CEFNOGAETH ASTUDIO “Rydym yn ffodus iawn i fod mewn Prifysgol sy’n pwysleisio pwysigrwydd llais y myfyrwyr ac yn gwrando ar farn a phryderon myfyrwyr.” Branwen Roberts, o Bontypridd, sy’n astudio Cymraeg
Cefnogaeth Astudio sy’n cynnwys: •
Tiwtor Personol i roi cyngor a chefnogaeth.
•
Cefnogaeth ychwanegol gan y Ganolfan Sgiliau Astudio sy’n cynnwys help efo ysgrifennu academaidd, adolygu, mathemateg ac ystadegau.
•
Adnoddau sy’n cefnogi pynciau penodol gan gynnwys llong ymchwil yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion, sganiwr MRI, Gerddi Botaneg ac amgueddfa Byd Natur.
•
Gwella cefnogaeth astudio’n barhaus, gan gynnwys uwchraddio gwerth £1.5 o ofodau dysgu ar hyd y campws.
•
Buddsoddiad ychwanegol yng ngwasanaeth y llyfrgell, gan gynnwys oriau agor 24/7 ar y prif safleoedd.
Tiwtor Personol Pan ddewch yn fyfyriwr, cewch Diwtor Personol. Byddwch yn cyfarfod yn rheolaidd â’ch Tiwtor Personol trwy gydol eich cwrs, a bydd ef/hi yno i roi cyngor a chefnogaeth i chi ar faterion personol ac academaidd. Mae’r cyfarfodydd efo’ch Tiwtor Personol yn ffordd o gael adborth rheolaidd ar eich cynnydd academaidd, i’ch helpu i fanteisio i’r eithaf ar eich cwrs ac i wireddu eich llawn botensial. Yn ogystal â’r cyfarfodydd rheolaidd yma, gallwch ofyn i gael gweld eich Tiwtor Personol ar unrhyw adeg arall i gael cyngor a chefnogaeth. Bydd eich Tiwtor yn gwneud y gorau i’ch helpu neu, os oes angen, i’ch cyfeirio at aelod arall o staff neu wasanaeth am gefnogaeth neu arweiniad.
48
Cefnogaeth Astudio