MEDI SAD 17 Gan Bwyll! Don Pascwale
Neuadd Powis, Prifysgol Bangor, 7.30pm
11
MAW 20 Cabaret: BAND PRES Jaipur Kawa Neuadd John Phillips, Prifysgol Bangor, 7.30pm
IAU 29 Un Fach Flewog
Clwb Rheilffordd Bangor, 8pm
29-30 Luminarium
Hen Lain Fowlio, Bangor, 11am-6pm
1-2
Tudalen
Luminarium
Hen Lain Fowlio, Bangor, 11am-6pm
22
SuL 2 Sinema Sul: Pulp Fiction 4
Prif Ddarlithfa’r Celfyddydau, Prifysgol Bangor, 7.30pm
14
MER 5 Crunch Stiwdio Ddrama
GWE 23 FFilm Gwener: City of God Prif Ddarlithfa’r Celfyddydau, Prifysgol Bangor, 7.30pm
HYDREF
Tudalen
17
Coleg Menai, Bangor, 1.30pm & 7.30pm
4-18
Gwyl y Geiriau Lleoliadau
7 22
amrywiol yn ac o amgylch Bangor
17 10 -11
GWE 7 Ffilm Gwener: Black Cat White Cat Prif Ddarlithfa’r Celfyddydau, Prifysgol Bangor, 7.30pm
12
SuL 16 Sinema Sul: Memento Rhif elusen gofrestredig 1141565
Prif Ddarlithfa’r Celfyddydau, Prifysgol Bangor, 7.30pm
14
GWE 21 Ffilm Gwener: The Diving Bell AND the Butterfly
Prif Ddarlithfa’r Celfyddydau, Prifysgol Bangor, 7.30pm
GWE 21 Gweithdy dawns Samba
Neuadd John Phillips, Prifysgol Bangor, 6-7pm
13 9
SaD 22 Gweithdy Capoeira
Neuadd John Phillips, Prifysgol Bangor, 1.30-3pm 9
SaD 22 Batizado Roda
Neuadd John Phillips, Prifysgol Bangor, 5pm 8
LLU 31 Nosferatu
3
Neuadd John Phillips, Prifysgol Bangor, 7.30pm 16
Cipolwg sydyn Tachwedd
Tudalen
GWE 4 Cabaret: Black Umfolosi 5
Neuadd Powis, Prifysgol Bangor, 7.30pm
SaD 5 The Village Social
Neuadd Goffa, Mynydd Llandegai, 7.30pm
MAW 8 Crash
Ysgol Tryfan, Bangor, 7.30pm
5 18 19
Gwe 11 Ffilm Gwener: The Pianist
Prif Ddarlithfa’r Celfyddydau, Prifysgol Bangor, 7.30pm
13
SuL 13 Sinema Sul: The Hurt Locker
Prif Ddarlithfa’r Celfyddydau, Prifysgol Bangor, 7.30pm
15
GWe 18 Friday Film: Biutiful
Prif Ddarlithfa’r Celfyddydau, Prifysgol Bangor, 7.30pm
13
SaD 19 Anton Chekhov
Neuadd John Phillips, Prifysgol Bangor, 7.30pm
20
SaD 26 The Christmas Carol
Neuadd John Phillips, Prifysgol Bangor, 7.30pm
23
SuL 27 Sinema Sul: 127 Hours
Prif Ddarlithfa’r Celfyddydau, Prifysgol Bangor, 7.30pm
15
Rhagfyr
Tudalen
Gwe 2 Cabaret: Jamie Smith’s Mabon
Neuadd Powis Hall, Prifysgol Bangor, 7.30pm
6
SAD 10 C’mon Mid-laiff
Neuadd John Phillips, Prifysgol Bangor, 7.30pm
21
SuL 11 Sinema Sul: Pan’s Labyrinth
Prif Ddarlithfa’r Celfyddydau, Prifysgol Bangor, 7.30pm
15
16-17 Madog a’r Amerig
Neuadd John Phillips, Prifysgol Bangor, 7.30pm Neuadd John Phillips, Prifysgol Bangor, 1pm
CerddoriaetH ym Mangor drama FFilm
24
HWYl PLANT & THEULU
24
PerfForMIO
SaD 17 Madog a’r Amerig
Cabaret
Croeso Croeso i raglen Hydref Cerrig y Rhyd – casgliad o ddigwyddiadau, prosiectau a gweithgareddau i ddathlu’n taith tuag at agoriad Pontio; Canolfan Celfyddydau ac arloesi newydd Bangor.
YMLAEN HEFYD
Dilynnwch ni ar
Tudalen flaen: Jamie Smith’s Mabon
3
Mawrth 20 Medi, 7.30pm Neuadd John Phillips, Prifysgol Bangor Tocynnau: £12/£10 gostyngiadau Ffôn: 01248 382828, ymwelwch â Recordiau Cob neu archebu arlein: www.pontio.co.uk
Band Pres Jaipur Kawa Cabaret
+ Shanti Shanker
4
SEINIWCH Y TRWMPED A RHYTHM Y DRWM! Wedi’i ddylanwadu gan Jazz, traddodiad y Gorllewin a cherddoriaeth Indiaidd, crëodd Hameed Khan ‘Kawa’ – maestro tabla a chyfarwyddwr artistig y grw ˆp gwerin Rajasthani Musafir – fand pres Indiaidd unigryw tu hwnt. Gan gymysgu themâu o Bollywood, sain trawiadol Sispi’r Rajasthan a mymryn o’r Hindustani clasurol, mae’r Band Pres Jaipur Kawa wedi swyno cynulleidfaoedd mewn gw ˆyliau ar hyd a lled Ewrop. Yn rhannu’r un llwyfan, bydd y syfrdannol fakir yn llyncu cleddyf, a’r ddawnswraig Sispi Sapera Kalbelya - dyma noson llawn egni a hiwmor. Yn cefnogi bydd y ddawnswraig Indiaidd leol, Shanti Shanker, gyda’i dawns Bharatanatyam.
Gwener 4 Tachwedd, 7.30pm Neuadd Powis, Prifysgol Bangor
Yng nghwmni Côr Cyntaf I’r Felin ˆ P DAWNSIO A LLEISIOL ZIMBABWE HOFF GRw Mae llysgenhadon mwyaf Zimbabwe yn dod i Fangor gyda pherfformiad byw deinamig sydd wedi’i ysbrydoli gan gân a dawns o Dde’r Affrig. Mae canu harmonig acapella yn plethu gyda rhythmau wrth i’r sioe goreograffi wych hon arddangos ystod lawn o symudiadau o daro traed i neidio! Gydag angerdd a brwdfrydedd heb ei ail, mae Black Umfolosi bellach yn ffefrynnau o amgylch y byd gyda phobl o bob oedran a diwylliant. Fe’i cefnogir gan gôr cymunedol, Côr Cyntaf i’r Felin o’r Felinheli.
Cabaret
Tocynnau: £12/£10 gostyngiadau Ffôn: 01248 382828, ymwelwch â Recordiau Cob neu archebu arlein: www.pontio.co.uk
5
Gwener 2 Rhagfyr, 7.30pm Neuadd Powis, Prifysgol Bangor Tocynnau: £12/£10 gostyngiadau Ffôn: 01248 382828, ymwelwch â Recordiau Cob neu archebu arlein: www.pontio.co.uk
Jamie Smith’s Mabon Yng nghwmni Gwibdaith Hen Frân
Cabaret
CERDDORIAETH GELTAIDD HEB FFINIAU
6
Mae cyfansoddiadau dychmygus Jamie Smith yn mynd a chi ar wibdaith hudol Ewropeaidd, gyda jigiau a riliau i'w clywed ochr yn ochr â fest-noz Llydaweg, mazurka Ffrangeg, muinera Galicia a hyd yn oed arlliw o’r klezmer o Ddwyrain Ewrop mewn sioe afieithus. Miwsig heintus, llawn curiad sydd wedi ennill gwobrau lu, yn gymysgedd anorchfygol o gerddoriaeth Byd, gwreiddiau Celtaidd a ffync gwerin fywiog, llawn egni, llawenydd ac angerdd. Fe’i cefnogir gan yr hogia' canu gwlad Gwibdaith Hen Frân o Flaenau Ffestiniog.
Iau 29 Medi, 7.30pm Clwb y Rheilffordd, Bangor Tocynnau: £7.50/£5 gostyngiadau. Ffôn: 01248 382828 neu archebu arlein: www.pontio.co.uk
perfformio
SIOE GLYBIAU GWALLGO’ ARALL GAN EILIR JONES
Gan Eilir Jones. Gyda: Iwan Charles, Bryn Fôn, Gwenno Elis Hodgkins, Maldwyn John, Catrin Mara & Sion Trystan Sioe glybiau gwallgo' arall gan Eilir Jones a’r tro yma siop anifeiliaid anwes Neville a Kiley sydd mewn trafferth. Mae’r RSPCA yn benderfynol o gau’r siop ac mae Neville yn gwybod yn iawn fod gan Hughsey o Head Office ddiddordeb mewn sawl peth blewog dan ei ofal. Fydd y siop yn cau? Fydd Kiley’ mwytho creaduriaid diarth? A be am y stoc - fydd y ll’godan ffrenig yn llwyddiannus hefo’i gynllun dychrynllyd?
Sioe Gymraeg i oedolion (18+)
7
Sadwrn 22 Hydref, 5pm Neuadd John Phillips, Prifysgol Bangor Tocynnau: £6/£4 gostyngiadau (disgownt o 10% am archebion grw ˆp o 4 neu fwy) Ffôn: 01248 382828, ymwelch â Recordiau Cob neu archebu arlein: www.pontio.co.uk
perfformio
Capoeira Mocambo a Pontio yn cyflwyno
CAPOEIRA YSBLENNYDD, BYW A BYRFYFYR Ymunwch â ni am noson gyffrous o Capoeira; cymysgedd o grefft ymladd, dawns a cherddoriaeth a ddatblygwyd yn wreiddiol gan gaethweision Affricanaidd ym Mrasil. Yn fyw ac yn fyrfyfyr ar y llwyfan, bydd disgyblion Capoeira Mocambo lleol yn mynd i mewn i’r Batizado Roda (yr Olwyn Fedydd) i wynebu heriau a osodir gan y Prif Feistr Mestre Sombra a rhai o athrawon mwyaf toreithiog Capoeira yn y DU. Daw‘r noson i ben gyda Roda i’r meistri, a dawns fyrfyfyr gan artistiaid sydd wedi dawnsio Capoeira ar hyd eu hoes. Disgwyliwch yr annisgwyl! Capoeira Conviver Batizado 2008
8
Sadwrn 22 Hydref Neuadd John Phillips, Prifysgol Bangor 1.30-3pm
Gweithdy dawns Samba
Gweithdy Capoeira
Tocynnau: £5
Tocynnau: £6 (yn cynnwys mynediad i’r Batizado Roda yn rhad ac am ddim yn hwyrach yn y noson)
Addas i oedolion, pob lefel o brofiad.
Addas i bobl ifanc (4-16 mlwydd oed), pob lefel o brofiad.
perfformio
Gwener 21 Hydref Neuadd John Phillips, Prifysgol Bangor 6-7pm
Ffôn: 01248 382828, ymwelwch â Recordiau Cob neu archebu arlein: www.pontio.co.uk Am fwy o wybodaeth ac i gael gwybod am ddosbarthiadau rheolaidd Capoeira, ymwelwch â: www.capoeiramocambo.co.uk Chwith: Mestre Ediandro & Mestre China yn Capoeira Conviver Batizado 2008
9
¡Viva la Poesía! Barddoniaeth Slofenaidd Iau 6 Hyd, 7.30pm Taferna Groegaidd, Bangor
perfformio
Tocynnau: £2 wrth y drws
10
Dathliad o Ddiwrnod Barddoniaeth (Rhyng-) Wladol gyda darlleniadau gan Ian Gregson a Carol Rumens. Bydd Rhys Trimble yn cyflwyno barddoniaeth ddwyieithog gyda cherddoriaeth gan Hywel Edwards a Ben Stammers, tra bydd Parking Non-Stop o Ynys Môn yn cyfansoddi ar y pryd gyda beirdd Slofenaidd Ana Pepelnik a Gregor Podlogar. Bydd y noson hefyd yn cynnwys ffilmiau byr gan Metropoetica yn ogystal â DJ Podli a darlleniad o farddoniaeth agored mewn unrhyw iaith (cysylltwch â Zoe: z.skoulding@bangor.ac.uk erbyn 3ydd Hydref os oes gennych ddiddordeb mewn darllen).
Ana Pepelnik
Ian Gregson
Gwe 7 Hyd, 2pm Prif Adeilad y Celfyddydau, Prifysgol Bangor (ystafell i’w chadarnhau) Am ddim Trafodaeth ar ddylanwadau rhyngwladol ym marddoniaeth gyfoes Slofenia gyda pedwar bardd ar daith: Marjan Strojan, Barbara Pogacnik, Ana Pepelnik a Gregor Podlogar.
Gwe 7 Hyd, 6.30pm Caffi Blue Sky, Bangor Tocynnau: £2, wrth y drws (yn cynnwys detholiad o gerddi rhydd Slofenia) Bydd pedwar bardd blaenllaw o Slofenia (Marjan Strojan, Barbara Pogacnik, Gregor Podlogar a Ana Pepelnik), un o leoliadau mwyaf deinamig barddoniaeth Ewrop, yn cyflwyno’u gwaith gyda chyfieithiad Saesneg.
Barddoniaeth o Latfia a Macedonia Ar y cyd â Literature Across Frontiers
Maw 18 Hyd, 6.30pm Caffi Blue Sky, Bangor Tocynnau: £2 wrth y drws
Mewn cynllun cyfnewid rhwng dau ddiwylliant Ewropeaidd gwahanol iawn, bydd dau fardd o Latfia (Anna Auzina a Ka- rlis Ve- rdin, š) a dau o Facedonia (Igor Isakovski a Lidija Dimkovska) yn cyd-ddarllen eu gwaith a’i drafod gyda’r gynulleidfa.
Corws Cerddi Conran Maw 4 Hyd, 7.30pm Amgueddfa & Oriel Gwynedd, Bangor Tocynnau: £3 wrth y drws Cychwynnir Gw ˆyl y Geiriau gyda pherfformiad o waith y bardd enwog o Fangor, ˆp o Tony Conran, gan grw berfformwyr profiadol ac ymrwymedig i’w waith, Corws Cerddi Conran. Meddai Conran “…tarddodd barddoniaeth yn wreiddiol o ddawnsio. Dawns cyhyrau’r llais a’r geg ydi o, a ddaw o ddim yn fyw nes i chi ei weld a’i glywed o”. Defnyddir cân, cyd-adrodd, deialog, miwsig ac adrodd unigol i danlinellu dyfnder a phatrymau’r gwaith. Y darllenwyr yw: Sheila Brook, Lesley Conran, John Griffiths, Pauline Down a Dyfan Roberts, gyda miwsig gan John Mathews. Cymerir y darlleniadau o Castles Part 4, Fabrics a Day Movements.
Sadwrn 17 Medi, 7.30pm Neuadd Powis, Prifysgol Bangor Tocynnau: £9/£6 plant ysgol Ffôn: 01248 382828 neu archebu arlein: www.pontio.co.uk Opra Cymru yn cyflwyno
Sad 8 Hyd, 7.30pm Caffi Blue Sky, Bangor Am ddim I ddathlu Gw ˆyl y Geiriau, mae POETica’n dychwelyd! Bydd y digwyddiad unigryw hwn yn dod a’r gair llafar a llenyddiaeth byw at ei gilydd mewn cyfuniad o slam, y gair llafar a barddoniaeth ysgrifenedig. Bydd perfformiadau POETica yn cyflwyno beirdd lleol talentog ynghyd a pherfformwyr barddoniaeth o fri. Mae’n mynd i fod yn wych!
Diwrnod Barddoniaeth Moelyci
Gan Bwyll! Don Pascwale OPRA GYMRAEG I BAWB
perfformio
POETica
Sul 9 Hyd, 10am-4pm Canolfan Amgylcheddol Moelyci, Tregarth Am ddim Rhowch gynnig ar eich sgiliau barddoni gyda diwrnod ymarferol o weithdai hwylus a pherfformiadau creadigol wedi’i arwain gan feirdd nodedig o Ogledd Cymru gan gynnwys Bardd Preswyl Moelyci, y gwefreiddiol Martin Daws, y bardd reggae chwedlonol Gwyn Parry, yr hudolus Sophie McKeand, a Bardd Plant Cymru 2009-10, yr epilgar Twm Morys.
Fersiwn siambr Gymraeg o gampwaith comig Gaetano Donizetti gan y cwmni opera newydd OPRA Cymru. Mae’r sioe yn seiliedig ar farddoniaeth a grëwyd gan Twm Morys a disgyblion ysgolion Gwynedd, Môn a Chonwy. Cyflwynir talentau Arwel Huw Morgan a Robyn Lyn yn ogystal â wynebau newydd Ceirios Haf ac Iwan Davies mewn perfformiad gwreiddiol a digri. www.opracymru.org.uk
Martin Daws
11
FFILM
GWENER
FFILM Gwener 23 Medi, 7.30pm
CITY OF GOD (Brasil 2002) Tyst 18, 130 munud
Cyfarwyddwyr: Fernando Meirelles & Kátia Lund. Prif rannau: Alexandre Rodrigues, Matheus Nachtergaele & Leandro Firmino
Croeso i bawb 12
Hanes dau fachgen yn tyfu i fyny mewn cymdogaeth dreisgar o Rio de Janeiro sy’n cymryd llwybrau gwahanol: un yn dewis bod yn ffotograffydd, ar llall yn ddeliwr cyffuriau.
Gwener 7 Hydref, 7.30pm
BLACK CAT WHITE CAT (Serbia 1998) Tyst 15, 127 munud
Cyfarwyddwr: Emir Kusturica Prif rannau: Bajram Severdzan, Srdjan Todorovic & Branka Katic
Ffars hwyliog gyda giang o sipsiwn drygionus, mobstars twyllodrus, cariadon poenus, tadau bedydd, priodas ac angladd.
Prif Ddarlithfa’r Celfyddydau, Prifysgol Bangor Tocynnau: £4/£3 gostyngiadau. Ffôn: 01248 382828 neu archebu arlein: www.pontio.co.uk
Tymor Newydd o Sinema CyffrouS
Gwener 21 Hydref, 7.30pm
THE DIVING BELL & THE BUTTERFLY (Ffrainc 2007) Tyst 12A, 112 munud
Cyfarwyddwr: Julian Schnabel Prif rannau: Mathieu Amalric, Emmanuelle Seigner & Marie-Josée Croze
Stori wir am olygydd Elle Jean-Dominique Bauby, sy’n dioddef strôc ac yn gorfod byw gyda chorff bron iawn wedi’i barlysu; ei unig ffordd o gyfathrebu yw drwy ei lygaid chwith.
Gwener 11 Tachwedd, 7.30pm
Gwener 18 Tachwedd, 7.30pm
THE PIANIST
BIUTIFUL
(Gwlad Pwyl/Ffrainc/Yr Almaen/Y Deyrnas Unedig 2002) Tyst 15, 150 munud
(Mecsico/Sbaen 2010) Tyst 15, 148 munud
Cyfarwyddwr: Roman Polanski Prif rannau: Adrien Brody, Thomas Kretschmann & Frank Finlay
Mae cerddor Iddewig Pwylaidd yn brwydro i oroesi dinistr y geto yn Warsaw yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
FFILM
Daw’r rhaglen ffilm gymunedol yn fyw gyda Ffilm Gwener i’n harwain at agoriad adeilad newydd Pontio, lle bydd sinema 180 sedd. Os hoffech gymryd rhan yn un o’n grwpiau rhaglennu cymunedol, yna anfonwch ebost atom: info@pontio.co.uk neu ffôn: 01248 388090.
Cyfarwyddwr: Alejandro González Iñárritu Prif rannau: Javier Bardem, Maricel Álvarez & Hanaa Bouchaib
Dyma stori Uxbal, dyn sy'n byw yn y byd hwn, ond yn gallu gweld ei farwolaeth ei hun, sy'n llywio ei holl weithredoedd.
13
SUL
SINEMA FFILM
RHAGLEN SINEMA MYFYRWYR
Sul 2 Hydref, 7.30pm
Sul 16 Hydref, 7.30pm
(UDA 1994), Tyst 18, 154 munud
(UDA 2000) Tyst 15, 113 munud
Cyfarwyddwr: Quentin Tarantino Prif rannau: John Travolta, Uma Thurman & Samuel L. Jackson
Cyfarwyddwr: Christopher Nolan Prif rannau: Guy Pearce, Carrie-Anne Moss & Joe Pantoliano
Mae bywydau dau ddyn o’r mob, bocsiwr, gwraig troseddwr a phâr o ysbeiliwyr yn cydblethu mewn pedair stori o drais a dial.
Mae dyn sy’n dioddef o golli cof tymor byr yn defnyddio nodiadau a thatw ˆs i chwilio am y dyn, yn ei farn ef, a laddodd ei wraig.
PULP FICTION
Croeso i bawb 14
MEMENTO
Prif Ddarlithfa’r Celfyddydau, Prifysgol Bangor Tocynnau: £4/£3 gostyngiadau. Ffôn: 01248 382828 neu archebu arlein: www.pontio.co.uk
Sul 13 Tachwedd, 7.30pm
THE HURT LOCKER (UDA 2008) Tyst 15, 131 munud
Cyfarwyddwr: Kathryn Bigelow Prif rannau: Jeremy Renner, Anthony Mackie & Brian Geraghty
Irac. Wedi’u gorfodi i chwarae gêm beryglus yn anrhefn y rhyfel, mae’n rhaid i uned elît o’r fyddin ddod at ei gilydd mewn dinas ble mae pawb yn elyn posib a lle gallai pob gwrthrych fod yn fom farwol.
Sul 27 Tachwedd, 7.30pm
127 HOURS (UDA/DU 2010) Tyst 15, 94 munud
Cyfarwyddwr: Danny Boyle Prif rannau: James Franco, Amber Tamblyn & Kate Mara
Mae mynyddwr yn cael ei ddal dan garreg wrth ddringo ar ben ei hun ger Moab, Utah ac yn mynd i’r eithaf er mwyn goroesi.
Sul 11 Rhagfyr, 7.30pm
ffilm
Mae’n tymor cyntaf o raglen sinema myfyrwyr yn cynnwys pum ffilm llawn sêr gan gyfarwyddwyr enwog, i gyd wedi’u hethol gan fyfyrwyr Prifysgol Bangor. Croeso i bawb.Os ydych yn fyfyriwr a fyddai’n hoffi cymryd rhan yn rhaglennu’r tymor nesaf o’n ffilmiau myfyrwyr, yna ebostiwch ni: info@pontio.co.uk neu drwy alw: 01248 388090.
PAN’S LABYRINTH (Sbaen/Mecsico 2006) Tyst 15, 119 munud
Cyfarwyddwr: Guillermo del Toro Prif rannau: Ivana Baquero, Ariadna Gil & Sergi López
Yn Sbaen ffasgaidd 1944, mae llysferch ifanc i swyddog sadistaidd o’r fyddin yn dianc i mewn i fyd ffantasi iasol ond hudolus.
15
Llun 31 Hydref, 6.30pm bwffe Calan Gaeaf (archebwch yn fuan fel yr isod), 7.30pm cychwyn Neuadd John Pillips, Prifysgol Bangor
FFILM
Tocynnau: £7.50/£5 gostyngiadau Ffôn: 01248 382828 neu archebu arlein: www.pontio.co.uk
Nosferatu Symffoni o Arswyd CLASUR O FFILM FUD YSGYTWOL GYDA SGÔR FYW GAN HARMONIEBAND (Yr Almaen 1922) Tyst PG, 94 munud Cyfarwyddwr: F.W. Murnau Prif Rannau: Max Schreck, Alexander Granach, Gustav Von Wangenheim & Greta Schroder Ffilm eiconig o sinema fynegiadol yr Almaen, ac un o’r rhai enwocaf o’r holl ffilmiau mud, mae Nosferatu: A Symphony of Horror gan F.W. Murnau yn parhau i godi ofn ar gynulleidfaoedd modern gyda grym diysgog ei delweddau. Mae Murnau wedi dal yr elfennau sy’n ymwneud â hunllef di-gwsg ar seliwloid, gan lansio dull a fyddai’n newid sinema am byth. Yn yr addasiad sgrîn cyntaf hwn o Dracula gan Bram Stoker, mae pryniant eiddo syml yn arwain gw ˆr busnes di-ofn i ganol gwlad ofergoelus Transylvania.
16
Mae HarmonieBand Paul Robinson yn ensemble chwe offerynwr amryddawn sydd wedi cyflwyno nifer o sgoriau newydd i ffilmiau mud, ac arwain prosiectau addysgol ar gyfer pobl ifanc. www.harmonieband.com
Mercher 5 Hydref, 1.30pm & 7.30pm Stiwdio Ddrama Coleg Menai, Bangor Tocynnau: £8/£6 gostyngiadau Ffôn: 01248 382828 neu archebu arlein: www.pontio.co.uk
Cwmni Theatr Tangram yn cyflwyno
drama
Crunch! SIOE HWYLIOG I DEULUOEDD AM AFALAU! Sioe sy’n cyfuno straeon a delweddau o afalau o bob rhan o’r byd – o Adda ac Efa i Syr Isaac Newton; William Tell i Snow White; o’r Big Apple i’r Apple Mac – mae Crunch! yn mynd a’r gynulleidfa ar daith ddoniol o ddarganfod a rhyfeddod. Mae’r gymysgedd gyffrous o theatr corfforol, caneuon gwreiddiol, jyglo, masgiau ac adrodd straeon traddodiadol yn ddigon i dynnu dw ˆr i’r dannedd!
Llun gan: Daniel Archer
www.tangramtheatre.co.uk
17
Sadwrn 5 Tachwedd, 7.30pm Neuadd Goffa, Mynydd Llandegai Tocynnau: £7.50/£5 gostyngiadau Ffôn: 01248 382828 neu archebu arlein: www.pontio.co.uk
National Theatre Wales yn cyflwyno
DRAMA PLANT
TheVillage Social DRAMA GOMEDI DDU ADDAS I RAI DROS 15 OED Cyfarwyddwr: Ben Lewis Cyfarwyddwr cerddorol: Dafydd James Ar ôl cyfres o ddigwyddiadau anffodus, mi fydd neuadd y pentref yn cynnal noson i godi arian – noson yn llawn hwyl a sbri wrth i’r gaeaf agosáu. Mwynhewch gerddoriaeth ac adloniant gan bobl talentog lleol cyn i ni groesawu’r prif atyniad – ysbrydegydd sy’n addo’n cysylltu ni gydag ysbrydion o du hwnt i’r bedd… Mi fydd pleserau’r noson yn cynnwys tocyn raffl, diod ysgafn a gloddest waedlyd, wyllt!!
nationaltheatrewales.org 18
Mawrth 8 Tachwedd, 7.30pm Ysgol Tryfan, Bangor
c rash Tocynnau: £6/£4 gostyngiadau Ffôn: 01248 382828 neu archebu arlein: www.pontio.co.uk
Drama Ieuenctid Gymraeg Bwerus (OEDRAN 15+) Drama berthnasol iawn sy’n mynd i’r afael â her bywyd i bobl ifanc heddiw. Drama yn iaith pobl ifanc yw hon, a’u consyrns nhw sy’n cael y sylw. Y man cychwyn i’r awdur – Sêra Moore Williams – oedd gweithio ar gynllun gyda phobl ifanc anfoddog a thrafod pynciau sy’n fyw iawn iddynt – dwyn ceir, yr ysfa am wefr sydyn, pwysau cyfoedion, pwysau rhieni, alcohol, cyffuriau, digartrefedd a thrais. Yr hyn a ddeilliodd oedd darn o waith sy’n rymus, yn fywiog ac yn llawn hiwmor.
drama
Theatr Arad Goch yn cyflwyno
19
Sadwrn 19 Tachwedd, 7.30pm Neuadd John Phillips, Prifysgol Bangor Tocynnau: £10/£7.50 gostyngiadau Ffôn: 01248 382828 neu archebu arlein: www.pontio.co.uk
Anton Chekhov drama
Gyda Michael Pennington
20
SIOE UN-DYN YSBRYDOLEDIG GAN YR ACTOR ENWOG MICHAEL PENNINGTON Yn sioe un-dyn wych Michael Pennington, treuliwn noson yng nghwmni’r awdur Rwsiaidd tuag at ddiwedd ei oes. Mae’n hel atgofion am ei fywyd, ei gyfnod a’i waith; adrodd straeon, siarad am y theatr a’i hiwmor yn ei anwylo i’r gynulleidfa. Mae portread Pennington wedi’i pherfformio led-led y Byd ers y National Theatre Wales yn 1984. Darlledwyd hi mewn dau addasiad ar gyfer y radio a bu’n destun rhaglen ddogfen Omnibws y BBC.
Sadwrn 10 Rhagfyr, 7.30pm Neuadd John Phillips, Prifysgol Bangor Tocynnau: £7.50/£5 gostyngiadau Ffôn: 01248 382828 neu archebu arlein: www.pontio.co.uk
Theatr Bara Caws yn cyflwyno
SIOE GYMRAEG YN CYNNWYS GEORGE A SANDRA O GYFRES S4C C’MON MIDFFILD Cyfle gwych i weld dau wyneb cyfarwydd yn wynebu problemau canol oed. Llion Williams a Gwenno Elis Hodgkins fydd unwaith eto yn chwarae’r cwpwl hoffus o C’Mon Midffild. Yn y gomedi newydd hwyliog yma gan Bryn Fôn mae hi bron yn ‘ddolig ac mae George a Sandra yn disgwyl yr efeilliaid adra o’r coleg. Mae blynyddoedd wedi pasio ers dyddiau disglair George fel streicar i Fryn Coch ac mae eu priodas, fel hen sgidia’ pêl droed George, wedi mynd braidd yn sych a di-sglein. Mae hi’n dipyn o greisis canol oed ar y ˆ yl y Baban nesáu oes ‘na obaith i ddau, ond wrth i W betha’ wella?
drama
C’mon Mid-laiff
www.theatrbaracaws.com 21
Iau 29 Medi – Sul 2 Hydref, 11am-6pm Hen Lain Fowlio, Bangor Tocynnau: £3 ar y drws
22
LUMINARIUM 'CADEIRLAN O AER’ I GYFFROI’R SYNHWYRAU
Llun gan: James Stephenson
HWYL PLANT & THEULU
Architects of Air yn cyflwyno
*Mae’r Luminarium yn addas ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn ac i bobl gydag anhawsterau symud. Bydd rhaid i blant o dan 16 fod gyda oedolyn (mwyafrif o 4 plentyn yr oedolyn).
Dewch i mewn i fyd hudolus y Luminarium; adeiledd labyrinth enfawr o dwnelau a chromenni ceudyllog yn llawn o liwiau a golau disglair. Dychmygwch antur mewn gorsaf ofod o’r dyfodol neu archwilio corff dynol! Caiff y Luminarium ei werthfawrogi gan pob oedran a gallu.* Felly, tynnwch eich ‘sgidiau, cydiwch mewn map a dewch am antur! Bydd gorymdaith arbennig, yn cynnwys gwaith celf gan bobl ifanc Tyˆ Cegin, yn dathlu’r Luminarium ar ddydd Sadwrn 1af Hydref, ynghyd â digonedd o weithgareddau hwyliog i’r teulu. www.architects-of-air.com
Llun gan: Richard Rosalion
Sadwrn 26 Tachwedd, 7.30pm Neuadd John Phillips, Prifysgol Bangor Tocynnau: £8.50/£7 gostyngiadau Ffôn: 01248 382828 neu archebu arlein: www.pontio.co.uk
A Christmas Carol Wedi’i haddasu a’i hadrodd gan Mike Maran ADDASIAD CERDDOROL O STORI NADOLIG GLASUROL GAN CHARLES DICKENS Cerddoriaeth gan Alison Stephens, perfformiad gan Norman Chalmers (consertina) a chyfarwyddo gan Patrick Sandford Y storïwr hudol Mike Maran a chynhyrchiad newydd o’r ffefryn tymhorol gan Charles Dickens. Mae’n Noswyl Nadolig ac mae Scrooge yn druenus, yn unig ac yn ofnadwy o anhapus. Mae’n mynd i’w wely, ac yn treulio noson gythryblus gyda thri ysbryd ac yn deffro ar fore’r Nadolig yn benderfynol o newid ei ffyrdd. Stori sy’n ein plymio i dywyllwch yr enaid dynol, cyn ein codi i fyd llawn llawenydd.
HWYL PLANT & THEULU
Mike Maran Productions yn cyflwyno
www.mikemaran.com 23
Gwener 16 Rhagfyr, 7.30pm Sadwrn 17 Rhagfyr, 1pm & 7.30pm Neuadd John Phillips, Prifysgol Bangor
HWYL PLANT & THEULU
Tocynnau: £10/£7 gostyngiadau Ffôn: 01248 382828 neu archebu arlein: www.pontio.co.uk
24
Cwmni Mega’n cyflwyno
Madog a’r Amerig PANTOMEIM GYMRAEG YN LLAWN DRAMA, LLIW, CÂN A DAWNS (OEDRAN 4+) Ysgrifennwyd gan Dafydd Emyr a Gwyneth Glyn Ar ôl mordaith hir drwy stormydd enbyd, mae’r tywysog Madog yn glanio ar draeth anghysbell; y dyn gwyn cyntaf erioed i weld a darganfod yr Amerig. Ond gwlad pwy ydi hi a oes rhywun arall yn byw yn y tir? Wedi ei groesawu gan yr Indiaid Mandan, mae Madog yn disgyn dros ei ben a’i glustiau mewn cariad â merch y Brenin, ond mae’n darganfod yn fuan bod llwyth y Mandaniaid wedi’u melltithio. Be all Madog, ein harwr o Gymro ei wneud i achub y dydd? Pantomeim newydd sbon yn llawn cyffro, antur a gwrthdaro. Dewch yn llu!
Cerddoriaeth ym Mangor yw cyfres gyngherddau amlycaf gogledd-orllewin Cymru, gyda pherfformiadau gan artistiaid proffesiynol a’r doniau gorau o blith y myfyrwyr, bron bob wythnos yn ystod y tymor Prifysgol. Am fwy o fanylion ac i brynu tocynnau ewch i: www.bangor.ac.uk/cyngherddau
RAPHAELA PAPADAKIS (SOPRANO) & SHOLTO KYNOCH (PIANO)
XENIA PESTOVA (PIANO)
Sadwrn 24 Medi, 7.30pm Neuadd Powis, Prifysgol Bangor
Messiaen: Detholiadau o Catalogue d’Oiseaux
Bydd y soprano ifanc o Loegr, Raphaela Papadakis, yn cyflwyno rhaglen hynod o amrywiol o ganeuon Ffrangeg ac Almaeneg, yn cynnwys gosodiadau gan Schubert o ganeuon gan Seidl a Leitner, ynghyd â Banalités bywiog Poulenc, a detholiad o ganeuon cabaret gan Schoenberg. A hithau wedi ennill Cystadleuaeth Cân Seisnig y Guildhall yn 2010, cafodd perfformiadau diweddar Raphaela fel Pamina yn Y Ffliwt Hud gyda Hamstead Garden Opera ganmoliaeth uchel. Cyfeilir hi heno gan y pianydd Sholto Kynoch, sy’n gyfarwyddwr ˆ yl Lieder Rhydychen ac yn Gymrawd ar W Ymchwil er Anrhydedd ym Mhrifysgol Bangor.
Ravel: Miroirs
Iau 29 Medi, 8pm Neuadd Powis, Prifysgol Bangor
Gweithiau newydd gan Andrew Lewis, Scott Wilson & John Young Pennaeth Perfformio newydd Prifysgol Bangor, Xenia Pestova, yn cyflwyno ei chyngerdd gyntaf ym Mangor. Gan hanu o Rwsia, mae Xenia wedi byw a gweithio yn Seland Newydd, y DU, yr Iseldiroedd, Ffrainc a Chanada. Enillodd y Wobr Gyntaf yng Nghystadleuaeth Biano Ryngwladol Montsalvatge yn Girona, Sbaen yn 2004 a rhyddhau CD o Mantra Stockhausen gyda chyd-bianydd, Pascal Meyer, ar label Naxos. Mae’r datganiad heno yn cynnwys campweithiau piano gan Ravel a Messiaen, ynghyd â cherddoriaeth newydd ar gyfer piano ac offerynnau electronig.
Raphaela Papadakis
Xenia Pestova
CERDDORIAETH YM MANGOR
CERDDORIAETH YM MANGOR Cyfres Cyngherddau
Llun gan: Andrew Lewis
25
CERDDORIAETH YM MANGOR
Mae Ensemble Cymru yn dathlu ei 10fed penblwydd yn 2011 gyda’i blwyddyn fwyaf uchelgeisiol hyd yma. Yn perfformio ystod eang o gerddoriaeth siambr i gynulleidfaoedd gan gynnwys pobl ifanc a phlant, mae’r Ensemble yn perfformio’n rheolaidd mewn lleoliadau ar draws Gogledd Cymru. Iau, 6 Hydref, 8pm Neuadd Powis, Prifysgol Bangor Ravel: Introduction et Allegro Mendelssohn: Pumawd Llinynnol Rhif 2 yn B meddalnod fwyaf, Op. 87 Gareth Glyn: Mabinogi Huw Watkins: Gig Bax: Concerto ar gyfer Ffliwt, Obo, Telyn a Phedwarawd Llinynnol Jonathan Rimmer (ffliwt), Peryn Clement-Evans (clarinét), Huw ClementEvans (obo), Deian Rowlands (telyn), Marcus Barcham-Stevens a Florence Cooke (ffidlau), Oliver Wilson a Sara Roberts (fiolas), Heather Bills (cello) & Dewi Ellis Jones (offerynnau taro)
Perfformiad cyn y cyngerdd o gerddoriaeth ar gyfer clarinét unawdol gan Sioned Roberts. Mae seiniau hyfryd chwythbrennau a thelyn yn ymuno â phumawd o linynnau am y gyntaf o dair cyngerdd gan Ensemble Cymru y tymor hwn. Mae’r rhaglen yn cychwyn ac yn gorffen â dau o’r gweithiau godidocaf ar gyfer ensemble siambr mawr, sef Introduction and Allegro tra phoblogaidd Ravel ar gyfer ffliwt, telyn, clarinét a phedwarawd llinynnol, a concerto siambr Arnold Bax, sydd yr un mor goeth. Rhyngddynt, clywn un o weithiau siambr olaf Mendelssohn, a dau ddarn newydd a chyffrous gan gyfansoddwyr blaenllaw o Gymru.
Ensemble Cymru 26
Sadwrn 15 Hydref, 7.30pm Neuadd Powis, Prifysgol Bangor
NOSON CYFANSODDWYR CANEUON: Gareth DaviesJones & Lizzie Nunnery
Haydn: Pedwarawd Llinynnol yn F fwyaf, Op. 77, Rhif 2
Iau 20 Hydref, 8pm Neuadd Powis, Prifysgol Bangor
Bartók: Pedwarawd Llinynnol Rhif 2
Noson gartrefol yng nghwmni dau gyfansoddwr llawn addewid ym myd caneuon. Gan hanu o dref Bangor yng Ngogledd Iwerddon, mae Gareth Davies-Jones wedi dangos gonestrwydd, dyfnder ac angerdd gyda’i ganeuon. Mae Gareth yn hen gyfarwydd â pherfformio, yn weithgar mewn achosion, ac yn ymgyrchydd, gan ddefnyddio ei gerddoriaeth yn aml i hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol gyda sefydliadau megis Traidcraft. Mae Lizzie Nunnery yn llais newydd a swynol ym myd canu gwerin yng Ngwledydd Prydain ac wedi mynd o nerth i nerth, ers iddi ryddhau ei halbwm cyntaf Company of Ghosts, yn 2010. Mae hi wedi perfformio mewn gwyliau gwerin ar draws y DU, ac mae hefyd yn ddramodydd arobryn, a’i gwaith diweddaraf ar gyfer llwyfan, Intemperance yn cael adolygiad 5-seren ym mhapur y Guardian. Darlledwyd ei drama â chaneuon, The Singer, ar BBC Radio 4 yn 2008, a bu’n cyd-gyfansoddi’r trac sain ar gyfer ei ffilm fer Monkey Love, a ddarlledwyd ar Sianel 4 ym 2009.
Brahms: Pedwarawd Llinynnol yn A leiaf, Op. 51 Rhif 2 Zara Benyounes & Emily Holland (ffidlau), Sara Roberts (fiola) & Kim Vaughan (cello) Mae’n bleser gennym groesawu Pedwarawd Benyounes yn ôl. Cyfarfu aelodau’r pedwarawd ifanc hwn yng Ngholeg Cerdd Brenhinol y Gogledd yn 2007 ac, oddi ar hynny, maent wedi perfformio’n eang yn Lloegr, Yr Alban, Iwerddon, Y Swistir a Ffrainc. Mae’r cyngerdd yn cynnwys tri o’r gweithiau godidocaf ar gyfer pedwarawd llinynnol, yn cynnwys y pedwarawd olaf un a gwblhawyd gan Haydn. Gwener 14 Hydref, 1.15pm Neuadd Prichard-Jones, Prifysgol Bangor Bydd y pedwarawd hefyd yn rhoi datganiad awr ginio ddydd Gwener yn cynnwys gweithiau tra phoblogaidd gan Schubert a Mozart, ochr yn ochr â gwaith diweddar gan y cyfansoddwr arobryn o Ffrainc, Thierry Escaich.
BILLY THOMPSON: Gypsy Jazz Iau 27 Hydref, 8pm Neuadd Powis, Prifysgol Bangor Billy Thompson (ffidil), Andy Mackenzie (gitâr), Eryl Jones (gitâr) & Greg Robley (bas dwbl) Ac yntau wedi cael hyfforddiant clasurol ers yn 8 oed, byddai meddwl Billy Thompson yn aml yn crwydro oddi ar yr hyfforddiant caeth sy’n ofynnol mewn cerddoriaeth glasurol. Ar ôl astudio cerddoriaeth am flwyddyn ym Mhrifysgol Caerdydd, trosglwyddodd Billy i gwrs gradd mwy ymarferol yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, lle astudiodd gyda’r athrawon Ffidil Barry Haskey a Dona Lee Croft. Yma, bu hefyd yn astudio jazz a chwarae byrfyfyr gyda’r seren biano Keith Tippett. Mae’r cyngerdd heno’n cynnwys detholiad o ddarnau safonol jazz sipsi gan gyfansoddwyr megis Grappelli a Reinhardt, hyd at feistri’r oes fodern ar y genre, Biréli Lagrène a Didier Lockwood. Mae’n addo bod yn noson o gynhesrwydd ac o afiaith, fel ei gilydd.
CERDDORIAETH YM MANGOR
PEDWARAWD BENYOUNES
Am fwy o fanylion ac i brynu tocynnau ewch i: www.bangor.ac.uk/cyngherddau 27
CERDDORIAETH YM MANGOR
CERDDORIAETH GYNNAR BANGOR
CERDDORFA GENEDLAETHOL GYMREIG Y BBC
Sadwrn 5 Tachwedd, 7.30pm Neuadd Powis, Prifysgol Bangor Christian Leitmeir, Thomas Schmidt-Beste & Nicholas Hardisty (cyfarwyddwyr)
Gwener 11 Tachwedd, 7.30pm Neuadd Prichard-Jones
Mae Cerddoriaeth Gynnar Bangor yn parhau i archwilio repertoire y Dadeni a’r cyfnod Baróc. Mae’r ensemble lleisiol yn cyflwyno cerddoriaeth o ddechrau’r 16eg ganrif, o lys Brenhinoedd Ffrainc, yn cynnwys gweithiau gan ddau o gynrychiolwyr cynharaf y genhedlaeth hon – Antoine de Févin ac Antonius Divitus, o ganeuon poblogaidd cwrs hyd at osodiadau o’r Offeren. Mae’r grw ˆp siambr offerynnol yn cyflwyno darnau ensemble anghyfarwydd o Fohemia ac Awstria, a daw’r cyngerdd i ben â cherddoriaeth sy’n arbennig o addas ar gyfer y dyddiad hwn, sef gwaith ysblennydd Handel, Music for the Royal Fireworks.
Am fwy o fanylion ac i brynu tocynnau ewch i: www.bangor.ac.uk/cyngherddau 28
Mathias: Helios, Op. 76 Mozart: Concerto i Obo yn C fwyaf, K. 314 Beethoven: Symffoni Rhif 6 yn F fwyaf, Op. 68 (Bugeiliol) Takuo Yuasa (arweinydd) & David Cowley (obo) Mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn agor ei chyngerdd gyntaf ym Mangor y tymor hwn gyda Helios o eiddo William Mathias, gwaith sy’n galw duw haul yr Hen Roegwyr i gof. Mae golau’r haul hefyd yn rhan o firi gwladaidd y gwerinwyr yn Symffoni Fugeiliol boblogaidd Beethoven, ond ceir yma hefyd rai disgrifiadau mwy dychrynllyd o natur, yn cynnwys storm ffyrnig o fellt a tharanau. Rhwng y ddau waith hyn, bydd prif oböydd y Gerddorfa, David Cowley, yn perfformio Concerto Mozart i Obo, sef un o concerti mwyaf y byd ar gyfer chwythbrennau, yn llawn llawenydd bywiog a thelynegiaeth dawel.
ELECTROACWSTIG CYMRU Iau 17 Tachwedd, 8pm Neuadd Powis, Prifysgol Bangor
Gilles Gobeil
Cyfarwyddwr: Andrew Lewis Mae Electroacwstig Cymru’n croesawu’r cyfansoddwr Québécois Gilles Gobeil a’r berfformwraig Suzanne Binet-Audet ar gyfer rhaglen o gerddoriaeth rymus a chofiadwy Gobeil ar gyfer sain fyw Ondes Martenot ac electroacwstig. Wedi’i ddyfeisio ym 1928, roedd yr Ondes Martenot yn un o’r dulliau cyntaf y gallai cyfansoddwyr ei ddefnyddio i greu sain electronig i wneud cerddoriaeth. Yng ngweithiau Gobeil, mae cân ryfedd, fynegiannol yr Ondes yn cyfarfod â thriniaethau digidol crefftus cerddoriaeth acwsmatig gyfoes, ac wrth i’r rha glen gael ei thryledu ar system sain drochol Electroacwstig Cymru, â 24 o seinyddion, mae hwn yn addo bod yn brofiad swynol a bythgofiadwy.
Sadwrn 26 Tachwedd, 7.30pm Neuadd Prichard-Jones, Prifysgol Bangor Ravel: Ma Mère l’Oye Mahler: Lieder eine Fahrenden Gesellen Webern: Pum Darn ar gyfer Cerddorfa, Op. 10 Nielsen: Symffoni Rhif 3, Sinfonia Espansiva, Op. 27 James Scourse & Andrew Lewis (arweinwyr) Cyngerdd arbennig i ddathlu canmlwyddiant prif adeilad y Brifysgol
CYNGERDD GALA NADOLIG
Iau 1 Rhagfyr, 8pm Neuadd Powis, Prifysgol Bangor
Gwener 16 Rhagfyr, 7.30pm Neuadd Prichard-Jones, Prifysgol Bangor
Arweinydd: John Huw Davies
Côr Siambr Prifysgol Bangor
Bydd Cantorion Monteverdi, sydd wedi’u lleoli ym Mangor ac a sefydlwyd gan gyn-Athro Cerddoriaeth o Brifysgol Bangor, yn perfformio cerddoriaeth gan Monteverdi (Beatus Vir), Purcell (My Heart is Inditing), Mozart (Te Deum), a detholiad o ddarnau Nadoligaidd o Ewrop. Mae Cantorion Monteverdi yn gôr siambr mawr o ryw 60 o aelodau a ddaw o leoedd ar draws Gogledd Cymru, ac sy’n perfformio repertoire eang, o’r Diwygiad hyd heddiw. Mae’r côr wedi teithio’n eang ar draws Ewrop, yn fwyaf diweddar i Latfia.
Corws Prifysgol Bangor Côr a Cherddorfa Cymdeithas Gerdd Prifysgol Bangor Band Cyngerdd Prifysgol Bangor Ymunwch â ni ar gyfer noson arbennig o gerddoriaeth Nadoligaidd gan ensembles corawl ac offerynnol y Brifysgol ei hun, yn cynnwys carolau cynulleidfaol, a pherfformiad o gantata brydferth Gerald Finzi, In Terra Pax.
Llun gan: Stephen Rees
Llun gan: Stephen Rees
Mae Cerddorfa Symffoni’r Brifysgol yn cyflwyno tri darn a gyfansoddwyd ym 1911, sef y flwyddyn yr agorwyd gyntaf Prif Adeilad y Celfyddydau yn y Brifysgol (yn cynnwys Neuadd Prichard-Jones). Mae naws dyner cyfres gerddorfaol ˆ ydd yn Ravel ar stori dylwyth teg Fam W gwrthgyferbynnu â seiniau llym un o weithiau cynnar Webern, a daw’r cyngerdd i ben gyda seiniau cyfoethog Sinfonia Espansiva Nielsen. Mae’r rhaglen hefyd yn cynnwys Lieder Eines Fahrenden Gesellen (Caneuon Fforddolyn) gan Gustav Mahler, a fu farw gan mlynedd yn ôl eleni.
CANTORION MONTEVERDI
Cerddorfa Symffoni’r Brifysgol
CERDDORIAETH YM MANGOR
CERDDORFA SYMFFONI PRIFYSGOL BANGOR
Côr Siambr Prifysgol Bangor
29
Rhaglen Darlithoedd yr RSC 2011-12 Trefnydd: Dr Hongyun Tai
Darlithfa Orton, Adeilad Alun Roberts, Ffordd Deiniol, Bangor Am ddim, dim angen cofrestru
YMLAEN HEFYD
Mae Ysgol Cemeg Prifysgol Bangor yn falch o gyflwyno cyfres o ddarlithoedd cemeg rhad ac am ddim, a noddwyd gan yr RSC. Maent yn agored i’r cyhoedd ac yn cael eu cyflwyno gan arbenigwyr ym mhob maes. Am wybodaeth bellach, ymwelwch ag adran digwyddiadau ar wefan yr Ysgol Cemeg: www.bangor.ac.uk/chemistry neu ebost: chemadmin@bangor.ac.uk. Mawrth 11 Hydref, 4.15pm
Cemeg Gwyrdd a Pholymerau
Yr Athro Steve Howdle Ysgol Cemeg, Prifysgol Nottingham Mawrth 18 Hydref, 4.15pm Dr Tom Lynch BP Mawrth 22 Tachwedd, 4.15pm
Cemeg Carbohydrad a Glycobiology Moleciwlaidd Dr Bruce Turnbull Ysgol Cemeg Prifysgol Leeds
Mawrth 29 Tachwedd, 4.15pm Dr A.L. Johnson Prifysgol Bath
Cemeg Anorganig
Mawrth 24 Ionawr 2012, 4.15pm
Chemig Nanotubes a Fullerenes
Dr Andrei Khlobystov Athro Cysylltiol, Adran Cemeg, Prifysgol Nottingham Mawrth 14 Chwefror 2012, 4.15pm
Cemeg Deintyddiaeth
Yr Athro John Nicholson Prifysgol Greenwich 30
Ymateb Chwarelwyr Gogledd Cymru Sadwrn 19 Tachwedd (ysgol undydd) Prif Adeilad y Celfyddydau, Prifysgol Bangor I ddathlu agoriad Prif Adeilad y Brifysgol ym Mangor yng Ngorffennaf 1911, a phwysigrwydd rhan chwarelwyr Gogledd Cymru yn sefydlu’r Brifysgol, cynhelir Ysgol Undydd i astudio arwyddocâd addysg ym mywydau’r chwarelwyr a’u teuluoedd. Bydd y siaradwyr yn cynnwys Yr Athro Merfyn Jones, Dr David Gwyn, Marian Gwyn a Menna Baines. Bydd cyfleusterau cyfieithu ar gael. Am wybodaeth bellach cysylltwch ag Einion Wyn Thomas yn yr Adran Archifau & Chasgliadau Arbennig ar: 01248 382966 neu drwy ebost: e.w.thomas@bangor.ac.uk.
Yng Ngroeg hynafol man cyhoeddus oedd yr agora lle’r oedd materion gwleidyddol a syniadau athronyddol yn cael eu trafod. AGOR-A! Rhaglen newydd o ddigwyddiadau o drafodaeth agored ym Mangor dan arweiniad y cadeirydd trafod profiadol Dr Jochen Eisentraut. Ar ôl dau ddigwyddiad cyffrous, ysgogol a llwyddianus am y Gwanwyn Arabaidd a Marcsiaeth y llynedd, bydd AGOR-A! yn cynnig rhaglen o drafodaethau pynciol, rhyngddisgyblaethol a difyr yn 2011-12. Mae’r flwyddyn yn dechrau gyda phwnc a ffrwydrodd dros y cyfryngau yn ystod yr haf – y cyfryngau! Yn sgîl y sgandal o hacio ffôn byddwn yn gofyn:
(Sut) dylai ein cyfryngau gael eu rheoli?
YMLAEN HEFYD
Angen am Addysg
Mawrth 4 Hydref, 7pm Darlithfa 3, Prif Adeilad y Celfyddydau, Prifysgol Bangor
A yw aml-ddiwylliannaeth yn syniad da? Mawrth 8 Tachwedd, 7pm Darlithfa 1, Prif Adeilad y Celfyddydau, Prifysgol Bangor
Ymunwch â’r ddadl, croeso i bawb! 31
Cwrs Paratoi Celfyddyd Gain
YMLAEN HEFYD
Prifysgol Bangor, Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes
32
Cychwyn Gwener 30 Medi, 10am-5pm Hiraethog 1, Safle’r Normal, Bangor Cychwyn Mawrth 4 Hydref, 10am-5pm Neuadd Goffa, Penrhyndeudraeth Cychwyn Mawrth 4 Hydref, 10am-5pm Canolfan Grefft Rhuthun Ydych chi eisiau 'cyrraedd rywle' gyda'ch gwaith celf ond yn teimlo eich bod wedi methu cael hyfforddiant ffurfiol? Neu ydych chi'n artist sy'n teimlo bod angen syniadau a mewnbwn creadigol newydd arnoch? Mae'r cwrs rhagarweiniol/adfywiol amlfodiwl newydd hwn gan yr Ysgol Dysgu Gydol Oes wedi ei gynllunio i'ch helpu i fynd trwy sylfeini prif agweddau ymarfer celfyddyd gain fodern: tynnu lluniau, bywluniadu, peintio, gwaith 2D aml-gyfrwng, printio, rhywfaint o ffotograffiaeth greadigol, a chyflwyniad i amrywiaeth eang o'r technegau 3D sydd ar gael i artistiaid modern, gan gynnwys celf amgylcheddol, gyda hanes celf yn sail i bob rhan o'r pwnc. Nid oes adegau diflas byth!
Rhai o'r manteision eraill fydd: cael tiwtoriaid cefnogol, amyneddgar i roi hyder i chi ar bob cam o'r daith; amserlen hyblyg i siwtio'ch anghenion chi - un diwrnod llawn yr wythnos yn unig am 10 wythnos i bob modiwl, mewn hyd at bedwar gwahanol ganolfan gymunedol ar draws Gogledd Orllewin Cymru. Ni fydd raid i chi ymrwymo'ch hun i'r cwrs cyfan - mae pob modiwl yn hunangynhaliol, fel y gellwch gychwyn gydag un modiwl cyn penderfynu a ydych am barhau ai peidio. Mae cyfle, os dymunwch, i anelu at radd mewn Celfyddyd Gain. Cewch ymuno â’r Cwrs Paratoi Celfyddyd Gain yn mis Hydref, Ionawr neu Ebrill.
Cewch ddisgrifiad o’r cwrs ar ein gwefan: www.bangor.ac.uk/ dgo neu drwy ffonio: 01248 382475. Cofrestrwch ar y cyrsiau yma o flaen llaw i sicrhau y byddant yn rhedeg!
BEDS yn cyflwyno
Student Cut Films yn cyflwyno
The 48 Hour Play Project
Limitless!
Sul 16 Medi, 7.30pm Neuadd John Phillips, Prifysgol Bangor
Mawrth 20 Medi, 6pm
Dau ddiwrnod i lwyfannu drama. Wedi ei hysgrifennu, ei chastio, ei hymarfer a’i pherfformio o fewn 48 awr ... oll yn enw adloniant!!
Julius Caesar Gwener 25, Sadwrn 26 & Sul 27 Tachwedd, 7.30pm Neuadd John Phillips, Prifysgol Bangor Tocynnau: £5/£4 NUS brynu ar y drws A all dyn da, sy’n bwriadu lles yn unig, wneud niwed mawr? Dyn anrhydeddus yw Marcus Brutus. Ni all ei gyfeillion na’i elynion wadu fod ei weithredoedd yn deillio o’r cymhellion puraf. Fodd bynnag, wrth i rym Caesar dyfu, ac ofnau ynghylch hyd a lled ei uchelgais ledaenu, mae Brutus a’i gymdeithion yn gweld y syniad o lofruddiaeth fel yr unig ffordd i achub y Weriniaeth Rufeinig. A all unrhyw ddyn aros yn onest ac yn ffyddlon o dan y fath amgylchiadau? Ac a all Brutus barhau i weld ei hun yn golofn anrhydedd, fel y gwêl gweddill Rhufain ef?
Ystafell Ddarlith 4, Prif Adeilad y Celfyddydau, Prifysgol Bangor Mae’r digwyddiad hwn am ddim ond bydd seddi ar sail y cyntaf i’r felin. Ymunwch â Student Cut Films ‘Cymdeithas Newydd Orau’ Bangor wrth iddynt groesawu myfyrwyr newydd i’r Brifysgol drwy ddangos y ffilm llawn pryder Limitless.
Ymlaen LISTINGS hefyd
Am ddim
BEDS - cymdeithas theatr myfyrwyr Prifysgol Bangor, sydd yn perfformio dramau wedi’u hysgrifennu a’u cyhoeddi gan fyfyrwyr yn ogystal â rhedeg prosiectau cymunedol. 33
Bangor Comedy yn cyflwyno
Dawns Prifysgol Bangor
ROSTRA yn cyflwyno
ImpSoc Live
Sioe Nadolig
Dick Whittington
Sioe gomedi byrfyfyr!!
Gwe 2 Rhagfyr, 7pm Sad 3 Rhagfyr, 1.30pm & 7pm Neuadd John Phillips, Bangor University
Rhagfyr (dyddiad, amser a lleoliad
Gwener 18 Tachwedd, 7.30pm Neuadd John Phillips, Prifysgol Bangor
Ymlaen hefyd
Tocynnau: £3 brynu ar y drws (dros 15 oed yn unig)
Mae’r gymdeithas comedi byrfyfyr (ImpSoc) yn dychwelyd i gynnig dôs arall o’i chomedi unigryw arobryn. Mae eisoes yn ffefryn mawr gyda dilyniant lleol ymroddedig a dyma’ch cyfle chi i weld y criw’n fyw, yn perfformio gemau sydd wedi’u seilio’n llwyr ar eich awgrymiadau chi, y gynulleidfa. Yn union fel Whose Line Is It Anyway, mae’r sioeau i gyd yn unigryw a heb sgript ac yn sicr o’ch cael chi yn eich dagrau’n chwerthin drwy’r nos! www.facebook.com/bangorcomedy
34
Tocynnau: £4/£3 NUS brynu ar y drws, neu ar gael yn Rathbone o 28 Tachwedd ymlaen i’w prynu o flaen llaw gan diwtor (argymhellir archebu o flaen llaw). Mae’r Sioe Nadolig yn rhoi’r siawns i’n dawnswyr gyflwyno’u gwaith a’r ymdrech a wnaed mewn un tymor yn unig. Cewch eich syfrdanu gan berfformwyr cyffrous a thalentog, gyda dawns mewn gwahanol arddulliau gan gynnwys stryd, bale, tap, jazz, Lladin a ffurfiol, cyfoes a Gwyddelig, i enwi ond ychydig, bydd rhywbeth at ddant pawb.
i'w cadarnhau - dilynwch ROSTRA ar Facebook am newyddion)
Tocynnau: £4/£3 myfyrwyr a’r rhai dros 65/£2.50 plant. Prynu wrth y drws. Mae’n amser yna o’r flwyddyn eto pan fo’r teulu i gyd yn dod at ei gilydd i fwynhau hwyl a sbri’r pantomeim. Y tro hwn fe gawn stori Dic Whittington a’i gath wrth iddo deithio gyda môr ladron i ynys drofanol i drechu King Rat a chael ei enwi’n Faer Llundain.
.
ROSTRA yw cymdeithas actio hynaf a mwyaf cynhyrchiol myfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor gyda gweithgareddau yn cynnwys actio, ysgrifennu, cyfarwyddo ac adeiladu setiau.
Menai Bridge Band Porthaethwy Cyngerdd Blynyddol Gyda Côr Rygbi Gogledd Cymru Tocynnau: £7/£4 gostyngiadau/£18 teulu (dau oedolyn, dau blentyn). Tocynnau ar gael drwy aelodau’r band neu wrth y drws. Cysylltwch â Chris am fwy o wybodaeth: stopher@talk21.com.
Gardd Fotaneg Treborth sêl blanhigion Sadwrn 15 Hydref, 10am-12.30pm Gardd Fotaneg Treborth, Bangor Mynediad am ddim Sêl planhigion: planhigion parhaol, planhigion tyˆ, planhigion llysiau, bwyd cadw.
Ymlaen LISTINGS hefyd
Sadwrn 1 Hydref, 7.30pm Ysgol David Hughes, Porthaethwy
Chris Williams (band), Geraint Robert (côr) & Angela Roberts (cyfeilydd) Mae Menai Bridge Band Porthaethwy wedi bod mewn bodolaeth ers dros gan mlynedd a bellach yn cystadlu yn y drydedd adran yn ogystal â bandiau iau a chanolradd yn cystadlu ar lefel ieuenctid. www.menaibridgeband.org.uk 35
Ymlaen hefyd
RECORDIAU COB The Once
Carrie Rodriguez
Gwener 16 Medi, 8pm Caffi Blue Sky, Bangor
Iau 29 Hydref, 8pm Gwesty Victoria, Porthaethwy
Tocynnau: £10. Ar gael o Recordiau Cob Bangor: 01248 353020 neu Caffi Blue Sky: 01248 355444
Tocynnau: £10. Ar gael o Recordiau Cob Bangor: 01248 353020 neu Palas Print Caernarfon: 01286 674631 Cantores a ffidlwr dawnus dros ben o Austin Texas sydd wedi creu sw ˆn unigryw cryf a synhwyrus yn ei gyrfa byr. Cyfeiliant gan Luke Jacobs ar y gitar a’r gitâr ddur. www.carrierodriguez.com
Gyda harmoniau hyfryd a threfniadau cynnil o ganeuon traddodiadol a chyfoes, mae’r triawd gwerin yma sef Geraldine Hollett, Phil Churchill ac Andrew Dale wedi gwneud argraff arbennig ar fyd cerddorol Canada yn ddiweddar. Enillodd eu CD cyntaf y wobr am ‘Recordiad Gwerin y Flwyddyn’ yng Ngwobrwyon Gwerin Canada 2011. Lleisiau swynol gyda chyfeiliant blasus bouzouki, gitar a bodhran. www.theonce.ca 36
Artistiaid Celf Analog Ddigidol
Eilen Jewell Mawrth 1 Tachwedd, 8.30pm Gwesty Victoria, Porthaethwy Tocynnau: £10. Ar gael o Recordiau Cob Bangor: 01248 353020 neu Palas Print Caernarfon: 01286 674631 Mae’r gantores o Boston Eilen Jewell wedi ei chymharu yn ffafriol â Lucinda Williams, Gillian Welch a Peggy Lee. Yn sicr mae ei chyfuniad rockabilly, gwerin a chanu gwlad, yn ogystal â llais dwys Eilen, a gitâr wefreiddiol Jerry Miller yn gwneud y sw ˆ n yn glasur. www.eilenjewell.com
o a
Mae Perygl o Sioc yn gyfres barhaus o gyngherddau a digwyddiadau sy’n canolbwyntio ar ddiwylliant cerddoriaeth electronig, celf sonig a'r datblygiad rhyngwyneb rhwng technoleg a pherfformiad. Bydd cyngerdd Artistiaid Celf Analog Ddigidol yn archwilio’r cysylltiad rhwng technoleg, y perfformiwr, y cyfansoddwr a’r gwrandäwr ac yn archwilio os yw’r rhaniadau hyn hyd yn oed yn cadw eu hystyr cychwynnol. Ym Mherygl o Sioc anelwn i greu ansawdd uchel o ddigwyddiadau deniadol AM DDIM gyda cherddoriaeth gyfoes a rhoi cyfleoedd perfformio i waith trawiadol, newydd ac arloesol. www.riskofshock.org
Ymlaen hefyd
Gwener 21 Hydref, 7.30pm Neuadd Powis, Prifysgol Bangor
37
AMGUEDDFA & ORIEL GWYNEDD Bangor Ar agor: Maw-Gwe 12.30-4.30pm, Sad 10.30am-4.30pm
Ymlaen hefyd
Naws gan Bethau 30 Gorffennaf-29 Hydref Teflir golwg ar fywyd llonydd a ffigurau i ddatgelu grym gwrthrychau. Gwelir bywyd llonydd fel gwaith celf sy’n darlunio gwrthrychau difywyd gan amlaf, ond maent yn dipyn mwy na dim ond powlenni ffrwythau neu fâs yn llawn blodau. Mae enghreifftiau o waith gan artistiaid cyfredol ac o gasgliadau celf yn eich gwahodd i edrych arnynt mewn mwy o fanylder.
Uchod: Llun gan Jenny Jones Uchod-chwith: Still Life with Fish gan Brenda Chamberlain Chwith: Portrait of Lemons and Pomegranates gan Alan Salisbury
38
www.gwynedd.gov.uk/amgueddfeydd
Cyfres Cyfyngedig
Clyd a Chynnes
5 Tachwedd-7 Ionawr
5 Tachwedd-7 Ionawr
Arddangosfa o brintiadau Cyfres Cyfyngedig gan amryw artist/gwneuthurwr printiadau. Ar werth bydd esiamplau o waith argraffu toriadau leino, ysgythru, engrafu pren, sgrin sidan a colograff gan artistiaid megis Ian Phillips, Eleri Jones, Jeb Loy Nichols, Colin SeePaynton ac eraill.
Uchod: Cwpan Bach gan Eleri Jones
Dosbarth Monoteip Amlgyfwng
Dosbarth Gweithio a Gwifren
Gyda Su Walls
Gyda Ann Catrin Evans & Angela Evans
Sadwrn 8 Hydref, 11am-4pm £15, archebu lle yn anghenrheidiol. Cysylltwch â Gwawr Wyn Roberts ar 01286 679721 neu drwy ebost: GwawrR@gwynedd.gov.uk. Arbrofwch â gwahanol ddulliau o greu argraffiadau monoteip gan ddefnyddio amrywiol dechnegau a gwrthrychau.
Sadwrn 10 Medi, 11am-4pm Parc Glynllifon, Ffordd Clynnog, Caernarfon £15, archebu lle yn anghenrheidiol. Cysylltwch â Gwawr Wyn Roberts ar 01286 679721 neu drwy ebost: GwawrR@gwynedd.gov.uk.
Ymlaen hefyd
Mynediad am ddim
Cyfle i flasu dwy arddull gwahanol o weithio â gwifren a metalau yng nghwmni dwy artist blaenllaw.
Uchod: Enghraifft o waith gwifren Chwith: Print monoteip gan Su Walls
39
Uned Celfyddydau Cymunedol
Ymlaen hefyd
Cyngor Gwynedd Dysgu • Mentro • Mwynhau
Medal, Coron a Chadair ar Fws Cyfarfod Blynyddol Fforwm Celfyddydau Gwynedd Taith fws lenyddol o Fethesda i Ben Llŷn Dydd Sadwrn, 24 Medi, 2011 Yn nghwmni buddugwyr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. Bydd Elin Gwyn, Llŷr Gwyn Lewis a Llŷr Titus yn darllen pytiau o’u gwaith buddugol. Tywysydd y daith fydd Karen Owen. Addas ar gyfer dysgwyr. Yn ogystal, cynigir yr opsiwn i gael pryd o fwyd a thocyn i wylio Sioe Glybiau Theatr Bara Caws ‘Un Fach Flewog’ gyda’r nos.
Gweithiai Uned Celfyddydau Cymunedol Cyngor Gwynedd i hyrwyddo, cefnogi a datblygu gweithgarwch celfyddydol yng nghymunedau’r Sir. Mae celfyddydau cymunedol yn cynnig cyfleoedd i bawb gyfranogi yn y celfyddydau beth bynnag yw eich profiad, oed neu gefndir. Mae’r Uned yn cydweithio ag amrediad eang o grwpiau cymunedol a gwirfoddol, mewn amrywiol feysydd drwy Wynedd gyfan. Darperir grantiau, cyngor a rhaglen o weithgareddau a phrosiectau. Ymwelwch â’n gwefan www.gwynedd.gov.uk/celf neu mynwch gopi o’n llyfryn drwy ffonio Gwawr Wyn Roberts, Swyddog Datblygu Celfyddydau Cymunedol ar: 01286 679721, ebostiwch: GwawrR@gwynedd.gov.uk.
Amserlen y daith fws: Gofod parcio ar gael yng Nghlwb Rygbi Bethesda. 2:30yp - Dal y bws tu allan i Spar, Bethesda. 2:55yp - Llŷr Gwyn Lewis yn ymuno â’r daith, Caernarfon. 3:40yp - Llŷr Titus yn ymuno a’r daith, Pwllheli. 4:00yp - Paned, teisen a thrafodaeth yn Y Daflod, Tafarn y Fic, Llithfaen. 5:30yp - Gadael Llithfaen 6:30yh - Cyrraedd nôl ym Methesda.
Gyda’r nos pryd a sioe: Pryd o fwyd a chyfle i weld sioe glybiau Bara Caws - ‘Un Fach Flewog’, Clwb Rygbi Bethesda.
Pecyn pnawn yn unig - £10 yr un Pecyn taith pnawn, pryd a sioe Bara Caws - £20 yr un.
Cysylltwch i archebu lle: (01286) 679465 GwenLasarus@gwynedd.gov.uk neu (01286) 676721 AnnesSion@gwynedd.gov.uk www.gwyneddgreadigol.com
40
41
Ymlaen hefyd
Sut i archebu
Sut i archebu
Awgrymwn eich bod yn archebu tocynnau o flaen llaw. A fyddech cystal â gwirio manylion digwyddiadau unigol am amseroedd, prisiau, manylion archebu a lleoliadau.
AR Y FFÔN Gall archebion i ddigwyddiadau Pontio (y rhai sydd wedi’u rhestru ar dudalen dau a tri) gael eu gwneud dros y ffôn lle y dynodir ar: 01248 382828. Gweithredir ein llinell docynnau mewn partneriaeth â Chanolfan Mileniwm Cymru a darperir gwasanaeth llawn dwyieithog o ddydd Llun - ddydd Sadwrn, 10am-6pm. YN BERSONOL Gellir archebu tocynnau o flaen llaw yn bersonol lle y dynodir yn unig. Bydd unrhyw docynnau sydd heb eu gwerthu o flaen llaw ar gael i’w prynu wrth y drws. ARLEIN Bydd modd archebu tocynnau i ddigwyddiadau
42
detholedig Pontio (y rhai sydd wedi’u rhestru ar dudalen dau a tri) arlein: www.pontio.co.uk. Bydd y gwasanaeth hwn yn terfynnu bedair awr cyn y digwyddiad, neu am 5pm y diwrnod blaenorol os yw’r digwyddiad ymlaen yn y bore.
GOSTYNGIADAU Ble bynnag y nodir ‘gostyngiadau’ ar gyfer digwyddiadau Pontio, mae’r canlynol wedi eu cynnwys yn y diffiniad hwnnw: plant dan 16 oed, ymwelwyr ag anabledd, myfyrwyr a’r rhai dros 65.
TÂL POST Ni fydd ffi yn cael ei godi wrth archebu tocynnau, ond bydd tâl post o 50 ceiniog yn cael ei ychwanegu pe baech angen i ni yrru’ch tocynnau drwy’r post. Er mwyn sicrhau bod tocynnau sydd angen eu postio yn cyrraedd mewn pryd bydd rhaid eu harchebu o leiaf 10 diwrnod ymlaen llaw. Wedi hyn, bydd pob tocyn sydd wedi’i archebu o flaen llaw ar gael i’w gasglu wrth y drws.
AD-DALIADAU Yn anffodus, unwaith y bydd tocynnau wedi’u prynu, ni allwn eu had-dalu oni bai i’r perfformiad gael ei ddileu. Bydd unrhyw docynnau sydd heb eu gwerthu o flaen llaw ar gael i’w prynu wrth y drws. MYNEDIAD ‘Rydym wedi ymroi i wneud mynediad i’n digwyddiadau mor hwylus â phosib. Cysylltwch â ni pe bae gennych unrhyw ofynion
mynediad arbennig ar: 01248 388090 neu ebost: info@ pontio. co.uk. SUT I’N CANFOD Mae’r mwyafrif o ddigwyddiadau Pontio yn cael eu cynnal mewn lleoliadau hyd a lled Bangor, ond mae perfformiadau hefyd yn cael eu llwyfannu’n rheolaidd o fewn tri deg milltir i’r Ddinas, o Ynys Môn i Ben Llyˆn, Dyffryn Conwy ac arfordir Gogledd Cymru. Cysylltwch â ni am fwy o fanylion ynglyˆn â lleoliad penodol ar: 01248 388090 neu ebostiwch ni: info@pontio.co.uk. ‘Rydym yn argymell i chi gyrraedd y digwyddiadau hyn 30 munud cyn yr amser cychwyn a hysbysir.
FFOR DD
ME IR
ION
BBC FA
HW
Neuadd Powis DD
EN
Neuadd John Phillips ST
RY
OR FF
IW S IL
EG
A5
DD OR FF
YC OL
Neuadd Prichard-Jones
FF OR DD
Prif Ddarlithfa’r Celfyddydau
D
Y
LO N
M&S AL
LT
FF OR DD
AI
DD OR FF
YD YR ALL T
PE NR
L IO IN DE D RY ST
R W FA
RH
OD
FA M
EN
STR
A5
HE OL VIC TO
ON G L A N R AF
RI A
MORRISONS OL
Stiwdio Ddrama Coleg Menai
CLOC
A5
Taferna Groegaidd
NI
WR D FA
Y STR
DE I FF OR DD
A5
FFO
FA R
RA R
A5
Clwb Rheilffordd
RD
Clwb Peldroed BANGOR CITY FF OR DD
FA RR
V IL
LE
Recordiau Cob FA W R
FF
DD OE DD RI
K AC DS
ST RY D
FF OR DD
ERG YBI
DD OR FF
FFORDD C A
Lluniau gan Ben Walker (www.bpwalker.co.uk)
G
E OL YC
Sut i archebu
ON DE
DD CAERGY BI OR FF
Gwynedd Museum & Art Gallery
AR
GORSAF
43