PRIFYSGOL BANGOR Prospectws Israddedigion 2020
Prifysgol Bangor 2020
bangor.ac.uk
COD UCAS: Bangr B06
B “O’r diwrnod cyntaf, mae Bangor wedi bod fel ail-gartref i mi... Mi ddes i yma ar Ddiwrnod Agored, a bu hynny gadarnhau mai dod i Fangor oedd y dewis gorau i mi.” Lowri Lloyd Parry, o Falltraeth, sy’n astudio Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol
A
O
N G
R
Cynnwys
Cyrsiau 2020
04 08 10 16 22 24 26 30 36 42 44 50 52 54 56 58 61 63
65-66 Yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth 67-68 Bioleg a Sŵoleg 69-70 Gwyddorau Eigion 71-72 Cemeg 73-74 Cyfrifiadureg 75-76 Electroneg 77-78 Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer 79-80 Gwyddorau Gofal Iechyd 81-82 Gwyddorau Meddygol 83-84 Seicoleg 85-88 Busnes, Cyllid, Rheolaeth a Marchnata 89-92 Y Gyfraith 93-96 Gwyddorau Cymdeithas 97-100 Cerddoriaeth 101-104 Y Cyfryngau, Theatr, Ffilm a Newyddiaduraeth 105-114 Cymraeg 115-120 Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg 121-122 Athroniaeth a Chrefydd 123-126 Ieithoedd a Diwylliannau Modern 127-128 Llenyddiaeth Saesneg, Ieithyddiaeth ac Iaith Saesneg 129-135 Addysg, Astudiaethau Plentyndod a Dylunio Cynnyrch
Diwrnodau Agored Cipolwg Cyflym ar Fangor Profiad Myfyriwr Y Gymraeg ym Mangor Undeb y Myfyrwyr Clybiau a Chymdeithasau Hamdden a Chwaraeon Llety Sgiliau a Chyflogadwyedd Astudio Dramor Cefnogi ein Myfyrwyr Cefnogaeth Astudio Adnoddau Dysgu Myfyrwyr Hŷn Cyllid Myfyrwyr Bwrsariaethau ac Ysgoloriaethau Sut i Wneud Cais Cyrsiau Cyd-Anrhydedd
Os ydych yn ei chael hi’n anodd darllen maint y print yn y llyfr hwn, edrychwch ar y wefan www.bangor.ac.uk am fanylion am ein cyrsiau a’n cyfleusterau.
2
3
DEWCH I BROFI BANGOR Dewch i un o’r Diwrnodau Agored i gael blas ar fywyd myfyriwr a chael gwybod mwy am y cyrsiau sydd ar gael yma. Gan ein bod ymysg y 10 uchaf ym Mhrydain am foddhad myfyrwyr, fe welwch fod yma amryw o resymau dros ddewis astudio ym Mangor. Bydd diwrnod agored yn rhoi cyfle i chi ddod i wybod mwy am ein cyrsiau gradd, cyfarfod y staff a’r myfyrwyr, gweld y campws a’r neuaddau preswyl a chael y wybodaeth ddiweddaraf am astudio yma. Bydd pob adran academaidd yn agored i chi a chewch gyngor ar bynciau megis gyrfaoedd i raddedigion, cyllid myfyrwyr, ysgoloriaethau a bwrsariaethau, gwasanaethau lles myfyrwyr ac UCAS. Bydd hefyd gwybodaeth benodol ar gael ar gyfer myfyrwyr hŷn a rhieni. Cewch raglen yn cynnwys manylion y diwrnod ymlaen llaw er mwyn i chi gael y budd mwyaf o’ch ymweliad, ac felly mae’n hanfodol eich bod yn cofrestru ymlaen llaw.
DIWRNODAU AGORED2019 Bydd y Diwrnodau Agored ar y dyddiadau yma:
Dydd Sadwrn Mehefin 29 Dydd Sadwrn Gorffennaf 6 Dydd Sul Hydref 13 Dydd Sul Hydref 27 Dydd Sadwrn Tachwedd 9 Yn ystod y Diwrnod Agored byddwch yn: • Dod i wybod mwy am ein cyrsiau gradd • Cyfarfod â staff a myfyrwyr • Ymweld ag Ysgolion academaidd • Gweld y llety • Cael cyngor ac arweiniad ar faterion fel Gwasanaethau Cefnogi Myfyrwyr, Gyrfaoedd i Raddedigion, Cyllid Myfyrwyr, Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau.
Archebu eich lle I sicrhau eich lle, cofrestrwch trwy lenwi’r ffurflen ar ein gwefan a bydd pecyn gwybodaeth yn cael ei anfon atoch yn yn post. I archebu eich lle ac am fwy o wybodaeth ewch i www.bangor.ac.uk neu ffoniwch 01248 382005 / 382320
4
Diwrnodau Agored
Diwrnodau Agored
5
“Ym Mangor rydym bob amser yn gwneud ein gorau i fynd y tu hwnt i’r disgwyliadau arferol er mwyn darparu profiadau prifysgol sydd yr un mor bleserus ag ydynt yn werth chweil. Rydym yn cynnig gwasanaethau o’r radd flaenaf i’n myfyrwyr, yn amrywio o gyfleoedd gyrfa i gefnogaeth academaidd. Rydym hefyd yn falch ein bod yn meithrin cymuned gefnogol a mawr ei gofal sy’n annog ymdrech a thwf personol.
Mae ansawdd ein dysgu a’n hymchwil o safon ryngwladol, gan ddenu myfyrwyr a staff o bedwar ban byd. Bu i Brifysgol Bangor dderbyn Gwobr Aur, y wobr uchaf bosib, yn y Fframwaith Rhagoriaeth cenedlaethol (TEF, 2017) a golyga hyn bod ein dysgu o’r radd flaenaf.
TU HWNT I DDISGWYLIADAU 66
Mae cyfleoedd niferus i fyfyrwyr gymryd rhan mewn amrywiaeth eang o weithgareddau. Mae mynyddoedd godidog Eryri a milltiroedd o arfordir yn ychwanegu at y profiad prifysgol na ellir ei guro. Yn ddiweddar mae Bangor wedi buddsoddi miliynau o bunnau’n datblygu cyfleusterau academaidd a chymdeithasol newydd i fyfyrwyr, gan ei wneud yn lle mwy deniadol fyth i astudio ynddo. Mae hyn yn adlewyrchu’r ffaith ein bod yn darparu addysg ragorol a phrofiad prifysgol sy’n rhoi’r myfyrwyr yn gyntaf.” Yr Athro Graham Upton Is-Ganghellor Dros Dro, Prifysgol Bangor
77
10uchaf ym Mhrydain am Foddhad Myfyriwr
*
Gosododd canlyniadau Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2018 Prifysgol Bangor ymysg y 10 uchaf ym Mhrydain am foddhad myfyriwr.
“Mae canlyniadau’r Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr yn gadarnhad ardderchog o’n gweithgareddau a’n gwerthoedd. Mae’n wych ein bod yn y 10 uchaf ym Mhrydain... Mae’n safle sydd unwaith eto yn adlewyrchu’r safon addysgu ragorol sydd ar gael ym Mangor.”
40uchaf ym Mhrydain am Ansawdd ein Hymchwil
**
AUR Yr Athro OLIVER TURNBULL Dirprwy Is-ganghellor
am Addysgu Rhagorol (TEF, 2017)
8
Prifysgol Euraid
Cafodd yr ymchwil o safon fyd-eang a gyflawnir ym Mangor ei chydnabod gan Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014 (REF).
TY LLERAU GO
Y Llety gorau ym Mhrydain Gwobrau WhatUni 2018
Y Clybliau a Chymdeithasau gorau ym Mhrydain Gwobrau WhatUni 2018
*Heb gyfrif sefydliadau arbenigol ** Heb gyfrif sefydliadau arbenigol a phrifysgolion sy’n cyflwyno mewn un uned asesu’n unig
Prifysgol Euraid
9
BANGOR:
Mae yna amryw o resymau dros ddisgyn mewn cariad â Bangor, heblaw am y dysgu rhagorol a’r ymchwil o safon fydeang. Cewch astudio a chymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg, mwynhau awyrgylch clòs a chyfeillgar a chymryd rhan yn rhai o’r llu o weithgareddau myfyrwyr.
DOES UNMAN TEBYG Cipolwg cyflym ar Brofiad Myfyriwr:
10,000+
o fyfyrwyr o bob rhan o'r byd. Mae yma hefyd awyrgylch gyfeillgar, naturiol Gymreig.
10
Profiad10Myfyriwr
Cefnogaeth
i fyfyrwyr – mae hyn yn flaenoriaeth uchel ym Mangor, ac mae amrediad o wasanaethau a rhaglenni i’ch helpu chi i wneud y gorau o’ch amser yma. Gallwn hefyd eich paratoi ar gyfer eich dyfodol gyda’n gwasanaeth menter a chyflogadwyedd.
Costau byw Sicrwydd
is nag mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig. Mae’r Brifysgol hefyd yn cynnig cymorth ychwanegol ar ffurf Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau sydd werth dros £3.4M.
o Lety – rydym yn sicrhau llety i holl fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf* ac mae hynny, ynghyd ag ansawdd y llety a gynigir yn gaffaeliad mawr i’n myfyrwyr.
Ceir y manylion yma: www. bangor.ac.uk/sicrwyddllety
Cyfleoedd
trwy'r Gymraeg – Prifysgol Bangor sy’n cynnig y nifer fwyaf o gyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg ac mae mwy o’n myfyrwyr yn dewis astudio trwy’r Gymraeg nac yn unrhyw brifysgol arall.
Profiad Myfyriwr
11 11
LLEOLIAD SY'N DENU
Awyrgylch glòs a chyfeillgar
Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
Mae rhagoriaeth Prifysgol Bangor mewn ymchwil ac addysgu yn denu myfyrwyr a staff o bedwar ban byd i’r ddinas. Mae hyn yn cynnig cyfle i’n myfyrwyr gydweithio a chymdeithasu â phobl o bob rhan o'r byd.
Mae maint a natur gyfeillgar y lle, yr amrywiaeth o weithgareddau myfyrwyr a gynigir, ynghyd â’r lleoliad a’r ardal gyfagos yn golygu bod myfyrwyr yn mwynhau eu hunain ym Mangor.
Mae lleoliad Bangor hefyd yn denu. Mae Bangor yn cael ei chydnabod fel lle cyfeillgar a chyfleus i fyw ac astudio, gyda nifer o’n myfyrwyr yn dewis dod yma oherwydd maint a natur y ddinas ei hun.
"Am nad yw’n ddinas fawr, mae popeth o fewn pellter cerdded i’w gilydd. Mae adnoddau fel Canolfan Brailsford a Pontio yn wych ar gyfer gweithgareddau allgyrsiol ac mae Bangor yn agos at nifer o atyniadau megis traethau.” Elain Jones O Ynys Môn, sy’n astudio Cerddoriaeth
12
Profiad Myfyriwr
Mae’r ardal gyfagos hefyd ymhlith y rhesymau pam mae myfyrwyr yn dewis dod i Fangor. Mae Parc Cenedlaethol Eryri a thraethau Ynys Môn yn cynnig digon o gyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored neu i fwynhau eich hunain yn ymlacio. I’r dwyrain, mae’r A55 a’r rheilffordd ar hyd arfordir Cymru yn golygu y gallwch chi fynd digon hawdd am y diwrnod neu gyda’r nos i Landudno, Caer, Lerpwl neu Manceinion. Mae llefydd fel Caernarfon, Llanberis, Beddgelert a Biwmares yn gyrchfannau poblogaidd i fynd am dro, tra bo sawl pentref llai wedi eu dewis fel lleoliad ar gyfer trip Pentre Bach UMCB.
Mae Academi, clwb nos y myfyrwyr, yn ganolbwynt i lawer iawn o’r adloniant gyda’r nos. Yn ogystal â nosweithiau wedi eu trefnu gan yr Undeb neu gan Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor (UMCB, mwy ar dudalen 23), mae amryw o ddigwyddiadau hefyd yn cael eu cynnal yn Y Glôb. Mae Bar Uno, ym mhentref Ffriddoedd a Barlow's ym mhentref y Santes Fair hefyd yn fannau cyfarfod poblogaidd i fyfyrwyr. Yn ogystal, mae canolfan y celfyddydau ac arloesi, Pontio, yn ganolbwynt cymdeithasol newydd i fyfyrwyr yn ogystal â chanolfan o bwys rhyngwladol ar gyfer dysgu, arloesi a’r celfyddydau perfformio. Yn ogystal â bod yn gartref newydd i Undeb y Myfyrwyr, mae’r ganolfan yn cynnwys theatr, theatr stiwdio, sinema, ystafelloedd darlithio, bar, bwyty a chaffi. Mae rhaglen lawn o ddigwyddiadau cerddoriaeth, drama, theatr awyr, comedi, ffilm, ac ystod o weithgareddau eraill yn cael eu cynnal yno.
“Mae Bangor yn lle hynod o braf i fyw ac astudio. Ceir y gorau o ddau fyd yma – bod yn y ddinas ond yn agos i gefn gwlad a’r Parc Cenedlaethol.” Elain Haf Elis O Abergele, sy'n astudio Cymraeg
Profiad Myfyriwr 13 13
“Wedi i mi brofi Diwrnod Agored difyr ym Mhrifysgol Bangor, roeddwn yn sicr mai yma y byddwn i hapusaf. Roedd y darlithwyr a'r staff ategol yn hynod groesawgar ac yn rhoi mewnwelediad diddorol i gynnwys y modiwlau a gynigir fel rhan o'r cwrs gradd. Mae cyfleusterau'r Brifysgol yn arbennig, megis y deunyddiau diddiwedd sydd ar gael yn yr archifdy a darllenfa Shankland, ac mae'r adeilad yn ei hun yn odidog. Does unman gwell!
"Mae Bangor yn lle hyfryd i fyw ac astudio gan fod pob man mor agos i’w gilydd. Mae'r cyfleusterau dysgu o’r safon uchaf ac mae yma lawer o gyfleusterau hamdden sy’n rhoi digon o ddewis o bethau i’w gwneud yn eich amser rhydd. Mae Bangor mewn lleoliad unigryw – yn agos i’r môr a mynyddoedd Eryri ac felly mae digon o gyfle i fynd allan i archwilio’r ardal gyfagos." Gwion Llŷr Morgan Evans O Dregaron, sy’n astudio Cymraeg a Gwyddor Chwaraeon
14
Profiad Myfyriwr
Yr hyn sydd wedi'm synnu ynghylch Bangor yw'r amrywiaeth o bobl a ddenir yma i astudio. Agoriad llygad yw gweld myfyrwyr o wahanol gefndiroedd rhynglwadol yn dewis dod i Fangor ac mae'n amlwg bod rheswm cadarn dros hyn. Dyma un o'r Prifysgolion gorau ym Mhrydain ac mae'r gefnogaeth i fyfyrwyr yn amhrisiadwy ac yn sail i'n bodlondeb a'n llwyddiant. Mae pob diwrnod a dreuliaf yma yn un hapus a phrysur! Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor yw'r corff Cymraeg ei iaith mwyaf adnabyddus ym Mhrifysgol Bangor ac wrth fod yn rhan o'r Undeb, cewch gyfle i gymryd rhan mewn amryw o weithgareddau hwyliog, megis teithiau i wylio gemau rygbi. Petaech yn awyddus i ddatblygu'ch doniau ym maes ysgrifennu dramâu a pherfformio, cewch wneud hynny yn y Gymdeithas Ddrama Gymraeg. Petawn yn rhestru'r holl gyfleoedd, byddai angen ail brosbectws arnoch. Dewch i Fangor – chewch chi mo'ch siomi.” Anna Lewis O Rosybol, Sir Fôn, sy'n astudio Cymraeg
“O’r diwrnod cyntaf, mae Bangor wedi bod fel ail-gartref imi... Mi ddes i yma ar Ddiwrnod Agored, a bu hynny gadarnhau mai dod i Fangor i astudio cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg oedd y dewis gorau i mi. Mae gallu astudio a byw drwy gyfrwng y Gymraeg yn bwysig iawn i mi a gan fod Bangor yn caniatáu i mi wneud hynny rwyf yn ei weld yn lle gwych ar lefel addysgol a chymdeithasol. Rwyf yn hapus iawn efo’r gefnogaeth yr wyf yn ei chael yma, yn enwedig gan fy narlithwyr a fy Nhiwtor Personol. Teimlaf y gallwn drafod unrhyw beth gyda nhw.” Lowri Lloyd Parry O Falltraeth, sy’n astudio Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol
“Dewisiais Fangor am fod yr elfen o fywyd Cymreig yn hollbwysig i mi. Roedd hefyd yn bwysig fy mod yn gallu astudio fy nghwrs trwy'r Gymraeg.” Catrin Gruffudd O Ddeiniolen, sy'n astudio Cerddoriaeth
Profiad Myfyriwr
15
Y GYMRAEG YM MANGOR Prifysgol Bangor sy’n cynnig y nifer fwyaf o gyrsiau cyfrwng Cymraeg – ac mae hefyd yn cael ei chydnabod am safon ei gwasanaethau dwyieithog a’i chefnogaeth i fyfyrwyr.
Mae’r Gymraeg yn rhan gwbl naturiol o fywyd ym Mhrifysgol Bangor ac i’w gweld a’i chlywed ym mhob agwedd ar ei gwaith a’i gweithgarwch. Y mae’r Brifysgol yn buddsoddi’n gyson mewn datblygiadau academaidd cyfrwng Cymraeg a gwasanaethau dwyieithog. Ym Mangor, ceir profiad Cymraeg cyflawn – o ddewis eang o fodiwlau cyfrwng Cymraeg i wasanaethau trwy’r Gymraeg, i ddigwyddiadau cymdeithasol lle mae’r Gymraeg yn ganolog. Mae’r Brifysgol yn hynod o falch o dreftadaeth gyfoethog yr ardal, yn ddiwylliannol ac yn ieithyddol, a bydd yn parhau i chwarae rhan flaenllaw wrth feithrin y bywyd diwylliannol hwn.
“Wrth ddewis astudio ym Mangor, cefais y cyfle i astudio modiwlau trwy gyfrwng y Gymraeg, a gan fy mod yn siarad Cymraeg iaith gyntaf manteisiais ar y cyfle i dderbyn tiwtor Cymraeg am y cyfnod o dair blynedd y byddaf yn astudio ym Mangor". Miriam Forrest Owen O Ynys Môn, sy’n astudio Athroniaeth a Chrefydd
Bangor yw un o’r prifysgolion mwyaf blaenllaw yn y byd yn nhermau gwaith ymchwil i feysydd dwyieithrwydd a thechnolegau iaith. Ar ben hynny, mae’r Brifysgol yn arwain llawer o’r datblygiadau cyffrous sy’n digwydd ym maes addysg uwch trwy’r Gymraeg. Erbyn hyn, mae modd astudio elfennau o’ch cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg ym mhob un o feysydd pwnc y Brifysgol – o Gerddoriaeth i Seicoleg i enwi dim ond rhai meysydd. Mae ein darlithwyr yn arwain y gwaith o ddatblygu adnoddau i gefnogi myfyrwyr, yn cynnwys y termau sydd eu hangen ar gyfer astudio yn Gymraeg. Mae’r Brifysgol hefyd yn arwain nifer o’r cynlluniau sydd wedi’u datblygu i gefnogi addysg uwch cyfrwng Cymraeg drwy’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
“Roedd y gymuned Gymraeg sydd ym Mangor yn apelio’n fawr, yn enwedig y cyfleoedd i fod yn rhan o UMCB ac Aelwyd JMJ sydd wedi cyfoethogi fy mhrofiad fel myfyrwraig. Mae Bangor yn le delfrydol i fyfyrwyr Cymraeg. Mae’r bwrlwm sy’n perthyn i’r gymuned Gymraeg yn anhygoel... Alla i ddim meddwl am unrhyw le gwell i dreulio fy amser fel myfyrwraig cyfrwng Cymraeg.” Elain Jones O Fodedern, sy’n astudio Cerddoriaeth
16
Y Gymraeg ym Mangor
Y Gymraeg ym Mangor
17 17
Y COLEG CYMRAEG CENEDLAETHOL
Ysgoloriaethau Israddedig y Coleg Cymraeg Cenedlaethol Mae’r Coleg yn cynnig ysgoloriaethau cyfrwng Cymraeg i fyfyrwyr israddedig, sy’n gyfle i dderbyn hyd at £3,000 am astudio pynciau yn gyfan gwbl neu’n rhannol trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae rhestr gyflawn o’r cyrsiau cymwys sy’n gysylltiedig â’r cynllun presennol ynghyd ag amodau a thelerau’r ysgoloriaethau i’w gweld ar www.colegcymraeg.ac.uk
Mae Prifysgol Bangor yn gweithio mewn partneriaeth â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i sicrhau ac i gynyddu'r cyfleoedd astudio trwy'r Gymraeg i'n myfyrwyr. Trwy gydweithio â phrifysgolion Cymru, mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn sicrhau ac yn datblygu rhagor o gyfleoedd astudio cyfrwng Cymraeg i fyfyrwyr Cymru. Mae’n cynnig ysgoloriaethau sy’n galluogi myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig i ddilyn cyrsiau addysg uwch drwy gyfrwng y Gymraeg.
MODIWLAU DATBLYGU
SGILIAU IAITH AR GAEL
Pan welwch y symbol hwn ar dudalen cwrs, cofiwch am y gwasanaethau sydd ar gael gan Ganolfan Bedwyr i’ch helpu i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.
18
Y Gymraeg ym Mangor
“Oni bai mod i wedi dilyn
Gweler tudalennau 58-60 am fwy o wybodaeth am Fwrsariaethau ac Ysgoloriaethau ym Mangor.
rhai o fodiwlau’r cwrs yn Gymraeg, dwi ddim yn meddwl byddwn i wedi cael y swydd. Mae gweithio yn adran Pensiynau Cyngor Gwynedd yn waith difyr iawn, a dw i’n meddwl fod astudio rhan o’m cwrs trwy’r Gymraeg a bod yn siaradwr Cymraeg wedi bod yn fantais fawr yn fy nghyfweliad.” Hâf Owen Cyn-fyfyriwr Cyfrifeg a Chyllid
Tystysgrif Sgiliau Iaith Gymraeg y Coleg Cymraeg Cenedlaethol Mae nifer fawr o gyflogwyr yn cydnabod y Dystysgrif hon fel prawf o allu unigolyn i weithio a chyfathrebu’n hyderus drwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd cyfle i chi ymgeisio am y Dystysgrif yn ystod eich cyfnod ym Mangor, pa bynnag bwnc y byddwch yn dewis ei astudio. Bydd y Tiwtor Sgiliau Iaith yn trefnu cyfres o sesiynau i’ch helpu i baratoi ar gyfer yr asesiad llafar a’r arholiad ysgrifenedig.
“Mae astudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn galluogi pobl broffesiynol i weithredu a chyfathrebu’n ddwyieithog yn y maes gwaith. Mae yno farchnad yn y sector breifat a chyhoeddus i allu cynnig gwasanaeth dwyieithog. Mae hyn yn adlewyrchu pwysigrwydd addysg cyfrwng Cymraeg ym maes busnes – i roi sylfaen gadarn, fydd yn fantais i fyfyrwyr yn eu gyrfa gan fod cyflogau swyddi dwyieithog yn uwch na’r cyfartaledd."
“Uchafbwynt y cwrs i mi oedd cael astudio trwy’r Gymraeg, cael bod yn rhan o faes arbenigol sy’n cynnig amryw o gyfleoedd gyrfa i chi. Y cyngor sydd gen i i fyfyrwyr y dyfodol ydi – astudiwch trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’n cynnig llawer o gyfleoedd i chi fel myfyriwr, ac yn y dyfodol fel Nyrs." Sera Llywelyn Davies, astudiodd Nyrsio ac sydd bellach yn gweithio fel Nyrs Gofrestredig
Sara Closs-Davies Darlithydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol Ysgol Busnes Bangor
Y Gymraeg ym Mangor
19 19
ASTUDIO TRWY'R GYMRAEG Prifysgol Bangor sy’n cynnig y nifer fwyaf o gyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg – ac mae mwy o’n myfyrwyr yn dewis astudio trwy’r Gymraeg hefyd nac yn unrhyw brifysgol arall.
Rhesymau tros astudio drwy’r Gymraeg:
Pa gyrsiau sydd ar gael yn Gymraeg?
Modiwlau datblygu sgiliau iaith Mae’r modiwlau Sgiliau Defnyddio'r Gymraeg a
• Gosod sylfaen ardderchog i’r dyfodol o ran cael prawf pendant o ddeallusrwydd a defnydd ymarferol o'r Gymraeg
Ar hyn o bryd mae’n bosib dilyn cwrs gradd un ai’n gyfan gwbl neu’n rhannol trwy gyfrwng y Gymraeg mewn nifer o feysydd pwnc. Ond hyd yn oed os nad yw’r cwrs ei hun ar gael drwy’r Gymraeg mae Bangor hefyd yn cynnig cefnogaeth, anogaeth a chyfle i’r rheiny sydd am gyflwyno eu traethodau neu drafod eu pwnc yn y Gymraeg.
modiwl Ymdrin â’ch Pwnc yn Gymraeg yn cynnig cymorth ymarferol ac maent yn addas i siaradwyr Cymraeg rhugl (dysgwyr neu siaradwyr iaith gyntaf). Mae’r modiwlau yn addas os ydych chi’n: • dilyn eich cyrsiau neu ran o’ch cyrsiau drwy gyfrwng y Gymraeg • dilyn eich cyrsiau yn Saesneg ond eisiau datblygu eich sgiliau a’ch hyder i ddefnyddio’r Gymraeg yn gyffredinol a/neu'n awyddus i allu trafod eich pynciau’n hyderus trwy gyfrwng y Gymraeg.
• Mae cyflogwyr angen pobl ddwyieithog ar gyfer pob math o swyddi • Mae cyflogau swyddi dwyieithog ar gyfartaledd yn uwch • Y Gymraeg ydi iaith yr aelwyd a/neu iaith yr addysg yn yr ysgol a’r chweched dosbarth, ac felly dyma’r iaith sydd fwyaf naturiol • Wedi arfer cael arholiadau a phrofion drwy’r Gymraeg – ac am barhau â hynny yn y brifysgol • Wedi dysgu ac arfer defnyddio termau gwyddonol a chelfyddydol yn Gymraeg • Mae’n agor drysau i gyfleoedd newydd a gwella’r hyn a gynigir ar y CV • Mae’n gyfle i gymdeithasu a byw mewn awyrgylch lle mae’r Gymraeg i’w chlywed bob dydd.
Pam dewis astudio trwy'r Gymraeg? Mae arolwg DLHE yn dangos bod myfyrwyr sy'n astudio trwy'r Gymraeg yn llawer mwy tebygol o fod mewn gwaith neu astudiaethau pellach, ac mewn cyflogaeth sgiliau uwch, na myfyrwyr eraill. Felly, gall astudio trwy'r Gymraeg wella eich rhagolygon gyrfa ac mae sawl rheswm ymarferol a chymdeithasol hefyd dros ddewis astudio trwy’r Gymraeg:
Ffair Swyddi Cymraeg Mae Prifysgol Bangor yn cynnal Ffair Swyddi Cymraeg, sy’n rhoi cyfle i fyfyrwyr gyfarfod â chyflogwyr o wahanol sectorau a deall mwy am bwysigrwydd y Gymraeg ym myd gwaith.
20
Y Gymraeg ym Mangor
Galw am sgiliau iaith Gymraeg Yn sgîl y Safonau Iaith Gymraeg, mae’r galw am sgiliau iaith Gymraeg yn mynd i gynyddu yn y blynyddoedd nesaf, wrth i fwy o sefydliadau ymateb i’r angen i gynnig gwasanaeth dwyieithog. Mae prinder pobl gyda sgiliau dwyieithog mewn nifer o feysydd a swyddi, er enghraifft gwaith cymdeithasol, cyngor gyrfaoedd, cyllid, addysg, y sector cyfiawnder, llywodraeth leol, rheoli gweinyddol a busnes, technoleg darlledu, therapyddion iaith a therapyddion lleferydd, swyddi gweinyddol. Wrth i fwy o gyflogwyr chwilio am weithwyr gyda sgiliau dwyieithog, yna mae astudio o leiaf rhan o gwrs gradd drwy gyfrwng y Gymraeg yn mynd i fod o help wrth chwilio am swydd.
Pa gefnogaeth sydd ar gael? Mae nifer o fyfyrwyr Prifysgol Bangor yn dewis astudio drwy’r Gymraeg. Os dewiswch chi wneud hyn, bydd digon o gefnogaeth ar gael i chi. Mae Canolfan Bedwyr yn arbenigo ar gynnig gwasanaethau i gefnogi'r Gymraeg ym Mangor. Mae'r Ganolfan hefyd yn gartref i waith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yma. Ceir crynodeb o'r gefnogaeth yma yn y golofn nesaf.
MAE MODD GWNEUD Y CWRS HWN DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG
Pan welwch y symbol hwn ar y dudalen, mae hyn yn golygu bod modd gwneud y cwrs yn gyfan gwbl drwy’r Gymraeg. Os nad yw’r symbol ar y dudalen cwrs, darllenwch yr wybodaeth o dan y pennawd Astudio trwy’r Gymraeg i weld y dewisiadau cyfrwng Cymraeg sydd ar gael i chi.
Meddalwedd cyfrifiadurol Cysgliad Dyma adnodd defnyddiol ar gyfer rhai sy’n awyddus i ysgrifennu’r Gymraeg. Mae’n cynnwys: • Cysill – rhaglen sy’n gwirio sillafu a gramadeg • Cysgeir – casgliad o eiriaduron electronig Cymraeg/Saesneg a Saesneg/Cymraeg.
Gwasanaeth Terminoleg Mae’r tîm termau wedi cyhoeddi ystod eang o eiriaduron termau dwyieithog er mwyn galluogi myfyrwyr a staff i ymdrin â’u pwnc yn Gymraeg. Gall myfyrwyr gysylltu â swyddog terminoleg y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, wedi’i lleoli yng Nghanolfan Bedwyr, am arweiniad ar ba dermau i’w defnyddio.
Gwasanaeth cyfieithu llawn Mae gan fyfyrwyr hawl i gyflwyno traethodau neu wneud cyflwyniadau yn Gymraeg, hyd yn oed os nad yw’r tiwtor/darlithydd yn deall Cymraeg. Mae’r Uned Gyfieithu yn cyfieithu gwaith ysgrifenedig myfyrwyr i’r Gymraeg ac yn cyfieithu cyflwyniadau myfyrwyr i’r Gymraeg trwy’r gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
21
EICH LLAIS, EICH CYFLEOEDD, EICH UNDEB Bydd llawer o’ch bywyd cymdeithasol yn y Brifysgol yn ymwneud ag Undeb y Myfyrwyr, sy’n rhoi gwasanaethau, cefnogaeth, gweithgareddau ac adloniant i fyfyrwyr. Gyda thros 200 o glybiau a chymdeithasau ac amryw o gyfleoedd i wirfoddoli, mae'n hawdd gweld sut bod Undeb y Myfyrwyr yn rhan hanfodol o fywydau nifer o fyfyrwyr. Beth yw Undeb y Myfyrwyr? Bydd llawer o’ch bywyd cymdeithasol yn y Brifysgol yn ymwneud ag Undeb y Myfyrwyr sef Undeb Bangor, sy’n rhoi gwasanaethau, cefnogaeth, gweithgareddau ac adloniant i fyfyrwyr. I gael y gorau allan o’ch amser yn y Brifysgol, mae Undeb y Myfyrwyr yn eich annog i gymryd rhan yn yr amrywiaeth eang o weithgareddau a gynigir, gan ei bod yn ffordd ddelfrydol i gyfarfod pobl newydd a rhoi cynnig ar bethau newydd. Gellwch gymryd rhan mewn rhedeg yr Undeb a’i wasanaethau – sy’n amrywio o ganolfan gynghori i brojectau gwirfoddoli – neu gymryd rhan yn y nifer o weithgareddau a gynigir. Mae’r Undeb yn rhoi cyfle i chi ddilyn diddordebau cyffrous neu newydd drwy’r amrywiaeth o glybiau a chymdeithasau a gynigir, ac ym Mangor mae ymaelodi â chlybiau a chymdeithasau Undeb y Myfyrwyr yn rhad ac am ddim.
22 Undeb y Myfyrwyr
Gwaith yn y Gymuned Gallwch hefyd ymuno â myfyrwyr eraill i weithio er lles y gymuned leol trwy Gwirfoddoli Undeb Bangor. Mae yna ddewis o dros 50 project, sy'n disgyn i mewn i un neu fwy o'r categorïau canlynol: iechyd meddwl, plant, yr henoed, y gymuned, yr amgylchedd a chwaraeon. Mae gwirfoddolwyr Undeb Bangor yn cyfrannu dros 800 awr yr wythnos i amryw o brojectau cymunedol. Bydd y sgiliau a’r profiad rydych yn eu hennill drwy wirfoddoli yn apelio at gyflogwyr, a gallwch hefyd ennill pwyntiau am wirfoddoli tuag at Wobr Cyflogadwyedd Bangor.
Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor Mae Bangor yn cynnig cyfle i bobl ifanc sy’n siarad Cymraeg i fod yn rhan o gymdeithas glòs, hynod o fywiog. Mae UMCB yn bodoli i hybu a diogelu buddiannau’r Cymry ym Mangor, ac mae’r aelodau yn medru manteisio ar y gwasanaethau sydd ar gael yn yr Undeb, tra hefyd yn mwynhau sylw personol a gofalus eu hundeb eu hunain dan arweiniad Llywydd UMCB. Bydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor (UMCB) yn cynnal Clwb Cymru unwaith y mis. Clwb Cymru yw un o uchafbwyntiau cyson bywyd cymdeithasol. Gydag awyrgylch hwyliog a themâu gwirion o bryd i’w gilydd, mae’r noson yma’n boblogaidd iawn efo myfyrwyr Bangor. Mae nifer o grwpiau wedi cynnal gigs ym Mangor, ar wahoddiad UMCB. Gyda channoedd o aelodau mae nosweithiau UMCB yn nosweithiau mawr. Ymysg y gweithgareddau a digwyddiadau eraill sy’n cael eu trefnu gan UMCB mae tripiau i’r Ddawns Ryng-golegol yn Aberystwyth, a gemau rygbi rhyngwladol yn yr Iwerddon a’r Alban. Yn ogystal â’r bywyd nos, mae nifer o gymdeithasau hefyd yn dod o dan ymbarél UMCB, a’r rheiny’n amrywio o chwaraeon i grefydd, o lenyddiaeth i adloniant. Er enghraifft, mae’r canlynol dan adain UMCB: timau pêl-droed; corau a phartïon canu a cherdd dant; papur newyddion Cymraeg Y Llef, sy’n cael ei ysgrifennu a’i olygu gan y myfyrwyr. Fel rhan o gysylltiadau UMCB â’r ardal, mae ymweliadau cyson gan fyfyrwyr ag ysgolion lleol, a thrwy’r Urdd mae aelodau UMCB hefyd yn cefnogi gweithgarwch y mudiad yn rhanbarth Eryri.
Undeb y Myfyrwyr
23 23
Mae eich cyfnod fel myfyriwr yn gyfle gwych i chi gael blas ar weithgaredd newydd am y tro cyntaf. Rydym wedi cael ein gosod y gorau am Glybiau a Chymdeithasau (gwobrau WhatUni 2018) ac mae aelodaeth o dros 200 clwb a chymdeithas Undeb Myfyrwyr Bangor yn rhad ac am ddim.
Cynhelir Serendipedd, Ffair yr Wythnos Groeso ar ddechrau’r flwyddyn academaidd a chewch gyfle yno i gael gwybod mwy am weithgareddau cymdeithasau a chlybiau fel Drama, Comedi, DJs, Pêl-droed a Syrffio. Ymysg y clybiau a chymdeithasau, mae yna rai fydd yn ategu eich cwrs academaidd, fel Cymdeithas y Gyfraith a’r Gymdeithas Ddaearyddiaeth. Os nad oes clwb neu gymdeithas sy’n apelio atoch, gallwch sefydlu un eich hun gyda chymorth yr Undeb.
"Mae digon o weithgareddau ar gael ym Mangor i ddod â myfyrwyr Cymraeg at ei gilydd, megis yr Undeb Gymraeg sy’n cynnig cyfleoedd a thripiau i’r Cymry. Drwy gynnal digwyddiadau fel hyn mae’n rhoi’r cyfle i’r myfyrwyr gymysgu gyda’i gilydd a sicrhau profiad cartrefol iawn iddynt yn ystod eu cyfnod yn astudio ym Mangor."
ANTUR
AMSER AM
Miriam Forrest Owen O Ynys Môn, sy'n astudio Athroniaeth a Chrefydd
Mae'r Cymdeithasau yn cynnwys: Cymdeithas Cadwraeth; Clwb Gwyddbwyll; Cymdeithas Cerdded Ci; Cymdeithas Arswyd; Cymdeithas Ffotograffiaeth; Band Jazz; Band Pres; Cymdeithas Animeiddio; Cymdeithas DJ; Cymdeithas Wrestlo; Cymdeithas Hanesyddol ac Archaeolegol; Cymdeithas Celf.
“Mae 'na hwyl yn aros amdanoch chi...lot o gymdeithasu, timau chwaraeon cyfeillgar a hwyliog...” Sioned Martha Davies O Bencader, sy'n astudio Cymraeg
Ceir rhestr lawn ar y wefan: www.undebbangor.com
24
Clybiau a Chymdeithasau
Clybiau a Chymdeithasau
25
Chwaraeon ym Mangor
Cyfleusterau Chwaraeon Yng Nghanolfan Brailsford mae yno gampfa ddeulawr llawn offer diweddaraf Lifefitness, sy’n cynnwys 50 peiriant cardio, amrywiaeth lawn o offer gwrthiant ‘Hammer Strength’ ac ardal codi pwysau Olympaidd, 9 platfform, ar wahân. Mae’r ganolfan hefyd yn gartref i ddwy neuadd chwaraeon, stiwdio aerobeg, stiwdio beicio, wal ddringo gyda sawl lefel anhawster ac adran creigiau mawr a phedwar cwrt sboncen. Drws nesaf i Ganolfan Brailsford mae’r Dôm – sef canolfan pêl-rwyd a thenis dan do. Yn yr awyr agored mae gennym gaeau ar gyfer pêl-droed (dau efo llifoleuadau), rygbi, pêl- droed Americanaidd, Quidditch, Ultimate, a chae synthetig ar gyfer hoci. Mae caeau awyr agored (sy'n cynnwys cae rygbi a phêl-droed 3G) a thrac athletau yn Nhreborth. Mae’r Brifysgol yn bartner efo Clwb Pêl-droed Bangor ar faes pob tywydd, peil hir, trydedd genhedlaeth, wedi ei leoli dros y ffordd i gampws Gwyddorau Chwaraeon ac Addysg ac fe’i defnyddir ar gyfer gemau myfyrwyr a hyfforddi clybiau.
CHWARAEON A HAMDDEN 26 26
Chwaraeon ym Mangor
Ym Mharc Cenedlaethol Eryri, rydym yn gweithio mewn partneriaeth â Snowdonia Watersports, canolfan gweithgareddau awyr agored ger Llyn Padarn. Snowdonia Watersports yw’r lleoliad ar gyfer rhaglen rwyfo’r Brifysgol yn ogystal â chlybiau gweithgareddau dŵr a mynyddoedd eraill, a rhai modiwlau rhaglenni addysg awyr agored y Brifysgol. Ym Mangor ei hun, mae pwll nofio 25 metr gyda chyfleusterau deifio uchel. Mae atyniadau poblogaidd lleol eraill sy’n cael eu defnyddio gan y Brifysgol yn cynnwys y Ganolfan Fynydda Genedlaethol (Plas-y-Brenin) a Phlas Menai, Canolfan Awyr Agored Genedlaethol Chwaraeon Cymru.
Ysgoloriaethau Chwaraeon Rydym yn cynnig nifer o Ysgoloriaethau Chwaraeon gwerth hyd at £3,000 y flwyddyn i fyfyrwyr â dawn arbennig mewn chwaraeon. Bwriad yr Ysgoloriaethau yw cydnabod a chefnogi rhagoriaeth a chyrhaeddiad mewn chwaraeon. Nid yw’r Ysgoloriaethau wedi’u cyfyngu i unrhyw gamp neilltuol nac i fyfyrwyr ar unrhyw gyrsiau penodol.
Ar Safle’r Normal, mae dwy neuadd chwaraeon arall sydd wedi eu hadnewyddu'n ddiweddar sy’n cael eu defnyddio gan glybiau a thimau’r Brifysgol gan gynnwys arfdy ar gyfer cleddyfaeth a gweithgareddau saethyddiaeth. Ym mhentref y Santes Fair, mae yno ystafell ffitrwydd a gall myfyrwyr fwynhau gweithgareddau awyr agored yn yr ardal gemau aml-ddefnydd a chyfleusterau ar gyfer pêl droed, pêl-fasged agemau yn yr awyr agored.
Sport at Bangor
27 2727
BYDDWCH YN BAROD AM ANTUR
Os oes gennych ddiddordeb mewn chwaraeon awyr agored bydd gennych ddewis eang o gyfleon ar garreg eich drws, o ddringo a mynydda i baragleidio a chwaraeon dŵr.
Undeb Athletau Bangor Mae Undeb Athletau Bangor yn rhan o Undeb y Myfyrwyr sy’n gyfrifol am Glybiau Chwaraeon. Mae yma dros 60 o dimoedd a chlybiau ym Mangor, o rygbi a phêl-droed i octopush a thrampolinio. Mae lleoliad unigryw Bangor hefyd yn golygu y gall y clybiau fanteisio ar fynyddoedd, llynnoedd, afonydd ac arfordir yr ardal. Golyga’r dewis eang o chwaraeon sydd ar gael bod y cyfle yno i chi roi cynnig ar weithgaredd newydd, yn ogystal â pharhau gydag unrhyw chwaraeon rydych yn cymryd rhan ynddo eisoes. Mae pob clwb yn groesawus ac yn gyfeillgar, gyda llawer o ddigwyddiadau cymdeithasol yn cael eu cynnal ynghyd â’r gweithgareddau chwaraeon.
“Mae’r bywyd cymdeithasol yma yn grêt! Dwi’n rhan o dîm pêl-rwyd Bangor sydd wedi rhoi’r cyfle i mi gyfarfod â phobl na fyswn i wedi cwrdd â hwy fel arall.” Sioned Rowlands O Gaerdydd, sy'n astudio Seicoleg
Clybiau Chwaraeon Bangor
“Mae Bangor a’r ardal yn brydferth ac yn cynnig cydbwysedd da rhwng bywyd dinesig a bywyd gwledig.” Jonathan Môn Hughes O’r Fali, Ynys Môn, sy’n astudio Addysg Gynradd
Athletau ar y trac, Badminton, Bocsio, Canŵio, Cerdded Mynyddoedd, Cheerleaders, Chwaraeon Eira, Clwb Becio, Codi Pwysau, Criced, Dawnsio, Ffensio, Ffrisbi ‘Ultimate’, Golff, Gymnasteg, Hoci, Hwylfyrddio, Hwylio, Jiwdo, Jiu-Jitsu, Ki-Aikido, Lacrosse, Marchogaeth, Mynydda, Nofio, Nofio Tanddwr, Pêl-droed (dynion a merched), Pêl-droed Americanaidd, Pêl-droed Gwyddelig (dynion a merched), Pêl-fasged (dynion a merched), Pêl-foli, Peli-paent, Pêl-rwyd, Polo Canŵ, Quidditch, Rhwyfo, Rygbi’r Gynghrair, Rygbi’r Undeb (dynion a merched), Saethyddiaeth, Sboncen, Snwcer a Phŵl, Syrffio, Tenis, Tenis Bwrdd, Tonfyrddio, Trampolinio, Triathlon. Rhestr lawn: www.undebbangor.com Gallwch gymryd rhan mewn chwaraeon eraill yn lleol.
28
Chwaraeon ym Mangor
Chwaraeon ym Mangor
29 29
CROESO I'R CAMPWS Mae ein llety wedi cael ei enwi fel y gorau ym Mhrydain ac rydym yn sicrhau llety i holl israddedigion blwyddyn gyntaf*. Fel Prifysgol rydym yn eich annog i wneud cais am le mewn Neuadd Breswyl oherwydd yn y fan honno y cewch y cyflwyniad gorau i fywyd prifysgol. Cewch gyfle mewn neuaddau i wneud ffrindiau newydd agos, i gyfarfod â phobl o wahanol gefndir ac i fwynhau ymdeimlad o gymuned.
Pa fath o lety sydd ar gael? Mae’r neuaddau i gyd yn hunan-arlwyol. Mae ceginnau yn ystafelloedd cymdeithasol a byddwch yn rhannu ceginnau gyda myfyrwyr eraill. Mae’r offer yn y ceginnau yn cynnwys cyfleusterau sylfaenol megis stofiau, rhewgelloedd, oergelloedd a byrddau smwddio. Mae angen i fyfyrwyr ddod â’u cyllyll a ffyrc, sosbenni a llestri, a haearn smwddio eu hunain. Llety safonol (rhannu cyfleusterau): mewn llety hunan-arlwyol safonol fe geir ystafelloedd gwely preifat a rhannu cyfleusterau baddondy a chegin. Llety en-suite: yn y neuaddau mwy newydd ceir ystafelloedd gwely en-suite gyda chawod a thoiled preifat. Tai Tref: y nesaf peth i ddim at fyw yn eich tŷ eich hun. Rhannu un drws ffrynt gyda’ch ffrindiau. Gwych i grwpiau a myfyrwyr sy’n dychwelyd. Stiwdios: lle byw annibynnol i unigolion.
“Mae byw mewn neuadd yn brofiad
bythgofiadwy. Dyma’r lle gorau i gymysgu â myfyrwyr eraill. Mae’n gyfle gwych i brofi bywyd coleg drwy gymdeithasu, gwneud ffrindiau a chymryd rhan yn y gweithgareddau.” Briall Llwyd Gwilym O Langwm, sy’n astudio Bydwreigiaeth
30
Llety
* Am fanylion llawn ein gwarant am lety, ewch i: www.bangor.ac.uk/sicrwyddllety
Llety
31
“Mae’n fywyd prysur ond rwyf wrth fy modd. Rwy’n rhannu fflat efo wyth o genod eraill – felly mae 'na ddigon o siarad a chwerthin yn mynd ymlaen!” Siwan Gwilym Williams O Moelfre ger Abergele, sy’n astudio Astudiaethau Plentyndod a Seicoleg
Mae’r ‘pentrefi’ myfyrwyr ym Mangor i gyd o fewn pellter cerdded i ganol y ddinas a phrif adrannau’r Brifysgol – mae ein llety mor gyfleus fel na fydd raid i chi wario eich arian ar docynnau bws neu betrol i deithio’n ôl a blaen o’r neuaddau. Pentref Ffriddoedd Mae’r pentref neuaddau mwyaf ym Mangor Uchaf ac mae tua 10 munud o waith cerdded o Ffordd y Coleg, Safle’r Gwyddorau a chanol y dref. Ar y safle hwn mae golchfeydd a lolfeydd myfyrwyr. Hefyd ar y safle mae Bar Uno, caffi-bar myfyrwyr, sy’n darparu prydau bwyd a diodydd o frecwast drwy’r dydd tan swper, siop gyfleus i fyfyrwyr a Chanolfan Brailsford y ganolfan chwaraeon a hamdden. Ystafelloedd en-suite gan fwyaf sydd ar y safle yma.
"Roedd hi'n grêt byw efo cyd-fyfyrwyr Cymraeg eraill, a chael byw â phobl amrywiol sy’n gwneud cyrsiau gwahanol hefyd.” Wil Chidley O Dudweiliog, sy’n astudio Daeryddiaeth Ffisegol ac Eigioneg
Neuadd JMJ Neuadd John Morris Jones yw dewis gartref y mwyafrif o fyfyrwyr Cymraeg ym Mangor a rhai sy’n dysgu’r iaith. Mae’n ganolbwynt bywyd cymdeithasol Cymraeg, gan gynnig cymuned glòs a chyfeillgar i fyfyrwyr o bob cwr o Gymru. Mae Neuadd John Morris Jones (neu JMJ i’r rhai sy’n byw yno) wedi ei lleoli mewn adeiladau modern ym mhentref Ffriddoedd gyda chyfleusterau en-suite, adnoddau o’r radd flaenaf a Bar Uno a chanolfan chwaraeon Brailsford gerllaw.
SICRWYDD O LETY CARTREFOL 32
Llety
Ceir bywyd cymdeithasol bywiog yn Neuadd JMJ gyda’r gweithgareddau, sy’n cael eu trefnu gan y myfyrwyr ac UMCB (Undeb MyfyrwyrCymraeg Bangor), yn cynnwys parti Nadolig, tripiau rygbi, gweithgareddau rhyng-golegol a thaith flynyddol i’r Iwerddon.
Pentref y Santes Fair Mae’r pentref yma yn edrych dros dinas Bangor ac yn agos at y stryd fawr sy’n cynnig amrywiaeth o siopau. Mae hwn yn bentref newydd gyda 600 o ystafelloedd, ac mae’r dewis o lety yn cynnwys fflatiau stiwdio a thai tref. Mae yno hefyd gaffi-bar, siop, golchfeydd, ystafell ffitrwydd, lolfeydd myfyrwyr, ystafell sinema, gofod perfformio a cherddoriaeth a gofod gemau awyr agored. Edrychwch ar ein gwefan am y wybodaeth ddiweddaraf: www.bangor.ac.uk/llety
Llety
33 33
Cyfleusterau sydd ar gael
Mynediad Rhyngrwyd
Faint fydd hyn yn gostio?
Mae ein pentrefi myfyrwyr o fewn cyrraedd hwylus i siopau, tafarnau a chaffis o bob math lle bynnag y byddwch yn aros. Rydym yn darparu amrywiaeth o fannau bwyta sy’n agored i bawb. Mae’r rhain wedi eu lleoli ym mhentref Ffriddoedd (Bar Uno a Siop Ffriddoedd), ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau (Café Teras a Lolfa Teras), ym mhentref y Santes Fair (Bar Barlow's, caffi prydau parod a siop) ac yng nghanolfan Pontio (bar, ciosg, bwyty a chaffi).
Mae gan bob ystafell wely sengl gyswllt rhyngrwyd ond rhaid dod â’ch cyfrifiadur eich hun!
Mae costau byw ym Mangor yn is nag mewn llawer rhan arall o wledydd Prydain ac adlewyrchir hynny yn ffioedd y neuaddau. Cofiwch hefyd eu bod yn cynnwys yr holl filiau am fynediad i’r rhyngrwyd, gwres, trydan, dŵr poeth, aelodaeth Campws Byw a chwaraeon a hefyd yswriant cynnwys sylfaenol.
Mae ein holl fannau arlwyo’n defnyddio nwyddau lleol a Masnach Deg lle bo’n bosib. Mae ein dau bentref myfyrwyr â chyfleusterau chwaraeon a hamdden heb eu hail. Cafodd Canolfan Brailsford ei hail-ddatblygu’n ddiweddar, ar gost o sawl miliwn o bunnoedd, a cheir yno bellach 3 campfa, 2 neuadd chwaraeon, 2 stiwdio, wal ddringo a chyfleuster tennis a phêl-rwyd dan do. Ym mhentref y Santes Fair, mae ystafell ffitrwydd newydd sbon wedi’i lleoli ar y safle, yn ogystal â maes chwaraeon aml-ddefnydd helaeth yn yr awyr agored. Mae aelodaeth o’r gampfa wedi’i chynnwys gyda holl lety Prifysgol Bangor.
Campws Byw Trefnir rhaglen Campws Byw gan y Tîm Bywyd Preswyl a chydlynwyr sy'n fyfyrwyr ar gyfer holl breswylwyr neuaddau’r Brifysgol. Mae aelodaeth Campws Byw wedi'i gynnwys yn y gost am Lety. Ymysg y digwyddiadau mae caiacio, cerdded mynyddoedd, nosweithiau ffilm, digwyddiadau cerddorol, partion pitsa a gweithdai. www.bangor.ac.uk/campus-life www.campuslifebangor.co.uk
34
Llety
Mentoriaid a Diogelwch Mae gan y Neuaddau sawl Uwch Warden a nifer o Fentoriaid yn eu cynorthwyo. Y Mentoriaid sy’n gyfrifol am fywyd cymunedol, lles myfyrwyr a disgyblaeth. Maen nhw’n helpu gyda’r holl ofal bugeiliol ac yn helpu i feithrin ysbryd cymunedol cyfeillgar yn y Neuaddau. Hefyd, er bod Bangor yn lle diogel i fyw gyda chyfradd troseddau isel, mae Staff Diogelwch ar gael 24 awr y dydd.
Mae ffioedd neuadd yn cael eu cyfrifo am y sesiwn academaidd lawn. Fel llinyn mesur bras, dyma ffioedd 2019: • Rhannu cyfleusterau o £99 • Cyfleusterau en-suite o £118 • Stiwdios o £162
Llety i rai gydag anabledd neu gyflwr iechyd hir-dymor Pan fyddwch yn gwneud cais dylech nodi unrhyw anabledd neu gyflwr iechyd hir-dymor a allai effeithio ar y math o lety y mae arnoch ei angen. Bydd ein Cynghorwr Anabledd wedyn yn asesu eich achos a chynghori’r Swyddfa Neuaddau ynglŷn â’r llety y dylech ei gael. Mae nifer o ystafelloedd mewn rhai neuaddau wedi cael eu haddasu ar gyfer myfyrwyr anabl.
Sut allai gael mwy o wybodaeth? Ewch i wefan y Brifysgol a'r tudalennau Llety www.bangor.ac.uk/bywydmyfyriwr www.bangor.ac.uk/llety
“Mae hi mor hawdd gwneud ffrindiau mewn lle mor glòs. Mae wir fel un teulu mawr – yn enwedig yn JMJ...” Bethan Ienna Boland O Abertawe, sy’n astudio Cymraeg “Mae byw mewn neuadd breswyl yn brofiad hollol wahanol i fyw adref ond, mae hi dal i deimlo mor gartrefol yma.” Sioned Rowlands O Gaerdydd, syn astudio Seicoleg
Llety
35 35
CAM YMLAEN AT
YRFA
Mae'r rhaglenni a'r gefnogaeth sgiliau a chyflogadwyedd a gynigir yn cynnwys:
Cynlluniau cyflogadwyedd a menter Paratowch at eich dyfodol drwy wneud defnydd llawn o’r ystod eang o’r cynlluniau sydd ar gael.
Gwobr Cyflogadwyedd Bangor Casglwch bwyntiau am lawer o weithgareddau allgyrsiol tuag at Wobr Cyflogadwyedd Bangor sydd wedi cael ei chynllunio i wella eich rhagolygon gyrfa.
TARGETconnect Gallwn eich helpu i gael hyd i waith rhan-amser trwy TARGETconnect.
“Mae gweithio tuag at Wobr Cyflogadwyedd Bangor wedi fy ysgogi i feddwl pa sgiliau penodol rwyf wedi eu cyflawni trwy weithgareddau allgyrsiol." Cyn-fyfyriwr, a gymerodd ran yng Ngwobr Cyflogadwyedd Bangor.
3636
Careers & Employability
Blwyddyn Lleoliad Gwaith
Fel myfyriwr yma, byddwch yn cael eich annog i fanteisio ar yr amryw o raglenni datblygu gyrfa a gaiff eu cynnig, fel y gallwch ddechrau cynllunio’ch llwybr gyrfa mewn da bryd. Mae’r rhaglenni hyn yn cynnwys cynlluniau cyfnewid, lleoliadau gwaith, cynlluniau interniaeth, gweithdai, cynlluniau gwyliau haf a chyfleoedd i wirfoddoli fydd yn eich galluogi i wneud y gorau o’ch amser yma. Cyflogadwyedd Mae'r Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd yn cynnig ystod eang o adnoddau i’ch helpu i wireddu’ch uchelgeisiau ar ôl graddio. O’r munud y cyrhaeddwch Fangor, byddwn yno i’ch cynghori a rhoi gwybodaeth ymarferol i chi am brofiad gwaith, swyddi yn ystod y gwyliau, gwaith amser tymor ac, wrth gwrs, eich helpu i nodi’r hyn a wnewch ar ôl graddio. Byddwn yn parhau i’ch cefnogi am dair blynedd ar ôl graddio. Mae datblygu eich medrau personol a’ch medrau cyflogadwyedd ochr yn ochr â’ch gradd yn dod yn fwyfwy pwysig i ddarpargyflogwyr. I wella eich cyflogadwyedd rydym yn cynnig rhaglen sy’n cynnwys arweiniad unigol, gweithdai a chyflwyniadau gan gyflogwyr. I ychwanegu at ein gwasanaethau, rydym hefyd yn cynnig gwasanaethau ychwanegol sy’n darparu gwaith rhan-amser, profiadau gwirfoddol, gwaith dros yr haf a lleoliadau sy’n seiliedig ar brojectau.
Cymrwch ran mewn Blwyddyn Lleoliad Gwaith sy'n flwyddyn allan rhwng Blynyddoedd 2 a 3 o'r cwrs gradd. Bydd 'gyda lleoliad gwaith' yn cael ei ychwanegu at deitl eich gradd.
Mae yna nifer o digwyddiadau yn cael eu cynnal i gefnogi cyflogadwyedd. Er enghraifft, mae Ffair y Gyfraith yn cael ei chynnal yn flynyddol i ddangos y cyfleon gwaith amrywiol sydd ar gael i’w graddedigion; ac fe gynhelir diwrnod cyflogadwyedd Seicoleg i ddangos sut y gall y sgiliau trosglwyddadwy sy’n cael eu hennill wrth ddilyn cwrs gradd yn y maes fod yn berthnasol i amrywiaeth o yrfaoedd.
Rhaglen Profiad Rhyngwladol
TARGETconnect
Rhowch hwb pellach i’ch rhagolygon gyrfa drwy gymryd rhan yn y Rhaglen Profiad Rhyngwladol, lle mae cyfle i astudio dramor am flwyddyn ychwanegol (gwelwch dudalen 42).
TARGETconnect yw gwasanaeth cyflogaeth y Brifysgol. Rydym yma i’ch helpu i gael hyd i waith yn ystod y tymor, gwaith gwyliau ac, yn bwysicaf oll, cyfleoedd i raddedigion, yn genedlaethol ac yn lleol. Rydym hefyd yn hysbysebu cyfleoedd ar gyfer profiad gwaith, interniaethau a gwaith gwirfoddol. Gellwch weld y wybodaeth ar-lein, neu alw heibio i gael cymorth a chyngor.
Eich Dyfodol
37 37
Lleoliadau a Phrofiad Gwaith
Cynllun Interniaeth
Byddwch Fentrus
Gwobr Cyflogadwyedd Bangor
Mae profiad gwaith yn bwysig er mewn sicrhau swydd ar ôl graddio. Rydym yn cynnig amrywiaeth o opsiynau i fyfyrwyr i sicrhau eu bod yn ennill sgiliau cyflogadwyedd gwerthfawr. Mae'r cymorth a ddarparwyd yn cynnwys cefnogaeth mewn unrhyw leoliad gwaith neu interniaeth hoffech eu cymryd. Gall pob myfyriwr israddedig sy'n cychwyn cwrs isradd o Fedi 2019 ymlaen ddewis cymryd rhan mewn lleoliad gwaith gwirfoddol ym Mlwyddyn 2, sy'n bythefnos o hyd (isafswm o 70 awr), neu gymryd rhan mewn Blwyddyn Lleoliad Gwaith sy'n flwyddyn allan rhwng Blynyddoedd 2 a 3 o'r cwrs gradd. Byddwch yn cael eich cefnogi yn ystod y cyfnod yma gan aelod penodol o staff yn eich Ysgol academaidd, a chaiff y profiad gwaith ei gydnabod yn briodol. Mae'r lleoliadau yma'n cynnig cyfle gwych i chi ennill profiad gwerthfawr o weithio mewn maes sy'n gysylltiedig â'ch cwrs. Bydd myfyrwyr sy'n gwneud y lleoliad o bythefnos o hyd yn cael y cyfle i'w gynnwys yn eu Hadroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR) ac fe fydd y rhai sy'n gwneud y Flwyddyn Lleoliad Gwaith yn cael 'gyda lleoliad gwaith' ar deitl eu gradd.
Dyma gyfle i chi gael profiad gwaith (efo cyflog) o lefel graddedig, yn adrannau ac Ysgolion academaidd y Brifysgol. Bydd y math o waith yn waith project, yn amrywio o farchnata, dylunio gwe, neu broject ymrwymiad myfyrwyr, i gefnogi project ymchwil, gwaith maes, neu reoli data.
Mae Byddwch Fentrus yn cynnig cyfleodd i fyfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau menter trwy gynnig gweithdai rhyngweithiol, cystadlaethau a gweithgareddau arbrofi’r farchnad yn ogystal â mentora busnes i gefnogi darpar entrepreneuriaid. Mae cyfleusterau prototeipio hefyd ar gael trwy Arloesi Pontio ac M-Sparc.
Cynlluniwyd Gwobr Cyflogadwyedd Bangor (GCB) i wella rhagolygon gyrfa myfyrwyr Prifysgol Bangor yn syth ac yn y tymor hirach. Mae’r wobr yn gweithio gydag adrannau academaidd y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr Bangor, a hefyd gyda sefydliadau yn y sectorau preifat, cyhoeddus a gwirfoddol. Mae cynllun GCB yn cydnabod eich bod yn cymryd rhan mewn gweithgareddau a digwyddiadau sy’n datblygu’ch sgiliau a’ch galluoedd tra ydych ym Mhrifysgol Bangor. Gall cymryd rhan lawn yn y cynllun hwn wneud gwahaniaeth mawr i’ch perfformiad ym marchnad swyddi graddedigion y dyfodol. Mae GCB yn cynnig achrediad ar gyfer gweithgareddau cyd-gwricwlaidd ac allgwricwlaidd (e.e. gwirfoddoli, profiadau gwaith, gwaith rhan-amser, dysgu iaith newydd) efallai nad ydynt yn cael eu cydnabod yn ffurfiol o fewn y rhaglen radd academaidd, ond sy’n werthfawr yn y farchnad swyddi i raddedigion. Gall ymddangos ar eich Adroddaid Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR).
Gwirfoddoli Gall y Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd eich helpu i drefnu profiad gwirfoddol a chyfleon gyda Chlybiau a Chymdeithasau Undeb y Myfyrwyr. Rydym hefyd yn cynnal diwrnodau recriwtio i fudiadau lleol ac yn hysbysebu cyfleoedd gwirfoddoli yn y wlad hon ac mewn gwledydd eraill.
Cynllun Arweinwyr Cyfoed Rydym hefyd yn rhoi cyngor a gwybodaeth i fyfyrwyr am amrywiaeth eang o gyfleoedd profiad gwaith yn ystod y tymor a’r gwyliau, a hyd yn oed yn cyflwyno rhaglen o leoliadau gwaith gan y Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd. Mae gan Brifysgol Bangor hefyd gysylltiadau agos â chwmnïau mawr fel banc Santander a Siemens.
Mae bod yn Arweinydd Cyfoed yn cynnig cyfle delfrydol i chi gymryd rhan lawn ym mywyd myfyriwr yn ogystal â’r cyfle i chi ddatblygu eich sgiliau rhyngbersonol a’ch sgiliau trefnu. Mae cyflogwyr graddedigion yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi’r sgiliau byddwch yn eu hennill drwy fod yn Arweinydd Cyfoed.
“Mae Gwobr Cyflogadwyedd Bangor yn ffordd wych o gofnodi gweithgareddau rydych yn eu gwneud tra yn y Brifysgol. Gall fod o fudd i chi gan bydd cyflogwyr yn gweld eich bod wedi gwneud gwaith arall tra’n astudio." Wil Chidley O Dudweiliog, sy’n astudio Daeryddiaeth Ffisegol ac Eigioneg
38
Eich Dyfodol
Cyngor Gyrfaoedd Ar-lein Oherwydd ein bod yn sylweddoli bod angen yn aml i fyfyrwyr gael cyngor gyrfaoedd ar fyr rybudd, rydym yn cynnig cyngor ar-lein i ategu ein darpariaeth arferol.
Ieithoedd i Bawb Mae dysgu iaith yn hwyl ac yn her, a bydd yn eich annog i ehangu eich gorwelion, gan agor drysau i ddiwylliannau eraill ac yn gwella eich cyflogadwyedd. Rydym yn cynnig y cyfle i ddysgu iaith newydd, neu wella'r sgiliau iaith sydd gennych yn barod, trwy’r rhaglen Ieithoedd i Bawb – cynllun sy’n cynnig dosbarthiadau nos am ddim i fyfyrwyr. Mae’r ieithoedd sydd ar gael fel arfer yn cynnwys: Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg, Eidaleg a Tsieinëeg (Mandarin). Gall y modiwlau iaith hyn gyfrannu pwyntiau at Wobr Cyflogadwyedd Bangor.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â ni: E: cyflogadwyedd@bangor.ac.uk Ff: 01248 382071
“Mae Gwobr Cyflogadwyedd Bangor yn gymhelliant go-iawn i fynd ati i wirfoddoli, a thrwy hynny, gymdeithasu!” Nia Hâf O Lanrug, sy'n astudio Cymraeg, Theatr a’r Cyfryngau
Eich Dyfodol
39
Gyda’r amryw o raglenni datblygu gyrfa sydd ar gael i fyfyrwyr, byddwch yn gallu cynllunio ar gyfer eich gyrfa mewn da bryd. Dyma brofiadau rhai o’n myfyrwyr sydd wedi cymryd rhan mewn lleoliadau gwaith, interniaethau a Gwobr Cyflogadwyedd Bangor yn ystod eu hamser ym Mhrifysgol Bangor.
“Yr uchafbwynt i mi oedd cyfarfod criw arbennig iawn o ffrindiau a phobl ifanc drwy fod yn rhan o Wirfoddoli Myfyrwyr Bangor. Mae wedi agor cymaint o ddrysau ac wedi fy siapio fel person. Dyma’r peth gorau am fod ym Mangor – mae’r holl staff yn Gwrfoddoli Myfyrwyr Bangor yn bobl arbennig iawn, sydd o hyd yn barod eu cymwynas.” Lora Lewis O Bwllheli, bellach yn fyfyriwr ôl-radd Addysg
40
Eich Dyfodol
“Yn ystod gwylia'r haf rhwng fy mlwyddyn gyntaf a'r ail roeddwn i'n ffodus o dderbyn interniaeth gyda Parc Gwyddoniaeth MSparc. Yn ystod y profiad gwaith, roedd y parc yn cael ei adeiladu, ac roeddwn yn gweithio ym maes Gweithrediadau a Rheoli Project. Wnes i ddod o hyd i'r profiad gwaith drwy edrych ar wefan y Brifysgol lle mae interniaethau i fyfyrwyr yn cael eu hysbysebu. Roedd gweithio mewn sefydliad peirianneg proffesiynol, yn golygu fy mod yn delio gyda nifer o wahanol gwmnïau a oedd yn dod i'r safle i drafod gwahanol agweddau o'r gwaith adeiladu. Roedd hyn yn cynnwys trafod gyda pheirianwyr mecanyddol, trydanol, a sifil. Yn ogystal â hyn, roedd dogfennau pwysig yn cael eu monitro, er enghraifft lluniau technegol o'r adeilad, ac roedd rhain yn cael eu cofrestru yn wythnosol. Cefais brofiad o fynd allan ar y safle a gweld yr adeilad yn cael ei adeiladu, ac roedd hynny yn brofiad ymarferol gwych.
“Mae fy swydd gyda BBC Radio Cymru yn golygu fy
mod yn treulio llawer o amser allan yn yng nghymunedau’r gogledd-ddwyrain yn cwrdd â phobl ac yn gweithio ar straeon ac, heb os, mi wnaeth arwain côr JMJ a gwirfoddoli gyda UMCB roi’r hyder imi gyflwyno ac i siarad yn gyhoeddus. Roedd yr interniaeth hefyd yn gyfle gwych i gwrdd â phobl, datblygu fy sgiliau cyfathrebu a sicrhau profiad proffesiynol gwerthfawr."
Liam Evans Cyn-fyfyriwr Cymraeg a Hanes a fanteisiodd ar y llu o weithgareddau allgyrsiol sydd ar gael ym Mangor – gweithgareddau a gryfhaodd ei sgiliau cyfathrebu ac a gyfrannodd at sicrhau ei swydd bresennol fel Newyddiadurwr gyda BBC Radio Cymru.
Yn ystod y profiad gwaith, roeddwn yn gallu defnyddio'r sgiliau roeddwn wedi'u datblygu ar fy nghwrs fel sgiliau gweithio mewn tîm, delio efo a datrys problemau, cyfathrebu, ac yn y blaen." Megan Wyn Owen, O Ynys Môn, sy’n astudio Peirianneg Electroneg
“Teimlaf mai’r peth gorau am astudio ym Mangor yw fod llawer o gyfleoedd academaidd ac all gyrsiol yma. Mae’r wobr Cyflogadwyedd sy’n cael ei chynnal yma yn rhywbeth i’w chanmol am ei bod yn rhoi cyfle i fyfyrwyr fynychu gweithdai sydd o fudd ar gyfer y dyfodol pan yn wynebu cyfweliadau neu’n paratoi CV.” Elin Owen Jones O’r Efailnewydd, sy’n astudio Cyfrifeg a Chyllid
Eich Dyfodol
41 41
“Roedd llawer o’m ffrindiau wedi bod i Awstralia ac yn dweud mai dyna oedd blwyddyn orau eu bywyd felly fe wnaeth hynny fy ysbrydoli! Ar ôl treulio blwyddyn yno, rwy’n hapus i ddweud na chefais fy siomi. Fe ddewisais yr opsiwn ‘gweithio dramor’ a fy nod oedd i baratoi cyn gymaint â phosib am flwyddyn olaf fy ngradd.
Roeddwn isio ennill profiad fyddai o fudd i mi pan yn ymgeisio am swyddi yn y dyfodol. Mae gweithio mewn ysgol yn Awstralia wedi fy helpu i ddatblygu sgiliau fel rheoli amser, annibyniaeth, a dyfalbarhad. Byddwn i’n hoffi mynd yn ôl i Awstralia a chychwyn gyrfa yno.” Danial Tomos Jones, O Gaernarfon, sy’n astudio Gwyddor Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer
Yn ystod eich amser yma cewch gyfle i astudio dramor fel rhan o’ch rhaglen radd. Gyda prifysgolion sy’n bartneriaid i ni ledled Ewrop, Gogledd America, Awstralia a’r Dwyrain Pell, rydym yn cynnig rhaglen profiad rhyngwladol heb ffiniau.
Enghreifftiau o bynciau a'u lleoliadau Coedwigaeth: Canada a Norwy Bioleg: UDA a'r Iseldiroedd Cemeg: Siapan ac Awstralia Gwyddorau Eigion: Norwy ac UDA Bancio a Chyllid: Ffrainc a Sbaen Cymdeithaseg: Awstralia a'r Ffindir Seicoleg: Yr Iseldiroedd ac UDA Ieithyddiaeth: Sbaen a Denmarc Ieithoedd Modern: Ffrainc, Yr Almaen, Yr Eidal, Sbaen Addysg: Awstralia a'r Ffindir
Yn dibynnu ar eich cwrs, mae'n bosib y byddwch yn gallu treulio rhwng 3 a 12 mis yn astudio dramor yn ystod eich ail flwyddyn a bydd eich gwaith yn cyfrannu at eich gradd. Mae gennych hefyd y cyfle i gymryd blwyddyn allan ar ein rhaglen Profiad Rhyngwladol. Bydd y myfyrwyr sy’n dilyn yr opsiwn yma yn astudio dramor am un flwyddyn ychwanegol, yn elwa o ddewis llawer mwy eang o leoliadau a bydd ‘gyda phrofiad rhyngwladol’ yn cael ei ychwanegu at deitl eu gradd.
BYD O
GYFLEOEDD 42
Astudio Dramor
Mae’n gyfle gwych i astudio gydag arbenigwyr, gweld ffordd wahanol o fyw, ehangu eich gorwelion ac, wrth gwrs, gyda phrofiad rhyngwladol o’r fath, rydych yn gwneud byd o les i’ch gyrfa.
Os oes gennych ddiddordeb mewn astudio dramor, bydd y Swyddog Cyfnewidiadau Rhyngwladol yn barod iawn i roi gwybodaeth i chi yn ystod eich semester cyntaf ym Mangor. Mae gwybodaeth ychwanegol am ein holl bartneriaid a chyrchfannau ar gael ar ein gwefan: www.bangor. ac.uk/ cyfnewidiau Os gwelwch y logo yma ar y dudalen, mae’n dynodi bod cyfle i gael profiad rhyngwladol os byddwch yn dilyn y cwrs hwnnw.
Os ydych yn bwriadu astudio mewn gwlad lle nad yw’r Saesneg yn cael ei siarad fel iaith frodorol, efallai y bydd cefnogaeth iaith ychwanegol ar gael i chi.
Astudio Dramor
43
Wythnos Groeso
CEFNOGI EIN MYFYRWYR
Er mwyn eich helpu i ymgartrefu a chyfarfod pobl newydd, rydym yn trefnu Wythnos Groeso i fyfyrwyr newydd.
Ym Mangor, rydym yn rhoi blaenoriaeth i ddarparu gofal a chefnogaeth i fyfyrwyr. O’r adeg pan gyrhaeddwch yma, cewch gymaint o gymorth a chefnogaeth ag y bo modd gyda materion iechyd a gofal yn ogystal â gwaith academaidd.
“Cefais decst gan fy Arweinydd Cyfoed cyn cyrraedd y Brifysgol, ac roedd hynny o gymorth mawr.” Catrin Gruffydd O Ddeiniolen, sy'n astudio Cerddoriaeth
44
Cefnogi Myfyrwyr
“Mae Arweinwyr Cyfoed o'r Ysgol Gwyddor Chwaraeon yn andros o fywiog a chlên efo phawb ac yn gwneud Bangor yn le croesawgar iawn. Roeddynt wedi fy helpu i ddod i adnabod pobl ar fy nghwrs, roedd hyn yn rhywbeth mawr i mi fel myfyriwr o gartre'." Jessica Lee Hughes O Bencaenewydd, sy'n astudio Chwaraeon, Iechyd ac Addysg Gorfforol
“Fel myfyriwr hŷn, roedd y cynllun Arweinwyr Cyfoed yn fudd mawr i mi. Roedd bod mewn prifysgol yn anghyfarwydd i mi. Fe wnaeth fy Arweinydd Cyfoed fy helpu i ymgartrefu a dwi ddim yn meddwl y byddwn wedi ymdopi yn yr wythnosau cyntaf hebddi!” Lisa Sparkes Myfyriwr yn yr Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithas
Bydd nifer o ddigwyddiadau adloniadol a chymdeithasol wedi eu trefnu i’ch cynorthwyo i gyfarfod â myfyrwyr eraill. Byddwch yn mynd i gyfarfod sy’n eich croesawu’n swyddogol i’r Brifysgol, byddwch yn dewis eich modiwlau ac yn dod yn aelod o Undeb y Myfyrwyr. Bydd Arweinwyr Cyfoed o'ch cwrs yn eich helpu i ddod adnabod y Brifysgol yn ystod yr wythnos ac yn trefnu digwyddiadau a gweithgareddau cymdeithasol i’ch helpu i gwrdd â myfyrwyr eraill ac ymgartrefu.
Arweinwyr Cyfoed Mae Bangor yn adnabyddus am y croeso cynnes a gynhigir i fyfyrwyr newydd, ac mae llawer o hyn oherwydd ein Cynllun Arweinwyr Cyfoed. Mae’r Cynllun wedi derbyn cydnabyddiaeth cenedlaethol a chafodd ei roi ar rhestr fer y Times Higher Education am Wobr Cefnogaeth Ragorol i Fyfyrwyr. Mae ein holl Arweinwyr Cyfoed yn fyfyrwyr gan mai hwy yw’r bobl orau i’ch helpu i ymgartrefu. Wedi’r cwbl, does dim cymaint â hynny ers iddynt hwythau fod yn fyfyrwyr newydd. Mae ein holl Arweinwyr Cyfoed wedi cael eu hyfforddi ac maent yno i helpu myfyrwyr newydd i setlo, i drefnu gweithgareddau cymdeithasol, ac i fynd â myfyrwyr newydd o gwmpas y campws. Byddwch yn gweld llawer ar eich Arweinwyr Cyfoed yn ystod yr Wythnos Groeso, ond nid dyna ddiwedd y mater. Byddant wrth law am gyhyd ag y byddwch yn teimlo bod arnoch angen ychydig bach o help. Ac wrth reswm, unwaith y byddwch wedi ymgartrefu, efallai y byddwch chithau â’ch bryd ar ddod yn Arweinydd Cyfoed.
Cefnogi Myfyrwyr
45
Sut gall Gwasanaethau Myfyrwyr helpu:
GWASANAETHAU MYFYRWYR
Gwasanaeth Cynghori am ddim Gwasanaeth cynghori cyfrinachol yn gwbl rad ac am ddim. Gallwch wneud apwyntiad neu galwch i mewn. Bydd gennych hefyd Diwtor Personol ac mae Mentor ym mhob neuadd breswyl sydd yno i ofalu amdanoch.
Rydym yn awyddus i chi fwynhau eich cyfnod ym Mangor, ac yn sylweddoli efallai y bydd arnoch angen cefnogaeth i ddatrys rhai problemau personol a all godi.
Cynghorwr Iechyd Meddwl Mae cynghorwyr iechyd meddwl yn cynorthwyo myfyrwyr i reoli eu hastudiaethau a gallant nodi ffynonellau cymorth a chefnogaeth.
Cyswllt Personol Person cyswllt penodol i fyfyrwyr o ofal o fewn Gwasanaethau Myfyrwyr.
Cefnogaeth os ydych yn sâl “Mae'r Brifysgol yn 100% gefnogol. Mae digonedd o wasanaethau sy'n cefnogi myfyrwyr yma." Catrin Gruffydd O Ddeiniolen, sy'n astudio Cerddoriaeth
Am fwy o wybodaeth: Gwasanaethau Myfyrwyr, Prifysgol Bangor, Bangor, Gwynedd, LL57 2DF
Cynghorydd i’ch helpu os ydych yn sâl neu os ydi eich amgylchiadau’n newid a chithau’n gorfod rhoi’r gorau i’ch astudiaethau dros dro.
“Mae yma bob math o gymorth ar gael - o gymorth academaidd i gymorth ariannol ac iechyd a lles." Tomos Iwan Evans O Lanbed, sy’n astudio Dylunio a Thechnoleg gyda SAC
Meddygfeydd dyddiol Meddygfeydd dyddiol penodol gyda phractis meddygon teulu.
Tîm y Gaplaniaeth Mae Tîm y Gaplaniaeth ar gael i gefnogi holl aelodau’r Brifysgol, waeth beth yw eu daliadau crefyddol.
Mentoriaid Astudio
Ff: 01248 382024
Mae mentoriaid astudio yn rhoi cefnogaeth i fyfyrwyr ar
E: gwasanaethaumyfyrwyr@bangor.ac.uk
sail anghenion unigol.
www.bangor.ac.uk/gwasanaethaumyfyrwyr
46
Cefnogi Myfyrwyr
Cefnogi Myfyrwyr
47 47
GWASANAETH ANABLEDD Os ydych chi yn wynebu rhwystrau i astudio o ganlyniad i gyflwr hir-dymor neu nam, gall ein Gwasanaethau Anabledd ddarparu cefnogaeth yn ystod eich cyfnod ym Mangor. Rydym yn wasanaeth proffesiynol a chyfeillgar sy’n derbyn adborth arbennig gan fyfyrwyr.
Cefnogaeth ychwanegol sydd ar gael: Dywedwch wrthym am eich gofynion Mae Prifysgol Bangor yn annog ceisiadau gan fyfyrwyr anabl gan anelu at ddarparu cyfle cyfartal i bob myfyriwr. Rydym yn eich cynghori i roi tic yn y bocs perthnasol mewn perthynas ag anabledd ar eich ffurflen UCAS fel y gallem drafod eich gofynion gyda chi. Nid oes rhaid disgwyl nes i chi gofrestru yma – os oes gennych gynnig i astudio ym Mangor gallwch gofrestru ar-lein gyda Gwasanaethau Anabledd 60 diwrnod cyn cofrestru i sicrhau bod y gefnogaeth sydd ei angen arnoch wedi ei drefnu cyn cychwyn y cwrs lle bo’n bosib.
Cynllun Cefnogi Dysgu Penodol (CCDP) Caiff Cynlluniau Cefnogi Dysgu eu llunio i nodi gofynion unigol, ac i sicrhau caiff trefniadau priodol eu gwneud, er enghraifft amser ychwanegol mewn arholiadau. Mae ein Ap CCDP yn sicrhau bod eich gwybodaeth yn cael ei rannu gyda'r bobl angenrheidiol yn unig er mwyn gwneud y trefniadau priodol ar eich cyfer.
Asesu gwahaniaethau dysgu penodol Gall myfyrwyr nad ydynt wedi cael asesiad blaenorol am ddyslecsia, dyspracsia neu anawsterau sylwol gael asesiad sgrinio anffurfiol ac asesiad diagnostig llawn lle bo angen.
Canolfan Asesu Prifysgol Bangor
Am fwy o wybodaeth: Gwasanaeth Anabledd, Gwasanaethau Myfyrwyr, Llawr Isaf, Neuadd Rathbone, Prifysgol Bangor, Bangor, Gwynedd, LL57 2DF E: gwasanaethanabledd@bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/gwasanaethanabledd
48
Cefnogi Myfyrwyr
Mae Lwfansau Myfyrwyr Anabl (LMA) yn helpu i gwrdd ag unrhyw gostau cwrs ychwanegol o ganlyniad i anabledd. Gall y Ganolfan helpu myfyrwyr i wneud cais am LMA a gwneud asesiadau anghenion astudio.
Myfyrwyr gyda thrafferth symud Os oes gennych drafferth symud, fe’ch cynghorir i ddod draw i’r Brifysgol lle bydd yn bleser gan staff eich tywys o amgylch. Cysylltwch â ni i drafod eich gofynion.
Cefnogaeth Bersonol Gallwn ddarparu mentoriaid a chynorthwywyr ymarferol i hwyluso astudio a thasgau dyddiol. Mae yna hefyd diwtoriaid / mentoriaid arbenigol sy'n gallu helpu efo gwaith cwrs, a chyda rheoli amser a llwyth gwaith a straen. Mae hyn yn cynnwys cefnogaeth gyda mathamateg, ystadegau, a chefnogaeth cyfrwng Cymraeg.
Addasiadau Arholiadau ynorthwyo i drefnu yn ôl gofynion penodol ar gyfer C arholiadau ac asesiadau.
Tiwtor Anabledd Gweithio’n agos â’r Tiwtor Anabledd eich cwrs.
Offer Cefnogol Trefnu benthyg offer e.e. recordydd digidol.
Ystafelloedd Cynorthwyol Trefnu mynediad i Ystafelloedd Technoleg Gynorthwyol.
Lwfans Myfyriwr Anabl Eich cynorthwyo i wneud cais am Lwfans Myfyriwr Anabl.
Asesu Gofynion Iechyd Meddwl Asesu gofynion Iechyd Meddwl a darparu gwybodaeth am faterion iechyd meddwl, a'r gwasanaethau a'r gefnogaeth sydd ar gael.
Gwasanaethau Cymdeithasol Cysylltu â’ch gwasanaethau cymdeithasol lleol i drafod darparu cymorth gofal personol.
Dyslecsia, Dyspracsia ac AD(H)D Rhoi cyngor a chefnogaeth i fyfyrwyr dyslecsig, dyspracsig ac AD(H)D.
Cefnogi Myfyrwyr 49 49
CEFNOGAETH ASTUDIO
“Mae fy Nhiwtor Personol bob amser yn barod i helpu. Hefyd, mae ‘Sgiliau Astudio’ wedi bod yn werthfawr wrth ysgrifennu traethodau ac aseiniadau.” Briall Llwyd Gwilym O Langwm, sy’n astudio Bydwreigiaeth
"Rydym yn ffodus iawn i fod mewn Prifysgol sy’n pwysleisio pwysigrwydd llais y myfyrwyr ac yn gwrando ar farn a phryderon myfyrwyr.” Branwen Roberts O Bontypridd, sy’n astudio Cymraeg
Mae’r Gefnogaeth Astudio yn cynnwys:
Canolfan Sgiliau Astudio
• Tiwtor Personol i roi cyngor a chefnogaeth, yn ogystal ag adborth rheolaidd ar eich cynnydd academaidd
Mae'r Ganolfan yn gweithio ochr yn ochr â staff academaidd er mwyn integreiddio sgiliau academaidd yn rhan o'r cwricwlwm ac mae’n darparu ystod o gyfleoedd dysgu i unigolion a grwpiau.
• Cefnogaeth ychwanegol gan y Ganolfan Sgiliau Astudio – sy’n cynnwys help efo ysgrifennu academaidd, adolygu, mathemateg ac ystadegau • Adnoddau sy’n cefnogi pynciau penodol gan gynnwys llong ymchwil yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion, sganiwr MRI ac amgueddfa Byd Natur • Gwella cefnogaeth astudio’n barhaus, gan gynnwys uwchraddio gwerth £1.5 o ofodau dysgu ar hyd y campws • Buddsoddiad ychwanegol yng ngwasanaeth y llyfrgell, gan gynnwys oriau agor 24/7 ar y prif safleoedd.
Tiwtor Personol Pan ddewch yn fyfyriwr, cewch Diwtor Personol. Byddwch yn cyfarfod yn rheolaidd â’ch Tiwtor Personol trwy gydol eich cwrs, a bydd ef/hi yno i roi cyngor a chefnogaeth i chi ar faterion personol ac academaidd. Mae’r cyfarfodydd efo’ch Tiwtor Personol yn ffordd o gael adborth rheolaidd ar eich cynnydd academaidd, i’ch helpu i fanteisio i’r eithaf ar eich cwrs ac i wireddu eich llawn botensial. Yn ogystal â’r cyfarfodydd rheolaidd yma, gallwch ofyn i gael gweld eich Tiwtor Personol ar unrhyw adeg arall i gael cyngor a chefnogaeth. Bydd eich Tiwtor yn gwneud y gorau i’ch helpu neu, os oes angen, i’ch cyfeirio at aelod arall o staff neu wasanaeth am gefnogaeth neu arweiniad.
Apwyntiadau unigol i roi sylw i sgiliau ysgrifennu ac astudio Gallwch drefnu apwyntiad unigol gydag Ymgynghorwyr Astudio er mwyn trafod anghenion unigol ac i ganolbwyntio ar waith ar gyfer eich aseiniadau. Mae ein hymgynghorwyr yn cael eu cefnogi gan dîm o Fentoriaid Ysgrifennu i Gyfoedion sydd wedi cael eu hyfforddi'n benodol i weithio ochr yn ochr â chyd-fyfyrwyr wrth iddynt ysgrifennu aseiniadau academaidd.
Mathemateg ac Ystadegau Mae ein gwasanaeth mathemateg ac ystadegau yn darparu cymorth wedi ei deilwra ar gyfer pecynnau a chysyniadau ystadegol, a hefyd cymorth gyda rhifedd sylfaenol.
Gweithdai Sgiliau Academaidd Mae'r Ganolfan Sgiliau Astudio yn cynnal rhaglen dreigl o weithdai. Gall y pynciau gynnwys: rheoli astudiaeth academaidd; dadansoddi gofynion tasgau; darllen yn feirniadol; defnyddio gwaith awduron eraill; datblygu eich ymchwil; a manteisio i'r eithaf ar arholiadau.
Adnoddau ar-lein Mae ein gwefan yn cynnwys amrywiaeth o ganllawiau astudio ac yn rhoi trosolwg o brif agweddau astudiaethau academaidd. Ar y safle mae canllawiau ynglŷn ag ysgrifennu, darllen ac ymchwilio'n academaidd, sgiliau cyfathrebu llafar, cynnwys cyfeiriadau ar ffynonellau, a sgiliau arholiadau. Am ragor o wybodaeth, ewch i www.bangor.ac.uk/sgiliauastudio
50
Cefnogi Myfyrwyr
Cefnogi Myfyrwyr
51
ADNODDAU DYSGU I’ch helpu gyda’ch astudiaethau rydym yn darparu amrywiaeth o adnoddau dysgu yn cynnwys cyfleusterau a gwasanaethau Llyfrgell, Archifau, Sgiliau Astudio, Cyfrifiaduro, Cyfryngau a Reprograffeg. Mae gennym gyfleusterau TG helaeth i chi eu defnyddio, pedair llyfrgell, cyfleusterau pwrpasol ym maes y Cyfryngau a Chanolfan Sgiliau Astudio. Mae staff profiadol yma i’ch helpu i gael y budd gorau o’n hadnoddau yn ystod eich cyfnod ym Mangor.
Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Technoleg Gwybodaeth
TG mewn Neuaddau ac oddi ar y Campws
• Mae ein pedair llyfrgell yn darparu amgylchedd astudio deniadol sy'n cynnwys gofodau dysgu distaw.
Mae’r Gwasanaethau TG yn cynnwys diwifr a mynediad rhwydwaith cyflym ar y campws ac ym mhob neuadd breswyl a mynediad o bell i TG oddi ar y campws.
• Byddwch yn manteisio drwy fynediad hwylus at ein casgliad helaeth o lyfrau, cyfnodolion a chronfeydd data ar-lein. Gellir mynd at y rhan fwyaf o adnoddau electronig 24/7.
Adnoddau TG
Gellir defnyddio llawer o feddalwedd y Brifysgol o rywle gyda chysylltiad rhyngrwyd (e.e. e-bost a chalendr trwy gyfrwng Office 365, amgylchedd dysgu rhithiol Blackboard etc.) Gallwch hefyd gael mynediad oddi ar y campws, drwy gysylltiad rhyngrwyd, at y rhan fwyaf o'r feddalwedd y Brifysgol trwy ddefnyddio Desktop Anywher.
• Yn ystod yr Wythnos Groeso byddwch yn cael cyfle i gyfarfod â’n staff a chael cyflwyniad rhyngweithiol i’n gwasanaeth. • Ceir gwasanaeth wi-fi yn ein holl lyfrgelloedd, yn ogystal ag ystafelloedd cefnogi astudio, gydag offer technoleg gynorthwyol a boglynwyr Braille. • Mae gan yr Archif a Chasgliadau Arbennig gasgliad pwysig o lawysgrifau, casgliadau archifol ac amrywiaeth o lyfrau a deunydd printiedig prin sy’n cael eu hystyried yn ddeunydd ymchwil a dysgu gwerthfawr yn fyd-eang.
Adnoddau arbenigol ar gyfer pynciau arbennig Mae gennym ystod o adnoddu dysgu eraill sy’n cefnogi pynciau penodol. Mae rhain yn cynnwys: • Canolfan Iaith amlgyfrwng • Llong ymchwil sy’n rhoi profiad ymarferol o’r môr • Acwaria môr traofannol, môr tymherus a dŵr croyw • Amgueddfa Hanes Anianol • Sganiwr MRI gwerth £1.5M • Gerddi Botaneg o 45 acer ar lannau’r Fenai – sy'n gartref hefyd i'r wiwerod coch brodorol a chytref o grëyr glas • Ffarm gyda rhaglen ymchwil mewn cnydau, coedamaeth, a’r gwyddorau amgylcheddol.
52
Mae gennym nifer o ystafelloedd/mannau cyfrifiadurol ar draws y campws lle gellir mynd at rwydwaith y Brifysgol. Mae mynediad diwifr a socedi ar gyfer gliniaduron hefyd ar gael. Hefyd mae’r ystafelloedd cyfrifiadurol yn agored am oriau hir ac am 24 awr y dydd mewn rhai achosion. Ceir cyfleusterau cyfrifiadurol arbenigol yn llyfrgell Prif Adeilad y Celfyddydau a llyfrgell Deiniol ar gyfer myfyrwyr ag anableddau neu anghenion ychwanegol e.e. cyfrifiaduron gydag amrywiaeth o feddalwedd cynorthwyol, argraffydd Braille, sganiwr Rainbow, chwyddwr CCTV a dodrefn arbenigol.
Dysgu ar-lein Mae Blackboard, amgylchedd dysgu ar-lein y Brifysgol, ar gael i bob defnyddiwr ar y campws ac oddi ar y campws. Mae’n rhoi cefnogaethar-lein ychwanegol yn cynnwys nodiadau cwrs, byrddau trafod, hysbysiadau a llawer mwy.
Recordio darlithoedd Os yw darlithydd wedi dewis defnyddio’r system recordio darlithoedd Panopto, mae’r system yn recordio’r sain â’r hyn sy’n ymddangos ar y cyfrifiadur (e.e. sleidiau PowerPoint). Gellir cyhoeddi'r ddarlith ar Blackboard, amgylchedd dysgu ar-lein y Brifysgol. Mae myfyrwyr yn defnyddio hwn i adolygu beth maent wedi’i ddysgu mewn darlithoedd.
Mynediad i’r Rhyngrwyd yn y Neuaddau Mae gan bob ystafell wely yn neuaddau Prifysgol Bangor fynediad di-wifr i’r rhyngrwyd (mae gan rai gysylltiad gwifr hefyd). Mae’r cyflymder yn cyfateb i fandeang domestig lleol.
A allaf fenthyca cyfrifiadur? Rydym yn cynnig gwasanaeth benthyca gliniaduron yn y Ganolfan Cymorth TG.
fyMangor Mae fyMangor yn rhoi mynediad ar-lein atwybodaeth a gwasanaethau i’ch cefnogi yn y Brifysgol. Trwy fyMangor gallwch: • Gofrestru gyda’r Brifysgol a gweld eich amserlen a chalendr personol • Weld eich marciau a gawsoch a rhoi sylwadau ar fodiwlau rydych wedi’i astudio • Weld eich cyfrif ariannol gyda’r Brifysgol a mwy... Mae’r Brifysgol drwy’r ‘Cynlluniau Cefnogi Dysgu Personol’ yn rhoi cefnogaeth ychwanegol i fyfyrwyr anabl (a rhai gyda chyflyrau meddygol parhaus, anawsterau iechyd meddwl a anawsterau dysgu sbesiffig). Gellir gwneud cais am y rhain ar-lein, ac unwaith y bydd y myfyriwr a’r Gwasanaethau Anabledd wedi cytuno ar gynllun, mae cynlluniau cefnogi dysgu personol ar gael yn fyMangor.
Uned Argraffu a Rhwymo Mae gennym Uned Argraffu a Rhwymo ganolog yn y Brifysgol ac mae’r gwasanaethau ar gael yn cynnwys: argraffu digidol – gwasanaeth cyflym o safon uchel; argraffu traethodau hir/ posteri/taflenni ac yn y blaen mewn lliw a du a gwyn; rhwymo traethodau hir – cloriau caled a meddal; lamineiddio – maint A4 i faint A0 ac argraffu posteri mawr.
Adnoddau Dysgu
53 53
MYFYRWYR HŶN Rydym yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn a byddem yn gwneud ein gorau i’ch helpu a’ch cefnogi yn ystod eich amser yma. Rydym yn deall eich bod, fel myfyriwr hŷn, ychydig yn wahanol i fyfyrwyr sy’n dod yma yn syth o’r ysgol.
Efallai eich bod yn ystyried astudio yma’n llawn-amser, neu os ydych yn byw’n lleol, efallai bod astudio’n rhan-amser yn apelio. Ymysg y gwasanaethau a fydd o ddiddordeb i chi fydd y Cynghorydd Myfyrwyr Hŷn yn yr adran Gwasanaethau Myfyrwyr, y cyngor a’r gefnogaeth sy’n cael ei gynnig gan yr Uned Cefnogaeth Ariannol, a’r gefnogaeth ym maes Sgiliau Astudio sy’n cael ei gynnig gan y Ganolfan Sgiliau Astudio (gwelwch dudalen 51). • Yn yr Adran Gwasanaethau Myfyrwyr mae Cynghorydd Myfyrwyr Hŷn ar gael i gynnig cymorth gydag amrywiaeth o faterion
Ariannu eich astudiaethau Yn dibynnu ar eich amgylchiadau unigol, efallai byddwch yn gymwys i gael cefnogaeth ariannol ychwanegol. Er enghraifft, gall myfyrwyr sy’n rhieni ac sy’n gymwys am gymorth ychwanegol gael Grant Gofal Plant neu Lwfans Dysgu i Rieni, ac mae hefyd grantiau ar gael i rai sydd ag oedolion sy’n ddibynnol arnynt. Uned Cefnogaeth Ariannol, Gwasanaethau Myfyrwyr Ff: 01248 383566/383637 E: cefnogaethariannol@bangor.ac.uk
• Mae gan Undeb y Myfyrwyr Seneddwr Myfyrwyr Hŷn i sicrhau bod anghenion myfyrwyr hŷn yn cael eu cynrychioli • Mae’r Ganolfan Sgiliau Astudio yn cynnig gweithdai ac adnoddau i gefnogi myfyrwyr yn ystod y broses o ddechrau yn y Brifysgol a symud ymlaen trwyddi • Gall yr Uned Cefnogaeth Ariannol roi cyngor a chefnogaeth i fyfyrwyr hŷn. Mae rhai o’r gwasanaethau wedi cael eu hamlinellu yma, ond ewch i www.bangor.ac.uk/ aeddfed am fwy o wybodaeth. Rydym hefyd yn eich annog i gysylltu â’r Cynghorydd Myfyrwyr Hŷn am fwy o wybodaeth am yr help a’r gefnogaeth sydd ar gael i fyfyrwyr hŷn. Gwasanaethau Myfyrwyr Ff: 01248 383637 E: gwasanaethaumyfyrwyr@bangor.ac.uk
54
Myfyrwyr Hŷn
55 55
CYLLD MYFYRWYR Rydym yn awyddus i’ch helpu cymaint â phosib efo materion ariannol – mae cyngor ar gael cyn i chi ymgeisio a thra rydych yn astudio yn y Brifysgol trwy’r Uned Cymorth Ariannol yn Gwasanaethau Myfyrwyr. Mae’r wybodaeth ddiweddaraf i fyfyrwyr o Gymru hefyd ar gael ar wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru: www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk
Ffioedd Dysgu
Talu eich Costau Byw
Nid yw’r ffi ddysgu ar gyfer 2020 wedi ei phennu eto felly fe’ch cynghorwn i fynd i’n gwefan am y wybodaeth ddiweddaraf. £9,000 y flwyddyn oedd y ffi ddysgu yn 2019 am gwrs israddedig, llawn-amser. Nid oes raid i chi dalu unrhyw ffioedd dysgu tra ydych yn astudio (er y gallwch wneud hynny os dymunwch). I fyfyrwyr sy’n astudio eu cwrs Addysg Uwch cyntaf, caiff y taliad ei ohirio nes ar ôl i chi raddio trwy Fenthyciad Ffi Ddysgu. Byddwch yn dechrau ad-dalu eich benthyciad cyn gynted ag y byddwch yn dechrau ennill dros £25,000 y flwyddyn. Caiff y Benthyciad Ffi Ddysgu ei dalu’n uniongyrchol i’r Brifysgol i dalu’r ffioedd ar eich rhan.
Yn 2019/20 mae gan fyfyrwyr cymwys o Gymru hawl i dderbyn Grant Cynhaliaeth, sy'n grant i’ch helpu gyda chostau byw fel llety, bwyd, llyfrau, dillad a theithio. Nid oes rhaid ei dalu'n ôl. Yn 2019/20, bydd lleiafswm o £1,000 ar gael i fyfyrwyr cymwys sy’n byw yng Nghymru a gall myfyrwyr hefyd fod yn gymwys am Grant Cynhaliaeth ychwanegol o hyd at £8,100 y flwyddyn, wedi asesiad incwm y cartref.
Costau Cwrs Ychwanegol Yn dibynnu ar y cwrs rydych yn ei astudio, efallai bydd yna gostau ychwanegol penodol y bydd angen i chi eu talu. Mae rhain yn amrywio o gostau sy’n berthnasol i fodiwl gorfodol neu graidd y bydd rhaid i chi ei gwblhau i gyflawni eich cymhwyster e.e. teithiau maes gorfodol, gwisg i fyfyrwyr ar leoliad, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd; costau sy’n berthnasol i aelodaeth corff proffesiynol, costau teithio i leoliad gwaith, meddalwedd arbenigol, cyfarpar diogelwch personol, neu gostau dewisol fel digwyddiadau graddio ar gyfer eich cwrs, teithiau maes dewisol neu deithiau yn ystod yr Wythnos Groeso. Am fanylion costau ar gyfer cyrsiau penodol, gweler y disgrifiadau cwrs ar y wefan.
Mae gan fyfyrwyr Prifysgol hefyd hawl i dderbyn Benthyciad Cynhaliaeth (a gyfeirir ato weithiau fel benthyciad costau byw) i’ch helpu gyda chostau byw fel llety, bwyd, llyfrau, dillad a theithio. Mae’n rhaid i fenthyciad costau byw gael ei ad-dalu unwaith y byddwch wedi gorffen eich cwrs ac yn ennill mwy na £25,000 y flwyddyn. Ar adeg printio'r prospectws, nid oedd y manylion wedi eu pennu ar gyfer 2020 felly ewch i’n gwefan am y wybodaeth ddiweddaraf. Mae’n werth cofio bod costau byw ym Mangor yn is yn gyffredinol nag mewn rhannau eraill o wledydd Prydain. Fodd bynnag, mae llawer o fyfyrwyr yn cael gwaith rhan-amser neu achlysurol yn ystod y gwyliau ac/neu adeg tymor i helpu gyda’u costau. Mae gennym ein swyddfa cyflogaeth myfyrwyr ein hunain a all eich helpu i gael hyd i rywbeth addas (gweler tudalen 37).
Crynodeb Cyllid i fyfrwyr o Gymru
Mae'r holl ffigyrau isod ar gyfer 2019 – ewch i'r wefan am y diweddaraf. • Gall myfyrwyr o Gymru sy’n astudio am eu gradd gyntaf wneud cais am Fenythciad Ffi Ddysgu gwerth £9,000, y byddwch yn dechrau ei ad-dalu pan fyddwch yn ennill dros £25,000 y flwyddyn. • Bydd Grant Cynhaliaeth gwerth lleiafswm o £1,000 ar gael i fyfyrwyr cymwys. Nid oes rhaid ei dalu'n ôl. Gall myfyrwyr hefyd fod yn gymwys am grant ychwanegol o hyd at £8,100 y flwyddyn, wedi asesiad incwm y cartref. • Mae gan fyfyrwyr hefyd hawl i dderbyn Benthyciad Cynhaliaeth i’ch helpu gyda chostau byw, y byddwch yn dechrau ei ad-dalu pan fyddwch yn ennill dros £25,000 y flwyddyn.
Gwybodaeth am Ffioedd a Benthyca Oherwydd bod y prospectws yma’n cael ei baratoi gryn amser ymlaen llaw, rydym yn eich cynghori i geisio’r wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd a benthyciadau. Cysylltwch ag: Uned Cymorth Ariannol Gwasanaethau Myfyrwyr, Prifysgol Bangor, Bangor LL57 2DG Ff: 01248 383566/383637 E: cymorthariannol@bangor.ac.uk Cyllid Myfyrwyr Cymru Ff: 0300 200 4050 www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk
56
Cyllid Myfyrwyr
57 57
BWRSARIAETHAU AC YSGOLORIAETHAU
Ysgoloriaethau Mae Bangor yn cynnig cynllun ysgoloriaeth hael, gyda myfyrwyr israddedig newydd yn derbyn rhyw £100,000 bob blwyddyn.
Ysgoloriaethau Mynediad ac Ysgoloriaethau Teilyngdod
Fel y byddech chi’n ei ddisgwyl mewn prifysgol sy’n rhoi cryn bwyslais ar gynorthwyo myfyrwyr, rydyn ni’n awyddus i gynnig help ychwanegol i fyfyrwyr newydd. Beth yw’r gwahaniaeth rhwng bwrsariaethau ac ysgoloriaethau? Dyfernir bwrsariaethau yn ôl meini prawf penodol. Ar yr amod eich bod yn ateb y meini prawf ac wedi llenwi’r ffurflen briodol ar gyfer cynhaliaeth i fyfyrwyr, dylech dderbyn y fwrsariaeth berthnasol yn awtomataidd. Teilyngdod yw maen prawf y rhan fwyaf o’r Ysgoloriaethau a gynigir gan y Brifysgol. Er enghraifft, gall y rhai sy’n rhagori yn arholiadau Ysgoloriaethau Mynediad y Brifysgol ennill Ysgoloriaethau Teilyngdod gwerth hyd at £3,000.
Bwrsariaethau Bwrsariaethau Astudio trwy'r Gymraeg Fel rhan o ymdrech Llywodraeth Cymru i gynyddu nifer y myfyrwyr sy’n astudio trwy’r Gymraeg, mae Prifysgol Bangor yn cynnig bwrsariaethau i gynorthwyo’r rheini sy’n dewis astudio trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r cynllun bwrsariaethau yn golygu fod bwrsariaethau o £250 y flwyddyn ar gael i’r rhai sy’n dewis astudio mwy na 40 credyd y flwyddyn drwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd mwy o wybodaeth ynglŷn â’r Bwrsariaethauar gyfer 2020 ar gael ar wefan y Brifysgol pan fydd y manylion wedi eu cadarnhau.
Bwrsariaethau Cychwyn Mae Bwrsariaethau Cychwyn o £1,000 ar gael i’r rhai sy’n dod i’r Brifysgol o ofal.
Fel rhan o gynllun Ysgoloriaethau Mynediad Bangor, mae oddeutu 40 Ysgoloriaeth Deilyngdod o hyd at £3,000 yr un ar gael i’r rheiny sy’n rhagori yn arholiadau Ysgoloriaethau Mynediad blynyddol y Brifysgol. I gael eich ystyried ar gyfer yr Ysgoloriaethau Teilyngdod ac Ysgoloriaethau Mynediad eraill, mae’n rhaid i chi: • lenwi ffurflen gais yr Ysgoloriaethau Mynediad (15 Ionawr 2020 yw’r dyddiad cau ar gyfer Ysgoloriaethau Mynediad 2020) • sefyll arholiad yn eich dewis bwnc (bydd yr arholiad yn cael ei gynnal yn eich ysgol/coleg ar ddyddiad penodol ym mis Ionawr).
Ysgoloriaeth Chwaraeon Rydyn ni hefyd yn cynnig Ysgoloriaethau Chwaraeon (sy’n werth hyd at £3,000 y flwyddyn) mewn cynllun sy’n ceisio adnabod potensial a datblygu rhagoriaeth ym maes chwaraeon. Ni fydd yr ysgoloriaethau chwaraeon wedi eu cyfyngu i unrhyw agwedd arbennig ar chwaraeon nag i fyfyriwr ar unrhyw gwrs penodol. Fodd bynnag, fel rheol, bydd blaenoriaeth yn cael ei roi i unigolion fydd yn gallu cynrychioli Prifysgol Bangor yng nghystadlaethau Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain (BUCS). Am fwy o wybodaeth neu i wneud cais am Ysgoloriaethau Chwaraeon 2020, ewch i: www.bangor.ac.uk/ ysgoloriaethchwaraeon
Ysgoloriaeth MA Bydd Ysgoloriaeth MA ar gael i fyfyrwyr sy’n graddio o Brifysgol Bangor gyda gradd BA 2:1 neu uwch mewn pynciau penodol sy’n mynd ymlaen i astudio gradd MA mewn pynciau sy’n rhan o’r cynllun Ysgoloriaeth MA. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â: cah@bangor.ac.uk
Mae Ysgoloriaethau Mynediad Bangor hefyd yn cynnwys nifer o ysgoloriaethau cronfeydd ymddiriedolaeth, sawl ysgoloriaeth mae’r awdurdodau lleol yng Nghymru’n eu dyfarnu, ac ysgoloriaethau pwnc fel Ysgoloriaethau y Gyfraith, Ysgoloriaethau Peirianneg Electronig, Ysgoloriaethiau Cyfrifiadureg.
Ysgoloriaethau Academaidd
Am fwy o wybodaeth ewch i'r wefan: www.bangor.ac.uk/ ysgoloriaethau
Am fwy o wybodaeth:
Mae rhai o adrannau academaidd Bangor yn cynnig eu hysgoloriaethau eu hunain, er enghraifft: Cerddoriaeth, Ieithyddiaeth ac Iaith Saesneg, Cemeg, Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig.
Marchnata, Rectiwtio a Chyfathrebu Ff: 01248 383561/382005 E: marchnata@bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/bwrsariaethau
58
Cyllid Myfyrwyr
Cyllid Myfyrwyr
59
Ysgoloriaethau Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Prif Ysgoloriaethau'r Coleg Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cynnig ysgoloriaethau gwerth £1,000 y flwyddyn (£3,000 dros dair blynedd) ar gyfer cyrsiau gradd lle bydd myfyrwyr yn dilyn 240 credyd neu fwy trwy gyfrwng y Gymraeg. I ymgeisio am un o’r Ysgoloriaethau hyn ym Mangor, mae gofyn i chi sefyll ein arholiad Ysgoloriaethau Mynediad (manylion ar dudalen 59).
Ysgoloriaethau Cymhelliant Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol hefyd yn cynnig ysgoloriaethau gwerth £500 y flwyddyn (£1,500 dros dair blynedd) ar gyfer cyrsiau gradd lle bydd myfyrwyr yn astudio o leiaf 120 credyd trwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd yr ysgoloriaethau hyn ar gyfer cyrsiau penodol mewn meysydd academaidd lle bydd modd astudio o leiaf 40 credyd y flwyddyn drwy gyfrwng y Gymraeg. Ceir mwy o fanylion am Ysgoloriaethau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar eu gwefan: www.colegcymraeg.ac.uk Mae'r uchod yn seiliedig ar wybodaeth ar gyfer mynediad yn 2019.
“Am fy mod yn gwneud y rhan helaeth o fy nghwrs drwy’r Gymraeg rwyf wedi derbyn bwrsariaeth gan y Brifysgol, ac mae hyn wedi bod o gymorth mawr imi.” Elin Owen Jones O'r Efailnewydd, sy'n astudio Cyfrifeg a Chyllid
GWNEUD CAIS I ASTUDIO YM MANGOR Gofynion Mynediad
Bagloriaeth Ryngwladol
Yr ydym wedi ymrwymo i ehangu cyfle i fynd i addysg uwch a byddwn yn derbyn myfyrwyr gydag ystod eang o gymwysterau a chefndiroedd.
Fel rheol, dylech fod wedi cael y diploma llawn a gall cynigion amrywio yn ôl y cwrs yr ydych yn gwneud cais amdano.
Byddwn yn ystyried pob cais yn ôl ei deilyngdod ei hun – gan asesu eich potensial i lwyddo ar y cwrs ac elwa ohono. Bydd angen i chi feddu ar safon dda o lythrennedd a rhifedd. Yr ydym hefyd yn rhoi gwerth ar sgiliau TG a chyfathrebu da. Efallai bydd y Brifysgol yn gallu ymateb yn hyblyg i’ch cais os na fydd eich canlyniadau yn cyfateb yn union i delerau eich cynnig gwreiddiol.
Sut i wneud cais
Ff: 0371 468 0468.
Isafswm Gofynion Os ydych yn gwneud cais am gwrs gradd, yna dylai cyfanswm y pwyntiau gynnwys o leiaf dau GCE lefel A neu gymwysterau cyfatebol. Ar gyfer rhaglenni tystysgrif a diploma, fel rheol bydd arnoch angen o leiaf un lefel A neu gyfatebol neu ddau lefel AS neu lwyddiannau cyfatebol. Bydd gofynion mynediad manylach yn cael eu rhoi ar dudalen y cwrs unigol. Am eglurhad llawn o system tariff UCAS, ewch i: www.ucas.com/ucas/ undergraduate/getting-started/entry-requirements/ ucas-undergraduate-tariff-points
Cyrsiau Mynediad a derbyn yn hŷn Byddwn yn croesawu eich cais os ydych yn dilyn cwrs Mynediad a ddilyswyd. Yr ydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn fedr ddangos y symbyliad a’r ymrwymiad i astudio rhaglen brifysgol.
60
Cyllid Myfyrwyr
Yn achos pob cwrs addysg uwch llawn-amser dylech wneud cais ar-lein lle mae cyfarwyddiadau llawn a hawdd eu dilyn ar lenwi eich cais: www.ucas.com
Wrth gwblhau eich cais, dylech roi cod UCAS Prifysgol Bangor Bangr B06 ynghyd â chod y cwrs a ffurf fer teitl y cwrs (e.e. N400 BA/AF Cyfrifeg a Chyllid). Nodir y codau a’r talfyriadau ar dudalennau perthnasol y prosbectws hwn ac ar wefan UCAS. Sicrhewch fod yr holl wybodaeth a roddwch i gefnogi eich cais yn gywir ac yn gyflawn. Bydd cynigion fel rheol yn cael eu seilio ar y wybodaeth yma a gall unrhyw fanylion anghywir neu esgeulustra annilysu’r cynnig. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â’r canlynol: Y Swyddfa Dderbyniadau, Prifysgol Bangor, Bangor, Gwynedd LL57 2TF. Ff: 01248 383717 E: derbyniadau@bangor.ac.uk
Gwneud Cais
61
Beth sy’n digwydd ar ôl i chi wneud cais?
Rydym yn annog myfyrwyr anabl i ymgeisio gan anelu at ddarparu cyfle cyfartal i bob myfyriwr. Os ydych yn anabl, neu gydag anghenion ychwanegol, rydym yn eich annog i roi gwybod i ni cyn gynted â phosibl fel y gallwn wneud trefniadau priodol lle bo’r angen. Gall hyn gynnwys anghenion o ran llety, mynediad i adeiladau, gweithwyr cefnogi, neu addasiadau i addysgu ac asesu.
Ar ôl i ni dderbyn eich cais gan UCAS, mae ein Swyddfa Derbyniadau’n gweithio’n agos â’r Ysgol academaidd berthnasol i ystyried a allwn wneud cynnig i chi; gall hwn fod yn amodol ar i chi gael graddau penodol yn yr arholiadau y byddwch yn eu sefyll. Yna bydd y Swyddfa Derbyniadau’n anfon manylion am y cynnig at UCAS a fydd yn rhoi gwybod i chi’n swyddogol am ein penderfyniad.
Cysylltwch â’r Gwasanaethau Anabledd cyn gynted â phosibl i gael gwybod mwy ynglŷn â pha addasiadau fydd eu hangen efallai tra byddwch yma ym Mangor.
Ar ôl i chi gael cynnig lle, bydd yr Ysgol academaidd yn cysylltu â chi fel rheol gyda gwybodaeth bellach a’ch gwahodd i ymweld ag un o Ddiwrnodiau Ymweld i Ymgeiswyr UCAS a gynhelir rhwng Rhagfyr ac Ebrill. Mae’r rhain yn rhoi cyfle i chi gyfarfod â staff dysgu, cael taith o amgylch Bangor a’r ardal gyfagos, a gweld y gwahanol gyfleusterau sydd ar gael i chi fel myfyriwr ym Mangor.
Gwasanaethau Anabledd Ff: 01248 383620/382032 E: gwasanaethanabledd@bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/gwasanaethaumyfyrwyr/anabledd www.bangor.ac.uk/gwasanaethaumyfyrwyr/iechydmeddwl
Pryd i wneud cais Rydym yn eich cynghori i wneud cais cyn gynted ag y gellwch gan y byddwn yn dechrau ystyried ceisiadau a gwneud cynigion yn syth. Ar gyfer mynediad i’r Brifysgol yn 2020 dylai myfyrwyr wneud cais rhwng 1 Medi 2019 a 15 Ionawr 2020.
Ceisiadau Hwyr
Graddau Cyd-Anrhydedd
Myfyrwyr Anabl
GRADDAU CYD-ANRHYDEDD
Hyd yn oed os byddwch eisoes wedi ymweld â Bangor, mae’n werth dod i’r Diwrnod Ymweld i Ymgeiswyr UCAS i gael mwy o wybodaeth yn hwyrach yn y broses derbyn. Os na fyddwch eisoes wedi ymweld â ni, bydd dod i Ddiwrnod Ymweld i Ymgeiswyr UCAS yn gyfle i chi, eich teulu a’ch ffrindiau gyfarfod â staff a myfyrwyr, cael mwy o wybodaeth am y cwrs gradd a ddewiswyd gennych, a gweld y Brifysgol a dinas Bangor. Os na ellwch ddod ar y dyddiau penodedig,byddwn yn barod iawn i drefnu ymweliad preifat. Ewch i www.bangor.ac.uk os gwelwch yn dda, neu ebostiwch ymweliadau@bangor.ac.uk
Bydd ceisiadau ar ôl y dyddiadau uchod yn dal i gael eu hystyried gan fod rhai lleoedd yn aml yn dal ar gael.
62
Gwneud Cais
63 63
GRADDAU CYD-ANRHYDEDD A CHODAU UCAS Gallwch ddewis astudio dau bwnc er mwyn ennill gradd gyd-anrhydedd.
Astudiaethau Busnes a: Cymraeg
NQ26 BA/ABCH
Dyma restr o’r graddau cyd-anrhydedd y gellir eu hastudio’n gyfan gwbl neu’n rhannol drwy’r Gymraeg. Mae teitlau yn y Gymraeg ar gael drwy’r Gymraeg, tra dysgir teitlau Saesneg drwy’r Saesneg.
Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid: Cymdeithaseg Cymraeg Psychology Polisi Cymdeithasol
X316 BA/APIC X321 BA/APC X320 BA/APIS X318 BA/APIPC
Astudiaethau’r Cyfryngau a: Cerddoriaeth
PW33 BA/MSMus
Cerddoriaeth ac: Astudiaethau’r Cyfryngau Athroniaeth a Chrefydd Creative Studies Creative Writing Cymraeg English Literature Film Studies Ffrangeg (4 blynedd) German (4 blynedd) Hanes a Hanes Cymru Italian (4 blynedd) Spanish (4 blynedd)
PW33 BA/ACC VVW3 BA/PRM WW93BA/CStMus WW38BA/MusCW QW53 BA/MuW 32N6 BA/ELM WW36 BA/MusFS RW13 BA/MuFr WR32 BA/MuGe WV32BA/MuHWH WR33 BA/MuIt WR34 BA/MuSp
Cymdeithaseg ac: Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid Criminology and Criminal Justice Cymraeg Hanes Hanes Cymru Health and Social Care
X316 BA/APIC LM39 BA/SCr LQH5 BA/SWW LVJ1 BA/HSW LVH1 BA/SWWH LL3M BA/CHSC
Cymraeg ac: Astudiaethau Busnes Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid Athroniaeth a Chrefydd Cerddoriaeth Cymdeithaseg English Literature Ffrangeg (4 blynedd) German (4 blynedd) Hanes Hanes Cymru Italian (4 blynedd) Linguistics Polisi Cymdeithasol Sociology Spanish (4 blynedd) Sport Science Chinese
NQ26 BA/ABCH X321 BA/APC VVQ5 BA/PRW QW53 BA/MuW LQH5 BA/SWW 3Q5Q BA/CEL QR51 BA/WFr QR52 BA/GW QV51 BA/HW QVM2 BA/WHW QR53 BA/ItCy QQ15 BA/WL LQK5 BA/SPWW LQ35 BA/WS QR54 BA/SpCy CQ65 BA/SpSw T102 BA/CHCY
Gweler tudalennau yr Ysgolion unigol am ragor o fanylion: mae nifer o fodiwlau unigol ar gael yn y Gymraeg. Am yr holl raddau cyd-anrhydedd, edrychwch ar y prospectws ar-lein ar wefan y Brifysgol. Bydd teitl eich gradd yn dibynnu ar y pynciau yr ydych wedi dewis eu cyfuno (e.e. BA (Anrhydedd) Cymraeg a Hanes). Bwriwch olwg ar un o’r pynciau yr ydych am eu hastudio i weld pa bynciau eraill y gallwch eu cyfuno â’r pwnc hwnnw. Mae’r codau cwrs UCAS hefyd yn cael eu nodi. Y mae hefyd yn bosibl astudio pwnc ‘gydag’ un arall, mewn rhaniad ²/³ i ¹/³. Edrychwch ar y tudalennau cwrs am fanylion.
Hanes ac: Athroniaeth a Chrefydd Criminology and Criminal Justice Cymdeithaseg Cymraeg Economics English Literature Ffrangeg (4 blynedd) German (4 blynedd) Italian (4 blynedd) Polisi Cymdeithasol Spanish (4 blynedd)
YR AMGYLCHEDD, ADNODDAU NATURIOL A DAEARYDDIAETH
VVV1 BA/PRH MVX1 BA/HCr LVJ1 BA/HSW QV51 BA/HW LV11 BA/HEc 3QV1 BA/ELH RV11 BA/HFr RV21 BA/HG RV31 BA/HIt LVK1 BA/SPWH RV41 BA/HSp
Hanes a Hanes Cymru a: Cerddoriaeth WV32BA/MuHWH Hanes Cymru ac: Athroniaeth a Chrefydd Cymdeithaseg Cymraeg Film Studies Polisi Cymdeithasol
VVV2 BA/PRWH LVH1 BA/SWWH QVM2 BA/WHW VP23/BA/WHFS LVL1 BA/SPWWH
Polisi Cymdeithasol ac: Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid Criminology and Criminal Justice Cymraeg Hanes Hanes Cymru Health and Social Care
X317 BA/APIPC LM49 BA/SPCr LQK5 BA/SPWW LVK1 BA/SPWH LVL1 BA/SPWWH LL54 BA/HSCSP 1
2
3
1 Astudio theori ac ymarfer cadwraeth rhywogaethau sydd dan fygythiad 2 Myfyrwyr yn mwynhau ymweliad maes 3 Dysgu Coedwigaeth ers dros 110 mlynedd
“Dros gyfnod o bedair blynedd, roeddwn yn llawn edmygedd o’r safonau a gyrhaeddwyd ar y cwrs hwn.” ADRODDIAD ARHOLWR ALLANOL
“Roedd safon y wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r medrau a ddangoswyd gan y myfyrwyr yn glod i’r staff academaidd. Bydd [y graddedigion] yn cynnal enw da gradd o Fangor yn y byd coedwigaeth.” ADRODDIAD ARHOLWR ALLANOL
64
65
BIOLEG A SŴOLEG
YR AMGYLCHEDD, ADNODDAU NATURIOL A DAEARYDDIAETH Y FFEITHIAU SYLFAENOL Hyd: 3 blynedd; 4 blynedd (MEnvSci, MGeog, MFor a graddau gyda blwyddyn yn y man gwaith) Cewch y manylion llawn ym mhrospectws Saesneg y Brifysgol, ar y wefan neu drwy gysylltu â’r Ysgol. GOFYNION MYNEDIAD: Crynodeb yn unig a gewch chi isod, felly mae’n werth bwrw golwg ar y manylion llawn ar ein gwefan cyn gwneud unrhyw benderfyniad. • Cynnig nodweddiadol o isafswm o 104-120 pwynt tariff o gymwysterau lefel 3* ar gyfer y cyrsiau gradd BSc/BA, 128 pwynt tariff o gymwysterau lefel 3* ar gyfer MEnvSci, MGeog, MFor. Am fanylion gofynion mynediad penodol, gan gynnwys unrhyw ofynion TGAU a gofynion pwnc penodol, ewch i’n gwefan. • Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn, unigolion â chymwysterau Ewropeaidd ac ymgeiswyr rhyngwladol.
CWRS BSc (anrhydedd) Cadwraeth gyda Choedwigaeth: BSc (anrhydedd) Cadwraeth gyda Choedwigaeth (gyda blwyddyn yn y man gwaith): BSc (anrhydedd) Cadwraeth Amgylcheddol: BSc (anrhydedd) Cadwraeth Amgylcheddol (gyda blwyddyn yn y man gwaith): BSc (anrhydedd) Coedwigaeth BSc (anrhydedd) Coedwigaeth (gyda blwyddyn yn y man gwaith): MFor Coedwigaeth: MFor Coedwigaeth (gyda blwyddyn yn y man gwaith): BA/BSc (anrhydedd) Daearyddiaeth: BA/BSc (anrhydedd) Daearyddiaeth (gyda blwyddyn yn y man gwaith): MGeog Daearyddiaeth BSc (anrhydedd) Ecoleg Daear a Môr Cymhwysol: BSc (anrhydedd) Ecoleg Daear a Môr Cymhwysol (gyda blwyddyn yn y man gwaith): BSc (anrhydedd) Gwyddor yr Amgylchedd: BSc (anrhydedd) Gwyddor yr Amgylchedd (gyda blwyddyn yn y man gwaith): MEnvSci Gwyddor yr Amgylchedd: BSc (anrhydedd) Daearyddiaeth gyda Choedwigaeth Amgylcheddol: BSc (anrhydedd) Daearyddiaeth gyda Choedwigaeth Amgylcheddol: BSc (anrhydedd) Rheolaeth Amgylcheddol: MEnvSci Rheolaeth Amgylcheddol:
ASTUDIO TRWY’R GYMRAEG Mae rhai o’n graddau yn cymhwyso ar gyfer Ysgoloriaethau Cymhelliant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac o ganlyniad mae’n bosib dilyn o leiaf *Mae cymwysterau lefel 3 yn cynnwys 40 credyd neu rhwng 33% a 55% Lefel A, BTEC, City & Guilds, Mynediad, o’ch gradd yn y Gymraeg. Dyma rai o’r modiwlau cyfrwng Cymraeg sydd Cymhwyster Bagloriaeth Cymru ac ar gael: eraill – am restr lawn, cyfeiriwch at www.ucas.com. • Tiwtorialau Academaidd a Sgiliau Allweddol • Dadansoddi Data Amgylcheddol • Daearyddiaeth Ddynol • Methodoleg Maes • Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol • Datblygiad Cynaliadwy • Geomorffoleg Afonol • Daearyddiaeth Awyr Agored INTERNATIONAL • Daearyddiaeth Ddynol Gyfoes PROFIAD EXPERIENCE RHYNGWLADOL • Gwaith Maes • Project Anrhydedd MODIWLAU DATBLYGU SGILIAU IAITH AR GAEL • Materion Cyfoes yr Amgylchedd • Cynllun Rheoli • Materion Amgylcheddol MWY O WYBODAETH Cydlynydd Mynediad Ffôn: 01248 382281 e-bost: sns@bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/adnodd
66
INTERNATIONAL EXPERIENCE CEFNDIR Y CYRSIAU
Rydym yn mynd i’r afael â rhai o’r prif faterion sy’n wynebu dynoliaeth heddiw, sef cynhyrchu bwyd a deunyddiau diwydiannol cynaliadwy, rheoli adnoddau cefn gwlad a gwarchod yr amgylchedd a’i gyfoethogi. Cewch gyfle i ymchwilio i’r ffordd mae ffactorau cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd yn effeithio ar
5DKD 5DLD D447 D448 D500 D501 D512 D513 L700/F800 L602/F806 F801 C180 C183 F900 F901 F850 F803 F804 F855 D452
bobl, cynefinoedd, a pholisïau amgylcheddol lleol, cenedlaethol a byd-eang. Ceir rhaglen helaeth o ymweliadau maes lleol a theithiau astudio i ranbarthau eraill o Brydain ac Ewrop. Mae’r rhain yn ychwanegu at y dysgu mewn darlithoedd ac yn cyflwyno syniadau a chysyniadau newydd. Mae ein cyrsiau yn eich paratoi i fynd ymlaen i ddilyn gyrfa yn y maes cyffrous hwn. PAM DEWIS BANGOR? • Mae pynciau amgylcheddol wedi cael eu dysgu yma ers dros ganrif. • Mae ein staff yn meithrin ac yn datblygu cysylltiadau rhagorol â diwydiant a sefydliadau eraill. • Mae opsiwn i dreulio blwyddyn yn cael profiad gwaith buddiol mewn diwydiant, naill ai ym Mhrydain neu dramor. • Mae gennym fferm arbrofol lle gallwch dreulio amser yn gweithio ar broject o’ch dewis chi. • Mae gennym arbenigedd mewn Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol gydag ystafell gyfrifiaduron benodol ar ei gyfer. • Mae’r cyrsiau yn manteisio’n llawn ar ein lleoliad ardderchog, yn cynnwys arfordir a mynyddoedd gogledd Cymru, tirweddau dynodedig, treftadaeth ddiwylliannol a diwydiannol gyfoethog yr ardal.
BETH FYDDAF YN EI ASTUDIO? Byddwch yn astudio modiwlau gorfodol a rhai dewisol a fydd yn eich cyflwyno i’r pwnc yr ydych wedi ei ddewis cyn mynd â chi ymlaen i arbenigo yn y pynciau yr ydych yn ymddiddori ynddynt. SUT Y BYDDAF YN DYSGU? Mae’r modiwlau yn defnyddio ystod eang o ddulliau addysgu, gan gynnwys darlithoedd, sesiynau ymarferol, gwaith maes, seminarau a thiwtorialau. Bydd seminarau a thiwtorialau yn canolbwyntio ar ddatrys problemau, datblygu sgiliau astudio, ac ar gefnogi deunydd a gyflwynwyd mewn darlithoedd. Mae’r awyrgylch anffurfiol yn aml yn annog trafodaeth fywiog am faterion cyfoes. Fel arfer rydym yn asesu 60% drwy waith cwrs a 40% drwy arholi. Mae’r modiwlau’n defnyddio amgylchedd dysgu rhithwir Prifysgol Bangor, sef Blackboard, sy’n caniatáu mynediad at adnoddau addysgu, dogfennau’r cwrs a nodiadau darlithoedd.
“Rwy’n hapus iawn fy mod wedi dewis dod i astudio ym Mhrifysgol Bangor ac rwy’n hynod o ddiolchgar i’r staff am draddodi darlithoedd gafaelgar a llawn brwdfrydedd..” SONNY CULKIN Myfyriwr graddedig mewn Sŵoleg gyda Chadwraeth
“Mae’n amlwg bod myfyrwyr wedi mwynhau eu hamser ym Mangor. Roedd yr holl fyfyrwyr y gwnes i eu cyfweld yn canmol ansawdd y dysgu a’r gofal a ddarparwyd gan staff yr Ysgol Gwyddorau Biolegol... Mae’n amlwg bod gan y staff ymrwymiad pendant i ddarparu dysgu rhagorol ac maen nhw’n gofalu am eu myfyrwyr.” ADRODDIAD ARHOLWR ALLANOL
DATBLYGIADAU NEWYDD Yn amodol ar gael ei ddilysu, bydd BSc Cadwraeth Bywyd Gwyllt ar gael. Ewch i’r wefan am y manylion mwyaf diweddar.
67
GWYDDORAU EIGION
GWYDDORAU BIOLEGOL Y FFEITHIAU SYLFAENOL: Cewch y manylion llawn ym mhrospectws Saesneg y Brifysgol, ar y wefan neu drwy gysylltu â’r Ysgol. GOFYNION MYNEDIAD: Crynodeb yn unig a gewch chi isod, felly mae’n werth bwrw golwg ar y manylion llawn ar ein gwefan cyn gwneud unrhyw benderfyniad. • TGAU: gradd C/4 mewn Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth Dwyradd. • Cynnig nodweddiadol o isafswm o 112 pwynt tariff o gymwysterau lefel 3* ar gyfer y cyrsiau gradd BSc, 128 pwynt tariff o gymwysterau lefel 3* ar gyfer MSŵoleg ac MBioleg. Am fanylion gofynion mynediad penodol, gan gynnwys unrhyw ofynion pwnc penodol, ewch i’n gwefan. • Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn, unigolion â chymwysterau Ewropeaidd ac ymgeiswyr rhyngwladol. *Mae cymwysterau lefel 3 yn cynnwys Lefel A, BTEC, City & Guilds, Mynediad, Cymhwyster Bagloriaeth Cymru ac eraill – am restr lawn, cyfeiriwch at www.ucas.com.
PROFIAD RHYNGWLADOL MODIWLAU DATBLYGU SGILIAU IAITH AR GAEL
MWY O WYBODAETH Gweinyddwr Mynediad Ffôn: 01248 388616 e-bost: bioleg@bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/bioleg
68
CWRS BSc (anrhydedd) Bioleg neu MBioleg BSc (anrhydedd) Sŵoleg neu MSŵoleg BSc (anrhydedd) Sŵoleg gyda Chadwraeth neu MSŵoleg (Cadwraeth) BSc (anrhydedd) Sŵoleg gydag Ymddygiad Anifeiliaid neu MSŵoleg (Ymddygiad Anifeiliaid) BSc (anrhydedd) Sŵoleg gyda Sŵoleg Môr neu MSŵoleg (Sŵoleg Môr) BSc (anrhydedd) Sŵoleg gyda Herpetoleg neu MSŵoleg (Herpetoleg) BSc (anrhydedd) Bioleg gyda Biotechnoleg neu MBioleg (Biotechnoleg)
Hyd: 3 neu 4 blynedd C100 C101 C300 C301 C3L2 CD34 C3D3 C302 C350 C352 C304 C303 C511 C510
Darllenwch y prospectws Saesneg am fanylion y cyrsiau 4 blynedd.
Myfyrwyr Sŵoleg yn y maes
ASTUDIO TRWY’R GYMRAEG Nid oes cyrsiau Gwyddorau Biolegol ar gael yn gyfan gwbl trwy gyfrwng y Gymraeg ond mae’r modiwlau dwyieithog neu gyfrwng Cymraeg canlynol ar gael: • Modiwl Tiwtorial • Medrau Biowyddoniaeth • Cyrsiau Maes • Biofenter & Chyflogadwyedd • Traethawd Hir Yn ogystal, mae modd gwneud dosbarthiadau tiwtorial yn y Gymraeg yn ôl y galw, a gallwch drafod eich gwaith gyda darlithydd sy’n siarad Cymraeg.
CEFNDIR Y CYRSIAU Mae’r cyrsiau ym Mangor wedi pwysleisio ehangder y Gwyddorau Biolegol, o ddynameg poblogaethau i agweddau cellog a moleciwlar bywyd. Mae graddedigion Bangor mewn swyddi cyfrifol ledled y byd, INTERNATIONAL gyda llawer ohonynt yn defnyddio eu EXPERIENCE gwybodaeth o’r gwyddorau biolegol. Bydd llawer o raddedigion yn mynd ymlaen i wneud gradd uwch (MSc neu PhD) ac mae galw mawr amdanynt. Wrth gwrs, mae lleoliad INTERNATIONAL Bangor yn ei wneud yn lle delfrydol EXPERIENCE i astudio’r gwyddorau biolegol. Rydym yn manteisio yn llawn ar yr amgylchedd trawiadol.
PAM DEWIS BANGOR • Mae lleoliad Bangor yn ei wneud yn lle delfrydol i astudio bioleg – mae’r holl wahanol fathau o bridd a chreigiau, yr hinsawdd a’r dopograffeg – y môr a’r tir – yn rhoi nifer o gynefinoedd amrywiol, oll o fewn cyrraedd rhwydd ar gyfer astudiaethau maes. • Mae gennym ddarlithfeydd a labordai dysgu arloesol. • Mae’r wyddoniaeth gyfoes, sy’n rhan greiddiol o’n rhaglenni ymchwil, yn bwydo drwodd i’n dysgu. • Mae ein hymchwil yn cwmpasu anifeiliaid, planhigion a microbau; gydag arbenigedd ryngwladol mewn nifer o feysydd megis geneteg poblogaeth pysgod ac ymlusgiaid, ecoleg moleciwlar, bioleg dŵr croyw, datblygiad niwronau, microbioleg amgylcheddol, bioleg nadroedd, bioleg moleciwlar planhigion, bioffiseg celloedd a chylchoedd nwyon tŷ gwydr. • Mae Bangor yn gartref i Gyfoeth Naturiol Cymru ac un o swyddfeydd rhanbarthol y Ganolfan Ecoleg a Hydroleg (CEH). Mae gan y rhain, ynghyd â sawl cwmni lleol, gysylltiadau agos â’r Brifysgol a’r staff. • Mae un aelod o staff yn aelod gweithgar o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac fe gewch eich annog i gadw a datblygu eich sgiliau Cymraeg. Mae’r cyrsiau Bioleg a Sŵoleg yn gymwys ar gyfer Ysgoloriaethau Cymhelliant y Coleg.
BETH FYDDAF YN EI ASTUDIO? Byddwch yn dilyn modiwlau gorfodol yn ogystal â nifer o ddewisiadau yn ystod eich cwrs. Mae’r modiwlau a’r dewisiadau yn amrywio, yn dibynnu ar y cwrs. SUT Y BYDDAF YN DYSGU? Darlithoedd a sesiynau ymarferol, projectau unigol, projectau grŵp. Mae’r asesiad yn gymysgedd o arholiadau a gwaith ymarferol/ gwaith cwrs (yn cynnwys project).
“Dwi’n mwynhau dysgu am yr amrywiaeth o organebau, ecoleg a geneteg. Rydw i’n hollol hapus gyda fy narlithwyr yn enwedig fy nhiwtor gan ei bod hi’n gefnogol ac yn gadael i ni wybod am gyfleoedd neu adnoddau a fydd yn help iddyn nhw wella yn y maes…” RHIANNON CARYS WILLIAMS BSc (MZool) Sŵoleg gyda Herpetoleg
1
2
3
1 Arolwg plymio, arfordir yr Alban 2 Sŵoleg fertebratau morol 3 Tirfesur yn Nhalacharn
“Unwaith eto, rhaid canmol staff a myfyrwyr Bangor: myfyrwyr brwdfrydig, athrawon ymroddedig sy’n rhoi’r pwyslais ar ymchwil a chynnyrch o ansawdd uchel...”
“Dewisais ddod i astudio yma oherwydd ei bod yn adran sy’n cael ei chydnabod am ei llwyddiant yn rhyngwladol... Yma, mae ymchwil cyfredol yn digwydd, sy’n ddefnyddio’r amrywiaeth eang o gyfleusterau ac adnoddau sydd i’w cael yma. Ar ôl y croeso gefais yn ystod y Diwrnod Agored, roeddwn yn sicr mai yma oeddwn eisiau dod i astudio. Mae’r profiadau ‘dwi wedi eu cael wedi bod yn wych, megis gwaith maes amrywiol ar y môr rhwng Bae Llandudno a Thraeth Coch, Ynys Môn. Mae hi’n braf medru rhoi’r hyn sy’n cael ei ddysgu yn y darlithoedd ar waith allan yn y maes. WIL CHIDLEY BSc Daearyddiaeth Ffisegol ac Eigioneg
ADRODDIAD ARHOLWR ALLANOL
DATBLYGIADAU NEWYDD Yn amodol ar gael eu dilysu, bydd y cyrsiau yma ar gael: • BSc Sŵoleg gydag Ornitholeg • BSc Sŵoleg gydag Primatoleg Ewch i’r wefan am y manylion mwyaf diweddar.
69
CEMEG
GWYDDORAU EIGION Y FFEITHIAU SYLFAENOL Hyd: 3 blynedd (BSc); 4 blynedd (MMBiol, MOcean, MMSci) Cewch y manylion llawn ym mhrospectws Saesneg y Brifysgol, ar y wefan neu drwy gysylltu â’r Ysgol. GOFYNION MYNEDIAD: Crynodeb yn unig a gewch chi isod, felly mae’n werth bwrw golwg ar y manylion llawn ar ein gwefan cyn gwneud unrhyw benderfyniad. • TGAU: gradd C/4 mewn Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth Dwyradd. • Cynnig nodweddiadol o isafswm o 104-128 pwynt tariff o gymwysterau lefel 3* ar gyfer y cyrsiau gradd BSc, 128 pwynt tariff o gymwysterau lefel 3* ar gyfer MSci. Am fanylion gofynion mynediad penodol, gan gynnwys unrhyw ofynion pwnc penodol, ewch i’n gwefan. • Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn, unigolion â chymwysterau Ewropeaidd ac ymgeiswyr rhyngwladol. *Mae cymwysterau lefel 3 yn cynnwys Lefel A, BTEC, City & Guilds, Mynediad, Cymhwyster Bagloriaeth Cymru ac eraill – am restr lawn, cyfeiriwch at www.ucas.com.
PROFIAD RHYNGWLADOL
CWRS BSc (anrhydedd) Astudiaethau Amgylchedd y Môr: BSc (anrhydedd) Bioleg Môr: MSci Bioleg Môr: BSc (anrhydedd) Bioleg Môr ac Eigioneg: MSci Bioleg Môr ac Eigioneg: BSc (anrhydedd) Bioleg Môr a Sŵoleg: MSci Bioleg Môr a Sŵoleg: BSc (anrhydedd) Bioleg Môr Gymhwysol (gyda blwyddyn yn y man gwaith): BSc (anrhydedd) Daearyddiaeth Ffisegol ac Eigioneg: MSci Eigioneg Ffisegol: BSc (anrhydedd) Eigioneg Ddaearegol: MSci Eigioneg Ddaearegol: BSc (anrydedd) Ffiseg Morol a Geoffiseg: BSc (anrhydedd) Gwyddor Eigion: BSc (anrhydedd) Sŵoleg Fertebratau Morol: MSci Sŵoleg Fertebratau Morol: ASTUDIO TRWY’R GYMRAEG Nid oes rhaglenni Gwyddorau Eigion ar gael yn gyfan gwbl trwy gyfrwng y Gymraeg ond mae’r modiwlau cyfrwng Cymraeg canlynol ar gael: Blwyddyn 1 • Tiwtorial 1 • Sgiliau Ymchwil Rhagymadroddol Blwyddyn 2 • Cyfathrebu Gwyddoniaeth Blwyddyn 3 • Traethawd Hir Yn ogystal, mae staff academaidd sy’n siarad Cymraeg ar gael i’r myfyrwyr hynny sy’n dymuno trafod eu gwaith yn anffurfiol yn y Gymraeg.
INTERNATIONAL EXPERIENCE
MODIWLAU DATBLYGU SGILIAU IAITH AR GAEL
MWY O WYBODAETH Gweinyddwr Mynediad
INTERNATIONAL EXPERIENCE
Ffôn: 01248 382851 e-bost: oceansciences@bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/gwyddoraueigion
CEFNDIR Y CYRSIAU Os ydych yn astudio gwyddoniaeth yn yr ysgol bydd o leiaf un o’r canghennau gwyddor môr yn sicr o fod at eich dant. Gwyddorau Eigion ym Mangor yw un o’r canolfannau prifysgol mwyaf ym Mhrydain sy’n dysgu gwyddorau môr, ac y mae’n un o’r rhai mwyaf yn Ewrop hefyd. Mae gennym ein llong ymchwil ein hunain, sef y Prince Madog. Hon yw’r unig long fawr o’i bath sy’n cael ei defnyddio yn uniongyrchol gan brifysgol ym Mhrydain. Bydd ein dewis o gyrsiau gradd yn rhoi’r cyfle i chi arbenigo mewn amrywiaeth o feysydd. PAM DEWIS BANGOR? • Rydym wedi ein lleoli ychydig fetrau o’r môr, sy’n wych ar gyfer datblygu medrau casglu gwybodaeth yn yr aberoedd, ar lan y môr, ac ar y môr. Mae lleoliad y Brifysgol hefyd yn addas iawn ar gyfer astudio amgylcheddau naturiol eraill gan fod Parc Cenedlaethol Eryri wrth law. • Mae gan ein graddedigion hanes arbennig o dda o ran cyflogaeth – mae eu medrau yn amlwg yn cael eu gwerthfawrogi gan gyflogwyr.
70
Hyd: 3 neu 4 blynedd F710 C160 C167 CF17 F712 CC13 C169 C163 F840 F734 F650 F652 F7F6 F700 C351 C168
1
BETH FYDDAF YN EI ASTUDIO? Byddwch yn dilyn nifer o fodiwlau gorfodol a phynciau dewisol a gymerir o restr eang. Mae cynnwys y modiwlau a’r dewisiadau yn dibynnu ar y cwrs gradd. Am fwy o fanylion ar gynnwys y modiwlau, darllenwch brospectws Saesneg y Brifysgol.
2
1 Myfyrwyr Israddedig Cemeg yn y labordy 2 Mae microsgop yn declyn pwysig ar gyfer dadansoddi deunyddiau uwch
“Mae’r Ysgol yn darparu rhaglen ardderchog mewn Cemeg…’ ADRODDIAD ARHOLWR ALLANOL
SUT Y BYDDAF YN DYSGU? Darlithoedd, gwaith ymarferol, seminarau, dosbarthiadau tiwtorial, aseiniadau, gwaith maes. Mae asesiad yn cynnwys arholiadau, gwaith ymarferol a gwaith project. Mae pob cwrs (heblaw Gwyddor Eigion BSc) ar gael gyda blwyddyn ychwanegol, i’w threulio mewn prifysgol dramor. Bydd disgwyl i chi astudio pynciau sy’n gyffelyb i’ch cwrs ym Mangor. Bydd hyn yn ychwanegu blwyddyn at hyd eich cwrs.
71
CEMEG Y FFEITHIAU SYLFAENOL Hyd: 3 blynedd; 4 blynedd (MChem; BSc gyda Phrofiad Ewropeaidd / Rhyngwladol / Diwydiannol); 5 mlynedd (MChem gyda Phrofiad Diwydiannol / Rhyngwladol). Cewch y manylion llawn ym mhrospectws Saesneg y Brifysgol, ar y wefan neu drwy gysylltu â ni. GOFYNION MYNEDIAD: Crynodeb yn unig a gewch chi isod, felly mae’n werth bwrw golwg ar y manylion llawn ar ein gwefan cyn gwneud unrhyw benderfyniad. • Cynnig nodweddiadol o isafswm o 104 pwynt tariff o gymwysterau lefel 3* yn cynnwys gradd B mewn A2 Cemeg neu gyfwerth ar gyfer y cyrsiau gradd BSc, 128 pwynt tariff o gymwysterau lefel 3* yn cynnwys gradd A mewn A2 Cemeg neu gyfwerth ar gyfer MChem. Am fanylion gofynion mynediad penodol ar gyfer cymwysterau eraill, gan gynnwys unrhyw ofynion TGAU a gofynion pwnc penodol, ewch i’n gwefan • Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn, unigolion â chymwysterau Ewropeaidd ac ymgeiswyr rhyngwladol. *Mae cymwysterau lefel 3 yn cynnwys Lefel A, BTEC, City & Guilds, Mynediad, Cymhwyster Bagloriaeth Cymru ac eraill – am restr lawn, cyfeiriwch at www.ucas.com.
CYFLEOEDD PROFIAD RHYNGWLADOL MODIWLAU DATBLYGU SGILIAU IAITH AR GAEL
MWY O WYBODAETH CYFLEOEDD PROFIAD Tiwtor Mynediad
RHYNGWLADOL
Ffôn: 01248 382377 e-bost: cemeg@bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/cemeg
72
CWRS MChem: F104 MChem gyda Phrofiad Diwydiannol: F101 MChem gyda Phrofiad Rhyngwladol: F106 BSc (anrhydedd) Cemeg: F100 BSc (anrhydedd) Cemeg gyda Phrofiad Diwydiannol: F103 BSc (anrhydedd) Cemeg gyda Phrofiad Ewropeaidd: F102 BSc (anrhydedd) Cemeg gyda Phrofiad Rhyngwladol: F105 ASTUDIO TRWY’R GYMRAEG Nid oes cyrsiau Cemeg ar gael yn gyfan gwbl trwy gyfrwng y Gymraeg ond mae modd astudio canran o’r modiwlau canlynol yn ddwyieithog: Blwyddyn 1 • Cemeg Sylfaenol 1 a 2 • Dulliau Offerynnol a Dadansoddol • Labordy Cemeg 1 a 2 • Medrau Mathemateg i Gemegwyr • Cemeg ar Waith 1 a 2 Blwyddyn 2 • Ffisegol 1 • Ffisegol 2 • Labordai Cemeg Integredig • Tiwtorialau Blwyddyn 3 • Sgiliau Ymchwil • Project Blwyddyn 4 • Prosesau mwen rhyngwynebau • Project Ymarferol MChem Canllaw yn unig yw’r rhestr modiwlau ac fe allent newid yn flynyddol. CEFNDIR Y CYRSIAU INTERNATIONAL Mae Cemeg yn wyddor arbrofol sy’n EXPERIENCE delio â chwestiynau yn ymwneud â‘r byd o’n hamgylch ar lefel atomig a moleciwlaidd. Mae’n ymdrechu i ateb nifer o’r problemau y deuwn ar eu traws yn ein bywydau o ddydd i ddydd. Cemeg sy’n gyfrifol am ddarganfod cyffuriau newydd, INTERNATIONAL EXPERIENCE am ddatblygiad plastig a ffibrau a nifer o ddatblygiadau newydd ym maes offer meddygol. Mae’r cyfleoedd gyrfa yn niferus ac amrywiol, o feysydd traddodiadol megis ymchwil mewn fferylliaeth i ddysgu, cyfrifyddiaeth a marchnata. Mae’r cwrs Cemeg gyda Phrofiad Ewropeaidd yn rhoi’r cyfle i chi gael profiad gwaith diwydiannol yn
© Glyn Davies
Ewrop. Mae Cemeg gyda Phrofiad Rhyngwladol yn rhoi’r cyfle i chi gael profiad o astudio neu weithio mewn ystod o leoliadau sy’n cynnwys Awstralia, Tsieina, Canada ac Ewrop. Mae’r cwrs Cemeg gyda Phrofiad Diwydiannol yn rhoi’r cyfle i chi yn eich trydedd flwyddyn gael profiad o ymchwilio i faes cemeg diwydiannol gyda chorff perthnasol yn y Deyrnas Unedig neu yn Ewrop. PAM DEWIS BANGOR? • Rydym yn cynnig sylw unigol mewn awyrgylch gofalgar a chyfeillgar, gyda’r holl gyfarpar ac adnoddau angenrheidiol. • Gallwch astudio cwrs dros 4 blynedd, gan gynnwys blwyddyn mewn prifysgol yn Ewrop (Cemeg gyda Phrofiad Ewropeaidd) neu flwyddyn o brofiad gwaith (Cemeg gyda Phrofiad Diwydiannol). • Mae gennym raglen ymchwil fywiog sy’n ychwanegu at y dysgu, ac rydym yn trefnu rhaglen wythnosol o seminarau lle mae gwyddonwyr adnabyddus trwy’r byd yn disgrifio’u gwaith. • Rydym yn cynnig ysgoloriaethau Cemeg bob blwyddyn ac mae hefyd yn bosib gwneud cais am Ysgoloriaeth Cymhelliant gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i astudio Cemeg.
Cromatograffaeth Nwy/Sbectrometreg Màs: defnyddir hwn i ganfod symiau hybrin o gyfansoddion organig anweddol
BETH FYDDAF YN EI ASTUDIO? Er bod pob un o’n modiwlau yn orfodol, medrwch ddewis pwnc / oruchwyliwr eich project. SUT Y BYDDAF YN DYSGU? Darlithoedd, gwaith yn y labordy, a dosbarthiadau tiwtorial; ymweliadau â diwydiannau lleol; projectau unigol a phrojectau grŵp. Asesir trwy arholiadau a gwaith ymarferol.
“Mae’r cymorth a’r gefnogaeth rwyf wedi ei dderbyn dros y 4 mlynedd diwethaf wedi bod yn rhagorol…” SYLWADAU MYFYRIWR CEMEG
CYFRIFIADUREG
“Fe ddes i Fangor oherwydd bod gan y Brifysgol enw da... Roedd yr holl staff a oedd yn fy nysgu yn eithriadol o gefnogol a doedd dim yn ormod o drafferth iddynt.” NICOLA JAYNE PRICE Myfyrwraig Raddedig
73
ELECTRONEG
CYFRIFIADUREG Y FFEITHIAU SYLFAENOL Hyd: 3 blynedd Cewch y manylion llawn ym mhrospectws Saesneg y Brifysgol, ar y wefan neu drwy gysylltu â ni. GOFYNION MYNEDIAD: Crynodeb yn unig a gewch chi isod, felly mae’n werth bwrw golwg ar y manylion llawn ar ein gwefan cyn gwneud unrhyw benderfyniad. • TGAU: gradd C/4 Mathemateg ar gyfer pob cwrs heblaw am I110 ac IN00 lle bo angen gradd C/4 mewn Saesneg. • Cynnig nodweddiadol o isafswm o 80-96 pwynt tariff o gymwysterau lefel 3* ar gyfer y cyrsiau gradd BSc. Am fanylion gofynion mynediad penodol ar gyfer cymwysterau eraill, gan gynnwys unrhyw ofynion pwnc penodol, ewch i’n gwefan. • Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn, unigolion â chymwysterau Ewropeaidd ac ymgeiswyr rhyngwladol. *Mae cymwysterau lefel 3 yn cynnwys Lefel A, BTEC, City & Guilds, Mynediad, Cymhwyster Bagloriaeth Cymru ac eraill – am restr lawn, cyfeiriwch at www.ucas.com.
PROFIAD RHYNGWLADOL MODIWLAU DATBLYGU SGILIAU IAITH AR GAEL
MWY O WYBODAETH Tiwtor Mynediad Ffôn: 01248 382686 e-bost: cyfrifiadur@bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/cyfrifiadureg
CWRS BSc (anrhydedd) Cyfrifiadureg: BSc (anrhydedd) Cyfrifiadureg ar gyfer Busnes: BSc (anrhydedd) Technolegau Creadigol: BSc (anrhydedd) Systemau Gwybodaeth Cyfrifiadurol: BSc (anrhydedd) Systemau Gwybodaeth Cyfrifiadurol ar gyfer Busnes: BSc (anrhydedd) Gradd Brentisiaeth Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol ASTUDIO TRWY’R GYMRAEG Nid oes cyrsiau ar gael yn gyfan gwbl trwy’r Gymraeg mewn Cyfrifiadureg. Mae modd i fyfyrwyr astudio rhai o’r modiwlau cyfrwng Cymraeg canlynol fel rhan o’r cyrsiau Cyfrifiadureg ar gyfer Busnes: • Cyflwyniad i Fusnes/Rheolaeth • Cyflwyniad i Farchnata • Economeg 1 • Economeg 2 Hefyd, gall myfyrwyr astudio’r modiwl cyfrwng Cymraeg Systemau Gwybodaeth a’r modiwl dwyieithog Project Unigol Cyfrifiadureg fel rhan o’r cyrsiau Cyfrifiadureg, Cyfrifiadureg ar gyfer Busnes a Thechnolegau Creadigol. Yn ogystal, bydd darlithwyr sy’n siarad Cymraeg ar gael i sgwrsio am eich gwaith o dro i dro yn ein holl bynciau.
CEFNDIR Y CYRSIAU Rydym yn cynnig cyrsiau ar draws sbectrwm eang sy’n golygu y gallwn eich helpu i gael y cymhwyster iawn ar gyfer y swydd yr ydych chi am ei gwneud. Mae yma gymuned fywiog, ac mae ein hymchwil a’n cysylltiad INTERNATIONAL agos â diwydiant yn sicrhau EXPERIENCE fod ein cyrsiau yn adlewyrchu’r hyn sy’n digwydd yn y byd tu allan. Maen nhw’n adlewyrchu’r tueddiadau cyfredol a’r datblygiadau diweddaraf. INTERNATIONAL EXPERIENCE
G400 GN41 GW49 I110 IN00 H300
PAM DEWIS BANGOR? • Credwn fod yr ystod o fodiwlau dwyieithog a Chymraeg sydd ar gael fel rhan o’n holl gyrsiau yn gyfle gwerthfawr i chi fagu’r hyder i drafod eich pwnc trwy’r Gymraeg. Credwn hefyd y bydd darpar-gyflogwyr, yn enwedig yn y sector cyhoeddus yng Nghymru, yn croesawu’r hyder yma. • Hanes hir o arbenigedd yn y maes. • Mae ein hymchwil a’n cysylltiadau â diwydiant yn golygu fod ein cyrsiau yn adlewyrchu’r datblygiadau diweddaraf. • Mae ein staff yn bobl broffesiynol sy’n gweithio ar brojectau ar y cyd â diwydiant ac sydd hefyd yn ymgynghorwyr i ddiwydiant. • Gallwch dreulio blwyddyn yn gweithio mewn diwydiant rhwng yr ail a’r drydedd flwyddyn. Mae projectau’r flwyddyn derfynol yn aml yn cael eu gwneud mewn cydweithrediad â chwmni, ac mae hyn bob amser yn fanteisiol pan ydych yn chwilio am waith. • Mae nifer o ysgoloriaethau a bwrsariaethau ar gael i fyfyrwyr cymwys. Cysylltwch â’r Tiwtor Mynediad am fanylion. BETH FYDDAF YN EI ASTUDIO? Byddwch yn astudio modiwlau sydd wedi cael eu dethol yn ofalus ar gyfer y cwrs yr ydych wedi ei ddewis. Mae manylion llawn am y modiwlau ar gael yn y prospectws Saesneg sydd wedi cael ei gyhoeddi gan y Brifysgol.
SUT Y BYDDAF YN DYSGU? Darlithoedd, sesiynau yn y labordy, dosbarthiadau tiwtorial. Asesir drwy arholiad ar gynnwys pob modiwl ar ddiwedd y semester. Asesir drwy waith cwrs hefyd mewn rhai modiwlau. Bydd eich adroddiadau aseiniad a’ch project unigol hefyd yn cyfrannu at eich marciau.
DATBLYGIADAU NEWYDD Bydd y graddau BSc canlynol yn cael eu cynnig yn 2020, yn amodol ar gael eu dilysu: • Cyfrifiadureg efo Dylunio Gemau • Technolegau Digidol Rydym hefyd yn bwriadu cynnig y graddau prentisiaeth BSc canlynol, yn amodol ar gael eu dilysu: • Seiberddiogelwch Gymhwysol • Data Gwyddoniaeth Gymhwysol
“Mae Bangor yn cynnig yr opsiwn i astudio rhai modiwlau yn y Gymraeg a roeddwn i’n hoffi’r opsiwn o allu gwneud hyn. Mae’r cwrs wedi’i rannu rhwng modiwlau sydd yn cael eu dysgu trwy ddarlithoedd, a sesiynau ymarferol yn y labordai. Mae’r cydbwysedd yn sicrhau fy mod yn deall y gwaith wrth i mi adeiladu cylchedau sydd wedi cael eu disgrifio yn y darlithoedd. Rwy’n hoffi’r ffaith mai nifer fach o fyfyrwyr sydd yn ein blwyddyn - yn gwneud hi’n haws trafod y gwaith yn y darlithoedd.
“...mae’r gwaith project yn enwedig o safon uchel. Mae’r myfyrwyr yn cael eu darparu gyda dewis eang o brojectau heriol sy’n rhoi’r cyfle iddynt ragori.” ADRODDIAD ARHOLWR ALLANOL
Mae Bangor yn lle gwych i astudio hefyd, gyda digon o bethau i’w gwneud trwy’r amryw o glybiau sy’n cael eu cynnal. Mae’r gwasanaethau sy’n cael eu cynnig yn ddefnyddiol, er enghraifft gwasanaethau myfyrwyr, sy’n fodlon helpu beth bynnag yw’r broblem. Mae’r darlithwyr ym Mangor o hyd ar gael i gynnig cymorth os oes unrhyw broblem efo modiwl neu waith cwrs.” MEGAN WYN OWEN BSc Peirianneg Electroneg
Ewch i’r wefan am y maylion diweddaraf.
74
75
GWYDDORAU CHWARAEON, IECHYD AC YMARFER
ELECTRONEG Y FFEITHIAU SYLFAENOL Hyd: 3 blynedd; 4 blynedd (MEng) Cewch y manylion llawn ym mhrospectws Saesneg y Brifysgol, ar y wefan neu drwy gysylltu â ni. GOFYNION MYNEDIAD: Crynodeb yn unig a gewch chi isod, felly mae’n werth bwrw golwg ar y manylion llawn ar ein gwefan cyn gwneud unrhyw benderfyniad. • Cynnig nodweddiadol o isafswm o 80 pwynt tariff o gymwysterau lefel 3* ar gyfer y cyrsiau gradd BSc, 96 pwynt ar gyfer BEng a 120 ar gyfer MEng. Am fanylion gofynion mynediad penodol, gan gynnwys unrhyw ofynion TGAU a gofynion pwnc penodol, ewch i’n gwefan. • Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn, unigolion â chymwysterau Ewropeaidd ac ymgeiswyr rhyngwladol. *Mae cymwysterau lefel 3 yn cynnwys Lefel A, BTEC, City & Guilds, Mynediad, Cymhwyster Bagloriaeth Cymru ac eraill – am restr lawn, cyfeiriwch at www.ucas.com.
CWRS BEng (anrhydedd) Peirianneg Electronig**: BEng (anrhydedd) Peirianneg Systemau Cyfrifiadurol**: MEng Peirianneg Electronig**: MEng Peirianneg Systemau Cyfrifiadurol**: MEng Peirianneg Rheoli ac Offeryniaeth: MEng Peirianneg Diogelwch Critigol: BSc (anrhydedd) Peirianneg Systemau Cyfrifiadurol: BSc (anrhydedd) Peirianneg Electronig: CWRS PERTHNASOL BSc (cyd-anrhydedd) Cerddoriaeth a Pheirianneg Electronig ASTUDIO TRWY’R GYMRAEG Nid oes cyrsiau ar gael yn gyfan gwbl trwy’r Gymraeg mewn Electroneg. Gall myfyrwyr astudio rhai o’r modiwlau dwyieithog canlynol fel rhan o’r cyrsiau Peirianneg Systemau Cyfrifiadurol, Peirianneg Electronig, Peirianneg Rheoli ac Offeryniaeth a Pheirianneg Diogelwch Critigol: • Theori Cylchedau • Dylunio Cylchedau • Cylchedau Digidol 2 • Project Unigol Electroneg (40 credyd) • Project Unigol Electroneg (30 credyd) • Labordy Electroneg 1 (20 credyd) Bydd darlithwyr sy’n siarad Cymraeg ar gael i sgwrsio am eich gwaith o dro i dro yn ein holl bynciau.
PROFIAD RHYNGWLADOL MODIWLAU DATBLYGU SGILIAU IAITH AR GAEL
MWY O WYBODAETH Tiwtor Mynediad Ffôn: 01248 382686 e-bost: peirianneg@bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/electroneg
76
CEFNDIR Y CYRSIAU Rydym yn cynnig cyrsiau ar draws sbectrwm eang sy’n golygu y gallwn eich helpu i gael y cymhwyster iawn ar gyfer y swydd yr ydych chi am ei gwneud. Mae yma gymuned fywiog, INTERNATIONAL ac mae ein hymchwil a’n cysylltiad EXPERIENCE agos â diwydiant yn sicrhau fod ein cyrsiau yn adlewyrchu’r hyn sy’n digwydd yn y byd tu allan. Maen nhw’n adlewyrchu’r tueddiadau cyfredol a’r datblygiadau INTERNATIONAL diweddaraf. EXPERIENCE PAM DEWIS BANGOR? • Mae’r modiwlau dwyieithog a Chymraeg sydd ar gael ym gyfle i chi fagu’r hyder i drafod eich pwnc trwy’r Gymraeg. Credwn hefyd y bydd darpar-gyflogwyr, yn enwedig yn y sector cyhoeddus yng Nghymru, yn croesawu’r hyder yma.
H610 H612 H601 H617 H661 H660 H603 H611 H6W3
• Hanes hir o arbenigedd yn y maes ac ystod o gyrsiau. • Mae ein hymchwil a’n cysylltiadau â diwydiant yn golygu bod ein cyrsiau yn adlewyrchu’r datblygiadau diweddaraf. • Mae ein staff yn bobl broffesiynol sy’n gweithio ar brojectau ar y cyd â diwydiant ac sydd hefyd yn ymgynghorwyr i ddiwydiant. • Gallwch dreulio blwyddyn yn gweithio mewn diwydiant rhwng blwyddyn 2 a 3. Mae projectau’r flwyddyn derfynol yn aml yn cael eu gwneud mewn cydweithrediad â chwmni, sy’n fanteisiol pan ydych yn chwilio am waith. • Gall myfyrwyr fod yn gymwys i dderbyn Ysgoloriaeth Electronig o hyd at £1,500. Mae ysgoloriaethau a bwrsariaethau eraill ar gael hefyd. BETH FYDDAF YN EI ASTUDIO? Byddwch yn astudio modiwlau sydd wedi cael eu dethol yn ofalus ar gyfer y cwrs yr ydych wedi ei ddewis. Mae manylion llawn am y modiwlau ar gael yn y prospectws Saesneg sydd wedi cael ei gyhoeddi gan y Brifysgol. SUT Y BYDDAF YN DYSGU? Darlithoedd, sesiynau yn y labordy, dosbarthiadau tiwtorial. Asesir trwy arholiad ar gynnwys pob modiwl ar ddiwedd y semester. Asesir trwy waith cwrs hefyd mewn rhai modiwlau. Bydd eich adroddiadau aseiniad a’ch project unigol hefyd yn cyfrannu at eich marciau. **Mae’r cyrsiau yma wedi cael eu hachredu gan y Cyngor Peirianneg.
“Rwy’n mwynhau pob agwedd o’r cwrs - o’r darlithoedd diddorol i gynnal gwaith yn y labordy, fel adeiladu cylchedau, cynnal arbrofion microelectroneg a phrofi cylchedau. Mae’n gwrs heriol iawn ond yn wobrwyol drwy i mi ennill gwybodaeth hanfodol a fydd yn fy nhrawsnewid mewn i beiriannydd electronig y dyfodol.” ABIGAIL HUGHES BSc Peirianneg Electroneg
DATBLYGIADAU NEWYDD Bydd y graddau BSc canlynol yn cael eu cynnig yn 2020, yn amodol ar gael eu dilysu: • Cyfrifiadureg efo Dylunio Gemau • Technolegau Digidol
1
2
1 Arweinwyr Cyfoed a myfyrwyr newydd ar drip i draeth Aberffraw yn ystod yr Wythnos Groeso 2 Labordy Dysgu yn ein Canolfan Gweithgarwch Corfforol ar gyfer Iechyd a Lles
“Mae’r cwrs Chwaraeon, Iechyd ac Addysg Gorfforol wedi caniatáu i mi gael profiad gwaith mewn ysgol yn ogystal a chael darlithoedd gan arweinydd GwE, sy’n golygu fy mod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf ar sut mae’r cwricwlwm mewn ysgolion yn newid ac sut ddylai addysg gael ei drosglwyddo i blant. Rwyf wedi gallu gwneud hyd at 40 credyd o’r cwrs trwy’r Gymraeg. Mae hyn yn fantais i fyfyrwyr Cymraeg, gan ein bod yn derbyn addysg ddwyieithog sydd yn y pendraw yn ein gwneud yn fwy cyflogadwy.” JESSICA HUGHES BSc Chwaraeon, Iechyd ac Addysg Gorfforol
Rydym hefyd yn bwriadu cynnig y graddau prentisiaeth BSc canlynol, yn amodol ar gael eu dilysu: • Seiberddiogelwch Gymhwysol • Data Gwyddoniaeth Gymhwysol Ewch i’r wefan am y maylion diweddaraf.
77
GWYDDORAU IECHYD
GWYDDORAU CHWARAEON, IECHYD AC YMARFER Y FFEITHIAU SYLFAENOL Hyd: 3 blynedd (cyrsiau gradd); Blwyddyn (rhyngosodol) Cewch y manylion llawn ym mhrospectws Saesneg y Brifysgol, ar y wefan neu drwy gysylltu â’r Ysgol. GOFYNION MYNEDIAD: Crynodeb yn unig a gewch chi isod, felly mae’n werth bwrw golwg ar y manylion llawn ar ein gwefan cyn gwneud unrhyw benderfyniad. • TGAU: gradd C/4 Saesneg Iaith, Mathemateg a Gwyddoniaeth. • Cynnig nodweddiadol o isafswm o 112 pwynt tariff o gymwysterau lefel 3* ar gyer cyrsiau BSc (128 pwynt ar gyfer BSc Seicoleg Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer), 136 pwynt tariff o gymwysterau lefel 3* ar gyfer MSci. Am fanylion gofynion mynediad penodol gan gynnwys unrhyw ofynion pwnc penodol, ewch i’n gwefan. • Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn, unigolion â chymwysterau Ewropeaidd ac ymgeiswyr rhyngwladol. Graddau Rhyngosodol (BSc) • Pennir meini prawf mynediad penodol rhwng eich Ysgol Feddygol a Phrifysgol Bangor. Cyfeiriwch at eich Ysgol Feddygol am fanylion. *Mae cymwysterau lefel 3 yn cynnwys Lefel A, BTEC, City & Guilds, Mynediad, Cymhwyster Bagloriaeth Cymru ac eraill – am restr lawn, cyfeiriwch at www.ucas.com.
PROFIAD RHYNGWLADOL MODIWLAU DATBLYGU SGILIAU IAITH AR GAEL
MWY O WYBODAETH Derbyniadau Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer Ffôn: 01248 388256 e-bost: chwaraeon@bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/chwaraeon
78
CWRS Hyd: 3 neu 4 blynedd BSc Gwyddorau Chwaraeon Antur neu MSci Gwyddorau Chwaraeon Antur: C611 C612 BSc (anrhydedd) Gwyddor Chwaraeon neu MSci Gwyddor Chwaraeon: C600 C607 BSc (anrhydedd) Gwyddor Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer neu CB69 C608 MSci Gwyddor Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer: BSc (anrhydedd) Chwaraeon, Iechyd ac Addysg Gorfforol: C651 BSc (anrhydedd) Gwyddor Chwaraeon (Gweithgareddau Awyr Agored) neu C602 C609 MSci (anrhydedd) Gwyddor Chwaraeon (Gweithgareddau Awyr Agored): BSc (anrhydedd) Seicoleg Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer wedi ei achredu C680 gan y BPS: BSc (anrhydedd gyflawn) Gwyddor Chwaraeon (Hamdden Awyr Agored) blwyddyn: C615 GRADDAU RHYNGOSODOL (BSc) Mae’r graddau hyn wedi eu hanelu at fyfyrwyr meddygol sydd wedi cwblhau’n llwyddiannus y nifer gofynnol o flynyddoedd mewn Ysgol Feddygol, ac sy’n dymuno cael BSc i arbenigo neu gael profiad yn y meysydd canlynol: BSc Gwyddor Chwaraeon (rhyngosodol): C603 BSc Gwyddor Chwaraeon Clinigol (rhyngosodol): C883 ASTUDIO TRWY’R GYMRAEG Bydd yn bosib astudio o leiaf 40 credyd y flwyddyn trwy gyfrwng y Gymraeg ar y mwyafrif o’n cyrsiau (gweler ein gwefan am y manylion diweddaraf). Mae hefyd yn bosib cyflwyno aseiniadau yn Gymraeg. PAM DEWIS BANGOR? Ymchwil ac Addysgu Rhagorol Ym Mangor, byddwch yn astudio yn un o’r Prifysgolion gorau a arweinir gan ymchwil ym maes Gwyddor Chwaraeon ym Mhrydain. Rydym wedi cael ein rhoi yn:
• 7fed ym Mhrydain am ein Hymchwil (REF, 2014). • 5ed ym Mhrydain am Ansawdd ein Hymchwil - Complete University INTERNATIONAL Guide 2019. EXPERIENCE • Yn yr 8 uchaf ym Mhrydain am foddhad myfyriwr ym maes Gwyddor Chwaraeon (NSS, 2018). Mae ein holl staff yn ymchwil-
INTERNATIONAL gynhyrchiol ac yn gweithio gyda EXPERIENCE
pherfformwyr chwaraeon a’r arbenigwyr meddygol gorau ym Mhrydain ac yn fyd-eang. Mae’r gweithgareddau ymchwil hyn yn bwydo’n uniongyrchol i’r addysgu a bydd llawer o fyfyrwyr yn cael cyfle i fod yn rhan o’r prosesau ymchwil hyn.
Cefnogaeth a Phrofiad Myfyrwyr Rhagorol Mae pawb yn adnabod ei gilydd ac rydym yn ymfalchïo yn y croeso cynnes a roddwn i fyfyrwyr newydd. Byddwch yn astudio yn un o’r lleoliadau gorau ym Mhrydain a cewch hefyd aelodaeth am ddim o holl glybiau a chymdeithasau y Brifysgol. Hwb i’ch Rhagolygon Gyrfaol Cewch gyfle i ennill cymhwyster proffesiynol mewn amryw o feysydd yn cynnwys Dadansoddi Perfformiad Dartfish, Hyfforddwr Ffitrwydd lefel 2, codi pwysau Olympaidd, cwrs tapio, tylinio chwaraeon a chymorth cyntaf anghysbell. Cewch gyfle hefyd i fynd ar leoliadau a gweithio ochr yn ochr ag arbenigwyr mewn maes sy’n berthnasol i’ch gradd a’ch gyrfa yn y dyfodol. Cyfleusterau ac Offer Mae gennym bob math o adnoddau ar gyfer astudio chwaraeon, iechyd ac ymarfer yn wyddonol. Mae yma nifer helaeth o labordai yn cynnwys yr offer diweddaraf ar gyfer ffisioleg chwaraeon ac ymarfer, seicoleg, rheolaeth dros symudiadau a dadansoddi mudiant.
SUT Y BYDDAF YN DYSGU? Fel rheol bydd gennych awr neu ddwy o ddarlithoedd bob wythnos ar gyfer pob modiwl, yn ogystal â chyfnodau labordy, seminarau a thiwtorialau. Bydd hyn yn gysylltiedig â darllen, ysgrifennu traethodau ac adroddiadau, casglu gwybodaeth a data, gweithio ar brojectau grŵp a pharatoi cyflwyniadau llafar a phoster. Y rhain fydd sail eich asesiad, ynghyd ag arholiadau, astudiaethau achos a beirniadaethau ar ymchwil. Mae’r niferoedd yn ein darlithoedd, seminarau a dosbarthiadau labordy i gyd yn fychain. Golyga hyn fod gan ein myfyrwyr gysylltiad agosach â staff. EICH GYRFA YN Y DYFODOL Bydd ein cyrsiau yn eich paratoi ar gyfer gyrfa fel gwyddonydd chwaraeon; gweithio gydag athletwyr a pherfformwyr elît; ymchwil i wyddor chwaraeon; gweithio yn y sector iechyd cyhoeddus, e.e. ym maes therapi/ ffisiotherapi chwaraeon; neu weithio yn y diwydiant iechyd/ffitrwydd yn gyffredinol. Mae astudio ôl-radd a gyrfa mewn dysgu (ar ôl gwneud tystysgrif addysg i raddedigion), ymchwil a darlithio yn llwybr arall. Mae rhai yn defnyddio eu cymhwyster a’u sgiliau trosglwyddadwy i weithio mewn rheolaeth, gyda’r gwasanaethau brys neu i sefydlu eu busnes eu hunain.
“Rydym yn cynnig profiad addysgu a dysgu sydd wedi’i seilio ar gysylltiadau rhagorol gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) a’n enw da’n rhyngwladol am ragoriaeth mewn ymchwil. Mae gan ein staff ystod eang o brofiad clinigol cyfoes yn eu meysydd proffesiynol, gan sicrhau bod yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei ddysgu o’r ansawdd uchaf un.”
“Mae’r myfyrwyr yn unfrydol eu canmoliaeth i’r staff dysgu ac yn arbennig lefel uchel y sylw personol yr oeddynt yn ei dderbyn.”
BERYL COOLEDGE Cyfarwyddwr Dwyieithrwydd a Darlithydd Gwyddorau Gofal Iechyd
“Mae’n wych ein bod yn cael cynnig gwneud y gwaith drwy’r Gymraeg. Mae’n codi hyder yn enwedig wrth gyfathrebu gyda chleifion Cymraeg.”
ADRODDIAD ARHOLWR ALLANOL
MYFYRIWR NYRSIO
GRADDAU CYD-ANRHYDEDD Ewch i dudalen 64 am fanylion am raddau cyd-anrhydedd.
79
GWYDDORAU GOFAL IECHYD Y FFEITHIAU SYLFAENOL Hyd: 3 blynedd Cewch y manylion llawn am y cyrisau a’r gofynion mynediad ym mhrospectws Saesneg y Brifysgol, ar y wefan neu drwy gysylltu â’r Ysgol. GOFYNION MYNEDIAD: BM Bydwreigiaeth, BN Nyrsio a BSc Radiograffeg Diagnostig Disgwylir i ymgeiswyr ddod am gyfweliad os cânt eu rhoi ar y rhestr fer, a chael eu sgrinio ymhellach. Mae’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal a’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth yn nodi gofynion mynediad cyffredinol ac yn nodi bod rhaid i bob ymgeisydd ddangos eu bod mewn iechyd da ac o gymeriad da. Mae’n ofynnol i bob ymgeisydd cael gwiriad cofnod troseddol (DBS) a gofynion eraill a gaiff eu hasesu drwy sgrinio iechyd galwedigaethol. • TGAU: gradd C/4 Saesneg Iaith/ Cymraeg Iaith a Mathemateg • Cynnig nodweddiadol o isafswm o 120 pwynt tariff o gymwysterau lefel 3* • Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn, unigolion â chymwysterau Ewropeaidd ac ymgeiswyr rhyngwladol. BA Iechyd a Gofal Cymdeithasol • Cynnig nodweddiadol o isafswm o 96 pwynt tariff o gymwysterau lefel 3* ar gyfer y cwrs BA, 112 pwynt ar gyfer MSocSci. *Mae cymwysterau lefel 3 yn cynnwys Lefel A, BTEC, City & Guilds, Mynediad, Cymhwyster Bagloriaeth Cymru ac eraill – am restr lawn, cyfeiriwch at www.ucas.com.
CWRS BM (anrhydedd) Baglor mewn Bydwreigiaeth**: BN (anrhydedd) Baglor mewn Nyrsio**: BSc (anrhydedd) Radiograffeg Diagnostig**: BA (anrhydedd) / MSocSci Iechyd a Gofal Cymdeithasol:
Ffon: 01248 383189 e-bost: iechyd@bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/ gwyddoraugofaliechyd
80
B720 B740//B761/B760/B731 B821 L510/L514
**Mae’r rhaglenni hyn yn arwain at gofrestru proffesiynol gyda’r corff priodol.
Nyrsio Oedolion B740 Gweithio gyda phobl o bob oed sydd angen gofal nyrsio proffesiynol. Rhoi sylfaen ar gyfer arbenigo mewn amrywiaeth eang o feysydd clinigol. Cynigir yn Ebrill a Medi ar gampws Bangor a Wrecsam. Nyrsio Iechyd Meddwl B760 Gweithio gyda phobl o bob oed sydd angen gofal nyrsio proffesiynol gyda materion yn gysylltiedig ag iechyd meddwl. Rhoddir sylfaen ragorol mewn ymarfer iechyd meddwl yng nghyd-destun polisi a darpariaeth gyfoes. Ar gael ym Medi ar gampws Bangor ac yn Ebrill ar gampws Wrecsam. Nyrsio Anabledd Dysgu B761 Gweithio gyda phobl o bob oed gydag anableddau dysgu sydd angen gofal nyrsio proffesiynol. Rhoi’r sgiliau a’r ddealltwriaeth ddamcaniaethol i fyfyrwyr sydd eu hangen i weithio’n therapiwtig yn y maes arbenigol hwn. Ar gael ym Medi ar gampws Bangor yn unig.
Nyrsio Plant B731 Gweithio gyda phlant neu bobl ifanc sydd angen gofal nyrsio proffesiynol. Rhoi sgiliau a gwybodaeth mewn INTERNATIONAL EXPERIENCE meysydd fel datblygiad ffisiolegol a MODIWLAU DATBLYGU PROFIAD seicogymdeithasol, diogelu a gofal SGILIAU IAITH AR GAEL RHYNGWLADOL lliniarol. Ar gael ym Medi ar gampws Wrecsam yn unig. MWY O WYBODAETH Gwyddorau Gofal Iechyd
GWYDDORAU MEDDYGOL
INTERNATIONAL Bydwreigiaeth B720 EXPERIENCE
Drwy gydol y rhaglen canolbwyntir yn bennaf ar swyddogaeth y fydwraig yn hyrwyddo geni ffisiolegol normal. Cyflwynir swyddogaeth y fydwraig i fyfyrwyr drwy brofiadau lleoliadau clinigol, gan ddechrau yn y gymuned, lle darperir gofal i ferched a’u
teuluoedd yn ystod beichiogrwydd ac ar ôl hynny. Rhennir y cwrs bydwreigiaeth rhwng Wrecsam a Bangor, a chewch gyfle i fynd i ddarlithoedd ar y ddau gampws. Radiograffeg Diagnostig B821 Mae radiograffeg ddiagnostig yn gymorth amhrisiadwy i wneud diagnosis o glefyd. Mae radiograffwyr diagnostig yn gyfrifol am gynhyrchu delweddau sy’n golygu defnyddio pelydr-X a dulliau eraill gan gynnwys uwchsain, tomograffeg gyfrifiadurol (CT), delweddu radioniwclid (RNI) a delweddu cyseinedd magnetig (MRI). Ar gael yn Wrecsam yn unig. Iechyd a Gofal Cymdeithasol Dyma gwrs aml-ddisgyblaethol cyffrous a fydd yn galluogi myfyrwyr i ymdrin ag amrywiaeth o bynciau, materion a dadleuon damcaniaethol perthnasol i iechyd a gofal cymdeithasol. Yn wahanol i hyfforddiant clinigol, rhoddir pwyslais yn ystod y cwrs hwn ar brofiadau cymdeithasol iechyd a gofal, yn cynnwys y materion polisi, darparu a rheoli gwasanaethau, a gwerthuso tystiolaeth. Drwy astudio’r pwnc hwn byddwch yn cael cefndir da ar gyfer gyrfaoedd mewn meysydd fel rheoli gwasanaethau iechyd, ymchwil, hybu iechyd a gwaith cymdeithasol a chymunedol.
ASTUDIO TRWY’R GYMRAEG Fel prif ddarparwr darpariaeth cyfrwng Cymraeg mewn addysg gofal iechyd proffesiynol, rydym yn falch o gynnig elfennau sylweddol o’n rhaglenni drwy’r Gymraeg neu’n ddwyieithog. Mae’r rhan helaeth o’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ar gael o fewn y rhaglen BN Nyrsio. Ar hyn o bryd, mae o leiaf 80 credyd ar gael yn ddwyieithog ym mhob blwyddyn o’r cwrs, ac eithrio Nyrsio Plant, lle y cynigir o leiaf 40 credyd yn ddwyieithog. Golygai hyn y byddwch yn gymwys am ysgoloriaeth (rhwng £500 a £1,000 y flwyddyn) gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol petaech yn dewis astudio elfennau o’ch cwrs trwy’r Gymraeg. Mae’r modiwlau yn cynnwys cyfuniad o ddarlithoedd Saesneg gyda seminarau, tiwtorialau a gwaith grŵp/unigol Cymraeg, gyda goruchwyliaeth trwy’r Gymraeg ar gyfer aseiniadau a lleoliadau clinigol. Cewch gyflwyno aseiniadau, arholiadau a’ch portffolio clinigol drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg. Cewch gefnogaeth gyson gan Diwtor Personol sy’n siarad Cymraeg a chefnogaeth gan Ganolfan Bedwyr a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol sy’n darparu adnoddau astudiaethau cyfrwng Cymraeg. Mae rhai elfennau o’r cyrsiau eraill yn cael eu dysgu trwy’r Gymraeg hefyd. Cynghorwn chi i drafod y sefyllfa gyfredol gyda’r Swyddog Derbyn.
GWYDDORAU GOFAL IECHYD
Pam astudio trwy’r Gymraeg? Mae cyfathrebu effeithiol yn hanfodol ar gyfer darparu dull berson-ganolog mewn gofal iechyd. O astudio trwy’r Gymraeg a datblygu fel ymarferwr dwyieithog, byddwch yn gwneud cyfraniad unigryw i’r gofal ac i brofiadau cleifion a chleientiaid trwy fedru rhoi ‘cynnig rhagweithiol’ iddynt o wasanaethau Cymraeg neu Saesneg, yn unol â Fframwaith Mwy na Geiriau Llywodraeth Cymru a’r Safonau Iaith newydd ar gyfer y sector iechyd yng Nghymru.
81
SEICOLEG
GWYDDORAU MEDDYGOL Y FFEITHIAU SYLFAENOL Hyd: 3 blynedd Cewch y manylion llawn ym mhrospectws Saesneg y Brifysgol, ar y wefan neu drwy gysylltu â’r Ysgol. GOFYNION MYNEDIAD: Crynodeb yn unig a gewch chi isod, felly mae’n werth bwrw golwg ar y manylion llawn ar ein gwefan cyn gwneud unrhyw benderfyniad. • TGAU: gradd C/4 Saesneg Iaith, Mathemateg a Gwyddoniaeth. • Cynnig nodweddiadol o isafswm o 112 pwynt tariff o gymwysterau lefel 3* ar gyer cyrsiau BSc a BMedSci. Am fanylion gofynion mynediad penodol gan gynnwys unrhyw ofynion pwnc penodol, ewch i’n gwefan. • Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn, unigolion â chymwysterau Ewropeaidd ac ymgeiswyr rhyngwladol. *Mae cymwysterau lefel 3 yn cynnwys Lefel A, BTEC, City & Guilds, Mynediad, Cymhwyster Bagloriaeth Cymru ac eraill – am restr lawn, cyfeiriwch at www.ucas.com.
CWRS BSc (anrhydedd) Gwyddor Biofeddygol: BSc (anrhydedd) Bioleg Feddygol: BMedSci Gwyddorau Meddygol
ASTUDIO TRWY’R GYMRAEG Mae rhai elfennau o’r cyrsiau hyn yn cael eu dysgu trwy’r Gymraeg. Rydym yn awyddus iawn i gefnogi myfyrwyr drwy gyfrwng y ddwy iaith. Gwyddor Biofeddygol BSc B102 Mae’r cwrs hwn wedi ei gynllunio’n benodol mewn cydweithrediad â labordai clinigol GIG lleol ac wedi cael ei achredu gan y Sefydliad Gwyddor Fiofeddygol. Mae staff gwyddonol a chlinigol o ysbytai yng Ngogledd Cymru yn ymwneud yn ddwys â phob agwedd ar ddysgu. Cewch eich dysgu sut i ymchwilio i wahanol gyflyrau meddygol gan gynnwys canser, anaf tocsicolegol, gwenwyn bwyd, anaemia, llid yr ymennydd a chlefyd y galon. Efallai y bydd cyfle i’r rhai sydd â diddordeb mewn dilyn gyrfa mewn labordai patholeg GIG wneud cais am brofiad gwaith gwirfoddol yn ystod y cwrs. Mae rhagolygon gwaith i raddedigion â’r radd hon yn ardderchog ac mae hefyd yn bosibl symud ymlaen i Ysgol Feddygol ar ôl gwneud gradd.
Bioleg Feddygol BSc B103 Byddwch yn dysgu am achosion cellog a genynnol pob prif anhwylder INTERNATIONAL PROFIAD meddygol fel canser, syndromau EXPERIENCE RHYNGWLADOL seiciatrig, clefydau awto-imiwn, anhwylderau genynnol, yn ogystal MODIWLAU DATBLYGU SGILIAU IAITH AR GAEL â datblygu eich gwybodaeth am fioleg bôn-gelloedd. Byddwch yn astudio sut mae prif glefydau dynol yn datblygu ac archwilio’r gwahanol INTERNATIONAL MWY O WYBODAETH EXPERIENCE ffyrdd y gellir trin anhwylderau Gwyddorau Meddygol meddygol. Bydd y radd yn manteisio ar yr arbenigedd a’r cyfleusterau Ffôn: 01248 383244 sy’n gysylltiedig â Sefydliad Ymchwil e-bost: gwyddoraumeddygol@bangor.ac.uk Canser y Gogledd Orllewin. www.bangor.ac.uk/ gwyddoraumeddygol
82
B102 B103 B100
Gwyddorau Meddygol BMedSci B100 Mae’r cwrs hwn yn cyflwyno sylfaen gadarn i ddysgu gwyddonol, ystyried iechyd dynol a chlefydau ar lefel micro a macro ac yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu, integreiddio a chymhwyso eu gwybodaeth yn y rhyngwyneb rhwng darganfyddiad gwyddonol ac ymarfer clinigol. Bydd myfyrwyr yn cael budd o arbenigedd addysgu ac ymchwil ar draws nifer o ddisgyblaethau. Gall y radd BMedSci fod yn ffordd i fyfyrwyr sy’n llwyddo’n dda symud ymlaen i ysgol feddygol ar ôl gwneud gradd. PAM DEWIS BANGOR? • Ein nod yw datblygu graddedigion sydd â’r sgiliau i ddewis amrywiaeth o lwybrau gyrfa ym maes gofal iechyd, yn cynnwys cyrsiau meddygaeth ôl-radd. • Mae Gwyddorau Meddygol ym Mangor yn cynnwys academyddion, clinigwyr ac ymchwilwyr gyda phrofiad sylweddol yn y GIG ac mewn prifysgolion. • Mae gan ein staff enw da yn rhanbarthol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol ym maes addysg ac ymchwil meddygol a gofal iechyd. • Mae staff gwyddonol a chlinigol o ysbytai ar draws Gogledd Cymru yn ymwneud â phob agwedd ar y dysgu. • Mae ymchwil wyddonol flaengar yn rhan annatod o’n rhaglenni ymchwil, ac yn treiddio i’n hamgylchedd dysgu. • Mae ein harbenigedd mewn bioleg meddygol yn cwmpasu astudiaethau i ymchwil cylchred celloedd, bioleg canser, niwrobioleg a datblygiad, bioleg celloedd a genom.
• Mae ein cyfleusterau ardderchog yn cynnwys labordai ymchwil celloedd a moleciwlaidd gyda’r offer gorau a Labordy Robert Edwards ar gyfer dysgu ymarferol. • Mae staff clinigol o ysbytai lleol yn ymwneud â phob agwedd ar y dysgu. • Rydym yn cynnig amgylchedd braf a chyfeillgar i astudio. GRADDAU CYSYLLTIEDIG Graddau Rhyngosodol a gynigir gan Seicoleg: • BSc Niwroseicoleg Graddau Rhyngosodol a gynigir gan Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer: • BSc Gwyddor Chwaraeon • BSc Gwyddor Chwaraeon Clinigol DATBLYGIADAU NEWYDD Rydym wedi datblygu blwyddyn sylfaen integredig ar gyfer y cyrsiau Bioleg Feddygol, Gwyddor Biofeddygol a Gwyddorau Meddygol, a fydd yn cael ei gynnig yn 2020 yn amodol ar gael ei ddilysu. Bydd hyn yn gadael i ymgeiswyr sydd heb y cymwysterau gofynnol ar gyfer y rhaglen 3 blynedd ddilyn cwrs 4 blynedd yn arwain at yr un cymhwyster. Ewch i’r wefan am y manylion diweddaraf.
1 1 Labordy Electroffisioleg
“Rydym yn adran flaenllaw o ran darpariaeth cyfrwng Cymraeg, ac yn falch o’n cyflawniadau wrth gefnogi dysgu a rhagoriaeth drwy gyfrwng y Gymraeg. Ein nod yw darparu llwybrau cyflogadwyedd clir i yrfaoedd cyfrwng Cymraeg ar lefelau israddedig ac ôl-raddedig. Mae ein carfan Cymraeg yn frwdfrydig, yn weithgar, ac yn cymryd rhan ym mhob agwedd o astudio ac ymchwil.”
“Wrth astudio Seicoleg drwy gyfrwng y Gymraeg cefais gyfle i ymchwilio a thrafod pynciau o fewn maes sydd o ddiddordeb i mi gan ddefnyddio’r iaith yr wyf fwyaf cyfforddus ynddi. Yn ogystal, roedd yn fy ngalluogi i gwrdd â phobl o bob cwr o Gymru sy’n rhannu’r un brwdfrydedd â mi am Seicoleg.” GWENNANT MAI EVANS Cyn-fyfyriwr Seicoleg
PENNAETH SEICOLEG
83
SEICOLEG Y FFEITHIAU SYLFAENOL: Cod cwrs UCAS: Seicoleg C800 Seicoleg gyda Seicoleg Glinigol ac Iechyd C880 Seicoleg gyda Niwroseicoleg C801 Seicoleg gyda Busnes 2R87 Seicoleg C807 (MSci) Seicoleg gyda Seicoleg Glinigol ac Iechyd C808 (MSci) Niwroseicoleg B140 (gradd ryngosodol) Hyd: BSc 3 blynedd, MSci 4 blynedd Cewch y manylion llawn ym mhrospectws Saesneg y Brifysgol, ar y wefan neu drwy gysylltu â’r Ysgol. GOFYNION MYNEDIAD: Crynodeb yn unig a gewch chi isod, felly mae’n werth bwrw golwg ar y manylion llawn ar ein gwefan cyn gwneud unrhyw benderfyniad. • TGAU: gradd C/4 Saesneg Iaith, Mathemateg a Gwyddoniaeth. • Cynnig nodweddiadol o isafswm o 112 pwynt tariff o gymwysterau lefel 3* ar gyer cyrsiau BSc, 136 pwynt tariff ar gyfer MSci. Am fanylion gofynion mynediad penodol gan gynnwys unrhyw ofynion pwnc penodol, ewch i’n gwefan. • Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn, unigolion â chymwysterau Ewropeaidd ac ymgeiswyr rhyngwladol.
ASTUDIO TRWY’R GYMRAEG Ar hyn o bryd mae o leiaf 40 credyd ar gael yn ddwyieithog ym mhob blwyddyn o’r cwrs israddedig. Golygai hyn y byddwch yn gymwys am ysgoloriaethau (hyd at £750 y flwyddyn) gan Brifysgol Bangor a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol petaech yn dewis gwneud y cwrs yn ddwyieithog. Mae’r modiwlau hyn yn amrywio o ran eu darpariaeth Cymraeg, ond gan amlaf maent yn cynnwys cyfuniad o ddarlithoedd Cymraeg a Saesneg, yn ogystal â seminarau a thiwtorialau Cymraeg. Cewch gyflwyno aseiniadau ac/neu sefyll arholiadau drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg – chi biau’r dewis. Yn ogystal â modiwlau dwyieithog, cewch gefnogaeth gyson gan diwtor personol sy’n siarad Cymraeg a chefnogaeth gan Ganolfan Bedwyr a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, sy’n darparu adnoddau ar gyfer cynorthwyo astudiaethau cyfrwng Cymraeg.
BETH YW SEICOLEG? Fel myfyriwr Seicoleg ym Mangor cewch eich cyflwyno i seiliau *Mae cymwysterau lefel 3 yn cynnwys gwyddonol ymddygiad dynol. Lefel A, BTEC, City & Guilds, Mynediad, Mae ein cyrsiau yn cynnwys y Cymhwyster Bagloriaeth Cymru ac sbectrwm llawn o’r cynnwys eraill – am restr lawn, cyfeiriwch at sy’n ofynnol gan Gymdeithas www.ucas.com. Seicolegol Prydain, ac felly cewch gyfle i astudio ymddygiad dynol o safbwyntiau gwahanol. Ymhlith INTERNATIONAL PROFIAD llawer o bynciau diddorol eraill, EXPERIENCE RHYNGWLADOL byddwch yn dysgu am wahaniaethau unigol, gwybyddiaeth, dylanwad MODIWLAU DATBLYGU SGILIAU IAITH AR GAEL yr ymennydd ar ymddygiad, hanes seicoleg, a sut i gasglu a dadansoddi data fel gwyddonydd. MWY O WYBODAETH Seicoleg Ffôn: 01248 388453 e-bost: seicoleg@bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/seicoleg
84
INTERNATIONAL EXPERIENCE
Bydd y sgiliau y byddwch yn meithrin yn ddefnyddiol mewn sawl cyd-destun cyflogadwyedd, ac yn eich paratoi am hyfforddiant pellach fel seicolegydd proffesiynol, ymchwilydd gwyddonol, neu fel gweithiwr graddedig mewn ystod amrywiol o yrfaoedd eraill.
PAM DEWIS BANGOR? • Mae safon ein haddysgu yn uchel iawn, a derbyniasom lefel aur gan y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu yn 2017. • 8fed (o 114) am foddhad myfyrwyr gydag addysgu (Guardian Good University Guide 2019). • Rydym o fewn yr 20 adran orau ym Mhrydain o ran ymchwil, ac mae’r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil wedi nodi fod canran uchel o’n hymchwil yn rhagorol ar lefel ryngwladol a byd-eang. • Rhoddir pwyslais penodol ar yr ochr fugeiliol o brofiad myfyrwyr. Mae gennym dîm o addysgwyr sy’n darparu lefelau uchel o gymorth i’n myfyrwyr drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. • Ni yw’r sefydliad arweiniol yng Nghymru o ran darpariaeth cyfrwng Cymraeg ym maes Seicoleg. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu addysg cyfrwng Cymraeg, a bellach yn cynnig nifer o gyfleoedd i ddysgu drwy’r Gymraeg. MEYSYDD ARBENIGEDD Rydym yn ymddiddori mewn ystod eang o bynciau yma ym Mangor, ac yn ymfalchïo yn arbenigedd ein staff academaidd. Yn benodol, mae ein hymchwil yn canolbwyntio ar y meysydd canlynol: Canfyddiad, Gweithredu a Chof Mae’r grŵp yma yn ymchwilio i’r ffordd yr ydym yn tynnu a defnyddio gwybodaeth o’r amgylchedd i arwain ein gweithrediadau, a sut mae rhyngweithio o’r fath yn arwain at ddysgu a chof. Seicoleg Glinigol, Iechyd ac Ymddygiad Nod y grŵp ymchwil yma yw cymhwyso gwybodaeth seicolegol i ddeall a mynd i’r afael ag ymddygiad dynol a lles seicolegol ehangach. Wrth ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau seicolegol, mae’r grŵp yma yn ceisio gwneud newidiadau buddiol i ymddygiadau unigolion.
Iaith, Dwyieithrwydd, a Datblygiad Gwybyddol Mae’r grŵp yma yn defnyddio amryw o dechnegau ymddygiadol a niwrowyddonol i ymchwilio i’r rhyngweithiad rhwng iaith a gwybyddiaeth. Ar hyn o bryd, mae nifer o brojectau ar y gweill, gan gynnwys rhaglenni triniaeth ar gyfer unigolion dwyieithog sydd ag affasia, ac ymchwil yn ymwneud ag effaith dwyieithrwydd ar ymennydd babanod, plant, ac oedolion. Niwrowyddoniaeth Cymdeithasol Yn gyffredinol, mae’r grŵp ymchwil yma yn ymddiddori yng ngallu’r ymennydd i wneud synnwyr o’r byd cymdeithasol. Yn benodol, maent yn ymddiddori mewn canfyddiad, y gallu i ddeall ymddygiad pobl eraill, dysgu cymdeithasol, ac emosiwn. EIN HADNODDAU Mae gennym adnoddau, labordai a thechnegau o safon uchel i gefnogi eich dysgu. Ymysg y rhain mae peiriant fMRI, labordai ERP, a theclynnau tracio llygaid, a ddefnyddir i gwblhau ymchwil. SUT BYDDAF YN DYSGU? Rydym yn gweithio’n galed er mwyn datblygu modiwlau diddorol a defnyddiol. Yn ogystal â dulliau addysgu traddodiadol megis darlithoedd a seminarau, rydym hefyd yn flaenllaw o ran datblygu dulliau addysgu arloesol. Dwy enghraifft yw ein modiwl Seicoleg Ymddygiadol, sy’n rhedeg fel gêm zombie , ac ein modiwl ‘Born to Run’, sy’n cyfuno darlithoedd, blogs, a sesiynau rhedeg wythnosol i ddysgu effaith seicoleg gadarnhaol ar ymarfer corff.
DATBLYGIADAU NEWYDD Bydd y graddau BSc canlynol yn cael eu yn cael eu cynnig yn 2020, yn amodol ar gael eu dilysu: Seicoleg gyda Seicoleg Fforensig a Marchnata gyda Seicoleg. Ewch i’r wefan am y maylion diweddaraf.
BUSNES, CYLLID, RHEOLAETH A MARCHNATA
“O safbwynt cael swydd a gwella rhagolygon gyrfa mae nifer o resymau dros ddewis astudio drwy’r Gymraeg. Mae mwy a mwy o gyflogwyr yn chwilio am weithwyr efo sgiliau dwyieithog ac o gofio pa mor gystadleuol ydi’r byd gwaith heddiw, mae’r ffaith eich bod wedi astudio o leiaf rhan o gwrs gradd drwy gyfrwng y Gymraeg yn mynd i fod yn fantais fawr.” DR SARA PARRY Uwch Ddarlithydd mewn Marchnata
Prifysgol Bangor yw’r 1af yng Nghymru am foddhad myfyrwyr mewn Cyllid (Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2018)
Ymhlith y 25 sefydliad gorau yn y byd am ymchwil ym maes Bancio (RPEc)
85
BUSNES, CYLLID, RHEOLAETH A MARCHNATA
BUSNES, CYLLID, RHEOLAETH A MARCHNATA Y FFEITHIAU SYLFAENOL Hyd: 3 blynedd; 4 blynedd am radd gydag iaith fel rhan ar-y-cyd neu fel prif ran. Cewch y manylion llawn ym mhrospectws Saesneg y Brifysgol, ar y wefan neu drwy gysylltu â’r Ysgol. GOFYNION MYNEDIAD: Crynodeb yn unig a gewch chi isod, felly mae’n werth bwrw golwg ar y manylion llawn ar ein gwefan cyn gwneud unrhyw benderfyniad. Ar gyfer graddau cyd-anrhydedd dylech fwrw golwg ar ofynion mynediad eich pwnc arall hefyd. • TGAU: gradd C/4 Mathemateg • Cynnig nodweddiadol ar gyfer cyrsiau yn yr adran Busnes yw isafswm o 112 neu 120 pwynt tariff o gymhwyster lefel 3* e.e. • Lefel A • BTEC Cenedlaethol/Diploma Estynedig: DMM • Diploma Mynediad i Addysg Uwch: Pasio • Derbynnir Cymhwyster Bagloraieth Cymru • Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn, unigolion â chymwysterau Ewropeaidd ac ymgeiswyr rhyngwladol.
CWRS BA (anrhydedd) Busnes: BSc (anrhydedd) Astudiaethau Busnes: BSc (anrhydedd) Astudiaethau Busnes a Chyllid: BSc (anrhydedd) Astudiaethau Busnes a Marchnata: BSc (anrhydedd) Astudiaethau Busnes a Chymraeg: BSc (anrhydedd) Bancio a Chyllid: BSc (anrhydedd) Cyfrifeg a Bancio: BSc (anrhydedd) Cyfrifeg a Chyllid: BSc (anrhydedd) Cyfrifeg ac Economeg: BSc (anrhydedd) Economeg Cyllidol: BSc (anrhydedd) Economeg Busnes: BSc (anrhydedd) Marchnata: BSc (anrhydedd) Rheolaeth gyda Chyfrifeg: BA (anrhydedd) Astudiaethau Busnes gyda Ffrangeg: BA (anrhydedd) Astudiaethau Busnes gydag Almaeneg: BA (anrhydedd) Astudiaethau Busnes gydag Eidaleg: BA (anrhydedd) Astudiaethau Busnes gyda Sbaeneg: BA (anrhydedd) Marchnata gyda Ffrangeg: BA (anrhydedd) Marchnata gydag Almaeneg: BA (anrhydedd) Marchnata gydag Eidaleg: BA (anrhydedd) Marchnata gyda Sbaeneg:
N107 N101 NN1H NN1M NQ26 N391 NN43 NN4H NL41 L111 L190 N501 N2NK N1R1 N1R2 N1R3 N1R4 N5R1 N5R2 N5R3 N5R4
Mae’r term ‘gyda’ yn y teitl yn dynodi fod y pwnc cyntaf yn werth 67% o’r cwrs a’r ail bwnc yn werth 33% o’r cwrs. Mae’r term ‘a’ yn y teitl yn dynodi fod y ddau bwnc yn werth 50% o’r cwrs. ASTUDIO TRWY’R GYMRAEG Blwyddyn 2 Nid yw’r cyrsiau a restrir uchod ar • Egwyddorion Marchnata gael yn gyfan gwbl drwy gyfrwng y • Cyfathrebu Marchnata Gymraeg ond gellir dilyn modiwlau • Lleoliad Gwaith cyfrwng Cymraeg ym mhob un o’r • Cyfrifeg Ariannol rhaglenni gradd. Cynigir y modiwlau • Systemau Gwybodaeth Busnes *Mae cymwysterau lefel 3 yn cynnwys canlynol naill ai’n ddwyieithog • Economeg i Reolwyr Lefel A, BTEC, Mynediad, Cymhwyster Bagloriaeth Cymru ac eraill – am restr neu’n gyfan gwbl drwy gyfrwng • Cyllid Personol lawn, cyfeiriwch at y www.ucas.com. y Gymraeg. Cynigir detholiad o’r • Tebygolrwydd ac Optimeiddiaeth modiwlau canlynol ym mhob un Blwyddyn 3 o’r rhaglenni gradd ond cyflwynir • Traethawd Hir termau yn ddwyieithog ac mae’r • Entrepreneuriaeth, Cyfalaf a’r Cwmni cyfeirlyfrau gan amlaf yn Saesneg. • Strategaeth Hysbysebu Yn unol â pholisi dwyieithrwydd • Buddsoddiant INTERNATIONAL PROFIAD Prifysgol Bangor, gellir cyflwyno EXPERIENCE RHYNGWLADOL • Trethiant aseiniadau a sefyll arholiadau MODIWLAU DATBLYGU drwy gyfrwng y Gymraeg ym mhob CEFNDIR Y CYRSIAU SGILIAU IAITH AR GAEL modiwl. Rydym yn adran amlddisgyblaeth sy’n cyflogi arbenigwyr i gyflwyno Blwyddyn 1 amrediad eang o bynciau, yn INTERNATIONAL • Marchnata MWY O WYBODAETH EXPERIENCE cynnwys cyfrifeg, bancio, cyllid, • Cyfrifeg Rheolaeth ac Ariannol Busnes economeg, rheolaeth a marchnata. • Economeg Mae llawer o’n graddedigion yn Ffôn: 01248 382085 • Dulliau Dadansoddi dewis dilyn gyrfa mewn cyfrifeg, e-bost: busnes@bangor.ac.uk • Busnes a Rheolaeth bancio, buddsoddi, y farchnad stoc, www.bangor.ac.uk/busnes • Marchnadoedd a Sefydliadau Ariannol yswiriant, rheolaeth adwerthu, llywodraeth leol neu’r gwasanaeth sifil.
86
PAM DEWIS BANGOR? • Gall holl fyfyrwyr anrhydedd sengl yn yr Ysgol Busnes newid i un o’n graddau eraill ar unrhyw adeg hyd at ddiwedd y semester cyntaf. • Mae ein myfyrwyr yn cymryd rhan mewn cystadlaethau cenedlaethol, megis yr IBM Business Challenge. • Rydym yn trefnu rhaglen amrywiol o ddarlithwyr gwadd. Ymysg siaradwyd diweddar fu Prif Weithredwr Uwch Gynghrair Pêl droed yr Alban, Prif Swyddog Gweithredol Rhif 10 a Rhif 11 Downing Street, a Phennaeth Diogelwch TG yn HSBC. • Mae ein staff yn ymchwilwyr cynhyrchiol yn eu meysydd pwnc, ac mae gennym enw da yn rhyngwladol. • Mae gennym gyfleusterau cyfrifiadurol ardderchog ac fe gewch gyfle i ddatblygu eich sgiliau dadansoddi data a pharatoi adroddiadau. • Mae Bangor yn cynnig amrywiaeth atyniadol o raddau ôl-radd mewn busnes, cyllid, marchnata a rheolaeth. • Mae gan ein staff enw da yn rhyngwladol am ymchwil. Mae Bangor ymysg y 25 sefydliad gorau yn y byd am ymchwil Bancio (RePEc). • Mae yma awyrgylch gyfeillgar ac anffurfiol. BETH FYDDAF YN EI ASTUDIO? Byddwch yn dilyn modiwlau craidd a modiwlau dewisol yn ystod eich cwrs tair blynedd. Bydd y pynciau’n dibynnu ar y cwrs gradd yr ydych wedi ei ddewis. SUT Y BYDDAF YN DYSGU? Darlithoedd, seminarau, dosbarthiadau tiwtorial. Asesir drwy waith cwrs ac arholiadau ysgrifenedig.
GRADDAU CYD-ANRHYDEDD Ewch i dudalen 64 am fanylion am raddau cyd-anrhydedd.
Cyfrifeg a Chyllid / Cyfrifeg a Bancio / Cyfrifeg ac Economeg Mae ein graddau Cyfrifeg wedi eu hachredu gan yr ACCA (Association of Chartered Certified Accountants) sy’n gorff rhyngwladol ar gyfer cyfrifwyr proffesiynol. Mae hyn yn sicrhau bod myfyrwyr Bangor yn cael eu heithrio o rai arholiadau proffesiynol yr ACCA. Drwy astudio gradd mewn Cyfrifeg a Chyllid, Cyfrifeg a Bancio neu Gyfrifeg ac Economeg, byddwch yn dysgu sgiliau sy’n allweddol i reoli sefydliadau, i fesur perfformiad a chynnal y llif arian sy’n hanfodol ar gyfer ffyniant unrhyw gwmni preifat neu sefydliad yn y sector cyhoeddus. Mae cyfrifeg yn cynnwys llawer mwy na thrin data ariannol yn dechnegol i gynhyrchu cyfrifon cwmnïau. Rhaid defnyddio’r dulliau o ddarparu gwybodaeth gyfrifyddol yn ofalus, gyda dealltwriaeth o bwrpas y wybodaeth. Mae’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau angen deall y prif egwyddorion sy’n sail i’r ffigurau a gyflwynir gan gyfrifwyr ar gyfer cost ac elw. Bancio a Chyllid Mae gradd mewn Bancio a Chyllid yn rhoi cyfle i chi astudio elfennau theori ac ymarferol gwasanaethau ariannol a marchnadoedd ariannol, a dadansoddi rôl ehangach y sector ariannol o ran economïau cenedlaethol a byd-eang. Mae gwasanaethau bancio a chyllidol yn sector cystadleuol iawn sy’n newid yn gyflym ym mhob economi fodern. Yn y blynyddoedd diwethaf, mae elfennau fel globaleiddio, newidiadau technolegol, dadreoleiddio ac integreiddio rhyngwladol wedi gweddnewid yn llwyr y sector gwasanaethau bancio a chyllido.
Economeg Gyllidol Mae’r radd mewn Economeg Gyllidol yn cynnig cyfle ichi astudio economeg o fewn cyd-destun byd go-iawn, gan ddatblygu medrau dadansoddol cryf a chan ennill cymhwyster perthnasol i yrfa ym maes economeg a’i chymhwyso at gyllid byd-eang. Mae’r rhaglen yn cynnwys cydrannau craidd mewn economeg a chyllid. Wrth astudio microeconomeg a macroeconomeg, byddwch yn datblygu dealltwriaeth gadarn o economeg, ar lefel yr unigolyn ac ar lefel yr economi yn ei chrynswth. Mae’r elfen sy’n ymwneud â chyllid yn ymdrin yn drylwyr â phynciau megis y gyfundrefn ariannol, marchnadoedd a chynhyrchion arian, cyllido cwmnïau a swyddogaeth buddsoddi. Mae ystod eang o fodiwlau dewisol ar gael hefyd, fel y gellwch addasu eich rhaglen astudiaeth i’ch diddordebau a’ch gobeithion gyrfaol. Byddwch yn datblygu portffolio o fedrau dadansoddol a fydd yn atyniadol i amrywiaeth eang o gyflogwyr yn y sector cyllid a thu hwnt. Astudiaethau Busnes / Astudiaethau Busnes a Chyllid / Astudiaethau Busnes a Marchnata Mae gradd mewn Astudiaethau Busnes yn ddarpariaeth ddelfrydol ar gyfer gyrfa mewn busnes a rheolaeth. Byddwch yn datblygu amrywiaeth o wybodaeth a sgiliau busnes penodol, a byddwch yn cael eich annog i ddatblygu agweddau cadarnhaol a beirniadol tuag at newid a menter. Gallwch gyfuno Astudiaethau Busnes gyda Chyllid neu Farchnata.
Economeg Busnes Mae’r cwrs hwn yn rhoi cyfle i chi gyfuno rhaglen graidd o astudiaeth mewn economeg gyda dewis eang o fodiwlau opsiynol mewn busnes, cyllid a rheolaeth. Mae Economeg wedi cael ei ddiffinio fel astudiaeth o ddewis dynol, ac effaith y dewis ar gynhyrchu, dosbarthu a defnyddio adnoddau prin. Mae micro-economeg yn delio â’r dewis ar lefel yr unigolyn, ac mae macro-economeg yn dadansoddi’r economi yn gyffredinol. Mae’r rhaglen hon yn cynnwys cydran micro-economeg a macro-economeg craidd, ac arbenigedd sy’n canolbwyntio ar gyd-destun economaidd o safbwynt gwneud penderfyniadau mewn busnes. Byddwch yn datblygu ymwybyddiaeth o ddefnyddio economeg mewn meysydd sy’n cynnwys rheolaeth busnes, cyllid a pholisi cyhoeddus. “Heb amheuaeth, Bangor ydi un o’r llefydd gorau i fyfyrwyr Cymraeg o ran cymdeithasau ac o ran astudio. Mae’r safon a’r cymorth sydd ar gael i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg yn ardderchog. Oherwydd bod yna cyn lleied ohonom, mae’r grwpiau yn fach – sy’n ei gwneud hi’n haws gofyn cwestiynau i’r darlithydd gan fod y ddarlith yn fwy anffurfiol.”
Seicoleg gyda Busnes Mae’r cwrs Seicoleg gyda Busnes yn cyflwyno addysg israddedig ym meysydd busnes a seicoleg, ynghyd â sgiliau allweddol mewn ymchwil wyddonol ac ymchwil i’r farchnad a sgiliau ysgrifennu a chyflwyno. Mae’r cysylltiadau â busnes yn cynnig llwybr i israddedigion sy’n dymuno dilyn gyrfaoedd mewn meysydd mwy cymhwysol, ac yn datblygu gallu myfyrwyr seicoleg i gael golwg strategol ar faterion busnes a sefydliadol. Bydd y cwrs Seicoleg gyda Busnes hefyd yn paratoi myfyrwyr i astudio at gymwysterau pellach (e.e. MSc) a/neu ddilyn ystod eang o lwybrau gyrfaol gan gynnwys cyfleoedd mewn meysydd fel marchnata, ymchwil i’r farchnad, rheoli brandiau, datblygu brandiau, datblygu cynnyrch a manwerthu ar-lein. Gweler tudalen 84 am y cod UCAS.
Prifysgol Bangor yw’r darparwr pennaf yng Nghymru ym maes Busnes trwy gyfrwng y Gymraeg.
LLIO FFLUR DAVIES Cyn-fyfyriwr Astudiaethau Busnes a Marchnata
DATBLYGIADAU NEWYDD Bydd BSc Marchnata gyda Seicoleg yn cael ei gynnig o 2019 ymlaen, yn amodol ar gael ei ddilysu. Ewch i’r wefan am y maylion diweddaraf.
87
BUSNES, CYLLID, RHEOLAETH A MARCHNATA BA Busnes a’r Gyfraith Mae’r Gyfraith yn cael dylanwad ar bob agwedd ar ein bywyd bob dydd, ac mae ymwybyddiaeth o’r Gyfraith yn cynyddu ein dealltwriaeth o fyd busnes, gwleidyddiaeth ac o gymdeithas. Mae’r cwrs gradd hwn yn cyfuno’r Gyfraith gyda Busnes, ac yn cynnig cyfle gwerthfawr i ddeall y cyd-destun cyfreithiol sy’n rheoli pob agwedd ar ein bywyd bob dydd, yn ogystal â datblygu gwybodaeth a sgiliau busnes fydd yn sylfaen dda ar gyfer sefydlu gyrfa yn y dyfodol. Mae’r rhaglen yn cyfuno pynciau mewn Busnes a’r Gyfraith, yn cynnwys Rheolaeth, Marchnata, Cyfraith Cytundebau, Cyfraith Fasnachol ayyb. Gallai addysg brifysgol yn y meysydd hyn agor drysau i amrywiaeth o yrfaoedd eang a diddorol. Mae’r cwrs hwn yn addas ar gyfer unigolion sy’n anelu at yrfaoedd mewn Busnes a Rheolaeth, ond sydd hefyd eisiau datblygu dealltwriaeth drylwyr o amgylchfyd cyfreithiol byd busnes. Gall hefyd fod yn addas ar gyfer unigolion a hoffai weithio fel rheolwyr o fewn y sector gyfreithiol, lle gall cefndir yn y Gyfraith a Busnes fod yn hynod werthfawr. Nid yw hwn yn gwrs cymhwysol yn y Gyfraith. Dylai unrhyw un sy’n dymuno mynd yn gyfreithiwr neu fargyfreithiwr ymgeisio am un o raddau LLB Ysgol y Gyfraith (gweler tudalen 90). Mae pob un o’r graddau LLB yn gyrsiau cymhwysol yn y gyfraith ac felly’n cael eu cydnabod at ddibenion proffesiynol.
88
Y GYFRAITH
Rheolaeth gyda Chyfrifeg Mae Rheolaeth yn cynnwys y broses o arwain a chyfarwyddo sefydliad, a gwneud penderfyniadau ynglŷn â dosbarthu adnoddau. Byddwch yn astudio egwyddorion rheolaeth, ac yn datblygu sgiliau mewn ymwybyddiaeth, arweinyddiaeth, cyfathrebu a chyflwyno masnachol. Bydd gradd mewn Rheolaeth gyda Chyfrifeg yn eich galluogi i ddeall yr egwyddorion allweddol sy’n sail i’r ffigyrau a gyflwynir gan gyfrifwyr ar gyfer cost ac elw, ac i werthfawrogi goblygiadau data cyfrifeg ar gyfer gwneud penderfyniadau rheoli. Marchnata Wrth astudio am radd mewn Marchnata, byddwch yn datblygu sgiliau a gwybodaeth am y prif agweddau strategol a gweithredol, a byddwch yn cael ymwybyddiaeth o’r amgylchedd marchnata allanol. Mae agweddau strategol a gweithredol yn cynnwys llunio strategaethau marchnata; rheoli’r swyddogaeth farchnata a’i pherthnasedd o ran swyddogaethau busnes allweddol eraill; hysbysebu a brandio; rheoli cysylltiadau cwsmeriaid; defnyddio technoleg gwybodaeth; ac e-farchnata. Mae’r amgylchedd marchnata allanol yn cynnwys ymddygiad defnyddwyr a seicoleg defnyddwyr, cyfathrebu marchnata, cysylltiadau cyhoeddus ac ymchwil marchnata. Bydd graddedigion y graddau hyn yn gymwys i gael eithriadau gan rai modiwlau o gymwysterau proffesiynol Sefydliad Siartredig Marchnata. Am fyw o wybodaeth, gweler: www.cim.co.uk
“Wrth weithio mewn Cyngor Sir,
mae’r gallu i weithio’n effeithiol ac yn broffesiynol trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol bwysig. Mae fy swydd yn galw arna’i i gyfathrebu’n ddwyieithog yn ddyddiol, o fewn a thu allan i’r swyddfa. Trwy astudio trwy’r Gymraeg, fe wnes i wella fy sgiliau sylfaenol, yn cynnwys y gallu i feddwl, ysgrifennu, a chyfathrebu’n effeithiol ac yn broffesiynol yn y ddwy iaith. Teimlaf fy mod yn gwneud cyfraniad bach at sicrhau parhad o ddefnydd yr iaith yn y sector gyhoeddus. Fe wnaeth y profiad wir ychwanegu gwerth i awyrgylch gyffredinol y Brifysgol.” DYLAN WILLIAMS Pennaeth Adfywio Economaidd a Chymunedol, Cyngor Sir Ynys Môn
“Teimlaf fod Bangor yn lle gwych ar gyfer myfyrwyr Cymraeg gan fod yna gymdeithas glos iawn sy’n dod â phawb at ei gilydd. Mae’r darlithwyr yn gefnogol iawn, ac yn barod i roi cymorth ynglŷn â gwaith ar unrhyw bryd. Byddwn yn cynghori unrhyw un sy’n ystyried dod i Fangor i weithio’n galed yn eu hastudiaethau a cheisio am unrhyw ysgoloriaeth maent yn gymwys ar ei chyfer. Byddwn hefyd yn eu hannog i fynychu’r diwrnodau agored sy’n cael eu cynnal gan y Brifysgol, er mwyn profi’r ddinas a’r gymdeithas sydd yma o flaen llaw.” ELIN OWEN JONES BSc Cyfrifeg a Chyllid
“Bu angen am ddatblygiad fel hwn yng ngogledd Cymru ac mae’r cwrs hwn yn arloesol a chyda fframwaith cydlynol.” ASESWR ALLANOL
Prifysgol Bangor yw’r 1af yng Nghymru am Y Gyfraith (Guardian University Guide, 2018 & 2019)
89
Y GYFRAITH LLB
Y GYFRAITH GYDA’R GYMRAEG LLB
Y FFEITHIAU SYLFAENOL Cod cwrs UCAS: Rhaglen 3 blynedd M100 Rhaglen 2 flynedd M101 GOFYNION MYNEDIAD:
Rhaglen 3 blynedd: Cynnig nodweddiadol o isafswm o 120 pwynt tariff o gymwysterau lefel 3* e.e.: • Lefel A • BTEC Cenedlaethol/Diploma Estynedig: DMM • Diploma Mynediad i Addysg Uwch: Pasio • Derbynnir Cymhwyster Bagloriaeth Cymru • Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn, unigolion â chymwysterau Ewropeaidd ac ymgeiswyr rhyngwladol. *Mae cymwysterau lefel 3 yn cynnwys Lefel A, BTEC, City & Guilds, Mynediad, Cymhwyster Bagloriaeth Cymru ac eraill – am restr lawn, cyfeiriwch at www.ucas.com. Rhaglen 2 flynedd: • Gradd gyntaf (2.ii neu uwch) mewn pwnc arall o Brifysgol Bangor neu sefydliad achrededig arall. • Ystyrir myfyrwyr hyn gyda phrofiad perthnasol. Os ydynt yn gobeithio ymarfer fel cyfreithiwr neu fargyfreithiwr ar ôl graddio, dylai darpar fyfyrwyr fod yn ymwybodol y bydd rhaid iddynt gyflawni gofynion y Solicitors Regulation Authority neu’r Bar Standards Board i fod yn gymwys. Byddai hyn yn cynnwys cyflawni gofynion sy’n berthnasol i droseddau ac ymddygiad troseddol. Cynghorir myfyrwyr gyda chollfarn droseddol i gysylltu â’r corff proffesiynol perthnasol am gyngor.
PROFIAD RHYNGWLADOL MODIWLAU DATBLYGU SGILIAU IAITH AR GAEL
MWY O WYBODAETH Y Gyfraith Ffôn: 01248 382085 e-bost: cyfraith@bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/cyfraith
90
ASTUDIO TRWY’R GYMRAEG Gyda’r twf yn statws y Gymraeg fel iaith swyddogol ac fel iaith busnes a chyfraith, mae galw cynyddol am swyddogion a chyfreithwyr a all weithredu yn y byd cyfreithiol trwy gyfrwng y Gymraeg yn ogystal â’r Saesneg. Mewn ymateb i’r galw hwn, rydym wedi datblygu cyrsiau dwyieithog i alluogi myfyrwyr i ennill cymwysterau addas a datblygu’r sgiliau a’r hyder i ddiwallu anghenion cyfreithiol newydd Cymru. Gallwch ddewis astudio rhan o’r cwrs yn y Gymraeg, yn ogystal a chyflwyno pob aseiniad, gan gynnwys y modiwl traethawd hir, a sefyll pob arholiad drwy gyfrwng y Gymraeg.
• Mae graddau Bangor yn ymdrin â’r datblygiadau cyfreithiol cyfoes yn y dimensiynau Cymreig, Prydeinig ac Ewropeaidd. • Mae strwythur y radd yn eich galluogi i arbenigo, yn ogystal ag ymdrin ag amrywiaeth ehangach o opsiynau, ac wynebu her ddeallusol y maes pwnc.
CEFNDIR Y CWRS Mae’r gyfraith yn effeithio ar fywydau pob un ohonom ac mae gwybodaeth o’r gyfraith yn ein galluogi i ddeall cymdeithas a’r byd rydym yn byw ynddo yn well. Mae’r rhaglenni hyn yn rhoi addysg gyflawn yn y Gyfraith, neu yn y Gyfraith a disgyblaeth arall, er mwyn hyrwyddo ymwybyddiaeth o’r fath a galluogi’r rhai sy’n dymuno symud ymlaen i yrfaoedd yn y proffesiynau cyfreithiol.
Seiliau Gwybodaeth Gyfreithiol i gael Gradd Gymhwysol yn y Gyfraith yw: • Cyfraith Gyhoeddus • Cyfraith yr Undeb Ewropeaidd • Cyfraith Trosedd • Ymrwymiadau (yn cynnwys Contract, Adferiad a Chamwedd) • Cyfraith Eiddo • Ecwiti ac Ymddiriedolaethau • Ymchwil Gyfreithiol
PAM DEWIS BANGOR? • Bangor yw’r unig sefydliad yng ngogledd Cymru sy’n cynnig gradd yn y Gyfraith a neilltuwyd adnoddau sylweddol i ddatblygu’r pwnc. INTERNATIONAL • Dysgir y radd gan staff dwyieithog EXPERIENCE sydd ag amrywiaeth eang o arbenigedd yn y pwnc. • Mae pob un o’r cyrsiau LLB wedi eu hachredu gan Gymdeithas y Cyfreithwyr a Chyngor Bar Prydain ac felly maent yn Raddau INTERNATIONAL EXPERIENCE Cymhwysol yn y Gyfraith. • Gan fod y graddau yn rhai Cymhwysol yn y Gyfraith, mae ein myfyrwyr wrth raddio o Fangor yn cwblhau’r elfen academaidd o’r hyfforddiant proffesiynol i fod yn gyfreithwyr neu fargyfreithwyr. • Mae gennym ystafell ‘llys’ ar gyfer cystadleuthau ffug-lysoedd.
BETH FYDDAF YN EI ASTUDIO? Byddwch yn astudio’r saith pwnc Sylfaen i gael Gradd Gymhwysol yn y Gyfraith, yn ogystal â phynciau yn ymwneud â’r gyfraith, ac/neu eraill sy’n eich galluogi i arbenigo. Byddwch yn cael eich annog i astudio mewn meysydd sy’n cyd-fynd â’r cynllun gradd o’ch dewis.
Blwyddyn 1 Modiwlau craidd: • Cyflwyniad i’r Gyfraith • Cyfraith Contract • Cyfraith Gyhoeddus • Sgiliau Cyfreithiol Blwyddyn 2 Modiwlau craidd: • Cyfraith Trosedd • Cyfraith Camweddau • Cyfraith yr Undeb Ewropeaidd • Ecwiti ac Ymddiriedolaethau
Blwyddyn 3 Modiwlau craidd: • Cyfraith Cwmni • Cyfraith Tir Blynyddoedd 2 a 3 Modiwlau dewisol Gweler y wefan os gwelwch yn dda. SUT Y BYDDAF YN DYSGU? Mewn modiwlau gorfodol, byddwch yn cael 2 awr o ddarlithoedd bob wythnos fel rheol, ac yna gweithdy ymarferol i ddilyn. Mewn cyrsiau dewisol ceir seminarau wythnosol a fydd yn para am ddwy awr. Cyn tiwtorialau a seminarau bydd angen darllen ac ymchwilio. Rhoddir traethodau a/neu brofion dosbarth ym mhob cwrs yn ystod y flwyddyn. Asesir yr holl fodiwlau craidd trwy waith cwrs ac arholiadau. RHAGOLYGON GYRFAOEDD Mae ein holl raddau LLB yn Raddau Cymhwysol yn y Gyfraith (QLD), sy’n caniatáu i raddedigion symud ymlaen yn uniongyrchol i gyfnod galwedigaethol yr hyfforddiant proffesiynol sydd ei angen i fod yn fargyfreithwyr neu gyfreithwyr. Mae gradd yn y gyfraith hefyd yn gymhwyster gwerthfawr ar gyfer mynediad i yrfaoedd eraill. Mae galw mawr am gyfreithwyr â medrau ychwanegol yn y Gymru ôl-ddatganoli sydd ohoni a hefyd yn yr Undeb Ewropeaidd.
Y FFEITHIAU SYLFAENOL Cod cwrs UCAS: M1Q5 Hyd: 3 blynedd GOFYNION MYNEDIAD: Cynnig nodweddiadol o isafswm o 120 pwynt tariff o gymwysterau lefel 3* e.e. • Lefel A (yn cynnwys gradd B mewn Cymraeg) • BTEC Cenedlaethol/Diploma Estynedig: DMM • Diploma Mynediad i Addysg Uwch: Pasio • Derbynnir Cymhwyster Bagloriaeth Cymru • Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn, unigolion â chymwysterau Ewropeaidd ac ymgeiswyr rhyngwladol. *Mae cymwysterau lefel 3 yn cynnwys Lefel A, BTEC, Mynediad, Cymhwyster Bagloriaeth Cymru ac eraill – am restr lawn, cyfeiriwch at www.ucas.com. Gweler hefyd y testun ar waelod colofn 1, tudalen 90 ynglŷn â’r gofynion yn ymwneud â throseddau os yn dymuno ymarfer fel cyfriethiwr neu fargyfreithiwr yn dilyn eich gradd.
PROFIAD RHYNGWLADOL MODIWLAU DATBLYGU SGILIAU IAITH AR GAEL
MWY O WYBODAETH Y Gyfraith Ffôn: 01248 382085 e-bost: cyfraith@bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/cyfraith
CEFNDIR Y CWRS Mae hwn yn gyfle arbennig ac unigryw i fyfyrwyr sydd eisoes wedi astudio Cymraeg fel pwnc Lefel A i astudio gradd yn y Gyfraith gyda’r Gymraeg, sy’n Radd Gymhwysol yn y Gyfraith (QLD). Trwy astudio traean o’r cwrs yn Adran y Gymraeg, bydd y radd hon yn gloywi a datblygu’r sgiliau yn y Gymraeg, a bydd y gweithdai cyfrwng Cymraeg y Gyfraith yn galluogi myfyrwyr i feithrin sgiliau cyfreithiol yn ddwyieithog – gallu a chymhwyster gwerthfawr a hanfodol i gyfreithwyr Cymru yn yr unfed ganrif ar hugain. Mae darpariaeth cyfrwng Cymraeg ar gael yn yr holl fodiwlau craidd a restrir ar dudalen 90. Gyda dyfodiad Deddfau Llywodraeth Cymru 1998 a 2006, sefydlwyd Cynulliad Cenedlaethol Cymru fel corff deddfwriaethol yng Nghaerdydd. Yn unol â’r Deddfau, mae’n rhaid i bob darn o ddeddfwriaeth a gynhyrchir gan y Cynulliad gael ei gyhoeddi’n ddwyieithog. Felly, mae galw mawr yng Nghymru, nid yn unig am gyfreithwyr sy’n gallu darllen a deall y naill fersiwn a’r llall o’r testun, ond sydd hefyd yn gallu cyfrannu at ddrafftio’r ddeddfwriaeth yn ddwyieithog. Bydd y galw yma’n sicr o gynyddu wrth i broses ddeddfwriaethol y Cynulliad ddatblygu gydag amser.
INTERNATIONAL EXPERIENCE
Nod y radd gymhwysol unigryw hon yn y Gyfraith gyda’r Gymraeg yw paratoi ein graddedigion ar gyfer gyrfaoedd fel cyfreithwyr yn y Gymru fodern, ac i fod yr un mor gymwys INTERNATIONAL a hyderus yn y ddwy iaith, cam a EXPERIENCE ystyrir yn hanfodol yn natblygiad Cymru’r Gyfraith a chymdeithas ddwyieithog y Gymru fodern.
Myfyrwyr Ysgol y Gyfraith yn ystafell ‘llys’ Prifysgol Bangor.
BETH FYDDAF YN EI ASTUDIO? Isod rhestrir y modiwlau gorfodol yn y Gymraeg a astudir ochr yn ochr â’r modiwlau craidd yn y Gyfraith, a restrir ar dudalen 90. Blwyddyn 1 • Defnyddio’r Gymraeg • Llenyddiaeth Gyfoes Blwyddyn 3 • Medrau Cyfieithu Gellwch hefyd ddilyn modiwlau cyfrwng Cymraeg eraill fel modiwlau dewisol ychwanegol.
“Ar y Diwrnod Agored roedd yr holl aelodau staff yn gymwynasgar iawn, yn ogystal â’r Arweinwyr Cyfoed mewn crysau coch o amgylch y safle. Cefais fy ngwneud i deimlo’n ofnadwy o gartrefol ac roedd yr adnoddau ar gael heb eu hail felly doedd dim amheuaeth… Fe gefais y cyfle i fynd i adran Gyfreithiol Cyngor Gwynedd ar brofiad gwaith am ddiwrnod yr wythnos am 24 wythnos ac fe fuodd yn help mawr i mi o ran gweld sut oedd swyddfa broffesiynol yn gweithredu o ddydd i ddydd. Dwi’n teimlo fy mod i wedi dechrau efo sylfaen gadarn. Dw i’n hynod o falch fy mod i wedi dewis astudio’r gyfraith.” SIÂN ROBERTS Cyn-fyfyriwr sydd bellach yn gweithio i Gyngor Gwynedd
91
GWYDDORAU CYMDEITHAS
Y GYFRAITH GYDA PHWNC ARALL LLB Y FFEITHIAU SYLFAENOL Cod cwrs UCAS: yn y golofn nesaf Hyd: 3 blynedd; 4 blynedd ar gyfer graddau yn y Gyfraith gydag Ieithoedd Modern (yn cynnwys blwyddyn yng Nghyfadran y Gyfraith mewn gwlad lle caiff yr iaith dan sylw ei siarad). GOFYNION MYNEDIAD: Crynodeb yn unig a gewch chi isod, felly mae’n werth bwrw golwg ar y manylion llawn ar ein gwefan cyn gwneud unrhyw benderfyniad. • Mae’r gofynion yn amrywio o isafswm o 112 pwynt tariff i isafswm o 128 pwynt tariff o gymwysterau lefel 3* • BTEC Cenedlaethol/Diploma Estynedig: yn amrywio o DMM i DDM yn dibynnu ar y cwrs • Diploma Mynediad i Addysg Uwch: Pasio • Derbynnir Cymhwyster Bagloriaeth Cymru • Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn, unigolion â chymwysterau Ewropeaidd ac ymgeiswyr rhyngwladol. *Mae cymwysterau lefel 3 yn cynnwys Lefel A, BTEC, Mynediad, Cymhwyster Bagloriaeth Cymru ac eraill – am restr lawn, cyfeiriwch at www.ucas.com. Gweler hefyd y testun ar waelod colofn 1, tudalen 90 ynglŷn â’r gofynion yn ymwneud â throseddau os yn dymuno ymarfer fel cyfriethiwr neu fargyfreithiwr yn dilyn eich gradd.
PROFIAD RHYNGWLADOL MODIWLAU DATBLYGU SGILIAU IAITH AR GAEL
MWY O WYBODAETH Y Gyfraith Ffôn: 01248 382085 e-bost: cyfraith@bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/cyfraith
92
CEFNDIR Y CYRSIAU Gallwch gyfuno astudio’r Gyfraith gydag un o’r pynciau isod a bydd tua thraean o’r cwricwlwm yn cael ei neilltuo i’r ail bwnc. Mae hwn yn ddewis deniadol i’r rhai sydd eisiau datblygu eu dealltwriaeth o’r ffordd y rhoddir y Gyfraith ar waith mewn maes arbennig. Ffrangeg (4 blynedd) M116 Almaeneg (4 blynedd) M117 Eidaleg (4 blynedd) M118 Sbaeneg (4 blynedd) M119 Astudiaethau Busnes M1N1 Troseddeg M1M9 Cyfrifeg a Chyllid M1N4 Polisi Cymdeithasol M1L4 Ysgrifennu ar gyfer Cyfryngau Creadigol M1W1 Hanes* M1V1 Astudiaethau Cyfryngau M1P1 Athroniaeth a Chrefydd M1V5 Tsieinëeg MT11 *yn amodol ar gael ei ddilysu Gallwch hefyd ddilyn gradd gyfun mewn Busnes a’r Gyfraith lle mae cydbwysedd cyfartal rhwng y ddau bwnc. Sylwer nad oes statws QLD i’r cwrs hwn, ac mai gradd BA ydyw yn hytrach na gradd LLB. Gweler tudalen 88 am fwy o wybodaeth am y cwrs hwn.
BETH FYDDAF YN EI ASTUDIO? Byddwch yn astudio’r saith pwnc sylfaen i wybodaeth gyfreithiol (a restrir ar dudalen 90), sy’n sicrhau fod pob un o’r graddau a restrir INTERNATIONAL EXPERIENCE uchod (ac eithrio BA Busnes a’r Gyfraith) yn Raddau Cymhwysol yn y Gyfraith (QLD). Byddwch hefyd yn astudio pynciau arbenigol yn un o’r meysydd uchod. Mae’n bosib dilyn rhai o’r modiwlau arbenigol hynny INTERNATIONAL EXPERIENCE drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae Ffair flynyddol y Gyfraith yn rhoi cyfle amhrisiadwy i’n myfyrwyr gwrdd â darpargyflogwyr o wahanol sefydliadau, ac i drafod opsiynau gyrfaol gyda phobl broffesiynol brofiadol.
“Mae’r radd Cymdeithaseg â Pholisi Cymdeithasol yn gynllun pwysig ac arloesol sy’n parhau’n esiampl i weddill y sector. Hyd heddiw dyma’r unig radd yn y Gwyddorau Cymdeithasol sy’n cael ei dysgu’n gyfan gwbl trwy gyfrwng y Gymraeg… Mae’r dysgu o safon uchel a’r adborth ac asesu’n gyson ragorol. Gall Prifysgol Bangor fod yn wirioneddol falch o’r cynllun…”
Mae’r Ysgol Gwyddorau Cymdeithas ymhlith y 20 sefydliad uchaf ym Mhrydain am ragoriaeth ymchwil yn y maes (REF 2014).
ADRODDIAD ASESWR ALLANOL
Mae Prifysgol Bangor yn y 250 prifysgol orau yn y byd am Wyddorau Cymdeithas (Times Higher Education, 2018)
Gellir hefyd ddilyn cwrs y Gyfraith gyda’r Gymraeg (rhagor o wybodaeth ar dudalen 91).
93
GWYDDORAU CYMDEITHAS Y FFEITHIAU SYLFAENOL: Hyd: 3 blynedd GOFYNION MYNEDIAD: Crynodeb yn unig a gewch chi isod, felly mae’n werth bwrw golwg ar y manylion llawn ar ein gwefan cyn gwneud unrhyw benderfyniad. • Mae’r gofynion yn amrywio o isafswm o 96 pwynt tariff i isafswm o 104 pwynt tariff o gymwysterau lefel 3* e.e.: • Lefel A • BTEC Cenedlaethol/Diploma Estynedig: MMM • Diploma Mynediad i Addysg Uwch: Pasio • NCFE CACHE Lefel 3 Diploma Estynedig: Gradd C • Derbynnir Cymhwyster Bagloriaeth Cymru. • Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn, unigolion â chymwysterau Ewropeaidd ac ymgeiswyr rhyngwladol. *Mae cymwysterau lefel 3 yn cynnwys Lefel A, BTEC, Mynediad, Cymhwyster Bagloriaeth Cymru ac eraill – am restr lawn, cyfeiriwch at www.ucas.com.
CWRS CYRSIAU CYFRWNG CYMRAEG A DWYIEITHOG BA (anrhydedd) Cymdeithaseg â Pholisi Cymdeithasol:
L3LK
CYRSIAU CYFRWNG SAESNEG (gyda rhai modiwlau cyfrwng Cymraeg) BA (anrhydedd) Cymdeithaseg: BA (anrhydedd) Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol: BA (anrhydedd) Polisi Cymdeithasol:
L300 M930 L402
ASTUDIO TRWY’R GYMRAEG Yn ogystal â’r cwrs cyfrwng Cymraeg uchod, mae rhai modiwlau trwy gyfrwng y Gymraeg ar gael ar rai o’r cyrsiau cyfrwng Saesneg. Cewch fanylion llawn ar y wefan. CEFNDIR Y CYRSIAU Yn y cyrsiau Cymdeithaseg byddwch yn cael eich annog i archwilio’r dystiolaeth a’r syniadau sy’n cael eu defnyddio gan wyddonwyr cymdeithasol i wella ein dealltwriaeth o sut mae ein cymdeithas yn gweithio. Mae Troseddeg yn edrych ar ddamcaniaethau a thystiolaeth yn ymwneud â throsedd, troseddwyr a dioddefwyr, tra bo astudiaethau Cyfiawnder Troseddol yn edrych ar y gwahanol ymatebion i drosedd a dioddefwyr, o gamau anffurfiol i fesurau deddfwriaethol ffurfiol rheolaeth gymdeithasol ac atal trosedd.
PROFIAD RHYNGWLADOL MODIWLAU DATBLYGU SGILIAU IAITH AR GAEL
MWY O WYBODAETH Gwyddorau Cymdeithas
INTERNATIONAL Mae hefyd yn edrych ar y ffordd EXPERIENCE
mae’r system cyfiawnder troseddol yn gweithio – o blismona i garcharu. Mae Gofal Iechyd a Chymdeithasol yn cynnig dewis gwahanol i hyfforddiant clinigol. Mae pwyslais y cyrsiau hyn INTERNATIONAL ar brofiadau cymdeithasol iechyd a EXPERIENCE gofal, yn cynnwys y materion polisi, darparu a rheoli gwasanaethau, a gwerthuso tystiolaeth.
Ffôn: 01248 382085 e-bost: gwyddoraucymdeithas@bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/gc
94
Mae Polisi Cymdeithasol yn ymwneud ag astudio’r cysylltiadau cymdeithasol a’r systemau sy’n cynnal a hyrwyddo lles dynol. Mae’n rhoi sylw i ddarparu lloches, hybu iechyd ac osgoi gwahaniaethu.
PAM DEWIS BANGOR? • Mae ein staff yn arbenigwyr yn eu maes ac yn rhoi’r pwys mwyaf ar ddysgu, a chreu awyrgylch gyfeillgar ac anffurfiol. • Mae gennym yr adnoddau technoleg diweddaraf i gefnogi eich dysgu. • Rydym yn eich paratoi ar gyfer dewis eang o swyddi. • Rydym yn cynnig cyfle i gyflwyno eich gwaith yn Gymraeg neu yn Saesneg. • Mae cefnogaeth ariannol ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sy’n dilyn modiwlau iaith Gymraeg. • Mae adnoddau iaith Gymraeg newydd a chyffroes ar gael. • Mae gan yr adran gysylltiadau cryf gyda cyflogwyr lleol.
“Rwyf wrth fy modd efo’r cwrs a byddwn yn ei argymell i unrhyw un sy’n ystyried ei ddilyn. Mae astudio’r cwrs yma yn rhoi’r potensial i mi allu gweithio mewn amryw o feysydd gwaith cymdeithasol a thu hwnt.” LOWRI LLOYD PARRY BA Cymdeithaseg â Pholisi
Cymdeithasol
SUT Y BYDDAF YN DYSGU? Darlithoedd, seminarau, dosbarthiadau tiwtorial, gwaith ymarferol, aseiniadau, gwaith grŵp, gwaith project. Asesir drwy waith cwrs, arholiadau a thraethawd estynedig. BETH FYDDAF YN EI ASTUDIO? Byddwch yn dilyn modiwlau gorfodol a modiwlau dewisol a fydd, yn y lle cyntaf, yn eich cyflwyno i’r pwnc yr ydych wedi ei ddewis, ac yna yn eich helpu i ddatblygu eich diddordeb personol eich hun yn y pwn
GRADDAU CYD-ANRHYDEDD Ewch i dudalen 64 am fanylion am raddau cyd-anrhydedd. DATBLYGIADAU NEWYDD Bydd BA Astudiaethau Gwleidyddol a BA Celfyddydau Rhyddfrydol yn cael eu cynnig yn 2020, yn amodol ar gael eu dilysu. Ewch i’r wefan am y maylion diweddaraf.
CYMDEITHASEG Â PHOLISI CYMDEITHASOL BA [Anrhydedd] Y FFEITHIAU SYLFAENOL Cod cwrs UCAS: L3LK Hyd: 3 blynedd GOFYNION MYNEDIAD: • Cynnig nodweddiadol o isafswm o 96 pwynt tariff o gymwysterau lefel 3* e.e.: • Lefel A • BTEC Cenedlaethol/Diploma Estynedig: MMM • Diploma Mynediad i Addysg Uwch: Pasio • NCFE CACHE Lefel 3 Diploma Estynedig: Gradd C • Derbynnir Cymhwyster Bagloriaeth Cymru. • Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn, unigolion â chymwysterau Ewropeaidd ac ymgeiswyr rhyngwladol. *Mae cymwysterau lefel 3 yn cynnwys Lefel A, BTEC, Mynediad, Cymhwyster Bagloriaeth Cymru ac eraill – am restr lawn, cyfeiriwch at www.ucas.com.
PROFIAD RHYNGWLADOL MODIWLAU DATBLYGU SGILIAU IAITH AR GAEL
MWY O WYBODAETH Gwyddorau Cymdeithas
CEFNDIR Y CWRS Mae’r cwrs hwn yn codi rhai cwestiynau pwysig ynglŷn â sut y mae ein cymdeithas yn gweithio, ac ynglŷn â’r polisïau y byddai’n bosib eu dyfeisio i fynd i’r afael â rhai o’i phroblemau dwysaf. Mae’n darparu’r wybodaeth a’r dulliau dadansoddi sy’n ein galluogi i ddeall cymdeithas, a datblygu barn wybodus ar faterion cymdeithasol cymhleth. Mae’n bwnc sy’n her i’w astudio ac y byddwch yn ddatblygu sgiliau cyfathrebu a dadansoddi da. Byddwch yn dod yn fwy ymwybodol o’r byd o’ch cwmpas – sut a pham fod newidiadau gwleidyddol a chymdeithasol yn digwydd. Byddwch yn cael eich dysgu i feddwl tu draw i’r ffyrdd arferol ‘synnwyr cyffredin’ o edrych ar y byd.
PAM DEWIS BANGOR? • Rydym yn cynnig amgylchedd cyfeillgar ac anffurfiol, ac yn eich annog i ddatblygu’ch diddordebau eich hunain. • Mae ein modiwlau i gyd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg, felly byddwch yn astudio mewn amgylchedd lle byddwch yn cyfarfod llawer o siaradwyr Cymraeg eraill, • Rydym yn adran sy’n ddigon mawr i roddi amrywiaeth diddorol o gyrsiau i chwi, ond hefyd ‘rydym yn ddigon bychan i ddod i adnabod ein myfyrwyr i gyd. INTERNATIONAL • Mae’r cwrs yn canolbwyntio yn EXPERIENCE arbennig ar Gymru a materion Cymreig mewn fframwaith Ewropeaidd. • Mae ein staff yn ymchwilwyr cydnabyddedig yn eu meysydd INTERNATIONAL pwnc, ac mae gan yr uned record EXPERIENCE dda o gynhyrchu graddedigion ar gyfer graddau MPhil a PhD, gyda rhai ohonynt wedi symud ymlaen wedyn i wneud ymchwil bellach.
Ffôn: 01248 382085 e-bost: gwyddoraucymdeithas@bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/gc
BETH FYDDAF YN EI ASTUDIO? Nid oes raid i chi fod wedi dilyn Cymdeithaseg o’r blaen na gwneud Lefel A yn y pwnc oherwydd rydym yn cynnig cwrs sylfaenol i bawb yn y flwyddyn gyntaf. Blwyddyn 1 Modiwlau gorfodol: • Cymdeithaseg a’r Byd Gyfoes • Ymchwil Cymdeithasol • Y Wladwriaeth Les a Pholisi Cymdeithasol • Cyflwyniad i Drosedd a Chyfiawnder Blwyddyn 2 a 3 Yn ogystal â’r modiwlau gorfodol, byddwch yn gwneud nifer o ddewisiadau sy’n adlewyrchu eich diddordebau er mwyn gweithio ar draethawd estynedig. • Theori Gymdeithasegol • Dulliau Ymchwil • Traethawd Hir • Cymdeithas, Iaith a Phrotest • Trosedd a Chyfiawnder • Methodoleg Ymchwil • Pŵer, Cyfalaf a Chymdeithas • Yr Heddlu a Chymdeithas Gyfoes • Hawliau Ieithyddol • Addysg yn y Gymru Gyfoes SUT Y BYDDAF YN DYSGU? Byddwch yn cael darlithoedd a grwpiau seminar bob wythnos yn ogystal â dosbarthiadau tiwtorial lle bo’r angen. Byddwch hefyd yn gwneud traethodau, gwneud gwaith paratoi ar gyfer cyflwyniadau seminar, darllen, ymchwilio, dadansoddi dogfennau a gwneud gwaith cwrs arall. Os byddwch yn dilyn y cwrs fel pwnc gradd unigol, byddwch yn gwneud traethawd estynedig yn ymwneud ag ymchwil mewn maes o’ch dewis chi.
RHAGOLYGON GYRFAOEDD Yn ogystal â chyflawni amcanion academaidd hanfodol, bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau ymarferol a fydd yn werthfawr yn nes ymlaen wrth wneud penderfyniadau doeth a rhesymol, ac i gyfrannu at ddatblygu polisïau cymdeithasol perthnasol. Fel disgyblaeth, mae cymdeithaseg yn mynnu ar asesiad cytbwys o’r dystiolaeth, casglu gwybodaeth, a chyflwyno dadleuon yn ddisgybledig a manwl-gywir. Trwy ddefnyddio’r sgiliau hyn, yn ogystal â sgiliau technoleg gwybodaeth a sgiliau cyflwyno, mae ein myfyrwyr yn barod ar gyfer llwyddiant ym myd gwaith mewn amrediad eang o swyddi cyfrifol. Mae astudio Cymdeithaseg â Pholisi Cymdeithasol fel gradd yn gyfuniad delfrydol a phoblogaidd ymhlith myfyrwyr, ac yn rhoddi cefndir academaidd gadarn i chi ddilyn gyrfa mewn amryw o feysydd fel yr Heddlu, Gwasanaeth Prawf, Gwaith Cymdeithasol (gofal plant, anabledd, yr henoed, afiechyd meddwl), dysgu, ymchwil, y gwasanaeth sifil, y cyfryngau, llywodraeth ganolog a lleol, llysoedd barn a mudiadau gwirfoddol.
Rydym yn defnyddio nifer o ddulliau asesu, yn cynnwys gwaith cwrs, arholiadau a’r traethawd estynedig. Mae’r rhan fwyaf o fodiwlau yn cael eu hasesu trwy waith cwrs. GRADDAU CYD-ANRHYDEDD Ewch i dudalen 64 am fanylion am raddau cyd-anrhydedd.
95
CERDDORIAETH
“Un o’r pethau gorau am y cwrs oedd brwdfrydedd ac arbenigedd y darlithwyr, ochr yn ochr â’u parodrwydd i gynnig cymorth ac arweiniad ar bob achlysur. Bu i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg arwain at gyswllt llawer mwy personol rhwng y darlithydd a’r myfyrwyr, gan fod nifer y myfyrwyr yn llawer llai nag ar y cwrs cyfrwng Saesneg. Roedd hyn yn creu awyrgylch mwy cartrefol yn ystod y darlithoedd a’r seminarau, gan fod pawb ar y cwrs yn adnabod ei gilydd. ADAM PIERCE Graddiodd gyda Gradd Dosbarth Cyntaf mewn Cymdeithaseg â Pholisi Cymdeithasol
“Mae ansawdd addysg gerddorol Prifysgol Bangor yn rhagorol.” ADRODDIAD ASESWR ALLANOL
“Roedd yr elfen o fywyd Cymreig yn hollbwysig i mi. Roedd hefyd yn bwysig fy mod yn gallu astudio fy nghwrs drwy’r Gymraeg. Cwrs 3 blynedd sy’n archwilio pob twll a chornel o’r byd cerddoriaeth. Mae ystod eang o fodiwlau ar gael, a phob un yn cynnig agwedd gwahanol, diddorol o’r maes.” CATRIN GRUFFUDD O Ddeiniolen, sy’n astudio Cerddoriaeth
“Mae staff a myfyrwyr Bangor yn uchel eu parch yn y maes cenedlaethol a rhyngwladol.” ADRODDIAD ASESWR ALLANOL
Mae Cerddoriaeth ym Mangor ar y brig yn y DU am foddhad myfyrwyr. (Arolwg Boddhad Myfyrwyr 2018)
96
97
CERDDORIAETH BA/BMus [Anrhydedd]
CERDDORIAETH BA/BMus [Anrhydedd] Y FFEITHIAU SYLFAENOL Cod cwrs UCAS: W300 BA/Mus; W302 BMus/Mus; Hyd: 3 blynedd llawn-amser (cynigir cyrsiau rhan-amser hefyd) GOFYNION MYNEDIAD: Ar gyfer graddau cyd-anrhydedd dylech fwrw golwg ar ofynion mynediad eich pwnc arall hefyd. Ar gyfer pob cwrs Cerddoriaeth mae’r gallu i ddarllen hen nodiant yn ofynnol. Cynnig nodweddiadol o isafswm o 120 pwynt tariff o gymhwyster lefel 3* e.e. • Lefel A (yn cynnwys gradd B mewn Cerddoriaeth neu ar-y-cyd ag un o’r cymwysterau eraill isod**) • BTEC Cenedlaethol/Diploma Estynedig mewn Cerddoriaeth: DDM • Diploma Mynediad i Addysg Uwch: Pasio** • Cymhwyster Bagloriaeth Cymru • Bydd pwyntiau o arholiadau gradd yn cael eu hystyried pan fo’n addas, er nad ydynt fel rheol yn cael eu cynnwys.
CEFNDIR Y CYRSIAU Nod ac amcan y cyrsiau hyn yw perfformio, cyfansoddi, ac astudio cerddoriaeth o bob cyfnod mewn awyrgylch greadigol fyrlymus ac ysgolheigaidd.
PAM DEWIS BANGOR? • Rydym yn cynnig amrywiaeth eang o ddewisiadau sy’n eich galluogi i lunio’ch cwrs gradd i adlewyrchu’ch diddordebau a’ch cryfderau. • Yn yr Archwiliad Safonau Mewnol diweddaraf fe ganmolodd y panel annibynnol ni am “gwricwlwm heriol… sy’n nodedig am natur amrywiol ei ddarpariaeth ac am y graddau sy’n cael eu cynnig i’r myfyrwyr.” *Mae cymwysterau lefel 3 yn cynnwys Lefel A, BTEC, • Ymhlith ein haelodau staff Mynediad, Cymhwyster Bagloriaeth Cymru ac eraill – cyfeillgar a hynod gefnogol, fe am restr lawn, cyfeiriwch at www.ucas.com. geir cyfansoddwyr, cerddoregwyr a pherfformwyr sydd ag **gellir ei ystyried ar y cyd â gradd B mewn lefel A arbenigedd mewn amrywiaeth Cerddoriaeth; neu Teilyngdod mewn ABRSM/Trinity/ LCM/Rockschool Theori Gradd 5 / Gradd 7 Ymarferol; eang o feysydd ym maes neu IT Uwch Cerdd. cerddoriaeth. • Gwneir llawer o’r dysgu mewn grwpiau bach sy’n creu amgylchedd dysgu ysbrydoledig a chefnogol. Mae’r dewisiadau yn cynnwys hyfforddiant ensemble, projectau yn y gymuned a MAE MODD GWNEUD hyfforddiant yng nghrefft yr Y CWRS HWN DRWY arweinydd. GYFRWNG Y GYMRAEG • Mae ein cyfres gyngherddau yn un o’r rhai ehangaf a’r fwyaf amrywiol mewn unrhyw brifysgol ym Mhrydain. Mae’r gyfres yn cynnwys INTERNATIONAL PROFIAD cyngherddau cerddoriaeth siambr EXPERIENCE RHYNGWLADOL (a phreswyliaeth flynyddol gan MODIWLAU DATBLYGU Ensemble Cymru a’r Benyounes SGILIAU IAITH AR GAEL Quartet, sydd hefyd yn cynnig dosbarthiadau meistr); datganiadau gan gantorion ac INTERNATIONAL offerynwyr blaenllaw, MWY O WYBODAETH EXPERIENCE cyngherddau o gerddoriaeth Tîm Derbyniadau acwstmatig a roddir gan Cerddoriaeth Electroacwstig Cymru, ac Ffôn: 01248 382085 ymweliadau cyson gan Gerddorfa e-bost: cerdd@bangor.ac.uk Genedlaethol Gymreig y BBC. www.bangor.ac.uk/cerddoriaeth Yn ogystal â hyn, rydym yn cynnal Gŵyl Cerddoriaeth Newydd. Mae tocynnau tymor ar gael i fyfyrwyr am bris rhesymol iawn.
98
BETH FYDDAF YN EI DDYSGU? Os byddwch yn dilyn cwrs gradd cyd-anrhydedd, byddwch yn astudio hanner eich modiwlau mewn Cerddoriaeth bob blwyddyn, gan gynnwys traean o’r modiwlau craidd. Blwyddyn 1: Os byddwch chi’n dilyn cwrs Cerddoriaeth BA, byddwch yn cymryd rhwng 80 a 120 credyd mewn cerddoriaeth (mae gofyn i chi gwblhau 120 credyd bob blwyddyn); bydd myfyrwyr BMus yn cymryd y 120 i gyd mewn cerddoriaeth. Modiwlau craidd: • Astudio Cerddoriaeth • Harmoni a Gwrthbwynt • Mae gennym gôr mawr a gennym hefyd gyfrifiaduron gyda cherddorfa symffoni, côr siambr, meddalwedd Sibelius a meddal- grwpiau cerddoriaeth gynnar ac wedd cerddoriaeth arall arnynt. amrywiaeth o ensemblau eraill. • Mae gennym gysylltiad cryf â’r • Rhoddir cyfle i berfformwyr diwylliant Cymreig ac rydym chwarae concertos gyda wedi ymrwymo i’w astudio. Mae cherddorfa symffoni’r Brifysgol. gennym Archif Cerddoriaeth Perfformir cyfansoddiadau gan ein Draddodiadol (sy’n cynnwys myfyrwyr, yn aml gan gerddorion casgliad o dros 300 o offerynnau proffesiynol sy’n ymweld â ni. Mae o ddiwylliannau byd-eang), Archif Cymdeithas Gerdd y Brifysgol Cerddoriaeth Boblogaidd Gymreig hefyd yn cynnal cerddorfa a chôr (sy’n cynnwys llyfrgell sylweddol o ac mae cymdeithasau eraill Undeb recordiau), a Chasgliad Crossleyy Myfyrwyr yn cynnwys band pres, Holland (sy’n cynnwys casgliad o band jazz, a chymdeithas sioeau dros 2,000 o offerynnau o cerdd. ddiwylliannau byd-eang). • Mae gennym ddwy neuadd • Cynigir Ysgoloriaethau Perfformio gyngerdd odidog ac adeiladau i’r offerynwyr neu’r cantorion adrannol sy’n cynnwys mwyaf addawol. Cewch fwy o ystafelloedd dysgu, neuadd fanylion gan y Tiwtor Mynediad. ymarfer a nifer o ystafelloedd ymarfer ar gyfer unigolion. Mae gennym gasgliad eang o bianos, organau, telynau, offerynnau taro a harpsicordiau. Mae ein 4 stiwdio yn cynnwys offer o safon ryngwladol ar gyfer recordio, ymchwilio a chyfansoddi. Mae gennym dros 3,000 o gryno ddisgiau ac 20,000 o sgorau. • Mae gennym amrywiaeth helaeth o adnoddau electronig, yn cynnwys Llyfrgell Gerddoriaeth Naxos a cherddoriaeth Grove ar-lein. Mae
Dewisiadau yn cynnwys: Perfformio Unawdol; Cyfansoddi; Diwylliannau Cerdd Byd-Eang; Celfyddyd Sonig. Blwyddyn 2: Ar gyfer y cwrs Cerddoriaeth BA, byddwch yn cymryd rhwng 100 a 120 credyd mewn Cerddoriaeth; bydd myfyrwyr BMus yn cymryd 120 credyd mewn Cerddoriaeth. Modiwlau gorfodol: • Rhaid dewis o leiaf ddau o’r modiwlau canlynol: Cerddoreg; Cyfansoddi; Perfformio Unawdol; Nodiant a Golygu. • Byddwch hefyd yn astudio o leiaf un o’r Astudiaethau Genre neu Gyfansoddwyr ym mhob semester. Mae’r rhain yn newid bob blwyddyn, ond ymhlith enghreifftiau ceir: Astudiaethau Genre: Symffoni’r Ugeinfed Ganrif, Beethoven a’r Pedwarawd Llinynnol, Madrigal y Dadeni, Minimaliaeth. Astudiaethau Cyfansoddwyr, Wagner, Elgar, Y Beatles, Boulez, Handel, Nyman, Zigeti, Debussy a Ravel.
Dewisiadau (dewis eang yn cynnwys yr esiamplau diweddar isod): Harmoni a Gwrthbwynt; Ethnogerddoreg; Astudiaethau Cerddoriaeth Cymru; Project Celfyddydau yn y Gymuned; Offeryniaeth a Threfnu; Technegau Recordio; Perfformio gydag Ensemble; Cerddoriaeth Mewn Iechyd a Lles; Astudiaethau Perfformio Hanesyddol; Arwain; Cyfansoddi ar gyfer Ffilm a’r Cyfryngau; Cyhoeddi a Chysodi Cerddoriaeth. Blwyddyn 3: Bydd yr holl fodiwlau y byddwch yn eu hastudio yn rhai Cerddoriaeth, p’un a fyddwch chi’n dilyn cwrs BA neu BMus. Bydd yn rhaid i chi wneud gwaith project mewn un o leiaf o’r meysydd project canlynol: Traethawd Hir, Golygu, Cyfansoddi (yn cynnwys Cyfansoddi Acwstig, Cyfansoddi Acwsmatig, Cyfansoddi Poblogaidd), Perfformio Unawdol. Mae’r dewisiadau ar gyfer y modiwlau sy’n cael eu dysgu yn cynnwys: Arwain; Addysgu Cerdd; Ffiwg; Astudiaethau Genre, Astudiaethau Cyfansoddwyr a modiwlau dewisol o flwyddyn 2. Mwy am y cwrs trosodd...
“Rwy’n hoff iawn o ba mor amrywiol ydy’r cwrs. Mae’r dewis eang o fodiwlau sydd ar gael yn rhoi cyfle i chi astudio yr hyn rydych yn ei fwynhau fwyaf. Mae’r gefnogaeth gan y darlithwyr yn anhygoel a’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn wych. Mae gan yr adran gerdd adnoddau o safon i fyfyrwyr yn ogystal.” ELAIN JONES BMus Cerddoriaeth
CWRS PERTHNASOL Yr ydym hefyd yn cynnig cwrs cyd-anrhydedd BA Cerddoriaeth a Pheirianneg Electronig ond mae’r rhan fwyaf o’r modiwlau ar y cwrs hwn ar gael yn Saesneg yn unig. Gweler y prospectws Saesneg am fwy o fanylion os gwelwch yn dda.
GRADDAU CYD-ANRHYDEDD Ewch i dudalen 64 am fanylion am raddau cyd-anrhydedd.
99
CERDDORIAETH BA/BMus [Anrhydedd] SUT Y BYDDAF YN DYSGU? Byddwch yn cael tua 12 awr o ddarlithoedd yr wythnos gan gynnwys seminarau a dosbarthiadau tiwtorial, ynghyd â hyfforddiant unigol os byddwch yn dilyn modiwl Perfformio Unawdol. Ar ben hynny, byddwch yn treulio amser yn darllen gwaith cefndir, gwrando ar gerddoriaeth, cwblhau traethodau a gwaith cwrs a pharatoi ar gyfer seminarau, ynghyd ag ymarfer a pherfformio mewn ensemblau, corau a cherddorfeydd. Mae nifer o fodiwlau yn cynnwys ymweliadau maes, er enghraifft â neuaddau cyngerdd, cwmnïau recordio a chyhoeddwyr cerddoriaeth. Bydd rhai yn cynnwys lleoliadau byr y tu allan i’r Brifysgol. Mae gennym gyswllt agos â rhai o brif sefydliadau cerddorol Prydain gan gynnwys Cerddorfa Philharmonig Lerpwl, Sinffonietta Llundain, Cwmni Sain (Llandwrog) ayyb. Gallwch ddisgwyl treulio rhwng traean a dwy ran o dair o’r flwyddyn olaf yn gweithio ar brojectau cerddoriaeth annibynnol. RHAGOLYGON GYRFAOEDD Tra bo llawer o raddedigion yn dilyn gyrfaoedd ym maes cerddoriaeth, mae’r cyrsiau gradd hyn hefyd yn baratoad da ar gyfer amrywiaeth eang o swyddi mewn gweinyddu, masnach a rheoli. Mae ein graddedigion wedi dod yn berfformwyr proffesiynol, cyfansoddwyr, athrawon, gweinyddwyr celfyddydau, therapyddion cerdd, cyhoeddwyr cerddoriaeth, llyfrgellwyr, rheolwyr cyngherddau, rheolwyr llwyfan, cynhyrchwyr recordio a darlledu, a pheirianwyr sain. Mae llawer o gyn-fyfyrwyr wedi dilyn hyfforddiant cerddorol ychwanegol ar ôl y cyrsiau gradd hyn, fel perfformwyr, ysgolheigion neu gyfansoddwyr, a cheir cyfleoedd i astudio’r rhain i gyd ym Mangor.
100
Y CYFRYNGAU, THEATR, FFILM A NEWYDDIADURAETH
Un o ofodau dysgu cymdeithasol Cerddoriaeth.
“....mae’r myfyrwyr yn cael eu cefnogi’n dda iawn gan y staff, yn academaidd ac yn bersonol. Mae’r staff yn cymryd diddordeb yn y myfyrwyr a’u cynnydd. Mae hi’n hynod o amlwg bod safon yr addysgu yn yr Ysgol yn uchel ac yn cymharu’n ffafriol efo’r hyn rwy’n ei weld yng ngweddill Prydain.” ADRODDIAD ARHOLWR ALLANOL
“Y mae’r cwrs hwn yn cynnig cyfle unigryw yn y
Gymraeg i fyfyrwyr astudio maes sy’n ddylanwadol iawn ac sy’n gyflogwr pwysig. Ni allaf ond canmol ymroddiad y staff a’u gofal dros y myfyrwyr.”
ARHOLWR ALLANOL
“Y mae’r cwrs yn un cyffrous sy’n cyfuno elfennau damcaniaethol ac ymarferol yn y maes. Llongyfarchaf y staff ar eu dysgu egnïol a’u monitro cydwybodol o’r myfyrwyr yn eu gofal.” ARHOLWR ALLANOL
101
Y CYFRYNGAU, THEATR, FFILM A NEWYDDIADURAETH Y FFEITHIAU SYLFAENOL Hyd: 3 blynedd fel arfer GOFYNION MYNEDIAD: Cynnig nodweddiadol o isafswm o 104 pwynt tariff o gymhwyster lefel 3* e.e.: • Lefel A (dim pwnc penodol heblaw pan yn astudio cwrs gradd ar y cyd ag un o’r Ieithoedd Modern – ewch i’r wefan am y gofynion mynediad unigol) • BTEC Cenedlaethol/Diploma Estynedig: MMM • Diploma Mynediad i Addysg Uwch: Pasio • Derbynnir Cymhwyster Bagloriaeth Cymru • Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn, unigolion â chymwysterau Ewropeaidd ac ymgeiswyr rhyngwladol.
CYRSIAU Mae’r cyrsiau a gynigir yn cynnwys y rhestr ganlynol, gyda chyfuniadau amrywiol ar gael: BA (anrhydedd) Astudiaethau’r Cyfryngau: BA (anrhydedd) Astudiaethau Creadigol: BA (anrhydedd) Astudiaethau’r Cyfryngau gyda Ffrangeg: BA (anrhydedd) Astudiaethau’r Cyfryngau gydag Almaeneg: BA (anrhydedd) Astudiaethau’r Cyfryngau gydag Eidaleg: BA (anrhydedd) Astudiaethau’r Cyfryngau gyda Sbaeneg: BA (anrhydedd) Astudiaethau’r Cyfryngau gyda Theatr a Pherfformio: BA (anrhydedd) Astudiaethau’r Cyfryngau gyda Dylunio Gemau BA (anrhydedd) Astudiaethau’r Cyfryngau a Cherdd BA (anrhydedd Astudiaethau’r Cyfryngau ac Ysgrifennu Creadigol: BA (anrhydedd) Astudiaethau Ffilm: BA (anrhydedd) Astudiaethau Ffilm gyda Theatr a Pherfformio: BA (anrhydedd) Astudiaethau Ffilm gyda Dylunio Gemau BA (anrhydedd) Newyddiaduraeth a’r Cyfryngau: BA (anrhydedd) Ysgrifennu Creadigol a Phroffesiynol: BA (anrhydedd) Ysgrifennu Proffesiynol a’r Cyfryngau: BA (anrhydedd) Ysgrifennu Proffesiynol a Ffilm ASTUDIO TRWY’R GYMRAEG Cynigir modiwlau Cymraeg a dwyieithog ym mhob un o’r graddau a’r meysydd dysgu ac mae ysgoloriaethau gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a bwrsariaeth gan y brifysgol ar gael i fyfyrwyr sydd yn dilyn cyfran o’u gradd yn Gymraeg.
ASTUDIAETHAU’R CYFRYNGAU BA [Anrhydedd]
P3O6 WPQ0 P3R1 P3R2 P3R3 P3R4 P3WL P310 W3P3 WP83 W620 P3W5 W622 PP53 W890 P3W9 W6W8
PAM DEWIS BANGOR? • Rydym wedi ymrwymo i ddysgu mewn grwpiau bychain. • Rydym yn cynnig dewis eang o fodiwlau cyffrous. • Mae’r adnoddau a’r cyfarpar diweddaraf ar gael yn ein canolfan gyfryngau sydd wedi’i lleoli yn Neuadd John Phillips. Defnyddir CEFNDIR Y CYRSIAU y neuadd hefyd ar gyfer gwaith Mae’r graddau, sy’n cyfuno ymarferol theatr a pherfformiadau agweddau academaidd ac ymarferol, byw. Rydym hefyd yn defnyddio’r yn cynnig llu o brofiadau gwerthfawr adnoddau sydd ar gael yn adeilad i’r rhai sy’n dymuno astudio meysydd newydd Pontio. y cyfryngau, newyddiaduraeth, • Mae gennym gysylltiadau agos â theatr, ffilm, technoleg gwybodaeth nifer o gyflogwyr a sefydliadau ym a llenyddiaeth gyfoes. Byddwch maes y diwydiannau creadigol, yn yn dewis teitl penodol i’ch cynllun lleol ac yn genedlaethol. gradd, ond bydd modd i chi ddewis INTERNATIONAL PROFIAD modiwlau o blith meysydd eraill. BETH FYDDAF YN EI ASTUDIO? EXPERIENCE RHYNGWLADOL Byddwch yn dilyn cyfuniad o MODIWLAU DATBLYGU fodiwlau gorfodol a dewisol, yn “Mae’r cwrs yn rhoi lot o SGILIAU IAITH AR GAEL dibynnu ar eich llwybr gradd. Mae bwyslais ar syniadau ac yn un manylion pob cwrs yn dangos ymarferol iawn. Fy uchelgais yr amrywiaeth eang o feysydd ydi bod yn gynhyrchyddINTERNATIONAL cyfoes a chyffrous y medrwch MWY O WYBODAETH EXPERIENCEgyfarwyddwr neu’n cyflwyno eu dilyn, ar drywydd sy’n gwbl Tîm Derbyniadau rhaglenni dogfen, felly mae o’r berthnasol i Gymru’r mileniwm Astudiaethau Creadigol union beth dwi ei angen!” a’r Cyfryngau newydd. Byddwch yn datblygu amrediad o fedrau dadansoddol ac CARYL BURKE Ffôn: 01248 382085 ymarferol a fydd yn adlewyrchu eich Graddiodd gyda Gradd e-bost: cyfryngau@bangor.ac.uk diddordebau fel unigolyn. Dosbarth Cyntaf, cyn dilyn y www.bangor.ac.uk/creadigol cwrs MA Cynhyrchu Ffilmiau
*Mae cymwysterau lefel 3 yn cynnwys Lefel A, BTEC, Mynediad, Cymhwyster Bagloriaeth Cymru ac eraill – am restr lawn, cyfeiriwch at y tariff newydd gan UCAS ar www.ucas.com.
102
Y FFEITHIAU SYLFAENOL Cod cwrs UCAS: P306 Hyd: 3 blynedd GOFYNION MYNEDIAD: Cynnig nodweddiadol o isafswm o 104 pwynt tariff o gymhwyster lefel 3* e.e.: • Lefel A (dim pwnc penodol) • BTEC Cenedlaethol/Diploma Estynedig: MMM • Diploma Mynediad i Addysg Uwch: Pasio • Derbynnir Cymhwyster Bagloriaeth Cymru • Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn, unigolion â chymwysterau Ewropeaidd ac ymgeiswyr rhyngwladol.
SUT Y BYDDAF YN DYSGU? • Darlithoedd, seminarau a dosbarthiadau tiwtorial ym mhob gradd, gyda defnydd hefyd o’r rhith-amgylchedd dysgu Blackboard. • Cyfnodau gwylio a gwrando ym meysydd y cyfryngau, ffilm, theatr a newyddiaduraeth. • Gweithdai yn y cyfryngau, theatr, newyddiaduraeth ac ysgrifennu creadigol. • Mae’r dulliau asesu yn amrywio – o waith cwrs i arholiadau, i waith ymarferol.
*Mae cymwysterau lefel 3 yn cynnwys Lefel A, BTEC, Mynediad, Cymhwyster Bagloriaeth Cymru ac eraill – am restr lawn, cyfeiriwch at www.ucas. com. Rydym yn eich cynghori i fwrw golwg ar fanylion llawn y gofynion mynediad a’r cyrsiau ym mhrospectws Saesneg y Brifysgol.
CEFNDIR Y CWRS Ar y cwrs cyffrous hwn byddwch yn dysgu am ddulliau gwahanol o gyfathrebu – mewn geiriau a delweddau, ac agweddau gwahanol ar y cyfryngau – radio, teledu ac amlgyfryngedd. Bydd cyfle hefyd i ddatblygu’r medrau ymarferol sydd eu hangen ar gyfer gyrfaoedd perthnasol i’r meysydd hynny. PAM DEWIS BANGOR? • Mae gennym gysylltiadau arbennig gyda’r diwydiannau creadigol proffesiynol yng Nghymru a thu hwnt, gan gynnwys cwmnïau teledu annibynnol, BBC Cymru, S4C, a’r wasg leol a chenedlaethol. • Mae Canolfan y Cyfryngau yn cynnwys stiwdio radio sain gydag offer hunan-reoli, unedau symudol fideo a sain ac ystafell benodol ar gyfer y cyfryngau newydd. • Yn yr un ganolfan ceir yr offer golygu digidol diweddaraf: Final Cut Pro ar gyfer sain a fideo. • Cynhelir dangosiadau o raglenni a ffilmiau gyda thaflunydd DVD a sain Dolby yn ein theatr ac yn adeilad Pontio. BETH FYDDAF YN EI ASTUDIO? Blwyddyn 1 Mae’r modiwlau a gynigir yn cynnwys y canlynol: • Cyflwyniad i Newyddiaduraeth
PROFIAD RHYNGWLADOL MODIWLAU DATBLYGU SGILIAU IAITH AR GAEL
MWY O WYBODAETH Tîm Derbyniadau Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau Ffôn: 01248 382085 e-bost: cyfryngau@bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/creadigol
INTERNATIONAL Ymarferol EXPERIENCE
• Cyfathrebu Digidol • Iaith Ffilm • Cyflwyniad i Ymarfer y Cyfryngau • Sgriptio Teledu • Dyfeisio Theatr • Perfformio ar y Llwyfan a’r Sgrin INTERNATIONAL EXPERIENCE • Materion yn y Cyfryngau a Newyddiaduraeth • Astudiaethau Gemau • Hanes Ffilm • Dramâu Teledu Americanaidd
Blwyddyn 2 a 3 Mae’r canlynol ymhlith y modiwlau a gynigir: • Y Ffilm Ddogfen: Theori • Ymarfer y Cyfryngau: Ffeithiol • Radio: Theori ac Ymarfer • Newyddiaduraeth Ddigidol Ymarferol • Animeiddio a Graffeg Symudol • Ymarfer Theatr Gyfoes • Cynhyrchu’r Ffilm Fer • Y Sgrin Fach Gymraeg • Sgriptio • Ymarfer Proffesiynol • Perfformio Safle-benodol • Y Theatr Gymraeg Fodern • Newyddiaduraeth Ymarferol: Moeseg, Cyfraith a Democratiaeth SUT Y BYDDAF YN DYSGU? Byddwch yn mynychu darlithoedd, seminarau, tiwtorialau, gweithdai a sesiynau gwylio, gan gyflawni tasgau ymarferol a dadansoddol.
dulliau asesu yn amrywio yn ôl y modiwlau a ddewisir. Bydd llawer o’r dysgu yn cael ei gyflawni mewn grwpiau bach. RHAGOLYGON GYRFAOEDD Yn ogystal â magu dealltwriaeth o gynhyrchu cyfryngol a’r cyddestun ehangach, bydd y myfyrwyr hefyd yn datblygu nifer o sgiliau trosglwyddadwy gwerthfawr. Mae ein graddedigion felly yn gweithio mewn nifer o feysydd amrywiol, gan gynnwys y diwydiannau creadigol, a’r cyfryngau creadigol yn arbennig, addysg a’r sector cyhoeddus, a marchnata a chysylltiadau cyhoeddus. Mae nifer ohonynt wedi parhau â’u haddysg drwy gyflawni astudiaethau ôl-radd ym Mangor.
Mae’r modiwlau cyfryngau ymarferol yn canolbwyntio ar dri phrif faes: cynhyrchu ffilm a theledu, cynhyrchu radio a chyfryngau digidol yn fwy cyffredinol. Asesir y modiwlau hyn ar sail y gwaith creadigol a gallu’r unigolyn i ddadansoddi’r gwaith. Bydd y modiwlau sydd yn ymwneud â hanes, dylanwad a diwylliant y cyfryngau yn cael eu hasesu drwy aseiniadau ac arholiadau, ond mae’r
GRADDAU CYD-ANRHYDEDD Ewch i dudalen 64 am fanylion am raddau cyd-anrhydedd.
103
CYMRAEG AC ASTUDIAETHAU CELTAIDD
“Mae’r cwrs wedi bod yn hynod o werthfawr i mi fagu hyder a’m helpu i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen i lwyddo yn y diwydiant newyddiadurol. Cyn dechrau’r cwrs doedd gen i ddim profiad o wneud gwaith newyddiadurol, ond erbyn hyn dwi’n teimlo’n ddigon hyderus bod gen i’r sgiliau sydd eu hangen i weithio yn y diwydiant. Mae’r holl gwrs wedi bod yn wych. Fyswn i’n dweud mai’r ffaith bod hi mor hawdd integreiddio yma – efo’r darlithwyr a’m cyd-fyfyrwyr – yw’r uchafbwynt. Mae ‘na deimlad reit gartrefol yma, mae pawb yn fodlon helpu’i gilydd, mae pawb eisio llwyddo – mae’n gwrs bendigedig ar y cyfan!” JAMIE THOMAS MArts Cyfryngau ac awdur The Dragon Roars Again: Wales’ Journey to Euro 2016 a When Dragons Dare To Dream
“Y mae’r safonau’n uchel a’r dulliau asesu’n deg iawn. Dangoswyd cryn ddychymyg wrth lunio’r amrywiaeth mawr o gyrsiau sy’n cael eu cynnig yn yr Ysgol, ac roeddwn yn gallu synhwyro o atebion y myfyrwyr iddynt gael blas anghyffredin ar eu gwaith.” ADRODDIAD ARHOLWR ALLANOL
Mae Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mangor yn gyson yn cyflawni lefel boddhad cyffredinol o dros 95% ymysg ei myfyrwyr – y lefel uchaf yn genedlaethol ym maes y Gymraeg (yn ôl arolygon myfyrwyr diweddar).
104
105
CYMRAEG: LLWYBRAU AMRYWIOL Y FFEITHIAU SYLFAENOL: Hyd: 3 blynedd GOFYNION MYNEDIAD: Ar gyfer graddau cyd-anrhydedd dylech fwrw golwg ar ofynion mynediad eich pwnc dewisol arall. Cynnig nodweddiadol o isafswm o 112 pwynt tariff o gymhwyster lefel 3* e.e.: • Lefel A (yn cynnwys gradd B mewn Cymraeg) • BTEC Cenedlaethol/ Diploma Estynedig: DMM** • Diploma Mynediad i Addysg Uwch gyda Cymraeg fel elfen: Pasio • Derbynnir Cymhwyster Bagloriaeth Cymru • Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn, unigolion â chymwysterau Ewropeaidd ac ymgeiswyr rhyngwladol. *Mae cymwysterau lefel 3 yn cynnwys Lefel A, BTEC, Mynediad, Cymhwyster Bagloriaeth Cymru ac eraill – am restr lawn, cyfeiriwch at www.ucas.com. **Gall gael ei ystyried gyda chymhwyster arall mewn Cymraeg e.g. Lefel A
MAE MODD GWNEUD Y CWRS HWN DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG
PROFIAD RHYNGWLADOL
CYRSIAU CYFRWNG CYMRAEG BA (anrhydedd) Cymraeg: BA (anrhydedd) Cymraeg Proffesiynol: BA (anrhydedd) Cymraeg gydag Ysgrifennu Creadigol: BA (anrhydedd) Cymraeg gyda Newyddiaduraeth: BA (anrhydedd) Cymraeg, Theatr a’r Cyfryngau: BA (anrhydedd) Cymraeg i Ddechreuwyr (Welsh for Beginners):
SYLWCH: Cynigir y cyrsiau yn llwyr drwy gyfrwng y Gymraeg (heblaw am Gymraeg i Ddechreuwyr).
CEFNDIR Y CYRSIAU INTERNATIONAL EXPERIENCE Mae’r graddau anrhydedd hyn yn
cynnig llu o brofiadau gwerthfawr i’r rhai ohonoch sy’n dymuno astudio cyrsiau sy’n ymwneud â’r Gymraeg fel pwnc, neu â meysydd theatr, newyddiaduraeth neu’r cyfryngau. INTERNATIONAL MWY O WYBODAETH EXPERIENCE Gellir cyfuno gwahanol agweddau Tîm Derbyniadau ar y meysydd hyn os ydych am wneud cyrsiau diddorol ac amrywiol Ffôn: 01248 382085 e-bost: cymraeg@bangor.ac.uk sy’n cynnig cyfle i ddilyn trywydd www.bangor.ac.uk/ysgolygymraeg academaidd neu gyfuniad o’r academaidd a’r galwedigaethol. MODIWLAU DATBLYGU SGILIAU IAITH AR GAEL
106
Q562 Q563 Q5WK Q5P5 QWM5 Q565
PAM DEWIS BANGOR? • Rydym wedi ymrwymo i ddysgu mewn grwpiau bychain. • Byddwch yn cael eich dysgu gan staff sy’n ymchwilio yn gyson, ac yn cyhoeddi llyfrau ac erthyglau. • Rydym yn cynnig dewis eang o fodiwlau. • Cewch gyfnod o brofiad gwaith fel rhan o’ch cwrs. • Mae parch mawr at safon ein graddau.
BETH FYDDAF YN EI ASTUDIO? Byddwch yn dilyn cyfuniad o fodiwlau gorfodol a dewisol yn dibynnu ar eich llwybr gradd unigol. Mae manylion pob cwrs yn dangos amrywiaeth eang y meysydd traddodiadol a newydd y gallwch eu dilyn ar drywydd gradd berthnasol i’r Gymru gyfoes. Mae galw mawr am ein graddedigion mewn nifer o feysydd: Cyfieithu, y Cyfryngau a’r Theatr, Byd Addysg, Gweinyddu a Pholisi, Cysylltiadau Cyhoeddus, Newyddiaduraeth, Llywodraeth Leol a’r Gwasanaeth Sifil, etc. SUT Y BYDDAF YN DYSGU? Darlithoedd, seminarau, dosbarthiadau tiwtorial a gweithdai. Cyfnodau gwylio a gwrando rhaglenni, gwaith ymarferol theatrig, cyfryngol a newyddiadurol yn y graddau sy’n cyflwyno’r meysydd hynny. Mae’r dulliau asesu yn amrywio yn ôl gofynion y modiwlau unigol.
CYMRAEG BA [Anrhydedd] Y FFEITHIAU SYLFAENOL: Cod cwrs UCAS: Q562 Hyd: 3 blynedd
CEFNDIR Y CWRS
GOFYNION MYNEDIAD: Ar gyfer graddau cyd-anrhydedd dylech fwrw golwg ar ofynion mynediad eich pwnc dewisol arall.
Ni fu erioed adeg fwy cyffrous i astudio’r Gymraeg ym Mangor. Mewn meysydd mor amrywiol â’r cyfryngau, addysg, y gwasanaeth sifil, cysylltiadau cyhoeddus, byd cyfieithu a llywodraeth leol, mae galw aruthrol am rai sydd â gradd dda yn y Gymraeg. Mae Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mangor wedi ymateb yn egnïol i’r alwad hon drwy greu cyrsiau diddorol a blaengar sy’n berthnasol i ofynion y byd modern. Iaith fyw y presennol yn hytrach na chrair o’r gorffennol yw’r Gymraeg ym Mangor. Yma cewch gyfle nid yn unig i astudio a mwynhau un o lenyddiaethau hynotaf y byd, ond cyfle hefyd i ddilyn modiwlau mwy ymarferol eu gogwydd a fydd yn baratoad ardderchog ar gyfer gyrfa a swydd.
Cynnig nodweddiadol o isafswm o 112 pwynt tariff o gymhwyster lefel 3* e.e.: • Lefel A (yn cynnwys gradd B mewn Cymraeg) • BTEC Cenedlaethol/Diploma Estynedig: DMM** • Diploma Mynediad i Addysg Uwch gyda Cymraeg fel elfen: Pasio • Derbynnir Cymhwyster Bagloriaeth Cymru • Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn, unigolion â chymwysterau Ewropeaidd ac ymgeiswyr rhyngwladol. *Mae cymwysterau lefel 3 yn cynnwys Lefel A, BTEC, Mynediad, Cymhwyster Bagloriaeth Cymru ac eraill – am restr lawn, cyfeiriwch at www.ucas.com. **Gall gael ei ystyried gyda chymhwyster arall mewn Cymraeg e.g. Lefel A
Mae’r cwrs hwn ar gael i siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf ac ail iaith.
PAM DEWIS BANGOR? • Rydym yn cynnig dewis eang o fodiwlau, yn cynnwys meysydd blaengar fel medrau cyfieithu, ysgrifennu creadigol ac astudiaethau ffilm a theatr. MAE MODD GWNEUD • Mae gennym enw da o safbwynt Y CWRS HWN DRWY safon ein haddysgu a gofal GYFRWNG Y GYMRAEG myfyrwyr. • Mae’r staff yn weithgar ym meysydd ymchwil, beirniadaeth lenyddol ac ysgrifennu creadigol. INTERNATIONAL PROFIAD • Mae ein proffil uchel a’r parch sydd EXPERIENCE RHYNGWLADOL gan gyflogwyr tuag at ein safonau MODIWLAU DATBLYGU yn golygu bod llawer o alw am ein SGILIAU IAITH AR GAEL myfyrwyr ni. • Gallwch barhau i astudio gyda ni hyd at lefel MA, MPhil a PhD. INTERNATIONAL • Mae Bangor yn ddewis delfrydol MWY O WYBODAETH EXPERIENCE os yw’r Gymraeg yn ail iaith Tîm Derbyniadau i chi. Byddwn yn eich annog i ddatblygu’n siaradwr hyderus Ffôn: 01248 382085 e-bost: trwy gyfrwng dysgu mewn cymraeg.israddedig@bangor.ac.uk grwpiau bach a modiwlau www.bangor.ac.uk/ysgolygymraeg arbennig. • Bydd nifer o ysgoloriaethau ariannol yn cael eu dyfarnu bob blwyddyn.
BETH FYDDAF YN EI ASTUDIO? Os ydych chi’n dilyn y cwrs gradd Cymraeg, byddwch yn astudio modiwlau gorfodol a gallwch ddilyn rhai dewisiadau ychwanegol yn y pwnc. Blwyddyn 1 Iaith Gyntaf Modiwlau yn y meysydd hyn: • Llên Gyfoes • Beirniadaeth Lenyddol Ymarferol • Rhyddiaith yr Oesoedd Canol • Yr Iaith ar Waith • Llenyddiaeth y Cyfnod Modern Cynnar • Theatr Fodern Ewrop Dewisiadau: • Gweithdy Creadigol • Sgriptio Teledu • Gwyddeleg Modern • Amryw fodiwlau eraill Ail Iaith Modiwlau gorfodol: • Ysgrifennu Cymraeg • Cymraeg Llafar • Golwg ar Lenyddiaeth • Llên a Llun Dewisiadau: • Dewisir modiwlau eraill o blith y rhai iaith gyntaf Blwyddyn 2 a Blwyddyn 3 Byddwch yn astudio modiwlau gorfodol ac yn dethol dewisiadau o blith ystod eang o fodiwlau, e.e.: • Barddoniaeth Fodern • Rhyddid y Nofel • Dafydd ap Gwilym • Chwedlau’r Oesoedd Canol • Medrau Cyfieithu • Ymarfer Ysgrifennu • Y Sgrin Fach Gymraeg • Sgriptio • Y Theatr Gymraeg Fodern • Llenyddiaeth Gymraeg America • Canu Llys • Traethawd Estynedig • Athroniaeth a Llenyddiaeth • O’r Llyfr i’r Llwyfan
SUT Y BYDDAF YN DYSGU? Cewch eich dysgu drwy gyfrwng darlithoedd, seminarau, dosbarthiadau tiwtorial a gweithdai bob wythnos. Byddwch hefyd yn gwneud traethodau, amrywiol ymarferion, gwaith darllen a pharatoi ar gyfer seminarau. Mae’r asesiad yn gyfuniad o waith cwrs ac arholiadau. Os ydych chi’n astudio cwrs gradd anrhydedd sengl, byddwch hefyd ym mlwyddyn 3 yn gwneud traethawd hir ar bwnc o’ch dewis.
“Mae cyfle i fyfyrwyr Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd deithio i ddewis mawr o wledydd yn rhan o’u cynllun gradd. Mae gennym gytundebau newydd â dwy brifysgol yng Ngwlad Pwyl i drefnu teithiau cyfnewid i fyfyrwyr ac mae yno ddiddordeb mawr yn y Gymraeg. Y mae cysylltiadau eraill yn golygu bod modd teithio i wledydd eraill yn Ewrop ac mor bell â’r Unol Daleithiau a Tsieina. Mae’r cyfle i deithio fel rhan o’r radd Gymraeg yn ddiben-draw. Ac nid yn unig drwy deithio y mae modd gweld y byd drwy astudio gyda ni. Cofiwch am y modiwl Llenyddiaeth Gymraeg America a hefyd y cyfle i ddysgu Gwyddeleg Modern, un o chwaer ieithoedd y Gymraeg.” DR ALED LLION JONES Uwch-Ddarlithydd, Cydlynydd Teithiau Tramor a Thiwtor Mynediad
GRADDAU CYD-ANRHYDEDD Ewch i dudalen 64 am fanylion am raddau cyd-anrhydedd.
107
CYMRAEG PROFFESIYNOL BA [Anrhydedd] Y FFEITHIAU SYLFAENOL Cod cwrs UCAS: Q563 Hyd: 3 blynedd GOFYNION MYNEDIAD: Ar gyfer graddau cyd-anrhydedd dylech fwrw golwg ar ofynion mynediad eich pwnc dewisol arall. Cynnig nodweddiadol o isafswm o 112 pwynt tariff o gymhwyster lefel 3* e.e.: • Lefel A (yn cynnwys gradd B mewn Cymraeg) • BTEC Cenedlaethol/Diploma Estynedig: DMM** • Diploma Mynediad i Addysg Uwch gyda Cymraeg fel elfen: Pasio • Derbynnir Cymhwyster Bagloriaeth Cymru • Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn, unigolion â chymwysterau Ewropeaidd ac ymgeiswyr rhyngwladol. *Mae cymwysterau lefel 3 yn cynnwys Lefel A, BTEC, Mynediad, Cymhwyster Bagloriaeth Cymru ac eraill – am restr lawn, cyfeiriwch at www.ucas.com. **Gall gael ei ystyried gyda chymhwyster arall mewn Cymraeg e.g. Lefel A
MAE MODD GWNEUD Y CWRS HWN DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG
PROFIAD RHYNGWLADOL MODIWLAU DATBLYGU SGILIAU IAITH AR GAEL
CEFNDIR Y CWRS Mae’r cwrs newydd hwn yn ymateb i’r galw cynyddol gan gyflogwyr am fyfyrwyr sydd â safon uchel o sgiliau yn y Gymraeg y gellir eu cymhwyso’n rhwydd i’r gweithle. Byddwch yn astudio amryw feysydd sy’n ymwneud ag iaith a llenyddiaeth Gymraeg gyda phwyslais mawr ar agweddau ymarferol a galwedigaethol. Bydd y cwrs yn rhoi cyfle i chi fynd ar brofiad gwaith gyda chyflogwyr a chwmnïau proffesiynol. Mae’r Ysgol yn cydweithio’n agos â Chanolfan Bedwyr a byddwch yn elwa o’r arbenigedd cenedlaethol a rhyngwladol y mae Canolfan Bedwyr wedi ei ddatblygu dros y blynyddoedd. Mae’r cwrs hwn yn gyfle i chi ddilyn gradd gyda’r holl elfennau sy’n ddisgwyliedig o fewn gradd draddodiadol yn y Gymraeg, ond gyda llwybr ymarferol clir a fydd yn arwain i gyfeiriadau gyrfaol amrywiol. Noder, ystyrir ceisiadau gan rai sydd wedi dilyn Lefel A trwy gyfrwng y Gymraeg mewn pynciau eraill yn unigol.
Ymhlith y cyrff cyhoeddus sydd wedi datgan eu cefnogaeth i’r radd hon mae Cyfoeth Naturiol Cymru, Parc Cenedlaethol Eryri, Menter Iaith Môn, a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru. Mae cefnogaeth o’r fath yn ychwanegu at hygrededd INTERNATIONAL EXPERIENCE proffesiynol y rhaglen hon.
PAM DEWIS BANGOR? • Mae hon yn radd sy’n gyfuniad amrywiol o fodiwlau newydd a modiwlau traddodiadol a fydd yn MWY O WYBODAETH INTERNATIONAL EXPERIENCEcael eu haddysgu gan arbenigwyr Tîm Derbyniadau yn eu meysydd. Ffôn: 01248 382085 • Cewch eich dysgu mewn e-bost: dosbarthiadau bychain, a fydd yn cymraeg.israddedig@bangor.ac.uk eich galluogi i ddod i adnabod y www.bangor.ac.uk/ysgolygymraeg staff a’ch cyd-fyfyrwyr yn dda. • Mae yma draddodiad llwyddiannus o safbwynt safon ein dysgu a boddhad myfyrwyr.
108
• Cewch gyfle i fynd ar brofiad gwaith fel rhan o’ch cwrs. • Byddwch yn cael eich dysgu gan staff sy’n ymchwilio yn gyson, ac yn cyhoeddi llyfrau ac erthyglau. • Mae ein proffil uchel a’r parch sydd gan gyflogwyr tuag at ein safonau yn golygu bod llawer o alw gan gyflogwyr am ein myfyrwyr ni. • Mae Bangor yn eich galluogi i fyw bywyd myfyriwr i gyd drwy gyfrwng y Gymraeg mewn awyrgylch cyfeillgar a naturiol. BETH FYDDAF YN EI ASTUDIO? Blwyddyn 1 Modiwlau gorfodol: • Defnyddio’r Gymraeg • O’r Senedd i’r Swyddfa • Llên Gyfoes • Llên y Cyfnod Modern Cynnar • Cyflwyniad i Bolisi a Chynllunio Ieithyddol Cewch ddewis hyd at 40 credyd arall o blith y modiwlau Cymraeg neu mewn pynciau eraill. Bydd cyfle i chi fynd ar leoliad gwaith a byddwch yn cael nifer o ddarlithoedd gwadd gan gynrychiolwyr o wahanol broffesiynau. Blwyddyn 2 Modiwlau gorfodol: • Iaith Gwaith • Ymarfer Ysgrifennu • Datblygiad yr Iaith Cewch gyfle i ddewis unrhyw 40-60 credyd arall o blith modiwlau Cymraeg neu mewn pynciau eraill. Blwyddyn 3 Modiwlau gorfodol: • Medrau Cyfieithu • Portffolio Proffesiynol ar fedrau ymchwilio annibynnol. Cewch ddewis unrhyw 60 credyd arall o blith modiwlau Cymraeg (heblaw am fodiwl Y Traethawd Estynedig).
SUT Y BYDDAF YN DYSGU? Byddwch yn dysgu trwy gyfuniad o ddarlithoedd a seminarau a chewch gyfle i fynd ar leoliad gwaith. Byddwch yn cael eich asesu drwy amrywiaeth o ddulliau yn ôl yr hyn sy’n briodol i ofynion modiwlau unigol. Y nod yw rhoi’r cyfle i chi astudio’r iaith Gymraeg mewn modd ymarferol a fydd yn cryfhau eich sgiliau ysgrifenedig a llafar yn ogystal â rhoi’r cyfle i chi astudio agweddau ar lenyddiaeth Gymraeg hyd at y presennol. Bydd pwyslais arbennig ar ddatblygu ymwybyddiaeth a hybu dealltwriaeth o’r Gymraeg yn y gweithle. RHAGOLYGON GYRFAOEDD Mae gradd mewn Cymraeg Proffesiynol yn gallu arwain at ystod eang o yrfaoedd. Y mae galw mawr am ein graddedigion ac mae’r sgiliau a ddysgwch wrth ddilyn modiwlau mwy ymarferol yn baratoad gwych ar gyfer gyrfa a swydd. Mae nifer o raddedigion yn mynd ymlaen i weithio mewn amryw o feysydd megis addysgu, cyfieithu, newyddiadura, y cyfryngau, golygu a’r byd cyhoeddi, marchnata a chysylltiadau cyhoeddus, swyddogion y wasg, cynllunio ieithyddol, gweinyddiaeth a’r Gwasanaeth Sifil.
“Mae’r radd Cymraeg Proffesiynol yn ymateb i alw, ac mae hefyd yn rhan o’n hymdrech barhaus i ddatblygu modiwlau a chyrsiau sy’n berthnasol i anghenion y Gymru sydd ohoni. Rydym ni’n awyddus i roi cymaint o sgiliau ag sy’n bosib i’n myfyrwyr i’w paratoi nhw orau allwn ni at y farchnad waith. Mae yna nifer o gwmnïau a chyrff cyhoeddus yn cefnogi’r radd ac yn barod i dderbyn myfyrwyr ar brofiad gwaith. Yn eu mysg mae Cyfoeth Naturiol Cymru, Parc Cenedlaethol Eryri, Menter Iaith Môn, Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.” Yr Athro ANGHARD PRICE, Pennaeth Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd
109
“Mae’r cwrs yn wych a’r tair blynedd wedi mynd heibio yn llawer rhy sydyn. Mae rhywbeth at ddant pawb yn yr amrywiaeth eang o fodiwlau a gynigir – rhai llenyddol eu naws fel ‘Barddoniaeth Fodern’, rhai sy’n canolbwyntio ar ramadeg a chywirdeb iaith, megis ‘Defnyddio’r Gymraeg’ a modiwlau sy’n rhoi cyfle i fyfyrwyr ddatblygu eu creadigrwydd, megis ‘Gweithdy Rhyddiaith’. Nid gwaith hawdd yw dewis fy hoff fodiwl gan mor fendigedig oedd y cwbl. Fodd bynnag, y modiwlau creadigol eu natur sy’n cynnig eu hunain fwyaf i mi. Er, chwaeth bersonol yw hynny, cofiwch.” ANNA LEWIS BA Cymraeg
109
CYMRAEG GYDA NEWYDDIADURAETH BA [Anrhydedd] Y FFEITHIAU SYLFAENOL: Cod cwrs UCAS: Q5P5 Hyd: 3 blynedd GOFYNION MYNEDIAD: Cynnig nodweddiadol o isafswm o 112 pwynt tariff o gymhwyster lefel 3* e.e.: • Lefel A (yn cynnwys gradd B mewn Cymraeg) • BTEC Cenedlaethol/Diploma Estynedig: DMM** • Diploma Mynediad i Addysg Uwch gyda Cymraeg fel elfen: Pasio • Derbynnir Cymhwyster Bagloriaeth Cymru • Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn, unigolion â chymwysterau Ewropeaidd ac ymgeiswyr rhyngwladol.
CEFNDIR Y CWRS Mae’r cwrs hwn yn agor nifer o lwybrau gyrfa. Mae’n cynnig sylfaen academaidd dda mewn Cymraeg (dwy ran o dair o’r cwrs) ynghyd â nifer o fodiwlau ymarferol ac academaidd mewn Newyddiaduraeth. Ceir cyfle i flasu newyddiaduraeth heb gau’r drws ar yrfa yn yr holl feysydd sy’n gofyn am radd mewn Cymraeg.
PAM DEWIS BANGOR? • Rydym yn cynnig dewis eang o fodiwlau, yn cynnwys meysydd blaengar megis medrau cyfieithu, ysgrifennu creadigol ac astudiaethau ffilm a theatr. • Mae gennym enw da o safbwynt *Mae cymwysterau lefel 3 yn cynnwys safon ein haddysgu a gofal Lefel A, BTEC, Mynediad, Cymhwyster myfyrwyr. Bagloriaeth Cymru ac eraill – am restr • Mae’r staff yn weithgar ym lawn, cyfeiriwch at www.ucas.com. meysydd ymchwil, beirniadaeth **Gall gael ei ystyried gyda lenyddol, ysgrifennu creadigol a’r chymhwyster arall mewn Cymraeg cyfryngau. e.g. Lefel A • Mae ein proffil uchel a’r parch sydd gan gyflogwyr tuag at ein safonau yn golygu bod llawer o alw am ein myfyrwyr ni. • Gallwch barhau i astudio yn yr Adran hyd at lefel MA, MPhil a PhD. • Dysgir modiwlau Newyddiaduraeth gan Astudiaethau Creadigol a’r MAE MODD GWNEUD Cyfryngau, lle ceir newyddiadurwyr Y CWRS HWN DRWY profiadol i’ch hyfforddi. GYFRWNG Y GYMRAEG • Bydd nifer o ysgoloriaethau ariannol yn cael eu dyfarnu bob blwyddyn (edrychwch ar y tudalennau ar ddechrau’r INTERNATIONAL PROFIAD EXPERIENCEprosbectws). RHYNGWLADOL MODIWLAU DATBLYGU SGILIAU IAITH AR GAEL
MWY O WYBODAETH Tîm Derbyniadau
INTERNATIONAL EXPERIENCE
Ffôn: 01248 382085 e-bost: cymraeg.israddedig@bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/ysgolygymraeg
110
CYMRAEG GYDAG YSGRIFENNU CREADIGOL BA [Anrhydedd] BETH FYDDAF YN EI ASTUDIO? Blwyddyn 1 Cymraeg Modiwlau gorfodol: • Rhyddiaith yr Oesoedd Canol • Llên Gyfoes • Beirniadaeth Lenyddol Ymarferol • Yr Iaith ar Waith • Llên y Cyfnod Modern Cynnar Modiwlau dewisol: • Gweithdy Creadigol • Theatr Fodern Ewrop • Sgriptio Teledu Blwyddyn 2 a 3 Modiwlau gorfodol: • Ymarfer Ysgrifennu • Traethawd Estynedig • Medrau Cyfieithu Byddwch hefyd yn dewis modiwlau o blith ystod eang o ddewisiadau’r radd BA (Anrhydedd) Cymraeg: gweler y cynllun uchod. Newyddiaduraeth Dysgir modiwlau Newyddiaduraeth gan Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau, sydd ag enw da iawn yn y maes hwn. Blwyddyn 1 Modiwlau gorfodol: • Cyflwyniad i Newyddiaduraeth Ymarferol • Cyflwyniad i Ymarfer y Cyfryngau Blwyddyn 2 a 3 Modiwlau gorfodol: • Newyddiaduraeth Ymarferol Ddigidol • Newyddiaduraeth: Moeseg, Cyfraith a Democratiaeth
SUT Y BYDDAF YN DYSGU? Byddwch yn dysgu drwy gyfrwng darlithoedd, seminarau a dosbarthiadau tiwtorial bob wythnos. Ar ben hynny, byddwch yn gwneud traethodau, amrywiol ymarferion, gwaith darllen a pharatoi ar gyfer seminarau. Bydd y cyrsiau Newyddiaduraeth yn cynnwys gwaith ymarferol. Bydd yr asesiad terfynol yn cynnwys arholiadau a gwaith cwrs.
“Roedd pawb roeddwn wedi siarad â nhw am Fangor yn canmol y lle. Ar ben hynny, Bangor yw un o brifysgolion harddaf y wlad, mewn ardal fendigedig sy’n llawn diwylliant a hanes! Mae’n lle gwych i astudio am fod pawb mor gyfeillgar a chlên, ac er bod Bangor yn ddinas fach, mae yma o hyd rywbeth yn mynd ymlaen. Mae’r cwrs yn ddiddorol iawn ac mae amrywiaeth o fodiwlau ar gael i’w hastudio. Mae’r darlithwyr i gyd wedi bod yn groesawus a chyfeillgar dros ben!” MERYL THOMAS Cyn-fyfyriwr Cymraeg gyda Newyddiaduraeth
Y FFEITHIAU SYLFAENOL Cod cwrs UCAS: Q5WK Hyd: 3 blynedd GOFYNION MYNEDIAD: Cynnig nodweddiadol o isafswm o 112 pwynt tariff o gymhwyster lefel 3* e.e.: • Lefel A (yn cynnwys gradd B mewn Cymraeg) • BTEC Cenedlaethol/Diploma Estynedig: DMM** • Diploma Mynediad i Addysg Uwch gyda Cymraeg fel elfen: Pasio • Derbynnir Cymhwyster Bagloriaeth Cymru • Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn, unigolion â chymwysterau Ewropeaidd ac ymgeiswyr rhyngwladol.
CEFNDIR Y CWRS Bydd y radd hon yn eich galluogi i astudio modiwlau iaith a llenyddiaeth Gymraeg wrth i chi ddatblygu eich sgiliau ysgrifennu creadigol. Dylai fod yn arbennig o fuddiol os ydych chi â’ch bryd ar yrfa ym maes dysgu, cyfieithu neu newyddiaduraeth, neu os oes gennych chi ddiddordeb mewn bod yn awdur proffesiynol.
PAM DEWIS BANGOR? • Mae hon yn radd sy’n unigryw i Fangor. Rydym yn cynnig modiwlau arbennig megis Gweithdy Creadigol, Gweithdy Rhyddiaith, Gweithdy Cynghanedd a Sgriptio. • Mae gennym enw da iawn o *Mae cymwysterau lefel 3 yn cynnwys safbwynt safon ein haddysgu a Lefel A, BTEC, Mynediad, Cymhwyster gofal myfyrwyr. Bagloriaeth Cymru ac eraill – am restr lawn, cyfeiriwch at www.ucas.com. • Mae aelodau’r staff yn weithgar ym meysydd cyfieithu ac **Gall gael ei ystyried gyda ysgrifennu creadigol (mae yma chymhwyster arall mewn Cymraeg feirdd, awduron rhyddiaith, e.g. Lefel A dramodwyr a rhai sy’n ysgrifennu ar gyfer teledu a radio sydd wedi ennill gwobrau am eu gwaith), ac y mae rhai o’r enwau mwyaf blaenllaw ym maes ysgrifennu creadigol, ddoe a heddiw, wedi graddio o Fangor. • Mae ein proffil uchel, a’r parch MAE MODD GWNEUD sydd gan gyflogwyr tuag at ein Y CWRS HWN DRWY safonau, yn golygu bod llawer o GYFRWNG Y GYMRAEG alw am ein myfyrwyr ni. • Ar ôl graddio mae’n bosibl astudio hyd at lefel MA, MPhil a PhD ym maes ysgrifennu creadigol. INTERNATIONAL PROFIAD • Bydd nifer o ysgoloriaethau EXPERIENCE RHYNGWLADOL ariannol yn cael eu dyfarnu MODIWLAU DATBLYGU bob blwyddyn (edrychwch ar SGILIAU IAITH AR GAEL y tudalennau ar ddechrau’r prosbectws).
‘
MWY O WYBODAETH Tîm Derbyniadau
BETH FYDDAF YN EI ASTUDIO? Blwyddyn 1 Dyma gyflwyniad i’r Gymraeg ac Ysgrifennu Creadigol. Modiwlau gorfodol: • Gweithdy Creadigol • Sgriptio Teledu • Beirniadaeth Lenyddol Ymarferol • Yr Iaith ar Waith • Llenyddiaeth Gyfoes • Rhyddiaith yr Oesoedd Canol • Theatr Fodern Ewrop • Llenyddiaeth y Cyfnod Modern Cynnar
SUT Y BYDDAF YN DYSGU? Byddwch yn cael eich dysgu drwy gyfrwng darlithoedd, seminarau, dosbarthiadau tiwtorial a gweithdai bob wythnos. Ar ben hynny bydd angen i chi wneud traethodau ac ymarferion, a darllen yn eang. Wrth asesu datblygiad eich medrau ysgrifennu creadigol byddwn yn talu cryn sylw i’ch gwaith gwreiddiol – e.e. storïau byrion, ymsonau, cerddi.
Blwyddyn 2 a Blwyddyn 3 Cewch y cyfle i astudio dewis eang o fodiwlau cyffrous sy’n torri tir newydd ac yn datblygu eich doniau creadigol. Modiwlau gorfodol: • Gweithdy Rhyddiaith • Sgriptio • Ymarfer Ysgrifennu • Gweithdy Barddoniaeth • Traethawd Estynedig • Gweithdy Cynghanedd Byddwch hefyd yn dethol dewisiadau o blith ystod eang o fodiwlau, er enghraifft: • Rhyddid y Nofel • Dafydd ap Gwilym • Chwedlau’r Oesoedd Canol • Medrau Cyfieithu • Y Theatr Gymraeg Fodern • Llenyddiaeth Gymraeg America • O’r Llyfr i’r Llwyfan • Barddoniaeth Fodern • Y Sgrin Fach Gymraeg • Athroniaeth a Llenyddiaeth
INTERNATIONAL EXPERIENCE
Ffôn: 01248 382085 e-bost: cymraeg.israddedig@bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/ysgolygymraeg
111
CYMRAEG, THEATR A’R CYFRYNGAU BA [Anrhydedd] Y FFEITHIAU SYLFAENOL Cod cwrs UCAS: QWM5 Hyd: 3 blynedd GOFYNION MYNEDIAD: Cynnig nodweddiadol o isafswm o 112 pwynt tariff o gymhwyster lefel 3* e.e.: • Lefel A (yn cynnwys gradd B mewn Cymraeg) • BTEC Cenedlaethol/Diploma Estynedig: DMM** • Diploma Mynediad i Addysg Uwch gyda Cymraeg fel elfen: Pasio • Derbynnir Cymhwyster Bagloriaeth Cymru • Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn, unigolion â chymwysterau Ewropeaidd ac ymgeiswyr rhyngwladol.
“Mae yna amrywiaeth o fodiwlau ac mae hi bron yn amhosib diflasu ar y cynnwys! Mae yma ddigon o gyfle i gymdeithasu â myfyrwyr di-Gymraeg yn ogystal â gweithio yn fy iaith fy hun. Mae yna gymhelliant go-iawn i fynd ati i wirfoddoli, a thrwy hynny, i gymdeithasu. Dwi’n teimlo bod yma lwyth o gefnogaeth – mi ydw i wastad yn gwybod lle i droi pan dwi angen ychydig o help ychwanegol. Mae’r Ganolfan Sgiliau Iaith Gymraeg wedi bod o lawer o help. Gan fy mod yn byw yn Llanrug sy’n agos i Fangor, roeddwn i’n poeni nad oeddwn am gael profiadau newydd – ond roeddwn i’n hollol anghywir! NIA HÂF (yn y canol uchod) BA Cymraeg, Theatr a’r Cyfryngau
“Mae’r cwrs Cymraeg yn flaengar iawn yma ym Mangor. Yr hyn sy’n apelio ataf yw amrywiaeth y cwrs. Nid iaith y Mabinogi yn unig yw’r Gymraeg, ond iaith y Gymru gyfoes broffesiynol. Yn ogystal ag astudio’r hen glasuron, cynigir modiwlau ffres a chyffrous, yn astudio teledu Cymraeg a gweithiau llenyddol diweddar. Mae’r ysgol yn manteisio ar y llu o lenorion digymar sydd ganddi hi ac mae’r cyfleoedd ysgrifennu creadigol yn niferus hefyd!” OSIAN WYN OWEN BA Cymraeg
PAM DEWIS BANGOR? • Mae gennym enw da o safbwynt safon ein haddysgu a’n gofal am ein myfyrwyr. *Mae cymwysterau lefel 3 yn cynnwys • Mae gan y rhai sy’n dysgu’r Lefel A, BTEC, Mynediad, Cymhwyster cyrsiau ar y Theatr a’r Cyfryngau Bagloriaeth Cymru ac eraill – am restr brofiad helaeth o weithio yn y lawn, cyfeiriwch at www.ucas.com. meysydd hyn ar lefel broffesiynol. Cynigir rhai o’r modiwlau gan **Gall gael ei ystyried gyda chymhwyster arall mewn Cymraeg Adran Astudiaethau Creadigol a’r e.g. Lefel A Cyfryngau. • Mae ein proffil uchel a’r parch sydd gan gyflogwyr tuag at ei safonau yn golygu bod galw mawr am ein myfyrwyr ni. • Cewch yn y cwrs hwn wybodaeth ddofn am iaith a diwylliant Cymru, yn ogystal â gwybodaeth am y MAE MODD GWNEUD cyfryngau. Bydd hyn yn cynyddu’ch Y CWRS HWN DRWY apêl i gyflogwyr. GYFRWNG Y GYMRAEG • Ar ôl graddio mae’n bosibl astudio hyd at lefel MA, MPhil a PhD. • Bydd nifer o ysgoloriaethau ariannol yn cael eu dyfarnu INTERNATIONAL PROFIAD bob blwyddyn (edrychwch ar EXPERIENCE RHYNGWLADOL y tudalennau ar ddechrau’r MODIWLAU DATBLYGU prosbectws). SGILIAU IAITH AR GAEL
MWY O WYBODAETH Tîm Derbyniadau
INTERNATIONAL EXPERIENCE
Ffôn: 01248 382085 e-bost: cymraeg.israddedig@bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/ysgolygymraeg
112
CEFNDIR Y CWRS Dyma gwrs sy’n rhoi sylfaen gadarn yn y Gymraeg, ac at hynny’n cynnig cyfle i astudio ym maes y theatr a’r cyfryngau. Mae’n cynnig profiadau cyffrous i’r sawl sydd am ddilyn gyrfa nid yn unig ym myd y theatr a’r cyfryngau ond hefyd ym myd addysg. Cewch gyfle i astudio’r Gymraeg a’i llenyddiaeth yn ogystal â drama, theatr, teledu, radio a ffilm. Ceir hefyd gyfle i feithrin dawn greadigol a thalent yn y modiwlau ymarferol.
BETH FYDDAF YN EI ASTUDIO? Blwyddyn 1 Cymraeg Modiwlau gorfodol: • Yr Iaith ar Waith • Llên Gyfoes • Llên y Cyfnod Modern Cynnar Theatr a’r Cyfryngau Modiwlau gorfodol: • Theatr Fodern Ewrop • Sgriptio Teledu • Y Ddelwedd Symudol • Cyflwyniad i Ymarfer y Cyfryngau Blwyddyn 2 a 3 Cymraeg Modiwlau gorfodol: • Ymarfer Ysgrifennu • Traethawd Estynedig Theatr a’r Cyfryngau Modiwlau gorfodol: • Sgriptio • Y Sgrin Fach Gymraeg • O’r Llyfr i’r Llwyfan • Y Theatr Gymraeg Fodern
Theatr a’r Cyfryngau Modiwlau dewisol: • Llwyfannu Theatr • Rhaglenni Dogfen a Drama • Theatr yn y Gymdeithas • Celfyddyd Perfformio • Ymarfer y Cyfryngau: Ffeithiol SUT Y BYDDAF YN DYSGU? Byddwch yn dysgu drwy gyfrwng cyfuniad o ddarlithoedd, seminarau, dosbarthiadau a gweithdai. Ar ben hynny, byddwch yn gweithio ar draethodau, sgriptiau a chynyrchiadau. Fel rhan o’ch cwrs, disgwylir i chi fynychu cynyrchiadau theatrig yn rheolaidd. Gwahoddir cynhyrchwyr a chyfarwyddwyr proffesiynol o fyd teledu, ffilm a’r theatr i drafod eu gwaith gyda’r myfyrwyr. Mae rhai modiwlau’n cael eu hasesu trwy gyfrwng arholiadau a thraethodau, ac eraill ar sail gwaith cwrs yn unig.
Byddwch hefyd yn medru dewis o blith modiwlau eraill Cymraeg.
113
HANES, HANES CYMRU AC ARCHAEOLEG
‘
“Mi wnes i ddewis Bangor fel lle i astudio oherwydd roedd yr adrannau Cymraeg ac Ieithoedd Modern wedi dangos eu hun yn dda a chroesawgar ar y Diwrnodau Agored a’r Diwrnod Ymweld i Ymgeiswyr. Ers dechrau’r cwrs, mae fy nealltwriaeth o fy mhynciau wedi dyfnhau, hyd yn oed ar ôl un semester, ac mae’r modiwlau’n cael eu dysgu gan ddarlithwyr diddorol a brwdfrydig.” ELLIS VAUGHAN BA Cyd-Anrhydedd Cymraeg ac Almaeneg
“Mae’r gefnogaeth sydd ar gael i fyfyrwyr yn wych yma. Mae’r darlithwyr yn hawdd siarad â hwy, a’r mwyafrif yn ddwyieithog.” CERI LOIS OWEN Cyn-fyfyriwr Hanes
“Hoffwn ganmol y dewis o fodiwlau sydd ar gael i fyfyrwyr yn enwedig y modiwlau Hanes Cymru a’r modiwlau cyfrwng Cymraeg.” ADRODDIAD ARHOLWR ALLANOL
114
115
HANES, HANES CYMRU AC ARCHAEOLEG Y FFEITHIAU SYLFAENOL: Hyd: 3 blynedd GOFYNION MYNEDIAD: Ar gyfer cyrsiau gradd cydanrhydedd, cofiwch fwrw golwg ar ofynion mynediad y pwnc arall a ddewiswch. Cynnig nodweddiadol o isafswm o 112 pwynt tariff ar gyfer BA a 120 pwynt tariff ar gyfer MArts o gymhwyster lefel 3* e.e.: • Lefel A (Hanes yn ddymunol) • BTEC Cenedlaethol/Diploma Estynedig: DMM • Diploma Mynediad i Addysg Uwch: Pasio • Derbynnir Cymhwyster Bagloriaeth Cymru • Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn, unigolion â chymwysterau Ewropeaidd ac ymgeiswyr rhyngwladol.
CWRS CYRSIAU CYFRWNG CYMRAEG BA (anrhydedd) Hanes: BA (anrhydedd) Hanes Cymru a Hanes BA (anrhydedd) Hanes gyda Newyddiaduraeth: MArts (anrhydedd) Hanes
V100 VV12 V1PM V101
CYRSIAU CYFRWNG SAESNEG BA (anrhydedd) Hanes Canoloesol a Modern Cynnar: BA (anrhydedd) Hanes Cymru gydag Archaeoleg: BA (anrhydedd) Hanes gydag Archaeoleg: BA (anrhydedd) Hanes ac Archaeoleg: BA (anrhydedd) Hanes gydag Astudiaethau Ffilm: BA (anrhydedd) Hanes Modern a Chyfoes: BA (anrhydedd) Treftadaeth, Archaeoleg a Hanes:
V130 V1VK V1V4 V103 V1W6 V140 VV41
Ar gyfer cynlluniau gradd cyd-anrhydedd rhwng Hanes neu Hanes Cymru a phynciau eraill, megis Cymraeg neu Saesneg, trowch i dudalen 64.
ASTUDIO TRWY’R GYMRAEG Gellir astudio’r cyrsiau canlynol trwy gyfrwng y Gymraeg – Hanes, Hanes Cymru, a Hanes gyda Newyddiad *Mae cymwysterau lefel 3 yn cynnwys uduraeth. Mae’r holl fodiwlau Hanes Lefel A, BTEC, Mynediad, Cymhwyster Cymru ar gael trwy gyfrwng y Bagloriaeth Cymru ac eraill – am restr Gymraeg a nifer o fodiwlau Hanes lawn, cyfeiriwch at www.ucas.com hefyd. Gallwch ysgrifennu eich traethodau a sefyll arholiadau yn Gymraeg lle bo’r darlithoedd yn cael eu cyflwyno yn Saesneg os ydych yn dymuno gwneud hynny. Cofiwch hefyd ei bod yn bosibl gwneud rhai o’ch modiwlau yn Gymraeg a rhai eraill yn Saesneg. Mae hyn yn wir MAE MODD GWNEUD am y cynlluniau gradd Treftadaeth, Y CWRS HWN DRWY Archaeoleg a Hanes; Hanes GYFRWNG Y GYMRAEG Canoloesol a Modern Cynnar; Hanes Cyfoes a Modern; Hanes gydag Astudiaethau Ffilm; Hanes gydag Archaeoleg; Hanes Cymru gydag INTERNATIONAL PROFIAD Archaeoleg. EXPERIENCE RHYNGWLADOL MODIWLAU DATBLYGU SGILIAU IAITH AR GAEL
MWY O WYBODAETH Tîm Derbyniadau Hanes ac Archaeoleg Ffôn: 01248 382085 e-bost: hanes@bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/hanes
116
HANES BA [Anrhydedd]/MArts (Hanes)
MODIWLAU TRWY’R GYMRAEG Mae’n bosib dewis modiwlau Hanes ac Archaeoleg, a ddysgir trwy’r Gymraeg, fel rhan o gynlluniau INTERNATIONAL gradd eraill: EXPERIENCE • Gradd gyd-anrhydedd mewn Hanes a phwnc arall megis Troseddeg • Gradd gyd-anrhydedd mewn Hanes Cymru a phwnc arall megis Cymraeg • Hanes gydag Archaeoleg • Treftadaeth, Archaeoleg a Hanes • Hanes Canoloesol a Modern Cynnar • Hanes Modern a Chyfoes • Hanes gydag Astudiaethau Ffilm
Gallwch ddewis modiwlau e.e.: • Cymru: Tywysogion i Duduriaid • Cymru yn y Byd Modern • Gwladgarwyr a Gwladychwyr • Môrladron a Brenhinoedd y Môr • Owain Glyndŵr a’i Fudiad • Cymru 1660-1789 • Cymru: Gormeswyr i Dywysogion • Ail-danio’r Ddraig • Rhyfel Cartef America HANES AC ARCHAEOLEG YM MANGOR Rydym wedi ein lleoli ym mhrif adeilad y Brifysgol ac mae llyfrgell y celfyddydau a’r archifau gerllaw. Mae amgueddfa leol hefyd ym Mangor sy’n cadw casgliad helaeth o arteffactau – o offer o Oes y Cerrig i grochenwaith canoloesol – y bydd myfyrwyr Archaeoleg yn cael cyfle i’w trafod. Mae amrywiaeth eithriadol o henebion yng nghyffiniau Bangor, o feddrodau a chylchoedd cerrig hynafol a cheyrydd Rhufeinig i lysoedd y tywysogion Cymreig, cestyll canoloesol ac olion diwydiannol. Dynodwyd cestyll Biwmares, Caernarfon a Chonwy yn safleoedd Treftadaeth y Byd. Caiff myfyrwyr gyfle i fynd ar deithiau maes i rai o’r canolfannau hyn, a rhoddir cyfle hefyd i weithio yn yr archifdai, yr amgueddfeydd neu’r uned archaeolegol leol. Bydd y cyrsiau Archaeoleg yn cynnwys gwaith cloddio ymarferol.
CEFNDIR Y CYRSIAU Mae’r cyrsiau’n cynnig profiad addysgol gwerth chweil, gyda chwmpas eang o ddewisiadau. Byddwch yn astudio themâu a syniadau newydd ac yn datblygu medrau ymarferol hefyd, medrau y mae cyflogwyr yn rhoi cryn bwys arnynt. Mae arolygon yn dangos yn gyson fod graddedigion y dyniaethau yn cael gwaith ynghynt na graddedigion sydd wedi astudio pynciau sydd, ar yr wyneb, yn rhai mwy galwedigaethol. PAM DEWIS BANGOR? • Mae gennym arbenigedd mewn hanes modern a chyfoes yn ogystal ag mewn hanes canoloesol, modern cynnar, hanes Cymru ac archaeoleg. Gallwch astudio amrywiaeth o gyfnodau a thestunau neu ddewis arbenigo. • Mae hanes yn ddwfn yn yr ardal ac mae’n adnodd gwych ar gyfer gwaith maes. Dyma’r lle naturiol i ddod i astudio hanes Cymru. • Mae gennym enw rhagorol am ansawdd ein dysgu a’n blaengarwch mewn ymchwil. BETH FYDDAF YN EI ASTUDIO? Byddwch yn dilyn cymysgedd o fodiwlau craidd a modiwlau dewisol. Bydd cyfle i chi wneud traethawd estynedig yn ystod eich blwyddyn olaf, ac mae cyfle hefyd i ddilyn modiwl gweithle. SUT Y BYDDAF YN DYSGU? Darlithoedd, seminarau, tiwtorialau, gwaith ar y we, ymweliadau ag amgueddfeydd, teithiau maes. Asesir drwy gymysgedd o arholiadau, seminarau, gwaith cwrs, traethawd estynedig, blogiau a chyflwyniadau llafar.
Y FFEITHIAU SYLFAENOL Cod cwrs UCAS: V100; V101 Hyd: 3 blynedd (BA); 4 blynedd (MArts) GOFYNION MYNEDIAD: Ar gyfer cyrsiau gradd cydanrhydedd, cofiwch fwrw golwg ar ofynion mynediad y pwnc arall a ddewiswch. Cynnig nodweddiadol o isafswm o 112 pwynt tariff ar gyfer BA a 120 pwynt tariff ar gyfer MArts o gymhwyster lefel 3* e.e.: • Lefel A (Hanes yn ddymunol) • BTEC Cenedlaethol/Diploma Estynedig: DMM • Diploma Mynediad i Addysg Uwch: Pasio • Derbynnir Cymhwyster Bagloriaeth Cymru • Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn, unigolion â chymwysterau Ewropeaidd ac ymgeiswyr rhyngwladol.
CEFNDIR Y CWRS Mae Hanes yn bwnc ysbrydoledig, deinamig a pherthnasol. Mae wastad yn ehangu ac yn newid i amsugno syniadau newydd ac i ofyn cwestiynau newydd am y gorffennol. Bydd astudio hanes yn eich helpu i ddatblygu sgiliau sy’n cael eu hystyried yn werthfawr gan gyflogwyr, fel y gallu i gasglu a dadansoddi data ac i lunio dadl glir.
PAM DEWIS BANGOR? • Mae Hanes yn radd eang sy’n cynnig ystod o opsiynau. • Bydd cyfle i chi astudio ystod o gyfnodau a gwledydd, canolbwyntio ar gyfnodau penodol neu astudio hanes Prydeinig neu Ewropeaidd yn bennaf. • Mae gennym arbenigedd mewn hanes modern a chyfoes yn ogystal ag mewn hanes canoloesol, modern cynnar, hanes Cymru, *Mae cymwysterau lefel 3 yn cynnwys Lefel A, BTEC, Mynediad, Cymhwyster archaeoleg a threftadaeth. Bagloriaeth Cymru ac eraill – am restr • Mae hanes yn ddwfn yn yr ardal lawn, cyfeiriwch at www.ucas.com leol ac mae safleoedd sy’n bwysig yn rhyngwladol ar garreg ein drws, yn adnodd dysgu gwerthfawr. • Mae gennym enw da o safbwynt ein dysgu ac rydym yn cyfuno’r defnydd o dechnoleg newydd â dysgu mewn MAE MODD GWNEUD grwpiau bychain a sylw personol. Y CWRS HWN DRWY • Boddhad myfyriwr o 100% mewn GYFRWNG Y GYMRAEG Hanes (Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2018). • Rydym yn cydnabod pwysigrwydd medrau trosglwyddadwy ac yn INTERNATIONAL PROFIAD gwneud defnydd mawr o EXPERIENCE RHYNGWLADOL dechnoleg gwybodaeth. Mae MODIWLAU DATBLYGU cyfleoedd hefyd i ddefnyddio SGILIAU IAITH AR GAEL medrau hanes ar leoliad gwaith. BETH FYDDAF YN EI ASTUDIO?
MWY O WYBODAETH Tîm Derbyniadau Hanes ac Archaeoleg Ffôn: 01248 382085 e-bost: hanes@bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/hanes
INTERNATIONAL EXPERIENCE
Blwyddyn 1 Byddwch yn treulio o leiaf draean o’ch amser yn astudio Hanes. Gallwch ddewis mwy o fodiwlau hanes a phynciau cysylltiedig, gwella eich medrau technoleg gwybodaeth neu fedrau ieithyddol, neu gallwch ddilyn pynciau cyflenwol (gweler t.64 am y cyrsiau cyd-anrhydedd).
Modiwlau: • Apocalyps: y 14eg Ganrif • Genedigaeth Ewrop Fodern 1460-1560 • Cyflwyniad i Hanes Modern 1815-1914 • Dechrau o’r Dechrau • Cymru: Tywysogion i Duduriaid • Cymru yn y Byd Modern • Opsiynau Archaeoleg a Threftadaeth Blwyddyn 2 Cewch ddewis astudio cyfnodau arbennig mewn dyfnder trwy fodiwlau cyffredinol a chymryd cyrsiau thematig mwy arbenigol. Fel rheol, cewch ddewis 4/ 5 modiwl. Modiwl gorfodol: • Dehongli’r Gorffennol neu • Perceptions of the Past Dewisiadau: Ceir ystod eang o fodiwlau dewisol e.e. Y Tuduriaid; Ewrop: Oes y Rhyfel Oer; Rhyfeloedd Sanctaidd; Cenedlaetholdeb yn Sbaen; Prydain Thatcher; Owain Glyndŵr a’i Fudiad; Ail-danio’r Ddraig: Cymru wedi 1939. Blwyddyn 3 Byddwch yn dewis pwnc arbennig o blith tua 12 sydd ar gael, sy’n adlewyrchu diddordebau ymchwil ein staff. Byddwch yn gwneud traethawd estynedig – project ymchwil ar bwnc o ddiddordeb arbennig i chi e.e. Edward I a’r Cyrion Celtaidd, Adfywiad Celtaidd 1800-1920. Ar ben hynny, byddwch yn gwneud modiwlau pellach o ddetholiad o ddewisiadau. Blwyddyn 4 Mae’r cwrs MArts yn dilyn yr un rhaglen â’r cwrs BA am y tair blynedd gyntaf. Bwriad y bedwaredd flwyddyn yw gwella eich sgiliau fel hanesydd, gyda chefnogaeth staff profiadol. Byddwch yn dilyn modiwlau penodol ac yn cwblhau ymchwil.
SUT Y BYDDAF YN DYSGU? Byddwch yn cael tua 8 i 12 awr o ddarlithoedd, seminarau a dosbarthiadau tiwtorial bob wythnos. Byddwch yn treulio dwywaith yr amser hwnnw yn darllen ac yn gwneud gwaith cwrs. Yn ogystal â hyn, bydd teithiau maes a sesiynau ymarferol ynghlwm â’r modiwlau archaeoleg a threftadaeth. Bydd rhai modiwlau hanes, yn enwedig modiwlau pwnc-arbennig hefyd yn cynnwys teithiau maes. Mae rhai modiwlau hanes, yn enwedig cyrsiau pwnc arbenigol, wedi golygu teithiau i Hampton Court, Caerdydd a mannau lleol, tra gall y modiwlau Ewropeaidd olygu teithiau i fannau o ddiddordeb dramor. Gallwch ddilyn modiwl lleoliad gwaith neu gymryd rhan mewn cynllun cyfnewid i’r Unol Daleithiau yn ystod yr ail flwyddyn. Os ydych yn dilyn Hanes fel pwnc gradd cydanrhydedd gydag iaith, byddwch yn treulio eich trydedd blwyddyn dramor cyn dychwelyd i Fangor ar gyfer eil blwyddyn olaf. Mae asesiad yn cynnwys cymysgedd o arholiadau a thraethodau cyflwyniadau portffolios, blogiau a’r traethawd estynedig. RHAGOLYGON GYRFAOEDD Bydd gradd dda mewn Hanes, yn cyfuno gwybodaeth gadarn o hanes ag amrediad o fedrau dadansoddi a chyflwyno trosglwyddadwy. Byddwch yn gallu dewis o blith amryw o yrfaoedd, e.e. y gwasanaeth sifil, llywodraeth leol, dysgu a thwristiaeth. Yn ddiweddar, mae graddedigion Hanes o Fangor wedi mynd i yrfaoedd mewn masnach, treftadaeth, yn y gyfraith, fel athrawon, ac yn y lluoedd arfog.
GRADDAU CYD-ANRHYDEDD Ewch i dudalen 64 am fanylion am raddau cyd-anrhydedd.
117
HANES GYDA NEWYDDIADURAETH BA [Anrhydedd] FFEITHIAU AM Y CWRS Cod cwrs UCAS: V1PM Hyd: 3 blynedd GOFYNION MYNEDIAD: Ar gyfer cyrsiau gradd cydanrhydedd, cofiwch fwrw golwg ar ofynion mynediad y pwnc arall a ddewiswch. Cynnig nodweddiadol o isafswm o 112 pwynt tariff ar gyfer BA o gymhwyster lefel 3* e.e.: • Lefel A (Hanes yn ddymunol) • BTEC Cenedlaethol/Diploma Estynedig: DMM • Diploma Mynediad i Addysg Uwch: Pasio • Derbynnir Cymhwyster Bagloriaeth Cymru • Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn, unigolion â chymwysterau Ewropeaidd ac ymgeiswyr rhyngwladol. *Mae cymwysterau lefel 3 yn cynnwys Lefel A, BTEC, Mynediad, Cymhwyster Bagloriaeth Cymru ac eraill – am restr lawn, cyfeiriwch at www.ucas.com
MAE MODD GWNEUD Y CWRS HWN DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG
PROFIAD RHYNGWLADOL MODIWLAU DATBLYGU SGILIAU IAITH AR GAEL
MWY O WYBODAETH Tîm Derbyniadau Hanes ac Archaeoleg Ffôn: 01248 382085 e-bost: hanes@bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/hanes
CEFNDIR Y CWRS Mae’r cyfryngau – papurau newydd, radio, teledu a’r rhyngrwyd – yn dod yn fwyfwy pwysig yn ein bywydau. Mae’n bwysig deall, felly, sut y newidiodd swyddogaeth y cyfryngau yn y gorffennol yn ogystal ag yn y presennol. Mae’n debyg fod diddordeb gennych eisoes mewn hanes modern a chyfoes, gwleidyddiaeth neu faterion cyfoes. Mae’n bur debyg fod gennych ddiddordeb byw hefyd mewn un neu fwy o feysydd y cyfryngau. Bydd y cwrs yn rhoi i chi seiliau deallusol ac academaidd amrywiol ac eang. Bydd hefyd yn darparu’r medrau a’r wybodaeth a fydd yn eich helpu i ddilyn gyrfa mewn newyddiaduraeth. PAM DEWIS BANGOR? • Mae gennym enw da am ymchwil a dysgu mewn Hanes a Hanes Cymru. • Mae nifer o ganolfannau cyfryngau darlledu a’r wasg yn y cyffiniau. • Ceir hyfforddiant mewn Newyddiaduraeth gan newyddiadurwyr profiadol. • Mae bywyd y myfyrwyr yn fywiog ac mae cyfle i Gymry ifanc fwynhau pob math o weithgarwch yn y Gymraeg. BETH FYDDAF YN EI ASTUDIO?
Blwyddyn 1 Byddwch yn dilyn cyfuniad o fodiwlau Hanes a modiwlau sy’n INTERNATIONAL ymwneud â newyddiaduraeth. EXPERIENCE Bydd y modiwlau Hanes a Hanes Cymru a argymhellir yn rhoi cryn sylw i swyddogaeth y cyfryngau yng ngwleidyddiaeth yr ugeinfed ganrif a’u dylanwad arni, ac yn edrych ar yr INTERNATIONAL her a’r cyfleoedd a roddwyd i Gymru EXPERIENCE gan ddatblygiadau pan-Ewropeaidd diweddar. Bydd gofyn i chi ddewis o leiaf dau fodiwl Hanes, ond gallwch ddewis astudio mwy o fodiwlau Hanes a phynciau cysylltiedig os dymunwch hynny. • Cymru yn y Byd Modern
Bydd modiwlau newyddiadurol yn datblygu medrau sylfaenol ac yn cyflwyno nodweddion allweddol disgyblaeth newydd: • Newyddiaduraeth Ymarferol Sylfaenol • Ysgrifennu, Is-olygu a Sgriptio • Technoleg Gwybodaeth ar gyfer Newyddiadurwyr • Gweinyddu Cyhoeddus Blwyddyn 2 a 3 Byddwch yn treulio bron i ddwy ran o dair o’ch amser yn gwneud modiwlau Hanes. Cewch gyfle i ddewis amrywiaeth helaeth o fodiwlau. Bydd rhai ohonynt yn gyffredinol ac wedi cael eu cynllunio i ddatblygu ymwybyddiaeth o dueddiadau dros amser, tra bydd eraill yn canol-bwyntio ar un testun/ cyfnod. Yn ystod yr ail flwyddyn bydd modiwl gorfodol, Dehongli’r Gorffennol, yn canolbwyntio ar sut y cafodd y gorffennol ei gyflwyno mewn ysgrifen, a dylanwad ysgrifennu ar ddatblygiad hanes ei hun. Rhoddir cyfle hefyd i ddatblygu dealltwriaeth lawn o gymdeithas a gwleidyddiaeth Cymru ochr yn ochr ag archwilio datblygiadau y tu allan iddi drwy astudio modiwlau ar hanes Ewrop, America a Phrydain yn ystod yr ugeinfed ganrif. Gallwch hefyd ddilyn modiwlau sy’n cael eu dysgu trwy gyfrwng y Saesneg, gan ysgrifennu gwaith cwrs a gwaith i’w asesu yn Gymraeg os mynnwch. Bydd cyfle i chi hefyd wneud ‘modiwl yn y gweithle’ gyda phapur newydd neu gyfryngau lleol neu ymchwilio mewn archifdy lleol. Yn ystod y drydedd flwyddyn byddwch yn dewis pwnc arbennig a fydd yn caniatáu i chi astudio testun mewn dyfnder. Byddwch yn gwneud traethawd estynedig lle byddwch yn gwneud eich gwaith ymchwil eich hun. Anogir chi i ysgrifennu ar bwnc hanesyddol sy’n ymwneud â newyddiaduraeth neu’r cyfryngau.
datblygu dealltwriaeth ehangach o’r cyd-destun y mae newyddiadurwyr yn gweithredu ynddo, gan edrych ar gyfryngau print a darlledu. Bydd cyfle hefyd i gryfhau medrau ymarferol perthnasol. Ymhlith y modiwlau a gynigir mae: • Newyddiaduraeth a Chymdeithas • Datblygiad a Sensoriaeth Teledu • Newyddiaduraeth Ymarferol • Hanfodion Newyddiaduraeth a Dadansoddi • Ffotonewyddiaduraeth a Chynllunio Gweledol SUT Y BYDDAF YN DYSGU? Byddwch yn cael tua 8-12 awr o ddarlithoedd a dosbarthiadau tiwtorial bob wythnos. Byddwch yn treulio cryn dipyn o amser yn darllen, ymchwilio, ysgrifennu traethodau a pharatoi ar gyfer cyflwyniadau mewn tiwtorial. Bydd rhai modiwlau yn gwneud defnydd arbennig o ddogfennau, ffilm a rhaglenni dogfen yn ogystal â hanes llafar. Bydd eraill yn cynnwys teithiau i weld safleoedd perthnasol yng Nghymru a thu hwnt. Bydd y modiwlau Newyddiaduraeth yn cynnwys gwaith ymarferol. Bydd cyfle i chi hefyd wneud modiwl ar leoliad gwaith mewn archifdy lleol, neu amgueddfa, neu yn y byd newyddiadurol. Asesir drwy gymysgedd o arholiadau a thraethodau yn ogystal â thraethawd estynedig yn y flwyddyn olaf. RHAGOLYGON GYRFAOEDD Mae hwn yn gwrs sy’n rhoi dealltwriaeth ymarferol a theoretig o broffesiwn y newyddiadurwr, ynghyd â dealltwriaeth gyd-destunol fanwl o faterion cyfoes a digwyddiadau blaenorol. Bydd yr amrediad o fedrau dadansoddi a chyflwyno a gewch yn eich galluogi i gyflawni tasgau yn y cyfryngau yn gywir ac yn eglur iawn.
“Dwi’n hoffi pa mor barod yw’r adran Hanes i mi gyflwyno fy ngwaith yn y Gymraeg. Mae dilyn y modiwlau wedi datblygu fy Nghymraeg academaidd. Mae yna ddewis o amryw o fodiwlau o gyfnodau gwahanol ac yn y drydedd flwyddyn rydych yn gwneud traethawd hir - roeddwn yn hoffi dewis pwnc fy hun a’i archwilio. Mae’r Gymraeg yn hanfodol bwysig yma ym Mangor. Mae’r Brifysgol yn cymryd camau mawr i hyrwyddo’r iaith yma, gan gynnwys creu modiwlau iaith Gymraeg. Mae digon o adnoddau yn y llyfrgell ar gyfer myfyrwyr Cymraeg, sy’n bleser ei weld. Rwyf wedi mwynhau gallu datblygu fy sgiliau ysgrifennu a darllen Cymraeg yn ystod fy nghyfnod yma, gyda chymorth fy narlithwyr Cymraeg eu hiaith. Byddwn yn awgrymu Bangor fel lle i fyw ac astudio i unrhyw berson. Mae Bangor yn lle canolog i chi allu dod i adnabod gogledd Cymru. Mae popeth o fewn cyrraedd i chi yn y ddinas, a does dim rhaid cerdded yn bell i’r siopau neu i ddarlithoedd. Mae astudio yma yn bleser, gyda’r Gymraeg yn bwysig iawn yn yr adran Hanes.” SARAH SHANNON MARIE LOCK BA Hanes Canoloesol a Modern Cynnar
Bydd y modiwlau newyddiaduraeth yn ystod y blynyddoedd hyn yn
118
119
HANES CYMRU A HANES BA [Cyd-Anrhydedd] Y FFEITHIAU SYLFAENOL Mae llawer o fodiwlau cyfrwng Cymraeg ar gael ar y cwrs hwn. Cod cwrs UCAS: VV12 Hyd: 3 blynedd GOFYNION MYNEDIAD: Cynnig nodweddiadol o isafswm o 112 pwynt tariff ar gyfer BA a 120 pwynt tariff ar gyfer MArts o gymhwyster lefel 3* e.e.: • Lefel A (Hanes yn ddymunol) • BTEC Cenedlaethol/Diploma Estynedig: DMM • Diploma Mynediad i Addysg Uwch: Pasio • Derbynnir Cymhwyster Bagloriaeth Cymru • Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn, unigolion â chymwysterau Ewropeaidd ac ymgeiswyr rhyngwladol.
CEFNDIR Y CWRS Mae hon yn radd eang sy’n cynnig y cyfle i astudio ystod eang o gyfnodau gydag arbenigedd mewn Hanes Cymru. Bydd y cwrs yn trafod esblygiad Cymru, ei gwleidyddiaeth a’i diwydiant; ei chymdeithas a’i chrefydd trwy’r canrifoedd, ac yn rhoi hyn yng nghyd-destun datblygiadau mewn Hanes Prydeinig, Ewropeaidd ac Americanaidd o’r Oesoedd Canol hyd at y presennol.
PAM DEWIS BANGOR? • Mae Bangor yn ganolfan flaenllaw ar gyfer astudio hanes Cymru. Mae Bangor wedi bod ag enw ardderchog am ymchwil yn y maes hwn ers blynyddoedd lawer. • Mae gennym arbenigedd mewn hanes modern a chyfoes yn *Mae cymwysterau lefel 3 yn cynnwys ogystal â mewn hanes canoloesol, Lefel A, BTEC, Mynediad, Cymhwyster modern cynnar a hanes Cymru ac Bagloriaeth Cymru ac eraill – am restr archaeoleg a threftadaeth. lawn, cyfeiriwch at www.ucas.com. • Rydym yn cynnig y cyfle i astudio ystod eang o fodiwlau Hanes Cymru ac mae gennym enw ardderchog am safon ein dysgu ac rydym wedi ein hymrwymo i ddysgu mewn grwpiau bychain. • Mae hanes yn ddwfn yn yr ardal leol, a chyda safleoedd rhyngwladol bwysig ar garreg ein drws – o Gynhanes hyd at y Chwyldro Diwydiannol – yn darparu adnoddau dysgu gwerthfawr. • Bydd amrywiaeth helaeth o adnoddau’n cael eu defnyddio INTERNATIONAL PROFIAD wrth ddysgu’r cwrs. Mae’r rhain EXPERIENCE RHYNGWLADOL yn cynnwys archifdai lleol ac MODIWLAU DATBLYGU amgueddfeydd. SGILIAU IAITH AR GAEL • Ceir cyfoeth o henebion heb fod ymhell o Fangor gan gynnwys cestyll a safleoedd allweddol yn y INTERNATIONAL Chwyldro Diwydiannol. MWY O WYBODAETH Tîm Derbyniadau Hanes ac Archaeoleg
Ffôn: 01248 382085 e-bost: hanes@bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/hanes
120
EXPERIENCE
BETH FYDDAF YN EI ASTUDIO? Blwyddyn 1 • Cymru: Tywysogion i Duduriaid • Cymru yn y Byd Modern • Dechrau o’r Dechrau
Ac o leiaf un allan o: • Apocalyps: y 14eg Ganrif • Genedigaeth Ewrop Fodern 1470-1600 • Cyflwyniad i Hanes Modern 1815-1914 ae grŵp seminar Cymraeg ar gael M i’r uchod. Cewch ddewis gweddill eich modiwlau allan o amrywiaeth a gynigir, a bydd cyfle i gymryd modiwlau gwerth 20 credyd mewn pwnc arall e.e. Cymraeg. Blwyddyn 2 Byddwch yn astudio cyfnodau a themâu mewn dyfnder a gallwch ddewis o amrywiaeth o fodiwlau. Bydd llawer o’r modiwlau yn gwneud defnydd o ffynonellau gwreiddiol ac mae modiwl yn y gweithle hefyd ar gael. Bydd gennych hefyd y cyfle i ddatblygu eich sgiliau ymchwil a chyflwyno. Modiwlau gorfodol: • Dehongli’r Gorffennol Modiwlau dewisol Hanes (dewis 2) Mae ystod o fodiwlau ar gael e.e. Y Tuduriaid; Ewrop: Oes y Rhyfel Oer; Rhyfeloedd Sanctaidd; Cenedlaetholdeb yn Sbaen; Rhyfel Cartref America. Modiwlau dewisol Hanes Cymru (dewis 2): Owain Glyndŵr a’i Fudiad; Cymru 1660-1789; Gormeswyr i Dywysogion; Modiwl Gweithle Hanes Cymru; Y Deddfau Uno; Aildanio’r Ddraig: Cymru wedi 1939; Cymru, Ewrop a’r Dadeni Dysg. Blwyddyn 3 Byddwch yn dewis Pwnc Arbennig mewn Hanes neu Hanes Cymru – dyma fodiwl sy’n defnyddio ffynonellau gwreiddiol ac sy’n seiliedig ar ymchwil y tiwtor. Byddwch hefyd yn ysgrifennu traethawd hir sy’n rhoi’r cyfle i chi wneud eich ymchwil eich hun. Byddwch hefyd yn cwblhau modiwlau eraill (gweler blwyddyn 2 uchod).
Enghreifftiau o ddewisiadau Pwnc Arbennig posib: The Norman Conquest, Going to the Devil – Henry II, Land and Power in England & Wales 1780-1888, Home and Front during WW1, Britain in the 1960s, Edward I a’r Cyrion Celtaidd, Cyfraith a Chymdeithas yng Nghymru 1558-1640, Law and Society in Wales 1558-1640, Adfywiad Celtaidd 1800-1920. SUT Y BYDDAF YN DYSGU? Byddwch yn cael tua 8-12 awr o ddarlithoedd, seminarau a dosbarthiadau tiwtorial bob wythnos. Byddwch hefyd yn treulio cryn dipyn o amser yn darllen, ymchwilio, ysgrifennu traethodau a pharatoi ar gyfer cyflwyniadau mewn tiwtorial. Bydd rhai modiwlau yn gwneud defnydd arbennig o ddogfennau, ffilm a rhaglenni dogfen, yn ogystal â hanes llafar. Bydd eraill yn cynnwys teithiau i weld safleoedd perthnasol yng Nghymru a thu hwnt. Bydd cyfle i chi hefyd wneud modiwl ar leoliad gwaith mewn archifdy lleol neu amgueddfa a gwneud project ar y deunydd y byddwch yn ei drafod. Asesir trwy gymysgedd o arholiadau a thraethodau a thraethawd estynedig yn y flwyddyn olaf. RHAGOLYGON GYRFAOEDD Mae’r cwrs hwn yn rhoi gwybodaeth arbenigol am Gymru o fewn cyddestun Ewropeaidd, a chydag amrediad o fedrau dadansoddi a chyflwyno. Bydd yn eich galluogi i ddewis o blith amryw o yrfaoedd sy’n canolbwyntio ar weinyddu ac arweiniad cyhoeddus, yn arbennig ond nid yn neilltuol yng Nghymru; er enghraifft, mewn adrannau personél mewn diwydiant yn y sector preifat, yn y gwasanaeth sifil ac mewn llywodraeth leol, dysgu a thwristiaeth. Yn ddiweddar, mae graddedigion wedi mynd i yrfaoedd ym meysydd ymchwil wleidyddol, archifau, y gwasanaethau lles, addysgu a diwydiannau diwylliannol.
GRADDAU CYD-ANRHYDEDD Ewch i dudalen 64 am fanylion am raddau cyd-anrhydedd.
ATHRONIAETH A CHREFYDD
“Mae ansawdd yr addysgu a’r gofal a gymerir dros y myfyrwyr wedi gwneud cryn argraff arnaf. Mae’r staff yn wybodus yn eu meysydd pwnc ac yn cynhyrchu modiwlau cyffrous ac arloesol sy’n hoelio sylw’r myfyrwyr.” ARHOLWR ALLANOL
Mae’r Ysgol Athroniaeth a Chrefydd wedi datblygu o’r hanes maith ac anrhydeddus o ddysgu ac ymchwil mewn athroniaeth a chrefydd ym Mangor ers y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
121
ATHRONIAETH A CHREFYDD Y FFEITHIAU SYLFAENOL Cod cwrs UCAS: VV56 BA/PhRe Gweler tudalen 64 ar gyfer cod UCAS graddau cyd-anrhydedd sy’n cynnwys Athroniaeth a Chrefydd Hyd: 3 blynedd GOFYNION MYNEDIAD: Ar gyfer cyrsiau gradd cydanrhydedd, cofiwch fwrw golwg ar ofynion mynediad y pwnc arall a ddewiswch. Cynnig nodweddiadol o isafswm o 104 pwynt tariff o gymhwyster lefel 3* e.e.: • Lefel A (dim angen unrhyw bwnc penodol) • BTEC Cenedlaethol/Diploma Estynedig: MMM • Diploma Mynediad i Addysg Uwch: Pasio • Derbynnir Cymhwyster Bagloriaeth Cymru • Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn, unigolion â chymwysterau Ewropeaidd ac ymgeiswyr rhyngwladol.
CWRS BA (anrhydedd) Athroniaeth a Chrefydd: ASTUDIO TRWY’R GYMRAEG Mae modd astudio cyfran sylweddol o’r cwrs Athroniaeth a Chrefydd drwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae’r modiwlau canlynol yn cael eu cynnig yn gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg: • Blwyddyn 1: Moeseg: Agweddau Crefyddol; Cyflwyniad i Iddewiaeth a Christnogaeth. • Blwyddyn 2 a 3: Moeseg Gymhwysol; Natur a Chrefydd y Gorllewin; Crefydd, Cenedligrwydd a Rhywioldeb; Yr Holocost; Astudiaeth Annibynnol (Blwyddyn 2); Traethawd Hir (Blwyddyn 3, 40 credyd). Mae’n bosib cyflwyno aseiniadau a sefyll arholiadau yn Gymraeg ym mhob modiwl.
*Mae cymwysterau lefel 3 yn cynnwys Lefel A, BTEC, Mynediad, Cymhwyster Bagloriaeth Cymru ac eraill – am restr lawn, cyfeiriwch at www.ucas.com.
PROFIAD RHYNGWLADOL MODIWLAU DATBLYGU SGILIAU IAITH AR GAEL
MWY O WYBODAETH Tîm Derbyniadau Athroniaeth a Chrefydd Ffôn: 01248 382085 e-bost: athroniaeth@bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/spar
122
CEFNDIR Y CYRSIAU Mae ein rhaglenni BA (sengl a chyd-anrhydedd) yn ymdrin â sawl agwedd ar athroniaeth a chrefydd. Mae’r modiwl Traethawd Hir yn eich galluogi i arbenigo mewn maes o’ch diddordeb eich hun o fewn athroniaeth neu grefydd. Mae ein rhaglen BA hefyd yn rhoi’r dewis i chi gyfuno astudiaethau mewn athroniaeth a chrefydd â phynciau eraill (gweler tudalen 64 am restr). Yn eich gradd BA byddwch INTERNATIONAL yn gallu astudio sawl agwedd ar EXPERIENCE athroniaeth a chrefydd, yn cynnwys: Moeseg, Dirfodaeth, Seicoleg Crefydd, Problem Drygioni, Gender a Rhywioldeb, crefyddau amrywiol megis Bwdhaeth, Hindŵaeth, INTERNATIONAL Iddewiaeth ac Islam, a’r cysylltiadau EXPERIENCE rhwng athroniaeth a chrefydd. Bydd yr awyrgylch cyfeillgar ac anffurfiol yn eich helpu i feithrin sgiliau trafod a meddwl yn annibynnol.
arwain at gyflwyno traethawd hir 10,000 o eiriau. Os byddwch yn dilyn gradd gyd-anrhydedd (Athroniaeth a Chrefydd â phwnc arall), ym PAM DEWIS BANGOR? Mlwyddyn 1, 2 a 3 byddwch yn • Gwerthusir ansawdd yr addysgu cymryd modiwlau sy’n cyfateb i a’r dysgu mewn prifysgolion yn 60 credyd mewn Athroniaeth a rheolaidd gan dimau o aseswyr, ac Chrefydd a 60 credyd o fodiwlau yn fe gymeradwyir ein staff yn y pwnc arall. Yn ddibynnol ar eich rheolaidd, yn arbennig am dewisiadau, efallai y gallwch ddilyn ansawdd eu haddysgu ac am eu y modiwl Traethawd Hir (40 credyd) gofal bugeiliol dros fyfyrwyr. ym Mlwyddyn 3 (gweler uchod). • Byddwch yn cael eich addysgu mewn amgylchedd academaidd SUT Y BYDDAF YN DYSGU? sydd, nid yn unig yn ysgogol, ond Dysgir y cyrsiau’n bennaf drwy hefyd yn ofalgar ac yn gefnogol ar gyfrwng darlithoedd, seminarau a lefel bersonol. thiwtorialau unigol. Mewn llawer • Mae’r staff yn gynhyrchiol ym o’r modiwlau hefyd defnyddir maes ymchwil ac yn cael eu Blackboard, sef amgylchedd dysgu’r cydnabod yn ymchwilwyr ac Brifysgol. Mae’r dulliau asesu yn awdurdodau rhyngwladol yn eu cynnwys traethodau, adolygu llyfrau, gwahanol feysydd. Mae eu astudiaethau achos, adroddiadau, hymchwil yn rhoi dyfnder cyflwyniadau ac arholiadau ychwanegol i ansawdd eu ysgrifenedig. haddysgu. • Rydym yn cyfuno’r traddodiadol ag “Mae’r adran yn un fechan, sydd ystod fywiog o gyrsiau israddedig llawer gwell ar y cyfan – mae (BA anrhydedd sengl a chydgan y darlithwyr ddigon o amser anrhydedd) ac astudio ôl-radd ar i bawb, ac maent wastad yn lefel Meistr a PhD. help mawr, heb sôn am yr hwyl rydym ni gyd yn ei gael bob BETH FYDDAF YN EI ASTUDIO? dydd. Rydw i’n edrych ymlaen Ym mlwyddyn gyntaf y radd at fynd i bob darlith. sengl Athroniaeth a Chrefydd BA Anrhydedd, byddwch yn dewis Mae Bangor yn lle gwych i unrhyw chwe modiwl o restr astudio. Gan ei bod yn ddinas modiwlau Blwyddyn 1 Athroniaeth fechan, mae myfyrwyr yn a Chrefydd (bydd hyn yn gyfwerth adnabod ei gilydd – drwy’r cwrs â 120 credyd), neu bum modiwl neu’r neuaddau, drwy un o’r Athroniaeth a Chrefydd ac un cymdeithasau neu nosweithiau modiwl (gwerth 20 credyd) mewn allan. Fel myfyrwraig nid pwnc arall. Yn eich ail flwyddyn, wyf yn difaru dim am fy byddwch yn gallu dewis astudio mhenderfyniad i ddod i astudio 120 credyd o’r rhestr modiwlau a byw ym Mangor.” a fydd ar gael y flwyddyn honno mewn Athroniaeth a Chrefydd, neu LLIO WYN OWEN 100 credyd Athroniaeth a Chrefydd Cyn-fyfyriwr BA Athroniaeth a a hyd at 20 credyd mewn pwnc Chrefydd arall; ac ym Mlwyddyn 3, cewch ddewis astudio 80 credyd o’r rhestr modiwlau a fydd ar gael y flwyddyn honno mewn Athroniaeth a Chrefydd. Byddwch hefyd yn cymryd GRADDAU CYD-ANRHYDEDD y modiwl Traethawd Hir (40 credyd), Ewch i dudalen 64 am fanylion am sy’n cynnwys astudio’n annibynnol gyda chefnogaeth goruchwyliwr, gan raddau cyd-anrhydedd. VV56
IEITHOEDD A DIWYLLIANNAU MODERN
“Roedd gofal y staff am les y myfyrwyr, yn ogystal â’r gwaith academaidd, wedi creu grŵp o fyfyrwyr blwyddyn olaf a oedd yn hapus iawn ac yn fodlon ar ansawdd eu pedair blynedd...” ADRODDIAD ARHOLWR ALLANOL
123
IEITHOEDD A DIWYLLIANNAU MODERN Y FFEITHIAU SYLFAENOL: Hyd: 4 blynedd Crynodeb yn unig a gewch isod, felly mae’n werth bwrw golwg ar y manylion llawn yn y prospectws Saesneg hefyd. GOFYNION MYNEDIAD: Ar gyfer cyrsiau gradd cydanrhydedd, cofiwch fwrw golwg ar ofynion mynediad y pwnc arall a ddewiswch. • Cynnig nodweddiadol o isafswm o 96 pwynt tariff o gymwysterau lefel 3* ar gyfer cyrsiau Sbaeneg, Ffrangeg, Almaeneg e.e.: • Lefel A (yn cynnwys gradd C mewn Ffrangeg, Almaeneg neu Sbaeneg. Ar gyfer y radd tair iaith mae angen gradd B mewn lefel A2 yn un o’r ieithoedd). • BTEC Cenedlaethol/Diploma Estynedig: MMM** • Diploma Mynediad i Addysg Uwch: Pasio** • Derbynnir Cymhwyster Bagloriaeth Cymru • Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn, unigolion â chymwysterau Ewropeaidd ac ymgeiswyr rhyngwladol. *Mae cymwysterau lefel 3 yn cynnwys Lefel A, BTEC, Mynediad, Cymhwyster Bagloriaeth Cymru ac eraill – am restr lawn, gweler www.ucas.com. **Gellir eu hystyried ar-y-cŷd â gradd C mewn Lefel A Sbaeneg, Ffrangeg, Almaeneg.
PROFIAD RHYNGWLADOL MODIWLAU DATBLYGU SGILIAU IAITH AR GAEL
MWY O WYBODAETH Tîm Derbyniadau Ieithoedd a Diwylliannau Modern
ASTUDIO TRWY’R GYMRAEG Ar hyn o bryd, mae tiwtorialau, seminarau, cymorth gyda gwaith project, a rhai o elfennau’r cwrs ar gael trwy’r Gymraeg ar y cyrsiau INTERNATIONAL EXPERIENCE Ffrangeg. Diolch i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, mae myfyrwyr sy’n gwneud Almaeneg, Eidaleg a Sbaeneg yn gallu astudio modiwlau diwylliannol trwy’r Gymraeg hefyd. INTERNATIONAL EXPERIENCE CEFNDIR Y CYRSIAU
Ffôn: 01248 382085 e-bost: ieithoedd@bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/ieithoeddmodern
124
CWRS BA (anrhydedd) Almaeneg: BA (anrhydedd) Almaeneg gydag Astudiaethau Busnes: BA (anrhydedd) Almaeneg gydag Astudiaethau’r Cyfryngau: BA (anrhydedd) Almaeneg gydag Eidaleg: BA (anrhydedd) Almaeneg gyda Ffrangeg: BA (anrhydedd) Almaeneg gydag Ysgrifennu Creadigol: BA (anrhydedd) Almaeneg gyda Marchnata: BA (anrhydedd) Almaeneg gyda Newyddiaduraeth: BA (anrhydedd) Almaeneg gyda Sbaeneg: BA (anrhydedd) Almaeneg gyda Seicoleg: BA (cyd-anrhydedd) Eidaleg a phwnc arall: cysylltwch â’r Ysgol BA (anrhydedd) Ffrangeg: BA (anrhydedd) Ffrangeg gydag Almaeneg: BA (anrhydedd) Ffrangeg gydag Astudiaethau Busnes: BA (anrhydedd) Ffrangeg gydag Astudiaethau’r Cyfryngau: BA (anrhydedd) Ffrangeg gydag Eidaleg: BA (anrhydedd) Ffrangeg gydag Ysgrifennu Creadigol: BA (anrhydedd) Ffrangeg gyda Marchnata: BA (anrhydedd) Ffrangeg gyda Newyddiaduraeth: BA (anrhydedd) Ffrangeg gyda Sbaeneg: BA (anrhydedd) Ffrangeg gyda Seicoleg: BA (anrhydedd) Sbaeneg: BA (anrhydedd) Sbaeneg gyda Ffrangeg: BA (anrhydedd) Sbaeneg gydag Almaeneg: BA (anrhydedd) Sbaeneg gydag Astudiaethau Busnes: BA (anrhydedd) Sbaeneg gydag Astudiaethau’r Cyfryngau: BA (anrhydedd) Sbaeneg gydag Eidaleg: BA (anrhydedd) Sbaeneg gydag Ysgrifennu Creadigol: BA (anrhydedd) Sbaeneg gyda Marchnata: BA (anrhydedd) Sbaeneg gyda Newyddiaduraeth: BA (anrhydedd) Tsieinëeg a phwnc arall: gweler y bocs ar y dde, isod BA (cyd-anrhydedd) 2 iaith: gweler tudalen 126 BA (anrhydedd) 3 iaith: gweler tudalen 126
Mae yma awyrgylch gyfeillgar a bywiog. Mae dewis eang iawn o gyrsiau, sy’n sicrhau y byddwch yn medru dilyn cwrs gradd sy’n union at eich dant. Mae’r dewis eang, a manylder yr hyfforddiant sydd ar gael, yn sicrhau fod myfyrwyr sy’n graddio o’r Ysgol yn ddeniadol i gyflogwyr.
R200 R2NC R2P4 R2R3 R2R1 R2W8 R2N1 R2P5 R2R4 R2C8 R101 R1R2 R1NC R1P3 R1R3 R1W8 R1N1 R1P5 R1R4 R1C8 R400 R4R1 R4R2 R4N1 R4P3 R4R3 R4W8 R4N5 R4P5
Mae myfyrwyr Ieithoedd Modern Bangor yn llwyddo’n rhyfeddol i gael swyddi’n fuan ar ôl graddio. PAM DEWIS BANGOR? • Dewis eang o fodiwlau, yn cynnwys nifer o ddewisiadau arbenigol, er mwyn i chi sicrhau eich bod yn dilyn gradd sy’n ateb eich anghenion personol chi. • Dysgu mewn grwpiau bychain, a thrwy hynny mae pawb yn dod i adnabod ei gilydd. • Staff blaengar sydd wedi datblygu meddalwedd cyfrifiadurol arbennig ar gyfer ein myfyrwyr, i’w ddefnyddio yn ein Canolfan Ieithoedd amlgyfrwng. • Cysylltiadau rhagorol â phrifysgolion yn Ewrop.
BETH FYDDAF YN EI ASTUDIO? Yn ogystal â modiwlau iaith craidd, yn y flwyddyn gyntaf byddwch yn astudio ystod o fodiwlau sydd yn cynnig cyflwyniad i hanes, diwylliant, ffilm a llenyddiaeth Ewrop. Yn yr ail a’r bedwaredd flwyddyn, byddwch yn parhau gyda’ch cyrsiau iaith ac yn dilyn modiwlau mwy arbenigol wrth i chi ddatblygu a dyfnhau eich dealltwriaeth. Fel myfyriwr ieithoedd modern byddwch yn treulio eich trydedd flwyddyn dramor cyn dychwelyd i Fangor yn eich blwyddyn olaf. Rydym yn cynnig nifer o opsiynau ac, yn dibynnu ar eich gradd, gallwch ddewis astudio, gweithio neu ddysgu fel rhan o’ch blwyddyn dramor. SUT Y BYDDAF YN DYSGU? Hyfforddiant mewn grwpiau bychain. Gwaith yn y Ganolfan Ieithoedd, aseiniadau iaith, traethodau, portffolios, cyflwyniadau tîm a chyflwyniadau llafar. Mae’r dewisiadau ar gyfer asesu yn cynnwys gwaith cwrs a thraethawd estynedig ynghyd ag arholiadau llafar ac ysgrifenedig.
PWNC ARALL AC/GYDAG IAITH FODERN Mae yna amrywiaeth o gyrsiau gradd anrhydedd a chydanrhydedd ar gael hefyd sy’n cyfuno Iaith Fodern gyda phwnc arall sydd bellach yn cynnwys Tsieinëeg a’r pynciau canlynol: Astudiaethau Busnes, Astudiaethau Creadigol, Astudiaethau Ffilm Cymraeg, Economeg, Iaith Saesneg, ac Ieithyddiaeth. Gweler y prospectws Saesneg os gwelwch yn dda. Mae rhestr o’r cyrsiau cydanrhydedd y gellir eu hastudio’n gyfan gwbl neu’n rhannol drwy’r Gymraeg ar dudalen 64 y prospectws Cymraeg.
“Roedd blwyddyn dramor yn rhan o fy nghwrs, ac felly yn ystod y drydedd flwyddyn fe dreuliais semester yn Llydaw a semester yn Galisia yn Sbaen. Roedd yn brofiad anhygoel cael byw bywyd bob dydd mewn dau ddiwylliant gwahanol, a dwi’n teimlo bod fy Ffrangeg a fy Sbaeneg wedi gwella llawer tra oeddwn i yno. Yn ystod fy ail flwyddyn, roeddwn yn Llysgennad Iaith ac yn ymweld ag ysgolion uwchradd i siarad â disgyblion blwyddyn 9, er mwyn ceisio eu hannog i barhau i astudio iaith fodern fel TGAU. Roedd hynny yn brofiad gwerthfawr iawn...” ELIN WALLACE Cyn-fyfyriwr BA Ffrangeg a Sbaeneg
125
CYD-ANRHYDEDD MEWN IEITHOEDD / ANRHYDEDD MEWN 3 IAITH Y FFEITHIAU SYLFAENOL Cod UCAS: yn y golofn nesaf Hyd: 4 blynedd Noder: ni chaniateir siaradwyr brodorol i astudio unrhyw un o’r ieithoedd a ddewisir. Crynodeb yn unig a gewch isod, felly mae’n werth bwrw golwg ar y manylion llawn yn y prospectws Saesneg hefyd. GOFYNION MYNEDIAD: Ar gyfer cyrsiau gradd cydanrhydedd, cofiwch fwrw golwg ar ofynion mynediad y pwnc arall a ddewiswch. • Cynnig nodweddiadol o isafswm o 96 pwynt tariff o gymwysterau lefel 3* ar gyfer Sbaeneg, Ffrangeg, Almaeneg e.e.: • Lefel A (yn cynnwys gradd C mewn iaith berthnasol. Ar gyfer y radd tair iaith mae angen gradd B mewn lefel A2 yn un o’r ieithoedd). • BTEC Cenedlaethol/Diploma Estynedig: MMM** • Mynediad i Addysg Uwch: Pasio** • Derbynnir Cymhwyster Bagloriaeth Cymru • Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn, unigolion â chymwysterau Ewropeaidd ac ymgeiswyr rhyngwladol.
CYD-ANRHYDEDD MEWN IEITHOEDD Bydd y cyrsiau cyd-anrhydedd hyn yn eich galluogi i astudio dwy iaith yn gyfartal. Byddant yn rhoi sgiliau uwch i chi yn y ddwy iaith, a dealltwriaeth arbenigol a manwl o ystod eang o agweddau ar ddiwylliant, cymdeithas a hanes y gwledydd lle siaredir yr ieithoedd hyn. Mae ieithoedd wrth wraidd y graddau hyn, gyda modiwlau craidd yn datblygu’r sgiliau allweddol bob blwyddyn, yn cynnwys anghenion ymarferol, fel yr iaith y bydd arnoch ei hangen ar gyfer y flwyddyn dramor ac, yn ddiweddarach, ar gyfer byd gwaith. Isod, ceir rhestr o’r cyfuniadau sydd ar gael: Almaeneg a Ffrangeg Sbaeneg ac Eidaleg Ffrangeg a Sbaeneg Almaeneg ac Eidaleg Almaeneg a Sbaeneg Eidaleg a Sbaeneg Tsieinëeg a Ffrangeg Tsieinëeg ac Almaeneg Tsieinëeg a Sbaeneg Tsieinëeg ac Eidaleg
RR12 RR43 RR14 RR23 RR24 RR43 T104 T105 T107 T106
ANRHYDEDD MEWN 3 IAITH Mae’r cyrsiau hyn wedi’u llunio i fyfyrwyr sydd am feithrin lefel uchel o arbenigedd mewn tair iaith ac eithrio eu mamiaith. Maent yn darparu ar gyfer rhai y mae’n well ganddynt ganolbwyntio’n benodol ar ddysgu iaith, heb unrhyw fodiwlau diwylliannol ychwanegol. INTERNATIONAL PROFIAD Bwriedir iddynt apelio at bobl o EXPERIENCE RHYNGWLADOL wahanol wledydd yn y byd sy’n dod MODIWLAU DATBLYGU i gydweithio mewn cymdeithas SGILIAU IAITH AR GAEL ddysg amlieithog. Gyda sgiliau iaith pumieithog (yn achos Cymry Cymraeg), bydd graddedigion y MWY O WYBODAETH INTERNATIONAL graddau hyn wedi’u paratoi i lwyddo EXPERIENCE Tîm Derbyniadau yn y proffesiwn a ddewisant ar bob Ieithoedd a Diwylliannau Modern cyfandir. Rydych yn dewis unrhyw dair o blith Ffrangeg, Almaeneg, Ffôn: 01248 382085 Eidaleg, Sbaeneg. e-bost: ieithoedd@bangor.ac.uk
*Mae cymwysterau lefel 3 yn cynnwys Lefel A, BTEC, Mynediad, Cymhwyster Bagloriaeth Cymru ac eraill – am restr lawn, gweler www.ucas.com. **Gellir eu hystyried ar-y-cŷd â gradd C mewn Lefel A Sbaeneg, Ffrangeg, Almaeneg.
www.bangor.ac.uk/ieithoeddmodern
Gellwch ddewis astudio’ch tair iaith mewn dau fformat: y tair i gyd i’r un brif lefel, neu ddwy hyd at brif lefel ac un hyd at lefel is.
126
3 Iaith i’r Un Brif Lefel Ffrangeg+Almaeneg+Sbaeneg R912 Ffrangeg+Almaeneg+Eidaleg R916 Ffrangeg+Eidaleg+Sbaeneg R917 Almaeneg+Eidaleg+Sbaeneg R925 2 Brif ac 1 Is Iaith Ffrangeg+Almaeneg gydag Eidaleg Ffrangeg+Almaeneg gyda Sbaeneg Ffrangeg+Eidaleg gydag Almaeneg Ffrangeg+Eidaleg gyda Sbaeneg Ffrangeg+Sbaeneg gydag Almaeneg Ffrangeg+Sbaeneg gydag Eidaleg Almaeneg+Eidaleg gyda Ffrangeg Almaeneg+Eidaleg gyda Sbaeneg Almaeneg+Sbaeneg gyda Ffrangeg Almaeneg+Sbaeneg gydag Eidaleg Eidaleg+Sbaeneg gyda Ffrangeg Eidaleg+Sbaeneg gydag Almaeneg Ewch i’r wefan am y dewisiadau sy’n cyfuno Tsieinëeg â Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg ac Eidaleg.
Mae pob un o’r ieithoedd yn cynnig modiwlau ar hanes, sinema a’r cyfryngau. Ar y cwrs anrhydedd mewn tair iaith, astudir y tair iaith am 4 blynedd gyfan y cwrs, a chanolbwyntir yn gyfan gwbl ar iaith ymarferol.
R901 R913 R918 R919 R914 R915 R921 R924 R922 R923 R926 R927
Byw Dramor Ar y cwrs anrhydedd mewn tair iaith, lle dewisir astudio tair iaith at yr un lefel, treulir tri semester mewn prifysgolion y tu allan i Brydain, pob un mewn gwlad lle siaredir un o’r ieithoedd a astudir. Lle dewisir astudio dwy iaith at brif lefel ac un iaith at lefel is, treulir dau semester mewn prifysgolion y tu allan i Brydain, pob un mewn gwlad lle siaredir un o’r ieithoedd a astudir. Mae hyn yn berthnasol i fyfyrwyr ar y cwrs cyd-anrhydedd mewn ieithoedd yn ogystal.
PAM DEWIS BANGOR? • Mae Bangor yn cael canlyniadau ardderchog am foddhad myfyrwyr. Yn Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2017 ac 2018 cawsom foddhad myfyriwr o 100% ar gyfer Ffrangeg. • Mae ein maint yn golygu ein bod yn cynnig addysg ar raddfa unigol, mewn dosbarthiadau bychain, lle’r ydych yn dod i adnabod y staff a’ch cyd-fyfyrwyr. • Arloesodd Bangor gyda’r rhaglen Gradd mewn Tair Iaith. • Dysgir rhai dewisiadau drwy gyfrwng Ffrangeg / Almaeneg / Tsieinëeg / Sbaeneg / Eidaleg, ac eraill drwy’r Gymraeg neu’r Saesneg. • Mae gan raddedigion Ieithoedd Modern Bangor hanes da iawn o gael gwaith o safon. • Mae fframweithiau graddau’n hyblyg, gan eich galluogi i newid eich gradd ar ddiwedd blwyddyn 1 os dymunwch.
SUT Y BYDDAF YN DYSGU? Bydd gennych 3-4 awr o ddosbarthiadau iaith bob wythnos ymhob un o’r ieithoedd yr ydych wedi’u dewis. Mae’r hyfforddiant gan fwyaf mewn grwpiau bychain, ac nid oes llawer o ddarlithoedd ffurfiol. Mae asesu’n cynnwys gwaith cwrs, ac arholiadau ysgrifenedig a llafar. Byddwch hefyd yn cwblhau traethawd hir neu set o brojectau fel rhan o’ch gradd.
BETH FYDDAF YN EI ASTUDIO? Ar y cwrs cyd-anrhydedd mewn ieithoedd, yn ogystal â’r ddwy iaith, fe gynigir amrywiaeth o ddewisiadau ysgogol ar gyfer pob un o’ch pynciau.
RHAGOLYGON GYRFAOEDD Mae astudio Ieithoedd a Diwylliannau Modern yn agor y drws i amrywiaeth eang o yrfaoedd. Mae llawer o’n graddedigion wedi mynd ymlaen i fod yn athrawon a chyfieithwyr, ond mae’r un nifer wedi dechrau gyrfaoedd llwyddiannus yn y gwasanaeth sifil, busnes a masnach, diwydiant a’r cyfryngau. Mae’r sgiliau a ddysgwch wrth astudio ieithoedd – ymwybyddiaeth ddiwylliannol, cyfathrebu, cywirdeb, cynllunio a dadansoddi rhesymegol – i gyd yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr gan gyflogwyr o bob sector o’r economi.
LLENYDDIAETH SAESNEG, IEITHYDDIAETH AC IAITH SAESNEG
“Dwi wrth fy modd efo’r ardal, ac mae gen i deulu’n byw ddim yn bell iawn o Fangor ym Mlaenau Ffestiniog. Dwi wedi gwirioni efo’r awyrgylch ac adeilad y Brifysgol. Mae’r golygfeydd yn anhygoel ac mae popeth ar stepan eich drws... Dwi’n hoff iawn gyda’r gwahanol fodiwlau ar y cwrs, ac wrth gwrs, cael darllen llu o lyfrau. Mae’r staff o hyd yn barod i helpu ac yn gyfeillgar iawn.” CATRIN ELAIN JONES BA Llenyddiaeth Saesneg
127
ADDYSG, ASTUDIAETHAU PLENTYNDOD A DYLUNIO CYNNYRCH
LLENYDDIAETH SAESNEG, IEITHYDDIAETH AC IAITH SAESNEG Y FFEITHIAU SYLFAENOL: Hyd: 3 blynedd fel rheol GOFYNION MYNEDIAD:
Crynodeb yn unig a gewch isod, felly mae’n werth bwrw golwg ar y manylion llawn yn y prospectws Saesneg hefyd. • Ar gyfer cyrsiau Llenyddiaeth Saesneg: cynnig nodweddiadol o isafswm o 112 pwynt tariff o gymwysterau lefel 3* e.e.: • Lefel A (Saesneg / Llenyddiaeth Saesneg / Iaith Saesneg yn ddelfrydol ond ddim yn hanfodol) • BTEC Cenedlaethol/Diploma Estynedig: DMM** • Diploma Mynediad i Addysg Uwch gydag elfen Llenyddiaeth Saesneg: Pasio • Ar gyfer cyrsiau Ieithyddiaeth ac Iaith Saesneg: cynnig nodweddiadol o isafswm o 112 pwynt tariff o gymwysterau lefel 3* e.e.: • Lefel A (dim angen unrhyw bwnc penodol) • BTEC Cenedlaethol/Diploma Estynedig: DMM • Diploma Mynediad i Addysg Uwch: Pasio • Derbynnir Cymhwyster Bagloriaeth Cymru. • Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn, unigolion â chymwysterau Ewropeaidd ac ymgeiswyr rhyngwladol. *Mae cymwysterau lefel 3 yn cynnwys Lefel A, BTEC, Mynediad, Cymhwyster Bagloriaeth Cymru ac eraill – am restr lawn, cyfeiriwch at www.ucas.com. **Gellir eu hystyried ar-y-cŷd â chymhwyster arall mewn Llenyddiaeth Saesneg e.e. Lefel A
CWRS CYRSIAU CYFRWNG SAESNEG LLENYDDIAETH SAESNEG, AC IEITHYDDIAETH AC IAITH SAESNEG BA (anrhydedd) Iaith Saesneg Ryngwladol ar gyfer TEFL: BA (anrhydedd) Llenyddiaeth Saesneg gydag Iaith Saesneg: BA (anrhydedd) Iaith Saesneg gyda Llenyddiaeth Saesneg: BA (anrhydedd)/MArts Llenyddiaeth Saesneg: BA (anrhydedd) Llenyddiaeth Saesneg gyda Theatr a Pherfformio: BA (anrhydedd)/MArts Llenyddiaeth Saesneg gydag Ysgrifennu Creadigol: BA (anrhydedd) Llenyddiaeth Saesneg gyda Newyddiaduraeth: BA (anrhydedd) Iaith Saesneg: BA (anrhydedd)/MArts Iaith Saesneg ar gyfer TEFL: BA (anrhydedd) Iaith Saesneg gydag Astudiaethau Ffilm: BA (anrhydedd) Iaith Saesneg gydag Astudiaethau’r Cyfryngau: BA (anrhydedd) Iaith Saesneg gydag Ysgrifennu Creadigol: BA (anrhydedd)/MArts Ieithyddiaeth: BA (anrhydedd) Ieithyddiaeth ac Iaith Saesneg: BA (anrhydedd) Ieithyddiaeth gyda Llenyddiaeth Saesneg:
ASTUDIO TRWY’R GYMRAEG Nid oes cyrsiau Llenyddiaeth Saesneg na chyrsiau Ieithyddiaeth ac Iaith Saesneg ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg ond fe cynnigir chwe modiwl yn gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg mewn Ieithyddiaeth ac Iaith Saesneg, sef hyd at 40 credyd bob blwyddyn o’ch cwrs. Yn ogystal mae darlithwyr sy’n siarad Cymraeg ar gael i sgwrsio gyda chi am eich astudiaethau os ydych yn dymuno hynny.
CEFNDIR Y CYRSIAU Ieithyddiaeth ac Iaith Saesneg Rydym ymhlith y gorau ac uchaf ein parch ym Mhrydain am raddau INTERNATIONAL PROFIAD Ieithyddiaeth ac Iaith Saesneg, gyda EXPERIENCE RHYNGWLADOL staff sy’n ymchwilwyr cynhyrchiol mewn nifer o feysydd theoretig a MODIWLAU DATBLYGU SGILIAU IAITH AR GAEL chymhwysol – llawer ohonynt o fri rhyngwladol. Bydd ein modiwlau’n rhoi golwg wyddonol ichi ar strwythur a defnydd iaith, yn ogystal INTERNATIONAL MWY O WYBODAETH EXPERIENCE ag ar ieithyddiaeth wybyddol (y Ieithyddiaeth ac Iaith Saesneg berthynas rhwng y meddwl ac Ffôn: 01248 382085 iaith) a dwyieithrwydd (astudio e-bost: cah@bangor.ac.uk pobl sy’n siarad mwy nag un iaith), www.bangor.ac.uk/ieithyddiaeth ymysg amryw bynciau ieithyddol Llenyddiaeth Saesneg eraill. Bydd cyfle i chi ymuno a’n Ffôn: 01248 382085 cyfres o seminarau cyhoeddus lle e-bost: ieithoedd@bangor.ac.uk mae academyddion o Fangor a www.bangor.ac.uk/saesneg phrifysgolion eraill yn siarad am eu hymchwil yn y maes. Hefyd,
128
Q314 Q310 Q3Q2 8H25/Q320 32M8 2D13/Q2W9 065C Q301 Q316 Q3WP Q3P3 Q3WL Q100/Q101 Q140 Q1Q3
rydym yn falch o fod yn gysylltiedig â Chymdeithas Ieithyddiaeth Bangor. Mae’r gymdeithas yn trefnu digwyddiadau drwy’r flwyddyn lle croesewir staff a myfyrwyr. Llenyddiaeth Saesneg Mae’r graddau anrhydedd hyn yn cynnig llu o brofiadau gwerthfawr i’r rhai ohonoch sy’n dymuno astudio cyrsiau cyfrwng Saesneg sy’n ymwneud â’r Saesneg fel pwnc, neu gyda meysydd ysgrifennu creadigol, theatr, astudiaethau ffilm, newyddiaduraeth ac ieithyddiaeth. Gellir cyfuno gwahanol agweddau ar y meysydd hyn os ydych am wneud cyrsiau diddorol ac amrywiol sy’n cynnig cyfle i ddilyn trywydd academaidd neu gyfuniad o’r academaidd a’r galwedigaethol.
Yr awdur poblogaidd Philip Pullman yn rhoi darlith yn y Brifysgol
PAM DEWIS BANGOR? • Rydym wedi ymrwymo i ddysgu mewn grwpiau bychain. • Byddwch yn cael eich dysgu gan staff sy’n ymchwilio yn gyson, yn cyhoeddi llyfrau ac erthyglau. • Rydym yn cynnig dewis eang o fodiwlau. • Mae gennym draddodiad cadarn o ddysgu yn y celfyddydau creadigol a pherfformiadol: mae Richard Attenborough yn gymrawd er anrhydedd y Brifysgol a Danny Boyle, cyfarwyddwr ffilmiau enwog megis Trainspotting, A Life Less Ordinary a Slumdog Millionaire, yn un o’n graddedigion. BETH FYDDAF YN EI ASTUDIO? Byddwch yn dilyn cymysgedd o fodiwlau craidd a dewisol yn dibynnu ar eich llwybr gradd unigol. Mae manylion pob cwrs yn dangos yr amrywiaeth eang o feysydd traddodiadol a chyfoes y gallwch eu dilyn. SUT Y BYDDAF YN DYSGU? Darlithoedd, seminarau a dosbarthiadau tiwtorial ym mhob gradd. Cyfnodau gwylio rhaglenni a gwrando arnynt, gwaith ymarferol theatrig, cyfryngol a newyddiadurol yn y graddau sy’n cyflwyno’r meysydd hynny. Mae’r dulliau asesu yn amrywio yn ôl gofynion y modiwlau unigol.
“Mae’r cyfleusterau i astudio a safon y cwrs yn uchel iawn.” HELEDD WILLIAMS BA Astudiaethau Plentyndod a Chymdeithaseg
“Mae o’n gwrs gwych. Mae’r staff dysgu’n wirioneddol gyfeillgar a chefnogol. Dwi eisiau mynd yn athro ar ôl graddio, felly dwi’n gobeithio gwneud y TAR Cynradd ym Mangor hefyd.” MYFYRIWR PRESENNOL BA Astudiaethau Plentyndod
129
ADDYSG GYNRADD BA [Anrhydedd] Yn arwain at Statws Athro Cymwysedig CEFNDIR Y CWRS Mae’r radd gyffrous hon gyda SAC yn eich cymhwyso i weithredu fel athro cynradd/athrawes gynradd, gyda sgiliau arbennig i ddysgu yng GOFYNION MYNEDIAD: Nghymru. Fodd bynnag, gellir ei • TGAU: rhaid cael gradd B/5 mewn unrhyw defnyddio hefyd i ddysgu mewn un o’r canlynol: Saesneg Iaith, Llenyddiaeth gwledydd eraill, yn cynnwys Saesneg, Cymraeg (Iaith gyntaf), Lloegr. Ysgrifennwyd y cwrs mewn Llenyddiaeth Gymraeg. Lle bo myfyrwyr wedi cael yr hyn sy’n gyfatebol i radd B/radd cydweithrediad ag athrawon mewn Ysgolion Arweiniol yng Ngogledd 5 mewn naill ai Llenyddiaeth Saesneg neu Lenyddiaeth Gymraeg, rhaid cael lleiafswm Cymru a’n partneriaid ym Mhrifysgol o radd C yn yr arholiad TGAU cyfatebol Caer. Ein henw yw Partneriaeth mewn Saesneg Iaith neu Gymraeg (Iaith CaBan (Caer a Bangor). Gyntaf). • Gradd B/Gradd 5 yn yr arholiad TGAU mewn Bydd ysgolion ymroddedig gyda Mathemateg neu Fathemateg-Rhifedd. • TGAU Gradd C /Gradd 4 mewn Cymraeg Iaith mentoriaid wedi’u hyfforddi’n dda yn cefnogi cynnydd Athrawon a Gwyddoniaeth. Cysylltiol tuag at ennill Statws Athro • Cynnig nodweddiadol o isafswm o 120 o bwyntiau tariff o gymwysterau lefel 3* o Cymwysedig yn unol â’r Safonau lefel A neu gyfwerth e.e. Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac • Diploma Cenedlaethol Estynedig OCR: Arweinyddiaeth yng Nghymru. Rhagoriaeth a Theilyngdod • Diploma Mynediad i Addysg Uwch, Unedau Bydd tiwtoriaid ac ymchwilwyr Coleg Agored neu Gredydau Prifysgol profiadol yn y brifysgol a staff yn Agored a gydnabyddir gan y QAA • Y Diploma Uwch: derbyniol ar ei ben ei hun yr ysgolion yn rhoi cefnogaeth ragorol a sesiynau ysgogol, a bydd • Parodrwydd ac agwedd gadarnhaol tuag at wella eu defnydd personol o’r iaith y cymhwyster a geir yn galluogi Gymraeg. myfyrwyr i ddysgu o fewn Cymru a thu hwnt iddi. *Mae cymwysterau lefel 3 yn cynnwys Lefel A, BTEC, Mynediad, Cymhwyster Bagloriaeth Cymru ac eraill – am restr lawn, cyfeiriwch at PAM DEWIS BANGOR? • Byddwch wedi eich lleoli ar safle’r www.ucas.com. Normal sydd â’i lyfrgell a’i MAE MODD GWNEUD ganolfan adnoddau ei hun lle mae Y CWRS HWN DRWY dewis eang o adnoddau dysgu GYFRWNG Y GYMRAEG dwyieithog cynradd ac adnoddau blynyddoedd cynnar. • Rydym yn cynnig amgylchedd dysgu cyffrous a byddwch yn INTERNATIONAL PROFIAD cyfarfod staff a hyfforddeion sy’n EXPERIENCE RHYNGWLADOL gweithio ar amrywiaeth o MODIWLAU DATBLYGU brojectau datblygu cwricwlwm ac SGILIAU IAITH AR GAEL ymchwil. • Mae ysgolion partneriaeth y Brifysgol yn cynnig amgylchedd MWY O WYBODAETH INTERNATIONAL hyfforddi llawn amrywiaeth sydd, Addysg EXPERIENCE yr un pryd, yn gefnogol. • Arweinwyr ym maes ymchwil Ffôn: 01248 382629 dwyieithrwydd ac addysg e-bost: addysg@bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/addysg/ dwyieithog. Y FFEITHIAU SYLFAENOL Cod cwrs: X130 (Cyfrwng Cymraeg) Lleoliad: Safle’r Normal, Bangor Hyd: 3 blynedd
130
BETH FYDDAF YN EI ASTUDIO? Byddwch yn astudio holl feysydd y Cwricwlwm Cynradd. Ewch i’r wefan am y manylion llawn. Profiad Ysgol Byddwch yn gweithio gyda athrawon profiadol a fydd yn rhoi cefnogaeth i chi wrth i chi ddysgu’r sgiliau i fod yn athro neu athrawes dosbarth. Bydd hyn yn eich helpu i ddod yn gyfarwydd â’r fframwaith cyfnod sylfaen, cynnwys y cwricwlwm, a’r cwricwlwn newydd sy’n cael ei ddatblygu ar gyfer Cymru. Byddwch yn dysgu sut i drefnu cynlluniau gwaith addas ac ystyried strategaethau asesu cyflawniad disgyblion. Ceir o leiaf wyth wythnos o brofiad ysgol ym mhob blwyddyn. SUT Y BYDDAF YN DYSGU? Byddwch yn treulio 20 awr yr wythnos ar gyfartaledd mewn darlithoedd/seminarau. Bydd gofyn i chi hefyd ddarllen, paratoi ar gyfer seminarau, gwneud gwaith cwrs a pharatoi adnoddau addysgu. Bydd yr elfennau a astudiwch yn y Brifysgol yn cael eu hasesu drwy waith cwrs. Bydd eich ymarfer dysgu yn cael ei fonitro gan fentoriaid ysgol a thiwtoriaid cyswllt.
“Mi wnes i ddod i’r Diwrnod Agored ar ddiwrnod poeth yng Ngorffennaf ac roedd y golygfeydd yn werth eu gweld. Roedd y myfyrwyr a’r staff yn groesawgar iawn, felly mi roeddwn i’n gallu gweld fy hun yn byw yma tra’n astudio. “Mae’r darlithwyr yn cynnig eu cymorth yn ddiflino, ac mae eu parodrwydd i helpu gydag unrhyw beth, boed yn aseiniadau neu’n offer addysgu, yn rhywbeth calonogol iawn...” STEFFAN NICHOLAS Cyn-fyfyriwr Addysg Gynradd
Ar y cwrs mae 4 modiwl (profiad ysgol, astudiaethau proffesiynol, pynciau craidd ac allgraidd). Yn y flwyddyn gyntaf roedd y ffocws ar y Cyfnod Sylfaen ac yn yr ail flwyddyn roedd y ffocws ar Gyfnod Allweddol Dau. Rwy wedi mynd ‘mlaen i ddewis Cyfnod Allweddol Dau eto i orffen fy nghwrs yn fy nhrydedd flwyddyn. Y rhan orau o’r cwrs yw’r profiad ysgol rwy’n ei wneud yn ystod yr ail dymor. Mae bod ar brofiad gwaith mewn ysgol yn dod â’r holl ddarlithoedd yn fyw. Rwy’n mwynhau cael addysgu a bod yn ymarferol – rwy’n cael y cyfle i weld fy syniadau yn digwydd, yn hytrach na chynllunio ar bapur yn unig.” LOIS CLWYD HUGHES Cyn-fyfyriwr y cwrs Addysg Gynradd
CYRSIAU PERTHNASOL Rydym hefyd yn cynnig cyrsiau TAR Addysg Gynradd ac Uwchradd i’r rhai sy’n dymuno cymhwyso fel athrawon yn dilyn cwblhau eu gradd gyntaf. Ewch i’r wefan am fanylion y cyrsiau TAR.
131
ASTUDIAETHAU PLENTYNDOD AC IEUENCTID BA [Anrhydedd] Y FFEITHIAU SYLFAENOL Cod cwrs UCAS: X314 (anrhydedd sengl), am gyd-anrhydedd gweler y dudalen nesaf Hyd: 3 blynedd GOFYNION MYNEDIAD: • Cynnig nodweddiadol o isafswm o 120 o bwyntiau tariff o gymwysterau lefel 3* e.e. • Lefel A • BTEC Cenedlaethol/Diploma Estynedig: MMM • Diploma Mynediad i Addysg Uwch: Pasio • NCFE CACHE Lefel 3 Diploma Estynedig: Gradd C • Cymhwyster Bagloriaeth Cymru • Mae’n rhaid i bob myfyriwr gael archwiliad gan Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a rhaid i’r Coleg bennu ei fod yn foddhaol cyn y gallant ddechrau ar brofiad ysgol. • Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn, unigolion â chymwysterau Ewropeaidd ac ymgeiswyr rhyngwladol. *Mae cymwysterau lefel 3 yn cynnwys Lefel A, BTEC, Mynediad, Cymhwyster Bagloriaeth Cymru ac eraill – am restr lawn, cyfeiriwch at www.ucas.com.
MAE MODD GWNEUD Y CWRS HWN DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG
PROFIAD RHYNGWLADOL MODIWLAU DATBLYGU SGILIAU IAITH AR GAEL
MWY O WYBODAETH Addysg Ffôn: 01248 382629 e-bost: addysg@bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/addysg/
132
CEFNDIR Y CWRS Mae’r cwrs hwn hefyd ar gael trwy gyfrwng y Saesneg. Mae’r radd ddynamig, amlddisgyblaethol hon yn cynnig cyfle i chi astudio ystod amrywiol o bynciau sy’n ymwneud â phrofiadau byw plant a phobl ifanc yn y gymdeithas gyfoes, gan eich cynorthwyo i ddilyn gyrfaoedd mewn amrywiaeth o feysydd gan gynnwys addysgu, gwaith cymdeithasol, cwnsela a’r gyfraith. Mae gan ein tîm addysgu arbenigedd a chefndir mewn seicoleg, cymdeithaseg, hawliau plant, ieithyddiaeth, addysg, agweddau fforensig, iechyd a lles. Mae’r amgylchedd ddysgu cyfoethog ac amrywiol yn nodwedd unigryw o’n cwrs, gan roi’r cyfle i chi astudio plentyndod a phobl ifanc o amrywiaeth o safbwyntiau.
Mae’r cwrs 3-blynedd wedi’i gynllunio o gwmpas tri llwybr, gyda modiwlau yn ymwneud â safbwyntiau seicolegol, cymdeithasegol ac addysgol ar faterion sy’n berthnasol i blentyndod ac ieuenctid mewn theori ac ymarfer. Mae’r flwyddyn gyntaf wedi’i chynllunio i roi sylfaen gadarn i chi ym mhob un o’r tri maes. Mae’r ail flwyddyn yn parhau i adeiladu ar y llinynnau hyn sy’n arwain at drydedd flynedd, lle gallwch astudio INTERNATIONAL o leiaf pedwar pwnc a ddewisir o’r EXPERIENCE ystod o fodiwlau sydd ar gael ar draws y llwybrau ar hyn o bryd. Yn y flwyddyn olaf hon byddwch hefyd yn cwblhau prosiect ymchwil sylweddol sy’n eich galluogi i ddyfnhau’ch arbenigedd a’ch gwybodaeth yn eich INTERNATIONAL EXPERIENCE maes dewisol. Mae’r cwrs hwn hefyd yn cynnwys lleoliadau, siaradwyr gwadd, cyfleoedd i astudio dramor yn ogystal â chyfleoedd i gyflwyno mewn cynadleddau sy’n eich helpu i ddatblygu’ch sgiliau academaidd a chyflogadwyedd.
PAM DEWIS BANGOR? • Nod y radd yw diwallu’r angen presennol am arbenigwyr gyda chymwysterau da a all weithio gyda phlant, pobl ifanc a’u teuluoedd mewn ystod o gyd- destunau, yn y gymuned ac mewn sefydliadau. Yn y rhaglen ceir cyfuniad o sylfaen academaidd gadarn ynghyd â dimensiwn ymarferol a gweithredol a fydd yn cynhyrchu gweithwyr proffesiynol a all ymdopi â sialensiau cymdeithas gyfoes a phrysur mewn gwlad ddwyieithog. • Ceir cyfleoedd bob blwyddyn i fynd ar leoliadau i ddatblygu eich dealltwriaeth o agweddau ar anghenion a datblygiad plant ac i wneud ymchwil i faterion ac ymarfer cyfredol. BETH FYDDAF YN EI ASTUDIO? Mae pob modiwl yn y flwyddyn 1af yn orfodol; ym Mlynyddoedd 2 a 3, yn dibynnu ar argaeledd, bydd gennych ddewis o fodiwlau yn ychwanegol at y modiwl craidd Dulliau Ymchwil. Pob blwyddyn byddwch yn astudio cyfanswm o 120 credyd, fydd yn rhoi i chi ehangder a dyfnder o wybodaeth a dealltwriaeth erbyn i chi raddio.
SUT Y BYDDAF YN DYSGU? Byddwch yn dysgu trwy gymysgedd o ddarlithoedd, seminarau a gweithdai ymarferol. Caiff pob darlith ei recordio trwy podcast ac mae adnoddau ar-lein eraill hefyd yn cael eu darparu cyn pob darlith. Gall myfyrwyr ddewis derbyn Tiwtor personol sy’n siarad Cymraeg a chwblhau aseiniadau trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r asesiadau’n amrywio o fodiwl i fodiwl. Mae’r asesiadau’n amrywio o draethodau, cyflwyniadau, gwneud ffilmiau, a phrofion aml-ddewis. Yn eich trydedd flwyddyn, byddwch yn cynnal prosiect ymchwil sylweddol o fewn maes o’ch dewis chi. Yn ddibynnol ar eich maes ymchwil, efallai y byddwch chi’n ymwneud â phrosiectau mewn ysgolion, prosiectau mewn meithrinfeydd neu gydag ymarferwyr sy’n gweithio o fewn diwydiant sy’n ymwneud â phlentyndod ac ieuenctid. Bydd eich prosiect yn cael ei oruchwylio yn unigol gan un o’n harbenigwyr, gan roi’r cyfle i chi ddatblygu ymhellach eich gwybodaeth, sgiliau a’ch dealltwriaeth o fewn y maes. RHAGOLYGON GYRFAOEDD Mae cynnwys amlddisgyblaethol y radd yn cynnig ystod o ddewisiadau gyrfa ym myd addysg a phroffesiynau cysylltiedig, yn y sector cyhoeddus a phreifat, yn ymwneud ag iechyd, gofal cymdeithasol, gwaith ieuenctid a chymunedol. Mae rhai myfyrwyr yn parhau â’u hastudiaethau ar raglen Meistr neu’n ymgeisio am le ar gwrs TAR Cynradd. Os penderfynwch ymgeisio am gwrs TAR Cynradd ym Mangor, cynigir cyfweliad i chi os byddwch yn cyflawni’r gofynion mynediad.
ASTUDIAETHAU PLENTYNDOD AC IEUENCTID BA [Cyd-Anrhydedd] Y FFEITHIAU SYLFAENOL Cod cwrs UCAS: i weld graddau cydanrhydedd edrychwch ar dudalen 64. Hyd: 3 blynedd GOFYNION MYNEDIAD: Edrychwch ar ofynion mynediad y pwnc arall hefyd. • Cynnig nodweddiadol o isafswm o 120 o bwyntiau tariff o gymwysterau lefel 3* e.e. • Lefel A • BTEC Cenedlaethol/Diploma Estynedig: MMM • Diploma Mynediad i Addysg Uwch: Pasio • NCFE CACHE Lefel 3 Diploma Estynedig: Gradd C • Cymhwyster Bagloriaeth Cymru • Mae’n rhaid i bob myfyriwr gael archwiliad gan Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a rhaid i’r Coleg bennu ei fod yn foddhaol cyn y gallant ddechrau ar brofiad ysgol. • Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn, unigolion â chymwysterau Ewropeaidd ac ymgeiswyr rhyngwladol. *Mae cymwysterau lefel 3 yn cynnwys Lefel A, BTEC, Mynediad, Cymhwyster Bagloriaeth Cymru ac eraill – am restr lawn, cyfeiriwch at www.ucas.com.
MAE MODD GWNEUD Y CWRS HWN DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG
PROFIAD RHYNGWLADOL MODIWLAU DATBLYGU SGILIAU IAITH AR GAEL
MWY O WYBODAETH Addysg Ffôn: 01248 382629 e-bost: addysg@bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/addysg/
CEFNDIR Y CWRS Gellir dilyn cwrs gradd anrhydedd mewn Astudiaethau Plentyndod ar y cyd ag un o’r pynciau a ganlyn, sef Cymdeithaseg, Cymraeg, Polisi Cymdeithasol a Seicoleg. Mae’r radd ddynamig, amlddisgyblaethol hon yn cynnig cyfle i chi astudio ystod amrywiol o bynciau sy’n ymwneud â phrofiadau byw plant a phobl ifanc yn y gymdeithas gyfoes, gan eich cynorthwyo i ddilyn gyrfaoedd mewn amrywiaeth o feysydd gan gynnwys addysgu, gwaith cymdeithasol, cwnsela a’r gyfraith. Mae gan ein tîm addysgu arbenigedd a chefndir mewn seicoleg, cymdeithaseg, hawliau plant, ieithyddiaeth, addysg, agweddau fforensig, iechyd a lles. Mae’r amgylchedd ddysgu cyfoethog ac amrywiol yn nodwedd unigryw o’n cwrs, gan roi’r cyfle i chi astudio plentyndod a phobl ifanc o amrywiaeth o safbwyntiau. Mae’r cwrs 3-blynedd wedi’i gynllunio o gwmpas tri llwybr, gyda modiwlau yn ymwneud â safbwyntiau seicolegol, cymdeithasegol ac addysgol ar faterion sy’n berthnasol i blentyndod ac ieuenctid mewn theori ac ymarfer. Mae’r flwyddyn gyntaf wedi’i
INTERNATIONAL chynllunio i roi sylfaen gadarn i chi EXPERIENCE
ym mhob un o’r tri maes. Mae’r ail flwyddyn yn parhau i adeiladu ar y llinynnau hyn sy’n arwain at drydedd flynedd, lle gallwch astudio o leiaf pedwar pwnc a ddewisir o’r ystod INTERNATIONAL o fodiwlau sydd ar gael ar draws y EXPERIENCE llwybrau ar hyn o bryd. Mae’r cwrs hwn hefyd yn cynnwys lleoliadau, siaradwyr gwadd, cyfleoedd i astudio dramor yn ogystal â chyfleoedd i gyflwyno mewn cynadleddau sy’n eich helpu i ddatblygu’ch sgiliau academaidd a chyflogadwyedd.
PAM DEWIS BANGOR? • Nod y radd yw diwallu’r angen presennol am arbenigwyr gyda chymwysterau da a all weithio gyda phlant, pobl ifanc a’u teuluoedd mewn ystod o gyd- destunau, yn y gymuned ac mewn sefydliadau. Yn y rhaglen, ceir cyfuniad o sylfaen academaidd gadarn ynghyd â dimensiwn ymarferol a gweithredol a fydd yn cynhyrchu gweithwyr proffesiynol a all ymdopi â sialensiau cymdeithas gyfoes a phrysur mewn gwlad ddwyieithog. • Yn ystod y radd, ceir cyfleoedd bob blwyddyn i fynd ar leoliadau i ddatblygu eich dealltwriaeth o agweddau ar anghenion a datblygiad plant ac i wneud ymchwil i faterion ac ymarfer cyfredol. BETH FYDDAF YN EI ASTUDIO? Mae pob modiwl yn y flwyddyn 1af yn orfodol; ym Mlynyddoedd 2 a 3, yn dibynnu ar argaeledd, bydd gennych ddewis o ystod eang o fodiwlau gan roi’r cyfle i chi astudio plentyndod a phobl ifanc o amrywiaeth o safbwyntiau. Pob blwyddyn byddwch yn astudio cyfanswm o 120 credyd, fydd yn rhoi i chi ehangder a dyfnder o wybodaeth a dealltwriaeth erbyn i chi raddio.
SUT Y BYDDAF YN DYSGU? Byddwch yn dysgu trwy gymysgedd o ddarlithoedd, seminarau a gweithdai ymarferol. Caiff pob darlith ei recordio trwy podcast ac mae adnoddau ar-lein eraill hefyd yn cael eu darparu cyn pob darlith. Gall myfyrwyr ddewis derbyn Tiwtor personol sy’n siarad Cymraeg a chwblhau aseiniadau trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r asesiadau’n amrywio o fodiwl i fodiwl. Mae’r asesiadau’n amrywio o draethodau, cyflwyniadau, gwneud ffilmiau, a phrofion aml-ddewis. RHAGOLYGON GYRFAOEDD Mae cynnwys amlddisgyblaethol y radd yn cynnig ystod o ddewisiadau gyrfa ym myd addysg a phroffesiynau cysylltiedig, yn y sector cyhoeddus a phreifat, yn ymwneud ag iechyd, gofal cymdeithasol, gwaith ieuenctid a chymunedol. Mae rhai myfyrwyr yn parhau â’u hastudiaethau ar raglen Meistr neu’n ymgeisio am le ar gwrs TAR Cynradd. Os penderfynwch ymgeisio am gwrs TAR Cynradd ym Mangor, cynigir cyfweliad i chi os byddwch yn cyflawni’r gofynion mynediad.
133
DYLUNIO CYNNYRCH BSc [Anrhydedd] FFEITHIAU AM Y CWRS Cod cwrs UCAS: Ffrwd ddwyieithog W241; Ffrwd Saesneg W240 Hyd: 3 blynedd GOFYNION MYNEDIAD: TGAU: Iaith Saesneg C/4. Cynnig nodweddiadol o isafswm o 80 o bwyntiau tariff o gymwysterau lefel 3* e.e: • Lefel A (yn cynnwys gradd C in mewn Dylunio a Thechnoleg neu bwnc Celf/Peirianneg) • BTEC Cenedlaethol/Diploma Estynedig: MMP • Diploma Mynediad i Addysg Uwch: Pasio • Cymhwyster Bagloriaeth Cymru • Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn, unigolion â chymwysterau Ewropeaidd ac ymgeiswyr rhyngwladol.
CEFNDIR Y CWRS Mae pawb sy’n graddio o’r cwrs hwn yn hynod o gyflogadwy. Yn ystod y cwrs 3 blynedd hwn, byddwch yn datblygu sgiliau sy’n eich galluogi i ddod â chynhyrchion arloesol newydd i’r farchnad a gwneud bywyd yn well, yn haws ac yn fwy cynhyrchiol i gwsmeriaid. Mae graddedigion yn rheoli projectau masnachol gan ganiatáu i gwmnïau fod yn effeithiol, yn gystadleuol ac yn berthnasol yn y byd heddiw.
PAM DEWIS BANGOR? • Mae’r cwrs yn ymfalchïo yn y ffaith bod ganddo gyfraddau boddhad myfyrwyr uchaf unrhyw raglen ddylunio yn y DU. • Mae dros 90% o’n myfyrwyr yn cael swyddi yn syth ar ôl graddio *Mae cymwysterau lefel 3 yn cynnwys ac mae llawer ohonynt yn cael Lefel A, BTEC, Mynediad, Cymhwyster swydd yn y cwmnïau y buont ar Bagloriaeth Cymru ac eraill – am brofiad gwaith ynddynt. restr lawn, cyfeiriwch at y tariff newydd gan UCAS ar www.ucas.com. • Mae’r cwrs yn gyson yn y 10% uchaf yn y DU am gyflogadwyedd dylunio. • Mae canran uchel o’n myfyrwyr yn graddio â graddau dosbarth uwch. • Ceir tri lleoliad yn ystod y radd ac mae hyn yn rhoi’r cyfle i chi wella a datblygu fel unigolyn. • Gall pob project fod yn friffiau byw MAE MODD GWNEUD gyda phartneriaid o ddiwydiant, Y CWRS HWN DRWY sy’n rhoi profiad perthnasol i chi ar GYFRWNG Y GYMRAEG gyfer gyrfa yn y diwydiant dylunio a gweithgynhyrchu. • Byddwch yn astudio yng Nghanolfan Ddylunio Cynnyrch INTERNATIONAL PROFIAD Prifysgol Bangor, sy’n amgylchedd EXPERIENCE RHYNGWLADOL gwaith proffesiynol gyda chyfarpar MODIWLAU DATBLYGU o’r radd flaenaf. SGILIAU IAITH AR GAEL • Dim cost ychwanegol am ddeunyddiau nac am ddefnyddio’r stiwdio na’r gweithdy. MWY O WYBODAETH Addysg Ffôn: 01248 382629 e-bost: addysg@bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/addysg/
134
INTERNATIONAL EXPERIENCE
BETH FYDDAF YN EI ASTUDIO? Bydd y cwrs yn rhoi sylfaen i chi mewn dylunio cynnyrch trwy brojectau byw a phrofiad diwydiannol sy’n cynnwys pedwar modiwl 30 credyd ym mhob blwyddyn: • Ymarfer Proffesiynol • Astudiaeth Pwnc (dau fodiwl) • Profiad Gwaith
Yn Ymarfer Proffesiynol byddwch yn dod i ddeall y materion sy’n effeithio ar ddylunwyr cynnyrch mewn diwydiant: • Arloesi dylunio ar gyfer diwydiant • Rheoli cynhyrchu • Sefydliadau a rheolaeth • Marchnata • Sgiliau cyflwyno Yn y modiwlau Astudiaeth Pwnc byddwch yn astudio methodolegau dylunio sy’n canolbwyntio ar bobl a meddylfryd dylunio. Bydd amrywiaeth o friffiau’n eich herio ac yn eich datblygu’n greadigol ac yn broffesiynol. Bydd projectau gyda phartneriaid diwydiannol yn darparu sylfaen a chyd-destun i ddeall sut mae diwydiant yn gweithio. Eich her fydd bod yn greadigol a sicrhau arloesi yn y briff a roddir. Mae’r rhain yn cynnwys: • Egwyddorion meddylfryd dylunio • Creadigrwydd • Cyfathrebu a modelu dylunio • Dylunio â Chymorth Cyfrifiadur (CAD) • Gweithgynhyrchu â Chymorth Cyfrifiadur (CAM) • Sgiliau gweithgynhyrchu • Prototeipio • Datblygiad cynaliadwy a’r economi cylchol • Sgiliau cyflwyno
Mae profiad gwaith yn cynnwys 24 wythnos dros dair blynedd: • Bloc 8 wythnos pob blwyddyn • Cefnogir gan fentoriaid profiadol • Ymweliadau gan diwtoriaid cyswllt coleg • Cynhyrchu portffolio ardderchog • Profiad o gydweithio • Cymryd rhan mewn projectau go iawn • Datblygiad personol a phroffesiynol • Profiadau a ysgogir gan yrfaoedd Bydd project gradd blwyddyn olaf yn dwyn yr holl elfennau uchod ynghyd. SUT BYDDAF YN DYSGU? • O leiaf 19 awr o amser cyswllt pob wythnos mewn darlithoedd/ seminarau. • Darllen, paratoi at seminarau, cwblhau gwaith cwrs. • Asesu elfennau o astudiaethau proffesiynol trwy waith cwrs ac un arholiad. • Asesu parhaus o’r modiwlau astudiaeth pwnc (ni fydd unrhyw arholiad ysgrifenedig ffurfiol). • Caiff profiad yn y gwaith ei fonitro trwy ymweliadau gan diwtoriaid a chyflwyniadau. • Caiff y profiadau eu gwella trwy brojectau byw gyda diwydiant. • Tiwtorialau personol rheolaidd.
CYNHADLEDD AC ARDDANGOSFA DYLUNIO CYNNYRCH FLYNYDDOL Ym mis Mehefin pob blwyddyn, daw Cynhadledd Dylunio flynyddol Prifysgol Bangor â myfyrwyr Dylunio Cynnyrch ynghyd â dylunwyr ac ymarferwyr dylanwadol yn y sector dylunio a chynhyrchu. Yn y gynhadledd ddiweddaraf yn 2018, daeth siaradwyr gwadd o Unilever, ISC, Karcher (UK), ac Enviropax i ysbrydoli ac addysgu’r gynulleidfa. Yn dilyn y Gynhadledd, ceir myfyrwyr sy’n graddio gyda gradd BSc mewn Dylunio Cynnyrch ym Mhrifysgol Bangor y cyfle i arddangos eu gwaith dylunio yn yr Arddangosfa Dylunio Cynnyrch flynyddol (lluniau uchod ac ar y dde). Dywedodd un o drefnwyr yr Arddangosfa a Darlithydd Dylunio Cynnyrch ym Mhrifysgol Bangor: “Cynhadledd Dylunio Bangor yw ‘y lle’ i ddod i gael eich hysbrydoli a’ch haddysgu am ddylunio a gweithgynhyrchu.”
135
MYNEGAI PWNC ADDYSG
Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid*132,133 Addysg Gynradd* 130
ADDYSG GORFFOROL
Chwaraeon, Iechyd ac Addysg Gorfforol Gwyddor Chwaraeon Gwyddor Chwaraeon Antur Gwyddor Chwaraeon (Gweithgareddau Awyr Agored) Gwyddor Chwaraeon (Hamdden Awyr Agored) Gwyddor Chwaraeon (rhyngosodol) Gwyddor Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer
78 78 78 78 78 78 78
ALMAENEG
(gweler hefyd Ieithoedd Modern) Almaeneg 124 Almaeneg ac un neu ddwy iaith arall 126 Almaeneg gydag Astudiaethau Busnes 124 Almaeneg gydag 124 Astudiaethau’r Cyfryngau Almaeneg gydag Eidaleg 124 Almaeneg gyda Ffrangeg 124 Almaeneg gydag Ysgrifennu Creadigol 124 Almaeneg gyda Marchnata 124 Almaeneg gyda Newyddiaduraeth 124 Almaeneg gyda Sbaeneg 124 Almaeneg gyda Seicoleg 124
YR AMGYLCHEDD
Astudiaethau Amgylchedd y Môr Cadwraeth Amgylcheddol Gwyddor yr Amgylchedd Rheolaeth Amgylcheddol
ARCHAEOLEG
Hanes gydag / ac Archaeoleg Hanes Cymru gydag Archaeoleg Treftadaeth, Archaeoleg a Hanes
ASTUDIAETHAU CREADIGOL Astudiaethau Creadigol
70 66 66 66
116 116 116
ASTUDIAETHAU’R CYFRYNGAU
(gweler hefyd Newyddiaduraeth) Astudiaethau’r Cyfryngau* 102, 103 Astudiaethau’r Cyfryngau gydag 102 Iaith Fodern Astudiaethau’r Cyfryngau gyda Theatr 102 a Pherfformio Astudiaethau Newyddiaduraeth 102 a’r Cyfryngau Cymraeg ac Astudiaethau Theatr 106, 113 a’r Cyfryngau* Iaith Saesneg gydag 128 Astudiaethau’r Cyfryngau ac 102 Ysgrifennu Creadigol Ysgrifennu Proffesiynol a’r Cyfryngau 102
ASTUDIAETHAU FFILM
Astudiaethau Ffilm Astudiaethau Ffilm gyda Theatr a Pherfformio Hanes gydag Astudiaethau Ffilm Iaith Saesneg gydag Astudiaethau Ffilm Ysgrifennu Proffesiynol a Ffilm
116 128 102
ASTUDIAETHAU PLENTYNDOD AC IEUENCTID*
fel pwnc gradd ar y cyd* 64, 132 Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid* 133
ASTUDIAETHAU THEATR
Astudiaethau’r Cyfryngau gyda Theatr 102 Astudiaethau Ffilm gyda Theatr 102 Cymraeg, Theatr a’r Cyfryngau* 106, 113 Llenyddiaeth Saesneg gyda Theatr 128 a Pherfformio
ATHRONIAETH
Athroniath a Chrefydd
BANCIO 102
102 102
Bancio a Chyllid Cyfrifeg a Bancio
122
86, 87 86, 87
BIOLEG
(gweler hefyd Sŵoleg) Bioleg 68 Bioleg Feddygol 82 Bioleg gyda Biotechnoleg 68 Bioleg Môr 70 Bioleg Môr ac Eigioneg 70 Bioleg Môr a Sŵoleg 70 Bioleg Môr Gymhwysol 70 Gwyddor Biofeddygol 82
BIOLEG MÔR
Bioleg Môr Bioleg Môr ac Eigioneg Bioleg Môr a Sŵoleg Bioleg Môr Gymhwysol Sŵoleg gyda Sŵoleg Môr Sŵoleg Fertebratau Morol
70 70 70 70 68 70
BUSNES
(gweler hefyd Cyfrifeg, Rheolaeth, Marchnata) Astudiaethau Busnes 86, 87 Astudiaethau Busnes a Chyllid 86, 87 Astudiaethau Busnes a Marchnata 86, 87 Astudiaethau Busnes gydag 86 Iaith Fodern Busnes 86. 87 Busnes a’r Gyfraith 86, 88, 94 Cyfrifiadureg ar gyfer Busnes 74 Economeg Busnes 86, 87 Economeg Gyllidol 86, 87 Seicoleg gyda Busnes 87 Systemau Gwybodaeth Cyfrifiadurol 74 Systemau Gwybodaeth Cyfrifiadurol 74 ar gyfer Busnes
BYDWREIGIAETH CEMEG
Cemeg BSc, MChem Cemeg gyda Phrofiad Diwydiannol Cemeg gyda Phrofiad Ewropeaidd
80
CERDDORIAETH
fel pwnc gradd ar y cyd Cerddoriaeth*
64, 102 98
COEDWIGAETH
Cadwraeth a Choedwigaeth 66 Coedwigaeth 66 Daearyddiaeth gyda Choedwigaeth 66 Amgylcheddol
fel pwnc gradd ar y cyd 64 Cymdeithaseg 94 Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol* 94, 95 Iechyd a Gofal Cymdeithasol 80
CYMRAEG*
CYFRAITH (gweler Y Gyfraith)
fel pwnc gradd ar y cyd Cymraeg* Cymraeg, Theatr a’r Cyfryngau* Cymraeg Creadigol gyda Ysgrifennu Creadigol* Cymraeg gyda Newyddiaduraeth* Cymraeg i Ddechreuwyr Cymraeg i Proffesiynol
CYFRIFEG
DAEARYDDIAETH
CREFYDD
Athroniaeth a Chrefydd
(gweler hefyd Bancio) Astudiaethau Busnes a Chyllid Bancio a Chyllid Cyfrifeg a Bancio Cyfrifeg ac Economeg Cyfrifeg a Chyllid Rheolaeth gyda Chyfrifeg
CYFRIFIADUREG
122
86, 87 86, 87 86, 87 86, 87 86, 87 86, 88
Busnes a Systemau Gwybodaeth 86, 88 Cyfrifiadurol Cyfrifiadureg 74 Cyfrifiadureg ar gyfer Busnes 74 Peirianneg Systemau Cyfrifiadurol 76 Technolegau Creadigol 74 Systemau Gwybodaeth Cyfrifiadurol 74 Systemau Gwybodaeth Cyfrifiadurol 74 ar gyfer Busnes
CYFRYNGAU (gweler Astudiaethau’r 72 72 72
CYMDEITHASEG
Cyfryngau)
Daearyddiaeth Daearyddiaeth gyda Choedwigaeth Amgylcheddol Daearyddiaeth Ffisegol ac Eigioneg Eigioneg Ddaearegol
106, 114 106, 110 106 106, 108
86, 87 86, 87 86, 87
Almaeneg gydag Eidaleg 124 Eidaleg ac un neu ddwy iaith arall 124, 126 Eidaleg a phwnc arall 124 Ffrangeg gydag Eidaleg 124 Sbaeneg gydag Eidaleg 124
EIGIONEG (gweler Gwyddorau Eigion) FFILM (gweler Astudiaethau Ffilm)
66 66 70 70
Astudiaethau’r Cyfryngau gyda Theatr 104 Cymraeg, Theatr a’r Cyfryngau* 106, 113 Llenyddiaeth Saesneg gyda Theatr 128 a Pherfformio
Dylunio Cynnyrch*
Cyfrifeg ac Economeg Economeg Busnes Economeg Cyllidol
EIDALEG
64 106, 107 106, 113
DRAMA
DYLUNIO
ECONOMEG
134
FFRANGEG
(gweler hefyd Ieithoedd Modern) Ffrangeg 124 Ffrangeg ac un neu ddwy iaith arall 124,126 Ffrangeg gydag Almaeneg 124 Ffrangeg gydag Astudiaethau Busnes 124 Ffrangeg gydag Astudiaethau ’r Cyfryngau 124 Ffrangeg gydag Eidaleg 124 Ffrangeg gydag Ysgrifennu Creadigol 124 Ffrangeg gyda Marchnata 124 Ffrangeg gyda Newyddiaduraeth 124 Ffrangeg gyda Sbaeneg 124 Ffrangeg gyda Seicoleg 124
GWYDDOR CHWARAEON (gweler Addysg Gorfforol)
DYSGU (gweler Addysg) ECOLEG
Ecoleg Daear a Môr Cymhwysol
66
CYLLID (gweler Cyfrifeg a Bancio)
*Cynigir y cyrsiau hyn trwy gyfrwng y Gymraeg *Cynigir y cyrsiau hyn trwy gyfrwng y Gymraeg
136
137
MYNEGAI PWNC GWYDDORAU EIGION
Astudiaethau Amgylchedd y Môr Bioleg Môr BSc, MMBiol Bioleg Môr ac Eigioneg Bioleg Môr a Sŵoleg Bioleg Môr Gymhwysol Daearyddiaeth Ffisegol ac Eigioneg Eigioneg Ddaearegol Eigioneg Ffisegol Ffiseg Morol a Geoffiseg Gwyddor Eigion Gwyddor Môr (MMSci) Sŵoleg Fertebratau Morol
GWYDDORAU MEDDYGOL Gwyddorau Meddygol
70 70 70 70 70 70 70 70 70 70 70 70
82
(gweler Gwyddorau Eigion)
fel pwnc gradd ar y cyd 64 Hanes* 116, 117 Hanes Canoloesol a Modern Cynnar 116 Hanes Cymru a Hanes* 116, 120 Hanes Cymru gydag Archaeoleg 116 Hanes gydag Archaeoleg 116 Hanes gydag Astudiaethau Ffilm 116 Hanes gyda Newyddiaduraeth* 116, 118 Hanes Modern a Chyfoes 116 Treftadaeth, Archaeoleg a Hanes 116
HANES CYMRU
fel pwnc gradd ar y cyd 64 Hanes Cymru a Hanes* 116, 120 Hanes Cymru gydag /ac Archaeoleg 116
IECHYD (gweler hefyd Nyrsio)
Chwaraeon, Iechyd ac Addysg Gorfforol Gwyddor Chwaraeon Gwyddor Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer Gwyddorau Meddygol Iechyd a Gofal Cymdeithasol
IEITHOEDD MODERN
Anrhydedd Tair Iaith 124, 126 Astudiaethau Busnes gydag 86 Iaith Fodern Cemeg gyda Phrofiad Ewropeaidd 72 Cyd-Anrhydedd mewn Ieithoedd 124, 126 Marchnata gydag Iaith Fodern 86 Newyddiaduraeth gydag Iaith Fodern 124 Rheolaeth gydag Iaith Fodern 86
IEITHYDDIAETH
78 78 78 82 80
(gweler Cymraeg a Saesneg)
MARCHNATA
Astudiaethau Busnes a Marchnata Marchnata Marchnata gydag Iaith Fodern
86, 87 86, 88 86
NEWYDDIADURAETH
Astudiaethau’r Cyfryngau* 102, 103 Newyddiaduraeth a’r Cyfryngau 102 Cymraeg gyda Newyddiaduraeth* 106, 110 Hanes gyda Newyddiaduraeth* 116, 118 Newyddiaduraeth gydag Iaith Fodern 124 Llenyddiaeth Saesneg gyda 128 Newyddiaduraeth
NYRSIO (gweler hefyd Iechyd)
RADIOGRAFFEG
SEICOLEG
76 76 76 76
POLISI CYMDEITHASOL
Radiograffeg Diagnostig
RHEOLAETH
Rheolaeth gyda Chyfrifeg Rheolaeth Amgylcheddol
80
86, 88 66
SAESNEG (gweler hefyd Ieithyddiaeth)
LLENYDDIAETH
HANES
fel pwnc gradd ar y cyd 64 Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol* 94, 95
Sbaeneg 124 Sbaeneg ac un neu ddwy iaith arall 124, 126 Sbaeneg gyda Ffrangeg 124 Sbaeneg gydag Almaeneg 124 Sbaeneg gydag Astudiaethau Busnes 124 Sbaeneg gydag Astudiaethau’r Cyfryngau 124 Sbaeneg gydag Eidaleg 124 Sbaeneg gydag Ysgrifennu Creadigol 124 Sbaeneg gyda Marchnata 124 Sbaeneg gyda Newyddiaduraeth 124
(gweler hefyd Cyfrifiadureg) Peirianneg Electronig Peirianneg Diogelwch Critigol Peirianneg Rheoli ac Offeryniaeth Peirianneg Systemau Cyfrifiadurol
(gweler Almaeneg, Eidaleg, Ffrangeg, Ieithoedd Modern, Sbaeneg)
Ieithyddiaeth 128 Ieithyddiaeth ac Iaith Saesneg 128 Ieithyddiaeth ac Llenyddiaeth Saesneg 128
GWYDDORAU MÔR
SBAENEG
PEIRIANNEG ELECTRONIG
IEITHOEDD
Iaith Saesneg Rhyngwladol Iaith Saesneg Iaith Saesneg gydag Astudiaethau Ffilm Iaith Saesneg gydag Astudiaethau’r Cyfryngau Iaith Saesneg gydag Ysgrifennu Creadigol Ieithyddiaeth ac Iaith Saesneg Ieithyddiaeth gyda Llenyddiaeth Saesneg Llenyddiaeth Saesneg gydag Iaith Saesneg Llenyddiaeth Saesneg Llenyddiaeth Saesneg gyda Theatr a Pherfformio Llenyddiaeth Saesneg gydag Ysgrifennu Creadigol Llenyddiaeth Saesneg gyda Newyddiaduraeth
Bydwreigiaeth 80, 82 Nyrsio 80
128 128 128
SŴOLEG
Sŵoleg 68 Sŵoleg Fertebratau Morol 70 Sŵoleg gyda Chadwraeth 68 Sŵoleg gydag Ymddygiad Anifeiliaid 68 Sŵoleg gyda Sŵoleg Môr 68 Sŵoleg gyda Herpetoleg 68
128
THEATR (gweler Astudiaethau Theatr)
128 128
TREFTADAETH
128 128
Treftadaeth, Archaeoleg a Hanes
TROSEDDEG
Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol
TSIEINËEG GYDA PHWNC ARALL
Busnes a’r Gyfraith 86, 88, 94 Y Gyfraith 90 Y Gyfraith gydag Almaeneg 92 Y Gyfraith gydag Astudiaethau Busnes 92 Y Gyfraith gydag Astudiaethau Cyfryngau 92 Y Gyfraith gydag Astudiaethau Crefyddol 92 Y Gyfraith gydag Astudiaethau Tsieinëeg 92 Gyfoes Y Gyfraith gyda Chyfrifeg a Chyllid 92 Y Gyfraith gydag Eidaleg 92 Y Gyfraith gyda Ffrangeg 92 Y Gyfraith gyda’r Gymraeg 91 Y Gyfraith gyda Hanes 92 Y Gyfraith gyda Pholisi Cymdeithasol 92 Y Gyfraith gyda Sbaeneg 92 Y Gyfraith gyda Throseddeg 92 Y Gyfraith gydag Ysgrifennu ar gyfer 92 Cyfryngau Creadigol 92
YSGRIFENNU CREADIGOL
Cymraeg gydag Ysgrifennu 106, 111 Creadigol* Llenyddiaeth Saesneg gydag 128 Ysgrifennu Creadigol Ysgrifennu Creadigol a Phroffesiynol 102 Astudiaethau’r Cyfryngau ac 102 Ysgrifennu Creadigol
YSGRIFENNU PROFFESIYNOL Ysgrifennu Proffesiynol a’r Cyfryngau Ysgrifennu Proffesiynol a Ffilm
102 102
116
94 124, 126
*Cynigir y cyrsiau hyn trwy gyfrwng y Gymraeg
138
128 128 128 128
Almaeneg gyda Seicoleg 124 Ffrangeg gyda Seicoleg 124 Niwroseicoleg (rhyngosodol) 84 Seicoleg 84 Seicoleg Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer 78 Seicoleg gyda Busnes 84 Seicoleg gyda Niwroseicoleg 84 Seicoleg gyda Seicoleg Glinigol ac Iechyd 84
Y GYFRAITH
*Cynigir y cyrsiau hyn trwy gyfrwng y Gymraeg
139
GWYBODAETH BWYSIGther
YMUNWCH Â’R SGWRS ar y cyfryngau cymdeithasol – drwy ddefnyddio #PrifysgolBangor @prifysgolbangor facebook.com/PrifysgolBangor @prifysgolbangor prifysgolbangor
Mae Prifysgol Bangor yn gwneud pob ymdrech resymol i sicrhau bod y wybodaeth a geir yn y prospectws hwn yn gywir ar adeg ei argraffu (Chwefror 2019). Mae’r argraffiad hwn o brospectws y Brifysgol i israddedigion yn disgrifio’r cyfleusterau a’r cyrsiau y mae’r Brifysgol yn bwriadu eu cynnig yn ystod y flwyddyn academaidd yn dechrau yn hydref 2020. Mae’r prospectws a’r gwe-dudalennau’n cael eu paratoi beth amser cyn y flwyddyn academaidd y maent yn ymwneud â hi a gwnaed pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth a geir yn y prospectws hwn yn ddefnyddiol, yn deg a chywir pan aeth i gael ei argraffu. Fodd bynnag, gall y wybodaeth hon newid dros amser.
ar y cyfryngau cymdeithasol – drwy ddefnyddio #PrifysgolBangor
Mae’r Brifysgol yn gwneud pob ymdrech resymol i ddarparu’r cyrsiau, hyfforddiant a chefnogaeth ddysgu, cyfleoedd ymchwil a gwasanaethau a chyfleusterau eraill gyda gofal a medr rhesymol ac yn y ffordd a ddisgrifir yn y prospectws hwn. Fodd bynnag, ni all y Brifysgol roi sicrwydd ynghylch darparu unrhyw gwrs neu gyfleuster. Gall rhai amgylchiadau, megis newidiadau staff, cyfyngiadau ar adnoddau a ffactorau eraill nad oes gan y Brifysgol unrhyw reolaeth drostynt, megis gweithredu diwydiannol neu newid yn y gyfraith neu yn lefel y galw am raglen neu fodiwl neilltuol (sylwer nad yw’r rhestr hon yn un lawn a therfynol), beri i’r Brifysgol orfod tynnu’n ôl neu newid agweddau ar y rhaglenni, modiwlau ac/ neu wasanaethau myfyrwyr ac/neu gyfleusterau a ddisgrifir yn y prospectws. Gall hyn gynnwys staffio, cynnwys rhaglen/modiwl, y fan lle dysgir y rhaglen/modiwl neu’r dull addysgu, a’r cyfleusterau a ddarperir i gyflwyno neu gefnogi’r rhaglen, ond heb fod yn gyfyngedig o angenrheidrwydd i’r materion hyn.
CYSYLLTIADAU DEFNYDDIOL Yn ogystal, caiff ymgeiswyr eu hysbysu am unrhyw newidiadau rhwng y prospectws a’r cwrs a gwasanaethau arfaethedig ar yr adeg y gwneir cynnig iddynt. Anogir darpar ymgeiswyr i edrych ar ein gwefan i gael y wybodaeth ddiweddaraf. Nid yw parodrwydd y Brifysgol i ystyried cais yn sicrwydd y derbynnir yr ymgeisydd. Derbynnir myfyrwyr i’r Brifysgol ar sail bod y wybodaeth a roddant ar eu ffurflen gais yn gyflawn ac yn gywir. Gall yr holl brisiau a nodir yn y prospectws hwn newid a byddwch yn cael eich hysbysu am unrhyw newid o’r fath pan fydd y Brifysgol yn cynnig lle i chi.
PRIFYSGOL BANGOR GWYNEDD LL57 2DG Ffôn: 01248 351151 Gwefan: www.bangor.ac.uk DERBYN Ffôn: 01248 383717 E-bost: derbyniadau@bangor.ac.uk DIWRNOD AGORED AC YMWELIADAU ERAILL Ffôn: 01248 382420/382015 E-bost: ymweld@bangor.ac.uk GWASANAETHAU CEFNOGI MYFYRWYR Ffôn: 01248 382024 E-bost: gwasanaethaumyfyrwyr@bangor.ac.uk
Pe baech yn dod yn fyfyriwr yn y Brifysgol, bydd yr hysbysiad hwn yn un o delerau unrhyw gontract rhyngoch chi a’r Brifysgol. Bydd unrhyw gynnig o le yn y Brifysgol yn amodol ar yr amodau cofrestru myfyrwyr a rheolau, rheoliadau a pholisïau’r Brifysgol a gaiff eu diwygio o bryd i’w gilydd.
LLINELL GYMORTH ADEG CANLYNIADAU Ffôn: 0800 328 5763
Mae copi o delerau ac amodau cyfredol y Brifysgol yn: www.bangor.ac.uk/telerau-ac-amodau neu gellir cael copi papur gan Bennaeth Llywodraethu a Chydymffurfio, Prifysgol Bangor, Bangor, Gwynedd,LL57 2DG.
SWYDDFA NEUADDAU Ffôn: 01248 382667 E-bost: neuaddau@bangor.ac.uk
Internet Access
PROSPECTWS A GWYBODAETH BELLACH Ffôn: 01248 383561/382005 E-bost: prospectws@bangor.ac.uk
SWYDDFA TAI MYFYRWYR Ffôn: 01248 382034 E-bost: taimyfyrwyr@bangor.ac.uk UNED CYMORTH ARIANNOL Ffôn: 01248 383566/383637 E-bost: cymorthariannol@bangor.ac.uk CEFNOGAETH DYSLECSIA Ffôn: 01248 382203 E-bost: dyslecsia@bangor.ac.uk
Lle bo newid yn anorfod oherwydd amgylchiadau, neu lle mae’n angenrheidiol i’r Brifysgol ddod â rhaglen astudio i ben, bydd y Brifysgol yn cymryd pob cam rhesymol i leihau’r effaith i’r eithaf. Bydd holl ddarpar ymgeiswyr sydd wedi mynegi diddordeb yn y rhaglen berthnasol yn cael eu hysbysu cyn gynted â phosibl a rhoddir y wybodaeth ddiweddaraf hefyd ar wefan y Brifysgol (www.bangor.ac.uk). Bydd gan unigolyn hawl i dynnu’n ôl o’r cwrs drwy hysbysu’r Brifysgol yn ysgrifenedig o fewn cyfnod rhesymol o gael ei hysbysu am y newid.
140 140
141
141