PRIFYSGOL BANGOR PROSPECTWS ISRADDEDIGION 2015
CYNNWYS 2 CIPOLWG CYFLYM AR FANGOR 10 BANGOR: Y PROFIAD 12 EIN MYFYRWYR 14 Y GYMRAEG YM MANGOR 20 LLETY 26 BYWYD MYFYRWYR 28 UNDEB MYFYRWYR CYMRAEG BANGOR 30 CLYBIAU A CHYMDEITHASAU 32 HAMDDEN A CHWARAEON 34 LLEOLIAD 36 GYRFAOEDD A CHYFLOGADWYEDD 40 ASTUDIO DRAMOR 42 CEFNOGI EIN MYFYRWYR 46 CEFNOGAETH ASTUDIO 48 ADNODDAU DYSGU 50 MYFYRWYR HŶN 52 FFIOEDD DYSGU 55 BWRSARIAETHAU AC YSGOLORIAETHAU 59 SUT I WNEUD CAIS 62 DYDDIAU AGORED 64 GRADDAU CYD-ANRHYDEDD
DIWRNODAU AGORED Dewch i wybod mwy am y profiad o fod yn fyfyriwr ym Mangor drwy ddod i un o’n Diwrnodau Agored. Archebwch eich lle ar un o’r Diwrnodau Agored DYDD SADWRN, Mehefin 28, 2014 DYDD SADWRN, Gorffennaf 5, 2014 DYDD SADWRN, Hydref 11, 2014 DYDD SADWRN, Hydref 25, 2014 Yn ystod Diwrnod Agored byddwch yn: • Dod i wybod mwy am ein cyrsiau gradd • Cyfarfod â staff a myfyrwyr • Ymweld ag Ysgolion academaidd • Gweld y llety • Cael cyngor ac arweiniad ar faterion fel Gwasanaethau Cefnogi Myfyrwyr, Gyrfaoedd i Raddedigion, Cyllid Myfyrwyr, Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau.
I archebu eich lle ac am fwy o wybodaeth ewch i www.bangor.ac.uk neu ffoniwch: 01248 382005 / 382420
MANYLION CYRSIAU Os ydych yn ei chael hi’n anodd darllen maint y print yn y llyfr hwn, edrychwch ar y wefan www.bangor.ac.uk am fanylion am ein cyrsiau a’n cyfleusterau
Côd UCAS Bangr B06
2015
65
Yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth
67
Gwyddorau Biolegol
69
Gwyddorau Eigon
71
Cemeg
73
Cyfrifiadureg
75
Electroneg
77
Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer
79
Gwyddorau Meddygol a Gofal Iechyd
83
Seicoleg
85
Busnes, Cyllid, Rheolaeth a Marchnata
91
Y Gyfraith
95
Gwyddorau Cymdeithas
99
Cerddoriaeth
103
Y Cyfryngau, Theatr, Ffilm a Newyddiaduraeth
107
Cymraeg
115
Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg
121
Athroniaeth a Chrefydd
123
Ieithoedd Modern
127
Llenyddiaeth Saesneg, Ieithyddiaeth ac Iaith Saesneg
129
Addysg, Astudiaethau Plentyndod a Dylunio Cynnyrch
137
Dysgu Gydol Oes (Cyrsiau Rhan-Amser)
140
Mynegai Pwnc 1
CIPOLWG CYFLYM AR FANGOR Rhagoriaeth Academaidd
Profiad Myfyrwyr
• Mae gan Brifysgol Bangor, a sefydlwyd ym 1884, draddodiad hir o ragoriaeth academaidd
• Mae Bangor hefyd yn ymfalchïo yn ansawdd y profiad a gaiff myfyrwyr yma – mae'r sicrwydd o lety, costau byw isel, y gefnogaeth i fyfyrwyr, y bywyd naturiol Gymraeg a'r lleoliad godidog i gyd yn cyfrannu at hynny.
• Mae Prifysgol Bangor yn arwain ar y Gymraeg, gan gynnig y nifer fwyaf o gyrsiau cyfrwng Cymraeg. Bangor yw un o’r prifysgolion pwysicaf yn y byd yn nhermau gwaith ymchwil i feysydd dwyieithrwydd a thechnolegau iaith. Mae’r Brifysgol yn chwarae rhan flaenllaw yn llawer o’r datblygiadau cyffrous sy’n digwydd ym maes addysg uwch cyfrwng Cymraeg. • Mae'r Brifysgol yn cael ei chydnabod am yr ymchwil o safon fyd-eang a wneir yma – mae meysydd lle ceir rhagoriaeth arbennig yn cynnwys Cyfrifeg a Chyllid, sydd ar y brig yn y DU, a Pheirianneg Electronig sydd yn ail. Roedd Cymraeg a Gwyddorau Chwaraeon yn y 10 uchaf yn eu meysydd perthnasol. • Mae’r Brifysgol yn ymfalchïo yn ansawdd yr addysgu a ddarperir. Cefnogwyd hyn mewn adolygiad diweddar gan Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (QAA) y Deyrnas Unedig a arweiniodd at y gymeradwyaeth uchaf posib o safonau academaidd y Brifysgol.
2
• Mae'r buddsoddiad parhaus mewn cyfleusterau a gwasanaethau cefnogi yn cyfoethogi profiad myfyrwyr ymhellach, ac ymysg y datblygiadau diweddar mae Canolfan y Celfyddydau ac Arloesi newydd cyffrous, neuaddau preswyl newydd a gwelliannau i'r cyfleusterau chwaraeon. • Ymhlith y manteision o fod yn fyfyriwr ym Mangor mae aelodaeth am ddim o’r clybiau a chymdeithasau myfyrwyr, un o'r cynlluniau cefnogaeth gyfoed fwyaf ym Mhrydain, rhaglen profiad rhyngwladol newydd a chynllun gwobr cyflogadwyedd.
‘
Mae Bangor yn gymuned wirioneddol ofalgar a chefnogol, ac rydym yn ymfalchïo yn y gwasanaethau ardderchog rydym yn eu cynnig i’n myfyrwyr. Mae’r rhain yn cynnwys cyngor a chefnogaeth academaidd, ariannol, gyrfaol a phersonol. Mae ansawdd ein dysgu a’n hymchwil o’r radd flaenaf, ac yn denu myfyrwyr a staff yma o ledled y byd. Yn ogystal, mae nifer o gyfleoedd i fyfyrwyr gymryd rhan mewn amrywiaeth eang o weithgareddau. Mae mynyddoedd trawiadol Eryri a milltiroedd o arfordir yn darparu’r cefndir i brofiad prifysgol heb ei ail.
’
Mae Prifysgol Bangor wedi buddsoddi miliynau o bunnoedd mewn datblygu cyfleusterau academaidd a chymdeithasol newydd i fyfyrwyr yn ddiweddar. Bydd hyn yn gwneud Prifysgol Bangor yn lle hyd yn oed yn fwy atyniadol i astudio. Yr Athro JOHN G. HUGHES Is-Ganghellor Prifysgol Bangor
3
BANGOR: DOES UNMAN TEBYG
• Lleoliad prydferth a delfrydol ar gyfer chwaraeon, rhwng môr a mynydd • Mae'n cael ei gydnabod mewn sawl arolwg myfyrwyr fel yn un o’r lleoedd gorau ym Mhrydain i fod yn fyfyriwr • Mae maint Bangor yn golygu ei bod yn hawdd dod i adnabod pobl, ac mae ein myfyrwyr yn ymgynefino yn gyflym • Mae cyfran uchel o fyfyrwyr yn dewis Bangor oherwydd maint bychan a natur gyfeillgar y Brifysgol a’r dref • Mewn safle delfrydol a chyda phob math o gyfleusterau ar gyfer gwahanol chwaraeon – yn enwedig rhai awyr agored • Does dim rhaid i chi fod yn frwd dros chwaraeon i astudio yma – mae llawer o'n myfyrwyr yn gwerthfawrogi'r lleoliad prydferth, a'r ffaith ei fod yn tueddu i fod yn fwy diogel, yn lanach ac yn fwy cyfeillgar na llefydd llawer mwy.
4
‘
Mi wnes i ddewis astudio ym Mangor oherwydd y lleoliad a’r gymdeithas Gymraeg dda. Hefyd, roedd y cwrs yn edrych yn well nag unlle arall. Roedd y bywyd nos da hefyd yn apelio, a’r ffaith mod i’n hoff o’r awyr agored. Mae Bangor yn lle gwych i fyw ac astudio, gyda digonedd o bethau i’w wneud, yn enwedig ar gyfer rhywun sy’n hoff o gymdeithasu drwy’r Gymraeg.
’
MEIRION WYN JONES, o Ddinas Mawddwy, Machynlleth, sy’n astudio Astudiaethau’r Cyfryngau
5
BYW AC ASTUDIO DRWY’R GYMRAEG • Mae’r Gymraeg yn rhan gwbl naturiol o fywyd myfyriwr ym Mangor. Gall myfyrwyr Cymraeg eu hiaith gymdeithasu ac astudio trwy gyfrwng y Gymraeg a hefyd gyfarfod a chymdeithasu â phobl o gefndiroedd gwahanol a phobl o wledydd eraill • Prifysgol Bangor sy’n cynnig y nifer fwyaf o gyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg – ac mae mwy o’n myfyrwyr yn dewis astudio trwy’r Gymraeg hefyd nac yn unrhyw le arall
‘
Y rheswm wnes i ddewis astudio ym Mangor oedd am ei bod hi’n ddinas ofnadwy o braf a diddorol a hefyd am mai Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor ydi’r adran Gymraeg orau yng Nghymru, yn fy marn i. Mae’r bywyd cymdeithasol yn wych, a nosweithiau fel Clwb Cymru yn uchafbwyntiau bob pythefnos. Dw i’n byw yn Neuadd John Morris Jones, mae pawb yn gyfeillgar iawn yma ac mae’n wych bod bron pawb sy’n siarad Cymraeg yn rhannu’r un Neuadd.
’
ELIS DAFYDD, o Drefor, Caernarfon, sy’n astudio Cymraeg
‘
’
Mae Bangor yn lle da ar gyfer myfyrwyr Cymraeg ac mae’r gymuned Gymraeg yn gyfeillgar iawn yma. Mae yma neuaddau Cymraeg a llawer o fodiwlau cyfrwng Cymraeg.
RUTH JONES, o Ddinas Mawddwy sy’n astudio Cemeg • Gyda niferoedd y Cymry Cymraeg a’r dysgwyr sy’n dewis dod yma mae bwrlwm anhygoel o ran bywyd cymdeithasol a gweithgareddau cyfrwng Cymraeg ym Mangor • Yn cyfrannu at y bwrlwm yma y mae’r neuadd breswyl Gymraeg, Neuadd John Morris Jones (JMJ). Mae JMJ yn cynnig cyfle gwych i fyfyrwyr gael byw mewn awyrgylch gwbl Gymraeg • Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor (UMCB) yw canolbwynt y rhan helaeth o’r digwyddiadau a’r gweithgareddau Cymraeg a drefnir – sy’n amrywio o nosweithiau cymdeithasol, Eisteddfod a Dawns Ryng-Golegol i gemau pêl-droed a rygbi, a thripiau rygbi i’r Iwerddon neu’r Alban. Edrychwch ar dudalennau 26-33.
6
‘
’
Rwy’n teimlo bod Bangor yn lle gwych ar gyfer myfyrwyr Cymraeg, gyda llawer o gyfleoedd i astudio trwy’r Gymraeg. Hefyd, wrth fyw yn JMJ, mae yna lawer o gyfleoedd i gymdeithasu â myfyrwyr Cymraeg. CHLOE EVANS, o Ddolgellau sy’n astudio Gwyddor Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer
Pam astudio drwy’r Gymraeg? • mae angen pobl ddwyieithog mewn pob math o swyddi • mae galw mawr am bobl ifanc broffesiynol sy’n gallu gweinyddu’n ddwyieithog • mae cyflogau swyddi dwyieithog ar gyfartaledd yn uwch • bydd astudio trwy’r Gymraeg yn y Brifysgol yn rhoi sylfaen ardderchog i’ch gyrfa. Am fwy o wybodaeth am astudio trwy gyfrwng y Gymraeg, gweler tudalen 14-19.
7
‘
Mae’r Brifysgol wedi rhoi cefnogaeth i mi fel myfyriwr ac mae hynny wedi bod o help mawr i mi ar fy nhaith... Cefais gymorth gan fy Nhiwtor Personol i wneud yn siŵr fy mod yn hapus ynglŷn â phopeth oedd yn digwydd. Roedd hynny’n gysur i mi a fe wnaeth y profiad yn un llawer mwy pleserus.
’
BETSAN WILLIAMS, o Sir Benfro sy’n astudio Hanes Cymru
8
CEFNOGAETH I FYFYRWYR Mae Prifysgol Bangor yn y 10 uchaf o brifysgolion o ran cefnogaeth a lles* • Mae dros £3.7M ar gael mewn bwrsariaethau ac ysgoloriaethau • Mae’r Brifysgol yn gwarantu llety ar gyfer holl fyfyrwyr blwyddyn gyntaf • Mae gan Fangor un o'r cynlluniau Arweinwyr Cyfoed mwyaf sydd gan unrhyw brifysgol, gyda myfyrwyr ail a thrydedd flwyddyn yn cymryd rhan mewn cynllun mentora i helpu myfyrwyr newydd ymgynefino yn ystod eu ychydig wythnosau cyntaf yma.
• Aelodaeth am ddim o glybiau a chymdeithasau – mae hynny'n golygu bod pob myfyriwr yn gallu manteisio ar y cyfleoedd allgyrsiol sydd ar gael • Opsiwn newydd i astudio dramor sy'n rhoi'r profiad rhyngwladol i fyfyrwyr mae llawer o gyflogwyr yn chwilio amdano erbyn hyn. Mae'r Rhaglen Profiad Rhyngwladol yn cynnig yr opsiwn o astudio dramor am flwyddyn ychwanegol mewn nifer helaeth o wledydd gwahanol.
• Mae’r cynllun Arweinwyr Cyfoed a’r cynllun Tiwtoriaid Personol yn golygu y bydd gennych bob amser fyfyriwr arall neu aelod o’r staff academaidd i droi atynt, ac mae'r Ganolfan Gwasanaethau Myfyrwyr yn darparu gwasanaeth cefnogi proffesiynol i fyfyrwyr • Mae'r Ganolfan Dyslecsia yn adnabyddus yn rhyngwladol am ei harbenigedd yn cefnogi myfyrwyr • Mae'r Ganolfan Sgiliau Astudio yn rhoi cefnogaeth i fyfyrwyr wrth iddynt ddechrau yn y brifysgol, yn ogystal â chefnogaeth gyson wedyn er mwyn i chi barhau i wneud cynnydd academaidd.
• Amrediad o raglenni personol a datblygiad gyrfa i'ch helpu chi ddechrau cynllunio eich gyrfa i’r dyfodol mewn da bryd. Byddwch yn gallu ennill sgiliau a phrofiad trosglwyddadwy trwy leoliadau gwaith, interniaethau, cyfleoedd gwirfoddoli, a datblygu sgiliau menter ac entrepreneuriaeth, yn ogystal â manteisio ar Wobr Cyflogadwyedd Bangor (BEA), sy'n ddatblygiad arloesol yn y sector. • Dysgwch iaith newydd, neu wella eich sgiliau iaith – mae dosbarthiadau nos am ddim i fyfyrwyr Bangor. Mae'r opsiynau'n cynnwys Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg, Eidaleg, Tsieinëeg a Japanaeg.
*Arolwg Profiad Myfyrwyr, Times Higher Education
9
‘ BANGOR: PROFIADAU EIN Y PROFIAD MYFYRWYR
Mae’n le gwych i astudio gan fod y darlithwyr yn hynod o gefnogol ac yn barod i helpu. Mae’r cwrs yn ardderchog gydag amrywiaeth helaeth a modiwlau gwahanol iawn. Mae’r darlithoedd a’r seminarau yn hynod o ddefnyddiol, a’r darlithwyr yn cyflwyno’r modiwlau mewn modd diddorol a llawn hwyl.
’
CERIS MAIR JAMES, o Fryngwyn, Ceredigion, sy’n astudio Cymraeg gydag Ysgrifennu Creadigol
10
Mae yna amryw o resymau dros ddisgyn mewn cariad â Bangor, heblaw am y dysgu rhagorol a'r ymchwil o safon fyd-eang. Cewch astudio a chymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg, mwynhau awyrgylch clòs a chyfeillgar a chymryd rhan yn rhai o'r llu o weithgareddau myfyrwyr. Gyda thros 150 o glybiau a chymdeithasau rhad ac am ddim, mae rhywbeth at ddant pawb. Mae'r cyfan yn cyfrannu at brofiad prifysgol bythgofiadwy a digymar... • Mae cymuned fyfyrwyr fywiog Bangor yn cynnwys dros 10,000 o fyfyrwyr o bob rhan o’r byd. Mae yma hefyd awyrgylch gyfeillgar, naturiol Gymreig – darllenwch fwy am brofiadau ein myfyrwyr ar dudalennau 1213. • Prifysgol Bangor sy’n cynnig y nifer fwyaf o gyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg ac mae mwy o’n myfyrwyr yn dewis astudio trwy’r Gymraeg nac yn unrhyw brifysgol arall. Edrychwch ar dudalennau 14-19. • Mae'r Brifysgol yn gwarantu llety ar gyfer holl fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf ac mae hynny, ynghyd ag ansawdd y llety a gynigir – yn gaffaeliad mawr i'r myfyrwyr sy'n astudio yma. Mae neuadd JMJ yn ganolbwynt bywyd cymdeithasol Cymraeg sy’n cynnig cymuned glòs a chyfeillgar i fyfyrwyr o bob cwr o Gyrmru. Edrychwch ar dudalennau 20-25.
• Mae'n lle cyfeillgar a chyfleus i astudio, ac mae’r lleoliad a’r ardal gyfagos yn rhesymau eraill dros benderfynu dod i Fangor. Darllenwch fwy ar dudalennau 34-35 • Mae maint a natur Bangor yn golygu bod myfyrwyr yn ymgynefino ar unwaith, ac yn mwynhau'r amrywiaeth o weithgareddau a'r ffordd o fyw unigryw a gynigir i fyfyrwyr yma. Edrychwch ar dudalennau 26-33. • Mae costau byw ym Mangor yn is nag mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig ac mae'r Brifysgol hefyd yn cynnig cymorth ychwanegol ar ffurf Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau sydd werth dros £3.7M. Edrychwch ar dudalennau 52-58.
• Mae cefnogaeth i fyfyrwyr yn flaenoriaeth uchel ym Mangor, ac mae amrediad o wasanaethau a rhaglenni ar gael yma i'ch helpu chi i wneud y gorau o'ch amser yn y brifysgol. Gallwn hefyd eich paratoi chi ar gyfer eich dyfodol gyda'n gwasanaethau cyflogadwyedd a menter. Edrychwch ar dudalennau 36-41 a 42-49.
‘
’
Trwy ddewis dod i Fangor, roeddwn yn gallu gwneud fy nghwrs drwy’r Gymraeg, ac yn gallu cael bywyd myfyriwr heb fod yn rhy bell o adref. CERI PARRY, o Bwllheli, sy’n astudio Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol
11
EIN MYFYRWYR
‘
Mi es i Ddiwrnod Agored cyn dod i’r Brifysgol a rhoddodd hynny syniad i mi ynglŷn â’r lle a sut roedd y cwrs yn cael ei ddysgu. Dewisais astudio ym Mangor am fod fy nghwrs yn cael ei gynnig trwy gyfrwng y Gymraeg yno ac mae hynny wedi bod o fantais i mi.
’
Mae byw mewn neuadd yn brofiad gwerthfawr iawn – mae wedi rhoi’r cyfle i mi wneud ffrindiau newydd a byw yn annibynnol. Credaf fod Bangor yn ddinas ddelfrydol i fyw ac astudio ynddi. MELEN HÂF LLOYD, o’r Gaerwen, Ynys Môn sy’n astudio Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol .
‘
Cefais brofiad da iawn yn y Diwrnod Agored – roedd pawb yn mynd allan o’u ffordd i fy helpu… Dewisais Bangor fel lle i astudio gan ei fod yn teimlo’n lle cartrefol iawn. Bangor hefyd yw’r lle gorau i astudio Cymraeg, ac mae’n ddigon pell o adre!
’
Mae gennyf ddau arweinwr cyfoed ac maent yn galw draw yn aml i ofyn sut mae pethau’n mynd. Mae fy nhiwtor personol yn wych, ac y mae hi’n fy helpu gydag unrhyw broblem sy’n codi.
Mae byw mewn neuadd yn brofiad ardderchog. Mae cymuned dda iawn i’w chael yn Neuadd JMJ, ac roedd hi’n hawdd dod i adnabod pobl. Mae Bangor ei hun yn lle cartrefol, dim y lle mwyaf, ond mae’n ddigon mawr i wneud nifer o weithgareddau. DION LLOYD DAVIES, o Gastell Newydd Emlyn, sy’n astudio Cymraeg
12
‘
Dewisais Bangor gan mai hon oedd yr unig brifysgol i gynnig gradd gyfun Gymraeg ac Addysg Gorfforol. Roedd y ffaith bod yr ardal mor Gymreigaidd, yr awyrgylch yn gyfeillgar, di-ffwdan a Neuadd JMJ mor gartrefol hefyd yn apelio.
’
Mae’r cwrs yn berffaith ar fy nghyfer i. Mae’r ddwy adran yn meddu ar ddarlithwyr sy’n alluog iawn yn eu meysydd, ac maent i gyd yn barod i wrando ar sylwadau'r myfyrwyr.
Mae sawl cymdeithas a chlwb ar gael, yn cynnig rhywbeth sy’n apelio at bawb. Mae’r tiwtoriaid personol yn bobl sy’n dda yn eu maes, ac yn cynnig cyngor realistig i ddatrys unrhyw broblem.
‘
CARWEN ANN RICHARDS, o Bumsaint, Ceredigion, sy’n astudio Cymraeg ac Addysg Gorfforol
Mae’r Ysgol Cerddoriaeth yn lle cyfeillgar, ac mae hynny ymhlith y rhesymau pam nes i ddewis astudio ym Mangor. Mae pawb yn yr Ysgol Cerddoriaeth yn adnabod ei gilydd ac yn barod i helpu bob tro. Mae Bangor yn teimlo’n lle cartrefol a saff i fyw ac astudio, gyda phob man mewn pellter cerdded.
’
Mae’r cwrs Cerddoriaeth yn dda iawn. Mae digon o amser i baratoi tuag at seminarau a darlithoedd, a’r modiwlau i gyd yn wahanol ac yn ddiddorol iawn.
Fy uchafbwyntiau hyd yn hyn yw gwneud grŵp newydd o ffrindiau, derbyn Ysgoloriaeth werth £1,000, mwynhau fy nghwrs a chario mlaen gyda gwersi i wella fy sgiliau piano. REBEKAH MANSELL WILKES o Fachynlleth, sy’n astudio Cerddoriaeth
13
Y GYMRAEG YM MANGOR Prifysgol Bangor sy’n cynnig y nifer fwyaf o gyrsiau cyfrwng Cymraeg – ac mae hefyd yn cael ei chydnabod am safon ei gwasanaethau dwyieithog a’i chefnogaeth i fyfyrwyr. Mae’r Gymraeg yn rhan gwbl naturiol o fywyd ym Mhrifysgol Bangor ac i’w gweld a’i chlywed ym mhob agwedd ar ei gwaith a’i gweithgarwch. Mae’r Brifysgol yn gweithredu Cynllun Iaith cynhwysfawr ac wedi ymrwymo i drin y Gymraeg a’r Saesneg ar y sail eu bod yn gyfartal. Prif nod y Cynllun yw hyrwyddo a datblygu gwaith y Brifysgol trwy gyfrwng y Gymraeg gan osod targedau clir a phendant ar gyfer datblygiadau pellach i’r dyfodol. Mae’r Brifysgol yn hynod o falch o dreftadaeth gyfoethog yr ardal, yn ddiwylliannol ac yn ieithyddol, a bydd yn parhau i chwarae rhan flaenllaw wrth feithrin y bywyd diwylliannol hwn.
CIPOLWG CYFLYM • Prifysgol Bangor sy’n cynnig y nifer fwyaf o gyrsiau cyfrwng Cymraeg • Mae mwy o fyfyrwyr yn dewis astudio trwy’r Gymraeg yma nac yn unrhyw brifysgol arall • Mae ysgoloriaethau cyfrwng Cymraeg gwerth hyd at £3,000 ar gael gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol • Mae cefnogaeth ar gael os ydych am ddilyn cwrs drwy’r Gymraeg neu yn rhannol drwy’r Gymraeg e.e. modiwlau sgiliau iaith, meddalwedd cyfrifiadurol, gwasanaeth terminoleg a gwasanaeth cyfieithu llawn.
14
‘
Mae cwrs y Cyfryngau yn cael ei gynnig drwy’r Gymraeg sy’n grêt, mae’n edrych ar bob agwedd ar y cyfryngau, ac yn rhoi cyfle i ni fel myfyrwyr gael cyfle i wneud ychydig o bob dim.
’
ELLIW GWYN ROBERTS, o Ben Llŷn, sy’n astudio Cyfryngau
Arwain ar y Gymraeg Bangor yw un o’r prifysgolion pwysicaf yn y byd yn nhermau gwaith ymchwil i feysydd dwyieithrwydd a thechnolegau iaith. Ar ben hynny, mae’r Brifysgol yn arwain llawer o’r datblygiadau cyffrous sy’n digwydd ym maes addysg uwch cyfrwng Cymraeg drwy Gymru. Mae Bangor yn chwarae rhan flaenllaw mewn llawer o’r cydweithio rhwng prifysgolion yn sgil sefydlu’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol – o fodiwlau ym meysydd Busnes, y Gyfraith a Cherddoriaeth i’r gwaith o lunio’r termau sydd eu hangen ar gyfer astudio drwy’r Gymraeg. Bydd y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ym Mangor yn parhau i dyfu dros y blynyddoedd nesaf yn dilyn penodi darlithwyr newydd trwy gynllun staffio’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Hyd yn hyn dyfarnwyd ugain o swyddi darlithio newydd, sy’n golygu y gall myfyrwyr edrych ymlaen at nifer o gyrsiau a datblygiadau cyfrwng Cymraeg newydd mewn meysydd fel Ffrangeg, Cemeg, Cerddoriaeth, Seicoleg, Polisi Cymdeithasol, Nyrsio, Astudiaethau’r Amgylchedd, Ieithyddiaeth, Hanes, Cyfrifeg, Gwyddorau Cyfrifiadurol, y Gyfraith, Almaeneg a Gwyddorau Eigion.
COLEG CYMRAEG CENEDLAETHOL Mae Prifysgol Bangor yn gweithio mewn partneriaeth â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae’r Coleg yn bodoli ers Ebrill 2011, a’i fwriad yw hybu dysg a gwybodaeth drwy gynllunio a datblygu cyfleoedd cyfrwng Cymraeg ym maes addysg uwch. Nid yw’r Coleg yn bodoli mewn un lleoliad daearyddol, nac yn dyfarnu ei raddau ei hun, ond yn hytrach, mae’n gweithio gyda’r sefydliadau addysg uwch presennol yng Nghymru. Mae cangen y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ym Mangor wedi’i lleoli yng Nghanolfan Bedwyr. Am ragor o wybodaeth gweler www.colegcymraeg.ac.uk
15
Astudio trwy’r Gymraeg Prifysgol Bangor sy’n cynnig y nifer fwyaf o gyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg – ac mae mwy o’n myfyrwyr yn dewis astudio trwy’r Gymraeg hefyd nac yn unrhyw brifysgol arall. Ar hyn o bryd mae mwy na 1,500 o fyfyrwyr Bangor yn dewis astudio’u cwrs neu ran o’u cwrs trwy’r Gymraeg Ond pam astudio drwy’r Gymraeg yn y lle cyntaf? O safbwynt cael swydd a gwella rhagolygon gyrfa mae’r rhesymau o blaid astudio drwy’r Gymraeg yn cynnwys: • Gosod sylfaen ardderchog i’r dyfodol o ran cael prawf pendant o ddeallusrwydd a defnydd ymarferol o’r Gymraeg • Mae cyflogwyr angen pobl ddwyieithog ar gyfer pob math o swyddi • Mae cyflogau swyddi dwyieithog ar gyfartaledd yn uwch.
Mae sawl rheswm ymarferol a chymdeithasol hefyd dros ddewis astudio trwy’r Gymraeg, er enghraifft:
COLEG CYMRAEG CENEDLAETHOL Ysgoloriaethau Israddedig Mae'r Coleg yn cynnig ysgoloriaethau cyfrwng Cymraeg i fyfyrwyr israddedig, sy’n gyfle i dderbyn hyd at £3,000 am astudio pynciau trwy gyfrwng y Gymraeg.
• Y Gymraeg ydi iaith yr aelwyd a/neu iaith yr addysg yn yr ysgol a’r chweched dosbarth, ac felly dyma’r iaith sydd fwyaf naturiol
Mae rhestr gyflawn o’r cyrsiau cymwys sy’n gysylltiedig â’r cynllun presennol ynghyd ag amodau a thelerau’r ysgoloriaethau i’w gweld ar wefan www.colegcymraeg.ac.uk
• Wedi arfer eistedd arholiadau a phrofion drwy’r Gymraeg – ac am barhau â hynny yn y brifysgol
Gweler tudalennau 55-58 am fwy o wybodaeth am Fwrsariaethau ac Ysgoloriaethau ym Mangor.
• Wedi dysgu ac arfer defnyddio termau gwyddonol a chelfyddydol yn Gymraeg • Mae’n agor drysau i gyfleoedd newydd a gwella’r hyn a gynigir ar y CV • Mae’n gyfle i gymdeithasu a byw mewn awyrgylch lle mae’r Gymraeg i’w chlywed bob dydd.
‘
Dewisais Fangor oherwydd bod y cwrs yn un mor dda, ac mai Bangor oedd yr unig le yng Nghymru a oedd yn cynnig astudio Cerdd yn y Gymraeg. Bangor ydi’r lle gorau ar gyfer myfyrwyr Cymraeg yn fy marn i – mae’r ddarpariaeth Gymraeg yn wych yma. Mae’r cwrs yn anhygoel – mae’r amrywiaeth o fodiwlau yn enfawr ac mae’n wych cael darlithwyr sy’n arbenigo yn eu meysydd.
’
HUW YNYR EVANS, o Ryd-y-main, Dolgellau, sy’n astudio Cerddoriaeth
16
Pa gyrsiau sydd ar gael yn y Gymraeg Ar hyn o bryd mae’n bosib dilyn cwrs gradd un ai’n gyfan gwbl neu’n rhannol trwy gyfrwng y Gymraeg mewn nifer o feysydd pwnc. Ond hyd yn oed os nad yw’r cwrs ei hun ar gael drwy’r Gymraeg mae Bangor hefyd yn cynnig cefnogaeth, anogaeth a chyfle i’r rheiny sydd am gyflwyno eu traethodau neu drafod eu pwnc yn y Gymraeg. MAE MODD GWNEUD Y CWRS HWN DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG
Pan welwch y symbol hwn ar y dudalen, mae hyn yn golygu bod modd gwneud y cwrs drwy’r Gymraeg. Os nad yw’r symbol ar y dudalen cwrs, darllenwch yr wybodaeth o dan y pennawd Astudio trwy’r Gymraeg i weld yr opsiynnau cyfrwng Cymraeg sydd ar gael i chi.
Be ydi gwerth hyn oll – fydd dewis astudio yn y Gymraeg o ddefnydd yn y pen draw? Mae’r galw am sgiliau iaith Gymraeg yn mynd i gynyddu yn y blynyddoedd nesaf, wrth i fwy o fusnesau a sefydliadau gydnabod ac ymateb i’r angen i gynnig gwasanaeth dwyieithog. Mae prinder pobl gyda sgiliau dwyieithog mewn nifer o feysydd a swyddi, er enghraifft: • Gwaith cymdeithasol • Cyngor gyrfaoedd • Cyllid • Addysg • Y sector cyfiawnder • Llywodraeth leol • Rheoli gweinyddol a busnes • Technoleg darlledu • Therapyddion iaith a therapyddion lleferydd • Swyddi gweinyddol Wrth i fwy o gyflogwyr chwilio am weithwyr gyda sgiliau dwyieithog, yna mae astudio o leiaf rhan o gwrs gradd drwy gyfrwng y Gymraeg yn mynd i fod o help wrth chwilio am swydd. Astudio drwy’r Gymraeg – pa gefnogaeth sydd ar gael? Mae nifer o fyfyrwyr Prifysgol Bangor yn dewis astudio drwy’r Gymraeg. Os dewiswch chi wneud hyn, bydd digon o gefnogaeth ar gael i chi. Rhan bwysig iawn o’r gefnogaeth hon ydy’r gwasanaethau mae Canolfan Bedwyr yn eu cynnig.
Mae’r gwasanaethau hyn yn cynnwys: 1. Modiwlau Sgiliau Iaith 2. Meddalwedd Cyfrifiadurol 3. Gwasanaeth Terminoleg 4. Gwasanaeth Cyfieithu Llawn 1. Modiwlau datblygu sgiliau iaith. Mae’r modiwlau hyn yn cynnig cymorth ymarferol ac maent yn addas ar eich cyfer os ydych chi’n siarad y Gymraeg yn rhugl (dysgwyr neu siaradwyr iaith gyntaf). Mae’r modiwlau yn addas os ydych chi’n: • dilyn eich cyrsiau neu ran o’ch cyrsiau drwy gyfrwng y Gymraeg; • dilyn eich cyrsiau yn Saesneg ond eisiau datblygu eich sgiliau a’ch hyder i ddefnyddio’r Gymraeg yn gyffredinol; • dilyn eich cyrsiau yn Saesneg ond yn awyddus i allu trafod eich pynciau’n hyderus trwy gyfrwng y Gymraeg. Dyma’r modiwlau sydd ar gael: • Modiwlau Sgiliau Defnyddio’r Gymraeg ym mlynyddoedd 1, 2 a 3; • Modiwl Ymdrin â’ch Pwnc yn Gymraeg ym mlynyddoedd 2 a 3. MODIWLAU DATBLYGU SGILIAU IAITH AR GAEL
Bydd y modiwlau hyn o gymorth i chi i baratoi ar gyfer Tystysgrif Sgiliau Iaith Gymraeg y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Pan welwch y symbol hwn ar dudalen cwrs, cofiwch am y gwasanaethau sydd ar gael gan Ganolfan Bedwyr i’ch helpu i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.
2. Meddalwedd cyfrifiadurol, Cysgliad, i’ch helpu i ysgrifennu Cymraeg cywir. Mae Cysgliad yn becyn poblogaidd dros ben, ac yn adnodd hynod ddefnyddiol ar gyfer unrhyw un sy’n awyddus i ysgrifennu’r Gymraeg. Mae’n cynnwys: • Cysill – rhaglen sy’n gwirio sillafu a gramadeg; • Cysgeir – casgliad o eiriaduron electronig Cymraeg/Saesneg a Saesneg/Cymraeg. Mae Cysgliad wedi’i osod ar rwydwaith y Brifysgol, ac mae hefyd ar gael i’w brynu o Ganolfan Bedwyr ar gyfer cyfrifiaduron personol, gyda phrisiau arbennig i fyfyrwyr. 3. Gwasanaeth Terminoleg. Mae gwasanaeth terminoleg Canolfan Bedwyr yn cynnig cymorth gyda’r gwaith o ganfod y termau cywir yn eich maes pwnc. Mae’r tîm termau wedi cyhoeddi ystod eang o eiriaduron termau dwyieithog er mwyn galluogi myfyrwyr a staff i ymdrin â’u pwnc yn Gymraeg. Mae swyddog terminoleg y Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi’i lleoli yng Nghanolfan Bedwyr. Fel rhan o’r project cenedlaethol gall myfyrwyr gysylltu â’r swyddog am arweiniad ar ba dermau i’w defnyddio. 4. Gwasanaeth cyfieithu llawn. Mae gan fyfyrwyr hawl i gyflwyno traethodau neu wneud cyflwyniadau yn Gymraeg, hyd yn oed os nad yw’r tiwtor/darlithydd yn deall Cymraeg. Mae’r Uned Gyfieithu yn: • cyfieithu gwaith ysgrifenedig myfyrwyr i’r Gymraeg; • cyfieithu cyflwyniadau myfyrwyr i’r Gymraeg trwy’r gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
Ffôn: 01248 383293 E-bost: swyddfa.canolfanbedwyr@bangor.ac.uk
17
‘
‘
Does dim lle gwell ar gyfer y Cymry na Bangor! Mae’n gyfle i fyw ac astudio yn gyfan gwbl drwy ein mamiaith, ac ar yr un pryd yn ein galluogi i ddod i adnabod myfyrwyr o bob rhan o’r byd hefyd.
A minnau’n fyfyriwr ail-iaith, roeddwn i’n gwybod am yr adran Gymraeg anhygoel a oedd yn y Brifysgol, yn ogystal â’r lleoliad Cymraeg. Yr oeddwn i’n gwybod y byddwn yn gallu defnyddio’r Gymraeg bob dydd os oeddwn yn dewis astudio ym Mangor.
I un sy’n frwdfrydig ac yn mwynhau pob agwedd o Gerddoriaeth, mae’r Ysgol Gerddoriaeth yn ddelfrydol. Mae arbenigedd y darlithwyr yn creu adran ddiddorol a llwyddiannus sy’n cynnig amodau addysgu eithriadol o safonol.
Cefais y cyfle i gwrdd â’r darlithwyr mewn Diwrnod Agored, a chael gwybodaeth wych am y cwrs. Roedd y staff a’r myfyrwyr yn gyfeillgar ac yn fodlon helpu.
’
O ran fy mlwyddyn gyntaf hyd yma, heb os nac oni bai, mae’r digwyddiadau cymdeithasol Cymraeg yn sicr yn uchafbwyntiau. Mae’r hwyl yn ddiddiwedd! GETHIN GRIFFITHS, o Fethel, Caernarfon, sy’n astudio Cerddoriaeth
Mae Bangor yn lle anhygoel i fyw ac astudio. Mae pawb yn yr adran yn fy adnabod i ac yn rhoi gymaint o help imi, ac mae’r ddinas yn lle hyfryd. Mae’r Arweinwyr Cyfoed yn lot fawr o help, yn enwedig i rywun nad oedd yn adnabod unrhyw un yma cyn dod i’r Brifysgol. Dw i’n gwerthfawrogi eu cymorth. Mae’r tiwtor personol wedi bod yn help enfawr hefyd, ac wedi fy helpu gyda materion tu fewn a thu fas y cwrs.
’
O ran uchafbwyntiau hyd yma, mae fy Nghymraeg wedi gwella gymaint a dwi wedi cwrdd â nifer o bobl newydd – yn ogystal â dysgu sut i ddefnyddio’r ffwrn! RHYS DILWYN JENKINS, o Bort Talbot, sy’n astudio Cymraeg
18
‘
Mae Bangor yn lle arbennig a chartrefol i fyfyrwyr Cymraeg. Mae astudio yma hefyd wedi bod yn dda i mi ddatblygu fy sgiliau iaith – gan fy mod yn gallu astudio a chymdeithasu yn y Gymraeg. GRISIAL PUGH, o Ddinas Mawddwy sy’n astudio Busnes.
’
Gyda sefydliadau ymhob sector yn cynnig mwy a mwy o wasanaethau dwyieithog, mae’n amlwg fod angen pobl gyda sgiliau dwyieithog i wneud hyn. Yn y gweithle mae’r gallu i siarad neu ysgrifennu yn Gymraeg ac yn Saesneg yn sgiliau gwerthfawr, yn union fel sgiliau cyfrifiadurol neu ariannol
‘
Roedd yn well gen i fynd yn syth i fyd gwaith nag i wneud cwrs ôl-radd neu ymchwil. Ro’n i eisiau cyflog ac eisiau setlo lawr. Dw i’n mwynhau’r gwaith yn arw. Mae’r Cyngor yn lle braf i weithio ac mae’n wych cael cyfrannu at waith sefydliad sy’n gweithio’n benna’ drwy’r Gymraeg. Roedd y cwrs ym Mangor yn allweddol i’m helpu i gael gwaith gan fod cyfle i ddysgu sut i ddefnyddio gwahanol arddulliau a chyweiriau ar gyfer gwahanol bwrpasau. Peth arall gwerthfawr oedd cyfnod o brofiad gwaith a drefnodd Ysgol y Gymraeg i fi yn gweithio ar ddatblygu gwefan Canolfan Cae’r Gors, sef amgueddfa cartref Kate Roberts.
’
Fel aelod o Dîm y We, dw i’n ceisio sicrhau fod pob dim sy’n cael ei gyhoeddi ar wefan y Cyngor yn gryno a chlir. Mae’n bwysig iawn fod y Gymraeg yn ddealladwy fel bod mwy a mwy o bobl yn ei defnyddio wrth wneud eu busnes o ddydd i ddydd ar y we. GUTO DAFYDD, o Drefor, Caernarfon, a raddiodd gyda gradd dosbarth cyntaf yn y Gymraeg llynedd, ac sydd rŵan yn gweithio i Dîm y We Cyngor Gwynedd.
19