DYDDIADUR WYTHNOS GROESO ˆ Ol-raddedigion 2013
Rhestr Wirio 1 A ydych wedi gwneud cais ar gyfer llety Prifysgol arlein? www.bangor.ac.uk/llety 2 A ydych wedi gwirio eich statws brechiadau MMR a llid yr ymennydd C (meningitis C)?
3 A ydych wedi llenwi’r ‘Ffurflen Gofrestru Gwasanaethau Meddygon Teulu’ (os yw’n briodol) a’i dychwelyd i’r feddygfa yn yr Amlen Stampiedig a ddarparwyd? 4 A ydych wedi darllen y daflen amgaeedig ‘Cyngor Ariannol’? Mae hon yn rhoi rhagor o gyngor ar Fenthyciadau Myfyrwyr, Bancio ac ystyriaethau ariannol eraill ar gyfer myfyrwyr newydd. 5 Ydych chi wedi darllen y wybodaeth ‘Talu Ffioedd’ yn adran ‘Trefn Gofrestru a Ffioedd’ y llyfryn hwn a gwneud trefniadau ar sail hynny ar gyfer talu eich ffioedd dysgu a’ch ffioedd neuadd?
• Os ydych yn ansicr ynglyˆn ag unrhyw beth cofiwch ofyn. Bydd staff ar gael i’ch helpu lle bo angen. • Edrychwn ymlaen at eich gweld ym Mangor!
Cynnwys Croeso i Fangor
2
Beth sy’n digwydd yn ystod yr Wythnos Groeso?
2
Manylion cyrraedd i’r rhai hynny sy’n byw mewn llety prifysgol
8
Manylion cyrraedd i’r rheiny sy’n byw yn y sector preifat neu’n byw yn lleol
9
Arweinwyr Ôl-radd
10
Cefnogaeth a lles myfyrwyr
11
Gwybodaeth am ofal iechyd
15
Gweithgareddau Wythnos Groeso
16
Eich cyfarfod cyntaf gyda’ch Ysgol academaidd
19
Dyddiadau’r semestrau
20
Eich Ysgol academaidd
20
Trefn gofrestru a ffioedd
21
Cyfathrebu â chi
23
Ar ôl yr Wythnos Groeso
24
Mapiau o’r campws
27
Ewch i wefan yr Wythnos Groeso i gael manylion llawn am weithgareddau eich Ysgol academaidd drwy gydol yr wythnos:
www.bangor.ac.uk/wythnosgroeso Hefyd yn y pecyn croesawu hwn ceir: • Llyfryn a Ffurflenni Gofal Iechyd Myfyrwyr • Llyfryn Cyngor Ariannol
1
BETH SY’N DIGWYDD YN YSTOD YR WYTHNOS?
Cyflwyniad gan yr Is-Ganghellor Llongyfarchiadau mawr ar gael eich derbyn i Brifysgol Bangor i wneud astudiaethau ôl-radd. P’un a ydych yn dod i Fangor o’r newydd, neu’n dychwelyd i barhau â’ch astudiaethau yma, mae croeso cynnes iawn yn eich disgwyl. Rydych ar fin ymuno â chymuned academaidd fywiog a chyfeillgar, ac rwy’n siŵr y byddwch yn mwynhau’r cyfleoedd niferus fydd ar gael i chi yn ystod eich cyfnod yn y brifysgol ac elwa arnynt. Yn y llyfryn hwn amlinellir gwybodaeth bwysig i chi, yn cynnwys y trefniadau y bydd angen i chi eu dilyn er mwyn cofrestru fel myfyriwr. Ar ôl i chi gyrraedd Bangor ddydd Sadwrn, 21 Medi neu ddydd Sul, 22 Medi, mae amrywiaeth eang o ddigwyddiadau a gweithgareddau wedi cael eu trefnu ar eich cyfer fel rhan o’r ‘Wythnos Groeso’. Rwy’n sicr y gwelwch y bydd hyn yn ddechrau pleserus i’r flwyddyn academaidd. Rwy’n gobeithio y byddwch yn mwynhau eich cyfnod ym Mangor a dymunaf bob llwyddiant i chi gyda’ch astudiaethau yma. Yr Athro John G. Hughes Is-ganghellor 2
Mae’r Wythnos Groeso yn rhan o’ch bywyd newydd fel myfyriwr ym Mangor, ac mae’n gyflwyniad i fywyd prifysgol. Mae’n gyfle delfrydol i wneud ffrindiau newydd a chyfarfod â staff academaidd yn ogystal â bod yn gyfle i ddewis eich modiwlau, dod o hyd i’ch ffordd o amgylch y campws, ac ymgartrefu cyn i chi ddechrau’ch astudiaethau. Y cam cyntaf, wrth gwrs, yw cyrraedd Bangor – ac fe gewch hyd i’r wybodaeth angenrheidiol am hyn ar dudalennau 8-9. O’r funud y bydd myfyrwyr newydd yn cyrraedd Bangor ar ddechrau’r Wythnos Groeso, mae yna lu o weithgareddau wedi eu trefnu ar eich rhan – yn amrywio o weithgareddau yn eich Ysgolion academaidd i ddigwyddiadau a drefnir gan Undeb y Myfyrwyr. Cewch gofrestru fel myfyriwr ac mi ddewch yn aelod o Undeb y Myfyrwyr yn awtomatig. Cewch gyfle i ymuno â gwahanol glybiau a chymdeithasau yn ogystal â chyfarfod â’ch darlithwyr.
Cyflwyniad gan y Cyfarwyddwr Astudiaethau Ôlraddedig Hyfforddedig Mark Rayment ydw i a fi yw’r Cyfarwyddwr Astudiaethau Ôl-raddedig Hyfforddedig ym Mhrifysgol Bangor, a hoffwn ychwanegu fy nghroeso at groeso fy nghydweithwyr. Bydd y profiadau a gewch chi dros y flwyddyn neu ddwy nesaf yn aros gyda chi am weddill eich bywydau. Ein hamcan yw gwneud y profiadau hyn yn heriol yn academaidd, yn bleserus yn gymdeithasol ac yn drawsnewidiol yn bersonol. Beth bynnag yw eich cefndir, eich diddordebau cyfredol, a’ch nodau ar gyfer y dyfodol, rydym yn gobeithio y bydd Prifysgol Bangor yn rhoi’r cyfle i chi fod ar eich gorau ac yn rhoi’r gefnogaeth i chi gyrraedd eich llawn botensial. Pob dymuniad da, Mark Rayment Cyfarwyddwr Astudiaethau Ôl-raddedig Hyfforddedig
Croeso gan Bennaeth yr Ysgol Ddoethurol Croeso i Brifysgol Bangor ac i’n cymuned ôl-radd ymchwil. Ym Mangor mae gennym dros 600 o ôl-raddedigion ymchwil, gyda’r rhan fwyaf (ond nid y cyfan) ohonynt yn astudio am ddoethuriaeth. Rydych yn ymuno â chymuned sydd wedi cynhyrchu graddedigion ymchwil sydd, heb unrhyw orddweud, wedi cael eu penodi i swyddi amlwg ym mhob cwr o’r byd. Rydym yn ymfalchïo yn ein record o hyfforddi ôl-raddedigion ymchwil ac mae rhai o’n rhaglenni’n torri tir newydd ym maes hyfforddiant ymchwil a darparu profiadau arloesol. Mae gennym gymuned ôl-radd fywiog, a drefnir gan y Fforwm Myfyrwyr Ôl-radd, ac rwy’n argymell yn gryf i chi ymuno â hi. Yr Ysgol Ddoethurol sy’n gyfrifol drwodd a thro am reoli rhaglenni ymchwil ôl-radd a hyfforddiant ymchwil i ôl-raddedigion yn y Brifysgol, ac rwy’n gobeithio y byddwch yn mynd i’n gwefan yn fuan i ddarganfod mwy. Rwy’n mawr obeithio y byddwch yn manteisio i’r eithaf ar y cyfle hwn i astudio ym Mhrifysgol Bangor ac y byddwch yn cael amser hefyd i fwynhau eich hun ac i wneud Bangor yn gartref i chi am yr ychydig flynyddoedd nesaf. Unwaith eto, croeso! Dr Rob Brook Pennaeth, Yr Ysgol Ddoethurol 3
Mae Ysgolion academaidd yn trefnu eu cyfarfodydd cychwynnol gyda myfyrwyr ôl-radd yn ystod yr wythnos – edrychwch ar y rhaglen berthnasol ar dudalen 19. Bydd arnoch angen edrych ar wefan yr Wythnos Groeso i gael manylion llawn y gweithgareddau a drefnir gan eich Ysgol academaidd. Dim ond y cyfarfodydd cychwynnol yw’r cyfarfodydd a restrir ar dudalen 19. Bydd arnoch angen edrych ar wefan www.bangor.ac.uk/wythnosgroeso i gael rhaglen lawn y gweithgareddau a drefnir gan eich Ysgol academaidd. Mae’r Gwasanaeth Cefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol yn trefnu nifer o ddigwyddiadau i fyfyrwyr ôl-radd – gwelwch dudalen 14 am fwy o wybodaeth.
Mae Undeb y Myfyrwyr (UM) hefyd yn rhan allweddol o’r Wythnos Groeso, gyda llu o weithgareddau’n cael eu cynnal o’r penwythnos cyntaf un ymlaen, i gyd gyda’r bwriad o’ch helpu chi i ymgynefino a gwneud ffrindiau. Cynhwysir manylion am y gweithgareddau a drefnir gan UM ar dudalen 16-18 ac yn Llawlyfr Undeb y Myfyrwyr (sydd naill ai wedi’i anfon atoch gyda’r pecyn hwn, neu sydd ar gael o dderbynfa Undeb y Myfyrwyr). Gwyliwch allan am Arwyr Undeb y Myfyrwyr yn ystod yr Wythnos Groeso. Mi fyddan nhw yno i rhoi gwybod ichi beth sy’n mynd ymlaen. Yn ystod y dydd mae Undeb y Myfyrwyr yn siop un stop am wybodaeth eang ynghylch y gwasanaethau cefnogi a’r adloniant sydd ar gael i fyfyrwyr. Bob nos bydd Undeb y Myfyrwyr yn trefnu gwahanol ddigwyddiadau Wythnos Groeso a nosweithiau allan. Am fwy o wybodaeth am Undeb y Myfyrwyr a’i weithgareddau edrychwch yn Llawlyfr Undeb y Myfyrwyr neu ewch at: www.myfyrwyrbangor.com
4
Caiff Serendipedd, Ffair Undeb y Myfyrwyr, ei chynnal ar ddydd Mercher a dydd Iau – gwelwch dudalen 16-18 am amseroedd. Hwn yw digwyddiad mwyaf poblogaidd yr wythnos ac fe fydd yn rhoi cyfle i chi gymryd rhan ym mhopeth o gymdeithasau a thimau chwaraeon i brosiectau gwirfoddoli. Fe gewch ddigonedd o drugareddau am ddim a gwybodaeth am wahanol agweddau o fywyd prifysgol fel bancio, yswiriant a gwasanaethau myfyrwyr.
Bydd Ffair Ôl-radd yn cael ei chynnal ar ddydd Mawrth 24 Medi, trwy gydol y dydd. Bydd y Ffair yn gyfle gwych i fyfyrwyr ôl-radd ddod i wybod mwy am y gwasanaethau a’r gefnogaeth sy’n cael eu cynnig gan Brifysgol Bangor. Mae’r amseroedd ymweld ar gyfer y Colegau ar dudalen 17.
Mae’r llyfryn hwn yn nodi rhai o brif elfennau’r Wythnos Groeso – fel symud i mewn i’ch llety, y broses gofrestru, a gwneud y gorau o’r gweithgareddau academaidd a chymdeithasol a drefnir ar gyfer myfyrwyr newydd. Mae hefyd yn eich cyfeirio at bwyntiau cyswllt am gymorth a chefnogaeth, yn ogystal â rhoi gwybodaeth i chi y byddwch yn ei chael yn ddefnyddiol, o bosibl, ar ôl yr Wythnos Groeso, pan fyddwch wedi dechrau ar eich astudiaethau ac eisiau gwybod mwy am weithgareddau eraill a’r gefnogaeth ychwanegol sydd ar gael. Fodd bynnag, a fyddech cystal â gwneud yn siw ˆr eich bod yn edrych ar y wefan am y wybodaeth ddiweddaraf am yr Wythnos Groeso ar dudalennau: www.bangor.ac.uk/wythnosgroeso
5
6
PROFIADAU Myfyrwyr o fangor “Mae’r cyrsiau yn ddiddorol, mae’r awyrgylch yn y Brifysgol yn gyfeillgar ac yn gefnogol, ac mae’r lleoliad yn hardd.” “Mae Bangor yn dref llawn bwrlwm, mae pawb mor gyfeillgar ac rwy’n mwynhau’r bywyd cymdeithasol yn fawr a chael gwneud hynny yn y Gymraeg.” “Mae popeth yn gyfleus, o ran teithio ac adnoddau, ac mae’r gymuned Gymraeg yn arbennig, yn groesawgar a chefnogol i waith ymchwil.” “Mae’r bywyd cymdeithasol yn eang iawn yma. Rydw i’n gallu byw a chymdeithasu yn Gymraeg yma. Mae Bangor yn cynnig popeth sydd ei angen ar fyfyriwr ac mae’r ar dal o amgylch yn cynnig amryw o weithgareddau awyr agored a hamdden.”
7
MANYLION CYRRAEDD I’R RHAI SY’N BYW MEWN LLETY PRIFYSGOL
Bydd myfyrwyr sydd wedi cael lle mewn neuadd breswyl y Brifysgol yn derbyn Cytundeb Preswylio yn yr wythnosau cyn dechrau’r Wythnos Groeso ynghyd â chyfarwyddiadau erbyn pan fyddant yn cyrraedd y neuadd. Byddwch yn dod i Fangor naill ai dydd Sadwrn, 21 Medi, NEU ddydd Sul, 22 Medi, a phennir y diwrnod i chi oherwydd bydd gwahanol neuaddau yn agor ar wahanol ddiwrnodau. Ni fydd yn bosibl i chi ddewis y diwrnod y byddwch yn cyrraedd. Mae’n bwysig eich bod yn cyrraedd ar y diwrnod cywir, gan na fydd eich neuadd ar agor cyn y diwrnod a nodir ar eich Cytundeb Preswylio. Ewch i www.bangor.ac.uk/llety a chliciwch ar ‘gwybodaeth am gyrraedd’ am ragor o wybodaeth. Dylech edrych ar wefan yr 8
Wythnos Groeso a gwefan Undeb y Myfyrwyr hefyd am gyngor ar ymgartrefu mewn neuaddau a gwneud y gorau o’r Wythnos Groeso. Os ydych chi’n cyrraedd â char, lawrlwythwch a dilynwch y cyfarwyddiadau ynghylch ffyrdd i Fangor a pharcio. Mae rhagor o wybodaeth ar wefan yr Wythnos Groeso am gyfarwyddiadau i’ch Neuadd chi. Mae’n hanfodol eich bod yn cyrraedd ar y diwrnod a nodir, a dilyn y ffordd a rhoddir i’ch neuadd. Mae’r heddlu wedi cytuno ar y ffyrdd i leihau tagfeydd traffig. Os ydych chi’n cyrraedd â thrên, bydd bws mini Undeb y Myfyrwyr ar gael i fynd â chi’n syth i’ch Neuadd.
MANYLION CYRRAEDD I’R RHEINY SY’N BYW YN Y SECTOR PREIFAT NEU’N BYW YN LLEOL Mae disgwyl i’r holl fyfyrwyr newydd gyrraedd Bangor ar gyfer dechrau’r Wythnos Groeso. Os dewiswch fyw yn y sector preifat, neu eich bod yn lleol i Fangor ac yn teithio bob dydd, mae arnoch angen edrych ar raglen ganolog gweithgareddau’r Wythnos Groeso (tudalen 16-18) i benderfynu mewn beth yr ydych am gymryd rhan dros y penwythnos cyntaf. Bydd arnoch angen cyrraedd Bangor mewn pryd ar gyfer dechrau’r profiad Wythnos Groeso ‘swyddogol’, ddydd Llun, 23 Medi, pan fydd yr holl fyfyrwyr newydd yn dod. Mae llawer o Ysgolion academaidd yn trefnu eu cyfarfodydd cychwynnol gyda myfyrwyr newydd yn ystod yr wythnos gyntaf – edrychwch ar y rhaglen berthnasol ar dudalen 19. Bydd arnoch angen edrych ar wefan yr Wythnos Groeso www.bangor.ac.uk/wythnosgroeso i gael manylion llawn y gweithgareddau a drefnir gan eich Ysgol academaidd.
Gweithgareddau’r GWEITHGAREDDAU penwythnos GWEDDILL YR cyrraedd WYTHNOS Edrychwch ar y rhaglen ganolog o weithgareddau’r Wythnos Groeso (tudalen 16-18) i weld y math o weithgareddau a gynhelir dros y penwythnos gyntaf – ac edrychwch hefyd ar Lawlyfr Undeb y Myfyrwyr am fanylion y gweithgareddau a’r adloniant a drefnir gan Undeb y Myfyrwyr ddydd Sadwrn a dydd Sul. Edrychwch hefyd ar www.myfyrwyrbangor.com, hoffwch ein tudalen Facebook (Bangor Students Union) neu dilynwch ni ar Twitter: @bangorstudents. Ceir hefyd manylion gweithgareddau Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor (UMCB) ar facebook.com/undebmyfyrwyrcymraeg.bangor neu ar Twitter: @UMCB1.
•E drychwch ar y rhaglen gweithgareddau canolog ar dudalennau 16-18 am fanylion am weithgareddau fel y Croeso Ffurfiol i fyfyrwyr ôl-radd yn eich Ysgol academaidd a’r diweddiadau a drefnir gan y Ganolfan Addysg Rhyngwladol. •E drychwch ar yr amserlen ar dudalen 19 am fanylion am eich cyfarfod cyntaf gyda’ch Ysgolion academaidd. Bydd arnoch angen edrych ar wefan yr Wythnos Groeso (www.bangor.ac.uk/wythnosgroeso) i weld rhaglen lawn y gweithgareddau a drefnir gan eich Ysgol academaidd. •E drychwch ar Lawlyfr Undeb y Myfyrwyr am fanylion y gweithgareddau a’r adloniant a drefnir gan Undeb y Myfyrwyr drwy gydol yr Wythnos Groeso.
9
Arweinwyr ˆ Ol-radd wrth law i helpu! Beth yw Arweinwyr Ôl-radd?
Sut byddaf yn cyfarfod â’r Arweinwyr Ôl-radd?
Mae Arweinwyr Ôl-radd yn fyfyrwyr sydd wedi gwirfoddoli ac wedi cael eu hyfforddi i helpu myfyrwyr newydd ymgynefino â bywyd prifysgol. Gallant eich helpu drwy ateb cwestiynau a fydd gennych wrth ddechrau ym Mangor, er enghraifft lle mae’r darlithfeydd, pa siopau sydd ar agor yn hwyr, lle gellwch chi fynd i nofio ynghyd â rhoi cyngor i chi am bethau i’w gwneud a lle i fynd i wneud ffrindiau newydd. Byddant yn eich tywys o gwmpas Bangor ac yn cynorthwyo mewn sesiynau sefydlu ac yn eich helpu chi i gyrraedd lle rydych angen bod.
Mewn rhai ysgolion academaidd bydd Arweinwyr Ôl-radd yn cysylltu â chi drwy eich cartref cyn i chi gyrraedd, er bod eich cyfarfod cyntaf wyneb yn wyneb yn debyg o fod yn yr ysgol academaidd. Fodd bynnag, os byddwch yn symud i un o neuaddau preswyl y brifysgol mae’n bosib y cewch ymweliad gan un o’r Arweinwyr Ôl-radd (mewn ‘hwdi’ gwyrdd) i’ch croesawu.
Maent yn barod i’ch helpu i ymgynefino – am gymaint o amser ag yr ydych chi’n teimlo yr hoffech chi gael ychydig o help. Byddant yn gwrando ar eich cwestiynau ac yn helpu lle gallant; os na allant helpu, bydd eu hyfforddiant yn golygu eu bod yn nabod rhywun a all eich helpu a byddant yn eich cyfeirio at y person hwnnw. Arweinwyr Ôl-radd ac Ysgolion Academaidd Mae’r Arweinwyr Ôl-radd yn gweithio trwy eu hysgolion academaidd ac mae pob Ysgol yn eu trefnu’n wahanol felly mae’r union drefniadau’n fater i’r ysgol academaidd. Fe ddylech serch hynny gyfarfod â’r Arweinwyr Cyfoed ar ryw bwynt yn ystod yr Wythnos Groeso a chael y cyfle i ofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych a chael cyngor cyfeillgar i’ch helpu i ymgynefino. 10
Yn ystod dydd Sadwrn a dydd Sul y penwythnos croeso bydd yna ystafell gyfarfod ar gael rhwng 10:00am a 5:00pm at ddefnydd Arweinwyr Cyfoed ac Arweinwyr Ôl-radd. (Cadwch lygad am yr arwyddion.) Os nad ydych wedi cyfarfod ag Arweinydd Ôl-radd ac eich bod yn awyddus i gael gwybodaeth byddwch yn gallu cael cymorth yno.
Dewis Peidio Mae’r rhan fwyaf o fyfyrwyr yn cael Arweinwyr Ôl-radd o gymorth mawr; ond os ydych chi wir yn teimlo nad ydych chi eisiau un, yna gadewch i ni wybod. Os ydych yn dewis peidio yna cysylltwch â’r Cydlynydd Cefnogaeth Gyfoed cyn gynted â phosibl: Cydlynydd Cefnogaeth Gyfoed, Gwasanaethau Myfyrwyr, Llawr Cyntaf, Neuadd Rathbone, Ffordd y Coleg, Bangor, Gwynedd LL57 2DG neu anfonwch e-bost: postgraduateambassadors@bangor.ac.uk
CEFNOGAETH A LLES MYFYRWYR Gwasanaethau a Chyngor i Fyfyrwyr Os oes arnoch angen cymorth neu gyngor yn ystod yr Wythnos Groeso neu drwy weddill y flwyddyn academaidd, bydd staff yn gallu darpau cyngor proffesiynol, diduedd a chyfrinachol fel a ganlyn: Gwasanaethau Myfyrwyr (Neuadd Rathbone, Ffordd y Coleg): am ymholiadau lles cyffredinol, ac ymholiadau penodol ar faterion arian, cwnsela, iechyd myfyrwyr, materion anabledd, llety sector preifat, gyrfaoedd a gwaith cyflogedig rhan-amser, a gwybodaeth am dîm Caplaniaeth y Brifysgol. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â ni ar 01248 382024 neu ewch i wefan Gwasanaethau Myfyrwyr: www. bangor.ac.uk/gwasanaethaumyfyrwyr
Undeb y Myfyrwyr Prif ffocws Undeb y Myfyrwyr yw cynrychiolaeth academaidd, sicrhau bod pob myfyriwr yn cael ei d/thrin yn deg, bod adnoddau ar gael iddynt a’u bod yn cael eu cefnogi pe bai problemau’n codi. Mae Uned Cynrychiolaeth Academaidd bwrpasol wedi ei lleoli yn Undeb y Myfyrwyr i’ch helpu os bydd problemau’n codi yn ystod eich amser yn astudio yma, ac mae gennym staff a swyddogion ar gael i’ch cefnogi. Arweinir yr Uned gan yr Is-Lywydd Addysg a Lles: un o bum swyddog sabothol etholedig sy’n cynrychioli’r holl gorff myfyrwyr. Rydym hefyd yn rhedeg y cynllun Cynrychiolwyr Cyrsiau, sy’n eich galluogi i wneud newidiadau yn eich Ysgol er mwyn gwella’ch profiad. Cadwch lygaid allan am etholiadau’r Cynrychiolwyr Cyrsiau yn ystod wythnosau cyntaf y tymor! Am fwy o wybodaeth am holl wasanaethau a digwyddiadau Undeb y Myfyrwyr ewch i’r wefan: www.myfyrwyrbangor.com/advicecentre
11
Os oes gennych unrhyw ymholiadau cyn i chi gyrraedd, cysylltwch â ni ar y rhifau canlynol: • Gwasanaethau Myfyrwyr (ymholiadau cyffredinol)
01248 382024
• Derbynfa Undeb y Myfyrwyr
01248 388000
• Cyngor Ariannol
01248 383637
• Gwasanaeth Anabledd
01248 382032
• Swyddfa Tai Myfyrwyr
01248 382034 / 382032
• Canolfan Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd
01248 382071
• Myfyrwyr Rhyngwladol
01248 388430
• Swyddfa Neuaddau
01248 382667
Ymholiadau am lety Os ydych chi’n byw mewn neuadd y Brifysgol, gall y Swyddfa Neuaddau, wedi’i lleoli ar Safle Ffriddoedd, eich helpu gyda’r holl ymholiadau’n ymwneud â neuaddau. Gellwch fynd draw i’r swyddfa, ffonio’r Swyddfa Neuaddau ar 01248 382667 neu ebostio: neuaddau@bangor.ac.uk Os ydych chi’n chwilio am lety yn y sector preifat, cysylltwch â’r Swyddfa Tai Myfyrwyr yng Ngwasanaethau Myfyrwyr ar 01248 382032/382034 neu ebostiwch taimyfyrwyr@bangor. ac.uk. Bydd diwrnodau chwilio am dyˆ yn cael eu cynnal i fyfyrwyr sy’n chwilio am dyˆ yn y sector preifat yn ystod y penwythnos cyrraedd, ddydd Sadwrn, 21 Medi a dydd Sul, 22 Medi (gweler tudalen 16).
Cefnogaeth Lles mewn Neuaddau Preswyl Mae gan y Brifysgol system cefnogaeth lles Uwch Wardeiniaid ac Wardeiniaid yn y neuaddau preswyl. Gall myfyrwyr ofyn am gyngor a chefnogaeth gan Dîm y Wardeiniaid, a gallent gysylltu â’r Uwch Warden ar Ddyletswydd neu’r Warden drwy’r Swyddfa Neuaddau yn ystod oriau’r swyddfa: 9.00am-5.00pm, Llun-Gwener. Y tu allan i oriau’r swyddfa, dylai myfyrwyr gysylltu â Phorthorion y Brifysgol ar 01248 382795 neu estyniad 2795.
Llinell Nos Gwasanaeth gwrando, cynnig cefnogaeth emosiynol a gywbodaeth gan fyfyrwyr ar gyfer myfyrwyr ydi’r Llinell Nos. Mae’r gwasanaeth yn ei le ers 1974 ac wedi esblygu’n gynyddol ers hynny, wrth ddatblygu ei rôl hanfodol fel yr unig wasanaeth gwrando a chynnig cefnogaeth y tu hwnt i oriau wedi’i anelu’n benodol ar gyfer myfyrwyr. Eu rhif ffôn ydi 01248 362121. Mae’r llinell ar agor pob nos yn ystod y tymor o 8.00pm tan 8.00am gan gynnig llais myfyriwr cyfeillgar i siarad ag o neu hi, neu i rannu gwybodaeth am bob math o bethau’n ymwneud â’r Brifysgol, y dref neu fywyd myfyriwr yn gyffredinol. Mae pob un o’r gwirfoddolwyr wedi’u hyfforddi’n drylwyr ac yn sicrhau pob galwr y cawn nhw wasanaeth gwybodaeth a gwrando anymgynghorol di-ragfarn a di-enw, fydd yn hollol gyfrinachol. Er mwyn dod i wybod mwy am y gwasanaeth, gan gynnwys sut i fod yn rhan ohono, cysylltwch â ni: nightline@undeb.bangor.ac.uk / www.bangorstudents.com/nightline / Bangor University 12
Nightline neu Dafydd Nightline ar Facebook neu dewch draw i weld y stondin yn Ffair Undeb y Myfyrwyr Serendipedd (gweler tudalen 17 am fanylion). Mae croeso ichi gysylltu ar unrhyw adeg.
Eich Tiwtor Personol Fel myfyriwr ôl-radd, bydd aelod staff academaidd yn cael ei bennu’n diwtor/oruchwyliwr i chi. Bydd eich tiwtor/ goruchwyliwr yn aelod o’r staff academaidd yn yr Ysgol yr ydych yn astudio ynddi. Fel rheol, eich tiwtor/goruchwyliwr yw eich pwynt cyswllt cyntaf. Disgwylir i chi fod mewn cyswllt rheoliadd â’ch tiwtor/goruchwyliwr i drafod lles a materion academaidd yn ymwneud â’ch cynnydd. Po fwyaf y byddwch yn cadw mewn cysylltiad â’ch tiwtor/goruchwyliwr, po fwyaf y byddant yn gallu’ch cynghori a’ch cynorthwyo. Mae gan pob Ysgol hefyd Gyfarwyddwr Astudiaethau Ôlradd (Cyrsiau Hyfforddedig) a Chyfarwyddwr Astudiaethau Ôl-radd (Ymchwil). Bydd y person yma hefyd yn gallu eich cynghori ar unrhyw fater academaidd neu yn gallu eich arwain at y gwasanaeth cefnogi perthnasol.
Cefnogaeth â Sgiliau Astudio Darllenwch dudalen 24 i gael gwybodaeth am sut gall y Ganolfan Sgiliau Astudio eich helpu i elwa fwyaf o’ch astudiaethau. Mae’r gefnogaeth sydd ar gael yn cynnwys: • a pwyntiadau unigol gyda chynghorydd astudio; • g wasanaeth ymgynghorol galw heibio i’ch helpu i ateb cwestiynau am fathemateg ac ystadegau; • c efnogaeth un i un gan fentoriaid ysgrifennu i gyfoedion sydd wedi eu hyfforddi i’ch helpu i weithio ar eich aseiniadau; • g weithdai sgiliau astudio, a chanllawiau astudio ar-lein.
GWYBODAETH AM OFAL IECHYD Rhaglen Datblygu Ymchwilwyr Cyfnod Cynnar Bu’r Rhaglen Datblygu Ymchwilwyr Cam Cynnar (RhDYCC) yn rhedeg ym Mangor ers sawl blwyddyn bellach. Nod y rhaglen, yn y lle cyntaf, yw cefnogi a datblygu gwybodaeth myfyrwyr fel ymchwilydd. Yn ail, mae’r RhDYCC yn anelu at ehangu sylfaen sgiliau, gan agor y drws at offerynnau a sgiliau sy’n gallu ei gwneud hi’n haws i myfyrwyr ganfod swydd gyflogedig, boed hynny yn y byd academaidd neu ym myd busnes. Mae’r cyfleoedd ar gyfer hyfforddi yn datblygu bob blwyddyn, ac y flwyddyn hon fydden yn gweithio’n glos gyda sawl Prifysgol arall i gynnig cyfleoedd ar gyfer hyfforddi ochr yn ochr/gweithio gydag ymchwilwyr o sefydliadau cyfagos. Mae’r RhDYCC yn darparu gweithdai a chyrsiau ar gyfer rheoli a datblygu gyrfa, gan gynnwys hyfforddiant sgiliau personol. Bydd y gweithdai a’r cyrsiau’n sicrhau bod staff a myfyrwyr ymchwil yn datblygu sgiliau ymchwil, sgiliau galwedigaethol a sgiliau entrepreneuriaeth sy’n cyfateb i alwadau eu llwybr gyrfa i’r dyfodol. Bydd gweithdai cyflogadwyedd yn amrywio o Wneud Penderfyniadau Effeithiol, Cynllunio Prosiectau i weithdai CV ac ymarfer cyfweliadau. Bydd dealltwriaeth a gwybodaeth o entrepreneuriaeth a masnacheiddio ymchwil yn cael eu datblygu ymhellach hefyd.
Gwasanaethau Cyflogadwyedd ar gyfer Myfyrwyr Meistr Yn ystod eich cyfnod yn y Brifysgol cewch gyfleoedd rhagorol ar gyfer datblygiad personol a datblygu gyrfa. Mae’r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd (GGCh) yn rhoi cyngor gyrfaol, lleoliadau gwaith a blas ar waith; mae’n ganolfan cyflogaeth yn ogystal â datblygu a chefnogi sgiliau entrepreneuriaeth. Rydym yn awgrymu eich bod yn dechrau gwneud defnydd llawn o’n gwasanaethau gyrfa yn gynnar yn eich astudiaethau ôl-raddedig, yn arbennig os ydych yn dymuno mynd yn syth i waith ar ôl gorffen eich cwrs, neu os ydych am wneud cais i astudio ar gyfer cwrs arall yn dilyn eich gradd ôl-radd.
Gwasanaethau Cyflogadwyedd ar gyfer Myfyrwyr PhD Gallwch neilltuo cyfweliad un-i-un gyda Chynghorydd Gyrfaoedd ar unrhyw adeg yn ystod eich PhD, p’un ai eich bod wrthi’n dechrau cynllunio eich gyrfa neu eich bod ar bwynt diweddarach ac eisiau trafod CV rydych wedi’i baratoi neu eich bod ar fin mynychu cyfweliad am swydd. Cynigir amrediad eang o weithdai gyrfaoedd i fyfyrwyr Bangor ar sail wythnosol gan gynnwys nifer sydd wedi’u cynllunio’n arbennig ar gyfer myfyrwyr PhD ar bynciau fel Cynllunio Gyrfa ar gyfer Myfyrwyr PhD, Ysgrifennu CV Academaidd ac Anacademaidd, Cyfweliadau Academaidd a Chyfweliadau a Chanolfannau Asesu ar gyfer Swyddi Anacademaidd. Rydym ar ail lawr Neuadd Rathbone ar Ffordd y Coleg. Ewch i’n gwefan www.bangor.ac.uk/careers i gael mwy o wybodaeth am ein lleoliad a manylion cyswllt.
Fforwm Myfyrwyr Ôl-radd Mae’r Fforwm Myfyrwyr Ôl-radd yn gorff sy’n cynrychioli myfyrwyr ôl-radd ym Mhrifysgol Bangor. Mae’r holl fyfyrwyr ôl-radd yn aelodau ohono’n awtomatig a gallant gymryd rhan a sefyll fel ymgeiswyr mewn etholiadau am wahanol swyddi yn y Fforwm. Mae’r Fforwm yn gweithio mewn partneriaeth ag Undeb y Myfyrwyr a’r Brifysgol i gynnal a gwella safonau a chyfleusterau i’r gymuned ôlradd. Rydym yn gyswllt rhwng myfyrwyr, grwpiau tasg y Brifysgol, a phanelau gweithredu eraill. Mae’r Fforwm yn rhoi cyfle i’r holl fyfyrwyr ôl-radd gyfarfod â’i gilydd a chyfnewid syniadau rhwng gwahanol ddisgyblaethau. Mae’r Fforwm hefyd yn trefnu Cynhadledd Ôl-radd Prifysgol Bangor, lle gwahoddir myfyrwyr ôl-radd o bob rhan o wledydd Prydain i ddod i Fangor i brofi’r gymuned ymchwil fywiog sydd yma, i gyflwyno eu gwaith mewn cynhadledd, ac i edrych ar syniadau newydd mewn sefyllfa amlddisgyblaethol. Gellwch gael mwy o wybodaeth yn: http://pgsf.bangor.ac.uk/
13
Gwasanaeth Cefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol
Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Mae’r Swyddfa Cefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol yma i’ch helpu chi i wneud y gorau o’ch amser ym Mangor. Rydym yn rhoi cyngor ac arweiniad ar amrywiaeth o faterion yn ymwneud â lles i bob myfyriwr rhyngwladol a’u teuluoedd – yn ystod eu cyfnod o astudio ym Mangor a chyn iddynt ddechrau yma. Mae cefnogaeth ar gael felly o dderbyniad hyd at raddio a thu hwnt i hynny.
Mae gan y Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau gasgliad cynhwysfawr o adnoddau, ar bapur ac yn electronig, i’ch cynorthwyo yn eich gwaith academaidd a’ch ymchwil ym Mangor. Dylai eich Ysgol drefnu i chi gyfarfod â’r llyfrgellydd Cefnogaeth Academaidd ar gyfer eich Coleg yn ystod yr Wythnos Groeso, neu’n fuan ar ôl hynny. Mae’r rhan fwyaf o Ysgolion hefyd yn trefnu sesiynau sgiliau chwilio am wybodaeth i chi gyda’ch llyfrgellydd Cefnogaeth Academaidd yn yr ychydig wythnosau cyntaf ar ôl i chi gyrraedd. Bydd eich Llyfrgellydd Cefnogaeth Academaidd yn eich helpu i ddod o hyd i’ch ffordd o amgylch yr adnoddau, eich cynghori ynghylch strategaethau chwilio, cyfeirnodi a sgiliau ymchwil yn gyffredinol. Mae croeso mawr i chi gysylltu â nhw am gymorth unigol ychwanegol drwy gydol eich arhosiad ym Mangor.
Mae pob croeso i chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw bryderon neu os oes arnoch angen gwybodaeth ar unrhyw agwedd o’ch arhosiad chi yma ym Mangor a byddwn yn ceisio eich helpu neu’n eich cyfeirio at rywun arall a all wneud. Mae’r Tîm Cefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol yn rhoi cyngor ac arweiniad ar amrywiaeth o faterion, yn cynnwys:
Mae gan y Brifysgol bedwar safle llyfrgell: • Rheoliadau Cyflogaeth • Teithio Tramor • Mewnfudo • Gofal Iechyd • Materion Lles Cyffredinol • Byw ac Astudio ym Mangor • Ceisiadau Fisa • Materion Ariannol
Prif Lyfrgell, Ffordd y Coleg: Celfyddydau a’r Dyniaethau, Cerddoriaeth, y Gyfraith, Gwyddorau Cymdeithas a’r Llyfrgell Gymreig a chasgliadau arbennig.
Byddwn hefyd yn trefnu teithiau a digwyddiadau ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol drwy gydol y flwyddyn. Mae hyn yn galluogi myfyrwyr i gwrdd ag eraill o bob cwr o’r byd ac yn rhoi’r cyfle iddynt ddod i nabod yr ardal. Mae’r digwyddiadau y byddwn yn eu cynnal yn cynnwys Diwali a dathliadau’r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd, nosweithiau o ddiwylliant traddodiadol Cymreig a gala ryngwladol flynyddol. Byddwn hefyd yn trefnu ymweliadau rheolaidd i weld atyniadau lleol, ac i ddinasoedd fel Lerpwl, Manceinion a Chaerdydd.
Llyfrgell Astudiaethau Iechyd, Wrecsam: Gwyddorau Gofal Iechyd
Bydd y Swyddfa Gefnogi hefyd yn recriwtio nifer o Arweinwyr Myfyrwyr Rhyngwladol, a’u cylch gwaith nhw yw helpu myfyrwyr i ymgynefino â bywyd ym Mangor. Mae mwy o wybodaeth am yr Arweinwyr ar gael ar: www.bangor.ac.uk/studentlife/features/ambassadors.php
Rydych yn defnyddio’r un enw defnyddiwr a’r un cyfrinair a roddwyd ichi cyn ichi gyrraedd Bangor i gael mynediad i’r holl gyfleusterau TG. Er mwyn rheoli eich cyfrif rhwydwaith Bangor ewch i www.bangor.ac.uk/itservices/user. Gallwch ddefnyddio’r safle hwn i’ch cynorthwyo gyda thasgau megis newid eich cyfrinair a phrynu credydau argraffu.
Er mwyn cynorthwyo myfyrwyr Rhyngwladol i ddeall ac ymaddasu i ddiwylliant addysgol y DU ac i arferion a disgwyliadau myfyrwyr a staff ym Mangor, mae’r Swyddfa Cefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol yn cynnal cyfres o weithdai byr lle gall myfyrwyr newydd gyfarfod a dysgu oddi wrth brofiadau myfyrwyr presennol ac aelodau cyfadran o’u rhanbarth cartref. Edrychwch am fanylion am hyn yn ystod yr Wythnos Groeso. Lleolir y Swyddfa Cefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol yn y Ganolfan Addysg Ryngwladol, Neuadd Rathbone ar Ffordd y Coleg. E-bost: internationalsupport@bangor.ac.uk Ffôn: +44 (0) 1248 38 2882 / 8430 / 8238 www.bangor.ac.uk/international/support
14
Adeilad Deiniol, Ffordd Deiniol: Gwyddorau Ffisegol a Chymhwysol, Gwyddorau Naturiol, Seicoleg, Meddygaeth a Gwyddorau Gofal Iechyd. Llyfrgell Safle’r Normal, Ffordd Caergybi: Addysg a Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer Corff.
Mae’r Archifdy wedi’i leoli drws nesaf i’r Brif Lyfrgell ac mae yno gofnodion cynnar y coleg, casgliad cyffredinol o lawysgrifau Bangor, papurau ystadau a theuluoedd. Ewch i’n gwefan am ragor o wybodaeth am oriau agor, lleoliadau a manylion cyswllt: www.bangor.ac.uk/llyfrgell
Gwasanaethau TG
Caiff pob defnyddiwr newydd ganllawiau cynhwysfawr ar yr holl wasanaethau TG sydd ar gael ym Mangor (mae fersiwn electronig a fersiwn papur ar gael o Ganolfan Cefnogi TG). Gellir dod o hyd i’r canllawiau ar y wefan hon hefyd: www.bangor.ac.uk/itservices/new_users/newstudent Os oes angen help arnoch gydag unrhyw broblem TG, cysylltwch â ni: Ffôn: 01248 388111 neu estyniad 8111 os ydych yn ffonio o ffôn Prifysgol (yn ystod oriau swyddfa 9:30am-5:30pm Llun-Gwener). E-bost: helpdesk@bangor.ac.uk Dewch i’n gweld: 9am-5pm, Llun-Gwener yn Adeilad Deiniol, neu’r Ganolfan Adnoddau, Adeilad Nantlle ar Safle’r Normal.
GWYBODAETH AM OFAL IECHYD Gwasanaethau Iechyd Myfyrwyr Mae Canolfan Feddygol Bodnant yn darparu amrywiaeth eang o gyfleusterau meddygol. Darllenwch y llyfryn Gwybodaeth am Ofal Iechyd sydd yn y pecyn hwn i gael rhagor o wybodaeth am y ganolfan neu ewch i bodnantmedicalcentre.co.uk. Os hoffech gofrestru gyda’r practis hwn, bydd angen i chi lenwi’r ffurflen gofrestru gyda gwasanaethau meddyg teulu (sydd hefyd ynghlwm) a’i dychwelyd at Ganolfan Feddygol Bodnant yn yr amlen amgaeedig. Ydych chi’n cymryd unrhyw feddyginiaeth ar bresgripsiwn neu’n dioddef o glefyd cronig fel asthma neu ddiabetes? Os ydych chi’n cymryd meddyginiaeth ar bresgripsiwn neu mae gennych anghenion gofal iechyd penodol, mae’n bwysig eich bod yn dod â digon o feddyginiaeth am UN MIS gyda chi i’r Brifysgol. Mae hefyd yn syniad da gwneud apwyntiad cychwynnol gyda’r nyrs neu feddyg ym Modnant i drafod beth yw’r ffordd orau o reoli eich anghenion iechyd o’r dechrau.
Cyngor am imiwneiddio Dylai pob myfyriwr newydd fod wedi cael eu brechu’n llawn rhag: • Y frech goch, clwy’r pennau a rwbela • Llid yr ymennydd math C • Ac os ydych yn dioddef o glefyd cronig, - ffliw/ niwmococol Clwy’r pennau a’r frech goch Gall y rhain fod yn heintiau difrifol ac mae’r Brifysgol yn parhau i weld achosion a chlystyrau o’r ddau glefyd hyn. Mae llawer o bobl yn awr yn eu harddegau ac yn eu hugeiniau sydd heb gael eu brechu neu dim ond wedi cael un ddos o’r brechiad MMR (y frech goch, clwy’r pennau a rwbela). Mae pobl a anwyd yn y DU ar ôl 1980 yn fwy tebygol o gael y frech goch a chlwy’r pennau os nad ydynt wedi cael dau ddos o MMR. Mae polisi cenedlaethol yn argymell yn gryf y dylai plant ac oedolion ifanc gael eu hamddiffyn gyda dau ddos o MMR.
Mae Prifysgol Bangor yn argymell yn gryf eich bod yn cael dau ddos o’r brechiad MMR cyn dod i’r Brifysgol. Am fwy o wybodaeth ac arweiniad ar y frech goch ewch i: www.bangor.ac.uk/studentservices/wellbeing/measles. php.cy Llid yr ymennydd math C Mae’r haint meningococal yn salwch difrifol a achosir gan facteriwm o’r enw meningococws. Mae sawl grŵp gwahanol o meningococi. Cyn i’r brechiad yn erbyn yr haint meningococal grŵp C gael ei gyflwyno yn 1999, bu sawl achos o lid yr ymennydd mewn prifysgolion yn y DU. Ers hynny, mae’r haint meningococal grŵp C wedi mynd yn brin. Hyd yma, nid oes brechiad yn erbyn llid yr ymennydd math B, ond mae gwaith ymchwil yn mynd rhagddo i’w ddatblygu. Cynghorir myfyrwyr yn gryf i gael eu brechu rhag llid yr ymennydd math C cyn cyrraedd Bangor. Os nad yw hynny’n bosibl yna gellir cynnig brechiadau yng nghanolfan feddygol Bodnant. Ffliw Mae ffliw yn haint firaol aciwt ar y llwybr resbiradol. Mae’n heintus iawn. Os ydych yn dioddef o glefyd cronig ar yr ysgyfaint, y galon, yr iau neu’r arennau, mae gennych ddiabetes neu rydych yn wrthimiwnedd, rydym yn argymell eich bod yn cael brechiad blynyddol rhag y ffliw ac imiwnedd niwmococal sengl i amddiffyn eich hun. Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan HPA: www.hpa.org.uk/ topics/infectiousdiseases/infectionsaz/influenza/ Yn ogystal â’r ddarpariaeth iechyd yng Nghanolfan Feddygol Bodnant mae nyrs iechyd myfyrwyr yng Ngwasanaethau Myfyrwyr (llawr cyntaf, neuadd Rathbone) i’ch helpu gydag unrhyw ymholiadau am iechyd ac i gynnig amrywiaeth o wasanaethau nyrsio ac iechyd rhywiol.
15
GWEITHGAREDDAU WYTHNOS GRO Dydd Sadwrn, 21 Medi – Dydd Sul, 29 Medi Amser
Gweithgaredd
Lleoliad
8.30pm
Bar Uno yn agored am rholiau brecwast, te a choffi yn y bore. Bwydlen Bar Uno ar gael trwy’r dydd.
Bar Uno, Safle’r Ffriddoedd
Trwy gydol y dydd
Mae rhai neuaddau preswyl yn agor ar gyfer y myfyrwyr newydd sy’n cyrraedd – edrychwch ar eich Cytundeb Preswylio a deunydd darllen ychwanegol y neuaddau am y diwrnod y bydd eich neuadd benodol yn agor
Trwy gydol y dydd
Bysiau mini Undeb y Myfyrwyr yng Ngorsaf Drenau Bangor. Bydd Arwyr Undeb y Myfyrwyr yn eich helpu i ffeindio eich llety. Gwyliwch allan am ddigwyddiadau difyr trwy’r dydd.
11.00am-4.00pm
Diwrnod Chwilio am Lety yn y Swyddfa Tai Myfyrwyr
Gwasanaethau Myfyrwyr, Neuadd Rathbone, Ffordd y Coleg
7.00pm ymlaen
Y Cwrdd Mawr. Dewch i fwynhau danteithion ysgafn (o 8 ymlaen) ac adloniant hudol am ddim.
Bar Uno, Safle Ffriddoedd
8.00pm
Mynediad am ddim (efo tocyn)
Clwb Nos Academi
8.30am
Bar Uno yn agored am rholiau brecwast, te a choffi yn y bore. Bwydlen Bar Uno ar gael trwy’r dydd.
Bar Uno, Safle’r Ffriddoedd
Trwy gydol y dydd
Mae gweddill y neuaddau preswyl yn agor ar gyfer y myfyrwyr newydd sy’n cyrraedd – edrychwch ar eich Cytundeb Preswylio a deunydd darllen ychwanegol y neuaddau am y diwrnod y bydd eich neuadd benodol yn agor
Trwy gydol y dydd
Bysiau mini Undeb y Myfyrwyr yng Ngorsaf Drenau Bangor. Bydd Arwyr Undeb y Myfyrwyr yn eich helpu i ffeindio eich llety. Gwyliwch allan am ddigwyddiadau difyr trwy’r dydd
11.00am-4.00pm
Diwrnod Chwilio am Lety yn y Swyddfa Tai Myfyrwyr
Gwasanaethau Myfyrwyr, Neuadd Rathbone, Ffordd y Coleg
12.00pm a 2.00pm
Trip i’r archfarchnad i fyfyrwyr Rhyngwladol newydd
Man cyfarfod: Bar Uno, Safle Ffriddoedd
5.00pm
Y Cwrdd Mawr. BBQ am ddim, a raffl. Cofiwch eich tocyn o’r pecyn croeso. Miwsig gan Storm FM ac ‘adloniant hudol’
Bar Uno, Safle Ffriddoedd
8.00am
Brecwast Croeso i fyfyrwyr Rhyngwladol - manylion am beth i’w ddisgwyl yn ystod yr Wythnos Groeso
Ystafell Fwyta, Neuadd Rathbone, Ffordd y Coleg
8.00am-4.00pm
Ystafell Groeso i fyfyrwyr Rhyngwladol, ar agor yn ddyddiol
Neuadd Rathbone, Ffordd y Coleg
9.30am-10.30am
Sesiwn Gwybodaeth a Chyngor i fyfyrwyr Rhyngwladol newydd. Arweinir gan Bennaeth Gwasanaethau Myfyrwyr Rhyngwladol
Darlithfa 4, Prif Adeilad
3.30pm-4.30pm
Sesiwn Gwybodaeth a Chyngor i fyfyrwyr Rhyngwladol newydd. Arweinir gan Bennaeth Gwasanaethau Myfyrwyr Rhyngwladol (yr un sesiwn â’r sesiwn am 9.30am).
Darlithfa 2, Prif Adeilad
8.00pm
Noson Dwi’n♥Caws – mynediad am ddim tan 1am
Clwb Nos Academi
8.00pm
Mae Bar Uno a’r Ysgol Seicoleg yn eich gwahodd i Noson y Cwis Mawr!
Bar Uno, Safle Ffriddoedd
Gyda’r nos
Digwyddiadau Cymdeithasol Ysgolion ac Undeb y Myfyrwyr
Fel yr hysbysebwyd
Dydd Sadwrn, 21 Medi
Dydd Sul, 22 Medi
Dydd Llun, 23 Medi
16
OESO Amser
Gweithgaredd
Lleoliad
Dydd Mawrth, 24 Medi Trwy gydol y dydd
Cyfarfodydd a gweithgareddau Ysgolion, edrychwch yn eich dyddiadur Ysgol academaidd
Fel yr hysbysebwyd yn nyddiadur eich Ysgol academaidd
9.00am-4.00pm
Ystafell groeso i fyfyrwyr Rhyngwladol, ar agor yn ddyddiol
Neuadd Rathbone, Ffordd y Coleg
9.30am-4.30pm
Ffair Ôl-raddedigion – rydym yn awgrymu eich bod yn ymweld â’r Ffair ar y amseroedd yma: myfyrwyr Coleg Busnes, y Gyfraith, Addysg a Gywddorau Cymdeithas – 9.30am-4.30pm; Coleg Celfyddydau a’r Dyniaethau, Coleg Gwyddorau Iechyd ac Ymddygiad – 9.30am-1.00pm; Coleg Gwyddorau Naturiol, Coleg Gwyddorau Ffisegol a Chymhwysol – 1.00pm-4.30pm
Neuadd PJ, Prif Adeilad
11.00am
Taith gerdded o amgylch Bangor i fyfyrwyr Rhyngwladol
Cyfarfod wrth fynedfa’r Prif Adeilad
12.30pm-2.00pm
Sesiwn wybodaeth i fyfyrwyr Rhyngwladol gyda theuluoedd
Darlithfa 2, Prif Adeilad
5.00pm-6.00pm
Croeso a Sesiwn Wybodaeth i fyfyrwyr hŷn a myfyrwyr gyda theulueodd
Gwasanaethau Myfyrwyr, Neuadd Rathbone, Ffordd y Coleg
8.00pm
Parti Lan Môr - gwisg ffansi.
Bar Uno, Safle Ffriddoedd
Gyda’r nos
Digwyddiadau Cymdeithasol yr Ysgolion academaidd ac Undeb y Myfyrwyr
Fel yr hysbysebwyd
Dydd Mercher, 25 Medi Trwy gydol y dydd
Cyfarfodydd a gweithgareddau Ysgolion
Fel yr hysbysebwyd yn nyddiadur eich Ysgol academaidd
9.00am-4.00pm
Ystafell Groeso Myfyrwyr Rhyngwladol, ar agor yn ddyddiol
Neuadd Rathbone, Ffordd y Coleg
10.00am-11.00am
Sesiwn Gwybodaeth a Chyngor i fyfyrwyr Rhyngwladol newydd. Arweinir gan Bennaeth Gwasanaethau Myfyrwyr. (Yr un sesiwn â Sesiwn dydd Llun)
Darithfa 4, Prif Adeilad
11.00am-3.00pm
Serendipedd: Ffair Undeb y Myfyrwyr
Gwelwch Llawlyfr Undeb y Myfyrwyr am fanylion y lleoliad
12.00pm-1.00pm
Cyfarfod â’r myfyrwyr sy’n Arweinwyr Rhyngwladol
Darithfa 2, Prif Adeilad
12.00pm
Taith gerdded o amgylch Bangor i fyfyrwyr Rhyngwladol (yn gorffen yn Serendipedd)
Cyfarfod tu allan i fynedfa’r Prif Adeilad
7.30pm-9.30pm
Côr y Gymdeithas Gerdd – sesiwn ‘rhowch gynnig arni’ a Pharti Caws a Gwin am ddim
Neuadd PJ, Prif Adeilad
8.00pm
Noson Chwaraeon Bar Uno - cyri a pizza gyda chwaraeon byw ar y sgrinau mawr
Bar Uno, Safle Ffriddoedd
8.00pm
Hey You!
Clwb Nos Academi
Gyda’r nos
Digwyddiadau Cymdeithasol yr Ysgolion ac Undeb y Myfyrwyr
Fel yr hysbysebwyd
Dydd Iau, 26 Medi 9.00am-2.00pm
Ystafell Groeso i Fyfyrwyr Rhyngwladol, ar agor yn ddyddiol
Neuadd Rathbone, Ffordd y Coleg
11.00am-3.00pm
Serendipedd: Ffair Undeb y Myfyrwyr
Gweler Llawlyfr Undeb y Myfyrwyr
11.30pm
Taith bws o Fangor a’r ardal i fyfyrwyr rhyngwladol newydd a chartref. Ewch i’n tudalennau gwe Rhyngwladol am fanylion am docynnau
Cyfarfod tu allan i fynedfa’r Prif Adeilad
17
WYTHNOS GROESO Dydd Sadwrn, 21 Medi – Dydd Sul, 29 Medi Amser
Gweithgaredd
2.00pm-3.00pm
Cyflwyniad i’r adnoddau TG i fyfyrywr newydd Dewch i wybod am y cyfleusterau TG y bydd arnoch eu hangen ar gyfer eich cwrs: • Blackboard – amgylchedd dysgu Prifysgol Bangor • Rhaglenni sydd ar gael i’ch helpu i astudio • E-bost a Rhyngrwyd o fewn Prifysgol Bangor
Ystafell 013, Adeilad Deiniol, Ffordd Deiniol
8.00pm
Noson o Berfformiadau Teyrnged Bar Uno
Bar Uno, Safle’r Ffriddoedd
8.00pm
‘Viva la Vida’ - digwyddiad i fyfyrwyr Rhyngwladol
Clwb Nos Academi
Gyda’r nos
Digwyddiadau cymdeithasol yr Ysgolion ac Undeb y Myfyrwyr
Fel yr hysbysebwyd
Lleoliad
Dydd Gwener, 27 Medi Trwy gydol y dydd
Cyfarfodydd a gweithgareddau Ysgolion academaidd: edrychwch yn nyddiadur eich Ysgol academaidd
Fel yr hysbysebwyd yn nyddiadur eich Ysgol academaidd
9.00am-2.00pm
Ystafell Groeso i Fyfyrwyr Rhyngwladol, ar agor yn ddyddiol
Neuadd Rathbone, Ffordd y Coleg
9.00am-10.00am
Sesiwn Sgiliau cyfrwng Cymraeg i fyfyrwyr yr Ysgol Addysg
Safle’r Normal (Ystafell i’w chadarnhau)
10.00am-11.00am a 2.00pm-3.00pm
Cyflwyniad Y Jobzone: Dod o hyd i waith rhan-amser
Darlithfa 4, Prif Adeilad
11.30am-12.30pm
Sesiwn wybodaeth a chyngor i fyfyrwyr rhyngwladol newydd. Arweinir gan Bennaeth Gwasanaethau Myfyrwyr Rhyngwladol
Darlithfa 2, Prif Adeilad
6.30pm
Noson Groeso i Fyfyrwyr Ôl-radd – digwyddiad cymdeithasol wedi ei drefnu gan Fforwm Myfyrwyr Ôl-radd ar gyfer pob myfyriwr ôl-radd
Neuadd Poiws, Prif Adeilad
7.30pm-9.30pm
Cerddorfa Symffoni’r Brifysgol – ymarfer agored, ar y cyd â Cherddorfa’r Gymdeithas Cerdd, croeso i bawb
Neuadd PJ, Prif Adeilad
8.00pm
Noson Carioci a Choctêls
Bar Uno, Safle Ffriddoedd
Gyda’r nos
Digwyddiadau Cymdeithasol yr Ysgolion ac Undeb y Myfyrwyr
Fel yr hysbysebwyd
Dydd Sadwrn, 28 Medi 11.00am
Parti Croeso i fyfyrwyr Rhyngwladol
Neuadd Powis, Prif Adeilad
1.00pm
Taith Ddirgel i fyfyrwyr Rhyngwladol - ewch i’r wefan ‘Rhyngwladol’ am fanylion tocynnau
Cyfarfod tu allan i’r Prif Adeilad
3.00pm
Twrnament ‘gemau mawr’ rhyng-neuaddol
Bar Uno, Safle Ffriddoedd
8.00pm
Caru Uno – Caru Bangor! Bargeinion efo’ch cerdyn tynged a naws clwb gyda Storm FM
Bar Uno, Safle Ffriddoedd
8.00pm
Mynediad am ddim
Clwb Nos Academi
8.00pm
Gwisgwch eich gorau! Noson ‘Casino’ byrddau casino a gwobrau gwych i’w hennill
Bar Uno, Safle Ffriddoedd
8.00pm
Noson Mic Agored
Clwb Nos Academi
Dydd Sul, 29 Medi
Dyddiad arall i’r dyddiadur… Bydd cyfarfod i groesawu myfyrwyr ôl-radd cyfrwng Cymraeg yn cael ei gynnal yn Narlithfa 1, Prif Adeilad ar ddydd Mercher 2 Hydref 2013 am 1.00pm. Bydd yn gyfle i chi: ddod i wybod am y gefnogaeth sydd ar gael, gael cyngor gan oruchwyliwr ôl-radd profiadol a chyfarfod â myfyrwyr ôl-radd o Ysgolion eraill.
18
EICH CYFARFOD CYNTAF GYDA’CH YSGOL ACADEMAIDD Isod, cewch fanylion pryd y dylech fynd i’ch cyfarfod cyntaf â’r Ysgol academaidd. Efallai y bydd digwyddiadau Colegol neu anffurfiol eraill wedi cael eu trefnu cyn y cyfarfod hwn. Holwch eich Ysgol am fanylion ac edrychwch ar wefan yr Wythnos Groeso yn www.bangor.ac.uk/wythnosgroeso. Mae’r testun mewn du yn berthnasol i fyfyrwyr Ôl-radd Astudiaethau Hyfforddedig ac i fyfyrwyr Ôl-radd Ymchwil. Mae’r testun mewn glas yn berthnasol i fyfyrwyr Ôl-radd Astudiaethau Hyfforddedig yn unig (e.e. MSc, MA). Mae’r testun mewn gwyrdd yn berthnasol i fyfyrwyr Ôl-radd Ymchwil yn unig. Ysgol
Dyddiad ac Amser
Lleoliad
Addysg
Dydd Mercher, 25 Medi, 11.00am
Safle’r Normal (lleoliad i’w gadarnhau)
Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau
Dydd Mercher, 25 Medi, 3.00pm
Neuadd John Phillips, Ffordd y Coleg
Athroniaeth a Chrefydd
Cynghorir myfyrwyr i gysylltu â’r Ysgol
Cemeg
Dydd Llun, 23 Medi, 11.45am
Darlithfa Orton, Tŵr Cemeg, Ffordd Deiniol
Cerdd
Dydd Mawrth, 24 Medi, 1.00pm Cynghorir myfyrwyr i weld eu goruchwyliwr ar ôl cyrraedd.
Ystafell Parry Williams, Ysgol Cerddoriaeth
Cyfrifiadureg
Dydd Mercher, 25 Medi – gwahoddir pob myfyriwr ôl-radd i ddod i gwrdd â Julie Boulton
Swyddfa gyffredinol
Cymraeg
Dydd Mercher, 2 Hydref, 10.00
Ystafell Seminar Gymraeg, Prif Adeilad
Gwyddorau Biolegol
Dydd Mawrth, 24 Medi, 10.00am Dydd Iau,26 Medi, 11.00am
Llawr Isaf, Canolfan yr Amgylchedd Cymru Fel uchod
Gwyddorau Cymdeithas
Dydd Iau, 26 Medi, 9.30am Cynghorir myfyrwyr i weld eu goruchwyliwr ar ôl cyrraedd.
A1.01 Adeilad Alun, Canolfan Rheolaeth
Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer
Dydd Llun, 23 Medi, 9.00am Bydd cyfarfod yn cael ei drefnu ar gyfer wythnos gyntaf y tymor
Prif Neuadd, Adeilad George Lleoliad i’w gadarnhau
Gwyddorau Eigion
Dydd Mawrth, 24 Medi, 10.00am Dydd Gwener 27 Medi, 9.30am
Ystafell Seminar, Llawr Isaf, Canolfan yr Amgylchedd Cymru Ystafell Seminar Dennis Crisp MSc, Ysgol Gwyddorau Eigion, Porthaethwy
Gwyddorau Gofal Iechyd Bangor
Cynghorir myfyrwyr i gysylltu â’r Ysgol
Gwyddorau Meddygol
Cynghorir myfyrwyr i gysylltu â’r Ysgol
Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg
Dydd Mercher, 25 Medi, 2.00pm
G1, Prif Adeilad
Ieithyddiaeth ac Iaith Saesneg
Dydd Llun, 23 Medi, 11.00am
Ystafell Aml-adnodd, Canolfan Dwyieithrwydd
Ieithoedd Modern
Dydd Gwener, 27 Medi, 2.00pm
Ystafell Tricolore, 3ydd Llawr, Prif Adeilad
Peirianneg Electronig
Dydd Mercher, 25 Medi – gwahoddir pob myfyriwr ôl-radd i ddod i gwrdd â Julie Boulton
Swyddfa gyffredinol
Saesneg
Dydd Iau, 26 Medi, 10.15am
Lleoliad i’w gadarnhau
Seicoleg
Dydd Llun, 23 Medi, 12.00pm Dydd Llun, 23 Medi, 2.00pm
Lleoliad i’w gadarnhau Lolfa Wheldon
Dydd Iau, 26 Medi, 9.30am Cynghorir myfyrwyr i weld eu goruchwyliwr ar ôl cyrraedd.
A1.01 Adeilad Alun, Y Ganolfan Rheolaeth
Y Gyfraith
Yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth
Dydd Mawrth, 24 Medi, 10.00am Dydd Mercher, 25 Medi, 10.00am
Ysgol Busnes Bangor
Cynghorir myfyrwyr i weld eu goruchwyliwr ar ôl cyrraedd.
Ystafell Seminar, Llawr Isaf, Canolfan yr Amgylchedd Cymru F1 Adeilad Thoday, Ffordd Deiniol
19
DYDDIADAU’R SEMESTRAU Ar ôl i chi gofrestru ym Medi, rhaid i bob myfyriwr gadarnhau eu presenoldeb arlein yn Ionawr. Os na fyddwch yn gallu cydymffurfio â’r gofynion yma fe all arwain at ddiddymu eich benthyciad myfyriwr (DU/UE) neu atal eich teitheb (myfyrwyr sydd ddim o’r DU/UE).
Yr Wythnos Groeso yn dechrau: 23 Medi 2013
Semester 1 yn dechrau: 30 Medi 2013 Gwyliau: 23 Rhagfyr 2013 – 12 Ionawr 2014 Dychwelyd: 13 Ionawr 2014
Dysgir mewn dau floc neu ‘semester’ 12 wythnos.
*Asesu/arholiadau: 13 Ionawr 2014 – 24 Ionawr 2014
Gellir asesu neu arholi modiwlau ar ddiwedd bob semester.
Semester 2 yn dechrau: 27 Ionawr 2014 Gwyliau: 7 Ebrill 2014 - 27 Ebrill 2014 Semester 2 yn parhau: 28 Ebrill 2014 *Asesu/arholiadau: 12 Mai 2014 – 6 Mehefin 2014 Semester 2 yn gorffen: 6 Mehefin 2014
* Gall amrywio o fewn yr Ysgolion
EICH YSGOL ACADEMAIDD Fe’ch cofrestrir ar gyfer cwrs gradd mewn Ysgol academaidd (neu efallai ddwy os yw’n radd Gyd-anrhydedd), er y gellwch wneud modiwlau neu gyrsiau mewn mwy nag un Ysgol academaidd. Mae Ysgolion academaidd y Brifysgol wedi eu cynnwys mewn 5 Coleg fel a ganlyn:
Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau:
Coleg y Gwyddorau Naturiol:
• Ysgol Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau
• Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth
• Ysgol Athroniaeth a Chrefydd
• Ysgol Gwyddorau Biolegol
• Ysgol Cerddoriaeth
• Ysgol Gwyddorau Eigion
• Ysgol Dysgu Gydol Oes • Ysgol y Gymraeg
Coleg Iechyd a Gwyddorau Ymddygiad:
• Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg
• Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd
• Ysgol Ieithyddiaeth ac Iaith Saesneg
• Ysgol Gwyddorau Meddygol
• Ysgol Ieithoedd Modern
• Ysgol Seicoleg
• Ysgol y Saesneg
• Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer
Coleg Busnes, y Gyfraith, Addysg a Gwyddorau Cymdeithas:
Coleg Gwyddorau Ffisegol a Chymhwysol:
• Ysgol Addysg
• Ysgol Peirianneg Electronig
• Ysgol Busnes Bangor
• Ysgol Cyfrifiadureg
• Ysgol y Gyfraith • Ysgol Gwyddorau Cymdeithas
20
• Ysgol Cemeg
TREFN GOFRESTRU a FfIoedd 1 Trefn Gofrestru Rhaid i bob myfyriwr newydd gofrestru’n ffurfiol gyda Chofrestrfa Academaidd y Brifysgol yn ganolog. Ar gyfer sesiwn academaidd 2013/14, gallwch wneud hynny ar-lein cyn dechrau eich cwrs. Ewch i www.bangor.ac.uk/ registration am y manylion yn llawn. Cewch wybod pryd fydd y system yn agored i chi drwy ebost neu lythyr, yn dibynnu ar eich cwrs. Nodwch y bydd rhaid ichi ddod â phrawf o bwy ydych chi i’r Brifysgol. Rhaid wrth ddogfennau gwreiddiol (er y gall fod yn bosib i rai myfyrwyr rhan-amser anfon dogfennau wedi’u sganio yn lle dogfennau gwreiddiol – byddwn yn rhoi gwybod ichi os yw hyn yn berthnasol i chi). Bydd eich dogfennau yn cael eu harchwilio yn ystod yr Wythnos Groeso, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn dod â nhw gyda chi; os na allwch ddarparu’r dogfennau, efallai y bydd rhaid ichi ohirio cofrestru gyda’r Brifysgol, ac efallai na chewch ddefnyddio adnoddau’r Brifysgol dros dro. Mae rhestr o’r dogfennau y gallwch eu defnyddio i brofi pwy ydych chi ar gael yma: www. bangor.ac.uk/registration/proof-of-identity Ar ôl ichi gwblhau’r broses ar-lein, cewch ebost yn cadarnhau eich bod wedi’ch cofrestru o fewn 24 awr. Os cewch unrhyw broblemau, bydd tîm Cofnodion Myfyrwyr y Gofrestrfa Academaidd ar gael i’ch helpu, a gallwch gysylltu â nhw drwy anfon ebost i student-records@bangor.ac.uk neu ffonio 01248 388484 o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 09.00 a 17.00.
2 Cofrestru gyda’r Heddlu i Fyfyrwyr Rhyngwladol Os yw cofrestru gyda’r heddlu yn un o amodau eich arhosiad yn y DU (dylai hyn fod wedi’i ysgrifennu ar eich fisa), dylech wneud hynny o fewn 7 diwrnod i gyrraedd y DU. Dylech hefyd roi gwybod i’r heddlu o fewn 7 diwrnod os yw eich fisa, eich cyfeiriad neu eich amgylchiadau wedi newid. Os nad ydych yn sicr, ewch i weld y Tîm Cefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol yn Neuadd Rathbone. Yn ystod yr Wythnos Groeso cynhelir sesiynau galw-i-mewn gyda’r heddlu, lle gallwch gofrestru gyda nhw, ar ddydd Mawrth 24 Medi a dydd Mercher 24 Medi rhwng 10.00am a 4.00pm, a ddydd Gwener 27 Medi rhwng 10.00am a 2.00pm ar lawr gwaelod Neuadd Rathbone (rhif 70 ar y map). Bydd sesiynau galw-i-mewn gyda’r heddlu yn cael eu cynnal ar y dyddiadau hyn hefyd: 3 Hydref 10 Hydref 14 Tachwedd 28 Tachwedd 5 Rhagfyr 12 Rhagfyr
21 21
3 Talu ffïoedd 2013/2014 Fel myfyriwr ym Mhrifysgol Bangor bydd gennych gyfrif yn eich enw yn ein system cofnodion myfyrwyr. Bydd unrhyw ffioedd hyfforddi neu lety yn cael eu codi ar y cyfrif hwn a bydd unrhyw daliadau a wnewch yn cael eu credydu i’ch cyfrif.
Myfyrwyr Cartref/UE yn unig Mae’r holl ffioedd dysgu a’r ffioedd llety’n daladwy’n llawn pan fyddwch yn cofrestru, oni bai eich bod yn dewis talu eich ffioedd trwy gynllun rhandaliadau sy’n berthnasol i’ch statws fel myfyriwr. Taliadau lwmp swm Os yw’n well gennych dalu eich ffioedd dysgu a llety mewn un lwmp swm, gellwch wneud hynny wrth gofrestru. Gellwch dalu mewn arian parod, cerdyn credyd/debyd, siec/drafft mewn sterling o fanc clirio yn y DU ac yn daladwy i ‘Prifysgol Bangor’. Os nad yw siec neu ddrafft bancwyr yn dod o fanc clirio yn y DU, gall hyn achosi oedi sylweddol iawn cyn y gall y brifysgol gadarnhau derbyn tâl neu brosesu unrhyw ad-daliadau a allai fod yn ddyledus yn ddiweddarach.
Myfyrwyr Rhyngwladol (nid o’r UE) Bydd angen i’r rhan fwyaf o’r myfyrwyr rhyngwladol sydd wedi cael eu derbyn i astudio ym Mhrifysgol Bangor, ac sydd angen Llythyr Cadarnhau Derbyn i Astudio (CDA), dalu blaendal o £2,000.
Bydd myfyrwyr yn dal yn atebol am dalu hyd nes y gall y Brifysgol gadarnhau derbyn tâl, ac ni all gadarnhau hynny nes derbynnir arian ‘wedi eu clirio’ i gyfrif banc y Brifysgol. Cynllun talu Cynigir y cynllun talu i geisio dosbarthu costau’n wastad dros y flwyddyn. Os oes newidiadau yn eich cyfrif yn ystod y flwyddyn, bydd unrhyw gynnydd neu ostyngiad yn y swm/symiau dyledus yn cael eu dosbarthu dros y rhandaliadau sy’n weddill. Cesglir y cynlluniau talu trwy gerdyn debyd/credyd ac i ddefnyddio’r dull hwn rhaid i chi ddilyn y cyfarwyddiadau ar y wefan https://epay.bangor.ac.uk Anfonir hysbysiad 5 diwrnod cyn dyddiad pob taliad i’ch cyfeiriad e-bost cyn y cesglir y taliad.
Gellir talu ffioedd llety’n llawn hefyd (gweler www.bangor. ac.uk/international/future/payment.php) neu drwy randaliadau gan ddefnyddio cerdyn credyd/debyd (https:// epay.bangor.ac.uk) Sut i dalu:
Ni ellir ad-dalu’r blaendal ac eithrio mewn rhai achosion (e.e. salwch a ardystiwyd). Tynnir y blaendal hwn o ffioedd dysgu blwyddyn gyntaf y myfyrwyr. Gellir talu ffioedd dysgu’n llawn cyn cofrestru neu wrth gofrestru, neu gellir eu talu drwy randaliadau. Nid oes rhaid i fyfyrwyr a noddir gan lywodraeth, myfyrwyr benthyg o Ganada ac UDA, na graddedigion Prifysgol Bangor, dalu blaendal.
Talu i Astudio Mae system rheoli talu ar-lein (Talu i Astudio) ar gael ym Mhrifysgol Bangor i hwyluso talu gwahanol ffioedd, yn cynnwys blaendaliadau, ffioedd dysgu, ffioedd cyrsiau iaith Saesneg a ffioedd llety yn eich arian lleol ac yn eich banc lleol. Gall ein darparwyr neu asiantau swyddogol hefyd dalu dros grwpiau.
Opsiynau Talu:
Gellir talu ffioedd dysgu yn www.bangor.ac.uk/international/ isps_fees.php a ffioedd llety yn www.bangor.ac.uk/ international/isps_accommodation.php.
1. Talu’n llawn wrth gofrestru Gellir talu’n llawn cyn cofrestru neu wrth gofrestru. Mae gostyngiad o £350 ar gael i fyfyrwyr sy’n talu eu ffi ddysgu am flwyddyn lawn cyn 1 Medi 2013. 2. Talu drwy randaliadau Gall myfyrwyr dalu drwy ddau randaliad. Codir ffi gweinyddu o £200 am hyn. Dylid talu’r rhandaliad cyntaf ar y diwrnod olaf y caniateir cofrestru, neu cyn hynny, ac mae’r ail randaliad yn ddyledus ar 13 Ionawr 2014 neu cyn hynny. Talu Ffioedd Cwrs Iaith Saesneg Rhaid talu blaendal o £2,000 cyn y gellir rhoi llythyr Cadarnhau Derbyn i Astudio (CDA). Rhaid talu gweddill y ffi yn llawn wrth gofrestru ar raglen ELCOS. Mae talu drwy ddau randaliad ar gael ar gyfer cyrsiau 30 a 42 wythnos yn unig (codir tâl gweinyddu). Taliadau hwyr Mae’r Brifysgol yn cadw’r hawl i godi llog misol o 1% ar unrhyw daliad hwyr ar ôl y dyddiad cofrestru olaf. Gellir codi llog ar daliadau hwyr yn achos rhandaliadau hefyd.
Trosglwyddiad Banc Gall myfyrwyr hefyd dalu ffioedd drwy drosglwyddiad banc gan ddefnyddio’r manylion isod: Enw’r cyfrif: Prifysgol Bangor Cyfeiriad y cyfrif: Barclays Bank PLC, 273 High Street, Bangor, Gwynedd, LL57 1UE, UK Cod didoli’r cyfrif:
20-35-47
Rhif y cyfrif:
80975907
RHIF IBAN:
GB09 BARC 2035 4780 9759 07
RHIF SWIFT:
BARCGB22
Nodwch eich enw llawn a’ch rhif myfyriwr wrth wneud y trosglwyddiad ac anfonwch ebost i remittance@bangor. ac.uk (i roi gwybod am y swm a drosglwyddwyd, dyddiad y trosglwyddiad a’ch rhif myfyriwr). Cewch ragor o wybodaeth yn: www.bangor.ac.uk/international/future/payment.php
22
4 Caladi Ariannol Sylwer y gall methu â thalu eich ffioedd arwain at derfynu eich cofrestriad. Dylech gysylltu â’r Swyddfa Gyllid cyn gynted â phosibl os byddwch yn rhagweld unrhyw drafferth i dalu eich ffioedd. Bydd y Brifysgol yn codi tâl ychwanegol am bob taliad hwyr. Fodd bynnag, rydym yn awyddus iawn i sicrhau na fyddwch yn cael costau o’r fath ac mae gan y Brifysgol gynghorwyr ariannol arbenigol yn yr Uned Cefnogaeth Ariannol (01248 383637) neu cymorthariannol@bangor.ac.uk i’ch helpu. Am ragor o wybodaeth ewch i’r Swyddfa Gyllid rhwng 10.00-12.30 a 1.30-4.00 dydd Llun i ddydd Gwener neu ffoniwch 01248 383801 neu 01248 382049 rhwng yr un oriau. Gallwch hefyd gysylltu’n uniongyrchol â’r Swyddfa Gyllid trwy anfon ebost at feepayment@bangor.ac.uk neu ewch i wefan y Swyddfa Gyllid www.bangor.ac.uk/finance/
5 Tystysgrifau Presenoldeb Rhaid gwneud pob cais am Dystysgrif Presenoldeb arlein. Bydd angen i chi sicrhau bod manylion eich cyfeiriad (cartref ac yn ystod y tymor) yn gyfredol cyn gwneud cais am y ddogfennaeth. Gallwch wneud hyn drwy fewngofnodi i’r system myfyriwr - Bangor360, lle gallwch ddiweddaru eich manylion os oes angen.
6 Trwyddedau Parcio i Fyfyrwyr Bydd unrhyw un sy’n dymuno parcio ym meysydd parcio’r Brifysgol yn gorfod cael trwydded barcio. Mae myfyrwyr cofrestredig sydd naill ai’n byw mewn neuadd y Brifysgol, neu’n byw y tu allan i ffiniau Dinas Bangor, yn gymwys i wneud cais am y trwyddedau parcio yma. Fodd bynnag, nid yw’r drwydded yn gwarantu y bydd lle parcio ar gael i ddeiliad y drwydded. Ceir manylion sut i wneud cais am drwydded a rheoliadau parcio yn: www.bangor.ac.uk/ea/VehicleParking
Cyfathrebu â chi Mae’r Gofrestrfa Academaidd wedi ymrwymo i leihau’r baich gweinyddol ar fyfyrwyr cymaint ag sy’n ymarferol, gan roi mwy o amser felly i chi ganolbwyntio ar eich astudiaethau. Gyda hyn mewn cof, bydd gwasanaethau arlein, ebost a gwybodaeth ar y we’n cael eu defnyddio mor eang ag sy’n bosibl. Caiff pob gohebiaeth bwysig ei hanfon i’ch cyfrif ebost gyda’r Brifysgol yn y lle cyntaf, a dylid gwirio’r cyfrif hwn yn rheolaidd. Bydd y Gofrestrfa Academaidd yn ceisio cyfyngu’r ohebiaeth i’r hyn sydd ei angen ar gyfer gweinyddu’ch astudiaethau’n unig. Cewch eich cynghori’n gryf i ddefnyddio’ch cyfrif ebost gyda’r Brifysgol fel eich prif gyfrif ebost. Fodd bynnag, os oes arnoch angen cadw mwy nag un cyfrif ebost am resymau eraill (e.e. rhesymau gwaith proffesiynol
i fyfyrwyr rhan-amser), yna rhaid i chi naill ai wirio’ch cyfrif gyda’r Brifysgol yn rheolaidd, neu drefnu i holl ebyst y Brifysgol gael eu hanfon ymlaen fel sy’n briodol. Pan fyddwch yn anfon ebost ymlaen, sicrhewch fod y cyfrif newydd yn derbyn ebost y Brifysgol. Ni ellir defnyddio’r ffaith i chi fethu â darllen ebyst y Brifysgol fel rheswm dros beidio â chydymffurfio â rheoliadau a dulliau gweithredu’r Brifysgol. Os na allwn gysylltu â chi drwy ebost, yna byddwn yn dilyn ein strategaeth gyfathrebu fel a ganlyn: • Ffonio’ch ffôn symudol neu’ch cartref; • Ysgrifennu i gyfeiriad eich cartref parhaol; • Gofyn i’ch Ysgol academaidd gysylltu â chi. Mae’n bwysig eich bod yn rhoi’ch manylion cyswllt diweddaraf arlein. 23
AR ÔL YR WYTHNOS GROESO Gwybodaeth a gewch yn ddefnyddiol, o bosibl, yn ystod yr ychydig wythnosau neu fisoedd cyntaf ym Mangor
Cefnogaeth Sgiliau Astudio: Mae help wrth law! Cefnogi’ch astudiaethau Mae’r Ganolfan Sgiliau Astudio yn darparu amrywiaeth o wasanaethau a gynlluniwyd i hwyluso symud i’r Brifysgol ac i’ch helpu i elwa fwyaf o’ch astudiaethau. Apwyntiadau cefnogaeth astudio unigol Os hoffech drafod eich dulliau darllen, cymryd nodiadau, cyflwyno, sgiliau mewn arholiadau ac adolygu, neu reoli cwrs, neu os hoffech drafod aseiniad yr ydych wrthi’n ei ysgrifennu, mae croeso i chi drefnu apwyntiad gydag un o’n cynghorwyr astudio. Sesiwn galw i mewn ar gyfer mathemateg ac ystadegau I gael cymorth gyda mathemateg ac ystadegau, dewch i Lyfrgell Deiniol ar unrhyw ddydd Mawrth rhwng 11:30am2:30pm a dydd Mercher rhwng 10:30am-4:30pm i drafod unrhyw gwestiynau sydd gennych. Does dim angen gwneud apwyntiad. Mentor Ysgrifennu i Gyfoedion Os hoffech drafod eich syniadau cychwynnol am aseiniad, ac i drafod eich gwaith ysgrifennu gyda ffrind critigol, gwnewch apwyntiad gydag un o’n tîm o fentoriaid ysgrifennu i gyfoedion hyfforddedig. Gweithdai sgiliau astudio Archebwch le ar un o’n gweithdai generig i edrych ar ffyrdd newydd o ddarllen, ysgrifennu a siarad mewn cyd-destun academaidd. Canllawiau astudio ar-lein Ewch i’n gwefan i weld y dewis o ganllawiau sydd wedi eu cynllunio i’ch helpu i elwa fwyaf o’ch astudiaethau. I wneud apwyntiad neu i gael mwy o wybodaeth, ewch i’n gwefan: www.bangor.ac.uk/studyskills; ffoniwch ni ar 01492 382689; neu dewch i Adeilad Rathbone.
24
Pontio Bydd Canolfan Celfyddydau ac Arloesi Pontio yn agor ym Mangor yn 2014. Pan fydd y drysau yn agor, bydd y ganolfan ar Ffordd Deiniol yn cynnig lleoliad newydd a chyffrous yn y ddinas: yn lle delfrydol i fynd iddo, i gwrdd â ffrindiau ac i ymlacio. Unwaith y bydd wedi agor, byddwch yn elwa ar leoedd dysgu newydd Pontio a byddwch yn gallu mwynhau’r cyfleusterau adloniant fydd yn cynnwys theatr, theatr stiwidio a lle sinema newydd. Yn gartref i Undeb y Myfyrwyr, bydd Pontio yn ganolbwynt i fywyd y campws, gan ddarparu swyddi newydd a chyfleoedd i wirfoddoli - i’ch helpu chi i ennill arian a phrofiad gwaith gwerthfawr. Tan hynny, byddwn yn cynnal rhaglen gyffrous o ddigwyddiadau i’ch difyrru. Mae pob tymor yn cynnwys cerddoriaeth, drama a dawns o bedwar ban byd, yn ogystal â rhaglen o ffilmiau at ddant pawb. Am fwy o wybodaeth: ewch i www.pontio.co.uk neu ebostiwch info@pontio.co.uk. Rydym hefyd ar Facebook (Pontio:Digwyddiadau), neu gellwch ein dilyn ar Twitter (@TrydarPontio).
Cyrsiau Cymraeg Modiwl Gloywi Iaith ar gyfer siaradwyr rhugl (dysgwyr a Chymry Cymraeg) Mae Canolfan Bedwyr yn cynnig modiwl cyfrwng Cymraeg ar gyfer myfyrwyr ôl-radd sydd eisiau datblygu eu sgiliau iaith Gymraeg (llafar ac ysgrifennu) er mwyn gallu trafod eu maes arbenigol yn hyderus drwy gyfrwng y Gymraeg. Teitl y modiwl: Ymdrin â’ch pwnc Drwy’r Gymraeg Cod: ZXC4202 Gallwch ddilyn y modiwl Ymdrin â’ch Pwnc Drwy’r Gymraeg (10 credyd) yn Semester 2. Nod a chynnwys y modiwl Codi ymwybyddiaeth ieithyddol y myfyrwyr drwy ganolbwyntio ar y canlynol: • defnyddio ffynonellau Saesneg yn effeithiol • osgoi dylanwad y Saesneg ar y Gymraeg • defnyddio berfau’n gywir • egwyddorion ysgrifennu academaidd • Cymraeg Clir - ysgrifennu’n glir a dealladwy • sgiliau llafar / cyflwyno effeithiol • pwyntiau gramadegol cyffredinol e.e. sillafu, treigladau • defnyddio offer iaith cyfrifiadurol (CYSGLIAD) • trafod termau technegol eich maes Cysylltwch â ni: Eleri Hughes, Canolfan Bedwyr, Adeilad Dyfrdwy, Ffordd y Coleg, Bangor, Gwynedd LL57 2DG eleri.hughes@bangor.ac.uk
25
AR ÔL YR WYTHNOS GROESO Gwybodaeth a gewch yn ddefnyddiol, o bosibl, yn ystod yr ychydig wythnosau neu fisoedd cyntaf ym Mangor
CORAU, CERDDORFEYDD A CHYNGHERDDAU Yn y Brifysgol, cynhelir cyfoeth o weithgareddau cerddorol yn wythnosol. Mae’r gweithgareddau hyn yn agored i bawb – nid yn unig i fyfyrwyr Cerddoriaeth – ac rydym yn addo y cewch chi groeso.
Corws y Brifysgol Mae’r côr SATB hwn yn perfformio mewn cyngherddau mawr gyda cherddorfa ddwywaith y flwyddyn. Nid oes clyweliadau, ac mae croeso i bawb! Cynhelir ymarferion bob nos Fercher am 7.30pm yn Neuadd Prichard-Jones. Cynhelir yr ymarfer cyntaf yr Wythnos Groeso, ac wedyn parti caws a gwin am ddim!
Cerddorfa Symffoni’r Brifysgol Mae prif gerddorfa faint-llawn Gogledd Cymru yn perfformio sawl gwaith y flwyddyn, ar ei ben ei hun a hefyd gyda Chorws y Brifysgol a Chwmni Opera’r Brifysgol. Dewisir aelodau trwy glyweliad, ond mae lleoedd ar gyfer aelodau newydd bob amser. Dewch draw i’r ymarfer agored ar nos Wener yr Wythnos Groeso (7.30pm, Neuadd PJ), pryd y pennir amseroedd clyweliad ar gyfer y trannoeth. Nos Lun yw’r noson ymarfer arferol.
Côr Siambr y Brifysgol, Cerddoriaeth Gynnar Bangor a Chwmni Opera Prifysgol Bangor Mae croeso i fyfyrwyr o unrhyw adran o fewn y Brifysgol gael clyweliad ar gyfer lleoedd yn yr ensembles arbenigol hyn, sy’n ymarfer a pherfformio trwy gydol y flwyddyn. Mae mwy o wybodaeth a ffurflenni cais ar gael o’r wefan isod. Am fwy o wybodaeth am y gweithgareddau uchod ewch i www.bangor. ac.uk/music a chliciwch ar ‘Corau a Cherddorfeydd’ neu cysylltwch â Dr Chris Collins yn yr Ysgol Cerddoriaeth: c.collins@bangor.ac.uk.
Cyfleoedd eraill i berfformio Gyda chefnogaeth yr Ysgol Cerddoriaeth, mae Undeb y Myfyrwyr yn cynnal sawl cymdeithas gerddoriaeth sy’n agored i unrhyw fyfyrwyr; mae’r rhain yn cynnwys y Gymdeithas Gerdd (côr a cherddorfa), SODA (theatr gerdd), Band Pres, Band Cyngerdd, Band Jazz ac Ensemble Llinynnol. Ewch i’w stondinau yn Serendipedd i gael mwy o fanylion.
Cyfres Gyngherddau’r Brifysgol Gan gydweithredu â’r Ysgol Cerddoriaeth, mae Pontio yn cynnal cyfres fywiog o gyngherddau wythnosol o gerddoriaeth siambr, werin, offerynnol, gerddorfaol ac electroacwstig, yn aml â naws Gymreig, ac fel rheol ar nosweithiau Iau a Sadwrn. Mae perfformwyr yn cynnwys Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Pedwarawd Llinynnol Benyounes ac Ensemble Cymru. Mae cynigion arbennig ar gyfer tocynnau ar gael i fyfyrwyr. I gael mwy o wybodaeth, codwch lyfryn Pontio o dderbynfa Prif Adeilad y Celfyddydau, neu ewch i www.pontio.co.uk.
26
Mapiau’r Campws Mae’r mapiau isod a’r prif fap a’r allwedd ar dudalennau 2829 yn dangos adeiladau y byddwch angen eu lleoli yn ystod yr Wythnos Groeso a thu hwnt. Mae’r rhain yn cynnwys adeiladau academaidd, adrannau gwasanaeth a gweinyddol, llyfrgelloedd, cyfleusterau arlwyo a chymdeithasol, neuaddau preswyl a gwasanaethau a chyfleusterau eraill.
Mae adeiladau 1-16 yn cael eu dangos ar fap Safle’r Normal ar y dde isod. Mae adeiladau A a B (Ysgol Gwyddorau Eigion) yn cael eu dangos ar fap Porthaethwy ar y chwith isod. Mae pob lleoliad arall yn cael eu dangos ar y prif fap ar dudalen 28-29.
Parcio Prifysgol (Tocyn mynediad yn angenrheidiol) Parcio Cyhoeddus
Map Porthaethwy FFORDD
Map SAfle’r Normal
Biwmares
Y COLEG
S D ACE YP
Gwesty’r Victoria
P ORTHAETHWY YC
AP
EL
F
O
N
RY D
A
A5
ST
M E N A I
YD TR
Caergybi
Pont y Borth 27
COLEGAU AC YSGOLION ACADEMAIDD Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau Ysgol Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau Ysgol Athroniaeth a Chrefydd Ysgol Cerddoriaeth Ysgol Dysgu Gydol Oes Ysgol y Gymraeg Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archeoleg Ysgol Ieithyddiaeth ac Iaith Saesneg Ysgol Ieithoedd Modern Ysgol Saesneg Coleg Busnes, y Gyfraith, Addysg, a’r Gwyddorau (Canolfan Weinyddol)
51 63 51 51, 65 12, 73 51 51 51 51 51
56
Canolfan Rheolaeth Ysgol Busnes Bangor 59, 60, 61, 62, 64 Ysgol Addysg 1, 6, 7, 8, 9, 10, 11, 12, 16 Ysgol Busnes Bangor 55, 59 Ysgol Gwyddorau Cymdeithas 54, 59 Ysgol y Gyfraith 57, 58 Coleg Gwyddorau Naturiol Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth Ysgol Gwyddorau Biolegol Ysgol Gwyddorau Eigion
39, 46 38, 39, 42 A, B
Coleg Iechyd a Gwyddorau Ymddygiad Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer 1, 5 Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd 37 Ysgol Gwyddorau Meddygol 50 Ysgol Seicoleg 44, 49, 50, 68, 73 Coleg Gwyddorau Ffisegol a Chymhwysol Ysgol Cemeg Ysgol Cyfrifiadureg Ysgol Peirianneg Electronig
40 74 74
ADRANNAU GWASANAETH A GWEINYDDOL Canolfan Addysg Myfyrwyr Rhyngwladol 70 Canolfan Dyslecsia Miles 70 Cofrestrfa Academaidd (Derbyniadau, Cofnodion Myfyrwyr ac Amserlennu) 51 ELCOS 70 Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd 70 Gwasanaeth Iechyd a Diogelwch 52 Gwasanaethau Myfyrwyr 70 Gwasanaethau Llyfrgell 11, 37, 47, 51, 65 Gwasanaethau TG 47 Swyddfa’r Cofrestrydd 51 Swyddfa Gyllid 67 Swyddfa’r Is-Ganghellor 51 Undeb y Myfyrwyr 43, 79 Ystadau a Chyfleusterau 33 LLYFRGELLOEDD Gwasanaeth Archifdy Llyfrgell Cerddoriaeth Llyfrgell Deiniol Llyfrgell Fron Heulog Llyfrgell Safle’r Normal Llyfrgell Wolfson Prif Lyfrgell
28
51 65 47 37 11 A 51
NEUADDAU PRESWYL Ffordd y Coleg Neuadd Garth Safle Ffriddoedd Adda Alaw Braint (Llawr isaf – Siop) Cefn-y-Coed Crafnant Elidir Enlli Ffraw Glaslyn Gwynant Idwal (Llawr isaf – Swyddfa Neuaddau, Swyddfa Cynadleddau ac Arlwyo) Llanddwyn Neuadd Reichel
72
34 22 32 24 29 19 20 28 27 36 35 31 17
Mae adeiladau 1-16 yn cael eu dangos ar fap Safle’r Normal ac mae adeiladau A a B (yr Ysgol Gwyddorau Eigion) yn cael eu dangos ar fap Porthaethwy – y ddau ar y dudalen flaenorol. Mae pob lleoliad arall yn cael eu dangos ar y prif fap ar y chwith.
Prif Dderbynfa’r Brifysgol
Parcio Prifysgol (Tocyn mynediad yn angenrheidiol)
Parcio Cyhoeddus
CYFLEUSTERAU CYMDEITHASOL AC ARLWYO Neuaddau John Morris-Jones: Bryn Dinas Tegfan Peris Y Borth Y Glyder / Porthdy Diogelwch Safle’r Normal Neuadd Arfon Neuadd Seiriol Safle’r Santes Fair Bryn Eithin
25 26 21 23 30
3 2
75
Bar/Clwb Bar Uno Caffi Glas Caffi Teras Pod Coffi Caffi Teras Lolfa’r Ganolfan Rheolaeth Y Bistro
43 33 39 51 51 60 4
GWASANAETHAU A CHYFLEUSTERAU ERAILL Maes Glas (Canolfan Chwaraeon) Neuadd John Phillips Neuadd Powis Neuadd Prichard-Jones Y Gaplaniaeth Anglicanaidd Y Gaplaniaeth Gatholig
Mae’r Brifysgol yn gwneud pob ymdrech resymol i sicrhau bod yr holl wybodaeth yn y llyfryn hwn yn gywir adeg ei argraffu (Mehefin 2013).
18 63 51 51 77 78
29
Prifysgol Bangor, Bangor, Gwynedd LL57 2DG Ff么n: 01248 351 151 (Prif switsfwrdd) www.bangor.ac.uk/wythnosgroeso @prifysgolbangor #bangor2013 www.facebook.com/prifysgolbangor