiedig â bod yn rhan o’r gymdeithas honno. Ceir pum cymdeithas i roddwyr:
*Gift Giving Societies Bangor University has established Gift Giving Societies as a way of recognising people and organisations that support the University philanthropically. All donors pledging gifts over £500 will become members of a giving group, and will be eligible to receive the benefits associated with being a part of that society. There are five Gift Giving Societies:
Mordwywyr Bangor: i’r rhai sy’n rhoi mwy na £500 Gwarcheidwaid Bangor: i’r rhai sy’n rhoi mwy na £1,000 Arloeswyr Bangor: i’r rhai sy’n rhoi mwy na £5,000 Cylch yr Is-ganghellor: i’r rhai sy’n rhoi mwy nag £20,000 Cylch 1884: i’r rhai sy’n addunedu i adael cymynrodd i’r Brifysgol
Bangor Navigators: for those giving over £500 Bangor Guardians: for those giving over £1,000 Bangor Pioneers: for those giving over £5,000 Vice-Chancellor’s Circle: for those giving over £20,000 1884 Circle: for those who pledge to leave a legacy to the University
Rhoddion gan Alumni
Gifts from Alumni
Rhestrir rhoddwyr sy’n gyn-fyfyrwyr yn ôl eu Cymdeithasau Rhoddwyr a’u blynyddoedd graddio (neu yn ôl blwyddyn y radd gyntaf, os yw hynny’n berthnasol). Mae cyn-fyfyrwyr o Goleg y Santes Fair, y Coleg Normal a Phrifysgol Cymru, Bangor i gyd wedi’u cynnwys ar y rhestr isod.
Alumni donors are listed under their Gift Giving Societies and by year of graduation (of their first degree if applicable). Alumni from St Mary’s College, Normal College and University of Wales, Bangor are all included in the below list.
CYLCH YR IS-GANGHELLOR/ VICE-CHANCELLOR'S CIRCLE
1959 Dr Barbara Saunderson l
MORDWYWYR BANGOR/ BANGOR NAVIGATORS
1958 Mr Bernard Taylor CBE & Mrs Nadine Taylor (née Harvey, 1959) ll
1963 Dr W. Stan Jones OBE l
ARLOESWYR BANGOR/ BANGOR PIONEERS 1977 Yr Athro/Professor Costas Grammenos CBE l 1988 Mr David King l
GWARCHEIDWAID BANGOR/ BANGOR GUARDIANS 1945 Dr Meredydd Evans & Mrs Phyllis Kinney l 1953 Mr Kenneth Davies & Mrs Mary Davies (née Ellis, 1951) ll 1956 Mrs Hefina Chamberlain (née Roberts) l
1960 Mr Michael Carney l
1965 Mr Michael Haig l 1966 Mrs Maureen Rhys l Mr Ian Valentine l 1975 Mrs Bryony Henderson (née Lofts) l 1980 Mr John Jones l 1983 Dr John Hirst l 1984 Mr Colin Walls l 1992 Mr Aloke Kapur l 1996 Mr Edmond Douglas-Pennant l
1949 Mr Geraint Roberts & Mrs Anne Roberts OBE (née Davies, 1953) ll 1952 Mrs Gwen Harbottle (née Hughes) l 1954 Mrs Shirley Leahy (née Campbell) & Mr Peter Leahy (1953) ll 1961 Mr Raymond Footman & Mrs Els Footman l Yr Athro/Professor Frederick Hibbert OBE & Mrs Jacqueline Hibbert (née Woodward, 1964) ll Mr Martin Johnson l 1962 Mr Vaughan Clarke l Mr Richard Meredith l 1964 Mr John Llewellyn l Mr Gwyn Pritchard l Mrs Christine Wenham (née Howlett) & Dr Martin Wenham (1962) ll 1965 Mr Thomas Marlow l Dr John Wright l
1966 Mrs Susan Bush (née Davies) & Mr Alan Bush (1966) ll Mr Anthony Emery l Mr Alexander Robertson l 1967 Mr Gordon Ingall l 1968 Mr David Dack l Mr Andrew Thomas l 1969 Mr Gareth Davies & Mrs Tonnette Davies (née McMichan, 1968) CNll Ms Trudy Pankhurst ll Mrs Jacqueline Minchinton (née Berry) l 1970 Mr Roger Keenan l Dr David Wood l 1972 Miss Margaret Ellis l Mr Iain Fraser l Mrs Carys Gadsden (née Lloyd-Hewitt) l Mr David Jones ll Mr Curtis Winsborrow l 1973 Mrs Alison Lee (née Richmond) l Mr Roger Sykes l 1976 Y Parchedig/Reverend Stephen Agnew l Mr Stephen Baker l
1977 Mr Peter Dean l Dr Roy Frost l 1978 Mrs Helen Suiter (née McDowell) CNl 1979 Mrs Gillian Beecher (née Harrison) l 1980 Dr Susan Utting (née Ladbrooke) l 1981 Mr Keith Jones l 1982 Mr John Brazier & Mrs Nancy Brazier (née Lloyd, 1948) ll Dr Martin Gibson l 1983 Dr Ruth Williams l 1986 Mr Nicholas Page l 1987 Mr John Debenham l Mr David Robinson l 1989 Mr Paul Deeney l 1991 Mr Aidan Clark l 1994 Miss Joann Brayford l Dr Michael Glover & Mrs Philippa Glover (née Reed, 1992) ll 1998 Mr Stuart Vaughan l 2000 Ms Margaret Cody l 2002 Mr Jens Muhlert l 2006 Dr Christopher Tyreman l
Hoffai Prifysgol Bangor hefyd ddiolch i bawb arall a addawodd eu cefnogaeth yn 2010-11: Bangor University would also like to thank everyone else who pledged their support in 2010 -11: 1944 Mr Brian Hampson l 1947 Mr John Pennington CNl 1949 Mrs Mary Lupton (née Gee) l Dr William Roberts l Mr Kenneth Stott l 1950 Mr Philip Smith l 1951 Mr Kenneth Everington l Mr William Tozer l 1952 Mr Patrick Carden l 1953 Dr Kate Williams (née Hughes) l 1954 Y Parchedig/Reverend Geoffrey Asson & Mrs Margaret Asson (née Thomas,1953) ll Mrs Elisabeth Campbell (née Dodd) l Mr John Cowell ll Mr Michael McAfee l
Mrs Barbara Piggott (née James) l Mrs Glenys Tyler (née Griffiths) & Mr Bruce Tyler (1955) ll
1955 Mrs Gillian Ferguson (née Callaghan) l Dr Roy Snaydon l Mr Arthur Veysey) l Mrs Nia Watkiss (née Williams) l 1956 Mr Phillip Corbett & Mrs Eryl Corbett (née Roberts,1956) ll Mrs Gwyneth Davies (née Morgan) CNl Mrs Doreen Evans (née Lucas) l Dr Alwyn Roberts l 1957 Mrs Jean Fayle (née Hughes) & Mr Arthur Fayle (1956) ll Y Parchedig/Reverend Harri Jones l Dr Kenneth Lloyd l Y Parchedig/Reverend Elfed ap Nefydd Roberts l 1958 Dr Robert Evans l 1959 Dr Peter Critchley & Mrs Hilary Critchley (née Swain,1959) CSMll Ms Ann Lewis l Mr John Nelson & Mrs Cathryn Nelson (née Parry,1959) CNll Mr Courteney Owen & Mrs Ellen Owen (née Miller,1959) ll Yr Athro/Professor John Ryland & Mrs Christine Ryland (née Riley,1962) ll 1960 Mr Christopher Bryans l Mrs Tegwen Davies (née Davies) CNl Mr Evan Herbertll Mr Richard Hughes & Mrs Rene Hughes (née Roberts,1960) CNll Mr Allan Keall CNl Mr Harry Openshaw l Miss Gwenno Pritchard CNl Mr John Roberts l Mr Gerald Wilde l 1961 Mrs Beryl Carr (née Williams) CNl Mrs Rosemary Chainey (née Price) l Mr T. Noel Howard l Mr Arfon Williams l 1962 Mrs Patricia Oliver (née Lowcock) l 1963 Mr John Bennett l Mr John Clementson l Dr Alan Cowking l Mrs Ann Fychan (née Lewis) CNl Mr Raymond Grace l Mr Anthony Harrow l Mr Gwilym Rees-Jones l Mrs Iola Steele (née Williams) CNl Mr John Williamson l 1964 Mrs Valerie Bajina (née Taylor) l Mrs Patricia Bannister (née Rimmer) l Dr David Davies l Mr I. Gwynn Davies l Mr Christopher Legge l Y Parchedig/Reverend John Owen l Mr Reginald Powell l Yr Athro/Professor Gareth Williams l Dr David Woodruff l 1965 Mr Christopher Allen l Mrs Margaret Andrews (née Meering) & Mr Robin Andrews (1965)ll Mr Paul Biscoe l Mr Charles Dolamore l Mrs Felicity Horn (née Seccombe) l Mrs Margaret Howlett (née Easom) l Miss Anne Jackson l Mr David Whillock l Mr Christopher Williams l Mrs Margaret Williams (née Booth) l
1966 Mr John Cragg-James l Mr David Hobbs l Mrs Gloria Millett (née Davies) l 1967 Mrs Angela Burrill (née Johnson) l Mr Graham Coleman l Ms Sheila Jones (née Flynn) & Mr Edward Jones (1967) ll Mrs Mary Milliken (née Armstrong) l Mrs V. Heather Oehl (née Jarvis) l Mr Martin Taylor & Mrs Penelope Jones (1967) ll Dr Niki Thoma (née Kyrou) l 1968 Mr Nigel Lewis l Mrs Penelope Morgan (née Mawson) l 1969 Mr Robert Ashwood CNl Mr Arthur Berriman l Mr Thomas Cole l Mrs Judith Debenham (née Beard) l Mr Ian Emmitt l Mrs Carol Evans (née Baird) l Mrs Jane Hall (née Evans) l Mrs Kathleen Hinchcliffe (née Thornton) l Mr Malcolm McGreevy & Mrs Calan McGreevy (née Davies,1969) ll Mrs Marian Parsons (née Read) l Mr David Simmonds & Mrs Gillian Simmonds (née Evans,1969) ll 1970 Dr Peter Collister l Mrs Glenys Craig (née Edmunds) & Mr John Craig (1972) ll Mr David Hayhow & Mrs Catherine Hayhow (née Starr,1970) ll Mr Eric Lord l Y Parchedig/Reverend David Leese l Dr John Maconaghie l Mrs Juliet Straw (née Caudwell) l Mr John Taylor & Mrs Gillian Taylor (née Kendall,1970)ll Mr Caron Williams l 1971 Dr Janet Brown l Mrs Carole Collins (née Thomas) & Mr Jeffrey Collins (1972) CNll Mr Michael Elsden & Mrs Jennifer Elsden (née Love,1971)ll Dr Jean Joss (née Eddy) l Mrs Anwen Nicholson (née Edwards) CNl Mr Paul Ridley l Mrs Gwyneth Williams (née Hadlington) l 1972 Dr Gavin Alexander l Mr Simon Baines l Mrs Susan Cole (née White) CNl Mr Harry Cripps l Mrs Pamela Davies (née Hughes) l Mrs Janet Dawson (née Park) l Mr Hugh De Lacy l Mrs Elizabeth Donaldson (née Babb) l Miss Dallas Law l Mr John Wilson l 1973 Mrs Sharon Barbarez (née Belshaw) l Mr David Bevan l Mrs Caroline Camp (née Rimmer) l Mrs Margaret Ellison (née Stafford) l Mrs Margaret Jones (née Evans) CNl Mrs Glenys Little (née Jones) CNl Mr Leslie Rees l 1974 Mr Philip Brown l Mr Paul Clark l Mrs Patricia Griffiths (née Rose) l Mr James Lawrenson l Mr Malcolm Lee l Mr William Mason l Mrs Delyth Owen (née Parry) l Mr Hugh Taylor & Mrs Angela Taylor (1975) ll
1975 Mr John Brock l Mr Christopher Mooney l 1976 Dr Katrina Bentley l Mr Bernard Parkinson l Mr Michael Perry l Mrs Janet Springer (née Butterworth) l 1977 Mr Simon Conway l Dr Stuart Egginton & Mrs Enid Egginton (née Jones,1977) ll Mrs Myfanwy Harper (née Jones) CNl Mr Hugh Howells l Mr Ian Hyson l Mr Peter McKie l Mr Stephen Rydzkowski l Dr Sandra Shumway l Mrs Carole Thomas (née Bond) l 1978 Mrs Diane Cockburn (née Baillie) l Mrs Susanne Davies (née Williams) CNl Mrs Catherine Jones (née Jones) CNl Mr Philip Lawson l Mr Allan Miller l 1979 Miss Nia Morus l Mrs Angharad Rhys (née Owen) l 1980 Mrs Megan Clark (née Williams) l Mrs Sandra Easton-Lawrence (née Easton) l Mr Martin Farley l Mrs Nia Jones (née Davies) l Miss Yvonne Middleton l Dr Jeremy Sigger l 1981 Mr Christopher Ball l Mr Paul Billin l Mr Michael Cook & Mrs Christine Cook (née Tigar,1976) ll Dr Roger Thomas l 1982 Mr Anthony Bromham l Dr John Burden l Mr Timothy Clay l Mr Robert James l Mrs Jane Marshall (née Smith) l Mrs Joanna Overend (née Rowell) l Mr Matthew Phillips l Mr Wyn Thomas l Mr Robert Trethewey ll 1983 Mr Richard Beaumont l Mr Michael Cutler l Mr Nicholas Gray l Dr Sam Hoste l Mr Philip Newman l Miss Carys Pritchard l Mrs Mildred Roberts (née Williams) l Mr Anthony Robins l Mrs Angela Willetts (née Cottrell) & Mr Stephen Willetts (1983) ll 1984 Dr David Jones l Mr Mark Jones l Mrs Helen Lee (née Dixon) l Mr Timothy Lodge l Ms Josephine Rodgers (née Rodgers) l 1985 Mr David Graham l Mr Andrew Green l Mr John Pritchard l Mr Aled Trenhaile l 1986 Mr Simon Baldry l Miss Elizabeth Cohen l Mrs Rachel Haslam (née Morgan) & Mr Ian Haslam (1984) ll Mrs Gillian Lee (née Fraser) l Mrs Carolyn Rees (née Charles) l
1989 Mr David Allen l Mr Peter Arkley l Mrs Lois Fuller (née Read) l Mr Hugh Reynolds l Miss Hazel Taylor l Mr Christopher Williams l 1990 Mrs Iola Edwards (née Morus) CNl Mrs Penny Evans (née Moorhouse) CNl Miss Catherine Read l Dr Alison Weeks l 1991 Y Parchedig/Reverend Andrew Bawtree l Mr Stephen Gittins l Mrs Nicola Harker (née Tonge) l Mr David Parry l Mrs Sian Parry l 1992 Mrs Catherine Alexander (née Butler) l Mr Stuart Ireland l Dr Mary Lloyd l Mr Andrew Parry l Miss Laura Powell l Mr Andrew Prior l Mr Alexander Robinson l Mr Jason Stiles l Miss Sally Tainton l Mrs Helen Tapley-Taylor l 1993 Mr Richard Blake l Mrs Katherine Callas (née Barnes) l Mrs Michelle Clarke-Edwards (née Lee) l Miss Lucy Douglas ll Mr Stuart Elburn l Miss Sandra Forrest l Miss Sheena Harrison l Mr Kevin Randle l Dr Sheila von Symes-Schutzmann (née McGlassor) l 1994 Mr Sydney Caplan l Mr Matthew Davies l Mr Matthew Jones l Mrs Carolyn Neal (née Mapstone) l Mr Simon Oram l Mr Christopher Richardson l 1995 Mr Christopher Hall l Miss Tina Matthews l Mrs Helen Parkinson (née Workman) l Mr Robert Rawle ll Miss Catrin Williams CNl 1996 Miss Naomi Carter l Mr Mark Eborn l Miss Paula Felix l Mrs Bethan Griffiths Burke (née Griffiths) l Mr Patrick Lazare l Miss Rachel Madden l Mr Vincent Round l Mr Alastair Sill l Miss Sarah Warner l 1997 Miss Jilly Calder l Mrs Emma Copley (née Aspinall) l Mrs Cathryn Davey (née Williams) l Mr Lee Higson l Mr Steven Honeybun l Mr William Hutchins l Miss Rebecca Ingham l
1998 Miss Reshmi Bhowmik l Dr Peter Devereux l Mr Nigel Thomas l 1999 Miss Karen Bowles l Mrs Kerry Byrne (née Roberts) l Miss Samantha Davis l Mr Robert Martin l Mrs Hannah Sharpe (née Dear) l 2001 Dr Robert Dowsett l
Rhoddion oddi wrth Gyfeillion y Brifysgol Rhoddion oddi wrth gyn-aelodau staff, aelodau staff presennol a chyfeillion eraill i’r Brifysgol.
Gifts from Friends of the University Gifts made by former and current members of staff and other friends of the University.
ARLOESWYR BANGOR/ BANGOR PIONEERS Yr Athro/Professor David Jones
GWARCHEIDWAID BANGOR/ BANGOR GUARDIANS Dr J.E.A. Fisher Dr Philip Hollington Mr Lloyd Jones Mr Stanley Jones OBE Mrs Gaynor Lewis Miss Helen Miller Yr Athro/Professor Gareth Roberts Mr J. Graham Simpson & Mrs Huana Simpson (née Evans) Yr Athro/Professor Charles Stirling
MORDWYWYR BANGOR/ BANGOR NAVIGATORS Mrs Carys Jenkins (née Jones) Ms Nia Powell Yr Athro/Professor James Scourse
2002 Mrs Bethan Perkins (née Taylor) & Dr David Perkins (2000) ll Dr Leslie Thompson l 2004 Mr Philip Merchant l Miss Lisa Tildsley l 2005 Mrs Rebecca Comrie (née Smith) l Mrs Lara Davies l Mr Matthew Drury l Ms Dawn Fisher l Mr James Gripton l Mrs Julie Roberts l Mr Simon Rivett l Mr John Skinner l Miss Mari Waters l
2006 Mr Robert Brimacombe l Mr Gareth Buckland l Mrs Lynda Cowan l Mr Alan Greenwood l Ms Maureen Henneveld l Mr Matthew Irwing l Miss Alison Looser l Mrs Stephanie McCullough l Miss Eva Rees l Y Parchedig/Reverend Robert Shafto l Miss Lucy Storey l Miss Laura Townsend l Miss Linden Tweddle l Mrs Saffron Waters l Mr Robert Williams l
Hoffai Prifysgol Bangor hefyd ddiolch i bawb arall a addawodd eu cefnogaeth yn 2010-11: Bangor University would also like to thank everyone else who pledged their support in 2010 -11: Mr Dewi ap Rhobert Yr Athro/Professor Anthony Bushell Dr Jordi Cornella Detrell Mr B. S. Cumberland Mr John Davies Dr Jonathan Ervine Yr Athro/Professor Christopher Freeman Ms Kristen Gallagher Mrs E. Griffiths Mrs Manon Griffiths (née Hughes) Mr Dyfrig John CBE Yr Athro/Professor David Jones Mr Robert Jones Mrs S. Anna Jones Dr Ian Lovecy Miss Anna Macdonald Dr C. Madoc-Jones Mrs Emma Marshall Y Fonesig/Dame Helga Martin Mrs Edna Morgan Mrs Brenda O'Brien, In Memory of Jerome O'Brien Mrs Patricia Revell Miss Davida Roberts Mrs Delyth Roberts Mr Richard Roberts Dr Laura Rorato Ms Kirsty Thomson & Mr Steffan Huws Yr Athro/Professor Carol Tully Ms Patricia Tyldesley Mrs Dulcie Whitehead Yr Athro/Professor Gerwyn Wiliams & Mrs Delyth Williams (née Jones) Mr Huw Williams Miss Mair Williams Miss Rhiannon Williams Diolch hefyd i bob rhoddwr sydd wedi dewis aros yn ddienw. Thank you to all of those donors who have chosen to remain anonymous.
www.bangor.ac.uk/giving Bangor University is a registered Charity, No. 1141565
1988 Mr Thomas Bradley l Miss Julie Jenkins l Mr Hugh Oxburgh l
Mrs Annwen Jones l Miss Ageliki Politis l Miss Karen Van Coevorden l
www.bangor.ac.uk/rhoddwyr Mae Prifysgol Bangor yn Elusen gofrestredig, rhif 1141565
1987 Mr Mark Boulton l Ms Joanne Evered (née Duckworth) l Mr Dewi Griffith & Mrs Rhiannon Griffith CSMl Mr Allan Hindley l Mrs Suzanne Pearce (née Brown) l
CYLCH YR IS-GANGHELLOR/ VICE-CHANCELLOR'S CIRCLE Gaynor Cemlyn-Jones Trust James S. McDonnell Foundation North West Cancer Research Fund The Royal Society & the Wolfson Foundation Laboratory Refurbishment Programme Worshipful Company of Drapers Worshipful Company of Fruiterers
ARLOESWYR BANGOR/ BANGOR PIONEERS Energy Solutions HSBC Bank Plc Magnox Ltd National Welsh American Foundation Rosebush Properties Ltd Wolpertinger Club Agilent Artbuilding Ltd George Thomas Educational Trust Horizon Nuclear Power Simon and Philip Cohen Charitable Trust Waitrose
MORDWYWYR BANGOR/ BANGOR NAVIGATORS GreenWood Forest Park Gelli Gyffwrdd Eurographics
Bangor University would like to thank all of the businesses and organisations who worked in partnership with the University between August 2010 and July 2011, particularly those who took part in the KTP (Knowledge Transfer Partnerships) and KESS (Knowledge Economy Skills Scholarships) programmes. Agrisense Amgueddfa Lechi Cymru Archeotect Ltd / Ancient Arts Autism Cymru Betsi Cadwaladr University Health Board Blizzard Protection Systems Ltd Boots Centre for Innovation Ltd Cadwrateth Bywyd Gwyllt / Wildlife Conservation Wales (WCW) Calon Wen Organic Milk Co-operartive Canllaw (Eryri) Cyf Canolfan Dreftadaeth Kate Roberts Cartrefi Cymru CELW Ltd Centre for Advanced Software Technology Ltd Centre for Ecology & Hydrology (CEH) Chwarel - TV & Radio Production Coed Cymru Conwy County Borough Council Countryside Council for Wales Cwmni Cyhoeddi Curiad (Penygroes) Cwmni Cyhoeddi Gwynn Cyf Cwmni Da Cwmni Sain Cyf CyMAL: Museums Archives and Libraries Wales, WAG Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru Cyngor Llyfrau Cymru Dafydd Hardy Chartered Surveyors and Estate Agents Deepdock Ltd Dru (UK) Limited Dwr Cymru PLC - United Utilities Dwr Cymru Welsh Water (DCWW) Early Intervention Wales Training Ltd Ecological Surveys - Bangor /N Wales Wildlife Trust Elysium Projects Ltd Energy & Environment Business Services Ltd Ensemble Cymru Environment Agency Wales ESP Advance Ferlin Medical Ltd (being novated to Creo Medical Ltd) Food Dudes Health Ltd Footprints4Food GeoMon Glenside Organics Ltd Golwg Cymru GWEFR Cyf Gwynedd and Anglesey Autisma and Asperger Support Group / Gwynedd Council Gwynedd County Council Hathaway Technologies Ltd Hockley International Limited Hybu Cig Cymru Incredible Years Cymru Integral Business Support Ltd (IBS) Ipsen Biopharm Ltd Isle of Anglesey County Council
Isle of Anglesey County Council Knowtra Ltd Magnox Limited Magnox Ltd Menai Organics Ltd Mental Health Care UK Menter Mon Morvus Technology Nacro National Waterfront Museum/ Antena TV Outlook Expeditions P. Stanley Associates PhytoQuest Phytovation Limited Phytovation Ltd Plant Fibre Technology Polymer Health Technology Ltd Reeds from Seeds Ltd Remploy Rhyl City Strategy Royal Liverpool Philharmonic Society Royal Mencap Society Royal Mencap Society (Mencap Cymru) Rygbi Gogledd Cymru SAIN (Recordiau) Cyfyngedig Savari Research Trust SERCO Setters Associates Ltd Sianel Pedwar Cymru (S4C) Spatone Limited Superfix Supplements Ltd Surf-lines Tenovus Cancer Charity Testun Cyf The National Trust in Wales Tropical Forest Honey Products Tyddyn Mon Venue Cymru - Conwy County Council Vi-Ability Educational Programme Wales Council for Voluntary Action (WCVA)
Hoffai Prifysgol Bangor fanteisio unwaith eto ar y cyfle i ddiolch i'r holl alumni, staff a ffrindiau sydd wedi dangos eu hymrwymiad parhaol i lwyddiant Bangor yn y dyfodol trwy gynnwys y Brifysgol yn eu hewyllys. Bangor University would like to take this opportunity to once again thank all alumni, staff and friends who have demonstrated their lasting commitment to the future success of Bangor by including the University in their wills. Mae Prifysgol Bangor yn ddiolchgar o dderbyn rhoddion o ystadau’r canlynol yn 2010-11: Bangor University gratefully received distributions from the estates of the following in 2010-11: Dr John Mervyn Carter Mrs Eira M. Davies Mrs Kate Alice Megan Lewis
www.bangor.ac.uk/giving Bangor University is a registered Charity, No. 1141565
Gifts made by Corporations, Trusts and Foundations
Hoffai Prifysgol Bangor ddiolch i’r holl fusnesau a sefydliadau a weithiodd mewn partneriaeth â’r Brifysgol rhwng mis Awst 2010 a Gorffennaf 2011, yn enwedig y rhai a gymerodd ran yn rhaglenni KTP (Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth) a KESS (Ysgoloriaethau Sgiliau Economi Gwybodaeth).
www.bangor.ac.uk/rhoddwyr Mae Prifysgol Bangor yn Elusen gofrestredig, rhif 1141565
Rhoddion oddi wrth Gorfforaethau, Ymddiriedolaethau a Sefydliadau