Prospectws Israddedig 2020 Prifysgol Bangor

Page 1

PRIFYSGOL BANGOR Prospectws Israddedigion 2020

Prifysgol Bangor 2020

bangor.ac.uk

COD UCAS: Bangr B06


B “O’r diwrnod cyntaf, mae Bangor wedi bod fel ail-gartref i mi... Mi ddes i yma ar Ddiwrnod Agored, a bu hynny gadarnhau mai dod i Fangor oedd y dewis gorau i mi.” Lowri Lloyd Parry, o Falltraeth, sy’n astudio Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol

A

O

N G

R


Cynnwys

Cyrsiau 2020

04 08 10 16 22 24 26 30 36 42 44 50 52 54 56 58 61 63

65-66 Yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth 67-68 Bioleg a Sŵoleg 69-70 Gwyddorau Eigion 71-72 Cemeg 73-74 Cyfrifiadureg 75-76 Electroneg 77-78 Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer 79-80 Gwyddorau Gofal Iechyd 81-82 Gwyddorau Meddygol 83-84 Seicoleg 85-88 Busnes, Cyllid, Rheolaeth a Marchnata 89-92 Y Gyfraith 93-96 Gwyddorau Cymdeithas 97-100 Cerddoriaeth 101-104 Y Cyfryngau, Theatr, Ffilm a Newyddiaduraeth 105-114 Cymraeg 115-120 Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg 121-122 Athroniaeth a Chrefydd 123-126 Ieithoedd a Diwylliannau Modern 127-128 Llenyddiaeth Saesneg, Ieithyddiaeth ac Iaith Saesneg 129-135 Addysg, Astudiaethau Plentyndod a Dylunio Cynnyrch

Diwrnodau Agored Cipolwg Cyflym ar Fangor Profiad Myfyriwr Y Gymraeg ym Mangor Undeb y Myfyrwyr Clybiau a Chymdeithasau Hamdden a Chwaraeon Llety Sgiliau a Chyflogadwyedd Astudio Dramor Cefnogi ein Myfyrwyr Cefnogaeth Astudio Adnoddau Dysgu Myfyrwyr Hŷn Cyllid Myfyrwyr Bwrsariaethau ac Ysgoloriaethau Sut i Wneud Cais Cyrsiau Cyd-Anrhydedd

Os ydych yn ei chael hi’n anodd darllen maint y print yn y llyfr hwn, edrychwch ar y wefan www.bangor.ac.uk am fanylion am ein cyrsiau a’n cyfleusterau.

2

3


DEWCH I BROFI BANGOR Dewch i un o’r Diwrnodau Agored i gael blas ar fywyd myfyriwr a chael gwybod mwy am y cyrsiau sydd ar gael yma. Gan ein bod ymysg y 10 uchaf ym Mhrydain am foddhad myfyrwyr, fe welwch fod yma amryw o resymau dros ddewis astudio ym Mangor. Bydd diwrnod agored yn rhoi cyfle i chi ddod i wybod mwy am ein cyrsiau gradd, cyfarfod y staff a’r myfyrwyr, gweld y campws a’r neuaddau preswyl a chael y wybodaeth ddiweddaraf am astudio yma. Bydd pob adran academaidd yn agored i chi a chewch gyngor ar bynciau megis gyrfaoedd i raddedigion, cyllid myfyrwyr, ysgoloriaethau a bwrsariaethau, gwasanaethau lles myfyrwyr ac UCAS. Bydd hefyd gwybodaeth benodol ar gael ar gyfer myfyrwyr hŷn a rhieni. Cewch raglen yn cynnwys manylion y diwrnod ymlaen llaw er mwyn i chi gael y budd mwyaf o’ch ymweliad, ac felly mae’n hanfodol eich bod yn cofrestru ymlaen llaw.

DIWRNODAU AGORED2019 Bydd y Diwrnodau Agored ar y dyddiadau yma:

Dydd Sadwrn Mehefin 29 Dydd Sadwrn Gorffennaf 6 Dydd Sul Hydref 13 Dydd Sul Hydref 27 Dydd Sadwrn Tachwedd 9 Yn ystod y Diwrnod Agored byddwch yn: • Dod i wybod mwy am ein cyrsiau gradd • Cyfarfod â staff a myfyrwyr • Ymweld ag Ysgolion academaidd • Gweld y llety • Cael cyngor ac arweiniad ar faterion fel Gwasanaethau Cefnogi Myfyrwyr, Gyrfaoedd i Raddedigion, Cyllid Myfyrwyr, Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau.

Archebu eich lle I sicrhau eich lle, cofrestrwch trwy lenwi’r ffurflen ar ein gwefan a bydd pecyn gwybodaeth yn cael ei anfon atoch yn yn post. I archebu eich lle ac am fwy o wybodaeth ewch i www.bangor.ac.uk neu ffoniwch 01248 382005 / 382320

4

Diwrnodau Agored

Diwrnodau Agored

5


“Ym Mangor rydym bob amser yn gwneud ein gorau i fynd y tu hwnt i’r disgwyliadau arferol er mwyn darparu profiadau prifysgol sydd yr un mor bleserus ag ydynt yn werth chweil. Rydym yn cynnig gwasanaethau o’r radd flaenaf i’n myfyrwyr, yn amrywio o gyfleoedd gyrfa i gefnogaeth academaidd. Rydym hefyd yn falch ein bod yn meithrin cymuned gefnogol a mawr ei gofal sy’n annog ymdrech a thwf personol.

Mae ansawdd ein dysgu a’n hymchwil o safon ryngwladol, gan ddenu myfyrwyr a staff o bedwar ban byd. Bu i Brifysgol Bangor dderbyn Gwobr Aur, y wobr uchaf bosib, yn y Fframwaith Rhagoriaeth cenedlaethol (TEF, 2017) a golyga hyn bod ein dysgu o’r radd flaenaf.

TU HWNT I DDISGWYLIADAU 66

Mae cyfleoedd niferus i fyfyrwyr gymryd rhan mewn amrywiaeth eang o weithgareddau. Mae mynyddoedd godidog Eryri a milltiroedd o arfordir yn ychwanegu at y profiad prifysgol na ellir ei guro. Yn ddiweddar mae Bangor wedi buddsoddi miliynau o bunnau’n datblygu cyfleusterau academaidd a chymdeithasol newydd i fyfyrwyr, gan ei wneud yn lle mwy deniadol fyth i astudio ynddo. Mae hyn yn adlewyrchu’r ffaith ein bod yn darparu addysg ragorol a phrofiad prifysgol sy’n rhoi’r myfyrwyr yn gyntaf.” Yr Athro Graham Upton Is-Ganghellor Dros Dro, Prifysgol Bangor

77


10uchaf ym Mhrydain am Foddhad Myfyriwr

*

Gosododd canlyniadau Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2018 Prifysgol Bangor ymysg y 10 uchaf ym Mhrydain am foddhad myfyriwr.

“Mae canlyniadau’r Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr yn gadarnhad ardderchog o’n gweithgareddau a’n gwerthoedd. Mae’n wych ein bod yn y 10 uchaf ym Mhrydain... Mae’n safle sydd unwaith eto yn adlewyrchu’r safon addysgu ragorol sydd ar gael ym Mangor.”

40uchaf ym Mhrydain am Ansawdd ein Hymchwil

**

AUR Yr Athro OLIVER TURNBULL Dirprwy Is-ganghellor

am Addysgu Rhagorol (TEF, 2017)

8

Prifysgol Euraid

Cafodd yr ymchwil o safon fyd-eang a gyflawnir ym Mangor ei chydnabod gan Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014 (REF).

TY LLERAU GO

Y Llety gorau ym Mhrydain Gwobrau WhatUni 2018

Y Clybliau a Chymdeithasau gorau ym Mhrydain Gwobrau WhatUni 2018

*Heb gyfrif sefydliadau arbenigol ** Heb gyfrif sefydliadau arbenigol a phrifysgolion sy’n cyflwyno mewn un uned asesu’n unig

Prifysgol Euraid

9


BANGOR:

Mae yna amryw o resymau dros ddisgyn mewn cariad â Bangor, heblaw am y dysgu rhagorol a’r ymchwil o safon fydeang. Cewch astudio a chymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg, mwynhau awyrgylch clòs a chyfeillgar a chymryd rhan yn rhai o’r llu o weithgareddau myfyrwyr.

DOES UNMAN TEBYG Cipolwg cyflym ar Brofiad Myfyriwr:

10,000+

o fyfyrwyr o bob rhan o'r byd. Mae yma hefyd awyrgylch gyfeillgar, naturiol Gymreig.

10

Profiad10Myfyriwr

Cefnogaeth

i fyfyrwyr – mae hyn yn flaenoriaeth uchel ym Mangor, ac mae amrediad o wasanaethau a rhaglenni i’ch helpu chi i wneud y gorau o’ch amser yma. Gallwn hefyd eich paratoi ar gyfer eich dyfodol gyda’n gwasanaeth menter a chyflogadwyedd.

Costau byw Sicrwydd

is nag mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig. Mae’r Brifysgol hefyd yn cynnig cymorth ychwanegol ar ffurf Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau sydd werth dros £3.4M.

o Lety – rydym yn sicrhau llety i holl fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf* ac mae hynny, ynghyd ag ansawdd y llety a gynigir yn gaffaeliad mawr i’n myfyrwyr.

Ceir y manylion yma: www. bangor.ac.uk/sicrwyddllety

Cyfleoedd

trwy'r Gymraeg – Prifysgol Bangor sy’n cynnig y nifer fwyaf o gyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg ac mae mwy o’n myfyrwyr yn dewis astudio trwy’r Gymraeg nac yn unrhyw brifysgol arall.

Profiad Myfyriwr

11 11


LLEOLIAD SY'N DENU

Awyrgylch glòs a chyfeillgar

Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant

Mae rhagoriaeth Prifysgol Bangor mewn ymchwil ac addysgu yn denu myfyrwyr a staff o bedwar ban byd i’r ddinas. Mae hyn yn cynnig cyfle i’n myfyrwyr gydweithio a chymdeithasu â phobl o bob rhan o'r byd.

Mae maint a natur gyfeillgar y lle, yr amrywiaeth o weithgareddau myfyrwyr a gynigir, ynghyd â’r lleoliad a’r ardal gyfagos yn golygu bod myfyrwyr yn mwynhau eu hunain ym Mangor.

Mae lleoliad Bangor hefyd yn denu. Mae Bangor yn cael ei chydnabod fel lle cyfeillgar a chyfleus i fyw ac astudio, gyda nifer o’n myfyrwyr yn dewis dod yma oherwydd maint a natur y ddinas ei hun.

"Am nad yw’n ddinas fawr, mae popeth o fewn pellter cerdded i’w gilydd. Mae adnoddau fel Canolfan Brailsford a Pontio yn wych ar gyfer gweithgareddau allgyrsiol ac mae Bangor yn agos at nifer o atyniadau megis traethau.” Elain Jones O Ynys Môn, sy’n astudio Cerddoriaeth

12

Profiad Myfyriwr

Mae’r ardal gyfagos hefyd ymhlith y rhesymau pam mae myfyrwyr yn dewis dod i Fangor. Mae Parc Cenedlaethol Eryri a thraethau Ynys Môn yn cynnig digon o gyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored neu i fwynhau eich hunain yn ymlacio. I’r dwyrain, mae’r A55 a’r rheilffordd ar hyd arfordir Cymru yn golygu y gallwch chi fynd digon hawdd am y diwrnod neu gyda’r nos i Landudno, Caer, Lerpwl neu Manceinion. Mae llefydd fel Caernarfon, Llanberis, Beddgelert a Biwmares yn gyrchfannau poblogaidd i fynd am dro, tra bo sawl pentref llai wedi eu dewis fel lleoliad ar gyfer trip Pentre Bach UMCB.

Mae Academi, clwb nos y myfyrwyr, yn ganolbwynt i lawer iawn o’r adloniant gyda’r nos. Yn ogystal â nosweithiau wedi eu trefnu gan yr Undeb neu gan Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor (UMCB, mwy ar dudalen 23), mae amryw o ddigwyddiadau hefyd yn cael eu cynnal yn Y Glôb. Mae Bar Uno, ym mhentref Ffriddoedd a Barlow's ym mhentref y Santes Fair hefyd yn fannau cyfarfod poblogaidd i fyfyrwyr. Yn ogystal, mae canolfan y celfyddydau ac arloesi, Pontio, yn ganolbwynt cymdeithasol newydd i fyfyrwyr yn ogystal â chanolfan o bwys rhyngwladol ar gyfer dysgu, arloesi a’r celfyddydau perfformio. Yn ogystal â bod yn gartref newydd i Undeb y Myfyrwyr, mae’r ganolfan yn cynnwys theatr, theatr stiwdio, sinema, ystafelloedd darlithio, bar, bwyty a chaffi. Mae rhaglen lawn o ddigwyddiadau cerddoriaeth, drama, theatr awyr, comedi, ffilm, ac ystod o weithgareddau eraill yn cael eu cynnal yno.

“Mae Bangor yn lle hynod o braf i fyw ac astudio. Ceir y gorau o ddau fyd yma – bod yn y ddinas ond yn agos i gefn gwlad a’r Parc Cenedlaethol.” Elain Haf Elis O Abergele, sy'n astudio Cymraeg

Profiad Myfyriwr 13 13


“Wedi i mi brofi Diwrnod Agored difyr ym Mhrifysgol Bangor, roeddwn yn sicr mai yma y byddwn i hapusaf. Roedd y darlithwyr a'r staff ategol yn hynod groesawgar ac yn rhoi mewnwelediad diddorol i gynnwys y modiwlau a gynigir fel rhan o'r cwrs gradd. Mae cyfleusterau'r Brifysgol yn arbennig, megis y deunyddiau diddiwedd sydd ar gael yn yr archifdy a darllenfa Shankland, ac mae'r adeilad yn ei hun yn odidog. Does unman gwell!

"Mae Bangor yn lle hyfryd i fyw ac astudio gan fod pob man mor agos i’w gilydd. Mae'r cyfleusterau dysgu o’r safon uchaf ac mae yma lawer o gyfleusterau hamdden sy’n rhoi digon o ddewis o bethau i’w gwneud yn eich amser rhydd. Mae Bangor mewn lleoliad unigryw – yn agos i’r môr a mynyddoedd Eryri ac felly mae digon o gyfle i fynd allan i archwilio’r ardal gyfagos." Gwion Llŷr Morgan Evans O Dregaron, sy’n astudio Cymraeg a Gwyddor Chwaraeon

14

Profiad Myfyriwr

Yr hyn sydd wedi'm synnu ynghylch Bangor yw'r amrywiaeth o bobl a ddenir yma i astudio. Agoriad llygad yw gweld myfyrwyr o wahanol gefndiroedd rhynglwadol yn dewis dod i Fangor ac mae'n amlwg bod rheswm cadarn dros hyn. Dyma un o'r Prifysgolion gorau ym Mhrydain ac mae'r gefnogaeth i fyfyrwyr yn amhrisiadwy ac yn sail i'n bodlondeb a'n llwyddiant. Mae pob diwrnod a dreuliaf yma yn un hapus a phrysur! Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor yw'r corff Cymraeg ei iaith mwyaf adnabyddus ym Mhrifysgol Bangor ac wrth fod yn rhan o'r Undeb, cewch gyfle i gymryd rhan mewn amryw o weithgareddau hwyliog, megis teithiau i wylio gemau rygbi. Petaech yn awyddus i ddatblygu'ch doniau ym maes ysgrifennu dramâu a pherfformio, cewch wneud hynny yn y Gymdeithas Ddrama Gymraeg. Petawn yn rhestru'r holl gyfleoedd, byddai angen ail brosbectws arnoch. Dewch i Fangor – chewch chi mo'ch siomi.” Anna Lewis O Rosybol, Sir Fôn, sy'n astudio Cymraeg

“O’r diwrnod cyntaf, mae Bangor wedi bod fel ail-gartref imi... Mi ddes i yma ar Ddiwrnod Agored, a bu hynny gadarnhau mai dod i Fangor i astudio cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg oedd y dewis gorau i mi. Mae gallu astudio a byw drwy gyfrwng y Gymraeg yn bwysig iawn i mi a gan fod Bangor yn caniatáu i mi wneud hynny rwyf yn ei weld yn lle gwych ar lefel addysgol a chymdeithasol. Rwyf yn hapus iawn efo’r gefnogaeth yr wyf yn ei chael yma, yn enwedig gan fy narlithwyr a fy Nhiwtor Personol. Teimlaf y gallwn drafod unrhyw beth gyda nhw.” Lowri Lloyd Parry O Falltraeth, sy’n astudio Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol

“Dewisiais Fangor am fod yr elfen o fywyd Cymreig yn hollbwysig i mi. Roedd hefyd yn bwysig fy mod yn gallu astudio fy nghwrs trwy'r Gymraeg.” Catrin Gruffudd O Ddeiniolen, sy'n astudio Cerddoriaeth

Profiad Myfyriwr

15


Y GYMRAEG YM MANGOR Prifysgol Bangor sy’n cynnig y nifer fwyaf o gyrsiau cyfrwng Cymraeg – ac mae hefyd yn cael ei chydnabod am safon ei gwasanaethau dwyieithog a’i chefnogaeth i fyfyrwyr.

Mae’r Gymraeg yn rhan gwbl naturiol o fywyd ym Mhrifysgol Bangor ac i’w gweld a’i chlywed ym mhob agwedd ar ei gwaith a’i gweithgarwch. Y mae’r Brifysgol yn buddsoddi’n gyson mewn datblygiadau academaidd cyfrwng Cymraeg a gwasanaethau dwyieithog. Ym Mangor, ceir profiad Cymraeg cyflawn – o ddewis eang o fodiwlau cyfrwng Cymraeg i wasanaethau trwy’r Gymraeg, i ddigwyddiadau cymdeithasol lle mae’r Gymraeg yn ganolog. Mae’r Brifysgol yn hynod o falch o dreftadaeth gyfoethog yr ardal, yn ddiwylliannol ac yn ieithyddol, a bydd yn parhau i chwarae rhan flaenllaw wrth feithrin y bywyd diwylliannol hwn.

“Wrth ddewis astudio ym Mangor, cefais y cyfle i astudio modiwlau trwy gyfrwng y Gymraeg, a gan fy mod yn siarad Cymraeg iaith gyntaf manteisiais ar y cyfle i dderbyn tiwtor Cymraeg am y cyfnod o dair blynedd y byddaf yn astudio ym Mangor". Miriam Forrest Owen O Ynys Môn, sy’n astudio Athroniaeth a Chrefydd

Bangor yw un o’r prifysgolion mwyaf blaenllaw yn y byd yn nhermau gwaith ymchwil i feysydd dwyieithrwydd a thechnolegau iaith. Ar ben hynny, mae’r Brifysgol yn arwain llawer o’r datblygiadau cyffrous sy’n digwydd ym maes addysg uwch trwy’r Gymraeg. Erbyn hyn, mae modd astudio elfennau o’ch cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg ym mhob un o feysydd pwnc y Brifysgol – o Gerddoriaeth i Seicoleg i enwi dim ond rhai meysydd. Mae ein darlithwyr yn arwain y gwaith o ddatblygu adnoddau i gefnogi myfyrwyr, yn cynnwys y termau sydd eu hangen ar gyfer astudio yn Gymraeg. Mae’r Brifysgol hefyd yn arwain nifer o’r cynlluniau sydd wedi’u datblygu i gefnogi addysg uwch cyfrwng Cymraeg drwy’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

“Roedd y gymuned Gymraeg sydd ym Mangor yn apelio’n fawr, yn enwedig y cyfleoedd i fod yn rhan o UMCB ac Aelwyd JMJ sydd wedi cyfoethogi fy mhrofiad fel myfyrwraig. Mae Bangor yn le delfrydol i fyfyrwyr Cymraeg. Mae’r bwrlwm sy’n perthyn i’r gymuned Gymraeg yn anhygoel... Alla i ddim meddwl am unrhyw le gwell i dreulio fy amser fel myfyrwraig cyfrwng Cymraeg.” Elain Jones O Fodedern, sy’n astudio Cerddoriaeth

16

Y Gymraeg ym Mangor

Y Gymraeg ym Mangor

17 17


Y COLEG CYMRAEG CENEDLAETHOL

Ysgoloriaethau Israddedig y Coleg Cymraeg Cenedlaethol Mae’r Coleg yn cynnig ysgoloriaethau cyfrwng Cymraeg i fyfyrwyr israddedig, sy’n gyfle i dderbyn hyd at £3,000 am astudio pynciau yn gyfan gwbl neu’n rhannol trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae rhestr gyflawn o’r cyrsiau cymwys sy’n gysylltiedig â’r cynllun presennol ynghyd ag amodau a thelerau’r ysgoloriaethau i’w gweld ar www.colegcymraeg.ac.uk

Mae Prifysgol Bangor yn gweithio mewn partneriaeth â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i sicrhau ac i gynyddu'r cyfleoedd astudio trwy'r Gymraeg i'n myfyrwyr. Trwy gydweithio â phrifysgolion Cymru, mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn sicrhau ac yn datblygu rhagor o gyfleoedd astudio cyfrwng Cymraeg i fyfyrwyr Cymru. Mae’n cynnig ysgoloriaethau sy’n galluogi myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig i ddilyn cyrsiau addysg uwch drwy gyfrwng y Gymraeg.

MODIWLAU DATBLYGU

SGILIAU IAITH AR GAEL

Pan welwch y symbol hwn ar dudalen cwrs, cofiwch am y gwasanaethau sydd ar gael gan Ganolfan Bedwyr i’ch helpu i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.

18

Y Gymraeg ym Mangor

“Oni bai mod i wedi dilyn

Gweler tudalennau 58-60 am fwy o wybodaeth am Fwrsariaethau ac Ysgoloriaethau ym Mangor.

rhai o fodiwlau’r cwrs yn Gymraeg, dwi ddim yn meddwl byddwn i wedi cael y swydd. Mae gweithio yn adran Pensiynau Cyngor Gwynedd yn waith difyr iawn, a dw i’n meddwl fod astudio rhan o’m cwrs trwy’r Gymraeg a bod yn siaradwr Cymraeg wedi bod yn fantais fawr yn fy nghyfweliad.” Hâf Owen Cyn-fyfyriwr Cyfrifeg a Chyllid

Tystysgrif Sgiliau Iaith Gymraeg y Coleg Cymraeg Cenedlaethol Mae nifer fawr o gyflogwyr yn cydnabod y Dystysgrif hon fel prawf o allu unigolyn i weithio a chyfathrebu’n hyderus drwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd cyfle i chi ymgeisio am y Dystysgrif yn ystod eich cyfnod ym Mangor, pa bynnag bwnc y byddwch yn dewis ei astudio. Bydd y Tiwtor Sgiliau Iaith yn trefnu cyfres o sesiynau i’ch helpu i baratoi ar gyfer yr asesiad llafar a’r arholiad ysgrifenedig.

“Mae astudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn galluogi pobl broffesiynol i weithredu a chyfathrebu’n ddwyieithog yn y maes gwaith. Mae yno farchnad yn y sector breifat a chyhoeddus i allu cynnig gwasanaeth dwyieithog. Mae hyn yn adlewyrchu pwysigrwydd addysg cyfrwng Cymraeg ym maes busnes – i roi sylfaen gadarn, fydd yn fantais i fyfyrwyr yn eu gyrfa gan fod cyflogau swyddi dwyieithog yn uwch na’r cyfartaledd."

“Uchafbwynt y cwrs i mi oedd cael astudio trwy’r Gymraeg, cael bod yn rhan o faes arbenigol sy’n cynnig amryw o gyfleoedd gyrfa i chi. Y cyngor sydd gen i i fyfyrwyr y dyfodol ydi – astudiwch trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’n cynnig llawer o gyfleoedd i chi fel myfyriwr, ac yn y dyfodol fel Nyrs." Sera Llywelyn Davies, astudiodd Nyrsio ac sydd bellach yn gweithio fel Nyrs Gofrestredig

Sara Closs-Davies Darlithydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol Ysgol Busnes Bangor

Y Gymraeg ym Mangor

19 19


ASTUDIO TRWY'R GYMRAEG Prifysgol Bangor sy’n cynnig y nifer fwyaf o gyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg – ac mae mwy o’n myfyrwyr yn dewis astudio trwy’r Gymraeg hefyd nac yn unrhyw brifysgol arall.

Rhesymau tros astudio drwy’r Gymraeg:

Pa gyrsiau sydd ar gael yn Gymraeg?

Modiwlau datblygu sgiliau iaith Mae’r modiwlau Sgiliau Defnyddio'r Gymraeg a

• Gosod sylfaen ardderchog i’r dyfodol o ran cael prawf pendant o ddeallusrwydd a defnydd ymarferol o'r Gymraeg

Ar hyn o bryd mae’n bosib dilyn cwrs gradd un ai’n gyfan gwbl neu’n rhannol trwy gyfrwng y Gymraeg mewn nifer o feysydd pwnc. Ond hyd yn oed os nad yw’r cwrs ei hun ar gael drwy’r Gymraeg mae Bangor hefyd yn cynnig cefnogaeth, anogaeth a chyfle i’r rheiny sydd am gyflwyno eu traethodau neu drafod eu pwnc yn y Gymraeg.

modiwl Ymdrin â’ch Pwnc yn Gymraeg yn cynnig cymorth ymarferol ac maent yn addas i siaradwyr Cymraeg rhugl (dysgwyr neu siaradwyr iaith gyntaf). Mae’r modiwlau yn addas os ydych chi’n: • dilyn eich cyrsiau neu ran o’ch cyrsiau drwy gyfrwng y Gymraeg • dilyn eich cyrsiau yn Saesneg ond eisiau datblygu eich sgiliau a’ch hyder i ddefnyddio’r Gymraeg yn gyffredinol a/neu'n awyddus i allu trafod eich pynciau’n hyderus trwy gyfrwng y Gymraeg.

• Mae cyflogwyr angen pobl ddwyieithog ar gyfer pob math o swyddi • Mae cyflogau swyddi dwyieithog ar gyfartaledd yn uwch • Y Gymraeg ydi iaith yr aelwyd a/neu iaith yr addysg yn yr ysgol a’r chweched dosbarth, ac felly dyma’r iaith sydd fwyaf naturiol • Wedi arfer cael arholiadau a phrofion drwy’r Gymraeg – ac am barhau â hynny yn y brifysgol • Wedi dysgu ac arfer defnyddio termau gwyddonol a chelfyddydol yn Gymraeg • Mae’n agor drysau i gyfleoedd newydd a gwella’r hyn a gynigir ar y CV • Mae’n gyfle i gymdeithasu a byw mewn awyrgylch lle mae’r Gymraeg i’w chlywed bob dydd.

Pam dewis astudio trwy'r Gymraeg? Mae arolwg DLHE yn dangos bod myfyrwyr sy'n astudio trwy'r Gymraeg yn llawer mwy tebygol o fod mewn gwaith neu astudiaethau pellach, ac mewn cyflogaeth sgiliau uwch, na myfyrwyr eraill. Felly, gall astudio trwy'r Gymraeg wella eich rhagolygon gyrfa ac mae sawl rheswm ymarferol a chymdeithasol hefyd dros ddewis astudio trwy’r Gymraeg:

Ffair Swyddi Cymraeg Mae Prifysgol Bangor yn cynnal Ffair Swyddi Cymraeg, sy’n rhoi cyfle i fyfyrwyr gyfarfod â chyflogwyr o wahanol sectorau a deall mwy am bwysigrwydd y Gymraeg ym myd gwaith.

20

Y Gymraeg ym Mangor

Galw am sgiliau iaith Gymraeg Yn sgîl y Safonau Iaith Gymraeg, mae’r galw am sgiliau iaith Gymraeg yn mynd i gynyddu yn y blynyddoedd nesaf, wrth i fwy o sefydliadau ymateb i’r angen i gynnig gwasanaeth dwyieithog. Mae prinder pobl gyda sgiliau dwyieithog mewn nifer o feysydd a swyddi, er enghraifft gwaith cymdeithasol, cyngor gyrfaoedd, cyllid, addysg, y sector cyfiawnder, llywodraeth leol, rheoli gweinyddol a busnes, technoleg darlledu, therapyddion iaith a therapyddion lleferydd, swyddi gweinyddol. Wrth i fwy o gyflogwyr chwilio am weithwyr gyda sgiliau dwyieithog, yna mae astudio o leiaf rhan o gwrs gradd drwy gyfrwng y Gymraeg yn mynd i fod o help wrth chwilio am swydd.

Pa gefnogaeth sydd ar gael? Mae nifer o fyfyrwyr Prifysgol Bangor yn dewis astudio drwy’r Gymraeg. Os dewiswch chi wneud hyn, bydd digon o gefnogaeth ar gael i chi. Mae Canolfan Bedwyr yn arbenigo ar gynnig gwasanaethau i gefnogi'r Gymraeg ym Mangor. Mae'r Ganolfan hefyd yn gartref i waith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yma. Ceir crynodeb o'r gefnogaeth yma yn y golofn nesaf.

MAE MODD GWNEUD Y CWRS HWN DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

Pan welwch y symbol hwn ar y dudalen, mae hyn yn golygu bod modd gwneud y cwrs yn gyfan gwbl drwy’r Gymraeg. Os nad yw’r symbol ar y dudalen cwrs, darllenwch yr wybodaeth o dan y pennawd Astudio trwy’r Gymraeg i weld y dewisiadau cyfrwng Cymraeg sydd ar gael i chi.

Meddalwedd cyfrifiadurol Cysgliad Dyma adnodd defnyddiol ar gyfer rhai sy’n awyddus i ysgrifennu’r Gymraeg. Mae’n cynnwys: • Cysill – rhaglen sy’n gwirio sillafu a gramadeg • Cysgeir – casgliad o eiriaduron electronig Cymraeg/Saesneg a Saesneg/Cymraeg.

Gwasanaeth Terminoleg Mae’r tîm termau wedi cyhoeddi ystod eang o eiriaduron termau dwyieithog er mwyn galluogi myfyrwyr a staff i ymdrin â’u pwnc yn Gymraeg. Gall myfyrwyr gysylltu â swyddog terminoleg y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, wedi’i lleoli yng Nghanolfan Bedwyr, am arweiniad ar ba dermau i’w defnyddio.

Gwasanaeth cyfieithu llawn Mae gan fyfyrwyr hawl i gyflwyno traethodau neu wneud cyflwyniadau yn Gymraeg, hyd yn oed os nad yw’r tiwtor/darlithydd yn deall Cymraeg. Mae’r Uned Gyfieithu yn cyfieithu gwaith ysgrifenedig myfyrwyr i’r Gymraeg ac yn cyfieithu cyflwyniadau myfyrwyr i’r Gymraeg trwy’r gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

21


GWYBODAETH BWYSIGther

YMUNWCH Â’R SGWRS ar y cyfryngau cymdeithasol – drwy ddefnyddio #PrifysgolBangor @prifysgolbangor facebook.com/PrifysgolBangor @prifysgolbangor prifysgolbangor

Mae Prifysgol Bangor yn gwneud pob ymdrech resymol i sicrhau bod y wybodaeth a geir yn y prospectws hwn yn gywir ar adeg ei argraffu (Chwefror 2019). Mae’r argraffiad hwn o brospectws y Brifysgol i israddedigion yn disgrifio’r cyfleusterau a’r cyrsiau y mae’r Brifysgol yn bwriadu eu cynnig yn ystod y flwyddyn academaidd yn dechrau yn hydref 2020. Mae’r prospectws a’r gwe-dudalennau’n cael eu paratoi beth amser cyn y flwyddyn academaidd y maent yn ymwneud â hi a gwnaed pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth a geir yn y prospectws hwn yn ddefnyddiol, yn deg a chywir pan aeth i gael ei argraffu. Fodd bynnag, gall y wybodaeth hon newid dros amser.

ar y cyfryngau cymdeithasol – drwy ddefnyddio #PrifysgolBangor

Mae’r Brifysgol yn gwneud pob ymdrech resymol i ddarparu’r cyrsiau, hyfforddiant a chefnogaeth ddysgu, cyfleoedd ymchwil a gwasanaethau a chyfleusterau eraill gyda gofal a medr rhesymol ac yn y ffordd a ddisgrifir yn y prospectws hwn. Fodd bynnag, ni all y Brifysgol roi sicrwydd ynghylch darparu unrhyw gwrs neu gyfleuster. Gall rhai amgylchiadau, megis newidiadau staff, cyfyngiadau ar adnoddau a ffactorau eraill nad oes gan y Brifysgol unrhyw reolaeth drostynt, megis gweithredu diwydiannol neu newid yn y gyfraith neu yn lefel y galw am raglen neu fodiwl neilltuol (sylwer nad yw’r rhestr hon yn un lawn a therfynol), beri i’r Brifysgol orfod tynnu’n ôl neu newid agweddau ar y rhaglenni, modiwlau ac/ neu wasanaethau myfyrwyr ac/neu gyfleusterau a ddisgrifir yn y prospectws. Gall hyn gynnwys staffio, cynnwys rhaglen/modiwl, y fan lle dysgir y rhaglen/modiwl neu’r dull addysgu, a’r cyfleusterau a ddarperir i gyflwyno neu gefnogi’r rhaglen, ond heb fod yn gyfyngedig o angenrheidrwydd i’r materion hyn.

CYSYLLTIADAU DEFNYDDIOL Yn ogystal, caiff ymgeiswyr eu hysbysu am unrhyw newidiadau rhwng y prospectws a’r cwrs a gwasanaethau arfaethedig ar yr adeg y gwneir cynnig iddynt. Anogir darpar ymgeiswyr i edrych ar ein gwefan i gael y wybodaeth ddiweddaraf. Nid yw parodrwydd y Brifysgol i ystyried cais yn sicrwydd y derbynnir yr ymgeisydd. Derbynnir myfyrwyr i’r Brifysgol ar sail bod y wybodaeth a roddant ar eu ffurflen gais yn gyflawn ac yn gywir. Gall yr holl brisiau a nodir yn y prospectws hwn newid a byddwch yn cael eich hysbysu am unrhyw newid o’r fath pan fydd y Brifysgol yn cynnig lle i chi.

PRIFYSGOL BANGOR GWYNEDD LL57 2DG Ffôn: 01248 351151 Gwefan: www.bangor.ac.uk DERBYN Ffôn: 01248 383717 E-bost: derbyniadau@bangor.ac.uk DIWRNOD AGORED AC YMWELIADAU ERAILL Ffôn: 01248 382420/382015 E-bost: ymweld@bangor.ac.uk GWASANAETHAU CEFNOGI MYFYRWYR Ffôn: 01248 382024 E-bost: gwasanaethaumyfyrwyr@bangor.ac.uk

Pe baech yn dod yn fyfyriwr yn y Brifysgol, bydd yr hysbysiad hwn yn un o delerau unrhyw gontract rhyngoch chi a’r Brifysgol. Bydd unrhyw gynnig o le yn y Brifysgol yn amodol ar yr amodau cofrestru myfyrwyr a rheolau, rheoliadau a pholisïau’r Brifysgol a gaiff eu diwygio o bryd i’w gilydd.

LLINELL GYMORTH ADEG CANLYNIADAU Ffôn: 0800 328 5763

Mae copi o delerau ac amodau cyfredol y Brifysgol yn: www.bangor.ac.uk/telerau-ac-amodau neu gellir cael copi papur gan Bennaeth Llywodraethu a Chydymffurfio, Prifysgol Bangor, Bangor, Gwynedd,LL57 2DG.

SWYDDFA NEUADDAU Ffôn: 01248 382667 E-bost: neuaddau@bangor.ac.uk

Internet Access

PROSPECTWS A GWYBODAETH BELLACH Ffôn: 01248 383561/382005 E-bost: prospectws@bangor.ac.uk

SWYDDFA TAI MYFYRWYR Ffôn: 01248 382034 E-bost: taimyfyrwyr@bangor.ac.uk UNED CYMORTH ARIANNOL Ffôn: 01248 383566/383637 E-bost: cymorthariannol@bangor.ac.uk CEFNOGAETH DYSLECSIA Ffôn: 01248 382203 E-bost: dyslecsia@bangor.ac.uk

Lle bo newid yn anorfod oherwydd amgylchiadau, neu lle mae’n angenrheidiol i’r Brifysgol ddod â rhaglen astudio i ben, bydd y Brifysgol yn cymryd pob cam rhesymol i leihau’r effaith i’r eithaf. Bydd holl ddarpar ymgeiswyr sydd wedi mynegi diddordeb yn y rhaglen berthnasol yn cael eu hysbysu cyn gynted â phosibl a rhoddir y wybodaeth ddiweddaraf hefyd ar wefan y Brifysgol (www.bangor.ac.uk). Bydd gan unigolyn hawl i dynnu’n ôl o’r cwrs drwy hysbysu’r Brifysgol yn ysgrifenedig o fewn cyfnod rhesymol o gael ei hysbysu am y newid.

140 140

141

141


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.