3 minute read

Bwrsariaethau ac Ysgoloriaethau

Next Article
Adnoddau Dysgu

Adnoddau Dysgu

BWRSARIAETHAU

Fel y byddech chi’n ei ddisgwyl mewn prifysgol sy’n rhoi cryn bwyslais ar gynorthwyo myfyrwyr, rydyn ni’n awyddus i gynnig help ychwanegol i fyfyrwyr newydd.

Bwrsariaethau Astudio Trwy’r Gymraeg

Fel rhan o ymdrech Llywodraeth Cymru i gynyddu nifer y myfyrwyr sy’n astudio trwy’r Gymraeg, mae Prifysgol Bangor yn cynnig bwrsariaethau i gynorthwyo’r rheini sy’n dewis astudio trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r cynllun bwrsariaethau yn golygu fod bwrsariaethau o £250 y flwyddyn ar gael i’r rhai sy’n dewis astudio mwy na 40 credyd y flwyddyn drwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd mwy o wybodaeth ynglŷn â’r Bwrsariaethauar gyfer 2021 ar gael ar wefan y Brifysgol pan fydd y manylion wedi eu cadarnhau.

Bwrsariaethau Cychwyn

Mae Bwrsariaethau Cychwyn o £1,000 ar gael i’r rhai sy’n dod i’r Brifysgol o ofal. Bwriad y bwrsariaethau cychwyn yw talu am y llyfrau, y cyfarpar, y teithio a’r cymhorthion astudio sy’n gysylltiedig â’r cwrs. Unwaith yn unig yn ystod y flwyddyn gyntaf y bydd y bwrsariaethau hyn yn cael eu talu. Nid oes rhaid eu talu’n ôl.

Bwrsariaethau i Adleoli Teuluoedd

Mae’r fwrsariaeth hon o hyd at £1,000 ar gael yn y flwyddyn academaidd gyntaf yn unig. Os ydych chi yn adleoli gyda’ch teulu i ddechrau eich astudiaethau ym Mhrifysgol Bangor a’ch bod yn fyfyriwr isradd o’r Deyrnas Unedig gydag incwm trethadwy o £25,000 neu lai, yna gallech fod â hawl i’r fwrsariaeth yma.

Bwrsariaethau i fyfyrwyr digartref

Os nad oedd gennych gartref sefydlog cyn i chi ddechrau gyda’ch astudiaethau ym Mhrifysgol Bangor, gallech wneud cais am y fwrsariaeth £500 hon i’ch helpu gyda’ch costau prifysgol cychwynnol. Mae’r fwrsariaeth hon ar gael yn y flwyddyn academaidd gyntaf yn unig.

Beth yw’r gwahaniaeth rhwng bwrsariaethau ac ysgoloriaethau?

Dyfernir bwrsariaethau yn ôl meini prawf penodol. Ar yr amod eich bod yn ateb y meini prawf ac wedi llenwi’r ffurflen briodol ar gyfer cynhaliaeth i fyfyrwyr, dylech dderbyn y fwrsariaeth berthnasol yn awtomataidd. Teilyngdod yw maen prawf y rhan fwyaf o’r Ysgoloriaethau a gynigir gan y Brifysgol. Er enghraifft, gall y rhai sy’n rhagori yn arholiadau Ysgoloriaethau Mynediad y Brifysgol ennill Ysgoloriaethau Teilyngdod gwerth hyd at £3,000.

YSGOLORIAETHAU

Mae Bangor yn cynnig cynllun ysgoloriaeth hael, gyda myfyrwyr israddedig newydd yn derbyn rhyw £100,000 bob blwyddyn.

Ysgoloriaethau Mynediad ac Ysgoloriaethau Teilyngdod

Fel rhan o gynllun Ysgoloriaethau Mynediad Bangor, mae oddeutu 40 Ysgoloriaeth Deilyngdod o hyd at £3,000 yr un ar gael i’r rheiny sy’n rhagori yn arholiadau Ysgoloriaethau Mynediad blynyddol y Brifysgol. I gael eich ystyried ar gyfer yr Ysgoloriaethau Teilyngdod ac Ysgoloriaethau Mynediad eraill, mae’n rhaid i chi: • lenwi ffurflen gais yr Ysgoloriaethau Mynediad (15 Ionawr 2021 yw’r dyddiad cau ar gyfer

Ysgoloriaethau Mynediad 2021) sefyll arholiad yn eich dewis bwnc (bydd yr arholiad yn cael ei gynnal yn eich ysgol/coleg ar ddyddiad penodol ym mis Ionawr). Mae Ysgoloriaethau Mynediad Bangor hefyd yn cynnwys nifer o ysgoloriaethau cronfeydd ymddiriedolaeth, sawl ysgoloriaeth mae’r awdurdodau lleol yng Nghymru’n eu dyfarnu, ac ysgoloriaethau pwnc fel Ysgoloriaethau y Gyfraith, Ysgoloriaeth Addysg, Ysgoloriaethau Peirianneg Electronig, Ysgoloriaethiau Cyfrifiadureg.

Ysgoloriaethau Academaidd

Mae rhai o’r adrannau academaidd yn cynnig eu hysgoloriaethau eu hunain, e.e.: Cerddoriaeth, Ieithyddiaeth ac Iaith Saesneg, Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig.

Ysgoloriaeth Chwaraeon

Rydyn yn cynnig Ysgoloriaethau Chwaraeon gwerth hyd at £3,000 y flwyddyn, mewn cynllun sy’n ceisio adnabod potensial a datblygu rhagoriaeth ym maes chwaraeon. Ni fydd rhain wedi eu cyfyngu i unrhyw agwedd arbennig ar chwaraeon nag i fyfyriwr ar unrhyw gwrs penodol. Fodd bynnag, fel rheol, bydd blaenoriaeth yn cael ei roi i unigolion fydd yn gallu cynrychioli Prifysgol Bangor yng nghystadlaethau Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain (BUCS). Am fwy o wybodaeth neu i wneud cais, ewch i:

www.bangor.ac.uk/ysgoloriaethchwaraeon

Ysgoloriaethau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Prif Ysgoloriaethau’r Coleg

Dyma ysgoloriaethau gwerth £1,000 y flwyddyn (£3,000 dros dair blynedd) ar gyfer cyrsiau gradd lle bydd myfyrwyr yn dilyn 240 credyd neu fwy trwy gyfrwng y Gymraeg. I ymgeisio, mae gofyn i chi sefyll ein arholiad Ysgoloriaethau Mynediad (manylion ar dudalen 58).

Ysgoloriaethau Cymhelliant

Yn seileidig ar ffigyrau 2020, mae Ysgoloriaethau Cymhelliant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, gwerth £500 y flwyddyn (£1,500 dros dair blynedd) ar gael ar gyfer cyrsiau gradd lle bydd myfyrwyr yn astudio o leiaf 40 credyd trwy gyfrwng y Gymraeg. Am y manylion mwyaf diweddar ewch i’r wefan:

www.colegcymraeg.ac.uk

Am fwy o wybodaeth

Marchnata, Rectiwtio a Chyfathrebu Ff: 01248 383561/382005 E: marchnata@bangor.ac.uk

www.bangor.ac.uk/bwrsariaethau

This article is from: