Taith o amgylch y campws

Page 1

CROESO I BRIFYSGOL BANGOR

Taith o amgylch y campws Awst 2020 Prifysgol Bangor Bangor Gwynedd LL57 2DG 01248 351151


Bangor Uchaf

Gwaelod Bangor

Mae croeso i chi fynd o amgylch y campws eich hun, ond sylwch: Ni all ymwelwyr fynd i mewn i adeiladau'r Brifysgol fel rhan o'r ymweliad; mae mynediad yn gyfyngedig i staff a chontractwyr y Brifysgol sy'n paratoi'r campws ar gyfer ailagor ym mis Medi.

Fe'ch atgoffir hefyd i gadw at y rheolau pellter cymdeithasol 2 fetr os byddwch chi'n dod ar draws eraill ar eich 'taith' o'r Brifysgol a'r ardaloedd cyfagos.


Mae prif fynedfa Pontio wedi ei lleoli ar Ffordd Deiniol, ym mhle mae nifer o adeiladau eraill y Brifysgol. Mae hefyd modd mynd i'r adeilad o'r llawr uchaf, sydd ar Ffordd Penrallt, ger teras Prif Adeilad y Brifysgol.

Pontio Ffordd Deiniol Wedi ei rhannu dros chwe llawr, Pontio yw canolfan celfyddydau ac arloesi Prifysgol Bangor.

Undeb y Myfyrwyr Darlithfeydd Dysgu Cymdeithasol Sinema Theatr Bwyty Bar

Gan fod Pontio yn ganolfan ddiwylliannol i'r ddinas, beth am gychwyn ein taith fan hyn? Mae Pontio yn gartref i Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor (UMCB), sy'n gofalu am les myfyrwyr Cymraeg eu hiaith, dysgwyr ac unrhyw un arall sydd â diddordeb yn yr iaith a’r diwylliant Gymraeg yn ystod eu cyfnod ym Mangor. Mae Pontio hefyd yn cynnig pob math o adloniant*, saith diwrnod yr wythnos, o’r ffilmiau diweddaraf i gerddoriaeth a drama, gigs, syrcas gyfoes a theatr awyrol, sioeau cabaret a llawer mwy. *Mwy o fanylion i ddilyn am y gweithgareddau yn Pontio ar gyfer y flwyddyn academaidd yma.


Dilynwch y ffordd o Pontio tuag at yr orsaf drenau, i fyny'r allt ar Ffordd Caergybi, ymlaen yng nghylchfan Morrisons, troi i'r dde ger tafarn y Belle Vue, a chario ymlaen ar hyd Ffordd y Coleg. Mae hefyd modd cyrraedd drwy adael llawr uchaf Pontio, neu Lôn Cariadon (sydd ger M&S).

Prif Adeilad y Brifysgol Ffordd y Coleg, Bangor

Canolbwynt y Brifysgol, ac yn gartref i Lyfrgell y Celfyddydau, Neuadd Prichard-Jones, a Neuadd Powis.

Darlithfeydd Ystafelloedd Seminar Llyfrgell y Celfyddydau Caffi Darllenfeydd Swyddfeydd Darlithwyr Prif dderbynfa Tîm Diogelwch

Yn un o adeiladau mwyaf eiconig Bangor, mae Prif Adeilad y Brifysgol i’w gweld o waelod y ddinas. Mae’n adeilad cyfarwydd i'r holl fyfyrwyr; yma cynhelir darlithoedd, areithiau cyhoeddus a chyngherddau yn neuaddau PJ a Phowis. Mae hefyd yn fan cyfleus i gyfarfod ffrindiau am baned neu ginio* rhwng darlithoedd. *Mwy o fanylion i ddilyn am y ddarpariaeth arlwyo ar gyfer y flwyddyn academaidd yma.


Gadewch Ffordd Caergybi (troi ger tafarn y Belle Vue) neu drwy fynd i fyny Lôn Cariadon a throi i'r chwith.

Ffordd y Coleg Bangor Uchaf

Adeilad Cerddoriaeth Y Ganolfan Rheolaeth Brigantia (Seicoleg a Gwyddorau Meddygol) Gwasanaethau Myfyrwyr Neuadd John Philips (Cyfryngau) Hen Goleg (Busnes a'r Gyfraith) Meysydd parcio

Yn gartref i nifer o adeiladau academaidd yn ogystal â chanolfan Gwasanaethau Myfyrwyr, rydych bron yn sicr o weld rhywun yr ydych yn ei adnabod ar Ffordd y Coleg! Ger y Brif Adeilad mae'r adeilad Cerddoriaeth, y Ganolfan Rheolaeth, Canolfan Bedwyr, Hen Goleg (Busnes a’r Gyfraith) a Neuadd John Philips (Cyfryngau). Mae rhai o'r adeiladau hyn yn edrych dros y Fenai. Gellir cerdded o Ffordd y Coleg i Bentref Ffriddoedd, Pentref y Santes Fair ac i ganol y ddinas.


Pentref Ffriddoedd Ffordd Ffriddoedd, Bangor Uchaf Ewch ymlaen ar hyd Ffordd Caergybi, pasio'r orsaf dren, troi i'r chwith ar gylchfan Morrisons, ac mae'r brif fynedfa ar yr ail droad i'r dde (mae maes parcio ychwanegol wrth gymryd y trydydd troad i'r dde)

Bar Uno Canolfan Brailsford* Cae Chwaraeon Campws Byw Tîm Diogelwch Siop Mannau i wneud barbeciw Golchdy *Mae Canolfan Brailsford yn cael ei ddefnyddio fel Ysbyty Enfys dros dro yng Ngogledd Cymru. Bydd mwy o fanylion am ein cyfleusterau ffitrwydd ar gael yn fuan.

Mae Pentref Ffriddoedd yn cynnig nifer o opsiynau llety, yn cynnwys ystafelloedd ensuite gyda cheginau i'w rhannu. Yma mae Neuadd John Morris-Jones, neu 'JMJ', sydd ar gyfer myfyrwyr Cymraeg a dysgwyr. Mae cymuned glos iawn yn JMJ, a gellir ymuno â nifer o gymdeithasau Cymraeg. Mewn llai na 10 munud gallwch gerdded i Ffordd y Coleg, a'r mwyafrif o adeiladau academaidd, gyda mynediad hawdd i ganol y ddinas.


Safle'r Normal Ffordd Caergybi, Bangor

Ewch i fyny Ffordd Caergybi, heibio'r orsaf dren ar y chwith, syth ymlaen ar gylchfan fach Morrisons a heibio'r siopau. Dilynwch y ffordd nes i chi weld Safle'r Normal ar y dde.

Ysgol Addysg a Datblygiad Dynol Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer Llyfrgell Neuadd chwaraeon a champfa Maes parcio

Yn gartref i'r Ysgol Addysg a Datblygiad Dynol a'r Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer, mae'r Safle Normal mewn lleoliad syfrdanol sy'n edrych dros y Fenai ac Ynys Môn. Er ei bod wedi ei lleoli ymhellach na'r mwyafrif o'r adeiladau academaidd, mae dal modd cerdded i Ffordd y Coleg ac o amgylch y campws.


Porthaethwy Croeswch Bont Menai o Fangor, troi i'r dde wrth y gylchfan a dilynwch y ffordd trwy ganol y dref. Wrth i chi gyrraedd pen y Stryd Fawr, trowch i'r dde tuag at Pier San Siôr ac fe welwch brif adeiladau Gwyddorau Eigion, Craig Mair a Chanolfan Forol Cymru ar y dde i chi.

Ynys Môn

Mae'r Ysgol Gwyddorau Eigion wedi'i lleoli ar Ynys Môn.

Taith bum munud mewn car neu 25 munud ar droed o Fangor Uchaf, mae tref Porthaethwy ar lan arall y Fenai. Mae'r Ysgol Gwyddorau Eigion wedi ei lleoli yn y man hyfryd yma. Yma hefyd mae cartref llong ymchwil y Brifysgol, Prince Madog, ac fe'i gwelwch i'r dde wrth i chi groesi'r bont. Mae Porthaethwy yn dref brysur sydd â dewis gwych o fwytai, caffis, bariau a siopau lleol. Mae yna archfarchnad Waitrose hefyd y tu allan i ganol y dref.


Mae'r rhan yma o'r campws yn gartref i nifer o ysgolion academaidd, wedi eu lleoli rhwng Pontio ac Asda ar Ffordd Deiniol. Gellir gyrraedd yno drwy droi i'r dde ar Ffordd Caergybi (os yw'r orsaf ar y chwith i chi), drwy gerdded lawr Allt Glanrafon (ger Rascals ym Mangor Uchaf), neu drwy lawr uchaf Pontio.

Ffordd Deiniol a Champws y Gwyddorau Bangor

Ar Ffordd Deiniol mae Ysgol Seicoleg (Wheldon), Ysgol y Gwyddorau Naturiol (Thoday a Brambell), labordai gwyddoniaeth a chyfleusterau ymchwil a Llyfrgell Gwyddoniaeth Deiniol. Wedi'i lleoli yng nghanol y ddinas, mae'r rhan hon o Ffordd Deiniol yn gartref i nifer fawr o adeiladau academaidd, a phrif fynedfa Pontio, canolbwynt celfyddydau a diwylliannol y gymuned leol. Mae'n agos at y Stryd Fawr, maesydd parcio, a nifer o archfarchnadoedd. Mae hefyd yn gyfle perffaith i fanteisio ar fwytai ar y stryd, neu gerllaw yn Pontio neu Brif Adeilad y Brifysgol.


Pentref y Santes Fair Lôn Pobty, Bangor Mae Pentref y Santes Fair ym mhen uchaf Lôn Pobty. O ganol Bangor, dilynwch y ffordd i fyny'r bryn heibio'r Eglwys Gadeiriol i'r Stryd Fawr. Ar ôl mynd heibio New Look, cymryd y troad cyntaf i'r chwith, gan barhau i fyny'r bryn. Mae'r Pentref ar y dde, tua phum munud o gerdded i fyny'r bryn.

Caffi Barlows Campfa Campws Byw Derbynfa Diogelwch Cwrt Chwaraeon Mannau i wneud barbeciw Agorwyd Pentref y Santes Fair yn 2015 ac mae tua 600 ystafelloedd yno, gydag amrywiaeth o opsiynau yn cynnwys ystafelloedd en-suite, ystafelloedd rhatach, stiwdios a thai tref. Mae un neuadd safonol, Bryn Eithin, sydd â cheginau ac ystafelloedd ymolchi i'w rhannu. Wedi ei lleoli yr ochr arall i Fangor i Bentref Ffriddoedd, mae Santes Fair wrth ymyl y Stryd Fawr.


Mynedfa ar Ffordd Deiniol (troi i'r dde with Llys Y Deon, ar ôl pasio Aldi. Neu wrth gerdded tuag at waelod y Stryd Fawr, a throi i'r chwith wrth y groesffordd.

Stryd y Deon Gwaelod Bangor

Cartref i'r Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig. Dim ond taith gerdded fer o'r neuaddau preswyl, a thafliad carreg o ganol y ddinas, mae'n ddigon hawdd cyrraedd Stryd y Deon. Os hoffech chi ddychwelyd i unrhyw le arall ar y campws ym Mangor, mae gweddill y ddinas yn hawdd ei gyrraedd ar droed. Stryd Fawr: Trowch i'r chwith wrth adael Adeilad Stryd y Deon, ewch i fyny'r ffordd, gan droi i'r dde ar y groesffordd. Bangor Uchaf: Trowch i'r dde tuag at gefn Aldi, trowch i'r chwith wrth y gyffordd i fynd ar Ffordd Deiniol, a naill ai fyny Lôn Cariadon, trwy Pontio, neu ewch ymlaen dros gylchfan Asda tuag at yr orsaf reilffordd, gan droi i'r dde ar Ffordd Caergybi.


Awn am dro... Beth am fynd i weld rhai o atyniadau hyfryd eraill tra yn yr ardal?

Pier Bangor (0.6 milltir) Porthaethwy (2.5 milltir) Biwmares (6 milltir) Llanberis (12 milltir) Traeth Llanddwyn (15 milltir)

Yn gywir adeg argraffu Awst 2020


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.