Canolfan Celfyddydau ac Arloesi, Bangor Rhaglen Medi-Rhagfyr 2016 1
Croeso i Pontio Ciosg Copa Dydd Llun i ddydd Gwener 8.30am – 5.30pm (yn ystod y tymor yn unig)
Oriau agor Dydd Llun i ddydd Sadwrn 8.30am - 11.00pm Dydd Sul 12.00pm - 8.00pm
Bar Ffynnon Dydd Llun i ddydd Sadwrn 11.00am – 9pm*. * Bydd Bar Ffynnon ar agor tan 11:00pm pan gynhelir perfformiadau gyda'r nos Dydd Sul 12.00pm – 6pm
Bwyty Gorad Dydd Llun – i ddydd Sadwrn 8.30am – archebion bwyd olaf am 9.00pm Dydd Sul 12.00pm – 6.00pm Caffi Cegin Dydd Llun i ddydd Sadwrn 8.30am – 6.00pm Dydd Sul 12.00pm – 6pm
Tocynnau Ar-lein www.pontio.co.uk 01248 38 28 28 info@pontio.co.uk
Llinellau ffôn ar agor Dydd Llun i ddydd Sadwrn 10.00am - 8.30pm Dydd Sul 12.00pm - 6.00pm Cofrestrwch i gael y newyddion diweddaraf ar www.pontio.co.uk @TrydarPontio PontioBangor Pontio_Bangor PontioBangor Os hoffech gopi o destun y rhaglen yma mewn print bras neu fersiwn clywedol, cysylltwch â ni ar 01248 388 421
Mae’r wybodaeth yn gywir adeg argraffu Rhif elusen cofrestredig: 1141565
Cynllun Seddi Theatr Bryn Terfel
llwyfan
d— dd— e— f— ff— g— ng—
h— l— ll— m— balconi lefel 1 1a— 1b— balconi lefel 2 2a— 2b—
2
2ch—
c— ch—
1dd— 1d—
r— ph—
n— p—
1c— 1ch—
2c—
a— b—
Cipolwg Pontio Medi - Rhagfyr 2016 Medi Sadwrn 10 Gwener 16 Sadwrn 17 Mawrth 20 Sadwrn 24 Sul 25 Mawrth 27 Gwener 30 Hydref Sadwrn 1 Mercher 5 Iau 6 Iau 6 Gwener 7 Sadwrn 8 Mawrth 11 Mercher 12 Gwener 14 Mawrth 18 Iau 20 Sadwrn 22 Sul 30 Tachwedd Mercher 2 Iau 3 Gwener 4 Sadwrn 5 Mercher 9 Gwener 11 Sadwrn 12 Sadwrn 12 Mawrth 15 Mercher 16 Iau 17 Gwener 18 Gwener 18 Sadwrn 19 Sadwrn 26 Sul 27 Mercher 30 Rhagfyr Iau 1 Gwener 2 Sadwrn 3 Mercher 7 Iau 8 Gwener 9 Sadwrn 10 Sadwrn 10 Sul 11 Iau 15 Gwener 16 Sadwrn 17 Sul 18
Amser 11am a 2pm 7.30pm 1pm 8pm 12pm a 3pm 1-2pm 7.30pm 8pm
Unrhyw Ddiwrnod Folk / Taith Hydref 2016 Folk / Taith Hydref 2016 (Perfformiad Matinee Rhyngweithiol i’r Teulu ) Comedy Central Live Webster & Jones: Canllaw Mawr i Gymru Fach Platfform: Anne Denholm Spine Cabaret Pontio: Black Umfolosi
Tud 3 4 4 6 7 7 9 10
7.30pm 7.30pm 7.30pm 8pm 8pm 11am a 2pm 7.30pm 7.30pm 8pm 8pm 7.30pm 7.30pm 3pm - 4pm
Cyngerdd Dathlu Côr Seiriol yn 25 A Good Clean Heart A Good Clean Heart Christy Moore Cabaret Pontio: We Banjo 3 Mavis Sparkle Merch yr Eog Merch yr Eog Rich Hall: Live 2016 Comedy Central Live Unseen Preludes: Denis Smalley yn 70 Romeo a Juliet Ensemble Cymru @Pontio
12 13 13 14 15 16 17 17 18 19 20 22 23
7.30pm 7.30pm 7.30pm 2pm 7.30pm 7pm 3pm 6.45pm 8pm 7.30pm 7.30pm 7.30pm 8pm 8pm 11am a 2pm 3pm 7pm
Cân yr Adar / Birdsong Tape Face Opus 7 Opus 7 Phoenix Piano Trio Snow White Snow White Teyrnged i Max Comedy Central Live Macbeth Director’s Cut Tŷ Bach Twt Elgar a Brahms gyda BBC NOW Cabaret Pontio: Chango Spasiuk Argentinian Rhys a Meinir BBC NOW Dilyn Fi Gloria! gydag WNO BLAS yn cyflwyno...
24 25 26 26 27 29 29 30 31 31 32 33 34 35 36 37 38
8pm 8pm 7.30pm 12.30pm 10am a 12.45pm 10am a 12.45pm 11am - 4pm 8pm 7.30pm 6.30pm 12.30pm a 6.30pm 1pm a 6.30pm 7.30pm
Rob Beckett - Mouth of the South Cabaret Pontio: Emily Portman & The Coracle Band Hogia’r Ddwylan yn Dathlu 50 Blodeuwedd Blodeuwedd Blodeuwedd Caban Hub Meilyr Jones Cerddorfa Symffoni Prifysgol Bangor Raslas Bach a Mawr Raslas Bach a Mawr Raslas Bach a Mawr Llafn o Wawl
39 40 41 42 42 42 43 44 45 46 46 46 47
1
Croeso, a diolch Croeso i raglen newydd sbon llawn i’r ymylon a diolch i chi i gyd am eich cefnogaeth dros y cwta flwyddyn ers i ni agor ein drysau… mae hi wedi bod yn siwrnai o ddarganfod i bawb, gyda dros 35,000 ohonoch wedi mynychu digwyddiadau yn ein tymor agoriadol.
Elen ap Robert tig CyfarwyddwrArtis
I chi sy’n codi rhaglen am y tro cyntaf – mae’r drysau ar agor led y pen yn eich disgwyl – bachwch ar ein cynigion a dewch i mewn am baned, i ymweld â’r Caban, i weld ffilm, drama, sioe syrcas, i fwynhau noson cabaret , gweithdy, cyngerdd neu un o’n sioeau misol i deuluoedd gyda’r plant. Edrychwn mlaen at eich gweld!
Cynigion Arbennig y tymor hwn Rydym yn falch iawn o gynnig ffyrdd newydd o fwynhau mwy o beth sydd gan raglen artistig Pontio i’w gynnig yn y theatr, stiwdio neu sinema – manteisiwch ar ein cynigion arbennig…
Dewch i fwynhau mwy am lai…*
Clwb Comedi Pontio*
2-am-1 Nos Fawrth yn Sinema Pontio **
Mwynhewch fwy o ddrama, dawns neu gerddoriaeth gyda gostyngiad o 20% o’r cyfanswm wrth archebu tocynnau ar gyfer 5 sioe neu fwy ar yr un pryd. Mae’r holl sioeau sy’n gymwys ar gyfer y cynnig yma wedi eu nodi yn y rhaglen gyda symbol ac mae’r cynnig hefyd ar gael ar-lein.
Archebwch dair o’n nosweithiau Comedy Central Live ar yr un pryd gan arbed £££ ar-lein neu ffoniwch 01248 38 28 28
Nos Fawrth yw’r cyfle delfrydol i ddod â ffrind neu aelod o’r teulu i fwynhau sinema Pontio gyda’n cynnig dau am un. Gwnewch noson ohoni a mwynhau pryd o fwyd ym mwyty Gorad.
Pryd Clwb Comedi Byrgyr a Chwrw £10* Bwyty Gorad 2
** 2-am-1 o 1.9.16 *telerau ac amodau llawn *terms and conditions apply www.pontio.co.uk see website for full T&Cs ar wefan Pontio
Teulu
Dydd Sadwrn, 10 Medi 11am a 2pm
Unrhyw Ddiwrnod Stiwdio
teulu
£6/£20 Tocyn Teulu a Ffrindiau
family
(4 person, o leiaf un o dan 18)
Efallai mai hwn fydd y diwrnod olaf yn y lle yma. Efallai bod Max wedi bod yn y lle yma ers peth amser. A heddiw bydd Max yn ein tynnu'n ddyfnach i'r byd cyfrin y mae'n ei rannu gyda'i aderyn ar ei drampolîn. Mae'r byd yma'n lle addfwyn ond torcalonnus. Byd yn llawn o synau rhyfedd, adleisiau o'r gorffennol, ac efallai syniad o'r dyfodol?
Yn ddoniol, hurt a swreal, mae Unrhyw Ddiwrnod yn archwilio archeoleg unigrwydd gyda goleuni, tywyllwch ac, yn y pen draw, lawenydd. Mae Unrhyw Ddiwrnod , sydd wedi ei gosod i sgôr wreiddiol gan Matt Huxley, yn stori gyfareddol sy'n trawsnewid hwrli bwrli gobaith annioddefol gan wneud i'n hysbrydoedd godi i'r entrychion. Oedran: 5+
3
Gweithdy creu wedi ei ysbrydoli gan 'Unrhyw Ddiwrnod' Addas ar gyfer teuluoedd a ffrindiau 12.15pm-1.15pm 3.15pm-4.15pm PL2, Lefel 2 AM DDIM
Dawns
Nos Wener, 16 Medi, 7.30pm Pnawn Sadwrn, 17 Medi, 1pm Perfformiad Matinee Rhyngweithiol i’r Teulu
Llun: Rhys Cozens
Folk / Taith Hydref 2016 Theatr Bryn Terfel Perfformiad nos £14/£12 Matinee Rhyngweithiol i’r Teulu £8/£6 Yn Folk, gan Gyfarwyddwr Artistig Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, Caroline Finn, ceir golwg ddoniol, ond gydag ambell adlais tywyll, ar fywyd a phobl, gan ddefnyddio arddull goreograffig anghyffredin. Gan edrych ar thema deinameg gymdeithasol, mae cymeriadau mewn golygfeydd cyfarwydd a swreal yn dod yn fyw mewn tirwedd cerddorol eclectig a chyfareddol.
Bydd y cwmni hefyd yn perfformio Tuplet gan Alexander Ekman, darn hynod egnïol a doniol lle defnyddir rhythmau bywyd bob dydd, yn ogystal â They Seek to Find the Happiness They Seem, sy'n ddeuawd deimladwy gan Lee Johnston.
4
“... rhyfedd a rhyfeddol fel yr holl fythau a chwedlau gorau." Matthew Bourne, ar Folk” MATTHEW BOURNE, AR FOLK
@ndcwales #NDCWalesFolk Yn y Sioe Brynhawn Ryngweithiol i Deuluoedd, gall teuluoedd gymryd rhan mewn gweithgareddau gyda'r dawnswyr a gwylio perfformiad o Tuplet. Dwyieithog mewn partneriaeth â Dawns i Bawb
Music
Bwyd cartref bendigedig gyda blas o Gymru
Brecwast
Cinio
Swper Cyn Theatr
Swper
Bwyd a Diod
Food & Drink
Prydau Flant
Coctels a Diodydd Egwyl
Archebu: bwydabar@pontio.co.uk | 01248 383826
Ymwelwch â Bwyd a Diod yn pontio.co.uk am ein bwydlen llawn 5
Mae Pontio bwyd a diod yn cael ei reoli a’i redeg gan Adran Gwasanaethau Masnachol y Brifysgol
Comedi
Nos Fawrth, 20 Medi 8pm Comedy Central Live yn cyflwyno
MC: Phil Ellis, Ed Hedges a Rob Deering Stiwdio £10/£8 Ymunwch â ni am noson o chwerthin gyda thri digrifwr ar daith o amgylch Prydain.
Caniateir diodydd yn y stiwdio yn nigwyddiadau Comedy Central Live.
Oedran 16+ Gall y comedïwyr a enwir uchod newid – edrychwch ar y wefan am ddiweddariadau.
Jessica Lloyd-Jones Comisiwn Celf Cyhoeddus Mae Jessica Lloyd-Jones yn cyfuno celfyddyd, gwyddoniaeth a thechnoleg wrth iddi ymchwilio i'r rhyngweithio sy’n digwydd rhwng defnyddiau a phrosesau gyda golau, gan greu gwaith celf a gosodiadau sy'n aml yn ein hannog i brofi'r byd mewn ffordd wahanol. Yn ystod haf 2016, bydd Jessica yn ymgymryd â chyfnod o ymchwil yn Pontio, gan brofi syniadau ar gyfer gosodiadau ac ymyriadau dros dro sy'n cynnwys golau o fewn mannau cyhoeddus Pontio.
Bydd y broses yn llywio cynigion ar gyfer gosodiadau celf gyhoeddus barhaol yn Pontio fydd yn cyfrannu at awyrgylch, hunaniaeth a harddwch yr adeilad. Mae Jessica yn gweithio yn Llangollen ac mae ei gweithiau blaenorol yn cynnwys gosod golau parhaol yng Nghanolfan Grefft Rhuthun a goleuadau pensaernïol sy’n ymateb i wynt ym Mhlas Heli, Pwllheli. Ariennir rhan celf gyhoeddus yr adeiladu cyfalaf gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Phrifysgol Bangor. 6
Pnawn Sadwrn, 24 Medi 12pm a 3pm Dripping Tap Theatre Company
Webster & Jones: Canllaw Mawr i Gymru Fach Tirlun Pontio AM DDIM Ymunwch â Webster & Jones ar eu hynt i orchfygu’r awyr agored! Antur ddigri a chyfranogol sy’n dilyn helyntion y fforiwr dewr, ond anlwcus, a’i dywyswr ffyddlon wrth iddynt archwilio awyr agored Cymru, i gyrraedd
eu nod eithaf: copa mynydd ‘Snowed On’. Mae nod Mr Webster o lunio canllaw i Gymru yn syniad uchelgeisiol o ystyried nad yw ei dywyswr yn gallu siarad gair o Saesneg…
Yn cael ei chyflwyno gan Gwmni Theatr Dripping Tap. Comisiynwyd gan Articulture, gyda Chonsortiwm Celfyddydau Awyr Agored Cymru. Cefnogir gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Dwyieithog
Pnawn Sul, 25 Medi 1-2pm
Anne Denholm Ar y Bont, Lefel 2 AM DDIM Yn wreiddiol o Dde Orllewin Cymru ac o dras Albanaidd, Anne Denholm yw un o delynorion ifanc amlycaf Prydain ac mae'n Delynor Swyddogol i Dywysog Cymru.
y Purcell School, Prifysgol Caergrawnt ac yn yr RAM. Fodd bynnag, mae wedi etifeddu traddodiadau cyfoethog o'r ysgolion Ffrengig a Rwsiaidd o chwarae'r delyn.
Mae Anne wedi cael magwraeth gerddorol gadarn Brydeinig, gan astudio yn Adran Iau Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, yn
Mae galw cynyddol am Anne fel dehonglydd a pherfformiwr cerddoriaeth newydd. Mae wedi bod yn recordio a 7
chwarae gweithiau newydd i delyn unigol er 2006. Bydd yn ôl yn Pontio ar gyfer Cyngerdd gydag Ensemble Cymru ar Hydref 30. Yn ogystal â pherfformio, mae Anne yn hynod frwd ynghylch cerddoriaeth mewn cyddestun cymunedol ac addysg.
sinema cinema
Dangosi ad gyda' r actor C elyn Jon es
Profiadau niferus ar gael Archebwch ar pontio.co.uk 01248 38 28 28
1 Sgrin 7 diwrnod yr wythnos 15 ffilm newydd y mis 70 dangosiad y mis 3D 2 am 1 ar Nos Fawrth* 1 llwyfan ar gyfer goreuon byd opera a theatr byw Cyhoeddir rhaglen Sinema Pontio ar-lein a thrwy raglen fisol a ddosberthir yn lleol ac yn y ganolfan. I dderbyn bwletinau e-bost wythnosol, crëwch gyfrif ar-lein yn www.pontio.co.uk gan rhoi tic wrth ymyl ‘Sinema’ yn y categori diddordebau. Dilynwch y newyddion ffilm diweddaraf ar Trydar @sinemapontio 8
*O Fedi'r 1af 2016. Am delerau ac amodau gweler www.pontio.
Drama
Nos Fawrth, 27 Medi 7.30pm Soho Theatre a Francesca Moody yn cyflwyno
“An outstanding piece of writing" BRITISH THEATRE GUIDE
Spine
“Leaves you exhausted, thrilled and full of potential"
Stiwdio
FEST
£12/£10 myfyrwyr a gostyngiadau Mae Spine yn alwad i'r gad i’n hoes fodern – mae’n hynod ddoniol, ond yn dorcalonnus hefyd. Enillodd y ddrama hon o waith Clara Brennan, sy'n dod i amlygrwydd cyflym fel dramodydd ar Channel 4, wobrau Fringe First a Herald Angel. Mae Spine yn dilyn hynt a helynt cyfeillgarwch ymfflamychol rhwng merch
ifanc ffyrnig a phendant ei daliadau a gwraig weddw oedrannus o Ddwyrain Llundain. Mae Glenda, sy'n bensiynwraig ddireidus, yn benderfynol o adael gwaddol wleidyddol ar ei hôl ac achub Amy o'r domen sbwriel Dorïaidd oherwydd 'there's nothing more terrifying than a teenager with something to say'.
9
Yn y cyfnod yma o doriadau niweidiol a dadrithiad, ydi gwleidyddiaeth wedi anghofio pobl? Allwn ni grafangu grym yn ôl mewn gwirionedd? Mae Amy ar fin cael ei gorfodi i ganfod yr ateb. Canllaw oedran: 16+ Gyda sgwrs ôl-sioe
Cerddoriaeth
Gweithdy Llais a Symudiad
Nos Wener, 30 Medi 8pm
Dydd Gwener, 30 Medi, 12.30-2pm Stiwdio (30 o bobl ar y mwyaf) AM DDIM, ond bydd angen archebu lle.
Cabaret Pontio yn cyflwyno
Black Umfolosi
Gweithdy ysbrydoledig o ganu a dawnsio addas i bob oedran - profiad fydd yn fwynhad pur.
Theatr Bryn Terfel £14/£12 myfyrwyr a gostyngiadau Caiff perfformiadau Black Umfolosi eu hysbrydoli gan ganeuon a dawns traddodiadol eu cartref yn neheudir Affrica, ac mae harddwch a brwdfrydedd eu cyflwyniadau'n ddigymar. Mae'r grŵp wedi dod yn ffefrynnau mawr ymysg pobl
o bob oed a diwylliant ledled y byd, oherwydd eu gallu naturiol i gyfleu angerdd a theimlad yn eu sioeau. Caniateir diodydd yn y theatr mewn digwyddiadau Cabaret. Canllaw oed: 6+
10
“Hwn oedd y perfformiad gorau un yn yr ŵyl. Mae ganddynt ffordd anhygoel o ganu a dawnsio, gyda phresenoldeb eithriadol hardd ar y llwyfan. Roedd eu symlrwydd, eu naturioldeb a'u sirioldeb yn anrheg hynod werthfawr i ni ar ddiwedd yr ŵyl” GŴYL MILAN
Dewch i gwrdd â chriw BLAS! BLAS yw rhaglen ieuenctid Pontio sy’n rhoi’r cyfle i blant a phobl ifanc gael blas o’r celfyddydau. Mae gan BLAS dri dosbarth drama a gynhelir bob nos Lun yn Stiwdio Pontio. Dosbarth Bl 3 a 4 5-6pm Dosbarth Bl 5 a 6 6:15 – 7:15pm Dosbarth Bl 7, 8 a 9 7:30pm – 8:30pm
Dyma ein gwaith diweddaraf: Mae Yna Le – Gyda chwmni syrcas NoFit State ac Ysgol Friars, Glanadda, Glancegin, Hirael a Chanolfan Addysg Y Bont Swyn y Gwyllt – Gyda chwmni syrcas Citrus Arts a Stiwdio Ddawns Bangor Dod â Siwan yn Fyw i bobl ifanc a oedd yn astudio'r ddrama Siwan ar gyfer eu Lefel A
Hefyd mae BLAS yn gweithio gydag ysgolion a’r gymuned.
Disgleirio – Gyda Pirates of the Carabina ac Ysgol Coed Mawr, Glancegin a Theatr Ieuenctid Môn. Cofiwch ddefnyddio #BLAS wrth drydar! Rydym wedi agor rhestr aros i bobl ifanc a hoffai ymuno â BLAS. I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â Mared Elliw Huws Cydlynydd BLAS a Datblygu’r Celfyddydau, Pontio m.huws@bangor. ac.uk neu’r Swyddfa Docynnau drwy ffonio 01248 38 28 28.
Pontio Tocyn Anrheg Anrheg berffaith ar gyfer unrhyw achlysur Gydag amrywiaeth eang o ddigwyddiadau ar gael yn Pontio, o ddrama i syrcas, cerddoriaeth byd a gigs i bale, panto, ffilm a mwy,
prynwch docyn anrheg am £10, £20 neu £50. Gallwch archebu oddi ar ein gwefan, 11
www.pontio.co.uk, dros y ffôn ar 01248 38 28 28 neu ewch draw i’n Swyddfa Docynnau – bydd rhywbeth at ddant bawb.
Cerddoriaeth
Nos Sadwrn, 1 Hydref 7.30pm
Cyngerdd Dathlu Côr Seiriol yn 25
Steffan Lloyd Owen
Jâms Col
eman
Theatr Bryn Terfel £15 Dewch i ddathlu penblwydd Côr Seiriol yn bump ar hugain oed yng nghwmni dau o brif gorau Cymru Côr Seiriol a Chôr Godre’r Aran. Cyflwynydd y noson fydd Nia Roberts, BBC Radio Cymru, sydd newydd dderbyn Cymrodoriaeth er
Anrhydedd gan Brifysgol Bangor. Cewch hefyd fwynhau a gwerthfawrogi doniau dau ŵr ifanc disglair o’r ardal – Steffan Lloyd Owen, enillydd gwobr Kathleen Ferrier, a Jâms Coleman, enillydd Rhuban Glas Offerynnol Eisteddfod 12
Meifod yn 2015 ac ymgeisydd am Ysgoloriaeth Bryn Terfel ym mis Hydref 2016.
Drama
Nos Fercher, 5 Hydref Nos Iau, 6 Hydref 7.30pm Neontopia a Chanolfan Mileniwm Cymru yn cyflwyno
A Good Clean Heart mewn cydweithrediad â The Other Room a Theatr Genedlaethol Cymru Stiwdio £12/£10 myfyrwyr a gostyngiadau Ma’ HEFIN yn ymwybodol ei fod wedi’i fabwysiadu ond nid eto o ble. Ma’ JAY wedi teimlo hiraeth ers pymtheng mlynedd. But what the f*** is ‘hiraeth’? Dyma ddrama ddeinamig, ddoniol a theimladwy mewn dwy iaith gan Alun Saunders, enillydd Gwobr Theatr Cymru am Ddramodydd
Gorau yn yr Iaith Saesneg; stori HEFIN a JAY, dau frawd a fagwyd ar wahân gan deuluoedd ac ieithoedd gwahanol. Enillydd, Gwobr Dramodydd Gorau yn Saesneg Gwobrau Theatr Cymru
Cyd-gynhyrchiad Neontopia a Chanolfan Mileniwm Cymru, mewn cydweithrediad â The Other Room a Theatr Genedlaethol Cymru, a gefnogwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Gofynnwch am ostyngiadau i grwpiau Oedran: 14+
13
Cerddoriaeth
Nos Iau, 6 Hydref 8pm Orchard Entertainment yn cyflwyno
Christy Moore Theatr Bryn Terfel £35/£32.50 Bydd Christy yn dathlu ei ben-blwydd yn 70 yn ddiweddarach yn y flwyddyn, sy’n nodi iddo fod yn teithio ers hanner can mlynedd. Yn ymuno ag ef ar y llwyfan ar y gitâr bydd Declan Sinnott a Jim Higgins ar offerynnau taro. Mae Christy Moore yn parhau i chwarae rhan bwysig yn y sin gerddoriaeth
gyfoes heddiw. Yn 2010 enillodd wobr Artist Gwrywaidd Gorau yng ngwobrau mawreddog Cerddoriaeth Meteor ac mae llyfr Penguin Book of Irish Verse yn cynnwys ei gân 'Lisdoonvarna'. Perfformiodd o flaen 80,000 yn yr Oxygen Festival yn 2011 gan rannu llwyfan gyda Coldplay ac mae ei fersiwn o gân Bob Dylan 'Hattie Carroll' wedi
ei chynnwys yn The Rough Guide to Bob Dylan, sy'n cynnwys fersiynau gorau o ganeuon Bob Dylan. Mae Christy wedi bod yn gweithio ar ffilm ddogfen yn ystod y 6 mis diwethaf, sydd wedi ei chreu gan y gwneuthurwr ffilm dawnus Mark McLoughlin i RTE. Oedran: 14+ Cydnabyddir cyfraniad hael Is-Ganghellor Prifysgol Bangor John G. Hughes a wnaeth y digwyddiad yma’n bosib.
GORAD
14 4
Profwch y Fwydlen Wyddelig Cyn-Theatr sy’n arbennig ar gyfer y digwyddiad hwn. I archebu bwrdd ffoniwch 01248 38 38 26 neu ewch i www.pontio.co.uk
Cerddoriaeth
Nos Wener, 7 Hydref 8pm Cabaret Pontio yn cyflwyno
We Banjo 3 Theatr Bryn Terfel £14/£12 myfyrwyr a gostyngiadau Dyma un o'r bandiau byw gorau i ddod o Iwerddon yn y blynyddoedd diwethaf. Mae We Banjo 3 yn cyfuno agweddau ‘supergroup’ gyda meistrolaeth syfrdanol o bŵer emosiynol y ffidil, gitâr, mandolin a banjo. Gallai unrhyw aelod o'r grŵp hwn syfrdanu theatr gyda pherfformiad unigol, ond gyda'i gilydd fel We Banjo 3, mae'r canlyniad yn wirioneddol fythgofiadwy.
Ar ddwy ochr yr Iwerydd, yr un beth sy’n cael ei ddweud bob amser: ‘Ewch i’w gweld nhw tra byddwch yn gallu.' Mae We Banjo 3 yn gosod safon newydd ar gyfer cyfuno cerddoriaeth Wyddelig draddodiadol a cherddoriaeth werin Americanaidd. Caniateir diodydd yn y theatr ar gyfer digwyddiadau anffurfiol steil cabaret. 15
GORAD Profwch y Fwydlen Wyddelig Cyn-Theatr sy’n arbennig ar gyfer y digwyddiad hwn. I archebu bwrdd ffoniwch 01248 38 38 26 neu ewch i www.pontio.co.uk
Teulu
Dydd Sadwrn, 8 Hydref 11am a 2pm “Enchanting…a treasure trove of delights”
M6 Theatre Company yn cyflwyno
Mavis Sparkle
THE STAGE
Stiwdio
teulu
£6/£20 Tocyn Teulu a Ffrindiau
family
(4 person, o leiaf un o dan 18)
Gyda'i thad yn gonsuriwr a'i mam yn dilyn y planedau, does dim syndod fod Mavis yn ferch bur arbennig! Gyda dwster plu yn un llaw ac ychydig o driciau i fyny ei llawes, mae ein glanhawraig siaradus yn symud yn nes ac yn nes at wireddu ei breuddwydion. Gydag ychydig o gymorth gan ei chloc cwcw powld, bwced mop direidus, a phaned dda o de, mae Mavis ar daith tua'r gogledd i weld sioe oleuadau fwyaf natur gyda'i llygaid ei hun.
Daw cynhyrchiad cosmig M6 yn ôl i Fangor wedi galw mawr, gyda’i gymysgedd o hud a lledrith, animeiddio a chwerthin, gan ein hysbrydoli i gyd i anghofio amheuon, dilyn ein breuddwydion ac ymestyn am y sêr! Ysgrifennwyd a chyfarwyddwyd gan Gilly Baskeyfield a Dot Wood I oedrannau 4+ a theuluoedd HYD: Tua 45 munud 16
Gweithdy i’r Teulu Crëwch waith celf llawn hud a lledrith gyda’r artist Lois Prys 12.15-1.15pm neu 3.15-4.15pm PL2, Lefel 2 AM DDIM
Drama
Nos Fawrth, 11 Hydref Nos Fercher, 12 Hydref 7.30pm Theatr Genedlaethol Cymru a Teatr Piba mewn partneriaeth â Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Merch yr Eog / Merc'h an Eog
Mae Sibrwd am ddim i'w lawrlwytho o itunes a Google Play. Ewch i Sibrwd.com am ragor o fanylion.
Theatr Bryn Terfel £12/£10 myfyrwyr a gostyngiadau Pan mae Mair yn cael ei galw adref o Lydaw i angladd yng Nghymru, mae’n dioddef pwl anghyfarwydd o hiraeth, ac mae’r sôn am werthu’r fferm deuluol yn corddi teimladau o gyfrifoldeb a dyletswydd. Mae hi bellach yn cwestiynu dedwyddwch ei bywyd dinesig yn Brest, a’i pherthynas gyda’i chariad Loeiza. Tydy Llydaw erioed wedi teimlo mor bell o gefn
gwlad Gorllewin Cymru. A hithau’n gorfod wynebu’r penderfyniad mwyaf anodd iddi erioed, daw cymydog clên ag anrheg anghyffredin iddi. Ai dyma’r arwydd mae hi wedi bod yn ei geisio? Drama newydd, gyfoes ac amlieithog (Cymraeg, Llydaweg a Ffrangeg) am gariad a pherthyn, sy’n archwilio arwyddocâd y 17
berthynas glos rhwng Cymru a Llydaw, ac yn edrych o’r newydd ar rai o’r problemau sy’n wynebu pobl ifanc cefn gwlad. Perfformir y ddrama yn Gymraeg, Llydaweg a Ffrangeg gyda chyfieithiad ar gael yn y tair iaith, a’r Saesneg, trwy app Sibrwd Gostyngiad o 10% i grwpiau o ddeg neu fwy.
Comedi
Ymunwch â ni am ddiodydd cyn y sioe yn Ffynnon
Nos Wener, 14 Hydref 8pm
FFYNNON
Off the Kerb Productions yn cyflwyno
Rich Hall: Live 2016
“Now is the time to grab this chance to see the great man at work” THE GUARDIAN
Theatr Bryn Terfel £16 Mae arddull sych a difynegiant y digrifwr byd enwog Rich Hall wedi ennill enw iddo fel meistr eironi absẃrd a brenin ffraethineb cyflym. Mae'r brodor o Montana, sy'n enwog am ei areithiau llymion a’i ryngweithio cyflym a doniol gyda chynulleidfaoedd a’i ddilyniannau cerddorol gwych, yn mynd ar daith o amgylch Prydain unwaith eto, ac mae ar ei ffordd i Fangor.
Mae Hall, enillydd Gwobr Perrier (Gŵyl Gomedi Caeredin) a Gwobr Barry (Gŵyl Gomedi Ryngwladol Melbourne) wedi ei ddisgrifio fel negesydd trawsatlantig sy’n dychanu pob gwlad mae’n ymweld â hi gyda’i synnwyr cyffredin, ac nid yw fymryn cleniach tuag at ei famwlad. Canllaw oed: 14+
Dyma ddigrifwr sy’n siarad yn blaen gan luchio sylwadau chwerw at gynulleidfa sy’n dal ar bob gair ac mae’n ennill cefnogwyr ar draws y byd.
18
“captivating and brilliant… ability to make the room guffaw was worthy of standing applause” SUNDAY MIRROR
Nos Fawrth, 18 Hydref 8pm Comedy Central Live yn cyflwyno
MC: Michael Legge Sean McLoughlin Andrew Bird Stiwdio £10/£8 Ymunwch â ni am noson o chwerthin gyda thri digrifwr ar daith o amgylch Prydain.
Caniateir diodydd yn y stwidio yn nigwyddiadau Comedy Central Live.
Gall y comedïwyr a enwir uchod newid – edrychwch ar y wefan am ddiweddariadau. Oedran 16+
Dydd Iau, 20 Hydref 12.30pm – 2.30pm 6.30pm – 9pm Arddangosfa:
Ant Dickinson Llinellau Croes Mannau Cyhoeddus Pontio Archwiliad cerddorol a gweledol o offerynnau mecanyddol a reolir yn ddigidol, ac wnaed â llaw yw “Crossed lines”. Drwy ddefnyddio solenoidau a
moduron a reolir yn ddigidol, ynghyd â dilyniannau cynhyrchiol algorithmig mae’r project yn archwilio potensial sonig offerynnau traddodiadol/canoloesol o
Gymru y tu allan i dechneg a strwythurau cerddorol confensiynol.
Cerddoriaeth
Nos Iau, 20 Hydref 7.30pm Electroacwsteg Cymru
Unseen Preludes Denis Smalley yn 70 Theatr Bryn Terfel £10/£8/£5 myfyrwyr a dan 18 oed Cyngerdd o gelf sonig yn dathlu pen-blwydd un o gyfansoddwyr acwsmatig pwysicaf Prydain yn 70. Mae Denis Smalley wedi bod yn arloeswr cerddoriaeth acwsmatig ym Mhrydain ers y 1970au. Yn ei waith defnyddir grym technoleg ddigidol i greu siapiau a lliwiau anweledig, ond tanbaid, mewn sain a gofod. I ddathlu ei ben-blwydd yn 70, bydd y cyfansoddwr ei hun yn cyflwyno ei weithiau
diweddaraf, yn cynnwys perfformiad Cymreig cyntaf Fabrezan Preludes, ynghyd â'r gelfyddyd sonig ddiweddaraf o Gymru. Perfformir y rhaglen gan 'Acousmonium' Electroacwsteg Cymru, sef cerddorfa o uchelseinyddion yn llenwi pob rhan o Theatr Bryn Terfel, gan greu profiad gwirioneddol wefreiddiol o sain mewn gofod.
Theatr Bryn Terfel, 1–2pm Sesiwn ymarferol gyda'r Acousmonium Cyflwyniad a gweithdy am ddim Cyflwyniad i rym mynegol rhyfeddol yr Acousmonium. Rhowch gynnig ar daflu seiniau allan i'r gofod, gan gyfarwyddo'r gerddorfa o uchelseinyddion o'r consol cymysgu. Addas i bob oedran. Am ddim, ond mae angen archebu tocynnau.
20
Dangosiadau Byw
sinema cinema
Anastasia
Norma The Nutcracker
Yn cynnig arlwy arbennig o ddangosiadau theatr, opera a bale byw
Ewch i www.pontio.co.uk neu edrychwch ar y daflen ffilm fisol am ragor o wybodaeth.
Royal Opera House Live Branagh Theatre Live National Theatre Live a mwy
Swyddfa Docynnau O1248 38 28 28 21
Dawns
Llun: Sleepy Robo
Nos Sadwrn, 22 Hydref 7.30pm
t
Ballet Cymru
Romeo a Juliet gan William Shakespeare Theatr Bryn Terfel £12/£10 From forth the fatal loins of these two foes A pair of star-crossed lovers take their life Un o gwmnïau arobryn Gwobr y Critics Circle, Ballet Cymru, yn cyflwyno addasiad rhyfeddol o gampwaith Shakespeare, “Romeo a Juliet”. Ceir ymladd enbyd, deuawdau angerddol a themâu cyffredinol yn atseinio drwy goreograffi dramatig a thelynegol. Mae gwisgoedd gwych a
thafluniadau fideo rhyfeddol yn creu byd o berygl a chyffro lle delir dau gariad ifanc mewn cynnen oesol. Cydweithrediad egnïol a dihafal ydi “Romeo a Juliet” rhwng tri o gyrff eithriadol Cymru yn y celfyddydau, Ballet Cymru, Coreo Cymru (Cynhyrchydd Dawns Greadigol yng Nghymru www.coreocymru. com) a Theatr Glan yr Afon yng Nghasnewydd (www.newport.gov.uk/ theriverfront) 22
Mae “Romeo a Juliet” yn cynnwys gwisgoedd gan Georg Meyer-Wiel (www. meyerwiel.com) a astudiodd yn The Royal College of Art a chreu gwisgoedd i rai o gwmnïau blaenllaw’r byd gan gynnwys Rambert Dance Company ac Australian Dance Theatre. Gofynnwch am ostyngiadau i grwpiau.
Cerddoriaeth
Dydd Sul, 30 Hydref 3pm – 4pm
Ensemble Cymru @Pontio
Anne Denholm ogol Telynores swydd Tywysog Cymru
Stiwdio £12/£10/£5 myfyrwyr ac o dan 18 Mae Ensemble Cymru, sef ensemble preswyl Prifysgol Bangor a Venue Cymru, yn lansio tymor 2016-2017 gyda’r gerddoriaeth siambr orau o Gymru ac ar draws y byd yng Nghanolfan Pontio. Bydd y cyntaf o dri pherfformiad yn cynnwys perfformiad gan eu prif delynores newydd a'r cerddor cyntaf i fod yn Gadeirydd Rhyngwladol y Delyn Gaynor CemlynJones, Anne Denholm. Mae'r rhaglen, a luniwyd gan
Anne, yn dathlu'r gweithiau mwyaf prydferth a chyffrous ar gyfer y delyn ac ensemble siambr. Gwahoddir y gynulleidfa i fwynhau lluniaeth ysgafn mewn derbyniad ar ôl y gyngerdd gyda pherfformwyr Ensemble Cymru ym mwyty Gorad. Bydd rhagor o wybodaeth am y rhaglen yn cael ei rhyddhau ym mis Gorffennaf ar www.ensemble.cymru
23
Ensemble Cymru Darganfod y clasuron 1-2pm Lefel 2 Gadewch i gerddorion Ensemble Cymru eich diddanu mwyty Gorad a mannau cyhoeddus Pontio.
Cerddoriaeth
Music Mu M ussiic
Nos Fercher, 2 Tachwedd 7.30pm Kizzy Crawford, Gwilym Simcock a Sinfonia Cymru
Cân yr Adar Birdsong Kizzy Crawford a Gwilym Simcock
Theatr Bryn Terfel £14/£12/£5 myfyrwyr ac o dan 18 oed Mae ‘na goedwig law Geltaidd sy’n byw ac yn anadlu yng Nghymru. Mae Birdsong / Cân Yr Adar yn adrodd stori trwy gerddoriaeth a ysbrydolwyd gan Carngafallt, cartref i ecosystem gymhleth, sy’n ffurfio ychydig o dir coedwig law y wlad ym Mhowys. Daw Birdsong / Cân Yr Adar â’r bywyd gwyllt hwn i’r llwyfan trwy asio cerddorol byw o ganu
gwerin-soul a jazz. Mae’r pianydd a’r cyfansoddwr jazz Gwilym Simcock yn cydweithio gyda’r gantores Gymreig/Bahaiaidd Kizzy Crawford ac ensemble glasurol o Sinfonia Cymru i greu casgliad arbennig o ganeuon sydd newydd eu cyfansoddi a’u hysbrydoli. Mae’r perfformiad hwn wedi ei greu mewn partneriaeth â RSPB Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru.
24
Ymgollwch yn y tirlun hwn wrth i ni archwilio cyfrinachau cudd y goedwig ar hyd y tymhorau (ac weithiau yn erbyn y tywydd). Profwch ddiwrnod a noson ymhlith natur. Dihangwch oddi wrth sŵn a dysgwch eto sut i wrando. Gofynnwch am ostyngiadau i grwpiau.
Comedi
Nos Iau, 3 Tachwedd 7.30pm The Boy with The Tape on his Face is
“This boy is going places" TIMES
Tape Face
“Endlessly inventive, hysterically funny"
Theatr Bryn Terfel
TIME OUT
£16/£14 Mae Tape Face yn gymeriad sy’n apelio at gynulleidfa eang.
phob gwrthrych neu aelod o gynulleidfa fel darpar ffrind.
Dyma sioe hyfryd, goeglyd, aml haenog a hynod o ddoniol, lle mae Sam Wills yn deffro’r plentyn mewnol sydd ynom i gyd.
Mae Wills yn creu byd o bosibiliadau a’r unig beth sy’n sicr yn y byd hwnnw yw y bydd yna chwerthin. Mae ei sioeau blaenorol wedi gwerthu allan yn llwyr yng Ngŵyl Fringe Caeredin bedair blynedd yn olynol. Mae ei deithiau o amgylch Prydain hefyd wedi gwerthu allan, cafodd lwyddiant ysgubol yn y West End yn Llundain, ac mae wedi cael ymateb eithriadol o amgylch y byd.
Mae’n llawn hiwmor syml, clyfar a swynol sy’n creu un o'r sioeau mwyaf hygyrch a phleserus i’r byd erioed ei gweld. Gan adlewyrchu elfennau o ffilmiau mud, meim, hud a lledrith, pypedau, Motown a ffilmiau Patrick Swayze, mae Tape Face yn enaid synfyfyriol a chwilfrydig sy’n ymdrin â
25
Addasrwydd oedran: 10+
Cerddoriaeth a Syrcas
Dydd Gwener, 4 Tachwedd 7.30pm Dydd Sadwrn, 5 Tachwedd 2pm Crying Out Loud, ar ran Circus Evolution, yn cyflwyno Circa Tsuica
Opus 7
Ymunwch â ni o 7pm yn y bar lle bydd Circa Tsuica yn creu awyrgylch hwyliog i bawb!
Theatr Bryn Terfel £12/£10 myfyrwyr a gostyngiadau Tocyn Teulu £40 (4 person, o leiaf un o dan 18 oed) Croeso i fyd drygionus a chwareus Circa Tsuica. Cwmni o gerddorion disglair ac acrobatiaid hynod fentrus sy'n cyflwyno sioe ryfeddol o guriadau offerynnau pres ffynclyd a gorchestion corfforol fydd yn gwneud i chi ddal eich gwynt.
Wrth i'r perfformwyr chwarae cymysgedd llon o rythmau trawiadol byddant yn ymroi i'w sgiliau syrcas heb ollwng nodyn na'i gilydd! Drwy amrywiaeth nerthol o acrobateg a cherddoriaeth fyw mae Circa Tsuica yn creu sioe syfrdanol. Yn ychwanegu at y rhialtwch bydd cerddorion lleol o Fand Jazz Tryfan.
26
Ydych chi eisiau mwynhau eich hun i'r eithaf? Wel, ymunwch â nhw wrth iddynt ysgwyd y gynulleidfa yn y sioe hwyliog a byrlymus hon. Mae Circa Tsuica wedi'i chreu gan Cheptel Aleïkoum, sef casgliad o ddiddanwyr Ffrengig unigryw sy'n teithio'r byd yn perfformio eu sioeau hwyliog.
Cerddoriaeth
Nos Fercher, 9 Tachwedd 7.30pm
Phoenix Piano Trio Theatr Bryn Terfel £12/£10/£5 myfyrwyr ac o dan 18 Josef Haydn : Triawd yn E fflat, Hob.XV/30 Niels Gade : 5 Noveletten EGWYL Franz Schubert : Triawd yn B fflat Ffurfiwyd Phoenix Piano Trio yn 2010 ac mae wedi sefydlu ei hun fel un o ensembles mwyaf blaenllaw ei ddydd.
Fe'i disgrifir yn Strings Magazine fel un sydd â 'naratif cerddorol o ddyfnder aruthrol’. Maent wedi perfformio ar sawl achlysur yn Neuadd Wigmore yn Llundain a chafodd eu CD cyntaf – sef recordiad byw o weithiau Beethoven sy’n cynnwys y triawd "Archddug" a'r triawd yn E fflat, Op. 70 rhif 2 - ei lansio yn Wigmore yn 2012.
27
Maent hefyd yn hyrwyddwyr cerddoriaeth newydd, ac wedi comisiynu gweithiau newydd gan bum cyfansoddwr Prydeinig, gan gynnwys Cheryl FrancesHoad, Philip Venables ac Edwin Roxburgh. Mae eu huchafbwyntiau diweddar yn cynnwys perfformiadau yng Ngŵyl Ryedale, Gŵyl Happy Days yn Eniskillen, Gŵyl Gerdd Ryngwladol Caerlŷr, a Chymdeithas Cerddoriaeth Siambr Llundain yn Kings Place.
28
Nos Wener, 11 Tachwedd 7pm Dydd Sadwrn, 12 Tachwedd 3pm balletLORENT
Snow White
Yn ystod yr egwyl ac ar ôl y sioe
Theatr Bryn Terfel £15/£13/£10 myfyrwyr ac o dan 18 oed £45 Tocyn teulu a ffrindiau (4 person, o leiaf un o dan 18 oed) Mae balletLORENT yn cyflwyno Snow White, a gyd-gynhyrchir gan Northern Stage a'i hailadrodd gan Carol Ann Duffy. "In the cold heart of winter, when snow fell as though the sky was a story that had been ripped into a thousand pieces, a beautiful Queen sat by her window..." Mae mam sy'n dyheu am ferch o harddwch digymar yn cael ei dymuniad, ond gyda chanlyniadau dinistriol. Yn nyfnder y goedwig dywyll, saith o fwynwyr yw unig obaith Eira Wen - a themtiad yw'r prif fygythiad y mae'n ei wynebu ...
Mae addasiad dawns balletLORENT o un o straeon tylwyth teg enwocaf y Brodyr Grimm yn stori o ddrychau hud, cyfeillgarwch annisgwyl a phwysigrwydd harddwch mewnol. Mae Snow White yn gynhyrchiad dawns theatr hudolus i'r teulu cyfan gan yr un cwmni ag a gynhyrchodd y bale hynod lwyddiannus Rapunzel. Bydd 12 plentyn 6 i 8 oed o’r ardal leol yn perfformio fel rhan o’r cynhyrchiad. Oedran a argymhellir 7+
29
Yn dilyn llwyddiant project tafluniad 3D a dawns fertigol Porth ar wal allanol Pontio yng Ngorffennaf 2015, rydym yn croesawu dylunwyr fideo y Guildhall School of Music and Drama yn ôl i Fangor. Y tro yma byddant yn edrych ar botensial waliau gwyn enfawr y mannau cyhoeddus yn Pontio ... Byddant yn defnyddio "straeon tylwyth teg" fel ysbrydoliaeth i ddarn a gomisiynwyd yn arbennig i'w daflunio ar waliau gwyn yr atriwm canolog yn ystod yr egwyl ac ar ôl y perfformiadau o Snow White.
Nos Sadwrn, 12 Tachwedd O 6.45pm Psappha The Hebrides Ensemble Pedwared Benyounes Ensemble Cymru
Teyrnged i Max Stiwdio £12/£10/£5 myfyrwyr ac o dan 18 oed Mae prif ensembles siambr a cherddoriaeth gyfoes Prydain - Psappha (Manceinion), Ensemble Hebrides (Glasgow), Pedwarawd Benyounes (Llundain) ac Ensemble Cymru yn dod at ei gilydd mewn dathliad o gerddoriaeth newydd fel teyrnged i'r diweddar Syr Peter Maxwell Davies.
6.45pm Pedwarawd Benyounes Pedwarawd Rhif 2 – Simon Bainbridge (Première y Byd) 7.30pm Transfigured Night Hebrides a Psappha – 25 mlynedd o gerddoriaeth newydd Peter Maxwell Davies – The Last Island, Farewell to Stromness (tr. David Horne) David Fennessy – gwaith newydd ar y cyd (perfformiad cyntaf Cymru) Arnold Schoenberg – Verklärte Nacht Manylion llawn ar gael o www.ensemble.cymru
30
Gorad, Pontio 9.15pm Am ddim
Ensemble Cymru a Phedwarawd Benyounes Perfformiadau hamddenol yn y bar: cerddoriaeth a gyfansoddwyd yn arbennig gan gyfansoddwyr ifanc o Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Bangor * *Cyflwynir gan Ensemble Cymru, Ensemble Preswyl Prifysgol Bangor a Venue Cymru mewn cydweithrediad ag Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Bangor a Pontio
Comedi Music
Nos Fawrth, 15 Tachwedd 8pm Comedy Central Live yn cyflwyno
MC: Ro Campbell, Laura Lexx a John Hastings Stiwdio £10/£8 Ymunwch â ni am noson o chwerthin gyda thri digrifwr ar daith o amgylch Prydain.
Caniateir diodydd yn y stiwdio yn nigwyddiadau Comedy Central Live.
Gall y comedïwyr a enwir uchod newid – edrychwch ar y wefan am ddiweddariadau. Oedran 16+
Nos Fercher, 16 Tachwedd 7.30pm
Music Drama
Volcano Theatre
Macbeth Director's Cut
“Brings one closer to the dark heart of the play than many more orthodox versions” THE GUARDIAN
Theatr Bryn Terfel £12/£10 Radical Classic ™ o gatalog Volcano wedi ei hail-lunio yn 2016. Cyfarwyddwyd yn wreiddiol gan Nigel Charnock ar gyfer Volcano yn 1999. Mae’r fersiwn dau gymeriad yma o ddrama fwyaf gwaedlyd a mwyaf dwys Shakespeare yn tynnu’r moethusrwydd
“Like seeing Tarantino on stage” WHAT’S ON
brenhinol allan ohoni, gan greu byd domestig o lofruddion cyfoes mewn ymosodiad theatrig, erotig a threisgar ar y synhwyrau. Mae'n delynegol, apocalyptaidd, eithafol a pheryglus. Canllaw oedran: 14+ 31
Dawns Music
Nos Iau, 17 Tachwedd 7.30pm
Tŷ Bach Twt Stiwdio £5 Coreograffydd: Filipa Francisco (Portiwgal) Perfformwyr: Angharad Harrop, Ceri Rimmer a Henry Horrell Mae Tŷ Bach Twt yn edrych ar y syniad o gynefin gan ystyried beth sy’n dylanwadu ar ein meddyliau a'n teimladau ynghylch cartref a swyddogaeth Cymru a Chymreictod. Bydd y darn yn ymdrin â chwestiynau'n ymwneud â diwylliant a threftadaeth
a'r hyn mae'n ei olygu i alw rhywle yn gartref. Trwy edrych ar ddawnsio gwerin a cherddoriaeth Gymreig, bydd y darn yn dod â'r gorffennol a'r presennol ynghyd mewn perfformiad deinamig sy'n gofyn i'r gynulleidfa ystyried y llefydd a'r teimladau y maent yn eu galw'n gartref. Cyd-gynhyrchwyd gan Migrations gyda chefnogaeth Pontio, Prifysgol Caer a Phrifysgol De Montfort. 32
Mae Tŷ Bach Twt yn broject cydweithredol a arweinir gan Angharad Harrop, Bydi Dawns Pontio. Rhaglen gan Creu Cymru yw Bydi Dawns (Dance Buddy), lle mae datblygiad artist a datblygiad cynulleidfa yn digwydd gyda'i gilydd. Mae'n paru artist annibynnol ym myd dawns gyda theatr neu ganolfan gelfyddydau mewn partneriaeth gyd-fentora.
Cerddoriaeth Music
Nos Wener, 18 Tachwedd 7.30pm Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Elgar a Brahms gyda BBC NOW Neuadd Prichard-Jones £15/£13.50/£5 myfyrwyr a gostyngiadau Tocyn Teulu: £15/£20 Strauss, J Die Fledermaus: Overture Elgar Concerto i'r Cello Brahms Symffoni Rhif 4 Christoph König Arweinydd Leonard Elschenbroich Cello
Ymgollwch mewn cerddoriaeth am dorcalon, drama a llawenydd yr hydref hwn, gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a dau o fawrion cerddoriaeth glasurol: Brahms ac Elgar. Mae'n anodd deall yr amheuaeth oedd ym meddwl Brahms cyn y perfformiad cyntaf o’i bedwaredd symffoni. Mae bellach yn un o’r darnau cyngerdd 33
hanfodol hynny ac mae cynulleidfaoedd ar draws y byd yn parhau i fod yn ddiolchgar ei fod wedi goroesi y tu hwnt i'r perfformiad cyntaf. Nid yw Concerto i’r Cello Elgar yn rhoi unrhyw arwydd o bryderon o'r fath; mae’n llawn teimlad ac angerdd o’r bariau agoriadol, dyma gerddoriaeth o emosiwn dwfn sydd â gallu di-ffael i gysylltu â’r gwrandäwr.
Cerddoriaeth Music
Nos Wener, 18 Tachwedd 8pm Cabaret Pontio a Making Tracks yn cyflwyno
Chango Spasiuk Argentinian Theatr Bryn Terfel £14/£12 Hudoliaeth acordion a swing dwfn o'r Ariannin. Gartref yn Yr Ariannin, ystyrir Chango Spasiuk yn arwr newydd chamamé, y gerddoriaeth gyda'r ‘swing’ dyfnaf yn Yr Ariannin. Mae gan yr arddull gynnes hon, sydd wedi'i seilio ar chwarae'r acordion, wreiddiau yn y diwylliant Guarani brodorol, yn ogystal â diwylliannau Sbaenaidd ac o Ddwyrain Ewrop. Ei chartref naturiol yw tiroedd coch a choedwigoedd
toreithiog gogledd-ddwyrain Yr Ariannin, lle ganwyd Spasiuk i deulu o ymfudwyr o'r Wcrain. Mae'n berfformiwr tanllyd a sensitif ar ei acordion ac yn dod â'i garisma arbennig i'w berfformiadau byw. Mae ei bresenoldeb fel derfis cynhyrfus ar y llwyfan a'i ensemble ragorol yn cynhyrchu cerddoriaeth o harddwch ac angerdd dwfn, gan gymysgu pruddglwyf ag optimistiaeth wydn. Yn enillydd Gwobr 34
Cerddoriaeth Byd y BBC ac wedi'i enwebu am wobr Grammy De America, mae ymweliad Spasiuk â Phrydain ar ei daith hydref eleni yn un hirddisgwyliedig - peidiwch â'i golli! changospasiuk.com.ar Caniateir diodydd yn y theatr yn ystod y digwyddiadau hamddenol, steil cabaret yma. “A gifted, profoundly expressive performer” ROOTSWORLD
Nos Sadwrn, 19 Tachwedd 8pm
Rhys a Meinir Cyfansoddwr: Cian Ciarán Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC Barddoniaeth gan Gruffudd Antur Theatr Bryn Terfel £15/£13.50/£5 myfyrwyr a gostyngiadau Tocyn teulu: £15/£20 Arweinydd - Alastair King Bydd Cian Ciarán o Super Furry Animals a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn ymuno ar antur gerddorol i gyflwyno gwaith clasurol newydd a fu ar y gweill ers bron i ugain mlynedd. Mae Rhys a Meinir, a berfformir gan gerddorfa lawn, yn waith hynod sy'n addo gwledd i'r clustiau – yn ddehongliad
hudolus a dramatig o un o hen chwedlau gwerin Cymru a gogoniant tirwedd ei lleoliad - gan gyfansoddwr beiddgar yn troedio llwybr creadigol newydd. Yn ôl y stori...yn Nant Gwrtheyrn mae cyfeillgarwch Rhys a Meinir yn blodeuo'n gariad pur. Ond fore eu priodas, er chwilio a chwilio, does dim golwg o Meinir yn unman. Mae'r
dyddiau'n troi'n wythnosau, ac yna'n fisoedd o chwilio a gofid ac anobaith sy'n gyrru Rhys yn orffwyll. Un noson stormus, â Rhys yn cysgodi dan dderwen, mae mellten yn hollti'r goeden gan ddatgelu sgerbwd mewn ffrog briodas. Yn y fan a'r lle, mae calon Rhys yn torri ac mae'n syrthio'n farw wrth draed ei briodferch.
Ar ôl y cyngerdd – Jam yn y Bar Ymunwch â ni ym mar Ffynnon Pontio ar ôl y cyngerdd am rywbeth bach ychwanegol gyda rhai o berfformwyr gorau Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Digwyddiad ar y cyd rhwng Pontio a’r BBC.
35
Music Teulu
Dydd Sadwrn, 26 Tachwedd 11am a 2pm teulu
Cwmni’r Frân Wen
family
Dilyn Fi
Gweithdy i’r Teulu
Stiwdio
Gweithdy creadigol fydd yn mynd â chi i fyd yr eliffantod gyda’r artist Nerys Jones
£6/£20 Tocyn Teulu a Ffrindiau (4 person, o leiaf un dan 18 oed)
Yn dilyn preswyliad yng Ngŵyl Fringe Caeredin, dyma sioe i blant dan 7 oed, i helpu i ddatblygu dychymyg, sgiliau cyfathrebu a hyder plant bach. Mae Nansi yn chwaer fawr am y tro cyntaf.
I ymdopi mae Nansi yn dianc i mewn i fyd dychmygol ei hun. Sut mae Cai, ei ffrind gorau un, yn ei helpu hi i wynebu realiti’r sefyllfa? Antur dau ffrind sy'n llawn chwarae, chwilota ac eliffantod!
36
12.15-1.15pm neu 3.15-4.15pm PL2, Lefel 2 AM DDIM
Pnawn Dydd Sul, 27 Tachwedd 3pm Opera Cenedlaethol Cymru: Dewch i Ganu
Gloria! Antur lleisiol gyda Opera Cenedlaethol Cymru Theatr Bryn Terfel £12/£10/£5 Dan 18 a myfyrwyr VIVALDI : GLORIA Bach: Brandenberg Concerto rhif 3 Fauré: Les Djinns Bartók: Four Slovak Folksongs Fauré: Cantique de Jean Racine Dilys Elwyn Edwards: Exultate Deo The Coolin' - Barber Last words of David Randall Thompson
Cyngerdd arbennig sy'n dod â Chorws a Chôr Siambr Prifysgol Bangor, Côr Siambr Canolfan Gerdd William Mathias a doniau disglair lleol ynghyd, mewn prynhawn o ddathlu canu corawl yn Theatr Bryn Terfel. Mae‘r diwrnod yn paratoi’r ffordd ar gyfer preswyliad gan Gwmni Opera Cymru yng ngwanwyn 2017 ac yn rhan o bartneriaeth tymor hir sydd yn datblygu rhwng Pontio, Prifysgol Bangor ac Opera Cenedlaethol Cymru.
Mae digwyddiadau Dewch i Ganu Opera Cenedlaethol Cymru am ddim i bawb a does dim angen i chi fod yn ganwr neu’n gantores brofiadol. Ymunwch â ni ar antur leisiol yng nghyntedd Pontio am awr cyn y cyngerdd i gymryd rhan mewn orig o ganu. Bydd caneuon yn ysbryd y cyngerdd sydd i ddod yn cael eu canu, gan gynnwys y Can-can gyda geiriau a gomisiynwyd yn arbennig i ddathlu 70 mlynedd o Opera Cenedlaethol Cymru. Mae croeso i bawb ganu gydag Opera Cenedlaethol Cymru. 2.00 – 2.45 pm AM DDIM
Arweinyddion: WNO, Jenny Pearson, Chris Collins a Guto Pryderi Puw Cyfeilydd: Stephen Evans 37
Cymryd MusicRhan
Nos Fercher, 30 Tachwedd 7pm
BLAS yn cyflwyno... Theatr Bryn Terfel £6/£3/£15 Tocyn Teulu (hyd at 4 person, un o dan 18 oed) BLAS yw cynllun cymryd rhan Pontio, sy’n rhoi cyfle i bobl ifanc ddarganfod byd perfformio drwy weithdai wythnosol a phrofiadau unigryw gyda chwmnïau proffeisynol. Yn ystod y ddau dymor diwethaf, mae criw BLAS wedi bod yn brysur yn dysgu sgiliau perfformio gan ganolbwyntio ar waith corfforol a masgiau wrth gael hwyl!
Yn ystod tymor yr hydref, fe fydd dosbarthiadau BLAS yn prysur ddod â’u sgiliau newydd ynghyd i ddyfeisio eu sioe eu hunain. Yr hyn a welwch ar y llwyfan fydd syniadau’r plant a phobl ifanc yn dod yn fyw. Dewch i gefnogi camau cyntaf actorion, sgriptwyr a chyfarwyddwyr y dyfodol.
38
Comedi
Nos Iau, 1 Rhagfyr 8pm
Rob Beckett Mouth of the South Theatr Bryn Terfel £15 Mae Beckett yn ei ôl gyda sioe newydd sbon o ddigrifwch ac mae'n ymdrin â materion o bwys mawr fel Kit Kats a bara croyw! Mae'n un o sêr Live At The Apollo BBC1, Would I Lie To You?, 8 Out Of 10 Cats a Cats Does Countdown ar Channel 4, Mock The Week ar BBC2,
Play To The Whistle ar ITV, a Celebrity Juice ar ITV2. Rob hefyd yw cyflwynydd podlediad The Magic Sponge ar sianel Dave, gyda Jimmy Bullard ac Ian Smith, yn ogystal â chyflwynydd sioe wych Rock ‘n Roll Football ar Absolute Radio. Oed: 14+
"There are hints that his eyes are set firmly on arenas that are as big as his mouth of his” METRO
"Relentlessly smiley, perpetually grinning Londoner whose unshowy, unpretentious but thoroughly funny shtick has every chance of winning him a big audience…" GUARDIAN
"Lights up the stage with his magnetic personality (not to mention the dazzle from his teeth)" MAIL ON SUNDAY 39
Cerddoriaeth
Nos Wener, 2 Rhagfyr 8pm Cabaret Pontio yn cyflwyno
Emily Portman & The Coracle Band Theatr Bryn Terfel
"Coracle is a triumph... Delicate as a spider’s web, yet tough as memory, this is a rich and remarkable record" R2 MAGAZINE
"Coracle is, without doubt, one of the folk albums of the year" SONGLINES
£14/£12 Mae Coracle, trydydd albwm Emily Portman, wedi cael sylw cynyddol a thoreth o adolygiadau canmoliaethus ers ei ryddhau ym Mehefin. Yn ddiweddar cafodd Coracle ei enwi'n 'Albwm Gorau 2015' gan y Telegraph ac mae caneuon ohono wedi cael eu chwarae gan rai fel Jarvis Cocker, Late Junction, gyda sesiwn fyw i ddod ar Folk Show Mark Radcliffe ar y BBC.
Mae Emily Portman yn perfformio gyda The Coracle Band, sef cast gwych o gerddorion a fu'n recordio'r albwm stiwdio gyda hi ac sydd nawr wedi dod ynghyd i ail-greu Coracle mewn sioe fyw uchelgeisiol. Gyda'i gilydd, bydd The Coracle Band yn cyflwyno holl ehangder, dyfnder a harddwch gwaith gorau Emily hyd yma. Mae offerynnau taro, 40
gwefrau, gitâr pedal ddur, telyn drydan a llinynnau mawreddog yn ymdoddi gyda chôr gwirioneddol o leisiau. Caniateir diodydd yn y theatr yn ystod y digwyddiadau hamddenol, steil cabaret yma.
Cerddoriaeth
Nos Sadwrn, 3 Rhagfyr 7.30pm
Hogia’r Ddwylan yn Dathlu 50 Unawdydd: Aled Wyn Da vies Cyfarwyddw r Cerdd: Iwan Williams
Theatr Bryn Terfel £12 Rydym yn falch o groesawu Hogia’r Ddwylan i Pontio ar achlysur go arbennig, sef dathlu pen-blwydd y côr yn 50. Wedi ei sefydlu yn wreiddiol fel parti cerdd dant o ryw ddwsin, fe dyfodd yn raddol i fod yn gôr cerdd dant ac yna yn gôr gwerin ac, ymhen amser, yn gôr meibion.
Fel mae’r enw Hogia’r Ddwylan yn ei awgrymu mae’r aelodau yn dod o Fôn ac Arfon ond bellach maent wedi teithio i gyfandir Ewrop ac i Ogledd America heb sôn am Iwerddon a Lloegr. Dros y blynyddoedd enillodd y côr gystadlaethau yn yr Eisteddfod Genedlaethol, Yr Ŵyl Gerdd Dant, Radio Cymru, gwyliau cenedlaethol a rhyngwladol ac maent wedi cyhoeddi sawl CD. 41
Teulu
Dydd Mercher, 7 Rhagfyr, 12.30pm Dydd Iau, 8 Rhagfyr, 10am a 12.45pm Dydd Gwener, 9 Rhagfyr, 10am a 12.45pm Cwmni Mega
Blodeuwedd Theatr Bryn Terfel
teulu
£10 oedolion/£8 i blant gan Huw Garmon (yn seiliedig ar chwedl Lleu Llaw Gyffes) Amser maith yn ôl pan fyddai mellt yn hollti’r awyr a tharanau yn crynu’r ddaear, credai’r Cymry mai pwerau’r nos a’r dydd oedd yn ymladd. Ar ôl brwydr arbennig o ffyrnig rhwng eryr yr haul a helwyr y nos disgynnodd baban bychan i’r ddaear.
family Lleu, mab Eryr yr Haul, oedd y baban ac yn ystod y cynhyrchiad hwn fe gawn glywed hanes hynod y garwriaeth rhwng Blodeuwedd ac yntau. Ond ydy popeth fel y mae’n ymddangos? Pwy yw Blodeuwedd? Ydy’r gelynion yn cael eu trechu? Dewch i ymuno yn yr hwyl i gael gweld!
42
Dydd Sadwrn, 10 Rhagfyr 11am - 4pm teulu
Caban Hud
family
Caban, mannau allanol Pontio AM DDIM Dewch am dro i Pontio fel rhan o ddathliadau tymhorol dinas Bangor.
cyhoeddus yn nhirlun Pontio, i rywle arbennig iawn i blant a’u teuluoedd.
Byddwn yn trawsnewid Caban, y darn celf
Dewch i weld beth sy’n bosib ei ddarganfod…
Bydd Marchnad Nadolig ym Mangor ar y dyddiad yma, felly galwch yn Pontio fel rhan o’r diwrnod i fwynhau bwyd neu ddiod a phrofiad unigryw.
: 2016/17 02.07.16 - 10.09.16
17.08.16 - 05.11.16
* ÀÌÀi>` vv Ì }À>vw} A photographic portrait
CLYWED Y CYN-CUDDIEDIG HIDDEN NOW HEARD
09.07.16 - 17.09.16
24.09.16 - 12.11.16
HIRAEL
VAL HUNT
AIL-WNEUD/AIL-DDYFEISIO RE-TAKE / RE-INVENT
09.07.16 - 17.09.16
19.11.16 - 28.01.17
COLIN SEE-PAYNTON
YN ERYRI IN SNOWDONIA
10.09.16 - 29.10.16
AR FAES A BRYN ON HILL AND FIELD AMGUEDDFA ORIEL SIOP CAFFI MUSEUM GALLERY SHOP CAFÉ
Ar agor Mawrth-Sadwrn 11.00 - 5.00 Open Tuesday-Saturday 11.00 - 5.00
| 01248 353 368 STORIEL.ORG 43
Cerddoriaeth
Nos Sadwrn, 10 Rhagfyr 8pm
Meilyr Jones A gwahoddedigion arbennig Theatr Bryn Terfel £10 Mae’n bleser gan Pontio gyflwyno Meilyr Jones a hynny yn Theatr Bryn Terfel am y tro cyntaf. Yn dilyn rhyddhau ei albwm diweddaraf o bop baróc gwerinol o’r enw 2013 – a gafodd ei ryddhau eleni daw cyn-ganwr y band Race Horses i Fangor yn dilyn haf o berfformio mewn gwyliau ar draws Prydain fel rhan o’i ail daith. Mae 2013 yn gyfoeth o ddylanwadau a gweadau cerddorol. Mae yna fflachiadau o faróc, sain recorder a harpsicord, recordiad o chwaraewr acordion Japaneaidd y daeth ar ei draws yn Rhufain,
recordiadau o garioci ar ffôn, sain hyfryd a ddilynir gan chwa o Rebel Rebel David Bowie a recordiad organ mewn eglwys ym Mryste. “Roeddwn i eisiau gwneud rhywbeth oedd yn teimlo’n iawn i mi ac yn mynegi fy niddordebau, sef cerddoriaeth glasurol a roc a rôl, a ffilmiau, a natur a charioci a phethau di-chwaeth,” meddai Jones. “Ac roeddwn i eisiau cyfleu’r teimlad hwnnw yn Rhufain, y gymysgedd o gelfyddyd uchel-ael a phethau isel-ael.” Gig Sefyll Canllaw oed: 16+
44
Music
Nos Sul, 11 Rhagfyr 7.30pm
Cerddorfa Symffoni Prifysgol Bangor Theatr Bryn Terfel £12/£10/£5 myfyrwyr ac o dan 18 oed Prokofiev: Lieutenant Kijé Suite Arutiunian: Trumpet Concerto Beethoven: Symffoni Rhif 6, ‘Pastoral’ Bari Gwilliam (trymped) Chris Collins (arweinydd)
Bydd Cerddorfa Symffoni’r Brifysgol yn cyflwyno dau gampwaith Sofietaidd yr 20fed ganrif ochr yn ochr ag un o symffonïau mwyaf Beethoven. Mae Cyfres Lieutenant Kijé gan Prokofiev, oedd yn wreiddiol yn sgôr i ffilm gomedi am filwr dychmygol a grëwyd o ganlyniad i wall clercyddol, yn llawn hiwmor tafod yn y boch a lliwiau Rwsia.
45
Mae Symffoni ‘Pastoral’ Beethoven yn atgof hudolus o gefn gwlad, yn flas croesawus o’r gwanwyn ar noson o aeaf. Yn y canol, bydd y pencampwr trymped lleol, Bari Gwilliam, yn ymuno â’r gerddorfa yn y concerto cyffrous a thelynegol gan y cyfansoddwr Armenaidd Alexander Arutiunian.
Teulu
Nos Iau, 15 Rhagfyr, 6.30pm Dydd Gwener, 16 Rhagfyr, 12.30pm a 6.30pm Dydd Sadwrn, 17 Rhagfyr 1pm a 6.30pm Theatr Bara Caws mewn partneriaeth â Galeri
Raslas Bach a Mawr Theatr Bryn Terfel
teulu
£10/£9 myfyrwyr a gostyngiadau Tocyn Teulu i 4 £35 (o leiaf un oedolyn) Tocyn Teulu i 5 £43 (o leiaf un oedolyn)
Dewch i helpu ein harwyr glew, Syr Wynff ap Concord y Bos a Plwmsan y Twmffat Twp, wrth iddynt gychwyn ar antur enbyd i achub y genedl rhag misdimanars yr awdurdodau drygionus ac i ailfeddiannu eu cartref teuluol...
family
Cast yn cynnwys Iwan Charles, Llyr Evans a Carys Gwilym. Gofynnwch am brisiau arbennig i grwpiau ar 01248 38 28 28.
Sioe newydd sbon i bawb o bob oed gan Wynford Ellis Owen a Mici Plwm.
46
Nos Sul, 18 Rhagfyr 7.30pm Côr Glanaethwy
Llafn o Wawl Theatr Bryn Terfel £12/£10 Noson arbennig i ddadorchuddio cerflun o Wilbert Lloyd Roberts a lansio CD diweddaraf Côr Glanaethwy. Dau ddigwyddiad y bu disgwyl mawr amdanynt, dyna fydd yr arlwy yn Pontio heno. Mae dros flwyddyn bellach ers i Gôr Glanaethwy adael eu marc ar y rhaglen ‘Britain’s Got Talent’ a heno fe fyddan nhw’n lansio eu CD ddiweddaraf, yn cynnwys rhai o’r caneuon a berfformiwyd ganddynt yn y gyfres.
Ond mae dipyn mwy na blwyddyn wedi mynd heibio ers i Bwyllgor Apêl Cerflun Wilbert Lloyd Roberts gael ei sefydlu. ‘Wilbert’ oedd y cyfarwyddwr a gyfrannodd at osod sylfeini’r theatr yng Nghymru ac mae'n berygl na fyddai yna Ganolfan Gelfyddydau ac Arloesi debyg i’r hyn a welwn yma ym Mangor heddiw oni bai am ei weledigaeth ef. Heno, i goffáu ei gyfraniad amhrisiadwy, fe fyddwn yn dadorchuddio cerflun Nick Elphick ohono yma yn Pontio.
Wedi’r Nadolig fe fydd Côr Glanaethwy yn teithio ar draws yr Iwerydd i berfformio yn y Carnegie Hall yn Efrog Newydd. Felly dewch draw i ddymuno’n dda iddynt cyn eu hantur fawr ac i fod yn un o’r rhai cyntaf i weld y cerflun unigryw yma yn Pontio.
Llenor tu hwnt i’r llenni; - fe roddodd wefr ei freuddwyd inni; Llafn o wawl, a’n llwyfan ni a lanwyd â’i oleuni. John Gwilym Jones
47
Gwybodaeth Gyffredinol Archebion Grŵp Rydym yn darparu ar gyfer grwpiau ac, yn achlysurol, gallwn gynnig gostyngiadau sylweddol. Cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau am fwy o wybodaeth ar 01248 38 28 28. Mae’r holl archebion yn amodol ar ein telerau a’n hamodau safonol. Am fwy o wybodaeth ewch i’n gwefan https://www.pontio.co.uk/ Online/term Tâl Postio Ni chodir ffi pan fyddwch yn prynu tocynnau, ond codir £1 o dâl postio os gofynnwch am docynnau trwy’r post. Ni allwch ofyn am docynnau trwy’r post yn hwyrach na 10 niwrnod cyn y digwyddiad, er mwyn sicrhau eu bod yn eich cyrraedd mewn da bryd. Wedi hynny, fe allwch gasglu’r holl docynnau sydd wedi’u prynu ymlaen llaw o’r swyddfa docynnau.
Teuluoedd Lle nodir pris tocyn teulu, mae’r cynnig ar gael i grŵp o bedwar. Rhaid i o leiaf un aelod o’r grŵp fod o dan 18 oed. Gostyngiadau Lle bynnag y bo ‘gostyngiadau’ wedi’i nodi ar gyfer digwyddiadau Pontio, mae’r categorïau isod wedi’u cynnwys yn y diffiniad hwnnw: myfyrwyr a rhai dros 60. Mae plant a phobl ifanc yn cynnwys unrhyw un o dan 18 oed. Caiff plant dan 2 oed fynd i mewn am ddim. Cynllun Mynediad Hynt Mae celf a diwylliant i bawb. Ond os oes gennych nam neu ofynion mynediad penodol, yn aml, gall mwynhau ymweliad â theatr neu ganolfan gelf fod yn fwy cymhleth na dim ond archebu tocynnau a dewis beth i’w wisgo.
Mae Hynt yn gynllun cenedlaethol sy’n gweithio gyda theatrau a chanolfannau celf ar draws Cymru i wneud pethau’n glir ac yn gyson. Mae Pontio yn rhan o’r cynllun Hynt am ein bod yn credu ei fod yn cynnig yr arfer gorau i’n cwsmeriaid o ran polisi tocynnau a mynediad teg. Cerdyn Aelodaeth yw Hynt Mae Hynt yn adnodd Mae gan rai â cherdyn Hynt hawl i gael tocyn yn rhad ac am ddim i gynorthwyydd personol neu ofalydd yn Pontio a phob theatr a chanolfan gelf sy’n rhan o’r cynllun. Ewch i www.hynt.co.uk neu www.hynt.cymru am wybodaeth ac arweiniad am y cynllun.
Gwirfoddoli Byddwch yn rhan bwysig o’n tîm Cwrdd ag ystod eang o bobl Dysgu, datblygu a defnyddio sgiliau newydd
Derbyn cydnabyddiaeth am y sgiliau yr ydych yn eu datblygu a phwyntiau XP ar gyfer Gwobr Cyflogadwyedd Bangor
Diddordeb? gwirfoddolwyr@pontio.co.uk 01248 382666 48