Chwefror 2013 Llongyfarchiadau i Sian Elin Powell - sydd yn diwtor Cymraeg i'r Teulu, ac yn un o fyfyrwyr y cymhwyster eleni - ar enedigaeth mab bach Owain Myfyr ar ddydd calan. Mae Sian yn byw yn Llanelidan ger Rhuthun ag yn briod 창 Gareth.
Rydym ni wedi dechrau blog newydd ar gyfer tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion. Gwefan ydy hon sy'n trafod/rhannu syniadau am addysgu Cymraeg i Oedolion a'r maes yn gyffredinol.
www.ywers.com Dyma gyferiad y safle, gobeithio bydd y safle'n fuddiol a diddorol i chi. Bydd y safle'n cael ei ddiweddaru'n wythnosol. Os ydych yn teimlo bod gennych chi syniadau yr hoffech eu trafod neu eu rhannu, cysylltwch gyda mi lowri.m.jones@bangor.ac.uk Hefyd, mae croeso i chi ysgrifennu unrhyw sylwadau ar y blog a thrafod ymysg eich gilydd!
Eisiau cynnig rhywbeth gwahanol yn y dosbarth? Ewch i www.telesgop.co.uk/clicclonc Yma cewch wahanol adnoddau o fideos / clipiau sain / gemau sy’n ymdrin â nifer o bynciau defnyddiol. Yn arbennig i lefelau Mynediad a Sylfaen.
Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych a’r Cyffiniau ar gyrion tref Dinbych o 2-10 Awst 2013.
DYDDIADAU CAU ar gyfer amrywiol gystadlaethau y dysgwyr: Dysgwr y Flwyddyn - 31 Mawrth 2013 Cyfansoddi - 1 Ebrill 2013 Llwyfan - 1 Mai 2013
Am ragor o wybodaeth ewch i www.eisteddfod.org.uk www.twitter.com/eisteddfod Ffurflenni Cais wedi amgáu efo’r bwletin yma. Cysylltwch efo’r Ganolfan am ragor o gopïau.u Enillydd y llynedd oedd
Isaías Grandis o Batagonia Ei obaith yw cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yn ei ardal leol ym Mhatagonia, a'i freuddwyd fyddai - adeiladu Ysgol ddwyieithog (Cymraeg a Sbaeneg) yn Nhrevelin, fel Ysgol yr Hendre yn Nhrelew. Mor braf fasai gweld un o ddysgwyr gogledd Cymru yn ennill. Un o’ch dysgwyr chi? Beth amdani?
Cofiwch annog eich dysgwyr i fynychu a chymryd rhan yn …
Cynhelir Eisteddfod y Dwyrain yn Neuadd Goffa, Wrecsam LL12 7AG nos Wener 08/03/13 am 7.00pm Eleni cynhelir rhagbrofion i’r cystadlaethau unigol ar y llwyfan yn y Saith Seren, Ffordd Caer, Wrecsam LL13 8BG rhwng 5.00 – 6.30pm
Cynhelir Eisteddfod y Gorllewin yn Nhŷ Golchi, Bangor LL57 4BT nos Wener 22/03/13 am 7.00pm
Bydd angen i’r dysgwyr lenwi ffurflen gystadlu os ydynt yn bwriadu cystadlu yng nghystadlaethau llwyfan (ar y rhestr testunau). 22/02/13
01/03/13
Dylid dychwelyd y ffurflen i Siwan Hywel, Swyddog Cyfathrebu, Canolfan Cymraeg i Oedolion Gogledd Cymru, Stryd y Deon, Bangor, Gwynedd LL57 1UT siwan.hywel@bangor.ac.uk 01248 388 248 Dylai pob tiwtor dderbyn Gwaith Cartref ysgrifenedig gan y dysgwyr erbyn 22/02/13
01/03/13
Cofiwch hysbysu pawb y dylai holl gystadleaethau Celf a Chrefft gyrraedd erbyn 6.00pm ar y noson (dim ond yn berthnasol i Eisteddfod y Dwyrain)
Os am gopi o’r rhestr testunau neu ffurflen gystadlu yna ewch i learncymraeg.org neu cysylltwch â siwan.hywel@bangor.ac.uk 01248 388 248