Wnewch chi gofio Prifysgol Bangor gyda rhodd
yn eich ewyllys?

Rhaglen Cymynroddion Prifysgol Bangor (Cylch 1884)
Gyda’ch cefnogaeth chi, gallwn siapio’r dyfodol.
Rhaglen Cymynroddion Prifysgol Bangor (Cylch 1884)
Gyda’ch cefnogaeth chi, gallwn siapio’r dyfodol.
Wedi’i sefydlu yn 1884 fel Coleg Prifysgol
“Mae ymrwymiadau hael ein rhoddwyr yn ein galluogi i gynllunio’n hyderus ar gyfer y dyfodol.”
Gogledd Cymru, mae Prifysgol Bangor yn un o’r sefydliadau dyfarnu graddau hynaf a arweinir gan ymchwil yn y Deyrnas Unedig. Ariennir y Brifysgol gan chwarelwyr a ffermwyr lleol a oedd eisiau rhoi cyfle i bobl gogledd Cymru gael mynediad i addysg uwch. Yn yr hyn y gellid ei ddisgrifio fel enghraifft gynnar o ymgyrch cyllido torfol, cyfrannodd y rhai a fu’n gweithio’r graig ers cenedlaethau, trwy gyfrannu ceiniogau, tuag at ffurfio’r brifysgol - lle a fyddai’n caniatáu i feddyliau ymholgar ffynnu.
Mae Prifysgol Bangor yn sefydliad dan arweiniad ymchwil ac sydd â chysylltiadau byd-eang sy’n darparu addysg ragorol mewn ystod eang o ddisgyblaethau yn y celfyddydau a’r dyniaethau, gwyddorau cymdeithas, addysg, y gyfraith, busnes, gwyddorau’r amgylchedd, gwyddorau’r eigion, gwyddorau ffisegol, iechyd a meddygaeth.
Mae ein myfyrwyr yn cael eu haddysgu gan staff addysgu ysbrydoledig ac ymchwilwyr blaenllaw. Mae’n bwysig bod gan ein myfyrwyr sgiliau trosglwyddadwy fel y gallant ragori ar ôl iddynt adael y Brifysgol. Mae creu amgylchedd cadarnhaol sy’n gwella bywyd ein myfyrwyr yn sylfaenol i’w
haddysg, ac mae’n sail i brofiad eithriadol ehangach myfyrwyr. Mae gan Brifysgol Bangor enw da rhyngwladol rhagorol ac mae’n sefydliad sydd â’i wreiddiau’n ddwfn yn y gymuned leol, ac o fewn diwylliant ac iaith Cymru.
Hoffwn ichi ystyried yr effaith y gallech ei chael ar ein rhagoriaeth barhaus drwy addo cymynrodd. Mae cymynroddion yn cefnogi gwahanol agweddau ar ein gwaith, gan gynnwys ysgoloriaethau, bwrsariaethau, offer academaidd, a chefnogaeth i fyfyrwyr. Mae ymrwymiadau hael ein rhoddwyr yn ein galluogi i gynllunio’n hyderus ar gyfer y dyfodol.
Mae gan Brifysgol Bangor hanes balch o lwyddiant, a gyda’ch cefnogaeth chi, bydd ein dyfodol hyd yn oed yn fwy addawol.
Diolch yn fawr.
Yr Athro Edmund Burke
Is-ganghellor
Mae ein hymchwil arloesol yn llywio ein haddysgu ac yn helpu i ddatblygu ein dealltwriaeth gyfunol o’r byd o’n cwmpas.
Mae’r Brifysgol, sy’n gartref i thua 10,000 o fyfyrwyr a bron i 2,000 o aelodau staff, yn adnabyddus yn y Deyrnas Unedig, ac yn rhyngwladol, am safon eithriadol uchel ei haddysgu a’i hymchwil ar draws amrywiaeth eang o ddisgyblaethau academaidd.
Gofynnir i gyn-fyfyrwyr a chyfeillion ystyried cynnwys rhodd i Brifysgol Bangor yn eu hewyllys am wahanol resymau. Efallai y byddwch yn teimlo’n ddiolchgar am y gefnogaeth ariannol a alluogodd eich astudiaethau neu’r addysg a ddatblygodd eich gyrfa. Efallai eich bod yn dymuno anrhydeddu eich amser eich hun neu anwylyd yma, neu efallai eich bod yn frwd dros addysg. Ni waeth beth fo’ch cymhelliant, gall eich rhodd effeithio’n fawr ar fyfyrwyr presennol a myfyrwyr y dyfodol.
Nid yw cynnwys rhodd i Brifysgol Bangor yn eich ewyllys yn costio dim i chi nawr, ond bydd yn gadael cymynrodd barhaol am genedlaethau i ddod.
Mae anghenion ariannol y Brifysgol yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn ac mae’n derbyn cyllid o lawer o wahanol ffynonellau ar gyfer ei gwahanol feysydd gwaith. Mae cymynroddion digyfyngiad at ddibenion cyffredinol yn rhoi hyblygrwydd i Fangor fuddsoddi yn y rhaglenni a’r cyfleusterau y mae mwyaf o’u hangen pan dderbynnir rhoddion. Bydd eich cymynrodd at ddibenion cyffredinol yn sicrhau rhagoriaeth
Bangor yn y dyfodol a’i gallu i gystadlu mewn byd cyson gyfnewidiol.
Efallai bod maes arbennig yn agos at eich calon – megis ysgol academaidd, rhaglen ymchwil neu gefnogaeth i fyfyrwyr – neu efallai yr hoffech sicrhau bod eich enw chi neu enw aelod o’ch teulu’n cael ei gofio drwy gyllido gwobr neilltuol.
Dros amser bydd ysgolion/colegau academaidd a meysydd ymchwil yn newid; felly, mae’n werth osgoi pennu dibenion penodol iawn ar gyfer eich rhodd gan y gallai hynny atal ei defnyddio. I osgoi sefyllfa felly, efallai yr hoffech ystyried cynnwys darpariaeth yn eich ewyllys sy’n caniatáu i’r Brifysgol ddefnyddio eich cymynrodd mewn maes cyffelyb, neu lle mae angen brys am gefnogaeth ariannol.
Bydd tîm y Swyddfa Ddatblygu a Chysylltiadau Cyn-fyfyrwyr yn barod iawn i drafod sut y gall Bangor gadw at eich dymuniadau.
“Cymynrodd barhaol am genedlaethau i ddod.”
“Bydd cymynrodd Ms Mair Roberts yn cefnogi ymchwil cynnar sy’n hanfodol yn y gwaith parhaus i ddatblygu ffyrdd diogel ac effeithiol o drin canser, ac yn y pen draw, ei wella’n gyfan gwbl. Bydd yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i effeithlonrwydd ein gwaith, gan ein caniatáu i gynnal arbrofion ar raddfa fwy, yn fwy cywir, ac mewn ffordd sy’n ein galluogi i atgynhyrchu’r gwaith ar fathau gwahanol o gelloedd canser.
Gan fod y darnau hyn o offer yn cael eu defnyddio yn y diwydiant fferyllol, bydd hefyd yn helpu ein myfyrwyr i drosglwyddo’n ddidrafferth o’r byd academaidd i ddiwydiant pe baent yn dewis dilyn y llwybr gyrfa hwnnw.”
Dr Jonathan Blank (Uwch Ddarlithydd, Ysgol Feddygol Gogledd Cymru)
“Fe wnaeth ysgoloriaeth yr Athro Miles helpu i ariannu fy astudiaethau graddedig, a rhywfaint o fy ngwaith ôl-ddoethurol, ym Mhrifysgol Bangor. Roedd y gwaith hwn yn canolbwyntio ar ddeall anawsterau llythrennedd ymysg plant sydd ag anhwylderau niwroddatblygiadol sy’n cydddigwydd ac unigol. Rwy’n parhau â’r gwaith hwn heddiw ac mae’r gwaith hwn bellach wedi esblygu hefyd i gynnwys ymchwil ymyrraeth sydd eisoes yn helpu plant sydd ag anawsterau llythrennedd ledled y Deyrnas Unedig, yn yr un modd, i raddau helaeth iawn, â gwaith yr Athro Miles o alinio ymchwil ac ymarfer. Nawr, fel Darlithydd yn Adran Addysg Prifysgol Efrog, rydw i mor ddiolchgar i ysgoloriaeth yr Athro Miles am roi’r cyfle i mi ddatblygu a siapio fy ngwaith sy’n rhoi boddhad i mi, rhywbeth na fyddai, efallai, wedi bod yn bosibl fel arall.”
Dr. Cameron Downing (cyn ysgolhaig PHD am gymynrodd yr Athro Tim Miles)
Os yw’n well gennych adael eich cymynrodd ar gyfer diben penodol, a fyddech cystal ag ystyried cefnogi un o’r meysydd blaenoriaeth canlynol:
Ysgol Feddygol Gogledd Cymru
Mae Prifysgol Bangor wedi sefydlu ysgol
feddygol annibynnol newydd, sef Ysgol
Feddygol Gogledd Cymru. Datblygwyd yr ysgol feddygol newydd o weledigaeth y brifysgol a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a bydd yn adeiladu ar sylfaen fyd-eang o ymchwil sy’n seiliedig ar effaith a chynnydd gwyddonol sy’n darparu addysg o’r radd flaenaf, sgiliau cadarn a datblygu gwasanaethau, gan wella canlyniadau iechyd ac arwain uchelgais economaidd. Bydd Ysgol Feddygol Gogledd Cymru yn tyfu i recriwtio 140 o fyfyrwyr bob blwyddyn, gan roi hwb mawr i anghenion staffio meddygol a GIG Cymru yn y rhanbarth. Ein huchelgais yw sefydlu canolfan newydd i’r ysgol gan ganolbwyntio’r ddarpariaeth mewn un lleoliad o ansawdd uchel, sy’n cynnig profiad rhagorol i fyfyrwyr, cydweithio rhyngbroffesiynol effeithiol, ac amgylchedd sy’n trawsnewid ein capasiti ym maes ymchwil a gwyddorau bywyd.
Bydd cymynroddion sy’n cefnogi Ysgol Feddygol Gogledd Cymru yn helpu’r brifysgol i hyfforddi myfyrwyr i fod yn feddygon rhagorol, yng Nghymru a thu hwnt, trwy ddarparu addysgu o ansawdd uchel, a phrofiad dysgu ysbrydoledig yn seiliedig ar fwy o gyswllt clinigol ac addysgu clinigol sydd wedi ennill gwobrau ym Mwrdd Iechyd y Brifysgol.
Cefnogaeth i fyfyrwyr – israddedig ac ôl-radd
Mae Prifysgol Bangor wedi ymrwymo i gofrestru myfyrwyr talentog a sicrhau y gallant fwynhau’r holl gyfleoedd sydd ar gael iddynt, beth bynnag fo eu hamgylchiadau ariannol. Mae ysgoloriaethau a bwrsariaethau hael yn helpu Bangor i ddenu israddedigion ac ôl-raddedigion o’r safon uchaf a sicrhau eu bod yn ffynnu yn ystod eu cyfnod yma.
Bydd cymynroddion tuag at grantiau i fyfyrwyr o gymorth i drawsnewid bywydau cenedlaethau o fyfyrwyr Bangor yn y dyfodol.
Cefnogi ymchwil
Mae ysgolion academaidd Bangor gydag arbenigedd byd-enwog mewn amrywiaeth o bynciau. Mae llwyddiant academaidd Bangor yn dibynnu ar ymchwil o’r safon uchaf a gefnogir gan adnoddau rhagorol. Mae llawer o roddwyr yn cefnogi swyddi a rhaglenni academaidd sy’n rhoi hyblygrwydd i ysgolion archwilio meysydd ymchwil newydd.
Bydd cymynroddion i gefnogi cenhadaeth ymchwil Bangor o gymorth i sicrhau y bydd y gwaith hwn yn parhau i fod o bwysigrwydd cenedlaethol a rhyngwladol, gan gynnig atebion arloesol i sialensiau yfory.
When should I make a will?
Mae ewyllys yn ddogfen gyfreithiol effeithiol a all helpu i warchod y bobl a’r sefydliadau hynny y dymunwch eu cefnogi.
Mae gwneud ewyllys yn weithred bwysig. Mae’n gyfle i chi wneud rhywbeth eithriadol a gwneud gwahaniaeth parhaol. Heb ewyllys, mae’r gyfraith yn nodi rheolau diffyg ewyllys clir o ran sut y caiff eich ystâd ei dosbarthu, nad ydynt efallai’n cyd-fynd â’ch dymuniadau.
Pan fyddwch yn penderfynu gwneud ewyllys dylech ymgynghori â chyfreithiol a fydd yn rhoi cymorth proffesiynol i chi er mwyn sicrhau y bydd eich cynlluniau’n rhoi’r budd ariannol mwyaf posibl i’ch buddiolwyr. Mae’n bwysig eich bod yn diweddaru eich ewyllys i gymryd i ystyriaeth newidiadau mewn amgylchiadau.
Ar y tudalennau a ganlyn ceir gwybodaeth am wahanol fathau o gymynroddion, cyfeirio eich cefnogaeth, diwygio ewyllysiau presennol a statws elusennol y Brifysgol.
Pa fath o rodd y gallaf ei gadael yn fy ewyllys:
Wrth adael rhodd yn eich ewyllys, gallwch nodi pa fath o rodd yr hoffech ei gadael. Y pedwar prif fath o gymynroddion yw: Ariannol - rhodd o swm penodol o arian Dros amser, mae gwerth rhodd o’r fath yn lleihau gyda chwyddiant ar ôl ysgrifennu’r ewyllys. Gellir osgoi hyn drwy ei gysylltu â’r Mynegai Prisiau Manwerthu (Retail Price Index) neu neilltuo canran o’ch ystâd (gweler Cymynrodd Gweddill isod)
Penodol - rhodd o eiddo neu ased penodol
Mae enghreifftiau’n cynnwys: eiddo, stociau a chyfranddaliadau, paentiadau neu bethau gwerthfawr eraill.
Gweddill - rhodd o weddill eich ystad neu gyfran ohoni
Ar ôl i chi adael eich rhoddion ariannol a phenodol, gweddill eich ystad sydd ar ôl. Gellwch roi’r cyfan o’r gweddill i berson neu sefydliad neilltuol, neu gellwch ei rannu rhwng nifer o fuddiolwyr. Mantais y math yma o gymynrodd yw na fydd yn cael herydu gan chwyddiant.
Refersiynol - rhoi asedau i fuddiolwr o’ch dewis, ond gan roi’r buddion ohonynt i unigolyn penodedig yn ystod ei oes. Er enghraifft, gallai’r math hwn o rodd alluogi priod i barhau i fyw mewn tŷ yr ydych yn berchen arno nes iddo ef neu hi farw, gyda’r cyfalaf wedyn yn mynd i’r Brifysgol.
Geiriad a awgrymir ar gyfer eich cymynrodd
Mae’r paragraffau canlynol yn rhoi enghreifftiau o’r geiriau yr hoffech eu defnyddio yn eich ewyllys efallai. Bydd y Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Cynfyfyrwyr yn barod i roi cyngor pellach ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych. Ym mhob achos, rydym yn argymell bod y geiriau a ddefnyddir yn eich ewyllys yn cael eu hadolygu’n ofalus gennych chi a’ch cyfreithiwr.
Rhoddir y testun yma fel arweiniad yn unig ac nid ei fwriad yw disodli cyngor cyfreithiol neu broffesiynol arall.
Ariannol
Rhoddaf i Prifysgol Bangor, Ffordd y Coleg, Bangor, Gwynedd, LL57 2DG y swm o £____________ (yn ddi-dreth)* ar gyfer ei dibenion cyffredinol (NEU i ddibenion _____________________) ac rwy’n cyfarwyddo bod derbyniad Is-ganghellor y Brifysgol neu swyddog awdurdodedig arall bryd hynny yn y Brifysgol yn gyflawniad llawn a digonol i’m hymddiriedolwyr.
Penodol
Rhoddaf i Prifysgol Bangor, Ffordd y Coleg, Bangor, Gwynedd, LL57 2DG ______________________________ (nodwch ddisgrifiad clir o’r eitem(au) i’w gadael) neu’r elw o’r gwerthiant, os yw’n cael ei werthu erbyn fy marwolaeth, gyda grym llawn i wireddu asedau o’r fath ac i gymhwyso’r elw at ddibenion cyffredinol y Brifysgol (NEU at ddibenion _____________________) ac rwy’n cyfarwyddo bod derbyniad Is-ganghellor y Brifysgol neu swyddog awdurdodedig arall bryd hynny yn y Brifysgol yn gyflawniad llawn a digonol i’m hymddiriedolwyr.
*Cysylltwch â’r Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Cynfyfyrwyr am eiriad posibl pe baech yn dymuno gwarchod eich Cymynrodd Ariannol rhag chwyddiant, drwy ei chysylltu â’r Mynegai Prisiau Manwerthu.
Gweddillol
Rhoddaf i Prifysgol Bangor, Ffordd y Coleg, Bangor, Gwynedd, LL57 2DG (nodwch ‘y cyfan’ neu pa bynnag gyfran o’ch ystad y dymunwch ei rhoi) o weddill fy ystad yn llwyr i’w defnyddio ar gyfer dibenion cyffredinol y Brifysgol (NEU i ddibenion _____________________) gyda phŵer llawn i wario cyfalaf yn ogystal ag incwm ac rwy’n cyfarwyddo bod derbyniad Cofrestrydd y Brifysgol neu swyddog awdurdodedig arall bryd hynny yn y Brifysgol yn gyflawniad llawn a digonol i’m hymddiriedolwyr.
Refersiynol
Mae’r broses o drin trethi cymynroddion refersiynol yn broses gymhleth, felly, dylech drafod eich cynlluniau gyda gweithwyr proffesiynol ym maes cyllid a’r gyfraith, a all roi cyngor i chi ynghylch geiriad priodol eich ewyllys.
Diwygio ewyllysiau presennol - ysgrifennu codisil
Os oes gennych ewyllys eisoes, bydd aelod o’r Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau
Cyn-fyfyrwyr yn barod iawn i egluro sut y gellir gwneud newid syml drwy ddefnyddio codisil.
Beth yw’r manteision treth o adael rhodd yn fy ewyllys?
Trwy adael cymynrodd i Fangor gellwch leihau gwerth trethadwy asedau eich ystad ac felly leihau swm y dreth etifeddu sy’n ddyledus.
Mae gan Brifysgol Bangor statws elusennol llawn ac mae holl roddion a chymynroddion i’r Brifysgol wedi eu heithrio’n llwyr o dreth etifeddu’r Deyrnas Unedig. Rhif Comisiwn Elusennau Prifysgol Bangor yw 1141565. Os ydych yn byw y tu allan i’r Deyrnas Unedig gofynnwch i’ch cynghorwr am wybodaeth bellach ar statws treth cymynroddion a wneir i elusennau yn y DU.
Rhai enghreifftiau o gymynroddion a roddwyd i Brifysgol Bangor:
Gadawodd Mrs Juene Jones (1950, Lladin a Ffrangeg), £2,000 er cof am Juene a David Jones tuag at gronfa caledi ariannol myfyrwyr.
Gadawodd Ms Mair Roberts, cyfaill i Brifysgol Bangor, £95,000 i gefnogi Sefydliad North West Cancer Research.
Gadawodd Mrs Rene Williams (1939, Lladin), £300,000 i “Gronfa Goffa Edwin Williams” er cof am ei gŵr, Mr Edwin Williams, i ddarparu ysgoloriaethau i fyfyrwyr Drama/Drama Gymraeg.
Gadawodd Syr Kyffin Williams RA, cyfaill i Brifysgol Bangor, rodd sylweddol yn cynnwys gweithiau celf pwysig, llyfrau a dodrefn.
Gadawodd Miss Nést Morris Jones (1926 Y Clasuron), dros £260,000 i gefnogi rhaglenni Cymraeg ac addysg cyfrwng Cymraeg, er cof am ei thad, Yr Athro Syr John Morris Jones, Athro cyntaf y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor.
Gadawodd Mrs Gwladys (Gail) Rees, cyn aelod o staff Coleg Normal Bangor, £10,000 er cof am ei gwr, Mr Edward Rees, cyn Brifathro’r Coleg Normal ac Is-lywydd y Brifysgol.
Gadawodd Mr Alan Marsh (1952, Swoleg ac Amaethyddiaeth), £1,000 i gefnogi Undeb Athletau Prifysgol Bangor.
Gadawodd yr Athro Tim Miles, cyn aelod o staff Prifysgol Bangor, dros £54,000 i gefnogi ymchwil i anhwylderau datblygiadol sy’n cyd-ddigwydd, yn cynnwys dyslecsia.
Cyllidodd hyn PhD 2 flynedd mewn Seicoleg.
Gadawodd Mr Barry Paine (1961, Eigioneg), dros £52,000 i Ysgol Gwyddorau’r Eigion i gefnogi myfyrwyr ar y rhaglen lleoliadau haf.
Gadawodd Ms Gwladys Richardson, cyfaill i Brifysgol Bangor, £38,000 i “Wobr Goffa
Mr a Mrs David Edward” er cof am ei rhieni, i helpu unrhyw fyfyrwyr sy’n dymuno gwneud ymchwil ôl-radd
Gadawodd Mrs Rosamund P Bourke, cyfaill i Brifysgol Bangor, £10,000 tuag at weithgareddau ymchwil ac allgymorth parhaus y rhwydwaith/canolfan Astudiaethau Crefyddol
Trwy adael cymynrodd, byddwch yn rhan o Raglen Cymynroddion Prifysgol Bangor (Cylch 1884), a byddwch yn un o’r unigolion ymroddgar sydd wedi dangos eu hymrwymiad parhaus i lwyddiant Prifysgol Bangor yn y dyfodol.
Gall cefnogaeth ein cyn-fyfyrwyr a’n cyfeillion wneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r brifysgol ac i’n myfyrwyr presennol, yn ogystal â’n darpar fyfyrwyr. Bydd eich cymynrodd yn gadael effaith barhaol.
Gyda’r daflen hon ceir ‘Datganiad o Fwriad’ i roi cymynrodd. Byddai o gymorth mawr i Brifysgol Bangor pe gallech anfon y ffurflen hon i’r Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau
Cyn-fyfyrwyr, lle caiff ei chadw’n gyfrinachol. Bydd ei dychwelyd yn ein helpu i ddiolch i chi a sicrhau ein bod yn deall eich dymuniadau’n iawn.
Hefyd, os yn briodol, gall aelod o’n tîm drafod eich bwriadau gyda chi er mwyn sicrhau bod eich cymynrodd yn ymarferol bosibl. Ni fydd hyn yn eich rhoi dan unrhyw rwymedigaeth i Brifysgol Bangor nac yn eich ymrwymo i unrhyw gamau neilltuol, ac ni fydd yn cyfyngu ar eich rhyddid i newid eich ewyllys.
Trwy eich cefnogaeth chi gallwn siapio’r dyfodol.
Diolch yn fawr.
Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau
Cyn-fyfyrwyr
Prifysgol Bangor
Bangor
Gwynedd
LL57 2DG
Ffôn: +44 (0)1248 382020 neu +44(0)1248 388756
E-bost: cymynrodd@bangor.ac.uk
www.bangor.ac.uk/cy/cefnogi/rhaglencymynroddion
www.bangor.ac.uk/cy/cefnogi