1 minute read

Myfyrwyr Hŷn

Next Article
Cyllid Myfyrwyr

Cyllid Myfyrwyr

Rydym yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn a byddem yn gwneud ein gorau i’ch helpu a’ch cefnogi yn ystod eich amser yma.

Efallai eich bod yn ystyried astudio yma’n llawn-amser, neu os ydych yn byw’n lleol, efallai bod astudio’n rhan-amser yn apelio.

Ymysg y gwasanaethau a fydd o ddiddordeb i chi fydd y Cynghorydd Myfyrwyr Hŷn yn yr adran Gwasanaethau Myfyrwyr, y cyngor a’r gefnogaeth sy’n cael ei gynnig gan yr Uned Cefnogaeth Ariannol, a’r gefnogaeth ym maes Sgiliau Astudio sy’n cael ei gynnig gan y Ganolfan Sgiliau Astudio (gwelwch dudalen 49). Yn yr Adran Gwasanaethau Myfyrwyr mae Cynghorydd Myfyrwyr Hŷn ar gael i gynnig cymorth gydag amrywiaeth o faterion. Mae gan Undeb y Myfyrwyr Seneddwr Myfyrwyr Hŷn i sicrhau bod anghenion myfyrwyr hŷn yn cael eu cynrychioli. Mae’r Ganolfan Sgiliau Astudio yn cynnig gweithdai ac adnoddau i gefnogi myfyrwyr yn ystod y broses o ddechrau yn y Brifysgol a symud ymlaen trwyddi. Gall yr Uned Cefnogaeth Ariannol roi cyngor a chefnogaeth i fyfyrwyr hŷn.

Rydym yn eich annog i gysylltu â’r Cynghorydd Myfyrwyr Hŷn am fwy o wybodaeth am yr help a’r gefnogaeth sydd ar gael i fyfyrwyr hŷn. Gwasanaethau Myfyrwyr Ff: 01248 383637 E: gwasanaethaumyfyrwyr@bangor.ac.uk

Ariannu eich astudiaethau

Yn dibynnu ar eich amgylchiadau unigol, efallai byddwch yn gymwys i gael cefnogaeth ariannol ychwanegol. Er enghraifft, gall myfyrwyr sy’n rhieni ac sy’n gymwys am gymorth ychwanegol gael Grant Gofal Plant neu Lwfans Dysgu i Rieni, ac mae hefyd grantiau ar gael i rai sydd ag oedolion sy’n ddibynnol arnynt. Mae gennym hefyd Gronfa Caledi i gynorthwyo myfyrwyr sy’n profi caledi ariannol annisgwyl. Uned Cefnogaeth Ariannol, Gwasanaethau Myfyrwyr Ff: 01248 383566/383637 E: cefnogaethariannol@bangor.ac.uk

This article is from: