RHAGLEN DIGWYDDIADAU PRIFYSGOL BANGOR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL SIR CONWY 2019
CROESO
Mae Prifysgol Bangor yn falch o gefnogi’r Eisteddfod Genedlaethol, sydd ar garreg ein drws eleni. Fel prif ddarparwr addysg uwch cyfrwng Cymraeg, mi fydd gan Prifysgol Bangor bresenoldeb amlwg yn yr Eisteddfod. Mae llu o weithgareddau yn cael eu cynnal ar ein stondin yn ystod yr wythnos ac mae croeso cynnes i bawb alw draw. Fel un o brif noddwyr y Pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg, mae gan y Brifysgol ystod eang o gyflwyniadau a gweithgareddau ymlaen yno drwy’r wythnos. Bydd staff a myfyrwyr hefyd yn cyfrannu at wahanol ddigwyddiadau ar y Maes yn ystod yr wythnos.
GWOBR AUR AM ‘ADDYSGU RHAGOROL’ Ym Mhrifysgol Bangor, rydym yn gwneud ein gorau i fynd y tu hwnt i’r disgwyliadau arferol er mwyn darparu profiad prifysgol sy’n bleserus ac yn werth chweil. Ac mae rhagoriaeth yr addysgu a’r profiad myfyrwyr yn ei gyfanrwydd wedi eu cymeradwyo’n ddiweddar gan berfformiad y Brifysgol mewn sawl arolwg allanol.
Bu i Brifysgol Bangor dderbyn Gwobr Aur, y wobr uchaf bosib yn y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu (TEF) cenedlaethol. Barnodd y panel TEF bod Prifysgol Bangor yn darparu addysgu, dysgu a chanlyniadau ‘rhagorol’ yn gyson i’w myfyrwyr.
CIPOLWG CYFLYM GWOBR AUR AM ‘ADDYSGU RHAGOROL’
Y CLYBIAU A CHYMDEITHASAU GORAU YM MHRYDAIN Gwobrau WhatUni 2019
10 Uchaf Mae’r canlyniadau rhagorol a gafodd Prifysgol Bangor yn yr Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2019 yn ei gosod yn y 10 uchaf ym Mhrydain* am foddhad myfyrwyr. SO CROE
100%
9 o’n rhaglenni gyda sgôr o 100% am foddhad myfyrwyr
Prifysgol Bangor sy’n cynnig y nifer fwyaf o gyrsiau cyfrwng Cymraeg.
*prifysgolion anarbenigol y DU
LLETY YN Y 3 UCHAF YM MHRYDAIN Gwobrau WhatUni 2019
PRIFYSGOL BANGOR AR Y MAES Mae pigion yr wythnos yn cynnwys yr isod. Am fwy o ddigwyddiadau, ewch i’n gwefan www.bangor.ac.uk/eisteddfod Dydd Sadwrn, 3 Awst
Dydd Mawrth, 6 Awst
1pm Llwyfan Encore Organ Stryd Astrid Cyflwyniad i’r organ unigryw hon ynghyd â pherfformiad o gyfansoddiadau newydd gan David Roche a Guto Pryderi Puw (Ysgol Cerddoriaeth a’r Cyfryngau).
2pm Pabell y Cymdeithasau 2 Darlith Goffa Eilir Hedd gan Dr Daniel Roberts (Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig).
Dydd Sul, 4 Awst 2.15pm Y Babell Lên ‘Trydar mewn Trawiadau’ Yr Athro Angharad Price (Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd) yn holi Dr Llion Jones (Cyfarwyddwr Canolfan Bedwyr) wrth iddo roi’r gorau i gynganeddu ar y cyfryngau cymdeithasol ar ôl degawd o drydar mewn trawiadau.
Dydd Llun, 5 Awst 11am Cylch yr Orsedd ‘Cyfarchiad Barddol’ Dr Llion Jones (Cyfarwyddwr Canolfan Bedwyr) fydd y bardd lleol a fydd yn croesawu’r Orsedd a’r Eisteddfod i’r ardal.
3.30pm Stondin y Coleg Cymraeg Cenedlaethol Ar achlysur dathlu 150 mlynedd y Tabl Cofnodol, ymunwch â ni i lansio’r ap Tabl Cofnodol Cymraeg cyntaf erioed. Wedi’i gyllido gan y CCC ac wedi’i ddatblygu gan Brifysgol Bangor a Galactig, bydd yr ap hwn yn adnodd gwerthfawr i fyfyrwyr TGAU, safon uwch a phrifysgol. 5pm Llwyfan Encore, Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru o dan y chwyddwydr: Cerddoriaeth draddodiadol a chanu gwerin. Dr Pwyll ap Sion (Ysgol Cerddoriaeth a’r Cyfryngau).
Dydd Mercher, 7 Awst
Dydd Gwener, 9 Awst
4pm Stondin y Coleg Cymraeg Cenedlaethol Bydd myfyrwyr a staff academaidd Prifysgol Bangor yn derbyn tystysgrifau Sgiliau Iaith yn ystod y seremoni gyda staff Canolfan Bedwyr.
11.30am Pabell y Cymdeithasau 2 Senedd Ieuenctid Cymru – Beth i’w wneud gyda’n gwastraff? Yr Athro Jerry Hunter yn rhan o banel trafod.
Dydd Iau, 8 Awst 9.30am Stondin y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ‘Cod i Obeithion’ Dr Daniel Roberts yn arddangos project cydweithredol y Ganolfan Ehangu Mynediad a’r CCC. 1pm Llwyfan Encore Ensemble Telyn Dr Guto Puw a myfyrwyr yr Ysgol Cerddoriaeth a’r Cyfryngau. 3pm Stondin Prifysgol y Drindod Dewi Sant Dr Aled Llion Jones (Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd) yn cyflwyno’r feirniadaeth ar Her Gyfieithu PEN Cymru. 5pm Llwyfan Encore Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru o dan y chwyddwydr – Cerddoriaeth glasurol a chelfyddydol. Dr Pwyll ap Sion (Ysgol Cerddoriaeth a’r Cyfryngau).
4.30pm Y Pafiliwn Cystadleuaeth y Gadair Dr Llion Jones (Cyfarwyddwr Canolfan Bedwyr) fydd yn traddodi’r feirniadaeth ar ran ei gyd-feirniaid, Yr Archdderwydd Myrddin ap Dafydd ac Ieuan Wyn.
Dydd Sadwrn, 10 Awst 11am Llwyfan Encore ‘J Lloyd Williams: Y cyfansoddwr dylanwadol’ gan Elen Keen (myfyriwr PhD yr Ysgol Cerddoriaeth a’r Cyfryngau). 5pm Llwyfan Encore Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru o dan y chwyddwydr: Y diwylliant a’r diwydiant cerddoriaeth. Dr Pwyll ap Sion (Ysgol Cerddoriaeth a’r Cyfryngau).
Yr Eisteddfod Genedlaethol mewn partneriaeth â Pontio, Prifysgol Bangor yn cyflwyno...
Y TYLWYTH Gan Myrddin ap Dafydd, Gwyneth Glyn a Twm Morys Sioe syrcas gerdd gyfoes ddaw â chwedlau Dyffryn Conwy’n fyw. Nos Wener 2 Awst 6pm Nos Sadwrn 3 Awst 8pm Tocynnau: www.eisteddfod.cymru 0845 4090 800
Lleisiau’r Stryd Street Voices
LLEISIAU’R STRYD Rhoi llwyfan i leisiau’r digartref ym Mangor Gwion Hallam fydd yn arwain sgwrs rhwng Mared Huws o Pontio, y dramodydd Branwen Davies, Hayley Owen o Hostel y Santes Fair a disgybl o Ysgol Friars, yn trafod y profiad o gynnal prosiect ‘Lleisiau’r Stryd’ gan gynllun BLAS Pontio. Bydd Gwion Aled Williams yn darllen detholiadau o’r ddrama air am air a gafodd ei llwyfannu dros yr haf. Caffi’r Theatrau Dydd Mawrth 6 Awst 4pm
LLEW A’R CRYDD Mae dau frawd yn teithio’r byd yn casglu straeon rhag iddynt fynd ar goll. Un noson yn yr Eisteddfod, pan yn methu mynd i gysgu, maen nhw’n dweud stori am fachgen o’r enw Llew, crydd cybyddlyd cas, coblyn bach hudolus a thywysoges sydd eisiau gwneud dim ond dawnsio…Ymunwch â ni ar antur hudolus, gyda digon o straeon a phypedau od iawn yr olwg…
Cynhyrchiad ar y cyd gan Theatr Clwyd a Pontio. Ysgrifennwyd a Chyfarwyddwyd gan Emyr John. Dydd Iau 8 Awst Dydd Gwener 9 Awst Pentre Plant 12pm/2pm/4pm
Ymunwch â ni am 3pm ar gyfer gweithdy drama hwyliog yn edrych ar themâu Llew a’r Crydd – addas i’r teulu oll! Uchafswm i’r gweithdy: 30
DRWY’R WYTHNOS Bydd gan Pontio bresenoldeb fel rhan o rwydwaith theatrau Cymru ar Gaffi’r Theatrau yn y Pentref Drama. Dewch draw i gael copi o’r rhaglen ar gyfer y tymor i ddod. 01248 38 28 28 pontio.co.uk
DIGWYDDIADAU STONDIN PRIFYSGOL BANGOR (MO4) DYDD SADWRN 3-4.30pm Organ Stryd Astrid Cyflwyniad i’r organ unigryw hon ynghyd â pherfformiad o gyfansoddiadau newydd gan David Roche a Guto Pryderi Puw (Ysgol Cerddoriaeth a’r Cyfryngau).
DYDD LLUN 11-12.30pm Siaradwyr neu ddefnyddwyr y Gymraeg? Ifor ap Glyn yn cadeirio sgwrs gyda Aled Roberts (Comisynydd y Gymraeg), Gwawr Maelor, Jeremy Griffiths a’r Athro Enlli Thomas (Ysgol Addysg a Datblygiad Dynol). 2pm Pontio’r bobl a’r gymuned Yn dilyn llwyddiant rhaglenni fel Hen Blant Bach, bydd y sgwrs hon yn rhannu canfyddiadau ymchwil diweddaraf Mirain Llwyd Roberts ar y rhwystrau a’r heriau sydd ynghlwm â phrosiectau pontio’r cenedlaethau. Bydd Dr Catrin Hedd Jones (Ysgol Gwyddorau Iechyd) yn trafod cynlluniau rhyngwladol a sut y gall cynlluniau o’r fath gyfrannu at gymunedau hyfyw wrth daclo unigrwydd a chwrdd â gofynion newydd yr Arglwydd Donaldson. 3pm Darlith Barn: ‘Llanrwst a Fi’ Y cyfansoddwr, Gareth Glyn, yn sôn am ei gysylltiadau teuluol â Llanrwst a’r gân a ysbrydolwyd ganddynt.
Dewch draw i siarad gyda’n myfyrwyr! Trwy gydol yr wythnos bydd cyfle i chi sgwrsio a holi myfyrwyr presennol UMCB (Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor) ac i beintio’ch wynebau a chael glitter ar gyfer yr ŵyl! Bydd staff y Brifysgol hefyd ar gael i rannu mwy o wybodaeth ynglŷn â’n cyrsiau.
DYDD MAWRTH 11am Arweinyddiaeth ar Waith Dewch i gyfarfod rhai o fynychywr rhaglenni Arweinyddiaeth ION a 20Twenty a chlywed am eu profiadau wrth fynychu ein rhaglenni, yr effaith arnynt hwy fel unigolion ac ar eu busnesau. Ychydig o rwydweithio a lluniaeth ysgafn! 12-1pm ‘Ai Brexit yw argyfwng mwyaf y ganrif?’ Cyfarfod Cymdeithas Cledwyn gyda Susan Elan Jones AS, Ann Clwyd AS a’r Athro Merfyn Jones. 1-2pm Myfyrwyr Llengar Bangor Elis Dafydd yn holi Caryl Bryn, Osian Owen a Llŷr Titus (oll o Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd) am eu hysgrifennu creadigol. 2-3pm Newyddion Heddiw, Newyddion Drwg? Dyfodol newyddiaduraeth Gymraeg. Sgwrs banel gyda rhai o leisiau mwyaf adnabyddus newyddiaduraeth yng Nghymru dan gadeiryddiaeth Bethan Rhys Roberts. Bydd Dr Ifan Morgan Jones (Ysgol Cerddoriaeth a Cyfryngau) yn un o’r panelwyr.
3-4pm ‘J. Lloyd Williams: Y Cymwynaswr Cerdd o Lanrwst’ Cipolwg ar gyfraniad yr Athro J. Lloyd Williams (1854-1945) cyn-ddarlithydd Botaneg, Coleg Prifysgol Gogledd Cymru Bangor, i’r traddodiad cerddorol yng Nghymru. Elen Wyn Keen (myfyriwr PhD, Ysgol Cerddoriaeth a’r Cyfryngau).
DYDD MERCHER 10.30am ‘Trysor ar Ynys Anial’ Wedi’i seilio ar y rhaglen radio boblogaidd “Desert Island Discs”, bydd cynrychiolwyr rhai o Ganolfannau Ymchwil y Brifysgol yn trafod eu hoff lyfr neu lawysgrif — trysor y byddent yn ei ddewis i fynd efo nhw i ynys anial. Gyda’r Athro Jerry Hunter, yr Athro Jason Walford Davies, Dr Aled Llion Jones a Dr Eben Muse. Cefnogir y ddigwyddiad yma gan Wasanaeth Llyfrgell ac Archifau Prifysgol Bangor.
2pm Aduniad Prifysgol Bangor Ymunwch â ni ar gyfer ein haduniad blynyddol i gyn-fyfyrwyr Bangor. Cewch glywed am ddatblygiadau diweddar o’r Brifysgol a dal i fyny gyda’ch cyd-alumni dros luniaeth ysgafn.
12-1.30pm Panel Trafod Enwebiad Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru: Allforio Diwylliant Llechi Cymru i’r Byd Dewch draw i glywed trafodaeth ddifyr am sut mae diwylliant a thraddodiadau bröydd Llechi Gwynedd wedi dylanwadau ar weddill y byd, yn ogystal â chael y wybodaeth ddiweddaraf am yr ymdrech i geisio sicrhau statws Treftadaeth Byd i’r ardal. Mae’r Panel yn cynnwys pobl ddylanwadol yn niwylliant Cymru sydd oll â chysylltiad â’r ardaloedd chwarelyddol (Yr Athro Jerry Hunter, Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, Lisa Jên Brown ac Eluned Haf), a bydd Lisa Jên yn chwarae set acwstig i gloi’r sesiwn.
3.30pm Aelwyd JMJ Dewch draw i weld Aelwyd JMJ yn perfformio ar y stondin.
DYDD IAU 10-11am Seremoni Arwyddo – Prifysgol Bangor ac Amgueddfa Cymru Bydd yr Athro Jerry Hunter, Dirprwy Is-ganghellor (Iaith Gymraeg, Diwylliant a Chysylltiad â’r Gymuned), Prifysgol Bangor a David Anderson OBE yn arwyddo Memorandwm o Ddealltwriaeth er mwyn atgyfnerthu a symud y berthynas rhwng y ddau sefydliad ymlaen.
2pm Digwyddiad Cymdeithas John Gwilym Jones Cyfarfod Cymdeithas John Gwilym Jones
12.45-1.45pm Lansiad P-ELO (‘Cerddorfa Olau Ffoto-Drydanol’)
Project newydd gyda phlant 9-13 oed yn peiriannu offerynnau cerddorol gan ddefnyddio goleuni a chodio. Gan Dr Daniel Roberts (Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig).
3-4pm Ensemble Telyn (Dr Guto Puw a myfyrwyr yr Ysgol Cerddoriaeth a’r Cyfryngau)
DYDD GWENER 1pm Cân y Gân Dathlu cyhoeddi casgliad o ganeuon sydd yn codi gwên ar gyfer trigolion sydd yn byw gyda dementia, ac a fydd yn cael eu dosbarthu am ddim lle bo’r angen. Mae’r gwaith hwn yn bartneriaeth gyda Merched y Wawr, Dydd Miwsig Cymru a Chanolfan Ymchwil a Heneiddio Cymru. Cewch gyfle i wrando ar Alistair O’Mahoney (myfyriwr yn yr Ysgol Cerddoriaeth a’r Cyfryngau) yn trafod ei ymchwil gradd i therapi cerdd ym maes dementia a bydd Dr Catrin Hedd Jones (Ysgol Gwyddorau Iechyd) yn rhannu datblygiadau diweddaraf y gwaith o sicrhau fod pawb yn cael mwynhau caneuon eu hieuenctid. Dewch draw i fwynhau perlau Cymru a chynorthwyo wrth ddod i gasglu CD i’w rhannu. bit.ly/canyganbangor 2pm Cig Coch – yn fwy gwyrdd nag yr ydach chi’n ei feddwl? Dr Prysor Williams (Ysgol Gwyddorau Naturiol)
3pm Prynhawn Prosecco UMCB Dewch i ddathlu’r Eisteddfod gyda ni yn ystod ein Prynhawn Prosecco! Cyfle i chi sgwrsio a chlywed gan fyfyrwyr presennol UMCB (Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor) dros wydr o prosecco, a bydd Band Pres Llareggub yn perfformio ar y stondin. Welwn ni chi yna!
DYDD SADWRN
11-12.30pm Ysgol Gwyddorau Meddygol yn cyflwyno rhaglen newydd C21 ar y cyd gyda Phrifysgol Caerdydd. Cyfle i glywed mwy am y cwrs Meddygaeth newydd ym Mhrifysgol Bangor dros banad a chacen. 1pm Fleur de Lys yn perfformio ar y stondin. 3-4.30pm Organ Stryd Astrid Cyflwyniad i’r organ unigryw hon ynghyd â pherfformiad o gyfansoddiadau newydd gan David Roche a Guto Pryderi Puw (Ysgol Cerddoriaeth a’r Cyfryngau).
FLEUR DE LYS DYDD SADWRN 10FED AWST 1PM
DIGWYDDIADAU GWYDDONIAETH PRIFYSGOL BANGOR Fel un o brif noddwyr y Pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg, bydd Prifysgol Bangor yn trefnu ystod o weithgareddau rhyngweithiol i blant a phobl ifanc. Dewch i brofi’r hwyl a chanfod mwy am bob math o wyddoniaeth...
Ysgol Gwyddorau Naturiol:
Bydd Dr Enlli Harper a Dr Andrew Davies yn syfrdanu plant ac oedolion fel ei gilydd gyda’u Sioe Wyddoniaeth Wych yn y Pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg am 11:15 a 14:15 o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Ysgol Gwyddorau Eigion:
Eigioneg mewn twb: Pum munud i sbario i chwarae efo dŵr? Dewch i greu tonnau tanddwr gyda’n harbrofion; ail-grewch y cylchdroadau sy’n rhan hanfodol o’n sustemau hinsawdd; i gyd yn ardal Ysgol Eigioneg yn y Pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg. Hefyd, bydd cyfle i chi weld a dysgu mwy am anifeiliaid y môr.
Ysgol Gwyddorau Meddygol
Cyfle i chi ddysgu mwy am y corff a chymryd rhan mewn gweithgareddau rhyngweithiol i’r teulu oll!
Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig Dewch draw i ddysgu fwy am Leidr Trydan a chyfle i arbrofi!
Uned Technolegau Iaith:
Ydych chi eisiau gwybod mwy am sut mae technoleg adnabod lleferydd Cymraeg yn gweithio? Ydych chi eisiau cyfrannu eich llais at gronfa Common Voice er mwyn gwella’r dechnoleg? Dewch draw i’n stondin i glywed mwy am y datblygiadau diweddaraf a bod yn rhan yn ein hymgyrch torfoli lleisiau Cymraeg.
Ysgol Seicoleg:
Dewch draw i’r stondin Seicoleg i ddysgu am yr ymennydd ac ymddygiad. Cewch gwblhau gweithgareddau diddorol a dysgu pam ein bod yn ymddwyn mewn ffyrdd penodol. Cewch hefyd gyfle i edrych fel cawr gyda’n rhithwelediad difyr!
Ysgol Addysg a Datblygiad Dynol: Gweithdy codio gyda heriau byr i ysgogi a datblygu sgiliau creadigrwydd codio a datrys problemau.
YMUNWCH Â’R SGWRS #stondinbangor
Cofiwch ddefnyddio ein geofilter Snapchat ar faes yr Eisteddfod. prifysgolbangor
@prifysgolbangoruniversity
facebook.com/prifysgolbangor
@prifysgolbangor
DIWRNODAU AGORED DYDD SUL 13 HYDREF DYDD SUL 27 HYDREF DYDD SADWRN 9 TACHWEDD
www.bangor.ac.uk/eisteddfod Mae’r Brifysgol yn gwneud pob ymdrech resymol i sicrhau bod y wybodaeth a geir yn y llyfryn hwn yn gywir ar adeg ei argraffu (Gorffennaf 2019).