YSGOL YR AMGYLCHEDD, ADNODDAU NATURIOL A DAEARYDDIAETH
OEDDECH CHI’N GWYBOD…? Gan Fangor y mae un o’r Cynlluniau Arweinwyr Cyfoed mwyaf ymysg prifysgolion Prydain. O’r funud y byddwch yn cyrraedd, byddwch yn cael cymaint o help a chefnogaeth â phosibl, gyda materion iechyd a lles, yn ogystal â rhai academaidd. Mae’n gynllun sy’n cael ei gynnal gan fyfyrwyr ar gyfer myfyrwyr, felly maen nhw’n gwybod yn union beth ydi bod yn yr un sefyllfa â chi.
Ym Mangor ceir un o brif grynodiadau Gwyddorau’r Amgylchedd yn Ewrop, gyda chanolfannau gan sefydliadau cenedlaethol a rhyngwladol yn y cyffiniau.
www.viewcreative.co.uk
Mae Bangor mewn safle delfrydol a chyda phob math o gyfleusterau i fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn chwaraeon yn arbennig rhai awyr agored. Yn Eryri ceir cyfleoedd gwych i ddringo a cherdded mynyddoedd, a digonedd o chwaraeon dw ˆ r, yn cynnwys canw ˆ io, caiacio, syrffio, hwylio a chaiacio môr.
CROESO
Canolfan yr Amgylchedd Cymru
Neges gan Bennaeth yr Ysgol Croeso i Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth! Rydym yn adran gyfeillgar sydd wedi cael y raddfa annibynnol uchaf bosibl am ansawdd ein dysgu ac mae gennym enw da’n fyd-eang am ein hymchwil. Er bod ein staff yn arbenigwyr yn eu maes, maent hefyd yn groesawus ac yn barod iawn i ymwneud â myfyrwyr. Yn wir, mae’r gofal bugeiliol a gynigir i’n myfyrwyr yn ddiguro. Mae Bangor ar gyrion Eryri; nid yn unig mae’n lle hardd iawn
i fyw ynddo, ond mae hefyd yn rhoi cyfleoedd unigryw i astudio’r amgylchedd naturiol. Hefyd, mae gan ein hymchwil gysylltiadau rhyngwladol cryf yn ymestyn ar draws ystod o gynefinoedd lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. Mae’r Ysgol yn rhan o Goleg y Gwyddorau Naturiol, ynghyd â’r Ysgol Gwyddorau Biolegol, yr Ysgol Gwyddorau Eigion, a Sefydliad Adnoddau Naturiol Cymru. Mae’r Coleg yn un o’r canolfannau blaenaf ym Mhrydain ar gyfer dysgu ym maes gwyddorau’r amgylchedd, bioleg, daearyddiaeth a gwyddorau eigion, ac mae myfyrwyr yn elwa oddi wrth y cysylltiadau hyn drwy fedru astudio ystod eang o bynciau. Ein nod yw cynhyrchu cenhedlaeth newydd o raddedigion sy’n ymwybodol
o anghenion cymdeithas, ond sydd hefyd â’r sgiliau i fod yn llwyddiannus ym myd gwaith yn y sector hwn. Felly, mae ein cyrsiau’n rhoi pwyslais ar feithrin a datblygu sgiliau trosglwyddadwy a gwybodaeth yn ymwneud â phynciau penodol. Maent yn cynnwys cyfleoedd i astudio dramor neu gael ‘blwyddyn allan’ mewn gwaith, ac ennill cymhwyster cyflogadwyedd. Ymhellach, caiff ein cyrsiau ‘amgylchedd’ a ‘choedwigaeth’ eu hachredu gan yr Institution of Environmental Sciences a’r Institute of Chartered Foresters. Gall y rhain i gyd gynyddu eich rhagolygon o gael swydd dda. Edrychwn ymlaen at eich croesawu i Fangor! Dr Morag McDonald Pennaeth yr Ysgol www.bangor.ac.uk/senrgy
1
CYNNWYS
TUDALEN
CYNNWYS
1 2 3 5 6 8 10 11 12 13 14 15 17 18
Croeso: Neges Gan Bennaeth Yr Ysgol Cynnwys Lleoliad Ac Adnoddau Cysylltiadau Gyda Sefydliadau Eraill / Achrediad Proffesiynol Ein Hymchwil Sut Mae Ein Cyrsiau’n Cael Eu Dysgu A’u Hasesu Y Cyrsiau Rydym Yn Eu Cynnig BSc Amaethyddiaeth, Cadwraeth A’r Amgylchedd BSc Ecoleg Daear A Môr Cymhwysol BSc Cadwraeth Ac Ecosystemau Coedwigoedd BSc Cadwraeth Amgylcheddol BSc Rheoli’r Amgylchedd BSc Gwyddor Yr Amgylchedd Meistr Gwyddor Yr Amgylchedd (MEnvSci) / Rheoli’r Amgylchedd (MEnvSci) BSc Coedwigaeth BA/BSc Daearyddiaeth Gwybodaeth Am Y Brifysgol Llety Gofynion Mynediad, Sut I Wneud Cais A Dyddiau Agored / Ffioedd Dysgu, Ysgoloriaethau A Bwrsariaethau Myfyrwyr Rhyngwladol / Cyrsiau Iaith Saesneg
19 20 22 23 24 25
2
www.bangor.ac.uk/senrgy
LLEOLIAD AC ADNODDAU Bangor yw’r lle delfrydol i astudio’r amgylchedd a’i adnoddau naturiol. Prifysgol Bangor yw’r lle perffaith i astudio’r amgylchedd a chyswllt yr amgylchedd â phobl, cadwraeth a rheoli tir a dw ˆ r. Mae ffermio a choedwigaeth, twristiaeth a hamdden yn weithgareddau pwysig eraill yn y Parc, gyda rhai o’n cyrsiau’n edrych ar y cydbwysedd rhwng y gweithgareddau hyn a’r gwrthdaro rhyngddynt ar brydiau. Yn rhanbarth Gogledd Cymru mae yna lawer o nodweddion eraill o ddiddordeb y gellir eu hastudio. Er enghraifft, mae’r chwareli llechi a chloddio am gopr a metelau eraill wedi gadael gwaddol o safleoedd di-drefn ac wedi’u llygru mewn rhai achosion. Wrth ymyl hefyd ceir cyfleusterau cynhyrchu trydan niwclear, trydan-dw ˆr a ffermydd gwynt ar y tir ac oddi ar yr arfordir. Yn Henfaes, gorsaf faes yr Ysgol, sydd ychydig filltiroedd o’r ddinas, ceir tir yn codi o forfa heli a thir isel wedi’i wella ar yr arfordir, i dir pori mynydd 1000 o fetrau uwchlaw lefel y môr. Yno ceir cyfleusterau ar gyfer gwaith maes, tai gwydr a labordy ac fe’u defnyddir yn
helaeth gan fyfyrwyr ar gyfer gwaith project. Mae swyddfeydd, ystafelloedd darlithio a labordai’r Ysgol wedi eu lleoli’n ganolog, yn agos at Lyfrgell y Gwyddorau, ac o fewn pellter cerdded o’r holl Neuaddau Preswyl. Yn ddiweddar sefydlwyd Ystafell Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol newydd, sy’n galluogi myfyrwyr i astudio cysylltiadau gofodol rhwng data amgylcheddol, hinsoddol, biolegol a chymdeithasol. Yn ogystal, mae labordy newydd penodol ar gyfer gwaith project myfyrwyr wedi ei gwblhau’n ddiweddar ac mae cyfleusterau yno i wneud gwaith dadansoddol gyda phlanhigion, pridd ac elfennau amgylcheddol eraill.
Mae ffordd ddeuol yr A55 ar hyd arfordir Gogledd Cymru yn golygu mynediad cyflym a rhwydd at brif rwydwaith traffyrdd y DU, gyda llawer o ogledd orllewin Lloegr, er enghraifft, yn ddim ond ychydig dros awr i ffwrdd.
Mae Maes Awyr Manceinion o fewn awr a hanner o daith yn y car ar hyd y ffordd ddeuol ac yna’r draffordd. Mae cysylltiadau trên i Crewe, Caerdydd a Llundain yn gyflym a rheolaidd, ac felly hefyd y gwasanaeth fferi rhwng Caergybi ac Iwerddon.
Bangor
www.bangor.ac.uk/senrgy
3
“GYDA CHOEDWIGOEDD MAWR FEL RHAI NIWBWRCH A GWYDIR GERLLAW, GWELAIS EI FOD YN LLE PERFFAITH AR GYFER ASTUDIO COEDWIGAETH” Ed Clark Wedi graddio mewn BSc Coedwigaeth
“Yn y canol rhwng Parc Cenedlaethol Eryri a’r Fenai, Bangor ydi’r lle delfrydol i’r rhai sy’n hoff o’r awyr agored a chefn gwlad. Gyda choedwigoedd mawr fel rhai Niwbwrch a Gwydir gerllaw, gwelais ei fod yn lle perffaith ar gyfer astudio coedwigaeth. Roedd y cwrs yn rhoi sylfaen drwyadl mewn materion amgylcheddol ac ecolegol, gan ganolbwyntio ar bynciau penodol i goedwigaeth. Atgyfnerthwyd y darlithoedd gan deithiau maes perthnasol led led Cymru, gan roi cyfle i weld theori’n cael ei rhoi ar waith. Yn ystod fy nghwrs euthum ar leoliadau gwaith i’r Ffindir ac Awstria, a chefais flwyddyn leoliad yn gweithio gyda chwmni ymgynghorol sector breifat ym maes coedwigaeth ym Mhrydain. Yn fuan cyn i mi raddio llwyddais i gael gwaith gyda chwmni coedwigaeth mawr yn y sector breifat ac rwyf nawr yn rheoli coedwigoedd yng Nghymru. Mae’r wybodaeth a’r profiadau a gefais ym Mangor wedi bod yn allweddol i agor pob math o gyfleoedd i mi.”
4
www.bangor.ac.uk/senrgy
CYSYLLTIADAU GYDA SEFYDLIADAU ERAILL Mae myfyrwyr yn manteisio ar gydweithrediad yr Ysgol â sefydliadau ymchwil a datblygu eraill. Ym Mangor ceir un o’r crynodiadau mwyaf ym Mhrydain o sefydliadau o’r sector gwladol a phreifat yn gweithio yn yr amgylchedd gwledig. Yma y ceir pencadlys
Cyngor Cefn Gwlad Cymru, yn ogystal â swyddfeydd rhanbarthol y Ganolfan Ecoleg a Hydroleg, Dw ˆ r Cymru ac Asiantaeth yr Amgylchedd. Mae gan yr Ysgol gysylltiadau rhagorol â’r rhain a sefydliadau eraill yn cynnwys y Comisiwn Coedwigaeth, Natural England, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, British Trust for Ornithology, yr Adran Datblygu Rhyngwladol a’r Society for
Conservation Biology. Mae rhai o’r sefydliadau hyn yn cyfrannu at ddysgu tra bo eraill yn darparu lleoliadau gwaith i’n myfyrwyr neu gyllido gweithgaredd ymchwil yn yr Ysgol. Mae gan yr Ysgol gysylltiadau rhyngwladol cryf ag amryw o brifysgolion a sefydliadau Ewropeaidd, a chyda llawer o sefydliadau eraill yn Ne America, Affrica ac Asia.
ACHREDIAD PROFFESIYNOL Mae llawer o’n rhaglenni’n cael eu hachredu’n broffesiynol. Caiff llawer o’n graddau amgylcheddol eu hachredu gan yr Institution of Environmental Science (IES). Mae hynny’n dangos eu bod yn cyrraedd y safonau uchel a ddisgwylir gan gyflogwyr. Trwy ddilyn cyrsiau gradd o’r fath sydd wedi’u hachredu, byddwch yn dod yn aelod o’r IES yn awtomatig a chewch wybodaeth am gyfleoedd swyddi, cynadleddau, cyrsiau y gellwch eu gwneud, etc. Unwaith y byddwch wedi
graddio, gellwch gael statws ‘Gwyddonydd Siartredig’ a fydd yn apelio’n sylweddol at lawer o gyflogwyr. Y graddau a achredir gan yr IES yw’r BSc Cadwraeth Amgylcheddol, BSc / MEnvSci Gwyddor yr Amgylchedd, BSc / MEnvSci Rheoli’r Amgylchedd, BSc Daearyddiaeth, BSc Ecoleg Daear a Môr Cymhwysol.
yr Institute of Chartered Foresters (ICF). Gall myfyrwyr a gofrestrodd ar y rhaglenni hyn a achredir wneud cais am statws Siartredig ar ôl iddynt raddio’n llwyddiannus a chael o leiaf ddwy flynedd o brofiad proffesiynol perthnasol. Mae aelodaeth o’r ICF a chael statws siartredig yn cynyddu’n sylweddol eich rhagolygon o gael gyrfa dda a symud ymlaen yn y sector.
Mae ein graddau sy’n ymwneud â choedwigaeth, BSc Coedwigaeth a BSc Cadwraeth ac Ecosystemau Coedwigoedd, yn cael eu hachredu gan
www.bangor.ac.uk/senrgy
5
EIN HYMCHWIL
Canolfan Faes Henfaes
Mae ymchwil wyddonol yn gyffrous a llawn boddhad; mae yna wefr wirioneddol wrth ddarganfod rhywbeth newydd. Mae gwaith ymchwil yn aml o fudd sylweddol i’r gymdeithas ehangach ac mae’r Ysgol hon yn credu bod yna lawer o fanteision wrth gyfuno ymchwil ac addysg. Mae’n golygu bod ein myfyrwyr yn cael eu dysgu gan wyddonwyr sydd ar y blaen yn eu maes, a bod y myfyrwyr yn gofyn cwestiynau anodd ac ysgogol i’n darlithwyr am eu gwaith. Mae’r mathau o ymchwil a wneir yn amrywio’n fawr ar draws sbectrwm yr amgylchedd a defnydd tir. Gwneir llawer o’n hymchwil dramor ac mae gennym brojectau mewn gwledydd mor bell oddi wrth ei gilydd â 6
www.bangor.ac.uk/senrgy
Fietnam, Ethiopia a Pheriw. Yn ogystal â’r gwaith maes hwn, a’n labordai ym Mangor, mae’r Ysgol yn rhedeg ei chanolfan ymchwil ei hun 6 milltir y tu allan i’r ddinas. Mae hwn yn gartref arbrofion hirdymor mewn coedwigaeth, coedamaeth, newid hinsawdd, bridio cnydau ac ecoleg. Mae’r Ysgol hefyd yn gartref i ganolfannau ymchwil o bwys a gydnabyddir yn genedlaethol a rhyngwladol, megis y Ganolfan Cadwraeth Seiliedig ar Dystiolaeth, y Ganolfan Defnydd Tir Amgen a’r Ganolfan Ymchwil Integredig yn yr Amgylchedd Gwledig. Mae enw da’r Ysgol ym maes ymchwil yn amlwg nid yn unig yn nifer y projectau ymchwil y mae’n eu cynnal, ond hefyd yn nifer y bobl sy’n dewis astudio am raddau uwch gyda ni.
Ar hyn o bryd mae gennym 60 o fyfyrwyr o bob rhan o’r byd sy’n gwneud ein cyrsiau MA/ MSc blwyddyn, dwy flynedd a dysgu o bell. Mae llawer o raddedigion y cyrsiau hyn yn mynd ymlaen i gael swyddi rhagorol yn y meysydd o’u dewis. Yn ogystal, mae gennym dros 60 o fyfyrwyr ar hyn o bryd yn gwneud ymchwil ar gyfer eu gradd PhD. Maent hwy’n cyflawni eu gwaith dros gyfnod o dair blynedd gan arwain at gynhyrchu thesis a nifer o bapurau gwyddonol. Mae’r crynodiad hwn o ôlraddedigion sy’n ymwneud â thestunau amgylcheddol a rheoli adnoddau yn golygu bod yr Ysgol yn rym sylweddol o ran ymchwil fyd-eang yn y maes. Rydym yn denu ysgolheigion ar ymweliad o bob rhan o’r byd ac maent yn cyfrannu at y dysgu ac at awyrgylch fywiog yr Ysgol.
Mae gan yr Ysgol gysylltiadau agos â Chanolfan Coedamaeth y Byd a’r Ganolfan Ymchwil i Amaethyddiaeth Drofannol.
www.bangor.ac.uk/senrgy
7
SUT MAE EIN CYRSIAU’N CAEL EU DYSGU A’U HASESU CEIR AMRYWIAETH MEWN DYSGU AC ASESU GYDA GRADDAU YM MANGOR Mae holl raddau Bangor yn rhai modiwlaidd a defnyddir system dau semester lle’r astudir nifer o fodiwlau gorfodol a dewisol gwerth 10, 20 neu 30 credyd yr un. Mae israddedigion yn astudio modiwlau gwerth 120 credyd y flwyddyn. Mae rhai modiwlau’n orfodol ar gyfer rhaglenni gradd unigol, tra bo eraill yn ddewisol. Mae hyn yn eich galluogi i gynyddu hyd a lled eich astudiaethau ac arbenigo mewn meysydd neilltuol. Gellwch gael hyd i fanylion y modiwlau gorfodol a dewisol ar gyfer pob cwrs ar ein gwefan. Ym Mangor rydym yn defnyddio amrywiaeth eang o ddulliau dysgu, yn amrywio o ddarlithoedd, gwaith labordy a gwaith maes i seminarau a thiwtorialau ar gyfer grwpiau
8
www.bangor.ac.uk/senrgy
bychain. Mae seminarau a thiwtorialau’n canolbwyntio ar ddatrys problemau, datblygu sgiliau astudio ac atgyfnerthu deunydd a ddysgwyd mewn darlithoedd. Mae eu hawyrgylch ymlaciol ac anffurfiol hefyd yn annog trafod brwd ar faterion cyfoes a dadleuol. Mae gennym nifer sylweddol o fodiwlau sydd ar gael trwy’r Gymraeg. Bydd hyn yn galluogi i fyfyrwyr cymwys gael bwrsariaethau a fwriedir yn benodol i gynyddu nifer y graddedigion Cymraeg eu hiaith sydd yn y sector amgylcheddol a daearyddiaeth. Defnyddir amrywiaeth o ddulliau i asesu cyrsiau, gyda rhaniad o 60% gwaith cwrs a 40% arholiad yn gyffredin.
Mae mathau gwaith cwrs yn amrywio, ond maent yn cynnwys traethodau ac adroddiadau ysgrifenedig, cyflwyniadau poster a llafar, ac adroddiadau labordy. Efallai y bydd angen i chi hefyd lunio cynllun rheoli mewn maes pwnc perthnasol i’ch cwrs astudio. Mae’r rhan fwyaf o fodiwlau’n gwneud defnydd helaeth o rith amgylchedd dysgu’r Brifysgol, ‘Blackboard’, sy’n rhoi mynediad yn syth at adnoddau rhyngrwyd, dogfennau cwrs a nodiadau darlithoedd. Mae’r Ysgol yn trefnu nifer o deithiau astudio maes ym Mhrydain a thramor, yn cynnwys teithiau i Tenerife a Barcelona, yn ogystal â gwneud defnydd cyson o leoliadau yn Eryri.
Cynhelir arholiadau ar ddiwedd pob semester. Ym mhob un o’n cyrsiau gradd mae angen i fyfyrwyr wneud project o bwys yn eu blwyddyn olaf. Mae hwn yn ddarn o waith ymchwil gwreiddiol, mewn maes perthnasol i’ch rhaglen radd, ac fe’i goruchwylir gan aelod staff academaidd. Mae llawer o’n graddau israddedig ar gael naill ai fel rhaglenni llawn-amser tair blynedd neu ryng-gyrsiau pedair blynedd. Gyda’r olaf, treulir cyfnod o hyd at 12 mis
gyda chyflogwr diwydiannol neu sefydliad llywodraeth neu anllywodraethol naill ai ym Mhrydain neu dramor, a hynny rhwng ail a thrydedd flwyddyn y radd. Mae’r lleoliadau hyn yn galluogi myfyrwyr i gael profiad ymarferol perthnasol ac mae cyflogwyr yn aml yn rhoi pwys ar y rhain pan maent yn recriwtio graddedigion newydd. Mae llawer o fyfyrwyr hefyd yn mwynhau ac yn elwa ar y seibiant hwn oddi wrth astudio. Rydym yn cymryd rhan lawn mewn cynlluniau cyfnewid ac mae gennym
gysylltiadau arbennig o gryf â’r Ffindir, Canada a’r Unol Daleithiau. Mae ein graddau hefyd yn cynnwys cyfleoedd sy’n atgyfnerthu profiad proffesiynol ac ymarferol. Gall myfyrwyr gyda chymwysterau addas fod yn gymwys i astudio am raddau 4 blynedd estynedig (MEnvSci) mewn Gwyddor yr Amgylchedd a Rheoli’r Amgylchedd. Yn y rhain ceir gwybodaeth ddyfnach am wyddor yr amgylchedd ac maent yn cryfhau’r siawns o gael swyddi da.
Gwaith Maes Tenerife
www.bangor.ac.uk/senrgy
9
Y CYRSIAU RYDYM YN EU CYNNIG CYRSIAU 3 BLYNEDD HEB LEOLIADAU
BSc Amaethyddiaeth, Cadwraeth a’r Amgylchedd BSc Cadwraeth ac Ecosystemau Coedwigoedd BSc Cadwraeth Amgylcheddol BSc Coedwigaeth BSc Daearyddiaeth BSc Ecoleg Daear a Môr Cymhwysol BSc Gwyddor yr Amgylchedd BSc Rheoli’r Amgylchedd BA Daearyddiaeth
CYRSIAU 4 BLYNEDD YN CYNNWYS LLEOLIADAU
BSc Amaethyddiaeth, Cadwraeth a’r Amgylchedd BSc Cadwraeth ac Ecosystemau Coedwigoedd BSc Cadwraeth Amgylcheddol BSc Coedwigaeth BSc Ecoleg Daear a Môr Cymhwysol
COD UCAS D449 DDK5 D447 D500 F800 C180 F900 F854 L700
COD UCAS D445 DDL5 D448 D501 C183
MENVSCI (4 BLYNEDD, RHAGLEN ISRADDEDIG ESTYNEDIG) COD UCAS Gwyddor yr Amgylchedd Rheoli’r Amgylchedd
F854 D450
CYRSIAU MEISTR HYFFORDDEDIG
MSc Cadwraeth a Rheolaeth Tir MSc Coedamaeth MSc Coedwigaeth (dysgu o bell) MSc Coedwigaeth Amgylcheddol MSc Coedwigaeth Drofannol (dysgu o bell) MSc Coedwigaeth Drofannol Gynaliadwy MSc Rheolaeth Coedwigaeth a’r Amgylchedd (TRANSFOR-M) MSc Rheolaeth Gynaliadwy Coedwigoedd a Natur MSc Sicrwydd Bwyd mewn Amgylchedd sy’n Newid (dysgu o bell) MA/MSc Rheolaeth Amgylcheddol Gynaliadwy (Cyfrwng Cymraeg) MBA Rheoli’r Amgylchedd
Mae manylion pellach i’w cael ym Mhrosbectws Ôl-radd Coleg y Gwyddorau Naturiol, ar gael i’w lawr lwytho yn:
www.bangor.ac.uk/cns 10 www.bangor.ac.uk/senrgy
BSC AMAETHYDDIAETH, CADWRAETH A’R AMGYLCHEDD
Mae dulliau amaethu wedi newid yn syfrdanol dros yr ychydig ddegawdau diwethaf. Yn awr mae’n rhaid i’r ffermwr fod yr un mor gyfarwydd â materion cadwraeth ac amgylcheddol â chyda chynhyrchu amaethyddol. Yr un modd, mae angen i’r proffesiynau cadwraeth ac amgylcheddol fod yn gwbl ymwybodol o faterion defnydd tir a’r pwysau y mae ffermwyr a choedwigwyr yn eu hwynebu os ydynt am fod yn llwyddiannus yn eu gyrfaoedd. Mae’r radd BSc Amaethyddiaeth, Cadwraeth a’r Amgylchedd yn fwriadol eang a’i nod yw cyfuno’r tair elfen hon i gynhyrchu ymarferwyr a all gyfrannu’n effeithiol yn unrhyw un o’r meysydd hyn. O ystyried ein bod ynghanol tirwedd amaethyddol ac wedi’n lleoli rhwng y môr a
mynyddoedd Parc Cenedlaethol Eryri, mae’n anodd meddwl am leoliad mwy delfrydol na Bangor ar gyfer gradd o’r fath. Ceir craidd cyffredin o fodiwlau blwyddyn gyntaf ond, yn yr ail flwyddyn, byddwch yn dewis cyfuniad o fodiwlau’n ystyried gwyddorau amaethyddiaeth, cadwraeth a’r amgylchedd. Yn y flwyddyn olaf byddwch yn gwneud project Anrhydedd ac mae paratoi cynllun rheoli ar gyfer ardal wledig ger Bangor yn opsiwn. Mae’r cwrs yn cynnwys ymweliadau rheolaidd â ffermydd lleol, coedwigoedd a safleoedd o ddiddordeb arbennig i gadwraeth natur a rheoli’r amgylchedd. Mae ein hymchwil ddiweddaraf mewn llawer o feysydd gwyddor amaeth, cadwraeth a’r amgylchedd yn cael amlygrwydd yn y modiwlau a ddysgir yn y radd hon.
Oherwydd ei sylfaen eang mae’r radd yn rhoi cryn hyblygrwydd o ran cyfleoedd gyrfa. Gall graddedigion ddisgwyl cael gwaith gydag asiantaethau amaethyddol a chadwraeth, llywodraeth leol ac mewn ymchwil a datblygu, yn Ewrop ac ymhellach. Mae ymchwil ôl-radd bellach yn bosibl, yn ogystal â hyfforddi ar gyfer gyrfa ddysgu.
www.bangor.ac.uk/senrgy 11
© James Lowen
BSC ECOLEG DAEAR A MÔR CYMHWYSOL
Mae ecolegwyr yn astudio’r cysylltiadau rhwng pethau byw a’u hamgylcheddau. Mae dealltwriaeth o’r fath yn hanfodol ar gyfer rheoli ecosystemau i roi’r gwasanaethau a werthfawrogir gan gymdeithas, gan wneud ecoleg gymhwysol yn bwnc cynyddol bwysig yn y byd cyfoes. Mae’r arbenigedd sydd ar gael ym Mangor ym maes amgylcheddau daear a môr yn ein galluogi i gynnig y radd unigryw hon. Mae Ecoleg Daear a Môr Cymhwysol (EDMC) yn rhoi sylfaen drwyadl yng ngwyddor ecoleg, ond gyda phwyslais ar gymhwyso gwybodaeth ecolegol yn ymarferol at reoli’r amgylchedd a chadwraeth. Rydym yn gwneud defnydd llawn o’n lleoliad eithriadol gydag ymweliadau rheolaidd i warchodfeydd natur lleol a Pharc Cenedlaethol Eryri yn rhan allweddol o’r cwrs. 12 www.bangor.ac.uk/senrgy
Rydym hefyd yn trefnu teithiau ymhellach i ffwrdd, gyda chwrs maes i Tenerife yn y drydedd flwyddyn yn uchafbwynt poblogaidd. Yn y flwyddyn gyntaf ceir sylfaen mewn ecoleg ac esblygiad, yn ogystal â chyflwyno natur ryngddisgyblaethol rheoli’r amgylchedd. Yn yr ail flwyddyn byddwch yn dyfnhau eich gwybodaeth o ecoleg, gan gymryd cyrsiau hefyd yn egwyddorion rheoli cadwraeth ac yn y sgiliau ymarferol y mae ar ecolegwyr maes eu hangen. Cynigir amrywiaeth o fodiwlau dewisol hefyd, gan eich galluogi i ddechrau arbenigo. Yn y flwyddyn olaf mae myfyrwyr yn cymryd modiwlau mewn ecsbloetio’r môr a chadwraeth bywyd gwyllt, gan ddewis yn ogystal o ystod o fodiwlau dewisol, yn cynnwys ecoleg coedwigoedd, fertebratau môr, ymddygiad
anifeiliaid ac ecosystemau dw ˆr croyw. Mae EDMC yn wahanol i raddau ecoleg bur drwy roi cyfle i astudio’r agweddau economaidd-gymdeithasol ar reolaeth ecolegol, yn cynnwys polisi amgylcheddol. Byddwch yn gwneud Project Anrhydedd hefyd, lle byddwch yn gweithio gyda goruchwyliwr i gynllunio a chyflawni ymchwil wreiddiol. Rydym yn cynhyrchu graddedigion a all roi sylw i’r seiliau gwyddonol dros reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, ac effaith penderfyniadau polisi a rheoli yn ecolegol. Mae graddedigion wedi mynd ymlaen i weithio fel ecolegwyr neu reolwyr amgylcheddol ym Mhrydain a thramor, yn ogystal â mynd i fyd addysg neu ymchwil. Caiff y radd hon ei hachredu gan yr Institution of Environmental Sciences.
BSC CADWRAETH AC ECOSYSTEMAU COEDWIGOEDD
Caiff mwy na 25% o goedwigoedd y byd eu rheoli’n rhannol ar gyfer cadwraeth bioamrywiaeth. Mae deall sut mae ecosystemau coedwigoedd yn gweithio, uwchben ac o dan y ddaear, yn hanfodol ar gyfer gwarchod a chynnal y fioamrywiaeth hon yn llwyddiannus. Mae coedwigoedd yn ecosystemau cymhleth, o’r pridd a bacteria pridd i’r coed a’u rhyngweithiadau. Cydnabyddir mai hwy yw’r mwyaf bioamrywiol o holl ecosystemau daear, ac ynddynt ceir y mwyafrif llethol o rywogaethau daear y byd. Mae cymhlethdod ecosystemau coed yn amrywio o goedwigoedd boreal ger coedlin yr Arctig i’r coedwigoedd trofannol, ond maent i gyd yn dibynnu ar brosesau ecosystem o lif ynni, cylchu dw ˆ r a maetholion, a’r rhyngweithiadau rhwng y planhigion, anifeiliaid a micro-organebau a geir mewn coedwigoedd. Mae gweithgaredd dynol yn achosi datgoedwigo,
diraddio coedwigoedd, darnio coedwigoedd a cholli bioamrywiaeth. Bydd y radd hon yn rhoi dealltwriaeth i chi o egwyddorion ac ymarfer cadwraeth fiolegol, ecoleg coedwigoedd ac ecosystemau coedwig, a’r ffyrdd y gellir rheoli coedwigoedd yn gynaliadwy ac i gyflawni amcanion cadwraeth. Os dewiswch y cwrs pedair blynedd, byddwch yn treulio 7-12 mis yn gweithio i sefydliad cadwraeth neu goedwigaeth, yn ennill profiad a chymhwyso eich gwybodaeth at amgylchedd gwaith. Yn y cyrsiau tair a phedair blynedd mae cyfleoedd i astudio dramor (mewn rhannau eraill o Ewrop neu yng Nghanada) ar gyfer y cyfan o’r ail flwyddyn neu ran ohoni. Ceir teithiau astudiaeth maes ym mhob blwyddyn: yn Eryri yn y flwyddyn gyntaf, yn yr ail flwyddyn mewn rhanbarthau eraill ym Mhrydain, ac yn y flwyddyn olaf yn Tenerife.
Mae gan sefydliadau cadwraeth, perchenogion a rheolwyr coedwigoedd, yn y sectorau cyhoeddus a phreifat, gysylltiadau agos â’r radd hon ac mae llawer o fodiwlau’r cwrs hwn yn cynnwys ymweliadau â choedlannau lleol a mannau eraill o ddiddordeb cadwriaethol. Yn ogystal, rydym yn ymwneud yn agos â chynlluniau megis Rhaglen Gydweithredol y Cenhedloedd Unedig ar ‘Reducing Emissions from Deforestation and Forest Degradation’, sy’n bwydo gwybodaeth i’n rhaglenni dysgu. Mae myfyrwyr sy’n graddio gyda gradd mewn Cadwraeth ac Ecosystemau Coedwigoedd yn cael gwaith yn rhwydd yn y sectorau cadwraeth a choedwigaeth, ym Mhrydain ac yn rhyngwladol, a gallant ddisgwyl cael gyrfa lewyrchus. Caiff y radd hon ei hachredu’n llawn gan Sefydliad y Coedwigwyr Siartredig. www.bangor.ac.uk/senrgy 13
BSC CADWRAETH AMGYLCHEDDOL
Wrth i bryderon ynghylch yr amgylchedd gynyddu’n gyson, mae mwy a mwy o angen deall sut y gallwn ddiogelu bywyd gwyllt a rheoli ein cefn gwlad yn effeithiol. Mae’r rhaglen radd hon wedi’i hanelu at rai sydd â diddordeb mewn gyrfaoedd mewn cadwraeth bioamrywiaeth, bywyd gwyllt a chefn gwlad. Mae’r cwrs yn rhoi sylfaen dda yn y wyddor o sut mae poblogaethau ac ecosystemau’n gweithredu, gyda modiwlau mewn ecoleg, amaethyddiaeth a choedwigaeth. Fodd bynnag, yn arbennig wrth i chi symud drwy’r rhaglen, rhoddir y pwyslais ar y materion mwy cymhwysol a rhyngddisgyblaethol sy’n ymwneud â chadwraeth amgylcheddol. Caiff pwysigrwydd ffactorau economaidd a chymdeithasol i sicrhau cadwraeth lwyddiannus 14 www.bangor.ac.uk/senrgy
ei ddadansoddi mewn modiwlau, megis egwyddorion cadwraeth a pholisi amgylcheddol. Mae modiwl mewn ecoleg a chadwraeth ymarferol yn defnyddio lleoliad digymar Prifysgol Bangor i ddysgu’r sgiliau ymarferol mewn cynnal arolygon ac asesu bioamrywiaeth a ddefnyddir gan weithwyr proffesiynol yn y maes. Yn y drydedd flwyddyn mae myfyrwyr yn gwneud darn o ymchwil sylweddol perthnasol i’w diddordebau, datblygu cynllun rheoli ar gyfer gwahanfa ddw ˆ r yng Ngogledd Cymru a mynd ar gwrs maes i Tenerife. Mae graddedigion o’r rhaglen hon wedi mynd ymlaen i weithio gyda chyrff cadwraeth ym Mhrydain a thramor, yn ogystal â gwneud astudiaethau ac ymchwil pellach ym meysydd bioleg cadwraeth a rheoli adnoddau.
Caiff y radd hon ei hachredu gan yr Institution of Environmental Sciences.
BSC RHEOLI’R AMGYLCHEDD
Mae ymwybyddiaeth gynyddol o ganlyniadau gofynion dynol ac amgylcheddol mwy wedi tynnu sylw at yr angen am reolwyr amgylcheddol wedi’u hyfforddi’n broffesiynol a all ddatblygu dulliau a pholisïau ymarferol. Bydd y radd Rheoli’r Amgylchedd yn rhoi i reolwyr amgylcheddol y dyfodol y cefndir gwyddonol a’r gallu i’w gymhwyso at broblemau amgylcheddol go iawn. Mae Bangor mewn sefyllfa hynod dda i gynnig y radd hon gan fod gennym gryfderau yn yr holl feysydd dysgu ac ymchwil perthnasol, yn cynnwys cymhwyso egwyddorion gwyddonol ac amcanion rheoli at ystod o broblemau amgylcheddol megis llygredd, darparu ynni a newid hinsawdd a’r peirianwaith ar gyfer eu
lliniaru, yn cynnwys polisi a deddfwriaeth. Byddwch yn datblygu sgiliau penodol a dysgu am ystod eang o faterion amgylcheddol gartref a thramor. Byddwch yn gallu dangos eich gallu i weithio’n annibynnol a defnyddio eich gwybodaeth i lunio cynllun rheoli ar gyfer dalgylch cyfagos a chwblhau project anrhydedd, sydd i gyd yn sgiliau gwerthfawr yng ngolwg cyflogwyr. Bydd digon o gyfle i ymwneud â darpar gyflogwyr ac edrych ar bosibiliadau gyrfa.
amgylcheddol. Bydd eich gradd hefyd yn sylfaen ar gyfer cyrsiau ôl-radd pellach neu ymchwil mewn ystod o feysydd amgylcheddol. Caiff y radd hon ei hachredu gan yr Institution of Environmental Sciences.
Gall graddedigion ddisgwyl cael gwaith gyda sefydliadau megis Asiantaeth yr Amgylchedd, DEFRA, awdurdodau lleol ac ymgynghorwyr amgylcheddol, neu symud i feysydd eraill cysylltiedig, e.e. cyfraith www.bangor.ac.uk/senrgy 15
“ROEDDWN YN GWYBOD FY MOD I EISIAU DOD I ASTUDIO I FANGOR CYN GYNTED AG Y DEUTHUM YMA AR Y DIWRNOD AGORED!” Natalie Chivers BSc Gwyddor yr Amgylchedd
“Mae’r cwrs yn wych ac yn ddiddorol tu hwnt, yn arbennig os ydych yn meddwl gwneud gradd ryngddisgyblaethol, sy’n bwysig iawn wrth ystyried gyrfa. Mae’n cynnwys cymysgedd iawn o fioleg, cemeg a modiwlau’n ymwneud â’r ddaear a’r amgylchedd, yn ogystal â theithiau maes wythnosol. Felly, mae yna ddigon o amrywiaeth ac rydych yn dysgu sgiliau trosglwyddadwy gwerthfawr, rhai ymarferol a damcaniaethol, yn gyflym. Mae’r Ysgol yn lle hynod gyfeillgar a brwdfrydig gyda llawer o’r darlithwyr, os nad bob un ohonynt, yn ymchwilwyr brwd. Dwi’n meddwl mai uchafbwyntiau’r cwrs i mi hyd yma fu cyfarfod â phobl ryfeddol sydd efo diddordeb tebyg i’m rhai i, a dysgu cymaint o bethau newydd. Am Fangor ei hun, fedrwn i ddim bod wedi dychmygu am well lle i astudio; ar garreg drws mynyddoedd Eryri a dim ond 15 munud o daith yn y car i’r traeth. Mae’n lle delfrydol i bobl sy’n hoff o’r awyr agored ac wrth ei bod yn ddinas fechan gellwch gerdded yn hwylus i bobman ac mae’n debyg y byddwch yn daro ar ddarlithydd neu ddau yn y dafarn! Mae gan y brifysgol ei hun gymaint o glybiau a chymdeithasau fel nad ydw i erioed wedi diflasu. Ar ôl graddio, dwi’n gobeithio cael cyfle i barhau i astudio ym Mangor am radd Meistr, ac yna pwy a w ˆ yr! Dwi’n meddwl mai botaneg sydd wedi mynd â’m bryd yn bennaf, a thrwy’r brifysgol mae yna gysylltiadau gwych i gyfleoedd profiad gwaith, lleoliadau a gyrfaoedd i raddedigion. Bangor yn sicr ydi’r lle i mi!” 16 www.bangor.ac.uk/senrgy
BSC GWYDDOR YR AMGYLCHEDD
Daw’r radd mewn Gwyddor yr Amgylchedd â gwybodaeth berthnasol o ystod eang o bynciau ynghyd i edrych ar rai o’r bygythiadau mwyaf sy’n wynebu’r byd, megis newis hinsawdd, cadwraeth, llygredd a sicrwydd bwyd. O ganlyniad, mae galw am wyddonwyr amgylcheddol a bydd y galw hwn yn sicr o gynyddu yn y dyfodol. Mae gan Fangor lawer i’w gynnig ym maes Gwyddor yr Amgylchedd. Rydym mewn lleoliad gwych i astudio ystod eang o amgylcheddau a materion yn ymwneud â hwy. Mae gennym deithiau maes drwy gydol eich gradd a byddwch yn ymwneud yn sylweddol â’r math o sefydliadau allanol y gellwch weithio iddynt ryw ddiwrnod. Byddwch yn datblygu sgiliau penodol a dysgu am ystod
eang o faterion amgylcheddol gartref a thramor; gellwch arbenigo hefyd drwy wneud darn o ymchwil wreiddiol ar gyfer eich project anrhydedd. Byddwch hefyd wedi meithrin ystod eang o sgiliau ehangach y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt, a datblygu hyder mewn cyflwyniadau a chyfweliadau. Gall graddedigion ddisgwyl cael gwaith gyda sefydliadau diwydiannol, asiantaethau cynghori, ymgynghorwyr amgylcheddol, cwmnïau dw ˆ r, Asiantaeth yr Amgylchedd, ac mewn ymchwil a datblygu, yn Ewrop ac ymhellach. Mae ymchwil ôl-radd bellach yn bosibl, yn ogystal â hyfforddi ar gyfer swyddi ym myd dysgu, y cyfryngau ac addysg. Caiff y radd hon ei hachredu gan yr Institution of Environmental Sciences. www.bangor.ac.uk/senrgy 17
MEISTR GWYDDOR YR AMGYLCHEDD / RHEOLAETH (MENVSCI)
Gall myfyrwyr â chymwysterau addas wneud cais i astudio am bedair blynedd ar gyfer gradd Meistr yn Rheolaeth yr Amgylchedd neu yng Ngwyddor yr Amgylchedd (MEnvSci). Bydd y cymwysterau uwch hyn yn rhoi gwybodaeth eang a thrylwyr i chi am reolaeth/ gwyddor yr amgylchedd, ynghyd ag ystod eang o fedrau trosglwyddadwy, fel y byddwch yn fwy cyflogadwy. Mae fframwaith y cwrs yn adlewyrchu dewisiadau’r BSc yn y ddwy flynedd gyntaf; fodd bynnag, ym mlwyddyn
18 www.bangor.ac.uk/senrgy
3, mae myfyrwyr yn astudio nifer estynedig o fodiwlau, yn hytrach na phroject anrhydedd. Ym mlwyddyn 4, mae myfyrwyr yn cynnal project ymchwil ar raddfa fwy, a hynny yn ogystal â mynd ar leoliad proffesiynol. Trwy’r lleoliad proffesiynol, bydd myfyrwyr yn cael profiad amhrisiadwy fel rheolwyr neu wyddonwyr amgylcheddol. Ceir hefyd fodiwl yr Economïau Gwyrdd, lle mae myfyrwyr yn defnyddio eu gwybodaeth i ddatblygu cynllun busnes hyfyw sy’n seiliedig ar gynaladwyedd amgylcheddol. Mae’r modiwlau
hyn yn paratoi graddedigion mewn modd unigryw i gymhwyso technegau rheoli at broblemau amgylcheddol yn y byd go-iawn. Yn ogystal â darparu’r cyfleoedd gyrfaol y gall y BSc mewn Rheolaeth Amgylcheddol a’r BSc yng Ngwyddor yr Amgylchedd arwain atynt, bydd y graddau hefyd yn rhoi medrau i raddedigion fel y gallant wneud ymchwil ôl-radd. Mae’r ddwy radd hyn wedi’u hachredu gan Sefydliad Gwyddorau’r Amgylchedd.
BSC COEDWIGAETH
Mae coedwigoedd yn chwarae rhan allweddol yn ein hamgylcheddau lleol a byd-eang, ac maent yn gorchuddio tua 30% o gyfanswm arwynebedd tir y Ddaear. Mae angen iddynt gael eu rheoli’n gynaliadwy, boed er ein budd ein hunain neu ar gyfer yr amgylchedd lleol a byd-eang. Rydym yn defnyddio coedwigoedd i gynhyrchu adnoddau adnewyddadwy; nid yn unig coed, ond hefyd gynhyrchion megis mêl, corcyn, ffrwythau, madarch, olewau hanfodol a meddyginiaethau. Mae coed yn amsugno a storio carbon yn y tymor hir yn y coed ac yn y pridd, a gallant liniaru newid hinsawdd. Maent yn gwarchod priddoedd a dw ˆ r ac yn darparu amgylcheddau integredig sefydlog ar gyfer bywyd gwyllt amrywiol, uwchben ac o dan y ddaear. Maent yn elfen bwysig o dirweddau, a gallant gyfrannu at les ffisegol ac emosiynol cymunedau lleol ac ymwelwyr.
Bydd y cwrs gradd mewn coedwigaeth yn eich paratoi ar gyfer gwaith rheoli coedwigoedd i roi’r holl fanteision hyn. Os dewiswch y cwrs pedair blynedd, byddwch yn treulio 7 - 12 mis yn gweithio i sefydliad coedwigaeth ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol profiadol mewn coedwigaeth, gan ddefnyddio a chadarnhau eich profiad a’ch dealltwriaeth mewn sefyllfa broffesiynol. Yn y cyrsiau tair a phedair blynedd mae cyfleoedd i astudio dramor (mewn rhannau eraill o Ewrop neu yng Nghanada) ar gyfer y cyfan o’r ail flwyddyn neu ran ohoni. Bob blwyddyn ceir teithiau astudio, i ddechrau yn Eryri, yna i Loegr a’r Alban ac i Tenerife yn y flwyddyn olaf. Mae gennym gysylltiadau agos â sefydliadau coedwigaeth lle mae llawer o raddedigion yn cael gwaith, yn cynnwys y Comisiwn Coedwigaeth, cwmnïau preifat
rheoli coedwigoedd, sefydliadau coedwigaeth nad ydynt yn perthyn i’r llywodraeth, diwydiannau prosesu coed a sefydliadau cadwraeth, ac mae ein modiwlau’n cynnwys ymweliadau rheolaidd â choedwigoedd a choedlannau lleol a mentrau sy’n defnyddio coed. Mae rhagolygon gyrfa rhagorol i raddedigion yn y proffesiynau coedwigaeth a chysylltiedig a gallant ddisgwyl cyflog uwch na’r cyfartaledd a rhagolygon datblygiad gyrfa da o fewn ychydig flynyddoedd ar ôl graddio. Bangor oedd y brifysgol gyntaf ym Mhrydain i gynnig gradd mewn coedwigaeth, ac mae gennym dros ganrif o draddodiad fel canolfan o ragoriaeth yn y maes. Caiff y radd hon ei hachredu’n llawn gan Sefydliad y Coedwigwyr Siartredig. www.bangor.ac.uk/senrgy 19
BA / BSC DAEARYDDIAETH
Mae Daearyddiaeth yn bwnc deinamig a chyffrous, sy’n edrych ar y prosesau sy’n ffurfio’r Ddaear a’r berthynas rhwng y ddynoliaeth a’r amgylchedd. Ym Mangor rydym yn cynnig graddau Anrhydedd BA a BSc mewn Daearyddiaeth. Trwy’r ddwy radd mae myfyrwyr yn datblygu gwybodaeth o’r pwnc a sgiliau trosglwyddadwy ar draws ffiniau pynciau traddodiadol. Mae’r rhaglen BSc Daearyddiaeth yn canolbwyntio ar brosesau daear, materion amgylcheddol o bwys a’r berthynas rhwng pobl a’r amgylchedd. Mae’r rhaglen BA Daearyddiaeth yn edrych sut yr effeithir ar y cysylltiad rhwng pobl a’r amgylchedd gan ffactorau cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd. Mae Daearyddiaeth yn ganolog i lawer o faterion mawr byd-eang, 20 www.bangor.ac.uk/senrgy
sy’n golygu y bydd y galw am ddaearyddwyr yn dal i gynyddu. Mae’r ddwy radd yn rhai modiwlaidd ac fe’u dysgir gan arbenigwyr sy’n ymwneud â’r ymchwil ddiweddaraf mewn ystod eang o feysydd daearyddol. Mae myfyrwyr Daearyddiaeth ym Mangor yn manteisio o fyw ac astudio mewn ardal o harddwch naturiol eithriadol. Mae teithiau maes ym Mharc Cenedlaethol Eryri yn galluogi myfyrwyr i archwilio prosesau cymdeithasol a ffisegol allweddol. Hefyd mae myfyrwyr yn elwa ar raglen eang o gyrsiau maes ym Mhrydain a thramor, sy’n cyfnerthu dysgu yn y dosbarth a dysgu ymarferol. Mae galw mawr am raddedigion Daearyddiaeth o ganlyniad i’r sgiliau a’r wybodaeth bwnc y maent yn eu datblygu yn ystod eu hastudiaethau. Gall graddedigion ddisgwyl cael
gwaith mewn ystod eang o sectorau. Mae graddau BA a BSc Daearyddiaeth hefyd yn rhoi sylfaen ar gyfer astudiaeth ôl-radd bellach, ymchwil neu wneud cymhwyster athro. Gall myfyrwyr BA a BSc Daearyddiaeth gryfhau eu siawns o gael swyddi o safon drwy gofrestru ar gyfer Cymhwyster Cyflogadwyedd Bangor (gweler tudalen 23 am fanylion pellach). Mae’r BSc mewn Daearyddiaeth wedi’i hachredu gan Sefydliad Gwyddorau’r Amgylchedd.
“BANGOR YDI’R LLE DELFRYDOL I DDOD IDDO I ASTUDIO DAEARYDDIAETH!” Ben Pattle BA Daearyddiaeth
“Dinas fechan ydi Bangor, ac mae hynny’n fonws mawr oherwydd bod y bobl mor gyfeillgar yma a gwelir ysbryd cymunedol yn ffynnu rhyngddynt â’r myfyrwyr. Mae astudio Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Bangor yn wych; mae’r bobl rydych yn cyfarfod â hwy ar y cwrs, a’r darlithwyr yn yr Ysgol, yn bobl ryfeddol a hawdd iawn gwneud efo nhw. Oherwydd y gall Daearyddiaeth gynnig cymaint o gyfleoedd, gellwch fod yn y fferm ymchwil un diwrnod, a’r diwrnod wedyn gellwch fod yn dringo’r Wyddfa neu ar draeth yn Sir Fôn. Y peth gorau i mi ynghylch Daearyddiaeth a Bangor ydi amrywiaeth yr ardal leol a’r ffaith bod yr adnoddau mwyaf gwerthfawr ar gyfer y cwrs - sef cefn gwlad - mor agos! Bob tro rydych yn ymweld â llefydd ar deithiau maes mae’r aelodau staff sydd efo chi’n gwybod yn iawn am beth maent yn siarad, ac ar draws yr Ysgol mae llawer o’r staff yn arbenigwyr blaenllaw yn y maes astudio y maent yn ei ddysgu. Pan ymwelais gyntaf â Bangor ar Ddiwrnod Agored, roeddwn wedi penderfynu mai hwn oedd y lle i mi hyd yn oed cyn i mi gyrraedd y ddinas, oherwydd harddwch yr ardaloedd cyfagos. Felly, pan gyrhaeddais y ddinas ei hun, roeddwn yn weddol bendant mai ym Mangor roeddwn eisiau astudio. Treuliais fy wythnos gyntaf yma’n dod i adnabod y bobl ar fy nghwrs; fodd bynnag, yn ystod wythnos y glas deuthum nid yn unig i adnabod fy nghyd fyfyrwyr, ond hefyd staff a ddaeth ar deithiau i’r traeth ac i gael barbeciws efo ni, a chymryd rhan yn y nosweithiau cyfarfod a chyfarch! Er mai dinas fechan ydi Bangor, mae yna gymaint i’w wneud yma gyda’r nos oherwydd gweithgarwch undeb y myfyrwyr... dydych chi byth yn brin o syniadau am adloniant (dim ond syniadau am wisgoedd ffansi)! Mae Bangor wedi rhoi cychwyn rhagorol i mi ar gyfer yr yrfa rwyf eisiau ei chael mewn cynllunio amgylcheddau trefol. Mae’r cwrs yn fy helpu i ganolbwyntio ar ddysgu ac astudio’r hyn y mae gen i wir ddiddordeb ynddo drwy roi dewisiadau i mi o ran modiwlau, a chymryd rhan mewn lleoliadau proffesiynol sy’n rhoi profiad gwaith gwirioneddol yn y maes a’m helpu i baratoi ar gyfer gyrfa yn y dyfodol. Bangor ydi’r lle delfrydol i ddod iddo i astudio Daearyddiaeth” www.bangor.ac.uk/senrgy 21
PONTIO
GWYBODAETH AM Y BRIFYSGOL
Mae maint cryno’r ddinas yn golygu bod cyfleusterau myfyrwyr – yn cynnwys y Ganolfan Chwaraeon ac Undeb y Myfyrwyr – o fewn pellter cerdded rhwydd o adeiladau’r Brifysgol. Mae siopau’r stryd fawr, banciau, archfarchnadoedd, bwytai, tafarndai, a theatr yn y cyffiniau hefyd fel nad oes fawr gostau teithio. Mae costau byw yn is na’r rhan fwyaf o ardaloedd dinesig, felly gellwch wneud yn fawr o’ch arian, a hynny mewn amgylchedd pleserus iawn i fyw ac astudio ynddo. Ystyrir Bangor yn un o’r dinasoedd mwyaf diogel ym Mhrydain i astudio ynddi, gyda nifer troseddau yng Ngogledd Cymru gyda’r isaf ym Mhrydain. Mae’r cymysgedd o fyfyrwyr a ddaw yma o bob rhan o’r byd yn golygu bod Bangor bob 22 www.bangor.ac.uk/senrgy
amser yn ddinas fywiog, liwgar a diddorol. Mae Bangor yn bendant yn ddinas prifysgol – mae’r rhan fwyaf o’r adloniant a’r bywyd nos wedi eu cyfeirio at fyfyrwyr a’u harwain ganddynt, ac mae yna rywbeth bob amser. Yn ogystal â’r adloniant, mae Undeb y Myfyrwyr hefyd yn trefnu amrywiaeth fawr o glybiau a chymdeithasau, gan ymdrin ag amrywiaeth eang o ddiddordebau cymdeithasol, diwylliannol, crefyddol, gwleidyddol a chwaraeon. Tra bo Bangor ei hun yn gryno ac yn gyfleus, mae’r ardal o amgylch yn cynnig digon o fannau eang agored. Mae mynyddoedd ac arfordir Eryri yn ardal o harddwch naturiol eithriadol, sy’n cynnig cyfleoedd hamdden rhagorol i chi, boed gennych ddiddordeb mewn gweithgareddau awyr agored neu eisiau mwynhau’r
Canolfan Celfyddydau Perfformio ac Arloesi
olygfa yn unig. I’r rhai sy’n frwd dros chwaraeon, mae dringo, hwylio, rhwyfo, canw ˆ io, syrffio a deifio ymhlith y gweithgareddau awyr agored sydd ar gael. Mae gan y Brifysgol ddewis da o chwaraeon dan do hefyd, yn ei Chanolfan Chwaraeon, tra bo pwll nofio Bangor yn cynnig prisiau gostyngol i fyfyrwyr.
“Mae’r Brifysgol yn datblygu Canolfan gwerth £42m ar gyfer y Celfyddydau Perfformio ac Arloesi. Bydd yn gartref i’r cyfleusterau addysgu a dysgu diweddaraf, theatr gyda rhwng 450 a 550 o seddau, sinema, theatr fach, yn ogystal â chyfleusterau cymdeithasol, yn cynnwys bariau, llefydd bwyta a pharc.”
LLETY Fel myfyriwr blwyddyn gyntaf sicrheir lle i chi yn un o’r Neuaddau Preswyl a reolir gan y Brifysgol. Ceir llety en-suite yn y rhan fwyaf o neuaddau sy’n rhoi mwy o breifatrwydd. Yn ddiweddar gwariwyd dros £35m yn ailddatblygu’r campws, yn cynnwys gwaith sylweddol yn gwella’r brif ddarpariaeth lety i fyfyrwyr ar Safle Ffriddoedd. Wrth gwrs, mae yna ddewis helaeth o lety preifat hefyd i’w gael ym Mangor a’r cyffiniau,
os yw’n well gennych hynny, a gall y Swyddfa Tai Myfyrwyr eich helpu i gael y llety rydych ei eisiau. Un fantais fawr yw na fyddwch angen car neu gludiant cyhoeddus; gellir cerdded yn hwylus i bob man o’r neuaddau preswyl. Dim ond 10 munud mae’n ei gymryd i gerdded o’r prif safle llety i brif adeiladau’r Brifysgol.
GWASANAETH GYRFAOEDD A CHYFLOGADWYEDD Yn y farchnad swyddi hynod gystadleuol sydd ohoni’r dyddiau hyn, mae’n bwysig eich bod yn manteisio’n llawn ar y gweithgareddau academaidd, hamdden a chysylltiedig â gwaith sydd ar gael i chi fel myfyriwr. P’un a ydych yn gwybod pa lwybr gyrfa rydych eisiau ei ddilyn ai peidio, mae’r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i helpu myfyrwyr a graddedigion drwy ddarparu ystod eang o wasanaethau cyfarwyddyd gyrfa a chefnogaeth cyflogaeth, yn cynnwys: gyfweliadau gyrfaol unigol a chyfrinachol, a sesiynau galw heibio rhaglen trwy gydol y flwyddyn, yn cynnwys datblygiad personol, chwilio am swyddi, a gweithdai a sesiynau hyfforddi sy’n gysylltiedig â chyflogwyr gwybodaeth gynhwysfawr a phriodol am yrfaoedd drwy ein Canolfan Wybodaeth a’n Gwefan Biwrô Cyflogaeth Myfyrwyr (Job Zone), sy’n rhoi cyfleoedd am swyddi rhan-amser, swyddi gwyliau, a swyddi i raddedigion dewis eang o gyfleoedd i wneud Gwaith Gwirfoddol, yn cynnwys Arwain Cyfoed a Mentora gan Fyfyrwyr leoliadau profiad gwaith cyflogedig i israddedigion a graddedigion y cyfle i ddatblygu sgiliau menter a dod yn fwy ymwybodol o hunangyflogaeth trwy ein rhaglen Byddwch Fentrus (B-Enterprising)
Cymhwyster Cyflogadwyedd Bangor Cynlluniwyd Cymhwyster Cyflogadwyedd Bangor (BEA) i wella rhagolygon gyrfa myfyrwyr Prifysgol Bangor yn syth ac yn y tymor hirach. Mae’r cynllun yn gweithredu mewn cydweithrediad rhwng y Gwasanaeth Gyrfaoedd a
Chyflogadwyedd, Undeb y Myfyrwyr Bangor a sefydliadau yn y sector preifat, cyhoeddus a gwirfoddol. Mae’n cynnig achrediad ar gyfer gweithgareddau cyd-gwricwlaidd ac all-gwricwlaidd (e.e. gwirfoddoli, clybiau a chymdeithasau, profiadau
gwaith, gwaith rhan-amser, dysgu iaith newydd etc.). Efallai nad yw’r rhain yn cael eu cydnabod yn ffurfiol yn eich rhaglen gradd academaidd, ond maent yn werthfawr yn y farchnad swyddi i raddedigion.
www.bangor.ac.uk/senrgy 23
GOFYNION MYNEDIAD, SUT I WNEUD CAIS A DYDDIAU AGORED GOFYNION MYNEDIAD Yma ym Mangor rydym yn derbyn myfyrwyr gydag ystod eang o gymwysterau a chefndiroedd, ac rydym yn ystyried pob cais yn unigol. Fel rhan o bolisi’r Brifysgol rydym yn ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl ar yr un sail â’r holl fyfyrwyr eraill. Rydym hefyd yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hyˆn a all ddangos bod ganddynt yr ysgogiad a’r ymroddiad i astudio rhaglen mewn prifysgol. I astudio ar gwrs gradd, diploma neu dystysgrif gofynnir am nifer benodol o bwyntiau tariff UCAS gennych. Fel rheol, gellir defnyddio holl lefelau A ac AS TAU, VCEs a Sgiliau
Allweddol i gyfrifo eich pwyntiau cyffredinol. Fe gewch fanylion mwy penodol ar ofynion mynediad ar y tudalennau am gyrsiau unigol ar ein gwefan:
gael golwg ar y ddinas hefyd ac fe awn â chi ar daith i weld y neuaddau preswyl er mwyn i chi blas ar fywyd myfyriwr ym Mangor. I gael mwy o wybodaeth ac i archebu lle, ewch i’n gwefan.
www.bangor.ac.uk/senrgy
SUT I WNEUD CAIS DYDDIAU AGORED Mae’r Ysgol yn cynnal nifer o Ddyddiau Agored gydol y flwyddyn i roi gwell syniad i chi beth i’w ddisgwyl os penderfynwch ddod i astudio gyda ni. Bydd ein staff a’n myfyrwyr presennol wrth law i ateb eich cwestiynau a rhoi gwybodaeth fanwl i chi am y cwrs o’ch diddordeb. Gellwch
Rhaid i fyfyrwyr o’r DU a’r UE wneud cais drwy UCAS a dylid ymgeisio mor fuan â phosibl, gan nodi cod y cwrs (gweler tudalen 10) Gall myfyrwyr rhyngwladol wneud cais yn uniongyrchol atom drwy ddilyn y drefn ar wefan y Ganolfan Addysg Ryngwladol www.bangor.ac.uk/international
FFIOEDD DYSGU, YSGOLORIAETHAU A BWRSARIAETHAU FFIOEDD DYSGU Gall ffioedd dysgu newid a gellir cael hyd i wybodaeth gyfredol yn:
www.bangor.ac.uk/fees
YSGOLORIAETHAU Bob blwyddyn mae’r Brifysgol yn cynnig ystod eang o Ysgoloriaethau a 24 www.bangor.ac.uk/senrgy
Bwrsariaethau. Ar gyfer mynediad yn 2013 roedd hyn yn cynnwys yr Ysgoloriaethau Rhagoriaeth (gwerth hyd at £5,000 yr un), Ysgoloriaethau Teilyngdod (i rai sy’n rhagori mewn arholiad mynediad, gwerth hyd at £3,000), Ysgoloriaethau Chwaraeon (ar gael i fyfyrwyr sy’n astudio unrhyw bwnc academaidd, gwerth hyd at £2,000 yr un) ac Ysgoloriaethau’r Rhaglen Dawn
a Chyfle (sy’n anelu at ehangu cyfranogiad). Mae bwrsariaethau hefyd ar gael i gefnogi myfyrwyr o deuluoedd sydd ar incwm is, yn ogystal â rhai sy’n mynd i Addysg Uwch o ofal. Gellir gweld mwy o fanylion am yr Ysgoloriaethau a’r Bwrsariaethau sydd ar gael ar hyn o bryd ar ein gwefan.
MYFYRWYR RHYNGWLADOL Gyda myfyrwyr o dros 79 o wledydd ledled y byd, mae gan y ddinas gymuned ryngwladol ffyniannus, ac mae croeso a chefnogaeth i fyfyrwyr rhyngwladol sydd eisiau datblygu eu llawn botensial drwy ein hystod o raglenni astudio cadarn a safonol. Mae Prifysgol Bangor yn credu’n gryf mewn edrych ar ôl ei myfyrwyr a sicrhau fod pawb yn teimlo bod croeso iddynt ac y gallant ymgartrefu’n rhwydd. Dyna pam mae gan Fangor nifer o Lysgenhadon Myfyrwyr Rhyngwladol a Chynghorwr penodol sy’n rhoi sylw i les myfyrwyr rhyngwladol. Gallant hwy eich helpu i ymaddasu i fyw mewn gwlad wahanol,
gyda diwylliant anghyfarwydd ac efallai iaith newydd. Ein nod yw cefnogi myfyrwyr rhyngwladol o’r broses ymgeisio tan y diwrnod y byddant yn graddio. Mae Diwrnod Cynefino arbennig yn rhoi cyfle i chi gyfarfod â myfyrwyr rhyngwladol eraill a sefydliadau allanol, a chael taith i weld yr ardal gyfagos. Mae hyn yn eich helpu i wneud ffrindiau, ymgartrefu a gwybod lle mae gwahanol fannau. Drwy gydol y flwyddyn mae’r Cynghorwr Lles Myfyrwyr Rhyngwladol yn cynnig cymorth a chyngor ar ystod o faterion, megis gofal iechyd y GIG yn y DU, agor cyfrif banc, statws mewnfudo,
ceisiadau i ymestyn eich fisa, rheoliadau gwaith a chael hyd i waith, teithio y tu allan i’r DU, cofrestru gyda’r heddlu, llety, dod â’ch teulu i’r DU, a meithrinfeydd ac ysgolion ym Mangor. Rydym hefyd yn trefnu teithiau bws i fannau o ddiddordeb. Mae Swyddog Gwasanaethau Rhanbarthol y Cyngor Prydeinig yn bwynt cyswllt pwysig i gael gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth i fyfyrwyr sy’n dod i Fangor drwy’r Cyngor Prydeinig. Sicrheir llety ar y campws i holl fyfyrwyr rhyngwladol a chymryd eu bod yn ymgeisio cyn y dyddiad cau, sef 31 Gorffennaf. Mae peth llety i deuluoedd ar gael hefyd.
CYRSIAU IAITH SAESNEG Yn gyffredinol mae angen i fyfyrwyr rhyngwladol roi tystiolaeth o’u medrusrwydd mewn Saesneg. Y lefel iaith Saesneg sydd ei hangen i gael mynediad fel rheol yw IETS 6.0 (heb sgôr is na 5.5. mewn unrhyw uned) neu gyfwerth. Gall myfyrwyr sydd eisiau astudio Iaith Saesneg cyn dechrau eu hastudiaethau academaidd ym Mangor ddilyn cyrsiau cyn-sesiynol yng Nghanolfan Iaith Saesneg y Brifysgol (ELCOS) cyn dechrau ar eu rhaglen academaidd. Gellir cael hyfforddiant ychwanegol fel a ganlyn: IELTS 5.5 / 3 MIS / MEHEFIN – MEDI IELTS 5.0 / 6 MIS / CHWEFROR - AWST IELTS 4.5 / 9 MIS / MEDI – MEHEFIN
Mae myfyrwyr yn cael sylw personol er mwyn sicrhau cynnydd rhagorol a chwblhau’r cwrs yn llwyddiannus. Ar y diwedd nid oes raid i fyfyrwyr wneud prawf Saesneg allanol pellach, gan y bydd ein staff hynod brofiadol a chymwys yn cynnal prawf a darparu adroddiad swyddogol i’r Brifysgol. Gall myfyrwyr ar raglenni academaidd gael cefnogaeth gyda’r iaith Saesneg gydol y flwyddyn mewn cyrsiau a drefnir yn arbennig i fyfyrwyr rhyngwladol. Mae’r rhain yn cynnwys dosbarthiadau ar ysgrifennu academaidd a modiwlau iaith Saesneg. Gall myfyrwyr elwa hefyd o ymgynghoriadau unigol gyda thiwtor iaith. Gall myfyrwyr sydd eisiau gwneud profion Saesneg allanol pellach fanteisio ar ddosbarthiadau nos arbennig sy’n canolbwyntio ar baratoi ar gyfer yr arholiadau hyn. Mae manylion pellach ar gyrsiau iaith Saesneg ar gael o ELCOS neu e-bost:
elcos@bangor.ac.uk
www.bangor.ac.uk/senrgy 25
MANYLION CYSWLLT Am fwy o wybodaeth, ewch i’n gwefan yn: www.bangor.ac.uk/senrgy neu cysylltwch â’r Cydlynydd Derbyniadau yn: YSGOL YR AMGYLCHEDD, ADNODDAU NATURIOL A DAEARYDDIAETH PRIFYSGOL BANGOR BANGOR GWYNEDD LL57 2UW Ffôn: +44 (0) 1248 382281 Ffacs: +44 (0) 01248 354997 E-bost: senrgy@bangor.ac.uk Mae’r Brifysgol wedi gwneud pob ymdrech rhesymol i sicrhau fod y wybodaeth yn y llyfryn hwn yn gywir pan argraffwyd ond y gallai newid.