592 clawr prospectus cymraeg v8_Layout 1 2015-03-11 10:30 AM Page 1
592 clawr prospectus cymraeg v8_Layout 1 2015-03-11 10:31 AM Page 2
PRIFYSGOL BANGOR PROSPECTWS ISRADDEDIGION 2016
592 clawr prospectus cymraeg v8_Layout 1 2015-03-11 10:31 AM Page 3
PRIFYSGOL BANGOR 2016 C么d UCAS: Bangr B06
www.bangor.ac.uk
ProspectusCym2016 CoverOP.indd 1
2015-03-13 3:57 PM
prospectus cymraeg 2016 woj_Layout 1 12/03/2015 12:58 Page 2
CIPOLWG CYFLYM AR FANGOR Rhagoriaeth Academaidd
Profiad Myfyrwyr
• Mae gan Brifysgol Bangor, a sefydlwyd ym 1884, draddodiad hir o ragoriaeth academaidd sy’n parhau hyd heddiw. Cafwyd cymeradwyaeth gadarn yn ddiweddar o ansawdd y dysgu a’r ymchwil a gyflawnir yma.
• Mae Bangor hefyd yn ymfalchïo yn ansawdd y profiad a gaiff myfyrwyr yma – mae'r sicrwydd o lety, costau byw isel, y gefnogaeth i fyfyrwyr, y bywyd naturiol Gymraeg a'r lleoliad godidog i gyd yn cyfrannu at hynny.
• Mae Prifysgol Bangor yn arwain ym maes y Gymraeg, ac yn cynnig y nifer fwyaf o gyrsiau cyfrwng Cymraeg o holl brifysgolion Cymru. Bangor yw un o brifysgolion pwysicaf y byd o ran gwaith ymchwil i feysydd dwyieithrwydd a thechnolegau iaith.
• Mae'r buddsoddiad parhaus mewn cyfleusterau a gwasanaethau cefnogi yn cyfoethogi profiad myfyrwyr ymhellach, ac ymysg y datblygiadau diweddar mae Canolfan y Celfyddydau ac Arloesi newydd cyffrous, neuaddau preswyl newydd a gwelliannau i'r cyfleusterau chwaraeon.
• Mae’r canlyniadau rhagorol a gafodd Bangor yn yr Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr yn ei gosod yn y safle uchaf yng Nghymru ac yn y 7 uchaf ym Mhrydain* am foddhad myfyrwyr.
• Mae aelodaeth am ddim o glybiau a chymdeithasau myfyrwyr yn fantais fawr i fyfyrwyr Prifysgol Bangor, am ei fod yn golygu y gall ein holl fyfyrwyr gymryd rhan yn yr amrywiaeth eang o weithgareddau sydd ar gael.
• Cafodd yr ymchwil o safon fyd-eang a gyflawnir ym Mangor ei chydnabod gan Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014 (REF), asesiad cenedlaethol o ansawdd ymchwil. Yn ôl canlyniadau’r REF, mae Bangor ymysg y 40 prifysgol orau ym Mhrydain** am ansawdd ei hymchwil.
• Mae gan Fangor un o'r cynlluniau cefnogaeth gyfoed fwyaf ym Mhrydain, rhaglen profiad rhyngwladol newydd a chynllun gwobr cyflogadwyedd sydd ill tri yn cynnig manteision pellach i’n myfyrwyr.
* ac eithrio sefydliadau arbenigol ** heb gyfrif sefydliadau arbenigol a phrifysgolion oedd yn cyflwyno mewn un Uned Asesu yn unig
2
2
prospectus cymraeg 2016 woj_Layout 1 12/03/2015 12:58 Page 3
Y GORAU YNG NGHYMRU AC YN Y 10 UCHAF YM MHRYDAIN* AM FODDHAD MYFYRWYR
‘
Mae Bangor yn gymuned wirioneddol ofalgar a chefnogol, ac rydym yn ymfalchïo yn y gwasanaethau ardderchog rydym yn eu cynnig i’n myfyrwyr. Mae’r rhain yn cynnwys cyngor a chefnogaeth academaidd, ariannol, gyrfaol a phersonol. Mae ansawdd ein dysgu a’n hymchwil o’r radd flaenaf, ac yn denu myfyrwyr a staff yma o ledled y byd. Yn ogystal, mae nifer o gyfleoedd i fyfyrwyr gymryd rhan mewn amrywiaeth eang o weithgareddau. Mae mynyddoedd trawiadol Eryri a milltiroedd o arfordir yn darparu’r cefndir i brofiad prifysgol heb ei ail.
’
Mae Prifysgol Bangor wedi buddsoddi miliynau o bunnoedd mewn datblygu cyfleusterau academaidd a chymdeithasol newydd i fyfyrwyr yn ddiweddar. Bydd hyn yn gwneud Prifysgol Bangor yn lle hyd yn oed yn fwy atyniadol i astudio. Yr Athro JOHN G. HUGHES Is-Ganghellor Prifysgol Bangor
3
3
prospectus cymraeg 2016 woj_Layout 1 12/03/2015 12:59 Page 4
WRTH EU BODD YM MANGOR • Yn yr Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr gosodwyd Prifysgol Bangor yr orau yng Nghymru ac yn y 7fed safle ym Mhyrydain* am foddhad myfyrwyr. • Mae’r Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr yn rhoi adborth cynhwysfawr am brofiad myfyrwyr ym mhob un o brifysgolion Prydain ac yn Arolwg 2014 perfformiodd Prifysgol Bangor yn well nag erioed mewn ystod o bynciau a meysydd. • Er enghraifft, Prifysgol Bangor oedd yr orau yng Nghymru am addysgu ac yn gydradd 3ydd ym Mhrydain* am gefnogaeth academaidd. Cafodd y Brifysgol ganlyniadau arbennig o dda hefyd mewn meysydd fel cyswllt staff (5ed) ac asesu a marcio (7fed). • Gosododd ganlyniadau’r Arolwg y pynciau canlynol ym Mhrifysgol Bangor ymysg y 10 uchaf ym Mhrydain: Bioleg, Gwyddorau Biofeddygol, Astudiaethau Busnes, Peirianneg Electronig, Ffrangeg, Cerddoriaeth, Seicoleg a Gwyddorau Chwaraeon. • Gosodwyd Prifysgol Bangor hefyd ymhlith y 50 prifysgol orau ym Mhrydain (Sunday Times University Guide 2015), gydag Arolwg Profiad Myfyrwyr y Times Higher Education yn gosod Bangor ymysg y 20 prifysgol orau ym Mhrydain am brofiad myfyrwyr. • Rhoddwyd ansawdd y llety, cyrsiau a darlithwyr a chlybiau a chymdeithasau myfyrwyr Bangor i gyd yn y 10 uchaf ym Mhrydain yng ngwobrau WhatUni?. *ac eithrio sefydliadau arbenigol
4
prospectus cymraeg 2016 woj_Layout 1 12/03/2015 12:59 Page 5
3ydd YM MHRYDAIN AM GEFNOGAETH ACADEMAIDD A 5ed AM GYSWLLT STAFF
‘
Mae canlyniadau'r Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr yn gadarnhad ardderchog o'n gweithgareddau a'n gwerthoedd. Mae'n wych ein bod yn y 10 uchaf ym Mhrydain… Mae’n safle sydd unwaith eto yn adlewyrchu'r safon addysgu ragorol sydd ar gael ym Mangor.
’
Yr Athro OLIVER TURNBULL, Dirprwy Is-ganghellor (Addysgu a Dysgu)
5
5
prospectus cymraeg 2016 woj_Layout 1 12/03/2015 12:59 Page 6
BANGOR: DOES UNMAN TEBYG • Lleoliad prydferth a delfrydol ar gyfer chwaraeon, rhwng môr a mynydd • Mae'n cael ei gydnabod mewn sawl arolwg myfyrwyr fel yn un o’r lleoedd gorau ym Mhrydain i fod yn fyfyriwr • Mae maint Bangor yn golygu ei bod yn hawdd dod i adnabod pobl, ac mae ein myfyrwyr yn ymgynefino yn gyflym • Mae cyfran uchel o fyfyrwyr yn dewis Bangor oherwydd maint bychan a natur gyfeillgar y Brifysgol a’r dref • Mewn safle delfrydol ar gyfer gwahanol chwaraeon – yn enwedig rhai awyr agored • Mae gennym hefyd gyfleusterau chwaraeon a hamdden rhagorol, gyda rhaglen fuddsoddi gwerth miliynau o bunnoedd wedi ei chwblhau’n ddiweddar yng Nghanolfan Chwaraeon y Brifysgol • Does dim rhaid i chi fod yn frwd dros chwaraeon i astudio yma – mae llawer o'n myfyrwyr yn gwerthfawrogi'r lleoliad prydferth, a'r ffaith ei fod yn tueddu i fod yn fwy diogel, yn lanach ac yn fwy cyfeillgar na llefydd llawer mwy.
6
prospectus cymraeg 2016 woj_Layout 1 12/03/2015 12:59 Page 7
Mae Bangor yn lle grêt i fyw ac astudio, mae'n ddinas fach gartrefol ac mae popeth sydd ei angen ar gael, ac yn agos! CERI ELSBETH LEWIS, o Bwllheli, sy’n astudio Addysg
7
7
prospectus cymraeg 2016 woj_Layout 1 12/03/2015 12:59 Page 8
BYW AC ASTUDIO DRWY’R GYMRAEG • Mae’r Gymraeg yn rhan gwbl naturiol o fywyd myfyriwr ym Mangor. Gall myfyrwyr Cymraeg eu hiaith gymdeithasu ac astudio trwy gyfrwng y Gymraeg a hefyd gyfarfod a chymdeithasu â phobl o gefndiroedd gwahanol a phobl o wledydd eraill • Prifysgol Bangor sy’n cynnig y nifer fwyaf o gyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg – ac mae mwy o’n myfyrwyr yn dewis astudio trwy’r Gymraeg hefyd nac yn unrhyw le arall • Mae’r Brifysgol yn parhau i ehangu’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg a chynnig cyfleoedd newydd i fyfyrwyr trwy’r Gymraeg, gan gynnwys mewn meysydd fel Busnes, Seicoleg Chwaraeon a Gwyddorau Gofal Iechyd • Gyda niferoedd y Cymry Cymraeg a’r dysgwyr sy’n dewis dod yma mae bwrlwm anhygoel o ran bywyd cymdeithasol a gweithgareddau cyfrwng Cymraeg ym Mangor • Yn cyfrannu at y bwrlwm yma y mae’r neuadd breswyl Gymraeg, Neuadd John Morris Jones (JMJ). Mae JMJ yn cynnig cyfle gwych i fyfyrwyr gael byw mewn awyrgylch gwbl Gymraeg • Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor (UMCB) yw canolbwynt y rhan helaeth o’r digwyddiadau a’r gweithgareddau Cymraeg a drefnir – sy’n amrywio o nosweithiau cymdeithasol, Eisteddfod a Dawns Ryng-Golegol i gemau pêl-droed a rygbi, a thripiau rygbi i’r Iwerddon neu’r Alban. Edrychwch ar dudalennau 30-31.
Mae Bangor yn lle da ar gyfer myfyrwyr Cymraeg ac mae’r gymuned Gymraeg yn gyfeillgar iawn yma. Mae yma neuaddau Cymraeg a llawer o fodiwlau cyfrwng Cymraeg. RUTH JONES, o Ddinas Mawddwy sy’n astudio Cemeg
Mae Bangor yn lle grêt ar gyfer myfyrwyr Cymraeg. Rwyf wedi cymryd rhan mewn nifer o weithgareddau gydag Aelwyd JMJ fel cystadlu yn yr Ŵyl Gerdd Dant. Mae byw yn neuadd JMJ yn brofiad gwych. Rwyf wedi cyfarfod cymaint o ffrindiau newydd. Mae pawb yn JMJ yn cymysgu efo’i gilydd ac mae gennym gymuned glòs yma sy’n gwneud i mi deimlo’n gartrefol. Yn ystod Wythnos y Glas (yr wythnos gyntaf fel myfyriwr Prifysgol) roedd yr Arweinwyr Cyfoed yn help mawr ac mae’r Tiwtoriaid Personol hefyd yn dda iawn. LOIS EVANS o Dowyn, sy’n astudio Cymraeg ac Addysg Gorfforol
Rwy’n teimlo bod Bangor yn lle gwych ar gyfer myfyrwyr Cymraeg, gyda llawer o gyfleoedd i astudio trwy’r Gymraeg. Hefyd, wrth fyw yn JMJ, mae yna lawer o gyfleoedd i gymdeithasu â myfyrwyr Cymraeg. CHLOE EVANS, o Ddolgellau sy’n astudio Gwyddor Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer
8
prospectus cymraeg 2016 woj_Layout 1 12/03/2015 12:59 Page 9
Pam astudio drwy’r Gymraeg? • mae angen pobl ddwyieithog mewn pob math o swyddi • mae galw mawr am bobl ifanc broffesiynol sy’n gallu gweinyddu’n ddwyieithog • mae cyflogau swyddi dwyieithog ar gyfartaledd yn uwch • bydd astudio trwy’r Gymraeg yn y Brifysgol yn rhoi sylfaen ardderchog i’ch gyrfa. Am fwy o wybodaeth am astudio trwy gyfrwng y Gymraeg, gweler tudalen 16-21.
9
prospectus cymraeg 2016 woj_Layout 1 12/03/2015 12:59 Page 10
EICH CEFNOGI TRA’N ASTUDIO Mae Prifysgol Bangor yn yr 20 uchaf o brifysgolion o ran cefnogaeth a lles* • Mae dros £3.7M ar gael mewn bwrsariaethau ac ysgoloriaethau • Mae’r Brifysgol yn gwarantu llety ar gyfer holl fyfyrwyr blwyddyn gyntaf • Mae gan Fangor un o'r cynlluniau Arweinwyr Cyfoed mwyaf sydd gan unrhyw brifysgol, gyda myfyrwyr ail a thrydedd flwyddyn yn cymryd rhan mewn cynllun mentora i helpu myfyrwyr newydd ymgynefino yn ystod eu ychydig wythnosau cyntaf yma.
• Aelodaeth am ddim o glybiau a chymdeithasau – mae hynny'n golygu bod pob myfyriwr yn gallu manteisio ar y cyfleoedd allgyrsiol sydd ar gael • Opsiwn newydd i astudio dramor sy'n rhoi'r profiad rhyngwladol i fyfyrwyr mae llawer o gyflogwyr yn chwilio amdano erbyn hyn. Mae'r Rhaglen Profiad Rhyngwladol yn cynnig yr opsiwn o astudio dramor am flwyddyn ychwanegol mewn nifer helaeth o wledydd gwahanol.
*Arolwg Profiad Myfyrwyr, Times Higher Education
10
• Mae’r cynllun Arweinwyr Cyfoed a’r cynllun Tiwtoriaid Personol yn golygu y bydd gennych bob amser fyfyriwr arall neu aelod o’r staff academaidd i droi atynt, ac mae'r Ganolfan Gwasanaethau Myfyrwyr yn darparu gwasanaeth cefnogi proffesiynol i fyfyrwyr • Mae'r Gwasanaeth Dyslecsia yn adnabyddus yn rhyngwladol am ei harbenigedd yn cefnogi myfyrwyr • Mae'r Ganolfan Sgiliau Astudio yn rhoi cefnogaeth i fyfyrwyr wrth iddynt ddechrau yn y brifysgol, yn ogystal â chefnogaeth gyson wedyn er mwyn i chi barhau i wneud cynnydd academaidd.
• Amrediad o raglenni personol a datblygiad gyrfa i'ch helpu chi ddechrau cynllunio eich gyrfa i’r dyfodol mewn da bryd. Byddwch yn gallu ennill sgiliau a phrofiad trosglwyddadwy trwy leoliadau gwaith, interniaethau, cyfleoedd gwirfoddoli, a datblygu sgiliau menter ac entrepreneuriaeth, yn ogystal â manteisio ar Wobr Cyflogadwyedd Bangor (BEA), sy'n ddatblygiad arloesol yn y sector. • Dysgwch iaith newydd, neu wella eich sgiliau iaith – mae dosbarthiadau nos am ddim i fyfyrwyr Bangor. Mae'r opsiynau'n cynnwys Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg, Eidaleg, Tsieinëeg a Japanaeg.
prospectus cymraeg 2016 woj_Layout 1 12/03/2015 12:59 Page 11
Mae’r Brifysgol wedi rhoi cefnogaeth i mi fel myfyriwr ac mae hynny wedi bod o help mawr i mi ar fy nhaith... Cefais gymorth gan fy Nhiwtor Personol i wneud yn siŵr fy mod yn hapus ynglŷn â phopeth oedd yn digwydd. Roedd hynny’n gysur i mi a fe wnaeth y profiad yn un llawer mwy pleserus. BETSAN WILLIAMS, o Sir Benfro sy’n astudio Hanes Cymru
11
prospectus cymraeg 2016 woj_Layout 1 12/03/2015 12:59 Page 12
BANGOR: PROFIADAU EIN Y PROFIAD MYFYRWYR
Mae’n le gwych i astudio gan fod y darlithwyr yn hynod o gefnogol ac yn barod i helpu. Mae’r cwrs yn ardderchog gydag amrywiaeth helaeth a modiwlau gwahanol iawn. Mae’r darlithoedd a’r seminarau yn hynod o ddefnyddiol, a’r darlithwyr yn cyflwyno’r modiwlau mewn modd diddorol a llawn hwyl. CERIS MAIR JAMES, o Fryngwyn, Ceredigion, sy’n astudio Cymraeg gydag Ysgrifennu Creadigol
12
prospectus cymraeg 2016 woj_Layout 1 12/03/2015 12:59 Page 13
Mae yna amryw o resymau dros ddisgyn mewn cariad â Bangor, heblaw am y dysgu rhagorol a'r ymchwil o safon fyd-eang. Cewch astudio a chymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg, mwynhau awyrgylch clòs a chyfeillgar a chymryd rhan yn rhai o'r llu o weithgareddau myfyrwyr. Gyda tua 150 o glybiau a chymdeithasau rhad ac am ddim, mae rhywbeth at ddant pawb. Mae'r cyfan yn cyfrannu at brofiad prifysgol bythgofiadwy a digymar... • Mae cymuned fyfyrwyr fywiog Bangor yn cynnwys dros 10,000 o fyfyrwyr o bob rhan o’r byd. Mae yma hefyd awyrgylch gyfeillgar, naturiol Gymreig – darllenwch fwy am brofiadau ein myfyrwyr ar dudalennau 1415. • Prifysgol Bangor sy’n cynnig y nifer fwyaf o gyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg ac mae mwy o’n myfyrwyr yn dewis astudio trwy’r Gymraeg nac yn unrhyw brifysgol arall. Edrychwch ar dudalennau 16-21. • Mae'r Brifysgol yn gwarantu llety ar gyfer holl fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf ac mae hynny, ynghyd ag ansawdd y llety a gynigir – yn gaffaeliad mawr i'r myfyrwyr sy'n astudio yma. Mae neuadd JMJ yn ganolbwynt bywyd cymdeithasol Cymraeg sy’n cynnig cymuned glòs a chyfeillgar i fyfyrwyr o bob cwr o Gyrmru. Edrychwch ar dudalennau 22-27.
YMYSG YR 20 UCHAF YM MHRYDAIN AM BROFIAD MYFYRWYR
• Mae'n lle cyfeillgar a chyfleus i astudio, ac mae’r lleoliad a’r ardal gyfagos yn rhesymau eraill dros benderfynu dod i Fangor. Darllenwch fwy ar dudalennau 36-37. • Mae maint a natur Bangor yn golygu bod myfyrwyr yn ymgynefino ar unwaith, ac yn mwynhau'r amrywiaeth o weithgareddau a'r ffordd o fyw unigryw a gynigir i fyfyrwyr yma. Edrychwch ar dudalennau 28-35. • Mae costau byw ym Mangor yn is nag mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig ac mae'r Brifysgol hefyd yn cynnig cymorth ychwanegol ar ffurf Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau sydd werth dros £3.7M. Edrychwch ar dudalennau 54-58.
• Mae cefnogaeth i fyfyrwyr yn flaenoriaeth uchel ym Mangor, ac mae amrediad o wasanaethau a rhaglenni ar gael yma i'ch helpu chi i wneud y gorau o'ch amser yn y brifysgol. Gallwn hefyd eich paratoi chi ar gyfer eich dyfodol gyda'n gwasanaethau cyflogadwyedd a menter. Edrychwch ar dudalennau 38-51.
‘
’
Trwy ddewis dod i Fangor, roeddwn yn gallu gwneud fy nghwrs drwy’r Gymraeg, ac yn gallu cael bywyd myfyriwr heb fod yn rhy bell o adref. CERI PARRY, o Bwllheli, sy’n astudio Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol
13
prospectus cymraeg 2016 woj_Layout 1 12/03/2015 13:00 Page 14
EIN MYFYRWYR
‘
Mi es i Ddiwrnod Agored cyn dod i’r Brifysgol a rhoddodd hynny syniad i mi ynglŷn â’r lle a sut roedd y cwrs yn cael ei ddysgu. Dewisais astudio ym Mangor am fod fy nghwrs yn cael ei gynnig trwy gyfrwng y Gymraeg yno ac mae hynny wedi bod o fantais i mi.
’
Mae byw mewn neuadd yn brofiad gwerthfawr iawn – mae wedi rhoi’r cyfle i mi wneud ffrindiau newydd a byw yn annibynnol. Credaf fod Bangor yn ddinas ddelfrydol i fyw ac astudio ynddi. MELEN HÂF LLOYD, o’r Gaerwen, Ynys Môn sy’n astudio Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol
Cefais brofiad da iawn yn y Diwrnod Agored – roedd pawb yn mynd allan o’u ffordd i fy helpu… Dewisais Bangor fel lle i astudio gan ei fod yn teimlo’n lle cartrefol iawn. Bangor hefyd yw’r lle gorau i astudio Cymraeg, ac mae’n ddigon pell o adre! Mae gennyf ddau arweinwr cyfoed ac maent yn galw draw yn aml i ofyn sut mae pethau’n mynd. Mae fy nhiwtor personol yn wych, ac y mae hi’n fy helpu gydag unrhyw broblem sy’n codi.
14
Mae byw mewn neuadd yn brofiad ardderchog. Mae cymuned dda iawn i’w chael yn Neuadd JMJ, ac roedd hi’n hawdd dod i adnabod pobl. Mae Bangor ei hun yn lle cartrefol, dim y lle mwyaf, ond mae’n ddigon mawr i wneud nifer o weithgareddau. DION LLOYD DAVIES, o Gastell Newydd Emlyn, sy’n astudio Cymraeg
prospectus cymraeg 2016 woj_Layout 1 12/03/2015 13:00 Page 15
‘
Mae’r Ysgol Cerddoriaeth yn lle cyfeillgar, ac mae hynny ymhlith y rhesymau pam nes i ddewis astudio ym Mangor. Mae pawb yn yr Ysgol Cerddoriaeth yn adnabod ei gilydd ac yn barod i helpu bob tro. Mae Bangor yn teimlo’n lle cartrefol a saff i fyw ac astudio, gyda phob man mewn pellter cerdded. Mae’r cwrs Cerddoriaeth yn dda iawn. Mae digon o amser i baratoi tuag at seminarau a darlithoedd, a’r modiwlau i gyd yn wahanol ac yn ddiddorol iawn.
’
Fy uchafbwyntiau hyd yn hyn yw gwneud grŵp newydd o ffrindiau, derbyn Ysgoloriaeth werth £1,000, mwynhau fy nghwrs a chario mlaen gyda gwersi i wella fy sgiliau piano. REBEKAH MANSELL WILKES o Fachynlleth, sy’n astudio Cerddoriaeth
Dewisais astudio ym Mangor am fy mod wedi clywed cymaint o ganmoliaeth i’r Brifysgol gan gyn-fyfyrwyr. Y peth gorau am astudio ym Mangor ydi’r ffaith bod y Brifysgol yn un cartrefol iawn… Mae’n braf ofnadwy bod y darlithwyr i gyd yn fy adnabod wrth fy enw cyntaf. Hefyd, mae’r adnoddau yn wych. Mae Bangor yn ddinas braf i astudio ynddi. Mae hi’n ddinas llawer llai na rhai dinasoedd prifysgol sy’n ei gwneud hi’n lle lawer mwy cartrefol ac yn rhoi’r cyfle i mi ddod i nabod pobl yn dda.
Mae Bangor yn lle gwych i fyfyrwyr Cymraeg oherwydd y gymdeithas agos a chartrefol sy’n bodoli yma. Trwy ymuno ag Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor, rydw i wedi dod i nabod amrywiaeth eang o bobl o bob cwr o Gymru, sy’n astudio pob math o bynciau, ac efallai na fuaswn i wedi dod ar eu traws fel arall. Rwy’n byw yn JMJ. Mae’r ystafelloedd yn rhai en-suite sy’n braf iawn. Rwyf yn rhannu llawr gydag 8 o fyfyrwyr eraill. Mae’n braf byw yng nghanol Cymry Cymraeg a chael cyfle i gymdeithasu â nhw. ELINOR MAIR PRITCHARD o Rosneigr, sy’n astudio Cymraeg
15
prospectus cymraeg 2016 woj_Layout 1 12/03/2015 13:00 Page 16
Y GYMRAEG YM MANGOR
Mae Bangor yn lle braf iawn i fyfyrwyr Cymraeg. Mae cymdeithas Gymraeg glòs yma ac mae’r iaith Gymraeg i’w chlywed ar y stryd fawr ac yn y Brifysgol.
Prifysgol Bangor sy’n cynnig y nifer fwyaf o gyrsiau cyfrwng Cymraeg – ac mae hefyd yn cael ei chydnabod am safon ei gwasanaethau dwyieithog a’i chefnogaeth i fyfyrwyr.
ELAIN HAF ELIS o Abergele, sy’n astudio yn Ysgol y Gymraeg
Mae’r Gymraeg yn rhan gwbl naturiol o fywyd ym Mhrifysgol Bangor ac i’w gweld a’i chlywed ym mhob agwedd ar ei gwaith a’i gweithgarwch. Y mae’r Brifysgol yn buddsoddi’n gyson mewn datblygiadau academaidd cyfrwng Cymraeg a gwasanaethau dwyieithog. Ym Mangor, ceir profiad Cymraeg cyflawn – o ddewis eang o fodiwlau cyfrwng Cymraeg, i wasanaethau trwy’r Gymraeg, i ddigwyddiadau cymdeithasol lle mae’r Gymraeg yn ganolog. Mae’r Brifysgol yn hynod o falch o dreftadaeth gyfoethog yr ardal, yn ddiwylliannol ac yn ieithyddol, a bydd yn parhau i chwarae rhan flaenllaw wrth feithrin y bywyd diwylliannol hwn.
CIPOLWG CYFLYM • Prifysgol Bangor sy’n cynnig y nifer fwyaf o gyrsiau cyfrwng Cymraeg • Mae mwy o fyfyrwyr yn dewis astudio trwy’r Gymraeg yma nag yn unrhyw brifysgol arall • Mae ysgoloriaethau cyfrwng Cymraeg gwerth hyd at £3,000 ar gael gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol • Mae cefnogaeth ar gael os ydych am ddilyn cwrs drwy’r Gymraeg neu yn rhannol drwy’r Gymraeg e.e. modiwlau sgiliau iaith, meddalwedd cyfrifiadurol, gwasanaeth terminoleg a gwasanaeth cyfieithu llawn.
16
‘
Does dim lle gwell ar gyfer y Cymry na Bangor! Mae’n gyfle i fyw ac astudio yn gyfan gwbl drwy ein mamiaith, ac ar yr un pryd yn ein galluogi i ddod i adnabod myfyrwyr o bob rhan o’r byd hefyd. I un sy’n frwdfrydig ac yn mwynhau pob agwedd o Gerddoriaeth, mae’r Ysgol Gerddoriaeth yn ddelfrydol. Mae arbenigedd y darlithwyr yn creu adran ddiddorol a llwyddiannus sy’n cynnig amodau addysgu eithriadol o safonol.
’
Heb os nac oni bai, mae’r digwyddiadau cymdeithasol Cymraeg yn sicr yn uchafbwyntiau. Mae’r hwyl yn ddiddiwedd! GETHIN GRIFFITHS, o Fethel, Caernarfon, sy’n astudio Cerddoriaeth
prospectus cymraeg 2016 woj_Layout 1 12/03/2015 13:00 Page 17
Arwain ar y Gymraeg Bangor yw un o’r prifysgolion pwysicaf yn y byd yn nhermau gwaith ymchwil i feysydd dwyieithrwydd a thechnolegau iaith. Ar ben hynny, mae’r Brifysgol yn arwain llawer o’r datblygiadau cyffrous sy’n digwydd ym maes addysg uwch cyfrwng Cymraeg drwy Gymru. Mae Bangor yn chwarae rhan flaenllaw mewn llawer o’r cydweithio rhwng prifysgolion yn sgil sefydlu’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol – o fodiwlau ym meysydd Busnes, y Gyfraith a Cherddoriaeth i enwi dim ond rhai, i’r gwaith o lunio’r termau sydd eu hangen ar gyfer astudio drwy’r Gymraeg. Bydd y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ym Mangor yn parhau i dyfu dros y blynyddoedd nesaf yn dilyn penodi darlithwyr newydd trwy gynllun staffio’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Hyd yn hyn dyfarnwyd 26 o swyddi darlithio newydd, sy’n golygu y gall myfyrwyr edrych ymlaen at nifer o gyrsiau a datblygiadau cyfrwng Cymraeg newydd mewn meysydd fel Ffrangeg, Cemeg, Cerddoriaeth, Seicoleg, Polisi Cymdeithasol, Nyrsio, Astudiaethau’r Amgylchedd, Ieithyddiaeth, Hanes, Cyfrifeg, Gwyddorau Cyfrifiadurol, y Gyfraith, Almaeneg, Gwyddorau Eigion a Gwyddorau Chwaraeon.
COLEG CYMRAEG CENEDLAETHOL Mae Prifysgol Bangor yn gweithio mewn partneriaeth â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Trwy gydweithio â phrifysgolion Cymru, mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn sicrhau ac yn datblygu rhagor o gyfleoedd astudio cyfrwng Cymraeg i fyfyrwyr Cymru. Mae’n noddi darlithwyr cyfrwng Cymraeg ac yn cynnig ysgoloriaethau sy’n galluogi i fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig ddilyn cyrsiau addysg uwch drwy gyfrwng y Gymraeg. Am ragor o wybodaeth gweler www.colegcymraeg.ac.uk
17
prospectus cymraeg 2016 woj_Layout 1 12/03/2015 13:00 Page 18
Rhai o ddarlithwyr cyfrwng Cymraeg Ysgol Busnes Bangor
Datbygu’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg Mae’r Brifysgol yn parhau i ehangu’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg a chynnig cyfleoedd newydd i fyfyrwyr drwy gyfrwng y Gymraeg mewn meysydd yn cynnwys Busnes, Gwyddorau Gofal Iechyd a Seicoleg Chwaraeon. Ymysg y datblygiadau diweddar, mae tair o ddarlithwyr Ysgol Busnes Bangor yn dod â’u profiad uniongyrchol o fyd busnes i gynnig cyfleoedd newydd drwy gyfrwng y Gymraeg. Bellach, mae’n bosib i fyfyrwyr Ysgol Busnes Bangor astudio pob modiwl yn y flwyddyn gyntaf yn Gymraeg neu’n ddwyieithog – a’r nod yw gallu gwneud hynny drwy gydol y radd. Yn y llun uchod mae Dr. Siwan Mitchelmore, sy’n cynnig tiwtorialau cyfrwng Cymraeg mewn entrepreneuriaeth, Sara Closs-Stacey, darlithydd Cyfrifeg trwy gyfrwng y Gymraeg a Dr. Sara Parry, sy’n datblygu modiwl Cyflwyniad i Fusnes ar-lein ac sy’n gweithio i ddatblygu Geiriadur Termau Busnes gyda Chanolfan Bedwyr yn y Brifysgol.
18
Am y tro cyntaf yn yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas, mae dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg ar gael mewn cwrs poblogaidd, sy’n allweddol o ran datblygu gweithwyr i’r meysydd gofal. Eleni dechreuodd Dr. Myfanwy Davies gynnig seminarau Cymraeg ym mlwyddyn gyntaf y cwrs Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Erbyn hyn, oherwydd y galw mae wedi ehangu’r cynllun drwy gydol tair blynedd y radd. Mae’r datblygiad hwn yn cyd-fynd â pholisi Llywodraeth Cymru ‘Mwy na Geiriau’ sy’n pwysleisio ei bod yn hanfodol gallu cynnig gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Oherwydd y ddarpariaeth hon, bydd gan y graddedigion o’r cwrs ym Mangor y sgiliau i drafod eu pwnc trwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae dau ddarlithydd wedi cael eu penodi yn ddarlithwyr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer. Mae Dr. Eleri Jones yn arbenigo mewn Seicoleg Chwaraeon a Julian Owen mewn Ffisioleg – sef dau o’r meysydd allweddol o ran astudio chwaraeon modern. Mae nifer o fodiwlau eisoes ar gael yn yr Ysgol yn y flwyddyn gyntaf drwy gyfrwng y Gymraeg ac mae rhywfaint o’r dysgu’n cael ei wneud drwy gyfrwng y Gymraeg yng ngweddill y cyrsiau hefyd. Mae’r datblygiadau hyn i gyd yn tanlinellu rôl amlwg y Brifysgol yn ehangu’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg i’w myfyrwyr.
prospectus cymraeg 2016 woj_Layout 1 12/03/2015 13:00 Page 19
Astudio trwy’r Gymraeg Prifysgol Bangor sy’n cynnig y nifer fwyaf o gyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg – ac mae mwy o’n myfyrwyr yn dewis astudio trwy’r Gymraeg hefyd nac yn unrhyw brifysgol arall. Ar hyn o bryd mae mwy na 1,400 o fyfyrwyr Bangor yn dewis astudio’u cwrs neu ran o’u cwrs trwy’r Gymraeg Ond pam astudio drwy’r Gymraeg yn y lle cyntaf? O safbwynt cael swydd a gwella rhagolygon gyrfa mae’r rhesymau o blaid astudio drwy’r Gymraeg yn cynnwys:
Mae sawl rheswm ymarferol a chymdeithasol hefyd dros ddewis astudio trwy’r Gymraeg, er enghraifft: • Y Gymraeg ydi iaith yr aelwyd a/neu iaith yr addysg yn yr ysgol a’r chweched dosbarth, ac felly dyma’r iaith sydd fwyaf naturiol
• Gosod sylfaen ardderchog i’r dyfodol o ran cael prawf pendant o ddeallusrwydd a defnydd ymarferol o’r Gymraeg
• Wedi arfer sefyll arholiadau a phrofion drwy’r Gymraeg – ac am barhau â hynny yn y brifysgol
• Mae cyflogwyr angen pobl ddwyieithog ar gyfer pob math o swyddi
• Wedi dysgu ac arfer defnyddio termau gwyddonol a chelfyddydol yn Gymraeg
• Mae cyflogau swyddi dwyieithog ar gyfartaledd yn uwch.
• Mae’n agor drysau i gyfleoedd newydd a gwella’r hyn a gynigir ar y CV
COLEG CYMRAEG CENEDLAETHOL Ysgoloriaethau Israddedig Mae'r Coleg yn cynnig ysgoloriaethau cyfrwng Cymraeg i fyfyrwyr israddedig, sy’n gyfle i dderbyn hyd at £3,000 am astudio pynciau trwy yn gyfan gwbl neu’n rhannol trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae rhestr gyflawn o’r cyrsiau cymwys sy’n gysylltiedig â’r cynllun presennol ynghyd ag amodau a thelerau’r ysgoloriaethau i’w gweld ar wefan www.colegcymraeg.ac.uk Gweler tudalennau 56-58 am fwy o wybodaeth am Fwrsariaethau ac Ysgoloriaethau ym Mangor.
• Mae’n gyfle i gymdeithasu a byw mewn awyrgylch lle mae’r Gymraeg i’w chlywed bob dydd.
Tystysgrif Sgiliau Iaith Gymraeg y Coleg Cymraeg Cenedlaethol Mae dros 200 o gyflogwyr yn cydnabod y Dystysgrif hon fel prawf o allu unigolyn i weithio a chyfathrebu’n hyderus drwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd cyfle i chi ymgeisio am y Dystysgrif yn ystod eich cyfnod ym Mangor, pa bynnag bwnc y byddwch yn dewis ei astudio, a bydd y Tiwtor Sgiliau Iaith yn trefnu cyfres o sesiynau i’ch helpu i baratoi ar gyfer yr asesiad llafar a’r arholiad ysgrifenedig.
Mae Bangor yn lle arbennig a chartrefol i fyfyrwyr Cymraeg. Mae astudio yma hefyd wedi bod yn dda i mi ddatblygu fy sgiliau iaith – gan fy mod yn gallu astudio a chymdeithasu yn y Gymraeg. GRISIAL PUGH, o Ddinas Mawddwy sy’n astudio Busnes.
19
prospectus cymraeg 2016 woj_Layout 1 12/03/2015 13:00 Page 20
Pa gyrsiau sydd ar gael yn y Gymraeg? Ar hyn o bryd mae’n bosib dilyn cwrs gradd un ai’n gyfan gwbl neu’n rhannol trwy gyfrwng y Gymraeg mewn nifer o feysydd pwnc. Ond hyd yn oed os nad yw’r cwrs ei hun ar gael drwy’r Gymraeg mae Bangor hefyd yn cynnig cefnogaeth, anogaeth a chyfle i’r rheiny sydd am gyflwyno eu traethodau neu drafod eu pwnc yn y Gymraeg. MAE MODD GWNEUD Y CWRS HWN DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG
Pan welwch y symbol hwn ar y dudalen, mae hyn yn golygu bod modd gwneud y cwrs drwy’r Gymraeg. Os nad yw’r symbol ar y dudalen cwrs, darllenwch yr wybodaeth o dan y pennawd Astudio trwy’r Gymraeg i weld yr opsiynnau cyfrwng Cymraeg sydd ar gael i chi.
Be ydi gwerth hyn oll – fydd dewis astudio yn y Gymraeg o ddefnydd yn y pen draw? Mae’r galw am sgiliau iaith Gymraeg yn mynd i gynyddu yn y blynyddoedd nesaf, wrth i fwy o fusnesau a sefydliadau gydnabod ac ymateb i’r angen i gynnig gwasanaeth dwyieithog. Mae prinder pobl gyda sgiliau dwyieithog mewn nifer o feysydd a swyddi, er enghraifft: • Gwaith cymdeithasol • Cyngor gyrfaoedd • Cyllid • Addysg • Y sector cyfiawnder • Llywodraeth leol • Rheoli gweinyddol a busnes • Technoleg darlledu • Therapyddion iaith a therapyddion lleferydd • Swyddi gweinyddol Wrth i fwy o gyflogwyr chwilio am weithwyr gyda sgiliau dwyieithog, yna mae astudio o leiaf rhan o gwrs gradd drwy gyfrwng y Gymraeg yn mynd i fod o help wrth chwilio am swydd. Astudio drwy’r Gymraeg – pa gefnogaeth sydd ar gael? Mae nifer o fyfyrwyr Prifysgol Bangor yn dewis astudio drwy’r Gymraeg. Os dewiswch chi wneud hyn, bydd digon o gefnogaeth ar gael i chi. Rhan bwysig iawn o’r gefnogaeth hon ydy’r gwasanaethau mae Canolfan Bedwyr yn eu cynnig.
Mae’r gwasanaethau hyn yn cynnwys: 1. Modiwlau Sgiliau Iaith 2. Meddalwedd Cyfrifiadurol 3. Gwasanaeth Terminoleg 4. Gwasanaeth Cyfieithu Llawn 1. Modiwlau datblygu sgiliau iaith. Mae’r modiwlau hyn yn cynnig cymorth ymarferol ac maent yn addas ar eich cyfer os ydych chi’n siarad y Gymraeg yn rhugl (dysgwyr neu siaradwyr iaith gyntaf). Mae’r modiwlau yn addas os ydych chi’n: • dilyn eich cyrsiau neu ran o’ch cyrsiau drwy gyfrwng y Gymraeg; • dilyn eich cyrsiau yn Saesneg ond eisiau datblygu eich sgiliau a’ch hyder i ddefnyddio’r Gymraeg yn gyffredinol; • dilyn eich cyrsiau yn Saesneg ond yn awyddus i allu trafod eich pynciau’n hyderus trwy gyfrwng y Gymraeg. Dyma’r modiwlau sydd ar gael: • Modiwlau Sgiliau Defnyddio’r Gymraeg ym mlynyddoedd 1, 2 a 3; • Modiwl Ymdrin â’ch Pwnc yn Gymraeg ym mlynyddoedd 2 a 3. MODIWLAU DATBLYGU SGILIAU IAITH AR GAEL
Bydd y modiwlau hyn o gymorth i chi i baratoi ar gyfer Tystysgrif Sgiliau Iaith Gymraeg y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Pan welwch y symbol hwn ar dudalen cwrs, cofiwch am y gwasanaethau sydd ar gael gan Ganolfan Bedwyr i’ch helpu i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg. Ffôn: 01248 383293 E-bost: swyddfa.canolfanbedwyr@bangor.ac.uk
20
2. Meddalwedd cyfrifiadurol, Cysgliad, i’ch helpu i ysgrifennu Cymraeg cywir. Mae Cysgliad yn becyn poblogaidd dros ben, ac yn adnodd hynod ddefnyddiol ar gyfer unrhyw un sy’n awyddus i ysgrifennu’r Gymraeg. Mae’n cynnwys: • Cysill – rhaglen sy’n gwirio sillafu a gramadeg; • Cysgeir – casgliad o eiriaduron electronig Cymraeg/Saesneg a Saesneg/Cymraeg. Mae Cysgliad wedi’i osod ar rwydwaith y Brifysgol, ac mae hefyd ar gael i’w brynu o Ganolfan Bedwyr ar gyfer cyfrifiaduron personol, gyda phrisiau arbennig i fyfyrwyr. 3. Gwasanaeth Terminoleg. Mae gwasanaeth terminoleg Canolfan Bedwyr yn cynnig cymorth gyda’r gwaith o ganfod y termau cywir yn eich maes pwnc. Mae’r tîm termau wedi cyhoeddi ystod eang o eiriaduron termau dwyieithog er mwyn galluogi myfyrwyr a staff i ymdrin â’u pwnc yn Gymraeg. Mae swyddog terminoleg y Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi’i lleoli yng Nghanolfan Bedwyr. Fel rhan o’r project cenedlaethol gall myfyrwyr gysylltu â’r swyddog am arweiniad ar ba dermau i’w defnyddio. 4. Gwasanaeth cyfieithu llawn. Mae gan fyfyrwyr hawl i gyflwyno traethodau neu wneud cyflwyniadau yn Gymraeg, hyd yn oed os nad yw’r tiwtor/darlithydd yn deall Cymraeg. Mae’r Uned Gyfieithu yn: • cyfieithu gwaith ysgrifenedig myfyrwyr i’r Gymraeg; • cyfieithu cyflwyniadau myfyrwyr i’r Gymraeg trwy’r gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
prospectus cymraeg 2016 woj_Layout 1 12/03/2015 13:00 Page 21
Dewisais ddod i Fangor i gael y cyfle i astudio Seicoleg mewn Ysgol wych a hynny drwy’r Gymraeg. Mae dod yma yn un o’r dewisiadau gorau rwyf erioed wedi’i wneud. MIRAIN LLWYD ROBERTS o Langwm, sy’n astudio Seicoleg
GALL ASTUDIO TRWY GYFRWNG Y GYMRAEG WELLA EICH RHAGOLYGON GYRFAOL
A minnau’n fyfyriwr ail-iaith, roeddwn i’n gwybod am yr adran Gymraeg anhygoel a oedd yn y Brifysgol, yn ogystal â’r lleoliad Cymraeg. Yr oeddwn i’n gwybod y byddwn yn gallu defnyddio’r Gymraeg bob dydd os oeddwn yn dewis astudio ym Mangor. Mae Bangor yn lle anhygoel i fyw ac astudio. Mae pawb yn yr adran yn fy adnabod i ac yn rhoi gymaint o help imi, ac mae’r ddinas yn lle hyfryd. Mae’r Arweinwyr Cyfoed yn lot fawr o help, yn enwedig i rywun nad oedd yn adnabod unrhyw un yma cyn dod i’r Brifysgol. Dw i’n gwerthfawrogi eu cymorth. Mae’r tiwtor personol wedi bod yn help enfawr hefyd, ac wedi fy helpu gyda materion tu fewn a thu fas y cwrs. O ran uchafbwyntiau hyd yma, mae fy Nghymraeg wedi gwella gymaint a dwi wedi cwrdd â nifer o bobl newydd – yn ogystal â dysgu sut i ddefnyddio’r ffwrn!
Yn y flwyddyn gyntaf fe ddewisais i ddau fodiwl yn y Gymraeg ac fe fu i mi fwynhau’r modiwlau yn arw. Bu i mi fynychu tiwtorialau drwy gyfrwng y Gymraeg a chyflwyno ychydig o draethodau drwy gyfrwng y Gymraeg hefyd. Y dewis gorau i mi yn sicr oedd dewis cymryd rhan yn y tiwtorialau drwy gyfrwng y Gymraeg. Y manteision o wneud hynny oedd: grwpiau llai felly roedd posib cael mwy o sylw unigol a chyfle i ofyn cwestiynau; roedd y gallu i ofyn cwestiynau yn fy iaith gyntaf yn gymorth mawr i mi; roedd yn gysur gwybod y gallwn rannu fy mhryderon am y cwrs neu waith drwy gyfrwng y Gymraeg os oedd angen. Rwy’n sicr yn meddwl bod astudio trwy gyfrwng y Gymraeg wedi fy helpu i gael swydd ar ôl graddio. Mae’n bwysig meddu’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol drwy’r Gymraeg a’r Saesneg yn enwedig pan yn cyfathrebu gyda’r cyhoedd. Mae wedi bod yn ddefnyddiol medru dysgu’r derminoleg yn y Gymraeg a’r Saesneg a fydd yn aml o fudd wrth ddarllen dogfennau cyfreithiol drwy gyfrwng y Gymraeg yn fy swydd bresennol. Mae’r defnydd o’r Gymraeg yn ystod fy astudiaethau wedi sicrhau nad yw fy Nghymraeg ysgrifenedig wedi dioddef oherwydd ddiffyg defnydd ac felly fe fyddaf yn medru ysgrifennu llythyrau a dogfennau drwy’r Gymraeg heb drafferth. Mae bod yn hyderus yn y Gymraeg yn bwysig ac felly rwy’n credu fod defnyddio’r iaith yn ysgrifenedig ac ar lafar o fudd i bawb ymhob swydd. SIÂN ROBERTS, cyn-fyfyrwraig Ysgol y Gyfraith sydd bellach yn gweithio i Gyngor Gwynedd fel Syrfëwr Stadau Cynorthwyol ac ar ei ffordd at ei huchelgais o fod yn Syrfëwr Siartredig.
RHYS DILWYN JENKINS, o Bort Talbot, sy’n astudio Cymraeg
21