1 minute read

Cefnogaeth Astudio

“Rydym yn ffodus iawn i fod mewn Prifysgol sy’n pwysleisio pwysigrwydd llais y myfyrwyr ac yn gwrando ar farn a phryderon myfyrwyr.”

Branwen Roberts, o Bontypridd, sy’n astudio Cymraeg

Cefnogaeth Astudio sy’n cynnwys:

Tiwtor Personol i roi cyngor a chefnogaeth.

Cefnogaeth ychwanegol gan y Ganolfan Sgiliau

Astudio sy’n cynnwys help efo ysgrifennu academaidd, adolygu, mathemateg ac ystadegau.

Adnoddau sy’n cefnogi pynciau penodol gan gynnwys llong ymchwil yn yr Ysgol Gwyddorau

Eigion, sganiwr MRI, Gerddi Botaneg ac amgueddfa Byd Natur.

Gwella cefnogaeth astudio’n barhaus, gan gynnwys uwchraddio gwerth £1.5 o ofodau dysgu ar hyd y campws.

Buddsoddiad ychwanegol yng ngwasanaeth y llyfrgell, gan gynnwys oriau agor 24/7 ar y prif safleoedd.

Tiwtor Personol

Pan ddewch yn fyfyriwr, cewch Diwtor Personol. Byddwch yn cyfarfod yn rheolaidd â’ch Tiwtor Personol trwy gydol eich cwrs, a bydd ef/hi yno i roi cyngor a chefnogaeth i chi ar faterion personol ac academaidd. Mae’r cyfarfodydd efo’ch Tiwtor Personol yn ffordd o gael adborth rheolaidd ar eich cynnydd academaidd, i’ch helpu i fanteisio i’r eithaf ar eich cwrs ac i wireddu eich llawn botensial. Yn ogystal â’r cyfarfodydd rheolaidd yma, gallwch ofyn i gael gweld eich Tiwtor Personol ar unrhyw adeg arall i gael cyngor a chefnogaeth. Bydd eich Tiwtor yn gwneud y gorau i’ch helpu neu, os oes angen, i’ch cyfeirio at aelod arall o staff neu wasanaeth am gefnogaeth neu arweiniad.

Canolfan Sgiliau Astudio

Mae’r Ganolfan Sgiliau Astudio yn gallu helpu trwy ddarparu cefnogaeth gyda gwaith academaidd. Mae’r Ganolfan yn darparu ystod o gyfleoedd dysgu i unigolion a grwpiau. Am ragor o wybodaeth, ewch i

www.bangor.ac.uk/sgiliauastudio

Apwyntiadau sgiliau ysgrifennu a sgiliau astudio unigol

Gallwch drefnu apwyntiad unigol gydag Ymgynghorwyr Astudio i drafod anghenion unigol ac i ganolbwyntio ar waith ar gyfer eich aseiniadau.

Adnoddau Ar-lein

Mae ein gwefan yn cynnwys canllawiau astudio ar gyfer ysgrifennu, darllen ac ymchwilio, sgiliau cyfathrebu llafar, cyfeiriadau ar ffynonellau, a sgiliau arholiadau.

Mathemateg ac Ystadegau

Mae ein gwasanaeth mathemateg ac ystadegau yn darparu cymorth wedi ei deilwra ar gyfer pecynnau a chysyniadau ystadegol, a hefyd cymorth gyda rhifedd sylfaenol.

Gweithdai Sgiliau Academaidd

Gall y pynciau’n gynnwys: rheoli astudiaeth academaidd; dadansoddi gofynion tasgau; darllen yn feirniadol; defnyddio gwaith awduron eraill, datblygu eich ymchwil, a manteisio i’r eithaf ar arholiadau.

This article is from: