Sefydliad Hap-Dreialon Iechyd a Gofal Cymdeithasol Gogledd Cymru (NWORTH)
2017-18 Adroddiad Blynyddol
CYNNWYS
Rhagair 3 Crynodeb Lleyg
4
Pwy ydym ni
6
Organogram NWORTH
7
Pecynnau Gwaith
8
Themâu Trawsbynciol
10
Cyflawniadau Allweddol
13
Astudiaethau Achos
14
Edrych Ymlaen
16
Casgliadau 18
2
RHAGAIR Mae Sefydliad Hap-dreialon Iechyd a Gofal Cymdeithasol Gogledd Cymru, (NWORTH), yn cael ei hariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Mae’r adroddiad hwn yn rhoi trosolwg o’n gwaith a’n gweithgareddau ym mlwyddyn olaf (2017-2018) cyfnod grant tair blynedd (2015-2018). Mae’n amlygu’r ystod o brojectau yr ydym wedi bod yn ymwneud â nhw a’r gwahanol fathau o
fel Cyfarwyddwr newydd LLAIS ac rydym yn hyderus y bydd y pecyn gwaith hwnnw’n parhau i ffynnu. Bellach mae gennym 42 o fesurau iechyd Cymraeg wedi’u dilysu’n ieithyddol ac maent ar gael ar micym.org
Yn ystod 2017-18, dyfarnwyd wyth astudiaeth newydd i NWORTH ac mae cyfanswm gwerth y grantiau hynny dros £5.5 miliwn. Dros gyfnod grant o dair blynedd (hyd at fis Mai 2018), rydym wedi cyflwyno 64 o geisiadau grant a dyfarnwyd 24 ohonynt i ni. Mae hyn yn golygu bod ein cyfradd llwyddiant dros y cyfnod o dair blynedd wedi bod yn gyson uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol o ran grantiau i ymchwil iechyd cymhwysol (35.9% o gymharu â 19%). ddulliau gwerthuso yr ydym yn eu defnyddio. Mae hefyd yn dangos ein cryfder cynyddol gyda threialon ymyriadau cymhleth a threialon pragmatig. Ym Mlwyddyn Tri, yn ogystal â llwyddo i adnewyddu’r cyllid craidd gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru am ddwy flynedd arall, (2018-20), llwyddodd NWORTH i adnewyddu cofrestriad United Kingdom Clinical Research Collaboration (UKCRC) yn llawn am bum mlynedd arall. Roedd yn ddrwg gennym orfod ffarwelio â Gwerfyl Roberts, Cyfarwyddwr LLAIS ar ei hymddeoliad ym mis Rhagfyr 2017. Cafodd Gwerfyl wobr Cyfraniad Oes yn yr arddangosfa ‘Mwy na Geiriau’ i ddathlu ei gwaith yn gwella ansawdd darpariaeth gofal iechyd dwyieithog. Rydym bellach wedi croesawu Beryl Cooledge i’r tîm
nworth-ctu.bangor.ac.uk
Mae NWORTH wedi cynnal ei gysylltiadau cryf gyda’r Ysgol Gwyddorau Iechyd, sy’n golygu bod modd gwneud ymchwil rhyngddisgyblaethol, yn enwedig o ran gwyddor gweithredu. Yn ogystal, mae’r Uned wedi ymestyn ei gafael a bellach mae ganddi nifer o gydweithredwyr newydd, tra’i bod yn parhau hefyd i ddenu busnes yn ôl gan ein cysylltiadau presennol. Mae ein Grŵp Gweithrediadau Craidd yn parhau i wella ansawdd yr astudiaethau yn ein portffolio ac yn ein galluogi i ymateb yn ystwyth ac yn amserol i unrhyw broblemau sy’n codi. Rydym wedi treulio cryn dipyn o amser yn datblygu cyflwyniadau ‘Panopto’ i’w rhoi ar wefan NWORTH yn rhoi trosolwg o bob maes gweithredol: Rheoli Treialon, Ystadegau, Sicrhau Ansawdd a Systemau Gwybodaeth. Mae hyn yn galluogi
cydweithredwyr posibl i ddysgu am y mewnbwn eang wedi ei deilwra y gallwn ei ddarparu ar gyfer eu hastudiaethau. Gwelwyd cynnydd mewn datblygiadau methodolegol yn yr Uned ym Mlwyddyn Tri. Rydym yn rhan o dîm ymchwil a enillodd grant gan y Cyngor Ymchwil Meddygol i archwilio i effaith Astudiaethau o Fewn Treial (astudiaeth PROMETHEUS). Rydym hefyd wedi bod yn gweithio gyda thîm ymchwil o Brifysgol Manceinion i hyrwyddo Treialon sy’n Canolbwyntio ar y Claf (astudiaeth PACT). Rydym yn parhau i fod â diddordeb yn y defnydd a wneir o fframweithiau gweithredu mewn treialon ymyriadau cymhleth. Gofynnwyd i ni roi cyflwyniad ar ymarferoli gwybodaeth i Gyngor Prif Swyddogion Deintyddol Ewrop a chyflwynwyd poster pellach i’r Gymdeithas Treialon Clinigol ym mis Mai 2018. Mae’r adroddiad hwn yn rhoi cipolwg o’n gwaith a’r hyn yr ydym wedi ei gyflawni yn ystod 2017-18. Mae hefyd yn rhoi crynodeb o’n cynlluniau ar gyfer 2018-20. Ein gobaith yw adeiladu ar y llwyddiant a gawsom hyd yma. Mae’r llwyddiant hwnnw’n tystio i ymroddiad a gwaith caled holl dîm NWORTH. Maen nhw’n allweddol yn y gwaith o gyflawni ein portffolio ymchwil.
Yr Athro Paul Brocklehurst Cyfarwyddwr NWORTH
3
CRYNODEB LLEYG Pwy ydym ni a beth ydym ni’n ei wneud? Uned Treialon Clinigol yw NWORTH sy’n arbenigo mewn dylunio a chyflwyno treialon clinigol ac astudiaethau eraill. Rydym wedi cael ein hachredu’n llawn gan UK Clinical Research Collaboration (UKCRC), sy’n golygu ein bod wedi cwrdd ag ystod o feini prawf sy’n dangos ein gallu i gydlynu treialon clinigol i’r safonau ansawdd uchaf.
Cenhadaeth NWORTH yw gwella iechyd a llesiant pobl Cymru a thu hwnt trwy wneud ymchwil i iechyd a gofal cymdeithasol. Mae ein hymchwil yn gwerthuso effeithiolrwydd ymyraethau sy’n rhan o ymarfer iechyd a gofal cymdeithasol mewn bywyd go iawn. Mae hyn yn darparu gwybodaeth werthfawr i’r rheini sy’n cynllunio a chomisiynu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ac yn sicrhau bod eu penderfyniadau’n seiliedig ar yr ymchwil ddiweddaraf i’r hyn sy’n gweithio orau i bwy. Bwriad arall gennym yw gwella dyluniad ymchwil glinigol trwy edrych ar welliannau y gellir eu gwneud wrth gynllunio a chyflwyno astudiaethau ymchwil. Rydym yn dîm amlddisgyblaethol ac amlswyddogaethol sydd â llawer o brofiad ac arbenigedd mewn ymchwil gofal iechyd ac astudiaethau clinigol. Mae hyn yn cynnwys: Ystadegwyr: arbenigwyr mewn dylunio, rheoli data a dadansoddi astudiaethau. Mae ein Hystadegwyr yn gweithio gyda gweithwyr iechyd proffesiynol, clinigwyr a’r rhai sy’n arwain ymchwil, i gynghori ar ddyluniad yr astudiaeth ymchwil. Mae hyn yn cynnwys cyfrifo faint o gyfranogwyr sydd eu hangen a beth yw’r ffordd orau o ddadansoddi’r 4
canlyniadau. Pan fydd treial wedi’i orffen, bydd yr Ystadegydd hefyd yn helpu i ysgrifennu adroddiad terfynol yr astudiaeth. Technoleg Gwybodaeth a Chipio Data: mae’r rhain yn arbenigwyr mewn dylunio systemau gwybodaeth a chronfeydd data sy’n rheoli’r holl ddata sy’n cael ei gasglu gan gyfranogwyr yn ein hastudiaethau. Maent yn gweithio gydag ymchwilwyr i ddylunio, datblygu, rhaglennu, profi a chynnal y systemau gorau ar gyfer casglu data. Maent yn dilyn gweithdrefnau trylwyr i brofi’r systemau hyn i sicrhau eu bod yn addas at y diben ac yn casglu’r holl wybodaeth y mae ei hangen ar gyfer yr astudiaeth. Maent hefyd yn dylunio’r systemau sy’n dewis ac yn dyrannu cyfranogwyr ar hap i wahanol grwpiau triniaeth mewn treialon clinigol. Sicrhau Ansawdd: maent yn sicrhau y cedwir at yr holl ofynion cyfreithiol ar gyfer cynnal treialon clinigol ac yn monitro pob un o’r astudiaethau i sicrhau eu bod yn bodloni’r gofynion hyn a’u bod yn cael eu cyflawni i’r
safonau uchaf posibl. Maent yn cynnal archwiliadau ac yn monitro gweithgarwch i sicrhau bod pob darn o ymchwil yn cael ei wneud yn unol â phrotocol yr astudiaeth. Mae Sicrhau Ansawdd yn hanfodol er mwyn sicrhau bod data a chanlyniadau treialon clinigol yn gredadwy ac yn gywir. Mae hefyd yn sicrhau bod hawliau, diogelwch, llesiant a chyfrinachedd cyfranogwyr mewn treialon clinigol yn cael eu diogelu. Rheolwyr Treialon: mae’r rhain yn arbenigwyr ym maes rheoli projectau a chydlynu astudiaethau ac maent yn sicrhau bod pob astudiaeth yn cael ei chynnal yn unol â’r cynllun ac yn darparu’r hyn y bwriadwyd ei gyflawni. Maent yn aelodau allweddol o’r tîm treialon ac maent yn sicrhau bod pob safle ymchwil yn recriwtio mewn modd sy’n cwrdd â therfynau amser a thargedau. Nhw sy’n gyfrifol am waith papur beunyddiol ac adroddiadau ac am reoli data’r astudiaethau.
Beth ydym ni eisiau ei gyflawni?
1 4 7
Rhagori fel uned dreialon clinigol sy’n cynnal hap-dreialon rheoledig ac astudiaethau eraill i’r safonau ansawdd uchaf.
Datblygu partneriaethau a gwaith cydweithredol newydd gydag ymchwilwyr trwy wneud cyswllt â sefydliadau GIG lleol ac isadeiledd ehangach Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
2 5
Cynyddu gweithgarwch ymchwil mewn meysydd a nodwyd fel rhai sy’n bwysig i bobl Cymru a thu hwnt.
Darparu Gwasanaeth Cynllunio a Chynnal Ymchwil i annog ac i helpu staff sy’n gweithio mewn ymchwil Iechyd a Gofal Cymdeithasol i ddatblygu cynigion ymchwil.
3
Cynnal ansawdd y treialon a’r astudiaethau newydd a wneir yn yr Uned trwy sicrhau bod pob astudiaeth newydd yn cael ei chostio’n briodol a’i chyflwyno gan gwrdd â therfynau amser a thargedau ac o fewn y gyllideb.
6
Trwy LLAIS, hwyluso cyfranogiad mewn treialon trwy gyfrwng y Gymraeg er mwyn sicrhau y gall pobl yng Nghymru gymryd rhan mewn ymchwil yn yr iaith o’u dewis.
Datblygu arbenigedd methodolegol wrth ddylunio ymchwil, sy’n cael ei chydnabod yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
nworth-ctu.bangor.ac.uk
5
Y TÎM
Aelodau Tîm y Grŵp Gweithrediadau Craidd (o’r chwith i’r dde): Alison Jenkins, Paul Brocklehurst, Ian Woodrow, Jean Ryan, Zoe Hoare.
Tîm amlddisgyblaethol yw NWORTH, sydd wedi’i rannu rhwng pedair prif swyddogaeth: Technoleg Gwybodaeth, Rheoli Treialon, Ystadegau a Sicrhau Ansawdd. Mae Grŵp Gweithrediadau Craidd yr Uned yn cyfarfod bob wythnos i oruchwylio’r holl astudiaethau sy’n cael eu cynnal gan NWORTH. Maent hefyd yn adolygu ceisiadau sy’n ein cyrraedd i wneud gwaith cydweithredol i benderfynu a yw astudiaethau posibl o ansawdd
6
digon uchel i’w mabwysiadu yn rhan o’n portffolio a sicrhau bod gan yr Uned y gallu i’w cyflawni, o fewn y terfynau amser a’r cyllidebau sydd gennym. Mae ein Grŵp Gweithrediadau Craidd yn cynnwys Cyfarwyddwr yr Uned, Rheolwr yr Uned a phedwar arweinydd ar gyfer pob grŵp swyddogaethol. Mae Swyddogaeth y Grŵp Gweithrediadau Craidd yn hanfodol o ran sicrhau bod projectau’r Uned yn cael eu rhedeg yn ôl y gofynion rheoleiddio a llywodraethu priodol.
7
Rheolwr Data: Greg Flynn (0.5 CALl)
RPSO Datblygu Cyllid CymysgTreialon: Dr Karolina Rusiak (1.0 CALl)
Hwylusydd Cyflwyno Treialon, Ymchwil: Sion Griffiths (0.5 CALl)
Arbenigwr TG Treialon: Lexi Bastable (1.0 CALl)
Ystadegwyr Treialon (gan gynnwys Arweinydd a Chefnogaeth RDCS): Dr. Andrew Brand (1.0 CALl) Dr Nia Goulden (1.0 CALl) Rachel Evans (1.0 CALl)
Clerc Mewnbynnu Data: Iwan Jones (1.0 CALl)
Hwylusydd Cyflwyno Treialon, Ymchwil: Sion Griffiths (0.5 CALl)
Lisa Jones (1.0 CALl)
Hwylusydd TG Treialon, Ymchwil:
Swyddog Sicrhau Ansawdd: Dr Kirstie Pye (0.8 CALl)
Rheolwr TG: Ian Woodrow (0.8 CALl)
Swyddog Ymchwil LLAIS: Dr. Llinos Spencer (0.2 CALl) Swyddog Ymchwil Gofal Cymdeithasol: Dr. Gill Toms (0.2 CALl)
Rheolwr y Treial: Chris Woods (0.6 CALl)
Uwch Reolwr Treialon: Alison Jenkins (1.0 CALl)
Rheolwr CTU: Jean Ryan (0.8 CALl)
Prif Ystadegydd: Dr. Zoe Hoare (1.0 CALl)
Darlithydd mewn Gwella Iechyd a Gweithredu Dr. Lorelie Jones (1.0 CALl)
Cyfarwyddwr: Yr Athro Paul Brocklehurst (1.0 Cywerth Amser Llawn)
ORGANOGRAM NWORTH
Hwylusydd Cyflwyno Treialon, Ymchwil: Greg Flynn (0.5 CALl)
Cyllid Cymysg
Nawdd Projectau
Arian Craidd H&CRW
Cyllid Sefydliadol Prifysgol Bangor
Allwedd:
Gweinyddwr: Karen Law (0.8 CALl)
Mewnbwn Arweinyddiaeth Uwch ((i gyd ym Mhrifysgol Bangor): Arweinydd yn y Brifysgol, Yr Athro Jo Rycroft-Malone Arweinydd Strategol Ysgolion, Yr Athro Chris Burton Arweinydd Gofal Cymdeithasol, Yr Athro Martina Feilzer Arweinydd Iaith Gymraeg, Beryl Cooledge Arweinydd Gweithredu, Dr Lynne Williams Arweinydd Ansoddol, Dr Sion Williams
PECYNNAU GWAITH: Mae saith Pecyn Gwaith (PG) yn ffurfio ein cynllun gwaith am gyfnod y grant cyfredol (2015-2020) PG1: Datblygu Portffolio
Mae NWORTH wedi cynnal cyfradd llwyddiant (o’r cam amlinellol hyd gwneud penderfyniad i ariannu) o dros 30%. Mae hyn yn llwyddiant anhygoel dros gyfnod hir. Allan o gyfanswm o 64 o geisiadau a gyflwynwyd dros y cyfnod o dair blynedd, dyfarnwyd 24 ohonynt, sy’n cynrychioli cyfanswm o £14.4M o ran cyfanswm y grantiau y llwyddwyd i’w hennill ac £11.9M ar gyfer projectau’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd (yr ariannwr pennaf ar gyfer ymchwil gymhwysol). Mae cyfanswm gwerth ein portffolio grantiau presennol yn £9.5M, (sy’n cynrychioli 15 o astudiaethau sy’n weithredol), ac mae ceisiadau am £5M arall yn yr arfaeth (6 astudiaeth).
PG2: Goruchwylio Astudiaethau sydd ar Waith
Mae ein Grŵp Gweithrediadau Craidd yn gweithio gyda’r Penymchwilwyr a’r Prif Ymchwilwyr sy’n cydweithio â ni i sicrhau bod adnoddau ac isadeiledd digonol ar gael i ddarparu astudiaethau ymchwil a gynllunnir yn brydlon ac o fewn y gyllideb. Mae’r Grŵp Gweithrediadau Craidd yn cwrdd unwaith yr wythnos i sicrhau bod pob darn o ymchwil yn cael ei gynnal yn unol â phrotocol yr astudiaeth ac yn cael ei fonitro a’i archwilio’n briodol. Mae ein holl waith yn cael ei ategu gan ein Llawlyfr Ansawdd a chan gyfres o 30 o Drefniadau Gweithredu Safonol. Yn ystod 2017-18, cafodd naw o’n Trefniadau Gweithredu Safonol eu diweddaru a chynhaliwyd 24 archwiliad mewnol. Roedd yn ddrwg gennym orfod ffarwelio â Debbie Skelhorn, ein Rheolwr Sicrhau Ansawdd, ar ei hymddeoliad ym mis Gorffennaf 2017. Bu Debbie yn allweddol yn y gwaith o lunio Llawlyfr Ansawdd a 8
Pholisi Ansawdd NWORTH. Oherwydd ei hymdrechion hi yn fwy na dim y mae NWORTH wedi rhagori wrth gynnig prosesau di-dor, sy’n ymgorffori ansawdd ac yn ychwanegu gwerth at ein holl waith cydweithredol. Olynydd Debbie fel Arweinydd Ansawdd yw Dr Kirstie Pye, ac mae ganddi hi yr un ymrwymiad i’n nodau ansawdd.
PG3: Meithrin Gwaith Cydweithredol
Bu 2017-18 yn gyfnod prysur gyda llawer o geisiadau’n ein cyrraedd i wneud gwaith cydweithredol oddi wrth sefydliadau sydd wedi cydweithredu â ni yn y gorffennol ac sy’n awyddus i weithio gyda ni eto. Yn ystod 2017-18, fe wnaethom adolygu 19 o geisiadau am waith cydweithredol ac aeth 13 ohonynt (68%) ymlaen i wneud gwaith pellach arnynt neu i’w cyflwyno. Mae ein portffolio gweithredol yn cynnwys ystod o gydweithredwyr o Gymru (41%) ac o rannau eraill o’r Deyrnas Unedig (59%). Rydym hefyd wedi cryfhau’r cysylltiadau gyda phrif wneuthurwyr polisi, gan gynnwys Prif Swyddogion Deintyddol Cymru a Gogledd Iwerddon, Dirprwy Brif Swyddog Meddygol Cymru, Ymgynghorwyr ar ran Iechyd Cyhoeddus Lloegr a gerodontolegyddion o bob rhan o Ewrop. Rydym yn ymdrechu i weithio’n agosach â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ac rydym yn edrych ar lunio strategaeth ymchwil ar y cyd i gryfhau’r isadeiledd ymchwil yng Ngogledd Cymru. Mae NWORTH hefyd yn gweithio’n agos gyda’r Ysgol Gofal Cymdeithasol a byddwn yn gysylltiedig yn uniongyrchol â’r gwaith o weithredu Strategaeth Gofal Cymdeithasol Cymru, gan weithio gyda’r Athro Fiona Verity. Fel sefydliad arweiniol y Gwasanaeth Cynllunio a Chynnal Ymchwil ym maes gofal cymdeithasol, rydym yn cymryd camau i wella’r gefnogaeth i
ymchwilwyr gofal cymdeithasol sy’n dymuno ymgymryd ag ymchwil ledled Cymru. Yn y blynyddoedd nesaf, rydym yn gobeithio adeiladu’n sylweddol ar ein perthynas gref gyda’r Ysgol. Rydym wedi treulio cryn dipyn o amser yn adolygu ein gwefan i apelio at gydweithredwyr newydd posibl ac i dynnu sylw at ein pwyntiau gwerthu unigryw. Ychwanegwyd geirdaon gan gyngydweithredwyr ar y wefan i bwysleisio pa mor gadarnhaol oedd eu profiad o weithio gyda NWORTH. Maent yn tynnu sylw at gryfderau allweddol yr Uned: hyblygrwydd, ystwythder, dull personol wedi’i deilwra a chyfradd llwyddiant uchel wrth ddenu grantiau.
PG4: Datblygu Methodolegau
NWORTH oedd un o’r Unedau Treialon a ddewiswyd gan dîm yr Athro Pete Bower i gyfrannu at yr astudiaeth o Dreialon sy’n Canolbwyntio ar y Claf (PACT). Mae’r Cyfarwyddwr hefyd yn gydymgeisydd mewn astudiaeth a gyllidir gan y Cyngor Ymchwil Meddygol i edrych ar Astudiaethau o fewn Treial (PROMETHEUS).
Roedd y Cyfarwyddwr hefyd yn rhan o uwch dîm ymchwil ym Mangor (a oedd yn cynnwys y Dirprwy Isganghellor dros Ymchwil a Phennaeth yr Ysgol Gwyddorau Iechyd), a aeth ati i weithio ar ffrwd waith ar gyfer Cam Gweithredu Cydlynu a Chefnogi yr Undeb Ewropeaidd (Horizon SC1-HCO- 062016), ar ran Llywodraeth Cymru. Roedd ‘TO-REACH’ (https://to-reach. eu) yn edrych ar sut y gall tystiolaeth ymchwil gefnogi gwasanaethau a systemau gofal iechyd i fod yn fwy gwydn, effeithiol, teg, hygyrch a chynaliadwy. Rydym hefyd wedi cyhoeddi tri phapur yn ystod y flwyddyn ddiwethaf i dynnu sylw at bwysigrwydd ystyried sut mae tystiolaeth ymchwil yn cael ei rhoi ar waith wrth i astudiaethau gael eu dylunio a’u cynllunio.
Mae ein tîm Ystadegau yn bwrw ymlaen gyda gwaith parhaus i ddatblygu ein methodoleg hapdreialu ac maent yn drafftio cyhoeddiadau am y gwaith hwnnw. Mae’r tîm Ystadegau hefyd wedi paratoi podlediad hefyd i’w gynnwys mewn modiwl sy’n rhan o’r rhaglen Meistr Ymchwil newydd. Mae ein Tîm Technoleg Gwybodaeth yn y broses o ystyried gwelliannau pellach i’r dull o bennu, cofnodi a phrofi dulliau MACRO o gipio data electronig. Defnyddiwyd astudiaethau diweddar i werthuso dulliau ac mae gwaith mireinio pellach yn cael ei ystyried er mwyn symleiddio ein prosesau a symud tuag at ddull sy’n seiliedig ar brototeip.
PG5: Datblygu’r Uned Treialon Rydym wedi penodi pum aelod newydd o staff yn NWORTH yn ystod 2017-18 ac mae pob un wedi cwblhau eu cyfnod cynefino a hyfforddiant sy’n benodol i’r swydd. Hefyd, cafodd sawl hyfforddiant mewnol ac allanol ychwanegol ei gynnig i’n holl staff. Mae ein Prif Ystadegydd wedi cynllunio ac arwain rhaglen hyfforddi amlswyddogaethol arloesol i bob aelod o staff yn yr Uned. Cafodd y rhaglen dderbyniad cadarnhaol iawn ac mae wedi cynnig fforwm gwreiddiol ar gyfer cydddysgu a thrafod. Mae’r holl staff wedi cael hyfforddiant ar y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol ac mae asesiad o bolisïau a gweithdrefnau’r Uned mewn perthynas â’r rheoliad wedi’i gwblhau.
nworth-ctu.bangor.ac.uk
PG6: Gwasanaeth Cynllunio a Chynnal Ymchwil
Er ein bod yn parhau i hyrwyddo’r gwasanaeth hwn ac wedi ymgymryd ag ystod o weithgareddau hyrwyddo i farchnata’r gefnogaeth sydd ar gael yn ystod 2017-18, mae’r ymateb a’r nifer sy’n manteisio ar y gwasanaeth yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru yn parhau i fod yn isel. Fodd bynnag, rydym yn parhau i weithio tuag at feithrin cysylltiadau cryfach â Byrddau Iechyd Betsi Cadwaladr a Phowys er mwyn manteisio i’r eithaf ar y nifer sy’n manteisio ar y Gwasanaeth Cynllunio a Chynnal Ymchwil a’r gefnogaeth sydd ar gael. Mae hyn yn bwysig oherwydd mae dadansoddiad o’r ceisiadau a gafwyd ers mis Awst 2016 am y Gwasanaeth Cynllunio a Chynnal Ymchwil yn dangos mai dim ond 14% o’r ceisiadau am gymorth y gwasanaeth sy’n bodloni’r meini prawf cymhwystra a nodir yn Siarter y Gwasanaeth Cynllunio a Chynnal Ymchwil.
Gwnaed cynnydd ardderchog ar y pecyn gwaith hwn wrth i ddau broject newydd gael eu dyfarnu yn ystod 2017-18 (ADTRAC a Phroject Strôc Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan). Mae’r mesurau iechyd canlynol wedi cael eu cyfieithu i’r Gymraeg a’u dilysu’n ieithyddol yn 2017-8: • QOLLTI-F • MSAS-GDI Teulu • PROMIS-10 • smRq • PHQ-Person Ifanc • GAD-Person Ifanc • Graddfa Llesiant Meddwl Warwick-Caeredin Mae 42 o enwau bellach ar gronfa ddata RHOI LLAIS o aelodau lleyg Cymraeg eu hiaith. Mae manylion am yr holl fesurau ar gael yn www.micym.org
Cafodd cyfrif Twitter y Gwasanaeth Cynllunio a Chynnal Ymchwil ei atgyfodi a chyhoeddwyd erthygl yn hyrwyddo’r Gwasanaeth Cynllunio a Chynnal Ymchwil yng Nghylchlythyr Ymchwil a Datblygu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Mae Dr Llinos Spencer, sy’n cynrychioli LLAIS, wedi parhau i gyfrannu’n llawn at Wasanaeth Cynllunio a Chynnal Ymchwil Cymru Gyfan ac mae wedi mynychu nifer o ddigwyddiadau yn rhoi cyflwyniad i dynnu sylw at argaeledd Mesurau Iechyd Cymraeg ac i hyrwyddo ymwybyddiaeth iaith ymhlith ymchwilwyr ledled Cymru.
Yn ystod 2017-18, gwnaethom ymateb i 19 ymholiad gan Weithwyr Proffesiynol y GIG a Gweithwyr Proffesiynol Gofal Cymdeithasol a buom mewn 15 o ddigwyddiadau ar draws Gogledd a Chanolbarth Cymru.
Ym mis Hydref 2017, cyflwynwyd gwobr Cyfraniad Oes Llywodraeth Cymru i Gwerfyl Roberts am ei chyfraniad at arweinyddiaeth gwasanaethau Cymraeg ym maes gofal iechyd.
PECYNNAU GWAITH
Yn fuan byddwn yn buddsoddi mewn Darlithydd mewn Gwella Iechyd a Gweithredu a fydd yn arwain ar lif gwaith methodolegol allweddol a fydd yn mynd i’r afael ag argymhellion y project ‘TO-REACH’ ac yn archwilio sut y gallwn ddefnyddio fframweithiau gweithredu wrth ddylunio treialon ymyraethau cymhleth mewn gwasanaethau iechyd a gofal.
PG7: LLAIS
TMae Gwerfyl Wyn Roberts, Cyfarwyddwr LLAIS, wedi ymddeol ac wedi gadael Prifysgol Bangor ers 31 Rhagfyr 2017. Rydym yn ddiolchgar iawn iddi am ei holl waith yn datblygu ac yn hyrwyddo strategaethau iaith Gymraeg Ysgol Gwyddorau Iechyd Prifysgol Bangor dros y 26 mlynedd diwethaf. Ers hynny, rydym wedi penodi Ms Beryl Cooledge yn gyfarwyddwr newydd ar LLAIS (sef Cyfarwyddwr Dwyieithrwydd newydd yr Ysgol).
Gwerfyl Roberts yn derbyn gwobr Cyfraniad Oes Llywodraeth Cymru am ei chyfraniad at arweinyddiaeth gwasanaethau Cymraeg ym maes gofal iechyd. Hydref 2017.
9
THEMÂU TRAWSBYNCIOL: Cynnwys y Cyhoedd
THEMÂU TRAWSBYNCIOL
Mae NWORTH wedi cynnig cyfanswm o 178 o gyfleoedd sy’n cynnwys y cyhoedd yn ystod 2015-2018. Cafodd Dr Llinos Haf Spencer ei gwahodd i fod yn aelod o Weithgor Cynnwys Cleifion a’r Cyhoedd/Gwyddoniaeth Dinasyddion yr Ysgol Gwyddorau Iechyd a bydd yn cefnogi’r Athro Paul Brocklehurst wrth iddo arwain y ffrwd waith honno yn NWORTH, ac o fewn yr Ysgol Gwyddorau Iechyd gyda Dr Lynne Williams. Mae Llinos wedi bod yn gweithio gyda Barbara Moore a Rebecca Burns yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a’i bwriad yw cynnal adolygiad o holl weithgareddau’r Uned sy’n Cynnwys Cleifion a’r Cyhoedd, a chynhyrchu strategaeth ar gyfer y gwaith hwnnw. Mae NWORTH yn trefnu digwyddiad Cynnwys Cleifion a’r Cyhoedd o’r enw “Dweud Eich Dweud! “ a fydd yn dathlu ymchwil i iechyd a gofal yng Nghymru ac yn lansio ein canolfan newydd ar gyfer Cynnwys Cleifion a’r Cyhoedd. Cafodd Cynnwys Cleifion a’r Cyhoedd ei ymwreiddio’n rhan o bob un o geisiadau NWORTH yn ystod y cyfnod hwn..
Gofal Cymdeithasol:
NWORTH sy’n rhoi arweiniad strategol ym maes gofal cymdeithasol fel rhan o Wasanaeth Cynllunio a Chynnal Ymchwil Cymru gyfan. Penodwyd Dr Gill Toms eleni i arwain ar y pecyn gwaith hwn. Mae hi’n cadw cysylltiad di-dor rhwng y Gwasanaeth Cynllunio a Chynnal Ymchwil, NWORTH ac Ysgol Ymchwil Gofal Cymdeithasol Cymru er mwyn gwneud yn siŵr bod dulliau cydgysylltiedig yn cael eu defnyddio. Mae NWORTH yn gweithio gydag 10
Ysgol Ymchwil Gofal Cymdeithasol Cymru i ddarparu dogfennaeth, (yn fewnol ac yn allanol), i adlewyrchu llif y broses ymchwil ar gyfer ymarferwyr gofal cymdeithasol ac amlygu pa gefnogaeth sydd ar gael yn y gwahanol gamau. Mae NWORTH yn gweithio gydag Ysgol Ymchwil Gofal Cymdeithasol Cymru i ddarparu dogfennaeth, (yn fewnol ac yn allanol), i adlewyrchu llif y broses ymchwil ar gyfer ymarferwyr gofal cymdeithasol ac amlygu pa gefnogaeth sydd ar gael yn y gwahanol gamau. Cafodd dadansoddiad o anghenion hyfforddiant ymarferwyr gofal cymdeithasol ei gwblhau hefyd. Mae gwaith wedi dechrau ar lunio canllawiau cyfeirio i dimau’r Gwasanaeth Cynllunio a Chynnal Ymchwil ar ddulliau ymchwil a ddefnyddir yn gyffredin mewn gofal cymdeithasol. Rydym hefyd wedi diweddaru gwefan a dogfennau’r Gwasanaeth Cynllunio a Chynnal Ymchwil i sicrhau bod gweithwyr proffesiynol Gofal Cymdeithasol yn cael eu cynnwys yn briodol ym mhob cynnig a bod y cynnwys yn gyson â dulliau atgyfeirio Ysgol Ymchwil Gofal Cymdeithasol Cymru.
Partneriaid Masnachol:
Mae dwy o’r astudiaethau yn y portffolio yn ystod y cyfnod hwn wedi cael eu hariannu gan ddiwydiant. Mae B-ADENOMA (BowelScope: Accuracy of Detection using ENdocuff Optimisation of Mucosal Abnormalities) ar hyn o bryd yn cael ei ysgrifennu ac mae’n cael ei arwain gan yr Athro Colin Rees o Ymddiriedolaeth Sefydliedig GIG De Tyneside. Ariannwyd B-ADENOMA gan ARC Medical Design Limited a ddatblygodd Endocuff VisionTM i wella cyfraddau canfod adenoma mewn profion colonosgopi.
Derbyniodd astudiaethau ADENOMA a B-ADENOMA gydnabyddiaeth yn nigwyddiad gwobrwyo mawreddog Medilink Northern Powerhouse Healthcare Business Awards, a gynhaliwyd ar 7 Mawrth 2018 yn The Lowry Hotel yn Salford. Dyfarnwyd gwobr y Sector Llym i bartneriaeth diwydiant Ymddiriedolaeth Sefydliedig GIG De Tyneside ac ARC Medical, gyda chefnogaeth gan NWORTH. Dywedodd y beirniaid fod hon yn bartneriaeth gyffrous sy’n masnacheiddio arloesi mewn datblygu cynnyrch. Enillodd y tîm hefyd y gystadleuaeth ‘ar draws categorïau’ a mynd ymlaen i ddigwyddiad cenedlaethol Medilink UK Healthcare Business Awards a gynhaliwyd yn Coventry ar 25 Ebrill. Yr ail astudiaeth i gael ei hariannu gan ddiwydiant, (a gwblhawyd yn ystod y cyfnod hwn), yw Treial Harness Gravidarum (Management of Pelvic Girdle Pain in Pregnancy using Harness Gravidarum: A Randomised Controlled Trial comparing current treatment with a new device), dan arweiniad Dr Kalpana Upadhyay o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Cafodd yr ail astudiaeth ei hariannu ar y cyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a HGR Limited, (cyflenwr gwregysau pelfig) ac mae bellach wedi datblygu’n gais am ariannu treial llawn sydd ar hyn o bryd yn yr ail gam ar gyfer cael cyllid ‘Ymchwil er Budd Cleifion a’r Cyhoedd’.
Mae NWORTH wedi cynnig cyfanswm o 178 o gyfleoedd sy’n cynnwys y cyhoedd yn ystod 2015-2018
NWORTH sy’n rhoi arweiniad strategol ym maes gofal cymdeithasol fel rhan o Wasanaeth Cynllunio a Chynnal Ymchwil Cymru gyfan.
12
LLWYDDIANNAU ALLWEDDOL Rydym wedi gwella ar bob un o’n metrigau allweddol ym 2017-18 ac mae ein perfformiad cronnus ar gyfer 2015-2018 wedi’i nodi isod:
24
o geisiadau am grant wedi’u cyflwyno, ( 35 i
o grantiau’n cael eu hariannu rhwng 2015 a 17
o grantiau wedi’u dyfarnu
gynlluniau NIHR NETSCC)
(cyfradd llwyddiant o 35.9%)
£ £11.9M o incwm NETSCC wedi’i ddyfarnu
£3.3M
o Gymru
74 o erthyglau
LLWYDDIANNAU ALLWEDDOL
64
£14.4M
wedi’u cyhoeddi
mewn cyhoeddiadau a
adolygir gan gymheiriaid (ffactor effaith cyfartalog = 3.144)
Ein hadenillion ar fuddsoddiad i
£5M
Gymru yw 201.33%, (enillion buddsoddiad:
£2,214,603;
Adenillion ar Fuddsoddiad blynyddol
dros dair blynedd:
Cynigwyd
178
o gyfleoedd
sy’n cynnwys y cyhoedd nworth-ctu.bangor.ac.uk
mewn ceisiadau
ar hyn o bryd
44.4%)...
£250k o incwm
masnachol wedi’i gynhyrchu
Mae’r holl Fetrigau Perfformiad
Allweddol a ddatblygwyd
yn anwythol yn yr Uned yn
Uned yn
wyrdd
13
ASTUDIAETH ACHOS Astudiaethau Adenoma A B-Adenoma
ASTUDIAETH ACHOS - Astudiaethau Adenoma A B-Adenoma
Cydweithiodd NWORTH ar astudiaeth ADENOMA, dan arweiniad yr Athro Colin Rees, (Ymddiriedolaeth Sefydliedig GIG De Tyneside) o’r dechrau hyd y diwedd. Arweiniodd hyn at gydweithio pellach ar astudiaeth B-ADENOMA gyda’r un tîm ymchwil. Roedd y ddwy astudiaeth yn ymchwilio i’r ddyfais Endocuff Vision, sydd wedi’i dylunio i roi’r olwg orau posibl o’r colon cyfan elfen hanfodol ar gyfer canfod canser y coluddyn yn gynnar. Mae’n parhau’n wir mai canser y coluddyn yw ail achos pennaf marwolaethau sy’n gysylltiedig â chanser yn y Deyrnas Unedig, a dyma’r pedwerydd canser mwyaf cyffredin yn Lloegr gyda 34,000 o bobl yn cael diagnosis bob blwyddyn. Mae cyfraddau isel o ran canfod adenoma yn gysylltiedig â chynydd mewn cyfraddau canser y colon a’r rhefr yn dilyn colonosgopi a lleihad yn y nifer sy’n goroesi canser. Mae rhai wedi dadlau bod dyfeisiau sy’n gwella delweddu mwcosaidd megis Endocuff Vision (EV) yn gwella cyfraddau canfod adenoma. I werthuso hyn, roedd astudiaeth ADENOMA yn hap-dreial rheoledig a gynhaliwyd mewn sawl canolfan yn cymharu cyfraddau canfod adenoma pan wneir colonosgopi gyda chymorth EV a cholonosgopi safonol. Dangosodd yr astudiaeth hon fod y ddyfais Endocuff Vision wedi cynyddu cyfraddau canfod adenoma mewn cleifion sy’n cael eu sgrinio am ganser y coluddyn ac y dylid ei defnyddio i wella cyfraddau canfod trwy golonosgopi. Am bob 1,000 o bobl sy’n cael eu sgrinio am ganser, amcangyfrifir y gellid osgoi chwe achos pellach o ganlyniad i ganfod cynnar trwy ddefnyddio’r ddyfais hon. 14
Arweiniodd yr ymchwil at ddyfarnu Taliad Arloesedd a Thechnoleg 2018/19 oddi wrth GIG Lloegr. Nod y Taliad Arloesedd a Thechnoleg yw helpu i gyflawni’r amodau a’r newid diwylliannol sy’n angenrheidiol er mwyn i ddulliau arloesol sydd wedi eu profi gael eu mabwysiadu ynghynt ac yn fwy systematig drwy’r GIG, ac i gyflwyno enghreifftiau i mewn i ymarfer er mwyn creu buddion amlwg i gleifion ac i’r boblogaeth. Mae Endocuff Vision yn un o blith dim ond pedwar o ddatblygiadau arloesol i gael eu hariannu gan GIG Lloegr yn 2018/19 yn dilyn proses gystadleuol. Dywedodd Simon Stevens, Prif Weithredwr GIG Lloegr:
“From the very beginning the NHS has been at the forefront of driving innovation, as we celebrate the NHS’s 70th birthday the NHS continues to champion innovation. These technologies will improve patient safety and potentially reduce the need for invasive and expensive tests.” Dywedodd yr Athro Colin Rees, Pen-ymchwilydd astudiaethau ADENOMA a B-ADENOMA a Gastroenterolegydd Ymgynghorol yn Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG De Tyneside:
“NWORTH are an excellent clinical trials unit providing responsive, supportive running of clinical trials. I find them a pleasure to work with.”
ASTUDIAETH ACHOS Lleddfu pryder cleifion cyn cael MRI
ASTUDIAETH ACHOS - Lleddfu pryder cleifion cyn cael MRI
Cydweithiodd NWORTH ar yr astudiaeth uchod dan arweiniad Jenna Tugwell-Allsup sy’n Radiograffydd Ymchwil i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Mae cleifion sy’n cael sgan yn defnyddio offer delweddu cyseiniant magnetig (MRI) yn aml yn dioddef o bryder cyn ac yn ystod y sgan. Nod yr astudiaeth hon oedd edrych ar ddwy ymyrraeth syml, gost-effeithiol a hawdd eu gweithredu i leihau pryder cyn sgan MRI. Cafodd cleifion eu dewis ar hap naill ai i edrych ar fideo neu gael sgwrs ffôn gyda radiograffydd yn hytrach na chael yr ymyrraeth arferol.
nworth-ctu.bangor.ac.uk
Dangosodd yr astudiaeth hon y gallai’r ddwy ymyrraeth leihau pryder cyn cael MRI yn sylweddol, er bod y fideo wedi perfformio fymryn yn well na’r ymyrraeth ffôn. Yn bwysig ddigon, nid oedd y llythyr apwyntiad safonol a anfonir yn rheolaidd gan y GIG yn cynnwys digon o wybodaeth ym marn y rhan fwyaf o gleifion, sy’n gwneud achos cryf dros newid yr arfer presennol.
Cyrhaeddodd yr astudiaeth hon restr fer gwobrau GIG Cymru yn 2017 yng nghategori Hyrwyddo Gwaith Ymchwil Clinigol a’i Ddefnyddio wrth Ymarfer.
15
EDRYCH YMLAEN Mae’r Swyddog newydd ar gyfer Cefnogi Ymchwil Datblygu Treialon yn cwblhau ei chyfnod cynefino a bydd yn gweithio gyda Jean Ryan, Zoë Hoare a Paul Brocklehurst i ddatblygu’r strategaeth ar gyfer busnes newydd. Bydd hyn yn cynnwys:
EDRYCH YMLAEN
1
Cymhorthion gweledol Defnyddio ffeithluniau a chymhorthion gweledol eraill i grynhoi a marchnata perfformiad cyfredol NWORTH mewn treialon pragmatig a threialon ymyraethau cymhleth i Ben-ymchwilwyr presennol a newydd.
7
Ardaloedd targed eisoes mewn gallu
Mynediad Data Uniongyrchol Ymchwilio i ddefnyddio mewnbynnu data uniongyrchol a dulliau eraill o wella effeithlonrwydd treialon.
Adeiladu ar lwyddiant cyfredol
3
8
Defnyddio sefyllfa ddaearyddol NWORTH
Defnyddio sefyllfa ddaearyddol unigryw NWORTH i archwilio i grantiau sy’n hyrwyddo’r iaith Gymraeg, diwylliant Cymru ac iechyd yng nghefn gwlad.
14
Adeiladu ar ein Cynnwys Cleifion a’r Cyhoedd
Adeiladu ar ein gweithgareddau Cynnwys Cleifion a’r Cyhoedd i ddarparu cyfleoedd newydd dan arweiniad cleifion a phrojectau Gwyddoniaeth Dinasyddion.
Academyddion a chlinigwyr Cynyddu nifer y treialon sy’n cael eu harwain neu eu cefnogi gan academyddion a chlinigwyr sydd â chysylltiad â’r Ysgol Gwyddorau Iechyd a’r Coleg Gwyddorau Dynol.
Adeiladu ar lwyddiant cyfredol a phortffolio sy’n tyfu fel bod rhagor o astudiaethau’n symud ymlaen o’r cyfnod dichonoldeb a pheilota i fod yn dreialon terfynol llawn.
Targedu Penymchwilwyr a Phrif Ymchwilwyr mewn meysydd lle nad oes gan Unedau Treialon eraill unrhyw gapasiti’n weddill.
13
16
2
9
Adeiladu ar allbynnau ‘To-REACH’ Adeiladu ar allbynnau ‘TO-REACH’ i ddatblygu rhaglen fethodolegol ar ddefnyddio gwyddor gweithredu mewn treialon.
Allbwn cyfryngau cymdeithasol
5
Cynyddu’r defnydd a wneir o’r cyfryngau cymdeithasol ar ôl pob treial i dynnu sylw at ein llwyddiannau a’n cyflawniadau gan ddefnyddio cyfweliadau ‘ymadael’ a gynhelir ar ddiwedd cyfnod yr astudiaeth.
10
Cyswllt â threialwyr allweddol Gwneud cysylltiadau â threialwyr allweddol ledled y Deyrnas Unedig i hyrwyddo’r defnydd o Astudiaethau o fewn Treial.
nworth-ctu.bangor.ac.uk
CI a PI Perthnasoedd Cadarnhaol
6
Targedu Penymchwilwyr a Phrif Ymchwilwyr ledled Lloegr yn defnyddio gwybodaeth o’r Llwyfan Data Agored ledled Cymru a Lloegr mewn meysydd y bu NWORTH yn gryf ynddynt yn draddodiadol.
Parhau i feithrin perthynas gadarnhaol gyda Phen-ymchwilwyr a Phrif Ymchwilwyr presennol er mwyn denu incwm grant newydd yn defnyddio’r un timau a chydweithwyr y timau hynny.
11
Buddsoddi mewn staff Buddsoddi ymhellach yn y staff i hyrwyddo allbynnau academaidd a methodolegol.
Targed CIs a PIs ar draws Lloegr
12
Rhwydweithiau ymchwil sy’n seiliedig ar ymarfer cymorth
EDRYCH YMLAEN
4
Cefnogi’r gwaith o ddatblygu rhwydweithiau ymchwil sy’n seiliedig ar ymarfer yng Ngogledd Cymru i hyrwyddo isadeiledd ymchwil bywiog, projectau dan arweiniad clinigwyr a chyfleoedd i brofi projectau gweithredu.
17
CASGLIADAU Mae NWORTH wedi gwneud camau breision yn ystod tair blynedd gyntaf ein grant gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Rydym wedi cyflwyno nifer fawr o geisiadau grant i arianwyr pennaf ymchwil iechyd yn y Deyrnas Unedig ac mae ein cyfradd llwyddiant bron ddwywaith yn fwy na’r cyfartaledd cenedlaethol.
CASGLIADAU
Yr hyn sydd hyd yn oed yn fwy trawiadol yw ein bod wedi cynnal y gyfradd llwyddiant dros gyfnod tair blynedd ein grant gan Lywodraeth Cymru. Mae denu dwy bunt i Gymru am bob punt sy’n cael ei buddsoddi a chael Adenillion ar Fuddsoddiad o tua 45% (dros y tair blynedd) yn hynod gadarnhaol. Mae hyn yn adlewyrchu gwybodaeth, sgiliau, agwedd ac ymrwymiad y tîm cyfan yn yr Uned. Rydym yn parhau i feithrin cysylltiadau da gyda thimau ymchwil ledled y Deyrnas Unedig ac rydym hefyd wedi llwyddo i ddenu ymchwilwyr newydd i’r Uned. Rydym wedi ymestyn ehangder a dyfnder y meysydd clinigol yr ydym yn ymwneud â nhw, gan gynnal ein cryfderau traddodiadol ym meysydd dementia, canser a, bellach, iechyd y geg. Mae ein hymwneud ag astudiaethau sy’n cael eu hariannu gan ddiwydiant wedi cael cydnabyddiaeth genedlaethol. Mae gennym gyfle i ddatblygu ymhellach ein diddordeb methodolegol mewn meysydd sy’n gwella dyluniad a gweithrediad treialon ac sy’n hyrwyddo defnyddio tystiolaeth mewn gwasanaethau iechyd a gofal. Edrychwn ar y flwyddyn nesaf fel cyfnod lle byddwn yn tyfu ymhellach fel Uned dreialon gan gynnal yr un lefel o gynnydd ag yr ydym eisoes wedi ei wneud.
Yr Athro Paul Brocklehurst Cyfarwyddwr, Uned Treialon Clinigol NWORTH
18
nworth-ctu.bangor.ac.uk
19
NWORTH CTU Bangor University Y Wern, Normal Site, Holyhead Road, Bangor, Gwynedd, LL57 2PZ 01248 388095 karen.law@bangor.ac.uk
nworth-ctu.bangor.ac.uk